Skip to main content

WWH InTouch Hydref 2014

Page 1

intouch RHIFYN 80 | HYDREF 2014 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2014 Cadw’n iach dros y gaeaf Pen-blwydd hapus Llys Jasmine! Arbed ynni, arbed arian


BENTHYCIADAU YR UN DIWRNOD A CHYNILION DEFNYDDIOL dau ia c y th n e b e a m t u S haru: Moneyline yn cym

£300 dros 32 wythnos = £11.90 yr wythnos Llog £80.80 Ffioedd £15.00 Cyfanswm i’w dalu £395.80

APR Cynrychioliadol 169.88% Provident Personal Credit Loan £300 dros 32 wythnos = £15 yr wythnos Llog £180 Ffioedd £0 Cyfanswm i’w dalu £480.00

APR Cynrychioliadol 399.7%

Ffoniwch: 0845 643 1553


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr

y Golygydd

Croeso i rifyn hydref 2014 InTouch, sy’n llawn o wybodaeth ddefnyddiol a diddorol i chi, gobeithio. Rydym wedi llenwi’r rhifyn hwn yn llawn o newyddion am WWH a phreswylwyr, yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor ar amrywiaeth o faterion. Ar dudalen 16 cewch yr holl fanylion am Wobrau Gwneud Gwahaniaeth eleni, ein seremoni flynyddol i ddathlu llwyddiant ein preswylwyr a’ch ysbryd cymunedol. Gwobrau eleni oedd ein mwyaf a’r gorau eto - mae rhai straeon wir yn cyffwrdd â’ch teimladau, a chafwyd enillwyr teilwng iawn, fel y byddwch yn cytuno, rwy’n siŵr! Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ffyrdd y gallwn ni i gyd helpu i sicrhau ein bod cadw’n heini ac yn iach dros y misoedd nesaf yn ystod y gaeaf, gyda chyngor gwych gan NHS Choices ar sut i gadw salwch draw (tud. 32). Gyda misoedd y gaeaf yn aml yn arwain at filiau ynni uwch, rydym wedi darparu rhai awgrymiadau, trwy garedigrwydd Asiantaeth Ynni De-ddwyrain Cymru, ar sut gallwch wneud newidiadau bach i helpu i gadw’r costau hynny i lawr (tud. 24). Mae gennym hefyd aelodau newydd o dîm WWH, fel ein Tîm Menter Gymunedol sydd wedi ymuno â ni’n ddiweddar. Ar dudalen 27, cewch gyfle i gwrdd â Nicola, Gareth a Kristin, a chael rhywfaint o gyngor gwych ar faterion cyflogaeth gan ein harbenigwyr fel rhan o’n hadran lythyrau newydd. Yn olaf, peidiwch ag anghofio y gallwch ddarllen yr holl erthyglau yn y rhifyn hwn o InTouch, a rhifynnau’r gorffennol, ar unrhyw adeg ar ein gwefan www.wwha. co.uk

Cynnwys Newyddion a gwybodaeth am WWH 4 Datblygiadau diweddaraf 12 Cynnal a chadw wedi ei gynllunio 14 Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2014 16 Materion ariannol 22 Gwaith. Sgiliau. Profiad 27 Byw’n wyrdd 30 Byw’n iach 32 Adroddiad chwarterol 37 Y diweddaraf am elusennau 38 Eich newyddion a’ch safbwyntiau 40 Pen-blwyddi a dathliadau 42 Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter

@wwha

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Cysylltu â ni

Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, For example,

joe.bloggs@wwha.co.uk PEFC Certified

Tan y tro nesaf, cymerwch ofal a mwynhewch InTouch,

This product is from sustainably managed forests and controlled sources PEFC/16-33-254

www.pefc.org


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Newidiadau i’n Hardaloedd

Swyddogion Tai Rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i ardaloedd gwaith ein swyddogion tai yn ddiweddar. Mae hyn yn golygu bod gan rai o’n preswylwyr swyddog tai newydd. Dros y tudalennau nesaf fe welwch fanylion am swyddogion tai eich ardal chi.

Os oes gennych ymholiadau am y newidiadau, mae croeso i chi gysylltu â’ch swyddog tai yn uniongyrchol, neu ffoniwch ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Gogledd Cymru SIR DDINBYCH

Catherine Marland 07789 515 690

Yn gyfrifol am: Henllan, Prestatyn, y Rhyl

CONWY

Lindy Brettell 07929 201 407

Yn gyfrifol am: Abergele, Cae Mawr, Deganwy, Bae Cinmel, Llandudno, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos

WRECSAM

Donna Sutton 07966 867 640

Claire Sumner 07917 352 368

SIR FFLINT

Jill Wilcox 07771 530 426

Yn gyfrifol am: Hightown, Summerhill

Yn gyfrifol am: Acrefair, Brychdyn, Brymbo, Parc Caia, y Waun, Coedpoeth, Gresffordd, Llai, Owrtyn, Penycae, Ponciau, Rhosllannerchrugog, Rhiwabon

Tanya Bell 07929 201 410

Yn gyfrifol am: Acton, Gwersyllt, Hightown, Marchwiail, tref Wrecsam, Rhosrobin

Yn gyfrifol am: Brychdyn, Bwcle, Penarlâg, Mancot, Queensferry, Shotton

Craig Atherton 07827 279 701

Yn gyfrifol am: Cei Connah, Delyn, Penarlâg, Coed-llai, yr Wyddgrug, Sarn Lane (yr Hob)

Ann-Marie Rastin 07929 201 412

Yn gyfrifol am: Delyn, y Fflint, Maes Glas, Treffynnon, Rhewl Fawr


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Y Canolbarth

POWYS

Yn gyfrifol am: Tref Aberhonddu, Crughywel, Llangynidr, Llandrindod, y Gelli Gandryll, Hywi

Yn gyfrifol am: Llandrindod, Llanandras

Marcelle Mackay 07929 201 424

Rhian Marsh 07539 118 684

Wendy Fryzer 07929 201 425

De Cymru

Gareth Hughes 07917 765 782

Yn gyfrifol am: Llandinam, Llanfair Caereinion, y Drenewydd

Yn gyfrifol am: Tref Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Defynnog, Pontsenni, Crai, Trecastell, Llanwrtyd, Talgarth, Trefeca, Bronllys

Joanne Brennan-Lloyd

Yn gyfrifol am: y Tyllgoed, Gabalfa/yr Eglwys Newydd, Llanisien, Rhiwbeina, Tongwynlais

07747 466 152

Claire Jones 07929 201 432 Yn gyfrifol am: Treganna a’r Tyllgoed

Wendy Foley 07929 201 418 Yn gyfrifol am: Caerau a Llandaf

CAERDYDD

Amanda Mills 07929 201 355

Yn gyfrifol am: Cathays, Lakeside, Llanrhymni, Pentwyn, Pen-y-lan

Gill Jones 07823 342 555

Yn gyfrifol am: Cathays, Lakeside, Llanrhymni, Pentwyn, Pen-y-lan

Deborah Cadwallader 07929 201 375

Yn gyfrifol am: Treganna, Cyncoed, y Tyllgoed, Gabalfa/yr Eglwys Newydd, Ystum Taf, Pen-y-lan

Sarah Bolton 07990 835 337

Elizabeth McEwan

Yn gyfrifol am: Caerau

07805 251 791

Yn gyfrifol am: Treganna, Trelái, Grangetown

Alyson Robinson 07929 201 373

Yn gyfrifol am: Tredelerch, Sblot, Llaneirwg, Trowbridge

Hazel Gray 07880 358 380

Yn gyfrifol am: y Rhath, Sblot, Llaneirwg


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

MERTHYR TUDFUL

Meryl Thomas 07929 201 459 Yn gyfrifol am: Mount View, Park, Troedyrhiw, Twyncarmel

Marcelle Mackay

BRO MORGANNWG

07929 201 316 Yn gyfrifol am: Bracla, tref Pen-y-bont ar

Ogwr, Mynydd Cynffig, Porthcawl, y Pîl

Ilka Beynon 07929 201 311

07929 201 424

Yn gyfrifol am: Dowlais, y Gurnos

Maria Edwards

Elizabeth McEwan 07805 251 791 Yn gyfrifol am: Penarth, Llandochau

Alison Pearce 07855 498 143

Yn gyfrifol am: y Barri, y Bont-faen, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Penarth, y Rhws, Sain Tathan

Yn gyfrifol am: tref Pen-y-bont ar Ogwr, Gogledd Corneli

Andrew Pritchard

Yn gyfrifol am: Blaengarw, Dolydd Bracla, Pontycymer, Sarn, Bryncethin

07929 201 365

CAERFFILI

Deborah Cadwallader

RHONDDA CYNON TAF

ABERTAWE

Alex Morris 07929 201 423

Yn gyfrifol am: Cwmparc, Gelli, Aberpennar, Pentre, Ton Pentre, Tonyrefail, Treherbert, Treorci, Williamstown, Ynysybwl, Ystrad

07929 201 375 Yn gyfrifol am: Caerffili, Rhymni, Ystrad Mynach, Nelson

Ilka Beynon 07929 201 311 Yn gyfrifol am: Caswell, Dyfnant

PEN-Y-BONT AR OGWR

Ann Lewis 07917 352 379

Yn gyfrifol am: Betws, tref Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Bro Ogwr

Alison Hayes 07929 201 370

Yn gyfrifol am: Bracla, tref Pen-y-bont ar Ogwr (Hanover Court yn unig), The Heathers

Swyddog Tai â Chymorth (Cymru gyfan)

Sarah O’Keeffe 07929 201 337

Swyddog Tai Lesddaliad (Cymru gyfan)

Charmaine Davies 07881 093 515


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Tharniya Sivakumar, Mia Coates a Sujan Sivakumar

Wrecsam yn dathlu Gŵyl y Cenhedloedd I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid, bu preswylwyr yn dathlu diwylliannau o bob rhan o’r byd mewn diwrnod hwyl i’r teulu yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown. Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Alan Edwards a’i wraig Glenys, yn bresennol, a helpodd i feirniadu cystadleuaeth y wisg genedlaethol gorau. Yr enillydd oedd Omo Tdegun, a gafodd werth £50 o dalebau siopa. Mwynhaodd y gymuned weithgareddau i’r holl deulu, gan gynnwys drymio Affricanaidd, dawnsio Indiaidd, Swmba, dawnsio stryd a phaentio yn arddull gynfrodorol Awstralia. Roedd yno rai’n paentio wynebau, castell neidio, sesiwn gwneud masgiau a chystadlaethau plant hefyd. Dechreuwyd Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid yn 1999 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae’r diwrnod yn dod â materion ieuenctid i sylw’r byd ac yn dathlu ymdrechion pobl ifanc i wella’r gymdeithas.

Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn disodli’r hen ganolfan gymunedol ar Brynycabanau Road, ac mae’n rhan ganolog o Wrecsam, gan gynnig dosbarthiadau ac ystafelloedd am brisiau fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a busnesau lleol. Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Alan Edwards: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael gwahoddiad heddiw i fod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Ieuenctid ac i gwrdd â’n pobl ifanc a dathlu gyda nhw’r diwylliannau amrywiol maen nhw’n eu cynrychioli.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae Wrecsam yn gymuned amlddiwylliannol ac rwyf wrth fy modd yn gweld preswylwyr yn dathlu eu diwylliannau gwahanol. Y mae hefyd yn wych eu gweld yn mwynhau’r ganolfan adnoddau cymunedol.” Am ragor o wybodaeth ynghylch Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, ewch i www.facebook.com/ hightowncrc neu ffoniwch 0300 123 20 70 i archebu lle.


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

Preswylwyr yn dathlu eu blwyddyn gyntaf yn Llys Jasmine Fe wnaeth preswylwyr a staff cynllun tai gofal ychwanegol Llys Jasmine fwynhau dathlu pen-blwydd cyntaf y cynllun ym mis Hydref.

Parti’r pen-blwydd cyntaf a gynhaliwyd gan breswylwyr cynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine

Mae’r cynllun o’r radd flaenaf yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol a gefnogir gan ofal a chymorth 24 awr ar y safle ar gyfer pobl dros 65 yn Sir y Fflint sydd angen gofal o’r fath. Roedd y dathliadau pen-blwydd yn cynnwys disgyblion o Ysgol Bryn Coch yn canu Pen-blwydd Hapus i breswylwyr, perfformiad gan aelodau o Fand Pres Bwcle, a pherfformiad gan y gantores Julie West. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mewn dim ond blwyddyn mae Llys Jasmine wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a rhoi mynediad i’r preswylwyr at y gefnogaeth a’r gofal gorau. Mae’r dathliadau yn ffordd wych o nodi’r pen-blwydd.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rwyf wedi mwynhau dathlu pen-blwydd cyntaf Llys Jasmine gyda’r preswylwyr. Mae’r cyfleusterau gwych a’r gwasanaeth cymorth ardderchog wedi gwneud

gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr ac mae’n braf eu gweld yn mwynhau byw yn y cynllun.” Dywedodd un o’r preswylwyr, Chris Davies: “Bu’n flwyddyn gyffrous gyda llawer o atgofion. Mae clybiau wedi cael eu ffurfio ac mae gennym egin feirdd, awduron ac artistiaid yn ogystal â rhai sy’n dda gyda chyfrifiaduron a ffotograffwyr. Mae’r gerddi yn edrych yn hyfryd, diolch i’r staff a’r preswylwyr. Rydym yn diolch i bawb - mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi newid ein bywydau”.

Nant y Môr yn creu argraff

ar y Gweinidog Iechyd Canmolodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, gynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn yn ystod ymweliad diweddar yno. Y cynllun 59 fflat hwn oedd y cynllun tai gofal ychwanegol cyntaf i gael ei ddatblygu gan WWH mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ac mae’n darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer pobl dros 60 oed. Dywedodd yr Athro Drakeford: “Cefais daith wib o gwmpas Nant y Môr ac rwy’n credu ei fod yn lle gwych. Mae’r ffordd y mae cynlluniau gofal ychwanegol yn llwyddo i gyfuno cadw annibyniaeth bersonol â byw mewn cymuned wedi creu argraff fawr arnaf. Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r gorau o ddau fyd i bobl.”

Mark Drakeford gyda rhai o breswylwyr Nant y Môr


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Diwrnod hwyl Twyncarmel

yn llwyddiant mawr Diwrnod hwyl Twyncarmel

Roedd y synnwyr o gymuned yn uchel yn Nhwyncarmel, Merthyr Tudful, gyda dau ddiwrnod llawn o weithgareddau a drefnwyd gan WWH yn denu nifer dda o bobl yn ystod wythnos hanner tymor. Cymerodd pobl ifanc o Dwyncarmel ac ystâd gyfagos Parc y Castell, sy’n dwlu ar bêl-droed, ran mewn twrnamaint pêl-droed pum bob ochr a drefnwyd gan Herman Valentin o WWH fel rhan o Brosiect Get it Together gyda Chlwb Bechgyn a Merched Treharris, wedi ei gyllido gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Meddai Alison Chaplin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol WWH ar gyfer yr ardal: “Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl y gwnaeth pawb ei fwynhau. Cefais gyfle hefyd i siarad â phobl ifanc am welliannau posibl i’r man chwarae pêl-droed sy’n cael eu trafod gyda Chynghorwyr y Ward ar hyn o bryd.”

Bu’r swyddogion PCSO Owain Dando a Jason Davies o’r Tîm Plismona Cymdogaeth yn ddigon caredig i fod yn ddyfarnwyr tra bu Timau Ieuenctid a Chymunedau yn Gyntaf Grŵp Sylfaen Gellideg yn agor y Siop Ffeithiau, lle cafodd preswylwyr gyfle i gerfio pwmpen a phaentio wynebau yn ogystal â chrefftau Calan Gaeaf a stondinau cacennau a rafflau. Ac i gynhesu pawb ar y diwrnodau oer hynny yn yr hydref, cafodd barbeciw ei gynnal gyda chawl pwmpen tymhorol yn rhad ac am ddim.

Cyfrannodd WWH gwerth £50 o dalebau DW Sports i ddau dîm buddugol y clybiau ieuenctid i helpu i dalu am ragor o weithgareddau chwaraeon. Yn ogystal â’r diwrnod hwyl, fe wnaeth pobl ifanc y stad gefnogi’r sesiwn casglu sbwriel dros hanner tymor ar hen safle’r fflatiau yn Nhwyncarmel, gyda chymorth staff WWH a phartneriaid o Cynefin, Cadwch Gymru’n Daclus, Trefi Taclus, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol

WWH yn galw am luniau

preswylwyr y Fflint o gyfnod y Rhyfel Byd 1af

Wrth i’r gwaith o adeiladu 33 o fflatiau newydd i bobl dros 55 oed yng nghanol y Fflint dynnu tua’i derfyn, mae WWH yn lansio apêl am luniau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf i gael eu harddangos yn y cynllun. Mae’r cynllun wedi ei leoli ar safle hen Swyddfeydd Cyngor Delyn yn Nhŷ’r Fflint, wrth ymyl cofadail y dref. Mae’r adeilad pedwar llawr yn cael ei adeiladu gan Anwyl Construction ar gyfer WWH, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH,: “Mae Tŷ’r Fflint yn ddatblygiad newydd gwych o gartrefi fforddiadwy sy’n gynnes ac yn defnyddio ynni’n effeithlon. “Er mwyn dangos parch i breswylwyr yn y Fflint, ac i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, rydym am addurno’r coridorau a’r dderbynfa gydag arddangosfa barhaol o gopïau o luniau o gyfnod y rhyfel sydd â chysylltiad penodol â chymuned y Fflint. Bydd y cynllun hefyd yn cael ei alw yn Sgwâr y Senotaff i anrhydeddu’r rhai a frwydrodd, nid dim ond yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond ym mhob rhyfel.” Mae WWH wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r hanesydd lleol Peter Metcalfe ar y prosiect, sydd newydd gyhoeddi ei lyfr, Remembered Again: Recalling Flint’s Fallen Heroes of the First World War Volume 1. Bydd rhai o’r lluniau yn y llyfr yn cael eu defnyddio yn yr arddangosfa yn y cynllun.

Dywedodd Peter Metcalfe: “Rwy’n credu bod y syniad hwn yn deyrnged wych i’r rhai a chwaraeodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y prosiect yn sicrhau ein bod yn cofio bob amser am y dynion hyn.”

Os oes gennych luniau neu storïau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf y gellid eu defnyddio, cysylltwch â Jane Janaway ar 01352 732324 neu anfonwch e-bost ati: jane.janaway@wwha.co.uk Lansio caffi atgofion yn yr Wyddgrug Mae caffi atgofion wedi cael ei lansio yn swyddogol gan Faer Wyddgrug, y Cynghorydd Carol Heycocks, yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine yn yr Wyddgrug. Mae’r caffi atgofion yn fenter ar y cyd rhwng WWH, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Cymdeithas Alzheimer a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw helpu pobl sy’n colli eu cof sy’n byw yn Sir y Fflint, yn ogystal â’u gofalwyr. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob yn ail ddydd Iau rhwng 1.30 a 3.30pm yn Llys Jasmine ac yn darparu cefnogaeth a chyngor am ddim, gweithgareddau wedi eu trefnu a’r cyfle i gwrdd â phobl newydd. Am ragor o wybodaeth ynghylch y caffi atgofion, cysylltwch â Jacky Baldini o’r Gymdeithas Alzheimer ar 01352 700716; e-bost jacky.baldini@alzheimers.org.uk Dathliadau yn lansiad y caffi atgofion yn Llys Jasmine


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Cydnabyddiaeth i breswylwyr Penarth

mewn gwobrau cenedlaethol

Mae preswylwyr o Oak Court ym Mhenarth, Bro Morgannwg, wedi cael lle yn rownd derfynol Gwobrau Tai Cynaliadwy eleni. Cafodd aelodau Clwb Garddio Oak Court eu henwebu ar gyfer Gwobr Tenantiaid Gwyrdd y Flwyddyn yn gynharach eleni, a chael eu gwahodd i seremoni fawreddog dan arweiniad Syr Ranulph Fiennes yng Ngwesty’r Lancaster, Llundain, ar 17 Hydref. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae preswylwyr yn y cynllun wedi gweithio’n ddiflino i drawsnewid yr ardd, dan arweiniad Sandra Thomas, David Brigham, Paul Clark a Kathy Page. Er bod y clwb garddio yn dal ar ei gamau cynnar, mae’r preswylwyr wedi tyfu amrywiaeth trawiadol o ffrwythau, llysiau a pherlysiau. Erbyn hyn mae ganddyn nhw gynlluniau i greu eu perllan eu hunain o fathau prin a brodorol o afalau, gellyg, eirin ac eirin duon. Yn ogystal â chodi dros £600 ar gyfer yr ardd eu hunain drwy rafflau, gwerthu teisennau a brecwastau mawr, mae’r preswylwyr medrus yn yr ardd wedi cael cymorth ar hyd y ffordd gydag arian drwy Grant Gwneud iddo Ddigwydd a Chronfa Amgylcheddol WWH, yn ogystal â chefnogaeth a chymorth gan staff WWH. Mae’r cyllid wedi darparu sied, tŷ gwydr a gwely plannu wedi ei godi ymhlith nwyddau garddio eraill.

Cydnabuwyd y grŵp hefyd yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWH eleni, lle cawson nhw’r wobr yn y categori Eco Bencampwyr, a noddwyd gan Contour Showers. Dywedodd Sarah Wilcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol yn WWH: “Mae’r prosiect garddio yn Oak Court wedi dod â’r cynllun yn nes at ei gilydd, gyda llawer o’r preswylwyr yn cymryd rhan drwy arddio, cyfrannu eitemau i godi arian neu helpu i wneud lluniaeth ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol. “Roeddem mor falch o weld y grŵp yn cyrraedd rownd derfynol Gwobr Tenantiaid Gwyrdd y Flwyddyn. Mae eu gwaith caled a’u natur benderfynol wedi talu ar ei ganfed, ac rydym yn hynod o falch o’u cyflawniadau.”

(O’r chwith i’r dde) Kathy Page, y rheolwr cynllun Sally Lewis a Sandra Thomas yn y Gwobrau Tai Cynaliadwy

Rhai o breswylwyr a staff WWH yn Oak Court, Penarth


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau Diweddaraf

Cwmnïau’n awyddus i fod yn rhan o’r bwrlwm Mae dwsinau o gwmnïau adeiladu yn y Canolbarth yn gobeithio bachu cyfran o gontract gwerth £5.5 miliwn i ddarparu tai gofal ychwanegol yn y Drenewydd. Mae disgwyl i’r adeiladwyr gwobredig Anwyl Construction adeiladu 48 o fflatiau - 39 ohonyn nhw’n rhai gofal ychwanegol a naw yn rhai gofal â chymorth – yng Nglan Hafren, y Drenewydd, ar gyfer WWH mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. A’r mis diwethaf bu cynrychiolwyr o nifer o gwmnïau lleol yn cyfarfod â staff datblygu o Tai Wales & West ac Anwyl mewn digwyddiad Cwrdd â’r Contractwr yng Ngwesty Maesmawr, Caersws. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i gontractwyr lleol gwrdd ag Anwyl a WWH a gosod eu stondin cyn i’r gwaith ddechrau ar y datblygiad, sy’n werth £ 5.5 miliwn. Dywedodd Simon Rose, Rheolwr Masnachol Anwyl Construction, sydd â gofal cyffredinol dros y prosiect: “Mae digwyddiadau fel hyn yn golygu y gallwn ehangu ein sylfaen o isgontractwyr a’n rhestr o gyflenwyr, ac mae’n amlwg yn darparu budd i’r economi leol, gan y byddem yn rhagweld y bydd hyd at 80 y cant o’r gweithlu ar gyfer datblygiad Glan Hafren yn dod o ardal a fyddai o fewn 15 milltir i’r Drenewydd. “Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o sgiliau - gan gynnwys plymwyr, trydanwyr, seiri, bricwyr, arbenigwyr ar osod paneli PV a gweithwyr tir fel y gallwn gyflawni’r prosiect hwn yn brydlon.

“Rydym hefyd yn awyddus i weithio gyda chontractwyr lleol sy’n rhannu ein hymrwymiad i brentisiaethau, ac yma eto byddem yn dymuno gweithio gyda’r coleg lleol, Coleg Powys, i ddod o hyd i leoliadau i fyfyrwyr sgiliau adeiladu.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae’n rhan allweddol o gytundeb Anwyl gyda ni fod contractwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol yn cael eu defnyddio lle bynnag y bo modd. Ein nod yw gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y gymuned leol.” Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth gysylltu ag Anwyl Construction ar 01745 353000. Datblygiad Glan Hafren Anwyl yn y Drenewydd. O’r chwith, Simon Rose, Anwyl, Craig Sparrow, Tai Wales and West a Guto Carrod, Busnes Cymru.

Cartrefi newydd ar eu ffordd i

Borthcawl, Pen-y-bont Bydd WWH yn datgelu 40 o gartrefi newydd sbon yn nhref glan môr boblogaidd Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, cyn bo hir. Bydd y datblygiad unigryw ar New Road, sy’n cael ei adeiladu gan gwmni adeiladu lleol Jehu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn arwain at godi 24 o fflatiau un ystafell wely a 16 o fflatiau dwy ystafell wely sydd ar gael i’w rhentu a’u prynu o wanwyn 2015 ymlaen.


Datblygiadau Diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Fel rhan o’r cynllun, bydd cyfle i breswylwyr rentu eu cartref newydd am gyfnod o 12 mis cyn prynu’r eiddo am 70% o’i werth. O ganlyniad, bydd pris cyfartalog un o’r fflatiau yn yr ardal boblogaidd hon yn amrywio o £63,000 (yn seiliedig ar 70% o werth eiddo un ystafell wely £90,000.) Bydd angen i’r rhai sydd â diddordeb yn y cynllun gwrdd â rhai meini prawf cymhwyster. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod: • mewn swydd gyflogedig gyda digon o incwm i godi morgais • yn gallu prynu eiddo addas ar y farchnad agored heb gymorth • yn brynwr tro cyntaf, neu yn yr un sefyllfa â phrynwr tro cyntaf • dros 18 oed • yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, neu fod â chaniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig Am ragor o wybodaeth am ein datblygiad ar New Road, ac i weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun perchnogaeth cartref, ffoniwch ein tîm datblygu ar 0800 052 2526.

Rhagor o gartrefi

fforddiadwy yn Sir y Fflint

Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect gwerth £5 miliwn i adeiladu 58 o dai fforddiadwy (44 o dai a 14 o fflatiau) ym Maes Glas.

Mae WWH, Anwyl Construction a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio i ddarparu 58 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Maes Glas

Mae WWH wedi rhoi contract i Anwyl Construction ddechrau gweithio ar y safle mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Disgwylir i’r cartrefi newydd gael eu cwblhau erbyn Medi 2015. Dywedodd Tom Anwyl, Cyfarwyddwr Contractau ar gyfer Anwyl Construction: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Tai Wales and West ar brosiect tai cymdeithasol mawr arall yng ngogledd ddwyrain Cymru. “Mae eu hymrwymiad i ddarparu tai cymdeithasol y mae eu hangen yn fawr wedi bod o gymorth mawr i’r diwydiant adeiladu yn yr ardal yn ddiweddar, ac wedi bod yn ffynhonnell ar gyfer swyddi a phrentisiaethau.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae hwn yn ddatblygiad newydd gwych o gartrefi fforddiadwy cynnes sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Mae’n darparu ateb i’r angen am dai fforddiadwy ym Maes Glas, yn ogystal â rhoi hwb i’r economi ac yn rhoi gwaith a chyfleoedd hyfforddi i’r gymuned leol. Mae arian gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae tai fforddiadwy yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, a bydd y prosiect hwn yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i breswylwyr, ac mae’r prosiect hwn yn ddatblygiad gwych ar gyfer Maes Glas. Mae gweithio mewn partneriaeth â Tai Wales & West ac Anwyl Construction wedi arwain at ganlyniadau gwych yn y gorffennol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cartrefi hyn yn 2015.”


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi ei gynllunio

Cynnal a chadw wedi ei gynllunio Y Swyddog Tai Lindy Brettell gyda Susannah Halewood, un o’n preswylwyr

“Rydym wrth ein bodd

â’n ceginau newydd” Dywedodd preswylwyr sy’n byw ym Mhlas y Foryd ym Mae Cinmel, Conwy, wrthym pa mor hapus ydyn nhw gyda’u ceginau newydd fel rhan o’r rhaglen Cynnal a Chadw a gynlluniwyd a gynhaliwyd gan Cambria Maintenance Ltd. Meddai Susannah Halewood, sy’n 93 oed: “Rwyf wrth fy modd gyda fy nghegin. Mae hi mor olau ac eang. Rwyf mor falch gyda Wales & West, ac roedd y gweithwyr o Cambria yn dda iawn. Roedd gennyf gegin fechan o’r blaen heb lawer o arwyneb gwaith ac ni allwn gadw fy sosbenni. Nawr mae gen i fwy o le a dim ond am wythnos fu’r gweithwyr wrthi!” Dywedodd un o’i chymdogion, Stan Tilson, sy’n 77 oed: “Fe wnaeth Cambria waith da heb gymryd llawer o amser. Mae gen i bopeth sydd ei angen ac rwyf yn hoffi gallu cerdded o fy ystafell fyw yn syth i mewn i fy nghegin.”

Trydanwyr yn dod â disgleirdeb i gynllun Roedd wynebau preswylwyr yn Nhŷ Gwyn Jones, Abergele, Conwy, yn llythrennol yn disgleirio yn dilyn gwaith trydanol a wnaed gan CJS Electrical. Roedd y goleuadau wedi bod yn eithaf gwan yn eu hystafell fyw gymunol ac roedd y coridorau yn dywyll, ond yn awr mae’r goleuadau yn cynnau yn awtomatig wrth i rywun fynd i mewn i ystafell. Dywedodd rheolwr y Cynllun, Betty Roberts: “Mae’r goleuadau yn gwneud i’r cynllun edrych yn fodern ac maen nhw’n llawer mwy effeithlon o ran ynni. Roedd goleuadau yn arfer cael eu gadael ymlaen drwy’r amser ynghynt, ac roedd rhai preswylwyr weithiau’n ei chael yn anodd dod o hyd i switshis golau. Fe wnaeth y contractwyr lanhau ar eu holau a gwneud gwaith gwych.”

Mae Joseph Costello a James Murray yn ddau o nifer o’r preswylwyr sy’n falch o’r goleuadau newydd yn Nhŷ Gwyn Jones


Cynnal a chadw wedi ei gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 15 Isod rhestrir y cynlluniau rydym yn bwriadu eu huwchraddio yn ystod chwarter cyntaf 2015:

Ceginau

Cwrt Sant Mihangel, Caerdydd Washford Avenue, Caerdydd Countisbury Avenue, Caerdydd Hill Court, Wrecsam (Tai yn unig)

Ystafelloedd ymolchi

Ffenestri/Drysau Benjamin Place, Wrecsam Caia Gardens, Wrecsam

Drysau yn unig Earle Street, Wrecsam Poplar Road, Wrecsam

Oldwell Court, Caerdydd Wenlock Crescent, Mancot

Raffl fawr PH Jones Cyfle i ennill £250, siampên, siocledi a thusw o flodau!

Gallech chwithau hefyd fod yn ENILLYDD - trefnwch fod eich bwyler nwy yn cael gwasanaeth ar yr apwyntiad cyntaf, neu rhowch o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad.

Patricia Elson gyda Grace a Jane Duckers, Cynorthwyydd Caffael, Tai Wales & West.

Mrs Jones o Laneirwg gyda’i gwobrau

ENILLYDD ein raffl ddiweddaraf o’r gogledd oedd Patricia Elson o Fwcle yn Sir y Fflint, a ddywedodd: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y siec. Bydd yn ddefnyddiol ar gyfer y Nadolig ac mae’n golygu y gallaf fynd â’r plant am dro i’r sinema.”

Yr ENILLYDD o’r de oedd Mrs Jones o Laneirwg, Caerdydd, sy’n edrych ymlaen at wario ei henillion ar fanion at y Nadolig a gwelliannau i’r cartref.


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2014:

dathlu eich llwyddiant Yr enillwyr Ddydd Gwener 10 Hydref cynhaliom ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y seithfed tro.

Daeth dros 200 o breswylwyr a staff at ei gilydd yng Ngwesty’r Fro ger Caerdydd, i ddathlu synnwyr o gymuned yn arddull Wales & West. Eleni, roeddem hefyd yn falch o gael cwmni cynrychiolwyr o 32 o gwmnïau a roddodd dros £30,000 o nawdd hael i’n galluogi i gynnal y digwyddiad. Y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd o anrhydeddu’r synnwyr o gymuned, menter, caredigrwydd ac ymrwymiad y mae cymaint o’n preswylwyr yn ei ddangos, yn hen ac ifanc, sy’n byw yn ein Cartrefi. Roedd seremoni eleni yn fwy ac yn well nag erioed, a bu’n llwyddiant ysgubol i bawb a ymunodd â ni. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.

Gwobr y cymydog da, wedi ei noddi gan PH Jones Enillydd: Jean Ward Enillodd Jean Ward, sy’n 76 oed, o gynllun er ymddeol Llys Faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ein Gwobr Cymydog Da am ei charedigrwydd a’i hymroddiad. Cafodd Jean ei henwebu ar gyfer y wobr gan ei chyd-breswylwyr yn y cynllun er ymddeol poblogaidd hwn ar ôl iddi ymgymryd â’r gwaith o redeg clwb cymdeithasol y preswylwyr. “Mae gwaith caled Jean wedi dod â llawer o chwerthin a chyfeillgarwch yn ôl i’r cynllun,” meddai Clive Evans, a ysgrifennodd yr enwebiad. “Pan fydd hi’n trefnu digwyddiadau mae hi bob amser yn ystyried anghenion unigol pob preswyliwr, a bydd yn hebrwng unrhyw un sy’n fregus neu’n sâl gartref i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.” Ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd Jean: “Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn. Nid wyf erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn erioed o’r blaen. Mae’n wych ac rwyf mor falch fy mod i wedi ennill.”


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 17 y grŵp ar gyfer y wobr, a dywedodd: “Roedd y trawsnewidiad yn Oakmeadow Court yn enfawr. Mae’r cynllun bellach yn edrych yn hyfryd ac mae’r gwahaniaeth yn anhygoel. “

Gwobr y Garddwyr Gorau wedi ei noddi gan Envirovent Cyd-enillwyr: Val Davies a Garddwyr Oakmeadow Court Roedd Val Davies, o Gwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr, yn gyd-enillydd yng nghategori’r Garddwr Gorau. Eileen Peakman, un sy’n ymweld â’r cynllun yn gyson, a enwebodd Val. Dywedodd Eileen: “Mae Val a’r clwb garddio yn y cynllun wedi datblygu gardd brydferth. Val sydd wedi sbarduno’r newid, ac mae’r preswylwyr yn cytuno ei bod wedi newid bywydau mewn sawl ffordd, gan fod cymaint o bobl wedi mynd i’w cregyn ar ôl colli ffrindiau a phartneriaid. Diolch i Val, mae nosweithiau cymdeithasol rheolaidd yn cael eu cynnal yn awr ac mae sawl cyfeillgarwch newydd wedi datblygu. Heb ymdrechion Val, gwn na fyddai’r newid wedi digwydd yn ôl pob tebyg.” Meddai Val, sy’n fam-gu 71 oed: “Rhyfeddol!!! Pan welais y straeon gan y bobl eraill ar y rhestr fer roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i siawns o gwbl. Mae hi wedi bod yn noson wych!” Cafodd Aelodau Garddwyr Oakmeadow Court o Gaerdydd hefyd eu henwi fel enillwyr am y ffordd maen nhw wedi trawsnewid eu gerddi. Sarah Willcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol yn WWH, a enwebodd

Wrth gyfeirio at Arddwyr Oakmeadow Court, meddai Mary Fitzgerald, sy’n 71 oed: “Daeth dagrau i’m llygaid. Allwn i ddim credu’r peth pan gyhoeddwyd ein henw fel enillwyr ein categori. Mae’n wych.”

Gwobr Dechrau o’r Newydd wedi ei noddi gan Anwyl Enillydd: Debbie Parton Debbie, un o’n preswylwyr ym Mhowys Close, Queensferry, enillodd y categori Dechrau o’r Newydd am ei dewrder a’i natur benderfynol. Dros y 18 mis diwethaf, mae Debbie wedi cael trefn ei bywyd ar ôl dioddef o broblemau ag alcohol yn flaenorol ar ôl dirywiad ei phriodas a salwch. Diolch i adferiad, a chefnogaeth gan ei theulu, ffrindiau a sefydliadau gan gynnwys WWH, mae Debbie ddewr bellach wedi gwneud dechrau o’r newydd. Dywedodd y Swyddog Tai, Cath Marland: “Mae gweld pa mor bell mae Debbie wedi dod a sut mae hi wedi cael trefn ar ei bywyd yn anhygoel.” Meddai Debbie: “Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl! Ni allaf ddiolch digon i Tai Wales & West. Mae derbyn y wobr hon ar y noson cyn fy mhen-blwydd yn 40 oed yn wych!”


18 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Arwr Lleol wedi ei noddi gan Solar Windows Gwobr Eco Bencampwr wedi ei noddi gan Contour Showers Enillydd: Clwb Garddio Oak Court Enillodd preswylwyr o Oak Court ym Mro Morgannwg Wobr yr Eco Bencampwyr diolch i’w holl waith caled yn eu gardd drawiadol yn y cynllun. Yn ogystal ag arddangosfeydd blodau hardd a chnydau trawiadol o ffrwythau a llysiau, mae’r garddwyr brwd o’r clwb wedi adeiladu tŷ gwydr gyda mynediad i bobl anabl a gwelyau plannu wedi eu codi ar gyfer plannu’n hawdd, wedi gosod casgen ddŵr enfawr a hyd yn oed system acwaponeg lle mae dŵr gwastraff o danc pysgod enfawr yn cael ei ddefnyddio i wrteithio planhigion. Dywed Cynorthwyydd Amgylcheddol WWH, Sarah Willcox: “Cyn i Grŵp Garddio Oak Court ddod at ei gilydd, roedd y tir o amgylch y cynllun yn llwm. Yn anaml iawn y byddai preswylwyr yn mentro y tu allan, felly mae’r gwelliant wedi bod yn enfawr; yn gymaint felly fel bod Oak Court wedi cael ei chynnwys ar restr fer gwobr genedlaethol!”

Enillydd: Mick Glendenning Cafodd Mick, un o breswylwyr Ystad Goffa Court, y Fflint, ei goroni fel ein Harwr Lleol ar sail yr help y mae wedi ei ddarparu i eraill yn y gymuned. Ers mis Chwefror 2010, gwirfoddolodd Mick i redeg Banc Bwyd yn Ystad Goffa. Fe’i gelwir yn Gydweithfa Fwyd, ac mae’n agored i holl breswylwyr y cynllun, yn ogystal ag unrhyw un arall yn y gymuned leol. Y mae wedi gwneud cysylltiadau gyda phrosiect Dechrau’n Deg lleol ac mae’n ymestyn ei darpariaeth cydweithfa fwyd i famau beichiog, gan eu bod yn cael eu hannog i fwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd. Wrth siarad ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Mick: “Roedd yn werth yr holl waith. Rwy’n fud. Y mae wedi dod â dagrau i’m llygaid!”

Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig wedi ei noddi gan Cambria Enillydd: Jane Connor Enillodd Jane Connor, o Bell Court, Wrecsam, Wobr Ysbrydoliaeth Arbennig yn y categori Dechrau o’r Newydd.


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 19 Wedi ei cham-drin yn gorfforol ac yn feddyliol gan ei rhieni naturiol, cafodd Jane ei mabwysiadu gan ewythr a modryb. Fodd bynnag, daeth ei mam faeth yn sâl gyda pharanoia, a daeth ei thad maeth i reoli mwy a mwy arni. Yn ddyslecsig a heb gefnogaeth gan ei theulu, gadawodd Jane yr ysgol heb gymwysterau. I bob pwrpas rhoddodd y gorau i gredu ynddi ei hun ac nid tan 2013, a hithau’n agosáu at ei phenblwydd yn 50 oed, y gwnaeth Jane deimlo o ddifrif ei bod yn cymryd rheolaeth o’i bywyd o’r diwedd a dechrau o’r newydd. Wedi ei hysbrydoli gan gwrs 8 wythnos syndod o bleserus yng Ngholeg Cambria i wella ei Saesneg a Mathemateg, mae Jane wedi mynd o nerth i nerth. Dywedodd: “Ni allaf gredu fy mod i wedi ennill! Rydw i mor ddiolchgar i Donna y Swyddog Tai a Tai Wales & West. Dof o hyd i le ar gyfer fy nhlws.”

gymdeithasu. Dywedodd Craig Atherton, y Swyddog Tai: “Mae’r clwb hwn yn fwy na dim ond cymdeithasu - mae’n ymwneud â chyfoethogi bywydau pobl ac yn darparu’r un cyfle i bobl gymryd rhan, waeth beth yw eu hiechyd neu eu cyflyrau. Meddai Charlie Roper, un o’r preswylwyr ac aelod o’r clwb: “Rydym ni i gyd yn falch iawn o ennill y wobr hon ac wedi cael noson wych. Tro’r merched fydd hi flwyddyn nesaf!”

Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig wedi ei noddi gan Day’s Rental Aeth gwobr syrpreis arall y noson i Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr WWH.

Gwobr Prosiect Cymunedol wedi ei noddi gan CJS Electrical Enillydd: Clwb Dynion Llys Jasmine Cafodd preswylwyr cynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, eu cydnabod am yr effaith gadarnhaol maen nhw wedi ei chael ar eu cymuned. Mae’r clwb yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cynnig cyfle i’r dynion yn y cynllun

Wedi ei sefydlu yn 2008, cafodd y grŵp o 15 ei gydnabod am ei gyfraniad a’i waith caled yn helpu WWH i sicrhau bod ein preswylwyr yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae’r grŵp yn gweithredu fel seinfwrdd o ran cyfranogiad preswylwyr, ac yn helpu WWH i edrych ar bethau o safbwynt preswylwyr. Yn ogystal â herio’r ffordd rydym yn gwneud pethau, mae’r preswylwyr yn meddwl am syniadau am sut gallwn wneud pethau’n well a rhannu adnoddau’n ddoethach.


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig wedi ei noddi gan Jewson

Da iawn i bawb

Cydnabuwyd Ryan Hassett, un o’n preswylwyr yn Sir Ddinbych, am ei natur benderfynol a’i wroldeb.

‘Llongyfarchiadau’ mawr hefyd i bawb a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol ar y noson:

Mae Ryan, sy’n 20 oed, yn byw gyda’i fam Yvonne yn Ffordd Cefndy, y Rhyl. Fel llawer o bobl ifanc, y mae wedi cael cyfnodau o anlwc ond mae wedi dewis dal ati, lle y byddai llawer wedi mynd ar ddisberod. Collodd Ryan ei dad yn 8 oed, ac ar y pryd roedd ei fam ar raglen adsefydlu methadon ar gyfer pobl sy’n gaeth - fodd bynnag, roedd hi’n dal i gymryd heroin a chocên crac.

Gwobr y Cymydog Da

Er gwaethaf y boen y bu’n rhaid iddo ei wynebu yn ei fywyd teuluol, ffynnodd Ryan, gan ragori mewn pêl-droed, ac aeth ymlaen i gael graddau A i gyd yn ei arholiadau TGAU. Y mae bellach yn astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Lerpwl ac mae ganddo swydd ran-amser i gefnogi ei hun. Mae Ryan hefyd yn sicrhau ei fod yn ymweld â’i gartref yn rheolaidd i helpu ei fam. Dywedodd ei fam falch Yvonne, nad yw wedi cymryd cyffuriau ers pedair blynedd: “Mae’n graig emosiynol i mi yn gyffredinol”. Meddai Ryan: “Nid ydw i’n credu fy mod i’n haeddu’r wobr hon ar ôl clywed straeon gan bawb arall. Rwy’n teimlo mor falch – roedd yn syndod llwyr. Mae’n gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn.”

a gyrhaeddodd y rownd derfynol!

Charlie Roper, Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, Sir y Fflint Janet Meredith, St Clements Court, Caerdydd Sandra a Tony Slade, Tŷ Ddewi, Rhondda Cynon Taf

Gwobr y Garddwyr Gorau

Clwb Garddio Hanover Court, Conwy Emrys Phillips, St Catherine’s Court, Caerffili Michael Reynolds, Constantine Court, Rhondda Cynon Taf

Gwobr Dechrau o’r Newydd

Jane Connor, Bell Court, Wrecsam David Jones, Hackett Road, Wrecsam Bruce Morris, Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, Sir y Fflint Dee Thorne, Tŷ Ddewi, Rhondda Cynon Taf

Gwobr Eco Bencampwr

Phil Kenyon, Llys yr Orsedd, Wrecsam Gardd Gymunedol Llaneirwg, Caerdydd Clwb Garddio Cwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr Clwb Garddio’r Buzzy Buzzy Bees, Bro Morgannwg

Gwobr Arwr Lleol

Paula Hack, Wrecsam John Ellis, Sydney Hall Court, Sir y Fflint Ella Hardy, Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine, Sir y Fflint Frank Price, Maes y Ffynnon, Powys


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth| intouch | www.wwha.co.uk | 21

Gwobr Prosiect Cymunedol

Caitlin Evans, Bryn Cyn, Caerdydd Puffers and Planters St Catherine’s Court, Caerffili Grŵp Adloniant Oakmeadow, Caerdydd Clwb ‘Medru’ Tŷ Ddewi, Rhondda Cynon Taf

Gallwch ddarllen rhagor am Wobrau Gwneud Gwahaniaeth eleni ar ein gwefan www.wwha.co.uk, a gweld fideo o’r noson ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales.

A diolch mawr i’n noddwyr Prif noddwr y digwyddiad


22| www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Cynilo arian ar gyfer y Nadolig Dyma gyfnod gorau’r flwyddyn, fel maen nhw’n dweud ... ond hefyd y mwyaf drud i lawer ohonom! Gyda’r holl siopa a phrynu anrhegion, gall y Nadolig yn sicr effeithio’n arw ar y cyfrif banc, gan adael llawer o bobl gyda bil mawr yn y Flwyddyn Newydd.

Dechreuwch draddodiadau Nadoligaidd newydd! Y pwysau i blesio anwyliaid a rhoi’r Nadolig perffaith i blant sydd ar frig y rhestr o resymau y mae pobl yn eu rhoi dros orwario yn ystod tymor y Nadolig.

Yma, mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol yn rhoi eu cyngor i helpu i leddfu’r effaith ar ein waledi yn ystod tymor y Nadolig.

Ystyriwch ddechrau traddodiadau Nadoligaidd newydd y gall y teulu cyfan ymuno â nhw, ac arbed rhywfaint o arian ar hyd y ffordd.

Pennwch gyllideb!

Yn gyntaf, dechreuwch yn gynnar. Gall casglu hanfodion ar gyfer y Nadolig, fel craceri neu addurniadau mewn arwerthiant olygu arbedion mawr weithiau tua 50%. Os ydych yn gwybod pa roddion rydych angen eu prynu, gallai helpu prynu un eitem y mis i helpu i ledaenu’r gost ac arbed y drafferth o siopa pan fydd pawb arall wrthi.

Mae gwariant cyfartalog ar y Nadolig fesul cartref tua £500, sy’n cynnwys bwyd, anrhegion, teithio ac addurniadau, ymhlith costau eraill. I ddechrau eich cyllideb, gwnewch restr o aelodau’r teulu a ffrindiau y byddwch yn prynu anrhegion ar eu cyfer a dyrannu swm ar gyfer pob un. Os ydych yn cynnal cinio, ystyriwch faint o bobl fydd yno a faint fydd angen i chi ei wario ar fwyd a diod. Oddi yno, dylech allu cyfrifo faint o arian y bydd ei angen arnoch. Cofiwch wrthsefyll y demtasiwn i orwario ar anrhegion - er ei bod yn anodd (yn enwedig o ran gwario ar y plant) byddwch yn gryf a chadw at eich cyllideb ar gyfer pob unigolyn. Mae’n syniad da cynilo ychydig bob mis drwy gydol y flwyddyn yn arbennig ar gyfer y Nadolig. Er enghraifft, bydd cynilo £50 y mis o ddechrau’r flwyddyn yn rhoi £600 i chi ei wario ar gyfer y Nadolig. Gallwch ddod o hyd i gynllunydd arian defnyddiol ar wefan MAS i’ch helpu i greu eich cyllideb a gweld faint o arian allech chi ei gynilo mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr, y flwyddyn nesaf!

Gallech hefyd gofleidio’r oes ddigidol ac e-bostio cardiau Nadolig i arbed ar gostau postio. Mae llawer o wefannau am ddim sy’n gadael i chi greu eich cardiau eich hun, gyda lluniau o’r teulu a fideos. Mae stamp dosbarth cyntaf yn costio 60c, tra bod stampiau ail ddosbarth yn costio 50c, felly os ydych yn bwriadu anfon 30 o gardiau drwy e-bost eleni, gallech arbed rhwng £15 a £18. Bedd sesiwn glirio cyn y Nadolig gyda’r teulu nid yn unig yn eich helpu i gael trefn erbyn yr ŵyl, ond gallai hefyd roi rhywfaint o arian yn ôl yn eich poced. Unwaith y byddwch wedi rhoi unrhyw beth nad ydych ei angen mwyach o’r neilltu, gwnewch ychydig o arian ychwanegol drwy ei werthu ar-lein neu mewn arwerthiant lleol. Os byddwch yn amseru pethau’n iawn, fe welwch fod digon o bobl yn chwilio am anrhegion ail-law. Os ydych yn newydd i’r syniad hwn, peidiwch â phoeni; mae gan wefan MAS ganllaw


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 23 gwych ar sut i gael gwared ar annibendod a gwneud arian. Os ydych chi’n prynu anrhegion ar gyfer cydweithwyr neu ffrindiau, gallech osod terfyn o £5 i £10. Gallech hefyd roi rhywbeth wedi’i wneud â llaw yn lle hynny, yn enwedig os oes gennych ddawn gudd - gyda phawb yn teimlo’r wasgfa, efallai y bydd croeso mawr i’ch awgrym.

Cynilo ar gyfer Siôn Corn Fel y soniwyd eisoes, mae’n well dechrau cynilo cyn gynted â phosibl ar gyfer y Nadolig. Gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau cynilo, gan y bydd yn lleihau faint fydd angen i chi ei roi o’r neilltu bob mis. Gall hyd yn oed ychydig bach dros ychydig o fisoedd wneud gwahaniaeth mawr. Dylech drin cynilo yn yr un ffordd ag y byddech yn trin bil. Mae ymrwymo i gynilo swm rheolaidd bob mis neu bob wythnos yn fwy effeithiol na dim ond dweud byddwch yn arbed beth bynnag sydd gennych dros ben, a all fod yn ddim. A cheisiwch fod yn realistig - mae’n well ymrwymo i swm hylaw nag anelu’n rhy uchel a rhoi’r gorau iddi.

ddarparwyr eraill - fel arfer yn gweithio fel hyn: Byddwch yn talu symiau bach o arian drwy gydol y flwyddyn i gynilo ar gyfer siopa Nadolig, neu wyliau neu ddigwyddiad arall Pan fydd y tymor siopa Nadolig yn cyrraedd, bydd eich cynilion yn cael eu cyfnewid am dalebau siopa, cardiau rhodd neu nwyddau a gwasanaethau gan ddarparwr y clwb Nid yw’r clybiau hyn yn addas i bawb; ni fydd y rhan fwyaf o glybiau yn gadael i chi gael mynediad at eich cynilion tan fis Tachwedd neu fis Rhagfyr, ac mae’r rhai sy’n gadael i chi gael mynediad at eich cynilion yn gynharach fel arfer yn codi tâl os byddwch yn gwneud hynny. Ar nodyn arall, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â chlwb sy’n aelod o’r Gymdeithas Rhagdaliadau Nadolig (CPA). Maen nhw wedi datblygu cod ymarfer ar gyfer y diwydiant sy’n cynnwys rheolau ynghylch sut mae’n rhaid i’w haelodau ofalu am eich arian ar ôl i chi ei drosglwyddo i’w gofal.

Ddim yn siŵr faint allwch chi fforddio ei gynilo? Dechreuwch gyda swm bychan rhowch eich darnau arian £1 neu £2 sbâr mewn jar bob wythnos. Os yw hynny’n gweithio, ceisiwch neilltuo ychydig yn fwy rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trosglwyddo’r arian i gyfrif cynilo cyn gynted ag y mae wedi cronni’n swm go lew, felly nad ydych yn cael eich temtio i wario’r punnoedd y buoch yn eu cynilo. Os ydych yn cael trafferth agor cyfrif banc ar gyfer eich cynilion, ystyriwch siarad gyda’ch undeb credyd lleol.

Am ragor o gyngor gwych am ddim ar sut gallwch arbed a chynilo arian ar gyfer y Nadolig, yn ogystal â rhagor o gyngor ariannol, ewch i wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol

Fel arall, gallech ystyried defnyddio cynllun cynilo Nadolig. Mae’r clybiau a’r cynlluniau cynilo arbennig hyn - y rhai a gynigir gan Swyddfa’r Post, adwerthwyr cenedlaethol, siopau lleol, clybiau cymdeithasol neu

neu ffoniwch MAS ar

www.moneyadviceservice.org.uk

0300 500 5000


24 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Arbed ynni, arbed arian! Gyda thywydd oer y gaeaf, maw pawb ohonom yn edrych ymlaen at fynd adref i gartref braf, cyfforddus. Ond gyda’r gaeaf daw biliau ynni mwy o faint yn aml, wrth i ni gynnau’r gwresogyddion.

• Ceisiwch osgoi rhoi eitemau cynnes neu boeth yn syth yn eich oergell neu’r rhewgell. • Dad-rewch oergelloedd a rhewgelloedd yn rheolaidd - po fwyaf rhew, y mwyaf o drydan a ddefnyddir.

Drwy ddefnyddio ynni’n ddoeth drwy ein cartrefi, fodd bynnag, gall pawb ohonom arbed ceiniogau ychwanegol ar ein biliau. Dyma rai awgrymiadau gwych a syml ar sut i wneud hynny gan Asiantaeth Ynni De-ddwyrain Cymru.

Newid eich holl fylbiau i fylbiau arbed ynni. Mae bwlb golau effeithlon o ran ynni yn para hyd at 15 gwaith yn hirach na bwlb arferol, ac yn defnyddio 80% yn llai o ynni. Yn wir, gall amnewid bwlb arferol roi arbediad blynyddol o £7 yr un.

Cegin: • Dewiswch y sosban maint cywir ar gyfer yr hob a defnyddiwch y caead. • Defnyddiwch degell i ferwi dŵr ar gyfer coginio; mae’n rhatach ac yn gyflymach nag aros i ddŵr ferwi mewn sosban ar yr hob. • Defnyddiwch degell jwg a’r dangosydd lefel i lenwi a berwi dim ond faint o ddŵr sydd ei angen arnoch. Mae’n gyflymach - ac mae’r te yn blasu’n well gyda dŵr sydd wedi’i ferwi unwaith yn unig! • Peidiwch â golchi llestri dan dap sy’n rhedeg; rhowch y plwg yn y sinc neu defnyddiwch bowlen. Mae peiriannau golchi llestri modern hefyd yn effeithlon ac yn arbed dŵr ac ynni, ond ceisiwch olchi llwyth llawn.

Goleuadau

Mae llawer ohonom yn defnyddio goleuadau at ddibenion addurniadol, ond byddwch yn ymwybodol y gall hyn fod yn wastraffus iawn. Gall rhai ffitiadau neu setiau o oleuadau, fel y rhai sy’n defnyddio lampau halogen bach, defnyddio mwy na bwlb golau traddodiadol a llawer mwy na bylbiau fflworolau cryno ynni isel. Cyn i chi eu prynu, edrychwch ar watedd y ffitiadau a dewiswch yr isaf i ddarparu’r golau sydd ei angen arnoch.

Adloniant Mae’r rhan fwyaf o offer yn defnyddio trydan os yw’r plwg yn y soced, gan gynnwys pethau fel cyfrifiaduron nad oes ganddyn nhw oleuadau wrth gefn gweladwy, felly cofiwch eu diffodd yn y soced bob amser!


Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 25 Ydych chi wrthi’n dewis teledu newydd? Mae rhai LCD yn defnyddio ynni’n effeithlon iawn, a setiau teledu llai yn defnyddio llawer llai o ynni na rhai mwy o faint.

Golchi dillad Mae gosod eich peiriant golchi ar 30°C yn golygu eich bod yn defnyddio 40% yn llai o drydan nag ar 40°C, ac mae’r rhan fwyaf lanedyddion yn gweithio gystal ar dymheredd is. Gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi llwyth llawn hefyd! Mae peiriannau sychu dillad yn defnyddio llawer o drydan yn y cartref; bydd sychu dillad ar lein y tu allan neu ddefnyddio ceffyl dillad mewn ystafell wedi ei hawyru’n dda yn helpu’n fawr.

Gwresogi Unwaith y byddwch wedi inswleiddio eich cartref, mae troi’r thermostat un radd yn is yn arbed 10% ar eich bil gwresogi. Gall hynny olygu arbedion o £40 y flwyddyn! Os oes gennych raglennydd neu amserydd, defnyddiwch ef i ddiffodd y gwres pan nad ydych gartref. Mae yna grantiau hefyd a all eich helpu i dalu eich biliau gwresogi. Mae Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn addaliad blynyddol (£140 ar gyfer gaeaf 2014/15) a ddarperir i gwsmeriaid sy’n wynebu tlodi tanwydd, neu mewn perygl o fod felly.

I fod yn gymwys am yr ad-daliad, mae’n rhaid i chi fod: • yn 75 oed neu’n hŷn ac yn cael elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn • dan 75 oed a dim ond yn cael elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn (ni fyddwch yn gymwys os ydych hefyd yn cael Credyd Cynilo). • Ac os nad ydych yn gymwys fel rhan o’r grŵp craidd uchod, mae rhai cyflenwyr yn awr yn cynnig y disgownt i grŵp ehangach o bobl. Er enghraifft: - Pobl ar incwm isel lle mae 10% neu ragor o incwm yn cael ei wario ar wresogi’r cartref - Preswylwyr sy’n cael budddaliadau lluosog - Cartrefi incwm isel gyda salwch/anabledd meddyliol / corfforol neu rywfaint o natur fregus - Mae gan bob cyflenwr ei reolau ei hun ynghylch pwy all gael y cymorth hwn.

Gwiriwch gyda’ch cyflenwr i weld a ydych yn cwrdd â’u rheolau a sut i wneud cais, neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 336 699. Gall ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth roi llawer o help a chyngor i chi ar leihau eich biliau ynni. Os hoffech chi siarad gyda’ch swyddog, ffoniwch ni ar 0800 052 2526.


26 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Ewch ar-lein gyda Chynllun Allwedd Band Eang Ydych chi’n cael trafferth mynd ar-lein? Mae Cynllun Allwedd Band Eang yn darparu cyllid i ddod â chysylltiadau band eang cyflymach i fusnesau, preswylwyr a chymunedau ledled Cymru.

Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnig grant ar gyfer 90% o gost gosod band eang ffibr, gydag uchafswm grant o £900 ar gael i gartrefi ac adeiladau yng Nghymru sy’n gymwys. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae angen i chi fyw mewn ardal a fydd yn y pen draw yn cael ei chwmpasu gan raglen Cyflymu Cymru - rhaglen Llywodraeth Cymru a BT sy’n mynd â band eang ffibr i rannau o’r wlad nad ydyn nhw wedi eu cynnwys mewn cynlluniau masnachol. Bydd gofyn i chi hefyd ddangos:• bod gennych gysylltiad band eang â chyflymder llwytho i lawr cyson o lai na 2 mega-did yr eiliad • gwarantau ysgrifenedig gan eich darparwr band eang o ddewis bod yr offer a gaiff ei osod yn gallu cefnogi cyflymder cyflym iawn yn gyson.

Mae’r canllawiau yn nodi bod rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyflymder llwytho i lawr ar wahanol adegau o’r dydd (mae angen profion yn y bore, y prynhawn a gyda’r nos). Os oes gennych fynediad at gyfrifiadur gallwch wirio cyflymder llwytho i lawr eich band eang fel hyn: Os oes gennych fand eang ar hyn o bryd, defnyddiwch wefan prawf cyflymder (e.e. www.speedtest.net) i gynnal nifer o brofion cyflymder dros nifer o ddiwrnodau Os nad oes gennych fand eang ar hyn o bryd, defnyddiwch gyfrifiadur mewn man arall i roi eich rhif ffôn llinell tir ar www.samknows.com Os nad oes gennych rif ffôn llinell tir, gallwch hefyd ddefnyddio eich cod post

Am ragor o wybodaeth ynghylch y Cynllun Allwedd Band Eang, ac i weld a ydych chi’n gymwys, ffoniwch 0300 025 8887 neu e-bostiwch broadband@wales.gsi.gov.uk


Gwaith. Sgiliau. Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Gwaith. Sgiliau. Profiad Dewch i gwrdd â’n Tîm Menter Gymunedol Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno tîm menter gymunedol i WWH, sy’n cynnwys swyddog menter gymdeithasol, swyddog datblygu busnes a hyfforddwr cyflogaeth a menter. Gyda’r tîm newydd gwych hwn yn ei le, byddwn yn ceisio helpu preswylwyr a gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau yn ein cymunedau mewn sawl ffordd wahanol.

Nicola Perkins

Gareth Kitchen

Kristin Vaughan

Nod y tîm yw creu cyfleoedd fel prentisiaethau, lleoliadau gwaith, profiad gwirfoddol a gwaith parhaol yn WWH a gyda’n partneriaid a’n cadwyni cyflenwi. Byddwn yn treialu’r ymagwedd hon ym Merthyr Tudful, gan fod gennym brosiectau cynnal a chadw a gynlluniwyd ac adeiladu yn yr ardal hon yr ydym yn teimlo y gallen nhw greu cyfleoedd ar gyfer ein preswylwyr.

Nicola yw ein swyddog menter gymdeithasol, a hi hefyd sy’n arwain y tîm menter gymunedol. Ei rôl yw datblygu ein cadwyn gyflenwi yn ogystal â rhai ein cyflenwyr i gefnogi a datblygu menter gymdeithasol, a chaniatáu mynediad gwell i fentrau bach a chanolig ac unig fasnachwyr. Fel ein swyddog datblygu busnes, rôl Gareth yw gweithio gyda’n contractwyr i sicrhau cyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer ein preswylwyr. Y mae hefyd yn cefnogi ein prosiectau amgylcheddol a chymunedol. Un o brif rannau swydd Kristin fel hyfforddwr cyflogaeth a menter yw treulio amser gyda phreswylwyr sy’n chwilio am hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli neu gyflogaeth, a’u helpu ar hyd y ffordd i gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Bydd Kristin yn gweithio gyda phreswylwyr fesul un i ddiweddaru eu CVs, chwilio am swyddi a gwneud cais am swyddi, yn rhoi arweiniad ar gyfweliadau am swyddi, rhoi cyngor ar ddechrau busnes ac yn eu cefnogi i mewn i gyflogaeth, lleoliadau gwaith neu waith gwirfoddol.


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith. Sgiliau. Profiad

Annwyl Kristin… Gan ddechrau gyda’r rhifyn hwn, bydd ein hyfforddwr cyflogaeth a menter Kristin yn rhoi cyngor i’n preswylwyr am unrhyw fater sy’n ymwneud â chyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli ym mhob rhifyn o In Touch o hyn allan.

Dywed Kristin: Mae contractau dim oriau yn cael eu defnyddio gan gyflogwyr i alw gweithwyr yn ôl yr angen, sy’n golygu bod y gwaith yn gallu bod yn ysbeidiol. Ni all rhai cwmnïau bach neu newydd ymrwymo i gontractau tymor hir gydag oriau llawn amser gan nad ydyn nhw’n gwybod yn union sut bydd pethau yn y dyfodol. Mae’r contractau dim oriau hyn yn eu galluogi i logi staff a chynnig cymaint o waith ag y gallan nhw, heb orfod poeni am beidio â gallu eu cyflogi nhw pan fydd lefelau gwaith yn isel. Os yw pethau’n mynd yn dda, gall llawer o bobl weithio ymhell dros oriau rhan amser a llawn amser o wythnos i wythnos, ac mae llawer o bobl yn gweithio ar gontract dim oriau am gyfnodau hir o amser.

Annwyl Kristin, Rydw i newydd gael cynnig swydd gyda chontract dim oriau, ac nid ydw i’n siŵr a ddylwn i ei derbyn. Ar hyn o bryd rwy’n hawlio lwfans ceisio gwaith, yn cael budd-dal tai a budd-dal y dreth gyngor ac yn byw gyda fy mhartner ac ein merch 16 mis oed. A ddylwn i gymryd y swydd yn y gobaith y byddaf yn gweithio digon o oriau i gyfiawnhau dod oddi ar fy mudd-daliadau?

Gall hyn fod yn addas i rai pobl nad oes ganddyn nhw ymrwymiadau – fel talu rhent neu gefnogi teulu - neu bobl sydd eisiau oriau achlysurol neu hyblygrwydd i benderfynu pryd i weithio. Nid yw hwn yn gytundeb parhaol gyda chyflog nac oriau contract, felly os bydd angen i chi wybod eich bod yn mynd i ennill swm penodol o arian, nid yw hyn yn addas i chi, ond mae llawer o bobl yn hapus ar gontract dim oriau, ac yn anaml iawn y byddan nhw’n gweithio “dim” oriau yn llythrennol.


Gwaith. Sgiliau. Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 29 Annwyl Kristin, Fel unig riant rwyf yn barod i ddychwelyd i’r gwaith nawr bod fy nau blentyn yn yr ysgol. Rwy’n gyfrifol am fynd ‘m plant i’r ysgol ac yn ôl, sy’n ei gwneud yn anodd i mi ddod o hyd i waith. Dim ond rhwng 10am a 2pm y gallaf weithio mewn gwirionedd, ac rwy’n ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i swydd sydd ddim yn dechrau am 9am neu’n gynharach, neu lle nad yw’n ofynnol i mi weithio gyda’r nos. Oes gennych chi awgrymiadau? Dywed Kristin: Y peth cyntaf y byddwn yn ei wirio ydi a oes gan ysgol eich plant glwb brecwast neu glwb ar ôl ysgol. Mae’r clybiau hyn yn cynnig cymorth cofleidiol sy’n golygu y gallwch fynd â’ch plant i’r ysgol yn gynharach a / neu eu codi yn nes ymlaen. Mae’r plant yn cael brecwast ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd gyda’r oriau y gallwch eu gweithio. Fodd bynnag, nid ydyn nhw’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol, ond bydd dewisiadau eraill ar gael yn ystod yr adegau hynny, fel cynlluniau chwarae a chlybiau gwyliau. Efallai bod modd i chi gael help gyda chostau gofal plant. Fel rhiant sengl, os ydych yn gweithio 16 awr neu ragor yr wythnos, byddwch yn gymwys i gael credydau treth gofal plant. Efallai y gallwch hawlio hyd at £210 yr wythnos ar gyfer dau neu ragor o blant, sy’n rhoi hyd yn oed mwy o hyblygrwydd i chi. Mae gan bob gweithiwr yr hawl erbyn hyn i ofyn am oriau gweithio hyblyg ac efallai y gofynnir i chi weithio yn ystod y tymor yn unig. Pob lwc wrth chwilio am waith!

Annwyl Kristin, Rwyf wedi gweithio ar safleoedd adeiladu erioed, ond mae fy ngherdyn CSCS gweithredwr safle adeiladu wedi dod i ben. Clywais fod rheoliadau newydd nawr i adnewyddu fy ngherdyn. A yw hyn yn wir?

Dywed Kristin: Ers mis Gorffennaf 2014, nid yw’r cerdyn gweithredwr safle adeiladu ar gael. Erbyn hyn mae’r ‘cerdyn gwyrdd’ yn cael ei alw’n gerdyn labrwr - dylech wneud cais am y cerdyn hwn os ydych yn labrwr. Os nad ydych, mae cardiau eraill sydd ar gael i chi a dylech edrych ar www.cscs.uk.com Bydd angen i chi ailsefyll Prawf Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd CITB cyn y gallwch adnewyddu eich cerdyn a hefyd basio un o’r cymwysterau a ganlyn: • Dyfarniad Lefel 1 FfCCh Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu (efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer hyn yn dibynnu ar lle’r ydych yn byw) • Cwrs undydd Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Safle ac Iechyd a Diogelwch • IOSH Gweithio’n Ddiogel


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Preswylwyr Bracla yn torchi

eu llewys ar gyfer y prosiect Tyfu’n Wyllt Bu preswylwyr ym Mracla, Peny-bont ar Ogwr, yn gwisgo eu menig garddio ac yn defnyddio eu tryweli yn ddiweddar i blannu blodau cynhenid a helpu i fywiogi eu cymuned.

Mae’r grŵp yn gobeithio y bydd y blodau gwyllt yn gwneud y llwybr troed yn fwy croesawgar ac yn ychwanegu mymryn o liw i breswylwyr ei fwynhau, gyda’r llwybr yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan bobl sy’n cerdded yn ôl ac ymlaen i ganol y dref neu’r ysgol leol.

Daeth y grŵp, dan arweiniad Pwyllgor Digwyddiadau Bracla, at ei gilydd ddydd Mawrth 28 Hydref i blannu bylbiau gwyllt a bywiogi’r llwybr cyhoeddus rhwng Clos-y-Waun a Heol Bryn Glas yn yr ardal Meadows.

Dywedodd Andrew Pritchard, Swyddog Tai gydag WWH: “Rydym yn credu mewn gweithio’n agos gyda’n preswylwyr er mwyn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau gyda’n gilydd. Roedd yn wych gweld cymaint o breswylwyr yn cymryd rhan yn y Prosiect Tyfu’n Wyllt ym Mracla, a bu’r diwrnod yn llwyddiant go iawn – gydag ambell arddwr disglair at y dyfodol yn dod i’r amlwg!”

Roedd y digwyddiad yn rhan o Tyfu’n Wyllt, rhaglen gwerth £10.5m a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr sy’n cael ei harwain gan y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew, ar ôl i Bwyllgor Digwyddiadau Bracla gael grant o £500. Mae’r rhaglen Tyfu’n Wyllt yn ysbrydoli cymunedau, ffrindiau, cymdogion ac unigolion ledled y Deyrnas Unedig i ddod at ei gilydd i drawsnewid mannau lleol drwy hau, tyfu a mwynhau blodau gwyllt brodorol. Daeth dros 30 o aelodau o’r gymuned leol i’r diwrnod plannu i gynnig help llaw, gyda chymorth gan WWH a Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd nifer o arddwyr ifanc addawol ymysg y grŵp, gyda phlant mor ifanc â phedair oed yn torchi eu llewys a defnyddio tipyn o fôn braich. Gyda’i gilydd, plannwyd dros 1000 o fylbiau, gan gynnwys clychau’r gog brodorol, eirlysiau, cennin Pedr gwyllt, lili’r maes a garlleg gwyllt.

Dywedodd Maria Golightly, Rheolwr Partneriaeth Tyfu’n Wyllt Cymru: “Y mae wedi bod yn bleser llwyr gweithio gyda Phwyllgor Digwyddiadau Bracla ar y prosiect hwn, ac rwyf wrth fy modd fod cymaint wedi dod i’r diwrnod plannu. Bydd y prosiect hwn nid yn unig yn bywiogi’r ardal, ond bydd hefyd yn ychwanegu at ein rhwydwaith o brosiectau gwych ledled Cymru lle mae pobl yn trawsnewid mannau lleol drwy hau, tyfu a mwynhau blodau gwyllt brodorol.” Cafodd Plant ym Mracla lawer o hwyl yn plannu bylbiau cynhenid fel rhan o’r Prosiect Tyfu’n Wyllt.


Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 31

Sesiynau

clirio’r hydref yn llwyddiant ysgubol!

Plant yn clirio

eu maes chwarae Bu plant o Gefn y Nant yn Wrecsam yn mwynhau sesiwn casglu sbwriel Calan Gaeaf gyda staff o WWH a Cadwch Gymru’n Daclus. Yn falch o’u maes chwarae newydd, bu’r plant yn codi sbwriel a sefydlu rheolau ar gyfer y maes fel y gall pawb ei fwynhau. Fe fuon nhw hefyd yn plannu bylbiau fel y gallan nhw fwynhau gwylio’r cennin Pedr yn blaguro yn y gwanwyn. Helpodd Mark Harper a Gareth Loose, gweithredwyr o Anwyl Construction, i bannu bylbiau gyda’r plant. Dywedodd Cate Porter, Rheolwr Tai gyda WWH: “Roedd y sesiwn casglu sbwriel yn rhan o’n dull i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr ar ein stad. Roedd yn wych gweld cymaint o blant brwdfrydig yn dod i dacluso eu maes chwarae. Fe wnaethon nhw weithio’n galed iawn i wneud gwahaniaeth ac fe gawson nhw fag o bethau da fel gwobr Calan Gaeaf!” Cafodd plant a staff WWH amser arswydus o dda yn eu sesiwn casglu ysbwriel Calan Gaeaf yng Nghefn y Nant.

Mynd i’r afael â thipio

anghyfreithlon Twyncarmel Mae llecyn blêr yn Nhwyncarmel wedi cael ei drawsnewid diolch i ddiwrnod gweithredu cymunedol. Daeth cynrychiolwyr o nifer o asiantaethau lleol at ei gilydd ym mis Medi fel rhan o gynllun gweithredu parhaus i wella’r ardal a mynd i’r afael â man lle ceir tipio anghyfreithlon yn aml, ger cylchdro Bws Twyncarmel. Fe wnaeth partneriaid o Cynefin, Taclo Tipio Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Trefi Taclus, y Gwasanaeth Prawf, WWH, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cynghorwyr lleol, y tirfeddiannwr Steve Jones a’r ffermwr Philip Price i gyd gyfrannu at glirio’r malurion a gafodd eu tipio’n anghyfreithlon o’r cae, a chodi arwyddion a ffensys newydd ar y safle. Dywedodd Bridget Garrod, Rheolwr Tai WWH ym Merthyr Tudful: “Rydym yn falch iawn o gefnogi’r sesiwn glirio hon oherwydd rydym yn gwybod yn union faint o broblem fu’r tipio anghyfreithlon yn Nhwyncarmel. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n preswylwyr yn yr ardal i’w wella gymaint ag y gallwn, ac maen nhw wedi dweud wrthym eu bod yn falch iawn gyda chanlyniadau’r sesiwn glirio. Rwy’n gobeithio nawr y bydd y gymuned gyfan yn gweithio gyda’i gilydd i atal unrhyw dipio anghyfreithlon ar y safle hwn yn y dyfodol, neu yn wir yn unrhyw le arall.” Ali Chaplin, Swyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedau; Steve Jones, perchennog tir; Andrew Walters, swyddog iechyd yr amgylchedd Cyngor Merthyr; Jake Castle, Cadwch Gymru’n Daclus.


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Cadw’n iach dros y gaeaf Gyda’r tywydd yn oeri, mae’n hawdd dal annwyd a’r mathau eraill o anhwylderau rydym i gyd yn eu cysylltu â’r gaeaf. Yn yr erthygl hon, mae NHS Choices yn dweud wrthym sut gallwn helpu i ofalu amdanom ein hunain a threchu’r anhwylderau dros y gaeaf.

5 ffordd o gadw’n iach y gaeaf hwn 1. Cofiwch gael digon o gwsg “Ar gyfartaledd rydym yn cysgu chwe awr a hanner bob nos, sy’n llawer llai na’r saith i naw awr a argymhellir,” meddai Jessica Alexander, llefarydd dros y Cyngor Cwsg, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd noson dda o gwsg ar gyfer iechyd a lles. Ond yn y gaeaf, rydym yn naturiol yn cysgu mwy oherwydd y nosweithiau hirach.” Mae’n hollol naturiol mabwysiadu arferion gaeafgysgu pan fydd y tywydd yn troi’n oer,” meddai Jessica. “Defnyddiwch yr amser i gysgu tipyn bach mwy.”

2. Yfwch ragor o laeth Rydych 80% yn fwy tebygol o gael annwyd yn y gaeaf, felly mae sicrhau bod eich system imiwnedd mewn cyflwr da yn bwysig. Mae llaeth a chynnyrch llaethdy fel caws, iogwrt a fromage frais yn ffynonellau gwych o brotein a fitaminau A a B12.

Maen nhw hefyd yn ffynhonnell bwysig o galsiwm, sy’n helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf. Ceisiwch fynd am laeth hanner sgim neu sgim, yn hytrach na llaeth braster llawn.

3. Bwytewch ragor o ffrwythau a llysiau Pan mae hi’n oer ac yn dywyll y tu allan, gall fod yn demtasiwn gorfwyta bwyd cysur afiach, ond mae’n bwysig sicrhau eich bod yn dal i gael diet iach ac yn cynnwys pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Os byddwch awydd gwledd llawn siwgr, rhowch gynnig ar glementin neu satswma llawn sudd yn lle hynny, neu ffrwythau melys wedi’u sychu fel datys neu resins. Gall llysiau’r gaeaf fel moron, pannas, erfin a maip gael eu rhostio, eu stwnshio neu eu gwneud yn gawl ar gyfer pryd cynhesol ar gyfer y gaeaf i’r teulu cyfan. Archwiliwch fathau gwahanol o ffrwythau a llysiau na fyddech chi’n eu bwyta fel arfer, o bosibl.

4. Rhowch gynnig ar weithgareddau newydd i’r teulu cyfan Peidiwch â defnyddio misoedd oer y gaeaf fel esgus i aros yn y tŷ a diogi. Yn lle hynny, ewch allan gyda’r teulu cyfan i roi cynnig ar weithgaredd newydd - sglefrio iâ, efallai, neu fynd am dro iachus ar y traeth neu drwy’r parc. Mae ymarfer corff yn rheolaidd yn helpu i


Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 33 reoli eich pwysau, rhoi hwb i’ch system imiwnedd, ac mae’n ffordd dda o dorri’r tensiwn sy’n gallu cronni os yw’r teulu yn gyson dan yr un to am gyfnodau hir.

5. Bwytewch frecwast iach Y gaeaf yw’r tymor perffaith ar gyfer uwd. Mae bwyta llond powlen gynnes ar fore oer nid yn unig yn ffordd flasus o ddechrau eich diwrnod, y mae hefyd yn helpu rhoi hwb i faint o fwydydd â starts a ffibr rydych chi’n eu bwyta. Mae’r rhain yn rhoi egni i chi ac yn eich helpu i deimlo’n llawnach am gyfnod hirach, gan allu gwrthsefyll y demtasiwn i fwyta byrbrydau ganol bore. Mae ceirch hefyd yn cynnwys llawer o fitaminau a mwynau hanfodol. Gwnewch eich uwd gyda llaeth hanner sgim neu sgim neu ddŵr, a pheidiwch ag ychwanegu siwgr na halen. Ychwanegwch ychydig o fricyll wedi’u sychu, resins, banana wedi’i sleisio neu ffrwyth arall i roi blas ychwanegol ac i’ch helpu i gyrraedd eich targed 5 y dydd.

10 math o salwch y gaeaf a sut i’w hatal Mae rhai problemau iechyd, fel asthma, dolur gwddw a doluriau annwyd, yn cael eu sbarduno neu eu gwaethygu gan dywydd oer. Dyma sut i helpu eich corff i ddelio gydag anhwylderau tywydd oer.

Anwyd Gallwch helpu i atal annwyd drwy olchi eich dwylo yn rheolaidd. Mae hyn yn lladd y bacteria y gallech fod wedi eu codi o gyffwrdd ag arwynebau ar ôl

pobl eraill, fel switshis golau a dolenni drysau. Y mae hefyd yn bwysig cadw’r tŷ yn daclus, a chadw eitemau’r cartref fel cwpanau, gwydrau a thyweli yn lân, yn enwedig os bydd rhywun yn eich tŷ yn sâl. Awgrym: Os cewch annwyd, defnyddiwch hancesi papur tafladwy yn lle hancesi brethyn i osgoi ailheintio eich dwylo eich hun drwy’r adeg.

Dolur gwddw Mae dolur gwddw yn gyffredin yn y gaeaf a bron bob amser yn cael ei achosi gan heintiau firaol. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod newidiadau yn y tymheredd, fel mynd o ystafell gynnes, wedi ei gwresogi’n ganolog, i’r awyr agored rhewllyd, hefyd yn gallu effeithio ar y gwddf. Awgrym: Un ffordd gyflym a hawdd o wella dolur gwddw yw garglio gyda dŵr hallt cynnes. Ni fydd yn gwella’r haint, ond mae hyn yn atal llidiau a gall gael effaith lleddfol. Hydoddwch un llwy de o halen mewn gwydraid o dŵr wedi’i ferwi a oerwyd yn rhannol.

Asthma Mae aer oer yn sbardun mawr i symptomau asthma, fel gwich ar y frest a bod yn fyr o anadl. Dylai pobl ag asthma fod yn arbennig o ofalus yn y gaeaf. Awgrym: Arhoswch dan do ar ddiwrnodau oer a gwyntog. Os byddwch yn mynd allan, gwisgwch sgarff dros eich trwyn a’ch ceg. Byddwch yn hynod wyliadwrus ynghylch cymryd eich moddion yn rheolaidd, gan gadw anadlyddion achub gerllaw ac mewn lle cynnes.


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach Nid oes tystiolaeth bod newidiadau yn y tywydd yn achosi difrod i gymalau.

Gallwch helpu i gadw’r ffliw draw drwy gael eich brechiad yn eich meddygfa.

Norofirws Fe’i gelwir hefyd yn byg chwydu’r gaeaf – mae norofirws yn fyg stumog hynod o heintus. Gall daro drwy gydol y flwyddyn, ond mae’n fwy cyffredin yn y gaeaf ac mewn lleoedd fel gwestai ac ysgolion. Mae’r salwch yn annymunol, ond fel arfer bydd y symptomau’n pasio o fewn ychydig ddyddiau. Awgrym: Pan fydd rhywun yn sâl yn chwydu a gyda dolur rhydd, mae’n bwysig yfed digon o hylif i atal diffyg hylif. Mae plant ifanc a’r henoed mewn perygl neilltuol. Drwy yfed hylifau ail-hydradu drwy’r geg (ar gael o fferyllfeydd), gallwch leihau’r risg o ddadhydradu.

Cymalau poenus Mae llawer o bobl ag arthritis yn dweud bod eu cymalau’n fwy poenus yn ystod y gaeaf, er nad yw’n glir pam fod hynny’n digwydd. Dim ond symptomau ar y cymalau, fel poen ac anystwythder, sy’n cael eu heffeithio gan y tywydd.

Awgrym: Mae llawer o bobl ychydig yn isel eu hysbryd yn ystod misoedd y gaeaf, a gall hyn wneud iddyn nhw deimlo poen yn fwy difrifol. Mae popeth yn teimlo’n waeth, gan gynnwys cyflyrau meddygol. Gall ymarfer corff bob dydd roi hwb i gyflwr meddyliol a chorfforol. Mae nofio yn ddelfrydol gan nad yw’n rhy galed ar y cymalau.

Dolur annwyd Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cydnabod bod doluriau annwyd yn arwydd ein bod yn gorweithio neu dan straen. Er nad oes gwellhad ar gyfer doluriau anwyd, gallwch leihau’r tebygrwydd o gael un drwy ofalu amdanoch eich hun drwy’r gaeaf. Awgrym: Bob dydd, gwnewch bethau sy’n gwneud i chi deimlo dan lai o straen, fel cael bath poeth, mynd am dro yn y parc, neu wylio un o’ch hoff ffilmiau.

Trawiad ar y galon Mae trawiad ar y galon yn fwy cyffredin yn y gaeaf. Gall hyn fod oherwydd bod cyfnodau oer sydyn yn cynyddu pwysedd gwaed ac yn rhoi rhagor o straen ar y galon. Mae’n rhaid i’ch calon weithio’n galetach hefyd er mwyn cynnal gwres y corff pan mae hi’n oer.


Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 35 Awgrym: Cadwch yn gynnes yn eich cartref. Cadwch y prif ystafelloedd a ddefnyddiwch tua 21C (70F) a defnyddiwch botel dŵr poeth neu flanced drydan i gadw’n gynnes yn y gwely. Gwisgwch ddillad cynnes pan fyddwch yn mynd allan a gwisgwch het, sgarff a menig.

Dwylo oer Mae ffenomenon Raynaud yn gyflwr cyffredin sy’n peri i fysedd a bysedd traed newid lliw a mynd yn boenus iawn mewn tywydd oer. Gall bysedd fynd yn wyn, yna’n las, yna’n goch, a phlycio/gwynio a chosi. Mae’n arwydd o gylchrediad gwael ym mhibellau gwaed bach y dwylo a’r traed. Mewn achosion difrifol, gall meddyginiaeth helpu, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw gyda’u symptomau. Awgrym: Peidiwch ag ysmygu nac yfed caffein (gall y ddau waethygu symptomau) a gwisgwch fenig cynnes, sanau ac esgidiau bob amser wrth fynd allan mewn tywydd oer.

Croen sych Mae croen sych yn gyflwr cyffredin ac yn aml yn waeth yn ystod y gaeaf, pan fydd lleithder amgylcheddol yn isel. Mae defnyddio lleithydd yn hanfodol yn ystod y gaeaf. Yn groes i’r gred boblogaidd, nid yw golchdrwythau a hufen lleithio yn cael eu hamsugno gan y croen. Yn hytrach, maen nhw’n gweithredu fel seliwr i atal lleithder naturiol y croen rhag anweddu.

Yr amser gorau i roi lleithydd yw ar ôl bath neu gawod tra bydd eich croen yn dal yn llaith, ac unwaith eto amser gwely. Awgrym: Cymerwch gawodydd cynnes, yn hytrach na poeth. Mae dŵr sy’n rhy boeth yn gwneud i’r croen deimlo’n fwy sych a chosi. Bydd dŵr poeth hefyd yn gwneud i’ch gwallt edrych yn ddiflas ac yn sych.

Ffliw Mae’r ffliw yn salwch heintus iawn sy’n lledaenu’n gyflym wrth i bobl sy’n cario’r firws besychu a thisian. Mae pobl 65 oed a throsodd a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys diabetes a chlefyd yr arennau, mewn perygl neilltuol. Y ffordd orau o atal y ffliw yw cael y brechiad rhag y ffliw (neu chwistrell trwyn ffliw yn achos plant rhwng 2 a 18 oed). Mae’r brechlyn ffliw yn rhoi amddiffyniad da yn erbyn y ffliw ac yn para am flwyddyn. Awgrym: Gwiriwch a ydych mewn perygl o gael y ffliw drwy ofyn i’ch meddyg teulu. Os ydych chi mewn grŵp risg uchel, ewch i weld eich meddyg teulu i gael y brechiad.

Am ragor o gyngor ar

gadw’n iach dros y

gaeaf, ewch i www.nhs.uk/livewell


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad chwarterol Heather a Christine yng Nghanolfan Trafford

Hyrwyddo

bwyta’n iach

yn eich cymuned Yn y llun uchod fe welwch Heather Christan a Christine Phillips, sy’n aelodau o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr, a ymunodd â grwpiau cymunedol o bob rhan o Brydain yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant dros ddau ddiwrnod ar fwyta’n iach yn Neuadd Trafford, y Ganolfan Adnoddau Cymunedol Genedlaethol. Fe wnaeth y grŵp roi prawf ar eu sgiliau coginio wrth iddyn nhw wneud clasuron bwyd ar gyfer yr holl ofynion dietegol gwahanol, yn ogystal â dysgu am wastraff

bwyd. Fe wnaeth y ddwy fwynhau’r profiad yn fawr, ac maen nhw’n edrych ymlaen at rannu eu gwybodaeth gyda’u cyd-breswylwyr. Mae’r cyrsiau eraill y mae preswylwyr WWH wedi bod arnyn nhw eleni yn cynnwys Hanfodion Garddio, Hyrwyddwyr Ynni a Chynnal Digwyddiadau Cymdeithasol. Mae cyrsiau yn y dyfodol yn cynnwys Cynhyrchu Incwm o’ch Gardd Gymunedol a Chyflwyniad i Bermaddiwylliant. Mae cyrsiau hylendid bwyd a chyrsiau cymorth cyntaf hefyd yn cael eu trefnu’n rheolaidd gan WWH. Dylai preswylwyr sydd â diddordeb mewn cyrsiau sydd ar gael gysylltu â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr. Mae WWH yn talu costau’r hyfforddiant a gellir talu am gludiant, gofal plant, costau gofalwr neu unrhyw rwystr arall a fyddai’n atal preswylwyr rhag gallu cymryd rhan.

Adroddiad chwarterol Rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd

Yn rhifyn yr haf o In Touch fe wnaethom gyhoeddi’r cyntaf o’n graffigau gwybodaeth adroddiad chwarterol ar ei newydd wedd, a oedd yn dweud wrthych am ein rhenti, sut mae pobl yn talu a sut rydym yn eu helpu yn ôl yr angen. Yn ein hail gyfres o graffigau gwybodaeth byddwn yn dweud wrthych sut rydym yn atgyweirio eich cartrefi, pa mor hir mae’n ei gymryd

i ni wneud yr atgyweiriadau a pha mor fodlon ydych chi gyda’r gwaith atgyweirio. Cymerwch olwg arno, ac os oes gennych sylwadau am hyn, neu’r graffigau gwybodaeth ‘Helpwch fi i dalu’ a gyhoeddwyd gennym y tro diwethaf, neu os hoffech wybod unrhyw beth arall am ein systemau, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Gallwch anfon e-bost atom: contactus@wwha.co.uk, neu ein ffonio ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526.


wyddyn hwn r bl gw e t ar

om dros eth na

Yn ystod y c hw

Adroddiad chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 37

6,730

O atgyweiriadau adeiladu a thrydanol

3

Siaradom gyda

â’

o 40

we

ro

di a

ro s y r

o’r b

o fewn wythnos

yr yn ystod d ymwelia cyntaf wylwyr bres

at h

6/10

yn eh

un f

Ma

6/10

rt

9/10

lae n

13

Mae hyn yn is na’r tro o’r blaen

o apwyn adau Roedd hyn yn uwch na’r tro o’r blaen

fe ddywedoch chi

yr atgyweiriadau mwyaf cyffredin yw’r rhai i ddrysau a chloeon

eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch – mae staff yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn gwrtais weithiau nid yw gwaith atgyweirio yn llwyddo ac mae angen rhagor o waith

DIOLCH yn fawr i’r

diwrnod

Yw amser cyfartalog cwblhau atgyweiriad

CARTREF

preswylwyr sy’n ein helpu ni i ddangos a dweud sut rydym yn perfformio mewn ffordd glir ac ystyrlon.Byddem wrth ein bodd yn clywed beth rydych yn

ei feddwl, hefyd – ffoniwch ni ar 0800

052 2526


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Preswylwyr yn codi arian

ar gyfer Macmillan Daeth Preswylwyr WWH o bob rhan o Gymru at ei gilydd ar 26 Medi i gymryd rhan ym More Coffi Mwya’r Byd Macmillan. Dyma rai o’r uchafbwyntiau - da iawn bawb a gymerodd ran! Fe wnaeth preswylwyr Lord Pontypridd House, Caerdydd, godi swm gwych o £356.62 gydag arwerthiant coffi a chacennau, ac yna raffl. Fe wnaeth preswylwyr o gynllun cyfagos Sir David’s Court hefyd helpu, gyda’r pobydd o fri Pat Ellis yn paratoi dwy deisen sbwng Fictoria hyfryd i’w gwerthu.

Oak Court, Bro Morgannwg, yn codi £180.00 gyda’u Bore Coffi Macmillan. Cafodd preswylwyr yn Four Elms Court, Caerdydd, fore hyfryd yn eu digwyddiad, a oedd yn cynnwys gemau a raffl. Cododd y grŵp y swm trawiadol o £150 a dywedodd Natalie Crowley, y rheolwr cynllun, ei bod yn hynod falch o’u hymdrechion gwych.

Preswylwyr yn Four Elms Court, Caerdydd, yn dod at ei gilydd ar gyfer eu bore coffi Macmillan

Fe wnaeth preswylwyr yn The Beeches, Pen-y-bont ar Ogwr, godi £310 gyda’u harwerthiant cacennau a thombola. Dywedodd un o’r preswylwyr, Joan Connolly: “Roedd yn waith caled gwneud yr holl gacennau, ond roedd y canlyniad yn werth chweil. Mwynhaodd pawb y diwrnod, ac fe wnaeth y rhai nad oedd yn gallu bod yno’r bore hwnnw gyfrannu rhodd.” Preswylwyr yn Lord Pontypridd House yn mwynhau eu bore coffi


Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Preswylwyr yn Barod i bobi! Staff coginio er budd elusen Cynhaliodd preswylwyr o Hanover Court yn Llandrillo-yn-Rhos, Conwy, fore coffi cymunedol, gan godi £44.90 i Gymdeithas Strôc Cymru.

yn codi arian at Ofal

Canser y Fron Bu ein staff yn brysur yn pobi ym mis Medi ar gyfer cystadleuaeth bobi elusennol er budd Gofal Canser y Fron, gan godi £540.

Meddai Karen Smith, sy’n mwynhau secondiad chwe mis fel Rheolwr y Cynllun yno: “Roeddwn ychydig yn bryderus, heb wybod beth i’w ddisgwyl, ond roedd yn ffordd wych o ddod i adnabod y preswylwyr. Fe wnaethon nhw i gyd bobi cacennau, a daeth nifer dda yno. Ar ôl gweithio mewn rôl weinyddol, roedd yn hawdd trefnu digwyddiad fel hyn. Dwi wir yn mwynhau gweithio yma ac wrth fy modd gyda’r cynllun.”

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym mhencadlys WWH yn Nhremorfa, Caerdydd, gyda’r tîm yn arddangos eu sgiliau pobi i godi arian fel rhan o ymgyrch Te Mefus Gofal Canser y Fron.

Preswylwyr Hanover Court yn dod at ei gilydd i godi arian at Gymdeithas Strôc Cymru

Dywedodd Rachael Power, Codwr Arian Rhanbarthol Gofal Canser y Fron: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb yn WWH am drefnu Te Mefus. Bob blwyddyn, mae bron i 2,400 o ferched a dynion yn cael diagnosis o ganser y fron ledled Cymru. Mae cymorth gan sefydliadau fel WWH yn golygu y gallwn barhau i fod yno i bawb sydd angen ein cefnogaeth.”

Y Prif Weithredwr Anne Hinchey gyda’r pobydd disglair Rhys

Enillydd y brif wobr oedd y pobydd disglair Rhys Cousins, sy’n swyddog prynu, am ei gacen pizza hynod greadigol a hwyl (i’w gweld yn y llun).


40 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Eich newyddion a’ch safbwyntiau Peidiwch â chael eich sgamio Cafodd preswylwyr yng Nghae Mawr yn Llandudno gyngor cadarn ynglŷn â sgamiau ffôn, cyfrifiadur a phost gan Dawn Evans a Marina Hughes o Age Cymru pan wnaethon nhw ymweld â’r cynllun yn ddiweddar. “Os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, nid yw’n wir fel arfer,” meddai Dawn. Rhoddodd rai awgrymiadau defnyddiol: • Os ydych yn cael llythyr neu daflenni yn dweud eich bod wedi ennill rhywbeth, fel arfer mae’n rhaid i chi roi eich manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth. Bydd y cwmni yn defnyddio’r manylion hynny i gymryd eich arian. Ni fydd y wobr o reidrwydd yr hyn y credwch y bydd, nac mor hawdd i’w hawlio ac y cawsoch eich arwain i gredu yn y lle cyntaf. • Peidiwch byth â defnyddio rhif

Preswylwyr Oldwell

• •

•

•

090 – mae’r rheiny’n rhifau cyfradd premiwm. Peidiwch byth ag anfon manylion eich cyfrif banc at unrhyw un. Os byddwch yn cael galwad niwsans, e.e. ynghylch PPI neu bensiynau, ac nad ydyn nhw’n gwrando arnoch chi, rhowch y ffôn i lawr - maen nhw wedi arfer â hynny! Os yw’r galwr yn dal arnoch chi, gallwch ddechrau gofyn cwestiynau iddyn nhw - ni fyddan nhw’n hoffi hyn. Gallwch rwystro galwadau gan ddefnyddio’r gwasanaeth dewis ffôn (TPS), ond ni fydd yn atal galwadau sy’n dod o dramor.

Preswylwyr gydag aelodau o Age Cymru a’r rheolwyr cynllun Karen Smith a Glen Maighan

amser iâr-bennig!

Cafodd yr arian a godwyd ei roi gan y band i Elusen POPSY (Rhieni Pobl Ifanc Rhannol Ddall a Dall), y mae aelodau Clwb y Cywennod yn Oldwell Court yn ei chefnogi.

Bu’r Plucking Four Strings yn ymweld â Oldwell Court, Caerdydd, ym mis Hydref ar gyfer sesiwn canu ynghyd gyda’r preswylwyr, gan ddefnyddio iwceleles. Cafodd pawb brynhawn hyfryd, gan fwynhau’r gerddoriaeth yn fawr iawn.

Preswylwyr yn Oldwell Court yn mwynhau canu

Court yn cael


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Merched trwsiadus yn

Preswylwyr yn noddi

Cynhaliodd Clwb y Cywennod yn Oldwell Court, Caerdydd, fore coffi yn ddiweddar, lle cafodd y merched dipyn o faldod gyda sesiynau trin a thylino dwylo. Fe wnaeth pawb ohonyn nhw adael y bore coffi yn edrych yn drwsiadus iawn ac yn teimlo’n dda!

Mae preswylwyr Sylvester Court yn Hightown, Wrecsam, a Close Scott ym Marchwiail, Wrecsam, wedi penderfynu noddi addysg plentyn yn Uganda a thalu am eu haddysg. Mae’r ddwy ferch y mae’r preswylwyr yn eu noddi yn blant amddifad; Bu farw mam Cissie wrth ei geni a gadawyd Juliet yn amddifad. Mae’r merched yn mynychu’r ysgol yn Kalanga sydd ar Ynysoedd Sesse, Llyn Victoria yn Uganda.

Oldwell Court, Caerdydd plant amddifad yn Uganda

Penderfynodd Wendy McCarthy, sydd hefyd yn arbennig o dda am wau, roi cynnig ar rywbeth gwahanol yn ddiweddar; gwnaeth “Fascinator” am y tro cyntaf, ac fel y gwelwch, y mae’n drawiadol iawn! “Rwy’n eithaf hapus gyda fy hun,” meddai Wendy. Beryl Young a Wendy McCarthy yn mwynhau cael trin eu hewinedd

Wendy yn dangos y “fascinator” y bu’n ei wneud

Mae gan Dianne Hughes, Rheolwr y Cynllun yn Sylvester Court, ffrind cenhadol allan yno, a thrwyddo ef y daeth i wybod am y plant mewn angen. Mae’r ffioedd ysgol yn £20 y tymor, sy’n gyfystyr â £60 y flwyddyn, fesul plentyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth, ewch i www.equipeglobal.org neu ffoniwch 01244 373311.

Cissie a Juliet yn gwenu yn eu hysgol


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Pob lwc, Lena! Mae Lena Charles o Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n 96 mlwydd oed, wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr fawreddog Dewi Sant, gyda’r seremoni yn cael ei chynnal ar 12 Mawrth 2015 yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru yn flynyddol. Maen nhw’n cydnabod pobl sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn dros y wlad hon naill ai gartref neu dramor. Maen nhw’n nodau rhagoriaeth gwych a’r anrhydeddau uchaf y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi i’w dinasyddion yn genedlaethol. Mae Lena yn anhunanol iawn wedi ymroi cymaint o’i hamser dros y blynyddoedd i helpu eraill yn y gymuned gyda’i gwaith gwirfoddol, ac wedi bod yn aelod o’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol dros y 40 mlynedd diwethaf. Yn ystod y rhyfel, gweithiodd Lena fel Prif Arolygydd Arfau mewn arfdy gyda’i huned, gan ddarparu siocled a sigaréts mewn ysbyty milwrol yn Nhreforys i’r rhai a anafwyd. Ar ôl y rhyfel, trefnodd Apêl y Pabi yng Nghwm Garw, a bu’n wirfoddolwr ers 40 mlynedd gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yng Nghymru, gan drefnu’r Darby a’r Clwb Joan a’r gwasanaeth Pryd ar Glud yn yr ardal. Mae Lena yn parhau hyd heddiw i helpu eraill yn ei chynllun ac yn ei chymuned. Cefnogwyd enwebiad Lena ar gyfer y wobr gan y Roy Noble OBE, cyflwynydd

BBC Cymru a Dirprwy Raglaw ar gyfer Sir Morgannwg Ganol, ar ôl cyfarfod â hi yn ei chartref i gofnodi rhaglen nodwedd ar y radio am darddiad yr emyn Calon Lân. Dywedodd Mr Noble: “Mae Lena yn ddynes hynod. Mae pob cymdeithas angen breuddwydwyr a gweithredwyr, ysgogwyr a chynhyrfwyr, ac mae hi’n ymgorfforiad o bopeth sy’n gwneud cymuned fywiog. Nid oes unrhyw un yn fwy teilwng. Mae Lena wedi bod, ac yn parhau i fod, yn olau sy’n disgleirio’n gyson yng Nghwm Garw. Roedd yn fraint bod yn ei chwmni.” Dywedodd Yvonne Humphreys, y Rheolwr Cynllun: “Rwyf mor falch o fod yn rheolwr cynllun arni a chael y fraint fawr o’i hadnabod.” Roy Noble gyda’r ddynes eithriadol, Lena Charles o Danymynydd, Blaengarw

Pen-blwyddi a dathliadau Pen-blwydd hapus, Doreen! Dathlodd Doreen Jimson o The Beeches ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei phen-blwydd yn 92 oed ar 17 Medi. Dathlodd Doreen mewn steil gyda nifer o ffrindiau a’i chyd-breswylwyr, yn ogystal â staff o WWH.


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Pen-blwyddi a dathliadau

Dathliad dwbl yn

Oldwell Court, Caerdydd Ar 17 Hydref, roedd Peter a Wendy Blewett nid yn unig yn dathlu eu pen-blwydd priodas aur, ond pen-blwydd Peter hefyd. Cyfarfu’r cwpl ei gilydd gyntaf yn RAF Brampton yn 1962. Parti gwisg ffansi oedd y cyfarfyddiad cyntaf, lle’r oedd Wendy wedi gwisgo fel dyn a Peter fel menyw – maen nhw’n dweud “opposites attract” yn Saesneg, meddai Wendy! Dywedodd Sandy Houdmont, y Rheolwr

Pen-blwydd hapus iawn yn 101

oed i ddynes arbennig iawn! Dathlodd Ivy Heaphy ei phen-blwydd yn 101 oed gyda pharti gyda’r holl breswylwyr yn Llys Jasmine yn yr Wyddgrug ar 25 Medi. Bu cantorion James Lambert yn diddanu pawb tra’r oedden nhw’n mwynhau swper o bysgod a sglodion. Cafodd Ivy ei geni yn Shotton, Gogledd Cymru yn ôl yn 1913, ac roedd yn un o naw o blant. Pan adawodd yr ysgol aeth i weithio ym Melin Courtaulds (gwneuthurwr ffabrig a dillad yn y Deyrnas Unedig) a dysgodd wnïo yn ei hamser hamdden. Yna aeth Ivy ymlaen i weithio fel morwyn tŷ yng Nghaer, Llundain ac yna yng Ngogledd Cymru. Cyfarfu â’i gwr pan oedd y ddau yn gweithio yn Neuadd Trefor yn Llangollen pan oedd ef yn gweithio fel gyrrwr. Fe gawson nhw bedwar o blant.

Cynllun: “Mae Peter a Wendy yn gwpl hyfryd - os oes unrhyw beth y gallan nhw ei wneud i helpu rhywun, fe wnawn nhw hynny. Mae’r synnwyr o gymuned yn Oldwell yn ffynnu, ac maen nhw wrth wraidd hynny yn bendant. “Cyflwynodd Clwb y Cywennod falwnau, anrhegion, cardiau, blodau a chacennau hyfryd i’r cwpl hapus, ac wedi hynny bu’r pâr yn dweud wrthym sut gwnaethon nhw gwrdd a’r bywydau diddorol a gawson nhw yn teithio’r byd. Rydym i gyd yn dymuno llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonyn nhw.” Mae Ivy wedi gweithio’n galed erioed, a defnyddiodd ei doniau i wnïo a gwneud ffrogiau priodas, yn ogystal â phobi cacennau dathlu a’u haddurno’n berffaith. Neilltuodd amser hefyd i fod yn aelod gweithredol o’r mudiad Amddiffyn Sifil, Sefydliad y Merched, y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Cylch Gwin. Fe wnaeth hi hyd yn oed ddechrau gwneud gwin cartref. Bu Ivy yn byw bywyd annibynnol gyda chymorth ei theulu tan oed hi’n 100 oed, pan symudodd i fyw yn Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ac mae hi’n dal i fyw yn annibynnol gyda chymorth y tîm gofal cefnogol. Mae Ivy yn dweud mai cyfrinach ei hirhoedledd yw mwynhau bwyd a diod da!


Club

Apêl y Pwdin Nadolig 2014

Friday 24th October 20 The Parkway Hotel, Cw Arrive at 6:30pm, Dinner

Tickets: £35 per person. Dress Smart Casual

All proceeds to

Spend an Evening with Terry Cobner, Clive Rowla Kingsley Jones, Clive Norl & John Perkins

Yn cefnogi’r Gymdeithas

Cwmbran Vale

Bu Clwb Rotari Bro Cwmbrân yn gwerthu Pwdinau Nadolig ers nifer o flynyddoedd ac

mae’r holl elw yn mynd at ein dewis elusen. Rydym yn cefnogi’r Gymdeithas Strôc yn 2014, ar ôl codi dros £15,000 yn ddiweddar yn ymgyrch y llynedd.

Cefnogwch yr achos hwn drwy brynu cês o 12 pwdin

d Dim on

£10

, mewn y pwdin 12 cesys o

www.rotaryxmaspuddings.co.uk /Cwmbran-Vale-Rotary-Club-The-Pudding-Club

/XmasPuddings


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
WWH InTouch Hydref 2014 by Wales & West Housing - Issuu