Skip to main content

Intouch Rhifyn 87

Page 1

intouch RHIFYN 87 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Yr Uno Llwyddiant i breswylwyr yng ngwobrau TPAS Croesawu cartrefi yn Llanfair-ym-Muallt Diwrnod Mawr y Gorllewin


Rydyn ni’n symud! Rydyn ni’n symud ein Prif Swyddfa a’n Swyddfa yn y Fflint. Byddwn yn delio ag argyfyngau yn unig yn ystod y dyddiau hyn, felly cysylltwch â ni ar 0800 052 2526. Bydd eich holl fanylion cyswllt yn aros yr un fath, dim ond ein cyfeiriadau a fydd yn newid i:

Tŷ’r Bwa

Tŷ Draig

77 Parc Tŷ Glas Llanisien CAERDYDD CF14 5DU

LLANISIEN

Parc Dewi Sant Ewloe GLANNAU DYFRDWY CH5 3DT

Rydyn ni’n symud!

EWLOE

Mae ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd a’n swyddfa yng ngogledd Cymru yn y Fflint wedi pacio, yn barod ar gyfer ein symudiad mawr. Mae gwaith wedi mynd rhagddo am beth amser y tu ôl i'r llenni yn y ddau leoliad i fod yn barod i ddiffodd y goleuadau a dweud hwyl fawr ar ôl cyfnod mor hir. Dylem fod wedi ymgartrefu yn barod ar gyfer y Nadolig. Ydi, mae’r adeg honno o'r flwyddyn yn prysur agosáu!

Nid ydym yn symud ymhell, er hynny, a bydd yr holl fanylion cyswllt, ar wahân i'r cyfeiriadau, yn aros yr un fath. Rydym yn gobeithio na fydd y symud yn achosi gormod o aflonyddwch, ond rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw os bydd unrhyw fater yn codi.

Os oes gennych chi ymholiadau, rhowch alwad i ni ar ein rhif rhadffôn 0800 052 2526.


Llythyr y Golygydd a Chynnwys | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd

Helo bawb, Croeso i Rifyn 87 Intouch - y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Rydym yn estyn croeso cynnes iawn i'n preswylwyr a’n darllenwyr newydd o orllewin Cymru ac yn edrych ymlaen at glywed eich newyddion a’ch safbwyntiau mewn rhifynnau yn y dyfodol. Nid yw’n syndod mai prif nodwedd y rhifyn hwn yw uno WWH gyda Thai Cantref. Rydym yn esbonio beth yw’r uno, beth mae'n ei olygu i bob un o’n preswylwyr gyda Chwestiynau ac Atebion defnyddiol, ac yn dangos sut mae cymdeithasau tai eraill yng Nghymru wedi uno yn llwyddiannus. Rydym hefyd yn talu teyrnged i Clonc, cylchgrawn Tai Cantref, gynt. Byddwn yn dod â themâu poblogaidd o Clonc i rifynnau InTouch yn y dyfodol fel ein bod yn parhau i wella eich cylchgrawn chwarterol. O ganlyniad i'r uno rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth tan ddiwedd mis Tachwedd fel y gall pob un o'n preswylwyr gymryd rhan. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn awr ar 3 Mawrth darllenwch dudalen 13 am ragor o wybodaeth. Wrth sôn am wobrau, ar dudalen 32 rydym yn dathlu llwyddiannau preswylwyr yng Ngwobrau Cyfranogiad Tenantiaid a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i breswylwyr Oak Court am ddod yn gyntaf yng Ngwobr y prosiect amgylcheddol ac i Bethany Thompson o orllewin Cymru a enillodd wobr Tenant Ifanc y Flwyddyn. Da iawn hefyd i Jeff Bunce o Western Court a ddaeth yn drydydd yng nghategori Tenant y Flwyddyn. Rydym hefyd yn adrodd ar sut gweithredodd preswylwyr Pen Lon ym Magillt yn gyflym fel cymuned i oroesi llifogydd sydyn ofnadwy a lleihau'r difrod i gartrefi a busnesau. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer InTouch neu syniadau ar sut rydych chi’n meddwl y gallem wella, rhowch wybod i ni. Byddwn yn gwrando arnoch - boed hynny'n awgrym ar gyfer nodwedd reolaidd, neu’n sylw ar yr hyn rydych yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi. Anfonwch e-bost i contactus@ wwha.co.uk neu siaradwch â'n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen y rhifyn hwn wrth iddi nosi’n gynt – cadwch yn ddiogel. Y Tîm Golygyddol

Cynnwys Yr Uno 04 Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 13 Datblygiadau diweddaraf 14 Newyddion a Gwybodaeth WWH 16 Adroddiad Chwarterol 21 Newyddion a gwybodaeth 28 Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 29 Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned 30 Iechyd a Diogelwch 35 Materion Ariannol 36 Y Diweddaraf am Elusennau 38 Negeseuon sgamio TG 40 Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau 41

Dilynwch ni ar twitter @wwha Wyddech chi eich bod chi’n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr?

Ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech gael copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall – er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni helpu.

Cysylltu â ni Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o staff yn uniongyrchol drwy eu cyfeiriadau e-bost. Er enghraifft, joe. bloggs@wwha.co.uk


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Yr Uno

Tai Wales & West yn falch o uno â Chymdeithas Tai Cantref Yn rhifyn diwethaf InTouch dywedom fod sgyrsiau’n cael eu cynnal rhwng Tai Wales & West a Chymdeithas Tai Cantref ynghylch uno. Wel ers hynny, rydym yn falch o gyhoeddi bod yr uno wedi digwydd ac rydym yn rhoi croeso cynnes iawn i breswylwyr a staff o Orllewin Cymru. Pleidleisiodd Cyfranddalwyr o blaid uno gyda ni mewn cyfarfod arbennig ar 9 Awst, gan gadarnhau'r penderfyniad ar 23 Awst. Bydd y symudiad yn dod â chyfleoedd a manteision newydd i bob un o'n preswylwyr a chymunedau wrth i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, ennill profiadau newydd ac archwilio posibiliadau yn y dyfodol gyda'n gilydd. Mae gan y ddwy gymdeithas tai enw da iawn am ddatblygu cartrefi newydd i gwrdd ag anghenion tai fforddiadwy a darparu gwasanaeth ardderchog i breswylwyr. Gyda'n gilydd byddwn yn llawer cryfach i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector tai yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Gyda'r uno rydym yn awr yn gofalu am fwy na 11,500 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel, ar fin agor ein trydydd cynllun gofal ychwanegol, y cyntaf o'i fath ym Mhowys, ac rydym yn darparu atebion tai â chymorth i bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion penodol, ar draws 15 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym i gyd yn falch o'n treftadaeth Gymreig a'r ffaith ein bod yn buddsoddi yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol, gan helpu i roi hwb i economi Cymru.

"Daw’r symudiad â chyfleoedd newydd a manteision i’n holl breswylwyr a chymunedau"


Yr Uno | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Rydym yn gwbl ymroddedig i sicrhau bod preswylwyr yn cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Lle’r ydym ydym yn Lle’r yn gweithredu gweithredu

Gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a gogledd Cymru, rydym yn llawn cyffro y bydd gennym swyddfa ranbarthol yng Nghastellnewydd Emlyn hefyd.

273

Ein gwerthoedd o fod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol tuag at ein staff, yw’r hyn a ddefnyddiwn i fesur ein holl weithredoedd a’n penderfyniadau. Mae tua naw o bob deg o breswylwyr yn fodlon iawn gyda ni fel eu landlord.

12

Y

204

T

4

AC - Anghenion cyffredinol W - Wrthi’n cael eu datblygu Y - Ymddeol T - Tai â chymorth P - Perchnogaeth cartref G - Gofal ychwanegol

Y

58

T

36

1

G

58

P

34

AC

AC

612

P

W

79 T

Sir Y Fflint

W

41

63

Sir Ddinbych

Y

158

373

AC

AC

56

P

P

22

AC

838

T

10

702

744

W

38

W

35

18

G

Conwy Wrecsam

Cyfanswm ar y safle yn awr

Y

141

P

88 24 Y

Cyfanswm Stoc

T

45

11,278

Powys

Y

72

Ceredigion

T

60

AC

313

1

Y

2

64

T

9

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Pen-y-Bont ar Ogwr

107

Caerffili

P

Caerdydd

AC

P

31

685

AC

1,025

Ffigurau Medi 2016

T

P

628 Y

AC

2,098

P

28 305 38 T

AC

267 129 170 134 W

P

31

Y

Bro Morgannwg

65

AC

90 Y

dful

P

AC 159 3

AC

263

Y

149

P

AC

Sir Gaerfyrddin

Sir Benfro

245

Tu thyr

32

W

28

Y

P

Mer

Nid yw'r llwyddiannau yn digwydd drwy ddamwain wrth i ni wrando ar ein holl breswylwyr a gweithwyr a gwneud y peth iawn. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu mwy gyda’n preswylwyr a’n staff yng ngorllewin Cymru i ddechrau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau a’u cymunedau.

AC

Y

26


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Yr uno

Cwestiynau ac atebion

Rydym yn deall bod newid yn arwain at bryder a nifer o gwestiynau’n cael eu gofyn. Yma rydym yn ceisio ateb y pryderon hynny.

Cwestiwn: Fydda i’n colli fy nghartref, neu fydd fy nhenantiaeth yn newid? Ateb: Na fyddwch. Ni fydd perygl i’r naill na’r llall ddigwydd. Cwestiwn: Fydd fy rhent yn cynyddu? Ateb: Na fydd. Bydd yn union yr un faint ag y mae yn awr – i’n holl

breswylwyr. Yn union fel roedd Tai Cantref yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch rhent tai cymdeithasol, felly hefyd y mae Tai Wales & West yn ei wneud.

Cwestiwn: Fydd gwasanaethau ac atgyweiriadau’n cael eu heffeithio? Ateb: Na fydd. Byddwch yn dal i ffonio'r un rhifau ffôn a siarad gyda'r un

bobl a fydd yn dal i weithio yn yr un swyddfeydd.

Rydym yn deall bod y gwasanaeth atgyweirio yn un o'r rhai mwyaf pwysig i breswylwyr ac rydym yn eich sicrhau na fydd yr uno yn effeithio ar y gwaith atgyweirio sy'n cael ei gwneud na sut rydych yn rhoi gwybod amdanyn nhw. Yn ein rhaglen ‘Ydyn ni wedi gwrando’, rydym wedi gallu siapio'r gwasanaethau a ddarparwn i fodloni anghenion ein preswylwyr, gan arwain at lefel uchel o foddhad ymysg preswylwyr.

Cwestiwn: Beth sy’n digwydd i’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth? Ateb: Rydym yn croesawu ein preswylwyr newydd o orllewin Cymru i gymryd

rhan yn y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yn awr yw diwedd Tachwedd 2016. Bydd y seremoni wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal ar 3 Mawrth 2017 yn Stadiwm SSE Swalec yng Nghaerdydd.


Yr Uno | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Cwestiwn: Beth am ddangos parch at ein treftadaeth a’r iaith Gymraeg? Ateb: Ni fydd unrhyw beth yn newid, felly cofiwch gyfathrebu â ni yn eich iaith ddewisedig. Rydym yn falch o'n treftadaeth Gymreig a'r ffaith ein bod yn buddsoddi yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol, a helpu i hybu economi Cymru. Fe welwch ar dudalen 16, er enghraifft, ein bod yn rhoi £50 miliwn yn ôl i'r economi leol, drwy gyflogi cyflenwyr lleol a rhoi gwaith i bobl leol ar ddatblygiad anghenion cyffredinol mawr sydd wedi ennill gwobrau. Bydd swyddfa Castellnewydd Emlyn yn dal i fod yn sylfaen ranbarthol ar gyfer ein preswylwyr yng ngorllewin Cymru. Gyda chynllun Iaith Gymraeg wedi ei gymeradwyo, rydym wedi mynd ati i gefnogi pob un o'n preswylwyr a’n staff sydd eisiau dysgu Cymraeg neu gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf neu ail iaith. Byddwn yn gwella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg - gallwn ddysgu llawer oddi wrth Tai Cantref.

Cwestiwn: Beth fydd yn digwydd i gylchgrawn Clonc?

Ateb: Roedd Clonc yn gylchgrawn

uchel ei barch gan breswylwyr Tai Cantref. Byddwn yn dod â nodweddion gorau Clonc i InTouch mewn rhifynnau yn y dyfodol ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yng ngorllewin Cymru i sicrhau y bydd ein cylchgrawn o ddiddordeb i’n preswylwyr. Mae gennym erthygl nodwedd am Clonc ar dudalen 11.


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Yr Uno

Cwestiwn: Beth fydd yn digwydd i’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol? Ateb: Mae gan Tai Wales & West gyfrif Twitter - @WWHA - gyda 5,668 o ddilynwyr. Rydym yn gwahodd ein preswylwyr a’n cydweithwyr i’n dilyn ni. Nid oes gan Tai Cantref gyfrif Facebook gan nad oedd llawer o weithgarwch. Nid oes gan Tai Wales & West gyfrif Facebook, gan ddewis yn hytrach ganolbwyntio ar feysydd unigol a galw lleol. Er enghraifft, mae gennym dudalen Facebook lwyddiannus iawn ar gyfer ein Canolfan Adnoddau Cymunedol yn Hightown: www.facebook.com/ hightowncrc, gyda mwy na 600 wedi hoffi’r dudalen, sy'n berffaith i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau yn y ganolfan a chwrdd ag anghenion y gymuned leol.

Cwestiwn: A yw achosion eraill o uno wedi gweithio yng Nghymru? Ateb: Do, yn dda iawn. Trowch at dudalennau 9-10 i weld erthygl nodwedd ar

uno llwyddiannus.

Cwestiwn: Beth ddaw yn y dyfodol? Ateb: Rydym yn fwy na dim ond landlord. Rydym wedi dechrau gweithio gyda'n

gilydd i adeiladu ar y gwasanaethau presennol i ddarparu'r hyn sydd o bwys i breswylwyr, gwella eu bywydau a dod â manteision i gymunedau lleol.

Mae ein cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cynnwys buddsoddi £250 miliwn er mwyn darparu 1,000 o gartrefi newydd. Bydd cynnydd o 50% yn y buddsoddiad mewn cartrefi ar draws gorllewin Cymru yn ymdrin ag atgyweirio o ddydd i ddydd ac adnewyddu, gyda gwasanaethau’n parhau i gael eu gyrru a’u canolbwyntio’n rhanbarthol. Byddwn yn parhau i ddarparu gofal a gwasanaethau cymorth i’n trigolion, yn ogystal â gweithio’n fwy eang gyda byrddau iechyd lleol i ddod o hyd i'r atebion gorau. Byddwn yn cadw ein bys ar y pwls o ran technoleg ac yn cyfathrebu yn y ffordd sydd orau i breswylwyr. Byddwn yn ymgysylltu mwy gyda phreswylwyr i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio i fod yn addas iddyn nhw, gydag ymrwymiad parhaus i'r Gymraeg. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi busnesau lleol a byddwn yn buddsoddi mewn sgiliau a chyfleoedd i staff.


Yr Uno | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Pam uno?

Nid ni yw’r cyntaf o bell ffordd i uno â chymdeithas tai arall. Mae cymdeithasau tai yn wynebu pwysau ariannol enfawr. Yn y 1990au cynnar roedden nhw’n cael hyd at 75% o gyfanswm y datblygiadau tai gan y llywodraeth. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng i ychydig dan 40% ac mae disgwyl iddo ostwng dros y degawd nesaf. Mae'n gwneud synnwyr i uno gan fod cyllid yn gryfach, mae gennym y cyfle i adeiladu mwy o dai fforddiadwy, a gyda'n gilydd, mae gennym fwy o lais i ddylanwadu ar bolisi'r llywodraeth. Byddwn yn caniatáu i gryfderau'r ddau sefydliad ddod at ei gilydd i wasanaethu preswylwyr a datblygu cartrefi a gwasanaethau mawr eu hangen yn y dyfodol. Ochr yn ochr â thwf yng nghyfanswm nifer y cartrefi, datblygwyd strwythur grŵp dros y blynyddoedd diwethaf, ac ehangodd ein darpariaeth gwasanaethau uniongyrchol i gynnal a chadw eiddo, arlwyo, gofal a chymorth, gyda’r ehangu hwn yn debygol o barhau dros y pum mlynedd nesaf. Wrth wraidd hyn, ein cryfder mwyaf fel busnes yw ein pobl. Mae'r staff yn ymroddedig ac yn alluog, yn gweithio gyda'i gilydd i 'wneud y peth iawn' ar gyfer ein cwsmeriaid ac i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, o ddydd i ddydd fesul cysylltiad. Mae'r diwylliant cryf a chadarnhaol i’w weld yn ddisglair yn y gydnabyddiaeth a gawsom yng ngwobrau Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, lle rydym yn y safle cyntaf yng Nghymru a'r ail yn y Deyrnas Unedig, ar ôl ymddangos yn y deg uchaf am y pum mlynedd diwethaf. Rydyn ni’n well gyda’n gilydd. Dros y dudalen gwelir dwy enghraifft o gymdeithasau tai eraill Cymru sydd wedi uno’n llwyddiannus.


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Yr Uno

Yn fwyaf diweddar, ffurfiwyd Grŵp Pobl drwy uno Grŵp Seren a Grŵp Gwalia ar 1 Ebrill 2016, sy’n rheoli cyfanswm o 16,000 o gartrefi. Cadwodd y ddau grŵp eu brandiau is-gwmni Gofal a Chymorth Gwalia, Charter, Solas, Derwen a Thai Gwalia, sy’n eistedd dan ymbarél Pobl. Mae Tai Gwalia, Charter a Derwen yn darparu tai cymdeithasol ar gyfer preswylwyr anghenion cyffredinol, pobl dros 50 oed a’r rhai sy’n agored i niwed, yn ddigartref neu sydd angen cymorth i reoli tenantiaeth.

Rhagor o fuddsoddiad Mae cronni cyllid y ddau grŵp wedi cryfhau eu sefyllfa i allu buddsoddi mewn rhagor o gartrefi a gwasanaethau newydd. Mae creu grŵp mwy o faint yn helpu i fynd i’r afael ag effaith diwygio lles ar breswylwyr a gall arwain at gynnydd yn y buddsoddiad mewn gwasanaethau. Mae Uno yn helpu i gynyddu cyfradd credyd y cwmni fel y gall gael benthyciadau rhatach. Gofal a Chymorth Gwalia, Charter a Solas yw isadrannau gofal cymdeithasol y sefydliad, sy’n darparu gofal cartref i oedolion, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Roedd gan Seren brofiad cyfyngedig o gyflwyno gofal cymdeithasol i oedolion ond yn dilyn yr uno mae’r ddau grŵp wedi defnyddio cryfderau ei gilydd, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.

Ym mis Ebrill 2014 unodd Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri i ffurfio Grŵp Cynefin, yr unig gymdeithas tai i weithredu ar draws pob un o’r chwe sir yng ngogledd Cymru, yn ogystal â gogledd Powys. Rhyngddynt, roedd gan y ddwy gymdeithas tai dros 70 mlynedd o brofiad o sefydlu cartrefi cyfforddus i bobl ar draws gogledd Cymru. Yr arbenigedd honno sydd wedi helpu Grŵp Cynefin i barhau â’i etifeddiaeth o chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cymunedau ar draws y rhanbarth.

Cymdeithas gryfach Mae Grŵp Cynefin wedi parhau i weinyddu ei brosiectau cymunedol a mentrau cymdeithasol presennol. Dywedodd Annie Jones, un o breswylwyr Grŵp Cynefin sy’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala, ar adeg yr uno: “Rwy’n credu fod ffurfio Grŵp Cynefin yn gam cadarnhaol iawn - bydd yr uno yn gwneud y gymdeithas yn gryfach ar gyfer y dyfodol ac yn parhau â’r gwasanaeth gwych rydym wedi ei gael gan Tai Clwyd yn flaenorol.” Dywedodd Walis George, y Prif Weithredwr: “Drwy uno, rydym yn werth mwy nag yr ydym ar wahân, ac mae gweithio gyda’n gilydd yn ein galluogi ni i atgyfnerthu ein gallu i ddarparu gwasanaethau cwbl ddwyieithog o ansawdd uchel i’n tenantiaid a chwsmeriaid eraill.”


Yr Uno | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Clonc

2016/1

North Team 0333 700 1023 South Team 0333 700 1024 www.cantref.co.uk post@cantref.co.uk Out of hours telephone number is 01239 712 000 on weekends and evenings after 5.00pm

Welcome to our first edition of Clonc for 2016 Message from the Chair on behalf of Cantref’s Board of Management: This is a note to let you know that Lynne Sacale, Chief Executive, has left the employment of Cymdeithas Tai Cantref. On behalf of all of us, I would like to take the opportunity to thank Lynne for all her hard work during her time with us and wish her every success in her future endeavours. Kevin Taylor – Chair

Our priorities for 2016/17 will appear in the next edition of Clonc.

Interim Strategic Director Welcome to Hilary Jones, Chief Executive, Bro Myrddin, who has come to Cantref as part-time Interim Strategic Director.

Director of Housing & Community Services We also announce the departure of Jamie Saunders, Director of Housing & Community Services, who has left us for pastures new but are pleased to announce that Jonathan Morgan has joined us on secondment from Carmarthenshire County Council for 6 months. Welcome Jonathan.

Save The Date! This year’s Annual General Meeting will be held on Thursday, 28th July, 2016, venue to be confirmed. Keep an eye out for your invitation which will be arriving end of June.

Cantref’s Winning Decoration Thank you very much to Ysgol Beulah, Ysgol Cenarth, Ysgol Coed-y-Bryn, Ysgol y Ddwylan and Ysgol Trewen for taking part in last year’s Christmas Tree Decorations competition. Numerous entries were received and, whilst it was a difficult decision, the winning decoration was a Snowman made by Cerian Thomas (Year 2) from Ysgol Coed-y-Bryn, who received a £10 voucher to spend at Siop Iago in Newcastle Emlyn and the winning school was Ysgol Trewen who received a £10 voucher from Trefhedyn Garden Centre, Newcastle Emlyn.

CLONC 1__Saesneg_2016.indd 1

08/03/2016 16:03

Hanes Clonc Cantref Dyma gipolwg ar hanes Clonc, cylchlythyr preswylwyr Tai Cantref i weld sut yr esblygodd.

Er mwyn cryfhau’r cyswllt rhwng Cantref a’i breswylwyr, cynhyrchwyd y cylchlythyr cyntaf un, Newyddion Cantref, yng ngwanwyn 1999 i ddarparu gwybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd o fewn Cantref a ledled y sector tai yng Nghymru yn gyffredinol. Nod Cantref oedd i breswylwyr ystyried y cylchlythyr fel rhywbeth a oedd yn perthyn iddyn nhw, a chroesawyd awgrymiadau a sylwadau am erthyglau a gwybodaeth. Cafodd y rhifyn cyntaf ei gynhyrchu’n ddwyieithog a pharhaodd hyn tan y rhifyn olaf ym Mehefin 2016. Yn 2006/2007, ailenwyd y cylchlythyr yn Clonc Cantref ac arhosodd fel cylchlythyr dwy dudalen. Yn dilyn ail-frandio yn 2009 newidiodd Clonc Cantref yn llawlyfr 28 tudalen yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, awgrymiadau a chyngor, cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau a llwyddiannau o bob rhan o’r stadau a’r cynlluniau lloches.

Yn y llun uchod: Mr a Mrs Marks o Barc yr Efail, Felindre Farchog, a ymddangosodd yn rhifyn cyntaf erioed Clonc ac sy’n dal yn breswylwyr gyda ni heddiw


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Yr Uno

Yn 2014, nodwyd mewn arolwg preswylwyr a grŵp ffocws fod:

90%

yn fodlon ag ansawdd, cynnwys a chynllun y cyhoeddiad

74%

o’r ymatebwyr yn gweld Clonc yn ddefnyddiol

30%

wedi mynegi diddordeb mewn awgrymiadau (i leihau tlodi tanwydd yn ystod misoedd y gaeaf) cynghorion garddio a ryseitiau, a chynhwyswyd y cyfan o ganlyniad.

Daeth y grŵp ffocws i’r canlyniad: “Mae Clonc yn gyfrwng pwysig i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau, cymorth a digwyddiadau. Yn ogystal, mae tenantiaid yn gwerthfawrogi gwybodaeth mewn perthynas â llwyddiannau ar stadau i alluogi tenantiaid i efelychu’r arferion a rhannu gwelliannau ar eu stadau eu hunain.” Bydd Clonc Cantref yn awr yn cael ei gyfuno ag InTouch a byddwn yn parhau i wrando a darparu cyhoeddiad sy’n llawn gwybodaeth i’r holl breswylwyr.

"Tawelwch meddwl" Chris Baddock, un o’n preswylwyr yng ngorllewin Cymru, sy’n dweud wrthym sut mae hi bellach wedi ei chalonogi gan yr uno. Mae hi’n edrych ymlaen at gyfarfod staff Tai Wales & West. “Roeddwn ychydig yn ofnus cyn yr uno gan nad oeddwn wedi clywed am Tai Wales & West. “Rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran y rhan fwyaf o breswylwyr wrth ddweud ein bod yn dawelach ein meddwl o wybod ein bod yn cadw’r un staff sy’n cydnabod ac yn deall ein hanghenion.”


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Enwebwch yn awr

Rydym wedi symud ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth; byddant yn awr yn cael eu cynnal yn Stadiwm SSE Swalec, Caerdydd, ddydd Gwener 3 Mawrth 2017, ac mae gennych fwy o amser i enwebu eich arwyr gan fod y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau wedi ei ymestyn i ddiwedd Tachwedd. Yn ddi-os, mae llawer iawn o arwyr di-glod ym mhob un o’n cymunedau sydd mor deilwng o gydnabyddiaeth o’r fath - ac mae angen i chi ddweud wrthym ni amdanyn nhw! Mae’n hawdd enwebu – siaradwch gyda’ch swyddog tai, neu cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar y rhif Rhadffôn 0800 052 2526 ac fe wnân nhw nodyn o’r manylion. Bydd yr enwebiadau’n cau ddiwedd Tachwedd.

Dyma nodyn i’ch atgoffa am y categorïau: • Camau at Lwyddiant (Newydd ar gyfer 2016) Gall mynd yn ôl i waith, addysg a hyfforddiant fod yn gam mawr i’w gymryd, felly mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion ymroddedig sydd wedi dechrau ar eu taith at lwyddiant. • Cymydog da

• Dechrau o’r newydd Gall bywyd fod yn llawn o gyfnodau da a drwg, felly mae’r wobr hon yn cydnabod y bobl ddewr hynny sydd wedi dod drwy gyfnod anodd ac throi pethau o gwmpas er gwell.

• Seren Ddisglair

Mae’r categori hwn yn dathlu caredigrwydd y bobl arbennig hynny y mae eu gweithredoedd bach o ddydd i ddydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eu cymdogion.

Yn arbennig ar gyfer y rhai 25 dan oed, mae Gwobr y Seren Ddisglair yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, neu i’w cymuned.

• Garddwyr gorau (Newydd ar gyfer 2016)

• Arwr Lleol

Mae’r categori hwn yn cydnabod preswylwyr sy’n dda yn yr ardd ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hamgylchedd, drwy dyfu arddangosfeydd blodau hyfryd, ailgylchu ac ailddefnyddio nwyddau yn yr ardd, neu gynhyrchu ffrwythau a llysiau er mwyn i eraill eu mwynhau.

Mae ein harwyr lleol yn ymdrechu i wneud eu cymuned yn lle gwell neu helpu eraill llai ffodus na nhw eu hunain. • Prosiect Cymunedol Mae’r categori hwn yn ymwneud â’r unigolion a’r grwpiau hynny sydd wedi dechrau rhywbeth arbennig yn eu cymuned er lles y rhai sy’n byw yno.


14 | www.wwha.co.uk | intouch |Datblygiadau diweddaraf

Cartrefi Rhiwabon yn creu argraff Roedd Ken Skates AC wedi ei blesio’n fawr pan ymwelodd â datblygiad tai fforddiadwy gwobredig Tai Wales & West sy’n werth £1.9 miliwn yn Rhiwabon.

Yn y llun: Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey gyda Ken Skates AC yn siarad gyda James Cope, un o’r preswylwyr, ynghyd â Veronica Gregory and Kimberly Caruana, Cyngor Wrecsam; Gareth Jarvis a Craig Sparrow WWH; Steve Lloyd, RL Davies; Claire Jones a Vaughan Williams WWH; Ken Skates AC.

Cafodd Brynfields a Fron Goch, gerllaw’r Stryd Fawr yn Rhiwabon, Wobr Rhagoriaeth Adeiladu Tai Cymdeithasol/ Fforddiadwy Gorau 2016 LABC yn sir Wrecsam. Cyfarfu Ken Skates â phreswylwyr sydd wedi symud yno’n ddiweddar a chafodd daith o gwmpas yr 19 o gartrefi fforddiadwy sydd yn y cynllun. Dywedodd: “Roeddwn yn falch o gyfarfod y preswylwyr sydd wedi symud i’r

datblygiad atyniadol hwn yn ddiweddar a chlywed y gwahaniaeth cadarnhaol y mae wedi ei wneud i’w bywydau.” Mae James Cope, sy’n 33 oed, wrth ei fodd gyda’i gartref newydd, sydd wedi galluogi iddo fod yn fwy annibynnol. “Diolch i amynedd Tai Wales & West a’u datblygwyr RL Davies, mae fy anghenion penodol iawn wedi cael eu cydnabod ac mae fy mreuddwyd yn realiti o’r diwedd.”

“Rydyn ni wrth ein bodd â’n cartref newydd” Mae cwpl a arhosodd 18 mlynedd i symud i gartref newydd wedi canmol cartref eu breuddwydion lle maen nhw nawr yn byw yn Mancot, Sir y Fflint, sy’n rhan o ddatblygiad gwerth £800,000 a adeiladwyd gan Anwyl Construction. Mae Sidney Card a Donna Bellis newydd symud i safle newydd Ash Lane yng nghanol pentref Mancot ac ni allen nhw fod yn hapusach.

Meddai Sidney: “Roeddem yn byw mewn hen eiddo ar stad Penarlâg ac roedden ni wedi bod yn chwilio am gyfle i symud am 18 mlynedd gan ei bod yn anodd iawn i ni ymdopi yno. Rydym yn falch iawn gyda hyn ac ni allem ofyn am ddim byd gwell. Mae’n ddelfrydol ac rydyn ni’n falch iawn”


Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Croesawu cartrefi newydd

Roedd Kirsty Williams AC wedi ei phlesio gyda’r ffordd mae Tai Wales & West (WWH) wedi ailddatblygu hen Ysbyty Bwthyn Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys i gwrdd â’r angen am ragor o dai fforddiadwy ym Mrycheiniog a Maesyfed. Dywedodd: “Mae Ysbyty View yn enghraifft o sut gall cymdeithas tai ddiwallu anghenion cymuned. Roedd yn bleser clywed pobl leol yn dweud faint maen nhw wedi elwa.” Wedi ei ailddatblygu’n sylweddol yn yr 20fed ganrif gan y GIG, datgomisiynwyd Ysbyty Bwthyn Llanfair-ym-Muallt gan y GIG ym mis Ionawr 2013. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Chymdeithas Treftadaeth Llanfair-ym-Muallt, talodd WWH a Hale Construction wrogaeth i’r hen Ysbyty Bwthyn, a adeiladwyd yn

wreiddiol ym 1896, drwy adlewyrchu pensaernïaeth Fictoraidd yn y datblygiad newydd sydd ag 17 cartref. Symudodd Ellie White a’i phartner Connor Morgan i gartref dwy ystafell wely gyda’u merch Scarlett, sy’n 1 oed, ar ôl cael trafferth i ddod o hyd i dai cymdeithasol yn yr ardal. Dywedodd: “Roeddwn ar ben fy nigon pan ofynnwyd i mi a oedd gennyf ddiddordeb mewn cartref newydd sbon; cytunais ar unwaith. Mae’r tŷ yn hyfryd, ac o faint perffaith i ni, gyda gardd hyfryd hefyd. Rydym yn setlo’n dda iawn yma.”


16 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Wrecsam ar y blaen

Mae ein datblygiad newydd sy’n werth £17.9 miliwn yn Hightown a Rivulet Road yn Wrecsam mewn cystadlaethau am ddwy yn rhagor o wobrau adeiladu cenedlaethol mawr. Mae ein cynllun poblogaidd wedi cael ei gydnabod yn barod fel y Cynllun Tai Fforddiadwy Newydd Gorau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Tai eleni, a’r Fenter Gymunedol Orau yng ngwobrau Adeiladwyr Tai’r DU. Erbyn hyn cafodd le ar restr Gwobr Cynllun Tai Fforddiadwy Gorau’r Flwyddyn gan 24Housing a Gwobrau Datblygu 60 Gorau Inside Housing. Adeiladodd Anwyl Construction y 147 o gartrefi newydd gan gynnwys bloc pum llawr o 20 o fflatiau, a chanolfan adnoddau cymunedol newydd a chyfleuster meddygol ar ddau safle yn Kingsmills Road a Rivulet Road yn y dref. Rydym yn arbennig o falch fod 80% o gyfanswm y gweithlu yn byw o fewn 10 milltir o Wrecsam, ac fe wnaethom ddefnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol, gan roi hwb gwerth £50 miliwn i economi Wrecsam. Mae’r gymuned hefyd wedi croesawu Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, sydd â grŵp Cyfeillion er mwyn i breswylwyr

gael llais yn eu canolfan, ac sydd wedi bod yn boblogaidd gydag unigolion a theuluoedd. (Mae mwy na 6000 wedi hoffi eu tudalen Facebook www.facebook.com/hightowncrc). Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Roedd Wrecsam angen rhagor o dai fforddiadwy o safon ac mae ein preswylwyr wedi ymgartrefu’n dda yno. Y mae hefyd yn newyddion gwych i’n partneriaid, ac rydym wedi datblygu perthynas ardderchog gyda nhw.” Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rwy’n gobeithio y bydd adeiladwyr a chymdeithasau tai yn edrych ar yr hyn sydd wedi ei greu yma ac yn ei ddefnyddio fel eu model i gyflawni tai fforddiadwy ardderchog y mae pobl yn Wrecsam yn eu haeddu.”Bydd enillwyr y wobr yn y ddwy gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref.


Newyddion a gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Gardd yn ei blodau yn yr Wyddgrug

Roedd preswylwyr cynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine yn yr Wyddgrug ar ben eu digon pan ddyluniodd tîm o fyfyrwyr garddwriaethol ardd ar gyfer eu hiard, ac aeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ati i’w datblygu. Cysylltodd Tai Wales & West â Choleg Cambria Llaneurgain i ofyn i’w myfyrwyr feddwl am ddyluniadau newydd ar gyfer yr iard. Roedd Joanne Matheson o Laneurgain, Lesley Haag o Bentre Helygain a Carol Jones o Langollen wrth eu bodd yn clywed mai ei tîm nhw oedd yn fuddugol. Dywedodd Joanne: “Mae’n wych gweld yr ardd orffenedig yn cael ei defnyddio.”

Defaid Offa

Dywedodd Nicolette Evans, sy’n Ddarlithydd Garddwriaeth: “Nid ymarfer academaidd oedd hwn ond prosiect yn y ‘byd go iawn’ o fewn disgyblaeth amserlenni a chyllidebau go iawn.” Dywedodd Chris Davies, un o’r preswylwyr: “Rydym ar ben ein digon gyda’n gardd newydd ac eisiau diolch i’r coleg yn ogystal â Tai Wales & West. Mae’r gwelyau plannu wedi eu codi yn neilltuol yn ei gwneud yn haws i ni ymdopi a mwynhau.”

Cymerodd tair ysgol leol ran mewn Cystadleuaeth Defaid Offa i ddylunio dafad fel rhan o ‘lwybr defaid’ Wrecsam. Cymerodd Ysgol Clywedog, Ysgol Gynradd San Silyn ac Ysgol Sant Christopher ran, a’r dyluniad buddugol oedd un Cerys Owen o Ysgol Clywedog am ei dafad o’r enw ‘Anwen’. Mae’r ddafad yn eistedd yn hapus yn ei lle yn Barracksfield. Mae ugain o ddefaid addurniadol wedi cael eu gosod ar draws Wrecsam wrth i fusnesau sefydlu partneriaeth gyda Phartneriaeth Cyrchfan Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Oriel Wrecsam i noddi a dylunio eu modelau eu hunain o ddefaid.


18 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Gerddi gogoneddus Mae preswylwyr medrus yn yr ardd wedi bod yn brysur yr haf hwn gyda gwirfoddolwyr Gardd Gymunedol Llaneirwg i greu canolbwynt cymunedol, gyda phreswylwyr Cwrt Anghorfa yn dod â thema ddwyreiniol i’w gardd. Yn Llaneirwg bedair blynedd yn ôl, dim ond pum gwirfoddolwr a llain lysiau oedd gan Ganolfan Arddio Blooms. Yn awr, gyda chefnogaeth staff o Tai Wales & West, mae’r llain wedi ffynnu’n ganolbwynt cymunedol clos. Cafodd Glenys Vandervolk brofiad emosiynol iawn mewn digwyddiad i ddiolch i bob un o’r aelodau am wneud i’r ardd flodeuo mor hyfryd i’r gymuned leol. Dywedodd: “Weithiau, pan fydd Gill a minnau yn eistedd yma, mae hi mor dawel fel na fyddech chi’n credu ein bod ni wedi ein hamgylchynu gan dai.” Dywedodd Jill a Kevin Hobbs-Griffiths eu bod wrth eu bodd yn gallu cymdeithasu. Dywedodd Jill: “Mae’r gymuned mor gefnogol. Rydym yn cael rhoddion gan bobl wahanol, o baledi heb eu defnyddio i hen botiau. Fyddwn ni byth yn gwrthod eitemau.”

Thema Japaneaidd Yn y cyfamser, mae pont addurniadol wedi dod â naws y dwyrain pell i Gwrt Anghorfa. Lluniodd Andrew Lester, y Swyddog Rheoli Asedau, gynlluniau ar gyfer pont mewn arddull Japaneaidd ar raddfa lai, ac ar ôl siarad â nifer o gontractwyr lleol Cysylltodd â Janet Wallsgrove,

Cyfarwyddwr Carchar y Parc. Meddai Andrew: “Roedd hi’n hapus iawn i helpu a threfnodd i’r adran diwydiannau gysylltu â mi, a gytunodd i adeiladu’r bont ar ein rhan. Y mae bellach wedi cael ei gorffen ac wedi ei gosod yn yr ardd, ac mae’r preswylwyr wrth ein boddau. Mae ansawdd y gwaith yn wych. “Roedd staff y carchar yn wych drwy’r cyfan, gan roi gwybod i ni beth oedd yn digwydd, a bu’r holl brofiad yn gadarnhaol iawn.” Bu Neil Springall, hyfforddwr yng Ngharchar y Parc, yn adeiladu’r bont dros gyfnod o sawl wythnos gyda chymorth garcharor. Dywedodd: “Roedd yn eithaf heriol, gyda llawer o onglau anodd yn y gwaith adeiladu. Ond rydym yn falch gyda’r canlyniad terfynol.”


Newyddion a gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Uchod: Y bont addurniadol Japaneaidd newydd yng Nghwrt Anghorfa

Cynghorion garddio’r hydref

Yn draddodiadol, hydref yw’r amser i dacluso’r ardd. Mae eleni wedi bod yn dymor tyfu arbennig o hir a nawr yw’r amser perffaith i ddod â’r holl dwf newydd dan rywfaint o reolaeth.

• Tociwch y gwrychoedd i gadw

tyfiant dan reolaeth ac i’w hannog nhw i dewhau. Gadewch unrhyw frigau sydd ag aeron arnyn nhw tan yn ddiweddarach fel bod adar yn cael bwydo arnyn nhw.

• Dechreuwch gynllunio ymlaen llaw ar gyfer rhywfaint o liw yn y gwanwyn drwy blannu bylbiau fel cennin Pedr, crocysau ac eirlysiau. • Wrth i’r dail ddisgyn oddi ar y coed, rhaciwch nhw oddi ar y lawntiau. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd gennych ddarnau lle mae’r glaswellt wedi cael ei fygu ac wedi marw, a bydd yn cymryd y rhan fwyaf o’r haf i dyfu’n ôl. Mae’r dail hyn yn werthfawr fel ffynhonnell o faeth ar gyfer planhigion eraill. Casglwch nhw, eu rhoi mewn bagiau bin plastig, clymu’r topiau a gadael

iddyn nhw bydru i ‘ddeilbridd’. Gall hwn gael ei ledaenu fel tomwellt o gwmpas planhigion a llwyni yn y gwanwyn. • Os oes gennych chi rosod sy’n dringo ac ymledu, mae hwn yn amser da i’w tocio a chlymu unrhyw goesynnau newydd y byddech yn hoffi eu cadw. I atal clefydau ymhlith rhosod, cliriwch y dail sy’n disgyn. Wrth i’r tywydd droi’n oerach a gwlypach, bydd eich gardd yn cael ei ddefnyddio’n llai aml yn ôl pob tebyg. Yn ogystal â thacluso’r planhigion, peidiwch ag anghofio clirio mathau eraill o annibendod hefyd e.e, hen beli fflat, tuniau paent gwag, a theganau gardd sydd wedi torri.


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Drysau agored yn Christchurch Court Agorodd Christchurch Court yn Llandrindod ei ddrysau i’r cyhoedd yn gynharach yn y mis - nid dim ond i ddangos eu dodrefn gardd newydd, ond gan eu bod nhw hefyd yn awyddus i ddangos manteision byw’n annibynnol i eraill.

Galwodd asiantaethau’r sector gwirfoddol a chyhoeddus, gan gynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (yn y llun) i weld drostyn nhw eu hunain pam mae preswylwyr yn symud i’r cynllun er ymddeol a pham maen nhw’n aros yno. Roedd modd i’r ymwelwyr dorheulo yn heulwen yr haf gyda phreswylwyr yn yr ardd cyn mwynhau paned a chacen gartref yn y lolfa gymunol. Roedd y preswylwyr wrth eu bodd hefyd gyda’u dodrefn gardd newydd, a roddwyd iddyn nhw gan Tai Wales & West.

Siaradodd Staff â phreswylwyr yn gynharach yn y flwyddyn am yr hyn maen nhw ei angen yn y cynllun. Roedd modd i Ali Chaplin, y Swyddog Datblygu Cymunedol, a Sarah Wilcox, y Cynorthwyydd Amgylcheddol, sicrhau bron i £600 o grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd i brynu tair set o ddodrefn yn arddull ‘Jack a Jill’. Dywedodd Sarah: “Mae’r ardd, er ei bod yn glyd, yn cael llawer o heulwen ac yn lle delfrydol i breswylwyr gwrdd a sgwrsio. Nawr bod ganddyn nhw’r dodrefn hyn, mae preswylwyr sy’n dymuno gwneud hynny yn gallu mwynhau’r ardd yn gyfforddus.”


Adroddiad Chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 21

Adroddiad chwarterol:

yr wybodaeth ddiweddaraf i chi Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar lwyddiant ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr. Mae’r chwe graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf. Mae gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw: • Atgyweirio fy nghartref • Fy helpu i dalu • Rydw i eisiau cartref • Ymddygiad gwrthgymdeithasol • Rhagor o gartrefi • Sut rydym yn rhedeg ein busnes Felly, gallwch wybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio pethau.

Wyddech chi…? Rydyn ni eisiau i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan.

Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bost contactus@wwha.co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Mae hyn yn cynnwys ein Graffigau gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru. I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan - www.wwha.co.uk - a chlicio ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar y dde.


Atgyweirio fy nghartref Perfformiad

7399 o atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn ystod y chwarter hwn

Bodlonrwydd

9.4 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth atgyweirio

% 66%

0-5 diwrnod

days

Management

6-10 diwrnod 11-15 diwrnod 16+ diwrnod

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau ar ein hymweliad cyntaf

Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerom i gwblhau atgyweiriad

Adborth gan breswylwyr

Cwynion

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Ansawdd y gwaith | Gweithwyr cwrtais a chyfeillgar | Bod atgyweiriadau’n llwyddo

Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Atgyweiriadau’n cael eu cwblhau’n gyflymach | Cadw at apwyntiadau’n well | Rhagor o sylw i fanylder mewn rhai atgyweiriadau

Fe ddywedoch wrthym eich bod chi eisiau i atgyweiriadau gael eu gwneud yn gyflymach a’ch bod chi eisiau rhagor o sylw i fanylder mewn rhai atgyweiriadau. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddatrys y materion hynny yn ystod y misoedd diwethaf, drwy edrych ar sut rydym yn trefnu llwyth gwaith a hefyd sut rydym yn gwneud yn siŵr, lle bo modd, mai’r un gweithiwr sy’n gyfrifol am y dasg nes bydd hi wedi ei chwblhau. Ar yr un pryd, roeddem yn awyddus i wneud yn siŵr nad oeddem yn colli’r gwelliannau a wnaethom mewn meysydd eraill fel ei gwneud

7

o gwynion o’r

7399

o atgyweiriadau a gwblhawyd

Sydd tua un gŵyn am bob 1060 o atgyweiriadau a gwblhawyd

yn haws i roi gwybod am atgyweiriadau oedd eu hangen a chadw at apwyntiadau. Yn ystod misoedd y gwanwyn rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y meysydd hyn ac mae’r gwaith hwn wedi parhau yn ystod yr haf. Mae’r hyblygrwydd yn amserlen waith gweithwyr, a gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr wybodaeth gywir gennych chi pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am eich atgyweiriad, wedi ein helpu ni o ddifrif i gwblhau gwaith yn gynt a heb fawr o darfu.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


Fy helpu i dalu Perfformiad

1400 o denantiaethau ddim mewn trefniant i dalu eu hôl-ddyledion

Fe wnaethom helpu preswylwyr i: Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol Cynllunio ar gyfer y Cap ar Fudddaliadau Gwrthdroi penderfyniadau i roi terfyn ar daliadau budd-dal

84% o denantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu eu hôl-ddyledion

Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent

Preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Cwynion

3500

Preswylwyr

Cymorth

TAIR

TENANTIAETH

3000

0

2500 2000 1500 1000

Cwyn

500 0

Jan Ion

Feb Chwe

Mar Maw

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu, gyda thaliadau yn cael eu50tynnu o’ch cyfrif banc ar ddyddiad sefydlog yn wythnosol neu’n fisol 40 30 sydd fwyaf addas i chi, felly nid oes 20 rhaid i chi boeni!

o’r

1400

o denantiaethau ag ôl-ddyledion

10 0

Jan

Fe wnaethoch chi ddweud wrthym fod deall eich amgylchiadau i ddarparu’r cymorth cywir ar yr amser cywir yn bwysig i chi. Mae ein Swyddogion Tai yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw o ran cynnal cynllun talu. Gall hyn gynnwys plant yn dechrau ysgol; patrymau gwaith sy’n newid; neu salwch. Mae cael gwybod am y pwysau posibl hyn yn ein helpu ni, i’ch helpu chi, i gynllunio ar gyfer y sefyllfaoedd y gellid eu disgwyl, a’r rhai annisgwyl. Mae’r gallu i wneud taliadau yn hawdd, ac ar adeg sy’n gyfleus i chi, yn bwysig hefyd. Rydym yn parhau i helpu pobl i sefydlu

Feb

Mar

Debydau Uniongyrchol i weddu i’w hamgylchiadau, pa un ai’n wythnosol, bob pythefnos neu bob mis, ac ar ddyddiad sy’n gyfleus iddyn nhw. Rydym wedi canfod bod Debyd Uniongyrchol hefyd yn helpu pobl i gynnal eu cynllun talu, gyda 90% o’r bobl ar hyn o bryd yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol i gynnal eu cynllun. Rydym hefyd yn cydnabod y newidiadau a allai gael effaith ar ein preswylwyr. Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i nifer o breswylwyr sy’n symud at y Credyd Cynhwysol, yn ychwanegol at y rhai sy’n cael eu heffeithio arnyn nhw gan y newidiadau i’r Cap ar Fudd-daliadau.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


Rydw i eisiau cartref Perfformiad Anghenion cyffredinol

Gofal Ychwanegol

50 40

days

202

Ymddeol

30

10

50 40 30

Nifer y cartrefi rydym wedi eu gosod yn ystod chwarter 2

65%

o’r amser, mae’r cartref yn addas ar gyfer yr unigolyn Ar gyfartaledd mae’n cymryd 36 cyntaf sy’n mynd i’w diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo weld preswylwyr i sefydlu cartref 20

0

20 10 0

Bodlonrwydd

9.3 allan o

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth wrth ddod o hyd i gartref iddyn nhw

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Yr help a’r gefnogaeth a roddir | Nodweddion eu cartref | Lleoliad eu cartref Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Atgyweiriadau wedi eu cwblhau’n gyflymach | Eiddo glanach | Ychydig bach mwy o amser i symud

Fe wnaethom gynnal 198 o arolygon gyda phreswylwyr newydd yn ystod y chwarter i’n helpu i ddeall yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw wrth symud i’w cartref newydd. Dywedoch wrthym fod eglurder ynghylch pa waith atgyweirio a oedd i’w wneud, a phryd byddai hynny’n digwydd, yn bwysig. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal prosiect peilot a fydd yn ein helpu ni i wella’r ffordd rydym yn rheoli ein heiddo gwag. Bydd hyn yn ein galluogi ni i sicrhau y bydd yr wybodaeth gywir am unrhyw waith atgyweirio yn yr eiddo ar gael i chi pan fyddwch yn symud i mewn. Dywedoch wrthym hefyd fod y math o eiddo a’i leoliad

Cwynion

0

cwyn o’r

202

o gartrefi a osodwyd

yn bwysig iawn i chi wrth symud i gartref newydd. Ein nod yw cwrdd â phob ymgeisydd ymhell cyn cychwyn posibl y denantiaeth newydd er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr hyn sydd ei angen i wneud eich cartref newydd yn berffaith i chi. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i’r ddwy ochr ddarganfod pa help, os o gwbl, fydd ei angen o bosibl i chi ymsefydlu mewn cartref newydd. Rydym hefyd wedi gweld ei bod yn bwysig eich bod chi’n cael digon o amser i wneud penderfyniad am yr eiddo newydd. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol i wneud y broses enwebu mor gyflym ac mor llyfn â phosibl i roi amser i chi- ac i ni- wneud penderfyniad gwybodus, ac nid ar frys, ynghylch symud.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


@!

$%&

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

$%&

@!

Perfformiad

51

SŴN

65

YMDDYGIAD BYGYTHIOL DELIO Â CHYFFURIAU

o achosion ymddygiad o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwrthgymdeithasol wedi eu hagor neu eu hailagor eu datrys gennym

Bodlonrwydd

8.6 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y cymorth a gawson nhw gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Siarad gyda’r unigolyn priodol i drafod eu mater ymddygiad gwrthgymdeithasol | Ein bod yn ystyried amgylchiadau personol | Yr ymateb cyflym

Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Rhagor o weithredu i ddatrys achosion | Rhagor o ddiweddariadau ar yr achos

Rydych wedi dweud wrthym fod siarad â’r unigolyn cywir yn bwysig iawn i chi. Mae’r arolygon rydym wedi eu cynnal yn ystod y chwarter hwn wedi dweud wrthym fod preswylwyr yn teimlo mai dyma sy’n digwydd pan fyddan nhw’n siarad gyda’u Swyddog Tai, a byddwn yn sicrhau bod hyn yn parhau. Mae’n bwysig i ni fod preswylwyr yn teimlo ein bod yn darparu’r cymorth a’r cyngor iawn wrth fynd i’r afael â phroblemau yn eu cymuned. Rydych wedi dweud wrthym

Cwynion

1

gŵyn allan o

51

achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol y cawsom wybod amdanyn nhw

eich bod yn fwyfwy bodlon â’r cyngor a ddarparwn, ond y byddech yn hoffi gweld rhagor o ddiweddariadau am waith parhaus, a rhagor o wybodaeth am yr hyn y gellir ei wneud i ddatrys achosion. Rydym yn cynnal adolygiad o’r modd y darperir y gwasanaeth ac rydym yn defnyddio’r sylwadau a’r adborth a dderbyniwyd gennych chi i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth a ddarparwn.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


Rhagor o gartrefi

Cwblhawyd

2016

382

2015

2014

Perfformiad

Nifer y cartrefi roeddem yn eu hadeiladu yn chwarter 2

Bodlonrwydd

8.5 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni wrth ddisgrifio eu cartref newydd

Fe wnaethom gwblhau 44 o gartrefi newydd

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Bod yn agos at y siopau | Maint y fflatiau | Dyluniad modern Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn gwella Dyluniadau cypyrddau ceginau | Problemau gyda signal teledu | diffygion gyda’r drws cymunol

Drwy wrando ar eich adborth rydym yn gweithio gyda’n dylunwyr ceginau i greu cynlluniau sy’n darparu cypyrddau hygyrch yn enwedig unedau wal mewn corneli lle dywedoch wrthym ei bod yn anodd gwneud defnydd da ohonyn nhw. Rydym hefyd yn gweithio gyda’n cyflenwyr mynediad drwy ddrysau er mwyn deall beth yw’r problemau sydd wedi bod a lle gallwn wella problemau sy’n gysylltiedig â drysau cymunol. Bydd signalau teledu yn parhau i gael eu monitro er mwyn deall lle mae

Cwynion

0

cwyn

Q1

38

o gartrefi newydd a gwblhawyd

problemau’n bodoli a’r hyn y mae angen ei wneud i wella’r sefyllfa. Mae eich adborth o’r arolygon boddhad yn rhan bwysig o ddweud wrthym lle mae angen i ni roi sylw, naill ai i’r cynllun neu i’r ffordd y mae eich cartrefi yn cael eu hadeiladu er mwyn gwella’r cartrefi rydyn ni’n eu darparu.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


Sut rydym yn rhedeg ein busnes Perfformiad Pob galwad arall

Galwadau ynghylch atgyweiriadau 4

10yb

33 Munudau

28,445

22

Nifer y galwadau a atebwyd gennym yn ystod y chwarter hwn

4 3 2 1 0

500 500

Mai

Meh

Ein cyfnodau prysuraf o ran galwadau

300 200 100 0

Gwerth am arian

Cwynion

£ wedi ei wario fesul cartref

Q2 2014 Q3 2014 Q4 2014 Q1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015 Q1 2016

12

400 400

300 Q1 2016 300 4 2014 Q1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015

Q1 2016

Datblygiadau newydd Pobl Cynnal a chadw Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar newydd Llog ar fenthyciadau Atgyweiriadau mawr Gorbenion Ad-dalu benthyciadau

9yb

11yb Ebr

500 Hyd cyfartalog yr amser a gymerom i ateb eich galwadau 400

Arian a wariwyd

£

9yb

11 0

10yb

11yb

200 200

Cwyn

100 100 0

Q2Q1 2014 Q3Ch2 2014 Q4Ch3 2014 Q1Ch4 2015 Q2Ch1 2015 Q3Ch2 2015 Q4Ch3 2015 Q1Ch4 2016

2014

2014

2014

Management

2014

2015

Cynnal a chadw

2015

2015

2015

Arall

Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes

Rydym yn gwybod bod ateb galwadau yn gyflym yn bwysig i breswylwyr ac mae perfformiad wedi gwella yn y chwarter diwethaf o ran gwaith atgyweirio ac ymholiadau cyffredinol.

yn

total ystod y chwarter hwn

Mae cynnal cartrefi preswylwyr ac adeiladu rhagor o dai yn parhau i oruchafu ar sut rydym yn defnyddio ein harian. Mae’r ddwy eitem yn cyfrif am bron i hanner yr holl wariant.

Rydym yn gwybod bod amseroedd aros yn hwy yn ystod y cyfnodau prysuraf, felly ffoniwch yn ddiweddarach yn y dydd os yw hynny’n bosibl. Cawsom lawer llai o gwynion yn ystod y chwarter hwn, ac fe wnaethom geisio ymateb yn gyflym. Os oes gennych chi gŵyn, cofiwch y gallwch chi ffonio, e-bostio neu siarad ag unrhyw aelod o’r staff.

Chwarter 2 (Ebrill - Mehefin 2016)


28 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth WWH

Preswylwyr yng nghanol llifogydd

Yn y llun bach uchaf: Y Swyddog Tai Ann-Marie Rastin, Hannah Blythyn AC, Madaline Easter, Sarah Mielczarek a David Hanson AS

Cafodd preswylwyr Pen Lôn ym Magillt, Sir y Fflint, sioc annifyr pan arweiniodd cawodydd trwm o law at lifogydd yn eu cynllun ac mewn busnesau cyfagos. Roedd y glaw mor drwm fel o fewn 20 munud roedd dŵr wedi gorlifo i lawer o’r eiddo. Gweithredodd y Preswylwyr yn gyflym gan symud cymaint ag y gallen nhw o'u dodrefn a'u heiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau. Roedd un o’r preswylwyr, Madaline Easter, yn poeni am ei chartref yn ogystal â’i siop sglodion, a oedd i fod i agor ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Mae ei gŵr hefyd yn berchen ar siop offer trydanol y drws nesaf, a gafodd ei heffeithio’n wael, gyda gwerth £900 o ddifrod wedi ei achosi. Dywedodd Madaline: "Roedd yn ofnadwy. Roedd y dŵr wedi gorlifo dros y ffordd – roedd yn cyrraedd at ein pengliniau. Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn."

Dywedodd Andrew Richards, Rheolwr Masnachol WWH: "Cafodd deg o'r 14 eiddo ym Mhen Lôn eu heffeithio gan y llifogydd trwm. Fe wnaethom gynnig llety amgen ar gyfer y rhai oedd eisiau symud allan o'u heiddo, ond dewisodd y rhan fwyaf o breswylwyr aros. "Cyn gynted ag yr oedd yr injans tân wedi pwmpio dŵr allan o’n heiddo, dechreuom ar y gwaith clirio sylweddol i gynorthwyo ein preswylwyr. Roedd nifer o staff Cynnal a Chadw Cambria a Tai Wales & West ar y safle i ddarparu cefnogaeth lawn i'n preswylwyr ac rydym yn parhau i fod yno ar eu cyfer nes i'w cartrefi ddod yn ôl i drefn."


Cynnal a chadw wedi ei gynllunio| intouch | www.wwha.co.uk | 29

Cynnal a chadw wedi ei gynllunio Isod rhestrir yr eiddo rydym yn bwriadu eu huwchraddio rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2016: Ystafelloedd ymolchi

Dyfed Drive, Queensferry, Glannau Dyfrdwy Warren Close, y Gelli, Powys William Street, Ystrad, RhCT

Ceginau

Monger Road a Collins Court, Wrecsam Llaneirwg, Caerdydd, gan gynnwys: • Clos y Betws • Clos y Gornant • Clos yr Onnen • Coleford Drive (ac yn parhau yn 2017)

Ffenestri a/neu ymylon toeau Cwrt Andrew Buchan, Rhymni Derby Villas, Wrecsam Bracla, Pen-y-bont, gan gynnwys: • Pen Onnen, • Rhiw Tremaen • Rhiw Las • Rhiw Cae Mawr

“Mae proffesiynoldeb ac agwedd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi creu argraff arnaf” Mae Angela Monks wedi mynegi ei diolch i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria am adael ei chartref fel pin mewn papur yn dilyn gwaith yn ei chartref. Dywedodd: "Symudais i The Beeches ar Quarella Road ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Bu cryn dipyn o grefftwyr Cambria yn gweithio ar fy nghartref ac rydw i wedi cael fy mhlesio gan eu proffesiynoldeb a’u hagwedd.” "Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth, roedden nhw’n amyneddgar, yn gymwynasgar ac yn dda am wneud yr

hyn y daethon nhw i'w wneud. Cafodd y gwaith ei wneud i safon uchel – ac fe wnaethon nhw dacluso ar eu hôl, hefyd!” “Fel rhywun sy’n anabl, rydw i’n gwerthfawrogi’r holl gymorth a roddwyd i mi.”


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Busnes partneriaid partïon yn ffynnu Yn ddiweddar daeth dwy o breswylwyr Hill Court, sef Emma Stant sy’n 37 oed a Leanne Chitty sy’n 33 oed, at ei gilydd fel cynllunwyr partïon, gan drefnu digwyddiadau ar gyfer y gymuned leol yn Wrecsam, yn amrywio o bartïon plant i briodasau mawr.

"Roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud erioed," meddai Emma. "Roedd rhywun wedi gadael rhywfaint o arian i mi, felly penderfynais roi cynnig ar wireddu fy mreuddwyd, ac roedd fy nghymydog Leanne yn falch o gytuno i fod yn bartner busnes i mi." Dan yr enw E5 Events and Dresses, mae Emma a Leanne yn darparu offer, certiau melysion, cefnlenni, balwnau, DJs – unrhyw beth rydych chi ei angen - a hyd yn oed gwisgo fel cymeriadau. Maen nhw hefyd yn darparu amrywiaeth o ffrogiau. “Rydw i wrth fy modd yn gwisgo fel Minion,” dywedodd Leanne. “Yr hyn rydw i’n ei hoffi am waith yw ein bod ni’n cael ystafell gwbl wag ac yn ei throi’n rhywbeth gwirioneddol greadigol ac arbennig. Mae’n brofiad gwerth chweil.”

Sut maen nhw’n cael amser i wneud popeth? Mae’r ddwy yn famau sy’n gweithio - Emma fel Cynorthwyydd Canolfan Adnoddau yn y Ganolfan yn Hightown a Leanne i gwmni cyfreithwyr. “Rydyn ni’n gwneud hyn am ein bod ni’n mwynhau cael busnes lle gallwn ni weithio gartref a bod yn hyblyg,” dywedodd Leanne. Rhoddodd Alun Harries, Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter Tai Wales & West, gyngor defnyddiol ar sut i sefydlu cynllun busnes. "Rydym bob amser yn hapus i gefnogi preswylwyr sydd eisiau help i gael gwaith neu hyfforddiant." Dywedodd Emma: "Os oes unrhyw un yn ystyried dilyn eu breuddwyd, fy nghyngor i fyddai ewch amdani! Mae gofyn ymroi eich amser a bod yn barod i weithio'n galed.”

Am ragor o wybodaeth am E5 Events and Dresses, ewch i www.facebook.com/ e5eventsanddresses neu @e5eventsanddresses


Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 31

“On’d doedd e’n ddiwrnod da!”

Fe wnaeth preswylwyr o orllewin Cymru fwynhau eu diwrnod allan mawr blynyddol ar 28 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth. Roedd y digwyddiad am ddim hwn, a drefnwyd mewn partneriaeth â Tai Ceredigion, yn llwyddiant mawr gyda thros 200 o breswylwyr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn mwynhau'r diwrnod hwyl. Yn ogystal, daeth dros 40 o stondinwyr ac arddangoswyr i roi gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael ar draws y tair sir, gan gynnwys gyrfaoedd, iechyd a newidiadau i fudd-daliadau a'r amgylchedd, tra’r oedd y plant yn

mwynhau'r gweithgareddau, a oedd yn cynnwys sesiynau chwarae yn yr awyr agored, celf a chrefft, modelu balwnau, gwneud blychau adar a llawer mwy! Cafodd y preswylwyr wledd o ginio a chyfle i fod yn rhan o raffl fawr. Daeth y digwyddiad i ben gyda ras Masgotiaid rhwng Cantref, Tai Ceredigion a'r Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon. Tai Ceredigion oedd y fuddugol, a oedd yn destun balchder mawr!!


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Llwyddiant Preswylwyr WWH yng

Ngwobrau 2016 TPAS

Dathlodd rhai o breswylwyr WWH eu llwyddiant yn seremoni Gwobrau Cyfranogiad TPAS a gynhaliwyd yn Llandudno ym mis Gorffennaf.

Tim Butler, Dave Brigham, Kath Page a Sandy Thomas. Llun bach: Paul Clark

O anrhydeddu'r cof am arddwr medrus i gydnabod cyfraniad cadarnhaol y genhedlaeth iau at eu cymunedau, roedd Gwobrau Cyfranogiad Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru yn llwyddiannus i’n preswylwyr. Bu Paul Clark yn allweddol o ran sefydlu Clwb Garddio a Cymdeithasol Oak Court yn y cynllun er ymddeol ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Ond bu farw’r gŵr 60 oed y llynedd heb weld gardd ei freuddwydion yn cipio Gwobr y Prosiect

Amgylcheddol yr haf hwn. Fe wnaeth ei gyd-arddwyr Tim Butler, Dave Brigham, Kath Page a Sandy Thomas gydnabod cyfraniad Paul at wneud i’w gardd ffynnu wrth ennill y wobr gyntaf yn y gwobrau a gynhaliwyd yn Llandudno. Dywedodd Sandy: "Un o freuddwydion Paul oedd yr ardd hon. Rydym yn sicrhau bod y cof amdano’n cael ei gadw yn fyw drwy ddal ati a gweld y preswylwyr eraill yn mwynhau."


Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Bethany Thompson (17 oed) gyda Heulwen Young, Swyddog Tai â chymorth (Foyer)

Merch yn ei harddegau o’r enw Bethany Thompson oedd ein henillydd ifanc, pan enillodd wobr Tenant Ifanc y Flwyddyn. Cafodd y ferch 17 oed gefnogaeth yn ein llety â chymorth ‘Foyer’ yng ngorllewin Cymru ar gyfer rhai 16 i 25 mlwydd oed.

Yn arddwr ac uwch-gylchwr brwd, cafodd gwaith Jeff i helpu i greu cymuned glos yng nghynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei gydnabod pan gyrhaeddodd y trydydd safle yn y categori Tenant y Flwyddyn.

Yr ieuengaf o wyth o blant, roedd Bethany yn gofalu am ei mam mewn cymuned wledig heb gysylltiadau bws digonol cyn symud i'r Foyer. Roedd ei phresenoldeb yn y coleg yn ddiffygiol oherwydd bod gofyn iddi gerdded pum milltir bob dydd, ond gyda chefnogaeth gan y Foyer mae hi wedi llwyddo yn ei chwrs Lefel 2 mewn Gofal Plant, yn ogystal â darparu gofal ar gyfer ei mam sydd â sglerosis ymledol.

Jeff, a fu’n gyrru bysiau yn ystod ei yrfa, sbardunodd y gwaith o adfywio'r ardd gymunedol yn Western Court fwy na phedair blynedd yn ôl gyda help gan ei ffrind Derek Rose, sy’n saer.

Mae Beth hefyd yn rhoi o’i hamser i fod yn fentor cymheiriaid ar gyfer grŵp ieuenctid lleol, yn gwirfoddoli yn Hafan y Waun, sy’n gyfleuster gofal dementia arbenigol, yn ogystal ag astudio ar gyfer cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn olaf, ond nid y lleiaf, mae Jeff Bunce yn un arall o'n preswylwyr a gafodd ei gydnabod yn y seremoni fawreddog am wneud Gwahaniaeth i gymuned.

Gydag arian drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd maen nhw wedi creu hafan i’r preswylwyr, wedi ei adeiladu o baledau wedi eu hailgylchu yn bennaf.

Natasha Jones, Rheolwr Ymgysylltu yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy, gyda Jeff Bunce


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Un o breswylwyr Pen-y-bont yn cael

Medal yr Ymerodraeth Cafodd Lena Charles, un o hoelion wyth ei chymuned, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd y Frenhines am ei gwasanaeth gydol oes i wirfoddoli. O’r chwith i’r dde: Lena Charles gyda chyn reolwr cynllun WWH, Yvonne Humphreys

Anrhydeddwyd Mrs Charles o Danymynydd ym Mlaengarw am ei gwasanaethau i'r gymuned am dros fwy na phedwar degawd. Ymwelodd Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Kate Thomas CVO, â’r cynllun er ymddeol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno'r fedal i Mrs Charles, sy’n 96 oed. Bu’r fam i bedwar yn weithgar yn y gymuned am sawl cenhedlaeth, gan weithio gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y Merched, Cymorth Cristnogol, yr NSPCC a Chymanfa Ganu am dros 40 mlynedd.

Mae ei gwaith i gefnogi'r genhedlaeth iau wedi rhychwantu’r byd, o sefydlu cylch gwau i ddarparu blancedi ar gyfer plant yn Belarus, i ddarparu adloniant ar gyfer plant o Chernobyl ar wyliau blynyddol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi a'i chymdogion wedi ennill gwobr am brosiect cynhwysiant digidol 'Tyfu Gyda'n Gilydd' rhwng y cenedlaethau gyda grŵp cymunedol Celfyddydau Cymunedol y Dyffryn a’r Fro. Mae hi'n dal i drefnu dawnsfeydd te ac yn cynnal gwasanaethau ar y Sul yn y capel lleol. Dywedodd Mrs Charles ei bod hi wedi rhyfeddu ei bod hi wedi cael y wobr.


Iechyd a diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Gorchuddion ar socedi Mae rhieni yn aml yn poeni am eu plant yn rhoi eu bysedd mewn socedi trydan. Mae'n demtasiwn prynu gorchudd socedi plastig 13A i atal hyn ond peidiwch - gall hyn eu gwneud yn fwy peryglus!

hyblyg) yn cynnwys mecanwaith caead cyd-gloi i atal unrhyw beth rhag cael ei roi i mewn iddyn nhw. Nid oes angen i chi brynu gorchuddion.

Nid yw gorchuddion socedi yn cael eu gwneud yn unol ag unrhyw safon iechyd a diogelwch. Mae socedi trydan yn eich cartref sy'n cael eu cynhyrchu i BS1363 (allfeydd socedi wal 13A, addaswyr aml-ffordd ac estyniadau.

Gwefan lles

Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio i helpu pobl ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor maen nhw ei angen i wella eu lles a chael mynediad at wasanaethau cymorth lleol yng Nghymru.

Mae Dewis ar gael mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys gogledd Cymru, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Bydd Dewis ar waith mewn siroedd eraill yn y dyfodol agos, hefyd.

Mae’r wefan yn cynnig cyngor a gwybodaeth am ddigwyddiadau lles ar sail cod post ac anghenion.

https://www.dewis.wales


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Sut gall y rhai nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch

eich helpu chi

Oeddech chi'n gwybod y gall eich budd-dal tai gael ei ostwng os oes gennych oedolyn yn byw yn eich cartref, heblaw am eich partner? Dyma gyngor defnyddiol ar sut gallwch ddelio â hyn. Mae gan lawer o deuluoedd oedolyn yn byw gyda nhw sy’n cael eu galw’n rhai 'nad ydyn nhw’n ddibynnol' at ddibenion budd-dal tai. Gallai’r rhain fod yn rhywun fel mab neu ferch sy’n oedolyn, ffrind neu berthynas oedrannus, ac mae eu hincwm yn gallu effeithio ar swm y Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor rydych chi’n gymwys i'w gael. Mae cyfradd y didyniad yn dibynnu ar a yw'r rhai nad ydyn nhw’n ddibynnol yn hawlio budd-daliadau (a pha fudd-daliadau penodol), a ydyn nhw’n gweithio dros 16 awr yr wythnos ac, os felly, eu hincwm gros. Nid yw rhai nad ydyn nhw’n ddibynyddion yn cynnwys lletywyr, gofalwyr proffesiynol nac ymwelwyr sy'n byw yn rhywle arall. Nid yw hi bob amser yn hawdd i rieni ofyn i'w plant am gyfraniad gan eu bod wedi darparu

ar eu cyfer bob amser, a gall gofyn iddyn nhw naill ai ddechrau talu neu gynyddu eu cyfraniadau tuag at gostau’r aelwyd effeithio ar eu gallu i gynilo, ac yn aml mae’r cais yn cael derbyniad negyddol. Gallai gofyn i'r sawl nad yw’n ddibynnol adael y cartref hefyd arwain at ddosbarthu teulu fel un sy’n tan-feddiannu’r llety. Os yw eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel un wedi ei dan-feddiannu efallai y byddwch wedyn yn cael eich effeithio gan y Dreth ar Ystafelloedd Gwely, ac efallai na fydd yn gwella eich sefyllfa.

Felly, beth allwch chi ei wneud? Os ydych yn hawliwr o oedran gweithio a bod gennych rywun nad yw'n ddibynnol yn byw gyda chi sydd dan 25 oed, yn ddiwaith, yn iach ac yn gallu gweithio, yna anogwch nhw i gofrestru ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn bwysig oherwydd yn yr achos hwn byddai eich budd-dal tai yn cael ei ostwng £14.65 yr wythnos. Byddai hyn yn dod i ben pe baen nhw’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol. Yn ogystal, os ydych chi neu eich partner yn ddall neu'n hawlio elfen gofal Lwfans Byw


Materion ariannol| intouch | www.wwha.co.uk | 37 i'r Anabl, cydran Byw Dyddiol y Taliadau Annibyniaeth Personol neu’r Lwfans Gweini, yna nid yw didyniadau ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n ddibynyddion yn gymwys. Mae rheolau didyniadau’r rhai nad ydyn nhw’n ddibynyddion yn gweithio'n wahanol dan Gredyd Cynhwysol, oherwydd beth bynnag yw incwm y sawl nad yw'n ddibynnol, mae'r cyfraniad cost tai a gymerir o'ch dyfarniad Credyd Cynhwysol yn gyfradd unffurf o £69.37 y mis fesul unigolyn nad yw'n ddibynnydd. Gallai hyn olygu y gall rhywun fod yn gymwys

am gymorth gyda'i gostau tai dan Gredyd Cynhwysol ac nid dan Fudd-dal Tai. Isod mae tabl defnyddiol i ddangos i chi faint dylai'r sawl nad yw'n ddibynnydd gyfrannu at ei rent ar sail ei incwm. Dyma faint mae’r budd-dal tai yn cael ei leihau gan ddibynnu ar incwm gros y sawl nad yw’n ddibynnydd os yw’n gweithio. Nid yw trefniadau cyfraniadau anffurfiol na gwneud cyfraniad at y nwy neu’r drydan yn mynd yn ddigon pell , a phe bai’r unigolyn nad yw'n ddibynnydd yn byw mewn llety preifat, byddai’n talu llawer mwy bob wythnos.

Incwm wythnosol cyn treth

Swm a ddidynwyd

Incwm wythnosol cyn treth

Swm a ddidynwyd

Llai na £133

£14.65

Rhwng £253 a £337.99

£75.60

Rhwng £133 a £194.99

£33.65

Rhwng £338 a £419.99

£86.10

Rhwng £195 a £252.99

£46.20

Dros £420

£94.50

Ewch i shelter.org.uk am ragor o wybodaeth Mae’n bryd cael trefn ar Gaz a Leccy Mesuryddion deallus yw'r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan a fydd yn cymryd lle mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi. Bydd pob cartref yng Nghymru yn cael cynnig mesurydd deallus gan y cyflenwr ynni, heb unrhyw gost ychwanegol, rhwng nawr a 2020. Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi pan fydd yn barod i osod eich un chi.* Bydd mesuryddion deallus yn rhoi diwedd ar amcangyfrif biliau. Bydd y mesuryddion newydd yn dangos i chi faint rydych chi’n ei wario, gan ei gwneud

yn llawer haws i gyfrif beth yw costau eich cartref. Gyda mesuryddion deallus, byddwch yn gallu ychwanegu at eich credyd ar eich ffôn clyfar neu ar-lein, yn ogystal ag yn y siop leol. Am ragor o wybodaeth am waith Smart Energy GB yng Nghymru, cysylltwch â Fflur Lawton, fflur.lawton@ smartenergygb.org * mae rhai eithriadau.


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Ras hwyl yn codi arian at glefyd y galon Cymerodd dros 120 o bobl ran mewn ras hwyl yng Nghastellnewydd Emlyn, gan helpu i godi arian er budd elusen clefyd y galon.

Wedi ei threfnu gan ein staff yng ngorllewin Cymru, codwyd £510 tuag at Calon+, elusen sy'n darparu hyfforddiant i nyrsys ymgymryd â sesiynau adsefydlu gyda chleifion sydd wedi cael eu heffeithio gan glefyd y galon. Dechreuodd y ras yng Nghwrt y Llan, gyda'r llwybr yn mynd o gwmpas y castell a'r dref. Roedd tair ras i gyd ras 5K, ras filltir ar gyfer plant, a ras hanner milltir i'r plant iau. Enillydd y gystadleuaeth am y wisg ffansi orau oedd Ffion Hall; a dyfarnwyd y wobr am y wisg ffansi

orau gan oedolyn i Jenny Caulkett. Enillydd y ras 5K oedd Thomas Willoughby, gyda'i frawd Dan yn ennill y ras filltir. Enillydd y ras hanner milltir oedd Thomas Humphreys. Dyfarnwyd y darian barhaol yn y digwyddiad i’r tîm buddugol i Glwb Rhedeg Sarn Helen. Yn y llun uchod mae Rhodri Jones, y Cyfarwyddwr Cyllid, yn cyflwyno'r siec i Grug Jones-Fussell, Nyrs Adsefydlu Cardiaidd, a ddywedodd: “Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a’ch ymdrech yn ein helpu ni gyda'n gwasanaeth.”


Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Preswylwyr yn codi arian i helpu bachgen yn ei arddegau Fe wnaeth preswylwyr Tŷ Gwynne Jones yn Abergele drefnu te prynhawn llwyddiannus i godi £245 tuag at fachgen lleol yn ei arddegau a gafodd ei barlysu o'i ben i lawr, ar ôl dioddef strôc ar yr asgwrn y cefn. Fe wnaeth y nofiwr brwd Luke Davies, sy’n 14 oed, gwympo yn y Flwyddyn Newydd ar ôl cwyno am boen gwddf difrifol. Mae wedi bod ar beiriant anadlu mewn ysbyty i helpu gyda'i anadlu. Mae ei rieni angen arian ar gyfer addasiadau i'w cartref.

Dywedodd Betty Roberts, Rheolwr y Cynllun: "Mae Luke yn nofio gyda fy ŵyr i dîm Dolffiniaid y Rhyl, sydd hefyd yn codi arian ar ei gyfer. Mae Luke yn fachgen hapus a hyfryd ac mae pawb yn ceisio codi ei galon ef a’i deulu yn yr un modd.”

Diwrnod disglair i oroeswyr strôc

Fe wnaeth preswylwyr fywiogi bywydau goroeswyr strôc drwy gynnal eu 'Parti Heulwen' eu hunain yn Nant y Môr, Prestatyn, gan godi £255 ar gyfer y Gymdeithas Strôc. Daeth hanner cant o drigolion i’r parti, lle buon nhw’n dathlu’r heulwen drwy wisgo hetiau haf, garlantau, sbectols haul a mwynhau bwffe hafaidd o frechdanau bys a bawd a the hufen mefus. Darparwyd gwybodaeth gan y Gymdeithas Strôc i breswylwyr ar bob agwedd ar strôc, dulliau o’i atal a’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd. Yn y llun ar y dde gwelir Emma Kay, Codwr Arian Rhanbarthol (Gogledd Cymru) y Gymdeithas Strôc yn derbyn siec gan Lily Whitley, Jean Carretero a Mary Forbes, tair o’r preswylwyr. Dywedodd Lily: “Mae’r Gymdeithas Strôc yn elusen sy’n agos at galonnau pawb.”

Defnyddiodd preswylwyr Nant y Môr y cymorth oedd ar gael gan yr elusennau hyn ac rydym yn hoffi cyfrannu atyn nhw yn ogystal â chael hwyl wrth wneud.


40 | www.wwha.co.uk | intouch |Negeseuon sgamio TGCh

Cadwch olwg am sgamwyr

Bob dydd rydyn ni’n clywed am rywun sydd wedi colli arian oherwydd eu bod nhw wedi cael eu perswadio gan dwyllwyr slic. Mae'r masnachwr twyllodrus traddodiadol yn dal i fodoli, ynghyd â lladron slei sydd, wrth weithio mewn parau, yn tynnu sylw rhywun wrth y drws ffrynt ac yn mynd i mewn i'w cartref drwy’r cefn. Fodd bynnag, efallai mai’r rhyngrwyd yw’r maes mwyaf dychrynllyd erbyn hyn. Os cewch neges e-bost sy'n honni ei bod wedi dod gan eich banc neu o safle rhwydweithio cymdeithasol, mae’r neges fel arfer yn cynnwys dolen i wefan ffug sy'n edrych yn union fel yr un go iawn. Pan fyddwch chi’n mewngofnodi, mae'n anfon eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair at rywun fydd yn ei ddefnyddio i gael mynediad at eich cyfrifon go iawn. Fe allen nhw ddwyn eich

arian neu eich hunaniaeth. Enghraifft ddiweddar o hyn yw Nwy Prydain - roedd yn edrych fel pe bai eu cwsmeriaid yn cael neges e-bost a oedd ymddangos fel bil cyfleustod diniwed. Roedd y negeseuon e-bost yn arwain pobl at wefan lle dywedwyd wrthyn nhw am lwytho ffeil i lawr i weld eu bil. Ar ôl lwytho’r ffeil i lawr, roedd y firws yn cloi pobl allan o'u cyfrifiadur, gan eu cyfeirio at dudalen talu ar-lein. Mae Nwy Prydain yn dweud bod ei negeseuon e-bost yn cael eu personoli bob amser ac yn aml yn dyfynnu rhif cyfrif Nwy Prydain, gan fynd â chi i wefan britishgas.o.uk yn unig.

Dyma rai cynghorion defnyddiol i’ch helpu i osgoi cael eich sgamio: • Diogelwch eich cyfrifiadur gyda wal dân, hidlwyr sbam, meddalwedd gwrth-firws a gwrth-ysbïwedd a'u diweddaru i gyd yn rheolaidd.

• Ni wnaiff eich banc fyth anfon neges e-bost atoch yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol na’ch enw defnyddiwr na’ch cyfrinair.

• Gwiriwch eich cyfrifon ar-lein a’ch chyfriflenni banc yn rheolaidd i sicrhau nad oes unrhyw drafodion anawdurdodedig wedi cael eu gwneud.

• Os cewch alwad ffôn yn gofyn i chi dynnu arian o’ch cyfrif banc, dewch â’r alwad i ben ar unwaith.

• Peidiwch byth â rhoi manylion personol, yn enwedig gwybodaeth am fancio, i unrhyw un nad ydych yn eu hadnabod.

• Rhowch wybod am unrhyw un rydych chi’n ei amau o sgamio i Action Fraud ar 0300 123 2040. • Os cewch eich twyllo gan sgam, cofiwch ffonio’r heddlu.


Eich newyddion a’ch safbwyntiau| intouch | www.wwha.co.uk | 41

Rhagor o gyllid yn dilyn prosiect gŵyl

Dathlodd Cyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown 10fed pen-blwydd gŵyl gelfyddydol Cymru-gyfan ‘Gwanwyn’ ar gyfer pobl dros 50 oed gyda gweithdai gwau creadigol a chrosio. Bu’r gweithdai a gyllidwyd gan arian grant mor boblogaidd fel bod Debbie Dickin a Michelle Meredith-Roberts o’r Principality wedi ymweld â’r gweithdai a chynnig £200 tuag at ragor o sesiynau. Sefydlodd Age Cymru ŵyl gelfyddydau y Gwanwyn yn 2006 i roi cyfle i bobl dros 50 oed gymryd rhan mewn celfyddydau creadigol. Dywedodd Paula Hack, Cadeirydd Cyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown: "Dyma drydedd flwyddyn ein dathliadau Gŵyl Gwanwyn, a’r mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn. Rydym yn deall beth mae ein cymuned leol yn ei ddymuno – mynd i weithdai rhad ac am ddim fel y gallan nhw gwrdd â phobl eraill a rhannu a dysgu sgiliau mewn crosio a gwau i gynhyrchu darnau o waith celf arloesol fydd yn cael eu harddangos y tu allan i'r ganolfan. “Daeth Debbie a Michelle o’r Principality draw, ac roedd y gweithdai wedi creu cymaint o argraff arnyn nhw fel eu bod

nhw’n hael iawn wedi cynnig helpu i gyllido 15 o weithdai eraill.” Dywedodd Debbie Dickin: "Roeddem yn teimlo fod y gweithdy nid yn unig yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd neu wella eu sgiliau, ond hefyd yn cynnig awyrgylch gymdeithasol braf i bobl ddod at ei gilydd a rhannu awgrymiadau a gwneud ffrindiau newydd. Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn ymwneud llawer iawn â chymunedau lleol ac mae helpu i gyllido gweithdy mor deilwng yn rhoi ymdeimlad o foddhad i ni." Dywedodd Nerys Hughes, un o’r preswylwyr: "Rydw i wedi bod yn dod yma ers i mi ei weld yn cael i hysbysebu ar Facebook. Rydw i'n teimlo'n fwy hyderus o ganlyniad, ac yn dymuno mynd ati i wneud blanced." Dywedodd Libby Price, Rheolwr y Ganolfan: "Mae'n wych gweld pawb yn rhyngweithio â'i gilydd. Gyda'r cyllid newydd hwn, gallwn ystyried datblygu’r sesiynau yn rhai sy’n pontio cenedlaethau."


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Llyfr yn rhoi gwedd newydd Pan gafodd Neil Davies ddiagnosis fod y clefyd Parkinson ganddo, dros ddegawd yn ôl, roedd yn benderfynol na fyddai’n caniatáu i’r afiechyd reoli ei fywyd. Dywedwyd wrth y consuriwr 57 oed o Limebourne Court, yr Eglwys Newydd, fod ganddo’r clefyd sy'n effeithio ar un o bob 500 o bobl y Deyrnas Unedig, pan oedd yn 44 oed. "Dechreuais sylwi fy mod i’n arafu," meddai Neil, sy’n dad-cu i ddau. "Byddai rhythm fy ngherddediad yn anghyson ac roedd fy lleferydd yn wahanol, i'r graddau roedd pobl yn meddwl fy mod i’n feddw. "Ond nid alcohol oedd yn achosi hyn, ond ‘Cyril’, y Parkinson. Nid oeddwn yn gallu credu pan gefais y diagnosis am glefyd roeddwn i’n ei gysylltu â phobl hŷn." Gall delio â salwch dirywiol fynd â chi ar daith sy’n dreth ar yr emosiynau a’r corff, ond mae'r cyn-ddigrifwr llwyfan wedi dweud mai hiwmor a chreadigrwydd yw’r allwedd i atal Cyril rhag cymryd rheolaeth! Dywedodd: "Rydw i wrth fy modd gyda chomedi llwyfan, ond wrth i’m lleferydd ddirywio penderfynais droi at farddoniaeth, gan ysgrifennu fy ngherdd gyntaf am dipyn o hwyl. Ond ar ôl i mi ei dangos i rywun, gofynnwyd i mi ysgrifennu un arall. "Nawr mae pobl yn fy herio drwy roi geiriau ar hap i mi eu hymgorffori mewn cerdd."

Dywedodd Chris Canning, sy’n Weithiwr Cymorth Gofal, fod darllen barddoniaeth Neil yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar ei gyflwr, ei feddyliau a’i deimladau. Dywedodd: "Heb fod yn ymwthiol na gofyn gormod o gwestiynau, mae barddoniaeth Neil wedi fy helpu i ddeall Neil a'i gyflwr yn well o lawer. Efallai eu bod yn gerddi ddoniol, ond drwy eu darllen rwy’n gwybod beth sy'n ei boeni, yr hyn mae'n cael trafferth i’w wneud ar y pryd, a sut mae'n teimlo yn gyffredinol. " Mae’r consuriwr, sy'n dal yn gallu gwneud triciau â chardiau, wedi defnyddio ei gerddi neu limrigau i helpu ei wyrion i ddeall ei gyflwr yn well. Mae'n gobeithio mai rhoi pin ar bapur yw'r allwedd i helpu i addysgu cymdeithas am glefyd Parkinson.


Eich newyddion a’ch safbwyntiau| intouch | www.wwha.co.uk | 43

Gwobr gan WWH i fardd ifanc Mae dewin geiriau ifanc wedi cipio gwobr am ymateb i her staff Llyfrgell Caerdydd a mynd ar daith lenyddol.

Rhoddodd Tai Wales & West (WWH) £50 mewn talebau Stryd Fawr tuag at gystadleuaeth Barddoniaeth Llyfrgelloedd Dwyrain Caerdydd, a ddenodd mwy na 350 o blant i ysgrifennu cerddi ar thema ‘taith’. Roedd un o ddisgyblion Ysgol Gynradd Marshfield, Jacob Slater (yn y llun), yn syfrdan pan ddaeth Swyddog Prosiectau Datblygu Cymunedol WWH, Herman Valentin, a’r Llyfrgellydd Datblygu Cymdogaeth, Katherine Whittington, i gyflwyno’r daleb fuddugol iddo yn ystod ymarfer at gyngerdd ysgol. Dywedodd Herman fod WWH yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r gystadleuaeth drwy gyfrannu’r gwobrau ar gyfer y tri enillydd a’r rhai a ddaeth yn agos at y brig. Dywedodd: "Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r llyfrgelloedd yn Nwyrain Caerdydd. Maen nhw’n adnodd gwerthfawr ar gyfer cymaint o bobl

ifanc yn ein cymunedau. Roedd safon y ceisiadau yn wych. Ni fyddech chi’n credu bod yr enillwyr mor ifanc ag yr ydyn nhw." Roedd yr enillwyr eraill yn cynnwys Aymen Cherif, Jayvin Chahel a Chloe Evans o Ysgol Gynradd Esgob Childs yr Eglwys yng Nghymru ac Alexis a Hala Ben-Ali o Ysgol Gynradd Willowbrook.

Preswylwyr Norbury Court yn codi £200 at fws VEST

O’r chwith i’r dde, Martin Healey (trysorydd VEST ), Audrey Meek, Irene Davies, Heddwen Johnson, Barbara Johnston, Bernard O’Keeffe a Val Williams.

Ymunodd preswylwyr Western Court â Norbury Court ar gyfer bore coffi codi arian; fe wnaethon nhw gynnal raffl a chystadleuaeth ‘dyfalu pwysau’r deisen’.

Roedd ganddyn nhw fwrdd bric-a- brac hefyd, ac arweiniodd hynny a chyfraniadau gan gyfeillion at godi £200 tuag at y gwasanaeth bws VEST maen nhw’n ei ddarparu. Gan ei bod yn ddiwrnod heulog braf fe wnaethon nhw hefyd gynnal gêm croquet ar y lawnt, gyda Michael Hook o Western Court yn fuddugol.


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Bore Coffi Macmillan yn Hanover Court, y Barri Yn ddiweddar, cynhaliodd preswylwyr yn Hanover Court yn y Barri, Bro Morgannwg, fore coffi i godi arian ar gyfer Gofal Canser Macmillan. Symudodd Tina Yarr (sydd yn y llun ar y chwith) i'r cynllun er ymddeol yn 2015. Treuliodd Tina, sydd wrth ei bodd yn pobi, ddau ddiwrnod cyfan yn pobi ac addurno pob un o'r cacennau a welir yma.

Ffarwel i Rita Ar ôl 22 mlynedd o waith ymroddedig mae'r amser wedi dod i ffarwelio â Rita Llwyd, Swyddog Byw'n Annibynnol yn ein cynllun yn Aberystwyth. Yn ystod cyfnod Rita yn Gerddi'r Ffynnon sicrhaodd bod y preswylwyr yn byw mewn amgylchedd diogel a hapus a bod pob un yn cael y cyfle i fyw eu bywydau i'w potensial llawn. Fel arwydd o'u gwerthfawrogiad, enwebodd y preswylwyr Rita i dderbyn gwobr gan raglen Prynhawn Da ar S4C. Mae'r wobr hon yn cael ei rhoi i bobl sydd wedi gwneud gwaith gwerthfawr yn eu cymuned. Sicrhaodd Rita bod y rhai a oedd yn cael cefnogaeth yn y gymuned ac a oedd yn unig ac yn teimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain yn cymryd

Rita Llwyd, Swyddog Byw’n Annibynnol

rhan mewn gweithgareddau amrywiol yng Ngerddi'r Ffynnon. Yn ogystal â hyn, chwaraeodd Rita ran amlwg mewn trefnu digwyddiadau amrywiol i godi arian tuag at elusennau teilwng. Yn ystod parti ymddeoliad Rita yng Ngerddi'r Ffynnon cafodd ymweliad annisgwyl gan S4C a dyfarnwyd plât a thusw o flodau am fod yn "Halen y Ddaear". Hoffem ddymuno iechyd da ac ymddeoliad hapus i Rita, a dymuniadau gorau iddi yn ei chartref newydd.


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Eich ryseitiau

Wrth i'r dyddiau ddechrau byrhau, gyda boreau niwlog a nosweithiau oer, rydyn ni’n dechrau meddwl am gawl, stiw a seigiau cynhesol. Mae'n beth da paratoi prydau bwyd o flaen llaw fel eich bod yn barod i'w bwyta gyda’r lleiafswm o ffwdan ar ôl dod o’r gwaith, o’r ysgol neu ar ôl bod yn chwarae. Dyma rysáit hawdd sy'n cyd-fynd â’r galw’n berffaith. Pryd bwyd iach a blasus, a fydd yn eich llenwi, ac a wnaed gan ddefnyddio cynhwysion fforddiadwy iawn.

Pastai Bwthyn Llysiau a Chorbys Cynhwysion 2 genhinen 2 foronen 1 nionyn 2-3 coesyn seleri 200g corbys oren 200g pys wedi’u rhewi (neu gorn melys) 4 llond llwy fwrdd piwrî tomato 60g caws parmesan (neu cheddar cryf) 2 daten felys fawr 1 ciwb stoc llysiau Ychydig olew olewydd Pupur a halen

Dull Cynheswch y popty i 180 ° / 350 ° f / nwy 4. Torrwch y cennin a’u tafellu’n denau cyn eu rhoi mewn colandr i’w golchi dan y tap dŵr oer. Torrwch y moron, y nionyn a'r seleri yn ddarnau bach. Cynheswch ychydig o olew mewn sosban fawr dros wres canolig, yna ychwanegwch y llysiau a’u troi i’w gorchuddio â’r olew. Rhowch y caead ar y sosban a choginio’r cynnwys am 5-10 munud gan ei droi unwaith neu ddwy. Dylai'r llysiau fod yn feddal. Ychwanegwch y corbys, y pys a’r ciwb stoc, ynghyd â tua 500ml o ddŵr. Codwch i'r berw, yna gostwngwch y gwres a mudferwi am 10- 15 munud nes bod y corbys yn feddal ac wedi coginio’n iawn. Ychwanegwch bupur a halen (os bydd angen) a chymysgu’r piwrî tomato iddo. Trowch y cyfan i ddysgl addas i bopty. Sgwriwch y tatws melys a’u gratio’n fras i bowlen. Ychwanegwch ychydig mwy o olew olewydd a'r caws wedi'i gratio a’u cymysgu. Taenwch y gymysgedd o datws wedi gratio a’r caws ar ben y gymysgedd corbys a phobi am 15-20 munud.

Oes gennych chi rysáit yr hoffech ei rannu gyda ni? Anfonwch e-bost: contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.


46 | www.wwha.co.uk | intouch |Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Dathlu 104 mlynedd

Mae hi wedi cyfarfod dau o’r teulu brenhinol, wedi cael ei bendithio gan y Pab ac wedi teithio ledled y byd, ac mae Vera Vaughan, y fenyw llawn ysbrydoliaeth, newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 104 oed.

Yn enwog am gynnal partïon da, gwahoddodd Christchurch Court ffrindiau a theulu’r preswyliwr a aned yn Llandrindod, ac sydd wedi treulio mwy na chwarter ei bywyd yn y cynllun er ymddeol yn Llandrindod, i ddathlu pen-blwydd Vera yn 104 oed gyda hi.

ei chyfnod yng Nghorfflu’r Frenhines Alexandra, gan gynnwys yr adeg y cafodd ei bendithio gan y Pab Pius XII, sut gwnaeth hi gwrdd â'r Fam Frenhines mewn parti yng ngardd Palas Buckingham a’r adeg y gwnaeth hi gyflwyno pwrs i’r Dywysoges Margaret.

Bu Vera’n gweithio fel dilledydd, ac roedd hi yn ei saithdegau pan symudodd i Christchurch Court, ac mae hi wedi chwarae rhan weithredol yn y gymuned sydd wedi ymddeol ac yn Llandrindod ei hun. Mae'n cyfarfod ei chymdogion yn rheolaidd yn y lolfa gymunol i rannu ei straeon am

Wrth ddiolch i’w ffrindiau a’i theulu am ddod, dywedodd Vera: "Mae'n hyfryd gweld cymaint o fy nghymdogion yn Christchurch Court a chymaint o ffrindiau wedi dod yma i fy helpu i ddathlu. Rydym yn mynd i fwynhau'r gerddoriaeth a chwmni ein gilydd yn fawr iawn."


Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 47

100 pen-blwydd hapus, Gladys! fed

Yn y llun gwelir Mrs Gladys Davies, a ddathlodd ei 100fed pen-blwydd ar 3 Ebrill. Wedi ei geni yn Nhylacoch yng nghwm Rhondda yn 1916, mae Mrs Davies yn fam i Cliff, Phyllis a Julie. Mae Mrs Davies wedi bod yn byw yng nghynllun er ymddeol Llys Glanrhondda yn y Pentre, Rhondda, ers mis Ebrill 1993. Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi wedi cael dathliad pen-blwydd gwych, Gladys!

Llwyddiant yn Rio Ac yn olaf, llongyfarchiadau enfawr i ddau o’n preswylwyr, sef Robert Davies o Cradoc Close yn Aberhonddu a Jordan Howe o Laneirwg yng Nghaerdydd, ar eu llwyddiant yng ngemau Paralymaidd 2016 yn Rio. Fe wnaeth Rob, sy’n 32 oed ac yn brif ddetholyn y byd, ennill medal aur y tennis bwrdd i rai mewn cadeiriau olwyn Dosbarth 1, a chyrhaeddodd

Robert Davies, un o’n preswylwyr Jordan, sy’n 20 oed, rownd derfynol y ras 200m i ddynion yng nghategori T35.


Pwy yw eich arwr chi?

Enwebwch nhw nawr!

(dyddiad cau – diwedd Tachwedd 2016)

Cymydog da Byw’n wyrdd Arwr lleol Prosiect cymunedol

Seren ddisglair Dechrau newydd Camau at lwyddiant (yn newydd eleni)

I enwebu cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu ffoniwch yr Adran P.R. a Chyfath ar 0800 052 2526


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Intouch Rhifyn 87 by Wales & West Housing - Issuu