
Cymhwyster
Lefel
3 (FfCCh) CBAC Gwyddor Bwyd a Maeth
I’w addysgu gyntaf o fis Medi 2012
Llwybrau Dysgu CBAC WJEC Pathways to Learning
Pam astudio Gwyddor Bwyd a Maeth?
Mae hwn yn gwrs newydd, cyffrous a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gael cyfoeth o wybodaeth am Wyddor Bwyd a Maeth. Byddant yn cael y cyfle i ddysgu am y berthynas rhwng y corff dynol a bwyd yn ogystal â meithrin sgiliau ymarferol i goginio a pharatoi bwyd.
Mae pwyslais mawr ar waith ymarferol, sy’n gwneud y cwrs hwn yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy’n ffafrio dysgu drwy wneud.
Gall canolfannau ddewis pa unedau i’w cynnig, sy’n eu galluogi i deilwra’r cwrs at anghenion eu myfyrwyr, a all astudio ar gyfer Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma. Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen o unrhyw astudio a wneir ar Lefel 2 ond yn enwedig cyrsiau TGAU mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Economeg y Cartref
- Bwyd a Maeth, Addysg Gorfforol, Hamdden a Thwristiaeth, Dylunio a Thechnoleg a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Coginio Proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn gallu ystyried cyflogaeth o fewn y sectorau bwyd a diod ym maes lletygarwch ac arlwyo, cynhyrchu bwyd neu adwerthu bwyd.
Manteision i fyfyrwyr ac athrawon
Mae’r cymhwyster yn cynnig y pethau canlynol i fyfyrwyr:
• cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol ac academaidd drwy ddysgu cymhwysol
• dewisiadau hyblyg, fel y gallant arbenigo mewn meysydd unigol sydd o ddiddordeb iddynt
• asesu drwy gyfuniad o brojectau ac astudiaethau achos, sy’n darparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu
• sail ysgogol i astudio Gwyddor Bwyd a Maeth

Mae athrawon yn cael budd o:
gynnwys â strwythur clir iddo a meini prawf asesu syml
• cyfleoedd i ddewis o blith nifer o wahanol unedau, a chyfle i deilwra’r cynnwys i fod yn addas ar gyfer myfyrwyr a’u diddordebau arbennig eu hunain
• rhwydweithiau cefnogi ardderchog, gan gynnwys adnoddau a Chanllawiau Athrawon cynhwysfawr sydd ar-lein yn rhad ac am ddim
• cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus rheolaidd
Asesu
Caiff y cymwysterau eu hasesu drwy asesiadau dan reolaeth, sy’n cael eu hasesu’n fewnol a’u safoni’n allanol. Mae CBAC yn darparu aseiniadau enghreifftiol y gellir eu haddasu i gynorthwyo canolfannau yn y broses o reoli asesiadau.
Strwythur
Gall myfyrwyr ennill Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma mewn Gwyddor Bwyd a Maeth, yn dibynnu ar nifer yr unedau a astudir.
Dyfarniad 12 credydUned orfodol
Tystysgrif 24 credydUned orfodol1 uned opsiynol ychwanegol

Rhoddir gwerth credyd i bob uned, yn ôl cyfanswm yr amser y bydd ei angen i gyflawni’r uned, gan gynnwys addysgu, astudio’n annibynnol ac asesu. Mae un uned yn orfodol ac mae pedair uned opsiynol ychwanegol.
Teitlau Unedau Cymwysterau Lefel 3 CBAC mewn
Gwyddor Bwyd a Maeth (FfCCh)
Dyfarniad Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth
Rhif yr UnedTeitl yr Uned Credydau
1* Cynllunio i ddiwallu anghenion o ran maeth12
Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth


Rhif yr UnedTeitl yr Uned Credydau
1* Cynllunio i ddiwallu anghenion o ran maeth 12
2 Datblygu sgiliau cynhyrchu bwyd ymarferol15
3 Sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta 12
4 Arbrofi er mwyn datrys problemau’n ymwneud 12 â chynhyrchu bwyd
5 Materion Cyfredol sy’n ymwneud â dewisiadau 12 bwyd defnyddwyr
Diploma Lefel 3 CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth

Rhif yr UnedTeitl yr Uned Credydau 1* Cynllunio i ddiwallu
ymwneud 12 â chynhyrchu bwyd
5 Materion Cyfredol sy’n ymwneud â dewisiadau 12 bwyd defnyddwyr
Diploma 48 credydUned orfodol3 uned opsiynol ychwanegol * Uned orfodol
Y cymwysterau
Mae cymwysterau Gwyddor Bwyd a Maeth CBAC yn cael eu hachredu o fewn y Fframwaith Cymwysterau a Chredyd (FfCCh) ac maent yn gysylltiedig â’r Safonau
Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Technoleg Bwyd, Lletygarwch, Coginio Proffesiynol a Diogelwch Bwyd a rhaglenni Gweithgynhyrchu.
Adnoddau a gwybodaeth bellach
• Canllawiau Athrawon rhyngweithiol sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, gan gynnwys rhestrau o destunau defnyddiol, gwefannau, cynnwys rhyngweithiol, canllawiau ar asesu a chanllawiau ar unedau / themâu (ar gael yn haf 2012)
• Bwletinau e-bost rheolaidd yn rhoi manylion adnoddau newydd a chyrsiau DPP –cofrestrwch i gael y rhain yn www.cbac.co.uk/gwyddorbwydamaeth Cynhelir cyrsiau hyfforddi DPP CBAC mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru a Lloegr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyrsiau, gan gynnwys sesiynau cyflwyno rhad ac am ddim, yn www.cbac.co.uk/datblygiadproffesiynol
Cysylltu
Swyddog Pwnc Allison Candy029 2026 5093 allison.candy@wjec.co.uk
Swyddog Cefnogaeth PwncJeana Hayes029 2026 5115 jeana.hayes@wjec.co.uk

