Skip to main content

Welsh Waterways Manifesto 2016

Page 1

Welsh Waterways

Manifesto 2016 The Inland Waterways Association Supporting the Waterways Heritage of Wales

Maniffesto Dyfrffyrdd

Cymru 2016 The Inland Waterways Association Cefnogi Treftadaeth Dyfrffyrdd Cymru

Keeping our waterways alive

1

www.waterways.org.uk


Pontcysyllte Aqueduct, Llangollen Canal

© Tim Lewis

Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Camlas Llangollen

The Inland Waterways of Wales

The Waterways Can Build and Renew Communities

This document provides an introduction to the waterways of Wales for 2016 Welsh Assembly election candidates and seeks their commitment to work with The Inland Waterways Association both locally and across Wales to promote Welsh waterways. There are almost 120 miles of fully navigable inland waterways in Wales, much of which is owned and managed by Glandŵr Cymru, the Canal & River Trust in Wales, with the balance being mainly in corporate or local authority ownership. Historically a further 135 miles of canal were built but are now derelict. Several volunteer organisations are working on restoring these former waterways to bring them back to life.

They can deliver: • Community health and leisure • Social cohesion and integration • Regeneration • Trade • Heritage • Increased tourism

Every year across urban and rural Wales thousands of us visit inland waterways to fish, walk the towpath, observe wildlife or go boating and enjoy the sheer splendour of our canals and navigable rivers. The waterways of Wales are of recognised international importance: the Pontcysyllte Aqueduct World Heritage Site in North Wales, the Monmouthshire & Brecon Canal passing through the World Heritage Site at Blaenavon, and the Montgomery Canal designated as a Special Area of Conservation under the European Habitats Directive.

The Inland Waterways Association

The Inland Waterways Association is a voluntary member-led charity looking after the interests of all 6,000 miles of inland waterways in England and Wales, working with both navigation authorities and other voluntary societies. The Association has local branches with a national team supported by a small head office staff. There are two branches covering Wales (South Wales Branch and Shrewsbury & North Wales Branch). Our interests include boating, towpath walking, angling, industrial archaeology and nature conservation.

It may seem hard to believe but not that long ago these exceptional places of peace and relaxation were nearly lost forever.

2


Making Waves Festival, Welshpool

© Waterway Images

Gŵyl Making Waves, Y Trallwng

Dyfrffyrdd Mewndirol Cymru

ein diddordebau yn cynnwys defnyddio badau, cerdded ar hyd llwybrau halio, pysgota â gwialen, archaeoleg ddiwydiannol a chadwraeth byd natur.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyflwyniad i ddyfrffyrdd Cymru i ymgeiswyr etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, ac yn gofyn am eu hymrwymiad i gydweithio â Chymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol yn lleol a ledled Cymru er mwyn hyrwyddo dyfrffyrdd Cymru. Mae bron i 120 milltir o ddyfrffyrdd mewndirol y mae modd eu mordwyo yng Nghymru, ac mae’r rhan fwyaf yn berchen i Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, ac yn cael ei rheoli ganddi, ac mae’r gweddill yn bennaf yn berchen i gorfforaethau neu awdurdodau lleol. Yn hanesyddol, cafodd 135 milltir arall o gamlesi eu hadeiladu, ond maent bellach yn segur. Mae sawl sefydliad gwirfoddol yn gweithio ar adfer y dyfrffyrdd hyn er mwyn rhoi bywyd newydd iddynt.

Gall Dyfrffyrdd Adeiladu ac Adnewyddu Cymunedau

Gallant fod o gymorth i: • Iechyd a hamdden cymunedol • Cydlynu ac integreiddio cymdeithasol • Adfywio • Masnach • Treftadaeth • Cynyddu twristiaeth Bob blwyddyn, ledled ardaloedd trefol a gwledig Cymru, mae miloedd ohonom yn ymweld â dyfrffyrdd mewndirol i bysgota, cerdded ar hyd llwybrau halio, gwylio byd natur neu fynd ar fad a mwynhau ysblander pur ein camlesi ac afonydd y mae modd eu mordwyo. Caiff dyfrffyrdd Cymru eu cydnabod am eu pwysigrwydd rhyngwladol: Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yng ngogledd Cymru, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog sy’n ymlwybro drwy Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon, a Chamlas Maldwyn sydd wedi’i dynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig.

Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol

Sefydliad gwirfoddol sy’n cael ei arwain gan yr aelodau yw Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol, ac mae’n gofalu am fuddiannau’r holl ddyfrffyrdd y mae modd eu mordwyo yng Nghymru a Lloegr, gan gydweithio ag awdurdodau mordwyo a chymdeithasau gwirfoddol eraill. Mae gan y Gymdeithas ganghennau lleol a thîm cenedlaethol sy’n cael ei gefnogi gan staff prif swyddfa fach. Mae dwy gangen yn cwmpasu Cymru (Cangen De Cymru, a Changen yr Amwythig a Gogledd Cymru). Mae

Anodd creu, efallai, ond nid amser maith yn ôl bu bron i’r lleoedd eithriadol hyn o heddwch ac ymlacio gael eu colli am byth.

3


Monmouthshire & Brecon Canal

© Bill Perry

© Ralph Mills

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Today the waterways are a valuable part of Britain’s landscape, and the Welsh waterways are an integral part of the waterways scene: in the north providing a popular network crisscrossing the border and in South Wales following river valleys down to busy coastal cities. Their value for leisure, recreation and tourism is valued and they are appreciated for urban regeneration, their industrial heritage, wildlife habitats and for an atmosphere of peace in a busy world. There is a good return for the public funding of canals and navigable rivers. A cautious estimate of a benefit ratio is 1:6 and can be much higher with canalside development for residential, leisure or commercial use.

Grŵp Adfer Dyfrffyrdd y Gymdeithas yn Nhŷ Coch, Camlas Abertawe

Erbyn heddiw, mae’r dyfrffyrdd yn rhan werthfawr o dirwedd Prydain, ac mae dyfrffyrdd Cymru yn rhan greiddiol o hyn: yn y gogledd, maent yn darparu rhwydwaith poblogaidd sy’n croesi’r ffin yn ôl ac ymlaen, ac yn ne Cymru maent yn dilyn dyffrynnoedd yr afonydd i ddinasoedd prysur yr arfordir. Cânt eu gwerthfawrogi am eu gwerth o ran hamdden, difyrrwch a thwristiaeth, yn ogystal ag am adfywio trefol, treftadaeth ddiwydiannol, cynefinoedd bywyd gwyllt ac awyrgylch o heddwch mewn byd prysur. Mae enillion i’w cael ar fuddsoddiad cyhoeddus mewn camlesi ac afonydd y mae modd eu mordwyo. Mae 1:6 yn gymhareb ofalus o fudd, a gall fod yn llawer uwch wrth ddatblygu glannau’r camlesi at ddefnydd preswyl, hamdden neu fasnach.

Working with other organisations

Cydweithio â sefydliadau eraill

The Inland Waterways Association works closely with Canal & River Trust whose Bwrdd Glandŵr Cymru has a close working relationship with the Welsh Government and facilitates the Cross Party Waterway Group within the Assembly. The Association has extensive local contacts with navigation authorities and other waterway organisations across Wales, including community groups and local authorities. One of the ways in which the Association helps to protect the inland waterways of Wales is through maintaining an effective dialogue with users of the waterways as well as the navigation authorities in order to discuss issues and identify solutions to ensure they are resolved. The Inland Waterways Association supports the retention and development of freight on the Inland Waterways and supports proposals for the new Swansea Bay Inland Waterway. The Association also works closely with canal restoration groups and partnerships across Wales, and offers support, technical advice and grants to restoration projects.

IWA’s Waterway Recovery Group at Ty Coch, Swansea Canal

4

Mae Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol yn cydweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, ac mae gan Fwrdd Glandŵr Cymru berthynas weithio agos â Llywodraeth Cymru ac mae’n hwyluso’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd yn y Cynulliad. Mae gan y Gymdeithas gysylltiadau lleol helaeth ag awdurdodau mordwyo a sefydliadau dyfrffyrdd eraill ledled Cymru, gan gynnwys grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol. Un o’r ffyrdd y mae’r Gymdeithas yn helpu i ddiogelu dyfrffyrdd mewndirol Cymru yw drwy gynnal deialog effeithiol gyda defnyddwyr y dyfrffyrdd yn ogystal ag awdurdodau mordwyo er mwyn trafod materion a chanfod atebion i sicrhau y caiff y materion eu datrys. Mae Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol yn cefnogi cadw a datblygu’r arfer o gludo llwythi ar y Dyfrffyrdd Mewndirol ac yn cefnogi’r cynlluniau ar gyfer Dyfrffordd Fewndirol newydd ym Mae Abertawe. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cydweithio’n agos â grwpiau a phartneriaethau adfer camlesi ledled Cymru, ac yn cynnig cymorth, cyngor technegol a grantiau i brosiectau adfer.


© Tim Lewis

5

Chirk Aqueduct, Llangollen Canal Traphont Ddŵr y Waun, Camlas Llangollen


Welsh Waterways Five Point Partnership

3. J oin the Cross Party Group on Waterways

We ask our future Assembly Members to demonstrate that they will protect the waterways of Wales if elected to Welsh Assembly, by pledging their support to the following issues:

This cross party group meets regularly in Cardiff and Assembly Members are encouraged to take part. The Inland Waterways Association is represented at the meetings and delivers briefings on matters relevant to our cause. We ask future Assembly Members to join the Cross Party Group on Waterways and take an active role in the proceedings of the Group.

1. Protect our Heritage

Many of the waterways in Wales were built at the height of the industrial revolution and are home to over 150 Listed structures as well as the two World Heritage Sites. Many are now Sites of Special Scientific Interest. It is vital that planning and development proposals properly protect this unique heritage. We ask that future Assembly Members ensure that legislation takes account of the value of our waterways.

4. P romote a sustainable future for the Waterways

Assembly Members will play an important role in ensuring the benefits of the waterways in Wales can be enjoyed for future generations; without adequate maintenance waterways repair costs can become prohibitive. Therefore we ask Assembly Members to ensure the Welsh Government gives due regard to supporting the proper maintenance, restoration and development of the waterways.

2. B uild a Local Relationship with Constituency Waterways Groups There are many voluntary groups whose members use and promote the waterways in Wales for the benefit of the wider community, including restoration groups, boat clubs, community groups and charities, and the two branches of The Inland Waterways Association. We ask future Assembly Members to support local waterways groups in their constituency.

5. Support Waterway Events

Assembly Members are asked to support waterway events taking place in their region. IWA branches and other canal organisations hold many waterway based events through the year, which highlight local waterway campaigns and bring in lots of visitors. Do come and join us.

6


Partneriaeth Pum Pwynt Dyfrffyrdd Cymru

3. Y muno â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd

Gofynnwn i Aelodau Cynulliad y dyfodol ddangos y byddant yn diogelu dyfrffyrdd Cymru pe cânt eu hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, drwy roi addewid o’u cefnogaeth i’r materion canlynol:

Mae’r grŵp trawsbleidiol hwn yn cwrdd yn rheolaidd yng Nghaerdydd a chaiff Aelodau’r Cynulliad eu hannog i gymryd rhan. Caiff Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol ei chynrychioli yn y cyfarfodydd ac mae’n briffio ar faterion sy’n berthnasol i’n hachos. Gofynnwn i Aelodau Cynulliad y dyfodol ymuno â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd a chwarae rôl weithredol yn ngweithgarwch y Grŵp.

1. Diogelu ein Treftadaeth

Adeiladwyd llawer o’r dyfrffyrdd yng Nghymru pan oedd y chwyldro diwydiannol yn ei anterth, ac maent yn gartref i fwy na 150 o strwythurau rhestredig yn ogystal â dau Safle Treftadaeth y Byd. Mae llawer bellach yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n hanfodol bod cynigion cynllunio a datblygu yn diogelu’r dreftadaeth unigryw hon yn briodol. Gofynnwn i Aelodau Cynulliad y dyfodol sicrhau bod deddfwriaeth yn rhoi ystyriaeth i werth ein dyfrffyrdd.

4. H yrwyddo dyfodol cynaliadwy i’r Dyfrffyrdd

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod manteision y dyfrffyrdd yng Nghymru ar gael i genedlaethau’r dyfodol; heb waith cynnal a chadw digonol, gall costau atgyweirio’r dyfrffyrdd fod yn faen tramgwydd. Felly gofynnwn i Aelodau’r Cynulliad sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw priodol i gefnogi gwaith cynnal a chadw a datblygu i’r dyfrffyrdd.

2. M eithrin Perthynas â Grwpiau Dyfrffyrdd yn yr Etholaethau

Mae llawer o grwpiau gwirfoddol y mae eu haelodau yn defnyddio ac yn hyrwyddo dyfrffyrdd Cymru er lles y gymuned ehangach, gan gynnwys grwpiau adfer, clybiau badau, grwpiau cymunedol ac elusennau, a’r ddwy gangen o Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol. Gofynnwn i Aelodau Cynulliad y dyfodol gefnogi grwpiau dyfrffyrdd lleol yn eu hetholaethau.

5. Cefnogi Digwyddiadau’r Dyfrffyrdd

© JRR Beeton

Gofynnir i Aelodau’r Cynulliad gefnogi digwyddiadau’r dyfrffyrdd sy’n cael eu cynnal yn eu hardal nhw. Mae canghennau’r Gymdeithas a sefydliadau camlesi eraill yn cynnal llawer o ddigwyddiadau yn seiliedig ar y dyfrffyrdd drwy gydol y flwyddyn, sy’n rhoi sylw i ymgyrchoedd lleol ynglŷn â dyfrffyrdd ac yn denu llawer o ymwelwyr. Dewch i ymuno â ni.

7

Brecon Basin, Momouthshire & Brecon Canal Basn Aberhonddu, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog


Pirate Day at 14 Locks, Monmouthshire & Brecon Canal Dydd Morladron, Pedair Llifddor a’r Ddeg, Camlas Sir Fynwy a Brycheinog

The Inland Waterways of Wales: Canal & River Trust Other Navigation Authority Unnavigable or Proposed Waterway Llangollen Canal Camlas Llangollen

Montgomery Canal Camlas Maldwyn

Birmingham Birmingham

Monmouthshire, Brecon & Abergavenny Canals Camlas Sir Fynwy a Brycheinog

Swansea Canal

Camlas Abertawe Neath & Tennant Canals Camlas Nedd a Tennant

Newport Casnewydd Cardiff Caerdydd

Bristol

Cover image: Llangollen Canal looking West towards Dinas Bran Castle by Mike Byrne The Inland Waterways Association is a non-profit distributing company limited by guarantee. Company registration number 612245. Charity registration number 212342. Registered office: Island House, Moor Road, Chesham, HP5 1WA

8

Keeping our waterways alive


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Welsh Waterways Manifesto 2016 by The Inland Waterways Association - Issuu