Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru Adroddiad Effaith 2017/18
Cynnwys 06 Democratiaeth 10 Ymgyrch 14 Llais Myfyrwyr 20 Chwaraeon a Chymdeithasau 24 Y Glas a Y Glas II 26 Cyngor a Chefnogaeth 27 Enillion Swyddogion a Chanlyniadau
Croeso o’r Llywydd Bu’n flwyddyn wych! Rwy’n falch iawn i gyflwyno ein Hadroddiad Effaith sy’n tynnu sylw i llwyddiannau Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru eleni. Fel Undeb, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl; a thrwy ein partneriaethau gyda’r corff myfyrwyr, y Brifysgol a rhanddeiliad allanol, rydym wedi gallu darparu buddugoliaethau gwych i fyfyrwyr. Gan gynnwys ymestyn oriau agor y llyfrgell, ail-adolygu’r Glasbrint Academaidd i atal clystyru aseiniadau ac ennill grantiau i roi cefnogaeth bellach i gymdeithasau. Eleni, rydym wedi gweithio’n galed i gryfhau ein partneriaeth gyda’r Brifysgol i sicrhau bod ein llais cyfunol fel myfyrwyr yn cael ei chlywed. Rwyf am gymryd y cyfle hwn i ddiolch bob myfyriwr am eich cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf - ni allem fod wedi ei wneud heb eich adborth.
Megan Wilson Llywydd, UMPDC, 2017-18
Am yr Undeb Myfyrwyr Fel llais cydnabyddedig myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn sicrhau bod llais cyfunol o dros 28,000 o fyfyrwyr yn cael ei glywed ar y lefel uchaf. Mae pob myfyriwr yn aelod o’r Undeb, difater o os ydych chi’n fyfyriwr llawn-amser, rhan-amser, israddedig neu ôlraddedig, felly os nad ydym ar hyn o bryd yn darparu rhywbeth yr hoffech i ni ei wneud, galw heibio a siarad â ni. Byddem wrth ein bodd i gwrdd â chi!
544 Myfyrwyr wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth cyffuriau
Ein Gwerthoedd
Cydraddoldeb. Empathi. Democratiaeth. Amrywiaeth. Dysgu a bod yn Agored.
Ein Gweledigaeth I fod y gorau y gallwn fod.
5,178 Wedi cofrestu i clybiau, timau a chymdeithasau yn Ffair y Glas
4
175
633
318
Anrhegion wedi rhoddi i Apêl Siôn Corn
Cynrychiolwyr cwrs
Myfyrwyr wedi’u cefnogi gan y Swyddogion Sabathol
475
1437
40k
O ymatebion i’r Wythnos Siarad
Enwebiadau wedi derbyn i Gwobrau Dewis y Myfyrwyr
Peintiau wedi’u gwerthu yn Lleoliadau UM
55
Democratiaeth Mae’r Undeb Myfyrwyr yn sefydliad democrataidd sy’n annibynnol o’r Brifysgol ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr. Mae’r Undeb Myfyrwyr yn annog pob myfyriwr yn PDC i gymryd rhan mewn cyrff llunio polisïau fel y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ac i ddefnyddio’u pleidlais i ddewis eu tîm swyddogion yn yr etholiadau myfyrwyr.
Etholiadau Bob blwyddyn, mae tîm o Swyddogion Gweithredol yn cael ei ethol gan y gorff myfyrwyr i gynrychioli a llywio’r Undeb Myfyrwyr. Mae’r Swyddogion Gweithredol yn gweithio gyda thîm ymroddgar o Swyddogion, staff a gwirfoddolwyr rhan-amser, i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar y lefel uchaf.
1002 6049 5.05%
Pleidleiswyr
Pleidlais
Cynulliad 6
7
8
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Undeb y Myfyrwyr unwaith y flwyddyn a gwahoddir ac anogir pob myfyriwr i’w fynychu. P’un a yw’n dadlau a mabwysiadu polisi, neu fandadu Swyddogion i ymgyrchu ar faterion penodol, mae’r CBC yn gyfle i fyfyrwyr gael eu dweud am gyfeiriad yr Undeb Myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, mae’r CBC yn gyfle i fyfyrwyr graffu ar waith y Swyddogion Etholedig a sicrhau eu bod yn cyflawni’r addewidion a wnânt yn ystod eu hymgyrch etholiadol.
6 138
Syniadau wedi’u cyflwyno a’u trafod
Myfyrwyr yn bresennol
9
Ymgyrch Mae ymgyrch yn ymwneud â gwneud newid. Mae gan fyfyrwyr hanes cryf o sbarduno newid a gwneud gwahaniaeth i’w cymuned. Mae’r Undeb Myfyrwyr yn rhedeg ymgyrch gydag ac i fyfyrwyr, i wneud effaith gadarnhaol a barhaol i brofiadau myfyrwyr yn PDC. Eleni, cyflwynodd Undeb y Myfyrwyr, mewn cydweithrediad â Swyddogion y Cyngor Myfyrwyr a gwirfoddolwyr, ymgyrch i godi gwell ymwybyddiaeth am Iechyd Meddwl a chefnogi myfyrwyr sydd yn rhieni gyda gweithgareddau yn ystod hanner tymor. Yn ogystal a hyn, darparwyd gweithgareddau lleddfu straen gan gynnwys “cwtch â cwn”.
23+ £909 175 Cwn wedi cwtsio
Wedi’i godi ar gyfer gwahanol elusennau
Anrhegion wedi rhoddi i Apêl Siôn Corn.
10
Ymgyrch “Cael Hygge” ‘Hygge’ yw’r gair Daneg a ddefnyddir i ddisgrifio teimlad neu foment sy’n glyd, swynol neu arbennig. Roedd ein hymgyrch ‘Cael Hygge’ yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau i leddfu straen a creu teimlad o les neu ddathliad. Digwyddiadau fel chwarae gyda lapio swigod, negeseuon syfrdanol o hapusrwydd mewn llyfrau, diwrnod cwtch â cwn, a rhoi bucks fizz/siocled i fyfyrwyr wrth adael arholiadau.
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron Drwy gydol mis Hydref, cynhaliodd y Swyddogion Sabathol ymgyrch “On Wednesdays We Wear Pink!” i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymchwil Canser y Fron, gan gynnwys y thema hon ar gyfer un o nosweithiau Sgôr. Codwyd cyfanswm o £450 ar gyfer Cancer Research UK a Breast Cancer Care.
Mis Hanes LGBT + Bob blwyddyn rydym yn neilltuo Chwefror i ddathlu Mis Hanes LGBT+. Rydym yn cofio’r rhai sydd wedi eu herlid a’r rhai sy’n parhau i cael trafferth am hawliau cyfartal. Cynhaliodd yr Undeb nifer o ddigwyddiadau yn fis Chwefror fel sioe drag, digwyddiad Coffi LGBTea+, ynghyd â llu o siaradwyr gwadd yn y Zen bar i godi ymwybyddiaeth. 11 11
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cododd yr Undeb arian ar gyfer Tlodi Mislif a chasglwyd cynhyrchion glanweithiol, a rhoddwyd pob un ohonynt i fenywod digartref sy’n dioddef o Dlodi Mislif. 12
Diwrnod Hapusrwydd Cymru Yn ôl ffigurau swyddogol, mae Cymru yn gyson yn syrthio tu ôl i weddill y DU o ran lefelau hapusrwydd. Felly, ym mis Ionawr, ymunom â ymgyrch ‘Diwrnod Hapusrwydd Cymru’ i wella lles trwy roi allan ‘cwtch am ddim’ i bobl yng nghanol Dinas Caerdydd.
Diwrnod Rhyngwladol Ninja
Diwrnod Coffa Pobl Draws
Canolbwyntiodd yr ymgyrch hon ar hyrwyddo hunanamddiffyn, ymwybyddiaeth a dosbarthodd yr Undeb larymau diogelwch personol. Fe wnaeth y Clwb Karate hwyluso sesiwn am ddim i’n myfyrwyr i ddysgu hunan amddiffyniad. Yn ogystal, cynhyrchodd y Swyddogion blog ar sut i gadw’n ddiogel yn y Brifysgol.
Fe’i cyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Swyddog Hunaniaeth Rywiol a Swyddog Cyfeiriadedd Rhywiol, roedd diwrnod coffa pobl draws eleni lawer yn fwy na digwyddiad llynedd. Cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr ddigwyddiad ffurfiol i dalu parch at aelodau’r gymuned drawsrywiol a’r 40 gollwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
13 13
Llais y Myfyrwyr Mae’r tîm cynrychiolwyr myfyriwr yn bodoli i gynrychioli safbwyntiau academaidd a diddordebau myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r Cyngor Myfyrwyr, y Cynrychiolwyr Cwrs a’r Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn pontio’r bwlch rhwng Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed a’i gymryd o ddifrif ar bob lefel.
653 633 313 179
O gynrychiolwyr myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Cynrychiolwyr Cwrs wedi’u hyfforddi
Cynrychiolwyr Cwrs yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol
14
Cynrychiolwyr Cwrs Prif rôl Cynrychiolwyr Cwrs yw casglu adborth gan gyd-ddisgyblion a’i drosglwyddo i staff addysgu. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ansawdd uchel y darpariaethau dysgu ac addysgu yn y Brifysgol trwy fod y pwynt cyswllt cyntaf rhwng Arweinwyr Cwrs / Modiwl a myfyrwyr. Mae Cynrychiolwyr Cwrs mewn sefyllfa dda i helpu myfyrwyr sydd â phroblemau sy’n gysylltiedig â’r cwrs, dweud wrth y staff pan fydd rhywbeth yn gweithio’n dda, ac yn gwneud newidiadau cadarnhaol ar ei chwrs i fyfyrwyr presennol ac yn y dyfodol.
Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn gweithio tuag at wella ansawdd dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr. Drwy sefydlu sianeli cyfathrebu gyda’r myfyrwyr, mae CLM yn cynrychioli corff y myfyrwyr yn effeithiol a dylanwadu ar strategaeth a phenderfyniadau yng nghyfarfodydd pwyllgorau’r gyfadran. Yn ystod eu hamser yn y rôl, mae CLM yn ymchwilio, yn ymgyrchu ac yn cynhyrchu adroddiad ar gyfer eu cyfadran ar faterion academaidd sydd wedi codi.
Prosiectau Mae rhai o’r prosiectau mae’r Cynrychiolwyr Llais wedi ysgrifennu yn cynnwys: • Gwella Amgylchiadau Esgusodol • Edrych i Fannau Dysgu Trawsffurfiol • Annog y defnydd o dechnoleg mewn darlithoedd • Canfod gwelliannau posibl i’w gwneud i lleoliadau’r Undeb Myfyrwyr • Archwilio ymgysylltiad myfyrwyr ar draws demograffeg gwahanol • Archwilio Dadansoddiadau Dysgwyr
15
Gwobrau Dewis y Myfyrwyr Mae’r Gwobrau Dewis y Myfyrwyr yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr enwebu staff a myfyrwyr PDC sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i’w dysgu a’u datblygiad. Mae’r gwobrau’n cydnabod arferion addysgu arloesol ac ysbrydoledig ac yn dathlu rhagoriaeth yn PDC. Mae’r Undeb Myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr PDC i drefnu a chyflwyno’r gwobrau, sydd yn eu seithfed flwyddyn.
1437 9 173
O enwebiadau wedi ei dderbyn
Categori
16
Balwnau
17
18
Wythnos Siarad Mae Wythnos Siarad yn ymgyrch sy’n darparu llwyfan i fyfyrwyr rannu eu barn ar bob agwedd o fod yn fyfyriwr yn PDC. Mae Wythnos Siarad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr myfyrwyr a rhoi adborth ar eu profiad Prifysgol. Mae’r Undeb Myfyrwyr yn casglu pob adborth a’i ddefnyddio i hysbysu’r Brifysgol o’r newidiadau y mae ein myfyrwyr eisiau eu gweld. Roedd adborth eleni yn ein galluogi ni i herio’r Brifysgol ar glystyru aseiniadau, amserlennu, ac enillwyd barcio ceir 24 awr yng nghampws Trefforest. Ar ddiwedd yr wythnos, fe wnaeth Llywydd yr UM, Megan Wilson cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn fyw ar Facebook gyda Dirprwy IsGanghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, Ben Calvert, yn seiliedig ar yr adborth casglwyd.
475 23
O ymatebion i’r Wythnos Siarad
Gwirfoddolwyr
19
Chwaraeon a Chymdeithasau Mae’r Undeb Myfyrwyr yn hwyluso’r gwaith o redeg 105 o glybiau, timau a chymdeithasau. Er bod yr Undeb Myfyrwyr yn goruchwylio’r grwpiau hyn, mae myfyrwyr etholedig yn eu carfan yn gyfrifol am drefniadaeth eu clwb, eu tîm neu gymdeithas o ddydd i ddydd. Eleni, mae cymdeithasau wedi bod yn gynyddol lwyddiannus yn eu Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a’u digwyddiadau. Trefnodd y Cymdeithas Ceiropracteg a’r Cymdeithas Bydwreigiaeth gynhadleddau lawn yn llwyddiannus. Cystadlodd y Cymdeithas Cheerleading a Dawns mewn dwy gystadleuaeth gydag un yn cael ei ddyfarnu 0 didyniad! Cafodd tri o’n cymdeithasau ei enwebu yn y Gwobrau Cymdeithasau Cenedlaethol blynyddol, gyda’r Gymdeithas Ceiropracteg a’r Gymdeithas Ddaear ar y rhestr fer ac yn ail yn eu categorïau priodol.
814 379
O fyfyrwyr yn rhan o gymdeithas
20
Wedi’u cofrestru fel rhan o glwb
21
BUCS Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cofrestru timau yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Eleni roedd 39 o dimau wedi’u cofrestru ac yn cystadlu mewn BUCS gyda chyfanswm o 439 o fyfyrwyr yn cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon. • . •
Cyrhaeddodd 5 o dimau rowndiau terfynol Enillodd Rygbi Menywod a Phêl Foli Menywod eu Cwpan Cynhadledd Orllewinol Mynychodd 544 o fyfyrwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth cyffuriau
39 379 120 O dimau
O gemau
O wobrau
22
23
Y Glas Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod Wythnos y Glas, sy’n gyfle i gyfarfod a dod i adnabod ein carfan fyfyriwr newydd. Uchafbwynt Wythnos y Glas yw Ffair y Glas, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymuno â chlwb neu gymdeithas, darganfod pa wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr PDC a gwneud y mwyaf o’r freebies. Eleni, roedd gan Ffair y Glas a’r Ffeiriau stryd 5,178 o gofrestriadau unigol i’n 65 glybiau, timau a chymdeithasau a arddangosodd.
Y Glas II Mae Wythnos y Glas II yn gyfle i’r Undeb Myfyrwyr i gwrdd â myfyrwyr newydd ac atgoffa myfyrwyr sy’n dychwelyd y gallant gofrestru gyda chymdeithas neu glwb unrhyw adeg o’r flwyddyn. Trefnwyd Ffair y Glas II ar draws y tri champws ac roedd dros 1500 o fyfyrwyr yn bresennol. Ymunodd mwy na 20 o gymdeithasau a chlybiau i helpu i groesawu’r myfyrwyr newydd i’r gymuned a darparwyd 30 o gwmnïau lleol a chenedlaethol ‘freebies’ a cynigion arbennig i fyfyriwr
24
Cyfathrebu 11,386 5,296 1,755 10,000 4,758 Dilynwyr Facebook
Dilynwyr Twitter
Dilynwyr Instagram
O wylwyr ar fideo Facebook byw Y Glas
O fyfyrwyr yn ymweld â wefan Y Glas
25
Cyngor a Chefnogaeth Mae Swyddogion Gweithredol yr Undeb Myfyrwyr wedi ymrwymo i ddatrys materion sy’n ymwneud ag addysg a lles y gallai myfyrwyr eu profi yn ystod eu hamser yn y Brifysgol. Mae’r Swyddogion Gweithredol wedi’u hyfforddi i allu darparu cefnogaeth ar ystod o faterion, o gwynion tai i lên-ladrad. Maent yn cynnig system cefnogi cyfoedion i gyfoedion ac yn cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol.
318 89 Myfyrwyr wedi’u cefnogi gan Swyddogion
Mewn gwaith achos academaidd
70 160
Mewn achosion lles
26
Wedi’i cefnogi trwy gamau anffurfiol
Buddugoliaethau’r Swyddogion • Enillwyd grant o £2000 ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau. • Cynyddu’r oriau agor ar gyfer y llyfrgelloedd. • Ffynnon dwr ar gael ym mhob llyfrgell . • Mwy o finiau gwastraff a biniau ysmygu ar gampws. • Codwyd £909 ar gyfer elusennau. • Parcio ceir 24 awr yng Nghampws Trefforest. • Enillwyd £500 o gyllid gan yr UCM ar gyfer ymgyrch Iechyd Meddwl. • Mwy o opsiynau fegan ar draws allfeydd UM. • Mynd i’r afael â phryderon amserlennu myfyrwyr, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr o leiaf bedair awr o ddarlithoedd heb fod yn fwy na bwlch tair awr. • Adolygwyd Glasbrint Academaidd i gael gwared o glystyru aseiniadau. • Diwygiwyd Cytundeb Perthynas y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr. • Cychwyn trafodaethau o amgylch newidiadau amserlennu dydd Mercher. • Cychwyn cymorth i Rieni Myfyrwyr. • Diwrnod Coffa Pobl Draws cyntaf. • Cychwyn system raddio ar gyfer cymdeithasau.
27
CYM