CROESO
Mae Prifysgol De Cymru'n trefnu gweithdai, cyflwyniadau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 (neu flwyddyn coleg sy'n cyfateb) i'w hysbrydoli a'u hysbysu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt ar ôl ysgol neu goleg.
Gwahoddir myfyrwyr i ymweld â'n campysau, defnyddio ein cyfleusterau o'r radd flaenaf, gwrando ar ein darlithwyr arbenigol a darganfod y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael mewn pynciau STEM.
Mae gennym ystod o sesiynau allgymorth ar gael i'w darparu yn eich ysgol neu goleg hefyd.
Mae ein sesiynau'n:
Rhad ac am ddim
Cael eu cyflwyno mewn person neu ar-lein
Cael eu teilwra i ddiwallu anghenion eich myfyrwyr
Am fwy o wybodaeth, neu i drefnu dyddiad ar gyfer ein gweithgareddau blasu, e-bostiwch ysgolionacholegau@decymru.ac.uk.
CYNNWYS
TUDALEN 4
Gwyddorau Biolegol
TUDALEN 5
Gwyddor yr Amgylchedd a Hanes Naturiol
TUDALEN 7
Gwyddoniaeth ac
Ymchwiliad Fforensig
TUDALEN 8
Cyfrifiadura
TUDALEN 6
Gwyddorau Cemegol a Fferyllol
TUDALEN 9
Peirianneg
GWYDDORAU BIOLEGOL
DIGWYDDIADAU AR Y CAMPWS
Diwrnodau Blasu Gwyddorau
Biolegol:
Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys nifer o sgyrsiau a gweithdai a fydd yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod o gyfleoedd sy'n codi o ddilyn gradd mewn Bioleg, Gwyddoniaeth
Fiofeddygol, Gwyddorau Meddygol a Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol.
SGYRSIAU A GWEITHDAI YN EICH YSGOL NEU GOLEG
Sut i Fynd i mewn i Feddygaeth
Y Galon a'r ECG Microbau Gwych
Bodau Dynol a Bywyd Gwyllt
Coedwigoedd Trofannol:
Llefydd Arbennig gyda Bywyd Gwyllt Arbennig
Yr Argyfwng Gwrthfiotig
Dadansoddiad Ysgerbydol
Rhestrir sgyrsiau a gweithdai pellach ar ein gwefan.
GWYDDOR YR AMGYLCHEDD A HANES NATURIOL
I neilltuo lle ar gyfer digwyddiad, e-bostiwch: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
DIGWYDDIADAU AR Y
CAMPWS
Diwrnod Blasu Gwyddor yr
Amgylchedd a Hanes Naturiol:
Mae ein cyrsiau Gwyddor yr
Amgylchedd yn canolbwyntio ar heriau a datrys problemau newid hinsawdd, adnoddau
adnewyddadwy, llygredd
amgylcheddol, cadwraeth ar gyfer bioamrywiaeth a rheolaeth
amgylcheddol. Rydym am annog myfyrwyr ysgol a choleg i archwilio'r pynciau hyn trwy ddarparu profiadau ymarferol ar y campws ym Mhrifysgol De Cymru.
SGYRSIAU A GWEITHDAI YN
EICH YSGOL NEU GOLEG
Gwleidyddiaeth yr Amgylchedd
Bioamrywiaeth: Bywyd ar Blaned sy'n Newid
Lleoedd (Angh)Cynaliadwy
Esblygiad Rhywogaethau: DNA a Blociau Adeiladu Bywyd ar y
Ddaear
Ffyngau Gwych
Sut mae Creigiau yn gwneud
Planhigion
Addasu i Newid Hinsawdd a Seilwaith Gwyrdd
GWYDDORAU CEMEGOL A
FFERYLLOL
DIGWYDDIADAU AR Y
CAMPWS
Dosbarth Meistr Sbectrosgopeg:
Bydd myfyrwyr yn cryfhau eu dealltwriaeth o Sbectrosgopeg IR a NMR gyda darlith ragarweiniol ac yna gweithdy ymarferol yn ein cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf.
Diwrnod Blasu Gwyddoniaeth
Fferyllol:
Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o gemeg ffisegol ac organig yn ein cyfleusterau labordy modern.
Rhestrir sgyrsiau a gweithdai pellach ar ein gwefan.
GWYDDONIAETH AC
YMCHWILIAD FFORENSIG
I neilltuo lle ar gyfer digwyddiad, e-bostiwch: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
DIGWYDDIADAU AR Y
CAMPWS
Gwaith Fforensig a Phlismona:
Gall myfyrwyr cymryd rhan yn ein diwrnod blasu newydd 'Safle Trosedd i'r Llys'. Yn ystod y digwyddiad bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae gwaith fforensig a phlismona yn helpu i ddatrys achos penodol.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys adnabod olion bysedd yn ein labordai fforensig, ynghyd â gweithdrefnau a ddefnyddir gan swyddogion yr heddlu i helpu i ymchwilio i'r drosedd sydd wedi digwydd.
SGYRSIAU A GWEITHDAI YN
EICH YSGOL NEU GOLEG
Byd Olion Bysedd Adnabod Sylweddau Anhysbys MAE
CYFRIFIADURA
DIGWYDDIADAU AR Y CAMPWS
Diwrnod Blasu Cyfrifiadura:
Mae ein cyrsiau Cyfrifiadura a TGCh yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu’r sgiliau ymarferol hanfodol sydd angen ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn y diwydiant TG.
Yn y digwyddiad hwn fe gewch gyfle i weld sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ddatrys problemau byd go iawn a bod yn greadigol gyda pheth o’n cit wedi'i bweru gan Raspberry Pi, wrth i chi archwilio un o themâu allweddol ein cyrsiau: Y Rhyngrwyd Pethau.
Diwrnod Blasu’r Academi
Seibrddiogelwch Genedlaethol
(NCSA):
Bydd eich myfyrwyr yn cael y cyfle i gael profiad o gasglu tystiolaeth mewn lleoliad trosedd digidol; torri codau i ddatrys helfa drysor cryptograffig, datrys posau ystafell ddianc, chwilio am a chipio baneri cudd mewn system weithredu Linux, yn ogystal â llawer o agweddau eraill ar ddiogelwch a diogeledd ar-lein.
OSINT - Casglu Gwybodaeth
Ffynhonnellau Agored
Setiau Fuzzy a Fuzzy Logic Y Rhyngrwyd Pethau
Rhestrir sgyrsiau a gweithdai pellach ar ein gwefan.
PEIRIANNEG
I neilltuo lle ar gyfer digwyddiad, e-bostiwch: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
DIGWYDDIADAU
AR Y
CAMPWS
Diwrnod Blasu Peirianneg: Dewiswch o'n hystod o ddisgyblaethau peirianneg i adeiladu diwrnod ymweld â Pheirianneg PDC a fydd yn addas i'ch myfyrwyr.
Cymdeithas Rocedi PDC –
Adeiladwch Roced Eich Hun: Bydd ein Cymdeithas Rocedi arobryn yn ymuno â myfyrwyr am gyflwyniad i rocedi gyda'r cyfle i adeiladu roced eu hunain. Byddwn wedyn yn eich gwahodd chi a’ch myfyrwyr i lansio eich rocedi ar ein safle lansio yng Nghasnewydd.
SGYRSIAU A GWEITHDAI YN
EICH YSGOL NEU GOLEG
CAD: Pam Dylunio trwy Gymorth Cyfrifiadur?
Technoleg arloesol a’i effaith ar ein dyfodol Effeithiau Cymdeithasol ac Amgylcheddol Peirianneg Sifil
DISGYBLAETHAU
PEIRIANNEG YN PDC:
Awyrennol, Awyrofod, Cynnal a Chadw Awyrennau, Modurol, Amgylchedd Adeiledig, Sifil, Trydanol ac Electronig a Mecanyddol.
Cefnogwch eich myfyrwyr i gynllunio eu yfory, heddiw.
Rydyn ni'n credu mewn creu gwell yfory, a dyna pam rydyn ni'n dechrau torri'n ôl ar ddeunyddiau printiedig lle bynnag y bo modd.
Mae ein prosbectws digidol newydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar eich myfyrwyr am PDC mewn un lle. Sganiwch y cod QR isod neu ewch i prosbectws.decymru.ac.uk.
Chwiliwch: DeCymru
Cynhyrchwyd gan Fyfyrwyr y Dyfodol , Prifysgol De Cymru.
Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.