GRADDIO


![]()


Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor
Ar ran Prifysgol De Cymru, mae'n bleser aruthrol croesawu pob un o'n graddedigion PDC yma heddiw.
Mae graddio yn garreg filltir allweddol yn eich bywyd – bydd llawer ohonoch wedi symud oddi cartref am y tro cyntaf ac wedi dysgu byw'n annibynnol, efallai mai rhai ohonoch yw'r person cyntaf yn eich teulu i raddio, fel yr oeddwn i, neu, i eraill, efallai eich bod wedi dychwelyd i astudio i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Gobeithiaf y byddwch i gyd yn mwynhau'r foment arbennig hon ac yn cael diwrnod gwirioneddol gofiadwy.
Hyderaf fod eich amser yn y Brifysgol wedi ehangu eich gorwelion, wedi agor llwybrau at gyfleoedd gyrfa cyffrous a heriol, a'ch llenwi ag ysbryd ymholi ac awydd am ddysgu gydol oes.
Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod arbennig i'ch ffrindiau a'ch teuluoedd sydd wedi eich cefnogi yn eich astudiaethau, ac rydym yn estyn croeso cynnes iddynt. Mae ein staff sydd wedi eich dysgu, eich annog a'ch arwain ar eich taith academaidd yn rhannu eu hymdeimlad o falchder llawn cymaint. Mae Seremonïau Graddio’n wastad yn uchafbwynt ein blwyddyn academaidd ac rydym yn falch o fod gyda chi i ddathlu.
Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gobeithiwn y byddwch yn mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon i'r Brifysgol a phopeth yr ydym yn ceisio'u cyflawni. Cadwch mewn cysylltiad, dywedwch wrthym am gamau nesaf eich taith, ac ymunwch â'n cymuned werthfawr o gyn-fyfyrwyr. Cofiwch y byddwch chi bob amser yn rhan o'n teulu PDC anhygoel.
Dymunaf bob hwyl i chi yn eich ymdrechion yn y dyfodol: byddwch yn feiddgar, yn llawn dychymyg, ac, yn bwysicaf oll, byddwch yn ysbrydoliaeth i'ch cyfoedion trwy wneud i bethau ddigwydd.


Is-Ganghellor
Sefydlwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae ganddynt hanes cyfoethog ac amrywiol, a gallant olrhain eu gwreiddiau yn ôl dros 180 o flynyddoedd.

Sefydlwyd Sefydliad Mecaneg Casnewydd i ddarparu addysg bellach i weithwyr a masnachwyr.

Daeth y coleg yn un polytechnig, gan gynnig diplomâu uwch, graddau israddedig ac ôl-raddedig.

Daeth Coleg Merthyr Tudful yn rhan o Brifysgol Morgannwg.

Ffurfiwyd PDC yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Agorodd Sefydliad Technegol Casnewydd, a adwaenir yn lleol fel yr ‘Ysgol Gelf’.

Unwyd Coleg Addysg Caerllion, Coleg Celf a Dylunio Casnewydd a Choleg Technoleg Gwent i ffurfio Coleg Addysg Uwch Gwent.

Agorodd Prifysgol Morgannwg ei hadeilad ATRiuM yng Nghaerdydd, gan gynnig cyfleuster dysgu pwrpasol i fyfyrwyr diwydiannau creadigol.

Datgelwyd datblygiad gwerth £15m i Barc Chwaraeon PDC, gan gynnwys y cae pêl-droed 3G maint llawn cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru.

Ffurfiodd arweinwyr diwydiannol Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Sir Fynwy, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg.

Enillodd Coleg Polytechnig Cymru yn Nhrefforest statws prifysgol a daeth yn Brifysgol Morgannwg.

Daeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Brifysgol Morgannwg.

Agorwyd man dysgu ac addysgu newydd ar gyfer Ceiropracteg yn Nhrefforest - cam cyntaf datblygiad mwy, gyda Chlinig newydd i'w adeiladu yn 2025.

Agorodd Coleg Hyfforddi Caerllion i hyfforddi myfyrwyr gwrywaidd fel athrawon.

Daeth yr Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg yn Goleg Technegol Morgannwg, gan adlewyrchu ei bortffolio cynyddol.


Derbyniwyd Coleg Addysg Uwch Gwent i Brifysgol Cymru fel Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Lansiwyd Athrofa Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd fel partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer adeilad academaidd newydd yn Nhrefforest. Mae'r gwaith yn bwriadu dechrau’r haf hwn a bydd yn cymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau.

Sicrhaodd Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd Gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor i ddefnyddio'r teitl Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Agorodd Campws Casnewydd, gan ddod yn gartref i fyfyrwyr o Ysgol Fusnes Casnewydd a llawer o Ysgol y Cyfryngau a Dylunio.
Mae’r byrllysg seremonïol yn seiliedig ar arf a ddefnyddiwyd fel symbol o awdurdod. Ffon fetel neu bren wedi’i haddurno ydyw a gaiff ei chario gan gludwr y byrllysg. Mae’n cynrychioli statws brenhinol neu sefydliad mawr mewn seremoni ddinesig, neu wrth gynnal busnes deddfwriaethol neu weithredol. Mewn cyd-destun academaidd, mae’n symbol o awdurdod y Brifysgol i ddyfarnu graddau a chynnull digwyddiadau mawr fel y seremoni heddiw.
Cafodd y pastwn ei gynllunio yn arbennig ar gyfer y Brifysgol gan y darlithydd a’r artist arobryn Jeremy Spencer, a’i weithgynhyrchu gyda thîm o beirianwyr a phrentisiaid yn GE Aviation Wales, a gefnogwyd gan gwmnïau arbenigol lleol. Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf ar gyfer gorseddu’r Canghellor, ac mae’n cyfuno cynllun a deunyddiau modern gyda thraddodiad y pastwn academaidd.
Mae arfbais Prifysgol De Cymru yn adlewyrchu gorffennol a dyfodol y Brifysgol. Enw’r dyluniad yw Arfbais Cyflawni, a’r elfen bwysicaf yw’r darian. Mewn herodraeth, y maes yw’r enw a roddir i wyneb y darian, sydd mewn gwyrdd, i gynrychioli lleoliad y Brifysgol a’r disgyblaethau amgylcheddol a gaiff eu hastudio yma.
Uwchben y darian, gwelir y llyw, sy’n gysylltiedig â chyrff corfforaethol. Ar ben y llyw, o fewn y coronbleth, o ddefnydd sidan arian a gwyrdd, mae’r arfbais. Mae’r arfbais yn dangos y ddraig goch gydag adennydd ar agor yn gafael mewn matrics cof fferrit cyfrifiadur, sy’n cynrychioli agweddau technegol y Brifysgol a’r cysylltiad rhwng yr hen a’r newydd. Ceir dwy ddraig yn cynnal y darian, sy’n cynrychioli Cymru a’r Dwyrain, i adlewyrchu natur ryngwladol y Brifysgol.
Fe welwch amrywiaeth o wisgoedd academaidd yn y seremoni heddiw. Mae gwisg academaidd Prifysgol De Cymru yn dilyn y traddodiadau a sefydlwyd yn yr Oesoedd Canol, pan aeth prifysgolion gwreiddiol y byd Gorllewinol ati i addasu gwisg yr oes i amlygu eu hysgolorion.
Mae’r gŵn yn seiliedig ar y roba, sef gŵn a fyddai’n cael ei wisgo o dan y cappa clausa, gwisg a oedd yn debyg i glogyn hir. Mae gwahanol fanylion y wisg academaidd bellach yn cynrychioli’r brifysgol a’r radd y mae’r sawl sy’n ei gwisgo yn perthyn iddi.
Mae cyflau is-raddedigion a Meistri’r Brifysgol yn amrywiadau ar goch a llech-lwyd, ac mae gwisg lawn ffurfiol gradd Doethur wedi’i gwneud, yn draddodiadol, o ddefnydd coch sidanaidd llachar. Mae uwch swyddogion prifysgolion Prydain, ar y cyfan, yn gwisgo gwisg nodedig fwy coeth.
Dyluniwyd a chrëwyd gŵn y Canghellor yn arbennig ar gyfer Prifysgol De Cymru, ac mae’n dilyn ffurf draddodiadol gwisg seremonïol sy’n arwydd o bwysigrwydd ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwelir y math hwn o ŵn hefyd mewn gwisg ffurfiol swydd-ddeiliaid gwladol fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin a’r Arglwydd Ganghellor.
Mae gŵn Canghellor y Brifysgol wedi’i gwneud o ddefnydd damasg coch ‘truro’, wedi’i addurno â gwyn, gydag addurniadau llwyd ar y blaen. Gelwir yr addurniadau lliw arian ar y llewys yn ‘fotymau’. Penwisg grwn, meddal yw het y Canghellor, a chaiff ei galw’n Fonet Tuduraidd, ac mae’i gwreiddiau wedi hen sefydlu yn nhraddodiadau academaidd y DU. Mae Is-Ganghellor ac uwch swyddogion y Brifysgol yn gwisgo gynau nodedig yn seiliedig ar y cynllun cyffredinol hwn.




Bob blwyddyn, mae Cynllun Gwobrau Er Anrhydedd y Brifysgol yn dathlu cyflawniadau arwyddocaol unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol yn eu maes/meysydd gweithgaredd a ddewiswyd ac mae ganddynt gysylltiad â threftadaeth a chenhadaeth PDC.
Dyfernir Doethuriaethau Er Anrhydedd i unigolion nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis faes ac mae ganddynt gysylltiad â threftadaeth a chenhadaeth PDC. Dyfernir Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi gwasanaethu'r Brifysgol neu faes disgyblaeth gyda rhagoriaeth arbennig.
Enwebir anrhydeddau gan gydweithwyr yn y Brifysgol, aelodau o Fwrdd Llywodraethwyr, a’r Cyngor Undeb Myfyrwyr, ac fe’u hystyrir gan y Pwyllgor Urddo.
AMLDDISGYBLAETHOL

Mae Connor Allen yn fardd angerddol ac yn artist amlddisgyblaethol o Gasnewydd. Mae'n falch o'i wreiddiau dosbarth gweithiol ar ystad cyngor Casnewydd - thema sy'n aml yn ymddangos yn ei waith.
Mae ei gefndir mewn actio, ond mae hefyd yn ysgrifennwr brwd sy’n creu cerddi, dramâu, a chynyrchiadau eraill.
Yn 2021, cafodd gynnig y rôl fel Bardd Plant Cymru a dderbyniodd yn falch gyda'r nod o rymuso pobl ifanc trwy fynegiant creadigol.
Mae gwaith Connor wedi'i ysbrydoli'n fawr gan elfennau o'i fywyd ei hun, gan gynnwys galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth ac ethnigrwydd. Mae ganddo litani o gredydau ysgrifennu i'w enw, yn ogystal â chredydau actio a gwobrau.
Yn fwyaf diweddar, dyfarnwyd Gwobr Sain Imison 2023 iddo am ei ddrama rhannol hunangofiannol ar BBC Radio 4 Making of a Monster, a gafodd gomisiwn theatr llawn. Cyhoeddwyd ei gasgliadau barddoniaeth cyntaf Dominoes a Miracles yn 2023 gan Lucent Dreaming.

Derbyniodd John Davies MBE yn 2022 am Wasanaethau i Ecosystem Seiber y DU.
Mae gan John 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac yn ogystal, yn 2014, roedd yn gyd-sefydlwr ac yn gadeirydd ar gyfer un o glystyrau seiberddiogelwch cyntaf y DU.
Ers hynny mae wedi bod yn gyd-sefydlwr a chadeirydd Cyber Wales, GlobalEPIC, ecosystem seiber fyd-eang, ac UKC3, sy'n cefnogi clystyrau seiberddiogelwch yn y DU. Yn 2019, John oedd cynrychiolydd y DU ar gyfer Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop.
Cyd-sefydlodd John Pervade Software, sy'n darparu'r llwyfan ar gyfer Cynllun Cyber Essentials y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, llwyfan SeiberLarwm Heddlu’r DU a llwyfan casglu gwybodaeth am y We Dywyll. Mae'n cadw ei sgiliau’n gyfredol ac mae'n Haciwr Moesol Ardystiedig.
Mae John yn gyn-filwr ac roedd yn swyddog ym Myddin Wrth Gefn Prydain. Mae’n Gadeirydd Grŵp Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ac yn Gyrnol Anrhydeddus. Yn ei amser hamdden, mae'n codi arian ar gyfer elusennau'r Lluoedd Arfog drwy seiclo a rhedeg ac mae'n mwynhau archwilio Bannau Brycheiniog gyda'i wraig a'u 4 ci Dalmataidd.
PRIF SWYDDOG GWEITHREDU, MARSHALL GROUP, CYN IS-LYWYDD A CHYFARWYDDWR, THALES (2008-2023)

Gareth Williams yw Prif Swyddog Gweithredu Marshall, ac mae’n arwain ar bob agwedd weithredol ar y grŵp ledled y DU, Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol.
Mae Gareth hefyd yn gyn-arweinydd yn Thales, lle bu'n goruchwylio gweithrediadau busnes seiber byd-eang y sefydliad. Helpodd Gareth i ddatblygu Canolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol Cymru a ResilientWorks, datblygiad partneriaeth rhwng prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru a Thales. Mae'n un o arweinwyr sylfaenol menter Cyber College Cymru, partneriaeth ddiwydiannol gyda cholegau AB yng Nghymru sy'n addysgu myfyrwyr o gymunedau a oedd gynt yn ddiwydiannol am gyfleoedd gyrfa ym maes seiber. Mae'n aelod o Gyngor CBI Cymru ac o Fwrdd Cynghori Seiber Cenedlaethol Llywodraeth y DU.

02 – Lansio partneriaeth i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng addysg a chymuned Lansiwyd Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP) –partneriaeth rhwng prifysgolion a cholegau sy’n gweithredu o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – ar Gampws Trefforest PDC gyda Jeremy Miles AS. Nod y bartneriaeth yw darparu ymagwedd gydweithredol at ymgysylltu dinesig.

01– PDC ar restr fer THE ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cyrhaeddodd Prifysgol De Cymru restr fer Times Higher Education (THE) ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn, a adnabyddir yn eang fel ‘Oscars addysg uwch’. Mae'r wobr yn cydnabod sefydliadau a ddangosodd berfformiad eithriadol yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.

03 – Datblygu adeiladau sero net Mae PDC yn rhan o brosiect sydd wedi derbyn grant o £5m i gyflymu datblygiad adeiladau sero net. Bydd y prosiect, Switch to Net Zero Buildings, yn galluogi adeiladau ar draws De Cymru i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a’u trydan eu hunain.


04 – Anrhydeddau mawr i PDC yng Ngwobrau STEM Cymru Enillodd cydweithwyr Prifysgol De Cymru ddwy wobr yng Ngwobrau STEM Cymru 2023. Enwyd Dr Mabrouka Abuhmida, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura a Gwyddorau Mathemategol, yn Fenyw STEM y Flwyddyn. Enillodd tîm dan arweiniad yr Uwch Ddarlithydd Dr Leshan Uggalla wobr Prosiect Ymchwil STEM y Flwyddyn.
05 – PDC yn ymuno ag uwch-glwstwr hydrogen rhanbarthol
Mae Prifysgol De Cymru yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn datblygu uwch-glwstwr hydrogen yn Ne-orllewin Lloegr a De Cymru. Bydd y prosiect yn dod â phartneriaid academaidd, dinesig a diwydiant ynghyd, gan ddarparu atebion ar gyfer storio a dosbarthu, trafnidiaeth, a’r sector ynni sy’n cefnogi hyd at 100,000 o swyddi erbyn 2050.

07– PDC ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
Mae Prifysgol De Cymru wedi cael ei henwi fel y sefydliad gorau ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn yr Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig
AU (PRES) blynyddol, gyda boddhad o 89% – 10% yn uwch na’r sector. Roedd Prifysgol De Cymru hefyd ar y brig yn y categorïau Cymorth a Sgiliau Ymchwil.

06 – Cyfleoedd hyfforddiant datblygu newydd i ymgeiswyr doethurol
Mae Prifysgol De Cymru yn un o 89 o sefydliadau sydd wedi’u cynnwys mewn carfan newydd o bartneriaethau hyfforddiant doethurol (DTPs). Bydd hyn yn darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant datblygiad proffesiynol i wella galluoedd ymgeiswyr doethurol a datblygu gweithlu medrus iawn o'r radd flaenaf ar gyfer y DU.

08 – PDC yn dod yn bartner blaenllaw mewn rhaglen datblygu economaidd PrifddinasRanbarth Caerdydd gwerth £6.6m
Enwyd PDC yn bartner blaenllaw mewn rhaglen newydd i roi hwb i ddatblygiad economaidd ar draws De-ddwyrain Cymru, a ariennir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae PDC yn arwain y Rhaglen Partneriaeth rhwng y Byd Academaidd a’r Diwydiant i hybu sgiliau a helpu i ddileu rhwystrau i dwf i fusnesau.



12 – PDC yn lansio Podlediad Seicoleg amserol
09 – Academi Sgrin Cymru i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dalent teledu a ffilm Lansiwyd Academi Sgrin Cymru gan PDC, Screen Alliance Wales, a Phrifysgol Bangor. Mae Academi Sgrin Cymru yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o dalent sgrin ar draws Cymru. Nod y cydweithrediad yw creu cyflenwad o dalent ar gyfer Diwydiant Sgrin Cymru, gan feithrin galluoedd, sgiliau a gwybodaeth ar gyfer Cymru gyfan.
10 – 20 o raddedigion PDC am eu gwaith ar ffilmiau a enwebwyd am wobrau BAFTA ac Oscar Cydnabuwyd cyfanswm o 20 o raddedigion o gyrsiau Animeiddio a Dylunio am eu gwaith ar rai o’r ffilmiau a enwebwyd am wobrau BAFTA ac Oscar eleni, gan gynnwys Spider-Man: Across the Spider-Verse, Chicken Run 2: Dawn of the Nugget, Wonka, a Guardians of the Galaxy Vol.3.
11– Tîm Ffasiwn PDC yn creu ‘dillad delfrydol’ ar gyfer efeilliaid cyfun Fe wnaeth adran Ffasiwn PDC greu gwisgoedd ar gyfer efeilliaid cyfun o Gaerdydd, fel rhan o raglen ddogfen y BBC Inseparable Sisters. Datblygodd yr Hyfforddwr Technegol Sue James, Arweinydd y Cwrs Gwyneth Moore, a'r myfyriwr Hannah Ludovico, sawl gwisg i'r merched, ar ôl dewis darnau o ddillad yn eu hoff liwiau a phatrymau a'u haddasu i gyd-fynd â siâp eu corff.
Lansiodd y Brifysgol Y Soffa Seicoleg, cyfres o bodlediadau a gyflwynir gan Dr Klara Price, Seicolegydd Datblygiadol. Mae'r penodau yn archwilio sut mae ymchwil, polisi ac ymarfer yn cydgysylltu, ac yn datblygu dealltwriaeth gyffredin ar draws meysydd dibyniaeth, iechyd atgenhedlol menywod, iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol, lles addysgol, Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar PDC, ac Iechyd a Thai.
13 – Paratoi sêr Chwe Gwlad y Dyfodol Partnerodd PDC ag Undeb Rygbi Cymru (URC) er mwyn defnyddio arbenigedd ymchwil i lywio datblygiad chwaraewyr, gan gynnwys asesu cyflymder, dygnwch, gallu cynhyrchu grym, a mwy. Fel rhan o'r cydweithio hwn, bydd timau Ysgolion a Cholegau Cymru URC yn cael eu gwahodd i PDC ar adegau yn ystod y flwyddyn fel y gellir olrhain a meincnodi eu datblygiad yn erbyn timau eraill.


14 – Gallai prosiect torri costau leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Arloesodd PDC mewn prosiect o'r enw OXYHYWATER, sy'n ceisio lleihau faint o nwy tŷ gwydr a gynhyrchir wrth drin dŵr gwastraff. Mae'r prosiect, sydd mewn partneriaeth â
Dŵr Cymru, yn defnyddio dull o drin dŵr gwastraff a ddatblygwyd gan y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy a leolir yn PDC.

16 – Academyddion PDC yn derbyn
Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae dau academydd PDC, yr Athro Sandra Esteves a'r
Athro Roiyah Saltus wedi'u henwi ymhlith 43
Cymrawd newydd gan Gymdeithas Ddysgedig
Cymru. Mae'r Gymdeithas Ddysgedig yn cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig
Cymru. Fel Cymrodyr, bydd yr Athro Esteves a Saltus yn helpu i sicrhau bod ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at genedl sy'n ffynnu.


15 – Darparwyr addysg yn ymrwymo i Siarter Afiechyd Marwol
PDC oedd yr ail brifysgol yng Nghymru i ymuno â Siarter Afiechyd Marwol yr Undebau Llafur (TUC). Mae'r Siarter yn ymrwymiad i gefnogi cydweithwyr sy'n cael diagnosis o salwch angheuol, ac mae'n amlinellu egwyddorion allweddol gyda'r nod o sicrhau diogelwch swyddi, amddiffyn hawliau, a dull tosturiol o rymuso cydweithwyr â salwch angheuol.

17 – ‘Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru’ – PDC ar y brig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, cafodd PDC ei henwi fel y sefydliad addysg uwch sy'n perfformio orau yng Nghymru am gefnogi busnesau newydd graddedigion. Canfu ffigurau 2022/23 hefyd fod PDC yn 11eg allan o 220 o brifysgolion y DU ar gyfer busnesau newydd ac yn 9fed yn y DU am nifer y busnesau gweithredol gan raddedigion.

18 – Gêm a ddatblygwyd gan raddedigion PDC yn dod yn werthwr gorau byd-eang
Richard Pring, myfyriwr graddedig PDC, yw cyd-sylfaenydd Wales Interactive, cwmni datblygu gemau sy'n cyflogi nifer o raddedigion PDC. Mae Sker Ritual, gêm a ddatblygwyd yn Wales Interactive, bellach wedi dod yn llwyddiannus yn fydeang, gan ddod yn un o'r tri theitl uchaf a lawrlwythwyd ar Steam, ymlith y pump uchaf ar Xbox ac ymhlith 10 uchaf ar PlayStation o fewn wythnos o’i rhyddhau.
Llongyfarchiadau, a da iawn chi! Mae ein cyn-fyfyrwyr yn rhan o gymuned fywiog o dros 250,000 o raddedigion anhygoel o bedwar ban byd. Rydyn ni yma i gefnogi eich rhagolygon yn y dyfodol ac arddangos eich talentau.
Mae sawl rheswm dros gadw mewn cysylltiad, rhwydweithio, mwynhau digwyddiadau, cyfleoedd dysgu gydol oes a gwirfoddoli. Rydyn ni wrth ein bodd yn ysgrifennu am ein graddedigion ac hyrwyddo eich gwaith caled, boed hynny yn ein cylchlythyr deufisol neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gweithredol. Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol i glywed am hyn i gyd, a mwy! Rydyn ni wrth law i'ch cefnogi chi am oes ar ôl graddio.
Mae manteision bod yn un o raddedigion Prifysgol De Cymru yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'ch cymhwyster newydd. Rydyn ni’n ffodus o gael cyn-fyfyrwyr mor amrywiol, yn wneuthurwyr ffilm, cyfreithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn hyfforddwyr chwaraeon rhyngwladol, digrifwyr enwog, a pherchnogion busnesau bach, a phob gyrfa bosibl arall, ledled y byd.
Fel graddedigion, byddwch yn parhau'n rhan o Deulu PDC ac yn dod yn llysgenhadon gydol oes i'r Brifysgol. Fel y genhedlaeth nesaf o grewyr, arweinwyr, ac entrepreneuriaid arloesol, dymunwn bob llwyddiant i chi. Croeso i'r gymuned! E-bost: alumni@southwales.ac.uk | Ymweld â: www.southwales.ac.uk/cymraeg/alumni/
Oeddech chi'n gwybod bod mwy na 5,500 o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs ôl-raddedig gyda ni bob blwyddyn? Beth am ymuno â nhw a rhoi mantais i chi'ch hun gyda chymhwyster ôlraddedig neu broffesiynol. Mae gennym ystod eang o gyrsiau i'w cynnig i'n holl raddedigion ac efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiadau. Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Ymweld â: www.southwales.ac.uk/cymraeg/astudio-ôl-raddedig/
Mae ein Tîm Cymorth Gyrfaoedd Graddedigion ymroddedig wrth law i'ch helpu i ddilyn eich uchelgeisiau gyrfa. Datglowch fynediad graddedigion i CareersConnect lle gallwch drefnu apwyntiadau gyrfa gyda’n Cynghorwyr Gyrfaoedd profiadol, neu sesiynau cyflogadwyedd a chyflogwyr i hybu eich sgiliau. Cysylltwch â ni i gael y swyddi gweigion lefel graddedigion diweddaraf a rhybuddion swyddi.
Gall ein hadnoddau hygyrch ar-lein eich cynorthwyo ar bob cam o'r broses recriwtio, o CVs, llythyrau eglurhaol a ffurflenni cais i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu. Mewngofnodwch i'ch pecyn cymorth MyCareer i raddedigion ar gyfer cymorth recriwtio ar-lein pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Ymweld â: careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd/graddedigion/
Os ydych chi’n ystyried gweithio’n llawrydd neu os oes gennych chi syniad busnes neu fenter gymdeithasol newydd, gall PDC helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
Rydym yn cynnig cymorth un i un, cyllid a digwyddiadau rhyngweithiol i roi'r wybodaeth, yr hyder a'r rhwydweithiau i chi i ddechrau gweithio i chi'ch hun. Mae gennym hefyd ofod cydweithio rhad ac am ddim ar y campws i ddatblygu eich syniad yn Startup Stiwdio Sefydlu. Ymweld â: careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd/graddedigion/
Rhannwch eich llwyddiant yn yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion, sef arolwg cenedlaethol sy'n nodi gweithgareddau a safbwyntiau graddedigion. Maen nhw'n cysylltu â ni tua 15 mis ar ôl i chi adael y brifysgol am eich cyfraniad i lais cyfunol graddedigion y DU. Bydd eich cyfraniad yn helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i wneud dewisiadau gwybodus a helpu PDC i werthuso a hyrwyddo cyrsiau. Ymweld â: cy.graduateoutcomes.ac.uk/