GRADDIO


Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor
Ar ran Prifysgol De Cymru, mae'n bleser aruthrol croesawu pob un o'n graddedigion PDC yma heddiw.
Mae graddio yn garreg filltir allweddol yn eich bywyd – bydd llawer ohonoch wedi symud oddi cartref am y tro cyntaf ac wedi dysgu byw'n annibynnol, efallai mai rhai ohonoch yw'r person cyntaf yn eich teulu i raddio, fel yr oeddwn i, neu, i eraill, efallai eich bod wedi dychwelyd i astudio i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Gobeithiaf y byddwch i gyd yn mwynhau'r foment arbennig hon ac yn cael diwrnod gwirioneddol gofiadwy.
Hyderaf fod eich amser yn y Brifysgol wedi ehangu eich gorwelion, wedi agor llwybrau at gyfleoedd gyrfa cyffrous a heriol, a'ch llenwi ag ysbryd ymholi ac awydd am ddysgu gydol oes.
Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod arbennig i'ch ffrindiau a'ch teuluoedd sydd wedi eich cefnogi yn eich astudiaethau, ac rydym yn estyn croeso cynnes iddynt. Mae ein staff sydd wedi eich dysgu, eich annog a'ch arwain ar eich taith academaidd yn rhannu eu hymdeimlad o falchder llawn cymaint. Mae Seremonïau Graddio’n wastad yn uchafbwynt ein blwyddyn academaidd ac rydym yn falch o fod gyda chi i ddathlu.
Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gobeithiwn y byddwch yn mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon i'r Brifysgol a phopeth yr ydym yn ceisio'u cyflawni. Cadwch mewn cysylltiad, dywedwch wrthym am gamau nesaf eich taith, ac ymunwch â'n cymuned werthfawr o gyn-fyfyrwyr. Cofiwch y byddwch chi bob amser yn rhan o'n teulu PDC anhygoel.
Dymunaf bob hwyl i chi yn eich ymdrechion yn y dyfodol: byddwch yn feiddgar, yn llawn dychymyg, ac, yn bwysicaf oll, byddwch yn ysbrydoliaeth i'ch cyfoedion trwy wneud i bethau ddigwydd.
Sefydlwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae ganddynt hanes cyfoethog ac amrywiol, a gallant olrhain eu gwreiddiau yn ôl dros 180 o flynyddoedd.
Sefydlwyd Sefydliad Mecaneg Casnewydd i ddarparu addysg bellach i weithwyr a masnachwyr.
Daeth y coleg yn un polytechnig, gan gynnig diplomâu uwch, graddau israddedig ac ôl-raddedig.
Daeth Coleg Merthyr Tudful yn rhan o Brifysgol Morgannwg.
Ffurfiwyd PDC yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Agorodd Sefydliad Technegol Casnewydd, a adwaenir yn lleol fel yr ‘Ysgol Gelf’.
Unwyd Coleg Addysg Caerllion, Coleg Celf a Dylunio Casnewydd a Choleg Technoleg Gwent i ffurfio Coleg Addysg Uwch Gwent.
Agorodd Prifysgol Morgannwg ei hadeilad ATRiuM yng Nghaerdydd, gan gynnig cyfleuster dysgu pwrpasol i fyfyrwyr diwydiannau creadigol.
Datgelwyd datblygiad gwerth £15m i Barc Chwaraeon PDC, gan gynnwys y cae pêl-droed 3G maint llawn cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru.
Ffurfiodd arweinwyr diwydiannol Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Sir Fynwy, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg.
Enillodd Coleg Polytechnig Cymru yn Nhrefforest statws prifysgol a daeth yn Brifysgol Morgannwg.
Daeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Brifysgol Morgannwg.
Agorodd man dysgu ac addysgu Ceiropracteg newydd yn Nhrefforest. Hwn oedd y cam cyntaf o ddod â holl elfennau'r cwrs Ceiropracteg i'r un safle.
Agorodd Coleg Hyfforddi Caerllion i hyfforddi myfyrwyr gwrywaidd fel athrawon.
Daeth yr Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg yn Goleg Technegol Morgannwg, gan adlewyrchu ei bortffolio cynyddol.
Derbyniwyd Coleg Addysg Uwch Gwent i Brifysgol Cymru fel Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Lansiwyd Athrofa Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd fel partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Torrwyd tir ar yr adeilad academaidd newydd yn Nhrefforest. Bydd yr adeilad newydd yn gartref i Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg.
Sicrhaodd Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd Gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor i ddefnyddio'r teitl Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Agorodd Campws Casnewydd, gan ddod yn gartref i fyfyrwyr o Ysgol Fusnes Casnewydd a llawer o Ysgol y Cyfryngau a Dylunio.
Cwblhawyd prif strwythur Clinig Ceiropracteg newydd yn Nhrefforest ym mis Hydref, gan ymuno â'r gofod dysgu ac addysgu i ddod â phob agwedd ar y cwrs i un campws.
Mae’r byrllysg seremonïol yn seiliedig ar arf a ddefnyddiwyd fel symbol o awdurdod. Ffon fetel neu bren wedi’i haddurno ydyw a gaiff ei chario gan gludwr y byrllysg. Mae’n cynrychioli statws brenhinol neu sefydliad mawr mewn seremoni ddinesig, neu wrth gynnal busnes deddfwriaethol neu weithredol. Mewn cyd-destun academaidd, mae’n symbol o awdurdod y Brifysgol i ddyfarnu graddau a chynnull digwyddiadau mawr fel y seremoni heddiw.
Cafodd y pastwn ei gynllunio yn arbennig ar gyfer y Brifysgol gan y darlithydd a’r artist arobryn Jeremy Spencer, a’i weithgynhyrchu gyda thîm o beirianwyr a phrentisiaid yn GE Aviation Wales, a gefnogwyd gan gwmnïau arbenigol lleol. Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf ar gyfer gorseddu’r Canghellor, ac mae’n cyfuno cynllun a deunyddiau modern gyda thraddodiad y pastwn academaidd.
Mae arfbais Prifysgol De Cymru yn adlewyrchu gorffennol a dyfodol y Brifysgol. Enw’r dyluniad yw Arfbais Cyflawni, a’r elfen bwysicaf yw’r darian. Mewn herodraeth, y maes yw’r enw a roddir i wyneb y darian, sydd mewn gwyrdd, i gynrychioli lleoliad y Brifysgol a’r disgyblaethau amgylcheddol a gaiff eu hastudio yma.
Uwchben y darian, gwelir y llyw, sy’n gysylltiedig â chyrff corfforaethol. Ar ben y llyw, o fewn y coronbleth, o ddefnydd sidan arian a gwyrdd, mae’r arfbais. Mae’r arfbais yn dangos y ddraig goch gydag adennydd ar agor yn gafael mewn matrics cof fferrit cyfrifiadur, sy’n cynrychioli agweddau technegol y Brifysgol a’r cysylltiad rhwng yr hen a’r newydd. Ceir dwy ddraig yn cynnal y darian, sy’n adlewyrchu Cymru a natur ryngwladol y Brifysgol.
Fe welwch amrywiaeth o wisgoedd academaidd yn y seremoni heddiw. Mae gwisg academaidd Prifysgol De Cymru yn dilyn y traddodiadau a sefydlwyd yn yr Oesoedd Canol, pan aeth prifysgolion gwreiddiol y byd Gorllewinol ati i addasu gwisg yr oes i amlygu eu hysgolorion.
Mae’r gŵn yn seiliedig ar y roba, sef gŵn a fyddai’n cael ei wisgo o dan y cappa clausa, gwisg a oedd yn debyg i glogyn hir. Mae gwahanol fanylion y wisg academaidd bellach yn cynrychioli’r brifysgol a’r radd y mae’r sawl sy’n ei gwisgo yn perthyn iddi.
Mae cyflau is-raddedigion a Meistri’r Brifysgol yn amrywiadau ar goch a llech-lwyd, ac mae gwisg lawn ffurfiol gradd Doethur wedi’i gwneud, yn draddodiadol, o ddefnydd coch sidanaidd llachar. Mae uwch swyddogion prifysgolion Prydain, ar y cyfan, yn gwisgo gwisg nodedig fwy coeth.
Dyluniwyd a chrëwyd gŵn y Canghellor yn arbennig ar gyfer Prifysgol De Cymru, ac mae’n dilyn ffurf draddodiadol gwisg seremonïol sy’n arwydd o bwysigrwydd ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwelir y math hwn o ŵn hefyd mewn gwisg ffurfiol swydd-ddeiliaid gwladol fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin a’r Arglwydd Ganghellor.
Mae gŵn Canghellor y Brifysgol wedi’i gwneud o ddefnydd damasg coch ‘truro’, wedi’i addurno â gwyn, gydag addurniadau llwyd ar y blaen. Gelwir yr addurniadau lliw arian ar y llewys yn ‘fotymau’. Penwisg grwn, meddal yw het y Canghellor, a chaiff ei galw’n Fonet Tuduraidd, ac mae’i gwreiddiau wedi hen sefydlu yn nhraddodiadau academaidd y DU. Mae Is-Ganghellor ac uwch swyddogion y Brifysgol yn gwisgo gynau nodedig yn seiliedig ar y cynllun cyffredinol hwn.
Bob blwyddyn, mae Cynllun Gwobrau Er Anrhydedd y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau sylweddol unigolion trwy ddyfarnu Doethuriaethau a Chymrodoriaethau Er Anrhydedd.
Dyfernir Doethuriaethau Er Anrhydedd i unigolion nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis faes ac mae ganddynt gysylltiad â threftadaeth a chenhadaeth PDC. Dyfernir Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi gwasanaethu'r Brifysgol neu faes disgyblaeth gyda rhagoriaeth arbennig.
Enwebir anrhydeddau gan gydweithwyr yn y Brifysgol, aelodau o Fwrdd Llywodraethwyr, a’r Cyngor Undeb Myfyrwyr, ac fe’u hystyrir gan y Pwyllgor Urddo.
Daeth Olivia Breen i gael ei chydnabod yn rhyngwladol yng Ngemau Paralympaidd 2012, lle, yn ddim ond 16 oed, enillodd fedal efydd fel rhan o dîm ras gyfnewid 4x100m T35-38 Prydain Fawr.
Cafodd Olivia ddiagnosis o barlys yr ymennydd yn ystod plentyndod ac mae’n fyddar, ond ni adawodd i hyn lesteirio ei hangerdd am athletau. Mae hi wedi rhagori’n gyson ar y llwyfan byd-eang, gan ennill sawl medal ym Mhencampwriaethau’r Byd ac Ewrop. Enillodd Olivia aur yn naid hir T38 ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd 2017 yn Llundain ac aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.
Yng Ngemau Paralympaidd 2020 yn Tokyo, enillodd Olivia efydd yn naid hir T38. Yn nodedig, enillodd fedal aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn y 100m T38, gan fod y fenyw gyntaf o Gymru i ennill y fedal aur ar y trac mewn 32 o flynyddoedd. Arweiniodd hyn at iddi gael ei henwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales 2022.
I ffwrdd o’r trac, mae Olivia yn cymryd rhan mewn gwaith elusennol, yn enwedig gydag elusennau plant fel Parlys yr Ymennydd (CP) Cymru, Access Sport a Leonard Cheshire. Mae hi'n eiriolwr brwd dros bositifrwydd y corff a chynwysoldeb mewn chwaraeon, ac yn cymryd rhan mewn siarad ysgogol.
02 – ‘Prifysgol Entrepreneuraidd
Cymru’ – ar y brig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
Mae PDC wedi’i henwi fel y sefydliad addysg uwch sy’n perfformio orau yng Nghymru am gefnogi busnesau newydd i raddedigion am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Canfu ffigurau 2022/23 hefyd fod PDC yn 11eg o blith 220 o brifysgolion y DU o ran busnesau newydd ac yn 9fed yn y DU o ran nifer y busnesau graddedigion gweithredol.
01– PDC yn codi 59 lle yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet
Gwelodd PDC gynnydd enfawr yn nhabl Cynghrair Prifysgolion People & Planet 24/25, gan osod PDC yn safle 23 ymhlith 149 o sefydliadau yn y DU ac yn safle 4 yng Nghymru. Mae'r Gynghrair yn graddio prifysgolion y DU mewn modd annibynnol, yn seiliedig ar berfformiad amgylcheddol a moesegol yn unig. Derbyniodd PDC sgôr o 100% ar gyfer polisi ac ymgysylltu amgylcheddol, ac 88% ar gyfer rheoli carbon, sy’n adlewyrchu ein targed o ddod yn garbon niwtral erbyn 2040.
03 – Gêm a ddatblygwyd gan raddedigion PDC yn dod yn werthwr gorau byd-eang
Richard Pring, un o raddedigion PDC, yw cyd-sylfaenydd Wales Interactive, cwmni datblygu gemau sy’n cyflogi nifer o raddedigion PDC. Mae Sker Ritual, gêm a ddatblygwyd yn Wales Interactive, bellach wedi dod yn werthwr gorau byd-eang, gan ddod yn un o'r tri theitl sydd wedi'u lawrlwytho orau ar Steam, y pump uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation o fewn wythnos i'w rhyddhau.
04 – Gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad newydd ar Gampws Trefforest Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Medi ar gyfer adeilad academaidd newydd ar Gampws Trefforest, a fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg. Bydd yr adeilad yn hyrwyddo gweithio rhyngddisgyblaethol trwy wneud y gweithgareddau sy'n digwydd yn weladwy ac yn hygyrch.
05 – Dathlu ymchwil ysbrydoledig yng Ngwobrau Ymgysylltu ac Effaith PDC 2024
Dathlwyd ymchwil PDC yn y pumed Gwobrau Ymgysylltu ac Effaith blynyddol ym mis Hydref. Roedd y Gwobrau’n dathlu ymchwil cydweithredol, cyfnewid gwybodaeth, a gweithio mewn partneriaeth yn ogystal ag effaith y gwaith hwnnw ar ein cymunedau a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
07– Myfyrwyr darlunio yn dod â chelf stryd i focsys trydanol Caerdydd Bu myfyrwyr darlunio yn cydweithio â Chyngor Caerdydd i gynhyrchu celf stryd ar gyfer blychau trydanol o amgylch Caerdydd, gan fynd i’r afael â fandaliaeth a helpu cymunedau i ymfalchïo yn eu hardaloedd lleol. Sefydlwyd y prosiect gan dîm Ymgysylltu a Lleoliadau Cyflogwyr PDC er mwyn i fyfyrwyr gael profiad o weithio gyda chleientiaid.
06 – PDC yn ymuno â phartneriaid addysg yn fframwaith llesiant economaidd cyntaf Cymru Llofnododd PDC Femorandwm Cydddealltwriaeth (MoU) gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ochr yn ochr â cholegau Addysg Bellach yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn rhan o fframwaith arloesol a fydd yn gweld sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach lleol yn cydweithio ar amcanion allweddol ar gyfer llesiant economaidd yn y Rhanbarth.
08 – PDC yn ehangu arlwy prentisiaethau gradd Ym mis Medi, lansiodd PDC brentisiaethau gradd newydd mewn Peirianneg Sifil, Mesur Meintiau, Arolygu Adeiladau ac Eiddo Tiriol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae BSc (Anrh) Eiddo Tiriol hefyd wedi sicrhau achrediad gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), sef dilysnod rhagoriaeth y sector.
09 – Adroddiad Canmoladwy Ofsted ar gyfer prentisiaethau heddlu PDC
Yn dilyn arolygiad trylwyr gan Ofsted (Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau) o brentisiaethau plismona’r Brifysgol, derbyniodd PDC y dyfarniad swyddogol ‘Da’ yn gyffredinol, yn ogystal â dyfarniad ‘Rhagorol’ ar gyfer Ymddygiad ac Agweddau.
10 – Myfyrwyr arloesol yn dathlu llwyddiant mewn prentisiaeth gradd ddigidol
Graddiodd y grŵp cyntaf o fyfyrwyr i gwblhau’r brentisiaeth gradd ddigidol ym mis Gorffennaf. Mae'r radd yn canolbwyntio ar yr angen i bartneriaid diwydiant arwain a chefnogi'r cwricwlwm, gan roi'r sgiliau i raddedigion ffynnu yn eu sector. Ymhlith y partneriaid mae Capgemini, Admiral, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, GIG Cymru, a Sony.
11– Eisteddfod 2024 yn rhoi PDC a Rhondda Cynon Taf ar y map Croesawodd PDC gannoedd o ymwelwyr i’w stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Mwynhaodd ymwelwyr weithdai ac arddangosiadau o ystod o feysydd pwnc, a chynhaliodd PDC gerddoriaeth fyw gan fyfyrwyr, colegau partner a graddedigion. Cynhaliwyd derbyniad cynfyfyrwyr hefyd ar gyfer mwy na 50 o aelodau ein cymuned graddedigion.
12 – Safle uchaf erioed ar gyfer PDC yn y Guardian University Guide
Cyflawnodd PDC ei safle uchaf erioed yn y Guardian University Guide 2025, gan godi 21 lle i 51fed o’r 122 o sefydliadau ar y rhestr. Roedd y canlyniad hwn hefyd yn golygu bod PDC yn drydydd yng Nghymru. Gwelodd y Brifysgol ganlyniadau cadarnhaol ychwanegol ar gyfer meysydd pwnc unigol yn ogystal â boddhad myfyrwyr.
13 – Adeilad Clinig Ceiropracteg newydd yn cyrraedd carreg filltir fawr
Cyrhaeddodd Clinig Ceiropracteg newydd PDC ar Gampws Trefforest garreg filltir bwysig gyda chwblhau ei brif strwythur ym mis Hydref. Disgwylir i'r clinig gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025, a bydd yn dod â'r holl elfennau dysgu, addysgu ac ymarferol at ei gilydd ar yr un safle.
14 – PDC yn sicrhau cyllid i feithrin talent a chyflogadwyedd yn y sectorau creadigol
Dyfarnwyd bron i £70,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i PDC, o’r Gronfa Sgiliau
Creadigol, sy’n cael ei rhedeg gan Cymru Greadigol, i gefnogi twf Gŵyl Trochi –digwyddiad amlgyfrwng blynyddol sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr y Diwydiannau Creadigol – drwy raglen datblygu sgiliau newydd.
16 – Llwyddiant cyllid ymchwil i gefnogi menywod Du a Lleiafrifoedd Ethnig yr effeithir arnynt gan drais a cham-drin domestig Dyfarnwyd mwy na £300,000 o gyllid i’r Brifysgol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer prosiect ymchwil ar raddfa fawr yn canolbwyntio ar gymorth i fenywod Du a Lleiafrifoedd Ethnig yr effeithir arnynt gan Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol.
15 – Mwy o lwyddiant i PDC yng Ngwobrau STEM Cymru
Roedd PDC yn llwyddiannus yng Ngwobrau STEM Cymru eto eleni, sy’n dathlu’r sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i’r agenda STEM. Enillodd y Brifysgol wobr Prosiect Ymchwil y Flwyddyn am ei gwaith ar wrtaith silicon organig cynaliadwy sy’n rhyddhau’n araf (SIFER), dan arweiniad Dr Christian Laycock.
17 – Hyrwyddo lles meddyliol trwy ymgysylltu â natur
Sicrhaodd PDC £149,980 gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer y prosiect 'Meddyliau Iach Pobl Ifanc’. Nod y prosiect, a gynhelir mewn partneriaeth â gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (NHS Highland), yw cyd-gynhyrchu rhaglen ymyrraeth gynnar gyda myfyrwyr ysgol uwchradd i hyrwyddo lles meddyliol trwy ymgysylltu â byd natur.
18 – Adnewyddu Campws Casnewydd yn gwella cyfleusterau i ddefnyddwyr Cafodd Campws Casnewydd PDC ei adnewyddu i wella ei gyfleusterau ar gyfer cydweithwyr, myfyrwyr, a’r gymuned leol. Roedd hyn yn cynnwys datblygu dau fan arbenigol newydd: Canolfan Ymchwil ac Arloesi Hydra (HRIC) a Hyb Ymgysylltu Casnewydd, cartref i dimau’r Stiwdio Sefydlu, Cyfnewidfa PDC a digwyddiadau.
Llongyfarchiadau, a da iawn chi! Mae ein cyn-fyfyrwyr yn rhan o gymuned fywiog o dros 250,000 o raddedigion anhygoel o bedwar ban byd. Rydyn ni yma i gefnogi eich rhagolygon yn y dyfodol ac arddangos eich talentau.
Mae sawl rheswm dros gadw mewn cysylltiad, rhwydweithio, mwynhau digwyddiadau, cyfleoedd dysgu gydol oes a gwirfoddoli. Rydym wrth ein bodd yn cynnwys ein graddedigion a hyrwyddo eich gwaith caled mewn amrywiaeth o ffyrdd, boed hynny yn ein cylchlythyr neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gweithredol. Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol i glywed am hyn i gyd, a mwy! Rydyn ni wrth law i'ch cefnogi chi am oes ar ôl graddio.
Mae manteision bod yn un o raddedigion Prifysgol De Cymru yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'ch cymhwyster newydd. Rydyn ni’n ffodus o gael cyn-fyfyrwyr mor amrywiol, yn wneuthurwyr ffilm, cyfreithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn hyfforddwyr chwaraeon rhyngwladol, digrifwyr enwog, a pherchnogion busnesau bach, a phob gyrfa bosibl arall, ledled y byd.
Fel graddedigion, byddwch yn parhau'n rhan o Deulu PDC ac yn dod yn llysgenhadon gydol oes i'r Brifysgol. Fel y genhedlaeth nesaf o grewyr, arweinwyr, ac entrepreneuriaid arloesol, dymunwn bob llwyddiant i chi. Croeso i'r gymuned! E-bost: alumni@southwales.ac.uk | Ymweld â: www.southwales.ac.uk/cymraeg/alumni/
Oeddech chi'n gwybod bod mwy na 5,500 o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs ôl-raddedig gyda ni bob blwyddyn? Beth am ymuno â nhw a rhoi mantais i chi'ch hun gyda chymhwyster ôlraddedig neu broffesiynol. Mae gennym ystod eang o gyrsiau i'w cynnig i'n holl raddedigion ac efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiadau. Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Ymweld â: www.southwales.ac.uk/cymraeg/astudio-ôl-raddedig/
Mae ein Tîm Cymorth Gyrfaoedd Graddedigion ymroddedig wrth law i'ch helpu i ddilyn eich uchelgeisiau gyrfa. Datglowch fynediad graddedigion i CareersConnect lle gallwch drefnu apwyntiadau gyrfa gyda’n Cynghorwyr Gyrfaoedd profiadol, neu sesiynau cyflogadwyedd a chyflogwyr i hybu eich sgiliau. Cysylltwch â ni i gael y swyddi gweigion lefel graddedigion diweddaraf a rhybuddion swyddi.
Gall ein hadnoddau hygyrch ar-lein eich cynorthwyo ar bob cam o'r broses recriwtio, o CVs, llythyrau eglurhaol a ffurflenni cais i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu. Mewngofnodwch i'ch pecyn cymorth MyCareer i raddedigion ar gyfer cymorth recriwtio ar-lein pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Ymweld â: careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd/graddedigion/
Os ydych chi’n ystyried gweithio’n llawrydd neu os oes gennych chi syniad busnes neu fenter gymdeithasol newydd, gall PDC helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
Rydym yn cynnig cymorth un i un, cyllid a digwyddiadau rhyngweithiol i roi'r wybodaeth, yr hyder a'r rhwydweithiau i chi i ddechrau gweithio i chi'ch hun. Mae gennym hefyd ofod cydweithio rhad ac am ddim ar y campws i ddatblygu eich syniad yn Startup Stiwdio Sefydlu. Ymweld â: careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd/graddedigion/
Rhannwch eich llwyddiant yn yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion, sef arolwg cenedlaethol sy'n nodi gweithgareddau a safbwyntiau graddedigion. Maen nhw'n cysylltu â ni tua 15 mis ar ôl i chi adael y brifysgol am eich cyfraniad i lais cyfunol graddedigion y DU. Bydd eich cyfraniad yn helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i wneud dewisiadau gwybodus a helpu PDC i werthuso a hyrwyddo cyrsiau. Ymweld â: cy.graduateoutcomes.ac.uk/