
1 minute read
Cynorthwyydd Cynnwys Digidol
from Fersiwn Cymraeg
by Undeb Bangor
Mae'r rôl hon yn cael ei chynnig i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn unig.
Rydym ni am i Undeb Bangor wirioneddol gynrychioli'r holl fyfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys ein tîm staff myfyrwyr hefyd Rydym ni'n annog ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, waeth beth fo'u hunaniaeth neu statws fel myfyrwyr, ac rydym ni'n awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd o gymunedau myfyrwyr sydd heb gynrychioleath ddigonol yn benodol
Advertisement
Adran: Cyllid a Gweithrediadau
Tîm: Cyfathrebu a Marchnata
Atebol i: Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata
Pwrpas y Swydd: Creu cynnwys deniadol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Undeb sy ' n hyrwyddo'r Undeb, ei weithgareddau a'i Swyddogion Sabothol.
Swydd Ddisgrifiad:
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
• Cynllunio cynnwys deniadol â nhw'n fyw.
• Creu Reels a TikToks sy ' n trendio er mwyn ennyn ymateb gan ein cynulleidfa
• Dogfennu digwyddiadau'r Undeb drwy fideograffeg a ffotograffeg
• Troi syniadau eraill yn gynnwys digidol.

Rhestr fer a Chyfweliad: Byddwn yn llunio rhestr fer ar sail y ceisisadau fydd yn cael eu derbyn, ac os cewch chi eich gwahodd i fynychu cyfweliad, byddwch yn cael eich hysbysu amdano dros e-bost. Felly os cewch chi wahoddiad, sicrhewch eich bod chi'n gwirio'ch e-byst er mwyn cadarnhau y byddwch chi'n bresennol yno Mae'n debyg y bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod hanner cyntaf mis Awst
Rydym ni'n awyddus i addasu ar gyfer unrhyw anghenion gwahaniaethol allai fod gennych chi ac felly gellir cynnal y cyfweliadau ar-lein neu wyneb yn wyneb
Dyddiad dechrau: Disgwylir dechrau rywdro rhwng yr 28ain o Awst a ' r 4ydd Fedi
Sut I Ymgeisio
Mae ymgeisio am rôl yn hawdd. Dilynwch y cyfarwyddiadau a llenwch ffurflen gais ar www.undebbangor.com/jobs.
Beth ddylech chi gynnwys yn eich cais?
Dyma fyddwn ni'n chwilio amdano mewn ceisiadau: Efallai mai dyma'r tro cyntaf ichi gwblhau cais am swydd, neu efallai fod gennych chi lawer o brofiad; naill ffordd, rydym ni eisiau rhoi gwybod i chi am yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yma yn Undeb Bangor
Ar gyfer eich cais, darparwch ddatganiad ysgrifenedig neu fideo (dim mwy na 5 munud) sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Cyflwynwch eich hunain, rhowch synnwyr i ni o'ch personoliaeth - nid recriwtio niferoedd ydym ni, rydym ni eisiau eich deall chi fel person.
Eglurwch pam eich bod chi eisiau'r rôl a sut mae eich gwerthoedd personol chi'n gweddu gyda'n gwaith ni fel Undeb Myfyrwyr
Dywedwch wrthym pam eich bod chi'n addas ar gyfer y swydd - atebwch ofynion y swydd ddisgrifiad - rhowch amlinelliad o'ch profiadau blaenorol (enghreifftiau cyflogedig, gwirfoddol a bywyd personol) er mwyn dangos pa sgiliau sydd gennych chi sy'n cwrdd ag anghenion pob rôl yr ydych chi'n ymgeisio amdani.