Sgiliau a Thechnegau Astudio Rhwydd
Lluniwyd y rhifyn hwn o STAR (2010) gan Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO), Prifysgol Abertawe ac fe’i hariennir mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru. Crëwyd yr wybodaeth yn y Llawlyfr STAR hwn gan fenter Partneriaeth Prifysgol Gymunedol y Cymoedd (CUVP) yn wreiddiol, ac AABO oedd y prif bartner. Casglwyd y Llyfryn ynghyd o adnoddau sgiliau astudio amrywiol gyda chyfraniadau gan amrywiaeth helaeth o sefydliadau sy’n ymwneud â CUVP. Am fwy o wybodaeth am Bartneriaeth Prifysgol Gymunedol y Cymoedd, ewch i www.cuv.org.uk
Mae copi o’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gais. Cysylltwch â’ch ysgol/coleg a fydd yn gallu’ch helpu chi.
Croeso i Lawlyfr STAR (Sgiliau a Thechnegau Astudio Rhwydd). Mae’r Llawlyfr Sgiliau Astudio hwn ar gyfer myfyrwyr sydd naill ai ar fin dechrau astudio ym Mlwyddyn 12 neu Flwyddyn 13 neu’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Gall astudio pwnc yn fanylach ar gyfer cymhwyster/dyfarniad penodol ehangu eich gwybodaeth, a’ch helpu i gael dealltwriaeth o’r newydd. Felly, er mwyn ennill a pharhau i gael canlyniadau da, mae angen i chi, fel myfyriwr, fuddsoddi amser ac ymdrech yn eich astudiaethau. Gyda hyn mewn cof, mae’r Llawlyfr STAR yn rhoi cyngor i chi ar sut i fod yn fyfyriwr effeithiol er mwyn gwneud yn fawr o’ch amser yn yr ysgol/coleg.
Cyflwyniad
Cyflwyniad
Mae’r Llawlyfr STAR yn amlinellu ac yn amlygu sgiliau astudio penodol y bydd eu hangen arnoch i lwyddo. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau fel ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, paratoi cyflwyniad, a dulliau adolygu ar gyfer arholiadau. Gall safonau ar gyfer ysgrifennu traethodau a chyfeirnodi fod yn ddryslyd i lawer o fyfyrwyr, felly nid ydych ar eich pen eich hun os ydych yn teimlo fel hyn. Serch hynny, bydd eich gwaith yn datblygu drwy ymarfer, a byddwch yn synnu cymaint bydd eich sgiliau’n gwella dros gyfnod o amser. Nod Llawlyfr STAR yw’ch helpu ar eich taith. Bydd eich athro/athrawes/tiwtor hefyd yn eich cynghori ar y sgiliau y disgwylir i chi eu hennill a’u harddangos yn ystod eich cwrs. Rydym yn gobeithio y bydd y Llawlyfr STAR yn ddefnyddiol i chi, gan ddymuno’n dda i chi gyda’ch astudiaethau.
3
Cynnwys Adran 1
Dulliau Dysgu
Adran 2
Trefnu eich Dysgu
Adran 3
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth
Adran 4
Darllen yn Effeithiol
Adran 5
Sgiliau Meddwl
Adran 6
Cymryd Nodiadau
Adran 7
Ysgrifennu Traethodau
Adran 8
Ysgrifennu Adroddiadau
Adran 9
Dyddlyfrau Dysgu
Adran 10
Casglu Portffolio
Adran 11
Rhoi Cyflwyniadau
Adran 12
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
Adran 13
Cyfeirnodi
Adran 14
Gramadeg ac Atalnodi
Adran 15
Adnoddau Ychwanegol sydd ar gael i chi
Dulliau Dysgu Adran 1
Dulliau Dysgu Os ydych yn meddwl neu’n ymwybodol o sut rydych yn dysgu, gallwch ddechrau nodi dulliau dysgu sydd fwyaf addas i chi. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwch ddewis dull sydd fwyaf priodol ar gyfer y traethawd, yr adroddiad neu’r cyflwyniad y mae’n rhaid i chi ei ysgrifennu. Mae’n bwysig myfyrio ar eich profiadau dysgu yn y gorffennol. Byddai gwybod sut rydych yn hoffi gweithio a pha feysydd y gallech chi eu gwella, p’un ai dyma’r ffordd rydych yn darllen neu’n rhyngweithio gyda gweddill y grŵp, eich helpu i fonitro eich cynnydd, ac addasu eich dulliau dysgu lle bo angen.
5
Dulliau Dysgu
Beth yw dulliau dysgu? Mae sawl theori allweddol ynghylch sut mae pobl yn dysgu ac amryw o wefannau i chi asesu eich dull dysgu naturiol eich hun. Yn gyffredinol, mae’r theorïau’n nodi tair prif agwedd o ran sut mae pobl yn astudio: • Derbyn yr wybodaeth • Prosesu’r wybodaeth • Trefnu a chyflwyno’r wybodaeth Mae dulliau dysgu’n dylanwadu ar bob myfyriwr. Mae pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai’n hoffi dysgu ‘ymarferol’, tra bo eraill yn dysgu drwy wylio eraill. Bydd angen i chi wneud yn fawr o’ch cryfderau fel dysgwr ac ymarfer dulliau a fydd yn gwella eich meysydd gwannaf. Efallai bydd gennych ddulliau dysgu gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o ddysgu. Bydd angen i chi ddefnyddio’r dulliau dysgu sydd fwyaf addas am dasg benodol. Mae system VARK (Fleming, 2001) yn asesu faint mae pobl yn dibynnu ar y canlynol: 1. Golwg 2. Clyw 3. Darllen 4. Cinesthetig (sy’n cynnwys cyffwrdd a thymheredd yn ogystal â symudiad).
1. Cyngor i ddysgwyr gweledol • Defnyddiwch ddeunyddiau gweledol fel lluniau, siartiau a mapiau • Defnyddiwch liw ar eich nodiadau a’ch testunau • Cymrwch nodiadau neu defnyddiwch daflenni; edrychwch yn ofalus ar benawdau a phatrymau pynciau • Tasgu syniadau gan ddefnyddio darluniau, mapiau meddwl a modelau • Defnyddiwch aml-gyfrwng lle bynnag y bo’n bosib • Ceisiwch astudio mewn man tawel sydd heb bethau i dynnu’ch sylw • Ceisiwch weld yr wybodaeth rydych am ei chofio fel llun
2. Cyngor i ddysgwyr clywedol • Cymrwch ran yn aml mewn trafodaethau a sgyrsiau • Rhowch areithiau a chyflwyniadau • Defnyddiwch ddictaffon neu recordydd tâp os yn bosib, yn ogystal â chymryd nodiadau • Darllenwch destun yn uchel • Crëwch gofyddiaeth i gynorthwyo’r cof 6
ANIFEILIAID – Anodd Nofio I Fyny Everest I Le Iach Ac Ifanc Delfrydol CANEUON - Catrin A Neidiodd, Enillodd Uffach O Naid PENDERFYNU - Penderfynodd Elen Naddu Dwy Ewig - Roedd Fel Ymgais (i) Naddu Uncorn
Rhestru yn eu trefn Trefn lliwiau’r enfys, neu’r sbectrwm gweledol: (Coch, Oren, Melyn, Gwyrdd, Glas, Indigo, Fioled) Cododd O’r Mynyddoedd, Gwibiodd Glyndŵr I’r Frwydr Trefn y planedau yn ôl eu pellter o’r Haul: (Mercher, Fenws, Y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion, Plwton) Mor Fach Yw’r Ddaear – Mae’n Iawn Sylwi Wrth Nodi’r Planedau
Dulliau Dysgu
Mae’r gofyddiaeth ganlynol yn frawddegau neu’n ymadroddion lle mae llythrennau cyntaf y gair yn sillafu gair y mae pobl yn cael trafferth ei sillafu.
Ffynhonnell: www.fun-with-words.com/mnemonics.html (Mae llawer mwy o gemau geiriau llawn hwyl ar gael ar y safle hwn hefyd). • Trafodwch eich syniadau ar lafar • Siaradwch i mewn i ddictaffon neu dâp awdio a gwrandewch ar eich syniadau am yr eildro ar y tâp
3. Cyngor i’r rhai sy’n dysgu drwy ddarllen • Ail-ysgrifennwch theorïau a syniadau yn eich geiriau eich hun • Gwnewch restrau i’ch helpu i gael gafael ar wybodaeth • Aildrefnwch fapiau a diagramau i fod yn eiriau • Gweithiwch ar hen bapurau arholiad
4. Cyngor i ddysgwyr cinesthetig • Os ydych chi’n defnyddio arddull gorfforol, gan ddefnyddio’r teimlad, gweithredoedd, symudiadau a gwaith ymarferol ar gyfer eich gweithgareddau dysgu • Gweithiwch gydag astudiaethau achos a chymwysiadau i helpu gyda theorïau penodol • Defnyddiwch luniau neu ffotograffau yn eich astudiaethau • Cymerwch ran mewn trafodaethau • Ysgrifennwch bapurau ymarfer • Defnyddiwch liwiau llachar i amlygu’ch nodiadau • Gwnewch nodiadau wrth ddarllen 7
Dulliau Dysgu
Cadw Trefn ar eich Dysgu Cyflwr Corfforol Gall eich cyflwr corfforol gael dylanwad dramatig ar eich astudiaethau. Yn amlwg, ni fyddwch yn gweithio cystal os byddwch chi’n flinedig, yn llwglyd, yn sychedig, dan straen neu’n gofidio. Mae’n bwysig gofalu, yn arbennig o gwmpas adeg aseiniad, bod eich deiet yn iachus a chytbwys. Gall gormod o siwgr roi rhuthr sydyn o ynni i chi, ond byddwch chi’n teimlo’n llipa o fewn dim. Gall alcohol leihau gallu’ch cof tymor byr i weithio am o leiaf 24 awr. 45 munud yw ystod canolbwyntio pobl fel arfer, felly, ar ôl hynny, bydd rhaid i chi gymryd egwyl neu ni fyddwch yn gallu gweithio’n effeithiol.
Cyflwr Emosiynol Gall emosiynau, cadarnhaol a negyddol, effeithio ar eich dysgu, felly mae’n bwysig ceisio cadw agwedd gadarnhaol tuag at eich dysgu. Fodd bynnag, weithiau rhaid i ni dderbyn y ffordd rydyn ni’n teimlo, ac os byddwch chi’n teimlo’n flinedig neu’n bryderus, yna mae’n syniad da i gymryd egwyl ac yna dychwelyd â meddwl clir. Os ydych chi’n dal i fod yn anniddig, gall helpu i fyfyrio a chofnodi’ch teimladau ac yna ailafael yn eich astudiaethau. Mae’n help hefyd i gadw rhestr o’ch nodau, teimladau a gweithredoedd cadarnhaol a’u hadolygu’n rheolaidd. Cofiwch fod sialensiau newydd yn hybu hunan-barch a meddwl cadarnhaol.
Yr Amgylchedd Mae’n bwysig bob amser penderfynu ar y man rydych chi’n gallu astudio orau a’r man sydd fwyaf dymunol ar gyfer dysgu. Gallai hyn fod yr ystafell ddosbarth, y llyfrgell, neu ystafell dawel yn y tŷ. Dylech roi ystyriaeth i’r pethau sy’n tynnu’ch sylw: ydych chi’n dueddol o edrych allan drwy’r ffenestr? Os felly, symudwch y bwrdd a’r gadair i wynebu’r ffordd arall. Ceisiwch hefyd glirio unrhyw sbwriel sy’n casglu, fel tameidiau o bapur a hen nodiadau nad oes eu hangen bellach. Bydd man heb annibendod yn eich galluogi i weithio’n llawer mwy cadarnhaol. Mae’n werth hefyd ystyried pa adeg o’r dydd rydych chi’n gweithio orau.
Materion Seicolegol a’ch rhwydwaith cymorth Gall problemau personol, y tu allan i fywyd academaidd, effeithio ar eich gallu i gyflawni’ch gwaith gorau. Gall bywyd coleg fod yn her ac yn straen, felly mae’n bwysig i chi gydnabod a chael help gyda materion megis straen, ysgogiad a chanolbwyntio. Mae dulliau o liniaru rhai o’r gofidiau, er enghraifft drwy drafod ag aelod o’r teulu, ffrind, eich tiwtor personol neu gynghorydd/cwnsler. Mae llawer o wasanaethau ar gael i fyfyrwyr, a gall staff eich ysgol/coleg eich cysylltu â grwpiau cymorth i fyfyrwyr sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.
Ymarfer Asesu eich Sgiliau Astudio 8
Beth yw’ch prif gryfderau? Beth yw’ch gwendidau? A oes unrhyw amgylchiadau ar hyn o bryd fydd yn effeithio ar eich astudiaethau? A oes unrhyw agweddau o’r cwrs y bydd angen help gyda nhw? Ar ba rannau o’r cwrs fyddwch chi’n disgwyl gwneud yn dda?
Dulliau Dysgu
Pam rydych chi wedi dewis y cwrs hwn?
Gwefannau defnyddiol www.fun-with-words.com www.ltscotland.org.uk www.peterhoney.com www.vark-learn.com
Cyfeirlyfr Cottrell, S (2008) The Study Skills Handbook. Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan Fleming, N.D, (2001) Teaching and Learning Styles: VARK Strategies, Honolulu Community College, New Zealand
9
Trefnu eich dysgu Adran 2
Trefnu eich dysgu Bod yn Ddysgwr Annibynnol Mae dysgwyr annibynnol wedi eu hysgogi i ddysgu, ac yn gallu rheoli eu hamser eu hunain a chanfod amser i fyfyrio ar eu dysgu. Wedi eu hysgogi i ddysgu: • Meddwl yn gadarnhaol a datblygu cynlluniau er mwyn cyflawni • Cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain • Pennu nodau heriol ond cyraeddadwy • Bwrw ati’n syth yn hytrach nag oedi Drwy fyfyrio ar eich dysgu rydych yn: • Myfyrio’n rheolaidd ar gynnydd • Cofnodi sut mae eich sgiliau’n datblygu • Deall bod angen adborth gan athrawon/tiwtoriaid a sut i’w ddefnyddio. 10
Mae llawer ohonom yn teimlo nad oes digon o oriau yn y dydd i wneud popeth y mae angen ei gyflawni ac mae pawb, ar ryw adeg, yn rheoli’u hamser yn wael. Gall hyn arwain at golli terfynau amser, cynhyrchu gwaith gwael, a theimlo’n rhwystredig a llawn straen. Ond mae’n bosibl canfod ffyrdd a fydd yn eich helpu i ymdopi’n well a’ch galluogi i reoli eich amser a’ch astudiaethau. Rheoli eich amser: • Nodwch beth sy’n bwysig wrth drefnu’ch astudiaethau • Cydbwysedd rhwng eich astudiaethau a’ch bywyd cymdeithasol • Defnyddio amser yn effeithiol • Gwybod ble mae adnoddau allweddol • Deall sut rydych yn dysgu orau
Dadansoddi’r Trafferthion Gall pawb ohonom elwa drwy gwestiynu ac efallai adolygu ein hagwedd a’n hen arferion o ran ein defnydd o amser. Mae rhai arferion ynghlwm wrth bersonoliaeth ac fe allai hynny effeithio ar ein synnwyr o gyflawniad. Er enghraifft, mae rhai pobl yn teimlo eu bod ar ruthr, tra bod eraill yn rhwystredig am nad ydyn nhw byth yn cyflawni’r hyn y dylent. Gall y pwyntiau isod eich helpu i nodi materion a chynorthwyo i roi cynlluniau ar waith.
Trefnu eich dysgu
Rheoli Amser
• Myfyriwch a chanolbwyntiwch ar pam rydych yn gwastraffu amser neu adael i’ch sylw grwydro: ydych chi’n tueddu i fod braidd yn ddiog, ydych chi’n gadael pethau hyd y funud olaf neu oes rhywbeth gwell i’w wneud bob amser? Unwaith y byddwch wedi cydnabod eich arferion personol, gallwch ddechrau meddwl sut i oresgyn unrhyw ddarpar rwystrau yn y dyfodol. • Nodwch ardaloedd o’ch cartref/ rannau o’ch bywyd lle hoffech allu rheoli eich amser yn well. • Beth yw canlyniad peidio â rheoli eich amser cystal ag yr hoffech chi? • Ym mha fodd byddech chi’n ystyried bod gennych sgiliau da i reoli amser eisoes?
Defnyddio Amser yn Effeithiol Os ydych chi’n un sy’n gwastraffu amser neu’n gadael i’ch sylw grwydro’n hawdd, yna gall y technegau canlynol eich helpu: • Rhannwch dasg fawr yn rhannau gweddol hawdd eu trafod a mynd i’r afael â phob un o’r rhain yn unigol. Dechreuwch gyda’r tasgau bach gan symud ymlaen at y rhai mwy anodd. • Ceisiwch lunio rhestr o ‘bethau i’w gwneud’, lle gallwch ychwanegu tasgau wrth iddynt godi ac yna eu croesi nhw i ffwrdd.
11
Trefnu eich dysgu
• Pennwch derfynau amser i chi’ch hun. Gall y rhain fod yn rhai hir dymor neu dymor byr ar ffurf rhestr ‘pethau i’w gwneud’ bob dydd. Mae’n bwysig iawn gosod nodau cyraeddadwy ac adolygu’r rhestr yn gyson i wneud yn siŵr eu bod nhw’n realistig. • Blaenoriaethwch! Mae rhai tasgau’n fwy pwysig na’i gilydd. Ceisiwch osgoi treulio gormod o amser ar bethau dibwys. Ysgrifennwch restr o dasgau mae’n rhaid eu cyflawni, doed a ddelo, rhai mae angen eu gwneud a rhai yr hoffech chi eu cyflawni. Ewch i’r afael â nhw yn y drefn honno. • Ysgrifennwch amserlen neu cadwch ddyddiadur, gan neilltuo amser penodol bob dydd ar gyfer pob tasg. Nodwch y galwadau allanol sydd gennych, er enghraifft cyfrifoldebau teuluol a chymdeithasol. Mae’n bwysig canfod trefniant sy’n diwallu eich anghenion. • Wrth gynllunio eich gwaith academaidd, mae’n bwysig iawn eich bod yn nodi cyfnodau yn eich amserlen i gynllunio, ymchwilio, drafftio, ysgrifennu ac ailysgrifennu eich traethawd.
Gwnewch yn siŵr bod eich amserlen yn realistig neu byddwch chi dan lawer o straen! • Rhan o’r gyfrinach o ddefnyddio’ch amser yn effeithiol yw gweithio yn ôl cloc eich corff. Efallai y gallwch daclo’r tasgau mwyaf anodd ar adegau arbennig o’r dydd. Dylech allu ateb y cwestiynau canlynol: • Ydych chi’n gweithio’n well yn y bore neu’n hwyr y nos? • Am faint o amser y gallwch chi weithio’n gynhyrchiol?
Monitro eich Cynnydd • Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gweithio’n rhy araf a heb gyflawni dim, ceisiwch newid eich ffordd o astudio, er enghraifft gweithio gyda ffrind, oherwydd os ydych chi’n teimlo fel hyn, yna mae’n bosibl nad chi yw’r unig un. • Gwnewch rywbeth arall am gyfnod byr i feddwl am rywbeth arall. Os ydych chi’n dal i gael trafferth ar ôl cyfnod hir, mae’n bwysig i chi gysylltu â’ch athrawes/athro/ tiwtor a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth neu gyngor i chi.
Cychwyn arni • Os ydych chi’n cael trafferth bwrw ati, lluniwch restr ar ddiwedd pob sesiwn astudio er mwyn nodi’r hyn mae angen ei gyflawni’r tro nesaf. Drwy hynny, byddwch yn gallu bwrw ymlaen â’ch gwaith a hynny’n gyflymach. • Beth am ddechrau gyda gweithgaredd byr a hawdd, ac yna symud ymlaen at y dasg fwyaf ac anoddaf yn ail.
12
Tasg
Dyddiad targed
Cwblhawyd/ Angen gwaith pellach
Amserlen Astudio Enghraifft 1 ION
Wythnos 1
Wythnos 2
Wythnos 3
Wythnos 4
Trefnu eich dysgu
Enghraifft o Restr o Bethau i’w Gwneud
LLUN MAW MER IAU GWE SAD SUL
Gwefan ddefnyddiol www.open.ac.uk/skillsforstudy
13
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth
Adran 3
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth Bydd rhaid i chi ymchwilio i wybodaeth i helpu gyda’ch astudiaethau academaidd am nifer o resymau: • Meddu ar ddealltwriaeth o’r pwnc • Canfod beth mae arbenigwyr wedi ysgrifennu am y pwnc • Cefnogi eich syniadau • Ennill mwy o farciau am eich aseiniad drwy ddarparu tystiolaeth eich bod wedi ymchwilio i’r pwnc
14
Dyw gweld rhywbeth ar y We ddim yn golygu ei fod yn wir. Mae’n hanfodol eich bod yn gyfarwydd â defnyddio Pyrth Gwybodaeth a Chyfeiriadur Pwnc. Bydd y rhain yn rhoi adnoddau o ansawdd da ar y we i chi ar gyfer eich gwaith, a’r cyfan wedi’i werthuso gan arbenigwyr pwnc. Gall llyfrgellydd eich ysgol/coleg roi cyngor i chi ar sut i gael gafael ar yr adnodd hwn. Nid yw’n syniad da defnyddio ‘Wikipedia’ gan nad yw’r wybodaeth wedi cael ei gwirio gan arbenigwyr.
Sefydlu Dull Chwilio Cyn i chi gychwyn chwilio am wybodaeth rhaid i chi fod yn glir am yr hyn rydych chi’n chwilio amdano. Rhaid i chi ganfod y geiriau arwyddocaol neu gymal fydd yn eich helpu i ganfod yr wybodaeth berthnasol drwy beiriant chwilio fel Google. ‘Allweddeiriau’ yw’r enw am y geiriau neu’r cymalau hyn. Pe byddai’n rhaid i chi wneud gwaith ymchwil ar gyfer traethawd gyda’r teitl ‘Bella and Edward in the film The Twilight saga lead confliciting lifestyles. Is it possible that their relationship can work if they really love each other?’. Yna’r allweddeiriau ddylech chi eu defnyddio gyntaf yw ‘Twilight’, enwau’r cymeriadau, ac efallai’r geiriau ‘love’ a ‘conflict’.
Gwerslyfrau Ceir gwybodaeth hanfodol mewn gwerslyfrau a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth gyfredol. Gallant ddarparu: • Gwybodaeth drylwyr i gau unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth a chynorthwyo dealltwriaeth • Awgrymiadau ymarferol i’ch helpu i wneud penderfyniadau • Barn arbenigol i ddyfynnu yn eich gwaith
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth
Chwilio’r We
Canfod Gwerslyfrau Bydd gwybodaeth ar gael yn llyfrgell eich ysgol/coleg am yr holl werslyfrau sydd ar gael i’w benthyg. Mae llawer o gatalogau llyfrgell bellach ar gyfrifiadur. Yn ogystal â gwybodaeth am lyfrau, mae catalogau’n cynnwys manylion am fathau eraill o adnoddau yn y llyfrgell, er enghraifft cylchgronau, e-gylchgronau ac e-lyfrau. Mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â chatalogau eich llyfrgell. Ar gyfer pob modiwl rydych chi’n ei astudio, byddwch yn derbyn rhestr ddarllen. Bydd y rhestr yn cynnwys manylion y gwerslyfrau sy’n cael eu hargymell ar gyfer eich astudiaethau.
15
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth
Sut i werthuso gwybodaeth Er y byddwch wedi cael rhestr gynhwysfawr o ddeunyddiau darllen, efallai y byddwch yn dal i ddod ar draws llyfrau sydd heb eu cynnwys, ond ymddengys eu bod yn rhai buddiol. Mae rhai technegau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw er mwyn penderfynu a ydynt yn addas neu beidio.
Technegau • Ai dyma’r rhifyn diweddaraf? • Pryd cafodd y gyfrol ei chyhoeddi? • A yw’r athro/athrawes/tiwtor wedi cyfeirio at yr awdur neu’r teitl mewn sesiynau dysgu? • Ydy’r teitl yn rhoi cliw i mi am gynnwys y llyfr? • Ydy hwn yn gyflwyniad neu ganllaw i’r pwnc? Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r llyfr, mae’n fuddiol i chi edrych ar y canlynol: • Tudalen y Teitl • Penawdau’r Penodau • Y Cynnwys • Mynegai
Beth yw Llên-ladrad? Os na fyddwch chi’n nodi’n glir eich bod wedi cyfeirio at waith rhywun arall, naill ai o lyfr, y rhyngrwyd, rhaglen radio neu deledu, fe’i hystyrir yn lladrad academaidd a’r enw am hyn yw llên-ladrad. Ceir llên-ladrad pan fyddwch chi’n defnyddio geiriau, meddyliau neu syniadau pobl eraill a’u cyflwyno fel eich rhai chi eich hun. Mae hyn yn golygu nad ydych chi wedi cydnabod y person rydych chi wedi cyfeirio at ei waith yn eich traethawd. Dyma rai enghreifftiau o lên-ladrata i’w hosgoi: • Copïo’n uniongyrchol o destun air am air (os na fyddwch chi wedi ei gyfeirnodi) • Copïo ambell gymal o lyfrau a/neu’r rhyngrwyd • Aralleirio darn o destun yn eithriadol o debyg i’r gwreiddiol neu newid sawl gair mewn darn o waith • Lawrlwytho neu gopïo delweddau a lluniau heb gydnabod y ffynhonnell
16
(Addaswyd yr uchod o “Llên-ladrad a Chwilota am Wybodaeth www.glam.ac.uk/blackboard) Am ragor o wybodaeth, gweler Adran 7: Ysgrifennu Traethodau
Rheoli Gwybodaeth 1. Cadwch ffeil ar wahân ar gyfer pob pwnc a rhanwyr ffeiliau neu sticeri lliw ar gyfer pob pwnc. 2. Nodwch awdur, teitl a manylion cyhoeddi unrhyw lyfr rydych yn ymchwilio iddo bob amser, rhag ofn y byddwch am ddefnyddio’r wybodaeth mewn traethawd. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i’w gyfeirnodi’n gywir yn y llyfryddiaeth. 3. Cadwch fynegai A-W er mwyn nodi unrhyw wybodaeth bwysig efallai y byddwch yn ei defnyddio yn y dyfodol. Dylech groesgyfeirio gwybodaeth i wybodaeth berthnasol bwysig arall. 4. Dylech ffeilio’n rheolaidd. Rhowch daflenni ac unrhyw nodiadau a gymerwyd gennych yn ystod y sesiwn yn yr adrannau cywir yn syth. 5. Rhowch ddyddiad bob amser ar eich gwaith a nodwch eich enw ac enw’r athro/ athrawes/tiwtor ar frig pob tudalen Nodwch hefyd deitl y sesiwn ddysgu. Bydd arfer gwneud hyn yn arbed llawer o amser yn y dyfodol. 6. Rhifwch eich tudalennau rhag ofn iddynt gwympo o’r ffeil. 7. Os bydd eich athro/athrawes/tiwtor yn symud i bwnc gwahanol yn yr un sesiwn ddysgu, ysgrifennwch eich nodiadau newydd ar ddalen lân o bapur.
Gwefan ddefnyddiol
Ymchwilio a Rheoli Gwybodaeth
I osgoi cael eich cyhuddo o lên-ladrad, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r system gyfeirnodi y disgwylir i chi ei defnyddio yn eich pwnc. Bydd eich athro/athrawes/ tiwtor yn eich cynghori ar y system briodol gan dreulio amser yn dangos i chi sut i’w defnyddio.
www.open.ac.uk/safari
17
Darllen yn Effeithiol Adran 4
Darllen yn Effeithiol Mae meithrin y sgil o ddatblygu dulliau darllen effeithlon yn hanfodol i gefnogi pob math o waith academaidd. Mae’n bwysig casglu gwybodaeth yn effeithiol o’r hyn fyddwch chi’n ei ddarllen. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn ddarllenwyr disgybledig sy’n ffurfio a chynnal arfer darllen da. Defnyddiwch eich amser yn dda i gasglu a gwerthuso deunydd darllen.
Pa ddulliau darllen y dylwn ni eu defnyddio? Darllen Gweithredol • Mae’r broses ddarllen yn golygu mwy na’r weithred o ddarllen; mae’n cynnwys pum maes gweithgaredd cyflenwol.
18
1 Arolygu
Sgimio dros y testun
2 Cwestiynu
Nodi cwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt
3 Darllen
Darllen drwy’r testun
4 Galw i Gof
Mynd dros yr hyn rydych newydd ddarllen
5 Adolygu
Cofnodi’r wybodaeth
• Mae sgimio’n golygu darllen i gael golwg gyffredinol o’r testun. Rydych chi’n sgimddarllen drwy edrych ar benawdau ac is-benawdau’r adrannau mewn llyfrau ac erthyglau hir mewn cylchgronau i benderfynu a ydyn nhw’n werth eu darllen neu beidio. • Mae sganio’n golygu chwilio am wybodaeth benodol. Er enghraifft, byddwch chi’n gwneud hyn pan fyddwch yn chwilio am enw awdur ar dudalen, neu ddyddiad, pwnc yn y mynegai ayyb gan ddiystyru gweddill y testun. • Mae darllen yn feirniadol yn golygu meddwl a chwestiynu’r hyn rydych chi’n ei ddarllen, gan herio’r rhagdybiaethau a geir. Am ragor o wybodaeth am hyn, ewch i Adran 5 Sgiliau Meddwl.
Darllen yn Effeithiol
Arolygu, Cwestiynu, Darllen, Galw i Gof, Adolygu (SQ3R)
Beth dylwn i wneud cyn darllen gwerslyfrau neu erthyglau ar y we? • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano cyn chwilio’r we neu’r llyfrgell. • Rhaid i chi fod yn eithaf detholgar wrth ddarllen gan na fydd gennych ddigon o amser i ddarllen popeth ar eich rhestr ddarllen, ac yn wir ni fydd angen darllen popeth. I ganfod pa destunau sy’n berthnasol i’ch pwnc neu os ydych am gael eglurhad o’ch nodiadau darlith, dechreuwch drwy edrych ar y cynnwys neu’r mynegai i fynd yn syth at y pwnc. Gallwch hefyd ddarllen y cyflwyniad a’r casgliad i ganfod a yw hi’n werth darllen y llyfr. Mae llyfryddiaeth dda hefyd yn arwydd da o’r math o wybodaeth a gynigir yn y llyfr/ erthygl a’i gwerth. • Edrychwch am gwestiynau sy’n seiliedig ar yr wybodaeth rydych yn chwilio amdani h.y. holwch eich hun, “A yw’r adran hon yn delio â phwnc perthnasol?” Bydd hyn yn eich helpu i ddarllen yn weithredol ac yn feirniadol. • Os byddwch yn darllen er mwyn paratoi ar gyfer traethawd, efallai byddwch am ddarllen pennod neu ran o’r llyfr. Dechreuwch drwy sganio’r adran i’w darllen, gan edrych ar benawdau ac is-benawdau i gael safbwynt cyffredinol, yna ei ddarllen yn fwy manwl. • Gwnewch yn siŵr mai dim ond y deunydd perthnasol i’ch gofynion fyddwch chi’n ei ddarllen. Mae hyn yn bwysig gan na fydd byth digon o amser i ddarllen yr holl ddeunydd ar eich rhestr ddarllen. 19
Darllen yn Effeithiol 20
Beth dylwn ei wneud wrth ddarllen? • Os ydych chi’n fodlon bod y testun rydych chi wedi ei ganfod yn briodol ar gyfer eich gwaith ymchwil, ewch yn ôl a’i ddarllen yn arafach i’w ddeall yn iawn. Ewch i’r afael â darnau bach o wybodaeth, paragraff, tudalen neu bennod fer, beth bynnag sy’n addas i chi. • Cofiwch am y cwestiynau rydych chi am gael atebion iddyn nhw a chwestiynwch yr hyn rydych yn ei ddarllen. • Ewch i’r afael â thestunau anodd fesul darn bach, paragraff neu dudalen ar y tro. • Dylai’r darlleniad ddod i ben gydag adolygiad o’r hyn rydych wedi ei ddarllen. Dyma’r adeg i gymharu’r hyn rydych wedi ei ddarllen gyda’r cwestiynau roeddech chi am eu hateb ar y dechrau. A gawsoch ateb i’r rhain, neu a gawsoch eich siomi?
Gwefannau defnyddiol www.open.ac.uk/safari www.open.ac.uk/skillsforstudy www.bbc.co.uk/learning
Sgiliau Meddwl Adran 5
Sgiliau Meddwl Dadansoddi Mae bron pob gweithgaredd academaidd yn dechrau gyda rhyw fath o ddadansoddi. Mae hyn yn dangos yr hyn yr ydych chi’n ceisio mynd i’r afael ag ef. Ystyr dadansoddi yw tynnu pethau ar wahân i weld y rhannau gwahanol a sut maent yn cysylltu. Dylech gwestiynu’r wybodaeth, y canfyddiadau ymchwil a’r theorïau rydych yn eu cynnwys yn eich traethawd. Ni ddylech dderbyn yr wybodaeth neu ddadl yr awduron fyddwch chi wedi ei ddarllen; rhaid i chi fod yn cwestiynu’n gyson pam eu bod yn dweud pethau. Mae angen ateb wrth ofyn pam. Mae hyn yn golygu cymharu agweddau a gynigir gan yr awduron fyddwch chi wedi eu darllen. Os gwnewch chi hyn, rydych chi’n dadansoddi. Y casgliad fyddwch chi wedi ei ffurfio, yr agwedd fyddwch chi wedi ei chymryd, fydd eich barn chi. Fodd bynnag, byddwch chi’n gwneud hyn i gyd drwy gefnogi’r dystiolaeth fyddwch chi wedi ei chasglu wrth ymchwilio. Mae pob traethawd sydd wedi ei ddadlau’n dda’n gallu cefnogi’r ddadl drwy gyflwyno tystiolaeth, dyma’r gwahaniaeth rhwng barn ragfarnllyd a barn ddeallus. 21
Sgiliau Meddwl
Mae dadansoddi’n golygu: • Camu’n ôl oddi wrth yr wybodaeth a roddir a’i harchwilio’n fanwl o sawl cyfeiriad • Ei harchwilio’n fanwl i gadarnhau fod yr wybodaeth yn gwbl gywir • Gwirio a yw datganiad yn dilyn yn rhesymegol o’r hyn a’i ragflaenodd • Chwilio am wendidau posibl yn y rhesymu, y dystiolaeth neu’r modd y deuir i’r casgliadau • Cymharu’r un peth o safbwynt eraill • Gallu gweld ac egluro pam bod gwahanol bobl yn dod i gasgliadau gwahanol i’w gilydd • Gallu dadlau pam bod un set o agweddau, canlyniadau neu gasgliadau yn rhagori ar un arall • Gwirio i weld a oes tybiaethau cudd • Chwilio am ymdrechion i ddenu’r darllenydd i gytuno â barn
Dadansoddi Beirniadol Mae hwn gam ymhellach na dadansoddi. Mae’n golygu gwneud yr uchod gydag elfen ychwanegol o fyfyrio sy’n golygu bod yn feirniadol. Nid yw hyn o anghenraid yn golygu bod yn feirniadol o ran anghytuno, ond pwyso a mesur tystiolaeth, edrych ar y dadleuon mewn modd beirniadol a dod i gasgliad amdanynt.
Mae meddwl beirniadol yn golygu: • Datgymalu gwybodaeth i wahanol syniadau a chysyniadau • Gwneud dyfarniadau gofalus am syniadau a gwerthuso ansawdd y syniadau • Ffurfio casgliadau o’r dystiolaeth fydd yn caniatáu i chi ateb y cwestiwn yn nheitl y traethawd, neu egluro maes rydych chi’n ei archwilio. • Rydych chi’n gweithredu ychydig fel barnwr mewn llys barn – gan bwyso a mesur y dystiolaeth a dod i gasgliad rhesymol a theg.
Nid dyma yw dadansoddi beirniadol: • Gwneud rhagdybiaethau heb eu gwirio • Cyffredinoli heb gefnogi’r wybodaeth â thystiolaeth • Derbyn gwybodaeth heb ei chwestiynu • Disgrifiad plaen 22
• Dweud bod yr awdur wedi dweud rhywbeth heb roi eich barn am y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedwyd • Cymryd safiad negyddol Mae Cottrell (2008) yn awgrymu ei bod o help i feddwl fel ditectif wrth geisio ffurfio dadansoddiad beirniadol, boed hyn wrth ddarllen, ysgrifennu neu wrando.
Dylai dadansoddi beirniadol wrth ddarllen gynnwys y canlynol: • Canfod y llinell o resymu yn y testun • Profi’r rhesymeg mewn dull beirniadol • Cwestiynu’r hyn sy’n ymddangos ar yr wyneb
Sgiliau Meddwl
• Cynnig gwybodaeth gyfeiliornus neu gamarweiniol
• Nodi’r dystiolaeth • Gwerthuso’r dystiolaeth • Nodi canfyddiadau’r awdur • Gwirio bod y dystiolaeth yn cefnogi’ch casgliadau
Dylai dadansoddi beirniadol wrth ysgrifennu gynnwys y canlynol: • Dangos dadl glir • Cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich dadl • Darllen eich gwaith eich hun yn feirniadol yn ogystal â’ch cyfeirnodau • Edrych ar eich pwnc o wahanol agweddau • Ysgrifennu mewn arddull feirniadol yn hytrach nag un ddisgrifiadol
Dylai dadansoddi beirniadol wrth wrando gynnwys y canlynol: • Gofyn cwestiynau - Pam? Pa mor bell? Faint? Pa mor aml? • Gwirio’r dystiolaeth - Sut gwyddoch chi fod hyn yn wir? Pa mor ddibynadwy yw’r ffynhonnell?
23
Sgiliau Meddwl
Ymarfer: Wrth ddarllen, ymchwilio ac ysgrifennu, defnyddiwch y mathau isod o gwestiynu i ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol Beth yw nodweddion allweddol .........? Beth yw’r brif ragdybiaeth sy’n gefndir i …? Beth yw cryfderau a gwendidau ...........? Beth ydw i’n ei wybod eisoes am …? Ym mha fodd mae ‘x’ a ‘y’ yn debyg ...? Beth dybiech chi fyddai’n digwydd pe bai ...? Pa dystiolaeth a geir i gefnogi ...? Beth sy’n enghraifft dda o ...? Beth yw’r syniad allweddol ...? Beth weithiodd a beth na wnaeth weithio? Oes unrhyw ddadleuon heb eu cefnogi? Beth sydd wedi cael ei hepgor? Sut daethpwyd i’r casgliad hwn?
Cyfeirlyfr: Cottrell, S (2008, 3ydd argraffiad) The Study Skills Handbook, Llundain: Palgrave Macmillan
Gwefannau Defnyddiol www.open.ac.uk/skillsforstudy www.kcl.ac.uk/teares/nmvc/studyskills/academicwriting/page_28.htm
24
Cymryd Nodiadau Adran 6
Cymryd Nodiadau Cymryd nodiadau mewn sesiwn ddysgu Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn ceisio ysgrifennu nodiadau manwl mewn sesiwn ddysgu, ond mae hi bron yn amhosibl i’w cofnodi mor gyflym ag y mae’r athro/athrawes/tiwtor yn siarad. Mae’n hawdd colli rhediad y sesiwn oherwydd eich bod, yn syml iawn, yn ceisio nodi popeth. Gall hyn achosi teimladau o rwystredigaeth ac annigonolrwydd. Felly, i rwystro hyn rhag digwydd, mae’n rhaid i chi roi cynlluniau ar waith sy’n caniatáu i chi gael cymaint â phosibl o fudd o’r sesiwn.
25
Cymryd Nodiadau
Paratoi ar gyfer y sesiwn ddysgu • Po fwyaf fyddwch chi’n ei wybod am y pwnc cyn eich sesiwn ddysgu, rhwyda’n byd fydd hi i gymryd nodiadau. Yn syml, mae hyn oherwydd na fydd cymaint o wybodaeth newydd a byddwch yn gwybod fwy neu lai beth i’w ddisgwyl. Un ffordd i wella’ch nodiadau yw gwirio teitl y sesiwn ddysgu ymlaen llaw, ac i wneud y gwaith darllen sydd wedi cael ei argymell. • Meddyliwch am y pwnc ymlaen llaw – sut bydd e’n berthnasol i’r hyn rydych chi wedi ei ddysgu eisoes? • Nodwch rai cwestiynau yr hoffech gael atebion iddyn nhw.
Symbolau neu dalfyriadau a all helpu = + - < > h.y. e.e. n.b. c. esp.
hafal, yr un fath â a, ac, hefyd ddim yn, heb gynnwys llai na mwy na hynny yw er enghraifft dalier sylw circa, tua, oddeutu yn arbennig felly
Neu gallwch ddyfeisio eich talfyriadau neu eiriau eich hun, fel y math a ddefnyddir gennych mewn negeseuon testun. Gallwch fyrhau unrhyw eiriau rydych yn eu defnyddio’n rheolaidd i fod yn un llythyren neu symbol. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio bod yn rhy greadigol neu ni fyddwch yn cofio beth yw ystyr eich talfyriadau!
Awgrymiadau ar gyfer cymryd nodiadau • Os byddwch yn derbyn taflenni, mae’n haws cymryd nodiadau arnyn nhw. Ni fydd rhaid i chi ysgrifennu cymaint gan y bydd peth o’r wybodaeth arnyn nhw eisoes. Gall y dull hwn arbed amser gan y bydd gwybodaeth allweddol fel y dyddiad, a theitl y sesiwn wedi eu cynnwys eisoes • Bydd rhaid i chi ysgrifennu dyddiad y sesiwn, y teitl a’r modiwl dan sylw. Bydd rhaid i chi hefyd rifo pob tudalen i’w cadw mewn trefn. Bydd hynny’n help pan ddaw hi’n amser ysgrifennu traethawd neu sefyll arholiad. • Gwrandewch am awgrymiadau, geiriau allweddol a syniadau sy’n cael eu hailadrodd. Dyma rai cliwiau : ‘Dyma i chi enghraifft....’ ‘Mae tri phwynt yn cefnogi hyn....’ ‘I gloi …’ 26
Hefyd gwrandewch am bethau fel ‘Heddiw rydym yn mynd i edrych ar …’ ‘Rwy’n mynd i drafod pedair prif agwedd …’ ‘Rhaid i mi bwysleisio bod …’ Os ceisiwch chi ddilyn yr awgrymiadau hyn yn eich nodiadau, bydd hi gymaint yn haws i chi ddeall yn ddiweddarach. Peidiwch â disgwyl cael hyn yn iawn y tro cyntaf: mae ysgrifennu nodiadau cywir yn cymryd amser a thrwy ymarfer byddwch chi’n gwella. • Peidiwch ag ysgrifennu brawddegau (mae’r rhain yn rhy hir ac yn cynnwys llawer o eiriau dianghenraid) - ysgrifennwch y geiriau allweddol. Gallwch ysgrifennu’r rhain ynghynt a bydd yn caniatáu i chi allu gwrando. Drwy wrando am y geiriau pwysicaf a chymryd nodiadau o’r pwyntiau hynny, gallwch gofio mwy o’r sesiwn ddysgu. Geiriau allweddol yw’r rhai sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth e.e. ‘prif bwynt ei ddadl yw .....’ • Os oes gennych chi nam ar y golwg neu glyw, efallai byddwch chi am roi gwybod i’r athro/athrawes/tiwtor fel nad ydynt yn sefyll yn eich ffordd neu’n troi eu cefn tuag atoch chi. Bydd angen iddyn nhw wybod eich bod angen nodiadau neu gopïau o’r sleidiau cyn/ar ôl hynny ar gyfer eu hastudio. Hefyd, bydd rhaid i nodiadau papur gael eu darparu mewn fformatau amgen fel y gallwch wneud defnydd ohonyn nhw.
Cymryd Nodiadau
‘Oherwydd’ gan roi rheswm am rywbeth.
• Yn yr un modd, os oes gennych anawsterau dysgu penodol neu’n meddwl bod gennych rai, er enghraifft, dyslecsia, mae’n bwysig bod y tiwtor/athro/athrawes yn gwybod ymlaen llaw pagymorth ychwanegol neu adnoddau mewn fformat amgen fyddai o help i chi ar gyfer gwneud nodiadau. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion neu golegau wasanaethau cymorth dysgu ac ymgynghorwyr arbenigol fydd yn gallu helpu gyda hyn.
Gall y pethau canlynol helpu hefyd • Ewch yn ôl at eich nodiadau o fewn 24 awr i lanw unrhyw fylchau, ailysgrifennu geiriau aneglur neu ychwanegu unrhyw syniadau sydd gennych am y pwnc. • Tra bod y nodiadau’n fyw yn eich cof, sicrhewch eich bod yn eu deall. • Gwnewch yn siŵr bod y strwythur yn glir: ychwanegwch benawdau, lliwiau, ayyb. i’ch helpu’n ddiweddarach. • Rhowch ddyddiad ar y nodiadau a ffeiliwch nhw i chi allu dod o hyd iddyn nhw’n hawdd • Defnyddiwch liwiau i amlygu pwyntiau pwysig ond dim gormod o liwiau gan y gall hyn achosi dryswch a chymryd gormod o amser.
Dulliau Cymryd Nodiadau Mae rhai ysgolion a cholegau’n awgrymu dulliau arbennig o gymryd nodiadau. Mae rhai myfyrwyr yn gweld ei bod yn fuddiol i gymryd nodiadau ar ffurf mapiau meddwl, diagramau pry copyn neu siartiau llif. 27
Cymryd Nodiadau
Diagram Pry Copyn • Ysgrifennwch y brif thema yng nghanol darn o bapur. • Ysgrifennwch bob syniad a gair allweddol sy’n perthyn i’ch pwnc gan gychwyn o’r canol ac ymestyn allan ar hyd y canghennau o syniadau cysylltiol. • Gallwch roi cylch neu linell gyswllt o amgylch bob syniad yn ôl y galw. • Wedi i chi orffen, amlygwch unrhyw syniadau cysylltiol a threfnu’r pynciau. • Bydd rhai syniadau’n ffurfio prif benawdau, tra bod eraill yn isadrannau dan y penawdau hyn. • Yna, dylech allu gweld patrwm yn ymddangos a gallwch osod eich prif benawdau mewn trefn resymegol.
Datblygu sgiliau bywyd datblygu’n fwy annibynnol Mwy o gyfleoedd
Mwy hyderus
Ehangu gorwelion
i deithio datblygu sgiliau rhoi cynnig ar bethau newydd Rhagolygon gwell am yrfa
PAM ASTUDIO ADDYSG UWCH
Astudio academaidd manwl
Cyflawniad Personol
Bywyd cymdeithasol da
Gwella potensial enillion
Map Meddwl • Ysgrifennwch deitl y sesiwn ddysgu neu bwnc yng nghanol y papur gyda’r holl syniadau’n ymestyn o’r canol • Gallwch ychwanegu’r syniadau a’r pethau sy’n gysylltiedig â’r pwyntiau hyn fesul un. • Bydd y map meddwl yn eich galluogi i weld pethau ar unwaith a gallwch bersonoli eich nodiadau. 28
ANGHENION BABAN NEWYDD ANEDIG
CARIAD DIOGELWCH
Cynhesrwydd
dillad Sylw
Safety
Lloches
Anwyldeb
dillad glân
Diogelwch - offer addas/pram, crud etc.
HYLENDID BWYD
Cymryd Nodiadau
Mae’n bwysig cydnabod bod rhaid i chi fod yn gwbl siŵr o’ch pwnc cyn mentro gwneud hyn, oherwydd gallant arwain at gyfres o eiriau a saethau dryslyd os nad ydych yn eu trefnu’n ofalus.
Newid cewynnau Offer diheintio
Llaeth fformiwla/potel/bron
Siart Llif • Mae siart llif yn ddilyniant clir o syniadau neu ddigwyddiadau a bydd yn eich helpu i roi strwythur i’ch nodiadau mewn trefn resymegol • Gall hyn eich helpu i adalw gwybodaeth ac felly helpu gyda’ch adolygu
Siart Llif - Dirywiad Canol Dinas
Busnesau’n cau
Eiddo/adeiladau gwag
Ardal yn dirywio e.e. fandaliaeth, graffiti, ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gostyngiad ym mhrisoedd eiddo, tir 29
Cymryd Nodiadau
Y Model ‘6RS’ i Gymryd Nodiadau Cam 1: Cyn Cychwyn Cyn y sesiwn ddysgu, paratowch drwy rannu tudalennau llyfr tudalennau rhydd A4 fel isod
Prif Syniadau
Manylion
Crynodeb
Cam 2: Cofnodi Yn ystod y sesiwn ddysgu, cofnodwch y pwyntiau pwysig. Defnyddiwch bwyntiau bwled a thalfyriadau, dim brawddegau.
Cam 3: Crynhoi Mor fuan â phosibl, tra bod y sesiwn ddysgu’n fyw yn eich cof, ewch drwy’r nodiadau a chrynhoi’r wybodaeth yn y golofn manylion i fod yn eiriau allweddol a chymalau. Yn olaf, crynhowch y sesiwn ddysgu yn eich geiriau eich hun yn y gofod ar gyfer crynodeb ar y gwaelod.
Cam 4: Adrodd Cuddiwch y golofn manylion ac ewch drwy’r awgrymiadau yng ngholofn y prif syniadau, gan adrodd y pwyntiau yn y golofn manylion. Ailadroddwch hyn nes byddwch yn gallu cofio’r wybodaeth.
Cam 5: Myfyrio Meddyliwch am yr hyn rydych wedi ei ddysgu. Holwch eich hun sut mae’n berthnasol i’r wybodaeth rydych chi’n ei gwybod eisoes a sut bydd yn atgyfnerthu neu’n newid eich dealltwriaeth flaenorol a’r modd y gallwch wneud defnydd ohoni. Ceisiwch wneud yr wybodaeth yn berthnasol i chi.
30
Treuliwch ychydig funudau bob wythnos yn edrych drwy nodiadau eich sesiynau dysgu. Bydd hyn yn cadw’r syniadau’n fyw yn eich cof, a fydd yn gryn fantais pan ddaw hi’n adeg adolygu ar gyfer arholiad.
Gwefannau defnyddiol www.chompchomp.com www.visualthesaurus.com www.SmartDraw.com
Cymryd Nodiadau
Cam 6: Adolygu
31
Ysgrifennu Traethawd Adran 7
Ysgrifennu Traethawd Mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio a strwythuro’ch traethawd cyn i chi ddechrau darllen pentwr mawr o ddeunyddiau, gan fod y broses o gynllunio’n anodd iawn os oes gennych chi ormod o wybodaeth i’w threfnu. Nid oes yr un strategaeth benodol ar gyfer ysgrifennu traethawd yn effeithiol gan fod dull pob myfyriwr o gynllunio traethawd yn wahanol. Rhaid i chi benderfynu beth sy’n gweithio orau i chi. Bydd y cynghorion arfer da dilynol yn eich helpu i gynllunio a strwythuro eich traethawd yn effeithiol. Bydd traethawd da yn cynnwys strwythur cadarn, paragraffau wedi eu pwysoli’n gytbwys sy’n dangos eich bod yn gallu rheoli’ch deunydd, cynnwys da, gramadeg ac atalnodi da a’r cyfan wedi ei gefnogi gan gyfeirnodau.
Strwythur y Traethawd
32
Fel y dywed Peck a Coyle (2005), mae’n annoeth i geisio canfod cyfeiriad eich traethawd wrth i chi ei ysgrifennu; mae’n fwy cynhyrchiol i chi feddwl am strwythur eich traethawd cyn i chi ddechrau ei ysgrifennu. Rhannwch eich cynllun traethawd yn dair rhan; y dechrau, y canol a’r diwedd.
Bydd y strwythur hwn yn addas ar gyfer unrhyw bwnc rydych yn ei astudio. Os dilynwch chi’r fformat hwn, byddwch yn llunio traethawd sydd wedi ei ffurfio a’i strwythuro’n dda gyda chyfeiriad clir iddo.
Dyma rai canllawiau ar gyfer strwythuro’ch traethawd: Traethawd 1,000 – 1,500 gair Meddyliwch am eich traethawd fel tri phwynt allweddol ar ffurf wyth paragraff. Dylai pob paragraff, ac eithrio’r cyflwyniad a’r casgliad, gynnwys tua’r un nifer o eiriau. Cyngor da yw meddwl am eich traethawd ar ffurf tri phrif bwynt o ddau baragraff yr un. Byddai strwythur traethawd 1,500 gair yn edrych fel hyn: Cyflwyniad
1 paragraff (150 gair)
Pwynt Cyntaf
2 baragraff
Ail Bwynt
2 baragraff
Trydydd Pwynt
2 baragraff
Casgliad
1 paragraff (200 gair)
Ysgrifennu Traethawd
Nawr, rhannwch y rhan ganol (prif ran eich traethawd) yn dair adran bellach; yr adran gyntaf fydd yn gosod y ddadl, yr ail adran fydd yn ymhelaethu ar y ddadl; y drydedd adran fydd yn dod â’r ddadl ynghyd. Os meddyliwch chi am eich cynllun fel hyn, yna bydd y traethawd yn dod i drefn ar ei union.
Traethawd 2,500 o eiriau Meddyliwch am eich traethawd fel tri phwynt allweddol ar ffurf un ar ddeg paragraff, heb gyfri’r cyflwyniad a’r casgliad, gyda’r paragraffau’n cynnwys tua’r un faint o eiriau. Byddai strwythur traethawd 2,500 gair yn edrych fel hyn: Cyflwyniad
1 paragraff
Pwynt Cyntaf
3 pharagraff
Ail Bwynt
3 pharagraff
Trydydd Pwynt
3 pharagraff
Casgliad
1 paragraff (200 gair)
33
Ysgrifennu Traethawd
Traethawd 5,000 o eiriau Meddyliwch am eich traethawd fel tri phwynt allweddol ar ffurf 20 paragraff, heb gyfri’r cyflwyniad a’r casgliad, gyda’r paragraffau’n cynnwys tua’r un faint o eiriau. Byddai strwythur traethawd 5,000 gair yn edrych fel hyn: Cyflwyniad
1 paragraff (150 gair)
Pwynt Cyntaf
6 pharagraff
Ail Bwynt
6 pharagraff
Trydydd Pwynt
6 pharagraff
Casgliad
1 paragraff (200 gair)
Ateb y Cwestiwn: Eich cam cyntaf wrth ysgrifennu traethawd yw ystyried teitl y traethawd. Rhaid i chi edrych ar y geiriad a phenderfynu’n union beth mae disgwyl i chi ei wneud. Gallai fod o help i chi danlinellu’r hyn rydych chi’n credu yw’r geiriau allweddol yn y cwestiwn/teitl: mae’r rhain yn gymalau neu eiriau pwysig a fydd yn penderfynu ar gynnwys, arddull a strwythur eich traethawd. Er enghraifft Cymharwch
Chwiliwch am y tebygrwydd/gwahaniaeth ac efallai dod i gasgliad pa un sydd orau.
Cyferbynnwch Rhowch nhw mewn cystadleuaeth i ganfod y gwahaniaeth rhyngddyn nhw.
34
Beirniadwch
Rhowch eich barn am rinweddau’r theorïau a’r safbwyntiau, neu am gywirdeb y ffeithiau, gan gefnogi’ch barn drwy drafod y dystiolaeth neu’r rhesymeg a ddefnyddiwyd.
Diffiniwch
Nodwch union ystyr geiriau neu gymal; mewn rhai achosion efallai bydd hi’n angenrheidiol neu’n ddymunol i archwilio gwahanol bosibiliadau ar gyfer y diffiniadau a ddefnyddir yn aml.
Disgrifiwch
Rhowch adroddiad manwl neu graffig.
Trafodwch
Ymholwch neu archwiliwch fesul dadl; chwilotwch a dadleuwch; rhowch resymau o blaid ac yn erbyn.
Gwerthuswch
Gwnewch werthusiad o werth rhywbeth.
Eglurwch
Gwnewch e’n amlwg; dehonglwch a rhowch gyfiawnhad am rywbeth; rhowch resymau.
Darluniwch
Defnyddiwch ffigwr neu ddiagram i egluro neu esbonio neu wneud yn glir drwy ddefnyddio enghreifftiau cadarn.
Esboniwch yr ystyr; ei wneud yn glir ac amlwg, fel arfer drwy hefyd roi eich barn.
Cyfiawnhewch Rhowch ddatganiad pam eich bod yn credu bod hyn yn wir. Rhowch resymau dros eich datganiad a’ch casgliad. Amlinellwch
Rhowch grynodeb cyffredinol. Dylai gynnwys cyfres o brif syniadau wedi eu cefnogi gan syniadau eilaidd. Peidiwch â chynnwys manylion ac enghreifftiau dibwys.
Profwch
Dangoswch drwy ddadl neu resymeg bod hyn yn wir.
Cysylltwch
Dangoswch y cysylltiad rhwng pethau, gan ddweud fel mae un yn achosi’r llall neu’n debyg i’r llall.
Adolygwch
Rhowch grynodeb o’r materion pwysig a beirniadwch lle bo angen.
Mynegwch
Disgrifiwch y prif bwyntiau’n fanwl. Byddwch yn ffurfiol. Defnyddiwch frawddegau byr, clir. Peidiwch â chynnwys manylion nac enghreifftiau.
Crynhowch
Rhowch grynhoad byr, cywasgedig o’r prif syniadau. Peidiwch â chynnwys manylion nac enghreifftiau.
Olrheiniwch
Dilynwch gynnydd neu hanes y testun.
Rhowch gyfrif am
Rhowch y rhesymau dros rywbeth, rhowch eglurhad trylwyr.
Ysgrifennu Traethawd
Dehonglwch
Dadansoddwch Canfyddwch y prif syniadau a dangos y cysylltiad rhyngddyn nhw a
pham eu bod yn bwysig.
Gwnewch sylw ar
Trafodwch, beirniadwch neu eglurwch yr ystyr mor llawn â phosibl.
Rhestrwch
Nodwch a rhestrwch y prif syniadau fesul un. Rhifwch nhw.
Ystyriwch
Archwiliwch.
Awgrymiadau Da ar gyfer Ysgrifennu Traethawd Ysgrifennu eich Cyflwyniad • Peidiwch â gor-fanylu; mae un paragraff yn ddigon • Nodwch beth yw testun/teitl y traethawd • Dechreuwch gyda pharagraff sydd tua 150 gair sy’n dweud beth byddwch chi’n ei drafod/ystyried yn y traethawd e.e. ‘Bydd y traethawd hwn yn ystyried y tri phwynt allweddol canlynol’ neu ‘Bydd yr aseiniad hwn yn dynodi’n benodol y tair thema allweddol ganlynol’:
35
Ysgrifennu Traethawd
• Peidiwch â dechrau ateb y traethawd yn ystod y cam hwn • Peidiwch â chrwydro o gwmpas y pwnc • Mae eich athro/athrawes/tiwtor yn chwilio am gydlyniad, dealltwriaeth a mewnwelediad
Ysgrifennu prif gorff y traethawd Calon ysgrifennu traethawd da yw cyflwyno dadleuon effeithiol - dylech anelu, bron ym mhob traethawd, i wneud pwynt cyffredinol fel ymateb i ryw bwnc neu ddadl. Cofiwch fod eich athro/athrawes/tiwtor yn chwilio am gywirdeb, eglurder a dadl gryno. Isod, ceir rhai syniadau a allai helpu. Nid yw pob un yn berthnasol i bob achos. • Pennwch y datganiad sy’n broblem: beth yw’r pwnc neu’r gwrthdaro? • Gwnewch osodiad: dylai fod gennych chi rywbeth i’w ddweud a’i ddweud yn glir • Defnyddiwch ddyfyniadau os ydynt yn gywir ac yn briodol • Rhowch dystiolaeth ac eglurwch pam y dylid ei chredu • Defnyddiwch enghreifftiau i gyfleu’r pwynt • Ceisiwch ragweld y gwrthwynebiad: beth yw’r dadleuon yn erbyn rhywbeth • Addaswch eich dadl os yw’r gwrthddadleuon yn rhai cryf • Rhowch drefn ar eich pwyntiau i wneud eich dadl yn fwy credadwy • Byddwch yn fanwl gywir • Byddwch yn gyson yn yr hyn rydych yn ei ddweud • Osgowch feirniadaeth bersonol • Osgowch safbwyntiau personol sydd heb eu cefnogi gan ddadansoddiad/tystiolaeth • I orffen, ailadroddwch eich gosodiad, gan grynhoi’r pwyntiau allweddol
Ysgrifennu eich Casgliad • Ysgrifennwch un paragraff sydd tua 10% o gyfanswm yr holl eiriau • Crynhowch, gan grynhoi’r pwyntiau allweddol yn eich traethawd • Peidiwch â chyflwyno unrhyw syniadau newydd: dylai eich holl syniadau fod wedi cael eu trafod eisoes • Osgowch gyflwyno dyfyniadau – dylai’r rhain fod wedi eu cynnwys ym mhrif gorff eich traethawd. 36
Mynegwch eich barn yn gynnar yn y traethawd, a chyflwynwch ddadleuon clir i’w chefnogi. Dylai eich safbwynt fod yn un sy’n gyson drwy gydol y traethawd. Cynigiwch dystiolaeth neu enghreifftiau dibynadwy i gefnogi’ch dadl. Mae tystiolaeth ddibynadwy yn dystiolaeth rydych wedi ei darllen mewn testun, erthyglau, papurau newyddion, gwefannau ayyb sy’n rhai cyfrifol ac awdurdodol. Dangoswch darddiad y dystiolaeth: drwy enwi’ch ffynonellau a rhestru’ch holl ffynonellau yn y cyfeirnodau neu’r llyfryddiaeth ar ddiwedd eich traethawd. Dangoswch eich bod yn ymwybodol o ddadleuon sy’n groes i’ch rhai chi a’ch bod wedi eu hystyried. Bydd rhaid i chi grynhoi’r gwrthddadleuon yn glir, yn gywir a heb eu llurgunio yn eich traethawd. Dangoswch pam i chi benderfynu bod y dadleuon rydych wedi’u dewis yn eich argyhoeddi’n fwy na dadleuon eraill.
Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno traethawd
Ysgrifennu Traethawd
Datblygu eich dadleuon mewn traethodau
1. Dilynwch y canllawiau a roddir ar sut dylech chi fod yn cyflwyno eich traethawd e.e. cyflwynwch ddogfen wedi ei theipio, sy’n ddarllenadwy a defnyddiwch y bylchau priodol rhwng y llinellau a’r ffontiau addas. 2. Gofalwch wirio eich sillafu bob amser. Gall camsillafu golli marciau i chi. Defnyddiwch eiriadur neu raglen cywiro sillafu eich cyfrifiadur a cheisiwch gael rhywun i brawf ddarllen eich traethawd. 3. Gwiriwch eich bod wedi mynd drwy’r holl brosesau mae eu hangen wrth baratoi eich traethawd. (gweler y rhestr wirio ar ddiwedd yr adran hon). 4. Defnyddiwch eiriau trosiannol a chysylltiol i gysylltu syniadau a dadleuon yn eich brawddegau a pharagraffau.
Dyma rai geiriau y gallech eu defnyddio: I ychwanegu gwybodaeth Yn ychwanegol, eto, ynghyd â, hefyd, ac, a, un arall, yn ogystal â, heblaw, er enghraifft, ac ymhellach, yn yr un modd, mwy na hynny, ac yn ail. 37
Ysgrifennu Traethawd
I grynhoi neu gloi Felly, drwodd a thro, o ganlyniad, oherwydd hyn, ac yn olaf, i gloi, i grynhoi.
I gyferbynnu dau beth neu ddangos y gwahaniaeth Ar y llaw arall, o’u cymharu â, fodd bynnag, ond, mewn gwrthgyferbyniad, yn groes i hyn, fel arall, er hynny, eto.
I bwysleisio pwynt Unwaith eto, fel y dangoswyd, fel y dynodwyd, fel yr amlygwyd, yn amlwg, yn glir, am y rheswm hwn, yn wir, i bwysleisio.
I arddangos tebygrwydd Unwaith eto, yn gymharol, yn cyd-fynd, yn cydredeg, yn yr un modd, yn yr un dull, felly hefyd.
I egluro A ddiffinnir fel, yn wahanol, mewn geiriau eraill, yn y modd, o’i roi fel arall, i esbonio, i egluro, o’i ailadrodd, a welir fel.
I gael dilyniant yn eich dadl Cyn, yn olaf, yn gyntaf, ar y dechrau, i gydredeg, yn ddiweddarach, yr un modd, yn ail, wedi hynny, i gloi.
Sut bydd yr athro/athrawes/tiwtor yn asesu eich traethawd? Mae athrawon/tiwtoriaid yn defnyddio rhestr wirio neu ganllawiau tebyg i’r un isod ar gyfer asesu traethodau a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd yn fuddiol i chi hunanasesu eich traethawd drwy ei gymharu â’r canllaw, ac adolygu eich gwaith yn unol â’r asesiad o gryfderau a gwendidau eich traethawd.
Cynnwys: • Gwaith darllen cefndirol • Dealltwriaeth o’r pwnc • Deall materion damcaniaethol 38
• Cyflwyniad cadarn • Dadl glir • Defnyddio tystiolaeth briodol • Dadansoddi a gwerthuso • Casgliad Addas
Cyflwyniad • Darllenadwy, wedi ei gyflwyno’n dda, taclus • Wedi ei strwythuro’n dda • Y sillafu’n gywir • Cydlynol (yn llifo, cyswllt rhwng gwahanol gamau o’r ddadl) • Strwythur y paragraffau (eu hyd, eu trefn) • Defnydd addas o derminoleg • Enw’r awdur wedi’i sillafu’n gywir
Ysgrifennu Traethawd
• Perthnasedd yr ateb i’r cwestiwn
• Cyfeirnodau a llyfryddiaeth • Cryfderau’r gwaith hwn • Gwendidau’r gwaith hwn • Sut gellid gwella’r traethawd hwn
Rhestr wirio’r traethawd • Ydw i wedi ateb y cwestiwn? • Ydw i wedi delio â’r prif agweddau? • Ydw i wedi delio â’r agweddau hyn yn ddigon manwl? • Ydy’r cynnwys yn berthnasol? • Ydy’r cynnwys yn gywir? • Ydw i wedi trefnu’r deunydd yn rhesymegol? • A yw’r traethawd yn llifo o adran i adran, ac o baragraff i baragraff? 39
Ysgrifennu Traethawd
• Ydw i wedi defnyddio digon o ffynonellau? • Ydw i wedi cyfeirio’n gywir at yr holl ffynonellau? • A yw’r traethawd yn agos at y cyfrif geiriau? • A ydw i wedi ysgrifennu’n glir? • A yw’r gramadeg, yr atalnodi a’r sillafu’n gywir? • A yw’r traethawd wedi’i gyflwyno yn ôl y canllawiau? • Ydw i wedi darllen y traethawd/ a yw’n rhesymegol? • Ydw i wedi cyflwyno dadl argyhoeddiadol?
Sillafu a all achosi trafferth Absenoldeb
ayyb
Punt
Felly
Anodd
Annymunol
Pennill
Annibynnol
Anobeithiol
Annwyd
Penillion
Punnoedd
Hunangofiant
Hunangofiannau
Wedyn
Ysgrifenyddes
Fyny
Penderfynu
Yfory
Ysgrifennydd
Carreg
Caregog
Diwydiannau
Annifyr
Cant
Cannoedd
Diwydiant
Annwyd
Dymunol
Difyr
Tynnu
Llywodraeth
Cofiwch: does dim o’i le mewn defnyddio geiriadur neu Thesawrws – mae pawb arall yn gwneud hynny.
Cyfeirlyfrau Peck, J and Coyle, M. (2005 2nd edn) The Student’s Guide to Writing: Grammar Punctuation and Spelling. London: Palgrave Macmillan. Redman, P. (2006, 3rd edn) Good Essay Writing: A Social Sciences Guide. Milton Keynes, California. SAGE.
Gwefannau defnyddiol www.open.ac.uk/skillsforstudy www.chompchomp.com
40
Ysgrifennu Adroddiadau
Adran 8
Ysgrifennu Adroddiadau Adroddiad yw datganiad canlyniadau astudiaeth neu unrhyw fater y mae angen cyflwyno gwybodaeth benodol arno. (Geiriadur Oxford English - cyfieithiad) Mae adroddiadau yn ffurf o ysgrifennu sydd wedi ei strwythuro’n fanwl iawn, yn aml yn dilyn confensiynau sydd wedi eu gosod i gael fformat unffurf. Mae strwythur a chonfensiwn adroddiadau ysgrifenedig yn pwysleisio’r broses a ddefnyddiwyd i gasglu’r wybodaeth lawn cymaint â’r wybodaeth ei hun.
41
Ysgrifennu Adroddiadau
Traethawd neu Adroddiad? Y gwahaniaeth pennaf rhwng traethawd ac adroddiad yw’r arddull a’r strwythur. Mae traethawd yn adlewyrchiad o’r hyn rydych chi’n ei wybod am agwedd arbennig o’r pwnc. Mae adroddiad yn gofnod a nodir neu farn a fynegir yn ffurfiol yn dilyn astudiaeth, ystyriaeth neu gasglu gwybodaeth. Mae’n seiliedig yn bennaf ar ffeithiau h.y. bydd canran uwch ohono’n ffeithiol, ddisgrifiadol mewn strwythur pur ffurfiol. Yn wahanol i draethawd, nid pwrpas adroddiad yw dadlau ond yn hytrach cyflwyno gwybodaeth/ffeithiau, er y gellir defnyddio canlyniadau adroddiad fel sail trafodaeth. Defnyddir y mwyafrif o adroddiadau i ddadansoddi sefyllfa (problem fel arfer) i ddadlennu canlyniadau ac argymell sut i weithredu. Yn wahanol i draethawd, gall adroddiad gyflwyno peth gwybodaeth ar ffurf pwyntiau bwled. Yn ystod eich cyfnod astudio, efallai y gofynnir i chi ysgrifennu gwahanol fathau o adroddiadau, gan ddibynnu ar y pwnc rydych chi wedi ei ddewis. Gallai’r rhain fod yn adroddiadau labordy, adroddiadau technegol, adroddiad am leoliad gwaith neu ymweliad diwydiannol, adroddiad am daith neu waith maes. Gall pwrpas adroddiadau amrywio’n fawr, ond bydd angen strwythur ffurfiol a chynllunio gofalus ar bob un, gan gyflwyno’r deunydd mewn dull rhesymegol gan ddefnyddio iaith glir a chryno. Mae’r adran isod yn archwilio pob cam o ddatblygiad eich adroddiad, gan wneud argymhellion am strwythur a thechneg.
Camau wrth ysgrifennu adroddiadau Dylid defnyddio’r camau canlynol wrth ysgrifennu adroddiad: • egluro beth yw’ch cylch gorchwyl • cynllunio’ch gwaith • casglu eich gwybodaeth • trefnu a strwythuro eich gwybodaeth • ysgrifennu eich drafft cyntaf • gwirio ac ailddrafftio
Cylch Gorchwyl Cylch gorchwyl adroddiad yw’r datganiad tywys a ddefnyddir i ddiffinio cwmpas eich ymchwiliad. Rhaid i chi fod yn glir o’r dechrau beth gofynnwyd i chi ei wneud. Byddwch, mae’n siŵr, wedi derbyn yr aseiniad gan eich athro/athrawes/tiwtor ond efallai bod angen i chi drafod hyn ymhellach i ganfod yr union bwnc a phwrpas yr adroddiad. Pam gofynnwyd i chi ei ysgrifennu? Bydd gwybod beth yw’r bwriad yn eich helpu i gyfleu eich gwybodaeth yn gliriach a bydd yn eich helpu i fod yn fwy dethol wrth gasglu eich gwybodaeth.
42
Bydd cynllunio gofalus yn help i chi ysgrifennu adroddiad clir, cryno ac effeithiol, gan roi amser digonol i bob un o’r camau datblygiadol cyn ei gyflwyno. • Ystyriwch yr adroddiad yn ei gyfanwaith • Rhannwch y dasg o ysgrifennu’r adroddiad i wahanol rannau • Faint o amser sydd gennych chi i ysgrifennu’r adroddiad? • Sut mae rhannu hyn i’r gwahanol gamau cynllunio? • Gosodwch derfyn amser i chi eich hun ar gyfer pob cam o’r gwaith • Lluniwch amlinelliad o strwythur eich adroddiad • Pennwch amserlen resymol i’r gwaith er mwyn gorffen erbyn y terfyn amser a nodwyd Y broses o gasglu a dethol yr wybodaeth yw’r rhannau sy’n cymryd hwyaf yn aml, a hefyd gwirio ac adolygu’ch adroddiad.
Casglu Gwybodaeth Mae nifer o gwestiynau y dylech ofyn i chi’ch hun yn ystod y cam hwn: • Pa wybodaeth mae ei hangen arnoch?
Ysgrifennu Adroddiadau
Cynllunio’ch Adroddiad
• Ble mae dod o hyd i’r wybodaeth? • Faint sydd ei hangen arnoch chi? • Sut ydych chi am gasglu’r wybodaeth? • Ym mha drefn ydych chi am ei gosod? Efallai bod llawer o’r wybodaeth gennych chi eisoes fel canlyniadau arbrawf labordy neu ddisgrifiad o’r dull casglu data. Fodd bynnag, hwyrach bydd angen deunydd arall arnoch megis gwybodaeth am astudiaethau ymchwil, neu adolygiadau llenyddol. Efallai bydd angen i chi gynnal cyfweliadau neu ymweld â llyfrgell y brifysgol/ysgol i gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. • Gwnewch restr o’r wybodaeth mae ei hangen arnoch. • Lluniwch gynllun gweithredu gan nodi sut byddwch chi’n casglu’r wybodaeth dan sylw
43
Ysgrifennu Adroddiadau
Trefnu Gwybodaeth Un dull buddiol o drefnu eich gwybodaeth yn bynciau yw casglu eich syniadau ar ‘ddiagram pry copyn’. Cewch ragor o wybodaeth am sut i drefnu deunydd yn Adran 6: Cymryd Nodiadau.
Strwythuro’ch Adroddiad Buom yn trafod yn gynharach y gwahanol fathau o adroddiadau sydd i’w cael, fel adroddiadau labordy neu adroddiadau ar leoliad mewn diwydiant neu ddigwyddiad arbennig. Gofalwch bob amser holi’r person sydd wedi comisiynu’r adroddiad (eich athro/ athrawes/ tiwtor, goruchwylydd eich lleoliad neu drefnydd digwyddiad) beth yn union i’w gynnwys yn yr adroddiad a’r modd y dylid ei gyflwyno. Mae’r elfennau canlynol i’w cael mewn llawer o wahanol adroddiadau: • Tudalen deitl • Cydnabyddiaeth • Cynnwys • Crynodeb • Cyflwyniad • Dull • Canlyniadau neu Ganfyddiadau • Trafodaeth • Casgliadau ac Argymhellion • Cyfeirlyfrau • Atodiadau
Tudalen deitl Dylai hon gynnwys teitl yr adroddiad (gan roi arwydd o’r testun dan sylw), enw’r awdur, modiwl, cwrs a’r dyddiad.
Cydnabyddiaeth Dylech fod yn cydnabod unrhyw help rydych chi wedi ei gael wrth gasglu’r wybodaeth ar gyfer yr adroddiad. Gall hyn fod oddi wrth lyfrgellwyr, technegwyr neu staff eraill yn eich ysgol/coleg.
44
Dylech restru prif adrannau’r adroddiad yn eu trefn gan nodi rhif y tudalennau. Os oes siartiau, diagramau neu dablau wedi eu cynnwys yn eich adroddiad, dylid rhestru’r rhain ar wahân dan bennawd fel ‘Rhestr o’r darluniau’ ynghyd â rhifau’r tudalennau.
Crynodeb Paragraff byr ddylai hwn fod yn crynhoi prif gynnwys yr adroddiad. Dylai gynnwys datganiad byr o’r brif dasg, y dulliau a ddefnyddiwyd, y casgliadau a ganfuwyd ac unrhyw argymhellion a wneir. Dylai’r crynodeb fod yn gryno, yn addysgiadol ac yn annibynnol o’r adroddiad. Ysgrifennwch yr adran hon wedi i chi orffen ysgrifennu’r adroddiad.
Cyflwyniad Dylai hwn osod cyd-destun a chwmpas yr adroddiad, a dylai hefyd gynnwys eich cylch gorchwyl. Nodwch eich amcanion yn glir, diffiniwch y terfynau sydd i’r adroddiad, amlinellwch y dull ymchwilio, rhowch gefndir byr a nodwch y datblygiad arfaethedig.
Dull Yn yr adran hon, dylech nodi sut y bu i chi gynnal yr ymchwil. Wnaethoch chi gyfweld neu ddefnyddio holiaduron? Sut casglwyd y data? Pa fesuriadau wnaethoch chi? Sut gwnaethoch chi ddewis y rhai i gael eu cyfweld? Cyflwynwch yr wybodaeth hon yn rhesymegol ac yn gryno.
Ysgrifennu Adroddiadau
Cynnwys
Canlyniadau neu Ganfyddiadau Cyflwynwch eich canlyniadau yn y dull symlaf posibl. Mwyaf cymhleth y bydd yr wybodaeth yn edrych, mwyaf anodd fydd hi i’w dehongli. Mae nifer o ffyrdd i gyflwyno canlyniadau, gan gynnwys tabl, graff, siart cylch, siart bar neu ddiagram.
Trafodaeth Dyma’r adran lle gallwch chi ddadansoddi a dehongli eich canlyniadau yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd gennych, gan egluro’r arwyddocâd. Nodwch y materion pwysig ac awgrymwch esboniadau am eich canfyddiadau. Dylech amlinellu unrhyw broblemau a wynebwyd gennych a chyflwyno barn gytbwys.
Casgliadau ac Argymhellion Dyma’r adran yn yr adroddiad sy’n crynhoi’r prif feysydd trafod. Dylid eu cyfleu’n glir ac ni ddylech gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd . Efallai y byddwch yn dymuno rhestru eich argymhellion mewn adran ar wahân neu eu cynnwys gyda’r casgliadau. 45
Ysgrifennu Adroddiadau
Cyfeirlyfrau Mae’n bwysig eich bod yn rhoi manylion cywir yr holl waith gan awduron eraill y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Dylai’r manylion gynnwys: • Cyfenw a llythrennau enwau cyntaf yr awdur • dyddiad cyhoeddi • teitl y llyfr • cyhoeddwr • man cyhoeddi • rhifau’r tudalennau Dylid rhestru pob cyfeirnod yn nhrefn cyfenwau’r awduron yn yr wyddor. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnodau’n fanwl gywir ac yn gynhwysfawr.
Atodiadau Mae atodiad yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r adroddiad ond nid yw’n hanfodol i’r prif ganfyddiadau. Mae hyn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y darllenydd ond ni ddylai’r adroddiad ddibynnu ar hyn. Dylech gynnwys manylion cwestiynau cyfweliadau, data ystadegol, geirfa termau, neu wybodaeth arall a allai fod yn fuddiol.
Rhestr wirio’r adroddiad • A yw eich diagramau/darluniau wedi eu labelu’n glir? • Oes teitl ar bob un? • A yw’r cyswllt rhwng y testun a’r diagram yn glir? • A yw’r penawdau’n fanwl gywir? • A yw echelinau’r graffiau wedi eu labelu’n glir? • Os modd dehongli’r tablau’n hawdd? • Ydych chi wedi cadw at unrhyw reolau hawlfraint wrth gynnwys darluniau/tablau o ddogfennau sydd wedi eu cyhoeddi?
46
Bydd angen i chi ystyried sawl pwynt wrth ysgrifennu adroddiad: Bydd eich athro/athrawes/tiwtor yn dweud wrthych a ddylech ysgrifennu’ch adroddiad mewn arddull ‘bersonol’ neu ‘amhersonol’. Mae’r dull personol fel a ganlyn - ‘Rydw i’n argymell.....’ Mae’r dull amhersonol fel a ganlyn - ‘Argymhellir bod......’ Mae’r dull personol yn caniatáu i chi ysgrifennu brawddegau byr, bachog. Mae’r amhersonol yn fwy ffurfiol ac ystyriol. Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hyn a pheidiwch â chymysgu’r ddwy arddull.
Symlrwydd Dylai’r rhan fwyaf o adroddiadau ysgrifenedig osgoi defnyddio iaith rhy gymhleth. Os mai diben yr adroddiad yw dwyn perswâd, briffio neu gyfiawnhau, rhaid i’r neges fod yn glir. Mwy na hynny, peidiwch â boddi cyflwyniad ffeithiol o ddata gyda brawddegau maith soffistigedig. Osgowch ddefnyddio jargon diangen. Mae hyn y drysu’r darllenydd mwyaf deallus. Gofalwch bod eich talfyriadau yn rhai o safon. Yn aml, mae awduron yn defnyddio eu jargon eu hunain i osgoi’r boen o ysgrifennu pethau’n llawn. Gwyliwch rhag ffwndro’ch darllenydd.
Defnydd o Iaith
Ysgrifennu Adroddiadau
Arddull ysgrifennu
Dylai’r rhan fwyaf o adroddiadau osgoi defnyddio iaith oddrychol. Er enghraifft byddai cofnodi rhywbeth sydd wedi newid ei liw “o wyrdd syfrdanol i las prydferth” yn gosod eich safonau chi ar ganlyniad mesuradwy. Beth yw ystyr “prydferth” i chi? Beth bydd hyn yn ei olygu i’r darllenydd? Yn gyffredinol, nid oes lle i iaith mor oddrychol a phersonol wrth ysgrifennu mewn maes mor wrthrychol ag ysgrifennu adroddiad.
Gosodiad Mae gan y mwyafrif o adroddiadau system rifo esgynnol. Y dull mwyaf cyffredin yw’r drefn ‘ddegol’. Rhoddir rhifau unigol Arabeg i’r prif adrannau - 1, 2, 3 ac yn y blaen. Byddai enghraifft o strwythur yn edrych fel hyn; 1. Cyflwyniad 1.1…………… 1.2 …………… 2. Dull 2.1 ……………
47
Ysgrifennu Adroddiadau
Cyflwyniad Bydd y canllawiau isod yn eich help i lunio adroddiad sy’n hawdd ei ddarllen: • Gadewch ymylon llydan i’r dudalen ar gyfer ei rhwymo ac ar gyfer sylwadau adborth eich tiwtor/athro/athrawes • Dylai paragraffau fod yn fyr a chryno • Dylai penawdau fod yn glir – wedi eu hamlygu mewn inc bras neu wedi eu tanlinellu • Dylai diagramau a lluniau fod wedi eu labelu a’u rhifo • Dylid rhestru pob uned safonol, mesuriadau a therminoleg dechnegol mewn rhestr geirfa yng nghefn eich adroddiad
Ailddrafftio a Gwirio Unwaith byddwch chi wedi ysgrifennu drafft cyntaf eich adroddiad, bydd angen i chi ei wirio. Mae’n ddoeth i chi ei adael ar eich desg am ddiwrnod neu ddau os oes gennych chi amser i wneud hynny. Bydd hyn yn gadael bwlch clir ar ôl y cyfnod dwys o ysgrifennu, fel y gallwch edrych ar eich gwaith yn fwy gwrthrychol. Aseswch eich gwaith yn ôl y meysydd hyn: • Strwythur • Cynnwys • Arddull • Eglurder a manylder Defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer ysgrifennu adroddiad ar ddiwedd yr adran hon i wirio eich adroddiad. Efallai hoffech chi gynnal gwerthusiad mwy ffurfiol.
Crynodeb Mae’r gallu i fynegi eich hun yn glir yn bwysig ac yn un y gellir ei wella’n ddirfawr drwy drefnu pob adroddiad mewn dull sydd wedi ei gynllunio a’i ffocysu. Bydd y sgiliau mae eu hangen i ysgrifennu adroddiad yn eich helpu i grynhoi a chanolbwyntio gwybodaeth, gan wneud casgliadau gwrthrychol o ddata manwl.
Rhestr Wirio Ysgrifennu Adroddiad • A yw’r dudalen deitl yn cynnwys: y teitl, eich enw, modiwl/manylion y cwrs? • Ydych chi wedi cydnabod pob ffynhonnell o gymorth? 48
• Ydych chi wedi rhestru’r holl luniau? • Ydych chi wedi cynnwys crynodeb, sy’n disgrifio’r prif dasgau, y dulliau a ddefnyddiwyd, eich casgliadau a’r argymhellion a wneir? • A yw eich cyflwyniad yn cynnwys cylch gorchwyl, cwmpas yr adroddiad, amlinellia o’r dull, cefndir byr o’r pwnc? • Ydych chi wedi cynnwys adran ar fethodoleg gan ddangos ffurf yr ymchwiliad rydych chi wedi ei gynnal a’r ffordd roeddech chi’n casglu data? • A yw eich diagramau’n glir a syml, wedi eu labelu’n glir, ac yn berthnasol i’r testun? • Yn eich prif drafodaeth, ydych chi wedi nodi’r meysydd trafod allweddol, wedi awgrymu eglurhad am eich canfyddiadau, ynghyd â phroblemau a wynebwyd? • Ydych chi wedi darparu cyflwyniad sy’n gytbwys? • A yw eich casgliadau a’ch argymhellion yn dod â’ch prif syniadau ynghyd ac yn osgoi cyflwyno unrhyw wybodaeth newydd? • A yw eich cyfeirnodau’n fanwl gywir, yn gyflawn ac wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor? • Yn yr atodiadau, ai dim ond gwybodaeth atodol rydych chi wedi ei chynnwys? • Ydych chi wedi defnyddio iaith glir a chryno? A yw’r brawddegau’n fyr ac yn ddijargon? A yw’r paragraffau’n rhai penodol? Ydych chi wedi defnyddio arddull bersonol neu amhersonol?
Ysgrifennu Adroddiadau
• Ydych chi wedi cynnwys tudalen gynnwys ac wedi rhestru’r prif adrannau yn eu trefn?
• Gosodiad – Ydych chi wedi labelu pob adran yn glir? A yw eich dull labelu’n gyson drwy’r adroddiad? • Cyflwyniad – Ydych chi wedi gadael digon o ymylon i’r tudalennau ar gyfer eu rhwymo ac ar gyfer derbyn adborth? A yw’r penawdau’n glir? Ydych chi wedi gwirio’r sillafu?
Gwefannau defnyddiol www.open.ac.uk/skillsforstudy/information-report-or-description.php www.lboro.ac.uk/service/ltd/campus/reportwr.pdf http://www.lboro.ac.uk/library/skills/report.html
49
Dyddlyfrau Dysgu Adran 9
Dyddlyfrau Dysgu Myfyrio a gwneud y defnydd gorau o ddyddlyfrau dysgu Mae Dyddlyfr Dysgu (sy’n cael ei alw weithiau’n ddyddlyfr myfyriol neu log dysgu) yn ddogfen neu gofnod parhaus (heb fod yn annhebyg i ddyddiadur) sy’n seiliedig ar eich profiadau, eich myfyrdodau a’ch sylwadau fel myfyriwr. Mae’n gofnod personol ac felly hwyrach byddwch am gadw ei gynnwys yn breifat. Yn yr ystyr uchod, mae dyddlyfr yn wahanol i log gan fod log yn fwy o gofnod o ddyddiadau, digwyddiadau a gweithgareddau. Yr elfen allweddol mewn dyddlyfr yw natur fyfyriol y cynnwys fel dull o helpu eich datblygiad fel myfyriwr gweithredol. Mae cael cyfle cyson i feddwl am eich teimladau a’ch profiadau wrth i chi ysgrifennu yn llawn mor bwysig â’r cofnod ysgrifenedig ei hun.
50
1. Cofnod personol wedi ei gadw gan y myfyriwr i’w ddibenion personol (h.y.cynnwys preifat). 2. Cofnod wedi ei ddogfennu am eich profiadau dysgu sy’n cael ei gyflwyno fel rhan ofynnol o’ch cwrs, yn aml bydd y ffurf hon yn cael ei hasesu.
Pa fath o ddeunydd allwch chi ei gynnwys mewn dyddlyfr myfyriol? • Myfyrdodau a nodiadau ar faterion sy’n codi wrth ddarllen neu o drafodaeth mewn sesiwn ddysgu; gweithgareddau yr hoffech chi eu hystyried ymhellach. • Cwestiynau a gododd yn eich pen yn dilyn pwyntiau a wnaed mewn deunydd roeddech chi’n ei ddarllen ar y pwnc. • Mor fuan â phosibl ar ôl mynychu dosbarth neu sesiwn ddysgu, mae’n syniad da i atgyfnerthu’ch dysgu drwy grynhoi’r elfennau allweddol. Ceisiwch nodi rhai o’r pwyntiau pwysig gydag unrhyw fanylion neu dystiolaeth gefnogol. Gwnewch hyn drwy ei gofio i ddechau ac yna cymharu’ch atgofion a syniadau â’r rhai sydd yn eich nodiadau papur oddi wrth y tiwtor/athro/athrawes. Pa mor dda maen nhw’n cymharu? Oes yna fylchau yn yr wybodaeth? • Nodiadau a sylwadau’n seiliedig ar eich darllen ehangach h.y. nid yn unig o’r llyfrau a’r erthyglau a argymhellir neu a gynigir gan eich athro/athrawes/tiwtor. Ym mha ffordd mae’r wybodaeth yn cyfoethogi (neu’n gwahaniaethu oddi wrth) yr hyn rydych chi wedi ei gael yn y dosbarth neu drafodaeth yn y sesiwn ddysgu?
Dyddlyfrau Dysgu
Gall dyddlyfr myfyriol fod ar un o ddwy ffurf:
• Eich teimladau ac argraffiadau am eich cynnydd ar y cwrs; a yw pethau’n mynd yn dda neu ydych chi’n cael problemau mewn rhai meysydd? Beth yw’r problemau a sut gellir eu goresgyn neu eu diddymu? Os ewch am help at eich tiwtor/athro/athrawes, pa mor fuddiol ac effeithiol ydyw? • Eich myfyrdodau am y cwrs ei hun: y dulliau dysgu ac addysgu sy’n cael eu defnyddio; ydyn nhw’n diwallu eich anghenion? Sut gallwch chi addasu’r hyn sy’n cael ei gynnig i ddiwallu eich dewis o ddull dysgu er mwyn gwneud yn fawr o’ch profiad dysgu? • Os yw dyddlyfr dysgu’n rhan o ofynion eich cwrs a’ch bod yn ei gyflwyno ar-lein neu fel atodiad e-bost, dylai unrhyw sylwadau nad ydych yn dymuno i’ch tiwtor/athro/athrawes eu gweld gael eu cadw mewn fersiwn ar wahân! • Nid oes rhaid i ddyddlyfr dysgu gael ei gyfyngu i destun a nodiadau, gallai hefyd gynnwys diagramau, lluniadau, mapiau meddwl ac unrhyw beth arall sy’n eich cynorthwyo i gadw cofnod defnyddiol. Cofiwch bob amser mai pwrpas sylfaenol dyddlyfr myfyriol yw mai chi, y dysgwr, ddylai fod yr un sy’n cael y budd pennaf ohono. Nid oes dull gwell o glirio eich syniadau nac o ddatrys ambell faes dryslyd na thrwy ysgrifennu’r cyfan i lawr. Efallai eich bod yn meddwl pam ei fod bellach wedi ei gynnwys mewn cynifer o gyrsiau a chael ei asesu. Yn ei hanfod, mae dau reswm am hyn: 1. Bydd myfyrwyr yn fwy tebygol o gofio’r hyn maent wedi’i wneud os ydynt yn cadw dyddlyfr rheolaidd. 2. Mae’n ffordd i’ch tiwtor/athro/athrawes weld sut rydych chi’n teimlo am y cwrs a’r modd y gellir cynnig help, os oes angen hynny. 51
Casglu Portffolio Adran 10
Casglu Portffolio Bydd angen rhywle arnoch i storio eich gwybodaeth o’r holl ffynonellau. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn creu system ar gyfer storio gwaith a deunyddiau gwaith perthnasol wrth astudio, fel arfer mewn ffeil fodrwy neu gyfres o ffeiliau. Dim ond cam bach o hyn yw casglu portffolio.
Beth yw Portffolio Myfyriwr? Cynnwys portffolio myfyriwr yw casgliad amrywiol o waith y myfyriwr a deunyddiau perthnasol wedi eu dethol yn drefnus i gynrychioli gweithgareddau a chyflawniadau mewn cwrs astudio neu dros gyfnod penodol o amser. Gall weithredu fel cofnod o weithgaredd ac oriel o gyflawniad. Yn ogystal â’r gwaith ei hun, gallai portffolio gynnwys tystiolaeth o fyfyrdodau’r myfyriwr, hunanwerthusiad o’r gwaith sydd ynddo a gwerthusiad (gweler Adran 9: Dyddlyfrau Dysgu). Bydd y myfyriwr a’r tiwtor/ athro/athrawes yn cydweithio i benderfynu ar gynnwys y portffolio. 52
Yn gyffredinol, gellir rhannu portffolios myfyrwyr yn ddau fath: portffolio cynnyrch a phortffolio cynnydd.
Portffolio Cynnyrch Mae hwn yn gasgliad crynodol o waith gorau’r myfyriwr sydd wedi ei gwblhau yn ystod cwrs astudio, yn ei hanfod. Y nod yw amlygu ei feistrolaeth o sgiliau arbennig neu gysyniadau yn ogystal â chyflawni’r nodau dysgu.
Portffolio Cynnydd Mae Portffolio Cynnydd yn cynnwys gwaith sy’n dangos tystiolaeth o’r gwahanol gamau o brofiad y dysgwr ar y daith i greu’r ymdrech derfynol. Ar unrhyw adeg, gallai gynnwys casgliad o dasgau sydd ar waith, gan ddangos y camau sy’n arwain at greu’r cynnyrch terfynol. Enghraifft gyffredin, ond un dda iawn, o hyn fyddai nodi man cychwyn y gwaith, yr ymchwil, y drafftio a’r adolygu a wnaed cyn cwblhau’r aseiniad, traethawd neu brosiect ysgrifenedig.
Casglu Portffolio
Mathau o Bortffolio
Mae Portffolios wedi dod yn fwy poblogaidd wrth i ddulliau sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr ddatblygu. Maen nhw’n cael eu cynnwys fwyfwy fel arf sy’n rhan o’r cynllun asesu cyffredinol ar gyfer cyrsiau. Maen nhw’n gallu rhoi cipolwg arwyddocaol i weithgaredd ystafell ddosbarth, yn arbennig at ddibenion asesu parhaus neu gyfredol.
Manteision Asesu drwy bortffolio • Athrawon/tiwtoriaid a’r myfyrwyr yn cydweithio i bennu nodau dysgu a gwerthuso cynnydd tuag at gyflawni’r nod. • Rhoi cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith i’w asesu heb iddo fod dan amodau prawf nac o dan amodau arholiad. Mae’n bwysig, fodd bynnag, bod terfynau amser cwblhau drafft a thasgau terfynol yn cael eu pennu a’u cadw. • Mae asesiadau portffolio’n cydnabod bod dysgu’n broses – cyfres o gamau. Mae’r ffocws ar y broses ac nid ar y cynnyrch terfynol yn unig. • Mae’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr hunanwerthuso, i wneud dadansoddiad beirniadol o’u gwaith ac i fyfyrio. • Gall portffolio fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer dysgu ac addysgu.
53
Rhoi Cyflwyniadau Adran 11
Rhoi Cyflwyniadau Gellir dysgu a gwella sgiliau cyflwyno drwy ymarfer. Cyn dod yn gyflwynydd da, rhaid i ni ddeall beth a olygir wrth roi cyflwyniad. Yn gyffredinol, rydyn ni’n golygu pob sefyllfa lle mae’n rhaid i chi siarad, ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, o flaen grŵp o bobl i wneud pwynt neu rannu gwybodaeth. Mae llawer o gyflwyniadau hefyd yn cynnwys rhyw fath o gyfarpar gweledol megis bwrdd gwyn, taflunydd neu siartiau troi. Dyma rai enghreifftiau y byddai eich athro/athrawes/tiwtor yn chwilio amdanynt os gofynnir i chi baratoi a rhoi cyflwyniad: • Cyfarpar gweledol addas • Tystiolaeth eich bod wedi ymarfer y sgwrs • Amseru/hyd priodol
54
• Sylwedd priodol i’r cynnwys • Dealltwriaeth o’r pwnc ac o’r gynulleidfa • Strwythur clir: cychwyn, canol a diwedd clir Un dull o feddwl am roi cyflwyniad yw edrych arno fel tri cham hawdd: 1. Dweud wrthyn nhw beth rydych chi am ei ddweud wrthyn nhw 2. Ei ddweud wrthyn nhw 3. Dweud wrthyn nhw beth rydych chi newydd ei ddweud wrthyn nhw
Cynllunio ar gyfer rhoi cyflwyniad Yn gyntaf, rhaid bod gennych chi gynllun o ryw fath, er mwyn deall beth yw’ch nodau a sut rydych am eu cyflawni. Bydd cynllunio trylwyr yn rhoi’r cysur i chi eich bod wedi gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau cyflwyniad llwyddiannus, ac o ganlyniad, yr hyder i sefyll o flaen grŵp o bobl.
Rhoi Cyflwyniadau
• Dadl glir i’r cynnwys
Rhaid i chi ystyried tri pheth allweddol wrth gynllunio rhoi unrhyw gyflwyniad. Dyma nhw: 1. Pwrpas y cyflwyniad 2. Y gynulleidfa ar gyfer eich cyflwyniad 3. Lleoliad eich cyflwyniad
Pwrpas y Cyflwyniad Efallai gofynnir i chi roi cyflwyniad am sawl rheswm. Efallai bydd eich athro/athrawes/tiwtor am i chi: • Brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth – gallai hyn gyfrif tuag at arholiad neu aseiniad • Profi eich sgiliau mewn ffordd arbennig – e.e. sut i gynnal arbrawf • Rhannu gwybodaeth/eich casgliadau gyda’ch tiwtor/athro/athrawes a’r grŵp • Rhoi’r cyfle i chi roi adborth llafar
Eich Cynulleidfa Gallai’r math o gynulleidfa ddylanwadu ar fformat eich cyflwyniad a’i gynnwys, er enghraifft, byddai cyflwyniad technegol i gynulleidfa arbenigol yn fwy ffurfiol nag un i grŵp trafod.
55
Making Presentations
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am eich darpar gynulleidfa: • Pwy ydyn nhw? • Beth yw’r rhesymau am fynychu? • Faint sy’n debygol o fod yn bresennol? • Pa fath o bobl – eich grŵp cyfoedion/eich athro/athrawes/tiwtor/arholwr? • Beth maen nhw’n ei wybod eisoes am y pwnc? • Beth fydd eu hagwedd/gogwydd tebygol? Bydd yr atebion i’r rhain yn dylanwadu ar arddull a chynnwys eich sgwrs.
Lleoliad eich Cyflwyniad Agwedd bwysig arall ar y cynllunio fydd lleoliad eich cyflwyniad. Gall hyn gael goblygiadau arwyddocaol ar y modd byddwch chi’n cynllunio’r cynnwys ac yn rhoi trefn arnoch chi’ch hun. Os gallwch chi fynd i’r lleoliad, efallai byddai’n help i ymweld ymlaen llaw. Dyma rai o’r pethau ddylech chi fod yn eu gwirio: • Maint a math o ystafell • Trefniadau eistedd – symudol neu sefydlog • Golau – artiffisial neu naturiol? • Acwstig • Yr offer sydd ar gael e.e. bwrdd gwyn, taflunydd, Uwchdaflunydd, siart troi, recordydd tâp, camera • Lleoliad y socedau pŵer • Safle’r siaradwr (chi) • Cyfleusterau ar gyfer anghenion arbennig
Paratoi eich Cyflwyniad Yn union fel traethawd, rhaid i gynnwys unrhyw gyflwyniad gael strwythur clir. Bydd hyn yn caniatáu i’r gynulleidfa ddeall y prif themâu ac ymadael ar ddiwedd y cyflwyniad gan deimlo i’r profiad fod yn un gwerth chweil. Rhannwch eich cyflwyniad yn dair rhan, yr agoriad, y brif ran a’r clo. 1. 56
Yr Agoriad Gosodwch y sefyllfa a nodwch hyd at dair thema a rhoi trosolwg byr
Y Brif Ran Eglurwch eich prif ganfyddiadau
3.
Y Clo Crynhowch bob pwynt a wnaed gennych. Peidiwch â rhuthro!
Yr Agoriad Mae’n bwysig bod yn gwbl glir a gosod y sefyllfa i’r gynulleidfa. Rhaid i chi nodi hyd at dri amcan. Rhowch drosolwg byr ac awgrymu eich bod yn gobeithio rhoi ateb i ymholiad penodol. • Dylai osod nodau ac amcanion y cyflwyniad a pharatoi’r gynulleidfa am yr hyn sydd i ddod. • Dylai greu argraff ar unwaith a dal sylw’r gynulleidfa.
Y Brif ran Dyma ran allweddol eich cyflwyniad. Dyma eich cyfle i: • Gyflwyno eich canfyddiadau • Trafod eich arsylwadau
Making Presentations
2.
• Cymharu • Amlygu gweithgareddau neu ddarllen ychwanegol rydych wedi’u gwneud • Dadansoddi
Y Clo Mae’r clo yr un mor bwysig â’r agoriad a dylid osgoi rhuthro hwn. Magl gyffredin yw pan fydd y siaradwr wedi siarad yn rhy hir ac yn rhuthro’r clo. Mewn sefyllfa felly, y cyfan fydd y gynulleidfa’n ei gofio fydd cyflwyniad anghyflawn. Rhaid i’r clo grynhoi eich prif bwyntiau ac, yn union fel roeddech chi am ddal sylw eich cynulleidfa ar y dechrau, rhaid i chi orffen y cyflwyniad ar nodyn yr un mor uchel. Os yw’r diwedd yn wan, bydd yn effeithio ar yr holl gyflwyniad. • Peidiwch â chrwydro o amgylch y pwnc • Peidiwch â chyflwyno unrhyw syniadau newydd • Peidiwch ag ailadrodd pwyntiau drosodd a throsodd
57
Making Presentations
Cyfarpar Gweledol Bydd cyfarpar gweledol yn helpu i esbonio eich cyflwyniad, ond mae angen cynllunio a pharatoi er mwyn cael y defnydd mwyaf effeithiol o gyfarpar gweledol; rhaid i chi ddewis a dethol rhag i chi lethu eich cynulleidfa. • Peidiwch â defnyddio cyfarpar gweledol rhy gymhleth • Dylai cyfarpar gweledol helpu’r gynulleidfa i gofio syniad • Rhaid i gyfarpar gweledol ategu’r hyn rydych chi’n ei ddweud • Peidiwch â chael cymorth gweledol dianghenraid • Gwnewch yn siŵr nad oes camsillafu • Sillafwch enwau awduron yn gywir • Gormod o ddeunydd a dim digon o amser
Cyflwyniadau PowerPoint Gall cyflwyniadau PowerPoint edrych yn hynod broffesiynol ond dim ond os dilynwch chi’r canllawiau hyn: • Peidiwch â defnyddio gormod o sleidiau • Ceisiwch osgoi cael geiriau’n symud o gwmpas y sleid • Ceisiwch osgoi cael gormod o eiriau • Defnyddiwch luniau, siartiau, clipiau fideo yn hytrach na llawer o eiriau • Gwnewch yn siŵr bod eich cyfarpar electronig yn gweithio’n gywir
Y Gamp o Gyflwyno Bydd y cyflwynwyr mwyaf llwyddiannus yn dilyn y pwyntiau sylfaenol hyn: • Peidiwch â darllen y geiriau oddi ar y sleidiau’n unig, heb ychwanegu eich geiriau eich hun. Cofiwch fod y gynulleidfa’n gallu darllen! • Edrychwch ar y gynulleidfa • Gwenwch • Ystyriwch ai eistedd neu sefyll byddai fwyaf addas • Peidiwch â phlethu eich breichiau na rhoi’ch dwylo yn eich pocedi 58
• Ceisiwch osgoi defnyddio gormod o ystumiau neu ailadrodd rhai geiriau a dywediadau e.e. “wyddoch chi”, “chi’n gw’bod”, “a dweud y gwir”, “ynte”, “ac yn y blaen”, “ym”, “y-y-yy-y” • Peidiwch ag ymbalfalu gyda’r offer neu’r celfi. • Gofalwch bod gennych ail gopi o’ch cyflwyniad ar gryno ddisg neu gof bach • Peidiwch â chyffroi gormod am yr hyn rydych chi’n ei ddweud a dechrau crwydro oddi ar eich testun
Nerfau Cofiwch nad chi yw’r unig un sy’n nerfus - mae hyd yn oed y cyflwynwyr mwyaf profiadol yn nerfus. Gall yr awgrymiadau isod eich helpu i ymlacio rhag bod y nerfus: • Ceisiwch wneud ymarferion ymlacio. Eisteddwch yn syth, anadlwch i mewn dros gyfrif o ‘un’ ac allan dros gyfrif o ‘bedwar’; gwnewch hyn am bum munud gan ganolbwyntio ar y cyfri ac ar rythm eich anadlu. • Ymarferwch eich cyflwyniad nifer o weithiau cyn y digwyddiad ei hun. • Ceisiwch ymgyfarwyddo â’r ystafell ac, os yn bosibl, ymarferwch gan ddefnyddio’r offer yn yr ystafell honno.
Making Presentations
• Defnyddiwch gardiau atgoffa
• Cyn i chi fynd i’r cyflwyniad, peidiwch â gorwneud pethau ar y funud olaf. Ceisiwch wneud rhywbeth pleserus.
Sesiwn Cwestiwn ac Ateb Mae rhan hon y cyflwyniad yr un mor bwysig â gweddill y sesiwn. • Cyflwynwch y sesiwn cwestiwn ac ateb yn ffurfiol • Nodwch yn glir am faint bydd y rhan hon yn para • Peidiwch â rhuthro’ch ateb • Cofiwch: byddwch chi’n gwybod mwy na nhw am eich pwnc
59
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
Adran 12
Dulliau Adolygu ac Arholiadau Mae nifer o ffyrdd adolygu ar gyfer arholiadau, ond mae’r rhai mwyaf effeithiol yn golygu mynd i’r afael â’r deunydd. I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, nid yw’n ddigon i ddarllen nodiadau neu benodau gwerslyfr drosodd a throsodd. Man cychwyn pwysig fyddai edrych yn ofalus ar hen bapurau arholiad a cheisio cyngor eich athro/athrawes/tiwtor am y meysydd sy’n debygol o godi mewn arholiad rydych chi am ei sefyll. • Pa feysydd crai neu allweddol o’r pwnc sy’n codi mewn arholiad bob blwyddyn? • Edrychwch am dueddiadau neu batrymau yng nghwestiynau cyffredin arholiadau diweddar. Os ydyn nhw’n rheolaidd/cyson – mae’r rhain yn debygol o barhau. • Pa mor eang yw’r dewis o gwestiynau/meysydd pwnc?
60
• Meddyliwch am eich hoff ddull dysgu wrth baratoi i adolygu ar gyfer arholiad. Ystyriwch a fyddai’n werth i chi adolygu gyda ffrind, mewn grŵp bach neu ar eich pen eich hun.
Cynllun Adolygu Mae’n hanfodol cael cynllun adolygu a rhaid ei baratoi ymlaen llaw. Faint o amser fydd yn rhaid i chi ei roi i wahanol bynciau ar gyfer eich arholiadau? Cofiwch bydd angen i chi drefnu hyn i gyd-fynd â’ch gweithgareddau dyddiol eraill, er enghraifft gwaith rhan-amser, ymarfer corff, ymarfer cerddoriaeth, apwyntiadau deintydd ac eraill. Mae’n bwysig rhannu eich cynllun yn ddarnau dyddiol llai a phennu targedau realistig i chi’ch hun ar gyfer pob sesiwn. Wrth i chi fynd drwy’r pwnc(pynciau) a nodwyd yn llwyddiannus, byddwch wrth gwrs yn teimlo’n dda am y peth. Bydd hi’n bwysig i chi fod yn hunan-ddisgybledig wrth baratoi ac adolygu ar gyfer arholiadau: • Nodwch dasg adolygu allweddol mewn maes pwnc rydych chi’n ei hoffi (canolbwyntiwch ar y rhain yn gyntaf gan symud at eich pynciau gwanaf yn ddiweddarach) • Penderfynwch pa adeg o’r dydd neu’r nos rydych chi ar gael yn rheolaidd ac yn gallu canolbwyntio ar y dasg dan sylw. Gwaredwch bopeth posibl allai dynnu eich sylw, er enghraifft diffoddwch eich ffôn symudol • Ar y dechrau, peidiwch â rhoi mwy o amser i’r dasg nag oddeutu 30 munud, neu ychydig yn hwy (40-45 munud) ond gydag egwyl fer yn y canol • Arhoswch am yr union amser cychwyn sydd wedi ei nodi ar eich amserlen ac yna dechreuwch ar y dasg. Canolbwyntiwch ar y dasg, heb unrhyw ymyriad, am yr holl gyfnod rydych chi wedi ei glustnodi
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
• Ystyriwch elfennau o’r cwrs rydych chi’n dda a hyderus ynddyn nhw (pynciau rydych chi’n mwynhau eu hastudio) a’r meysydd nad ydych chi cystal ynddyn nhw. Pa mor debygol yw hi y bydd eich meysydd cryf yn cael eu cynrychioli’n helaeth yn yr arholiad? Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu faint o sylw ddylech chi ei roi i’ch gwendidau.
• Wrth gychwyn gweithio ar yr union amser ar gyfer pob sesiwn, y nod cychwynnol fydd eich helpu i ddod i drefn • Ceisiwch gadw at hyn dros y nifer o wythnosau y credwch chi sydd yn ddigon i baratoi ar gyfer eich arholiadau. Cadwch gofnod o’ch cynnydd. Yn raddol, gallwch addasu’r amser a glustnodwyd ar gyfer pob pwnc, gan ddibynnu pa mor effeithiol yw hyn ar gyfer cwblhau’r tasgau • Dylech ddechrau amseru ysgrifennu aseiniadau, anelu at gwblhau tasg benodol mewn amser penodol. Dechreuwch ymarfer ateb cwestiynau ar hen bapurau arholiad yn yr amser a ganiateir • Yn raddol, dechreuwch glustnodi mwy o amser i’ch pynciau gwan – y rhai mae’n rhaid gweithio mwy arnyn nhw. Unwaith eto, gofalwch eich bod yn eu taclo fesul darn bach, gan eu gwneud yn haws eu rheoli 61
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
Yn anochel, ni fyddwch yn gallu cadw at drefn lem fel hyn ar yr un adeg bob dydd, felly bydd rhaid bod yn weddol hyblyg gan gynnwys dyddiau rhydd, y gellir eu defnyddio wrth i’r arholiadau nesáu, ar gyfer gwneud gwaith ychwanegol ar y meysydd gwanaf. Fodd bynnag, os oes amser penodol bob dydd lle gallwch chi weithio heb ymyrraeth, bydd hi’n haws sefydlu a chadw at drefn adolygu.
Adolygu Adeg adolygu yw’r adeg lle mae angen eich sgiliau astudio gweithredol a beirniadol fwyaf. Wrth gychwyn gweithio: • Cymerwch fras olwg ar y testun rydych chi am ei ddarllen. Rhowch gipolwg cyflym ar y penawdau, yr is-benawdau, y cyflwyniad a’r casgliad. A yw hwn yn debygol o fod yn ddigon ar gyfer diwallu eich anghenion neu a oes pennod neu lyfr mwy addas i ganolbwyntio arno? • Amlygwch wybodaeth allweddol wrth i chi ddarllen; gellir gwneud hyn drwy farcio neu danlinellu darnau pwysig o’r testun (wedi eu llungopïo wrth gwrs!). Mae dysgwyr gweledol yn dyfeisio côd lliw gan ddefnyddio ysgrifbin marcio. Gallai hyn gynnwys defnyddio gwahanol liwiau ar gyfer gwybodaeth ffeithiol, barn neu honiadau’r awdur, rhesymeg gredadwy neu amheus; cyfeirnodau, ayyb. • Crynhowch y pwyntiau allweddol ar wahân, gan amlygu patrymau a chysylltu’r prif syniadau ac is-syniadau sy’n tarddu o wahanol ffynonellau. • Profwch eich hun neu gael ffrind i’ch profi chi ar y pwyntiau allweddol sydd wedi eu rhestru yn eich crynodebau. Mae’n gyfle da i ganfod a gweithio ar wendidau ar yr un pryd. Po fwyaf trefnus ac ar amser fydd eich amserlen adolygu, y mwyaf hyderus byddwch chi’n teimlo pan ddaw hi’n amser sefyll yr arholiad(au). Bydd hi hefyd yn help i ddelio â nerfau arholiad a lleihau’r posibilrwydd o fynd i banig!
Sefyll yr arholiad Unwaith bydd yr arholiad wedi dechrau, mae’n bwysig peidio â mynd i banig a chychwyn yn rhy wyllt, heb dreulio peth amser yn edrych yn fanwl ar y cwestiynau ac unrhyw gyfarwyddyd sydd ynddyn nhw. • Darllenwch y papur arholiad yn ofalus, gan danlinellu geiriau a chyfarwyddiadau allweddol • Os oes dewis, marciwch y cwestiynau sy’n ymwneud â’ch meysydd cryfaf • Dadansoddwch y ffordd y mae’r cwestiwn wedi ei rannu. Beth mae’n gofyn i chi ei wneud? • I sicrhau eich bod wedi deall yn union beth mae’r cwestiwn yn gofyn i chi ei wneud, darllenwch e’n ofalus a thanlinellu’r eirfa allweddol, yn arbennig geiriau gweithredu neu dasgau – rhai fel hyn: dadansoddwch, cymharwch, cyferbynnwch, disgrifiwch, trafodwch, gwerthuswch, nodwch
62
• Dylech gael ffydd yn yr wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi eu casglu yn ystod eich amser yn adolygu. Ceisiwch osgoi trafod gyda myfyrwyr eraill yn union cyn arholiad. Gallai hyn ychwanegu at eich nerfusrwydd neu ansicrwydd • Gwnewch yn siŵr eich bod yn clustnodi digon o amser i ateb yr holl gwestiynau gofynnol. Nid yw gwneud gwaith gwych ar ddau ateb pan fo angen ateb tri neu bedwar yn mynd i roi canlyniad da i chi • Gadewch tua phum munud ar ddiwedd pob cwestiwn traethawd rydych chi wedi ei ateb, er mwyn sicrhau eich bod wedi cynnwys pob pwynt yn eich cynllun paratoi. Gwnewch unrhyw newidiadau neu addasiadau • Sicrhewch eich bod yn cynnwys digon o gyfeirnodau yn eich testun, os oes angen Y peth pwysicaf ynglŷn â pharatoi ar gyfer arholiad yw dechrau adolygu ymhell cyn yr arholiadau. Gwnewch eich cynllun adolygu a byddwch yn hunan-ddisgybledig wrth ei gyflawni. Nid oes dim sy’n achosi mwy o straen na gadael popeth hyd at y funud olaf gan beri llawer o ofid i chi wrth i chi orwneud pethau yn ystod oriau mân y bore.
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
• Mae creu cynllun cryno, syml ar gyfer pob cwestiwn rydych chi’n penderfynu ei ateb yn hanfodol os ydych am gynnwys yr holl agweddau fydd yr arholwr yn eu disgwyl. (Yn hyn o beth, peidiwch â gofidio os bydd ymgeiswyr eraill yn ysgrifennu’n brysur heb fod wedi meddwl na chynllunio eu hatebion)
63
9.00 - 10.00
10.00 - 11.00
11.00 - 12.00
1.30 - 2.30
PRYNHAWN 2.30 - 3.30
3.30 - 4.30
6.00 - 7.00
HWYR
7.00 - 8.00
8.00 - 9.00
Ysgol
Gwaith Gwaith Adolygu Rhan-amser Rhan-amser Bioleg
Ysgol
Clwb adolygu ar ol ysgol
Ymarfer tenis
Ysgol
Clwb adolygu ar ol ysgol
Ysgol
Ysgol
Ysgol
BORE
Amserlen Adolygu DIWRNOD
DYDD LLUN
Ysgol
Adolygu Bioleg
Ysgol
Adolygu Bioleg
Ysgol
Ysgol
Nofio
Adolygu Saesneg
DYDD MAWRTH
Ysgol
Adolygu Saesneg
Adolygu Saesneg
Adolygu Saesneg
Adolygu Saesneg
Apwyntiad Deintydd
Apwyntiad Deintydd
Ysgol
DYDD MERCHER
Ysgol
Adolygu Gwaith Gwaith Rhan-amser Rhan-amser Daearyddiaeth
Ysgol
Ysgol
Clwb adolygu ar ol ysgol
Adolygu Saesneg
Noson Rydd Noson Rydd Noson Rydd Adolygu Daearyddiaeth
Adolygu Saesneg
Clwb adolygu ar ol ysgol
Ysgol
Gwaith Gwaith Gwaith Adolygu Rhan-amser Rhan-amser Rhan-amser Saesneg
Adolygu Daearyddiaeth
Ysgol
Adolygu Daearyddiaeth
Ysgol
Ysgol
Adolygu Daearyddiaeth
Sinema
Adolygu Saesneg
Sinema
Adolygu Saesneg
Sesiwn Sesiwn Noson Rydd adolygu gyda adolygu gyda ffrindiau ffrindiau
Adolygu Bioleg
DYDD IAU
DYDD GWENER
DYDD SADWRN Adolygu Saesneg
DYDD SUL
Adolygu Bioleg
Dulliau Adolygu ac Arholiadau
64
Cyfeirnodi Adran 13
Cyfeirnodi Cyfeirnodi yw pan fyddwch yn cydnabod gwaith eraill yn eich gwaith. Digwydd hyn pan fyddwch chi’n defnyddio dyfyniad uniongyrchol, gwybodaeth, ystadegau neu grynhoi geiriau a syniadau rhywun arall yn eich geiriau eich hun. Mae cyfeirnodi’n bwysig gan ei fod yn ychwanegu hygrededd i’ch gwaith, ac mae’n gonfensiwn academaidd angenrheidiol. Os byddwch chi’n darllen rhywbeth ac am ei gynnwys yn eich traethawd, yna rhaid i chi ei gyfeirnodi. Mae’n syniad da i ddod i’r arfer o ddarparu cyfeirnodau llawn a chywir. Cewch fod hyn yn eich helpu i nodi pwyntiau penodol yn y gwaith darllen a’u cofio. Caiff cyfeirnodi ei ystyried wrth farcio eich aseiniadau, ac os ydych am osgoi colli marciau, mae’n hanfodol eich bod yn ei gael yn gywir.
Pam mae angen i mi gyfeirnodi? Er bod dyfynnu ffynonellau a chyfeirnodau’n dasg ddiflas, mae’n un hanfodol. Mae sawl rheswm dros wneud hyn. 65
Cyfeirnodi
1.Dyma’r ffordd o ddweud wrth eich athro/athrawes/tiwtor o ble y daw’r wybodaeth yn eich gwaith ysgrifenedig. 2.Cydnabod y cyfraniad mae gwaith rhywun arall wedi’i wneud i’ch gwaith chi. Os na wnewch hyn, rydych yn honni (p’un ai’n fwriadol neu beidio) mai’ch syniadau chi’n unig sydd yn y gwaith. Llên-ladrad yw hyn ac mae’n fater difrifol iawn. Prin yw’r gwaith academaidd sydd heb fod yn adeiladu ar waith pobl eraill – rydyn ni gyd yn ‘sefyll ar ben ysgwyddau’ pobl eraill yn hyn o beth. Yn eich aseiniadau, byddwch yn dibynnu’n helaeth ar waith eraill ac mae’n rhaid i chi ddod i’r arfer o gyfeirnodi cyn gynted â phosib. 3.Mae cyfeirnodi’n galluogi’ch athro/athrawes/tiwtor i ganfod pa waith sy’n eiddo i chi a pha waith sy’n eiddo i eraill. Mae hyn yn hanfodol i’r holl fenter ddysgu, o gael eich asesu a derbyn hyfforddiant. Mae’n galluogi’r athro/athrawes/tiwtor i ganfod yr hyn yr ydych wedi ei ddarllen, pa ffynonellau y defnyddiwyd gennych, pa agweddau o’r deunydd cwrs yr ydych wedi eu defnyddio a pha ffynonellau y tu hwnt i’r cwrs rydych wedi eu defnyddio. Dyma’r pethau sy’n cael eu gwobrwyo wrth farcio a dylech floeddio amdano nid ei guddio. 4.Mae gallu nodi pa rai yw’ch syniadau chi hefyd yn galluogi’r athro/athrawes/ tiwtor i weld faint o’r deunydd rydych chi wedi ei ddeall a beth yw’ch dadansoddiad a’ch syniadau chi. Yn gryno, ni all athrawon/tiwtoriaid roi sylwadau ar eich dealltwriaeth a’ch cynnydd heb allu gweld beth yw’ch syniadau chi a syniadau eraill. 5.Gellir dyfynnu gwaith pobl eraill hefyd i ddangos bod eich dadleuon yn cael eu cefnogi gan bobl eraill. Bydd eich dadleuon yn gryfach os oes tystiolaeth i’w cadarnhau. 6.Mae cyfeirnodi cywir hefyd yn caniatáu i’r darllenydd ddod o hyd i’r ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yn gyflym ac yn hwylus. Os nad ydych yn cyfeirnodi rydych yn: • Honni mai chi piau’r gwaith pan nad yw hyn yn wir (llên-ladrad) • Methu â dangos hyd a lled eich dysg • Methu â dangos eich gwaith eich hun i’ch tiwtor/athro/athrawes Os ydych yn cyfeirnodi rydych yn: • Osgoi cael eich cyhuddo o lên-ladrad • Dangos i’ch tiwtor/athro/athrawes beth rydych wedi ei astudio • Galluogi’ch athro/athrawes/tiwtor i asesu’ch dealltwriaeth, eich dadansoddiad a’ch syniadau er mwyn rhoi marciau cywir ac adborth i chi. 1.Beth mae angen i mi ei gyfeirnodi? Mae angen i chi gyfeirnodi unrhyw waith o unrhyw ffynhonnell nad sy’n eiddo i chi pan fyddwch yn ei ddefnyddio’n uniongyrchol yn eich gwaith. 1.Enghreifftiau lle mae’r syniadau a’r dadleuon rydych yn eu defnyddio yn tarddu o ffynhonnell benodol (awdur pennod llyfr er enghraifft). Er enghraifft, efallai eich bod am bwysleisio pwynt yn eich aseiniad a bod y ddadl rydych yn ei defnyddio i egluro’r pwynt dan sylw yn dod yn uniongyrchol o lyfr penodol gan awdur penodol yna, rhaid i chi ddyfynnu hwn fel ffynhonnell.
66
Er enghraifft: os mai teitl eich traethawd yw ‘Trafodwch y ffyrdd y mae’r syniad o deulu wedi newid dros y 30 mlynedd diwethaf’, bydd rhaid i chi nodi tystiolaeth ddibynadwy ei fod wedi newid neu beidio. Er enghraifft, gallech edrych ar y dystiolaeth ystadegol am nifer y teuluoedd sy’n rheini sengl a nifer y teuluoedd estynedig. Yna, bydd angen i chi drafod, yn eich barn chi, pam fo’r syniad o deulu wedi newid. 3. Pan fyddwch yn defnyddio geiriau rhywun arall. Ni ellir pwysleisio digon bod rhaid defnyddio dyfynodau wrth ddefnyddio geiriau rhywun arall. Cewch eich cyhuddo o lênladrad os na wnewch hyn. Dylech ysgrifennu swmp eich traethawd yn eich geiriau eich hun a rhaid i chi fod yn ofalus nad ydych, ar ddamwain, yn copïo adrannau o’r llyfrau a’r ffynonellau eraill rydych yn eu defnyddio. Fodd bynnag, weithiau bydd awdur yn mynegi rhywbeth mewn modd cryno neu graff, neu’n darparu diffiniad o gysyniad neu syniad yr hoffech ei ddefnyddio. Yn yr achos hwn, mae defnyddio dyfyniad yn briodol ac yn aml yn ychwanegu at lif eich ysgrifennu.
Cyfeirnodi
2. Pan fyddwch yn defnyddio rhannau arbennig o ddata neu dystiolaeth. Os ydych am ddefnyddio data neu dystiolaeth penodol, rhaid i chi nodi o ble mae’n dod. Mae hyn yn help mawr i atgyfnerthu’ch dadl – nid dim ond honni rhywbeth yn fyrfyfyrydych chi ond rydych yn darparu tystiolaeth i gefnogi’ch honiadau. Rhaid i chi nodi tarddiad y dystiolaeth.
Gofynion Sylfaenol Cyfeirnodi Mae sawl ffordd wahanol o gyfeirnodi, y ddwy brif system yw: • System Harvard: defnyddio cyfenw’r awdur a’r dyddiad • System Rifol: defnyddio rhifau Bob tro rydych yn cyfeirio at waith rhywun, rhaid defnyddio un o’r systemau uchod i’w nodi yn eich gwaith. Er bod confensiynau cyfeirnodi eraill yn cael eu defnyddio, rydyn ni’n argymell system Harvard.
Dyfynnu’n Uniongyrchol Dyfynnu uniongyrchol yw copïo’r hyn sydd gan awdur i’w ddweud. Enw arall arno yw dyfyniad. Mae rhaid i’r hyn rydych yn ei ysgrifennu fod yn union yr un peth â’r gwreiddiol a rhaid ei gyfeirnodi. Enghraifft: Harvard Mae Jones yn dweud, ‘mae’r economi wedi arafu dros y ddwy flynedd ddiwethaf’ (2007, tud. 6)
Dyfynnu’n Anuniongyrchol Os ydych am grynhoi safbwynt awdur, rydych mewn gwirionedd yn defnyddio pwyntiau allweddol a’u nodi yn eich geiriau eich hun. Mae dal yn hanfodol cyfeirnodi hyn. Dyma beth yw dyfyniad anuniongyrchol Enghraifft: Harvard Mae Jones yn dadlau bod twf yr economi wedi disgyn ers 2005 (Jones, 2007). 67
Cyfeirnodi
Cyfeirnodi Eilaidd Dyma pan na fyddwch wedi darllen y gwaith gwreiddiol, ond bod cyfeiriad ato mewn rhywbeth arall yr ydych wedi ei ddarllen. Yn eich testun, dylech gyfeirio at awdur y gwaith rydych wedi ei ddarllen a datgan i’r darllenydd bod yr awdur wedi dyfynnu deunydd rhywun arall. Enghraifft: Harvard Mae George yn awgrymu bod y broblem yn canolbwyntio ar faterion y dydd. (2007 dyfynnwyd yn Newman 2005, tud.326).
Cyfeirnodi Harvard Ymhob man yn eich gwaith lle’r ydych chi’n cyfeirio at ddarn arbennig o waith, rhaid nodi cyfenw’r awdur a blwyddyn y cyhoeddi. Os yw enw’r awdur yn digwydd yn naturiol yn y frawddeg, rhaid rhoi’r flwyddyn ar ei ôl mewn cromfachau. Neu, gellir rhoi enw’r awdur a’r dyddiad ar ddiwedd y frawddeg y naill a’r llall mewn cromfachau.
Cyflwyno Dyfyniadau • Dylai dyfynodau edrych fel hyn ‘neu’ gan eu rhoi o amgylch y geiriau/ffigyrau a gopïwyd o destun. Fel arfer, dylid defnyddio bylchiad sengl un llinell • Os yw’n ddyfyniad hir (tair llinell neu fwy) dylid ei fewnoli (h.y. ymyl ychwanegol o tua 1cm ar y chwith) ac NI ddylid ei gau gyda dyfynodau.
Llyfryddiaeth Mae’r llyfryddiaeth hefyd ar dudalen ar wahân a dylai gynnwys deunydd ychwanegol yr ydych wedi ei ddarllen am y pwnc, ond heb ei gynnwys. Dylai ddilyn yr un fformat â’r daflen gyfeirnodi.
Taflen Gyfeirnodi Mae tudalen gyfeirnodi system Harvard ar dudalen ar wahân ar ddiwedd eich gwaith a rhaid iddi gynnwys pob ffynhonnell rydych wedi ei defnyddio yn eich traethawd. Rhaid eu hysgrifennu yn nhrefn yr wyddor. Bydd y rhestr ganlynol yn eich helpu i roi’r deunydd yn ei drefn. Rhaid i’r cyfeirnodau fod yn gyflawn a chywir.
Canllaw Cyflym ar gyfer Cyfeirnodi – System Harvard Isod, ceir canllawiau manwl ar sut i ddefnyddio system Harvard i gyfeirnodi yn nhestun yr adroddiad ac yn y llyfryddiaeth ar y diwedd. Gallwch danlinellu yn hytrach na defnyddio llythrennau italig os oes angen.
68
Un Awdur Yn eich traethawd/adroddiad: Mae ‘Braverman (1974) yn dadlau bod ...’ Yn y cyfeirnodau ar ddiwedd eich traethawd/adroddiad: ‘Braverman, H. (1974) Labor and Monopoly Capital: the degradation of work in the twentieth century, Llundain, Monthly Review Press.’ Dau awdur Yn eich traethawd/adroddiad: Yn ôl ‘Bowles a Gintis (1976) roedd ...’ Yn eich cyfeirnodau: ‘Bowles, S. & Gintis, H. (1976) Schooling in Capitalist America, Llundain, Routledge & Kegan Paul.’
Cyfeirnodi
Llyfrau
Mwy na dau awdur Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Mae Coffield et al. (1986) yn awgrymu bod….’ Yn eich cyfeirnodau: ‘Coffield, F., Borrill, C. & Marshall, S. (1986) Growing up at the Margins: young adults in the North East, Milton Keynes, Open School/College Press.’ Pennod awdur unigol mewn casgliad wedi’i olygu Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Mae Reeder (1979) yn dadlau bod ...’ Yn eich cyfeirnodau: ‘Reeder, D. (1979) “A recurring debate: education and industry” yn Bernbaum, G. (ed.) Schooling in Decline, Llundain, Macmillan.’ (Mae cyfeirnodi aml-awduraeth a chyd-awduraeth o benodau fel yr uchod) Os oes mwy nag un argraffiad, rhaid cyfeirio’n glir at yr un rydych wedi ei ddefnyddio. Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Mae Handy’n (1981) dweud ...’ Yn eich cyfeirnodau: ‘Handy, C. (1981, 2il argraffiad) Understanding Organizations, Harmondsworth, Penguin Books.’ Dogfennau ar y we Cyfenw’r awdur, llythrennau cyntaf yr enw, blwyddyn y cyhoeddiad (mewn cromfachau), teitl y ddogfen (mewn llythrennau italig) [ar-lein], cyhoeddwyr. Ar gael o: Enw’r gwasanaeth (os oes un), cyfeiriad y wefan [Ymwelwyd + dyddiad]. Gilligan, E. (1998) Local heroes [ar-lein], Cyfeillion y Ddaear Ar gael o: http://www.foe.co.uk/local/rest.pdf [Ymwelwyd 24 Tachwedd 2008] ADRAN ADDYSG A CHYFLOGAETH (1996) General national vocational qualifications: a brief guide. Llundain: DFEE http://www.open.gov.uk/dfee/gnvq/gnvq.htm (Diweddarwyd 20 Mawrth 1996, ymwelwyd 25 Ebrill 2009)
Podcastiau/pethau i’w lawrlwytho Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Nododd Fink (Newyddion Byd y BBC, 2006) fod...’ Yn eich cyfeirnodau: ‘Fink, S. (2006) Aids in Papua New Guinea. 29 Mai 2006. Newyddion Byd y BBC: Iechyd/HIV Aids. Ar gael yn http://www.theworld.org/health/aids/shtml [Ymwelwyd 1 Awst 2006]. 69
Cyfeirnodi
Cyhoeddiadau’r Llywodraeth Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Dywedwyd (DES, 1985) bod...’ Yn eich cyfeirnodau: ‘DES (1985) Better Schools, Llundain, HMSO.’ Ffilm Yn eich traethawd/adroddiad: ‘Nodwyd gan Bella (The Twilight Saga: Eclipse, 2010). bod...’ Yn eich cyfeirnodau: Opsiwn 1 ‘SLADE, David. (Cyfarwyddwr). (2010). The Twilight Saga: Eclipse. [Ffilm]. Canada. Vancouver Ffilm Studios’ Opsiwn 2 ‘The Twilight Saga: Eclipse. (2010). [Ffilm]. Cyfarwyddwyd gan David Slade. Canada. Vancouver Film Studios’ Bydd y drefn rydych yn rhoi’r cyfarwyddwr, yr awdur neu’r dramodydd yn dibynnu ar y rheswm neu’r pwyslais rydych am ei roi iddynt yn eich traethawd/adroddiad.
Trefn Cyfeirnodi Yn eich rhestr o gyfeirnodau, dylai’r holl ddeunyddiau gael eu rhestru yn ôl yr wyddor, fesul awdur. Ar gyfer pob awdur, eitemau gan awduron unigol sy’n dod gyntaf, yna eitemau ar y cyd ac yn olaf eitemau cyfansawdd; yn yr adran awduron unigol, yr adran cyd-awduron a’r adran aml-awduron dylid rhestru eitemau fesul dyddiad. Os oes dwy neu fwy o eitemau â’r un dyddiad, dylai’r eitemau gael eu rhestru gydag is lythrennau (a, b, c, etc.) ar ôl y dyddiad. Mae hyn yn berthnasol i’r testun - e.e. ‘(Southworth, 1985a)’ neu ‘(Southworth, 1985b)’ – ac yn y cyfeirnodau ‘Southworth, G. (1985a) “Primary Heads Reflection on Training”, Education, 165(25), tud. 560.’ ‘Southworth, G. (1985b) “Perspectives on the Primary Curriculum”, Cambridge Journal of Education, 15(1), tud. 41–9. Os, ar ôl darllen yr adran hon, eich bod yn dal yn ansicr am gyfeirnodi: • Ystyriwch sut mae eich gwerslyfrau’n defnyddio cyfeirnodau • Gofynnwch i’ch tiwtor/athro/athrawes am gyngor
Gwefan ddefnyddiol www.direct.gov.uk/en/EducationAndLearning | www.bournemouth.ac.uk/library
Cyfeirlyfrau Neville, C (2007) The Complete Guide to Referencing and Avoiding Plagiarism. Maidenhead: Open University Press Peck, J and Coyle, M. (2005 2nd edn) The Student’s Guide to Writing: Grammar Punctuation and Spelling. London: Palgrave Macmillan Redman, P. (2006, 3rd edn) Good Essay Writing : A Social Sciences Guide. Milton Keynes, California. SAGE 70
Gramadeg ac Atalnodi Adran 14
Gramadeg ac Atalnodi Ysgrifennu Brawddegau Gall ysgrifennu aseiniadau alw am fwy o ddefnydd o ramadeg ac atalnodi, oherwydd weithiau mae angen i chi gyfleu ystyron eithaf cymhleth yn glir. Bydd yr adrannau canlynol yn eich cynorthwyo i ddelio â meysydd llawn problemau mynych a darparu enghreifftiau sylfaenol i’ch helpu i adfywio’ch dealltwriaeth o dechnegau gramadeg sylfaenol.
Beth yw brawddeg? Uned ramadegol gyflawn yw brawddeg syml, grŵp o eiriau sy’n gwneud synnwyr. Gall brawddegau gynnwys elfennau gwahanol ond rhaid i bob brawddeg gynnwys goddrych a berf. Yn aml, mae ganddynt wrthrych, ond nid bob amser.
71
Gramadeg ac Atalnodi
Goddrych Goddrych yw’r person neu’r gwrthrych sy’n gwneud y weithred. Enghraifft: Roedd yr ysgrifenyddes yn ysgrifennu’r adroddiad. Yn y frawddeg hon ‘Yr Ysgrifenyddes’ yw goddrych y frawddeg.
Y Ferf Mae mwyafrif o ferfau’n disgrifio gweithred. Yn y frawddeg hon ‘ysgrifennu’ yw’r ferf.
Y Gwrthrych Gwrthrych yw’r person neu’r peth sy’n derbyn y weithred. Yn y frawddeg hon ‘yr adroddiad’ yw’r gwrthrych. Enghraifft: Gwelodd hi’r dyn. ‘Hi’ yw’r goddrych ‘Gwelodd’ yw’r ferf ‘Y Dyn’ yw’r gwrthrych.
Brawddegau Cyfansawdd Er mwyn gwneud ein brawddegau’n fwy diddorol, rhaid ychwanegu mwy o wybodaeth at y ffeithiau sylfaenol ac ystyried sut gallwn newid strwythur y frawddeg i’w gwneud yn fwy meddylgar. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio cysyllteiriau, neu eiriau sy’n cysylltu dwy frawddeg neu fwy gyda’i gilydd i ffurfio un frawddeg gyfansawdd (neu gymhleth), er enghraifft, ‘a’, ‘neu’,‘ond’ a ‘felly’. Enghraifft: Aeth ar wyliau i Ffrainc. Prynodd dŷ yng ngolwg y môr. Gellir cyfuno’r ddwy frawddeg hyn yn un frawddeg drwy ddefnyddio’r cysylltai ‘a’: Aeth ar wyliau i Ffrainc a phrynodd dŷ yng ngolwg y môr.
Brawddegau Cymhleth Gelwir brawddeg yn gymhleth, oherwydd bod ei strwythur yn fwy cymhleth na strwythur brawddeg syml nid oherwydd ei bod yn cynnwys syniadau cymhleth. O ganlyniad, o’u defnyddio gallwch wella ansawdd eich ysgrifennu. Mae brawddeg gymhleth yn cynnwys un cymal annibynnol ac un neu fwy o gymalau dibynnol gyda chysylltair is-gymal.
72
Pan ddechreuodd hi fwrw glaw, serch hynny, ni chafodd y picnic ei ganslo – dau gymal dibynnol. Grŵp o eiriau yw is-gymal gyda goddrych a berf ond nid ydynt yn gallu sefyll ar eu pennau eu hunain. Mae is-gymal bob amser yn dechrau gyda chysylltair. Yn yr enghraifft hon, ceir dau gysylltair ‘pan’ ac ‘ond’. Y cysyllteiriau mwyaf cyffredin yw: Wedi
a
os
ers
hyd yn oed
er hynny
ac
oherwydd
cyhyd
fel
yn hytrach na ar yr amod
er
fel petae
pryd bynnag
serch hynny
megis
neu
pan
achos
hynny yw
ond
fodd bynnag
prun bynnag
Y Coma Gorddefnyddir y coma ac mae ysgrifenwyr yn tueddu i fod yn rhy hael eu defnydd o’r coma yn eu gwaith. Gall hyn arwain at ddarn o waith dryslyd. Os gallwch atal eich hunan rhag defnyddio gormod o gomas, lle nad oes eu hangen, a dysgu chwe rheol i ddefnyddio coma, bydd eich sgiliau ysgrifennu’n gwella a byddwch yn argyhoeddi’r darllenydd y gallwch ysgrifennu’n hyderus a chyflwyno darn o waith dan reolaeth.
Gramadeg ac Atalnodi
Enghraifft: Roedd rhaid i ni fynd i mewn pan ddechreuodd hi fwrw glaw, ond ni chafodd y picnic ei ganslo Roedd rhaid i ni fynd i mewn – cymal annibynnol
1. Rhan ragarweiniol brawddeg Fel mae’r enw’n awgrymu, cyflwyno gweddill y frawddeg mae elfen ragarweiniol brawddeg. Hi sy’n dod gyntaf a choma sy’n ei gwahanu hi a gweddill y frawddeg. Enghraifft: Cyn gwyliau’r Pasg, roedd y plant yn sâl. Ar ôl iddyn nhw gael brecwast, aethon nhw i’r farchnad. 2. Elfen rhwng cromfachau mewn brawddeg Geiriau megis, fodd bynnag, felly, wrth gwrs, mewn gwirionedd ac er hynny yw elfennau mewn cromfachau brawddeg. Mae’n bwysig nodi y dylid rhoi coma bob ochr i’r elfen rhwng cromfachau, oni bai ei fod yn cychwyn brawddeg ac yn yr achos hwnnw, dim ond un coma fydd ei angen ar ei ôl. Enghraifft: Roedd y cwrs yn eithriadol o anodd, er hynny, roedd yn werth yr holl waith caled. Penderfynodd y teulu fynd ar wyliau, fodd bynnag, nid oedd yn bosibl. 73
Gramadeg ac Atalnodi
3. Coma cyn ‘a’, ‘ond’, ‘neu’, ‘felly’ Defnyddir comas yn aml cyn cysylltair is-gymal megis ‘a’, ‘ond’ ‘neu’ ‘felly’ i gysylltu prif gymal ag is-gymal. (Gweler brawddegau cyfansawdd a chymhleth). Enghreifftiau: Roedd hi am fynd i siopa a mynd am ginio wedyn. Gallwn fynd allan i ginio, ac yna mynd i’r sinema. 4. Rhestrau Y defnydd mwyaf cyffredin o goma yw mewn rhestrau. Defnyddir coma i wahanu pob eitem mewn rhestr, ar wahân i’r ddwy eitem olaf lle defnyddir a neu ac i’w gwahanu. Enghraifft: Roedd ei hesgidiau’n anghyfforddus, rhy dynn ac yn amhosibl i’w gwisgo. Roedd y ffilm yn araf, diflas ac afrealistig. 5. Cymalau Ychwanegol Cymal dibynnol yw cymal ychwanegol sy’n darparu gwybodaeth ychwanegol am y prif gymal a choma sy’n gwahanu’r ddau. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi atgoffa eich hun am gymalau yn yr adran ar frawddegau. Enghraifft: Roedd e’ am fynd i’r Eidal, gwrthododd hi. Y prif gymal yw ‘Roedd e’ am fynd i’r Eidal’ A’r cymal dibynnol yw ‘gwrthododd hi’. Mae hi’n hoffi coffi du, dyw e’ ddim. 6. Brawddegau Anghyflawn Brawddeg anghyflawn yw pan geir cymal dibynnol ar ei ben ei hun. Er bod y grŵp o eiriau yn cychwyn gyda phrif lythyren ac yn gorffen gydag atalnod llawn neu ebychnod, mae’n ramadegol anghywir. Enghraifft: Mae’n byw ar gyrion y pentref, sydd ger y draffordd.
Y Collnod Mae gan y collnod ddau bwrpas: mae’n dangos a oes un neu ddwy lythyren wedi’u hepgor. Yn y Saesneg mae’n dangos perchnogaeth, sef bod rhywbeth neu rywun yn perthyn i rywbeth neu rywun arall. Pan ddefnyddir collnod i ddangos bod rhywbeth wedi’i hepgor, gelwir hyn yn gyfangiad. Er enghraifft: sy’n, mae’n, mae hi’n bwrw glaw, a’ch.
74
O ddilyn fformat sylfaenol bob tro rydych yn ysgrifennu paragraff, bydd hyn yn arwain at ddarn o waith ysgrifenedig sydd wedi’i drefnu’n dda. Mae Peck a Coyle (2005) yn awgrymu y dylai paragraff ddechrau drwy gyflwyno’r prif bwynt mewn brawddeg syml. Yna, rhaid i’r paragraff esbonio’r pwynt ymhellach: dyma brif ran y paragraff sy’n ymhelaethu ar y frawddeg gyntaf. Dylai dwy frawddeg olaf y paragraff grynhoi’r hyn rydych yn ei ddweud ac yna cysylltu â’r paragraff nesaf. Dull effeithiol o ysgrifennu paragraff yw meddwl amdano yn nhermau tair rheol 1. Lleoli: rhaid i’r frawddeg gyntaf nodi’n glir yr hyn fydd cynnwys y paragraff. 2. Dadansoddi: dyma ble byddwch yn ymhelaethu ar eich brawddeg gyntaf 3. Casgliad: bydd hyn yn crynhoi’r hyn rydych wedi’i ddweud a’r cyswllt â’ch paragraff nesaf.
Cyfeirlyfrau Burt, A. (1991, 2nd edn) A Guide to Better Punctuation, Cheltenham: Stanley Thorne Peck, J and Coyle, M. (2005 2nd edn) The Student’s Guide to Writing: Grammar, Punctuation and Spelling, London: Palgrave Macmillan
Gramadeg ac Atalnodi
Sut i ysgrifennu paragraff
Gwefan ddefnyddiol www.chompchomp.com
75
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael i chi
Adran 15
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael i chi ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
76
............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael i chi
.............................................................................................................................................................................
............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
77
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael i chi
............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
78
............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael i chi
.............................................................................................................................................................................
............................................................................................................................................................................. ............................................................................................................................................................................. .............................................................................................................................................................................
79
I gael mwy o wybodaeth am Brifysgol Gymunedol y Cymoedd, Ehangu Mynediad a Sgiliau Astudio, cysylltwch â’r Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO)
Prifysgol Abertawe Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO) Adeilad Glyndŵr, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP Ymholiadau Cyffredinol: 01792 602211 adult.education@swansea.ac.uk
www.swansea.ac.uk/DACE