CYLCHLYTHYR YR UNED BRENTISIAETHAU
CYLCHLYTHYR UNED BRENTISIAETHAU PCYDDS – HAF 2026
Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS | 1
DIWEDDARIAD AR BRENTISIAETHAU
NEGES GAN MATT
DIGWYDDIAD DATHLU LLWYDDIANT
Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn academaidd lwyddiannus arall, hofem fanteisio ar y cyfe hwn i ddathlu cyfawniadau anhygoel ein prentisiaid, ein cyfogwyr a’n partneriaid. Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw at lwyddiant ein Harddangosfa Bosteri ddiweddar gan fyfyrwyr y Flwyddyn Olaf, y digwyddiad Dathlu Llwyddiant, y seremonïau graddio, a thwf parhaus gradd-brentisiaethau ledled Cymru a thu hwnt. Hofem hefyd ddiolch yn ddifuant i Medr am eu cefnogaeth barhaus i brentisiaethau a datblygiad sgiliau ledled Cymru. Mae eu buddsoddiad a’u hymrwymiad yn helpu i greu cyfeoedd gwerthfawr i gyfogwyr a phrentisiaid, gan gefnogi datblygiad y gweithlu a thalent y dyfodol ar draws ystod eang o ddiwydiannau. Diolch i’r holl gyfogwyr, prentisiaid, timau academaidd a phartneriaid am eich cefnogaeth barhaus, eich cydweithrediad a’ch ymrwymiad i ddatblygu talent y dyfodol trwy brentisiaethau. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi drwy gydol y fwyddyn i ddod.
Mattherw Wicker
Pennaeth Prentisiaethau
2 | Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS
Roedd ein digwyddiad Dathlu Llwyddiant diweddar yn un o’r digwyddiadau mwyaf ysbrydoledig yr ydym wedi cael y fraint o’u trefnu o fewn yr Uned Brentisiaethau yn PCYDDS. Daeth y digwyddiad â phrentisiaid, cyflogwyr, academyddion a phartneriaid ynghyd i ddathlu cyflawniadau, teithiau a phrosiectau blwyddyn olaf anhygoel ein prentisiaid. Clywodd y rhai a oedd yn bresennol yn uniongyrchol gan brentisiaid y gorffennol a’r presennol am eu profiadau, eu dilyniant gyrfa a’r effaith y mae gradd-brentisiaethau wedi’u cael ar eu datblygiad proffesiynol a phersonol. O oresgyn heriau i sicrhau dyrchafiadau a chyfleoedd arweinyddiaeth, roedd y straeon a rannwyd drwy gydol y digwyddiad yn tynnu sylw at wir werth gradd-brentisiaethau, a’r dyfodol disglair sydd o flaen ein dysgwyr a’n partneriaid yn y diwydiant. Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y digwyddiad, a roddodd gyflwyniad ac a gefnogodd. Mae eich ymrwymiad parhaus i ddatblygu talent a buddsoddi mewn sgiliau yn gwneud gwahaniaeth parhaol ar draws diwydiannau yng Nghymru a thu hwnt.
GRADD-BRENTISIAETHAU – CEISIADAU AR AGOR NAWR Mae ceisiadau ar agor nawr ar draws ystod o raglenni prentisiaeth uwch a gradd-brentisiaeth sydd wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau i uwchsgilio staf presennol a recriwtio talent y dyfodol. Mae ein gradd-brentisiaethau, sydd wedi’u hariannu’n llawn, yn caniatáu i weithwyr ennill cyfog wrth iddynt ddysgu, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ochr yn ochr â phrofad gwerthfawr yn y gweithle. Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn PCYDDS yn cynnwys: • Peirianneg • Gweithgynhyrchu • Cadwyni Cyfenwi a Logisteg • Rhwydweithiau Cyfrifadurol a Seiberddiogelwch • Peirianneg Meddalwedd • Systemau Data a Gwybodaeth • Rheolaeth Adeiladu • Mesur Meintiau • Peirianneg Sifl – NEWYDD! • Busnes a Rheolaeth - CIPD • CILEX / Gwasanaethau Cyfreithiol • Gwyddor Gofal Iechyd – NEWYDD!
PRENTIS IA PCYDDS ETHAU
Os ydych chi’n awyddus i uwchsgilio’ch gweithlu neu recriwtio talent newydd, byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Cysylltwch ag: apprenticeships@uwtsd.ac.uk i drefnu galwad a thrafod llwybrau prentisiaeth addas. Gellir gwneud ceisiadau hefyd drwy ein dolenni gwneud cais ar-lein, gyda swyddogion cyswllt prentisiaid PCYDDS a fydd yn eich arwain trwy’r broses. Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS | 3
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â CHOLEGAU LEDLED CYMRU Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn falch o weithio ar y cyd â cholegau AB i gefnogi cyfeoedd cynnydd a darparu llwybrau prentisiaeth hygyrch i ddysgwyr ledled Cymru. Mae ein cydweithrediadau presennol â cholegau partner yn cynnwys:
Gradd-brentisiaethau Coleg Penfro
• Peirianneg Fecanyddol • Rheolaeth Adeiladu
Gradd-brentisiaethau Coleg Sir Gâr
GALLWN NI DDOD ATOCH CHI! Mae’r Uned Brentisiaethau yn parhau i weithio’n agos gyda chyfogwyr a sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo cyfeoedd o ran prentisiaethau a datblygu’r gweithlu. Os hofech i ni ymweld â’ch gweithle, gallwn: • Godi stondin wybodaeth yn eich lobi neu freutur • Siarad yn uniongyrchol â staf am gyfeoedd prentisiaeth
• Peirianneg Fecanyddol • Peirianneg Drydanol ac Electronig Mae’r partneriaethau hyn yn helpu i greu llwybrau cynnydd clir i ddysgwyr gan gefnogi cyfogwyr gyda chyfeoedd lleol, dan arweiniad y diwydiant, i hyforddi a datblygu’r gweithlu.
4 | Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS
• Cefnogi recriwtio ac uwchsgilio’r gweithlu Rhoi arweiniad ar gyllid a chymhwystra Trefnu sesiynau allanol i gyfogwyr wedi’u teilwra i’ch busnes chi Byddwn ar hyd y lle trwy gydol yr haf a byddem yn falch iawn o ymweld â’ch sefydliad.
I drefnu diwrnod allanol, cysylltwch ag: Emily Hunt – e.hunt@uwtsd.ac.uk
GRADDIO 2026
– DATHLU EIN PRENTISIAID
Rydym yn hynod falch o ddathlu blwyddyn wych arall o raddedigion prentisiaethau yn PCYDDS. Llongyfarchiadau i’n holl brentisiaid Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME), Adeiladu, Peirianneg Drydanol ac Electronig (EEE) a Digidol a raddiodd ym mis Gorfennaf! Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS | 5
I GLOI Yn Uned Brentisiaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein drws bob amser yn agored am sgwrs. P’un a ydych chi’n gyfogwr sy’n awyddus i uwchsgilio’ch gweithlu, recriwtio talent newydd, archwilio cyfeoedd am brentisiaethau, neu ddarganfod rhagor am y cymorth sydd ar gael, mae ein tîm yma i helpu. Rydym yn angerddol am feithrin partneriaethau cryf, cefnogi dysgwyr a helpu busnesau i dyfu trwy brentisiaethau dan arweiniad diwydiant. Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. apprenticeships@uwtsd.ac.uk Emily Hunt – e.hunt@uwtsd.ac.uk Gyda’n gilydd, gallwn barhau i ddatblygu gweithlu’r dyfodol ledled Cymru.
6 | Cylchlythyr Uned Brentisiaethau PCYDDS