Skip to main content

4Degrees Coleg Celf Abertawe PCYDDS

Page 1

PROFIAD COLEG CELF TRADDODIADOL

RHIFYN 03

MEWN PRIFYSGOL

2026/27

CERDDORIAE TH { GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2027 }

{W

HA

RF

AF 1 YN~ Y DU

T

U

GI GO LY O N GY

A

M

RA

}

CYNHYRCHU FFILMIAU A FFOTOGRAFFIAE TH

26

DYLUNIO GRAFFIG

20

FFASIWN A THEC STIL AU

COLEG CELF A B E R TAW E PCYDDS

NI

D

S

CYNTAF YNG NGHYMRU AM GELF G AIN

A

AF 1~

GYFOES

ST

UD

ENT CHOIC

W EA

AR


MAE ADDYSG COLEG CELF YN WAHANOL I UNRHYW FATH O ADDYSG PRIFYSGOL. WRTH WRAIDD EI HUNANIAETH MAE’R FFORDD Y MAE'N MEITHRIN, CYFARWYDDO AC ANNOG UNIGOLIAETH, CREADIGRWYDD AC ARLOESEDD.


Crocodile -- Gan Gan Chris Chris Harrendence Harrendence {{ @cjharrendence @cjharrendence}} Crocodile


PAT R

Y M

AR

DYLU

AU

AU W

YN

S EB A THEC

TI

L

N IO

EG CERD OL

ADIGOL RE

P E NS AE

ÏA RN

G EMAU

RIAETH G DO

ET H

TECHN

YR HYN RYDYN IO

& VFX

A THRA OL

IDIAETH FN

O MODUR NI

AN

I M EI D

NI'N EI GYNNIG D

DYL U

CELF G

DY L U TI

O

FFILM

AC

YN

HYRCHU

TIAU

Mae gan bob un o'n cyrsiau athroniaeth gyffredin; i alluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, a phob un ohonyn nhw’n hanfodol i ddod o hyd i'ch llais eich hun o fewn eich maes creadigol dewisol.

I

SE

THELEDU

NIO

G RAFF

G

N

A

DY LU

N

AI

C R E F FTA U

IO

A CH

O

N IO

LUNI

U

AR

DY L

D


LLE I DYFU

LLE I GREU

Er ein bod yn rhoi pwys mawr ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod addysg greadigol yn daith o hunan-ddarganfod. Rydyn ni’n credu'n angerddol mewn caniatáu amser a lle i'n myfyrwyr archwilio a dod o hyd i'w cyfeiriad eu hunain ac mae beth sy’n digwydd yn wirioneddol anhygoel.

Mae ein campysau cyfeillgar yn lle gwych i astudio arnyn nhw, ac mae ein stiwdios yn fwrlwm o weithgarwch. Rydyn ni’n gwahodd ein myfyrwyr i’w gwneud eu hunain yn gartrefol ac yn eu hannog nhw i’w hamgylchynu eu hunain â'u gwaith a'u hysbrydoliaeth. Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i ymchwilio i ystod eang o brosesau ac arferion trwy gydol eu hamser gyda ni. Mae llawer o'n cyfleusterau yn rhai mynediad agored, ac ar gael i bob myfyriwr, ni waeth pa gwrs rydych chi arno.

EIN CYRSIAU → Animeiddio ac Effeithiau Gweledol BA (Anrh) → Celf a Dylunio Sylfaen Tyst AU → Celf Gain:

Stiwdio, Safle a Chyd-destun BA (Anrh)

→ Crefftau Dylunio:

Gwydr, Cerameg a Gemwaith BA (Anrh)

→ Darlunio BA (Anrh) → Dylunio Gemau Cyfrifiadurol BA (Anrh) → Dylunio Graffig BA (Anrh) → Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth BA (Anrh) → Ffilm a Theledu BA (Anrh) → Ffotograffiaeth Ddogfennol

a Gweithredaeth Weledol BA (Anrh)

→ Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau BA (Anrh)

IO

SYLFAE

N

→ Pensaernïaeth BSc (Anrh) → Technoleg Cerddoriaeth Greadigol BA (Anrh)

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Ôl-raddedig, gweler ein gwefan am fanylion.

F

A DYLUN

→ Patrymau Arwyneb a Thecstilau BA (Anrh)

CE

L

→ Actio BA (Anrh) → Dylunio a Chynhyrchu Setiau BA (Anrh)

hefyd yn cael eu cynnig ar gampws Caerfyrddin.

T

GR

ET

H

FFO

O

A FFI

A

CYDRADD

2IL YN Y DU AM

RAGORIAETH ADDYSGU { DAILY MAIL UNIVERSITY GUIDE 2027 }


PWY

EWCH I: WWW.UWTSD.AC.UK/CY/COLEG-CELF-ABERTAWE

DINAS AR LAN Y MÔR

Profiad Coleg Celf mewn Prifysgol Gyfoes

Mae Abertawe yn ddinas glan môr ac yn lle gwych i f yw ac astudio ynddo. Mae'n llawn posibiliadau a phobl o'r un anian. Os yw bwrlwm bywyd y ddinas, neu dawelwch yr awyr agored hardd yn eich ysbrydoli, mae gennym ni’r cyfan. Mae'r Coleg Celf yn gampws agos o fewn Prifysgol ehangach; yn ddigon mawr i gynnig y lle y mae ei angen arnoch ac yn ddigon bach i wneud i chi de imlo eich bod chi'n perthyn.

BETH ALLAF I EI ASTUDIO?

CYFLEOEDD DWYIEITHOG

Nid oes addysg prifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw oherwydd y ffordd y mae’n meithrin, cyfeirio ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd.

Rydym yn dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru o fewn ein dull addysgu a dysgu, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â’r Gymraeg a diwylliant Cymru ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae Coleg Celf Abertawe yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan alluogi i fyfyrwyr ddewis sut yr hoffent gysylltu â diwylliant ac iaith Cymru o fewn cyddestun creadigol lleol a byd-eang.

Mae athroniaeth gyffredin i’n holl raddau; hwyluso unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydyn ni’n credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais o fewn eich dewis faes creadigol.

DYSGWCH RAGOR AMDANOM NI YMA:

COLEG CELF ABERTAWE Mae gan y DU ystod o golegau celf anhygoel o gyfoethog ac amrywiol sydd â threftadaeth nodedig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ledled y byd. Mae Coleg Celf Abertawe, sef coleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.

YDYM


M

NI

3YDD

YN Y DU AM

GYMORTH MYFYRWYR { DAILY MAIL UNIVERSITY GUIDE 2027 }


“ RWY'N PERTHYN

YMA, O GWMPAS Y BOBL YMA SY'N FY NGWTHIO I AC SY’N FY YSBRYDOLI “ I BOB DYDD OWAIN DAVIES

01

03

04

05

POBL WYCH

AWYRGYLCH CYMUNEDOL

PROFIAD ANHYGOEL

CYFLEOEDD LLEOLIAD

Dechreuodd fy nghyflwyniad i'r Brifysgol hon drwy gwrdd â phobl wych, ac fe wnes i syrthio mewn cariad â'r lle yn gyflym. Mae'r campws yn fy atgoffa i’n gyson o bwy rydw i am fod; mae'r posteri, darluniau, pecynnu, llyfrau, a mymryn o anhrefn creadigol yn creu awyrgylch ysbrydoledig.

Roeddwn i wrth fy modd â'r awyrgylch cymunedol o weithio yn y stiwdio – welais i mo hyn yn yr un prifysgol arall. Mae'r amrywiaeth eang o weithdai a sgiliau i'w dysgu, gan weithio ar friffiau byw gyda chwmnïau allanol yn rhoi i'r cwrs olwg realistig ar sut y gallai bywyd fod ar ôl gadael y brifysgol.

Mae gan y darlithwyr brofiad anhygoel yn y maes ac yn anad dim maen nhw’n bobl neis, yn gyfeillgar i ymwneud â nhw, a byddan nhw’n hapus i'ch helpu chi mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae'r ffrindiau rydw i wedi'u gwneud yma yn fy ngwneud i’n berson gwell ac rwy'n credu y bydda i’n eu hadnabod nhw am weddill fy oes.

Mae gan PCYDDS gysylltiadau gwych â diwydiant a chyfleoedd lleoliad ar gyfer y rheiny sy'n eu gwthio eu hunain allan o'u parth cysur ac yn mynd amdani! Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn weithgar a chefnogol iawn, ac mae cymaint yn digwydd ar draws yr holl gampysau.

SVITLANA ULIANYCH

02 CYMHAREB STAFF/ MYFYRWYR NICK SMITH

Mae'r gymhareb staff i fyfyrwyr yn sicrhau eich bod chi bob amser yn gallu manteisio ar y cymorth a'r arweiniad gorau trwy gydol eich astudiaethau. Mae hyn yn rhywbeth nad yw'n wir yn y rhan fwyaf o brifysgolion, lle mae'r pwyslais yn fwy ar niferoedd myfyrwyr.

CIARA LONG

JAC ELSEY

AIMEE RAYNER


09 PROFIAD UNIGRYW KIA ELISE BRECKON

Mae'r brifysgol yn cynnig profiad addysgol unigryw a chyfoethog. Mae'r profiadau rydych chi'n eu cael yn anhygoel a dydw i erioed wedi eu gweld yn cael eu cynnig yn unrhyw le arall. I mi, dyna sy’n gwneud y brifysgol yn lle arbennig iawn. Mae'r ffocws ar gyflogadwyedd a chysylltiadau diwydiant cryf hefyd yn darparu profiad ymarferol amhrisiadwy a chyfleoedd gyrfa.

10 GWENAU CYNNES A CHALONNAU AGORED CELESTE TURNBULL

06

FFOCWS AR YRFAOEDD JOSHUA KNIGHT

Dewisais i astudio yn PCYDDS oherwydd yr angerdd amlwg dros annog gyrfaoedd creadigol. Nid yn aml y gwelwch chi brifysgol sydd mor awyddus i hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant creadigol a dyna rywbeth a’m denodd i'r brifysgol a'r cwrs hwn.

07

CYMORTH

08

DAVID ALDEN

Mae PCYDDS yn eich dysgu chi beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn broffesiynol. Os ydych chi'n ymrwymo'n llawn, mae cymaint o gymorth a chyfleoedd i'ch helpu chi i lwyddo. O arweiniad busnes i ryddid creadigol ac adborth gonest, mae'r brifysgol yn eich gwthio i gyflawni eich potensial.

HYDER

NANCY AKUFFOBEA

Fy hoff beth am fy nghwrs yw'r darlithwyr. Maen nhw'n ein croesawu ni bob dydd gyda gwenau cynnes a chalonnau agored, yn ein cefnogi wrth i ni ymdrechu i fynd y tu hwnt i'n parthau cysur, ac yn dathlu ein cyflawniadau ni waeth pa mor fawr neu fach.

Fyddwn i ddim lle rydw i nawr heb fy amser yn PCYDDS. Rhoddodd fy nghwrs y sgiliau i mi gyfleu fy syniadau, sylfaen wybodaeth anhygoel i adeiladu arno, a'r hyder i fynd allan fy hun i'r diwydiant Gemau.

ADOLYGIADAU

SY'N EIN BROLIO DYMA BETH MAE EIN MYFYRWYR YN EI DDWEUD AMDANOM NI


RHAI O'R CWMNÏAU RYDYN NI WEDI GWEITHIO GYDA NHW YN DDIWEDDAR

1. PEPSICO Yn 2023, cafodd un o’n myfyrwyr oedd yn graddio interniaeth gyda PepsiCo yn y sioe New Designers flynyddol yn Llundain. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae Kira bellach mewn rôl amser llawn ac wedi meithrin partneriaeth unigryw. Trwy’r cydweithio hwn, mae myfyrwyr yn derbyn briffiau gweithdy, arweiniad ar bortffolios, a’r cyfle i gyflwyno eu syniadau i’r tîm dylunio ym mhencadlys Llundain PepsiCo. Mae’r profiadau hyn yn mynd tu hwnt i adeiladu portffolios – maent yn tanio uchelgais, yn agor drysau proffesiynol, ac yn sbardun i’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol.

2. JAGUAR LAND ROVER Gwnaeth Harry De La Riviere argraff ar JLR am y tro cyntaf yn ystod prosiect byw yn ei ail flwyddyn, lle ailddyluniodd ef a'i gyfoedion y Defender, y Range Rover a’r Discovery. Daliodd ei waith sylw James Watkins, Arbenigwr Creadigol yn JLR a gymerodd ef o dan ei adain a noddi ei brosiect terfynol. Bellach mae Harry yn Ddylunydd Gweddau Allanol yn JLR.

3. 4. ROLLS ROYCE

Yn rhan o brosiect byw yn ystod ei thrydedd flwyddyn, cafodd Emma Landeck a'i chydfyfyrwyr y dasg o ddylunio tu mewn i 'Phantom' Rolls Royce a’i gyflwyno i'r tîm Dylunio Pwrpasol. Enillodd ei gallu i adlewyrchu hunaniaeth y brand interniaeth 13 mis iddi gyda’r tîm Addurniadau, Lliwiau a Thrimiau Mewnol Pwrpasol yn eu pencadlys yn Goodwood. Mae myfyrwyr hefyd wedi gweithio ar brosiectau byw gydag enwau cyfarwydd megis H&M, ac yn eu blwyddyn olaf, maen nhw’n mynychu New Designers, lle mae llawer wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau a sicrhau swyddi.

LA BIENNALE DI VENEZIA Yr haf hwn, cafodd dau o’n myfyrwyr presennol, Em Dorion ac Eve Slatter, eu dewis ar gyfer rhaglen fawreddog Invigilator+ yn arddangosfa Cymru yn Fenis 2026, rhan o’r 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol. Mae’r rhaglen, dan arweiniad Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnig cyfle i artistiaid a churaduron ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr dreulio amser yn Fenis yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran Cymru yn Fenis. Bydd cyfranogion yn ennill profiad proffesiynol gwerthfawr yn cefnogi’r arddangosfa wrth ymgysylltu â chynulleidfa ryngwladol yn un o ddigwyddiadau celf gyfoes mwyaf arwyddocaol y byd.


5. 6. LAURA ASHLEY

Drwy weithio ar friff byw a osodwyd gan un o frandiau cartrefi a ffordd o fyw mwyaf adnabyddus Prydain cafodd myfyrwyr gipolwg gwerthfawr i ddisgwyliadau dylunio proffesiynol – o ymchwilio i ddylunio a datblygu cysyniad i fireinio gwaith celf ar gyfer cyflwyniadau. Roedd y prosiect yn rhan o ‘Laura Ashley: 100 Years of an Icon’, ymgyrch blwyddyn canmlwyddiant y brand yn dathlu bywyd ac etifeddiaeth y dylunydd a aned yng Nghymru.

DOWNS MERRIFIELD Trwy weld sut mae dyluniadau'n dod yn fyw yn yr amgylchedd adeiledig cafodd ein myfyrwyr pensaernïaeth yn eu blwyddyn olaf werthfawrogiad dyfnach o'r heriau ymarferol a'r ystyriaethau y mae penseiri'n eu wynebu. Gwnaeth Cynllun Mentora Myfyrwyr RSAW, sef Cymdeithas Prydeinig y Penseiri yng Nghymru, leoli pob myfyriwr gyda chwmni pensaernïaeth yng Nghymru. Rhoddodd hyn well dealltwriaeth iddynt o'r rôl y mae pensaernïaeth yn ei chwarae wrth lunio cymunedau a materion bywyd bob dydd yn ymarferol.

7. ANGLEPOISE

8. SKY CREATIVE

Cydweithiodd myfyrwyr gyda’r brand goleuo eiconig, Anglepoise, yn rhan o’i ddathliadau 90 mlwyddiant. Cafodd y dyluniadau a grëwyd eu harddangos yng Ngŵyl Ddylunio Llundain.

Mae ein perthynas gyda Sky wedi rhychwantu llawer o flynyddoedd ac wedi cynnwys nifer o raddedigion. Mae’n ysbrydoledig i fyfyrwyr ymweld â Stiwdios Sky a gweld y posibiliadau ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

RHWYDWAITH GRADDEDIGION Mae llawer o’n graddedigion yn cadw mewn cysylltiad â ni am flynyddoedd ar ôl iddynt adael, ac yn aml, gall y perthnasoedd hynny greu cyfleoedd amhrisiadwy ar gyfer ein myfyrwyr presennol i gael mewnwelediad i fyd gwaith pobl greadigol. Boed hynny’n gyfle i gyflwyno syniadau ym myrddau bwrdd gweithredol brandiau enwog, derbyn adborth yn uniongyrchol gan reolwyr gyfarwyddwyr, neu roi eu portffolios gerbron rhai

o’r prif ymarferwyr creadigol, bydd ein myfyrwyr yn cael mynediad i brofiadau sy’n anodd eu ffeindio mewn mannau eraill. Mae’r cyfleoedd hyn yn destament i gryfder ein cymuned cyn-fyfyrwyr, gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr gamu i mewn i rai o frandiau mwyaf ac enwocaf y diwydiannau creadigol, adeiladu cysylltiadau proffesiynol, a chael profiad uniongyrchol o sut beth yw gweithio yn y byd creadigol.

INTERNIAETHAU Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi’r ystod fwyaf amrywiol o interniaethau hyd yma. Gyda chymorth ariannol a rhwydwaith o bartneriaid, mae ein myfyrwyr wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau, elusennau a chwmnïau bach i gael profiad gwaith gwerthfawr wrth astudio. Yn fwy diweddar,

mae cwmnïau fel Ginger & Tall wedi cefnogi myfyrwyr sy’n gweithio gydag elusennau cenedlaethol; gan ddefnyddio dylunio da i newid bywydau. Rydym hefyd wedi cynnig ‘adolygiad diwydiannau creadigol’ lle bydd ymarferwyr yn y diwydiant yn eich tiwtora trwy’r broses o sefydlu eich busnes eich hun.

PETHAU CYFFROUS I DDOD Mae llawer o’n cyrsiau’n paratoi ar gyfer partneriaethau newydd cyffrous gyda chwmnïau enwog y flwyddyn hon. Mae cynlluniau ar waith ar gyfer ein gŵyl Wythnos Ddylunio flynyddol, ochr yn ochr ag ystod o brosiectau cymunedol ac allgymorth a

gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i arddangos eu gwaith i’r byd yn ehangach. Rydym hefyd yn gyffrous am bartneriaeth sydd ar adeg argraffu’r cylchgrawn yn dal i fod yn gyfrinach – dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau a chyhoeddiadau!


Mae gennym rai o'r

Rydyn ni'n dod i

Rydyn ni’n cadw mewn

oriau cyswllt uchaf

adnabod ein myfyrwyr,

cysylltiad â'n myfyrwyr ymhell

yn y DU

a'u huchelgeisiau

ar ôl iddyn nhw raddio

Rydyn ni’n falch iawn o ddweud bod ein graddeigion yn gweithio ledled y byd. Mae llawer ohonyn nhw’n cadw mewn cysylltiad i roi gwybod i ni beth maen nhw'n ei wneud, yn bwydo i'n haddysgu trwy weithdai a darlithoedd gwadd, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion wrth iddynt symud i fyny yn eu mannau gwaith. Dyma ychydig o enghreifftiau o'u llwyddiannau diweddar...

CYN-FYFYRWYR MEWN

LLEOEDD UCHEL

BLOOMSBURY KARL MOUNTFORD Ers graddio, mae Karl wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iawn ym maes darlunio. Mae wedi lansio ei gyhoeddiadau ei hun a ddarluniwyd gan awduron, gan gynnwys The Circles in the Sky ac A Voice in the Storm, ac yn fwy diweddar cydweithiodd â'r cyhoeddwyr Bloomsbury a Scholastic ar addasiad arbennig o Harry Potter. Mae gyrfa Karl yn hedfan.

LEGO MAT BOYLE Yn fuan ar ôl graddio, camodd Mat i'r swydd y bu’n breuddwydio amdani gyda Lego yn eu pencadlys yn Nenmarc. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn dylunio ffigyrau bach ac elfennau addurnedig eraill yn Ddylunydd Graffeg, ac yn fwy diweddar daeth yn Arbenigwr Dylunio Brand. Eleni mae Mat a'i dîm yn dathlu ennill nid un, ond dwy wobr ddylunio D&D am eu gwaith ar ail-frandio LEGO.


ROLLS ROYCE REBECCA DAVIES

OSSI PIISPANEN Mae Ossi yn ffotograffydd a chyfarwyddwr sydd wedi’i leoli yn Llundain ac yn gweithio ar draws meysydd ffotograffiaeth bortreadaeth, dogfennaeth, golygyddol a masnachol. Mae ei waith wedi’i gomisiynu gan gyhoeddiadau a brandiau rhyngwladol gan gynnwys The Guardian, The Telegraph, Der Spiegel, Adidas a Red Bull. Mae ei ffotograffau wedi’u harddangos yn rhyngwladol ac fe’u cedwir yng nghasgliad parhaol yr Oriel Portreadau Genedlaethol. Ochr yn ochr â’r gwaith a gomisiynir, mae Ossi yn datblygu prosiectau dogfen hir dymor yn archwilio pobl, cymunedau a diwylliant cyfoes.

Sicrhaodd Rebecca Davies, a raddiodd yn ddiweddar, interniaeth â thâl 12 mis yn Rolls Royce. Dyfarnwyd yr interniaeth ar sail prosiect byw a wnaeth yn ystod ei gradd. O fewn misoedd daeth yn ôl atom ni i gynnal prosiect byw cyffrous gyda'n myfyrwyr Patrymau Arwyneb. Roeddem ni mor falch o weld Rebecca yn rhan o'u tîm, ac roedd hi’n wych ei chlywed hi’n rhannu ei phrofiad â'r myfyrwyr presennol.

Diolch i www.harrypotter.com am y llun

MCLAREN PATRICK CARTON O'r diwrnod cyntaf, dangosodd Patrick angerdd mawr, agwedd ostyngedig, parodrwydd i ddysgu ac ymrwymiad gwych. Nid oedd yn syndod i ni fod Patrick wedi'i ddewis gan Forbes Magazine yn y categori 30 dan 30 Ewrop: categori diwydiant a'i fod yn mynd i lunio rhai o geir uchaf eu bri Prydain yn y dyfodol.

TIME MAGAZINE

SKY CREATIVE

MIKKO TAKKUNEN

DEG MYFYRIWR + RHAGOR

Ar ôl graddio, gweithiodd Mikko fel ffotograffydd llawrydd ar gyfer amrywiol bapurau newydd a chylchgronau yn y DU a’r Ffindir. Symudodd i Efrog Newydd i fod yn Olygydd Ffotograffau i’r cylchgrawn Time, ac ers 10 mlynedd, mae wedi gweithio fel Golygydd Ffotograffau i’r New York Times. Cyhoeddwyd ei lyfr ffotograffiaeth gyntaf, Hong Kong, yn 2024 (Kehrer). Mae ei gasgliad nesaf, New York, i fod i gael ei gyhoeddi yn 2027.

Erbyn hyn mae Sky wedi cyflogi deg o'n graddedigion yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, ac rydyn ni'n falch iawn o'r cysylltiad hwn. Mae gan ein graddedigion law mewn llawer o'r graffeg sydd i'w gweld yn ein cartrefi – o frandio ar gyfer eu darllediad o goroni'r Brenin, i'r polau ymadael yn ystod etholiad 2024, mae hwn yn amgylchedd cyflym a chyffrous iawn i weithio fel dylunydd graffig. Rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad, ac maen nhw'n cynnig gweithdai ac ymweliadau stiwdio bob blwyddyn.


YCHYDIG MWY AMDANOM NI

MAE EIN SA DIWEDDA DANGOS S NI'N SEFY AR DRAW #

4 YN Y DU

CYMORTH MYFYRWYR

CYDRADD #

{ SAFLEOEDD THE TIMES & SUNDAY TIMES UNIVERSITY 2026 }

2 YN Y DU

RHAGORIAETH ADDYSGU { DAILY MAIL UNIVERSITY GUIDE 2027 }

#

1 YN Y DU

FFASIWN A THECSTILAU

#

2 YN U DU

{ GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2027 }

BODDHAD MYFYRWYR

#

CELF GAIN

{ THE TIMES & THE SUNDAY TIMES – NSS 2026 }

#

3 YN Y DU

DARLITHWYR AC ANSAWDD ADDYSGU

{ WHAT UNI STUDENT CHOICE AWARDS 2026 }

WERTH EI GRYBWYLL HEFYD:

3 YN Y DU

Mae gennym Ddyfarniad 2/1 am Bobl a Phlaned { Cynghrair Prifysgolion 25/26 }

Daethom yn 5ed yn y DU mewn Celf a Dylunio yn Safleoedd Myfyrwyr UniFresher 2027

{ GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2027 }


AFLEOEDD ARAF YN SUT RYDYN YLL ALLAN WS Y DU #

9 YN Y DU

ANIMEIDDIO A DYLUNIO GEMAU { GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2027 }

#

1 YN Y DU

CELF

#

1 YN Y DU

#

RHAGOLYGON GYRFA

{ WHAT UNI STUDENT CHOICE AWARDS 2026 }

{ DAILY MAIL UNIVERSITY GUIDE 2027 }

Y CYNTAF YNG

NGHYMRU CELF GAIN DYLUNIO GRAFFIG FFASIWN A THECSTILAU FFILM A FFOTOGRAFFIAETH { GUARDIAN LEAGUE TABLE 2024, 2025, 2026 & 2027 }

1 YN Y DU

BUSNESAU NEWYDD GRADDEDIGION SY’N DAL I FOD YN WEITHREDOL AR ÔL 2 FLYNEDD { HE-BCI 2024 }

#

1 YN Y DU

CYNHYRCHU FFILM A FFOTOGRAFFIAETH

YR AIL FLWYDDYN * AM YN OLYNOL!

RHAGOR O WYBODAETH: I ddarllen rhagor am unrhyw un o'n sgoriau a'n safleoedd, neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein straeon llwyddiant, sganiwch yma:

{ GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2027 }

MWY O RESYMAU DROS EIN DEWIS NI


STIWDIOS MANNAU DESG Rydyn ni'n gwahodd ein myfyrwyr i wneud eu hunain yn gartrefol gan amgylchynnu eu hunain â'u gwaith a'r hyn sy'n eu hysbrydoli. Mae llawer o'n cyrsiau yn darparu lle desg unigol, ac mae eraill yn gweithio mewn mannau gwaith pwnc penodol.

CAMPWS Mae ein campysau cyfeillgar yn lleoedd gwych i astudio ynddynt, ac mae ein stiwdios yn fwrlwm o weithgarwch. Rydyn ni’n darparu'r lle sydd ei angen i fwrw iddi o ddifri a mynd i'r afael â'ch disgyblaeth. Rydyn ni’n yn annog myfyrwyr i wneud defnydd llawn o'n cyfleusterau gwych.

STIWDIOS AGORED Rydyn ni’n parchu ac yn dathlu ein traddodiadau, a dyna pam rydyn ni wedi cadw llawer o offer traddodiadol mewn meysydd megis cerameg, gwneud printiau a ffotograffiaeth. Mae'r gweithdai hyn yn croesawu myfyrwyr o bob cwrs.


CYFLEUSTERAU ARBENIGOL Mae llawer o'n meysydd cwrs hefyd yn elwa o gyfleusterau arbenigol megis y stiwdio clai Modurol, a'r stiwdio goleuadau ffotograffiaeth. Mae'r mannau hyn yn cynnig mynediad cyson i fyfyrwyr i'r offer y mae eu hangen arnyn nhw i ddysgu gwir grefft eu maes pwnc.

CYMUNED Mae Coleg Celf Abertawe yn gampws clos o fewn prifysgol ehangach; gan gynnig digon o le i chi ond eto'n ddigon bach i chi deimlo'n rhan ohoni.

CYDWEITHIO Mae bod yn rhan o'n cymuned greadigol yn cynnig cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau, cyfleoedd i gydweithio a chysylltiadau yn y diwydiant rydych chi'n camu i mewn iddo. Gyda chymaint o'n gweithdai yn agored i fyfyrwyr o bob cwrs, mae bob amser lle ar gyfer prosiectau ar y cyd a chydweithio ar draws cyrsiau.


GWEITHDAI TRADDODIADOL O bren i fetel, cerameg i brint, mae gennym ystod enfawr o gyfleusterau gwych. Dyma ddetholiad bach.

CERAMEG Mae ein mannau ceramig pwrpasol yn gartref i odynau cerameg a gwydr, yn ogystal ag olwynion taflu, baeau asid, ystafell blastr a chyfleusterau castio slip. Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiadau 'throw down' a thanio raku blynyddol.

GWNEUD PRINTIAU

STIWDIO CLAI MODUROL

Mae ein hystafelloedd argraffu yn gartref i ystod eang o brosesau traddodiadol; o ysgythru i argraffu sgrin sidan, argraffwaith i risograff, mae’r posibiliadau'n ddiddiwedd. Mae drysau'r adran printiadau ar agor i unrhyw fyfyriwr, ni waeth pa gwrs maen nhw arno – sy'n gwneud hwn yn lle arbennig iawn.

Credwn fod deall ffurf trwy ddefnyddio clai modurol yn rhan hanfodol o broses ddysgu unrhyw ddylunydd uchelgeisiol. Dyna pam mae ein stiwdio glai o'r radd flaenaf yn llawn offer o safon y diwydiant ac yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr ddysgu'r broses ymarferol wych hon.

YSTAFELL ARGRAFFWAITH

YSTAFELL DYWYLL

STIWDIO GWAITH METEL

Mae gennym dros 150 o gasys o deip traddodiadol, a nifer o weisg argraffu ar gyfer pob maint. Mae ymdeimlad go iawn o adfyfyrio yn y lle hwn, ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr arafu a pherffeithio crefft.

Mae gweithdai print hanesyddol yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio'r broses ffotograffig gemegol yn greadigol. Mae colodion plât gwlyb yn ffefryn poblogaidd, lle mae delweddau'n cael eu datblygu ar blatiau alwminiwm neu wydr.

O emwaith addurniadol cain i gerflunio deunydd ar raddfa fawr, mae ein gweithdai ymarferol yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i fyfyrwyr lunio, torri ac adeiladu eu harteffactau creadigol.


LABORDY FFABRIG

GEMWAITH

GWYDR LLIW

CYNHYRCHU 3D

Gan gynnwys ystafell argraffu sgrin tecstilau a labordy lliwio, sy'n hwyluso lliwio a rhoi patrwm ar amrywiaeth o sylweddau gan ddefnyddio dulliau lliw traddodiadol a chyfoes.

Mae adeilad Alex yn cynnig meinciau gemwaith pwrpasol ac offer llaw arbenigol yn ein gweithdy gemwaith wedi'i ffitio'n llawn ar gyfer sodro, mireinio a sgleinio.

Mae gennym ni hanes clodwiw o ran Gwydr Lliw. Rydyn ni bellach yn gartref i'r Ganolfan Gwydr Pensaernïol, gyda thîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn gweithio ar brosiectau adfer cyffrous.

Mae ein gweithdai yn arbenigo mewn adeiladu a dylunio tri dimensiwn sy'n seiliedig ar ddeunyddiau, gan gynnwys castio resin a phlastr, ffurfio a phrosesu gwydr, sgwrio â thywod, enamlo, torri, troi, ac argraffu 3D.


Mae arloesi technolegol digidol yn datblygu'n gyson y ffyrdd y mae pobl greadigol yn gwthio ffiniau eu disgyblaethau. Mae'r mannau hyn, sydd ar flaen y gad, yn caniatáu i'r myfyrwyr gynhyrchu eu gwaith i fframweithiau masnachol cyfoes.

Y DECHNOLEG

DDIWEDDARAF MANNAU TROCHI

Mae ein hystafelloedd trochi o'r radd flaenaf yn caniatáu i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir trochi a delweddau 360 gradd. Yn ddiweddar, defnyddiodd ein myfyrwyr Dylunio Modurol y lle hwn i gyflwyno eu syniadau dylunio i Jaguar Land Rover, a gweld eu cysyniadau ar eu graddfa go iawn.


POSIBILIADAU DIDDIWEDD

CIPIO DELWEDDAU

Mae ein stiwdio oleuo yn yr adran Ffotograffiaeth yn gartref i sbectrwm llawn o brosesau. Mae hyn yn cynnwys ystafell ddigidol arbenigol a reolir gan liw gyda sganwyr ffilm eglur iawn ac argraffu fformat mawr.

LABORDAI MAC

Mae ein hystafelloedd digidol yn llawn dop o'r peiriannau diweddaraf a meddalwedd safonol y diwydiant. Mae gennym ni nifer o ystafelloedd Mac digidol llawn dop o'r offer ar draws ein campysau.

REALITI RHITHWIR

Mae ein myfyrwyr yn defnyddio Realiti Rhithwir i fraslunio a dylunio yn uniongyrchol ar becyn peirianneg, i greu modelau 3D rhithwir ac i werthuso dyluniadau mewnol ac allanol.

Mae gan ein myfyrwyr fynediad at y diweddaraf mewn technolegau argraffu, torri a saernïo. Felly, os ydych chi eisiau adeiladu, llunio, taflu, argraffu neu gipio, mae'r cyfan yma i chi.


Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau o arddangosfeydd unigolion a chyrsiau i'n sioeau haf blynyddol.

SIOEAU DIWEDD Y FLWYDDYN


NEW DESIGNERS

SIOEAU HAF ABERTAWE A LLUNDAIN

Bob blwyddyn, mae nifer o'n cyrsiau yn mynd i Lundain i arddangos eu gwaith yn nigwyddiad New Designers yn Islington. Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno'ch gwaith i'r byd, ac i gwrdd â darpar gyflogwyr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein myfyrwyr wedi ennill llawer o'r gwobrau proffil uchel a roddwyd gan y noddwyr gan gynnwys Laura Ashley, Sky, Disney a'r Amgueddfa Wyddoniaeth.

Ers dros 160 mlynedd, rydyn ni wedi arddangos y dalent orau o'n hystod o gyrsiau blaenllaw ym maes celf, dylunio a'r cyfryngau. Mae ein sioeau haf blynyddol yn addo bod yn gyfres o ddigwyddiadau cyffrous a lliwgar sy'n arddangos popeth sydd gan ein myfyrwyr i'w gynnig. Mae ein sioeau'n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau, ac mae ein noson agoriadol yn bendant yn un ar gyfer y calendr!

ORIEL COPELAND LLUNDAIN Mae'r arddangosfa flynyddol hon yn Llundain yn cyflwyno cyfle gwerthfawr i'n myfyrwyr Celfyddyd Gain a F fotograffiaeth i ymgysylltu â chynulleidfa eang, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol allweddol yn y diwydiant. Mae'r digwyddiad hwn yn caniatáu iddyn nhw arddangos eu harfer creadigol, a thrwy hynny godi eu proffil yn artistiaid sy'n dod i'r amlwg a meithrin rhwydweithiau pwysig a f ydd yn cynirthwyo eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae'r sioeau yn rhoi llwyfan proffesiynol i'n myfyrwyr rannu eu creadigrwydd â'r byd, dathlu eu gwaith caled, a’u cysylltu â'r diwydiannau maen nhw'n mynd i ymuno â nhw. Mae'r arddangosfeydd hyn yn rhoi sbotolau ar y talent sy'n dod i'r amlwg ac yn destament i rym trawsnewidiol addysg greadigol.

GWELD GWAITH SIOEAU'R FLWYDDYN HON:

RHAI O UCHAFBWYNTIAU’R SIOEAU ELENI...


ENILLWYR GWOBRAU

MINI SHARMA-MCLACHLAN

GWOBR LAURA ASHLEY

GWOBR AOI SPOTLIGHT

COLE & SON

ELLIE JONES

01

ANNA EYNON

02

07

Roedd y wobr fawreddog hon yn cynnwys lleoliad, a chyfle i Laura Ashley brynu gwaith celf.

Anrhydedd fawreddog gan y tŷ dylunio eiconig, sydd wedi creu gorchuddion wal eithriadol ers 1895.

Cafodd Ellie ei chydnabod am ei phortffolio sy'n barod i'r diwydiant gan Gymdeithas y Darlunwyr.

GWOBR 'RHYFEDDOL' JESSE JAMES

GWOBR GYSYLLTIOL SDC

GWOBR HALLMARK JODIE CHUNG

03

AIMEE RAYNER

08

04 GWOBR ROMO LAUREN STOKES 09 Enillodd Jesse y wobr 'Creating The Remarkable' yn New Designers yn Llundain.

Enillodd 'Memory Mart' bywiog a chwareus Jodie interniaeth â thâl iddi gyda'r cwmni cardiau cyfarch pwysig.

Cafodd Aimee ei chydnabod gan Gymdeithas y Lliwwyr a'r Lliwyddion am ei defnydd o liw at ddibenion masnachol a therapiwtig.

GWOBR CELF WISGADWY

GWOBR HANES POBL DDUON

AGNES OLAH

05

SUMMER DAVIES

Mae’r wobr hefyd yn cynnwys lleoliad chwe mis gyda Romo. Cafodd Lauren hefyd ei henwi’n Ail yn y Wobr Clothworkers.

06

GWOBR SKY CREATIVE ERIN JEFFERYS 10

Enillodd gwaith Agi, 'Beneath', y wobr arloesedd ar y brigdrawst yn y sioe ffasiwn ryngwladol hon yn Seland Newydd.

Enillodd Summer y 'Wobr Cyflawniad Academaidd Eithriadol' yng Ngwobrau Ieuenctid Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru.

Gwnaeth Sky gydnabod brwdfrydedd Erin i ddatbygu ei chrefft a'i harddull i'r lefel nesaf.


PENTLAND BRANDS

PEPSI

COREY MCCOMB

LUCY DE-LA-HAYE 11

14

HABITAT LILY STANIFORTH 13

M&S

Cafodd Corey 'Shout Out' gan Pentland Brands.

Derbyniodd Lucy 'Shout Out' gan Pepsi yn New Designers eleni.

SUSAN DOWN 15

GWOBR DDYLUNIO LAGOM EVAN ELIAS 12

Enillodd Lily gydnabyddiaeth gan y manwerthwr nwyddau cartref enfawr.

Derbyniodd Susan docyn 'Love' gan M&S am ei chasgliad graddedig.

AR Y PODIWM

DISNEY

SOLENE PARKER

16

Cafodd Evan ei wobrwyo am ei 'ddyluniadau beiddgar, gwreiddiol'.

Roedd Disney yn dwlu ar ffordd Solene o adrodd stori.

CREATIVE REVIEW SVITLANA ULIANYCH 17

Cafodd gwaith Svitlana ganmoliaeth uchel gan y cyhoeddiad dylunio blaenllaw.

LMC DESIGN

JOSEFF WILLIAMS

18

Cafodd Joseff 'Love This' gan LMC Design.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gofleidio cyfleoedd allanol trwy gydol eu hastudiaethau. Mae ein myfyrwyr yn ennill gwobrau yn gyson, gan adlewyrchu eu talent, eu hymroddiad, a'r cymorth maen nhw'n ei dderbyn yn ystod eu hamser gyda ni.


NEWYDDION DIWEDDAR Yn PCYDDS, rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned greadigol fywiog, sydd wedi bod yn ffynnu ers sefydlu ein hysgol gelf yn y 1850au. CYDWYBOD CREADIGOL Mae Dylunio Graffig yn dathlu tri enillydd arall yng ngwobrau bydeang Creative Conscience. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o ddeg enillydd yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae eu gwaith gwych i'w weld yn: creative-conscience.org.uk

GWNEUTHURWYR CYNALIADWY YN CWRDD Mae casgliad o artistiaid, actifyddion, addysgwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr, gwneuthurwyr a churaduron wedi dod at ei gilydd i ddatblygu mentrau a digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar arferion tecstilau cynaliadwy. Ymhlith y themâu allweddol mae archwilio 'pwy wnaeth ein ffabrig' a 'pwy wnaeth ein dillad', gyda ffocws ar atgyweirio ac ailwneud tecstilau.

GWYDR SY'N GWTHIO FFINIAU Mae Stacey Poultney, artist ac ymarferydd gwydr sy'n gweithio yn adeilad Alex, wedi cael ei dewis i arddangos ei waith gwydr yn y 5ed Biennale Gwydr Rhyngwladol, a gynhelir yn yr Oriel Genedlaethol yn Sofia, Bwlgaria. Mae'r digwyddiad mawreddog hwn yn arddangos yr artistiaid gwydr cyfoes mwyaf arloesol a beiddgar o bob cwr o'r byd.

DATHLU AMRYWIAETH Dan arweiniad Doris Graf, yr artist enwog o'r Almaen, mae'r prosiect hwn yn gwahodd cyfranogwyr i gipio eu hargraffiadau o Abertawe yn greadigol trwy arlunio, gan gipio naws y ddinas fel y'i gwelir trwy ei phoblogaeth amrywiol.

GWOBR COLE & SON Dyfarnwyd £1,500 i fyfyrwraig Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Mini Sharma McLachlan, gan y brand addurniadau mewnol a phapur wal blaenllaw o Brydain, Cole & Son, yn nigwyddiad New Designers eleni. Yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ddyluniadau unigryw ac arloesol,

roedd y brand yn cydnabod Mini am ei sgiliau arlunio eithriadol, llyfrau brasluniau cywrian a chasgliad o batrymau deinamig, coeth.

LANSIO BRAND FFORDD O FYW Mae myfyrwyr Dylunio Graffeg yn dathlu lansiad ymgyrch gymdeithasol newydd ar gyfer Elsie & Marj, brand ffordd o fyw ac anrhegion sydd wedi'i wreiddio mewn treftadaeth deuluol ac adrodd straeon ystyrlon. Roedd y prosiect yn cynnwys 20 o fyfyrwyr yn mynd i'r afael â briff proffesiynol a osodwyd gan sylfaenydd y cwmni, Claire Gaffey. Ar ddiwedd y prosiect, dewiswyd gwaith y fyfyrwraig ail flwyddyn Svitlana Ulianych i lunio hunaniaeth weledol y brand.

ARCHIF WYDR Mae'n bleser gan PCYDDS gyhoeddi lansiad Archif Ar-lein Gwydr Lliw Abertawe, casgliad newydd ei ddigido y gellir ei bori o gannoedd o baneli gwydr lliw a grëwyd gan fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe dros y pum degawd diwethaf.

RHAGORIAETH BENSAERNÏOL

AI MEWN ADDYSG

MURLUN COED CADW Mae wal goncrit a oedd unwaith yn ddi-nod ar Fferm Brynau Coed Cadw yng Nghastell-nedd wedi cael ei thrawsnewid yn ddarn o gelf fywiog ac ysbrydoledig, diolch i Ellie Jones o BA Darlunio. Cododd y prosiect o ganlyniad i bartneriaeth greadigol rhwng Coed Cadw a Choleg Celf Abertawe.

YMWELIAD CYFNEWID TSIEINA Teithiodd 25 o staff a myfyrwyr i Tsieina ar gyfer pythefnos o gyfnewid diwylliannol ac addysgol a gynhaliwyd gan Brifysgol Undeb Beijing, partner PCYDDS ers tro. Roedd y daith yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o weithgareddau diwylliannol ac academaidd, gan gynnwys ymweliadau â safleoedd nodedig, gweithdai pwrpasol, sesiynau creadigol ymarferol a dosbarthiadau iaith.

Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Ysgol Pensaernïaeth ei Sioe Diwedd Blwyddyn hir-ddisgwyliedig, gan gadarnhau, unwaith eto, ei hymrwymiad i ddylunio, arloesi a thrylwyredd technegol. Yn sgil ehangu'r cwrs yn barhaus a chymuned fywiog o fyfyrwyr, mae Ysgol Pensaernïaeth Abertawe yn prysur ddod yn ganolfan ragoriaeth bensaernïol yng Nghymru.

#1 YN Y DU AM RAGOLYGON GYRFA What Uni Student Choice Awards 2026

Bydd PCYDDS yn cynnal Cynhadledd Gydweithredol Cymru: AI mewn Addysg 2025, digwyddiad ar-lein deuddydd sy'n dod ag arweinwyr addysg, technoleg a pholisi at ei gilydd i archwilio potensial trawsnewidiol Deallusrwydd Artiffisial. Bydd y gynhadledd hon yn cynnwys rhestr o gyfranwyr arbenigol o bob cwr o'r DU ac yn rhyngwladol.


AROLWG CENEDLAETHOL Y MYFYRWYR Enillodd PCYDDS gydnabyddiaeth ragorol unwaith eto yn nadansoddiad The Times o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant parhaus y Brifysgol ac yn adlewyrchu cryfder y profiad dysgu, y cymorth personol, a'r gymuned. Mae'r dadansoddiad yn defnyddio ymatebion gan dros 357,000 o israddedigion blwyddyn olaf ledled y DU ac yn defnyddio sgôr 'positifrwydd cyffredinol' gyson i gymharu sefydliadau.

GWOBR AM GYFRANIAD Mae Chloe Duggan, myfyriwr Darlunio yn ei hail flwyddyn, wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol ar ôl ennill Graphite Pencil mawr ei fri yn y gwobrau D&AD New Blood mawreddog, a gynhaliwyd yn stiwdios Protein yn Shoreditch, Llundain.

ANRHYDEDD I FORDEITHWYR Mae ffenestr gwydr lliw newydd drawiadol, a ddyluniwyd ac a grëwyd gan Christian Ryan AMPG, sy'n arlunydd ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, wedi'i gosod yn Cornerstone yng Nghaerdydd. Comisiynwyd y gwaith celf i goffáu canmlwyddiant yr elusen forwrol ryngwladol Stella Maris ac i anrhydeddu morwyr masnach Cymru a wasanaethodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

â Blossom Evans a Samantha McGrath, cynigiwyd iddi’r cyfle i arddangos ei gwaith yn Green Grads Manceinion yr hydref hwn.

ARDDANGOSFA ART IN BLOOM Arddangosodd Aimee Rayner ei gwaith yn yr arddangosfa agored Art in Bloom yn Oriel Gelf Liberation Brighton. Yr Oriel hon yw lle celf ystyriol o drawma cyntaf y DU, a'i bwriad yw cyfuno mynegiant artistig â chymorth iechyd meddwl.

100 MLYNEDD O EICON

CYNFAS CANOL DINAS Allwch chi ddim methu talentau creadigol Owen Rees, un o’n myfyrwyr MA, sy’n cael eu harddangos ar hyn o bryd yn nghanol dinas Abertawe ar fenter celf gyhoeddus 8 x 3 metr. Mae'r gwaith yn cael ei newid bob tymor, gyda gwahanol fyfyriwr yn ceisio herio ac ysbrydoli cynulleidfaoedd. Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos – The Moon and Us – yn cyfuno printio Risograph, collage a chine-collé.

ENILLWYR GWEITHREDU AR NEWID HINSAWDD

Ar gampws Dinefwr, cynhaliwyd arddangosfa o waith myfyrwyr a ddatblygwyd mewn ymateb i friff diwydiant byw gan Laura Ashley, y brand eiconig o Brydain, er anrhydedd i ganmlwyddiant eu sefydlwr. Ymwelodd tîm o Laura Ashley â Choleg Celf Abertawe i adolygu casgliadau’r myfyrwyr, gan roi cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith yn uniongyrchol i dimau dylunio a marchnata’r brand a derbyn adborth proffesiynol.

Enillodd myfyrwyr Pensaernïaeth y flwyddyn gyntaf y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ddylunio ryngwladol a osodwyd gan y Rhwydwaith Gweithredu ar Newid Hinsawdd Myfyrwyr. Cyflwynwyd 137 o geisiadau trawiadol o 11 o wledydd, ac roedd y cynnig buddugol - 'Tangled Roots' - yn rhagori ym marn y beirniaid mawreddog am ei geinder, ei hyblygrwydd, a'i neges bwerus.

Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnal arddangosfa sy'n dathlu artistiaeth, sgiliau ac arloesedd ei staff technegol ymroddedig. Mae'r arddangosfa unigryw hon yn amlygu doniau eithriadol unigolion sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi myfyrwyr a llunio amgylchedd creadigol y coleg.

SGANIWCH YMA. MAE CYMAINT MWY YN DIGWYDD.

RECORDIAU SY'N TRENDIO Parallel Lines (ish) Y staff Ffotograffiaeth yn gwisgo i fyny fel Blondie ar gyfer eu llun staff blynyddol.

SIOP RECORDIAU DEITHIOL '26

Bydd yn Ti. Bydd yn Greadigol. Mae gwaith clodforus Huw yn trawsnewid campws y brifysgol. Iwtopia Distopia Mae Ruth yn darlunio bregusrwydd bywyd mewn adeiladau sy'n orlawn.

ARDDANGOSFA LLYFR FFOTOGRAFFAU Cynhaliodd yr Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe 'Clawr Meddal', dathliad undydd o'r llyfr ffotograffau fel cyfrwng deinamig ar gyfer arfer ffotograffig cyfoes. Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, cynfyfyrwyr, staff a'r cyhoedd ynghyd i ddathlu arbrofi ffotograffig a chyfnewid creadigol rhyngwladol.

Y Rasiwr Awyr Awyren arbrofol a ddatblygwyd ar gyfer Red Bull Air Racing 2030.

GWOBRAU NEW DESIGNERS Mae myfyrwyr wedi ennill sawl gwobr a chymeradwyaeth yn New Designers, prif arddangosfa’r DU o dalent newydd ym maes dylunio. Enillodd Lauren Stokes Wobr Romo am Arloesi mewn Dylunio a Lliw. Hefyd, cafodd ei chymheiriaid ar ei chwrs, sef Sophie Drew, Sarah Davies, Blossom Evans a Samantha McGrath, gydnabyddiaeth sylweddol gan y diwydiant. Enillodd Sophie gymeradwyaeth ‘Laura Ashley Loves Your Work’ ac, ochr yn ochr

SIOE STAFF TECHNEGOL

London ExCeL Mon 06 October Tue 07 October

Manchester Central Tue 11 November Wed 12 November

'Benaeth' Gwaith buddugol wedi'i fodelu gan Jacinda Ardern mewn sioe ffasiwn fyd-eang. Aliwns wedi Glanio Traeth wedi’i drawsnewid yn waith celf er mwyn i aliwns allu glanio.

YMWADIAD: Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys a'r datganiadau a wneir yn y cyhoeddiad hwn yn deg ac yn gywir, a bydd y Brifysgol yn ymdrechu'n rhesymol i ddarparu rhaglenni a gwasanaethau eraill yn unol â'r disgrifiadau a ddarparwyd. Mae'r Brifysgol, fodd bynnag, yn cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys rhaglenni, gofynion mynediad a dulliau darparu, ac i ddileu, uno neu gyfuno rhaglenni, cyn ac ar ôl derbyn myfyriwr i'r Brifysgol, os bydd y Brifysgol yn ystyried yn rhesymol bod y camau hyn yn angenrheidiol. Fe wnawn ein gorau bob amser i wneud cyn lleied o newidiadau â phosibl ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarpar fyfyrwyr, fel y bo'n briodol.


SGANIWCH YMA

MAE CROESO I CHI GYSYLLTU Â NI BYDDEM WRTH EIN BODD YN CLYWED GENNYCH CHI

ANFONWCH E-BOST ATOM NI YN: ARTANDDESIGN@PCYDDS.AC.UK

EDRYCHWCH AR EIN GWEFAN:

WWW.UWTSD.AC.UK/CY/COLEG-CELF-ABERTAWE

CHWILIWCH AMDANOM NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL:

FACEBOOK: SWANSEACOLLEGEOFART INSTAGRAM: SWANSEACOLLEGEOFART_UWTSD


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
4Degrees Coleg Celf Abertawe PCYDDS by University of Wales Trinity Saint David - Issuu