1 minute read

CÔR CYMRY GOGLEDD AMERICA / NORTH AMERICAN WELSH CHOIR

Nos Fercher 5 Gorffennaf | Wednesday 5 July

7.30pm (Drysau | Doors 6.30pm)

Advertisement

£15

Mae’n bleser gennym groesawu Cor Cymry Gogledd America i berfformio yng Nghastell Aberteifi fel rhan o’i daith ben-blwydd yn 25 oed o gwmpas Cymru; taith arwyddocaol gyntaf y côr o gwmpas Cymru ers 2002. Ar y daith bydd dros 60 o gantorion talentog Côr Cymry o dros 17 o daleithiau America a 3 talaith yng Nghanada, pob un ohonynt yn ddisgynyddion mewnfudwyr o Gymru, newydd-ddyfodiaid, alltudion, ac eraill sy’n teimlo cysylltiad i gerddoriaeth a chymuned Côr Cymry Gogledd America. Ers 1999, mae’r côr wedi perfformio ledled y byd, o Efrog Newydd i Seland Newydd, ac wedi rhyddhau sawl recordiad, gan gynnwys Lifting the Sky, perfformiad pen-blwydd byw yn Trinity Church, Wall Street, Efrog Newydd, NY. Maen nhw wedi perfformio fel rhan o Gyngherddau Cofio 9/11 (Trinity Church, Wall Street, Efrog Newydd ac ar safle’r hyn a fyddai’n dod yn Ardd Goffa Brydeinig), wedi cynnal Cyngerdd yn y Smithsonian yn Washington, DC fel rhan o raglen y Sefydliad yn dathlu Iwerddon a Chymru; ac wedi perfformio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dan lywyddiaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan.

We are delighted to welcome Cor Cymry Gogledd America to perform at Cardigan Castle as part of its 25th anniversary tour of Wales; their first significant tour of Wales since 2002. On tour will be over 60 talented Côr Cymry choristers from over 17 American states & 3 Canadian provinces, all of whom are the descendants of Welsh immigrants, newer arrivals, expatriates, and others who feel connected to the music and community of Côr Cymry Gogledd America. Since 1999 the choir has performed the world over, from New York to New Zealand, and has released several recordings, including Lifting the Sky, a live anniversary performance at Trinity Church, Wall Street, New York, NY. They have performed as part of the 9/11 Remembrance Concerts (Trinity Church, Wall Street, New York and at the site of what would become the British Memorial Garden), given a concert at the Smithsonian in Washington, DC as part of the Institution’s celebration of Ireland and Wales; and have performed at the National Assembly of Wales hosted by then First Minister, Rhodri Morgan.

This article is from: