ADRODDIAD ARIANNOL
![]()
Ein Pwrpas
Rydym yn cefnogi pobl i gael dyfodol mwy diogel a mwy disglair.
Ein Cenhadaeth
Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb gartref lle maen nhw’n gallu ffynnu; ond nid yw'r byd yn ddelfrydol, a dyna pam rydym ni yma i gefnogi pobl i greu dyfodol mwy diogel a mwy disglair fel y gallan nhw fyw'n dda.
Ein Gwerthoedd
Rydym yn trin pawb gyda charedigrwydd, fel unigolion, gan gynnig mynediad cyfartal i gyfleoedd i bawb. Rydym yn ymfalchïo mewn dull creadigol, hyblyg y gall pobl ddibynnu arno. Ac wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio ysbrydoli'r rhai o'n cwmpas a rhannu ein harferion ag eraill i'w helpu i greu canlyniadau cadarnhaol, hefyd.
Hyblyg
mae amgylchiadau pawb yn wahanol, felly rydym yn ymwneud â nhw’n wahanol hefyd.
Teg
Mae’n bleser gennym gyflwyno 34ain adroddiad blynyddol Stori (Hafan Cymru gynt) ar gyfer 2022-23. Pwy fyddai wedi meddwl, yn syth ar ôl Covid, y byddem yn cael ein taro gan her fawr arall, sef yr argyfwng costau byw?
Roedd yr effaith a gafodd hyn ar ein staff a'r bobl yr ydym yn eu cefnogi yn nodwedd fawr o flwyddyn a fu’n heriol ac yn gyffrous i ni. Fe lwyddom i lywio ein ffordd drwyddi ond, fel y gallwch
ddychmygu, roedd yn rhaid i ni - fel eraill - jyglo cyllid!
Roeddem yn edrych yn barhaus ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau fel y gallem ymateb i anghenion
pobl mewn ffordd GLYFAR. Gyda chymeradwyaeth y timau comisiynu, gwnaethom ail-lunio rhai o'n contractau i sicrhau ein
bod yn parhau i gyflawni, gan ddiwallu anghenion ein
cleientiaid a'r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt.
Rydym yn ddiolchgar iawn am ein staff ymroddedig, sy'n parhau i sicrhau ein bod yn bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a'n rhanddeiliaid, gan gadw'r bobl yr ydym yn eu cefnogi wrth galon popeth a wnawn. Llwyddodd ein staff a'n rheolwyr i gadw popeth i redeg drwy amseroedd anodd a heriol yr argyfwng costau byw ac mae hyn wedi ein gwneud yn hynod falch oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud i fywydau pobl.
Mae ein hadroddiad blynyddol yn rhoi llawer o enghreifftiau o'r gwaith gwych yr ydym yn ei gyflawni a'r llwyddiannau yr ydym wedi'u cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Mae hefyd yn crybwyll sut y byddwn yn gwthio'r rhain ymhellach dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Rydym wedi rhannu cipolwg bach isod o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ar y cynnydd a wnaethom mewn rhai meysydd allweddol:
Comisiynodd y Bwrdd Adolygiad Llywodraethu llawn o'r Cod
Llywodraethiant. Yna aethom ati i greu cynllun gweithredu i sicrhau ein bod
yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar waith a gweithredu ar unrhyw argymhellion o'r adolygiad. Mae llywodraethiant da yn flaenoriaeth i'n Bwrdd ac i'n busnes, felly mae'n cael ei drafod yn rheolaidd ar draws ein holl dimau a chan y Bwrdd Rheoli.
yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar waith a gweithredu ar unrhyw argymhellion o'r adolygiad. Mae llywodraethiant da yn flaenoriaeth i'n Bwrdd ac i'n busnes, felly mae'n cael ei drafod yn rheolaidd ar draws ein holl dimau a chan y Bwrdd Rheoli.
Gwnaethom barhau i ganolbwyntio ar iechyd a llesiant ein staff. Gwnaethom ddarparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i'w paratoi gyda'r technegau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth diweddaraf i'w cadw'n ddiogel wrth gefnogi hyd yn oed mwy o bobl sydd wedi wynebu trawma.
Gwnaethom gyflwyno cronfa ddata newydd ar gyfer rheoli data ein cleientiaid. Dyluniwyd a chyflwynwyd hyn ar y cyd â'n gweithwyr ac fe'i harweiniwyd gan ein partner strategol Bro Myrddin sy'n rheoli ein TGCh i gyd.
Ffurfiwyd perthynas waith newydd gyda Case UK gan ennill contract 'Gwasanaeth Di-waith' gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth cyflogadwyedd yng Nghwm Taf. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar bobl ag anghenion iechyd meddwl ac yn cynnig cymorth i fynd yn ôl i'r gwaith.
Rydym yn parhau ein perthynas waith agos gyda Chymdeithas Tai Bro Myrddin ar wasanaethau TGCh ar y cyd. Mae hyn wedi bod o fudd mawr i’r ddau sefydliad.
Rydym wedi cryfhau ein bwrdd gyda phenodiadau newydd i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gael ein llywodraethu’n dda.
Y llynedd hefyd aethom ati i ail-frandio Hafan Cymru i Stori. Ar ôl siarad â'r bobl yr ydym yn eu cefnogi, ein staff, a rhanddeiliaid allanol, roeddem yn teimlo nad oedd yr enw Hafan Cymru bellach yn adlewyrchu ein sefydliad amrywiol a deinamig. Mae ein henw newydd, 'Stori', yn cynrychioli ein bywiogrwydd a'n hegni yn well. Bydd yn ein helpu i gefnogi mwy o bobl i 'ddechrau pennod newydd yn eu bywydau'.
Mae ein gwaith i gael y gwerth gorau o'n hasedau yn parhau. Mae arolwg cyflwr stoc newydd ar y gweill, ac mae'n cynnwys adolygu eiddo am leithder a llwydni. Mae cynyddu ein stoc dai yn flaenoriaeth ac rydym yn gweithio gyda'n Bwrdd ar strategaeth i gyflawni hyn.
Yn ystod 2023-24 byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd newydd o gyflawni ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd. Bydd y rhain yn cynnwys contractau cymorth tai a cheisiadau posibl gyda'r Loteri Fawr, Comic Relief, a’r Moondance Foundation. Byddwn yn tyfu gwaith ein tîm Gwasanaethau Masnachol sy'n darparu ystod o raglenni hyfforddiant arbenigol i'r sector cyhoeddus a phreifat.
Mae ein cynllun busnes pum mlynedd yn rhoi rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein Cenhadaeth: "Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb gartref lle maen nhw’n gallu ffynnu; ond nid yw'r byd yn ddelfrydol, a dyna pam rydym ni yma i gefnogi pobl i greu dyfodol mwy diogel a mwy disglair fel y gallan nhw fyw'n dda." Gallwch ddod o hyd i'n cynllun busnes ar ein gwefan www.storicymru.org.uk
Er ein bod wedi gwneud llawer iawn o gynnydd yn ystod y flwyddyn, rydym yn ymwybodol iawn o effeithiau hirdymor yr argyfwng costau byw ac effeithiau parhaus rhyfel Wcráin, sy'n parhau i greu mwy o gostau cyfleustodau, bwyd a thanwydd (i enwi dim ond rhai). Rydym yn disgwyl y bydd y pwysau hwn yn arwain at newidiadau i gynlluniau hirdymor ar ran y llywodraeth ac o bosibl toriadau yng ngwariant y llywodraeth. Fodd bynnag, diolch i'n gwydnwch ac ymrwymiad ein cydweithwyr, rydym wedi gallu adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol, hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae hyn yn rhoi'r hyder sydd ei angen arnom i wynebu pa bynnag heriau a ddaw yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn olaf, ar ran y Bwrdd Rheoli a'r Tîm Gweithredol, rydym yn diolch o waelod calon i gydweithwyr ar draws y busnes am eu teyrngarwch, eu hymrwymiad a'u gwydnwch; i'r comisiynwyr/cyllidwyr am eu cefnogaeth a'u harweiniad; i'n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus; ac i'r tîm Rheoleiddio Tai am eu holl ganllawiau parhaus drwy gydol y flwyddyn.
Siân Morgan, Prif Swyddog Gweithredol
Hugh Irwin, Cadeirydd
Ein Hamcanion: Tai Diogel
Twf Cynaliadwy
Brandio
Denu a Chadw Pobl
Trawsnewidiad Digidol.
Mae ein DNA wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn rydym yn sefydliad llawer mwy amrywiol. Rydym wedi ehangu ein gwasanaethau i gefnogi mwy o bobl. Mae ein Nodau Strategol yn adlewyrchu'r newid hwn ac yn amlinellu’r modd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau rhwng 2022-2027.
Er ein bod yn dal i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, rydym hefyd yn gweithio gyda phobl sy'n profi materion fel unigedd, camddefnyddio sylweddau a digartrefedd. Rydym yn cefnogi teuluoedd a phobl ifanc, dynion, menywod a phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Rydym yn eu helpu i fyw'n dda, bod yn ddiogel, gwella eu cyflogadwyedd, ac ailysgrifennu stori eu bywydau.
Daeth y rhain yn sail i'n nodau strategol ar gyfer 2022-2027.
Rydym eisiau cadw ein contractau craidd presennol, ennill busnes newydd, a datblygu cynnig masnachol cystadleuol. Mae hyn yn strategol bwysig gan ei fod yn cefnogi ein huchelgais i dyfu a darparu gwasanaeth cynaliadwy ledled Cymru.
Sut wnaethom ni yn y flwyddyn ddiwethaf:
Gwnaethom barhau i ddarparu 17 Grant Cymorth Tai (HSG) a Chontractau Teuluoedd yn Gyntaf, gan gynnwys cefnogaeth LHDTC+ mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.
Gwnaethom lwyddo i lansio Cynllun Llety Cymorth i Bobl Ifanc HSG newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Gwnaethom barhau i gyflawni gwaith gwych yn gofalu am lesiant plant a phobl ifanc yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot trwy gyllid gan Waterloo Foundation a Western Bay VAWDASV.
Rydym wedi datblygu partneriaeth newydd gydag Adferiad sy'n cyfuno cryfderau’r ddau sefydliad i ddarparu tai a chymorth i oroeswyr cam-drin domestig ag anghenion cymhleth yn Sir Conwy.
Mae ein cefnogaeth i blant a adroddwyd gan Operation Encompass yn parhau ar draws ysgolion yn rhanbarth Dyfed Powys.
Rydym wedi sicrhau amrywiaeth o grantiau i helpu ein tenantiaid a'n cleientiaid sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig gyda'u hanghenion tai a digidol. Mae hyn yn eu helpu i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol.
Gwnaethom barhau i ragori ar ddisgwyliad
Llywodraeth Cymru o'r prosiect Sbectrwm, gan gyrraedd 83% yn rhagor o ddisgyblion
na'r disgwyl ledled Cymru.
Parhaodd Siediau Dynion Cymru i helpu dynion sy'n wynebu unigrwydd ac unigedd i wneud ffrindiau newydd, ffurfio cysylltiadau newydd, ac integreiddio i'r gymuned, gan agor 10 'sied' newydd.
Parhaodd ein cynnig Hyfforddiant i dyfu, gan gyrraedd 15% yn fwy o ymarferwyr/dysgwyr
na’r flwyddyn flaenorol.Rydym wedi datblygu cynigion hyfforddi masnachol
newydd, gan gynnwys Cefnogi Tenantiaid
Niwroamrywiol, ac Iechyd Meddwl a Thai.
Llwyddom i gyflawni blwyddyn gyntaf
Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
Llywodraeth Cymru, gan gyflawni cyfradd
boddhad o 91% gan gyfranogwyr a chyrraedd pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Roedd ein prosiectau cyflogadwyedd yn
arbennig o lwyddiannus, gan ddod yn rhan o farchnad newydd ynghyd â phartner
arweiniol, Case UK, i ddarparu Gwasanaeth
Di-waith Llywodraeth Cymru ar draws
rhanbarth Cwm Taf
Gwnaethon ennill 12 o gontractau newydd a ariennir gan DWP i gefnogi pobl i oresgyn
rhwystrau a symud yn nes at waith.
Rydym wedi esblygu, ac nid oedd ein brand blaenorol yn adlewyrchu ein DNA mwyach. Erbyn hyn mae gennym frand newydd ffres sy'n golygu bod pawb sy'n ymwneud â ni, o'r bobl yr ydym yn eu cefnogi i aelodau'r tîm, rhanddeiliaid a chomisiynwyr, yn deall pwy ydym ni a beth rydym yn ei gynnig.
Sut wnaethom ni yn y flwyddyn ddiwethaf:
Gwnaethom greu brand newydd. Mae wedi'i ysbrydoli gan y ffaith ein bod yn grymuso pobl i newid straeon eu bywyd yn rhai mwy disglair a chadarnhaol:
·Trwy Gymorth Tai
·Trwy Gymorth Lle Bo’r Angen
·Trwy Hyfforddiant
·Trwy Ysgolion
·Trwy Wasanaethau Cymorth Penodol (Cam-drin Domestig/Trais Domestig, Iechyd Meddwl, Cyflogaeth, Plant a Phobl Ifanc, LHDTC+, Camddefnyddio Sylweddau)
Ar 1 Mawrth 2023 newidiodd Hafan Cymru ei frand a'i enw cofrestredig i Stori
Cymru, gan fasnachu fel Stori.
.in pobl yw ein hased fwyaf, felly mae denu a chadw pobl sydd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau cywir yn hanfodol i'n llwyddiant a'n twf yn y dyfodol.
Sut wnaethom ni yn y flwyddyn ddiwethaf:
Rhoesom ddyfarniadau cyflog i wobrwyo ymroddiad ein pobl a'u cefnogi drwy'r argyfwng costau byw.
·Gwnaethom recriwtio 57 o weithwyr newydd i ymuno â'n tîm anhygoel.
Gwellodd ein cyfradd briodoli o 9% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (sylwer: heb gynnwys y rhai sydd ar gontractau tymor penodol a TUPE yn sgil colli contract).
Gwnaethom wella ein porth recriwtio, gan ei gwneud yn haws i ymgeiswyr wneud cais a hurio rheolwyr i brosesu eu ceisiadau
Fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn lle gwych i weithio ynddo, rydym wedi creu Grwpiau Rhwydwaith Pobl ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Ymgysylltu, Llesiant, Iechyd a Diogelwch a'r Iaith Gymraeg.
Cafwyd cynnydd o 9% yn ein diwrnodau hyfforddi yn sgil ein hymrwymiad parhaus i ddysgu a datblygu ein gweithwyr.
Mae hon yn her graidd gan ei bod yn effeithio ar ein gallu i weithredu a chystadlu.
Mae gan bron pob rhan o'r busnes gyfle i ddod yn fwy effeithiol ac effeithlon trwy wneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol.
Mae hefyd yn cael dylanwad sylweddol ar ein gallu i greu dyfodol cynaliadwy.
Sut wnaethom ni yn y flwyddyn ddiwethaf:
Rydym wedi canolbwyntio ar ein defnydd digidol a chafwyd cynnydd cyflym yn y ffordd yr ydym yn defnyddio technolegau i weithio'n fwy clyfar.
Gwnaethom wella ein porth Recriwtio, gan ei gwneud yn haws i ymgeiswyr wneud cais a hurio rheolwyr i brosesu eu ceisiadau.
Mae'r Porth Staff wedi cael ei adnewyddu ac wedi dod yn Hwb Gwybodaeth lle gall pobl ddod o hyd i wybodaeth bwysig a chydnabod cyfraniad ei gilydd.
Rydym wedi datblygu 'Storibook' - ein system rheoli achosion ein hunain, gan wneud gwybodaeth ein tenantiaid a'n cleientiaid yn fwy diogel.
Mae ein timau wedi dechrau symud o'r System Bwrdd Gwaith o Bell, gan wneud gwaith yn fwy effeithlon.
Ein stoc tai yw un o'r adnoddau pwysicaf ar gyfer darparu gwasanaethau, a bydd hynny'n parhau i fod yn wir dros y pum mlynedd nesaf. Rhan allweddol o'n cynllun twf yw ein hymgyrch i wella ein stoc bresennol a chynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau.
Sut wnaethom ni yn y flwyddyn ddiwethaf:
Gwnaethom sicrhau bod ein timau Rheoli Tai a Gweithredu yn gweithio'n agosach nag erioed i ddod â'r cymorth, y cyngor a'r arweiniad gorau sydd ar gael i'n tenantiaid.
Gwnaethom gyflawni gostyngiad o 42% mewn ôl-ddyledion rhent trwy barhau i wella'r ffordd rydym yn eiriol dros ein Tenantiaid, ac yn cyfathrebu â nhw.
Pan ddaeth y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru newydd i rym, gwnaethom roi cefnogaeth barhaus i'n tenantiaid i sicrhau eu bod yn deall y newidiadau a beth, os unrhyw beth, y gallai hynny ei olygu iddyn nhw. Gwnaethom ddosbarthu 100% o'r contractau newydd i denantiaid cyn y dyddiad cau ar 1 Mehefin, 2023.
Yn ogystal â datblygu byngalo yn y Drenewydd yn flaenorol, a gwblhawyd yn 2021, dechreuom weithio ar ail fyngalo ar y safle i ymestyn yr hyn y gallwn ei gynnig yn yr ardal.
Gwnaethom brynu eiddo pum ystafell wely yng nghanol Caerfyrddin i ehangu Prosiect Pobl Ifanc Caerfyrddin.
Partnerodd Siediau Dynion Cymru gydag Opera Dinas Abertawe i greu opera newydd o’r enw “Shoulder to Shoulder” - archwiliad grymus, dyrchafol o ddynion, yn ogystal â bod yn stori ddoniol iawn hefyd.
Rydym wedi darparu gwasanaeth IDVA Dyfed Powys ers 2018 a daethpwyd â’r cyflenwi contractau i ben 31 Mawrth 2023. Canmolodd Swyddogion Comisiynu ansawdd uchel y gwasanaeth a ddarparwyd gennym, a'r refeniw ychwanegol a sicrhawyd gennym yn ystod oes y contract, a oedd yn cynyddu capasiti ac wedi ein helpu i ateb y galw.
Gwnaethom gefnogi 1023 o bobl drwy’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn 59% o’r ddarpariaeth gyffredinol yn Rhanbarth Dyfed Powys ac yn gynnydd o 2% ers y flwyddyn flaenorol.
“Dwi ddim yn siŵr a ydi geiriau'n ddigon i ddangos pa mor ddiolchgar ydw i chi am fy helpu i yn ystod y naw mis diwethaf. Heb eich help chi, fyddwn i ddim lle'r ydw i rŵan.
Rydych chi wedi mynd y tu hwnt i’r galw i fy nghefnogi, doedd dim byd byth yn ormod o drafferth.”
Defnyddiwr Gwasanaeth IDVA
"Mae'r gefnogaeth wedi fy helpu drwy fy amser tywyllaf. Rwyf wedi cael
cefnogaeth i ailadeiladu fy mherthynas gyda fy mherthynas gyda fi fy hun, i gadw fy hun a fy mhlant yn ddiogel, a throi fy mywyd o gwmpas. Heb y gefnogaeth, dwi ddim yn gwybod lle
fyddwn i heddiw."
Cleient Cefnogaeth Symudol
"Mae rhywun yno bob amser i'ch cefnogi pan fo angen."
Tenant Person Ifanc
"Rwy'n credu bod y gefnogaeth a roddwyd
wedi fy helpu i gael hyder i roi gwybod am ddigwyddiadau, wedi rhoi'r gefnogaeth emosiynol i mi dyfu'n gryfach a symud ymlaen gyda fy mywyd."
Cleient Trais Domestig Gwrywaidd
" Roedd y gefnogaeth a gefais wrth aros yn fy llety yn anhygoel. Pe bawn i angen
rhywbeth, roedd
rhywun bob amser ar gael. Roedd
atgyweiriadau bob amser yn cael eu gwneud yn gyflym.
Gwasanaeth ardderchog.”
Tenant
"Rwy’n gallu delio â
sefyllfaoedd bob dydd yn well nag oeddwn i cyn i mi symud i mewn i lety Stori, mae hyn yn
cynnwys biliau, iechyd
meddwl, anghenion anabledd, dod i delerau
â'r hyn sydd wedi
digwydd i mi ac wedi
rhoi llawer mwy o hyder i mi a llai o
hunangasineb. Rwy'n
berson gwell nawr nag
oeddwn i pan symudais i mewn."
Tenant
Gwnaethom barhau i ragori wrth ddarparu a chynnal safon uchel o lety.
% o eiddo/swyddfeydd yn gyfredol â phrofion larwm tân wythnosol
% o Legionellaeiddo/swyddfeydd gydag asesiad risg dilys (cyfanswm allan o 104)
100%
% o brofion diogelwch nwy wedi’u cwblhau
100% 99%
100%
%oatgyweiriadau bryswedi’ucwblhau ofewnyramserlen darged
(hy mynychwydofewnhydat4awra’ugwneudyn ddiogela’ucwblhauofewn5diwrnodgwaith)
100% 100%
% of eiddo/swyddfeydd yn gyfredol â gwiriadau goleuadau brys misol
% arolygon asbestos wedi’u cwblhau
% o eiddo/swyddfeydd gydag asesiad risg tân dilys (cyfanswm allan o 15)
% o Brofion Trydanol Sefydlog wedi’u
100% 100% 21
% o eiddo/swyddfeydd yn gyfredol â driliau larwm tân bob 6 mis
100% 100%
% o eiddo gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) cyfredol
99% 87%
% o gydymffurfio â SATC (wrth aros am arolwg cyflwr stoc newydd Gorffennaf 2023)
Mae ein cynnig o hyfforddiant yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn.
Gwnaethom barhau i gefnogi ymarferwyr yn y sector trwy ddatblygu cyrsiau a rhaglenni newydd a chyrraedd 15% yn rhagor o gwsmeriaid o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Gwnaethom lwyddo i ddarparu blwyddyn gyntaf ein cyrsiau fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, gyda 91% o'r cyfranogwyr yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus i gefnogi unigolion sy'n profi camdriniaeth yn sgil yr hyfforddiant. Cyrhaeddodd y rhaglen hon bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Gwnaethom barhau i ddarparu safonau hyfforddi uchel, gan sicrhau adborth cadarnhaol a chanlyniadau mesuradwy:
3996
Individuals trained
22
o’r hyfforddiant a ddarparwyd wedi’i seilio ar sesiynau VAWDASV
79% 98% 554
o ddysgwyr gyda gwell gwybodaeth yn sgil
hyfforddiant
o ddysgwyr wedi cofrestru ar ein cyrsiau arbenigol Fframwaith Hyfforddiant
Cenedlaethol. Dywedodd 97% fod ganddynt well gwybodaeth Cadarnhaodd 91% eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i ddelio gyda datgeliadau o gamdriniaeth
Roedd ein prosiectau cyflogadwyedd yn arbennig o lwyddiannus y llynedd. Gwnaethom ymuno â marchnad newydd ynghyd â phartner arweiniol, Case UK, i ddarparu Gwasanaeth Di-waith Llywodraeth Cymru ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.
Gwnaethom ennill 12 contract newydd a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gefnogi cleientiaid i oresgyn rhwystrau a symud yn nes at waith.
494
Pobl a gefnogwyd drwy ein
gwasanaethau cyflogadwyedd
12
Contractau wedi’u cyflenwi
82%
o gwsmeriaid wedi cyflawni eu nod
10
Deilliant Swydd
“Fe wnaeth fy nghleient gysylltu â mi i ddiolch i mi am wneud yr atgyfeiriad at Stori. Dywedodd bod ei gweithiwr cymorth cyflogaeth wedi bod yn hollol anhygoel, mae'r gefnogaeth wedi bod yn fwy defnyddiol nag unrhyw beth arall y mae wedi'i dderbyn o'r blaen. Byddai'n ei argymell i unrhyw un.”
Anogwr Gwaith DWP 24
Mae ein Prosiect Sbectrwm yn
gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, gan addysgu plant am gydberthynas iach. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion i helpu eu dealltwriaeth o beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn a chodi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
39,275
450 o Blant a Phobl Ifanc
o Oedolion mewn Hyfforddiant Staff
2,934
o Oedolion mewn Sesiynau Disgyblion
Men's Sheds Cymru fu'r fenter Siediau Dynion mwyaf llwyddiannus a dyfodd gyflymaf yn y byd, fel y cydnabuwyd gan yr Athro Barry Goulding o Awstralia (lle cychwynnodd Siediau Dynion) yn 2021. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae MSC wedi gweithio gyda’r UK Men’s Sheds Association (UKMSA) i hwyluso'r broses o drosglwyddo i gartref newydd. O 1 Mehefin 2023, symudodd MSC i'w gartref newydd – UKMSA.
Siediau Gweithredol 10 Siediau Newydd
Rydym yn falch iawn o bopeth y mae prosiect Siediau Dynion Cymru wedi’i gyflawni ac yn credu y bydd y prosiect yn dal i ffynnu yn y dyfodol.
CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A
CHYNHWYSIANT
Mae r data a gyflwynir ar gyfer pob grŵp yn seiliedig ar:
Cipiwyd data Cleientiaid 31 Mawrth 2023 ac mae’n cynnwys data sydd gael am bob tenant, cleientiaid Teuluoedd yn Gyntaf a Grant Cymorth Tai.
Mae data’r Bwrdd yn seiliedig ar Adroddiad y Bwrdd ar Amrywiaeth a gwblhawyd ar 30 Medi 2022.
Mae data’r Gweithwyr (staff) yn seiliedig ar wybodaeth bersonol a gedwir yn System Adnoddau Dynol Cascade 31 Mawrth 2023.
Mae data Cymru yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021
Mae proffil ein gweithwyr ar gyfer y grŵp oedran 16-29 ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, ond mae ein proffil yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer grwpiau oedran 30-44 a 45-64.
Mae ein grwpiau cleientiaid yn perthyn yn bennaf i’r grwpiau oedran 16-29 a 30-44, gan adlewyrchu'r contractau yr ydym yn eu cyflenwi.
Mae aelodau ein bwrdd yn bennaf rhwng y grwpiau oedran 45-64 a 65+.
Mae proffil ein gweithwyr oddeutu 5% yn llai na chyfartaledd Cymru o ran pobl sy'n ystyried bod ganddynt anabledd/cyflwr iechyd cyfyngol.
Fodd bynnag, mae ein grwpiau cleientiaid 2% yn uwch na chyfartaledd Cymru, ac maent yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru o ran peidio ag ystyried eu hunain i fod ag anabledd/cyflwr iechyd cyfyngol. Mae'n werth nodi na gafwyd ymateb gan nifer uchel o gleientiaid.
Mae aelodau ein bwrdd i gyd yn ystyried nad oes ganddynt anabledd/cyflwr iechyd cyfyngol.
"Fy hoff beth am weithio i Stori yw eich bod chi'n dysgu
rhywbeth newydd bob dydd."
Gweithiwr Cymorth Stori
Mae ein proffiliau ar draws pob
grŵp yn debyg i, os nad yr un peth â
chyfartaledd Cymru o ran
ethnigrwydd, ac eithrio ein grŵp
cleientiaid, sydd 17% yn llai na chyfartaledd Cymru o ran datgan eu
hethn
Mae aeloda na c datga yr un adeg
2% a llaw a yn llai bynna o'n cw
Mae p union
Cymru yn u gened gweith
Prydei Ogled ein bw
92.3% Mae cyfart
ein g
ddang ymate
cwest
Mae proffil ein gweithwyr, grwpiau cleientiaid ac aelodaeth ein bwrdd i gyd yn uwch na chyfartaledd Cymru o ran datgan dim crefydd.
Er nad yw hyn yn un o Nodweddion
Gwarchodedig y Ddeddf
Cydraddoldeb, rydym wedi cynnwys yr Iaith Gymraeg fel categori yn yr adroddiad hwn i adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yr un mor ffafriol â'r Saesneg yn Stori.
Er yn is na chyfartaledd Cymru, mae'n ymddangos bod cyfran debyg o'r di-Gymraeg yn ngrwpiau’r gweithwyr, cleientiaid a'r bwrdd.
Mae gan aelodau ein bwrdd ganran sylweddol uwch o bobl sy'n gallu 'siarad,' a 'siarad, darllen, ysgrifennu' Cymraeg o'i gymharu â chyfartaledd Cymru.
(Ni fydd y cyfansymiau yn hafal i 100% gan y gall pobl ymddangos mewn mwy nag un categori)
"Y peth gorau am weithio i Stori yw bod yr amgylchedd yn gynhwysol a phawb yn ceisio gweithio tuag at yr un nod.”
-Gweithiwr Cymorth Stori
bolisïau busnes
Darparwyd 33 o Gyrsiau
Hyfforddiant Craidd a fynychwyd
gan 408 o bobl (sylwer: mynychodd
rhai fwy nag 1 cwrs hyfforddiant yn ystod y flwyddyn)
Cafodd 45 o bobl Hyfforddiant
Diogelwch Tân
Cofnodwyd 6 o ‘Achosion, Damweiniau a Damweiniau Fu Bron
â Digwydd’, sydd yn welliant o 50%
ers 2021-22
Cwblhawyd 1673 o Asesiadau Risg
Dynamig
Cydymfurffio â Chod Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru
Gosododd Cartrefi Cymunedol Cymru yr egwyddorion a’r argymhellion ar gyfer llywodraethiant da. Rydym yn gweld y rhain fel offeryn ar gyfer gwella'n barhaus, gan ein helpu i gyflawni'r safonau uchaf posibl. Bob blwyddyn, mae ein Bwrdd yn mesur ac yn adfyfyrio ar ein cydymffurfiaeth yn erbyn y saith egwyddor a nodir yn y cod.
Cytunodd y Bwrdd fod Stori wedi cydymffurfio'n llwyddiannus â'r cod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'i fod wedi cyflawni amrywiaeth o welliannau ers 2021/22.
Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg
Cynhelir o leiaf pedwar cyfarfod y flwyddyn, a fynychir gan Swyddogion
Gweithredol ac Archwilwyr Stori. Rôl y pwyllgor hwn yw bod yn annibynnol.
Mae'n ystyried ac yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd ynglŷn â'n rheolaethau
mewnol. Mae'n cymryd trosolwg o'n cyllid ac yn ystyried gwerth am arian yn
ogystal ag uniondeb. Mae ei weithrediad yn dilyn y Cod Ymarfer Archwilio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r staff wedi gwerthfawrogi fy marn ac wedi cynnig safbwyntiau a gwybodaeth amgen. Maen nhw wedi ystyried amgylchiadau, rhoi cymorth a sicrwydd yn ôl yr angen.”
Pwyllgor Cyflogaeth a Thâl
Cynhelir dau gyfarfod y flwyddyn, a fynychir gan Swyddogion Gweithredol. Rôl y pwyllgor hwn yw ystyried materion y gweithlu ym meysydd cyflogaeth, dysgu a datblygu.
Pwyllgor Llywodraethiant a Risg
Cynhelir dau gyfarfod y flwyddyn, a fynychir gan Swyddogion Gweithredol. Rôl y pwyllgor hwn yw ystyried pob mater sy’n ymwneud â llywodraethiant Stori.
Mae hyn yn cynnwys y modd y mae Cod Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru yn cael ei weithredu a’i fonitro.
Recriwtio aelodau’r bwrdd
Mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol am recriwtio a dethol aelodau, gyda chefnogaeth y Prif Swyddog Gweithredol a'r swyddogion yn ôl yr angen. Yn y pen draw, mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol i'n rhanddeiliaid, preswylwyr, cyllidwyr, gweithwyr, awdurdod lleol, y gymuned ehangach a darpar gwsmeriaid, yn ogystal â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a Llywodraeth Cymru. Rhaid i aelodau weithio gyda'i gilydd yn adeiladol i sicrhau eu bod yn gweithredu fel "gwarcheidwaid" ein cenhadaeth a'n gwerthoedd. Mae'r Bwrdd yn gweithio i adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu o ran amrywiaeth, gan gynnwys oedran, rhywedd a grwpiau lleiafrifol. Caiff aelodau eu recriwtio yn bennaf ar gryfder eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r meysydd canlynol: cyfreithiol, busnes, cymunedau, ariannol, llywodraethiant, technegol, tai a'r sector cyhoeddus, ac Adnoddau Dynol.
Rheoli Risg
Rydym wedi mabwysiadu strategaeth rheoli risg sy'n golygu y gallwn gyflawni amcanion yn y ffordd orau, fwyaf effeithlon, yn seiliedig ar:
dull cyffredin, strwythuredig a phenodol o reoli risg
ymgorffori rheoli risg yn ein diwylliant a'n rheolaeth o ddydd i ddydd
rheoli risg a defnyddio cyfleoedd i gyflawni ein hamcanion
diffiniad clir o archwaeth risg ein Bwrdd
dull cadarn a chyson o reoli risgiau strategol a gweithredol
Mae dull cymesur stori o reoli risg yn annog rhywfaint o gymryd risg o fewn archwaeth risg diffiniedig y Bwrdd, gan ganiatáu i'r Gymdeithas elwa o gyfleoedd. Pe na bai unrhyw risgiau yn cael eu cymryd, efallai y byddem yn colli cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd arloesol.
Mae rheoli risg yn broses barhaus i helpu i wella systemau, atebolrwydd a gwneud penderfyniadau Mae'r broses wedi'i rhannu'n bum cam fel y dangosi
Asesir pob risg o ran effaith a r tebygolrwydd y bydd yn digwydd, a llinierir risg gan ddefnyddio model amddiffyn pedair llinell. Mae Stori yn defnyddio sgôr Coch, Oren a Gwyrdd ar gyfer Risgiau Strategol a sgôr Coch, Oren, Melyn a Gwyrdd ar gyfer Risgiau Gweithredol i gyflwyno'r "statws risg cyfredol". Mae hyn yn nodi lefel y risg sy’n wynebu'r Gymdeithas os gweithredir y rheolaethau a nodwyd yn effeithiol.
Mae'r Bwrdd yn dirprwyo'r cyfrifoldeb dros fonitro rheolaeth effeithiol o risg ariannol a thai i'r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio, a phob risg arall i'r Pwyllgor Llywodraethiant a Risg, sydd, yn ei dro, yn ymddiried yn y tîm gweithredol gyda'r cyfrifoldeb dros reoli risg o ddydd i ddydd. Mae'r ddau bwyllgor yn adolygu'r risgiau strategol perthnasol ym mhob cyfarfod ac yn cymeradwyo
Fframwaith Sicrwydd cysylltiedig y Bwrdd sydd i'w ddefnyddio wrth adrodd i'r Bwrdd.
Mae ein Bwrdd yn derbyn sicrwydd ein bod yn rheoli ein risgiau yn iawn drwy Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd, sy'n cynnwys tair rhan:-
Cofrestr Risgiau Strategol sy'n rhoi manylion y pedair llinell sicrwydd ar holl risgiau uchaf Stori, a adolygir o leiaf unwaith y flwyddyn gan y Bwrdd a'i diweddaru'n fisol gan y tîm gweithredol; Cofrestr Risgiau Gweithredol sy'n manylu ar y pedair llinell sicrwydd ar gyflawni ein gweithgareddau allweddol a'n cyflawniadau, a adolygir o leiaf bob blwyddyn, a'i diweddaru'n fisol gan yr Uwch Dîm Rheoli; Dangosfwrdd Perfformiad, sy'n nodi dangosyddion perfformiad ar gyfer y busnes. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol.
Adlewyrchir statws pob risg yn y cofrestrau i ddangos safle tebygolrwydd ac effaith cyfun ar ôl i reolaethau gael eu rhoi ar waith ac yn gweithio'n effeithiol. Cyflwynir y rhain gan ddefnyddio sgôr coch, oren a gwyrdd. Mae'r Blaenoriaethau Strategol yn cyd-fynd â nodau/amcanion ein Cynllun Busnes.
Mae manteision rheoli risg llwyddiannus yn cynnwys:
helpu Uwch Reolwyr i wneud penderfyniadau gwybodus drwy ystyried risgiau gyrru perfformiad gweithredol ac ariannol effeithiol lleihau'r potensial ar gyfer twyll a chwalu enw da hybu rheoli pobl i leihau trosiant, absenoldeb a straen ymhlith staff creu gwydnwch yn wyneb amodau amgylcheddol newidiol codi lefelau sicrwydd o arolygon archwilio ac archwiliadau allanol sicrhau rhanddeiliaid bod risgiau'n cael eu rheoli.
Ein Harchwaeth Risg
Amlinellir y lefelau a'r mathau o risg yr ydym yn barod i'w derbyn wrth i ni ddilyn ein nodau yn ein Datganiad Archwaeth a Goddefiant Risg. Mae ein Bwrdd Rheoli a'n Tîm Gweithredol yn adolygu'r datganiad yn flynyddol ac mae pob un wedi'u hymrwymo iddo.
Rheolaethau Ariannol Mewnol
Yn y pen draw, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am system rheolaeth ariannol fewnol y Gymdeithas a gynlluniwyd i ddarparu sicrwydd rhesymol ond heb fod yn absoliwt o ran diogelu asedau, cynnal cofnodion cyfrifyddu priodol, a dibynadwyedd gwybodaeth ariannol o fewn y busnes.
Mae'r broses o nodi, gwerthuso a rheoli'r risgiau sylweddol a wynebir gan y gymdeithas yn parhau ac wedi bod ar waith drwy gydol y cyfnod a ddechreuodd 1
Ebrill 2020 hyd at ddyddiad cymeradwyo'r adroddiad a'r datganiadau ariannol.
Mae elfennau allweddol y fframwaith rheoli yn cynnwys:
cylch gorchwyl wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd ac awdurdodau
dirprwyedig ar gyfer pwyllgorau
cyfrifoldebau rheoli wedi'u diffinio'n glir ar gyfer nodi, gwerthuso a rheoli risgiau sylweddol
prosesau cynllunio strategol a busnes cadarn, gyda chyllidebau a rhagolygon ariannol manwl
polisïau recriwtio, cadw, hyfforddi a datblygu priodol ar gyfer pob aelod o staff
gweithdrefnau awdurdodi ac arfarnu sefydledig ar gyfer datblygu ac ymrwymiadau arwyddocaol eraill
dull wedi'i ddogfennu o reoli trysorlys strategol
adrodd yn rheolaidd i'r pwyllgor priodol ar amcanion a chanlyniadau
busnes allweddol
polisïau chwythu'r chwiban a thwyll wedi’u cymeradwyo gan y Bwrdd sy'n
cwmpasu atal, canfod ac adrodd, ynghyd ag adferadwyedd asedau
monitro cyfamodau a gofynion benthyciadau yn rheolaidd ar gyfer cyfleusterau benthyciad newydd
Mae'r Bwrdd Rheoli wedi adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth ariannol fewnol mewn bodolaeth yn y Gymdeithas am y flwyddyn a ddaeth i ben 31
Mawrth 2023. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau mewn rheolaethau ariannol mewnol, a arweiniodd at golledion materol, argyfyngau neu ansicrwydd, y mae angen eu datgelu yn y datganiadau ariannol neu yn adroddiad yr archwilydd ar y datganiadau ariannol.
*Noder* Mae'r adroddiad blynyddol yn cynnwys detholiad o'r cyfrifon statudol ar 31 Mawrth 2023. Gellir gofyn am gopi llawn o'r cyfrifon statudol.
Mae'r bwrdd yn gyfrifol am baratoi'r adroddiad a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith a'r rheoliadau cymwys.
Mae deddfwriaeth y Gymdeithas Dai yn ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol. O dan y gyfraith honno, mae'r cyfarwyddwyr wedi dewis paratoi'r datganiadau ariannol yn unol ag Arfer Cyfrifeg Cyffredinol Dderbyniol y DU (Safonau Cyfrifeg y Deyrnas Unedig a chyfreithiau perthnasol, gan gynnwys FRS102). O dan ddeddfwriaeth y Gymdeithas Dai, rhaid i'r cyfarwyddwyr beidio â chymeradwyo'r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion a gwarged neu ddiffyg y gymdeithas am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'n ofynnol i'r cyfarwyddwr:
ddewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu cymhwyso'n gyson; gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon cyfrifeg sydd yn rhesymol ac yn ddoeth;
nodi a yw Safonau Cyfrifeg cymwys y DU a'r Datganiad o Arferion a Argymhellir (SORP) Cyfrifeg gan Ddarparwyr Tai Cofrestredig 2018, wedi'u dilyn, yn amodol ar unrhyw ymadawiadau materol a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd y gymdeithas yn parhau mewn busnes.
Mae'r bwrdd rheoli yn gyfrifol am gynnal system ddigonol o reolaeth fewnol a chadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy'n datgelu sefyllfa ariannol y Gymdeithas yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg ac yn eu galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, Deddf Tai ac Adfywio 2008. a'r Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Dyfarniad Cyffredinol Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Gymdeithas ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.
Cyn belled ag y mae pob un o’r cyfarwyddwyr yn ymwybodol:
nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr y Gymdeithas yn ymwybodol ohoni; a Imae'r cyfarwyddwyr wedi cymryd pob cam y dylent fod wedi'u cymryd i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i gadarnhau bod yr archwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno.
Cafodd adroddiad y bwrdd ei gymeradwyo a'i lofnodi ar ei ran gan
Yn ogystal â'n harchwiliad o’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, rydym wedi adolygu datganiad y Bwrdd o gydymffurfiaeth Stori Cymru â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 02/10, Rheolaeth Ariannol Fewnol ac Adrodd Ariannol ("y Cylchlythyr").
Amcan ein hadolygiad yw ein galluogi i ddod i'r casgliad a yw'r Bwrdd wedi darparu'r datgeliadau sy'n ofynnol gan y Cylchlythyr ac a yw'r datganiad yn gyson â'r wybodaeth yr ydym yn ymwybodol ohoni o'n gwaith archwilio ar y datganiadau ariannol.
Nid yw'n ofynnol i ni ffurfio barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethiant corfforaethol y Gymdeithas na'i rheolaeth ariannol fewnol.
Barn
O ran datganiad y Bwrdd ar reolaeth ariannol fewnol ar dudalennau 6, yn ein barn ni, mae'r Bwrdd Rheoli wedi darparu'r datgeliadau sy'n ofynnol gan y Cylchlythyr a bod y datganiad yn gyson â'r wybodaeth yr ydym yn ymwybodol ohoni o'n gwaith archwilio yn y datganiadau ariannol.
Barn ar ddatganiadau ariannol
Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Stori Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 sy'n cynnwys y datganiad o incwm cynhwysfawr, datganiad o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, datganiad sefyllfa ariannol, datganiad llif arian a'i nodiadau cysylltiedig. Mae'r fframwaith adrodd ariannol sydd wedi'i gymhwyso wrth baratoi yn gyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y Deyrnas Unedig (Arfer Cyfrifeg Cyffredinol Dderbyniol y Deyrnas Unedig), gan gynnwys FRS102 "Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon".
Yn ein barn ni mae’r datganiadau ariannol:
yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion y gymdeithas ar 31 Mawrth 2023 ac o'i hincwm a'i gwariant am y flwyddyn oedd wedi dod i ben
wedi'u paratoi'n briodol yn unol ag Arfer Cyfrifeg Cyffredinol Dderbyniol y Deyrnas Unedig
wedi eu paratoi'n briodol yn unol â Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, Deddf Tai ac Adfywio 2008 a'r Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Dyfarniad Cyffredinol Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2015.
Sail y Farn
Cynhaliwyd archwiliad gennym yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) (ISAs (DU)) a'r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau'r Archwilydd dros archwilio datganiadau ariannol ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol ar y Gymdeithas yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol FRC, ac rydym wedi cyflawni cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credwn fod tystiolaeth yr archwiliad a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'n barn.
Casgliadau yn ymwneud â busnes hyfyw
Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol y mae'r ISAs (DU) yn gofyn i ni roi gwybod i chi amdanynt:
nid yw defnydd y Bwrdd o'r sail cyfrifyddu busnes hyfyw wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol; neu
nid yw'r Bwrdd wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd perthnasol a allai fwrw amheuaeth sylweddol ynghylch gallu'r Gymdeithas i
barhau i fabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes hyfyw am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o'r dyddiad yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.
Gwybodaeth Arall
Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol, ac eithrio'r datganiadau ariannol ac adroddiad ein harchwiliwr ar hynny. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall.
Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys y wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir yn benodol i’r gwrthwyneb yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad o sicrwydd ynghylch hynny.
Mewn perthynas â'n harchwiliad o'r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r datganiadau ariannol neu os yw'n gwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos i fod wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os byddwn yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a oes camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall. Os, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i gyflawni, y byddwn yn dod i'r casgliad bod camddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd y ffaith honno. Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.
Materion y mae'n ofynnol i ni adrodd amdanynt drwy eithriad
Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol lle mae Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd
Cymunedol 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd i chi, os, yn ein barn ni:
nad oes system foddhaol o reolaeth dros drafodion wedi'i chynnal; neu nad yw'r Gymdeithas wedi cadw cofnodion cyfrifyddu priodol; neu nad yw'r datganiadau ariannol yn cytuno â'r cyfrifon; neu nad ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein harchwiliad.
Cyfrifoldebau’r bwrdd
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn Natganiad Cyfrifoldebau'r Bwrdd (a welir ar dudalen 6), mae'r Bwrdd yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi barn wir a theg, ac ar gyfer y fath reolaeth fewnol y mae'r Bwrdd yn ei benderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau perthnasol,boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad.
Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am asesu gallu'r Gymdeithas i barhau fel busnes hyfyw, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â busnes hyfyw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes hyfyw oni bai bod y Bwrdd naill ai'n bwriadu diddymu'r Gymdeithas neu roi'r gorau i weithredu, neu os nad oes dewis realistig arall ond gwneud hynny.
Cyfrifoldebau'r Archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol
Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys ein barn ni. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond ni ellir gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddigwydd yn sgil twyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll
Rydym yn adnabod ac yn asesu risgiau camddatganiad perthnasol o'r Datganiadau Ariannol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, ac yna yn dylunio a chyflawni gweithdrefnau archwilio sy'n ymateb i'r risgiau hynny, gan gynnwys cael tystiolaeth archwilio sy'n ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'n barn.
Trafodwyd ein hannibyniaeth archwilio gan gydymffurfio â Safon Foesegol
Ddiwygiedig 2019 gydag aelodau'r tîm ymgysylltu wrth gynllunio'r archwiliad a monitro ein hannibyniaeth yn barhaus trwy gydol y broses.
Nodi ac asesu risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag afreoleidd-dra. Wrth adnabod ac asesu risgiau o gamddatganiad perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll a pheidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau, roedd ein gweithdrefnau yn cynnwys y canlynol:
holi rheolwyr, gan gynnwys caffael ac adolygu dogfennau ategol, ynghylch polisïau a gweithdrefnau'r cwmni sy'n ymwneud â:
-adnabod, gwerthuso, a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
-canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a ydynt yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, yr amheuir neu honedig;
-rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau;
trafod ymhlith y tîm ymgysylltu sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodwyd y potensial am dwyll yn y meysydd canlynol;
-Cydnabod gwariant datblygu a chynnal a chadw yn y cyfnod cywir;
-Sail resymegol unrhyw brif lifau ariannu yn ystod y cyfnod;
-Y potensial o dwyll rhent yn codi o ganlyniad i gydgynllwynio rhwng y timau asedau a thai.
Gan gael dealltwriaeth o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae'r cwmni'n gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y Datganiadau Ariannol
neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau'r gymdeithas, roedd y cyfreithiau a'r rheoliadau allweddol a ystyriwyd gennym yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf Cwmnïau'r DU a deddfwriaethau treth perthnasol.
Ymateb yr archwiliad i’r risgiau a nodwyd
Yn ogystal â’r uchod, roedd ein gweithdrefnau i ymateb i risiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
adolygu datgeliadau’r datganiad ariannol a phrofi dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau perthnasol;
holi rheolwyr ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a posibl; cyflawni gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthynas anarferol neu annisgwyl a allai ddangos risgiau o gamddatganiad perthnasol oherwydd twyll;
darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethiant ac adolygu gohebiaeth gyda CThEM; ac wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll wrth i reolwyr wrthdroi rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso sail resymegol busnes unrhyw drafodion sylweddol sy'n anarferol neu y tu allan i gwrs busnes arferol.
Gwnaethom hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau perthnasol a nodwyd o risgiau twyll posibl i bob aelod o'r tîm ymgysylltu a pharhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.
Ceir disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau at gyfer archwiliad y datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn https://www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities Mae’r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o adroddiad ein harchwilydd.
Defnydd o’n hadroddiad
Gwneir yr adroddiad hwn i aelodau'r Gymdeithas yn unig, fel corff, yn unol â
Rhan 7 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Ymgymerwyd â’n gwaith archwilio er mwyn i ni allu datgan i aelodau'r Gymdeithas y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt yn adroddiad yr archwilydd ac nid at unrhyw ddiben arall. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw un heblaw'r gymdeithas ac aelodau'r gymdeithas fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y casgliadau a ffurfiwyd gennym. ors
Mae'r nodiadau ategol yn ffurfio rhan o'r datganiadau ariannol hyn.
Roedd gwargedion a diffygion costau hanesyddol yn union yr un fath â'r rhai a ddangosir yn y cyfrif incwm a gwariant.
Cymeradwywyd y datganiadau ariannol gan y Bwrdd:
Statws cyfreithiol
Mae'r gymdeithas yn landlord cymdeithasol cofrestredig gyda statws elusennol.
1. Polisïau cyfrifyddu
Fformat y cyfrifon
Mae'r Gymdeithas yn endid budd cyhoeddus. Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â'r safonau adrodd ariannol perthnasol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Datganiad o Arfer a Argymhellir ar gyfer "Cyfrifyddu gan Ddarparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig" fel y'u diweddarwyd yn 2018 (SORP Tai 2018), a chydymffurfio â'r Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol sydd wedi'u cofrestru ym Mhenderfyniad Cyffredinol Cymru 2015.
Cofnodi trosiant a refeniw
Mae'r trosiant a gynhyrchir gan y Gymdeithas yn cynnwys incwm rhent a thâl gwasanaeth derbyniadau yn ystod y flwyddyn namyn eiddo gwag, Grant Cymorth Tai derbyniadwy, amorteiddio tai cymdeithasol, grantiau eraill gan y llywodraeth a grantiau refeniw eraill derbyniadwy yn ystod y flwyddyn, ac elw ar waredu eiddo tai cymdeithasol ac asedau sefydlog diriaethol eraill.
Mae grantiau refeniw yn dderbyniadwy pan mae'r amodau ar gyfer derbyn cyllid grant y cytunwyd arnynt wedi'u bodloni. Mae taliadau am wasanaethau cymorth a ariennir o dan Cefnogi Pobl yn cael eu cydnabod gan eu bod yn ddyledus o dan y trefniadau cytundebol gydag Awdurdodau Gweinyddu. Cyfrifir am amorteiddio Tai Cymdeithasol a grantiau eraill y llywodraeth yn unol â'r polisi cyfrifyddu.
Mae trosiant a gynhyrchir yn cynnwys rhodd-daliadau, rhoddion a grantiau derbyniadwy.
Cofnodir trosiant pan fydd gan yr elusen hawl i'r cronfeydd, pan fydd unrhyw amodau perfformiad sydd ynghlwm wrth yr eitem(au) incwm wedi’u bodloni, pan mae'n debygol y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn a gellir mesur y swm yn ddibynadwy.
Mae trosiant gan grantiau’r llywodraeth a grantiau eraill, boed yn grantiau 'cyfalaf' neu'n grantiau 'refeniw', yn cael ei gydnabod pan fydd gan yr elusen hawl i'r cronfeydd, pan fydd unrhyw amodau perfformiad sydd ynghlwm wrth y grantiau wedi'u bodloni, pan mae'n debygol y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn a gellir mesur y swm yn ddibynadwy ac nad yw wedi’i ohirio.
Cofnodir rhodd-daliadau pan fydd yr Ymddiriedolaeth wedi’i hysbysu yn
ysgrifenedig o’r swm a dyddiad y setliad. Os bydd rhodd yn ddarostyngedig i amodau sy'n gofyn am lefel o berfformiad cyn bod gan yr elusen hawl i'r arian, gohirir yr incwm ac ni chaiff ei gydnabod hyd nes y bodlonir yr amodau hynny'n llawn, neu fod cyflawni'r amodau hynny o fewn rheolaeth lwyr yr elusen a’i bod yn debygol y bydd yr amodau hynny'n cael eu cyflawni yn y cyfnod adrodd.
Caiff rhoddion etifeddol eu cofnodi fesul achos yn dilyn rhoi profiant pan fo'r gweinyddwr/ysgutor ar gyfer yr ystad wedi nodi’r swm a dyddiad y setliad yn ysgrifenedig. Os yw'r rhodd ar ffurf ased ac eithrio arian parod neu ased ariannol sy'n cael ei fasnachu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig, mae cofnodi yn amodol ar allu mesur gwerth y rhodd yn ddibynadwy gyda rhywfaint o gywirdeb rhesymol a'r hawl i'r ased wedi ei drosglwyddo i'r elusen.
Dyledwyr
Mesurir dyledwyr byrdymor ar bris trafod namyn unrhyw amhariad.
Treth ar Werth
Mae'r Gymdeithas yn codi Treth ar Werth (TAW) ar rywfaint o'i hincwm. Mae'r TAW sy'n daladwy ar ddiwedd y flwyddyn yn cael ei chynnwys fel atebolrwydd cyfredol.
Llog sy’n daladwy
Codir llog sy'n daladwy i'r cyfrif incwm a gwariant yn ystod y flwyddyn.
Pensiynau – cynllun cyfraniadau diffiniedig
Mae'r Gymdeithas yn gwneud taliadau i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig ar ran ei gweithwyr. Mae'r cynlluniau yn cael eu hariannu gan gyfraniadau sefydlog gan weithwyr a'r Gymdeithas. Mae asedau'r cynllun yn cael eu buddsoddi ar wahân i asedau'r Gymdeithas mewn cronfeydd a weinyddir yn annibynnol yn enwau gweithwyr dan sylw ac nid oes atebolrwydd gweddilliol i'r Gymdeithas y tu hwnt i dalu'r cyfraniadau hyn.
Mae'r gwariant cysylltiedig yn cael ei gofnodi ar unwaith yn y datganiad o incwm cynhwysfawr yn ystod y flwyddyn y mae cyfraniadau yn cael eu hennill.
Buddion gweithwyr
Mae buddion gweithwyr byrdymor a chyfraniadau i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig yn cael eu cydnabod fel cost yn ystod y cyfnod y cânt eu gwneud.
Lloches a reolir gan asiantiaid
Mae'r ffioedd rheoli yn cynnwys casglu rhent, cynnal a chadw ac yswiriant ar y cynlluniau.
Eiddo Tai
Eiddo tai yn bennaf yw eiddo sydd ar gael i'w rhentu ac yn cael eu datgan yn ddielw. Cost eiddo yw eu pris prynu ynghyd â mân gostau caffael a chostau uniongyrchol y broses ddatblygu.
Tai eiddo – codir dibrisiant ar gost hanesyddol cydrannau eiddo. Mae'r symiau dibris yn cael eu dileu dros yr amcangyfrif o fywydau economaidd defnyddiol o'r dyddiad prynu / adeiladu. Nid yw tir rhydd-ddaliadol yn cael ei ddibrisio. Mae eiddo prydlesol yn cael ei ddibrisio dros weddill cyfnod y les.
Mae eiddo sydd wrthi’n cael ei adeiladu yn cael ei ddatgan yn ddielw ac yn cael ei drosglwyddo i eiddo tai cymdeithasol pan fydd wedi'i gwblhau. Mae unrhyw gostau gorbenion cynyddrannol y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i ddod ag asedau sefydlog i'w cyflwr gwaith at eu diben arfaethedig yn cael eu cyfalafu. Mae gwariant ar brynu tir ac adeiladau cychwynnol yn cael ei gyfalafu a'i ddatgelu fel rhan o eiddo yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae gwaith i eiddo presennol sy'n amnewid cydran sydd wedi'i thrin ar wahân at ddibenion dibrisio, ynghyd â'r gwaith hynny sy'n arwain at gynnydd mewn incwm rhent net am gyfnod oes yr eiddo, a thrwy hynny’n gwella buddion economaidd yr asedau, yn cael eu cyfalafu fel gwelliannau. Lle mae eiddo tai yn cynnwys dwy elfen neu fwy sydd â bywydau economaidd defnyddiol sylweddol wahanol, cyfrifir am bob cydran ar wahân. Mae gwariant sy'n ymwneud ag amnewid neu adnewyddu cydrannau dilynol yn cael ei gyfalafu fesul achos. Codir dibrisiant ar gost ar sail llinell syth dros gydrannau’r oes economaidd ddisgwyliedig. Mae eiddo tai wedi'u rhanni i'r cydrannau canlynol; tir, strwythur, toi, ffenestri a drysau allanol, ceginau, ystafelloedd ymolchi, systemau mecanyddol (gwresogi ac awyru) a gosodiadau trydanol.
Wrth amnewid cydrannau, mae'r ased gwreiddiol yn cael ei ddileu ac mae'r ased newydd yn cael ei gyfalafu a'i ddibrisio yn ystod ei oes ddefnyddiol.
Mae elw neu golled wrth waredu eiddo yn cael ei gydnabod ar y dyddiad y daw gwerthiant yn sicr. Yr elw neu'r golled sy'n codi wrth waredu yw'r gwahaniaeth rhwng y pris gwerthu, incwm Grant Tai Cymdeithasol (SHG) a gydnabuwyd yn flaenorol o fewn incwm a chyfanswm y gost ddibrisiedig ynghyd ag unrhyw gostau gwaredu cysylltiedig fel ffioedd cyfreithiol a phrisio.
Dibrisio eiddo tai
Mae'r gymdeithas yn nodi'r prif gydrannau sy'n cynnwys ei heiddo tai ar wahân, ac yn codi dibrisiant, er mwyn dileu cost pob cydran i'w gwerth gweddilliol amcangyfrifiedig, ar sail llinell syth, dros ei hoes economaidd ddefnyddiol amcangyfrifiedig.
Cyrhaeddir y swm dibrisiadwy ar sail cost wreiddiol, namyn y gwerth gweddilliol.
Mae'r gymdeithas yn dibrisio prif elfennau ei heiddo tai ar y cyfraddau
blynyddol canlynol:
Nid yw tir rhydd-ddaliadol yn cael ei ddibrisio.
Caiff eiddo a ddelir ar brydlesi eu hamorteiddio dros oes y les neu eu hoes economaidd ddefnyddiol amcangyfrifiiedig yn y busnes, os yw'n fyrrach.
Grant tai cymdeithasol
Gellir derbyn grant tai cymdeithasol (SHG) gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac mae'n ad-daladwy os bydd eiddo yn cael ei waredu, ei ddymchwel neu pe newidir y defnydd ohono i weithgaredd anghymwys, ac eithrio mewn amgylchiadau lle mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol lleihau'r swm y gellir ei ad-dalu. Mae'r rhain wedi'u cynllunio fel cyfraniad tuag at gost cyfalaf darparu tai cymdeithasol newydd ac fe'u derbynnir pan fydd eiddo'n cael ei ddatblygu neu ei gaffael.
Mae grantiau llywodraeth a dderbynnir ar gyfer eiddo tai yn cael eu cydnabod mewn incwm dros oes ddefnyddiol strwythur eiddo’r tai o dan y dull cronni.
Mae SHG sy'n ddyledus gan LlC neu a dderbyniwyd ymlaen llaw yn cael ei gynnwys fel ased neu atebolrwydd cyfredol. Caiff SHG a dderbynnir mewn perthynas â gwariant refeniw ei gredydu i'r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr yn yr un cyfnod â'r gwariant y mae'n ymwneud ag ef.
Mae SHG yn amodol ar ad-dalu benthyciadau drwy gytundeb gyda'r LlC. Gall SHG a ryddheir wrth werthu eiddo fod yn ad-daladwy ond fel arfer mae ar gael i'w ailgylchu ac yn cael ei gredydu i Gronfa Grant Cyfalaf Ailgylchu a'i gynnwys yn natganiad y sefyllfa ariannol mewn rhwymedigaethau.
Lle caiff cydrannau unigol eu gwaredu, nid yw hyn yn creu digwyddiad perthnasol at ddibenion ailgylchu. Ar ôl cael gwared ar yr eiddo cysylltiedig, mae'n ofynnol i'r gymdeithas ailgylchu swm llawn y grant gwreiddiol a dderbyniwyd. Datgelir rhwymedigaeth ddigwyddiadol yn y cyfrifon mewn perthynas â SHG sydd wedi'i amorteiddio hyd yma, oherwydd y gofyniad posibl i ailgylchu ar ôl gwerthu eiddo.
Grantiau eraill
Gellir derbyn grantiau eraill gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Dangosir grantiau cyfalaf fel atebolrwydd ar ddatganiad sefyllfa ariannol. Caiff grantiau mewn perthynas â gwariant refeniw eu credydu i'r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr yn yr un cyfnod â'r gwariant y maent yn ymwneud ag ef.
Amorteiddio grantiau
Mae grantiau sy'n ymwneud ag asedau yn cael eu cydnabod mewn incwm ar sail llinell syth dros oes ddefnyddiol ddisgwyliedig yr ased. Mae grantiau llywodraeth a dderbynnir ar gyfer eiddo tai yn cael eu cydnabod mewn incwm dros oes ddefnyddiol ddisgwyliedig y strwythur eiddo tai – dros 100 – 150 mlynedd.
Pan dderbynnir grantiau ymlaen llaw maent yn cael eu cario ymlaen fel rhwymedigaethau cyfredol i'w cyfateb yn erbyn gwariant cyfalaf yn y dyfodol wrth iddo ddigwydd. Mae grantiau y gellir eu derbyn mewn perthynas â chynlluniau wedi'u cwblhau neu'r rhai sydd wrthi’n cael eu creu yn cael eu cynnwys fel dyledwyr yn y datganiadau ariannol.
Amhariad
Asesir eiddo tai, gan gynnwys y rhai sydd â chydrannau unigol ac asedau eraill, os oes dangosydd o amhariad yn bodoli ar bob dyddiad adrodd.
Lle mae tystiolaeth o amhariad, caiff asedau eu prisio i lawr i'w swm adferadwy, gyda’r uchaf o’r gwerth mewn defnydd a gwerth teg namyn costau i’w gwerthu. Mae unrhyw ostyngiad o’r fath yn cael ei godi ar warged gweithredol.
Asedau sefydlog diriaethol eraill
Darperir dibrisiant yn gyfartal ar gost asedau sefydlog diriaethol eraill i'w gostwng i’w gwerthoedd gweddilliol amcangyfrifiedig dros eu hoes ddefnyddiol ddisgwyliedig. Nid oes unrhyw ddibrisiant yn cael ei ddarparu ar dir rhyddddaliadol. Y prif gyfraddau blynyddol a ddefnyddir ar gyfer asedau eraill yw:
Asedau prydles
Mae asedau a ddelir o dan brydlesi cyllid yn cael eu cynnwys yn y fantolen a'u dibrisio yn unol â pholisïau cyfrifyddu arferol y gymdeithas. Mae gwerth presennol rhenti yn y dyfodol yn cael ei ddangos fel atebolrwydd.
Codir elfen llog rhwymedigaethau rhent ar wariant dros gyfnod y les yn gymesur â chydbwysedd yr ad-daliadau cyfalaf sy'n ddyledus.
Codir tâl ar renti sy'n daladwy o dan brydlesi gweithredol ar wariant ar sail llinell syth dros dymor y brydles.
Eiddo buddsoddi
Mae eiddo buddsoddi yn cynnwys eiddo masnachol nad ydynt yn cael eu dal er budd cymdeithasol neu i'w defnyddio yn y busnes. Caiff eiddo buddsoddi eu mesur ar gostau ar gydnabyddiaeth gychwynnol ac wedi hynny ar werth teg ar ddiwedd y flwyddyn, gydag unrhyw newidiadau mewn gwerth teg yn cael eu cydnabod mewn incwm a gwariant.
Benthyciadau
Mae offerynnau ariannol sylfaenol yn cael eu cydnabod ar gost hanesyddol amorteiddiedig. Mae ffioedd trefniant benthyciadau yn cael eu cyfalafu a'u cydnabod dros gyfnod y benthyciad trwy'r gyfradd llog effeithiol a gymhwysir i'r benthyciad a'r diwygiadau yno hyd at yr adeg y bydd ffioedd dilynol yn codi yn ystod y benthyciadau hynny. Cydnabyddir llog ar fenthyciadau yn yr un modd gan ddefnyddio gwerth presennol taliadau llog amcangyfrifiedig yn y dyfodol.
Amharu ar eiddo tai cymdeithasol
Mae'n rhaid i'r Gymdeithas wneud asesiad ynghylch a oes dangosydd o amhariad yn bodoli. Wrth wneud y dyfarniad, ystyriodd y rheolwyr y meini prawf manwl a nodir yn y SORP. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys a oes dangosydd o amhariad ar gyfer uned cynhyrchu arian. At y dibenion hyn, diffinnir uned cynhyrchu arian fel cynllun eiddo.
Categoreiddio eiddo rhwng eiddo buddsoddi ac eiddo, peiriannau ac offer
Mae'r Gymdeithas yn seilio'r asesiad hwn gan ddibynnu ar y defnydd o'r ased a lefel y rhent a godir.
Darpariaethau ar gyfer atebolrwydd
Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan y gymdeithas rwymedigaeth bresennol (cyfreithiol neu adeiladol) oherwydd digwyddiad yn y gorffennol.
Mae'n debygol y bydd yn ofynnol i'r gymdeithas setlo'r rhwymedigaeth, a gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy o swm y rhwymedigaeth honno.
Dyfarniadau rheoli sylweddol a ffynonellau allweddol o ansicrwydd
amcangyfrif
Mae paratoi'r datganiadau ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwyr wneud dyfarniadau, amcangyfrifon a thybiaethau sy'n effeithio ar gymhwyso polisïau a symiau a adroddwyd o asedau a rhwymedigaethau, incwm a threuliau. Mae'r amcangyfrifon a'r rhagdybiaethau cysylltiedig yn seiliedig ar brofiad hanesyddol ac amryw o ffactorau eraill a ystyrir yn rhesymol o dan yr amgylchiadau, â’u canlyniadau'n sail i wneud y dyfarniadau ynghylch cario gwerthoedd asedau a rhwymedigaethau nad ydynt yn hawdd eu gweld o ffynonellau eraill. Gall canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn. Mae amcangyfrifon a rhagdybiaethau sylfaenol yn cael eu hadolygu'n barhaus. Cydnabyddir diwygiadau i amcangyfrifon cyfrifyddu yn y cyfnod y caiff yr amcangyfrif ei ddiwygio ac mewn unrhyw gyfnodau yr effeithir arnynt yn y dyfodol.
Dyfarniadau rheoli sylweddol
Mae'r canlynol yn ddyfarniadau rheoli wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu'r Gymdeithas sy'n cael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol.
Ansicrwydd amcangyfrif
Mae'r Gymdeithas yn gwneud amcangyfrifon a rhagdybiaethau ynglŷn â’r dyfodol. Anaml y bydd yr amcangyfrifon cyfrifyddol canlyniadol, yn anochel, yn cyfateb i'r canlyniadau cysylltiedig gwirioneddol. Trafodir yr amcangyfrifon a'r rhagdybiaethau sydd â risg sylweddol o achosi addasiad sylweddol i'r symiau cario asedau a rhwymedigaethau isod.
Dibrisiant
Mae asedau sefydlog diriaethol, ac eithrio eiddo buddsoddi, yn cael eu dibrisio dros eu hoes ddefnyddiol yn seiliedig ar ffactorau amrywiol. Ailasesir bywydau gwirioneddol yr asedau o bryd i'w gilydd a gallant amrywio yn dibynnu ar safon yr ased. Yn achos asedau eiddo tai, mae'r asedau'n cael eu rhannu'n
gydrannau yn seiliedig ar asesiad rheolwyr o'r eiddo a'r costau penodol a ysgwyddir wrth amnewid y cydrannau hyn. Mae oes economaidd ddefnyddiol unigol yn cael eu neilltuo i'r cydrannau hyn.
Busnes hyfyw
Mae gweithgareddau busnes y gymdeithas, ei sefyllfa ariannol bresennol a ffactorau sy'n debygol o effeithio ar ei datblygiad yn y dyfodol wedi'u nodi yn Adroddiad y Bwrdd Rheoli. Mae gan y gymdeithas gyfleusterau dyled hirdymor ar waith sy'n darparu adnoddau digonol i ariannu rhaglenni ailfuddsoddi a datblygu ymroddedig, ynghyd â gweithrediadau’r gymdeithas o ddydd i ddydd. Mae gan y gymdeithas gynllun busnes hirdymor hefyd, sy'n dangos ei bod yn gallu gwasanaethu'r cyfleusterau dyled hyn wrth barhau i gydymffurfio â chyfamodau benthycwyr.
Ar y sail hon, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol bod gan y gymdeithas adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol am y dyfodol rhagweladwy, sef cyfnod o ddeuddeg mis o leiaf ar ôl y dyddiad yr arwyddir yr adroddiad a'r datganiadau ariannol. Oherwydd hyn, mae'n parhau i fabwysiadu'r sail busnes hyfyw yn y datganiadau ariannol.
2a. Manylion trosiant, cost gwerthu, costau gweithredu a gwarged gweithredu
3. Llety mewn Rheolaeth a Datblygiad
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd llety mewn rheolaeth ar gyfer pob dosbarth o lety fel a ganlyn:
Cyfrifir y gwarged gweithredol ar ôl codi / (credydu)
Nifer
9. Aelodau a gweithredwyr y bwrdd
Yr uwch weithredwr gyda’r cyflog uchaf yn ystod y cyfnod oedd y Prif Weithredwr. Cyfanswm taliadau’r uwch weithredwr gyda’r cyflog uchaf ac eithrio cyfraniadau pensiwn oedd £101,665 (2022: £92,492).
Dangosir costau pensiwn fel cyfraniadau a delir ar ran yr uwch weithredwr. Nifer yr uwch swyddogion gweithredol sy'n cronni buddiannau ymddeol yw 6 (2022: 6).
Mae'r Prif Weithredwr yn aelod cyffredin o'r cynllun pensiwn cyfrannol – nid yw’n cael unrhyw gynnydd na thelerau arbennig. Cyfrannodd y Gymdeithas £3,623 (2022: £3,457) i drefniant pensiwn unigol ar ran y Prif Weithredwr yn ystod y flwyddyn.
Ni chafodd yr un o aelodau'r bwrdd daliadau. Cyfanswm y treuliau a dalwyd i Aelodau'r Bwrdd oedd £1,416 (2022: £439).
10. Treth ar warged gweithgareddau cyffredin
Ni wnaed unrhyw ddarpariaeth yn y cyfrifon ar gyfer treth gorfforaeth y DU gan fod y Gymdeithas wedi'i heithrio rhag trethi o dan Adran 505 Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.
Mae benthyciadau banc yn cael eu gwarantu trwy daliadau sefydlog ar eiddo unigol.
Telerau ad-dalu a chyfraddau llog
Mae'r benthyciadau gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn cael eu gwarantu gan daliadau sefydlog ar eiddo unigol.
Mae'r benthyciad yn ad-daladwy ar gyfradd llog sy'n gysylltiedig â SONIA am gyfnod o 35 mlynedd o Ionawr 1999.
Ar 31 Mawrth 2023, roedd yr ystod o gyfradd llog mewn grym rhwng 1.738200% a 4.594000%.
Yn seiliedig ar ddyddiad ad-dalu cynharaf y benthyciwr, mae benthyciadau yn ad-daladwy fel a ganlyn:
Telerau ad-dalu
Mae'r gymdeithas wedi'i chyfyngu drwy warant ac felly nid oes ganddi gyfalaf cyfrannau. Mae pob aelod (gweler y rhifau isod) yn cytuno i gyfrannu £1 os bydd y gymdeithas yn dirwyn i ben.
25b. Dadansoddiad o newidiadau mewn dyled net
26. Ymrwymiadau cyfalaf
Ni chofnodwyd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar ôl diwedd y flwyddyn.
27. Partïon cysylltiedig
Nid oedd unrhyw Aelodau o’r Bwrdd oedd hefyd yn denantiaid yn ystod y flwyddyn.
28. Asedau / rhwymedigaethau amodol
Mae'r gymdeithas yn derbyn grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, a ddefnyddir i ariannu caffael a datblygu eiddo tai a'u cydrannau. Mewn rhai amgylchiadau, ar ôl cael gwared ar eiddo a ariannwyd gan grant, mae'n ofynnol i'r gymdeithas ailgylchu'r grant hwn drwy gredydu'r Gronfa Grant Cyfalaf wedi’i Ailgylchu.
Gall Grant Tai Cymdeithasol fod yn ad-daladwy o dan yr amgylchiadau canlynol:
Cael gwared ar eiddo (gan gynnwys gwarediadau ar delerau perchnogaeth
â chymorth) ac eithrio i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) arall);
Newid defnydd eiddo i ddefnydd a fyddai'n gymwys i gael llai o grant;
Newid defnydd eiddo i ddefnydd na fyddai'n gymwys am grant;
Bydd ailwerthiant yn amodol ar ad-dalu’r disgownt o dan Atodlen
Ddeddf Cymdeithas Tai 1985.
Mae'r gymdeithas yn amorteiddio grantiau'r llywodraeth dros oes ddefnyddiol yr eiddo, fel sy'n ofynnol gan SORP Tai 2018. Mae'r grantiau'n cynnwys £30,651 sy'n cael ei ddal i'w ailgylchu ar hyn o bryd a'r Gymdeithas yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu eiddo pellach. Cyfanswm y rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar 31 Mawrth 2023 yw £820,647 (2022: £789,675).
Alan Brayley - ymunodd ym mis Medi 2022
Amie Chapman – Trysorydd ac Is-gadeirydd
Bill Walden-Jones
Christian Davies
Deb Barrow - ymunodd ym Medi 2022
Ffion Green – dyddiad gorffen Mehefin 2022
Gareth Clubb
Hugh Irwin – Cadeirydd ers ymuno ym Medi 2022
Jack Mansfield – dyddiad gorffen Ionawr 2023
Jamie Edwards – dyddiad gorffen Mawrth 2023
John Morgan – ymddiswyddodd fel Cadeirydd ym Medi 2022
Kate Carr – dyddiad gorffen Awst 2022
Shone Hughes
Stacey Anastasi
Steve Morgan – dyddiad gorffen Medi 2022
Suki Collins - ymunodd ym Medi 2022
Paul Thorburn - Llysgennad
Ruth Dodsworth - Cyllidwr
Shirley Sansom – Llywydd Anrhydeddus