CHWEFROR 24
RHIFYN 2
DEWI SANT EIN CYLCHLYTHYR CHWARTEROL
GWNEUD I BOB DYDD DEIMLO FEL ANTUR NEWYDD YMUNWCH YN Y SGWRS
YMUNWCH YN Y SGWRS
YN Y RHIFYN HWN
1
2
LLYTHYR GAN Y PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
3
CYFARFOD YMDDIRIEDOLWR
4
SGWRSIO:
5
CODI ARIAN
6
CYMORTH
7
HANES MIS LGBT+
8
DIOLCH
9
ANTUR
10
CYSWLLT
LLYTHYR GAN Y PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL Gall bob dydd ddechrau rhywbeth newydd.
Croeso i'n ail gylchlythyr chwarterol! Roedd yn hyfryd gweld cynifer o deuluoedd yn ein digwyddiad Nadolig fis Tachwedd ac rwy'n gobeithio eich bod i gyd wedi cael Nadolig da a dechrau cadarnhaol i 2024. Rwy'n gwybod y gall y Nadolig a'r cyffro sy'n adeiladu at y diwrnod ei hun fod yn llethol i rai plant neu hyd yn oed sbarduno atgofion iddynt. Os nad ydych wedi cael dechrau da i'ch 2024 gyda'ch plant a'ch bod chi a nhw'n cael trafferth ymdopi, cofiwch gysylltu â ni am gymorth ac arweiniad. Antur yw'r thema ar gyfer y cylchlythyr hwn am ei fod yn air sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o deuluoedd i ddisgrifio sut maent yn teimlo naill ai ar ddechrau eu taith i ddod yn rhieni neu os gwnaethant fabwysiadu plant sawl blwyddyn yn ôl. Gall pob dydd ddod â rhywbeth newydd, annisgwyl, heriol neu hyd yn oed funud hudolus gyda'ch plentyn, ynghanol helbulon bywyd bob dydd. Wrth i mi ddechrau ar fy antur bersonol fy hun yng ngham nesaf fy mywyd gyda'm cynlluniau i ymddeol yn mynd rhagddo, rwyf wedi bod yn myfyrio ar y sgyrsiau niferus rwyf wedi eu cael gyda chi dros y blynyddoedd. Un o freintiau pennaf y swydd hon oedd eich cyfarfod chi â'ch plant yn ein gweithgareddau haf / gaeaf a'n gweithgareddau cymorth amrywiol.
Mae eich onestrwydd, eich dynoldeb a'r llawenydd pur yn eich plant - hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf yn atgofion y byddaf yn eu trysori i'r dyfodol. Mae fy olynydd bellach wedi'i benodi ac rwy'n falch i ddweud mai Jason Barker, ein Dirprwy Gyfarwyddwr ar hyn o bryd fydd yn cymryd drosodd a bydd llawer ohonoch wedi cwrdd ag ef yn ein hamrywiol weithgareddau. Mae gan Jason gyfoeth o brofiad yn ein sector ac mae'n angerddol am sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ffynnu a thyfu mewn teuluoedd magwrus gydol oes. Un o'r datblygiadau y mae Jason wedi bod yn gweithio arno dros y flwyddyn ddiwethaf yw arallgyfeirio ein gwasanaethau i blant i ddarparu lleoliadau maeth i blant 0 - 12 oed. Fel y byddwch yn ymwybodol bydd llawer o blant yn dod i mewn i ofal bob blwyddyn a bydd angen amgylchedd cariadus a sefydlog arnynt y gallant ffynnu ynddo wrth i gynlluniau tymor hir gael eu penderfynu ar eu cyfer. Credwn ein bod mewn sefyllfa dda i ddarparu gofal i blant na allant fyw gydag aelodau o'u teulu genedigol, am fod gennym flynyddoedd o brofiad yn daparu Gwasanaethau Mabwysiadu. Bydd y Gwasanaeth yn cael ei lansio ar 22 Ionawr ac os gwyddoch chi am unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn siarad â ni am faethu, gofynnwch iddynt gysylltu â ni ar info@stdavidscs.org. Rwyf am gloi drwy ddweud bod Mabwysiadu yn newid bywyd plant a chithau fel eu rhieni, felly diolch am fy nghynnwys yn eich byd ac am fod yn rhan fach o'ch antur bersonol eich hunain. Hoffwn ddymuno'r gorau i bob un ohonoch i'r blynyddoedd i ddod a chofiwch y gallwch ein ffonio pryd bynnag y bydd angen ein cymorth arnoch.
Wendy R Keidan
WENDY KEIDAN, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
2
CYFARFOD YMDDIRIEDOLWR: ARFON JONES Taith Bywyd o Wasanaeth ac Eiriolaeth Yn hanu o Ddyffryn Clwyd, mae Arfon Jones wedi cael gyrfa nodedig ac wedi ymroi ei fywyd i greu effaith gadarnhaol. Graddiodd mewn Cerddoriaeth a Theoleg o Brifysgol Bangor a symudodd i Gaerdydd dros ddeugaint mlynedd yn ôl, lle ymrwymodd ei hun i weithio gyda'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau. Mae ei yrfa eang yn cwmpasu gwaith ieuenctid, elusennau Cristnogol, ac yn fwyaf nodedig ei gyfraniadau llenyddol, gan gynnwys cyfieithu'r Beibl i Gymraeg fodern ar beibl.net. Y tu hwnt i'w gyflawniadau proffesiynol, daeth Arfon a'i wraig Rachel yn rhieni drwy fabwysiadu dau blentyn drwy Dewi Sant. Mae'n dweud bod mabwysiadu yn fraint ac yn llawenydd, yn ogystal â bod yn heriol ar adegau, fel unrhyw brofiad o fod yn rhiant. Fel ymddiriedolwr am 11 o flynyddoedd, mae Arfon wedi chwarae rôl hanfodol yn llywio cenhadaeth a gwerthoedd Dewi Sant gyda phlant bob amser wrth wraidd y ffordd y bydd yn darparu gwasanaeth. Er ei fod wedi ymddeol y swyddogol, mae Arfon yn parhau i ymddiddori yn mywyd yr eglwys ac amrywiol elusennau, gan barpau i ymrwymo'n ddiwyro i lesiant y gymuned. Mae angerdd Arfon tuag at Dewi Sant a'i gyfraniadau ehangach yn dyst i gyfnod oes o fod yn ymrwymedig i newid cadarnhaol ac wrth ddathlu Arfon fel un o'n Hymddiriedolwyr gwerthfawr rydym yn cydnabod yr effaith barhaus y gall un unigolyn ei gael ar fywydau cymaint o bobl eraill.
"Rôl hanfodol yn llywio cenhadaeth a gwerthoedd Dewi Sant"
3
SGWRSIO:
HANNAH A DAN Fel rhan o'n 'Cyfres Sgwrsio' ar-lein, (ar gael yma) rydym yn dilyn taith dwymgalon Hannah a Dan, cwpl a welodd newid byd wrth iddynt benderfynu mabwysiadu brawd a chwaer. Mae eu hantur i ddod yn rhieni wedi bod yn llawn cariad, gwydnwch ac atgofion gwerthfawr. Mae'r cwpl yn adlewyrchu ar yr effaith fawr a gafodd mabwysiadu brawd a chwaer arnynt, gan dynnu sylw at y trawsnewidiad anhygoel y gwnaethant ei brofi yn eu bywyd o ddydd i ddydd. "Mae'n anhygoel sut y gall y pethau symlaf ddod â ni yn agosach at ein gilydd," dywedodd Hannah. "Mae mabwysiadu brawd a chwaer yn wirioneddol wedi trawsnewid ein bywydau, gan wneud i bob dydd deimlo fel antur newydd." Mae un foment hanfodol sy'n sefyll allan yn eu cof, sef golygfa o'r gyfres animeiddiedig, Bluey. Wrth i'r plant bwyntio at y sgrin, a gweiddi, "Maen nhw'n deulu; rydyn ni'n deulu," sylweddolodd Hannah a Dan bod gan eu teulu gysylltiad na ellid ei dorri. Mae'r adegau bychain ond pwerus hyn, fel caneuon thema a dawnsiau teulu digymell wedi dod yn gonglfeini hunaniaeth eu teulu unigryw nhw. Mae'r cwpl yn hel atgofion am y diwrnod y daethant yn swyddogol yn deulu, gan bwysleisio mai cariad, chwerthin a chreu atgofion oes yw hanfodion teulu. Pwysleisiodd Hannah "Hanfodion teulu yw cariad, chwerthin a chreu atgofion gyda'ch gilydd," Wrth gael eu tywys drwy gymhlethdodau mabwysiadu, cafodd Hannah a Dan eu cefnogi'n gadarn gan Dewi Sant. Maent yn mynegi gwerthfawrogiad mawr am eu perthynas barhaus â'r sefydliad, gan bwysleisio fel y gallai addasu i'w hanghenion wrth iddynt esblygu. I ddechrau roeddent yn cyfathrebu â Dewi Sant yn gyson ac yn ceisio cyngor ac atebion, ond mae eu dibyniaeth wedi lleihau dros amser. Fodd bynnag, mae'r sicrwydd y gallant gael cymorth drwy ffonio yn unig yn parhau'n ddiwyro. Nid yn unig mae eu hanes yn dangos llawenydd a heriau mabwysiadu brawd a chwaer ond hefyd y cryfder a geir o gael systemau cymorth cadarn. 4
Gallwch wylio'r gyfres hyd yn hyn ar ein YouTube, Facebook ac Instagram i weld eu taith dwymgalon sy'n datgelu'r gwydnwch a'r llawenydd a ddaw wrth greu teulu drwy fabwysiadu.
CODI ARIAN YN DEWI SANT Elusen mabwysiadu yw Dewi Sant a phlant sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae pob proses fabwysiadu yn dechrau gyda phlentyn, ac mae stori pob plentyn yn unigryw.
HANNER MARATHON CAERDYDD
MARATHON EITHAFOL
Ydych chi'n barod am antur arall... A ydych chi'n rhedwr o fri? Efallai eich bod wedi rhedeg gryn dipyn yn y gorffennol ac yn chwilio am reswm i ddechrau eto? Neu efallai nad ydych wedi rhedeg o'r blaen ond yn hoff o'r syniad o ddechrau her newydd yn 2024? Yna mae'n bosibl bod gennym ni'r ateb perffaith.
Mae ein Dan ni yn dathlu ei 10fed blwyddyn yma ac mae'n paratoi ar gyfer Marathon Eithafol y Fro - 32 milltir (50km) heriol o Benarth i Aberogwr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar 6 Ebrill.
Wedi ymdrechion anhygoel dau riant a redodd a chodi arian ar ein cyfer y flwyddyn ddiwethaf rydym yn chwilio am bobl sy'n barod i redeg Hanner Marathon Caerdydd eto eleni. Mae gennym bum lle elusen ar ôl a hoffem i'r rhain gael eu defnyddio gan rieni Dewi Sant, neu eu teulu a'u ffrindiau, a hoffai godi arian i'n cefnogi. Mae Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 6 Hydref 2024, a byddwn yma i helpu gydag unrhyw ymdrechion i godi arian wrth nesáu at y diwrnod mawr. Byddwn hefyd yno ar y diwrnod i'ch cefnogi ac i adael i chi barcio ym maes parcio swyddfa Dewi Sant a dod i'r swyddfa i gael lluniaeth. Mae ymgymryd â'r her yn ffordd arbennig o gefnogi Dewi Sant a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os byddech yn awyddus i redeg ar ein rhan, anfonwch e-bost at fundraisingsupport@stdavidscs.org a byddwn yn cysylltu â chi.
Mae'n ymrwymedig i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Dewi Sant ac mae angen eich cymorth arno! Mae eich cyfraniad yn effeithio ar waith ystyrlon Dewi Sant yn uniongyrchol. Er mwyn helpu Dan i gyflawni ei nod, ystyriwch roi rhodd drwy glicio HERE. 5
CYMORTH Mae pob proses fabwysiadu yn dechrau gyda phlentyn, ac mae stori pob plentyn yn unigryw. GWEITHDY RHEOLEIDDIO SYNHWYRAIDD MABWYSIADU GYDA'N GILYDD Fel rhan o'n Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd rydym yn cynnal gweithdy ar 29 Chwefror, 2024 rhwng 10:00am a 12:00pm, wedi'i hwyluso gan seicolegydd o The Family Place. Wedi'i gynnal drwy Zoom, bydd yr hwylusydd yn arwain y cyfranogwyr drwy gymorth rhyngweithiol a brosesir yn synhwyraidd, sy'n seiliedig ar drawma. Byddwn yn cael gwybod am effaith trawma cynnar ar ddatblygiad ffisiolegol ac emosiynol, a gadael yn meddu ar strategaethau ymarferol i allu cefnogi plant sy'n wynebu anawsterau prosesu synhwyraidd. Mae'r sesiwn drawsnewidiol hon yn addo darparu adnoddau ymarferol i'w rhoi ar waith ar unwaith mewn amrywiol leoliadau. Er mwyn ymuno anfonwch e-bost at adoptingtogether@stdavidscs.org, neu siaradwch ag un o'n gweithwyr cymdeithasol ar 029 2066 7007.
CYMORTH Yn Dewi Sant, rydym yn cefnogi teuluoedd ar eu teithiau mabwysiadu gwahanol, gan gydnabod effaith trawma cynnar ar naratif pob plentyn. Mae ein cymorth diwyro yn cynnwys grwpiau cymorth rheolaidd, cyfarfodydd ar adeg gwyliau, hyfforddiant a chymorth 1:1 wedi'i bersonoli gan weithiwr cymdeithasol. Rydym yn tywys teuluoedd i gael gwasanaethau hanfodol ac yn cynnig gwasanaeth "Mabwysiadu Gyda'n Gilydd" arbenigol gydag ymgynghoriadau seicolegol clinigol.
6
Mae ein tudalen Facebook a gaiff ei harwain gan fabwysiadwyr yn meithrin cymorth gan gyfoedion, ac mae ein hymrwymiad yn mynd y tu hwnt i orchmynion mabwysiadu, gan groesawu cysylltiad oes. P'un a ydych yn ceisio cyngor neu ymyriadau therapiwtig, rydym yn darparu cyngor cynhwysfawr ar bob cam o'r antur o fod yn rhiant.Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar info@stdavidscs.org
HANES MIS LGBTQ+ CANLLAW LGBTQ+ I FABWYSIADU Mae Dewi Sant yn falch o gyflwyno ein Canllaw LGBTQ+ i Fabwysiadu, sydd wedi'i lunio i rymuso a helpu unigolion yn y gymuned LGBT+ ar eu taith mabwysiadu. Yn Dewi Sant, rydym yn deall yr ystyriaethau a'r heriau unigryw y mae unigolion LGBTQ+ yn eu wynebu wrth geisio creu teuluoedd drwy fabwysiadu. Mae ein canllaw yn ymdrin ag agweddau cyfreithiol, gwahaniaethau diwylliannol ac mae'n darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth sydd wedi'u teilwra i'r gymuned LGBTQ+. Rydym yn ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol, gan sicrhau bod pob darpar riant yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn cael gwybod am bethau ac yn cael eu grymuso drwy gydol eu profiad mabwysiadu. Mae Canllaw LGBTQ+ i Fabwysiadu Dewi Sant yn adlewyrchu ar ein hymroddiad i ddathlu amrywiaeth a chreu gofod croesawgar i bawb sy'n awyddus i fod yn rhieni. Gallwch ddod o hyd i'r canllaw YMA
GORYMDEITHIO GYDA PRIDE Ymunwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn Pride Cymru eleni i ddathlu amrywiaeth a chynhwysedd. Ers 1985, mae'r orymdaith LGBTQ+ yng Nghaerdydd wedi esblygu i fod yn ddigwyddiad bywiog, ac yn 2012 cyrhaeddwyd uchafbwynt gan gael ei weld fel y wledd fwyaf lliwgar i'r llygad yn y ddinas. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn annog cefnogwyr LGBTQ_ i fod yn rhan o'r orymdaith gynhwysol a hygyrch, sy'n agored i bawb o bob cefndir. Drwy gymryd rhan ynddo, rydych yn cyfrannu at ddathliad sydd wedi tyfu'n sylweddol, ac sy'n symbol o undod a derbyn. Awyddus i ymuno? Anfonwch e-bost at shaun.houcke@stdavidscs.org. 7
DIOLCH
Rydym yn ffarwelio'n annwyl â Wendy Keidan, ein Prif Swyddog Gweithredol anhygoel, y mae ei harweinyddiaeth wedi llywio llwyddiant Dewi Sant ac sy'n gadael gwaddol parhaus.
Annwyl deulu Dewi Sant, Wrth i ni ffarwelio â phennod anhygoel yn hanes ein gwasanaethau, mae ein teimladau yn gymysg wrth nodi ymddeoliad ein Prif Swyddog Gweithredol gwych, Wendy Keidan. Mae taith Wendy gyda Dewi Sant wedi bod yn un arbennig tu hwnt, ac mae'r effaith y mae wedi ei chael ar ein cymuned wedi bod yn ddifesur. Ymunodd Wendy â'n teulu yn 2015 fel Rheolwr Gweithredol, cyn cael ei dyrchafu'n gyflym i rôl Dirprwy Gyfarwyddwr. Roedd ei rhinweddau arwain a'i hymrwymiad diwyro i'n cenhadaeth yn amlwg, ac yn 2018, camodd i mewn i rôl Prif Swyddog Gweithredol gyda'i gweledigaeth a'i hanwyldeb. Mae ein gwasanaeth wedi ffynnu dan ei harweinyddiaeth, gan gyrraedd uchafbwyntiau newydd ac effeithio ar fywydau nifer dirifedi o unigolion. Mae gwaddol Wendy yn mynd y tu hwnt i'w theitl - nid yn unig mae'n Brif Swyddog Gweithredol ond hi hefyd yw calon ac enaid Dewi Sant. Mae ei hangerdd i wasanaethu eraill a'i hymrwymiad i lesiant ein cymuned wedi bod yn sbardun i lawer o'n llwyddiannau. Fel Swyddog Gwneud Penderfyniadau'r Asiantaeth ar gyfer cymeradwyo darpar fabwysiadwyr, mae Wendy wedi chwarae rôl hollbwysig wrth lywio dyfodol teuluoedd a phlant fel ei gilydd. Cyn dod yn rhan annatod o Dewi Sant, roedd Wendy yn Gyfarwyddwr BAAF Cymru, gan ddangos ei chyfoeth o brofiad a'i hymrwymiad dwfn i'r maes. Mae ei harbenigedd, yn ogystal â'i dull tosturiol o arwain wedi gadael ôl parhaol ar bawb a gafodd y fraint o weithio gyda hi. Er ein bod yn drist yn gorfod ffarwelio â Wendy, rydym hefyd yn dathlu'r daith anhygoel y mae Wendy wedi ein harwain arni. Bydd ei gwaddol yn sicr o barhau, ac rydym yn ddiolchgar am ei hysbryd di-ildio yn ein gwasanaeth. Ymunwch â ni i ddiolch o galon i Wendy Keidan am flynyddoedd o wasanaeth ac arweinyddiaeth ymroddedig, a'r effaith gadarnhaol a gafodd ar deulu Dewi Sant. Dymunwn ymddeoliad hapus iddi, gan obeithio y bydd yn ymlacio, a gobeithio y bydd yn mwynhau'r holl anturiaethau haeddiannol sydd o'i blaen. Hwyl fawr, Wendy, a gobeithio y bydd y bennod nesaf yn eich bywyd yr un mor bleserus ac ysbrydoledig â'r hyn rydych wedi ei rhoi i ni. .
Dewi Sant
GAN BAWB YMA YNG NGHYMDEITHAS PLANT DEWI SANT
8
ANTUR
Mae Antur yn aros amdanoch Canfod y lleoedd sydd fwyaf cyfeillgar i blant yng Nghymru Mae gan Gymru, gwlad llawn tirweddau cyfareddol ac wedi'i thrwytho mewn treftadaeth ddiwylliannol, ddigonedd o anturiaethau cyffrous i deuluoedd ag anturwyr ifanc. O fynyddoedd mawreddog i arfordiroedd godidog, mae Cymru fel trysorfa o gyfleoedd i blant ddarganfod, dysgu a chwarae. Parc Cenedlaethol Eryri: Lle chwarae ymysg y Copaon Yng nghanol Gogledd Cymru, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn lle gwych i deuluoedd sydd am gael anturiaethau mynyddig. Mae'r Wyddfa, copa uchaf Cymru, yn her gyffrous i blant hŷn a phobl yn eu harddegau, ac mae'r ardaloedd cyfagos yn cynnwys llwybrau sy'n gyfeillgar i deuluoedd, llynnoedd hudolus, heb anghofio pentref tlws Betws-y-Coed. Mae parciau antur y parc a'r gweithgareddau weiren wib yn rhoi rhywbeth cyffrous arall i blant o bob oed. Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Rhyfeddodau Arfordirol Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lleoliad hudolus i deuluoedd sy'n well ganddynt ddihangfeydd arfordirol. Mae'r parc sydd â thraethau hyfryd, cildraethau cudd a chlogwyni garw yn cynnig gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys caiacio môr, arforgampau a theithiau cwch i weld morloi a dolffiniaid. Mae tref odidog Dinbych-y-pysgod â'i thai lliwgar a waliau canoloesol yn berffaith i deuluoedd fynd am dro a chael hufen ia blasus. Dan-yr-Ogof Gwlad hud danddaearol Ewch ar daith i ddyfnderoedd Dan-yr-Ogof ym Mannau Brycheiniog, byd tanddaearol rhyfeddol sy'n siŵr o ddal dychymyg plant ac oedolion. Gyda siambrau wedi'u haddurno â stalactit a ffurfiannau creigiau trawiadol, mae'r ogofâu yn cynnig antur unigryw ac addysgol. Yn ogystal, mae Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru ger llaw yn darparu arddangosiadau rhyngweithiol ac ardaloedd chwarae yn yr awyr agored, sy'n sicrhau diwrnod allan cynhwysfawr i'r teulu. Parc Antur a Sw Folly Farm: Cwrdd â'r Anifeiliaid Mae Folly Farm, yn Sir Benfro, yn cyfuno cyffro parc antur â'r rhyfeddod a geir mewn sw. Mae Folly Farm sydd ag amrywiaeth eang o anifeiliaid, o lewod i jiraffod, i bengwiniaid a swricatiaid, yn cynnig gweithgarwch addysgol a sioeau adloniant i blant. Mae'r hen reidiau ffair a'r ardaloedd chwarae dan do yn sicrhau bod yr hwyl yn parhau, waeth beth fydd y tywydd. Parc Teuluol Gelli Gyffwrdd: Hwyl eco-gyfeillgar Wedi'i leoli yn Eryri, mae Parc Teuluol Gelli Gyffwrdd yn atyniad eco-gyfeillgar sy'n canolbwyntio ar anturiaethau cynaliadwy ac addysgol. Mae'r parc yn cynnwys gweithgareddau ar frigau coed, roller coaster sy'n cael ei bweru gan bobl, a reidiau dŵr. Mae Gelli Gyffwrdd sy'n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth amgylcheddol yn cynnig cyfuniad delfrydol o gyffro ac addysg i deuluoedd sydd am gael anturiaethau sy'n eco-gyfeillgar. 9
DEWI SANT EIN CYLCHLYTHYR CHWARTEROL
01/24
ISSUE 15
01/24
Thomas Larson
CYSWLLT Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant 28 Plas-y-Parc, Caerdydd, CF10 3BA 029 2066 7007 info@stdavidscs.org
CAEL Y NEWYDDION DIWEDDARAF Dilynwch ni ar Instagram, Facebook a YouTube
ISSUE 15