Skip to main content

Visit Travel Trade Guide 25/26 - Cymraeg

Page 1


LERPWL

CAEREDIN

MANCEINION

CAERDYDD
LLUNDAIN BRYSTE
Caergrawnt
Dofr
Abertawe
Caerwysg
DULYN

CYNNWYS

Tra bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau cywirdeb y cyhoeddiad hwn, ni all Croeso Caerdydd dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, anghywirdebau neu hepgoriadau, nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â chyhoeddi’r wybodaeth yn y llyfryn hwn neu sy’n deillio o gyhoeddi’r wybodaeth yn y llyfryn hwn. Ni chaniateir atgynhyrchu’r llyfryn yn rhannol

llaw gan y cyhoeddwr.

YNGLŶN Â CHAERDYDD

Caerdydd yw Prifddinas Cymru

Arian Cyfred: Punt Sterling

Poblogaeth: 372,000

Cod Ffôn:

cod gwlad: 44, cod ardal: 029

Parth Amser: GMT (GMT+1 yn ystod yr haf)

Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg

Wedi’i gefeillio â: Nantes, Ffrainc; Stuttgart, yr Almaen; Xiamen, Tsieina; Vestland, Norwy; Lugansk, Wcráin.

Pellter o Lundain: 2 awr ar y trên, 3 awr mewn car.

Meysydd Awyr Mawr:

Caerdydd, 25 munud; Bryste, 1 awr; Heathrow Llundain, 2.5 awr

HANES CRYNO

CAERDYDD O’R

1800AU I’R PRESENNOL

1813

Agor tafarn hynaf Caerdydd, y Blue Bell

1839

Agor y doc cyntaf yng Nghaerdydd, Doc Gorllewinol Bute

1894

Agor Spillers, siop recordiau hynaf y byd

1905

Daw Caerdydd yn ddinas!

1858

Agor yr Arcêd Brenhinol. Y cyntaf o 6 arcêd siopa Fictoraidd ac Edwardaidd yng Nghaerdydd

1907 Llofnodi’r fargen gyntaf gwerth £1 miliwn yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd

1955

Caerdydd yn cael ei chydnabod fel

Prifddinas Cymru

2006

Adeiladu adeilad y Senedd, un o brosiectau adeiladu mwyaf cynaliadwy’r byd ar y pryd

1958

Cynnal Gemau’r Gymanwlad a’r

Ymerodraeth Brydeinig yng Nghaerdydd

1983

- Agor Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru

2016

Cynnal Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF 2016 yng Nghaerdydd

2009

Adeiladu ail gam canolfan Dewi Sant, un o ganolfannau siopa mwyaf y DU

2017

Cynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd

2012

Cynnal digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd Llundain 2012 yng Nghaerdydd (sef pêl-droed!)

2018

Cynnal Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd

CROESO CAERDYDD – TEITHIAU GRŴP 2025-26

1869

Cyhoeddi papur newydd cenedlaethol Cymru, y Western Mail, am y tro cyntaf

1913

Anterth Maes Glo De Cymru, y mwyaf ym Mhrydain ar y pryd

1999

Adeiladu Stadiwm

Principality Caerdydd i gynnal rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ym 1999

2013

Cynnal Expo Cerddoriaeth y Byd (Womex) yng Nghaerdydd

1890

Adeiladu Wal yr

Anifeiliaid y tu allan i Gastell Caerdydd

1916

Ganwyd Roald Dahl yn Llandaf, Caerdydd

1891

Adeiladu Marchnad Caerdydd, adeilad rhestredig Gradd II*

2022

Caerdydd yn cynnal sioe gyntaf WWE yn y DU ers 30 mlynedd

2000

Agor Morglawdd Bae Caerdydd fel rhan o brosiect adfywio mawr ym Mae Caerdydd

2014

Cynnal Uwchgynhadledd NATO yn y rhanbarth

1927

Adeiladu’r Amgueddfa Genedlaethol yn ei chartref eiconig yng nghanol y Ganolfan Ddinesig

2005

Doctor Who yn dychwelyd i’r sgrin deledu, ac yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd

2015

Caerdydd yn cynnal 8 gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015

2024

Cynnal Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd am y tro cyntaf

2025

Caerdydd yn dathlu pen-blwydd platinwm fel Prifddinas Cymru

CROESO I GAERDYDD

Castell Caerdydd

Fel prifddinas Cymru, mae

Caerdydd yn gyrchfan wych ar gyfer ymweliadau grŵp. Gyda mwy na 20 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, mae

Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o atyniadau a gweithgareddau unigryw, yn ogystal ag adloniant o’r radd flaenaf a dewis eang o lety.

Ymhlith uchafbwyntiau unrhyw ymweliad mae Canolfan Mileniwm Cymru a’r

Stadiwm Principality byd-enwog. Mae’r ddau leoliad yn cynnig teithiau tywys a phrisiau arbennig i grwpiau.

Y tlws mwyaf yng nghoron y ddinas yw Castell Caerdydd, sy’n cynnig teithiau

tywys o amgylch yr ystafelloedd Neogothig Fictoraidd yn ogystal â’r cyfle i fwynhau gwledd Gymreig draddodiadol a noson o adloniant yn yr is-grofft canoloesol – blas go iawn ar Gymru.

Mae’r uchod i gyd o fewn yr un filltir sgwâr yng nghanol dinas Caerdydd ochr yn ochr â gwestai moethus, rhwydwaith o arcedau a chanolfannau siopa a dewis eang o fwytai, bariau a chaffis.

Os ydych chi’n chwilio am ddinas unigryw y gall eich cwsmeriaid ei harchwilio, croeso i Gaerdydd.

CANOL Y DDINAS

Parc Bute

Mae canol y ddinas yn llawn dop o bethau gwych i’w harchwilio...

CASTELL CAERDYDD

Un o brif atyniadau treftadaeth Cymru, ac ni ddylid ei golli. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael taith o amgylch tiroedd y Castell a’r ardaloedd byw Fictoraidd ysblennydd. Ar hyd y ffordd, dysgwch fwy am deulu Bute – y diwydianwyr cyfoethocaf yn y byd ar un adeg!

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Peidiwch ag anghofio ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan un o gasgliadau celf gorau Ewrop, casgliadau hanes natur a daeareg, ac arddangosfeydd dros dro. Ac ar ben hynny, mae mynediad am ddim.

TEITHIAU STADIWM PRINCIPALITY

Does yr un daith i Gaerdydd yn gyflawn heb o leiaf un gweithgaredd rygbi. Dysgwch beth sy’n digwydd yn y cefndir yn y stadiwm 74,000 sedd, cartref rygbi Cymru. Ymunwch â thaith y tu ôl i’r llenni, gan gynnwys ystafell y wasg ac ystafelloedd lletygarwch VIP. Neu os ydych chi’n chwilio am antur, rhowch gynnig ar Scale a dewiswch o blith cerdded ar do’r stadiwm, weiren wib neu gwymp (neu gwnewch y tri).

PARC BUTE

Mwynhau mynd am dro bach tawel a hamddenol? Mae Parc Bute, y tu ôl i Gastell Caerdydd, yn cynnig ardal helaeth o barcdir aeddfed, gyda nifer o nodweddion chwarae naturiol, canolfan addysg a chyfoeth o arddwriaeth a bywyd gwyllt. Mae sawl caffi yno hefyd i chi gael coffi a thamaid i’w fwyta ar hyd y ffordd.

TEITHIAU BBC CYMRU WALES

Ydych chi erioed wedi meddwl sut caiff effeithiau sain eu rhoi ar eich hoff bodlediadau? Neu sut brofiad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’r tywyswyr ar daith unigryw y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Ewch i’r stiwdios teledu a radio o’r radd flaenaf i ddarganfod cyfrinachau gwneud rhaglenni’r BBC.

AMGUEDDFA CAERDYDD

Galwch draw i’r amgueddfa am ddim lle caiff ymwelwyr ddysgu am stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl. Mae’r amgueddfa’n adrodd hanes trawsnewid Caerdydd o dref farchnad fechan yn y 1300au i un o borthladdoedd mwyaf y byd yn y 1900au, i’r brifddinas cŵl cosmopolitan rydym yn adnabod heddiw.a small market town in the 1300s, to one of the world’s biggest ports in the 1900s, to the cool, cosmopolitan capital we know today.

BAE CAERDYDD GWELD A GWNEUD

Lle gwych, heb os nac oni Bae!

Gynt yn ddociau diwydiannol, bellach mae’n ardal fywiog ar lannau llyn dŵr croyw golygfaol. Ewch am dro i fwynhau’r olygfa hardd o’r Morglawdd, edmygu’r darnau niferus o gelf gyhoeddus, neu ddarganfod natur yn y Warchodfa Gwlyptiroedd.

Y SENEDD

Eisiau dysgu mwy am sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu? Mae’r Senedd ar agor i ymwelwyr ac mae’n gartref i’r siambr drafod ac ystafelloedd pwyllgora. Gallwch hyd yn oed wrando ar y trafodaethau o’r oriel gyhoeddus.

CANOLFAN MILENIWM CYMRU

Mae’r gyrchfan gelfyddydol a diwylliannol eiconig hwn yn cynnwys theatr fawr sy’n cynnal sioeau arobryn, ochr yn ochr â mannau digwyddiadau cyffrous gan gynnwys bar caffi Ffwrnais a Cabaret. Cymerwch gipolwg ar eu Digwyddiadur neu ymunwch ag un o’r teithiau cefn llwyfan rheolaidd.

MORGLAWDD BAE CAERDYDD

Yn berffaith i fynd am dro bach hamddenol neu daith ar gefn beic, mae’r Morglawdd mewn safle morol trawiadol ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Fae Caerdydd ac Aber Afon Hafren. Diolch i’r graddiant gwastad a dim grisiau, mae’n hygyrch i ymwelwyr.

TECHNIQUEST

Darganfyddwch wyddoniaeth yn

Techniquest a rhowch eich meddwl ar waith gydag arddangosiadau trawiadol lle gallwch lansio roced, suddo llwyfan olew, symud hanner tunnell o wenithfaen ac wedyn syllu ar y sêr! Gorau oll, mae’n cynnig hwyl a sbri i oedolion a phlant.

TEITHIAU CWCH

Ewch i’r Glannau ar gyfer amrywiaeth o deithiau cwch – gwibiwch o amgylch y Bae ar gwch cyflym, codwch hwyliau i ymweld ag Ynys Echni, cymerwch fws dŵr i ganol y ddinas neu ewch am daith hamddenol o amgylch yr harbwr.

AWGRYM ARBENNIG

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â’r ardal drwy dalu am dywysydd teithiau. Aelodau Sefydliad Swyddogol Tywyswyr Teithiau Cymru yw’r unig dywyswyr a gydnabyddir i allu cynnal teithiau tywys yng Nghymru. Gallant gynnig tywyswyr Bathodyn Glas hyfforddedig, proffesiynol a phrofiadol, a fydd yn eich helpu i wneud eich taith yn fwy diddorol. Ewch i: walesbestguides.com

PENTREF CHWARAEON RHYNGWLADOL GWELD

Ar lan y llyn dŵr croyw a grëwyd gan Forglawdd Bae Caerdydd, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yw’r lle perffaith ar gyfer eich antur nesaf.

CANOLFAN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Mae Canolfan DGRhC yn gyfleuster antur cyffrous sy’n cynnig yr unig gwrs rafftio dŵr gwyn ar alw yng Nghymru. Gall ymwelwyr ymgymryd ag amrywiaeth o chwaraeon dŵr gan gynnwys rafftio, caiacio, padlfyrddio a mwy!

PWLL RHYNGWLADOL CAERDYDD A CHAMPFA

Sblasiwch o gwmpas ar y sleidiau ac yn yr afon araf yn y pwll hamdden, neu plymiwch i’r dŵr ar gyfer sesiwn nofio yn y pwll 50m trawiadol. Mae campfa o’r radd flaenaf ar gael i’w defnyddio ar sail ‘talu wrth fynd’ hefyd.

ARENA VINDICO

P’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n ddarpar gystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, mae’r sesiynau sglefrio cyhoeddus yn ffordd wych o gael hwyl ar yr iâ. Mae’r adeilad hefyd yn gartref i’r Cardiff Devils, tîm proffesiynol yn y Gynghrair Hoci Iâ Elît.

FUN HQ

Y diweddaraf yn y detholiad o weithgareddau antur yn yr ardal. Mae’r atyniad hwn, sydd wedi’i leoli yn Arena Vindico, yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ‘clipio a dringo’ hwyliog a lliwgar sy’n addas i bobl o bob oed a gallu.

LLWYBR BAE CAERDYDD

Mae’r llwybr cylchol hwn i gerddwyr a beicwyr yn 10km (6.2 milltir) o hyd. Mae’n ymestyn o amgylch y Bae a draw i dref glan môr Penarth dros Bont y Werin, pont 140m sy’n cynnig cyswllt i gerddwyr a beicwyr rhwng Penarth a’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

YN YR ARDAL GWELD A GWNEUD

Tŵr Zip World, Hirwaun

Ychydig y tu allan i Gaerdydd mae yna lawer o atyniadau eraill i’w darganfod, sydd o fewn pellter byr ac yn hawdd eu cyrraedd i grwpiau ar goetsis.

AMGUEDDFA WERIN CYMRU

SAIN FFAGAN

Dim ond taith fer mewn car o ganol y ddinas, Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio hanes drwy fywydau bob dydd pobl ac i gael cip y tu mewn i adeiladau sydd wedi’u rhewi mewn amser. Ymwelwch â Ffermdy Abernodwydd neu Swyddfa Bost

Blaenwaun – a hyd yn oed siop pysgod a sglodion pan fydd chwant bwyd arnoch.

PROFIAD Y BATHDY BRENHINOL

Ewch i Lantrisant i ddatgloi 1,100 mlynedd o hanes ac archwilio’r broses hynod ddiddorol o fathu darnau arian, o baratoi disgiau metel plaen i daro eich darn arian eich hun. Mynd â’r plant? Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn cynnal digwyddiadau addysgol difyr i’r teulu cyfan yn rheolaidd.

GWESTY’R FRO A CHASTELL HENSOL

Mae Gwesty’r Fro wedi’i leoli yng nghanol 650 erw o gefn gwlad hardd, ac mae’n cynnig profiad golff, sba a hamdden pedair seren. Ar y safle hefyd fe welwch

Ddistyllfa Castell Hensol, sef y ddistyllfa jin raddfa lawn gyntaf yn ne Cymru, yn

ogystal â’i phrofiad i ymwelwyr, ysgol jin a ffatri botelu.

GO APE

P’un a ydych yn dwlu ar gyffro ac yn chwilio am hwyl llawn antur neu eisiau treulio rhywfaint o amser arbennig gyda ffrindiau a theulu, mae ganddyn nhw’r antur i chi. Dim ond 40 munud i ffwrdd o Gaerdydd, mae’n ddiwrnod allan gwych. Yn ogystal â chroesfannau pennau coed a gwifrau gwib cyflym iawn, mae Margam yn ymfalchïo yn siglen Tarzan fwyaf

Go Ape.

GERDDI DYFFRYN

Yn werddon heddychlon ar gyrion

Caerdydd, mae gan Gerddi Dyffryn rywbeth newydd i’w ddarganfod ar bob ymweliad, o ystafelloedd gardd cywrain ar themâu penodol i lawntiau ffurfiol helaeth. Mae’r gerddi’n cynnwys nifer o wahanol arddulliau wedi’u hysbrydoli gan wledydd ledled y byd, o ddylanwad Eidalaidd adnabyddus yn yr Ardd Bompeiaidd i’r planhigion â natur debyg i goedwig law yn yr Ardd Ecsotig.

RHONDDA CYNON TAFF

Ymwelwch â’r cymoedd a’r bryniau enwog i ddarganfod diwrnodau unigryw allan yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Lido Cenedlaethol Cymru a Zip World. Mwynhewch daith flasu yn nistyllfa wisgi fyd-enwog Penderyn neu ymlaciwch a blasu’r bwyd penigamp yn y bwytai a chaffis niferus.

BWYD A DIOD DARGANFOD

Caerdydd yw’r gyrchfan ddelfrydol ar gyfer mwynhau prydau bwyd amrywiol gyda blas Cymreig iddynt. I helpu gyda’ch penderfyniad, dyma ychydig o lefydd sy’n arbennig o boblogaidd…

LÔN Y FELIN

Yr ardal fywiog hon o’r ddinas yw’r lle i fynd ar gyfer bwyd gwych a choctels blasus. Mwynhewch brydau Eidalaidd go iawn yn Giovannis, neu ewch i Bill’s am frecinio drwy’r dydd, crempogau diddiwedd, a hyd yn oed bwydlen i gŵn. Mae Browns yn cynnig ffefrynnau tymhorol a chlasuron Prydeinig, o gimwch a Chateaubriand i de prynhawn a brecinio champagne. Am naws Ladinaidd, mae Las Iguanas yn cynnig seigiau poeth a 2 goctel am bris 1, tra bod Côte Brasserie yn cynnig bwyd Ffrengig o’r radd flaenaf. Gorffennwch y noson yn Barbara’s, sydd ar agor tan 3am, gyda gwydrau mawr o gwrw ac awyrgylch après-ski bywiog.

Y STRYD FAWR

Ardal fywiog llawn bwyd, diod ac awyrgylch, a hynny dim ond camau o’r castell. Mae Nomad yn cynnig bwydlen feiddgar o blatiau bach amrywiol o bedwar ban byd, sy’n berffaith ar gyfer bwytawyr anturus. Mae’r Welsh House yn cynnig awyrgylch cynnes a chroesawgar gyda bwyd traddodiadol Cymreig, sy’n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol hamddenol. Mae Temple Bar yn cadw’r egni’n uchel gyda cherddoriaeth fyw a thorf fywiog. Mae Gin and Juice yn cynnig coctels botanegol a brecinio blasus. Tra bod Pasture yn darparu stêcs o’r radd flaenaf wedi’u coginio dros griliau golosg, ac wedi’u gweini mewn lleoliad cegin agored. P’un a ydych chi’n chwilio am ginio hamddenol neu noson allan fawr, mae’r Stryd Fawr yn cynnig profiad arbennig yng nghanol y ddinas.

STRYD YR EGLWYS

Yn dilyn datblygiad diweddar, mae’r stryd hon bellach yn un o’r lleoedd gorau i fynd am fwyd da yng nghanol y ddinas. O goctels adfywiol i fwyd stryd i fwyd o bob cwr o’r byd – dyma’r lle i fod ar gyfer ystod amrywiol o wleddoedd blasus. Mae Stryd yr Eglwys yn ymfalchïo mewn llawer o enwau adnabyddus fel The Botanist, Honest Burgers a Pho, yn ogystal ag ambell i fwyty annibynnol poblogaidd fel Café Citta. Ewch am dro i lawr y stryd brysur y tro nesaf mae chwant bwyd arnoch – cewch chi ddim eich siomi.

MARCHNAD CAERDYDD

Dyma galon y ddinas, lle gallwch flasu cynnyrch ffres mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar. Gan fasnachu ers y 1700au, mae’r Farchnad o hyd yn llawn busnesau annibynnol lleol sy’n gwerthu bwyd traddodiadol Cymreig, coffi crefft a bwyd stryd fel Ffwrnes Pizza. A chofiwch, dyw taith i Gaerdydd ddim yn gyflawn heb fwynhau pice ar y maen o Cardiff Bakestones.

CEI’R FÔR-FORWYN

Ar gyfer cinio gyda golygfa o’r dŵr, mae Cei’r Fôr-Forwyn yn anodd ei guro gyda mwy na 30 o fwytai, caffis a bariau. Beth am ymweld â’r Botanist am ddiodydd ar ôl gwaith, neu i gael cinio gyda’r teulu, a mwynhau’r thema garddwriaethol hamddenol. Ar frys? Galwch heibio i Full Fat Social i gael coffi neu fyrbryd blasus i fynd. Mae Coffi Co yn cynnig lleoliad gwych ac awyrgylch unigryw ar lan y dŵr. Mwynhewch noson ffilm gyda gwahaniaeth yn sinema Everyman, a newidiwch eich diod feddal am wydraid o win coch a sleisen o pizza ffres.

DARGANFOD

SIOPA

Dinas yr Arcêd

Yn galw ar bawb sy’n caru siopa!

Mae gan Gaerdydd y cyfan: siopau adrannol, brandiau dylunwyr a ffefrynnau’r stryd fawr. Y peth gwych am siopa yng nghanol y ddinas yw bod y rhan fwyaf ohono’n agos at ei gilydd ac i gerddwyr yn unig, felly mae’n hawdd iawn mynd o gwmpas y lle.

ARCEDAU HANESYDDOL

Uchafbwyntiau go iawn y sîn manwerthu yw’r arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd, sy’n llawn siopau a chaffis annibynnol, ac mae’n werth ymweld â nhw i edrych ar y bensaernïaeth anhygoel os dim byd arall! Mae Jian Chen’s FINE ART yn gwerthu lluniau difyr a lliwgar o olygfeydd Caerdydd – ewch â darn bach o Gaerdydd adref â chi!

MARCHNAD CAERDYDD

Mae Marchnad Caerdydd yn adeilad Fictoraidd trawiadol, ac mae wedi bod yn masnachu ers y 1700au. O dan y to

gwydr syfrdanol fe welwch gyfoeth o gynhyrchion gan gynnwys bwyd stryd, coffi crefft, dillad ail-law, a chynnyrch ffres. Beth am fynd i Kelly’s Records ar y balconi uchaf? Wedi’i sefydlu ym 1969, mae’n gwerthu finyl prin a chasgladwy –efallai y byddwch chi’n dod o hyd i drysor cudd!

CANOLFAN DEWI SANT

Dewch i siopa nes i chi flino’n lân, a’r cyfan o dan un to. Y ganolfan siopa hon yw prif gyrchfan siopa Cymru, gyda miliynau o ymwelwyr yn llifo drwy’r drysau bob blwyddyn. Mae ei chymysgedd o frandiau dylunwyr a’r gorau o’r stryd fawr yn golygu mai Dewi Sant yw’r lle perffaith i fynd i fodloni angerdd am ffasiwn.

HEOL Y FRENHINES

Crwydrwch ar hyd Heol y Frenhines a’r Ais, sydd i gerddwyr yn unig, i ddod o hyd i amrywiaeth o frandiau enwog y stryd fawr.

Marchnad Caerdydd

DINAS GERDD DARGANFOD

GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD

Bydd cerddoriaeth a pherfformiadau sy’n gwthio ffiniau yn llenwi neuaddau cyngerdd, clybiau a lleoliadau dros dro yng Nghaerdydd bob hydref wrth i Ŵyl Dinas Gerdd arloesol Caerdydd greu trac sain i’r ddinas. Bydd artistiaid sefydledig, arwyr tanddaearol a sêr newydd o Gymru yn llenwi rhaglen sy’n cyfuno genres, a fydd hefyd yn cynnwys yr arddangosfa gerddoriaeth newydd Sŵn, wythnos gelfyddydol ryngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, Llais, a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog. I gael mwy o wybodaeth, ewch i. dinasgerddcaerdydd.cymru

Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o hunaniaeth a hanes Caerdydd. Mae’n ddinas sy’n falch iawn o ddathlu ei thalent newydd arloesol, tra hefyd yn croesawu artistiaid rhyngwladol mawr.

Gan gynnig amrywiaeth o gerddoriaeth fyw o’r radd flaenaf ar draws llwyfannau llawr gwlad, neuaddau cyngerdd, a sioeau stadiwm anhygoel, mae Caerdydd yn ganolfan gyffrous ac egnïol ar gyfer diwylliant ac adloniant.

LLEOLIADAU

CERDDORIAETH ALLWEDDOL

STADIWM PRINCIPALITY

Mae rhai o’r sioeau byd-eang gorau yn digwydd yn y stadiwm eiconig hon yng nghanol dinas Caerdydd, a does dim byd tebyg i gynulleidfa ym mhrifddinas Cymru! Yn ddiweddar, mae ffans o bob cwr o’r blaned wedi mwynhau Oasis, Taylor Swift, Bruce Springsteen, Kendrick Lamar, Foo Fighters a Stereophonics i enwi ond ychydig...

ARENA UTILITA CAERDYDD

Lleoliad amlbwrpas Caerdydd, a’r lle i fynd i weld yr enwau mwyaf o fyd cerddoriaeth, comedi a chwaraeon!

Y NEUADD FAWR

Neuadd gyngerdd enwog gyda lle i 1,500 o bobl, wedi’i leoli ar y llawr cyntaf yn adeilad Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

CLWB IFOR BACH

Lleoliad annibynnol sydd wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru ers dros 40 mlynedd, mae Clwb yn cynnig y gerddoriaeth orau o Gymru a thu hwnt i’w dorf ac yn rhoi cyfleoedd i filoedd o egin artistiaid ddatblygu eu crefft.

TRAMSHED

Nid dim ond pensaernïaeth Gradd II yr hen ddepo tramiau hwn sy’n ei wneud yn lleoliad cerddoriaeth unigryw. Mae’r lleoliad cerddoriaeth a chelfyddydau bywiog ac amlbwrpas wedi meithrin enw da, gan gynnal popeth o roc i reggae, ac o gomedïwyr i nosweithiau clwb.

PORTER’S

Lleoliad bywiog ac amrywiol sy’n cynnig adloniant am ddim drwy gydol yr wythnos. Croeso cynnes, awyrgylch gwych a man cyfarfod llawn cymeriad a hwyl.

DEPOT

Lleoliad amlbwrpas a chreadigol yng Nghaerdydd, sy’n cynnal gwyliau, dangosiadau, partïon, cerddoriaeth fyw a mwy.

Ar ben hynny, mae lleoliadau eraill na ddylid eu colli yn cynnwys CULTVR, Fuel, The Canopi, The New Moon, Tiny Rebel a Paradise Garden.

MANNAU AGORED YN YR HAF

Yn ystod misoedd yr haf, mae Caerdydd yn croesawu rhai o gerddorion mwyaf y byd i’n meysydd glas a thiroedd y castell yng nghanol y ddinas. Yn 2025, roedd y perfformwyr mawr hyn yn cynnwys Stevie Wonder, Alanis Morissette, Fontaines DC, Sting a Noah Kahan.

Yn y brifddinas fywiog hon, mae Carnifal Butetown yn dathlu amrywiaeth a diwylliannau unigryw Tiger Bay, mae Tafwyl yn dathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg y ddinas, ac mae Pride Cymru yn parhau i dyfu fel digwyddiad diwylliannol mawr sy’n dathlu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+.

CHWARAEON YNG NGHAERDYDD

Clwb Criced Morgannwg

Mae Caerdydd wedi cael ei rhoi ar y map o ran chwaraeon diolch i Gwpan Rygbi’r Byd 2015, Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017, Ras Fôr Volvo 2018, a WWE Clash at the Castle yn 2022. Boed ydych chi am wylio neu chwarae, mae’n anodd curo cynnig chwaraeon Caerdydd!

UNDEB RYGBI CYMRU

Mae’r brifddinas yn gartref i dîm rygbi Cymru. Beth am gael taith dywys o amgylch y stadiwm, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “lleoliad rygbi gorau’r byd” –yn sicr ni ddylid ei golli.

RYGBI CAERDYDD

Tîm rygbi undeb proffesiynol llwyddiannus sy’n cystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac yn chwarae eu gemau cartref ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Mae eu cefnogwyr angerddol yn heidio i Barc yr Arfau i wylio eu gemau o dan gysgod Stadiwm Principality.

DREIGIAU CAERDYDD

Dyma un o’r timau sy’n cystadlu yn Uwch Gynghrair Pêl-rwyd y DU. Yr unig dîm o Gymru yn y gynghrair nodedig hon, mae’r Dreigiau’n cyfuno’r chwaraewyr

gorau o bob rhan o Gymru â chymysgedd o dalent ryngwladol.

CLWB PÊL-DROED DINAS CAERDYDD

Mae gan glwb pêl-droed y brifddinas dros 100 mlynedd o hanes. I’w cefnogwyr, nhw yw eu Hadar Gleision annwyl. Ers 2009, maen nhw wedi chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Awydd ymweld a sefyll wrth ymyl y cae? Mae teithiau ar gael.

CARDIFF DEVILS

Mae’r Cardiff Devils yn dîm hoci iâ proffesiynol sy’n cystadlu yn y Gynghrair Elît ac yn chwarae’u gemau cartref yn Arena Vindico ym Mae Caerdydd. Os ydych chi eisiau cael profiad o ddigwyddiad chwaraeon gwahanol iawn, gwelwch ddyddiadau eu gemau o Awst i fis Mawrth.

CLWB CRICED MORGANNWG

Mae Caerdydd yn hen gyfarwydd â chriced – cynhaliwyd rhai gemau Cwpan Criced y Byd ICC yn y ddinas yn 2019. Rydym hefyd yn gartref i Glwb Criced Morgannwg, yr unig glwb dosbarth cyntaf yng Nghymru, sy’n chwarae eu gemau cartref yng Ngerddi Sophia yng nghanol y ddinas.

Gêm Rygbi Cymru, Heol y Porth

GWESTAI DARGANFOD

voco Dewi Sant, Caerdydd gan IHG

Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, mae yna bob amser lu o opsiynau yng Nghaerdydd, ac nid yw ein dewis eang o lety yn eithriad, gyda gwestai gwych ar gyfer bob math o grwpiau a chyllidebau.

Gall gwesteion aros mewn gwesty yng nghalon y ddinas, gyda siopau, adloniant ac atyniadau y mae’n rhaid eu gweld byth yn rhy bell i ffwrdd; neu gallant fwynhau’r

Bae hardd sy’n hawdd ei gyrraedd.

CLAYTON

Gwesty modern 4* wedi’i leoli’n ganolog ger yr orsaf drenau ac yn agos at y golygfeydd mwyaf eiconig.

EASYHOTEL

Wedi’i leoli i’r dwyrain o ganol y ddinas, o fewn pellter cerdded i’r prif atyniadau.

FUTURE INN

Gwesty 4* ym Mae Caerdydd gydag ystafelloedd mwy, bwyty, bar a pharcio am ddim.

HILTON

Gwesty a fu’n destun gwaith adnewyddu gwerth £11m yn ddiweddar, wedi’i leoli gyferbyn â Chastell Caerdydd ac yn cynnig dewisiadau hamdden, bwyd a diod helaeth.

HOLIDAY INN CANOL DINAS

CAERDYDD GAN IHG

Gwesty modern, hygyrch sy’n edrych dros wal anifeiliaid Castell Caerdydd a Stadiwm Principality, ac sydd â maes parcio.

HOLLAND HOUSE HOTEL CARDIFF BY SUNDAY

Gwesty mawr 4* ger Heol y Frenhines sy’n cynnig sba a’r gofod digwyddiadau mwyaf mewn gwesty yng Nghaerdydd.

HOTEL INDIGO GAN IHG

Gwesty modern wedi’i leoli mewn arcêd siopa hanesyddol yng nghanol y ddinas, oddi ar Heol y Frenhines.

GWESTY LEONARDO

Mae’r gwesty traddodiadol hwn sydd wedi’i leoli yn y brif ardal siopa, ac wrth ymyl y Theatr Newydd, yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd eang.

MARRIOTT

Gwesty mawr 4* mewn lleoliad canolog, ger canolfan siopa fawr Dewi Sant a Lôn y Felin sy’n llawn awyrgylch.

NOVOTEL

Gwesty 4* gyda phwll ac ystafell ffitrwydd, parcio ar y safle, golygfeydd o Ddoc Dwyreiniol Bute, ac atyniadau o fewn pellter cerdded.

PARK PLAZA

Gwesty bwtîc wedi’i leoli’n agos iawn at y ganolfan ddinesig, ac yn cynnig sba moethus a phwll nofio.

GWESTY’R PARKGATE

Gwesty 5* wrth ymyl Stadiwm Principality, lle mae swyn traddodiadol yn cwrdd â steil modern, a bwyty arobryn.

VOCO DEWI SANT GAN IHG

Gwesty moethus ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, gyda sba a bwyty ar y safle, sy’n defnyddio cynnyrch Cymreig o’r safon gorau.

TEITHIO A PHARCIO CYRRAEDD YMA

TEITHIO I GAERDYDD

Mae Caerdydd yn ddinas hawdd ei chyrraedd, dim ots sut y byddwch yn teithio yma. O’n rheilffordd gyflym, ein maes awyr rhyngwladol i’r rhwydwaith traffyrdd cysylltiedig.

Dylai grwpiau sy’n teithio ar goetsis o’r dwyrain ddilyn traffordd yr M4 a chymryd cyffordd 29, a dylai’r rhai sy’n teithio o’r gorllewin gymryd cyffordd 33. Gall y rhai sy’n dod o’r gogledd ddilyn yr A470 i ganol y ddinas. O ble bynnag rydych chi’n dod, fe gyrhaeddwch chi ganol y brifddinas mewn dim o dro.

CANOL DINAS CAERDYDD

Mae man gollwng a chasglu pwrpasol i goetsis y tu allan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (am ddim ac yn hygyrch o’r naill gyfeiriad neu’r llall).

Mae yna hefyd fan gollwng a chasglu y tu allan i faes parcio Stablau’r Castell (am ddim ac yn ddelfrydol i’r rhai sy’n dod o’r

gorllewin), gyda mynediad hawdd i Borth Gogleddol Castell Caerdydd.

Er mwyn parcio am gyfnodau hirach, defnyddiwch ochr chwith y baeau i goetsis yng Ngerddi Sophia (talu), neu Heol Corbett (am ddim) fel dewis arall.

BAE CAERDYDD

Y lleoedd gorau i ollwng a pharcio yw tu ôl i Crefft yn y Bae (am ddim) a thu allan i Premier Inn Bae Caerdydd (am ddim), ill dau’n dafliad carreg o Ganolfan Mileniwm Cymru. Dylid osgoi’r safle bws y tu allan i Ganolfan y Mileniwm gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan Fws y Bae a bysiau lleol eraill.

FFYRDD ERAILL O DEITHIO

Wyddoch chi y gallwch chi hefyd llogi eich cerbyd Great Western Railway eich hun?

Mae digonedd o leoedd i barcio coetsis yng Nghaerdydd, felly ar sail y cyntaf i’r felin maen nhw ac ni ellir eu harchebu ymlaen llaw. Darganfyddwch fwy am barcio a gwasanaethau i goetsis yn Traffordd yr M4, Pont Tywysog Cymru

www.croesocaerdydd.com/grwpiau-bysiau

DIWRNOD 1 CANOL Y DDINAS

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gyda chymaint i’w wneud, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Dyma daith deuddydd enghreifftiol sy’n tynnu sylw at leoedd y gallwch ymweld â nhw’n hawdd yn yr amser hynny.

Gollwng y tu allan i’r Amgueddfa

Genedlaethol a pharcio ar Heol Corbett. Dechrau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n agor am 10am.

AMGUEDDFA

GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mynediad am ddim Trefnwch ymlaen llaw | 1.5 awr

Archwiliwch yr orielau helaeth, lle byddwch yn gweld darnau gan

Botticelli a Rembrandt, ochr yn ochr ag amrywiaeth o arddangosfeydd a rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau.

AMSER CINIO YNG NGHAERDYDD

O fan hyn, ewch am dro byr i ganol y ddinas i fwynhau cinio neu i brynu cofrodd Gymreig i fynd adref gyda chi. P’un a ydych chi’n penderfynu mynd i Farchnad Caerdydd am bice ar y maen, Tiny Rebel i flasu cwrw Cymreig, tafarn gastro Daffodil am bryd o fwyd o gynnyrch lleol, neu fwyty fel The Ivy am ginio preifat, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n addas i’ch grŵp a’ch cyllideb (tud 18-19).

Byddwch hefyd yng nghalon yr ardal siopa – ewch i archwilio’r siopau annibynnol yn yr Arcedau Fictoraidd

ac Edwardaidd hanesyddol a thrawiadol, a dewch o hyd i frandiau enwog yn un o ganolfannau siopa gorau’r DU, Canolfan Dewi Sant (tud 20-21).

Yn y prynhawn ymwelwch â Chastell Caerdydd.

CASTELL CAERDYDD

Tocynnau | Archebwch ymlaen llaw | 2 awr

Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, ger rhai o’r prif arcedau siopa, mae’r Castell 2000 mlwydd oed yn atyniad y mae’n rhaid ei weld. Crwydrwch o amgylch rhai o adeiladau Fictoraidd gorau’r DU, dringwch y Gorthwr Normanaidd, a cherddwch drwy’r llochesau rhyfel. Gostyngiadau ar gael i grwpiau.

O 4pm, cofrestrwch yn eich gwesty.

COFRESTRU

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yn y ddinas ac archebwch arhosiad dros nos yn un o’r gwestai niferus sy’n croesawu grwpiau mawr (tud 26-27).

ADLONIANT

Ar gyfer eich adloniant gyda’r nos, ewch i weld sioe yn y Theatr Newydd neu Arena Utilita Caerdydd, neu ewch i Wledd Gymreig yn Cornerstone. Neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth arbennig, gofynnwch i Gastell Caerdydd am eu ciniawau 3 chwrs i grwpiau yn y Neuadd Wledda odidog.

Castell
Caerdydd

DIWRNOD 2 BAE CAERDYDD AMSERLEN

Ar ôl brecwast, neidiwch ar eich bws a theithiwch y pellter byr i Fae Caerdydd.

Gollwng a pharcio ger Canolfan

Mileniwm Cymru. Dechreuwch yn y Senedd, sy’n agor am 9am yn ystod yr wythnos ac am 10:30am ar ddydd Sadwrn.

Y SENEDD

Mynediad am ddim

Trefnwch ymlaen llaw | 1.5 awr

Un o’r adeiladau seneddol mwyaf ecogyfeillgar yn y byd, mae’r Senedd yn gartref i’r Siambr (y siambr drafod) ac ystafelloedd pwyllgora gydag orielau gwylio cyhoeddus. Darganfyddwch hanes Senedd Cymru a’u hadeilad trawiadol trwy archebu taith gyda thywysydd.

Y GLANNAU

Gyda rhywfaint o amser rhydd i archwilio, gall ymwelwyr fynd i’r glannau a mynd ar daith mewn cwch (yn amodol ar y tywydd). Neidiwch ar un o’r cychod sy’n mynd â chi o amgylch y Bae, neu os oes mwy o amser gennych, beth am deithio’n ôl i ganol y ddinas ar fws dŵr y Dywysoges Katherine?

PIERHEAD

Gyda’i dŵr cloc adnabyddus, mae mynediad i adeilad y Pierhead yn rhad

ac am ddim, ac mae’n cysylltu’r Bae modern â’i dreftadaeth fel ardal ddociau. Mwynhewch ei raglen o arddangosfeydd dros dro a ffilm fer.

AMSER CINIO YM MAE CAERDYDD

Ewch i gael diod a rhywbeth i fwyta yn un o’r bariau a bwytai yng Nghei’r FôrForwyn sy’n cynnig golygfeydd o’r dŵr, fel y Dock a’r Botanist.

Yn y prynhawn ymwelwch â Chanolfan Mileniwm Cymru am 1pm.

CANOLFAN MILENIWM CYMRU

Teithiau am dâl Archebwch ymlaen llaw | 1.5 awr

Mae’r adeilad eiconig hwn wedi cynnal sioeau cerdd byd-enwog, cynyrchiadau

Cymreig newydd, ac mae’n gartref i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae mynediad am ddim, a gall ymwelwyr fynd i’r bar caffi neu fwynhau arddangosfeydd tymhorol. Ond y ffordd orau o’i gweld yw drwy archebu taith y tu ôl i’r llenni lle gallwch gerdded yn olion traed y sêr neu weld pa sioeau sy’n cael eu perfformio yn ystod eich arhosiad. Gostyngiadau ar gael i grwpiau.

Dim ond sampl o’r hyn sydd ar gael yw hwn. Am atyniadau eraill gan gynnwys Stadiwm Principality a theithiau o amgylch adeilad y BBC, ewch i www.croesocaerdydd.com/gweld-gwneud

DIGWYDDIADAU GYDA

CWRDD YNG NGHAERDYDD

Ydych chi’n chwilio am ddinas i gynnal cynhadledd neu ddigwyddiad?

Mae’r tîm Cwrdd yng Nghaerdydd yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol a theilwredig ar gyfer pob agwedd ar y busnes cyfarfodydd, cynadleddau, cymhelliant a digwyddiadau mawr.

Os byddwch chi’n gweithio gyda’r tîm

Cwrdd yng Nghaerdydd, byddwch yn elwa o’r canlynol...

• Canfod lleoliadau a datblygu profiad y cynrychiolydd

• Sicrhau’r cyfraddau a’r dyraniadau llety gorau

• Darparu gwasanaeth archebu llety pwrpasol hawdd ei ddefnyddio i gynadleddwyr

• Cyflwyniadau i gyflenwyr lleol a’r pecynnau gorau i gefnogi eich digwyddiad

• Cymorth i baratoi dogfennau a chyflwyniadau cynnig

• Darparu deunyddiau marchnata i hyrwyddo Caerdydd ymhlith cynrychiolwyr y dyfodol

• Trefnu ymweliadau safle a chyngor ar deithiau rhithwir 3D

• Arbenigedd lleol a gwybodaeth am y diwydiant

• Marchnata digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a chymorth cyfryngau cymdeithasol

• Arbenigedd lleol a gwybodaeth am y diwydiant

Darganfyddwch fwy yn www.cwrddcaerdydd.com

DARGANFOD CAERDYDD DROSOCH EICH HUN

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook