Seesaw ar gyfer Ysgolion Cynradd Gwnewch ddysgu’n weladwy ar draws eich ysgol gyfan
Mae 1 o bob 4 ysgol yng Nghymru yn ymddiried yn Seesaw Mae Seesaw yn blatfform dysgu diogel ar gyfer yr ysgol gyfan, wedi’i ddatblygu ar gyfer ysgolion cynradd. Mae’n dod ag addysgu a dysgu, portffolios digidol, asesu a chyfathrebu â theuluoedd ynghyd, gan roi ffyrdd cynhwysol i bob dysgwr gymryd rhan a dangos yr hyn y mae’n ei wybod.
Mae athrawon yn cael darlun cliriach o ddealltwriaeth a chynnydd dysgwyr, tra bod arweinwyr yn cael gwell gwelededd ar draws dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn. Arweinwyr Ysgolion Disgyblion
Athrawon
Teuluoedd
Un platfform cysylltiedig ar gyfer eich ysgol gyfan Dangoswch yr Hyn Rydych yn ei Wybod Rhowch wahanol ffyrdd i bob dysgwr gael mynediad at ddysgu a dangos yr hyn y mae’n ei ddeall yn Gymraeg neu’n Saesneg, drwy lais, fideo, lluniau, arlunio a thestun. Tystiolaeth o Ddysgu a Chynnydd Cofnodwch ddysgu wrth iddo ddigwydd, gwiriwch ddealltwriaeth drwy asesu ffurfiannol a gwelwch gynnydd ar draws y cwricwlwm a thros amser.
Gwnewch ddysgu’n weladwy ar draws eich ysgol gyfan
Gwelededd ar Draws yr Ysgol Gyfan Gwelwch ddysgu a chynnydd ar draws dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn, gan helpu arweinwyr i nodi beth sy’n gweithio a lle mae angen cymorth. Cysylltu’r Ysgol a’r Cartref Rhowch gipolwg i deuluoedd ar ddysgu, gyda chyfathrebu wedi’i gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan eu helpu i ddeall cynnydd a chefnogi dysgu gartref.
Dysgwch Fwy
“
“
Mae Seesaw wedi helpu’r dysgwyr yn fy nosbarth i ddod yn fwy annibynnol o ganlyniad i’r offeryn asesu sy’n marcio’n awtomatig. Maen nhw’n gwneud mwy o ymdrech i geisio datrys pethau eu hunain yn hytrach na dod ataf i am sicrwydd. Mae’r adborth ar unwaith hefyd yn caniatáu iddyn nhw fyfyrio ar eu hymatebion, sy’n rhoi pwyntiau trafod i mi ar gyfer y dosbarth cyfan. - Garmon E., Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd
Gwnewch ddysgu’n weladwy ar draws eich ysgol gyfan
Dysgwch Fwy
“
I ni fel ysgol Gymraeg, mae Seesaw yn ein helpu i gadw cofnod o waith llafar ac yn galluogi rhieni i fod yn rhan o’r dysgu a gweld beth sy’n digwydd gydag addysg eu plentyn. Mae’n ein helpu i gysylltu â rhieni drwy anfon llythyrau a phosteri, gan ein gwneud yn ysgol sy’n defnyddio llai o bapur, helpu’r amgylchedd a lleihau costau i’r ysgol. - Siân T., YGG Ynyswen
“
Gweld pam mae ysgolion ledled Cymru yn dewis Seesaw