Skip to main content

Scouts Cymru Cymraeg

Page 1

Perthyn Archwilio Arwain Ysbrydoli Dylanwadu

Adroddiad Effaith 2025–26 Blwyddyn o gydnabyddiaeth, antur ac effaith ledled Cymru


Perthyn

Pan fydd pobl ifanc yn teimlo eu bod yn perthyn, maen nhw’n barod i archwilio.

Archwilio

Drwy feithrin chwilfrydedd ac annog archwilio, mae pobl ifanc yn darganfod yr hyder i arwain.

Arwain

Mae gwirfoddolwyr yn arwain drwy esiampl, gan roi’r ysbrydoliaeth a’r hyder i bobl ifanc gymryd yr awenau.

Ysbrydoli

Pan fydd gwirfoddolwyr yn ysbrydoli pobl ifanc, maen nhw’n dylanwadu ar eu cymunedau gyda’i gilydd.

Dylanwadu

A gyda’n gilydd, gallwn greu newid parhaol ledled Cymru.


“Yr hyn sy’n fy ysbrydoli fwyaf am Sgowtio yng Nghymru yw’r bobl sy’n gwneud i bethau ddigwydd wythnos ar ôl wythnos. Ledled y wlad, mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser, yn rhannu eu sgiliau ac yn creu cyfleoedd i bobl ifanc oherwydd eu bod yn credu yn yr hyn y gall Sgowtio ei gyflawni. Ein gwaith ni nawr yw sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u hysbrydoli yn yr un modd, oherwydd pan fydd ein gwirfoddolwyr yn ffynnu, mae ein pobl ifanc yn gwneud hynny hefyd.” Jon Williams, Prif Wirfoddolwr Cymru “Ymhlith fy nheulu a’m ffrindiau, y ddelwedd o Sgowtio yw pobl ifanc yn yr awyr agored, yn dysgu gweithio gyda’i gilydd ac yn gwneud ffrindiau a fydd yn para am flynyddoedd. Dydyn nhw ddim wastad yn sylweddoli i ba raddau mae ein pobl ifanc wrth wraidd ein prosesau gwneud penderfyniadau a llywodraethu, gan ddylanwadu ar ein meddylfryd a sicrhau bod Sgowtio yng Nghymru yn parhau i fod yn berthnasol i’w aelodau. Mae cael ymddiriedolwyr ifanc ar fyrddau ar lefelau Grŵp, Ardal, Rhanbarth a Cenedlaethol yn ein hatgoffa i gyd mai gwarchodwyr ScoutsCymru yn unig ydym ni, gyda dyletswydd i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu dod o hyd i’w hymdeimlad o berthyn.” Kirsty Palmer, Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr “Un o’r pethau rwy’n caru am Sgowtio yng Nghymru yw nad ydych chi byth yn gwybod yn iawn i ble y gall dweud ‘ie’ wrth gyfle eich arwain. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gweld pobl ifanc yn rhoi cynnig ar bethau nad ydyn nhw wedi’u gwneud o’r blaen, yn teithio i leoedd newydd, yn lleisio barn am faterion sy’n bwysig iddyn nhw ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau na fydden nhw efallai wedi dychmygu eu cyflawni o’r blaen. Pan fydd pobl ifanc yn gwybod bod eu syniadau’n cael eu cymryd o ddifrif a bod pobl yn ymddiried ynddyn nhw i arwain, mae eu hyder yn tyfu. Rydw i wrth fy modd ein gweld yn creu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru archwilio’r hyn y gallan nhw ei gyflawni.” Lowri Williams, Arweinydd Ieuenctid Cymru “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos beth sy’n bosibl pan fo ScoutsCymru yn hyderus ynghylch y gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud, ac yn barod i rannu’r stori honno y tu hwnt i’n sefydliad ein hunain. Rydym ni wedi cryfhau perthnasoedd â phartneriaid, codi ein proffil, dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc, a chreu cyfleoedd na fyddem ni wedi gallu eu cyflawni ar ein pennau ein hunain.” Kerrie Gemmill, Prif Swyddog Gweithredol, ScoutsCymru

1


Roedd 2025–26 yn flwyddyn nodedig wrth i ScoutsCymru Blwyddyn o ei ben-blwydd yn 100 oed – canrif o antur, sgiliau, gydnabyddiaeth, ddathlu cymuned ac archwilio. cyfle ac effaith Drwy gydol blwyddyn ein canmlwyddiant, parhaom i greu

cyfleoedd i bobl ifanc berthyn, archwilio, arwain, ysbrydoli a dylanwadu, gartref yng Nghymru ac ar hyd a lled y byd.

Ebrill Cafodd plant a phobl ifanc eu heithrio rhag y gyfradd is o’r Ardoll Llety Ymwelwyr yn dilyn ymgyrch dan arweiniad ScoutsCymru.

Hydref Enwyd ScoutsCymru yn Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2025.

Mai Cwblhaodd y gwirfoddolwr Scout gydol oes Gill Clay, 88 oed, daith gerdded ar adain awyren i ddathlu 100 mlynedd o Sgowtio yng Nghymru.

Tachwedd Cynrychiolodd Explorer Scouts Gymru yn y Parêd Coffa Cenedlaethol wrth y Senotaff.

Mehefin Daeth Diwrnod Hwyl Cubs Cymru Gyfan a Gwersyll Explorer AWESOME â phobl ifanc ynghyd o bob rhan o Gymru.

Rhagfyr Cyflwynodd Children & Young People Now daith ScoutsCymru tuag at ddod yn fudiad sydd wir yn cael ei arwain gan bobl ifanc.

Gorffennaf Ymunodd aelodau’r Network â’r World Scout Moot ym Mhortiwgal.

Ionawr Cyhoeddodd GlobalWelsh mai ScoutsCymru oedd ei Bartner Elusennol ar gyfer 2026.

Awst Y daith Explorer Belt gyntaf i Bafaria, gyda chefnogaeth Taith.

Chwefror Dewiswyd dau berson ifanc ar gyfer taith ryngwladol i Ghana drwy raglen Gwobr Scouts y Byd.

Medi Agorwyd ceisiadau ar gyfer profiadau a ariennir gan Taith yng Nghanada, Iwerddon a Bafaria, a Jamborî Scouts y Byd 2027 yng Ngwlad Pwyl.

Mawrth Cynrychiolodd ScoutsCymru Gymru yn y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Downing Street.

2


Prif lwyddiannau Cydnabyddiaeth genedlaethol

Rhannu ein stori

Dathlodd gwobrau mawreddog a chyfleoedd proffil uchel effaith ein pobl ifanc a’n gwirfoddolwyr, gan godi proffil ScoutsCymru ledled Cymru a thu hwnt.

Helpodd sylw yn y cyfryngau a thwf digidol ni i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli gwirfoddolwyr a chefnogwyr y dyfodol.

Antur y tu hwnt i ffiniau

Pŵer gwirfoddolwyr

Helpodd cyfleoedd rhyngwladol bobl ifanc i brofi diwylliannau newydd wrth ddatblygu hyder, gwydnwch ac annibyniaeth.

Gwnaeth miloedd o wirfoddolwyr y cyfan yn bosibl, gan roi eu hamser, eu sgiliau a’u brwdfrydedd i greu cyfleoedd i bobl ifanc.

Gyda’i gilydd, mae’r llwyddiannau hyn yn adrodd stori fwy - pobl ifanc yn tyfu mewn hyder, gwirfoddolwyr yn newid bywydau a chymunedau ledled Cymru yn cael eu cryfhau trwy Sgowtio.

Dod â Chymru ynghyd Daeth digwyddiadau cenedlaethol â phobl ifanc ynghyd ar gyfer antur, cyfeillgarwch newydd a’r profiad o fod yn rhan o fudiad ledled Cymru.

Partneriaethau cryfach Drwy weithio gyda sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt, crëwyd cyfleoedd newydd, cryfhawyd perthnasoedd ac estynnwyd ein cyrhaeddiad. 3


Y flwyddyn mewn ffigyrau Mae pob rhif yn adrodd stori. Y tu ôl i bob ystadegyn mae person ifanc yn darganfod cyfleoedd newydd, gwirfoddolwr yn rhoi o’i amser, neu gymuned yn cael ei chryfhau trwy Sgowtio. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cynrychioli effaith gyfunol ScoutsCymru ledled Cymru yn ystod 2025–26.

14,500+

o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Sgowtio ledled Cymru

4,300+

o wirfoddolwyr yn gwneud Sgowtio’n bosibl bob wythnos

Ein heffaith mewn ffigyrau Blwyddyn o gyfle, antur ac ymdeimlad o berthyn. Mae pob rhif yn cynrychioli person, taith a newid cadarnhaol. Gyda’i gilydd, mae’r ffigyrau hyn yn adrodd stori miloedd o bobl ifanc yn meithrin hyder, gwirfoddolwyr yn creu cyfleoedd, a chymunedau ledled Cymru yn cael eu cryfhau trwy Sgowtio yn ystod 2025–26.

4,400+

o bobl ifanc ar ein rhestr aros

Mae ychydig dros

28% (4-6 oed) 75 Nyth

(6-8 oed) 237 Coloni

(8–10½ oed) 254 Pac

o’n haelodau yn siarad Cymraeg Mae nifer yr aelodau Network (18+) wedi cynyddu

(10½ –14oed) 237 Criw

(14–18oed) 97 Uned

(18–25oed) 26 Grŵp

4

67%


Mae gan ein rhestr aros dros

4,400 o bobl ifanc

sy’n aros i ymuno â’r Scouts ym mhob grŵp oedran – mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i leihau’r nifer hwn Tyfodd nifer y Squirrels

35%

rhwng 2024 a 2026

Gwobrau a Chydnabyddiaeth Cyflwynwyd 18 Gwobr Scout y Brenin, i gydnabod y llwyddiant uchaf ymhlith Explorers a’r Network – y clod uchaf i'r rhai rhwng 14 a 25 oed.

14,000

O blith bron i o bobl ifanc, mae traean yn ferched Mae Sgowtio yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan bron i

Enillwyd 184 o Wobrau Dug Caeredin ar lefelau Efydd, Arian ac Aur, gan ddangos ymrwymiad i ddatblygiad personol, gwirfoddoli, gweithgareddau corfforol ac antur. Cyflwynwyd 230 Gwobr Efydd y Ddraig gan gydnabod ymroddiad a chynnydd pobl ifanc o fewn ScoutsCymru. Enillwyd 42 Gwobr Arian y Ddraig, gan ddathlu ymrwymiad parhaus a thwf personol.

4300

Cyflwynwyd 11 Gwobr Aur y Ddraig gan gydnabod llwyddiant eithriadol ac ymroddiad i Sgowtio yng Nghymru.

50%

Dyfarnwyd 776 Bathodyn Diogelwch Dŵr yr RNLI, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth hanfodol am achub bywydau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr.

o wirfoddolwyr, ac mae ohonyn nhw’n fenywod

Adrannau sy’n cyfarfod mewn ardaloedd sydd yn Negfed Ran 1-3 o’r Mynegai Amddifadedd Lluosog = 167 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 | LLYW.CYMRU

Cyflawnwyd 222 Gwobr Beavers Cymru, gan ddathlu llwyddiant Beavers (rhwng 6 ac 8 oed) ledled Cymru. Cyflwynwyd 155 Gwobr Cubs Cymru, gan gydnabod ymroddiad, dysg a datblygiad personol y Cubs (rhwng 8 a 10 ½ oed). Cyflawnwyd 88 Gwobr Scouts Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc o bob oed archwilio a dathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru.

5


Perthyn Gwirfoddolwyr sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd

Mae pawb yn haeddu lle i berthyn iddo Yn ScoutsCymru, rydym ni eisiau i bob person ifanc deimlo ei fod yn cael ei groesawu, ei werthfawrogi a’i gynnwys. Drwy gydol 2025–26, buom yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, Grwpiau lleol a phartneriaid i ddileu rhwystrau a chreu cyfleoedd sy’n ymateb i wahanol anghenion, gan helpu mwy o bobl ifanc i brofi popeth sydd gan Sgowtio i’w gynnig. Rydym ni’n cydnabod bod creu cyfleoedd cyfartal weithiau’n golygu darparu cymorth gwahanol, fel bod gan bob person ifanc y cyfle i gymryd rhan a ffynnu.

Creu cyfleoedd i bob person ifanc Digwyddiad i Ofalwyr Ifanc Gall gofalwyr ifanc golli cyfleoedd i fwynhau bod yn ifanc. Cymerodd ScoutsCymru ran mewn digwyddiad pwrpasol lle gallai gofalwyr ifanc gael seibiant oddi wrth gyfrifoldebau gofalu, profi antur a threulio amser gydag eraill a oedd yn deall eu profiadau. Drwy weithgareddau a gwaith tîm, gwnaeth pobl ifanc ffrindiau newydd, magu hyder a mwynhau amser mewn amgylchedd croesawgar a gynlluniwyd o amgylch eu hanghenion. Helpodd gweithio gyda sefydliadau partner ni i gyrraedd mwy o ofalwyr ifanc, a bydd hyn yn llywio gweithgarwch pellach yn 2026–27. Effaith Mae creu cyfleoedd sy’n ystyried anghenion unigol yn helpu mwy o bobl ifanc i brofi antur, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn.

6


Dod â Chymru ynghyd Diwrnod Hwyl Cubs Cymru Gyfan Daeth cannoedd o Cubs o bob cwr o Gymru ynghyd ar gyfer diwrnod o antur, heriau a ffrindiau newydd. Cafodd y digwyddiad ei wireddu gan wirfoddolwyr a staff ScoutsCymru, gan roi cyfle i bobl ifanc brofi Sgowtio ar raddfa genedlaethol. Ymunodd y Prif Sgowt, Dwayne Fields, â’r diwrnod hefyd ar gyfer ei ddigwyddiad cyntaf yng Nghymru ers ymgymryd â’r rôl. Effaith Fe wnaeth dod â Cubs o bob cwr o Gymru ynghyd fagu hyder, cryfhau cyfeillgarwch a dangos i bobl ifanc eu bod yn rhan o rywbeth llawer mwy.

Fy Stori Sgowtio Dod o hyd i le i berthyn Pan symudodd Charlie Burke i ardal newydd gyda’i mab, roedd hi eisiau lle ble gallai wneud ffrindiau, cael hwyl a theimlo’n rhan o’r gymuned. Daethant o hyd i hynny yng Ngrŵp Scouts 1af Gilfach (St Margaret’s). Wedi’i hysbrydoli gan y croeso a gawsant, dechreuodd Charlie wirfoddoli hefyd. Heddiw, mae hi’n helpu i arwain sesiynau Beavers, gan roi’r un cyfleoedd i bobl

7

ifanc eraill â’r rhai a gafodd ei mab. O fewn misoedd, gwnaeth Charlie a’i mab eu Haddewid Scouts ochr yn ochr mewn seremoni arwisgo ar y cyd – eiliad na fydd eu teulu byth yn ei hanghofio. Effaith Gall y ffaith bod un person ifanc yn dod o hyd i le i berthyn iddo gael effaith llawer ehangach drwy ddod â theuluoedd i fyd Sgowtio, ysbrydoli gwirfoddolwyr newydd a chryfhau cymunedau lleol.


Archwilio Gwirfoddolwyr sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd

Mae popeth yn dechrau gyda chwilfrydedd Drwy gydol 2025–26, rhoddodd ScoutsCymru gyfleoedd i bobl ifanc roi cynnig ar brofiadau newydd, cofleidio heriau a darganfod beth y gallan nhw ei gyflawni – o wersylloedd cyntaf a sgiliau newydd i anturiaethau rhyngwladol.

Antur y tu hwnt i ffiniau Alldaith Explorer Belt i Bafaria, wedi’i hariannu gan Taith Gyda chefnogaeth Taith – rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru – teithiodd Scouts Explorer i Bafaria i ymgymryd â’r Explorer Belt, un o anturiaethau rhyngwladol mwyaf heriol Sgowtio.

BCB wedi darparu pecynnau cymorth cyntaf ac offer awyr agored. Effaith Mae anturiaethau rhyngwladol yn herio pobl ifanc i gamu allan o’u parthau cysur, ehangu eu gorwelion a datblygu sgiliau a hyder ar gyfer bywyd.

Gan weithio mewn patrolau dan arweiniad pobl ifanc, buont yn cynllunio llwybrau, datrys problemau a chefnogi ei gilydd, gan ddatblygu hyder, gwydnwch, gwaith tîm ac annibyniaeth. Bu gwirfoddolwyr sy’n oedolion yn gweithredu fel mentoriaid, tra bod partneriaeth newydd gyda

“Mae gwylio pobl ifanc yn datblygu yn ystod alldaith Explorer Belt yn un o rannau mwyaf gwerth chweil y profiad. Maen nhw’n cyrraedd gyda lefelau gwahanol o hyder, cryfderau a phryderon, ond erbyn y diwedd, mae pob un ohonyn nhw wedi cyflawni rhywbeth nad oedden nhw’n meddwl oedd yn bosibl. Maen nhw’n dysgu sut i ddatrys problemau, gweithio fel tîm, addasu pan fydd cynlluniau’n newid a dod yn fwy gwydn ac annibynnol. Sgiliau yw’r rhain y byddan nhw’n eu cario gyda nhw am weddill eu bywydau.” Rob ‘Red’ Redmond, Dirprwy Brif Wirfoddolwr – Gweithrediadau ac arweinydd alldaith Bafaria

8


Fy Stori Sgowtio Stori Rowan Pan gofrestrodd Rowan ar gyfer yr alldaith Explorer Belt i Bafaria, roedd eisiau profi gwlad newydd, cwrdd â phobl newydd a herio ei hun. Ar ôl 11 mlynedd o Sgowtio, hon oedd ei antur fwyaf hyd yma. Wrth wynebu pellteroedd mawr, gwres eithafol a’r her o weithio gyda thîm newydd, darganfu Rowan wydnwch ac annibyniaeth nad oedd yn gwybod ei fod yn eu meddu. Daeth adref gyda mwy o hyder yn yr hyn y gallai ei gyflawni. “Gwnaeth i mi sylweddoli y galla’ i fod yn fwy annibynnol nag yr oeddwn i’n meddwl, ac fy mod yn gallu gwneud llawer o bethau mewn bywyd.” Effaith Mae profiad Rowan yn dangos beth y gall antur ei gyflawni. Mae’n rhoi’r hyder, y gwydnwch a’r hunan-gred i bobl ifanc gofleidio heriau newydd.

9


Arwain

Galluogi pobl ifanc i arwain Nid yw arweinyddiaeth yn dechrau pan fyddwch chi'n oedolyn. O fod yn bedair oed yn y Squirrels, mae Sgowtio yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Drwy gydol 2025–26, helpodd pobl ifanc i lunio penderfyniadau, cynrychioli Cymru yn rhyngwladol ac arwain yn eu cymunedau.

Creu arweinwyr y dyfodol Penwythnos Dewis Rhyngwladol

Daeth ScoutsCymru â phobl ifanc ynghyd oedd yn gwneud cais i gynrychioli Cymru yn Jamborî Scouts y Byd 2027 ac yn alldeithiau Explorer Belt y dyfodol gyda Taith i Ganada, Iwerddon a’r Almaen. Drwy heriau ymarferol yn canolbwyntio ar waith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu, dangosodd y bobl ifanc eu sgiliau wrth gael cefnogaeth ac anogaeth gan wirfoddolwyr profiadol. Cynlluniwyd y profiad i fod o fudd i bob person ifanc a gymerodd ran, p’un a gafodd ei ddewis yn y pen draw ai peidio, ac roedd hynny’n bwysig. Effaith Mae cyfleoedd dan arweiniad pobl ifanc yn meithrin hyder, gwydnwch a sgiliau arweinyddiaeth, gan baratoi pobl ifanc i gynrychioli eu cymunedau a Chymru. 10


Rhoi llais i bobl ifanc ScoutsCymru yn y Cenhedloedd Unedig Am y tro cyntaf, cynrychiolodd pobl ifanc ScoutsCymru yn y Cenhedloedd Unedig, gan gymryd rhan mewn panel dan arweiniad pobl ifanc ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, gan archwilio arweinyddiaeth a’r dyfodol. Rhoddodd y profiad o gynllunio ac arwain sesiwn yn y Cenhedloedd Unedig gyfle iddyn nhw gyfrannu ar lwyfan rhyngwladol wrth gynrychioli Cymru a Sgowtio. Roedd hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad ehangach i sicrhau bod pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau drwy fentrau fel Arweinwyr Ifanc, llywodraethu a mentrau eraill sy’n rhoi llais i bobl ifanc. Effaith Mae rhoi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc siarad a dylanwadu’n sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed ar faterion sy’n llunio eu dyfodol.

Grymuso lleisiau ifanc Stori Sophie I Sophie Blackham o ogledd Cymru, mae arweinyddiaeth yn golygu gweithredu yn ei chymuned. Yn ei maes pebyll Scouts lleol, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae Sophie yn helpu i ofalu am yr amgylchedd – o gynnal a chadw llwybrau a rheoli cynefinoedd i greu adnoddau addysgol i ymwelwyr.

Mae ei gwaith yn dangos y gall arweinyddiaeth fod ar sawl ffurf ar unrhyw oedran. Mae’n cymryd cyfrifoldeb drwy ddiogelu lleoedd ac ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth. “Mae gofalu am natur yn bwysig i mi oherwydd rwy’n hoffi helpu cadw rhywogaethau prin yn fyw, fel y gallan nhw ddod yn fwy cyffredin yn y pen draw.” Effaith Drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu cymunedau, mae Sgowtio yn helpu i ddatblygu arweinwyr hyderus a thosturiol.

11


Ysbrydoli Gwirfoddolwyr sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd

Gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth Mae miloedd o wirfoddolwyr yn gwneud Sgowtio yn bosibl ledled Cymru bob wythnos, gan rannu eu hamser, eu sgiliau a’u profiad. Drwy gydol 2025–26, parhaodd ScoutsCymru i fuddsoddi mewn gwirfoddolwyr drwy hyfforddiant, cydnabyddiaeth a mentrau newydd a gynlluniwyd i groesawu a chefnogi'r bobl sy'n gwneud i Sgowtio ddigwydd.

Croesawu’r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr Menter ‘Croeso i Sgowtio’ yr Uchel Siryf Bu ScoutsCymru yn gweithio gydag Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg a gwirfoddolwyr lleol i ddatblygu ffordd newydd o groesawu a chydnabod gwirfoddolwyr sy'n oedolion.

Ers i'r fenter ddechrau, mae mwy na 30 o wirfoddolwyr newydd sy'n oedolion wedi ymuno â Sgowtio yng Ngorllewin Morgannwg. Effaith Mae gweithio gyda chymunedau lleol a chydnabod gwirfoddolwyr newydd yn helpu i gryfhau Grwpiau a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.

Mewn diwrnod agored yn Sgeti, cyflwynwyd Sgowtio i deuluoedd o gymuned Tsieineaidd Abertawe drwy weithgareddau, partneriaethau a chyfleoedd i gwrdd ag arweinwyr lleol. Derbyniodd dau wirfoddolwr newydd hefyd fathodyn ‘Croeso i Sgowtio’ yr Uchel Siryf.

12


Dathlu ein gwirfoddolwyr ysbrydoledig Cydnabuwyd mwy na 100 o wirfoddolwyr drwy Restr Anrhydedd y Scouts yn ystod 2025–26, gan ddathlu gwasanaeth eithriadol ac ymroddiad i bobl ifanc a chymunedau ledled Cymru.

Meithrin gwirfoddolwyr hyderus Rhoi cynhwysiant ar waith

Gwobr

Nifer

Canmoliaeth y Prif Scout am Wasanaeth Da

55

Gwobr Teilyngdod

34

Bar i’r Wobr Teilyngdod

2

Acorn Arian

3

Gwobr Silver Wolf

3

Canmoliaeth am Ymddygiad Teilwng

1

Groes Aur

1

Effaith Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod miloedd o oriau o wasanaeth gwirfoddol, ac yn dathlu ymrwymiad gwirfoddolwyr sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau pobl ifanc ledled Cymru.

Bu ScoutsCymru yn gweithio gyda’r arbenigwyr cynhwysiant, More Than Flags & Rainbows, i gynnal dwy weminar am ddim i wirfoddolwyr ledled Cymru. Roedd y sesiynau’n ymdrin ag iaith a chysyniadau LHDTC+, diogelu, mynd i’r afael â bwlio a ffyrdd ymarferol o wneud gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau yn fwy cynhwysol. Cwblhaodd Bwrdd Ymddiriedolwyr a thîm canolog ScoutsCymru yr hyfforddiant hefyd.

Cydnabyddiaeth genedlaethol: Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i un gwirfoddolwr hefyd yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, am wasanaethau i bobl ifanc.

Effaith Cafodd gwirfoddolwyr adnoddau ymarferol a mwy o hyder i greu amgylcheddau lle mae pobl ifanc ac oedolion yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu croesawu a’u cynnwys.

Oes o wasanaeth Talodd ScoutsCymru deyrnged hefyd i Edward Watts, Ymddiriedolwr a dderbyniodd wobr Silver Wolf sydd wedi gwasanaethu ers amser maith, wrth iddo ymddiswyddo o’r Bwrdd ym mis Tachwedd 2025. Cydnabuwyd degawdau o arweinyddiaeth,doethineb a gwasanaeth i Sgowtio yng Nghymru – cyfraniad y mae’n parhau i’w wneud fel gwirfoddolwr. 13


Dylanwad Gwirfoddolwyr sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd

Gwneud i lais Sgowtio gael ei glywed Mae ScoutsCymru yn cael ei gydnabod fwyfwy yn allanol am y cyfraniad y mae’n ei wneud i bobl ifanc a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod 2025–26, fe wnaethom gryfhau perthnasoedd â phartneriaid a llunwyr polisi, codi ein proffil cenedlaethol a defnyddio ein llais i hyrwyddo buddiannau pobl ifanc a gwirfoddolwyr, ac i amlygu gwerth Sgowtio.

Sefydliad y Flwyddyn

Dylanwadu ar newid er budd pobl ifanc Sicrhau bod antur yn parhau i fod yn hygyrch Pan gynigiodd Llywodraeth Cymru Ardoll Llety Ymwelwyr, bu ScoutsCymru yn gweithio gyda mudiadau ieuenctid eraill i dynnu sylw at yr effaith bosibl ar bobl ifanc sy’n ceisio cael mynediad at brofiadau preswyl fforddiadwy.

Cydnabod y gwahaniaeth a wnaed Enwyd ScoutsCymru yn Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2025, gan gydnabod effaith gyfunol ein gwirfoddolwyr, ein staff a’n cefnogwyr. Cododd y wobr ein proffil ledled Cymru ac arweiniodd at gynhyrchu ffilm hyrwyddo broffesiynol a fydd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

Ar ôl craffu ar y Bil, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd y byddai pobl dan 18 oed wedi’u heithrio rhag yr ardoll, gan adlewyrchu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan ScoutsCymru. Rydym yn parhau i alw am ragor o eithriadau ar gyfer mudiadau elusennol ac unedau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr. Effaith Drwy ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth Cymru a phartneriaid, helpodd ScoutsCymru i ddiogelu cyfleoedd fforddiadwy i bobl ifanc gael profiad o wersylla, cyrsiau preswyl a dysgu yn yr awyr agored.

14


Cynrychioli Cymru yn 10 Downing Street Hyrwyddo buddiannau pobl ifanc ar lwyfan cenedlaethol Cynrychiolodd ScoutsCymru Gymru am y tro cyntaf yn y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Downing Street. Roedd y gwahoddiad yn gyfle i ddathlu ein gwirfoddolwyr ac arddangos y cyfraniad y mae’r Scouts yn ei wneud i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru.

Adrodd ein stori Mae rhannu profiadau a llwyddiannau pobl ifanc a gwirfoddolwyr wedi helpu ScoutsCymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cryfhau ei lais a chodi proffil Sgowtio yng Nghymru. Effaith ein cyfathrebu 55 1,213

datganiad i’r wasg stori yn y cyfryngau

1.8 miliwn rhyngweithiad â chynnwys Facebook 83,800

golwg ar dudalennau’r wefan

409,800

golwg ar Instagram

27,033

argraff LinkedIn

290

cyfweliad ac eitem radio

34

eitem deledu 15


Sylw ar y Bartneriaeth

Pedair neges a allai achub bywyd

Sgiliau a allai achub bywyd Ers 2021, mae ScoutsCymru a’r RNLI wedi gweithio gyda’i gilydd i roi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ifanc ledled Cymru i fod yn ddiogel ger dŵr. Wrth wraidd y bartneriaeth mae bathodyn Ymwybyddiaeth Diogelwch Dŵr yr RNLI; mae’n dod ag arbenigedd achub bywydau’r RNLI i Sgowtio ac yn rhoi sgiliau ymarferol i bobl ifanc y gallan nhw eu defnyddio gydol eu hoes.

2,846

776

person ifanc wedi cwblhau’r bathodyn ers 2021

Bathodyn wedi eu hennill yn ystod 2025–26

1

Stopiwch a meddyliwch

2

Arhoswch gyda’ch gilydd

3

Arnofiwch i Fyw

4

Ffoniwch 999

Mae pobl ifanc yn dysgu sut i adnabod risgiau ger dyfroedd arfordirol a mewndirol, deall peryglon dŵr oer a gwybod beth i’w wneud os aiff pethau o'i le. Maen nhw’n dysgu’r dechneg Arnofio i Fyw os ydynt yn syrthio i’r dŵr yn annisgwyl, ac os oes rhywun arall mewn perygl, i ffonio 999 a gofyn am y Gwylwyr Glannau yn hytrach na mynd i mewn i’r dŵr eu hunain.

Dod â diogelwch dŵr yn fyw I 6ed Grŵp Scouts Môr y Barri, rhoddodd ymweliad â Chanolfan Profiad Ymwelwyr yr RNLI ar Ynys y Barri gyfle i 20 o Beavers a Cubs roi’r hyn a ddysgwyd ar waith. Dysgon nhw sut i weld peryglon, deall baneri diogelwch traeth a gwybod sut i gael cymorth mewn argyfwng. “Y peth a wnaeth gymaint o wahaniaeth oedd pa mor rhyngweithiol oedd y profiad. Gallen nhw ofyn cwestiynau, ymarfer yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu a chael hwyl ar yr un pryd. Cawson nhw wybodaeth ymarferol am aros yn ddiogel ger dŵr y gallan nhw ei defnyddio a’i rhannu ag eraill.” Janet Davies, Arweinydd Tîm y Beavers, 6ed Grŵp Sgouts Môr y Barri “Fel criw bad achub, rydym ni’n gweld pa mor gyflym y gall sefyllfaoedd ar y dŵr newid. Mae rhoi hyder i bobl ifanc adnabod y risgiau a gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng yn hynod bwysig. Rydym ni’n cefnogi Bathodyn Ymwybyddiaeth Diogelwch Dŵr yr RNLI yn llwyr.” Andy Gavan, Llywiwr Cwch, RNLI Doc y Barri

16


Ein ffocws ar gyfer 2026–27 Perthyn Lleihau rhwystrau rhag cymryd rhan a helpu Grwpiau i groesawu a chadw mwy o bobl ifanc ac oedolion, yn enwedig o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Archwilio Cryfhau ein Rhaglen wythnosol wrth greu cyfleoedd ar gyfer antur, dysgu yn yr awyr agored, gwaith tîm a phrofiadau rhyngwladol.

Arwain Rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc lunio’r Rhaglen, dylanwadu ar benderfyniadau, cymryd rhan mewn llywodraethu ac arwain newid.

Ysbrydoli

Adeiladu ar ein heffaith Ein blaenoriaethau ar gyfer 2026–27

Gwella profiad y gwirfoddolwr gyda chymorth ymarferol, dysgu o ansawdd uchel, cyfleoedd hyblyg, datblygu a chydnabod cyfraniadau.

Dylanwadu

Mae’r llwyddiannau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu sefydliad sy’n magu hyder, yn cryfhau ei lais ac yn cynyddu ei effaith ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru.

Gweithio gyda chymunedau, partneriaid a llunwyr polisi i hyrwyddo Sgowtio, cryfhau ein llais cenedlaethol a sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn llywio penderfyniadau.

Yn ystod 2026–27, byddwn yn adeiladu ar y momentwm hwnnw ac yn dechrau rhoi Lle i Berthyn, strategaeth Scouts y DU hyd at 2035, ar waith yng Nghymru.

Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi gwirfoddolwyr gwych i gyflwyno Rhaglen anturus a chynhwysol, gan roi lle i berthyn, y sgiliau i ffynnu a’r hyder i arwain newid i fwy o bobl ifanc ledled Cymru.

Wrth ei wraidd mae dwy flaenoriaeth: cyflwyno Rhaglen anturus a chynhwysol, a darparu gwell cefnogaeth i wirfoddolwyr. Daeth ein gweithdai ‘Eich Scouts. Eich Strategaeth’ â phobl ifanc a gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru ynghyd i drafod beth ddylai’r strategaeth ei olygu i’w Grwpiau a’u cymunedau. Bydd eu profiadau a’u syniadau nawr yn helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf. 17


Perthyn Archwilio Arwain Ysbrydoli Dylanwadu Dechreuodd pob stori yn yr adroddiad hwn gydag un cyfle. Dechreuodd pob cyfle gyda rhywun a oedd yn credu mewn person ifanc. I bob gwirfoddolwr, cefnogwr, partner a chyllidwr sy’n gwneud Sgowtio yng Nghymru yn bosibl. Diolch.

Arhoswch mewn cysylltiad admin@scoutscymru.org.uk www.scoutscymru.org.uk

  

Gyda diolch i’n partneriaid a’n harianwyr: • • • • • • • • • • • •

AdventureSmart UK BCB International Ltd Plant yng Nghymru CWYVS Y Comisiwn Etholiadol Gosling Foundation More than Flags and Rainbows Out of the Woods Taith WCVA Cymru Global Llywodraeth Cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Scouts Cymru Cymraeg by Sarah Garwood Creative - Issuu