
Gwneud Penderfyniad
Gweithgaredd


![]()

Gweithgaredd


Trosolwg:
Mae’r gweithgaredd yma’n annog pobl ifanc i drafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’n cefnogi nhw i archwilio i’w blaenoriaethau ac amddiffyn eu syniadau. Mae dysgwyr yn trefnu eu blaenoriaethau gwleidyddol, ac wedyn yn cyd-weithio i berswadio eraill a chyrraedd consensws.
Mae yna tri ffordd wahanol o ddarparu’r gweithgaredd:
● Trwy gwblhau’r taflen waith ‘Gwneud Penderfyniad’
● Trwy argraffu’r taflen waith ‘Blaenoriaethau Gwleidyddol’, ei dorri’n sgwariau, a’u dosbarthu.
● Trwy ddefnyddio briciau Lego sy’n cyfateb i liwiau’r Blaenoriaethau Gwleidyddol.
Nôd y wers:
● Bydd dysgwyr yn deall termau allweddol sy’n ymwneud â pholisi gwleidyddol
● Bydd dysgwyr yn penderfynnu pa materion sy’n bwysig iddynt
● Bydd dysgwyr yn dysgu i gyfaddawdu a thrafod gydag eraill
Addas ar gyfer:
● Dysgwyr cam cynnydd 5
● Dysgwyr 16+ oed
Adnoddau:
● Dewisol - Taflen gwaith ‘Gwneud Penderfyniad’
● Dewisol - Taflen gwaith ‘Blaenoriaethau
Gwleidyddol’
● Dewisol - Lego – bydd angen wyth bric ar bob person, gyda lliwiau sy’n cyfateb i’r taglen gwaith ‘Blaenoriaethau Gwleidyddol’.

Diffinio termau - 5 munud
Fel grŵp, diffiniwch pob term ar y taflen gwaith ‘Blaenoriaethau Gwleidyddol’ i sicrhau
bod pob dysgwr yn deall ystyr a chwmpas y meysydd polisi
Trefnu blaenoriaethau - 5 munud
Gofynnwch i ddysgwr gweithio’n unigol i drefnu y gwahanol meysydd polisi o’r mwyaf i’r
lleiaf pwysig:
● Cwblhewch golofn gyntaf y taflen gwaith ‘Gwneud Penderfyniad’
● Trefnwch ddarnau’r taflen gwaith ‘Blaenoriaethau Gwleidyddol’
● Pentyrrwch y briciau Lego yn ôl pwysigrwydd
Gwneud cyfaddawdau gydag eraill - 5-10 munud
Gofynnwch i ddysgwyr cymharu eu restrau blaenoriaeth gyda phartner. Gofynnwch iddynt creu rhestr o gyfaddawdau, naill a’i drwy:
● Cwblhau ail golofn y taflen gwaith ‘Gwneud Penderfyniad’
● Ail-drefnu darnau’r taflen gwaith ‘Blaenoriaethau Gwleidyddol’
● Aildrefnu eu briciau Lego
Gwneud gyfaddawdau unwaith eto - 5-10 munud

Estyniad: Cwestiynau i ddysgwyr:
● Sut basai gwahanol pleidiau gwleidyddol yn trefnu’r blaenoriaethau yma.
Gofynnwch i ddysgwyr dewis partner arall cyn cymharu a chyfaddawdu unwaith eto, wrth ddefnyddio’r taflenni gwaith neu’r briciau Lego. Fedrwch ail-adrodd y cam yma sawl gwaith.
● A newidioch chi eich meddwl wrth drafod trefn y blaenoriaethau gydag eraill?
● Pa blaenoriaeth basech chi’n ychwanegu i’r rhestr?


Edrychwch drwy’r termau ar y daflen
gwaith.

Fel grŵp, diffiniwch a rhowch
esiampl o bob term.

● Yn unigol, yn defnyddio’r taflen
gwaith, trefnwch y meysydd polisi gwahanol o’r mwyaf i’r lleiaf pwysig










Addysg Trafnidiaeth





Cymharwch drefn eich


blaenoriaethau chi gyda threfn eich partner
Oes yna gwahaniaethau? Trafodwch nhw.
Cytunwch gyda’ch partner ar rhestr
blaenoriaethau newydd, wedi’i seilio ar gyfaddawd.
Unwaith rhydych chi wedi cytuno…


Gyda’ch partner, dewch o hyd i bâr arall ar eich bwrdd a cymharwch drefn eich blanoriaethau gyda nhw. Gwnewch gyfaddawd unwaith eto a chytunwch ar drefn newydd.



