Skip to main content

(CYMRAEG) Host a Hustings Cymru - Understanding the Senedd - Slide Deck - Cymraeg

Page 1


Cynall Hystings Cymru:

Deall y Senedd

#HystingsIeuenctid

Deall y Senedd

Trosolwg:

Mae’r wers/weithdy yma yn galluogi dysgwyr i ddeall beth yw’r Senedd, y pŵerau sydd ganddi, a sut mae aelodau yn cael eu hethol.

Nôd y wers:

● Bydd dysgwyr yn deall beth yw’r Senedd.

● Bydd dysgwyr yn deall rôl a phŵerau’r Senedd.

● Bydd dysgwyr yn deall sut mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol.

Addas ar gyfer:

● Dysgwyr cam cynnydd 5

● Dysgwyr 16+ oed

Tasgau Ymestyn:

Adnoddau:

● Pecyn Sleidiau

● Mae yna dau gweithgaredd sydd yn rhoi’r cyfle i dalu sylw manylach at system pleidleisio’r Senedd.

● Mae yna sawl cwestiwn ar gael i ymestyn y sesiwn, yn ogystal â dolenni i gwefanus allanol er mwyn gwneud ymchwell pellach

Deall y Senedd

Cyflwyniad - 10 munud

● Beth ydy gwleidyddion yn gwneud?

● Gwahanol lefelau’r llywodraeth

Trafodaeth - 15 munud

● Beth ydych chi’n gwybod am y Senedd?

● Llywodraeth Cymru a’r Senedd

● Newidiadau i’r Senedd

● Sut ydych chi’n cael eich cynrychioli yn y Senedd?

● Etholaethau

Gweithgaredd - 5 munud

● Meddwl cyflym.

Trafodaeth - 5 munud

● Sut y mae gwleidyddion yn cael eu hethol

● Gwahanol systemau pleidiasau

Deall y Senedd

Gweithgaredd Ymestynol - 10 munud

● Y Cyntaf i’r Felin vs Rhestr Gyfrannol Caeedig

Gweithgaredd Ymestynol- 15 munud

● Sut mae’r system Rhestr Gyrannol Caeedig yn gweithio

Trafodaeth - 5 munud

● Dadlau yn y Siambr

● Astudiaeth Achos: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Gweithgaredd - 5 i 10 munud

● Trafodaeth - Pa materion dylai’r Senedd fod yn dadlau? Pam?

DEALL Y SENEDD

Beth yw’r Senedd?

BETH YDY GWLEIDYDDION YN GWNEUD?

Mewn parau, rhestrwch popeth mae

gwleidyddion yn gyfrifol amdano.

Beth mae eu penderfyniadau nhw’n

effeithio?

BETH YDYN NHW’N GWNEUD?

GWAHANOL LEFELAU’R LLYWODRAETH

Llywodraeth leol

Yn gwneud penderfyniad ar faterion sy’n effeithio ar yr ardal lleol.

Llywodraeth Cymru a’r

Senedd

Yn gwneud penderfyniadau dros Gymru, ar faterion ble mae

Senedd y Deyrnas Unedig wedi rhannu’r pŵer i wneud penderfyniadau.

Llywodraeth y DU

Yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ar draws y DU

Wrth edrych ar eich rhestr o bopeth mae gwleidyddion yn gwneud, pa lefel o’r llywodraeth ydych chi’n meddwl sy’n gyfrifol am yr hyn rydych chi wedi ysgrifennu?

LEFELAU’R LLYWODRAETH - BETH YDYN NHW’N GWNEUD?

Llywodraeth leol

● Casglu sbwriel ac ailgylchu

● Llyfrgelloedd

● Gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant

● Parciau a gwasanaethau ieuenctid

Llywodraeth Cymru a’r

Senedd

● Addysg

● Iechyd / y GIG

● Yr Amgylchedd

● Diwylliant a’r Iaith Gymraeg

● Tai

● Trafnidiaeth

Oes rhywbeth yn synnu chi yma?

Llywodraeth y DU

● Amddiffyniaeth

● Polisi dramor

● Mewnfudiad

● Heddlu, llysoedd, y carchardai

LEFELAU’R LLYWODRAETH

Llywodraeth Leol
Llywodraeth y DU Llywodraeth Cymru a’r Senedd

BETH YDYCH CHI’N GWYBOD AM Y SENEDD?

Gwyliwch y fideo yma am y

Senedd - beth yw e a beth yw ei hanes?

LLYWODRAETH CYMRU A’R SENEDD

Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru?

Mae’r Senedd yn grwp o gynrychiolwyr sydd wedi’u hethol er mwyn gwneud penderfyniadau dros bobl Cymru

Mewn refferendwm yn 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhannu pwerau o Senedd y DU yn San Steffan i Senedd Cymru ym Mae Caerdydd. Gelwir y rhannu yma yn ‘ddatganoli’. Mae Aelodau Seneddol yn creu cyfreithiadu, trafod materion sydd yn effeithio ar ein bywydau pob dydd, ac yn cadw golwg ar waith Llywodraeth Cymru.

Senedd: Corff deddfwriaethol cenedlaethol. Mae Senedd yn DU yn cynnwys Tŷ’r

Cyffredin a Tŷ’r Arglwyddi.

Datganoli: Rhannu pŵerau o lywodraeth ganolog i lywodraethau rhanbarthol neu lleol.

LLYWODRAETH CYMRU A’R SENEDD

Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio o’r plaid (neu pleidiau)

gwleidyddol sydd gyda’r mwyaf o seddi yn y Senedd.

Mae’r llywodraeth yn gwneud penderfyniad mawr sy’n effeithio ar Gymru i gyd

Y Prif Weinidog sy’n arwain y llywodraeth, gyda chymorth gwenidogion eraill sydd yn arwain adrannau gwahanol, megis iechyd neu addysg.

Llywodraeth: Corff sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau mawr dros newidiadau i’r gyfraith a gwariant cyhoeddus.

Y Blaid Lafur yw’r plaid mwyaf yn y Senedd ar hyn o’r bryd, felly nhw sy’n ffurfio’r Llywodraeth.

Eluned Morgan, Arweinydd Y Blaid Lafur Gymraeg, yw’r Prif Weinidog

NEWIDIADAU I’R SENEDD

Mae’r Senedd yn newid

Mae deddf newydd, Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, yn cynyddu’r nifer

o Aelodau Seneddol ac yn newid y ffordd maent yn cael eu hethol.

O ganlyniad i’r deddf yma, bydd Etholiad Seneddol 2026 yn defnyddio system newydd i ethol Aelodau Seneddol, o’r enw ‘System Rhestr Gyfrannol Caeedig’.

myndHeddiw,rydymni iesboniosutbyddysystem Seneddpleidleisioa’rgweithionewyddyn

2026

Hefyd, o Etholiad 2026 ymlaen, mi fydd y nifer o Aelodau Seneddol yn cynyddu o 60 i 96.

96 aelod yn lle 60

SUT YDYCH CHI’N CAEL EICH CYNRYCHIOLI YN Y SENEDD?

Pan rydych chi’n pleidleisio mewn etholiad seneddol, rydych chi’n ethol Aelod Seneddol (AS)

Bydd pob Aelod

Seneddol yn cynrychioli etholaeth, - ardal o Gymru. Mae Cymru wedi’i rhannu’n 16 etholaeth.

Mae gan bob etholaeth 6 ASaufelly mae gan bawb 6 cynrychiolydd

Mae etholiadau i’r

Senedd bob 4 bynedd.

Ydych chi’n gwybod pwy yw eich Aelodau Seneddol?

Gallwch chi ddargfanfod pwy sy’n eich cynrychioli yma: senedd.wales

ETHOLAETHAU

DEALLTWRIAETH

EILIAD I FEDDWL

Plygwch darn o bapur dwywaith, i greu bedwar adran.

Ysgrifennwch bedward

peth rydych chi wedi dysgu yn y wers yma am lefelau pŵer.

SUT MAE AELODAU SENEDDOL YN CAEL EU HETHOL

Gelwir y ffordd rydych chi’n pleidleisio mewn etholiad yn ‘system pleidleisio’.

Yng Nghymru, mae gwahanol systemau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau.

Mae Etholiadau y Senedd 2026 yn defnyddio system ‘Rhestr Gyfrannol Caeedig’ Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy am y system.

GWAHANOL SYSTEMAU PLEIDLEISIO

Efallai eich bod chi wedi sylwi bod ein ffordd o ethol

Aelodau o’r Senedd yn wahanol i sut rydym ni’n ethol

Aelodau o Senedd y DU.

Mae etholiadau’r DU yn defnyddio system ‘Y Cyntaf i’r

Felin’. Yn y system yma, mae pob etholaeth wedi’i chynrychioli gan un AS yn unig.

Yn y system yma, rydych chi hefyd yn pleidleisio ar gyfer ymgeisydd penodol, yn hytrach na phlaid (er bod y mwyafrif o ymgeiswyr yn aelodau o bleidiau).

Yr enillydd yw’r ymgeisydd sydd yn derbyn y mwyaf o bleidleisiau.

DARGANFOD

TASG YMESTYN: RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG VS Y CYNTAF I’R FELIN

Mae gan bob system pleidleisio ei manteision a’i hanfanteision. Dyma rhai o fanteision ac anfanteision system Rhestr Gyfrannol Caeedig

Manteision

Fel arfer yn arwain at amrediad ehangach o bleidiau gwleidyddol yn cael eu cynrychioli a felly hefyd amrediad ehangach o farnau.

Yn annog pleidiau i ddod i gonsensws ar faterion gan fod pleidiau’n aml ddim yn derbyn digon o bleidleisiau i ffurfio llywodraeth ar ei ben ei hun - mae rhaid iddynt ffurfio ‘clymbleidiau’

Mae nifer yr ASau sydd gan blaid yn adewyrchu’n well y nifer o bleidleisiau ennillon nhw.

Anfanteision

Weithiau’n drysu pobl sy’n gyfarwydd gyda systemau eraill

Mae rhai’n dadlau ei bod e’n gallu rhoi platfform i farnau eithafol

Pan mae rhaid i bleidiau cydweithio, mae eu clymbleidiau’n gallu bod yn fregus, yn chwalu pan fydd anghytuno yn dod i’r amlwg.

TASG YMESTYN: RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG VS Y CYNTAF I’R FELIN

Manteision ac anfanteision o system Y Cyntaf i’r Felin

Manteision

Yn galluogi pleidleiswyr i ddewis ymgeiswyr yn hytrach na phleidiau

Yn aml yn arwain at lywodraethau ‘cryf’, gydag un plaid yn unig mewn pŵer - felly maen nhw’n gallu gwirioneddu ar addewidion heb orfod cyfaddawdu gyda phleidiau eraill.

Anfanteision

Yn ffafrio’r pleidiau mwyaf ac yn aml yn meddwl eu bod nhw wedi’u gorgynrychioli

Pleidiau neu ymgeiswyr yn gallu ennill gyda chanran cymharol isel o’r bleidlais. Er enghraifft, yn Etholiad

Cyffredinol 2024, ennillodd y Blaid Lafur 63% o’r seddi gydag ond 33.7% o’r bleidiais.

Rhai’n dweud bod en haws i ddeall na systemau eraill Yn fwy tebygol o greu ‘seddi diogel’ ble mae un plaid yn dominyddu a’n ennill mwy neu lai pob etholiad. Mae rhai’n dadlau bod hwn yn lleihau’r pwysau ar wleidyddion i wneud eu swyddi.

YMESTYN

TRAFODAETH

Pa system sydd orau gennych chi?

Beth sy’n gweithio orau? Pam?

Ar ôl i chi gorffen gyda’ch trafodaeth, pleidleiswch i weld pa system sydd well gyda’r dosbarth.

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

I ddangos i chi sut mae System Rhestr Gyfrannol

Caeedig yn gweithio, rydym ni mynd i bleidleisio fel dosbarth.

Yn lle pleidiau gwleidyddol, rydym ni mynd i bleidleisio am fisgedi…

Dychmygwch mae rhaid i chi dewis chwech paced o fisgedi i brynnu i’ch grwp neu dosbarth.

Rydych chi mynd i redeg pleidlais yn defnyddio system Rhestr

Gyfrannol Caeedig i’w dewis.

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO?

Penderfynwch ar chwe math gwahanol o fisged. Rhain fydd eich ‘ymgeiswyr’ yn y bleidlais.

Bisged

Nifer y bleidleisiau

Mae pob person yn derbyn un pleidlais ar ba fisged sy’n cael ei phrynu. Nawr pleidleiswch!

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Ar gyfer etholiadau seneddol, mae’r

ymgeiswyr buddugol yn cael eu penderfynu

trwy rywbeth o’r enw’r fformiwla D’Hondt.

Rydym ni mynd i ddefnyddio’r fformiwla yma i weithio allan y chwe phecyn o fisgedi mae eich

dosbarth wedi dewis.

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR

GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Mewn etholiadau i’r Senedd, mae’r fformiwla D’Hondt yn

rhannu pleidleisau’r pleidiau gan nifer y seddi maen nhw

wedi ennill, plws un.

Ar ôl ennill sedd, mae nifer y pleidleisau sydd gan blaid yn

cael ei rannu gyda dau; ar ôl ennill dau sedd, mae ei bleidlais

nhw yn cael ei rhannu gyda tri, ayyb.

Mae cyfrifiadau pleidleisio yn digwydd mewn rowndiau, gyda’r plaid sydd gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau ym mhob

rownd yn ennill y sedd.

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEMAU RHESTR GYFRANNOL

CAEEDIG YN GWEITHIO

I helpu chi ddeall sut mae’r system yn gweithio, dyma esiampl.

Dyma canlyniadau etholiad: Plaid A Plaid B Plaid C Plaid D Plaid E Annibynnol

YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Rownd 1

Fel y plaid gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau, bydd Plaid A yn cymryd y sedd cyntaf. Bydd yr ymgeisydd cyntaf ar ei rhestr yn cael ei ethol.

Wedyn, bydd nifer y pleidleisiau sydd gan Plaid A yn cael ei rhannu gyda 2 yn y rownd nesaf. Plaid A: 600/(1+1 sedd ) = 300

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Rownd 2

Yn rownd 2, Plaid B sydd nawr gyda’r nifer mwyaf o bleidlesiau, felly maen nhw’n

ennill sedd a bydd yr ymgeisydd cyntaf ar eu rhestr nhw yn cael ei hethol.

Party B’s votes would then be divided by two for the next round.

Party B: 570/(1+1 seat ) = 285

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL

CAEEDIG YN GWEITHIO

Rownd 3

Yn rown 3, yr ymgeisydd annibynnol sydd nawr gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau, felly maen nhw’n ennill sedd. Gan nad ei bod nhw’n rhan o blaid, dydyn nhw ddim ar restr, felly does dim rhaid i ni rhannu ei pleidleisiau nhw wrth symud ymlaen.

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL

CAEEDIG YN GWEITHIO

Rownd 4

Yn Rownd 4, mae gan Blaid A y nifer mwyaf o bleidleisiau unwaith eto a felly maen nhw’n ennill sedd arall. Bydd yr ail berson ar eu rhestr nhw nawr yn cael ei ethol.

Plaid

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Mae nifer y pleidleisiau gwreiddiol Plaid A (600) nawr yn cael ei rhannu gyda 3 (1 + y 2 sedd maen

nhw wedi ennill yn barod).

Plaid A: 600/(1+2 sedd) = 200

Mae hwn yn parhau nes bod y seddi i gyd wedi’u llenwi Yn yr esiampl yma:: Ennillodd Plaid A 3 sedd

Ennillodd Plaid

B 2 sedd

Ennillodd yr ymgeisydd annibynnol 1 sedd

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Dyma’r canlyniadau. Gallwch weld bod y seddi ennillodd y bleidiau mwy neu lai’n gryfannol i

ganran y pleidlais derbynon nhw.

DEALLTWRIAETH

TASG YMESTYN: SUT MAE SYSTEM RHESTR GYFRANNOL CAEEDIG YN GWEITHIO

Nawr defnyddiwch y tabl isod i weithio allan pa phecynau o bisgedi bydd eich grwp/dosbarth yn dewis.

Bisged

Pwy sy’n ennill y rownd?

2

3

4

DADLAU YN Y SENEDD: Y SIAMBR

Y Siambr yw’r enw ar y siambr gron fawr yng nghanol y Senedd ble mae

Aelodau Seneddol yn dadlau a thrafod materion yn ystod Cyfarfodydd Llawn.

Mae’r Llywydd, cadeirydd y cyfarfodydd, yn eistedd ym mhlaen

yn Y Siambr, yn gwynebu’r gwleidyddion.

Mae’r Cabinet yn eistedd yn res cynta’r seddi, yn gwynebu’r Llywydd

Y Cabinet: gweinidogion uchaf y Llywodraeth, sydd wedi’u dewis gan

y Prif Weinidog i arwain meysydd polisi penodol.

Oeddech chi’n gwybod? Gallwch chi wylio Cyfarfodydd

Llawn ar-alw ar wefan

Senedd TV, neu o’r galeri cyhoeddus sydd uwchben Y Siambr.

Mae’r Prif Weinidog yn eistedd yng nghanol rhes y Cabinet

Mae’r Aelodau eraill i gyd yn

eistedd y tu ôl i’r Cabinet, yn grwpiau eu pleidiau gwleidyddol.

DEALLTWRIAETH

ASTUDIAETH ACHOS: DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Yn 2015 cyflwynodd y Senedd Deddf Llesiant

Cenedlaethau’r Dyfodol. Cymru yw’r unig le yn y byd gyda deddf i warchod cenedlaethau’r dyfodol.

Mae rhaid i 44 corff cyhoeddus yng Nhymgru - yn

cynnwys y llywodraeth, ysgolion, a’r GIG - meddwl

am genedlaethau’r dyfodol a gweithio tuag at 7 nôd llesiant ym mhopeth maen nhw’n ei gwneud.

Ydych chi’n meddwl bod hwn yn syniad da i Gymru?

TRAFODAETH

Pa materion dylai’r Senedd fod yn eu

trafod? Pam?

GEIRFA ALLWEDDOL

Pwyswch ar y geiriau allweddol i ddarganfod mwy o wybodaeth amdanynt.

Y Cyntaf i'r Felin: System pleidleisio etholiadau seneddol y DU. Mae’r plaid gyda’r nifer mwyaf o bleidleisau mewn etholaeth yn ennill y sedd.

Rhestr Gyfrannol Caeedig: System pleidleisio etholiadau seneddol Cymru. Rydych chi’n pleidleisio i blaid gwleidyddol a’u rhestr cysylltiol, neu i ymgeisydd annibynnol. Etholwyd ymgeiswyr, mewn trefn, o’r rhestr.

Etholwyd ymgeiswyr annibynnol os fydd ganddyn nhw digon o bleidleisiau.

Etholaeth: Ardal penodol o wlad

sydd wedi’i gynrychioli gan wleidydd. Gelwir y pobl sy’n byw o fewn etholaeth yn etholwyr. Yn ystod etholaeth, mae etholwyr yn ethol gwleidydd i gynrychiol eu hetholaeth.

Senedd: Corff deddfwriaethol cenedlaethol. Y Senedd yw senedd Cymru.

Dadleoli: Rhannu pwerau o’r llywodraeth ganolog i lywodraethau rhanbarthol/lleol

Llywodraeth: Corff sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau mawr dros newidiadau i’r gyfraith a gwariant cyhoeddus.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook