2 minute read

Gwahanol fathau o gynllunio

Cynllunio, yn syml iawn, yw’r broses o fabwysiadu cynllun neu ffordd o weithredu i gyflawni ein nodau a’n amcanion. Mae’n galw am feddwl ymlaen, rhagweld anghenion a chamau gweithredu, a phennu blaenoriaethau. Mae cynllunio effeithlon yn dibynnu ar gael bwriad clir a syniad o’r hyn yr ydym am ei gyflawni. Wrth gynllunio, dylem wastad gofio ein bod yn cynllunio ar gyfer chwarae plant – a bod chwarae’n berchen i’r plant. Byddwn yn cynllunio i’r plant fynegi eu hymddygiad chwarae’n rhydd, ac nid i gyflawni ein hawydd personol ni am drefn ac i reoli.

Man cychwyn da ar gyfer unrhyw brosiect gwaith chwarae yw meddwl am yr hyn yr ydym yn anelu i’w wneud. Beth yw pwrpas y ddarpariaeth yr ydym yn ei datblygu? Pa ganlyniadau ydym eu heisiau? Sut allwn ni gyflawni’r canlyniadau hyn orau? A sut fyddwn ni’n gwybod os ydyn ni’n eu cyflawni?

Advertisement

Mae gwahanol amgylchiadau’n galw am wahanol agweddau tuag at gynllunio a gall cynllunio ddigwydd dros wahanol gyfnodau yn dibynnu ar ei bwrpas. Isod rhestrir rhai mathau cyffredin o gynllunio allai fod o ddefnydd i uwch-weithwyr chwarae:

• Mae cynllunio tymor hir neu strategol yn ymwneud â’n gweledigaeth a’r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y pen draw. Gallai enghreifftiau o gynllunio tymor hir gynnwys adeiladu gofod chwarae newydd, eiriolaeth a marchnata. • Bydd cynllunio tactegol fel arfer yn digwydd dros gyfnod byr neu ganolig ac mae’n ymwneud â’r modd y caiff pethau eu gwneud a sicrhau bod nodau ein cynlluniau strategol yn cael eu cyflawni. Gallai enghreifftiau o gynllunio tactegol gynnwys cael y cynghorydd lleol i gefnogi ein hachos neu gael plant sydd wedi colli diddordeb i ailymweld â’r ddarpariaeth gwaith chwarae. • Cynllunio wrth gefn yw dynodi a pharatoi ar gyfer yr hyn allai fynd o’i le, er enghraifft cynllunio cyfleoedd gwahanol rhag ofn y bydd y tywydd yn ddifrifol wael. • Mae cynllunio rheolaidd yn cyfeirio at ddigwyddiadau arferol, rheolaidd fel cyfarfodydd staff, rotâu neu gasglu deunyddiau. • Mae cynllunio bob dydd yn cynnwys paratoi adnoddau’n uniongyrchol ar gyfer chwarae. • Mae cynllunio prosiect yn cyfeirio at brosiect penodol sydd ag amserlen benodedig, fel paratoi ar gyfer digwyddiad arbennig.

Gelwir un math o gynllunio y byddem am ei osgoi yn reoli argyfwng. Nid yw hyn yn gynllunio yn yr ystyr traddodiadol mewn gwirionedd, gan ei fod yn cynnwys delio’n barhaus â bygythiadau wedi iddynt ddigwydd. Mae’n ymateb i sefyllfaoedd yn barhaus yn hytrach na chynllunio ar eu cyfer ymlaen llaw.