Mae’r adroddiad effaith yn cynnig trosolwg o waith a chyflawniadau Chwarae Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth eiriol dros chwarae plant.
Mae’n cynnwys adrannau ar sut yr ydym wedi cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a sut yr ydym wedi ymgysylltu â’n cynulleidfa, darparu cyfleoedd, cynhyrchu cyhoeddiadau a sut yr ydym wedi cydweithio yn lleol i sicrhau bod y gweithlu chwarae a’r gweithlu gwaith chwarae yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, ar draws Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys rhagair gan Gadeirydd Chwarae Cymru, Dr Mike Shooter CBE, yn ogystal ag adran ar sut y byddwn ni’n gweithio i barhau i gefnogi a hyrwyddo chwarae plant er mwyn creu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar.