Design Examples - Magazines and Booklets

Page 1

a t n a l b i h t e a g o Cryfhau’r gefn u g s y d n io n e h g n phobl ifanc ag a d d e n y w g N g n y l ychwanego 2015

Tel: 01766 771000 @cyngorgwynedd www.gwynedd.gov.uk

cyngorgwyneddcouncil


gefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngwynedd Cryfhau’r

Er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd yng Ngwynedd, mae angen diweddaru’r ddarpariaeth. Nid yw’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig wedi newid yn sylweddol ers 30 mlynedd, ac mae anghenion cymdeithas, ynghyd â gwybodaeth am y gwahanol gyflyrau, wedi datblygu llawer ers hynny. Fe fydd newidiadau sylweddol hefyd ym mholisïau llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf yn y maes – sy’n golygu na allwn aros yn ein hunfan. Yn benodol, mae angen trefn sy’n: l

Darparu addysg o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo annibyniaeth plentyn

l

Rhoi mwy o bwyslais ar flynyddoedd cynnar plentyn

l

Adnabod unrhyw anghenion neu broblemau posibl, a gweithredu arnynt yn gynt

l

Sicrhau bod gwybodaeth yn cael eu rhannu’n fwy effeithiol efo plant a’u teuluoedd

l

Sicrhau bod pob corff sydd â chyfrifoldeb am gefnogi plentyn yn gweithio fel un tîm ac yn cydgynllunio’n effeithiol.

Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu cynllun newydd i drawsnewid y gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc (rhwng 0 a 25 oed) ag anghenion dysgu ychwanegol ac i’w teuluoedd. Credwn y bydd y gwasanaeth newydd, o’i weithredu, yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc Gwynedd a fydd yn amserol, yn gyson, yn effeithiol ac yn syml a dealladwy i rieni. Ar yr un pryd, mae arnom eisiau clywed eich barn chi cyn symud ymlaen i roi’r cynllun ar waith yn llawn. Mae’r daflen hon yn cynnwys crynodeb byr o’n cynigion, ynghyd â manylion ar sut y gallwch chi ymateb iddynt.

2


Sicrhau’r cyfleoedd a’r profiadau gorau i bob plentyn Ein gweledigaeth: Sicrhau bod

pob plentyn unigol yn gallu manteisio ar gyfleoedd ac ennill profiadau sydd wedi eu cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer, er mwyn eu galluogi i wneud y cynydd yn unol a’u gallu.

Ein hamcanion allweddol:

Mae’r cynlluniau y mae Cyngor Gwynedd wedi eu paratoi ar gyfer gwireddu’n gweledigaeth yn seiliedig ar bedwar amcan allweddol. Dyma ychydig o fanylion am bob amcan, a’r camau y cynigiwn eu cymryd er mwyn eu cyflawni.

3


1 Amcan Allweddol 4

Gwasanaeth a fydd yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar flynyddoedd cynnar plentyn gan geisio adnabod unrhyw broblemau yn gynnar iawn - a gweithredu arnynt yn ddi-oed. l

Canolbwyntio mwy o adnoddau ac arbenigedd ar anghenion plant ifanc o 0 i 5 oed a chreu swyddi newydd arbenigol i weithio yn benodol efo plant o’r oedran yma.

l

Cysoni dulliau asesu ar draws y Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd ac ysgolion er mwyn sicrhau bod ein dulliau asesu yn gyson a manwl.

l

Cyflwyno meini prawf mynediad newydd i’r Canolfannau Anhwylder Iaith a’r Canolfannau Asesu Cynnar fel bod mynediad posib ar gyfer pob plentyn addas, gan gynnwys plant oed meithrin.

l

Rhannu gwybodaeth yn well rhwng y sectorau Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.


Cryfhau sgiliau’r gweithlu drwy gyflwyno Rhaglen Hyfforddiant cynhwysfawr a fydd yn rhoi sylw penodol i gryfhau dealltwriaeth y gweithlu o’r cyflyrau gwahanol ac o’r ymyraethau priodol ar eu cyfer.

l

Sicrhau system data a monitro effeithiol drwy gryfhau systemau sydd eisoes yn bodoli a sefydlu system data a monitro newydd i greu darlun cyflawn o’r plentyn.

l

Cyflwyno Cynllun Datblygu Unigol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn unol â disgwyliad Llywodraeth Cymru. Bydd y Cynllun, a fydd yn cael ei roi ar waith yng Ngwynedd mewn camau o Ionawr 2015 ymlaen, yn dal yr un hawliau statudol â datganiadau presennol ac ar gyfer pob plentyn sydd angen cefnogaeth ychwanegol heb wahaniaethu yn ôl dwyster yr anghenion.

2

l

Amcan Allweddol

Gwasanaeth a fydd yn cynnig y profiadau addysgol gorau bosibl i ddisgyblion unigol, ac a fydd yn asesu’n barhaus ac yn olrhain cynnydd yn well.

l

Datblygu Siarter / Cytundeb rhwng yr ysgolion a’r Cyngor fydd yn ddatganiad clir o swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Cyngor ac ysgolion unigol wrth ymwneud gyda’r maes yma.

l

Sefydlu trefniadau Cynnal Ymddygiad newydd, integredig a chyson ar gyfer y disgyblion sydd angen darpariaeth ychwanegol ar gyfnodau penodol ac eithriadol.

5


3 Amcan Allweddol

Trefniadau cydweithio, cyd-gynllunio a blaenoriaethu effeithiol rhwng yr asiantaethau perthnasol a fydd yn sicrhau cyngor a gwybodaeth glir i rieni. l

Mwy o gyd-drafod a rhannu gwybodaeth gyda rhieni plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

l

Sefydlu un tîm canolog arbenigol wedi ei ddosbarthu’n gyson ar draws y sir fydd yn cynnwys Cydlynwyr Cyswllt Anghenion Dysgu Ychwanegol, Athrawon Ymgynghorol, Uwch Gymorthyddion, Seicolegwyr Addysgol, Swyddog Cynhwysiad ac adnoddau gweinyddol effeithiol. Bydd y tîm canolog yn cyd-weithio’n agos gyda’r gweithlu o fewn yr ysgolion.

l

6

Sefydlu Tîm Integredig, amlasiantaethol, arbenigol er mwyn cefnogi’r Tîm Canolog a hyrwyddo cydweithio pellach. Yn ôl yr angen

gallai’r tîm yma gynnwys Seicolegwyr Addysg, Nyrsys Ysgol, Swyddogion Lles Addysg, Gweithwyr Ieuenctid, Swyddogion Iechyd Meddwl Arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc, Swyddogion Gyda’n Gilydd/ Teuluoedd yn Gyntaf a Gweithwyr Cymdeithasol. l

Cysoni’r trefniadau a chryfhau’r cyd-weithio rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a Derwen (y Tîm Integredig Plant Anabl sy’n gweithio hefo plant a phobl ifanc 0 18 oed yng Ngwynedd) ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.

l

Sefydlu cofrestr ganolog a chyfoes o gysylltiadau arbenigol ac arferion da yn gysylltiedig â’r holl gyflyrau gwahanol.


Sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar ddau safle (Pendalar a Phenrhyndeudraeth). Bydd holl adnoddau’r ddarpariaeth anghenion arbenigol yn cael eu canoli o fewn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer yr ysgolion arbennig yn ogystal â’r prif lif.

l

Darpariaeth breswyl ac egwyl fer bydd unedau preswyl ac egwyl fer ddwyieithog yn cael eu cynnig yn yr Ysgol Arbennig newydd. Bydd hyn yn lleihau’r angen i anfon plant allan o’r sir, ac yn manteisio ar gyfleoedd posib gan siroedd eraill a fyddai’n dymuno lleoli plant mewn sefydliad sy’n darparu addysg ddwyieithog.

l

Sefydlu rhwydwaith o ddarpariaeth lloeren yn gysylltiedig â’r Ganolfan Ragoriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol - y bwriad yw sicrhau fod yr holl ddarpariaeth canolfannau arbenigol presennol yn cael eu cysoni ac yn dod o dan reolaeth y Ganolfan Ragoriaeth.

4

l

Amcan Allweddol

Plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y rhai â’r anghenion mwyaf dwys, yn derbyn eu haddysg mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, lle bydd arbenigeddau ac arferion da’r ysgolion arbennig a’r prif lif yn cael eu datblygu ymhellach.

7


Manteision y drefn newydd i’ch plentyn chi l

Mwy o gyfleoedd a phrofiadau. Bydd y drefn newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd a phrofiadau fydd yn cael eu cynllunio’n arbennig i alluogi’ch plentyn i wneud y cynnydd yn unol â’i allu.

l

Gwell cefnogaeth a gwell gwybodaeth a chyngor - er mwyn sicrhau eich bod yn deall y broses ac yn gallu gwneud dewisiadau sy’n seiliedig ar wybodaeth o’r cychwyn un.

l

Un pwynt cyswllt i chi a’ch plentyn. O dan y drefn newydd, bydd eich plentyn yn ganolog i’r holl broses o’r dechrau, gan gynnwys yr asesu, y cynllunio a’r adolygu. Ar gyfer y plant gydag anghenion mwy dwys, bydd un swyddog arbenigol a fydd â’r sgiliau a’r gallu i sicrhau’r holl gymorth y bydd eich plentyn ei angen.

l

Darpariaeth gyson ym mhob rhan o’r sir. Ble bynnag yng Ngwynedd yr ydych yn byw, bydd y trefniadau newydd yn sicrhau bod eich plentyn yn cael mynediad i’r un ddarpariaeth ychwanegol o safon.

l

Cefnogaeth effeithiol ac amserol o’r cychwyn. Bydd anghenion eich plentyn yn cael eu hadnabod ac yn cael sylw mor gynnar â phosib.

l

Cefnogaeth hyblyg a mwy ymatebol. Drwy asesu’n barhaus a monitro cynnydd yn well, bydd modd addasu’r ddarpariaeth yn effeithiol dros amser wrth i’ch plentyn ddatblygu ac wrth i’w anghenion newid.

8


Beth fydd yn digwydd nesaf? Rhwng 9 Chwefror a 27 Chwefror mae cyfle i bawb ddweud eu dweud fel rhan o’r ymgynghori cyhoeddus. Bydd y sylwadau a dderbyniwn yn bwysig ar gyfer gwirio’r penderfyniadau terfynol. Y gobaith yw y bydd rhai elfennau o’r Strategaeth yn dod yn weithredol o Fedi 2015 ymlaen er na fydd unrhyw newidiadau statudol na chyllidol i’r ysgolion yn weithredol hyd Fedi 2016.

Beth yw eich barn chi? Rydym yn annog pawb sydd â barn ynghylch unrhyw un o’r cynigion yma i rannu eich syniadau â ni. Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r holiadur sydd ynghlwm. Gallwch hefyd lenwi’r holiadur ar-lein drwy ymweld â www.gwynedd.gov.uk/AnghenionDysguYchwanegol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 27 Chwefror 2015 9


gefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngwynedd Cryfhau’r

- Cyfle i gael dweud eich dweud

Er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib mewn bywyd i blant a phobl ifanc (25 oed ac iau) sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd, mae angen diweddaru’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yng Ngwynedd. I gwrdd â’r nod yma, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu strategaeth newydd i sicrhau fod pob plentyn yn gallu manteisio ar gyfleoedd ac ennill profiadau sydd wedi eu cynllunio’n effeithiol ar eu cyfer, er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd yn unol â’u gallu. I gwblhau’r holiadur ar-lein, ewch i www.gwynedd.gov.uk/AnghenionDysguYchwanegol neu llenwch y bylchau ar y copi papur o’r holiadur a dychwelyd i: Adolygiad Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, LL55 1SH Dyddiad cau: 27 Chwefror 2015 Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, gallwch anfon e-bost i AdolygiadADYaCh@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 771000 1) q q q q q

Beth yw eich diddordeb yn y maes? a - Rhiant i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu ganolfannau’r sir (e.e Canolfannau Asesu Cynnar, Canolfannau Anhwylder Iaith) b - Nain / Taid i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir c - Perthynas i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir ch - Rhiant / perthynas i blentyn sydd heb gyrraedd oed ysgol, ond fydd o bosib yn derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir yn y dyfodol. d - Arall _____________________________________________

Ewch i gwestiwn 2 ar gyfer yr opsiynau a,b,c, neu ewch i gwestiwn 3 ar gyfer opsiyn ch. 2) Pa ysgol neu uned mae eich plentyn / perthynas yn mynd iddi? ________________________________________________________________________________

Atebwch y cwestiwn hwn os mai eich ateb i gwestiwn 1 oedd: l ‘Rhiant i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir’. Neu l ‘Nain / Taid i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir’ Neu l ‘Perthynas i ddisgybl sy’n derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir’. 3) I ba Ysgol neu Uned fydd eich plentyn / perthynas yn mynd yn y dyfodol? ________________________________________________________________________________

Atebwch y cwestiwn hwn os mai eich ateb i gwestiwn 1 oedd: l ‘Rhiant / perthynas i blentyn o dan oed ysgol ond fydd o bosib yn derbyn cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol neu unedau’r sir yn y dyfodol’. >

4) Beth yw grwp oedran eich plentyn / perthynas? 0-3 q 4-7 q 8 - 11 q 12 - 14 q 15 - 16 q

Ôl 16 q


5) Ydy eich plentyn yn...

Hogyn q

Hogan q

Y Blynyddoedd Cynnar 6) Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar y gefnogaeth sydd ar gael i blant ifanc 0 - 5 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 7) Mae angen un dull o asesu anghenion plentyn ar draws y cylchoedd meithrin, meithrinfeydd ac ysgolion, er mwyn sicrhau cysondeb. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 8) Dylai plant ifanc, gan gynnwys oed meithrin gael mynediad i’r Canolfannau Anhwylder Iaith a’r Canolfannau Asesu Cynnar. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 9) Mae’n hanfodol bwysig bod swyddogion Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn rhannu gwybodaeth. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 10) Mae angen tracio cynnydd bob plentyn unigol er mwyn helpu adnabod anghenion y plentyn yn gynt a sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd yn unol â’u gallu. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 11) Er mwyn sicrhau eglurder, dylid cytuno ar siarter o gyfrifoldebau rhwng y rhieni, yr ysgolion a’r Cyngor, fel y bydd pawb yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am beth. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 12) Dylid cael trefn integredig i gefnogi plant sydd angen cymorth ychwanegol penodol i ddelio efo’u hymddygiad. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________


Cydweithio, cyd-gynllunio a blaenoriaethu effeithiol 13) Mae angen gwell cyfathrebu a chyd-drafod efo rhieni plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 14) Dylid sefydlu un tîm canolog arbenigol i ddarparu’r gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ 15) I gefnogi’r tîm canolog ac i hyrwyddo cydweithio pellach, dylid tynnu’r holl arbenigwyr (e.e seicolegwyr addysgol, nyrs ysgol, gwasanaeth lles addysg, therapyddion a Theuluoedd yn Gyntaf) at ei gilydd er mwyn osgoi dyblygu ac unrhyw fylchau. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau ychwanegol yma: _____________________________________________ ________________________________________________________________________________ Datblygu Canolfan Ragoriaeth oddi fewn i’r Ysgolion Arbennig 16) Dylid dod a’r ddwy ysgol addysg arbennig bresennol at ei gilydd o dan faner Canolfan Ragoriaeth newydd ((ar ddwy safle) er mwyn sicrhau fod yr arbenigedd ar gael i holl ddisgyblion y Sir. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau yma: ___________________________________________ ________________________________________________________________________________ 17) Dylid sicrhau fod canolfannau arbenigol presennol y sir yn dod o dan faner y Ganolfan Ragoriaeth. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn darparu cefnogaeth sy’n gyson ac o’r ansawdd gorau posib. Cytuno q

Anghytuno q

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno q

Ddim yn gwybod q

Rhowch eich sylwadau yma: ___________________________________________ ________________________________________________________________________________ 18) Oes yna unrhyw fater arall yr hoffech chi nodi? ________________________________________________________________________________ Manylion Personol Enw:. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Benyw q

Gwryw q

Rhif ffôn: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . E-bost: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Cyfeiriad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . ................................................................................


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.