R H W Y DWA I T H IE CH Y D CY H O ED D U S CY M RU E- FWLETIN H ydref 2026
RHIFYN SAFBWYNTIAU ARBENNIG – ANGHYDRADDOLDEBAU IECHYD YNG NGHYMRU
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Croeso Beth yw Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru? Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar wella iechyd a lles poblogaeth Cymru a chyfunodd bedwar rhwydwaith pwnc-benodol blaenorol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Rhwydwaith yn ymdrin â sbectrwm eang o bynciau gan gynnwys atal mewn gofal iechyd, ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, lles meddyliol ac mae’n canolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd – tai, addysg, cyflogaeth, incwm ac adnoddau a’r amgylchedd.
2
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Penawdau
5
Ymchwil, Ymarfer
19
Tegwch Iechyd yng Nghymru: O Dystiolaeth i Weithredu
Dod i adnabod ein haelodau
James Allen, Gwyddonydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymarfer
Zuwaira Hashim, Cydlynydd Iechyd Rhyngwladol, Iechyd
6
Cyhoeddus Cymru
Pam mae Moderneiddio Gofal ar gyfer Diffyg B12 yn Fuddugoliaeth Hawdd i Gymru
Lauren Couzens, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Daniela Stewart, Swyddog Datblygu Tystiolaeth Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Jo Peden, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Katrina Burchell, Prif Swyddog Gweithredol, Y Gymdeithas Anemia Pernisius
Ymarfer Ymarfer
8
Tyfu gyda'n gilydd: Sut mae cysylltiadau cymunedol yn cefnogi iechyd meddwl plant ym Melin Ifan Ddu
21
Claire Turbutt, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Meddwl Cyhoiddus a Phenderfynyddion Ehangach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taff Morgannwg
Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf? Tîm Gwella Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ymchwil
Ymchwil
23
10 Lleihau Anghydraddoldebau mewn
Y Tu Hwnt i Sgiliau Digidol: Ailfeddwl am Wytnwch er mwyn Diogelu Iechyd Plant
Amgylcheddau Bwyd Ysgol: Ystyriaethau ynghylch prosiect 'RISE'
Dr. Cristina Izura
Dr Rochelle Embling, Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sylwebaeth
25 Bwydo ar y Fron - "Y Cydraddolwr Mawr"
Sylwebaeth
Rachel Evans – Prof Fydwraig Genedlaethol am Fwydo ar y Fron, Iechyd Cyhoeddus Cymru
12
Y Tu Hwnt i Wytnwch: Adeiladu Rhwyd Ddiogelwch o Amgylch Pobl Ifanc Ar-lein Jason Celia, Myfyriwr PhD, Prifysgol Abertawe
Trwy glep a si
Ymarfer
Ymarfer
14
Tu Hwnt i Ymwybyddiaeth: Parodrwydd Uchel ond Mynediad Isel at Frechu ymhlith Cymunedau Dynion Hoyw a Deurywiol sy'n Cael Rhyw gyda Dynion yng Nghymru
29
Fe ddylai pawb yng Ngwent fyw heb orfod bod ofn trais a cham-drin Bwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent
Dr Sonia Khoury, Uwch Ymarferydd Datblygu Gwasanaeth ac Ymgysylltu a Defnyddwyr, Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu (RAAF), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fideos
Sylwebaeth
Rhifyn Nesaf: Natur er budd Tegwch Iechyd
16
Cyflymu tegwch iechyd i fenywod yng Nghymru drwy roi cydgynhyrchu wrth y llyw Debbie Shaffer, Cyfarwyddwr, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)
Polisi, Ymarfer, Sylwebaeth
18
Oh, What’s Occurin’?
Cerys Preece, Prif Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus
3
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Penawdau
4
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Dod i adnabod ein haelodau: Marika Podda Connor Rydym yn dod i adnabod ein haelodau a hoffem helpu ein haelodau i ddod i adnabod ein gilydd. Y mis hwn rydyn ni’n cwrdd Marika Podda Connor, Nyrs Ymarfer Iechyd Trawsddiwylliannol. Dywedwch wrthym ychydig amdanoch eich hun a’ch gwaith ar hyn o bryd Rwy’n Nyrs Ymarfer Iechyd Trawsddiwylliannol. Fy rôl yw hyrwyddo Cymhwysedd Diwylliannol o fewn Gofal Iechyd Sylfaenol. Rwyf hefyd wedi trefnu sesiynau addysg iechyd ar gyfer cymuned Ymfudwyr Malta a darparu hyfforddiant i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ar Trais Rhywiol a Seiliedig ar Rywedd, Cymhwysedd Diwylliannol, Masnachu Pobl ac anffurfio organau cenhedlu benywaidd ymhlith eraill.
faterion iechyd, amgylcheddol a gofal cymdeithasol sy’n esblygu o amgylch fy ymarfer gwaith. Beth yw manteision bod yn aelod o’r rhwydwaith hwn i chi? Rhannu syniadau, arferion a chyfyngiadau. Beth yw’r un peth yr hoffech ei rannu ag aelodau eraill y rhwydwaith? Cyfleoedd a heriau cymhwysedd diwylliannol Ydych chi’n fodlon i’ch cyfeiriad e-bost gael ei rannu yn y bwletin electronig? Yes – mkapod62@yahoo.co.uk
Beth wnaeth eich ysgogi i ymuno â’r rhwydwaith hwn? Mae’r rhwydwaith hwn yn cwmpasu sawl agwedd ar
Dod i adnabod ein haelodau Rydym yn dod i adnabod ein haelodau a hoffem helpu ein haelodau i ddod i adnabod ein gilydd.
Os hoffech ymddangos mewn rhifyn yn y dyfodol, cwblhewch y ffurflen hon.
5
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymarfer
Pam mae Moderneiddio Gofal ar gyfer Diffyg B12 yn Fuddugoliaeth Hawdd i Gymru Katrina Burchell, Prif Swyddog Gweithredol, Y Gymdeithas Anemia Pernisius
Nid yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru bob amser yn gofyn am fentrau mawr werth miliynau o bunnoedd; weithiau, daw’r effaith fwyaf o fynd i’r afael â methiannau cyffredin sydd o flaen ein trwynau ond heb gael sylw. Fel yr amlygwyd gan ymgyrch B-12Alliance , mae miloedd o bobl yn dioddef o ddiagnosis hwyr a diffyg triniaeth briodol ar gyfer diffyg fitamin B12. Mae'r bwlch hwn yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau incwm isel, pobl hŷn a phoblogaethau gwledig sydd â llai o fynediad at ofal sylfaenol. Gan mai Anaemia Aflesol yw'r prif achos – a bod cyflyrau awto-imiwn yn effeithio'n bennaf ar fenywod – mae moderneiddio'r broses o wneud diagnosis a thrin y cyflwr yn cynnig budd uniongyrchol i iechyd y cyhoedd ac i gydraddoldeb o ran rhywedd. Y Cyfle Mwyaf
Arwyddocaol Mae gwella'r broses o wneud diagnosis a rheoli diffyg fitamin B12 ac Anaemia Aflesol yn gyfle eithriadol i hybu tegwch mewn iechyd. Mae fitamin B12 yn hanfodol ar gyfer swyddogaeth niwrolegol a chynhyrchu celloedd coch y gwaed. Pan na chaiff y cyflwr ei ddiagnosio, gall achosi niwed i'r nerfau, nam gwybyddol difrifol a blinder dwys. Yn aml, caiff ei ddiagnosio'n anghywir, gan arwain at nifer fawr o atgyfeiriadau a phresgripsiynau diangen. Mae atal y dirywiad niwrolegol cysylltiedig yn diogelu gallu unigolion i weithio, yn galluogi oedolion hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, ac yn lleihau beichiau gofal cymdeithasol hirdymor. Beth Sydd Angen i ni ei Wneud yn Wahanol? Rhaid inni safoni llwybrau clinigol yn gyflym ar draws pob un o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, 6
yn unol â Chanllaw NICE (NG239). Mae'r Canllaw hwn yn seiliedig ar ymchwil, profiadau byw a mewnbwn gan randdeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Anaemia Aflesol. Dylai Cymru fabwysiadu profion trothwy clinigol gweithredol (megis profion eilaidd ar gyfer Active B12 ac MMA) pan fydd cleifion yn cyflwyno symptomau niwrolegol, ni waeth a yw lefelau B12 yn y serwm yn disgyn o fewn ystodau ffiniol “normal”. Drwy sicrhau bod y profion hyn ar gael mewn gofal sylfaenol, gallwn leihau costau atgyfeirio a chyflymu'r broses i wneud diagnosis. Beth Ddylen ni roi’r Gorau Iddo? Rhaid inni roi'r gorau i ailbrofi lefelau cyfanswm B12 yn y serwm pan fo cleifion eisoes yn cael therapi adfer. Rhaid inni roi'r gorau i orfodi cleifion sy'n profi symptomau i ddilyn amserlenni anhyblyg o 12 wythnos ar gyfer pigiadau cynnal B12, pan fo'u
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
symptomau clinigol yn dangos yn glir fod angen triniaeth yn fwy aml. Mae protocolau anhyblyg yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd drwy roi pobl na allant eirioli dros eu hunain yn ddigonol mewn lleoliadau clinigol prysur dan anfantais. Y Gallu a'r Dull sydd eu Hangen Mae angen llwybrau gofal sylfaenol a fferylliaeth gymunedol gydgysylltiedig arnom. Byddai trosglwyddo pigiadau cynnal B12 arferol a monitro symptomau i fferyllfeydd cymunedol o dan Fodel Gofal Sylfaenol Cymru yn lleihau’r pwysau ar feddygon teulu, gan sicrhau gofal mwy teg mewn cymunedau lleol, difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Bydd hyfforddi cleifion sy'n gallu ac yn fodlon rhoi pigiadau B12 iddynt eu hunain, lle bo'n briodol, yn arbed amser ac arian i'r GIG ac yn rhoi mwy o reolaeth i gleifion dros eu cyflwr. Bydd hyn yn mynd i'r afael â rhwystrau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig a cholli amser gwaith, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghydraddoldeb
economaidd-gymdeithasol. Beth sy’n rhoi Gobaith? Mae gan Gymru’r gallu i ymateb yn hyblyg o ran polisi – drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Byrddau Iechyd integredig – i symud yn gyflymach na systemau mwy. Drwy wrando ar brofiadau byw pobl a rhoi diweddariadau diagnostig syml ar waith, gall Cymru sicrhau na fydd unrhyw glaf yn colli allan oherwydd diffyg fitamin y gellir ei atal am gost isel. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: info@pasoc.org. uk 1 B12 Alliance Parliamentary Reception Westminster | Vitamin B12 Deficiency UK 2 Overview | Vitamin B12 deficiency in over 16s: diagnosis and management | Guidance | NICE 3 Pernicious Anaemia Society | Improving the Diagnosis & Treatment
7
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymarfer
Tyfu gyda'n gilydd: Sut mae cysylltiadau cymunedol yn cefnogi iechyd meddwl plant ym Melin Ifan Ddu Claire Turbutt, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Meddwl Cyhoiddus a Phenderfynyddion Ehangach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taff Morgannwg
Beth Underwood, Rheolwr Rhaglen Arloesi Tai Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taff Morgannwg Ym Melin Ifan Ddu, mae Prosiect y Tair Cymuned yn dangos sut y gall datblygu cymunedol gefnogi iechyd meddwl plant drwy gryfhau perthnasoedd, cysylltiadau cymdeithasol ac ymdeimlad o berthyn. Yn hytrach na dechrau gydag ymyrraeth wedi'i diffinio ymlaen llaw, gwrandawodd y prosiect ar drigolion ac adeiladu ar beth oedd yn bwysig iddynt: rhwydweithiau teuluol cryf rhwng cenedlaethau, balchder yn yr ardal a gwerthfawrogiad o'r coetir o amgylch y pentref. Datgelodd sgyrsiau cynnar un o gryfderau mwyaf Melin Ifan Ddu: cysylltiadau agos rhwng cenedlaethau. Disgrifiodd preswylwyr deuluoedd
yn cefnogi ei gilydd, a chymdogion sy'n adnabod ac yn gofalu am ei gilydd. Mae'r perthnasoedd bob dydd hyn yn cynnig mentora anffurfiol, cefnogaeth emosiynol a chysylltiad ag oedolion dibynadwy i blant, gan helpu i gryfhau hunaniaeth, gwydnwch, diogelwch a pherthyn. Daeth y goedwig yn ganolbwynt ymarferol ar gyfer gweithredu dan arweiniad y gymuned. Roedd y gweithgareddau adfywio, gwella'r amgylchedd a dysgu yn creu gofod a rennir lle gallai plant, rhieni a thrigolion hŷn dreulio amser gyda'i gilydd. Mae Dechrau'n Deg Melin Ifan Ddu bellach yn defnyddio'r goedwig fel ystafell ddosbarth awyr agored, gan fynd â'i gynlluniau dysgu arferol 8
i ofod newydd lle mae plant yn gofyn cwestiynau, yn archwilio natur ac yn chwarae'n rhydd. Mae'r staff yn dweud bod y profiad yn cefnogi datblygiad holistaidd y plant, o'r daith gerdded fer i'r goedwig hyd at y gweithgareddau yn y ganolfan ddosbarth awyr agored. Mae sesiynau ymgysylltu â theuluoedd wedi ymestyn y manteision hyn. Mae rhieni a gofalwyr yn ymuno â phlant yn y goedwig ac yn dysgu gweithgareddau syml yn yr awyr agored y gallant eu hailadrodd eu hunain. Mae eu hadborth yn awgrymu bod teuluoedd yn dychwelyd yn annibynnol ac yn gwerthfawrogi cael gofod croesawgar ac wedi'i addasu o fewn taith gerdded o tua phum munud i lawer o gartrefi. Yn hollbwysig, maen
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
nhw'n ei ddisgrifio fel lle diogel i gwrdd â theuluoedd eraill ac i feithrin ymdeimlad cryfach o berthyn. Mae hyn yn cyfuno manteision amddiffynnol treulio amser yn yr awyr agored ar gyfer iechyd meddwl â chyfleoedd i feithrin cysylltiadau cymdeithasol ar draws teuluoedd a chenedlaethau. Mae'r ffordd y mae'r coetir yn datblygu hefyd yn bwysig. Mae staff Dechrau'n Deg yn adrodd bod y rhai sy'n arwain y prosiect yn frwdfrydig, yn llawn gwybodaeth ac yn awyddus i gynnwys amrywiaeth eang o leisiau. Mae awgrymiadau’r gymuned yn cael eu clywed a’u defnyddio, gan roi perchnogaeth i drigolion o’r ardal a hyder yn ei ddyfodol.
Drwy gefnogi cyfranogiad, cryfhau hunaniaeth gymunedol a galluogi cyswllt ystyrlon rhwng cenedlaethau, mae Prosiect y Tair Cymuned yn dangos egwyddor bwysig ym maes iechyd y cyhoedd: nid amgylchiadau unigol na gwasanaethau yn unig sy'n llunio lles plant, ond ansawdd y perthnasoedd, y lleoedd a'r cymunedau o'u cwmpas. “Mae'r gymuned yn cymryd rhan lawn mewn unrhyw awgrymiadau; caiff eu barn a'u safbwyntiau eu cymryd i ystyriaeth! Rydym yn gyffrous i gyflwyno ein teuluoedd a phlant newydd i'r ardal yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at weld twf yr ardal wrth iddo barhau i ddatblygu!” Drwy gefnogi cysylltiad
9
cymdeithasol, cryfhau hunaniaeth gymunedol a chreu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio ystyrlon rhwng y cenedlaethau, mae Prosiect y Tair Cymuned yn dangos sut y gall datblygu cymunedol gyfrannu at iechyd meddwl y boblogaeth. I blant ym Melin Ifan Ddu, gall byw mewn cymuned gysylltiedig lle mae gwahanol genedlaethau’n cwrdd gefnogi lles emosiynol, hyder a chadernid. Mae'r prosiect yn atgyfnerthu neges ehangach ym maes iechyd y cyhoedd: nid amgylchiadau unigol yn unig sy'n llunio iechyd meddwl plant, ond hefyd ansawdd y cymunedau a'r perthnasoedd o'u cwmpas. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Claire.Turbutt@ wales.nhs.uk
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymchwil
Lleihau Anghydraddoldebau mewn Amgylcheddau Bwyd Ysgol: Ystyriaethau ynghylch prosiect 'RISE' Dr Rochelle Embling, Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae llawer o deuluoedd yn parhau i gael trafferth gyda chostau byw. Yn 2026, mae prisiau bwyd wedi cynyddu hyd at 20% ers 2023, ac mae cyfartaledd gwariant misol aelwydydd bellach tua £520 (1). Ochr yn ochr â biliau ynni, tai a chostau tanwydd sy'n codi, yr aelwydydd â'r incwm isaf yw'r rhai sy'n wynebu'r baich mwyaf, ac nid yw effeithiau chwyddiant yr un mor gyfartal ledled y DU (2). Yn hanesyddol, mae bwyd ysgol wedi bod yn ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, o ran iechyd ac effeithiau ariannol. Yn y 1940au, roedd ciniawau ysgol yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael o leiaf un pryd bwyd maethlon poeth y dydd, wrth i Brydain wynebu prinder bwyd eang a dogni adeg rhyfel (3). O symud ymlaen at heddiw, mae’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol (UFSM) wedi ehangu yng Nghymru i gynnwys pob plentyn ysgol gynradd, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi plant (4). Mae safonau bwyd ysgolion hefyd wedi’u diweddaru, ac mae’r canllawiau diweddaraf yn nodi cynnydd mewn dognau ffrwythau a llysiau; lleihau bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen; ac yn annog ffynonellau bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion a rhai sy'n uchel mewn ffeibr a
phrotein, fel grawn cyflawn, ffa a chodlysiau (5). Gall derbyn y cynnig o Bryd Ysgol Am Ddim fod â manteision clir i blant. Yn y tymor byr, mae prydau ysgol yn aml yn fwy llesol o ran maeth na phecynnau cinio (6). Maent yn amlygu plant i amrywiaeth o ffrwythau, llysiau a llaeth dro ar ôl tro, ac yn helpu i lunio patrymau deietegol plant o oedran cynnar (7). Mae effeithiau mwy pellgyrhaeddol hefyd yn gysylltiedig â chynlluniau UFSM, gan y gallant leihau costau byw teuluoedd, cefnogi diogeled bwyd, a gwella presenoldeb yn yr ysgol, a fydd yn eu tro yn cefnogi perfformiad academaidd (8). Fodd bynnag, dim ond un rhan o'r stori yw’r ddarpariaeth bwyd ysgol. Yng Nghymru, mae'r nifer sy’n derbyn bwyd ysgol wedi cyrraedd 69% ers cyflwyno UFSM. Ond mewn achosion pan fo plant a theuluoedd yn dewis peidio â manteisio ar y cynnig, neu pan nad yw plant yn bwyta'r bwyd a ddarperir, mae'r manteision yn parhau i fod yn gyfyngedig. Fel rhan o brosiect 'RISE', mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn archwilio’r ddarpariaeth bwyd ysgol ledled y DU (9). Mae’r canfyddiadau hyd yn hyn 10
yn tynnu sylw at gyfleoedd i gryfhau’r ddarpariaeth – er enghraifft, drwy uwchraddio ceginau a neuaddau bwyta ysgolion, cefnogi cyflenwyr bwyd bach a rhai lleol, buddsoddi mewn sgiliau staff a’u hyfforddiant, a chynnwys plant a’u teuluoedd mewn cyd-gynhyrchu bwydlenni ysgol. Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi bylchau o ran deall y nifer sy’n manteisio ar y cynnig a’r hyn sy’n cael ei fwyta. Mae’r hyn a arsylwyd yn rhai o ardaloedd Cymru sydd â’r amddifadedd uchaf yn tynnu sylw at wahaniaethau ar draws ysgolion a grwpiau blwyddyn, a nodwyd problemau o ran maint dognau, gwastraff a monitro. Roedd y rhesymau dros ddewis pecyn cinio yn cynnwys hoffter cyffredinol o fwydydd yn ogystal â bod yn 'ffyslyd' neu dueddiadau neoffobig tuag at fwyd, deietau arbennig, a thawelwch meddwl i rieni o wybod beth yr oedd eu plentyn wedi'i fwyta y diwrnod hwnnw. Felly, er y gall y ddarpariaeth fod yn un 'gyffredinol', nid yw hyn yn golygu manteision cyfartal i bob plentyn o angenrheidrwydd. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy fwyd ysgol yn gofyn am ddeall amrywiadau mewn effeithiau yn ôl amddifadedd; nodi’r rhesymau pam y mae
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
rhai plant yn parhau i ddewis pecynnau bwyd, a mynd i’r afael â hyn; a chefnogi ysgolion i adeiladu diwylliant bwyd ysgol-gyfan lle mae 'bwyd da' yn fater i bawb (1) https://ukcostguide. co.uk/cost-of-living-uk-2026/ (2) https://www.tandfonline. com/doi/pdf/10.1080/108755 49.2025.2548774 (3) https://www. teachingabroaddirect.co.uk/ blog/school-dinners-bydecade-how-british-school-
lunches-changed-throughtime (4) https://www.llyw.cymru/ prydau-ysgol-am-ddim-iholl-blant-ysgolion-cynraddupfsm (5) https://www.llyw. cymru/rheoliadau-bwytaniach-mewn-ysgolion-2025canllawiau-statudol-ar-gyferawdurdodau-lleol-chyrff (6) https://pubmed.ncbi. nlm.nih.gov/35641314/ (7) https://pmc.ncbi.nlm.nih. gov/articles/PMC2678872/
11
(8) https://www.mdpi. com/2072-6643/13/3/911 (9) https://decipher. uk.net/research/reducinginequalities-in-schoolfood-environments-risesupporting-provision-uptakeand-consumption-of-freeschool-meals-in-primaryschools/ Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rochelle. Embling@wales.nhs.uk
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Sylwebaeth
Y Tu Hwnt i Wytnwch: Adeiladu Rhwyd Ddiogelwch o Amgylch Pobl Ifanc Ar-lein Jason Celia, Myfyriwr PhD, Prifysgol Abertawe
Oedolion sy'n dylunio'r rhyngrwyd, yn adeiladu'r rhyngrwyd, yn llywodraethu'r rhyngrwyd ac yn meithrin perthnasoedd amhriodol â phobl ifanc at ddibenion rhywiol ar-lein. Eto i gyd, yn rhy aml, mae oedolion yn ymateb drwy ganolbwyntio ar yr hyn y dylai pobl ifanc ei wybod, ei adnabod neu ei wneud yn wahanol. Ni all disgwyl i bobl ifanc osgoi'r rhyngrwyd, cyfyngu ar eu rhyngweithiadau neu fod yn fwy gofalus gymryd lle trefniadau diogelu effeithiol mewn amgylcheddau digidol sydd wedi dod yn rhan annatod o'u bywydau. I bobl ifanc, nid at ddibenion hamdden yn unig y defnyddir y rhyngrwyd. Mae'n rhan annatod o addysg, perthnasoedd â chyfoedion a chyfathrebu bob dydd, ac mae'n cefnogi agweddau ar ddatblygiad pobl ifanc yn ystod llencyndod. Dros y pum mlynedd nesaf, ni allwn ddisgwyl i bobl ifanc dynnu'n ôl o amgylcheddau sy'n dod yn fwyfwy canolog i'w bywydau. Ymchwiliodd fy ymchwil ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe i'r ffactorau datblygiadol, seicolegol a pherthynol sy'n gysylltiedig â phrofi meithrin perthynas amhriodol at ddibenion rhywiol ar-lein. Mewn dwy astudiaeth a ddefnyddiodd ddau fesur gwahanol, ni chanfuwyd cysylltiad ystadegol arwyddocaol rhwng
dimensiynau gwytnwch unigol a chyd-destunol, na gwytnwch cyffredinol, a sgoriau is ar y mesurau o brofiadau o gael eu meithrin i berthynas amhriodol at ddibenion rhywiol ar-lein. Nid yw'r canfyddiadau hyn yn golygu nad yw gwytnwch yn bwysig, nac yn profi na all gwytnwch ddylanwadu ar sut mae pobl ifanc yn ymateb i ymdrechion i feithrin perthynas amhriodol â nhw at ddibenion rhywiol ar-lein, neu sut maent yn gwella ar ôl profiadau o'r fath. Fodd bynnag, maent yn herio'r rhagdybiaeth bod mwy o wytnwch seicolegol yn cynnig amddiffyniad ym mhob achos. Serch hynny, roedd cefnogaeth gan y rhai sy'n darparu gofal a chefnogaeth gymdeithasol yn gysylltiedig â sgoriau is ar y mesurau hyn. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig ynghylch anghydraddoldebau iechyd: a oes gan bob person ifanc fynediad cyfartal at amddiffyniad rhag meithrin perthynas amhriodol â nhw at ddibenion rhywiol ar-lein? Ystyriwch ddau berson ifanc sy'n defnyddio'r un platfformau ar-lein. Gallai'r ddau ddod ar draws rhywun sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol â nhw at ddibenion rhywiol. Eto i gyd, efallai fod gan un ohonynt gyfoedion cefnogol, oedolion y gellir ymddiried ynddynt a gwasanaethau diogelu sydd ar gael yn rhwydd, tra bod gan y llall lai 12
o gyfleoedd i drafod pryderon neu gael cymorth. Felly, mae amgylchiadau economaiddgymdeithasol yn berthnasol, nid oherwydd bod pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn gynhenid yn llai gwydn neu fod ganddynt berthnasoedd gwaeth, ond oherwydd y gall tlodi, argaeledd gwasanaethau, trafnidiaeth, pwysau ar deuluoedd ac amodau strwythurol eraill ddylanwadu ar fynediad at adnoddau a chefnogaeth. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod adnoddau sy'n cynnig amddiffyniad yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u hamgylchiadau unigol a'u statws economaiddgymdeithasol. Er bod addysg a llythrennedd digidol yn parhau'n bwysig, ni all addysgu pobl ifanc i adnabod ymdrechion i feithrin perthynas amhriodol â nhw at ddibenion rhywiol ar-lein, ar ei ben ei hun, atal oedolion rhag gwneud ymdrechion o'r fath. Mae atal effeithiol yn gofyn am blatfformau digidol sydd wedi'u dylunio i leihau cyfleoedd i gamfanteisio, gwasanaethau diogelu hygyrch ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt sy'n gallu adnabod pryderon ac ymateb yn briodol. Rhaid i'r mesurau amddiffynnol hyn fod ar gael i bob person ifanc, waeth beth fo'i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Felly, dylai Cymru roi blaenoriaeth i wasanaethau
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
diogelu hygyrch, perthnasoedd cefnogol ac amgylcheddau digidol sydd wedi'u dylunio i leihau cyfleoedd i gamfanteisio. Gall ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, sefydliadau cymunedol, teuluoedd, cyfoedion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol greu amgylcheddau lle mae pobl ifanc yn teimlo y gallant drafod eu profiadau arlein heb ofni cael eu barnu na'u beio. Fodd bynnag, ni ddylai pobl ifanc ysgwyddo'r cyfrifoldeb am adnabod nac atal ymdrechion i feithrin perthynas amhriodol at ddibenion rhywiol ar-lein, boed yr ymdrechion hynny wedi'u hanelu atynt hwy neu at eu ffrindiau. Yn hytrach,
rhaid inni greu amgylcheddau lle mae pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi i fynd at oedolion y gellir ymddiried ynddynt i drafod perthnasoedd sy'n achosi pryder, gan fod yn hyderus y bydd rhywun yn gwrando arnynt, yn cymryd eu pryderon o ddifrif ac yn cynnig cymorth priodol iddynt. Dylem adeiladu rhwyd ddiogelwch o amgylch pobl ifanc, yn hytrach na disgwyl iddynt lywio amgylcheddau digidol sydd wedi'u dylunio gan oedolion ar eu pennau eu hunain. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jason Celia – 932507@swansea.ac.uk
13
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymarfer
Tu Hwnt i Ymwybyddiaeth: Parodrwydd Uchel ond Mynediad Isel at Frechu ymhlith Cymunedau Dynion Hoyw a Deurywiol sy'n Cael Rhyw gyda Dynion yng Nghymru Dr Sonia Khoury, Uwch Ymarferydd Datblygu Gwasanaeth ac Ymgysylltu a Defnyddwyr, Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu (RAAF), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae brechu’n chwarae rhan hanfodol wrth atal clefydau heintus. Ond, nid yw mynediad at wybodaeth a gwasanaethau yn cael ei brofi’n gyfartal ar draws pob cymuned. Yn ddiweddar, ymgysylltodd tîm Ymgysylltu Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru â Dynion Hoyw, Deurywiol a Dynion Eraill sy'n cael rhyw gyda Dynion (GBMSM) ledled Cymru. Roeddynt eisiau deall ymwybyddiaeth, mynediad ac agweddau tuag at frechlynnau yn erbyn brech M, HPV a hepatitis A a B, a nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau. Roedd y prosiect yn cynnwys dau arolwg, un grŵp ffocws
a chyfweliadau unigol a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr 2025 a Thachwedd 2025. Cymerodd 24 o weithwyr gofal iechyd a'r trydydd sector ran ochr yn ochr â mwy na 100 o ymatebwyr cyhoeddus o bob cwr o Gymru. Cafodd y gwaith ei wneud mewn partneriaeth â FastTrack Cymru. Roedd yn archwilio sut mae pobl yn cael mynediad at wybodaeth am frechlynnau, eu barn ar adnoddau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r rhwystrau a allai ddylanwadu ar y nifer sy'n cael eu brechu. Wedi hynny, mapiwyd y canfyddiadau gan ddefnyddio fframwaith newid ymddygiad COM-B i ddeall yn well y ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad brechu. 14
Daeth nifer o ganfyddiadau pwysig i’r amlwg. Roedd ymwybyddiaeth o frechu rhag brech M yn gymedrol, gyda thua hanner yr ymatebwyr yn nodi eu bod wedi clywed gwybodaeth am y brechlyn yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd ymwybyddiaeth o frechlynnau HPV a hepatitis A a B yn sylweddol is. Roedd llawer o ymatebwyr yn dibynnu ar glinigau iechyd rhywiol, gwefannau'r GIG a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am wybodaeth ddibynadwy. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am rwydweithiau cymunedol anffurfiol a sgyrsiau gan gymheiriaid. Tynnodd y cyfranogwyr
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
sylw yn gyson at yr heriau o ran cael mynediad at wasanaethau brechu. Roedd rhwystrau cyffredin yn cynnwys argaeledd apwyntiadau cyfyngedig, oriau agor clinigau cyfyngedig, gofynion teithio, anhawster wrth drefnu apwyntiadau, a phryderon ynghylch stigma sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â gwasanaethau iechyd rhywiol. Adroddodd y cyfranogwyr hefyd am ansicrwydd ynghylch cymhwysedd i gael brechlyn a ble i gael gafael ar frechiadau. Roedd hyn yn cynnwys ofnau a chamsyniadau ymhlith cleifion ynghylch diogelwch brechlynnau a chymhwysedd i’w cael. Roedd safbwyntiau ar adnoddau gwybodaeth presennol sydd ar gael am frech M yn gadarnhaol ar y cyfan. Disgrifiodd yr ymatebwyr yr wybodaeth fel dibynadwy, addysgiadol a hawdd ei deall. Fodd bynnag, roedd gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd yn nodi cyfleoedd i wella. Roedd y rhain yn cynnwys deunyddiau byrrach a mwy deniadol yn weledol, esboniadau cliriach o feini prawf cymhwysedd, cyfeirio gwell at wasanaethau, delweddaeth fwy cynhwysol, a mwy o ddefnydd o ffeithluniau a dulliau cyfathrebu digidol.
heb stigma, sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl sydd mewn perygl. Galwodd llawer hefyd am gynnig gwasanaethau brechu trwy ystod ehangach o leoliadau cymunedol er mwyn gwella cyfleustra a lleihau rhwystrau. Mae'r canfyddiadau wedi llywio argymhellion ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid ehangach y GIG. Mae camau gweithredu allweddol yn cynnwys cryfhau partneriaethau cymunedol, gwella cyfathrebu digidol, cynyddu hygyrchedd gwasanaethau, mynd i'r afael â stigma, a sicrhau bod gwybodaeth am frechu yn glir, yn gryno ac yn deg. Dangosodd y mewnwelediadau hyn bwysigrwydd gwrando ar gymunedau er mwyn creu gwasanaethau sy'n ymatebol, yn gynhwysol ac yn effeithiol i bawb.” Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sonia.Khoury3@ wales.nhs.uk
Pwysleisiodd y cyfranogwyr bwysigrwydd cyd-ddylunio gwybodaeth ac ymgyrchoedd gyda chymunedau yn hytrach nag ar eu cyfer. Roeddynt yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwasanaethau a dulliau cyfathrebu hygyrch, 15
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Sylwebaeth
Cyflymu tegwch iechyd i fenywod yng Nghymru drwy roi cydgynhyrchu wrth y llyw Debbie Shaffer, Cyfarwyddwr, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)
Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2026, rydyn ni’n nodi bron i ddwy flynedd ers cyhoeddi'r Cynllun Iechyd Menywod a blwyddyn ers lansio'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cynnig cryn gyfle i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru – ar yr amod bod llais dinasyddion wrth wraidd y gwaith. I FTWW, mae'r ddau gynllun yn gysylltiedig â’i gilydd, yn enwedig gan fod menywod yn fwy tebygol na dynion o fyw gyda salwch cronig, yn fwy tebygol o fod yn anabl wrth iddyn nhw heneiddio, ac o ganlyniad yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi. Yng Nghymru, mae tua 21% o'r boblogaeth yn disgrifio eu hunain fel rhai sy'n byw gydag o leiaf un cyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu bywydau bob dydd – cyfyngiadau sydd ddim bob amser yn ganlyniad i symptomau neu namau yn unig, ond hefyd i'r ffaith y gall mannau, systemau ac agweddau fod yn anablu pobl. Mabwysiadwyd y ffordd hon o feddwl, a ddisgrifir yn aml fel ‘model cymdeithasol o
anabledd’, gan Lywodraeth Cymru yn 2002. Mae'n disgrifio cyfrifoldeb pawb i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n cyfyngu ar gyfranogiad a mynediad at wasanaethau a chymorth. Mae gwaith FTWW a'r Cynllun Iechyd Menywod yn disgrifio sut mae menywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni yn arbennig o debygol o wynebu'r rhwystrau hyn, yn rhannol oherwydd, yn y gorffennol, nad yw anghenion menywod wedi cael digon o sylw mewn ymchwil feddygol nac wrth ddylunio cynnyrch a datblygu gwasanaethau. I'r rhai sy'n dal i amau, mae'r llyfr Invisible Women yn cyflwyno dadl gref, gan edrych ar y byd trwy lens benywaidd – byd lle nad yw'r palmentydd rydyn ni’n fwy tebygol na dynion o'u defnyddio yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer graeanu yn y gaeaf; lle nad yw'r ffôn symudol a ddefnyddiwn i alw am help yn ffitio ein dwylo; lle rydyn ni, wrth gyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, yn fwy tebygol na 16
dynion o gael cynnig sedatifau yn hytrach na lleddfu poen; a lle nad yw'r meddyginiaethau a roddir i ni i'w cymryd adref wedi'u profi arnom. Nid yw'n syndod, felly, mai'r ymateb llethol gan y 4,000 o gyfranwyr i Adroddiad Darganfod Iechyd Menywod yng Nghymru GIG Cymru yn 2022 oedd y neges glir eu bod am gael eu clywed o ran gofal iechyd, a bod pwysigrwydd gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd a gweithio gyda nhw yn cael ei adleisio yn yr un modd yng Nghynllun Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru. Mae sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau gwaelodol mewn sefyllfa unigryw i gefnogi ein cyd-weithwyr statudol yn eu hymdrechion i ymgysylltu â chymunedau dan anfantais, gan helpu i sicrhau bod polisïau ac arferion yn lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu. Yn wir, mae egwyddorion cydgynhyrchu yn nodwedd amlwg yn y ddau Gynllun, lle mae disgwyl i wasanaethau statudol, y trydydd sector a
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
phobl sydd â phrofiad bywyd gydweithio i ddylunio a gwerthuso gwasanaethau. Fodd bynnag, er mwyn i bartneriaid cyflawni roi'r egwyddorion hyn ar waith, mae angen iddyn nhw symud i ffwrdd o'r duedd i ymgynghori dim ond ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud. Buddsoddi – yn llythrennol ac yn ffigurol – mewn cynnwys dinasyddion o'r cychwyn cyntaf yw'r allwedd i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, ac i sicrhau tegwch iechyd.
1. Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru 2025-2035 2 Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035 [HTML] | LLYW. CYMRU 3 DrawingOut Darganfod Materion Iechyd Hirdymor yng Nghymru 4 Model cymdeithasol o anabledd: adroddiad interim y cam darganfod 5 Invisible Women | Caroline Criado Perez 6 Iechyd Menywod yng Nghymru - Adroddiad Darganfod – Perfformiad a Gwella GIG Cymru
Mae'r Cynllun Iechyd Menywod a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn ddau gerbyd hanfodol bwysig ar gyfer gyrru’r newid hwn; hynny yw, os ydyn ni’n sicrhau bod y gwregysau diogelwch wedi'u dylunio gyda phob un ohonom mewn golwg! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: admin@ftww. org.uk
17
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Polisi, Ymarfer, Sylwebaeth
Oh, What’s Occurin’? Cerys Preece, Prif Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus
Wel, Nessa, gad i fi ddweud hyn wrthot ti, rydyn ni eisoes yn gwybod beth sy'n occurring. Rydym wedi treulio degawdau yn disgrifio'r problemau a'r dirwedd anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod gormod o bobl yn ein cymunedau yng Nghymru yn profi iechyd gwael neu'n byw bywydau byrrach oherwydd niwed annheg ac y gellir ei osgoi i'w hiechyd.
systemau ac amodau y gellir eu newid neu y gellir dylanwadu arnynt yn gadarnhaol. Drwy weithredu ar yr hyn rydyn ni'n gwybod sy'n gweithio, fel lleihau tlodi, cynyddu mynediad at dai da a gwaith teg, dylunio gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu eu bod nhw'n cyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf, gallwn greu Cymru lle mae gan bawb y cyfle i fyw bywyd iach.
Mae'r data a'r dystiolaeth yn llethol, mae pawb yn deall beth yw’r achosion, ac eto mae cynnydd yn parhau i fod yn boenus o araf. Efallai bod rhagor o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd ac effaith penderfynyddion ehangach iechyd, ond mae'r bwlch mewn canlyniadau iechyd yn parhau i fod yn amlwg.
Yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu ar y cyd ac ymrwymiad i ymgorffori'r hyn yr ydym yn gwybod sy'n gweithio yn ymarferol yn systematig ac yn gyson. Mae gennym ni eisoes ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a all arwain y camau gweithredu. Mae Rhaglen Ein Dull o Anghydraddoldebau Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio'n frwd ar fynegi camau ymarferol y gall y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus eu hystyried i sicrhau eu bod yn meddwl am degwch iechyd yn systematig yn eu gwaith. Mae'r Fframwaith Anghydraddoldebau Iechyd
Felly, sut ydyn ni'n symud o ddisgrifio'r broblem, i ddod o hyd i gamau systematig ar y cyd i wneud gwahaniaeth? Nid yw anghydraddoldebau iechyd yn anochel, maent yn ganlyniad penderfyniadau,
18
yn ganllaw i wasanaethau cyhoeddus ystyried y camau allweddol canlynol: - Datblygu arweinyddiaeth a diwylliant sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd - Defnyddio dulliau iechyd y cyhoedd yn eich gwaith - Sicrhau gweithlu amrywiol, hyfforddedig a chynaliadwy - Darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sydd ar gael yn eang - Casglu a chyhoeddi data a gwybodaeth o ansawdd uchel am degwch iechyd - Gweithio'n agos gyda grwpiau a chymunedau yng Nghymru drwy ddefnyddio rhwydweithiau a thrwy ymgysylltu a chynnwys pobl yn effeithiol Felly, mae gennym yr wybodaeth, rydym yn gwybod beth sy'n gweithio, a'r hyn sydd ei angen arnom nawr yw'r gweithredu ar y cyd. Dw i'n meddwl bod hynny yn lle da i ddechrau, neu, fel y clywed Nessa, tidy. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cerys.Preece@ wales.nhs.uk
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymchwil, Ymarfer
Tegwch Iechyd yng Nghymru: O Dystiolaeth i Weithredu James Allen, Gwyddonydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Zuwaira Hashim, Cydlynydd Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Lauren Couzens, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Daniela Stewart, Swyddog Datblygu Tystiolaeth Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Jo Peden, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Beth yw tegwch iechyd a pham mae'n bwysig yng Nghymru? Mae tegwch iechyd yn golygu bod gan bawb gyfle teg i gyflawni iechyd da, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her sylweddol yng Nghymru, ac mae’n effeithio'n anghymesur ar bobl a chymunedau difreintiedig. Mae llawer o bobl yn profi iechyd gwaeth a bywydau byrrach oherwydd ffactorau fel incwm, addysg, cyflogaeth, tai a'r lleoedd lle maent yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. Mae creu'r amodau sy'n cefnogi iechyd a llesiant i bawb yn hanfodol i adeiladu Cymru iachach. Cyflwyno Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru Wedi'i sefydlu yn 2020 mewn partneriaeth â
Sefydliad Iechyd y Byd, mae Menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru yn gwella dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd a'u hachosion. Mae'n darparu tystiolaeth, dadansoddiad ac offer ymarferol i gefnogi polisi, buddsoddiad a gweithredu ar draws sectorau. Mae ymchwil o'r fenter yn dangos bod iechyd yn cael ei lunio i raddau helaeth gan yr amodau y mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt. Yn aml, mae diogelwch ariannol, addysg, cyflogaeth, cysylltiadau cymdeithasol a chymunedau cryf yn cael mwy o ddylanwad ar ganlyniadau iechyd na gwasanaethau gofal iechyd yn unig. Felly mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn gofyn am gamau cydlynol 19
ar draws y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Mae gwella canlyniadau iechyd yn dibynnu nid yn unig ar ofal iechyd ond hefyd ar fynd i'r afael â ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel tlodi, cyflogaeth, addysg a gwydnwch cymunedol. Mae'r fenter yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith ataliol, buddsoddi hirdymor a gweithredu ar draws sectorau yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar wasanaethau gofal iechyd i ymateb unwaith y bydd iechyd gwael wedi digwydd. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod yr effaith fwyaf yn cael ei chyflawni pan fydd sefydliadau'n cydweithio, yn defnyddio gwybodaeth am iechyd y boblogaeth yn effeithiol ac yn cynnwys cymunedau wrth lunio datrysiadau. Gall cyrff cyhoeddus, gan
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, chwarae rhan bwysig fel sefydliadau angor, gan ddefnyddio eu dylanwad, eu pŵer gwario a'u partneriaethau i gefnogi cymunedau iachach. Mae sylfeini cryf ar gyfer gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys data o ansawdd uchel, deddfwriaeth flaengar a sylfaen dystiolaeth gynyddol ynghylch yr hyn sy'n gweithio. Mae'r fenter wedi creu adnoddau, gan gynnwys casgliad o fframweithiau ac offer tegwch iechyd, ochr yn ochr ag adroddiadau pwysig ar effaith COVID-19 ar degwch iechyd a phwysigrwydd gweithredu ar draws y Pum Amod Hanfodol ar gyfer Bywydau Iach a Ffyniannus: • Diogelwch incwm a diogelwch cymdeithasol e.e. cymorth ariannol i rieni, pobl hŷn neu'r di-waith. • Amodau byw e.e cynllunio, tai o ansawdd da a diogel, aer glân, mannau gwyrdd. • Amodau cyflogaeth a gwaith e.e. argaeledd gwaith, cyflog byw, gofynion corfforol a meddyliol, sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith. • Cyfalaf cymdeithasol a dynol e.e. gwella hyfforddiant, prentisiaethau, meithrin cydlyniant a gwydnwch cymunedol, ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn. • Gwasanaethau iechyd e.e. diogelu iechyd, hybu a gwella iechyd, gofal sylfaenol, eilaidd a gofal wedi'i drefnu.
yn unig yn ddigon. Mae cynnydd parhaol yn dibynnu ar nodi, gweithredu a graddio datrysiadau effeithiol. Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Cymru yn cefnogi hyn drwy ddod â thystiolaeth, offer, arferion da ac adnoddau ymarferol ynghyd i helpu sefydliadau, cymunedau a llunwyr polisi i droi gwybodaeth yn weithredu a chyflymu cynnydd tuag at Gymru iachach, decach a mwy ffyniannus. E-bost: solutionsplatform@ wales.nhs.uk
Er bod deall anghydraddoldebau iechyd yn hanfodol, nid yw tystiolaeth 20
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymarfer
Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf? Tîm Gwella Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Tîm Gwella Iechyd BIPBC yn dîm o Ymarferwyr Gwella Iechyd sy'n cynnig cyfle i drigolion Wrecsam a Sir y Fflint i wneud dewisiadau ffordd o fyw iachach a chynaliadwy, gan helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd. Ers blynyddoedd, mae'r tîm wedi bod yn cynnig sesiynau a rhaglenni iechyd a lles am ddim i grwpiau cymunedol yn Wrecsam a Sir y Fflint, ac rydym wedi gweld galw cynyddol am ein gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r hyn a gynigir yn cynnwys sesiynau ymarfer corff fel Tai Chi, Chi Me, Ioga cyn ac ar ôl geni, sesiynau coginio a rhaglenni lles fel 'Rheoli Gorbryder; 'O Orweithio i Gydbwysedd' 'Meddwlgarwch'
a 'Lleihau Straen', sydd i gyd am ddim. Fel tîm, rydym yn teimlo mai'r cyfle mwyaf i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yw drwy ymgysylltu â'r cymunedau sydd angen y gefnogaeth fwyaf, meithrin ymddiriedaeth a chyrraedd y rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf, a deall y rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu bob dydd. Drwy siarad â phobl sydd â phrofiad byw, gallwn helpu i gynllunio dulliau atal ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gweld yn uniongyrchol yr anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd wrth geisio bwydo eu teuluoedd a chadw eu cartrefi'n gynnes. Mae llawer o bobl rydyn ni'n ymgysylltu â nhw yn ystod ein sesiynau yn teimlo nad 21
gwneud y dewis iach yw’r dewis hawsaf bob tro, gyda chostau bwyd a thanwydd yn cynyddu, nid yw bwyta'n iach, bod yn actif a newid arferion bob amser yn flaenoriaeth i unigolion a theuluoedd. Yn ystod ein sesiynau, y nod yw grymuso pobl i gymryd camau bach tuag at newid, gan ystyried eu sefyllfa a’u hamgylchiadau bywyd. Nod ein gwasanaeth yw cynnig cefnogaeth gynnar i helpu atal cyflyrau iechyd hirdymor a lleihau unigrwydd gan alluogi pobl i wneud cysylltiadau newydd a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau gan wybod y gall newid fod yn bosibl iddyn nhw. Rydym yn gweld bod atal yn allweddol a dylid rhoi mwy o gyllid ar ei gyfer. Mae angen mwy o
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
dimau sydd yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau er mwyn darparu ymyriadau sy‘n seiliedig ar dystiolaeth a chyfleoedd ar gyfer newid ymddygiad. Dylai'r timau hyn ddarparu cefnogaeth ac anogaeth ymarferol trwy sesiynau ymarfer corff am ddim, sesiynau coginio ymarferol i helpu pobl i ymdopi â chostau bwyd sy'n cynyddu'n barhaus a chefnogaeth ar gyfer lles emosiynol er mwyn i bobl chwilio am gefnogaeth yn gynnar.
gymuned a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol helpu iechyd a lles ar lefel leol, ond mae angen gwneud mwy yn genedlaethol trwy ddeddfwriaeth y llywodraeth, er mwyn cefnogi'r rhai mewn angen ledled Cymru. Os dymunwch gael rhagor o wybodaeth am Dîm Gwella Iechyd BIPBC, cysylltwch â'r tîm trwy ffonio 03000 859 625 neu e-bostio bcu. healthimprovementteam@ wales.nhs.uk
Gall cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda'r
22
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymchwil
Y Tu Hwnt i Sgiliau Digidol: Ailfeddwl am Wytnwch er mwyn Diogelu Iechyd Plant Dr. Cristina Izura
Mr. Jason Celia Un cyfle pwysig, ac un sy’n cael ei anwybyddu’n aml, i leihau anghydraddoldebau iechyd yw gwella diogelwch digidol plant drwy ddulliau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth seicolegol. Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fenter i wella cadernid digidol mewn addysg, gan gydnabod yr angen i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed ar-lein (1). Ond beth yn union a olygwn wrth *gadernid digidol*, a pha mor agos y mae’r cysyniad hwn yn adlewyrchu’r hyn rydym yn ei wybod am wytnwch o ymchwil seicolegol?
(6), archwiliodd y berthynas rhwng ffactorau sy’n gysylltiedig â gwytnwch a phrofiadau o feithrin perthynas amhriodol at ddibenion rhywiol ar-lein. Nid oedd y sgoriau cyffredinol ar ffactorau amddiffynnol yn gysylltiedig yn arwyddocaol â phrofiadau o feithrin perthynas amhriodol. Fodd bynnag, wrth archwilio’r elfennau unigol, canfu fod mwy o gymorth cymdeithasol yn gysylltiedig â llai o brofiadau o feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Mae degawdau o ymchwil seicolegol wedi sefydlu bod gwytnwch yn gysyniad cymhleth a deinamig. Yn hytrach na bod yn nodwedd bersonol sefydlog neu’n gronfa o gryfder sy’n amddiffyn unigolion yn gyfartal rhag pob math o adfyd, mae gwytnwch yn datblygu drwy ryngweithio rhwng galluoedd unigol, perthnasoedd cymdeithasol ac amgylchiadau amgylcheddol (2, 3, 4).
Er nad yw’r canfyddiadau hyn yn sefydlu achosiaeth, maent yn tynnu sylw at wahaniaeth pwysig. Mae rhaglen cadernid digidol Llywodraeth Cymru yn pwysleisio rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i blant allu adnabod risgiau ar-lein a cheisio cymorth. Eto i gyd, nid yw gwybod sut i geisio cymorth yr un peth â bod â rhywun i droi ato. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu y gallai cryfhau cymorth cymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio’n bennaf ar sgiliau digidol unigol, fod yn arbennig o bwysig wrth ddiogelu plant rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Mae ymchwil gan Celia (5) i feithrin perthynas amhriodol at ddibenion rhywiol arlein yn dangos pam mae’r gwahaniaethau hyn yn bwysig. Gan ddefnyddio’r Scale of Protective Factors
Gall canlyniadau cam-drin rhywiol ar-lein ymestyn ymhell y tu hwnt i’r profiad uniongyrchol, gan effeithio ar iechyd meddwl plant a’u perthnasoedd cymdeithasol (7). Gall profiadau o’r fath 23
hefyd amharu ar gyfleoedd addysgol a datblygiad iach (8). Heb gymorth digonol, gall yr anfanteision hyn gronni dros amser, gan effeithio ar iechyd, llesiant a chyfleoedd drwy gydol bywyd. Yn y cyfamser, adroddodd yr NSPCC gynnydd o 89% mewn troseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein a gofnodwyd gan yr heddlu ledled y DU rhwng 2017/18 a 2023/24 (9). Er na ellir priodoli hyn i ddiffygion mewn addysg ddigidol, mae’n dangos pam mae angen i ddulliau ataliol barhau i wella. Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd yn gofyn inni gydnabod nad oes gan bob plentyn fynediad cyfartal at berthnasoedd sy’n eu hamddiffyn, adnoddau na chymorth proffesiynol. Dros y pum mlynedd nesaf, mae gan Gymru gyfle i gryfhau diogelu digidol drwy symud y tu hwnt i sgiliau digidol a buddsoddi yn y perthnasoedd cymdeithasol a’r rhwydweithiau cymorth sy’n helpu i ddiogelu plant. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at oedolion y maent yn ymddiried ynddynt a chymunedau cefnogol, gan greu’r rhwydweithiau hyn yn weithredol ar gyfer y rhai nad oes ganddynt rai. Mae diogelu iechyd plant yn gofyn nid yn
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
unig am feithrin gwytnwch unigol, ond hefyd am greu’r amodau cymdeithasol lle gall gwytnwch ddatblygu. Cyfeiriadau (1) Llywodraeth Cymru. (2018). Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein. (2) Luthar, S. S., Cicchetti, D., & Becker, B. (2000). The construct of resilience: A critical evaluation and guidelines for future work. Child Development, 71(3), 543–562. https://doi. org/10.1111/1467-8624.00164 (3) Rutter, M. (2012). Resilience as a dynamic concept. Development and Psychopathology, 24(2), 335– 344. https://doi.org/10.1017/ S0954579412000028 (4) Masten, A. S. (2014). Global perspectives on resilience in children and youth. Child Development, 85(1), 6–20. https://doi. org/10.1111/cdev.12205 (5) Celia, J. (2026). An
investigation of adolescents resilience to online grooming. (unpublished manuscript). Swansea University. (6) Ponce-Garcia, E., Madewell, A. N., & Kennison, S. M. (2015). The development of the Scale of Protective Factors: Resilience in a violent trauma sample. Violence and Victims, 30(5), 735–755. https://doi. org/10.1891/0886-6708.VVD-14-00163 (7) Schmidt, F., Varese, F., & Bucci, S. (2023). Understanding the prolonged impact of online sexual abuse occurring in childhood. Frontiers in Psychology, 14, Article 1281996. https://doi.org/10.3389/ fpsyg.2023.1281996 (8) Bhutta, Z. A., Bhavnani, S., Betancourt, T. S., Tomlinson, M., & Patel, V. (2023). Adverse childhood experiences and lifelong health. Nature Medicine, 29, 1639–1648. https://doi. org/10.1038/s41591-02302426-0
24
(9) National Society for the Prevention of Cruelty to Children. (2024, November 1). Online grooming crimes against children increase by 89% in six years.
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Sylwebaeth
Bwydo ar y Fron - "Y Cydraddolwr Mawr" Rachel Evans – Prof Fydwraig Genedlaethol am Fwydo ar y Fron, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Disgrifiodd James P Grant o UNICEF fwydo ar y fron fel "y cydraddolwr mawr". Mewn dyfyniad sy'n adnabyddus i bob eiriolwr bwydo ar y fron, dwedodd bod "Bwydo ar y fron yn rhwyd ddiogelwch naturiol yn erbyn effeithiau gwaethaf tlodi. Mae bwydo ar y fron yn unig yn mynd yn bell tuag at ganslo'r gwahaniaeth iechyd rhwng cael eich geni i dlodi a chael eich geni i gyfoeth." (Unicef UK, n.d.) Er gwaethaf hyn, babanod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sy'n lleiaf tebygol o gael eu bwydo ar y fron yng Nghymru. Roedd 76% o fabanod yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni yn 2025, ond dim ond 55% oedd hyn yn y cwintel mwyaf difreintiedig (Llywodraeth Cymru, 2026). Mae bwydo ar y fron yn darparu manteision iechyd wedi'u dogfennu'n dda, ac mae hefyd yn arbed arian i deuluoedd. Mae pris cyfartalog tun o fformiwla cyntaf babanod wedi codi yn ddiweddar i £13.15 (First Steps Nutrition, 2026). Gellir defnyddio talebau Cychwyn Iach ar gyfer fformiwla babanod ond dim ond un cynnyrch ar y farchnad i blant 10 wythnos oed sy'n fforddiadwy gyda’r lwfans wythnosol, ac mae llawer o rieni’n dewis prynu brandiau drutach mewn marchnad nad yw'n darparu gwerth da am arian
(Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, 2025). I'r system iechyd, mae’r bwydo ar y fron gorau posibl (bwydo ar y fron yn unig am chwe mis, ac ochr yn ochr â bwyd solet am ddwy flynedd a thu hwnt) yn cynnig gwerth gwych. Yn y tymor byr mae costau i'r system yn cael eu lleihau drwy osgoi apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty i fabanod (Ajetunmobi et al, 2024). Yn y tymor hwy, mae effeithiau cadarnhaol i'r fam a'r babi o ran y tebygolrwydd o fod dros bwysau, yn ordew a chael diabetes. Mae risgiau rhai canserau i famau hefyd yn cael eu lleihau (Victora et al, 2016). Yn ddamcaniaethol, mae buddsoddi mewn gwella bwydo ar y fron yn arbed arian y gellir ei ail-fuddsoddi mewn gwaith arall i leihau anghydraddoldebau yn y blynyddoedd cynnar, lle mae’r potensial mwyaf o gael effaith. Fodd bynnag, mae gan y gwasanaethau sy'n gyfrifol am wasanaethau a chymorth llaetha clinigol lawer o flaenoriaethau cystadleuol ac nid ydynt yn elwa’n uniongyrchol o'r arbedion hirdymor. Mae mapio gwasanaethau’n dangos mynediad annheg at ofal a gwasanaethau llaetha clinigol sy'n dibynnu ar gyllid tymor byr nad yw’n gynaliadwy. Cafodd prosiect partneriaeth 25
diweddar ar wella bwydo ar y fron effeithiau pellgyrhaeddol y tu hwnt i'w nodau. Recriwtiwyd gwirfoddolwyr o gymuned darged ac mae'r grŵp cefnogi a sefydlwyd yn mynd o nerth i nerth. Ar ben hynny, enillodd y mamau a hyfforddwyd fel gwirfoddolwyr gymhwyster cydnabyddedig, ac aeth pump ymlaen i gyflogaeth â thâl yn y bwrdd iechyd lleol neu hyfforddiant gweithiwr iechyd proffesiynol; "effaith ehangach" gyda manteision lluosog i deuluoedd (Hall et al, n.d.). Mae'n galonogol bod cyfraddau bwydo ar y fron yn codi’n araf yng Nghymru; fodd bynnag, mae’r cyfraddau’n parhau i fod ymhlith yr isaf ledled y byd ac mae'r bwlch rhwng y lleiaf a'r mwyaf difreintiedig yn eang ac yn barhaus. Bwydo â fformiwla yw’r norm diwylliannol o hyd yng Nghymru. Yn y tîm Blynyddoedd Cynnar ac Iechyd Plant mae ein gwaith yn anelu at ddylanwadu ar hyn: • Datblygu Manyleb Gwasanaeth Bwydo Babanod mewn partneriaeth â Pherfformiad a Gwella GIG Cymru, i gefnogi'r cynnydd tuag at wasanaethau teg. • Mentrau partneriaeth "Cymru’n Croesawu Bwydo ar y Fron" wedi'u modelu ar Yr Alban, gan greu amgylcheddau galluogi mewn
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar a mwy. Gallai cynyddu dealltwriaeth o werth bwydo ar y fron a llaetha er iechyd y boblogaeth ymhlith uwch arweinwyr ar draws sectorau, a buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau a mentrau o ansawdd uchel i gefnogi newid diwylliant gael effaith arwyddocaol ar anghydraddoldebau iechyd dros y pum mlynedd nesaf ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel. Evans43@wales.nhs.uk Cyfeiriadau Ajetunmobi, O., McIntosh, E., Stockton, D., Tappin, D.,
& Whyte, B. (2024). Levelling up health in the early years: A cost-analysis of infant feeding and healthcare. PLOS. https://doi.org/https:// doi.org/10.1371/journal. pone.0300267 Competition and Markets Authority. (2025). Infant formula and follow-on formula market study: Final report. First Steps Nutrition. (2026). Infant Formula Cost Analysis. Hall, K., Brown, A., & Health, C. (n.d.). Empowering communities: A partnership approach to enhancing breastfeeding awareness and culture in lowprevalence socially deprived areas. Retrieved www. breastfeedingnetwork.org.uk Unicef UK. (n.d.). Benefits of breastfeeding. Retrieved
26
October 20, 2026, from https://www.unicef.org.uk/ babyfriendly/about/benefitsof-breastfeeding/ Victora, C. G., Bahl, R., Barros, A. J. D., França, G. V. A., Horton, S., Krasevec, J., Murch, S., Sankar, M. J., Walker, N., Rollins, N. C., Allen, K., Dharmage, S., Lodge, C., Peres, K. G., Bhandari, N., Chowdhury, R., Sinha, B., Taneja, S., Giugliani, E., … Richter, L. (2016). Breastfeeding in the 21st century: Epidemiology, mechanisms, and lifelong effect. In The Lancet (Vol. 387, Number 10017, pp. 475–490). Lancet Publishing Group. https:// doi.org/10.1016/S01406736(15)01024-7 Welsh Government. (2026). Breastfeeding data: 2025.
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
27
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Trwy glep a si
28
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Ymarfer
Fe ddylai pawb yng Ngwent fyw heb orfod bod ofn trais a chamdrin Bwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent
Mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel gartref, yn eu perthnasoedd ac yn eu cymunedau. Ac eto ledled Gwent, mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i achosi niwed dwys a pharhaol. Mae'r effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r unigolyn, gan effeithio ar deuluoedd a chymunedau am flynyddoedd i ddod. Os na fyddwn yn gweithredu'n gynnar i atal trais a chefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio, bydd anghydraddoldebau'n dyfnhau a bydd y niwed yn parhau ar draws cenedlaethau. Er mwyn helpu i gyflawni ein cyd-nod, rydym yn cyhoeddi Cyd-Asesiad Strategol o Anghenion newydd ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Ngwent. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’r asesiad hwn isod. Beth yw’r Cyd-Asesiad Strategol o Anghenion Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent Mae'r Cyd-Asesiad Strategol o Anghenion Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn dwyn ynghyd ddata, tystiolaeth a phrofiad byw er mwyn deall sut mae system VAWDASV yng Ngwent yn ymateb i anghenion y rheiny sy'n byw gyda VAWDASV.
Beth mae'n ei wneud? Mae wedi'i siapio gan fewnbwn gan weithwyr proffesiynol a goroeswyr ledled Gwent, mae'r CydAsesiad o Anghenion hwn: • Yn tynnu sylw at gyffredinrwydd VAWDASV yn genedlaethol ac yn lleol • Yn mapio pa wasanaethau sydd ar gael a sut maen nhw'n ffitio i mewn i systemau VAWDASV ehangach yng Ngwent • Yn creu gweledigaeth ar gyfer dyfodol systemau VAWDASV yng Ngwent • Yn nodi ystod o addewidion y bydd gweithwyr proffesiynol yng Ngwent yn eu cyflawni er mwyn amddiffyn y rhai sy'n byw gyda VAWDASV a chefnogi eu hiachâd Mynediad i'r Asesiad o Anghenion Gallwch bori trwy'r Asesiad o Anghenion ar ein gwefan: 1. Adroddiad Technegol – disgrifiad manwl o gyffredinrwydd VAWDASV, mapio systemau a nodau ar gyfer dyfodol systemau VAWDASV yng Ngwent. 2. Adroddiad Cryno – yn tynnu sylw at ganfyddiadau craidd yr Adroddiad Technegol. Cliciwch yma i weld yr adroddiadau Sut all hyn eich cefnogi chi a gwaith eich sefydliadau? P'un a ydych chi'n gweithio 29
ym maes iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, plismona, llywodraeth leol neu'r trydydd sector, mae'r Asesiad o Anghenion hwn yn offeryn ymarferol i gefnogi eich gwaith; o gynllunio a darparu gwasanaethau i weithio mewn partneriaeth a sicrhau cyllid. Mae'n cynnig dealltwriaeth gyffredin o’r ffordd y gallwn alinio blaenoriaethau ar draws system VAWDASV yng Ngwent a chydweithio i sicrhau bod pawb yn byw heb fod ofn trais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Admin_ABGPHT@wales.nhs. uk
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
30
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
31
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Fideos
32
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Adeiladu Iechyd i mewn i Wneud Penderfyniadau: Asesiad Effaith Iechyd (HIA) a Rheoliadau HIA Cymru Mae’r weminar addysgiadol ac ymarferol hwn yn cyflwyno Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith ym mis Ebrill 2027.
Gwylio Datblygu a Gweithredu Rhaglen Atal Niwed sy’n gysylltiedig â Gamblo Genedlaethol i Gymru Mae’r weminar hon yn archwilio pam mae dull iechyd y cyhoedd ar lefel y boblogaeth yn hanfodol, sut y bydd tystiolaeth a phrofiad bywyd yn parhau i lywio datblygiad rhaglenni, a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth greu newid cynaliadwy.
Gwylio Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru: Mewnwelediadau, tystiolaeth a datrysiadau Mae’r weminar hon yn archwilio achosion a chanlyniadau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, gan archwilio sut mae ffactorau fel incwm, tai, addysg, cyflogaeth a’r lleoedd rydyn ni’n byw yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd a chyfleoedd ar gyfer iechyd da.
Gwylio
Gweld ein holl fideos
Archwiliwch ein llyfrgell fideo ar-lein
33
Hydref 2026: Rhifyn Safbwyntiau Arbennig – Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Rhifyn Nesaf: Natur er budd Tegwch Iechyd
Mae natur yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi iechyd a llesiant. Mae tystiolaeth gynyddol yn tynnu sylw at fanteision mynediad at fannau gwyrdd a glas ar gyfer iechyd corfforol, llesiant meddyliol a gwydnwch cymunedol. Ond, nid yw mynediad at amgylcheddau naturiol o ansawdd uchel yn cael ei brofi’n gyfartal. Yn ogystal, y rhai yr effeithir arnynt gan anghydraddoldebau iechyd yn aml yw’r lleiaf tebygol o elwa o’r cyfleoedd y gall natur eu darparu. Bydd ein gweminar sydd ar ddod, Natur er Tegwch Iechyd: Creu Cymunedau Tecach, Gwyrddach ac Iachach, yn archwilio’r berthynas rhwng anghydraddoldebau iechyd a natur. Byddwn yn archwilio’r dystiolaeth sy’n cysylltu mynediad at fannau gwyrdd a glas â chanlyniadau iechyd, yn trafod sut mae newid hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau difreintiedig ac ymylol, ac yn ystyried sut y gall atebion sy’n seiliedig ar natur helpu i greu cymdogaethau oerach, iachach a mwy gwydn. I gefnogi’r sgwrs bwysig hon, rydym yn 34
gwahodd cydweithwyr o bob sector i gyfrannu at e-fwletin sydd ar ddod sy’n canolbwyntio ar natur, tegwch iechyd a gwydnwch hinsawdd. Rydym yn croesawu cyflwyniadau sy’n arddangos dulliau ymarferol, offer, adnoddau neu enghreifftiau o arferion da. Mae hyn yn cynnwys prosiectau arloesol, gweithio mewn partneriaeth a mentrau sy’n gwella mynediad at natur, yn cefnogi llesiant cymunedol, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd neu’n helpu cymunedau i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Bydd ein ffurflen cyflwyno erthygl yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am nifer y geiriau, cynllun eich erthygl ac arweiniad o ran delweddau. Anfonwch erthyglau i publichealth.network@ wales.nhs.uk erbyn 19 Tachwedd 2026
Contribute