Skip to main content

PHNC E-bulletin November Welsh

Page 1

R H W Y D WA I T H I E C H Y D C Y H O E D D U S C Y M R U

E- FWLETIN TACHWEDD 2023

P LANT A’R ARGYFWNG COSTAU BY W YNG NGHYMRU


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Croeso C

roeso i e-fwletin mis Tachwedd sy’n tynnu sylw at amrywiaeth o erthyglau sy’n amlygu mentrau, polisïau neu raglenni lleol, rhanbarthol neu genedlaethol sydd â’r nod o gynorthwyo plant a’u teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yn ddiweddar, cynhaliom weminar ar y pwnc hwn ac mae i’w weld ar dudalen digwyddiadau’r gorffennol ein gwefan. Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar fywydau pobl o ddydd i ddydd yng Nghymru, ond gydag effeithiau penodol ar blant. Mae’r effeithiau hyn yn peri pryder arbennig o ystyried sut mae profiadau o dlodi yn ystod plentyndod yn cael effeithiau negyddol hirhoedlog ar eu datblygiad ac iechyd a ffyniant yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd sicrhau dyfodol gwell a mwy gwydn i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Cysylltu â Ni Drwy anfon e-bost: publichealth.network@wales.nhs.uk Twitter: @RICCymru

2


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Cynnwys 4

Erthyglau Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru

Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwneud Dewisiadau Anodd: effaith tlodi bwyd ar bwysau plant o safbwynt PIPYN Chris Ewing, Uwch Ymarferwydd Gwella Iechyd (PIPYN), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Beth allwn ni ei wneud i helpu holl blant Cymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd? Sue Wing, Prif Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

10

Trwy glep a si Meithrin cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer polisïau bwyta’n iach: pedwar awgrym sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Jonathan Bone, rheolwr cenhadaeth ar gyfer bywyd iach gyda Nesta Cymru

12

Fideos

13

Newyddion & Adnoddau

14

Rhifyn Nesaf

3


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Erthyglau

4


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

POLISI

Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru

M

ae sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd yn sylfaen graidd ar gyfer adeiladu dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ond mae tlodi a’r argyfwng costau byw yn bygwth datblygiad plant nawr a’u canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymchwilio effeithiau’r argyfwng costau byw ar blant yng Nghymru ac ymatebion polisi blaenoriaeth posibl. Pam mae plant mewn perygl arbennig? Mae gan blant y risg uchaf o dlodi o bob grŵp oedran yng Nghymru: mae bron i un o bob tri (28%) plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mae plant mewn teuluoedd mwy o faint, plant mewn teuluoedd un rhiant, a phlant sy’n byw ar aelwydydd

heb waith, mewn mwy o berygl. Mae sylfaen dystiolaeth gref iawn bod y 1,000 diwrnod cyntaf (yn ystod beichiogrwydd a hyd at ail ben-blwydd plentyn) yn cynrychioli cyfnod datblygiadol hollbwysig, lle gwelwn y cyfnod cyflymaf o dwf a datblygiad yr ymennydd a lle mae’r sylfeini ar gyfer iechyd yn y dyfodol, llesiant a ffyniant yn cael eu hadeiladu. Mae plant felly yn y perygl mwyaf o fod mewn tlodi ac mewn mwy o berygl o effeithiau negyddol tlodi ar iechyd, llesiant a datblygiad.

anghymesur ar blant sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf cefnog. Mae toriadau mewn termau real i incwm teuluol a thaliadau lles yn rhyngweithio â lefelau uchel o waith ansicr, cyflog isel, a chostau gofal plant uchel, sydd i gyd yn cynyddu’r risg y bydd hyd yn oed plant ar aelwydydd sy’n gweithio yn profi tlodi. Mae stigma yn gweithredu fel rhwystr hollbwysig i gymorth, yn

Beth sydd wedi cyfrannu at risg uwch tlodi i blant? Mae’r argyfwng costau byw wedi dilyn gostyngiad parhaus yn y budd-daliadau lles sydd ar gael i deuluoedd â phlant ers 2010. Mae newidiadau wedi cynnwys y terfyn dau blentyn a chyflwyno’r cap ar fudd-daliadau, gan effeithio’n

5

enwedig y nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau a chynlluniau cymorth megis prydau ysgol am ddim, sy’n arwain at effeithiau negyddol dilynol ar iechyd a llesiant plant.


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru Sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant plant yng Nghymru? Gall peidio â chael digon o arian ar gyfer yr hanfodion sydd eu hangen ar gyfer bywyd iach effeithio ar wahanol agweddau o fywydau plant a’u teuluoedd, mewn ffyrdd uniongyrchol ac anuniongyrchol. Er enghraifft, mae methu â fforddio rhoi’r gwres ymlaen, neu fethu â fforddio digon o fwyd maethlon, yn rhoi plant mewn mwy o berygl o asthma, oherwydd byw mewn cartref oer a llaith, neu o ordewdra, oherwydd bwyta llai o fwyd maethlon sy’n llenwi mwy ac sy’n rhatach fesul calori.

Tachwedd 2023

yr ardaloedd tlotaf Cymru yn ystod cwrs eu bywyd; 2. Gwreiddio ymhellach yr anghydraddoldebau presennol mewn iechyd rhwng y plant gwaethaf eu byd hyn a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwell eu byd yng Nghymru; 3. Dal rhai plant a theuluoedd mewn cylch o dlodi ac anfantais, ar draws cenedlaethau Beth sydd angen ei wneud? Mae angen arweinyddiaeth strategol glir i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol cyfraddau ystyfnig o uchel o dlodi plant yng Nghymru

ddylai fod yn sail i ddull iechyd y cyhoedd at yr argyfwng. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi cyfiawnder cymdeithasol, iechyd a chynaliadwyedd wrth galon pob polisi, gyda phrif flaenoriaeth o roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, sicrhau bod eu hanghenion a’u hawliau’n cael eu diwallu a chydnabod y gall anfantais ddechrau cyn geni a chronni dros gwrs bywyd. Er bod pwysau ariannol sylweddol ar lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, bydd yr egwyddorion hyn yn helpu sicrhau bod iechyd a llesiant plant yn cael eu

Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn cynyddu’r risg o dlodi hylendid, gyda bron i 1 o bob 3 (29%) o ymatebwyr i arolwg cenedlaethol yng Nghymru yn torri’n ôl ar gawodydd/ baddonau poeth a golchi dillad oherwydd costau’n cynyddu. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i iechyd meddwl plant. Gallwn ddisgwyl i ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol negyddol yn ystod plentyndod a yrrir gan yr argyfwng costau byw i barhau hyd yn oed ar ôl i’r argyfwng economaidd leihau. Er enghraifft, gall presenoldeb a chyrhaeddiad ysgol is arwain at anawsterau wrth ddod o hyd i waith yn y tymor hwy, yn enwedig gwaith diogel sy’n talu’n dda. Gall hwn achosi i anfanteision gronni wrth i blant symud ymlaen i fod yn oedolion ac ar draws cenedlaethau’r dyfodol. Felly, trwy gynyddu tlodi plant a’r effeithiau negyddol hirdymor ar iechyd o ganlyniad, mae’n debygol y bydd yr argyfwng costau byw yn: 1. Gostwng disgwyliad oes plant sy’n cael eu magu yn

a’r anghydraddoldebau iechyd sy’n deillio ohono. Mae dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu un ar ddeg o feysydd gweithredu polisi blaenoriaeth, sy’n cynnwys darparu cymorth ariannol ar gyfer plant a theuluoedd, gwella cyflogaeth ac incwm rhieni, lleihau cost mynychu’r ysgol a lleihau stigma a chywilydd o amgylch tlodi. Fel y dadleuasom yn ein hadroddiad blaenorol, a edrychodd ar effeithiau’r argyfwng costau byw ar iechyd y cyhoedd yn gyffredinol, mae nifer o egwyddorion allweddol a 6

hamddiffyn yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng tra hefyd yn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch: manon.roberts7@ wales.nhs.uk


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

ARFER

Gwneud Dewisiadau Anodd: effaith tlodi bwyd ar bwysau plant o safbwynt PIPYN Chris Ewing, Uwch Ymarferwydd Gwella Iechyd (PIPYN), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

H

eddiw, yn oes datblygiadau technolegol mawreddog a galluoedd dynol aruthrol, bydd rhieni ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch iechyd eu plant. Byddant yn gwneud dewisiadau am y bwyd maen nhw’n ei brynu a’i goginio i’w plant, gan obeithio rhoi iddynt y maeth a’r sylwedd sy’n ofynnol gan bobl sy’n tyfu. Ond i’r teuluoedd niferus ym Môn sy’n byw mewn tlodi, a oes dewis ganddynt, mewn gwirionedd?

beilot sy’n darparu cymorth i deuluoedd yn Ynys Môn, Merthyr a Chaerdydd o dan strategaeth 20 mlynedd Llywodraeth Cymru ‘Pwysau Iach Cymru Iach’. Mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull system gyfan aml-lefel ar gyfer atal gordewdra yn ein cymunedau lleol a’i nod yw cynnig cymorth uniongyrchol i deuluoedd pan nodir bod plentyn dros bwysau iach. Mae’r Rhaglen yn wynebu heriau, gan eu bod yn gwneud hyn dan gyfyngiadau argyfwng costau byw sy’n real iawn.

Cysyniad braint yw dewis, ond nid oes gan deuluoedd sy’n byw mewn tlodi fraint o’r fath wrth ddewis bwyd - p’un ai oherwydd eu bod yn dibynnu ar gynigion banciau bwyd lleol neu gyfyngiadau cyllidebau wythnosol - yn aml iawn, yr unig ddewis sydd ar gael iddynt yw’r bwydydd rhataf oll, sydd yn ei dro, â’r gwerth maethol gwaethaf, yn aml iawn. Gall y diffyg dewis hwn o ran bwyd arwain at drallod mawr i deuluoedd, gyda mwy o risg o esgeulustod anfwriadol, fel y nododd adroddiad Plant yng Nghymru ar 7fed arolwg blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd (2023) sy’n datgan: “Nid yw bod mewn tlodi ynddo’i hun yn gwneud pobl yn rhieni gwael.” (1)

Yn sylfaen i waith PIPYN y mae’r dystiolaeth bod darparu diet iach a chytbwys i blant, a chyfle i gymryd rhan mewn

Mae PIPYN (Pwysau Iach Plant Yng Nghymru) yn rhaglen

gweithgarwch corfforol, yn allweddol ar gyfer cefnogi pwysau iach nawr ac yn eu dyfodol. Er, mae’n bwysig cydnabod yr her bod llawer o deuluoedd yn byw mewn tlodi. Mae ein gwaith gyda theuluoedd yn dangos yn llethol fod llawer o rieni yn gwybod beth i’w wneud er mwyn helpu eu plant i gynnal pwysau iach, ond gyda’r pwysau ariannol cynyddol arnynt, maent yn cael trafferth gwybod sut i gyflawni hyn. I raddau helaeth, mae’r gallu i ddewis beth i’w fwydo i’w plant wedi’i dynnu oddi wrthynt, 7

a’u gadael gyda dewisiadau cyfyngedig iawn. Mae rhieni yn ein cymunedau lleol yn gosod her sylweddol i dîm PIPYN yn aml iawn: sut i fwydo’u plant yn dda ar gyllideb dynn. Ystyriwch hyn: rydych chi’n cyfarfod â rhiant sengl tri o blant o dan 10 oed. Maen nhw’n dweud wrthych fod y cynnydd annisgwyl mewn costau ynni i gynhesu’r cartref wedi gostwng eu cyllideb wythnosol yn drychinebus, gan adael £5 yn unig i brynu bwyd ar gyfer y penwythnos. Dywed y rhiant wrthoch ei fod eisiau’r gorau oll i’w blant, mae am iddynt gael bwyd maethlon, iachus, ond mae am lenwi’u boliau,

hefyd. Mae am iddynt fynd i’r gwely heb deimlo’n llwglyd, fel y mae’r rhiant yn ei deimlo’n aml. Yn wyneb hyn, pa gyngor allech chi ei roi i’r rhiant? Mewn gwirionedd, faint o ddewis y mae hyn yn ei roi i’r rhiant? A ddylai brynu’r afalau iach, cras hynny, efallai gyda mefus ffres a blasus, neu a ddylai brynu’r pecynnau rhad o nygets cyw iâr a sglodion wedi’u rhewi, ac efallai ymestyn i’r pitsa mawr £1 o’r rhewgell? Faint o ddewis sydd gan y rhiant hwn, mewn gwirionedd?


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru Caiff tîm PIPYN Môn eu herio’n aml gan rieni sy’n edrych am gymorth ac atebion ar gyfer sut i wneud y cyfan am geiniog a dimau. Maen nhw’n clywed yr holl negeseuon iach yn glir: bwytewch fwy o ffrwythau a llysiau, coginiwch fwydydd ffres, i gyfyngu ar fyrbrydau sydd ddim yn iach. Rydym ni

sy’n gweithio gyda theuluoedd yn synhwyro’r euogrwydd y mae rhieni’n ei deimlo wrth fethu bodloni’r amcanion hyn. Yn PIPYN, rydym ni o’r farn bod grymuso rhieni i gadw rhyw fath o ddewis iach yn hollbwysig i ddyfodol iach ein poblogaeth plant, gan gynnwys iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd blaengar o ailgyflwyno dewis trwy gymorth ymarferol ac ymyriadau system yn allweddol.

Tachwedd 2023

Y dulliau sy’n cael eu hystyried a’u profi ar hyn o bryd yw: • Cefnogi mentrau lleol i rannu bwyd er mwyn cynnig pecynnau bwyd a ryseitiau sy’n gytbwys yn faethol; • Cefnogi banciau bwyd lleol i ddarparu ystod o opsiynau i deuluoedd ar gyfer cynnwys parseli bwyd, sy’n adlewyrchu dewisiadau a wnaed gan ddefnyddio dull cynllunio pryd bwyd, yn hytrach na chynnwys sy’n cael ei ddewis ar eu rhan; • Cynnig sesiynau ‘Bwyta’n Gall, Arbed Arian’ yn y gymuned, mewn ysgolion cynradd lleol ac ar y cyd â phartneriaid cymunedol fel Menter Môn, Tai Môn a FFIWS. Mae’r sesiynau hyn yn weithdai anffurfiol sydd ar gael i bawb, gan fwrw golwg ar y Canllaw Bwyta’n Dda a chynnig syniadau hawdd ar gyfer bwyta’n iach pan fydd arian yn dynn, gan gynnwys: • Gwirio stoc y gegin cyn mynd i siopa er mwyn peidio â dyblygu; • Cynllunio prydau bwyd ar gyfer yr wythnos sydd i ddod

a siopa’n benodol ar gyfer y cynllun prydau hwnnw; • Sut i ddelio â ‘phŵer plagio’ wrth siopa; • Defnyddio bwydydd brand y siop ei hun yn hytrach nag eitemau brandiau drud; • Defnyddio ffrwythau a llysiau mewn tun a rhai wedi’u rhewi; • Defnyddio dulliau coginio ynni isel; • Hyrwyddo defnyddio talebau Cychwyn Iach; a • Hyrwyddo defnyddio’r cynnig prydau ysgol am ddim i bawb. Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill, bwriad PIPYN yw grymuso teuluoedd trwy’r cymorth a gynigiwn a chreu cyfleoedd sy’n adfer ymdeimlad o ddewis ac urddas i’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw; dewis go iawn sy’n helpu plant i fod â phwysau iach, ni waeth beth yw eu statws ariannol. Rhaid bod dewis yn golygu dewis, nid Dewis Hobson. 1 CiW_Adroddiad Tlodi Plant a Theuluoedd 2023 Plant yng Nghymru (English).pdf (childreninwales.org.uk)

POLISI

Beth allwn ni ei wneud i helpu holl blant Cymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd? Sue Wing, Prif Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

C

reu’r amodau i deuluoedd ffynnu yw’r allwedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Dyma ganfyddiad

gwaith diweddar rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth ddisgrifio dull iechyd y cyhoedd o gefnogi rhieni. 8

Mae dechrau da mewn bywyd yn bwysig oherwydd mae profiadau cynnar yn gallu dylanwadu ar holl fywyd babanod.


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru Mae ymennydd babanod yn datblygu yn ystod beichiogrwydd a’u blynyddoedd cynharaf. Dyma pryd y gosodir y sylfeini ar gyfer y sgiliau cymdeithasol ac emosiynol y byddan nhw’n eu defnyddio i wneud ffrindiau, creu perthnasoedd, ac archwilio eu byd. Mae dechrau da yn rhoi sylfaen gadarn i blant adeiladu arni. Mae hyn yn golygu y gallan nhw wneud y mwyaf o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Os nad yw babanod yn cael dechrau da, mae’n anoddach iddyn nhw ddal i fyny wrth fynd yn hŷn. Mae pawb mewn cymdeithas yn elwa pan fydd plant yn tyfu i fod yn hapus ac yn iach, pan fyddan nhw’n gallu gwneud yn dda yn yr ysgol, a dod o hyd i waith buddiol, a chreu eu teulu a’u cymuned eu hunain. Er mwyn cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae angen i fabanod deimlo cariad, a’u bod yn ddiogel, ac mae angen iddyn nhw gael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â phobl ac archwilio eu byd. Maen nhw angen gofal a sylw gan y bobl bwysicaf yn eu bywydau. Mae siarad a chwarae â babanod ac ymateb iddyn nhw yn hyrwyddo datblygiad eu hymennydd. Mae rhieni eisiau’r gorau ar gyfer eu plant, ond nid yw magu plant yn hawdd ac weithiau gall amgylchiadau byw teuluoedd wneud magu plant yn llawer anoddach. Mae’n anodd dod o hyd i’r amser, yr egni a’r amynedd os ydych chi’n poeni am gael dau ben llinyn ynghyd, neu os ydych chi’n ymgodymu â phroblemau yn ymwneud ag iechyd, tai neu berthnasoedd. Mae rhai blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen ar

Tachwedd 2023

bawb ohonom ar gyfer cael bywyd hapus ac iach. Mae arnom angen lleoedd da i fyw a gweithio ynddyn nhw, cartref cynnes a diogel, bod yn rhan o gymuned a chael digon o arian i fyw arno, a mynediad hawdd at gymorth, pan fo angen. I ormod o deuluoedd, mae bylchau yn y blociau adeiladu hyn sy’n ei gwneud yn anoddach iddyn nhw roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w babi. Mae teuluoedd â phlant ifanc yn arbennig o agored i niwed yn ystod cyfnodau o galedi, ac mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn ergyd fawr i rai teuluoedd. Mae absenoldeb mamolaeth a’r angen am ofal plant yn gallu cyfyngu ar incwm, ac yn aml rhaid i deuluoedd wario mwy ar hanfodion fel bwyd a biliau ynni. Mae rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf wedi cyfuno tystiolaeth ymchwil a dealltwriaeth o brofiad rhieni er mwyn disgrifio dull iechyd y cyhoedd o gefnogi rhieni. Mae’r gwaith wedi amlygu pwysigrwydd y cyddestun y mae teuluoedd yn byw ynddo a rôl lles meddyliol rhieni a rhwydweithiau cymorth o ran hwyluso. Mae lles meddyliol da a chymorth cymdeithasol da yn helpu rhieni i reoli heriau, a gall hynny leihau effaith heriau ar eu plant. Dywedodd Amy McNaughton, sy’n Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod yn ei gwneud yn ofynnol i ni greu’r amodau i deuluoedd ffynnu. Nid yw magu plant yn hawdd, ac mae’n anoddach os nad oes gennych y pethau sydd eu hangen arnoch, a’ch bod yn poeni’n barhaus am gael

9

dau ben llinyn ynghyd. Ceir gwahaniaethau annheg yn yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd gan rieni a’r amgylchiadau y maen nhw’n eu hwynebu. Mae gwybodaeth a sgiliau o ran magu plant yn chwarae rhan, ond er mwyn cefnogi rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn, mae angen gwneud rhagor.” Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae’n bwysig canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi plant, gwella amodau byw a gweithio, a sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad hawdd at gymorth pan fydd ei angen. Os oes gan fwy o rieni’r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer bywyd hapus ac iach, bydd mwy o fabanod yn cael y cariad, y gofal a’r sylw sy’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw. Mae rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf wedi cyhoeddi animeiddiad byr yn ddiweddar i helpu pawb ohonom i feddwl am ein rôl o ran helpu teuluoedd i ffynnu a babanod i gael y dechrau gorau mewn bywyd: https://icc.gig.cymru/pynciau/ rhaglen-1000-diwrnod-cyntaf/. Yn ogystal, mae adroddiad technegol ac adroddiad cryno ar gael trwy’r ddolen hon, sy’n disgrifio sut y datblygwyd Dull Iechyd y Cyhoedd o Gefnogi Rhieni.


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Trwy glep a si

10

Tachwedd 2023


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

POLISI | YMCHWIL

Meithrin cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer polisïau bwyta’n iach: pedwar awgrym sy’n seiliedig ar dystiolaeth Jonathan Bone, rheolwr cenhadaeth ar gyfer bywyd iach gyda Nesta Cymru

O

s ydych chi’n gweithio ym maes cyfathrebu iechyd cyhoeddus, mae’n siŵr y byddwch wedi profi heriau a dryswch ynghylch polisïau a negeseuon sy’n methu â chyrraedd y cyhoedd. Pan fyddwn yn clywed am gynnig newydd, mae llawer o bethau y gallem eu hystyried - a yw’n swnio’n effeithiol, a yw’n swnio’n deg, neu a oes anfanteision. Gall y gawod gyson o negeseuon gan y cyfryngau, gwleidyddion a’n cymheiriaid ei gwneud yn anodd i’r cyhoedd ddeall amcanion a manteision posibl polisïau iechyd. Yn y pen draw, mae llywodraethau’n malio beth mae’r cyhoedd yn ei feddwl, ac os nad yw’n glir bod gan bolisi gefnogaeth eang, mae’n fwy tebygol o gael ei ohirio neu ei adael. Mae hyn yn golygu bod rhai cynigion addawol sydd â’r nod o wella deiet pobl – megis gwahardd hysbysebion bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr cyn y trothwy – wedi’u gohirio yn dilyn lobïo gan y diwydiant. Beth sy’n llywio sêl bendith y cyhoedd ar bolisïau iechyd? Er mwyn ceisio cyrraedd y gynulleidfa, cynhaliodd Nesta a BIT dreial hapsamplu rheolyddedig (RCT) gyda bron i 9000 o gyfranogwyr o Gymru i fesur faint mae dysgu am wahanol resymegau a/

neu fanteision posibl cyfres o bolisïau bwyta’n iach yn dylanwadu ar gymeradwyaeth y cyhoedd. Canfuom y gall yr un polisi iechyd esgor ar lefelau gwahanol o gymorth yn dibynnu ar sut y caiff ei esbonio a’i gyflwyno. Yn seiliedig ar ein hymchwil, dyma bedair egwyddor allweddol i ddeall ac ymgysylltu’n well â phryderon, gwerthoedd a blaenoriaethau’r cyhoedd – gan roi’r cyfle gorau posibl i bolisïau dderbyn cefnogaeth y cyhoedd. 1Peidiwch â dweud beth yw’r polisi yn unig, eglurwch pam ei fod yn bwysig Er y gall defnyddio dull un ateb i bawb ymddangos yn gyfleus, gweithiodd gwahanol negeseuon yn well ar gyfer gwahanol bolisïau. Gellir teilwra negeseuon i egluro rhesymeg, manteision, neu i ymateb i ddadleuon i’r gwrthwyneb i bolisïau penodol. Pan nad yw teilwra negeseuon unigol ar gyfer polisïau yn ymarferol, canolbwyntiwch ar bryderon a blaenoriaethau cyffredin Pan fydd angen i chi siarad am bolisïau lluosog, canolbwyntiwch ar bryderon a rennir sy’n gyson bwysig i bobl, megis gwella iechyd plant neu rymuso defnyddwyr.

11

Adeiladu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y mae’r cyhoedd yn eu cefnogi, yn hytrach na cheisio ennyn cefnogaeth yn ddiweddarach Dylai llunwyr polisi ystyried yr hyn y mae ar cyhoedd ei eisiau, ochr yn ochr â’r hyn y mae arbenigwyr yn ei ddweud, o ddechrau’r broses cynllunio polisi e.e., drwy bwyllgorau cynghori dinasyddion, ymgynghoriadau cyhoeddus neu drwy gynnal cynulliad dinasyddion. Gwnewch eich ymchwil eich hun. Er mwyn deall yn iawn pa fath o negeseuon sy’n mynd i weithio orau ar gyfer eich polisi a’ch cyhoedd, rydym yn argymell cynnal eich ymchwil eich hun - trwy gynnal treial hapsamplu rheolyddedig, grwpiau ffocws, arolygon, neu hyd yn oed wrando ar yr hyn sy’n cael ei drafod ar gyfryngau cymdeithasol. Mae astudiaeth ddiweddar Nesta a BIT, ochr yn ochr â gwaith ar y cyd ymchwilwyr eraill, wedi dangos na ddylem ddiystyru pŵer cyfathrebu wrth ddatblygu polisïau sy’n ceisio gwneud bwyta’n iach yn ddewis hawdd. Gallwch weld mwy o fanylion ar gyfer pob un o’r awgrymiadau hyn yn: Building public support for healthy eating policies: four evidence-based tips | Nesta


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Fideos Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd Roedd y gynhadledd hon wedi cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus sy’n cynllunio neu’n dechrau eu hasesiadau risg hinsawdd lleol. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad i’r canllawiau ar asesiadau risg hinsawdd lleol sy’n cael eu cynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer BGCau. Clywodd y mynychwyr fewnwelediadau allweddol o’r Asesiad diweddar o’r Effaith ar Iechyd gan Iechyd..

Gwylio

Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Gwylio Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru Roedd y gweminar hwn yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

Gwylio

Gweld ein holl fideos

Archwiliwch ein llyfrgell fideo ar-lein

12


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Newyddion & Adnoddau Mae profion HIV cynnar yn allweddol i fyw bywydau iach

Datgelu Arfeion Chwaraeon Diweddaraf Cymru

Bydd 48,000 o bobl ychwanegol â diabetes yng Nghymru erbyn 2035

15-11-2023

14-11-2023

28-11-2023

Pob Newyddion The contribution of behavioural science to addressing the social and wider determinants of health: evidence review – Ar gael yn Saesneg yn unig Sefydliad Iechyd y Byd

Arolwg Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru

Pob Adnoddau 13


Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Tachwedd 2023

Rhifyn Nesaf EDRYCH YN ÔL AR 2023

14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
PHNC E-bulletin November Welsh by Public Health Network Cymru - Issuu