
1 minute read
Ein datblygiad Gofal Ychwanegol newydd
from Resident Newsletter Welsh
by ClwydAlyn
EICH CYMUNED Gwaith ar y gweill gydag ein nawfed CYNLLUN GOFAL YCHWANEGOL!
MAE GENNYM NI NEWYDDION GWYCH!
Mae’r gwaith wedi cychwyn ar y safle i adfer Neuadd Maldwyn, ar Ffordd Hafren, Y Trallwng, i greu fflatiau gofal ychwanegol. Caiff yr adeilad hanesyddol, Neuadd Maldwyn, ei adfer a’i ymestyn yn briodol fel rhan o’r cynllun datblygu.
Fel rhan o’r cynllun, fe fydd 66 o fflatiau 1 a 2 ystafell wely annibynnol i’w rhentu ar gyfer unigolion 60 neu hŷn gydag angen gofal neu gefnogaeth sydd wedi’i asesu. Bydd cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, maes parcio ar y safle ac ardaloedd wedi’u tirlunio.
Bydd ClwydAlyn yn rheoli’r tai ac yn cynnig gwasanaeth cynorthwyol tra bydd Cyngor Sir Powys yn gyfrifol dros ddarparu’r gofal cartref ar y safle. Caiff trigolion ardal y Trallwng neu sydd â chysylltiadau agos i ardal y Trallwng eu blaenoriaethu. DATGAN DIDDORDEB YN Y CYNLLUN:
Os ydych chi’n 60 neu’n hŷn ac yn teimlo y byddech chi’n elwa o fyw yng Nghartref Gofal Ychwanegol Powys, gallwch ddatgan diddordeb yn y cynllun drwy gysylltu gyda ni ar y manylion canlynol:
Rhadffôn: 0800 183 5757
E-bost: help@clwydalyn.co.uk www.clwydalyn.co.uk/ neuadd-maldwyn/

Mae’r cynllun hwn yn rhan o’n rhaglen datblygu i gynnig 1,500 o dai newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 drwy fuddsoddi £250m a sicrhau ein bod yn meddu ar ac yn rheoli cyfanswm o dros 7,500 o gartrefi.

