1 minute read

Nyrsys ICU yn ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd

MAE staff o’r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili yn cymryd rhan yn

Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer gardd yr ICU.

Mae Uwch Reolwyr Nyrsio Abbi DanielThomas, a Nerys Davies, Ffisiotherapydd

Cymunedol Catrin

Ladbrook a staff eraill o’r ICU yn Ysbyty Glangwili i gyd yn rhedeg yr hanner marathon ar 1 Hydref 2023.

Bydd yr ardd yn cefnogi cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ICU gyda’u taith adsefydlu a lles i adferiad.

Bydd yn rhoi hwb therapiwtig i gleifion, gan roi ymdeimlad o normalrwydd iddynt a’u hanwyliaid.

Mae’r ardd yn caniatáu amser i ffwrdd o’r ardal glinigol, gan ddarparu gofod heddychlon i gwrdd â theulu a ffrindiau a hefyd cyfle i weld eu hanifeiliaid anwes cariadus. Bydd yr ardd hefyd yn lle heddychlon i staff fyfyrio ar ymarfer a bydd yn cefnogi eu lles.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall ymweliad awyr agored wella iechyd seicolegol a chefnogi lles corfforol yn ystod cyfnod a all fod yn straen ac yn anodd iawn.

Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rwyf i, Abbi, Catrin a chydweithwyr o ICU yn rhedeg Hanner

Marathon Caerdydd eleni i herio ein hunain a chodi arian ar gyfer prosiect arbennig.

“Rydym am i’r arian fynd tuag at gyflawni ein breuddwyd o adeiladu gardd ICU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu ei mwynhau. Dyma’r tro cyntaf i rai ohonom gymryd rhan mewn hanner marathon, felly mae’n mynd i fod yn anodd, ond rydym yn edrych ymlaen at wthio ein hunain. Bydd unrhyw roddion yn cael eu derbyn yn ddiolchgar. Diolch!”