
6 minute read
ADEiladwaITh a'r AmgylcHEdd ADEiLEdig
Adeiladu'r Dyfodol
Mae cyfres newydd o gymwysterau wedi'u cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'i datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yn well.
Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Sgiliau Adeiladwaith (Aml Fasnach – Cyn Sylfaen)
Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs addysg bellach, llawn amser a ddylunnir ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, sesiynau ymarferol a theori gan rai o'r canlynol, gan ddibynnu ar y Coleg a ddewisir: gosod brics, plastro, gwaith coed, paentio neu deilsio.
Y Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn
Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig
Cymhwyster newydd sbon yw'r Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn
Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig lle y byddwch yn astudio dau brofiad crefft o blith y canlynol: q Gweithio gyda brics, blociau a cherrig q Galwedigaethau pren q Paentio ac addurno q Teilsio waliau a lloriau q Gwaith tir.

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff hyfforddiant ei gyflwyno gan staff â phrofiad a chymwysterau diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr o'r Coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol a phleserus a gallant gael y gorau allan o fyfyrwyr.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau datblygedig crefftau yn y llwybr rydych yn ei ddewis. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiadau
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau: q Un prawf aml-ddewis sydd wedi'i osod a'i farcio'n allanol q Un prosiect sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol yn ymdrin â dau faes crefft q Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol q Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol.
Llwyddiant Myfyrwyr
Ni allai'r ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig fod yn hapusach wrth i'w helfa fedalau gyrraedd ffigurau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar.

Enillwyd medalau aur ym mhob un o'r pedwar crefft a gynigir yn y Coleg, gan gynnwys y myfyriwr Paentio ac Addurno Paul Mason, Kellan Marney o Waith Brics, Plastrwr Johnny Donaldson a'r saer coed benywaidd Sammy Young.
Dilyniant
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladwaith neu amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau cyflwyniadol yn y ddau lwybr a ddewisir. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudio ymhellach: q Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Llawn amser) –City & Guilds q Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Rhan-amser) – City & Guilds q Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Rhan-amser) – City & Guilds


Cyrsiau
Yna daeth Arian i Thomas Morgan, Gwaith Coed, Kian Brown, Plastro, a Craydon Rive o Waith Brics, ac yna Efydd i Mai Ball o Beintio ac Addurno, Thomas Johns o Blastro a'r saer coed Dafydd Jenkins.
Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan olygu mai'r rhain yw'r canlyniadau gorau y mae'r ysgol erioed wedi'u cy fl awni. Mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr yn ychwanegol at eu gwaith cwrs.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer: q Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio ar hyn o bryd neu'n bwriadu gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig. Gweithredwyr safle sydd am ehangu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol. q Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Paentio ac Addurno / Teilsio Waliau a Lloriau Y
Gwaith Tir
Peirianneg
Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.
Byddwch yn ennill sgiliau eraill mewn Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu a fydd yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

Beth fyddaf yn ei wneud?
PEIRIANNEG FECANYDDOL/ CYNNAL A CHADW
Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi elfennau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau.
Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol (CNC) Haas soffistigedig a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D.
Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.


Saern O A Weldio
Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.
Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg.
Mae ein gweithdai ffabrigo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).
Rhagolygon gyrfa q Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol q Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog q Cyfleusterau peirianneg tra chyfoes o'r radd flaenaf q Cyrsiau sy'n cyfateb i safonau'r diwydiant i ateb y sgiliau gofynnol q Un o sectorau'r diwydiant mwyaf poblogaidd a chynyddol.
Llwyddiant Myfyrwyr
Sam Cottrell - Mae'r Myfyriwr Peirianneg Mecanyddol
Sam Cottrell wedi cael ei goroni 'Y Gorau yng Nghymru' yn erbyn 40+ o fyfyrwyr/cystadleuwyr o'r 12 coleg AB yng
Nghymru a darparwyr dysgu eraill fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Mae Sam nawr wedi sicrhau lle o fewn Carfan Cymru a bydd nawr yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill medalau'r
Deyrnas Unedig yn benben am safle rhif un i gynrychioli'r DU yn erbyn gweddill y byd.
Curtis Rees
Prentis Weldio - Bellach yn cael ei gyflogi yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd, ymhlith prif bobl ifanc medrus y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills ddwy flynedd yn ôl.

Curtis, sydd o Resolfen, yw'r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i'r brig yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham.
Cyrsiau
Enillion blynyddol cyfartalog
Peiriannydd Iau/Graddedig £30k
Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k
Cyfarwyddwr neu uwch £72k
Weldiwr £16k-£ 31k
Sectorau Peirianneg y DU
Modurol £48k
Cemegolion a Fferylliaeth/
Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn bod y gorau yn y DU mewn llwybr galwedigaethol.
Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol.
Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd:
"Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac am WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan. Mae hyn yn wych i'r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal."


Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol ac mae ganddo ddyheadau mawr i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio adeileddol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.
Meddygol £50k
Amddiffyn a Diogelwch/
Morol £47k
Ynni/Adnewyddadwy/
Niwclear £52k
Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr
£48k
Olew a Nwy £53k