3 minute read

gan gynnwys Therapi HArddwch

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych chi'n arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

Cyrsiau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.

Rhagolygon gyrfa

Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.

Ariyarnna Tidbury

Mae Ariyarnna Tidbury, myfyriwr o Goleg Y Drenewydd, wedi llwyddo i gyrraedd yr wyth olaf yng Nghystadleuaeth

Ymarferydd Harddwch WorldSkills sydd i'w chynnal yn Blackpool ym mis Tachwedd.

Daw hyn yn sgil ei llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ble y llwyddodd i ennill medal Efydd.

Mae'r gystadleuaeth WorldSkills yn canolbwyntio ar rôl a thasgau Ymarferydd Therapi Harddwch yn cyflawni ystod o wasanaethau sy'n adlewyrchu safonau cyfredol a thraddodiadol

Therapydd Harddwch £21k mewn salon

Artist Colur £40 yr awr (llawrydd) ynghyd â gofynion presennol y diwydiant. Bydd cystadleuwyr yn cael eu profi ar sgiliau iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu eithriadol yn ogystal â sgiliau arbenigol a gwybodaeth dechnegol ar y lefel uchaf.

Meddai'r darlithydd Harddwch a Therapi Cymhwysol Lisa Brandon: ‘Rwy'n hynod falch o holl gyflawniadau Ariyarnna ac mae cyrraedd y rownd derfynol yn dangos pa lefel sgiliau ac ymroddiad sydd ganddi.’

Perchennog Salon hyd at £100k

Uwch Steilydd £30k - emsi

“Roedd hi'n bleser cael y myfyrwyr Ariyarnna Tidbury a Lucy Lewis yn ennill medalau efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.” Darlithydd, Lisa Brandon

Busnes a RHEolaeth

Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel.

Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.

Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.

Rhagolygon gyrfa q Cyfrifeg q Gweinyddu busnes q Rheoli digwyddiadau q Cyfrifeg fforensig q Rheoli gwestai q Adnoddau dynol q Marchnata q Twristiaeth wledig q Brocer stoc.

Cewch eich cymeLL ... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rHEolaeth

“Mae'r cwrs busnes wedi fy helpu i edrych ar fusnesau o safbwyntiau gwahanol. Mae ymchwilio i fusnesau'n fanwl wedi fy helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth gref. Mae cwblhau amrywiaeth eang o unedau wedi rhoi mewnwelediad i mi i wahanol opsiynau gyrfa”. Chloe Preece.

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfrifydd £62k

Rheolwr marchnata £50k

Gweithredwr Teithiau £24k

Cynllunydd Digwyddiadau £29k

*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/

Darlithwyr newydd gymhwyso yn canmol y Coleg

Mae tri o gyn-fyfyrwyr ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheoli Coleg Bannau Brycheiniog wedi dod ynghyd i ganmol y Coleg am ei gefnogaeth wrth helpu nhw i fod yn ddarlithwyr cymwysedig. Mae Romina West (ar y chwith), Harriet Bailey (canol yn y blaen) a Michelle

Dorise-Turrall (ar y dde) i gyd bellach yn dysgu yng Ngrŵp Colegau NPTC ar ôl llwyddo mewn cyrsiau Busnes a chwblhau oriau lleoliad gyda'r Coleg.

Gan ddechrau yn 2011, cwblhaodd Romina West y cwrs BTEC Lefel 3 Busnes a'r Gyfraith mae hi bellach yn ei ddysgu, ac aeth ymlaen yn syth i astudio BA (Anrh) Busnes, Rheolaeth a TG yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Wedi hynny, hyfforddodd i fod yn athrawes i efelychu'r effaith gadarnhaol a gafodd darlithwyr y Coleg ar ei haddysg hi. Mae Romina nawr am ddweud "diolch yn fawr iawn i'r Uwch-ddarlithydd Robin Flower (canol yn y cefn) am ei gefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd.

Cyrsiau

“Pan oeddwn i'n gwneud fy TAR gyda Phrifysgol De Cymru, gwnaeth Robin ddal cynnig fy helpu i ddod o hyd i oriau lleoliad pan oeddwn i'n cael hi'n trafferth dod o hyd i rywle i gymryd fi ymlaen. Wedyn wnes i fy lleoliad yn ôl lle ro'n i wedi dechrau gyda'r Coleg.”

Dilynodd Harriet Bailey yr un llwybr â Romina ar ôl rhoi'r gorau i'r chweched dosbarth, a dywedodd:

“oni bai am gyrsiau'r Coleg yn Aberhonddu ar ôl i mi roi'r gorau i'r chweched dosbarth, fyddwn i ddim lle'r ydw i nawr.”

“Mae'r gefnogaeth a'r fentoriaeth gan holl diwtoriaid yr ysgol Busnes pan oeddwn i'n dysgu, ac wrth gymhwyso fel athrawes wedyn, wastad wedi bod yn ofalgar iawn." Mae Harriet bellach yn dysgu gyda'r ysgol Busnes yn Y Drenewydd.

This article is from: