CYRSIAU AMSER LLAWN #Gŵyl Dewis RITA SOLAR • TAILOR SWIFT • HAIRY STYLES LITTLE BRIX • 6TH FORMZY • BRUNO CARS CARDIO B • BABY GAGA • ED SHEARING CODE PLAY • MACAROON 5 SPORT MALONE • DEAL LIPA 2023/24 Chwilio NPTC Group Coleg Bannau Brycheiniog Coleg Y Drenewydd
CYNNW YS
Coleg
Ymholiadau
Ffôn: 0330 818 8100 E-bost: enquiries@nptcgroup.ac.uk
Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar bapur wedi'i ardystio gan FSC® o ffynonellau cynaliadwy.
Mae'r prosbectws hwn yn rhoi manylion yr holl raglenni llawn amser, academaidd a galwedigaethol.
I gael manylion yr holl gyrsiau eraill a gynigir gan Grŵp Colegau NPTC, ewch i'n gwefan: www.nptcgroup.ac.uk
Roedd yr wybodaeth yn y prosbectws hwn yn gywir ar adeg ei gynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.
Pam Dewis Grŵp Colegau NPTC? 3 Cyfleusterau Arobryn .................................. 5 Addysgu Arobryn ....................................... 8 Eich Cais 9 Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru ............... 10 Career Coach .......................................... 11 Prentisiaethau 12 Partneriaeth Academi 6ed Dosbarth Y Drenewydd 14 Mynediad i'r Dyniaethau 15 Amaethyddiaeth a Ffermio ........................ 16 Celf, Dylunio a Chyfryngau Creadigol 18 Peirianneg Cerbydau Modur ...................... 21 Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch 23 Busnes a Rheolaeth ................................ 25 Cyfrifiadura, Dylunio Gwefannau a Gemau .. 27 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig 30 Peirianneg .............................................. 32 Astudiaethau Sylfaen ............................... 34 Garddio a Garddwriaeth 36 Trin Gwallt ............................................... 38 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ... 42 Celfyddydau Perfformio 45 Gosodiadau Plymio a Thrydanol ................ 47 Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio Lletygarwch a Bwyty 49 Gwasanaethau Cyhoeddus ....................... 51 Chwaraeon 53 Bywyd yn y Coleg 56 Undeb y Myfyrwyr..................................... 56 O Ddifri am Chwaraeon 57 Centerprise ............................................. 59 Cymraeg yn y Coleg ................................. 59 Ennill Gradd ar Garreg eich Drws 60
Aberhonddu,
Y CWTCH
hen Ganolfan Groeso) Maes Parcio'r Farchnad Gwartheg Heol Gouesnou, LD3 7BA Coleg Y Drenewydd Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU Fferm Fronlas Lôn Mochdre, Y Drenewydd, SY16 4JA
Bannau Brycheiniog Penlan,
LD3 9SR
(Yr
cyffredinol
Byddwch Ysbrydoledig a Byddwch eich Dyfodol
Mae Grŵp Colegau NPTC yn rhagori'n gyson mewn canlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol, gyda llawer o'n myfyrwyr yn mynd i brifysgolion Brics Coch gan gynnwys Rhydgrawnt, neu'n camu'n uniongyrchol i'w gyrfa ddelfrydol. Mae hynny oherwydd, er yr awyrgylch aeddfed a chyfeillgar, bod ein corff o fyfyrwyr dawnus yn cael eu gwthio i gynnal lefelau uchel o gyflawniad academaidd yn gyson, ond rydym hefyd yn rhoi llawer o ffocws ar sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i gael cyflogaeth yn syth o'r Coleg neu i lwyddo mewn bywyd
A'r rheswm pam mae ein myfyrwyr yn parhau i lwyddo yw oherwydd cefnogaeth ac arweiniad ein staff darlithio arbenigol a'r gofal bugeiliol rhagorol y maent yn ei ddarparu. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr sy'n hapus yn uchel eu cymhelliad, a'u bod yn cyflawni ac yn ffynnu. Fel Coleg rydym yn ymfalchïo yn y gwaith o adeiladu amgylchedd cefnogol a fydd yn gwella gwytnwch, annibyniaeth a hyder yn gadarnhaol, gyda staff addysgu a chefnogi yn barod i danio a meithrin eu huchelgeisiau.
Felly p'un a ydych yn dewis cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, byddwch eich dyfodol yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC
P Gweld y Coleg P Cwrdd â’r staff P Trafod eich anghenion
M
16 Ionawr 2023
20 Mawrth 2023
Coleg
21 Mawrth 2023
23 Mai 2023 (Addysg Uwch)
Addysg
22 Mehefin 2023 Uwch
2
Coleg Bannau Brycheiniog
M
21 Mehefin 2023 Y Drenewydd
17 Ionawr 2023
M
23 Mai 2023
N o s w e i thiau Ag o red
Rydyn ni'n gwybod y gall dewis eich camau nesaf ymddangos yn frawychus ond byddwn gyda chi o'r diwrnod cyntaf, bob dydd a phob cam o'r ffordd - felly rydyn ni eisiau i chi feddwl yn fawr!
Gall Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn Coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant. Ein nod yw eich ysbrydoli drwy arddangos y nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael a rhoi'r sgiliau, y galluoedd a'r canlyniadau sydd eu hangen arnoch er mwyn llwyddo yn y gyrfaoedd hynny, camu ymlaen i Addysg Uwch neu'r gweithle yn ogystal ag mewn bywyd.
PAM Dewis Grŵp Colegau NPTC?
Llongyfarchodd Grŵp Colegau NPTC ein holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu canlyniadau eleni. Dosbarth 2022 yw'r cyntaf i sefyll arholiadau ers y pandemig er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cyrhaeddodd myfyrwyr sy'n sefyll eu Tystysgrifau Diploma Cenedlaethol Estynedig y penawdau hefyd, gyda 63 o fyfyrwyr yn ennill graddau rhagoriaeth driphlyg, a 25 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau uchaf sy'n bosib o sêr rhagoriaeth driphlyg (D*D*D*) sy'n cyfateb i dri A* ar Safon Uwch.
At hynny, llwyddodd ddim llai na 292 o ddysgwyr i gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd lwyddo eithriadol o 99.6 y cant gyda 65 y cant yn cyflawni gradd rhwng A* ac C.
Mae llawer o fyfyrwyr wedi bachu lleoedd yn y prifysgolion gorau, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, neu ennill y cymwysterau i lanio eu swyddi delfrydol. Mae'n bwysig nodi na fu eleni fel unrhyw flwyddyn arall. Mae'r staff wedi ymgymryd â maint enfawr o waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i'r ystafell ddosbarth a'u paratoi ar gyfer arholiadau o dan amgylchiadau anodd iawn. Dywedodd Catherine Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro a Phennaeth Dros Dro
Grŵp Colegau NPTC:
"Mae'r canlyniadau hyn yn rhagorol. Mae rhagori ar y graddau A* - B yn 2019 (cyn-COVID) yn gyflawniad eithriadol. Rwy'n falch iawn o'n myfyrwyr a'n staff addysgu a chefnogi am y gwaith caled iawn sydd wedi bod yn sail i'r holl gannoedd o lwyddiannau sydd y tu ôl i'r ffigurau.”
ADVANC E D SKILLS Pass Rate
Uchafbwyntiau'r Canlyniadau
Cafodd y myfyrwyr chwaraeon Laura Shinton a Jennifer Jarvie y radd uchaf y gellir ei gyflawni: Rhagoriaeth driphlyg * mewn BTEC Lefel 3 Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae'r canlyniad yn gyfwerth â 3 o gymwysterau A * ac mae'n golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau UCAS.
Dywedodd Laura, nofiwr ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am y 50 metr mewn nofio ar y frest yn y cystadlaethau cenedlaethol a'r 15 uchaf mewn nofio ar y frest 100 metr yng Nghymru: "Rydw i mor falch iawn o fy nghanlyniadau sy'n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Gwyddor Iechyd, Maeth ac Ymarfer Corff.”
Dywedodd y darlithydd chwaraeon Amy Watkins: "Mae Laura wedi dangos ymroddiad mawr drwy gydol ei hastudiaethau ac mae ganddi'r holl botensial am yrfa wych o'i blaen, ac mae Jen yn llysgennad gwych ac yn
99.3%
99.6% SGILIA
CHALLENGE C ERTIFICATE
arweinydd naturiol. Mae hi'n uchel ei chymhelliad ac mae ganddi ddyfodol gwych o'i blaen yn y diwydiant chwaraeon. Rydym i gyd yn dymuno pob lwc i Jen a'n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”
Mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi profi eu bod yn griw sy'n gweithio'n galed gyda nifer dda yn cael graddau gwych.
Mae Ellie Hinge D*D*D*, Iris ShanahanD*D*D* a Katie Clarke DDM i gyd wedi cael eu derbyn i Brifysgol Aberystwyth a byddant ymhlith y myfyrwyr cyntaf i ddilyn y cyrsiau BSc Nyrsio newydd yn y Brifysgol. Mae Iris wedi dewis y BSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl a Katie ac Ellie y Radd Nyrsio Oedolion.
Roedd canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eraill yn cynnwys: Amy Sheddon a Leanne Moore wrth ennill Rhagoriaethau Seren Driphlyg gyda Megan Woodhousea Ceara Burnside yn derbyn D*D*D. Mae Ceara yn bwriadu mynd i Brifysgol John Moore Lerpwl i astudio Seicoleg.
Dywedodd Claire Bumford, y Darlithydd Iechyd a Gofal
Cymdeithasol: "Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed ac wedi cael eu gwobrwyo â chanlyniadau gwych. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd. O ystyried profiadau pawb yn y pandemig mae wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleoedd hyfforddi yn y sector ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r ymdrechion hynny, gan gynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni canlyniadau a all gefnogi gyrfa lwyddiannus yn yr amgylchedd gofal iechyd.”
U UWCH TYSTYS G RIF HERCyfraddLwyddo Rhag iaeth DriphlygYFYM R W YR DIPLOMA E S TYNEDIGCENED L A LOHTE 63 Serennog MYFYRW 99.3% CHALLENGE C ERTIFICATE ADVANC E D SKILLS Pass Rate 99.6% 99.3% CHALLENGE C ERTIFICATE ADVANC E D SKILLS Pass Rate 99.6% SGILIA U UWCH TYSTYS G RIF HERCyfraddLwyddo Triple Distinctions 63 E X T E NDEDNATIONA L DIPLOMASTUD E N ST Rhag iaeth DriphlygYFYM R W YR DIPLOMA E S TYNEDIGCENED L A LOHTE 63 Triple Distinction Stars 25 E X TENDEDNATION A L DIPLOMASTUD E N T S Lorem ipsum Rhag iaeth Serennog Driphlyg 25MYFYRWYRDIPLOMA ESTYNEDIGCENEDLA E T H O L 99.3 CH 99.6 99.3 CH A 99.6 Triple Distinctions 63 E X T E NDEDNATIONA L DIPLOMASTUD E N ST Rhag iaeth DriphlygYFYM R W YR DIPLOMA E S TYNEDIGCENED L A LOHTE 63
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk 3
Roedd myfyrwyr gofal plant hefyd yn falch o'u canlyniadau. A hithau'n dychwelyd i ddysgu, enillodd Corina Gamble
Seren Ragoriaeth mewn Gofal Plant Lefel 3, Diploma Chwarae, Dysgu a Datblygu ac mae wedi dewis astudio BA (anrhydedd) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Dywedodd y Darlithydd Gofal Plant, Laura Thomas "Rwy'n hynod falch o'r myfyrwyr, yr oedd yn rhaid i rai ohonynt jyglo dyletswyddau gartref ac astudio, tra bod eraill yn gweithio ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Ond mae pob un wedi gweithio mor galed. Pob lwc yn eich cam nesaf.”
Mae myfyrwyr busnes hefyd wedi llwyddo yn yr arholiadau a gwaith cwrs anodd eleni i sicrhau canlyniadau gwych, ymysg y rhain mae:
Ruth Rees-Jones D*DD, yn aros gyda ni yng Ngholeg Y Drenewydd i wneud HND mewn Amaethyddiaeth.
Ffion Rowlands D*DD sydd wedi'i phenodi i rôl Gweinyddiaeth Fusnes llawn amser yn Control Techniques.
Carys Wilson Mills DDD, sy'n mynd i Brifysgol Caerhirfryn i astudio Cyllid a Chyfrifeg.
Dywedodd y Darlithydd Busnes, Harriet Bailey: "Rwy'n hynod falch o'r menywod ifainc sydd wedi cyflawni canlyniadau perffaith heddiw. Nid oedd heriau ac aberth y pandemig trwy gydol dwy flynedd eu hastudiaeth ond wedi'u gwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol o ragori ym mhob maes pwnc y cwrs Busnes BTEC lefel 3 gyda llwyddiant ysgubol. Fy ngrwp cyntaf i mi weld trwyddo ers y diwrnod cyntaf a fi yw'r mwyaf balch. Mae wedi bod yn bleser i'w haddysgu a gweld y menywod ifainc hyn yn tyfu'n academyddion busnes uchelgeisiol, rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol. Da iawn chi, merched.”
Gweithiodd ein myfyrwyr HND Amaethyddiaeth yn galed gartref ar eu ffermydd ac yn y Coleg i ddod allan gyda chanlyniadau eithriadol.
Enillodd Elin Protheroe, Nia Powell, Cerys Mills a Gwawr Jones i gyd Ragoriaeth.
Meddai Martin Watkin, Rheolwr Ystadau Tir a Dirprwy
Bennaeth Arlwyo, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth: ‘Rydym i gyd yn falch o'n holl fyfyrwyr am eu cyflawniadau. Maent i gyd yn ferched sy'n gweithio'n galed, ar eu ffermydd cartref ac yn y Coleg. Gwnaethon nhw weithio'n galed drwy'r cyfnod clo gan ddysgu ar y we ond pan ddychwelon nhw i'r Coleg fe wnaethon nhw
ragori. Bob amser yn ymdrechu i gyflawni mwy ar bob cyfle. Mae eu canlyniadau'n haeddiannol iawn. Da iawn chi, merched.”
Enillwyd graddau Rhagoriaeth ar draws tri maes y Celfyddydau, gyda UAL Lefel 3 blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn yn cyflawni'r graddau uchaf ac yn y diplomâu estynedig.
Derbyniodd Demi Forbes, myfyriwr blwyddyn gyntaf Celf a Dylunio Lefel 3 Ragoriaeth. Ar gyfer ei phrosiect terfynol, cynhyrchodd Demi lyfr naid graffeg darluniadol, yn seiliedig ar chwedl Tsieineaidd 'The Red Thread of Fate'.
Cyflawnodd Roxie Brookes Ragoriaeth yn y UAL Lefel 3 Diploma Estynedig Celf a Dylunio. Mae Roxie yn gobeithio cael cyflogaeth yn lleol fel dylunydd graffeg/gwe llawrydd. Ar gyfer ei phrosiect olaf, bu i Roxie arbrofi gyda dyluniadau ailfrandio ar gyfer y cwmni lleol Hafren Vets.
Meddai'r darlithydd yn y Celfyddydau, Rob Loupart: “Mae'r myfyrwyr i gyd wedi dangos ystod amrywiol o sgiliau. Mae Demi yn ddarlunydd dawnus mewn arlunio, paent a chyfryngau digidol. Mae gan Roxie ddealltwriaeth wych o gynllunio hysbysebion a dylunio, brandio a chynllunio tudalennau gwe, gan ddefnyddio'r ystod lawn o feddalwedd Adobe at safon broffesiynol. Dymunwn bob lwc i'n holl fyfyrwyr yng ngham nesaf eu gyrfaoedd.”
Derbyniodd y myfyrwyr Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3, Ruby Morgan, Aneirin Parton ac Evangelia Dimitriou i gyd ragoriaethau a byddant yn symud ymlaen i'r ail flwyddyn.
Derbyniodd myfyrwyr Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lucy Jones, Amy Richards a Jake Robinsoni gyd ragoriaethau ac maent wedi sicrhau lleoedd yn Ysgol Gerddoriaeth, Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio LMA.
Meddai'r Darlithydd Celfyddydau Perfformio Elizabeth Hebden: “Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed ers dychwelyd i'r coleg ar ôl y pandemig. Maen nhw wedi ffitio llawer i mewn i'r flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n falch iawn o'u holl waith caled.”
Cyflawnodd y myfyrwyr diploma Estynedig Lefel 3 Cyfryngau Creadigol Arron Weston a Harrison CollardFrancis, Ragoriaeth.
^ 4 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Ruth Rees-Jones Ffion Rowlands Iris Shanahan
CyfLEuSTERau Arobryn
5
Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Labordai gwyddoniaeth
Y Drenewydd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf
Y Drenewydd: Cyfleusterau arlwyo o'r radd flaenaf
Y Drenewydd: Estyniad cerbydau modur newydd sbon
Y Drenewydd: Bwyty hyfforddi o safon uchel – Themâu
Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Adran adeiladwaith arobryn
Y Drenewydd: Stiwdios celfyddydau perfformio eithriadol a rhagor
5
Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd: Academi Trin Gwallt Lee Stafford gyffrous
Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.
Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf
Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.
Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.
Y CWTCH
Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned
Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.
Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb.
Dadorchuddiwyd plac gan Aelod Senedd blaenorol Brycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur.
Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.”
Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd 1GB hynod gyflym, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.
Mae cynlluniau pellach i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog yn nhref Aberhonddu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch caffael dau adeilad yn y dref. Byddwn yn gallu rhoi mynediad uniongyrchol i'n myfyrwyr i'r dref ac i'r cyfleusterau a ddarperir gan fusnesau lleol ar sail bob dydd.
6
Coleg Bannau Brycheiniog yn symud i'r dref
Mae darpariaeth addysg bellach yn Aberhonddu yn cael ei thrawsnewid gyda bwriad Grŵp Colegau NPTC i adleoli i ganol y dref.
Trosglwyddwyd Watton Mount yn Aberhonddu a'r hen lyfrgell ar Stryd y Llong gan Gyngor Sir Powyswrth gael eu prynu i Grŵp Colegau NPTC. Bydd hyn yn galluogi Grŵp Colegau NPTC i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog i ganol y dref ar gyfer campws ag 'ymdeimlad o brifysgol', gan arwain at addysg â cyfoeth o adnoddau sy'n addas i'r 21ain ganrif.
Daw'r symud yn sgil cytundeb cynharach rhwng y cyngor a Grŵp Colegau NPTC a welodd y cyn Ganolfan Croeso maes parcio'r farchnad wartheg yn cael ei had-drefnu'n fewnol a'i hail-frandio gan Grŵp Colegau NPTC fel "Y Cwtch”.
O dan brydles 25 mlynedd, mae'r lleoliad wedi mynd yn ganolfan galw heibio ac yn darparu sawl cyfle dysgu i drigolion.
Bydd yr adeiladau'n cael eu hadnewyddu gan y Coleg i fod yn gartref i dechnolegau rhyngweithiol a gofodau tra chyfoes ar gyfer sawl maes astudio. Mae'r ddau sefydliad hefyd yn gweithio mewn partneriaeth yn y dref yn atyniad blaenllaw Aberhonddu, Y Gaer, a fydd yn arwain at lyfrgell newydd i'r Coleg, rhai mannau dysgu a rennir a chaffi, a bydd oriau agor y llyfrgell gymunedol yn cael eu hymestyn i saith diwrnod yr wythnos.
Meddai Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol Economi a'r Amgylchedd Cyngor Sir Powys: “Bydd trosglwyddo'r adeiladau nodedig hyn yng nghanol y dref yn dod â manteision adfywio sylweddol i Aberhonddu, gan roi hwb i fasnach siopau a busnesau a chan ddod â chwa o awyr iach i ganol y dref.
“Bydd y cyngor yn cydweithio'n agos â Grwp Colegau NPTC wrth iddynt gyflwyno eu cynlluniau datblygu ar gyfer Coleg Bannau Brycheiniog.”
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd â'r cynnydd sy'n cael ei wneud. “Mae'r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers tro, ac rydym yn falch iawn ei fod bellach yn symud i'r cyfeiriad cywir wrth i gontractau ar gyfer Watton Mount a Llyfrgell Stryd y Llong gael eu cyfnewid.”
7
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
ADDYSGU Arobryn
Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg gorau yng Nghymru a'r degfed yn y DU gyfan*
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau.
Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.
O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda geirdaon.
* Gwobrau ymadawyr ysgol 2020
Cai eich taITh eich coLEg
Croeso i’r system ymgeisio ar-lein yma yng
Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses.
Cwrs iawn, dewis iawn!
Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd.
Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gymwysterau Safon U, cyrsiau galwedigaethol, dysgu rhan-amser neu brentisiaeth!
Felly sut ydych yn dewis?
Ymchwiliwch i'ch opsiynau trwy ddarllen ein prosbectws amser llawn, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel 'o'r enw 'Career Coach'.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Peidiwch ag anghofio bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru!
Pob lwc yn eich arholiadau
TGAU, welwn ni chi ym mis Medi!
Gwneud cai am Cwrs
1 Gwneud cai AR-LEIN yn: www.nptcgroup.ac.uk
Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Drin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais.
Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Prospect felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.
Eich enw defnyddiwr fydd rhan gyntaf eich cyfeiriad eich cyfeiriad bost (y rhan cyn y @).
Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod ac o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif.
Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arniond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol!
E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk
Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.
2 Trefnu eich cyfweliad
Rydyn ni'n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio. Does dim angen poeni am eich cyfweliad, mae'n gyfle esmwyth ac anffurfiol i chi ofyn cwestiynau a gwneud yn siŵr bod y cwrs yn iawn i chi.
3 Cynnig Amodol
Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.
4 Dod o hyd i’ch cai
Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y
Eich
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk 9
BAGLORIAETH SGILIAU CYMRU UWCH?
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSCU) yn gymhwyster Lefel 3 newydd cyffrous sy'n cefnogi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar, gan gyfarparu nhw â'r sgiliau ar gyfer astudio yn y dyfodol neu gyrchu'r farchnad swyddi.
Dyluniwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer Myfyrwyr 16-19 oed, a gellir ei wneud ochr yn ochr â cymwysterau Lefel 3 eraill, gan gynnwys Safon Uwch.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Mae ein cwrs dwy flynedd yn cynnwys tri phrosiect: Prosiect Cymunedol Byd-eang, Prosiect Cyrchfan y Dyfodol, a Phrosiect Unigol. Byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r pedwar sgìl Integredig ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r tri sgìl sydd wedi'u hymwreiddio.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyd-destunau cyffrous a fydd yn seiliedig ar agenda datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
PA SGILIAU FYDDAF YN EU DATBLYGU?
Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ddeniadol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion gan gynnwys:
Sgiliau integredig
M Cynllunio a Threfnu
M Meddwl yn Feirniadol
M Datrys Problemau
M Creadigrwydd ac Arloesi
Sgiliau wedi'u hymwreiddio
M Llythrennedd
M Rhifedd
M Cymhwysedd Digidol
SUT FYDDAF YN CAEL FY ASESU?
Prosiect Cymunedol Byd-eang (25%)
Byddwch yn dewis mater byd-eang i ymchwilio iddo, yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill ac yn cymryd rhan mewn gweithredu cymunedol.
Prosiect Cyrchfan y Dyfodol (25%)
Byddwch yn magu dealltwriaeth o chi'ch hun, yn ymchwilio i nodau cyflogaeth a lles y dyfodol ac yn cynllunio sut y gallwch chi gyflawni hyn.
Prosiect Unigol (50%)
Byddwch yn cynllunio, rheoli, ac yn ymchwilio i bwnc sy'n gysylltiedig â'ch dyheadau addysg neu yrfa yn y dyfodol, ac yn creu traethawd hir ysgrifenedig neu arteffact.
Gellir gwneud yr asesiadau drwy gydol y cwrs dwy flynedd a bydd cymedroli allanol yn digwydd ym mis Ionawr a mis Mai. Mae'n debygol y byddwch chi'n cwblhau'r Prosiect Unigol yn yr ail flwyddyn.
GYRFAOEDD GYDA BSCU
Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau pwysig y gallwch chi symud ymlaen â nhw waeth p'un a ydych yn mynd i'r brifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd datblygu'r sgiliau hyn yn eich helpu i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol ac egnïol a gall gael effaith ddofn ar eich llwyddiant a'ch lles yn y dyfodol.
"Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn datblygu sgiliau datrys problemau gwerthfawr, drwy ddarparu problemau y gellir uniaethu â nhw sy'n galluogi dysgwyr i weithio'n gynhyrchiol tuag at atebion arfaethedig. Mae'n galluogi dysgwyr i ddadansoddi gwybodaeth, ystyried sawl ymagwedd at ymdrin phroblem, ac wrth weithio ar y cyd, argymell atebion creadigol."
Rebecca Davies Prif Weithredwr Engineering Education Scheme Wales Ltd
PAM ASTUDIO DYFARNIAD LEFEL 3 MEWN
10
b www.nptcgroup.ac.uk
Gwnewch Gais Ar-lein
Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i
deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth leol am y farchnad swyddi
Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o'r dyfodol, maen nhw'n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio'r weledigaeth honno.
Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd berffaith a'r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno!
Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy'n seiliedig ar eich diddordebau a'ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i'ch helpu i symud ymlaen i'r yrfa o'ch dewis.
Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi'i chynllunio'n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.
Sganiwch yma i ddechrau defnyddio
Career Coach neu ewch i’n gwefan
www.nptcgroup.ac.uk
11 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
RHYWBETH GWERTH CHWEIL YW Dysgu
Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.
Dyma'r llwybrau:
q Cyfrifeg q Amaethyddiaeth
q Mecaneg Amaethyddol q Gofal
q Gweinyddu Busnes q Gofal Plant a Gwaith
q Adeiladwaith Chwarae
q Gwasanaeth Cwsmeriaid q Peirianneg
q Lletygarwch ac Arlwyo q Cerbydau Modur
q Manwerthu q Arwain Tîm
q Atgyweirio Cyrff Cerbydau q Rheolaeth.
Twf Swyddi Cymru+
Os ydych rhwng 16 a 18 oed, mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig rhaglenni dysgu i'ch cefnogi i feithrin sgiliau cysylltiedig â gwaith a nodi dewisiadau gyrfa. Mae hon yn rhaglen hyblyg iawn sydd wedi'i dylunio o'ch cwmpas chi i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i roi hwb i'ch opsiynau gyrfa nes i chi fentro ar eich taith brentisiaeth, coleg neu waith. I wneud cais, rhaid i chi fod:
M Rhwng 16 a 18 oed; ac yn
M Byw yng Nghymru; a
M Heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn
Beth fydd yn ei gynnig i mi?
M Derbyn cymorth hyfforddiant parhaus gan gontractwr dynodedig
M Tystiolaeth i'w datgan ar geisiadau gysylltiedig â gyrfa a'ch CV
M Profiadau hyfforddi a gwaith am ddim
M Magu eich hyder wrth i chi dyfu eich sgiliau a phrofiad
M Cael troed yn y drws a mynediad i
swyddi gyda chyflogwyr lleol.
Pa gymorth sydd ar gael trwy Twf Swyddi Cymru+?
Mae tri edefyn o gymorth gan Twf Swyddi Cymru+:
M Twf Swyddi Cymru Plws Ymgysylltu
M Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu
M Twf Swyddi Cymru Plws Cyflogaeth.
Pam dod yn Brentis?
q Ennill wrth i chi ddysgu - cael cyflog
q Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a wynebu heriau newydd
q Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
q Cyfleoedd dilyniant ardderchog.
Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael?
q Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol:
q Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2
q Prentisiaeth - Lefel 3
q Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.
Prentisiaethau
Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.
Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am Brentisiaeth.
Prentisiaethau Gradd
Yn ddiweddar dyfarnwyd cyllid i Grŵp Colegau
NPTC a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi derbyn cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen
Beilot Prentisiaeth Gradd newydd i Gymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y
Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd.
A Oes Gennych Ddiddordeb?
Cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio ni: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk
Neu ffoniwch ni ar: 0330 818 8002
Gwnewch
Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk 12
Gais
Sut gwnaeth eIN prentiiaid?
Rhoddodd y wybodaeth a'r profiad yr oedd ei angen arnaf i dyfu a symud ymlaen, ac mae wedi agor y drysau i gyfle gyrfa newydd."
Mae Ashley wedi symud ymlaen i fod yn Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 ar gyfer Hyfforddiant Llwybrau Y Drenewydd
Dyfrig Micah
Prentis Lefel 3 Peirianneg Amaethyddol:
"
Mae cwblhau fy nghymhwyster lefel 2 a nawr yn agos at gwblhau fy mhrentisiaeth lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaeth ar y Tir wedi bod yn brofiad gwych. Un fyddwn i'n ei argymell i unrhyw un."
Tim Hughes
Cyfarwyddwr Smithfield Tractors Llanfair
ym Muallt:
"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr wybodaeth y mae Dyfrig wedi'i hennill o gwmpas Peirianneg Amaethyddol trwy fynd i Goleg Y Drenewydd. Mae bellach yn aelod gwerthfawr iawn o'n tîm peirianneg gweithdai."
Jake Carter a
Liam Rowlands
Prentisiaid Lefel 3
Peirianneg Ffabrigo a
Weldio:
"Mae fy mhrentisiaid Jake Carter a Liam Rowlands wedi bod yn ffrindiau ers dechrau ar y cwrs ym mis Medi. Maen nhw wedi dweud bod dod i'r coleg fel rhan o'u prentisiaeth wedi rhoi cyfle iddynt nid yn unig ddysgu eu crefft a chael eu cymhwyster L2, ond hefyd i gwrdd â phobl newydd efallai na fyddent wedi cwrdd â nhw y tu allan i'r coleg gan eu bod yn gweithio i wahanol sefydliadau."
Ashley Bryant
Prentis Lefel 3 Iechyd a
Gofal Cymdeithasol:
"Roedd cwblhau
fy nghymhwyster
Lefel 3 Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Oedolion yn brofiad mor anhygoel.
Ben Randell a Sam Crumpton
Prentisiaid Lefel 2 Plymio:
“Bob dydd rydyn ni'n gweithio mewn gwahanol lefydd ac yn gweld pobl wahanol ac mae cwblhau prentisiaeth mewn plymio yn llenwi bwlch hanfodol yn y sector adeiladwaith.
Mae dysgu ac ennill arian yn ffordd wych o gyflawni crefft broffesiynol, ac mae hefyd yn dda i fy iechyd meddwl.”
Phoebe
Prentis Lefel 3 Gweinyddiaeth Fusnes:
"Mae gwneud prentisiaeth wedi rhoi'r cyfle i mi weithio i fusnes lleol sy'n gofalu am y gymuned. Gyda chefnogaeth fy nghyflogwr, fy nghydweithwyr ac Asesydd NVQ rwy'n dysgu am Weinyddiaeth Fusnes a Gwasanaeth i Gwsmeriaid gyda'r cyfle i roi'r sgiliau newydd hyn ar waith."
^
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk 13
Croeso i Bartneriaeth Academi'r
6ed Dosbarth Y Drenewydd
Croeso i'r gorau o ddau fyd!
Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd.
Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol.
Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.
Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd
Newtown 6th Form Academy Partnership
Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.
Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC).
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.
Mae pynciau yn cynnwys:
q Celf a Dylunio
q Bioleg
q Busnes a'r Gyfraith
q Cemeg
q Drama a Theatr
q Saesneg Iaith
q Daearyddiaeth
q Cyfathrebu Graffeg
q Iechyd a Gofal Cymdeithasol
q Hanes
I ymgeisio
Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powys6.cymru
Claire Scotti:
q Technoleg Ddigidol
q Y Gyfraith [E-sgol]
q Mathemateg
q Cerddoriaeth
q Ffotograffiaeth
q Ffiseg
q Seicoleg
q Addysg Gorfforol
q Cymdeithaseg [E-sgol]
Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgolion 14-19
e-bost: claire.scotti@nptcgroup.ac.uk
14
MYNEDIAD I'R DYNIAETHAU
Bwriad y Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Dyniaethau yw paratoi myfyrwyr i astudio Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol mewn Addysg Uwch. Mae hyn wedi'i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth.
Mae'n darparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella potensial cyflogaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cyflwynir yr addysgu a'r dysgu drwy broses o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, trafodaethau, arddangosiadau, dysgu cyfunol a gwaith grŵp.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu gan gynnwys cyflwyniadau, traethodau a phrofion dosbarth. Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu.
Rhagolygon gyrfa
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i ystod eang o raglenni gradd gan gynnwys
q Y Gyfraith
q Hanes
q Saesneg
q Seicoleg
q Cwnsela
q Troseddeg
q Hyfforddiant Athrawon
q Gwaith Cymdeithasol
Mynediad i'r Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol 3
Mae'r cwrs hwn yn darparu ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy'n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd angen gradd C ar fyfyrwyr mewn TGAU Saesneg a D mewn TGAU mathemateg neu gyfwerth. Fodd bynnag, bydd gofyn i'r rhai heb y graddau hyn sefyll asesiad sgiliau cychwynnol cyn cofrestru, ac yna cyfweliad.
Blwyddyn Y Drenewydd
Chwilio NPTC Group 15 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Amaethyddiaeth a FfERmIO
Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant.
Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang y byddwch yn eu cael!
Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth.
Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin o'r radd flaenaf.
Rydym yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach llaeth, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn.
Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig eidion a chig oen yn ystod y flwyddyn.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau.
Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS.
Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.
Rhagolygon gyrfa
Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn sector amaethyddiaeth y DU gan gynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd fferm, arolygydd ffermydd, ac arwerthwr.
12 Mehefin
Dydd Sul
2023
Chwilio NPTC Group 16 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Fferm Agored
Mae Elin wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i'w chwrs
HND Amaeth er gwaethaf yr holl heriau rydym wedi'u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ganddi ran fawr yn y gwaith o redeg ei fferm deuluol a hi yw ysgrifennydd ei grŵp CFfI lleol. Mae hi'n fyfyriwr astud sydd bob amser yn cyfranogi'n llawn ac yn cymryd rhan mewn cyd-drafodaethau dosbarth lle mae'n cyfrannu gyda dadleuon cadarn a rhesymedig. Mae gwaith caled Elin wedi cael ei wobrwyo â Rhagoriaeth. Roedd ei phrosiect ymchwil yn arbennig o ddiddorol gan iddo edrych ar rôl ffermydd ucheldir Cymru wrth fwydo'r genedl, maes pwnc y mae Elin yn teimlo'n angerddol iawn drosto.
Mae'r CFfI wedi agor sawl drws i Elin. Ar lefel sirol mae wedi dal swydd Cadeirydd y Fforwm Ieuenctid ac wedi'i dyfarnu'n aelod Iau y flwyddyn. Mae hi'n cystadlu yng nghystadlaethau trin gwlân CFfI ac wedi ennill cystadleuaeth trin gwlân CFfI yn y Sioe Frenhinol a'r wobr Nofis Pob Gwlad sy'n ei galluogi i gystadlu yn nhîm Cymru yn Sioe Frenhinol Balmoral Iwerddon. Mae hefyd wedi cystadlu yng nghystadlaethau beirniadu stoc, siarad yn gyhoeddus, ac ar Fferm Factor.
Cyrsiau
Mae Elin hefyd yn rhoi cryn dipyn o'i hamser i'r gymuned ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â rôl ysgrifennydd noddi Cneifio Cyflym Rhyngwladol Cymru a gynhelir ochr yn ochr â'r Sioe Frenhinol fel digwyddiad codi arian. Mae hi wedi ennill Myfyriwr y Flwyddyn yn yr un sioe yn 2021.
Yn gynharach eleni dyfarnwyd y wobr dysgwr y flwyddyn Lantra uchel ei bri i bobl 20 oed ac yn iau i Elin mewn cydnabyddiaeth o' chyfraniad at sector tir Cymru. Yn ddiweddar cafodd wybod ei bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn y siwrnal cenedlaethol "Farmers' Weekly", sy'n gamp wych. Ar ben hynny enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn Grŵp Colegau NPTC ar gyfer 2022.
Mae Elin yn bwriadu "ategu" ei chymhwyster HND gyda gradd ym Mhrifysgol Harper Adams yn yr hydref ac yna mae'n bwriadu teithio ar draws y byd i gael profiadau newydd drwy weithio mewn gwahanol wledydd, yn enwedig Awstralia a Seland Newydd. Ei huchelgais hirdymor yw dychwelyd adref a gweithio ochr yn ochr â'i thad ar y fferm cig eidion a defaid teuluol.
Mae hi wedi bod, a bydd hi'n parhau i fod, yn llysgennad gwych i Grŵp Colegau NPTC ac Amaeth yn gyffredinol.
Enillion blynyddol cyfartalog
Cyflog Gweithiwr Fferm £27k
Rheolwr Fferm £34K
*Seilir hyn ar ddata cenedlaethol
“Dwi wrthi'n cwblhau'r Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth ac wedi cael profiad mor wych yn gweithio ar y fferm yma. Roeddwn i'n ail yng Ngwobrau Lantra Cymru a rhan yn
ymgeisio i fynd i'r Brifysgol”
Emma Morgan-Page
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad C&G Peirianneg Amaethyddiaeth 2 Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol 2 Flynedd Y Drenewydd C&G Diploma mewn Amaethyddiaeth 2 Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol 2 Flynedd Y Drenewydd C&G Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth 3 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg 2 Flynedd Y Drenewydd C&G Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad 3 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg 2 Flynedd Y Drenewydd
Elin Protheroe HND Amaethyddiaeth
17 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Amcangyfrifwyd bod gan y DU 2.29m o swyddi yn y diwydiannau creadigol yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2021, gan gynnwys 1.62m o swyddi parhaol, yn ôl ystadegau swyddogol.
Roedd 663,000 arall o swyddi'r diwydiant creadigol yn hunangyflogedig. Yn gyffredinol, nid yw cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol wedi dioddef yn ystod y pandemig cymaint ag yr oedd wedi'i ofni ar y cychwyn. Roedd y diwydiannau creadigol yn gyfrifol am 6.9 y cant o holl
swyddi'r DU ym mis Medi. Mae hyn i fyny o 5.8 y cant yn 2015, ac ers hynny mae'r diwydiannau creadigol wedi ychwanegu tua 400,000 o swyddi newydd yn y DU.
Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrifo cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn.
Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn y sector creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.
Rydym yn ganolfan greadigol ar gyfer dysgu lle mae'r myfyrwyr yn symud ymlaen, ein nod yw eich helpu i fod yn barod am eich gyrfa!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol.
Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau
cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y Cyfryngau
Creadigol yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith
Rhagolygon gyrfa
q Penseiri
q Treftadaeth y celfyddydau
q Crefftwyr
q Dylunydd
q Cyfarwyddwr
q Cynhyrchydd ffilm
q Artistiaid cain
q Dylunwyr graffig
q Ffotograffydd
q Gwneuthurwr print
q Dylunwyr cynnyrch
q Dylunio propiau a setiau
q Dylunio gofodol, mewnol a thirlunio
q Artist tatŵ
q Addysgu ac addysg
q Fideograffydd
q Dylunydd gwe.
Celf, DylunIO a'r Cyfryngau Creadigol Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa mewn celf, dylunIO a'r cyfryngau
Chwilio NPTC Group 18 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Myfyriwr Celfyddydau Creadigol a Pherfformio y Flwyddyn 2022 - Minka Spears
Derbyniodd Minka Ragoriaeth yn ei Diploma Estynedig
UAL Lefel 3, mae'n fyfyriwr rhagorol ac yn artist talentog iawn. Roedd hi'n arbenigo mewn portreadau cyfoes ac wedi cynhyrchu nifer fawr o ddarnau gwych ar raddfa fawr a bach.
Er bod ganddi ddiddordeb mewn dogfennu pobl, eu cyrff a'u hosgo drwy gelf, mae hi hefyd wedi cynhyrchu nifer o luniau o anifeiliaid mewn paentiau olew ac inc hefyd. Mae Minka hefyd yn ddawnus mewn technegau eraill gan gynnwys sialciau pastel. Mae hi'n adeiladu ei gwaith o frasluniau i baentiadau ar raddfa fwy.
Aeth Minka yn ei blaen i'r Cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Y Drenewydd cyn mynd i'r Brifysgol lle, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi dylunio a phaentio murlun ar gyfer canol tref Y Drenewydd sy'n dathlu treftadaeth Laura Ashley, fel rhan o'r Clwb Celf allgyrsiol.
Creodd baentiad yn ffocysu ar bwysau newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl pobl ifanc, fel rhan o arddangosfa'r Prosiect Un Genhedlaeth yn Oriel Davies. O ganlyniad i hyn
gwnaeth hi wirfoddoli yn yr Oriel lle bu'n gweithio gyda'u Cynhyrchydd Creadigol i guradu Arddangosfa 'Proses 22' Diwedd Blwyddyn ein Hadran Celf a Dylunio.
Modelodd ei dyluniadau ei hun hefyd yn 'Sioe Ffasiwn Gwnaed yng Nghymru' yn adeilad Pryce Jones, mewn cydweithrediad â Fashion Enter, a oedd yn hynod lwyddiannus, gan amlygu hanes a phwysigrwydd Ffasiwn a Thecstilau yng Nghanolbarth Cymru.
Ar ben hynny fe gyflawnodd hi radd Rhagoriaeth ar gyfer ei phortffolio o waith ar y Diploma Sylfaen, gan gynhyrchu paentiadau eithriadol o ddyfeisgar, aeddfed a medrus.
Meddai Minka ‘Byddwn i’n argymell y cyrsiau celf a Dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd yn fawr i unrhyw un sydd am ehangu eu hyder a’u sgiliau, a dysgu mwy am y diwydiannau creadigol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, ac yn gyffredinol roedd y coleg yn wych.’
19 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Trawsnewid Ffenestri Siop
Roedd ffenestr y siop hon wedi gweld dyddiau gwell.
Rhoddwyd postiad ar Facebook yn galw ar rywun lleol i drawsnewid y gofod. Ymgymerodd Adran Celf a Dylunio Y Drenewydd â'r her! Cafodd hyn ei ddylunio, ei guradu a'i weithredu gan y myfyrwyr yn ystod y Clwb Celf amser cinio.
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa
Mae'r paentiad wedi'i ysbrydoli gan y chwedlonol Laura Ashley sydd wedi gadael marc enfawr ar yr ardal leol.
Gobeithiwn y bydd pobl leol Y Drenewydd a'r cyffiniau'n mwynhau'r paentiad bywiog hwn a oedd yn ymdrech tîm enfawr, sef saith wythnos i'w greu. Byddwn yn gweld eisiau paentio hyn ar amseroedd cinio nawr!
3/4
1 Safon Uwch ar radd C neu Ddiploma Estynedig. Bydd myfyrwyr aeddfed (21 + oed) yn cael eu hystyried ar sail portffolio.
Os ydych chi o dan 21 oed, mae'n rhaid bod gennych un o'r canlynol: 5 gradd TGAU lwyddiannus ar radd A * - C, (neu gyfwerth) ynghyd â Diploma Estynedig (gysylltiedig â'r Cyfryngau Creadigol) neu ddau bwnc UG NEU un Safon Uwch lawn a rhaid i chi fod dros 17 oed. Mae angen i bob myfyriwr gyflwyno portffolio o waith ymarferol yn y cyfweliad.
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.Os ydych dros 21 oed ac â nifer cyfyngedig o gymwysterau ond mae gennych ddiddordeb yn Niwydiant y Cyfryngau Creadigol, cysylltwch â ni i siarad am sut y gallwn ni helpu chi.
“Fe wnaeth fy mlwyddyn yn y Coleg roi profiad unigryw i mi a chwrs hamddenol gyda thiwtoriaid eithriadol a arhosodd mewn cyswllt ac yn ysgogol er gwaethaf cyfnod clo Covid. Rydw i’n hapus iawn ac yn ddiolchgar am eleni.” Tobias Williams, Myfyriwr DCD.
Cyfarwyddwr Creadigol
“Mae'r tiwtoriaid yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer y dyfodol ac mae'r cyrsiau'n cynnig ystod eang o gyfleusterau i'w harchwilio ac rydych chi'n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol.”
Kate Poole, myfyriwr Lefel 3 yn yr ail flwyddyn.
Llawrydd
£500 i £700+ y dydd
Llawrydd
£200 i £400 y dydd
Cyflogedig
£100k i £160k+
Cyflogedig
£35 i £55k
Uwch Ddylunydd Graffeg
Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad Diploma UAL mewn Celf a Dylunio 2 2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol Blwyddyn Y Drenewydd Diploma UAL mewn Celf a Dylunio 3 Cymhwyster Lefel 2 perthnasol neu 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg. 2 Flynedd Y Drenewydd Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol 2 2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol Blwyddyn Y Drenewydd Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol 3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. 2 Flynedd Y Drenewydd Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio
Blwyddyn
Diploma Proffesiynol mewn Arfer Technegol a Chynhyrchu ar gyfer y Diwydiannau Creadigol 4
Y Drenewydd
20 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Blwyddyn
Y Drenewydd
Peirianneg CERbydau Modur
Mae gyrfa fel mecanydd neu mewn atgyweirio cerbydau yn gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi.
Mae gan yr adrannau cerbydau modur yng Ngholegau'r Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn ar ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan Goleg Y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.
Mae'r adran Cerbydau Modur wedi tyfu yn 2022 wrth i rig cerbydau trydan penodedig a cherbyd Peugeot 208 a ddisgwyliwyd yn eiddgar i gefnogi'r cyfleoedd dysgu a
hyfforddi ar gyfer technolegau cerbyd trydan newydd. Yn awr bydd dysgwyr yn cael hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgu am y cerbydau a'u technolegau diweddaraf.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.
Rhagolygon gyrfa
Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.
Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com)
Peiriannydd Modurol £ 60k+ mewn swyddi uwch (Prospects.ac.uk)
Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)
Enillion blynyddol cyfartalog Byddwch
Chwilio NPTC Group
mecaneg, ceir neu atgyweirIO
yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn
cyrff cERbydau
21 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Peirianneg Cerbydau Modur
Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd gyfle prin i ddysgu mwy am dechnolegau a weithredir gan fatri trydan yn y dyfodol, pan gawsant gyfle i weld trawsnewidiad Fiat 500 clasurol i drydan diolch i Electric Classic Cars yng Nghanolbarth Cymru.
Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad clasur gyda thro modern. Mae'r modur wedi'i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y tu blaen), ac mae'n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cuddiedig o dan y bathodyn Fiat.
Cymerodd y myfyrwyr ddiddordeb brwd yn y gosodiad, gyda manteision cyflymder a phŵer trydan yn cael eu gwireddu'n gyflym. Fel un o selogion cerbydau clasurol, roedd gan Tom Watkins, technegydd yn y Coleg ddiddordeb arbennig.
Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd Cerbydau Modur fod hyfforddiant mewn hybrid a thrydan yn “faes y mae'r Coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae'r dechnoleg gerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae'n wych gweld enghreifftiau o glasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, a gwybod bod hwn ac eraill ar gael i'w gweld ar garreg ein drws".
Mae Electric Classic Cars wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi cynhyrchu nifer o drawsnewidiadau clasurol sy'n cynnwys Porsche 911, Range Rover o 1972 a BMW E9. Mae'r busnes sy'n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu'n gyflym a dywedodd Richard pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi cerbydau cyfredol a rhai sydd wedi'u trawsnewid: “Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd i ddod am y wybodaeth hon ac mae'n syndod faint o gamdybiaethau sydd eisoes yn bodoli am geir sy'n cael eu pweru gan fatri.”
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Peirianneg Cerbydau Modur 1
Peirianneg Cerbydau Modur 2
Peirianneg Cerbydau Modur
3
Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd
Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol ond ystyrir profiad ymarferol hefyd Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd
Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Blwyddyn Bannau
“Roeddem wrth ein boddau o fod y coleg cyntaf yng Nghymru ar ddechrau 2020 i gynnig hyfforddiant gydag offer hyfforddi cerbydau modurol trydan a hybrid. Rydym wedi cael y pleser o hyfforddi myfyrwyr galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y dyfarniad Lefelau
1-4 mewn atgyweirio a newid systemau cerbyd trydan/ hybrid.”
Darlithydd, Dan Pritchard
22 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Therapïau Cymhwysol
gan gynnwys Therapi HArddwch
Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych chi'n arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!
Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.
Cyrsiau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.
Rhagolygon gyrfa
Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.
Chwilio NPTC Group
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad VTCT NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch 2 5 TGAU gradd C neu uwch Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch 3 Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol Blwyddyn Bannau VTCT mewn Therapïau Cymhwysol 3 Cymwysterau lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau Cyflenwol Blwyddyn Y Drenewydd 23 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Ariyarnna Tidbury
Mae Ariyarnna Tidbury, myfyriwr o Goleg Y Drenewydd, wedi llwyddo i gyrraedd yr wyth olaf yng Nghystadleuaeth
Ymarferydd Harddwch WorldSkills sydd i'w chynnal yn Blackpool ym mis Tachwedd.
Daw hyn yn sgil ei llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ble y llwyddodd i ennill medal Efydd.
Mae'r gystadleuaeth WorldSkills yn canolbwyntio ar rôl a thasgau Ymarferydd Therapi Harddwch yn cyflawni ystod o wasanaethau sy'n adlewyrchu safonau cyfredol a thraddodiadol
Therapydd Harddwch £21k
mewn salon
Artist Colur £40 yr awr (llawrydd)
ynghyd â gofynion presennol y diwydiant. Bydd cystadleuwyr yn cael eu profi ar sgiliau iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu eithriadol yn ogystal â sgiliau arbenigol a gwybodaeth dechnegol ar y lefel uchaf.
Meddai'r darlithydd Harddwch a Therapi Cymhwysol Lisa Brandon: ‘Rwy'n hynod falch o holl gyflawniadau Ariyarnna ac mae cyrraedd y rownd derfynol yn dangos pa lefel sgiliau ac ymroddiad sydd ganddi.’
Perchennog Salon hyd at £100k
Uwch Steilydd £30k - emsi
“Roedd hi'n bleser cael y myfyrwyr Ariyarnna Tidbury a Lucy Lewis yn ennill medalau efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.” Darlithydd, Lisa Brandon
Byddwch
gyda gyrfa mewn HArddwch a Therapi cymhwysol
yn LLawn STeil...
24 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Ariyarnna Tidbury
Busnes a RHEolaeth
Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel.
Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.
Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.
Rhagolygon gyrfa
q Cyfrifeg
q Gweinyddu busnes
q Rheoli digwyddiadau
q Cyfrifeg fforensig
q Rheoli gwestai
q Adnoddau dynol
q Marchnata
q Twristiaeth wledig
q Brocer stoc.
Cewch eich cymeLL ... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rHEolaeth
“Mae'r cwrs busnes wedi fy helpu i edrych ar fusnesau o safbwyntiau gwahanol. Mae ymchwilio i fusnesau'n fanwl wedi fy helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth gref. Mae cwblhau amrywiaeth eang o unedau wedi rhoi mewnwelediad i mi i wahanol opsiynau gyrfa”. Chloe Preece.
Enillion blynyddol cyfartalog
Cyfrifydd £62k
Rheolwr marchnata £50k
Gweithredwr Teithiau £24k
Cynllunydd Digwyddiadau £29k
*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/
25 Gwnewch Gais Ar-lein
b www.nptcgroup.ac.uk
Darlithwyr newydd gymhwyso yn canmol y Coleg
Mae tri o gyn-fyfyrwyr ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheoli Coleg Bannau Brycheiniog wedi dod ynghyd i ganmol y Coleg am ei gefnogaeth wrth helpu nhw i fod yn ddarlithwyr cymwysedig. Mae Romina West (ar y chwith), Harriet Bailey (canol yn y blaen) a Michelle
Dorise-Turrall (ar y dde) i gyd bellach yn dysgu yng Ngrŵp Colegau NPTC ar ôl llwyddo mewn cyrsiau Busnes a chwblhau oriau lleoliad gyda'r Coleg.
Gan ddechrau yn 2011, cwblhaodd Romina West y cwrs BTEC Lefel 3 Busnes a'r Gyfraith mae hi bellach yn ei ddysgu, ac aeth ymlaen yn syth i astudio BA (Anrh) Busnes, Rheolaeth a TG yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Wedi hynny, hyfforddodd i fod yn athrawes i efelychu'r effaith gadarnhaol a gafodd darlithwyr y Coleg ar ei haddysg hi. Mae Romina nawr am ddweud "diolch yn fawr iawn i'r Uwch-ddarlithydd Robin Flower (canol yn y cefn) am ei gefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd.
Cyrsiau
“Pan oeddwn i'n gwneud fy TAR gyda Phrifysgol De Cymru, gwnaeth Robin ddal cynnig fy helpu i ddod o hyd i oriau lleoliad pan oeddwn i'n cael hi'n trafferth dod o hyd i rywle i gymryd fi ymlaen. Wedyn wnes i fy lleoliad yn ôl lle ro'n i wedi dechrau gyda'r Coleg.”
Dilynodd Harriet Bailey yr un llwybr â Romina ar ôl rhoi'r gorau i'r chweched dosbarth, a dywedodd:
“oni bai am gyrsiau'r Coleg yn Aberhonddu ar ôl i mi roi'r gorau i'r chweched dosbarth, fyddwn i ddim lle'r ydw i nawr.”
“Mae'r gefnogaeth a'r fentoriaeth gan holl diwtoriaid yr ysgol Busnes pan oeddwn i'n dysgu, ac wrth gymhwyso fel athrawes wedyn, wastad wedi bod yn ofalgar iawn." Mae Harriet bellach yn dysgu gyda'r ysgol Busnes yn Y Drenewydd.
Chwilio NPTC Group
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel
BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Busnes gyda'r Gyfraith 3 6 TGAU
Mathemateg
BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Busnes 3 6 TGAU
Mathemateg
2
BTEC Diploma Estynedig mewn Busnes
6 TGAU
Mathemateg
Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
gradd C neu uwch yn cynnwys
neu Saesneg Iaith.
2
Flynedd Bannau
gradd C neu uwch yn cynnwys
neu Saesneg Iaith.
Flynedd Y Drenewydd
3
gradd C neu uwch yn cynnwys
a Saesneg Iaith. 2 Flynedd Y Drenewydd
26 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Cyfrifiadura, DylunIO'r We a Gemau
Gyda chyflogaeth yn y diwydiannau cyfrifiadura a digidol ar fin tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y deng mlynedd nesaf, mae cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn prysur mynd yn un o yrfaoedd mwyaf y DU o ran tâl, gan gyfrif am dros 1.58m o swyddi ledled y DU.
Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura.
Mae myfyrwyr y gorffennol bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr gwe ac eFasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.
Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant.
Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd modern, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio Community, Visual Studio Code, Java, Audacity a Game Maker, Unity, Maya, React Native, VM Ware, macOS, Windows, Linux, Oculus Quest 2. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer darparu adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau.
Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn archwilio sut y caiff cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol eu defnyddio yn y diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd gwaith.
Rhagolygon gyrfa
Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac yng Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3).
I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau â ffocws technoleg, mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Mae rhai o'r sefydliadau sy'n cyflogi myfyrwyr a graddedigion o'r gorffennol yn cynnwys Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, BVG Group, Tech-Wales Ltd, Box UK, DVLA, CGI, Arvato CRM Solutions a Virgin Media.
Noder, os ydych yn ystyried addysgu fel gyrfa, mae angen TGAU ar radd B neu'n uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Ar gyfer cyrsiau Cyfrifiadureg mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf radd B mewn Mathemateg TGAU.
Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Meddalwedd/ Apiau, Fforensig Seiber, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio/ Datblygu'r We, Dadansoddi Systemau, Datblygu / Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.
Chwilio NPTC Group
Gwnewch
Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Gais
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd
Enillion blynyddol cyfartalog
Technegydd TG £30k
Dadansoddwr Busnes £49k
3
gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg, neu Ddiploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth).
5
gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. Ymgeiswyr trwy Dystysgrif neu Ddiploma Estynedig Lefel 2 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth).
Rhaglennydd Cyfrifiaduron 30k
Technegydd Cymorth
Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k
Peiriannydd Meddalwedd £32k
Pensaer Systemau £50k
Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k
Gweinyddwr Systemau, Cyfrifiaduron / Rhwydwaith £26k
Arbenigwr Cefnogaeth
Dechnegol £24k
Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith
£36k
Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa ym maes
cyfrifiadura,
ac
dylunIO AR y we
apiau
Lleoliad Diploma mewn TG 1 2 TGAU (graddau E neu F). Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Tystysgrif Estynedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol 2
Blwyddyn Bannau/
Drenewydd Diploma mewn E-gampau 2 2 TGAU (graddau E neu F). Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn TG gyda Chyfryngau Rhyngweithiol Digidol 3
TGAU
Y
2
Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn E-gampau 3 5 TGAU
cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. Blwyddyn Bannau/
Drenewydd 28 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
TGAU
Flynedd Bannau/ Y Drenewydd
gradd C neu uwch yn
Y
Ffrindiau'n dod ynghyd eto ac yn canmol cyrsiau TG
Yn ddiweddar, daeth dau ffrind a chyn-fyfyrwyr Coleg
Bannau Brycheiniog at ei gilydd yn eu hen ystafell ddosbarth a chanu clod i'w gyrsiau TG!
Fe astudiodd Jamie Smith (ar y chwith) a Luc Zimmer (ar y dde) Ddiploma Estynedig BTEC mewn TG rhwng 2017 a 2019 ac ers hynny maent wedi symud i brentisiaethau yn eu gyrfaoedd dewisol. Fe ddaeth y ddau ffrind yn ôl i'r coleg ar gyfer ymweliad â'u tiwtor, Helen Griffiths, ac roeddent am rannu eu straeon am yr hyn y dysgon nhw o'r cwrs.
Penderfynodd Jamie yn erbyn gwneud Safon Uwch ar ôl ei arholiadau TGAU a gorffennodd ddiploma Lefel 2 mewn TG mewn Coleg arall. Pan symudodd i'r ardal, roedd y BTEC Lefel 3 ar gael iddo barhau â'i ddysgu. Cyflawnodd deilyngdod cyffredinol a lle ar brentisiaeth gyda chwmni e-fasnach. Erbyn hyn mae'n gweithio fel Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid i'r un cwmni yr oedd ganddo'r brentisiaeth gyda nhw.
Roedd Jamie am bwysleisio "nad yw astudio TG yn golygu bod yn rhaid i chi fynd i yrfa TG. Mae dysgu sgiliau yn Microsoft Office Excel, er enghraifft, yn golygu y gallaf fwrw ymlaen â'm gwaith yn llawer cyflymach.”
Dywedodd Jamie hefyd: "Un o'r pethau gorau am y cwrs yw eich bod chi'n dysgu gwahanol agweddau ar gyfrifiadura. Cawsom wersi ar ddylunio'r we, gemau a seiberddiogelwch. Dwi wedi helpu gyda dylunio'r we yn y gwaith ers hynny.”
“Dwi'n cofio mwynhau lot o'r gwaith, fel fi a Luc yn gwneud cyflwyniad ar seiberddiogelwch a Fortnite, a mynd ar deithiau i brifysgolion i fynd i weithdai. Roedd ein dosbarthiadau hefyd yn fach, oedd yn golygu bod gennym fwy o amser gyda'r tiwtor ac yn gallu canolbwyntio'n hawdd.”
Yn y cyfamser, darganfu Luc y Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 drwy Gyrfa Cymru. Roedd e eisiau symud ymlaen i rywbeth gwahanol i'w waith mewn lletygarwch ac wedi cofrestru ar ôl cyfweliad llwyddiannus Ers llwyddo yn y BTEC, mae Luc wedi symud ymlaen i brentisiaeth Cymorth Technegol yng Nghaerdydd.
Ar ei ymweliad, dywedodd: "Gallwn fod wedi setlo am yr opsiwn hawdd o aros yn fy swydd lletygarwch, ond penderfynais wthio fy hun a gwneud rhywbeth gwahanol. Erbyn hyn rwy'n defnyddio rhywbeth ddysgais i ar y cwrs bob dydd yn fy mhrentisiaeth.”
Ychwanegodd Luc ei fod "wedi dysgu llawer ar wahân i sgiliau technegol. Byddai ein tiwtoriaid bob amser eisiau i waith gael ei wneud ar amser, a roddodd brofiad i ni o weithio i derfynau amser; rhywbeth y byddwn i'n ei chael hi'n anodd hebddo yn fy mhrentisiaeth gan i ni orfod gweithio i Gytundebau Dysgu Gwasanaethau.”
O ran â'r hyn y mae'n fwyaf balch ohono, atebodd y tiwtor Helen Griffiths: “Gweld sut mae fy myfyrwyr wedi cymryd ein harweiniad a chreu gyrfa. Mae pob myfyriwr sydd wedi dychwelyd i ymweld yn mynegi mai 'cwrdd â therfynau amser' oedd un o'r sgiliau pwysicaf a ddysgon nhw yn ogystal â'r TG.”
Llwyddiant Myfyrwyr
Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.
q Dylunio Gwe Aur: Juned Miah
q Dylunio Gwe Arian: Oliver Smith
q Codio Efydd: Rhys Watkins
q Sgiliau TGCh Cynhwysol Arian: Holly Davies
"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu.
Mae'n gyflawniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrwp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau
Jamie Smith and Luc Zimmer
29 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
ADEiladwaITh a'r AmgylcHEdd ADEiLEdig
Adeiladu'r Dyfodol
Mae cyfres newydd o gymwysterau wedi'u cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'i datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yn well.
Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Sgiliau Adeiladwaith (Aml Fasnach – Cyn Sylfaen)
Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs addysg bellach, llawn amser a ddylunnir ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, sesiynau ymarferol a theori gan rai o'r canlynol, gan ddibynnu ar y Coleg a ddewisir: gosod brics, plastro, gwaith coed, paentio neu deilsio.
Y Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn
Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig
Cymhwyster newydd sbon yw'r Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn
Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig lle y byddwch yn
astudio dau brofiad crefft o blith y canlynol:
q Gweithio gyda brics, blociau a cherrig
q Galwedigaethau pren
q Paentio ac addurno
q Teilsio waliau a lloriau
q Gwaith tir.
Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff hyfforddiant ei gyflwyno gan staff â phrofiad a chymwysterau diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr o'r Coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol a phleserus a gallant gael y gorau allan o fyfyrwyr.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau datblygedig crefftau yn y llwybr rydych yn ei ddewis. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiadau
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:
q Un prawf aml-ddewis sydd wedi'i osod a'i farcio'n allanol
q Un prosiect sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol yn ymdrin â dau faes crefft
q Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i osod yn allanol
a'i farcio'n fewnol
q Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol.
30 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant Myfyrwyr
Ni allai'r ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig fod yn hapusach wrth i'w helfa fedalau gyrraedd ffigurau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar.
Enillwyd medalau aur ym mhob un o'r pedwar crefft a gynigir yn y Coleg, gan gynnwys y myfyriwr Paentio ac Addurno Paul Mason, Kellan Marney o Waith Brics, Plastrwr Johnny Donaldson a'r saer coed benywaidd Sammy Young.
Dilyniant
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladwaith neu amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau cyflwyniadol yn y ddau lwybr a ddewisir. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudio ymhellach:
q Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Llawn amser) –City & Guilds
q Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Rhan-amser) – City & Guilds
q Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Rhan-amser) – City & Guilds
Cyrsiau
Yna daeth Arian i Thomas Morgan, Gwaith Coed, Kian Brown, Plastro, a Craydon Rive o Waith Brics, ac yna Efydd i Mai Ball o Beintio ac Addurno, Thomas Johns o Blastro a'r saer coed Dafydd Jenkins.
Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan olygu mai'r rhain yw'r canlyniadau gorau y mae'r ysgol erioed wedi'u cy fl awni. Mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr yn ychwanegol at eu gwaith cwrs.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer:
q Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio ar hyn o bryd neu'n bwriadu gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig. Gweithredwyr safle sydd am ehangu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol.
q Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Paentio ac Addurno / Teilsio Waliau a Lloriau Y
Gwaith Tir
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad Sgiliau Adeiladwaith (Aml Fasnach / Cyn Sylfaen) 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Sylfaen mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig 2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd DEWISWCH O DDAU BROFIAD CREFFT ISOD: Gwaith
Bannau/ Y Drenewydd
Bannau/ Y Drenewydd
Drenewydd
Coed a Gwaith Saer / Toi
Gwaith Brics / Sifil Adeiladu
Drenewydd
Y
Enillion blynyddol cyfartalog Briciwr 52k Saer Coed ac Asiedydd £50k Plastrwr £48k Teilswyr Waliau a Lloriau £48k Rheolwr Safle £60k Rheolwr Prosiect £70k
Sifil £70k 31 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Peiriannydd
Peirianneg
Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.
Byddwch yn ennill sgiliau eraill mewn Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu a fydd yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.
Beth fyddaf yn ei wneud?
PEIRIANNEG FECANYDDOL/ CYNNAL A CHADW
Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi elfennau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau.
Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol (CNC) Haas soffistigedig a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D.
Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.
SAERNÏO A WELDIO
Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.
Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg.
Mae ein gweithdai ffabrigo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).
Rhagolygon gyrfa
q Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
q Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog
q Cyfleusterau peirianneg tra chyfoes o'r radd flaenaf
q Cyrsiau sy'n cyfateb i safonau'r diwydiant i ateb y sgiliau gofynnol
q Un o sectorau'r diwydiant mwyaf poblogaidd a chynyddol.
Chwilio NPTC Group
32 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant Myfyrwyr
Sam Cottrell - Mae'r Myfyriwr Peirianneg Mecanyddol
Sam Cottrell wedi cael ei goroni 'Y Gorau yng Nghymru' yn erbyn 40+ o fyfyrwyr/cystadleuwyr o'r 12 coleg AB yng
Nghymru a darparwyr dysgu eraill fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Mae Sam nawr wedi sicrhau lle o fewn Carfan Cymru a bydd nawr yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill medalau'r
Deyrnas Unedig yn benben am safle rhif un i gynrychioli'r DU yn erbyn gweddill y byd.
Curtis Rees
Prentis Weldio - Bellach yn cael ei gyflogi yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd, ymhlith prif bobl ifanc medrus y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills
ddwy flynedd yn ôl.
Curtis, sydd o Resolfen, yw'r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i'r brig yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham.
Cyrsiau
Enillion blynyddol cyfartalog
Peiriannydd Iau/Graddedig £30k
Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k
Cyfarwyddwr neu uwch £72k
Weldiwr £16k-£ 31k
Sectorau Peirianneg y DU
Modurol £48k
Cemegolion a Fferylliaeth/
Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn bod y gorau yn y DU mewn llwybr galwedigaethol.
Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol.
Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd:
"Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac am WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan. Mae hyn yn wych i'r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal."
Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol ac mae ganddo ddyheadau mawr i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio adeileddol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.
Meddygol £50k
Amddiffyn a Diogelwch/
Morol £47k
Ynni/Adnewyddadwy/
Niwclear £52k
Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr
£48k
Olew a Nwy £53k
Sam Cottrell
Curtis Rees
Cyrsiau
Peirianneg (Mecanyddol/Weldio)
sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
2
BTEC
Peirianneg
4 TGAU gradd A*-D yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Blwyddyn Y Drenewydd
Uwch mewn
3 5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Diploma 90 Credyd mewn Gwyddoniaeth mewn Peirianneg a 2 o'r canlynol: Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg â MM yn gyffredinol, teilyngdod mewn Mathemateg Peirianneg a TGAU Mathemateg gradd C/4 neu uwch.
2 Flynedd Y Drenewydd
33 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
AstudiaeTHAu Sylfaen
Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol o ran byw'n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu'n rhanamser ac mae gan y staff sy'n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/ tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Bydd myfyrwyr yn dilyn llwybr sy'n datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol ac o hyn daw gwell hyder a chryfhau sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae'n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi'n ei fwynhau, beth ydych chi'n dda yn ei wneud a'ch helpu gyda'ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a chyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae'r staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.
Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth.
Mae'r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a thwrnameintiau chwaraeon yr ILS.
Mae ein myfyrwyr yn creu siopau dros dro a mentrau symudol ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn creu cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth.
Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Mae ein cyrsiau'n cynnig cyflwyniad i'r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol.
Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.
Chwilio NPTC Group
34 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Cyrsiau
Cyrsiau Amser Llawn
Sgiliau Bywyd
Llwybrau 1 a 2
Sgiliau Gwaith Llwybrau 2
Blasu Galwedigaethol a Pharatoi Galwedigaethol Llwybrau 3
Gofynion Mynediad Lleoliad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol
Bannau/ Y Drenewydd
Bannau/ Y Drenewydd
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad.
Bannau/ Y Drenewydd
Porth i Addysg Bellach
Nid oes angen gwybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae angen i ddysgwyr allu dangos eu bod yn gallu gweithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau. Mae'r cyrsiau'n cynnwys crefftau ymarferol, celfyddydau perfformio, arlwyo, TG a chwaraeon.
Bannau/ Y Drenewydd
Porth i'r Gwaith Llwybrau 4
Rhaglen interniaeth amser llawn am flwyddyn yw'r cwrs hwn, sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i ddod o hyd i gyflogaeth gyda phrofiad gwaith mewn lleoliadau interniaeth bywyd go iawn. Bydd dysgwyr yn mynychu tua dau ddiwrnod yn y gweithle ac un diwrnod yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu ffurfiol.
Porth Lefel 1
mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bannau/ Y Drenewydd
Graddau TGAU E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus. Y Drenewydd
Byddwch yn ysbrydoLEdig... gyda gyrfa mewn AstudiaeTHAu sylfaen
35 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
GARddIO a GARddwriaeth
Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a reolir a thirweddau.
Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.
Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd fedal aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.
Cyrsiau
Cyrsiau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr.
Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!
Rhagolygon gyrfa
q Gwaith planhigfa q Canolfannau garddio adwerthu
q Dylunio gerddi q Tyfu planhigion
q Cynhyrchu planhigion q Tirmonaeth
q Tirlunio q Gwaith organig
q Gwyddoniaeth q Addysg
q Meddyg coed q Hunangyflogaeth.
Chwilio NPTC Group
Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol 2 Cymhwyster Lefel 1 mewn Garddwriaeth. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith 3 Cymhwyster Lefel 2 mewn garddwriaeth neu brofiad perthnasol. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd
36 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
sy'n Canolbwyntio ar Yrfa
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed
Arloesiadau newydd – Wal Letys yng Ngholeg Y Drenewydd
Mae Coleg Y Drenewydd wedi mynd yn wyrdd ei fysedd i gyd wrth iddo gyflwyno cwrs Garddwriaeth newydd. Mae'r ychwanegiad newydd cyffrous hwn yn cynnwys cydweithrediad newydd gyda Cultivate, a menter newydd wrth i wal letys gael ei cyflwyno i Gyntedd Coleg Y Drenewydd.
Mae ychwanegu'r tŵr letys sy'n dal y llygaid yng nghyntedd Coleg Y Drenewydd yn rhan o brosiect Cylch Cnydau, system Fferm Drefol i dyfu letys a phlanhigion gwyrdd bwytadwy eraill gan ddefnyddio system ddibridd o dyrau fertigol. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno tyfu cnydau bwyd dan do CEA i gymunedau. Er ein bod yn byw mewn amgylchedd
Enillion blynyddol cyfartalog
gwledig, mae dulliau newydd o dyfu planhigion, gan ddefnyddio'r hyn a elwir yn hydroponeg, yn chwyldroadol ac yn tyfu mewn poblogrwydd.
Mae bwyd lleol, sydd wedi ei dyfu'n gynaliadwy, yn gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â materion pwysig sy'n ymwneud â'n system fwyd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Meddai Richard Edwards rheolwr y prosiect Cultivate Crop Cycles: “Maen nhw'n blasu'n wych, yn faethlon iawn ac yn hynod ffres. Dewch i'n deli yn Y Drenewydd i roi cynnig arnyn nhw eich hun!”
Diwydiant garddio a garddwriaethol £30k - £60k
2,384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)
37 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
TrIN GwaLLt
Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i fath a'r unig un yng Nghymru.
Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.
Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.
Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi'n ddifrifol am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd Lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.
Rhagolygon gyrfa
Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu.
Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun.
q Barbwr
q Technegwyr lliw
q Perchennog salon
q Uwch steilydd
q Triniwr gwallt priodas
q Gweithio ar fordeithiau.
Chwilio NPTC Group
38 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Grŵp Colegau NPTC yw'r unig Goleg Addysg Bellach yng
Nghymru i fod yn aelod o Academi Trin Gwallt, Gwaith
Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae'r tiwtoriaid yn derbyn hyfforddiant mewn ryseitiau trin gwallt unigryw drwy'r Academi, ac yn ddiweddar profwyd eu hyfforddiant cyntaf gyda'r Academi ers y pandemig yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Cymerodd staff y Coleg ran mewn wythnos o hyfforddiant
gyda 'STAF' (hyfforddi'r-hyfforddwr) o Lee Stafford Education (LSE), Tony Wood, y bydd ei arbenigedd yn eu helpu i gadw i fyny â'r ryseitiau gwallt diweddaraf ar gyfer eu gwersi.
Mynegodd Juliana Thomas, Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol:
“Ar ôl y pandemig Covid, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i ymgymryd â hyfforddiant Lefel 3 uwch gyda 'STAF', Tony Wood, o Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae ein holl ddarlithwyr a hyfforddwyr trin gwallt wedi'u cymell, eu cyffroi a'u hysbrydoli gan y pedwar diwrnod o waith ymarferol dwys a gynhaliwyd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.”
Mae gan yr ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol fwy o gyfleoedd nawr bod y cyfyngiadau wedi llacio, gyda gwasanaethau masnachol a redir gan y myfyrwyr yn ailagor ar gyfer busnes.
Mae ein myfyrwyr yn defnyddio eu dysgu'n ymarferol drwy gynnig amrywiaeth o driniaethau gwallt a harddwch i'r cyhoedd. Mae apwyntiadau ar gael yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd, a gellir eu trefnu drwy ffonio'r Coleg.
Wrth siarad am y cyfle i agor i'r cyhoedd eto, meddai'r myfyriwr Tmai Bufton:
“Mae'n wych cael cleientiaid yn trefnu i ddod i'r Coleg am driniaethau ar ôl Covid. Mae gwasanaethu'r cyhoedd yn golygu y gallaf gael mwy o brofiad ymarferol o sut beth yw amgylchedd salon.”
Soniodd Tmai hefyd am fanteision astudio Harddwch, gan gynnwys fel dysgwr aeddfed, gan ddweud:
“Rwy'n astudio'r cwrs ochr yn ochr â fy swydd mewn cartref gofal henoed, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i fy astudiaethau. Gall cyrsiau llawn amser swnio fel ymrwymiad mawr os ydych chi mewn gwaith ac mae plant gennych, ond fel arfer maen nhw'n dri diwrnod yr wythnos.”
“Yn y tymor hir hoffwn i fod yn hunangyflogedig mewn gwallt a harddwch, yn arbenigo mewn triniaethau i'r henoed.”
Tmai Bufton
39 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
'STAF' Lee Stafford Education yn ymweld â Choleg Bannau Brycheiniog
"Yr hyn y gaLL myfyrwyr ei ddigwyl gan AcaDEmi LEe STaffORd yw ryseITiau o ansawdd da sy'n HAwdd ac yn ARbennig o effeIThIOl, y gaLLwch eu DEfnyddIO i fynd aLLan i'r byd mawr a cHAel swydd wych.''
Lee Stafford
Enillion blynyddol cyfartalog
Perchennog Salon hyd at £100k
Uwch Steilydd £30k - emsi
Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon)
Barbwr Gall barbwr pro fod ennill cymaint â £1,000 yr wythnos
https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad Cyflwyniad i Wasanaethau Gwallt a Harddwch 1 2 TGAU gradd D neu uwch Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma VTCT mewn Trin Gwallt Menywod 2 Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, a 2 TGAU gradd D neu uwch Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma VTCT VRQ mewn Trin Gwallt Menywod 3 18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Diploma VTCT VRQ mewn Gwaith Barbwr 3 18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Atebion creadigolTrin Gwallt Carlam 1/2 2 TGAU neu gyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr aeddfed Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd
Cyrsiau
40 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Dychweliad LEe STaffORd NoDEdig i GoLEg Afan gyda'i Siwrn Aur
Ac yntau wedi llwyddo i ennill gwobr yn ddiweddar, dychwelodd Lee Stafford i'w Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol yng Ngholeg Afan i gyflwyno gwobr arbennig iawn i dri darlithydd.
Dyfarnwyd eu Diploma Hyfforddwr Meistr, a elwir hefyd yn ‘Siswrn Aur', i staff trin gwallt, am daro eu '10 Mawr’ o ganlyniadau ym mhob rysáit Lefel 2 a Lefel 3. Esboniodd Lee: “Dim ond pan allan nhw efelychu ryseitiau gystal â fi y rhoddir y Siswrn Aur. Dyw hi ddim yn dasg hawdd. Mae'n cymryd dwy flynedd fel arfer; mae'n rhaid iddyn nhw ffilmio eu hunain yn gwneud pob un rysáit, yna ei anfon ymlaen at ein tîm. Rydym yn ei asesu yn erbyn y fideo Addysg Lee Stafford. A oedden nhw wedi dilyn yr un camau â fi? A gawson nhw'r un canlyniadau? A phan allan nhw wneud pob rysáit at safon '10 Mawr', dyna ein cyfwerth i seren Michelin pan fyddan nhw'n cael y Siswrn Aur."
Mae hyn ar ben enwi Sefydliad Addysg Lee Stafford fel enillydd cyntaf erioed y categori Arbenigwr Addysg yn y Gwobrau Most Wanted blynyddol, a gynhelir yn adeilad ysblennydd y Tate Modern, Llundain.
Enillodd Lee a'i dîm y tlws Most Wanted nodedig, gwobr gan noddwr y categori, Colour Start, cyhoeddusrwydd ar draws y brand Creative HEAD drwy gydol eu blwyddyn fuddugol a'r cyfle i ymddangos mewn digwyddiadau Creative HEAD
Mae'r tlws Arbenigwr Addysg yn mynd at unigolyn neu dîm sy'n darparu addysg eithriadol i'r diwydiant trin gwallt. Yn un o'r nosweithiau mwyaf cyfareddol yn y calendr trin gwallt, bob blwyddyn daw Most Wanted ag eiconau diwydiant, y sêr mwyaf, a gwneuthurwyr chwaeth at ei gilydd i ddathlu doniau mwyaf cyffrous, blaengar ac arloesol y DU ac Iwerddon.
41 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Iechyd, Gofal CymDEIThasol a Gofal Plant
Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.
Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.
Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.
Enillion blynyddol cyfartalog
Nyrsio Iechyd Meddwl, Plant, Oedolion £25k - £48k
Gwaith Cymdeithasol
£23k - £47k
O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gwblhau cwrs cyfathrebu iaith Gymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.
Rhagolygon gyrfa
Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro/athrawes, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r rhaglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.
Lleferydd ac Iaith £24k - £49k
Therapi Galwedigaethol
£ 21k-£ 41k
Chwilio NPTC Group
42 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Cyrsiau
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf tair blynedd. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus.
Byddwch yn feIThrINgAR... â gyrfa ym maes iechyd, gofal cymDEIThasol a gofal plant
“Fe wnaeth y coleg fy nghyflwyno i lawer o bynciau sydd o ddiddordeb mawr i mi, rhoi hwb i fy hyder a helpu gyda fy ngwaith tîm.'' Ffion Jones.
Chwilio NPTC Group
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau 2
TGAU gradd
Saesneg/Mathemateg a Gwyddoniaeth. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau 3
TGAU gradd
Mathemateg a/neu
Iaithbyddai Gwyddoniaeth yn fanteisiol 2 Flynedd Bannau/ Y Drenewydd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destun 2
Blwyddyn
Drenewydd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori 3
2
C neu uwch yn cynnwys
5
C gan gynnwys
Saesneg
2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith.
Y
2
Mynediad i AU – Gofal Iechyd 3
5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith.
Flynedd Bannau/ Y Drenewydd
Blwyddyn
Drenewydd 43 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Y
Harry Rush
Llwyddiant Myfyrwyr
Fy enw i yw Harry Rush, ac rwy'n gyn-fyfyriwr Coleg
Bannau Brycheiniog. Fe wnes i astudio Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Lefelau 2 a 3 am bron i dair blynedd.
Yn anffodus i mi, wnes i ddim pasio fy arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg yn yr ysgol felly doeddwn i ddim yn gallu mynd yn syth i Lefel 3. Roedd yn rhaid i mi ddechrau ar Lefel 2.
Fodd bynnag, hyd yn oed pe bawn i wedi'u pasio, byddwn i dal wedi dechrau ar Lefel 2 gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddysgu'r hanfodion.
Pan ddechreuais ar Lefel 2, roedd gen i dri thiwtor. Roedd gan bob un ohonyn nhw eu ffordd eu hunain o addysgu a helpodd fi i ddod o hyd i fy ffordd orau o ddysgu. Cefais wybod yn gyflym iawn fod hyn yn weledol ac yn ymarferol. Yn ystod fy lleoliad, es i gartref preswyl am bedwar diwrnod. Digwyddodd y peth mwyaf lwcus i mi ar ddiwedd y pedwar diwrnod yna: Ges i gynnig swydd! Roedd hynny ym mis Chwefror 2020, ac rwy'n dal yno nawr.
Wnes i basio fy holl arholiadau a chwblhau Lefel 2 ym mis Awst 2020 a dechrau ar y cwrs Lefel 3 fis Medi'r flwyddyn honno.
Roedd hynny'n wahanol iawn i Lefel 2. Roedd yn llawer anoddach ond yn rhoi boddhad mawr o ran fy hunanddatblygiad. Roedd Lefel 3 blwyddyn 1 i gyd ar-lein oherwydd y pandemig a oedd yn anodd iawn i mi, ond roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ei wneud i fynd i ble roeddwn i eisiau. Pan ddechreuais i Lefel 3 newidiodd fy meddylfryd o ran yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud. Sylweddolais fy mod yn llawer hapusach yn rhyngweithio
â phobl ac yn gofalu amdanynt, felly penderfynais ddilyn
Nyrsio Oedolion gyda'r nod o fod yn Nyrs Theatr
Llawdriniaeth yn y pen draw. I wneud hyn roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi roi popeth yn fy astudiaethau i weithio tuag at fy nghais prifysgol.
Tua mis cyn i mi fynd yn ôl i wneud Lefel 3 blwyddyn 2 daeth hysbyseb drwy'r post am gwrs Nyrsio Prifysgol Agored a swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. Y mwyaf y meddyliais am y peth, y mwyaf yr oeddwn eisiau ymgeisio.
Es i drwy'r holl ffurflenni a'r gwiriadau hyn, pan oeddwn i'n dal yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg ac yn gweithio. Fe wnaeth un o fy nhiwtoriaid fy helpu i baratoi drwy roi ffug gyfweliad i mi. Ges i alwad ffôn dridiau ar ôl y cyfweliad a chael gwybod eu bod nhw'n cynnig lle i mi.
Ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi bod yn bosibl heb y cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Coleg, a fy nhiwtoriaid anhygoel o gefnogol na allaf ddiolch digon iddynt. Fyddwn i ddim lle'r ydw i heddiw oni bai amdanyn nhw yn fy nysgu i a gwneud i mi fwynhau'r pwnc yn fawr. Yn bennaf oll fe wnaethon nhw fy helpu i gredu ynof fi fy hun.
Beth mae'r daith hon wedi ei dysgu i mi yw sdim ots faint o pwyntiau uchel ac isel a brofwch yn eich bywyd, os ydych chi eisiau rhywbeth yn ddigon cryf ac yn credu ynoch chi'ch hun gallwch gyflawni bron popeth rydych ei eisiau mewn bywyd. Mae hefyd wedi fy nysgu y gall cyfleoedd godi o unrhyw le ac i beidio â'u diystyru nes eich bod wedi rhoi popeth o'ch cyfan iddo. Does dim amheuaeth yn fy meddwl mai astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw'r penderfyniad gorau dwi wedi'i wneud yn fy mywyd hyd yma ac rwy'n argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sy'n dyheu am weithio mewn lleoliad gofal iechyd.
Diolch o galon i chi gyd am yr hyn rydych chi wedi ei wneud i mi!
44 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Celfyddydau PERffORmIO
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd.
Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren.
Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyflogadwy iawn –rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!
Enillion blynyddol
cyfartalog
Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau'n cynnig cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerdd. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.
Rhagolygon gyrfa
q Actor q Gweinyddwr y celfyddydau
q Coreograffydd q Dawnsiwr
q Perfformiwr theatr gerdd q Hyfforddwr Pilates/Yoga
q Sgriptiwr q Athro/Athrawes
q Cyfarwyddwr Theatr.
Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k
Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k
Er, yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
2 TGAU
5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg.
Cymhwyster Lefel 2 perthnasol Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.
UAL Celfyddydau Perfformio 2
Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio
A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol. Blwyddyn Y Drenewydd
Diploma
3
45 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
2 Flynedd Y Drenewydd
Llwyddiant Myfyrwyr
Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio Joe Jones, o Goleg Y Drenewydd, ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun.
Cafodd Joe ei gyflwyno i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad, sydd hefyd yn gerddor. Fodd bynnag, nid tan ei arddegau y cymerodd fwy o ddiddordeb mewn chwarae. Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy, a chyda chynghorion a thiwtorialau ar y rhyngrwyd, rhoddodd ryddid iddo fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun.
Yn ystod y cyfnod clo, cafodd Joe fwy o amser i fyfyrio ar ei gerddoriaeth a'r hyn oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Recordiwyd yr albwm 'We Were Just There' gartref gan ddefnyddio dim ond ei gyfrifiadur, gweithfan sain digidol, gitâr a phiano.
Meddai'r darlithydd Elizabeth Hebden: “Mae doniau Joe wedi creu cymaint o argraff arnom ni i gyd ac rydym yn falch o'i ymroddiad i ymchwilio i'r cyfrwng yma, gan ychwanegu llinyn arall at ei fwa fel artist."
Pam mae Nye yn cael yr holl Basys Cefn Llwyfan
Mae myfyriwr y Celfyddydau Perfformio, Nye Parton, wedi bod yn adeiladu ei brofiad fel cynorthwy-ydd llwyfan yn gweithio ochr yn ochr â'i astudiaethau yng Ngholeg
Y Drenewydd yn y diwydiant celfyddydau creadigol a chynhyrchu.
Mae'r Nye, sy'n fyfyriwr ail flwyddyn, wedi bod yn gweithio gyda chriw llwyfan i adeiladu'r seilwaith ar gyfer digwyddiadau mawr fel Gŵyl Reading, yn ogystal â rigio, llwyfannu, cerddoriaeth a goleuo ar gyfer artistiaid nodedig fel Elton John, Diana Ross, Alanis Morissette, Bryan Adams, George Ezra, Maddison Beer a llawer o rai eraill.
Esboniodd Nye rai o'r tasgau roedd ei griw yn ymwneud â nhw wrth sefydlu a pharatoi ar gyfer sioe. Mae'r rhestr yn cynnwys llwytho a dadlwytho llwyfannu, rigio, golygfeydd a chyfarpar a threfnu set, propiau ac offer rhwng setiau. Mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gludo setiau'n ddiogel i leoliadau, gan helpu adrannau i sefydlu sain, goleuadau, effeithiau arbennig, a phropiau a hongian deunyddiau cefndir.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae'n gallu cynnwys codi a chario trwm, dringo ysgolion a gweithio ar dramwyfeydd uchel. Mae'n waith caled ond mae wedi bod yn wobrwyol. Cwrdd ag artistiaid a gweld y perfformiadau i gyd yn dod at ei gilydd. Dwi wedi cronni llawer o wybodaeth ddefnyddiol ac mae'n hysbys nad wyf byth heb fy nhâp gaffer. Mae llawer ohono'n synnwyr cyffredin o ran diogelwch a gallu da i weithio mewn tîm o fewn tîm.”
“Rwyf
a chefnogol
y
ymroddedig a gweithgar Hebddyn
wedi sicrhau lle ar y cwrs Tystysgrif Sylfaen yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl, LIPA. Dwi'n teimlo bod Coleg Y Drenewydd wedi fy nysgu sut i sianelu fy nghreadigrwydd. Rwyf wedi cael unigolion eiddgar, creadigol
o'm cwmpas. Dros
ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi cael y tiwtoriaid GORAU sydd wedi bod mor
nhw, ni fyddwn yn cymryd y cam nesaf hwn yn fy mywyd”. Josh Owen.
46 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Nye Parton
GWAITH GOSOD PLYMIO A THRYDanOL
Adeiladu'r dyfodol
Mae cyfres newydd o gymwysterau wedi'u cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.
Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Cymhwyster newydd sbon yw'r Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu lle byddwch yn astudio dau brofiad crefft:
q Plymio a Gwresogi Domestig q Systemau ac offer electrodechnegol (gosodiadau trydanol).
Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff hyfforddiant ei gyflwyno gan staff â phrofiad a chymwysterau diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Er y byddwch yn astudio ar gyfer crefftau trydanol a phlymio i ddechrau, byddwch yn dewis un llwybr yn ddiweddarach.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau uwch y grefft mewn plymio a gosod trydanol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiadau
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau ystod o brosiectau sydd wedi'u gosod yn fewnol ac yn allanol, trafodaethau dan arweiniad a phrofion amlddewis.
‘‘Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'n goreuon ar gyfer canlyniadau uchel mewn arholiadau"
Darlithydd, James Seddon
“Mae gan y Coleg staff anhygoel, pobl anhygoel. Rwy'n dwlu arno. Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa na dysgu rhywbeth newydd.” Monika Dent
Chwilio NPTC Group
47 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Dilyniant
Efallai y byddwch yn symud ymlaen i raglen llawn amser ail flwyddyn yn y grefft o'ch dewis neu sicrhau prentisiaeth fel plymiwr neu drydanwr a datblygu eich astudiaethau ymhellach gyda ni ar hyd un llwybr penodol.
Cyrsiau
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau adeiladwaith a gwasanaethau peirianneg adeiladu.
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Sylfaen mewn Gwasanaethau
Peirianneg Adeiladu
Dilyniant mewn Gwasanaethau
Peirianneg AdeiladuPlymio a Gwresogi
Dilyniant mewn Gwasanaethau
Peirianneg AdeiladuGosodiadau Trydanol
Enillion blynyddol cyfartalog
Plymiwr £19k - £37k
2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch. Blwyddyn Y Drenewydd
2 Cwblhau sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladau Blwyddyn Y Drenewydd
2 Cwblhau sylfaen mewn Gwasanaethau
Peirianneg Adeiladau Blwyddyn Y Drenewydd
(Emsi - economicmodeling.com)
Trydanwr £16k - £38k
Gosodwr Paneli Solar £25k - £30k Peiriannydd Nwy £40k - £50k
Byddwch yn ymARfERol... gyda gyrfa mewn plymIO, gwaITh trydan ac ynni solAR
48 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
CogINIO Proffesiynol, Celfyddydau
CogINIO, LLEtygARwch a Bwyty
A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordaith, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai â sêr Michelin? Neu efallai y byddwch am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw'r rhain.
Y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfleoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.
Mae'r Coleg yn cynnal bwyty hyfforddi prysur sy'n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i'r cyhoedd: Themâu. Mae'n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi'i gerfio wrth y bwrdd ar ein troli arian. Mae pob un o'n safleoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfir gan yr adran garddwriaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol o weithio yn y ceginau proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu oddi wrth staff sefydledig a phrofiadol sy'n gymwysedig ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.
Rhagolygon gyrfa
Os ydych chi'n chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd gwaith gwych lle mae galw mawr am swyddi o fewn y diwydiant ar hyn o bryd, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi.
Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyflogaeth ran-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n cael cydnabyddiaeth dro ar ôl tro mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.
Chwilio NPTC Group
49 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
“Dwi wedi cael y cyfleusterau ac ymroddiad y staff yn anhygoel" Harry Reeves
Cyrsiau
Enillion blynyddol cyfartalog (Prospects.ac.uk)
Cogydd Commis £12k - £16k
Cogydd Sous hyd at £30k
Prif Gogydd £25k - £55k
Pobydd £14k - £23k
(£37k yn Llundain)
Rheolwr Digwyddiadau £33k - £40k+
Bwyty Bwyta Cain
Rheolwr £22k - £40k
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd 1 Yn amodol ar gyfweliad Blwyddyn Y Drenewydd C&G NVQ Tystysgrif mewn Sgiliau Pobi a Lletygarwch 1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol Blwyddyn Y Drenewydd Diploma C&G NVQ mewn Coginio Proffesiynol 2 Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol Blwyddyn Y Drenewydd C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd 2 Cymhwyster arlwyo Lefel 1 neu TGAU priodol Blwyddyn Y Drenewydd C&G NVQ Diploma mewn Sgiliau Lletygarwch 2 Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol Blwyddyn Y Drenewydd C&G NVQ Coginio Proffesiynol Uwch 3 Cymhwyster Lefel 2 neu brofiad perthnasol Blwyddyn Y Drenewydd 50 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
GwAsanaeTHAu CyhoEDdus
Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n diogelu ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, yn cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu'n mynychu safle gwrthdrawiad fel parafeddyg, swyddog heddlu neu ddyn tân ar y draffordd, mae'r proffesiynau'n dra hyfforddedig hyn ac yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw fath o argyfwng.
Mae llawer o'r darlithwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod mewn dyletswydd weithredol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a phrofiad arbenigol i ennyn diddordeb myfyrwyr a'u gwneud yn gwbl ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael.
Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Astudio'n amser llawn yn y campysau amrywiol, cwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, yn ogystal ag ymwneud â'r gweithgareddau niferus sy'n cael eu cynnig ar draws y campysau.
Coleg Bannau Brycheiniog
Lleolir Coleg Bannau Brycheiniog yng nghalon Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau
gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs
gwasanaethau cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er
mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Yn ein Coleg Bannau Brycheiniog, gellir addysgu rhai o fodiwlau'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle bo'n bosibl.
Coleg Y Drenewydd
Yng Ngholeg Y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun Lefel 1 hyd at gwrs Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog, gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau gyda'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.
Rhagolygon gyrfa
q Byddin q Gwylwyr y Glannau
q Gwasanaethau brys q Gwasanaeth tân
q Llynges q Swyddog yr Heddlu
q RAF
Enillion blynyddol cyfartalog
Swyddog y Fyddin £20k
Diffoddwr tân £21k - £36k
Parafeddyg £ 36k
Swyddog yr Heddlu £25k
(Cyflog cychwynnol)
Chwilio NPTC Group
51 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Dod Ynghyd â'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Yn ddiweddar croesawodd Coleg Y Drenewydd
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd
Llywelyn.
Ymunodd y Comisiynydd Trosedd â chydweithwyr o'r Uned
Plismona'r Ffyrdd a darparodd sesiwn cwestiwn ac ateb
gyda'r myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Wedyn fe ymwelodd â myfyrwyr o'r adran Porth i Addysg
Bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn
ei wneud yn ddiweddar mewn cydweithrediad â'r
Heddwas lleol, Cwnstabl Jennings. Roeddent wedi creu arddangosiad ysgogol i ymgyrchu yn erbyn troseddau
casineb. Gweithiodd y grŵp gyda chymheiriaid yn
Cyrsiau
adran gyfryngau'r Coleg hefyd i greu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â throseddau casineb. Canmolodd y Comisiynydd eu gwaith da, gan atgyfnerthu negeseuon a gwerth yr ymgyrch. Wedyn, ymwelodd y Comisiynydd â Theatr Hafren sydd wedi'i lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd. Fe welodd y defnydd o'r cyfleuster o lygad y ffynnon a oedd yn cael eu defnyddio y diwrnod hwnnw gan Wasanaeth Gwaed Cymru, gan amlygu rôl amlbwrpas y gofod theatr. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr, â'r Comisiynydd o gwmpas y lleoliad hefyd gan ddangos ardal y llwyfan iddo a mynd ag ef ar daith nad yw'n addas i'r gwangalon i ben y twr codi.
Byddwch yn ddewr...gyda gyrfa yn yr HEddlu, y gwAsanaeth tân a'r LLuoEDd ARfog
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad BTEC Cyfunol Tystysgrif mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai 1
BTEC Cyfunol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus 2 Ystod
o TGAU
A*-E neu gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon Gwasanaethau Cyhoeddus. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd BTEC Cenedlaethol Diploma Estynedig mewn Gwasanaethau Amddiffynnol Lifrai a CBC 3 Cymwysterau TGAU yn unol â gofynion y pwnc a/neu Gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. 2 Flynedd Bannau/ Y Drenewydd
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol Blwyddyn Y Drenewydd
briodol
graddau
Bydd modd addysgu rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau yn ddwyieithog pan fydd yn bosibl.
52 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
ChwARaeON
Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol.
Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis.
Ymfalchïwn yn ein canlyniadau rhagorol, ar y maes chwaraeon ac oddi arno, a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n tanio ein llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae'r adran chwaraeon yn ymgorffori arwyddair y Coleg 'mwy nag addysg yn unig'.
Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.
Coleg Bannau Brycheiniog
Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astroturf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate.
Mae cefn gwlad amgylchynol Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall
pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu.
Hyfforddwyr ac athletwyr cymunedol yw'r darlithwyr, gan gynnwys Rhian Davies, chwaraewr hoci i Feistri Cymru, a chwaraewr rygbi proffesiynol, Chay Billen. Gellir addysgu rhai o fodiwlau'r BTEC Cenedlaethol Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle bo modd.
Coleg Y Drenewydd
Mae Academi Pêl-droed Coleg Y Drenewydd yn hyfforddi ac yn chwarae gemau cartref ar y maes 3G newydd ym Mharc Latham. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn sy'n cynnwys y neuadd chwaraeon, maes astroturf, stiwdio ffitrwydd ac ystafell ffitrwydd.
q Byddwch yn elwa o staff sy'n ymroddedig i'r proffesiwn chwaraeon. Mae Gareth Watkins yn hyfforddwr pêl-droed gweithredol o fewn y gymuned ac mae Andrew Davies athletwr GB cyfredol dros Gymru.
q Mae ein partneriaethau gyda busnesau a chlybiau chwaraeon lleol yn darparu cyfleoedd sy'n paru'ch cwrs â gyrfaoedd yn y dyfodol, boed yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.
Rhagolygon gyrfa
Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegydd chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon.
Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elit ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.
Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant Myfyrwyr
Cafodd y myfyrwyr chwaraeon Laura Shinton a Jennifer
Jarvie y radd uchaf y gellir ei gyflawni: D* triphlyg mewn
BTEC Lefel 3 Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae'r canlyniad yn gyfwerth â 3 o gymwysterau A * ac mae'n golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau
UCAS.
Cyrsiau
Dywedodd Laura, nofiwr ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am y 50 metr mewn nofio ar y frest yn y cystadlaethau cenedlaethol a'r 15 uchaf mewn nofio ar y frest 100 metr yng Nghymru: "Rydw i mor falch iawn o fy nghanlyniadau sy'n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Iechyd."
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a
mewn Lifrai
BTEC Cyfun Chwaraeon a
BTEC mewn Cyfarwyddyd
Corff yn
BTEC Cenedlaethol Lefel 3
Estynedig mewn
a Datblygu
gyda CBC
1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Blwyddyn Bannau/ Y Drenewydd
Ystod briodol o TGAU ar radd A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.
3 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gradd
C neu uwch yn cynnwys Saesneg neu
Enillion blynyddol cyfartalog
Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
£17k - £45k
4 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gradd
C neu uwch yn cynnwys
Athrawon Addysg Gorfforol Ysgol
Uwchradd £25k+
Datblygu Chwaraeon £18-£23k
Hyfforddi Chwaraeon £15-25k
Bannau/ Y Drenewydd
Y Drenewydd
Gwyddor Chwaraeon £20k - £30k
Os ydych yn gweithio mewn gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na
£60,000 a gall gyrraedd hyd at £100,000*
Swyddog 5x30 £20k
Ffisiotherapydd £24-43k
Dadansoddwr Chwaraeon £24-43k
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
2
Blwyddyn
Ymarfer
Amgylchedd
2
y Gampfa
Fathemateg.
Blwyddyn
Diploma
Hyfforddi
Chwaraeon
3
Saesneg neu Fathemateg. 2 Flynedd Bannau/ Y Drenewydd
54 Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant Myfyrwyr
Cyflawnodd Courtney Ashworth Sêr Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*) ac mae'n mynd i astudio Ailsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Cyflawnodd Owen Brunt Sêr Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*). Meddai Owen: ‘Gweithiais i'n galed iawn am y graddau ddes i allan â nhw ac rwy'n falch gyda fy lle ym Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon’.
Enillodd Elis Tudor Seren Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*). Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth yn sgil ei graddau ac yn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Addysg Gynradd yn arwain at SAC.
Mae Iwan Evans yn gadael tîm Cymru i ymuno â thîm seiclo yr Iseldiroedd.
Mae Prys Eckley a Conor Drain yn derbyn grantiau.
Mae Iwan Evans a Caine Ballentine Price yn cwblhau CBC yn Ysgol Y Bannau.
Mae Jack Jones yn gorffen gyda Rhagoriaethau yn y rhan fwyaf o unedau ond mae hefyd wedi ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Karate Cymru yn ddiweddar. Mae un mewn kumite ieuenctid unigol a'r llall yn nhîm kumite y dynion.
Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru eleni yn Serbia. Mae Jack yn llysgennad chwaraeon eithriadol i'r coleg, ar ôl cael ysgoloriaeth yn ei flwyddyn gyntaf am ei ragoriaeth ac mae wedi mynd ymlaen i arwain gweithgareddau yn y diwydiant chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n fodel rôl go iawn o fewn y gymuned!
Da iawn i dîm traws gwlad Grŵp Colegau NPTC, Finley Hines, Sam Lennox, Tom Callard, James Fishlock (yn y llun) ac Evan Price-Davies am ennill y digwyddiad tîm Rhyng-ysgolion Cymru yn Aberhonddu.
Yn Her y Barcud Coch ym Mhontarfynach, gorffennodd Evan Price-Davies yn y pedwerydd safle ar ôl bod 10 eiliad ar y blaen a chan lwyddo o hyd i fachu Aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru. Da iawn.
“Os ydych chi eisiau torri i ffwrdd a gwneud rhywbeth gwahanol, mae'r Coleg yn wych. Gadewais yr ysgol a ddes i yma i wneud chwaraeon yng Ngholeg Y Drenewydd ac mae wedi bod yn wych. Bu'r gefnogaeth dwi wedi ei gael gan y darlithwyr yn amhrisiadwy, fel Andy Davies sydd yn athletwr GB a Gareth sydd hefyd yn hyfforddwr. Maen nhw wedi rhoi llwyth o arweiniad i mi ar fod yn hyfforddwr”. Jennifer Jarvie.
Chwilio NPTC Group
Byddwch
chwARaeON, hyffORddi
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
yn egnïol... gyda gyrfa mewn
a ffITrwydd
Bywyd yn y Coleg
Creu eich Profiad eich Hun
Cymorth i Fyfyrwyr
Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser yr ydych yn ei dreulio yn y Coleg yn cefnogi eich anghenion unigol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys:
q Derbyniadau
q Gyrfaoedd
q Cydraddoldeb ac amrywiaeth
q Cyllid myfyrwyr
q Cwnsela a llesiant proffesiynol
q Diogelu
q Cefnogaeth arbenigol i blant sy'n derbyn gofal
q Cymorth astudio i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac/neu anableddau
Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gael cymorth ychwanegol pan fyddwch yn dod i'r coleg dywedwch wrthym am hyn ar eich ffurflen gais.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Cymorth Myfyrwyr ar: studentsupport@nptcgroup.ac.uk
Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid
Costau addysgu
Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd addysgu am gyrsiau amser llawn ond mae'n ofynnol i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir ei ad-dalu wrth ymrestru.
Costau ychwanegol:
Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hynny dalu'r costau hyn.
Cymorth ariannol
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i wneud bywyd myfyrwyr ychydig yn haws ar eich poced. Mae'r rhain yn cynnwys:
q Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
q Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
q Cronfa Ariannol Wrth Gefn
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: studentsupport@nptcgroup.ac.uk
Undeb Myfyrwyr Grŵp CoLEgau NPTC
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr.Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o'r colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy'r flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned o fyfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk
TOTUM, cerdyn disgownt myfyrwyr rhif un y DU. Mae'r holl fyfyrwyr dros 16 sy'n astudio mwy na 10 awr yr wythnos yn gallu prynu cerdyn TOTUM. Lawrlwythwch yr ap TOTUM heddiw yn rhad ac am ddim ac yna gallwch ddatgloi gwerth blwyddyn lawn o ostyngiadau am £12. Mae TOTUM yn rhoi bargeinion i chi drwy gydol y flwyddyn fel 10% oddi ar ASOS, 12% oddi ar cardiau rheilffordd 16-25, llwythi o ddisgowntiau Apple, gostyngiadau bwyd a diod, a 2 am 1 ar eich dwy wers yrru gyntaf gyda RED Driving School. Lawrlwythwch yr app heddiw a gweld beth sydd ar gael! www.totum.com
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
O Ddifri am Chwaraeon
Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi
Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol:
q rhaglen hyfforddi strwythuredig sydd o dan
oruchwyliaeth hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm
q cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen
q y cyfle i gystadlu yng ngrŵp Coleg NPTC
llwyddiannus o dimau chwaraeon colegau
q rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich y gamp o'ch dewis.
Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk
Llwyddiant ChwARaeON
RYGBI
q Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith)
q Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith)
q Enillwyr Cwpan Colegau Prydain
q Enillwyr 7 Rosslyn Park
q Enillwyr Coleg Super 15
Myfyrwyr Rhyngwladol
q Ashley Beck q Justin Tipuric q Dan Lydiate
q Adam Beard q James Hook q Lloyd Peers
q James King q Eli Walker q Dan Baker
q Dafydd Howells q Adam Jones q Duncan Jones
q Darren Morris q Spencer John q Paul James
q Leigh Davies q Arwel Thomas q Gwyn Jones
q Craig Mitchell
PÊL-RWYD
q Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru
q Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out
Myfyrwyr Rhyngwladol
q Helen Jones (Achos) q Amanda Cooper
q Chelsea Lewis q Nicola James
PÊL-DROED
q Pencampwyr Cynghrair Cymru
q Pencampwyr Cymru 5 bob ochr
q Ail ym Mhencampwriaeth Cymru 5 bob ochr
Myfyrwyr Rhyngwladol
q Daniel James q Ben Davies q Joe Allen
q Connor Roberts q Joe Rodon q Jazz Richards
GEMAU OLYMPAIDD
q Dan Jervis (Gemau Olympaidd)
GEMAU PARALYMPAIDD
q Rob Davies (Tenis Bwrdd)
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Daniel Jervis
O Grŵp Colegau NPTC i'r Gemau Olympaidd
Cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Daniel Jervis, rownd derfynol y Gemau Olympaidd yn ei Gemau cyntaf yn Tokyo. Gorffennodd y nofiwr 25 oed o Resolfen yn y 5ed lle yn rownd derfynol y dull rhydd 1500 metr yn y gemau gohiriedig yr haf yma yn Japan.
Dechreuodd Jervis, a adawodd Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl cwblhau cwrs Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno, nofio i gadw ei dad-cu yn gwmni ar ôl iddo gael trawiad ar y galon. Ymunodd Daniel ag ef yn y pwll a dyw e ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Nid yw Jervis yn ddieithr i gystadlu ar y lefel uchaf o nofio. Fe gystadlodd yn ei Gemau Gymanwlad cyntaf yn 2014 o fewn wythnos i raddio o Grŵp Colegau NPTC.
Gorffennodd Daniel yn y 3ydd lle yn y dull rhydd 1500 metr yng Ngemau Glasgow yn 2014. Fe ragorodd ar hynny wedyn yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia gan ennill medal arian eto yn y dull rhydd 1500 metr. Yn yr un gemau, collodd allan o drwch blewyn ar fedal yr ail le, gan orffen yn 4ydd agos yn y dull rhydd 400 metr. Mae gan Daniel hefyd brofiad o gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop sawl gwaith ers gadael y coleg.
Ar ôl colli allan o drwch blewyn ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, cafodd Daniel gyfle o'r diwedd i wireddu ei freuddwyd o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf yma.
Meddai Jervis, wrth gael ei gyfweld gan y BBC ar ôl ei rownd derfynol: “Ydw, rwy'n rhan o Team GB ac rwy'n Brydeiniwr ond rwy'n Gymro. Rwy'n falch iawn o gynrychioli Cymru yn y fan honno," gan gyfeirio at y pwll y tu ôl iddo.
Aeth ymlaen wedyn i ddweud ei fod wedi gobeithio torri record Prydain yn rownd derfynol y 1500 metr, ond doedd hi ddim i fod ar y noson. Ychwanegodd Jervis ei fod am dorri'r record Brydeinig a ddelir ar hyn o bryd gan ei gydGymro David Davies.
Dan Lydiate
Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon
Mae'r cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn gyn-fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 Coleg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyflyru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.
Ac yntau'n flaenasgellwr dawnus, symudodd ymlaen wedyn i yrfa rygbi broffesiynol gan gofrestru ar gyfer Dreigiau Casnewydd lle cafodd ei gapio gyda thîm Dan 20 Cymru yn ei flwyddyn gyntaf.
Cafodd Dan ei enwi yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009.
Gwnaeth ei gêm brawf gyntaf gan ddechrau fel blaenasgellwr ar 28 Tachwedd 2009, ac ar ôl hynny cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010.
Chwaraeodd bob gêm o ymgyrch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Cymru yn 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Yn ddiweddarach, roedd hefyd yng ngarfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr.
Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, yn ogystal â chwarae rôl allweddol ym muddugoliaeth gogynderfynol Cymru dros Iwerddon.
Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Gystadleuaeth ar ôl ymddangos ym mhob bar ar wahân i'r gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon, a hefyd gwobrau Dyn y Gêm. Yn yr union flwyddyn honno cafodd ei enwebu am wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru hefyd.
Ym mis Ebrill 2013, cafodd ei enwi yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia.
Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â'r clwb Racing Métro 92 cyn ymuno â'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, yn wir, yw Academi Chwaraeon Llandarcy sy'n rhan o'r Colegau,
Wrth sôn am ei amser yn y Coleg meddai Dan: “Heb raglen cryfder a chyflyru'r Coleg, ni fyddwn wedi gallu cyflawni'r lefelau hyn. Dyna y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system mewn rygbi proffesiynol.’’
Gwnewch Gais Ar-lein b
Daniel Jervis
Dan Lydiate
58
www.nptcgroup.ac.uk
Cymraeg yn y CoLEg
Yr ydym am roi cyfle i bob darpar
entrepreneur wireddu
ei freuddwydion busnes.
Mae'r tîm Menter a Chyflogadwyedd yn rhoi cefnogaeth broffesiynol i fyfyrwyr sy'n sefydlu eu busnes eu hunain, gan gynnwys cymorth gyda:
b Cymorth ac arweiniad busnes
b Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol.
BAROD AM YRFA
Mae Barod am Yrfa yn Centerprise yn rhaglen gyflogadwyedd sy'n cefnogi myfyrwyr gyda:
b Dod o hyd i swydd ran-amser
b Ysgrifennu CV
b Ffurflenni cais
b Cyfweliadau
b Profiad Gwaith.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni ar: centerprise@nptcgroup.ac.uk
Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r Coleg yn ymwybodol o sut y gall bod yn ddwyieithog fod o fudd i fyfyrwyr mewn addysg, y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae'r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o'n meysydd pwnc, gan roi'r cyfle a dewis i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu ar eich lleoliad gwaith.
Rydym yma i'ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, astudio yn Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau eich cwrs yn Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein Coleg... chi piau'r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg, gan roi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol.
Os nad ydych yn dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ond eisiau cynnal eich sgiliau iaith Gymraeg, peidiwch â phoeni; rydym yn trefnu llawer o weithgareddau hwyliog drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith... Peidiwch â bod yn swil – siaradwch Gymraeg!
Mae'r symbol hwn ar dudalennau cwrs yn nodi y gellir cynnal rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cymraeg@nptcgroup.ac.uk
#CaruCymraeg #LoveWelsh
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Ymunwch â ni i astudio at raddau a chyrsiau prifysgol ar garreg eich drws yng Ngrŵp Colegau NPTC
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri:
Mae pob un o'n cyrsiau addysg uwch wedi eu cynllunio gyda'ch cyflogaeth a'ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi'r profiad a'r wybodaeth orau i'n myfyrwyr i'w paratoi ar gyfer byd gwaith.
Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a'r staff sy'n eu haddysgu. Mae gennym rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn!
Mae gennym gyrsiau sy'n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser-llawn a rhai rhan-amser.
Rydym yn cynnig cyrsiau, ar bob lefel, ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
Amaethyddiaeth
Celf a Dylunio
Busnes a Rheolaeth
Cyfrifiadura
Adeiladwaith
Peirianneg
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Lletygarwch
Cerddoriaeth
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Addysgu
Teithio a Thwristiaeth
fanylach am ein cyrsiau, ewch i'n gwefan. www.nptcgroup.ac.uk
Am wybodaeth
60
Rydym yn:
Lleol Fforddiadwy Hyblyg Cefnogol Blaengar
Gŵyl Dewis Nosweit h i au Agored
NPTC
M Coleg Bannau Brycheiniog 16 Ionawr 2023 20 Mawrth 2023 21 Mehefin 2023 M Coleg Y Drenewydd 17 Ionawr 2023 21 Mawrth 2023 22 Mehefin 2023 M Addysg Uwch 23 Mai 2023
#
Chwilio
Group