Skip to main content

Grŵp Colegau NPTC Cyrsiau Amswer Llawn - Colegau De

Page 1

u' sa py m De Ca

r

CYRSIAU AMSER LLAWN 2019/20

www.nptcgroup.ac.uk


Croeso G

all Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant.

Ar gyfer y 13eg flwyddyn yn olynol mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer Safon Uwch wedi aros ar 99 y cant, sy'n ardderchog. Cyflawnodd y myfyrwyr gyfradd lwyddo ragorol o 100 y cant yn y 34 o bynciau Safon Uwch, a chyflawnodd 45 y cant raddau A* i B gyda 74 y cant arall yn ennill graddau A* i C. Ar ben hyn mae'r Coleg wedi parhau i ragori gyda chanlyniadau ardderchog yn y Cymwysterau Diploma Cenedlaethol/Estynedig. Gwyddom fod y dewis o aros yn y chweched dosbarth neu fynd i'r coleg yn un anodd, ond wrth i ni barhau i fynd o nerth i nerth, ni fu erioed amser gwell i ymuno â ni. Yn ogystal â'n canlyniadau rhagorol, rydym bellach yn darparu un o'r detholiadau ehangaf o ddewisiadau pwnc ar gyfer cymwysterau Safon Uwch a chyrsiau galwedigaethol yng Nghymru. Gyda mwy a mwy o ddiddordeb mewn prentisiaethau a'r bwlch sgiliau, yn enwedig ym maes adeiladu, yn cynyddu, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu rhaglen dysgu seiliedig ar waith o fewn nifer o feysydd galwedigaethol. Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi opsiwn i chi ennill cymwysterau cydnabyddedig ar yr un pryd ag ennill profiad gwaith gwerthfawr a chyfle i ennill arian. Rydym eisiau'ch paratoi chi ar gyfer y cam nesaf ar eich taith tuag at waith neu'r brifysgol; gyda'r bwriad hwn mewn golwg, byddwn yn eich annog i anelu’n uchel, a’ch cefnogi i ddod yn unigolion amryddawn, nid yn unig o safbwynt academaidd ond drwy’r sgiliau cyflogaeth niferus yr ydym yn eu datblygu a'r gweithgareddau ychwanegol yr ydym yn eu darparu megis cyfleoedd menter, academïau chwaraeon a’r celfyddydau perfformio. Felly p'un a ydych yn dewis astudio Safon Uwch, cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, gwnewch yn siwr mai Grŵp Colegau NPTC yw

EICH CYFLE, EICH DYFODOL

Mark Dacey Prif Weithredwr, Grŵp Colegau NPTC

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Nosweithiau Agored

1

 Gweld y Coleg  Cwrdd â’r staff  Trafod eich anghenion COLEG AFAN 26 - 09 - 2018 21 - 11 - 2018 16 - 01 - 2019

ACADEMI CHWARAEON LLANDARCY 15 - 01 - 2019 (Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus)

COLEG BANNAU BRYCHEINIOG 26 - 09 - 2018 21 - 11 - 2018 16 - 01 - 2019

COLEG CASTELL-NEDD 27 - 09 - 2018 22 - 11 - 2018 17 - 01 - 2019

COLEG PONTARDAWE 15 - 01 - 2019 (Cerbydau Modur) CANOLFAN ADEILADWAITH ABERTAWE 15 - 01 - 2019 (Adeiladwaith)


Pam Dewis Grŵp Colegau NPTC?

99% Cyfradd lwyddo

13 o

am

flynyddoedd

Cyfradd lwyddo o 100% mewn 34 PWNC SAFON U

74%

A*-C

45% A*-B CYFLAWNODD 28 O FYFYRWYR D*D*D* (SY'N CYFATEB I 3 A* AR SAFON UWCH)

CYFLAWNODD 90 O FYFYRWYR RADDAU RHAGORIAETH DRIPHLYG DDD (SY'N CYFATEB I 3 A AR SAFON UWCH)

Cyfradd Lwyddo o 94% ar gyfer Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru.

2


Cynnwys

Rhifau Cyswllt Defnyddiol:

Pam dewis Grŵp Colegau NPTC?................... 2

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648000 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400

Sut i ddod o hyd i ni.......................................... 4 Sut i wneud cais?.............................................. 5 Beth sy'n iawn i fi?............................................. 6 Ennill Gradd....................................................... 7

Oes gennych gwestiwn ynglŷn â chwrs? Eich Cais

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648404 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400

Prentisiaethau

Bywyd yn y Coleg.............................................. 8

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648064 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614253

O ddifri am Chwaraeon.................................... 9

Cymorth i Fyfyrwyr

Wedi’ch ysbrydoli gan Gerddoriaeth............... 9

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648404 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400

Centerprise....................................................... 10

Cymorth Ychwanegol

Datblygiadau yn y Coleg................................. 11

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648404 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400

Bwrw Golwg ar Ein 6ed Dosbarth Newydd.... 12

LCA, Ffioedd a Chostau Eraill

Safon UG/Uwch............................................... 13 Prentisiaethau................................................. 29 Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth................... 30

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648711 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614599

Teithio i’r Coleg

Cyfrifiadura a TG............................................. 34

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648033 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614440

Adeiladwaith.................................................... 37

Eisiau dysgu yn Gymraeg?

Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio.................................................. 42

Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648409 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614410

Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch........... 47 Peirianneg........................................................ 51 Gwyddor Fforensig.......................................... 56

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Astudiaethau Sylfaen..................................... 57

3

Trin Gwallt a Therapi Harddwch.................... 60 Therapïau Chwaraeon............. ........................66 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant........ 67 Garddwriaeth a Garddio................................. 70 Cerbydau Modur.............................................. 72 Plymio, Gwaith Trydanol, Gwresogi ac Awyru... 75 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus....... 78

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar Bapur wedi'i ardystio gan FSC o ffynonellau cynaliadwy.

Mae’r prosbectws hwn yn rhoi manylion am bob rhaglen academaidd a galwedigaethol amser llawn yn ein Campysau'r De. Am fanylion am unrhyw gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC, ewch i’n gwefan: www. nptcgroup.ac.uk Roedd yr wybodaeth a geir yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg gynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.


dd wy

od

la pws L ndrind m a

Sut i Ddod o Hyd i Ni

eg Y Dren Co l e

a rda

ndarcy Co

o

eiladwa

ith

r tawe

Margam, Port Talbot, SA13 2AL Ffôn: 01639 648200

n Ad

Ma

Can

lfa

Coleg Afan

ith

olfa

n Adei

a ladw

ole

C

C

an

Abe

Coleg Bannau Brycheiniog Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR Ffôn: 01686 614400

este

g

astell-ned d

ad Ac

C leg

emi Chwar

a

we

n Lla eo

r ycheiniog

Coleg Ban

n

C Coleg Pont

B au

gA

fan

Academi Chwaraeon Llandarcy Parc Llandarcy, Sgiwen, Castell-nedd, SA10 6JD Ffôn: 01792 815545

Coleg Y Drenewydd

Campws Llandrindod

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU Ffôn: 01686 614200

Ffordd Sba, Llandrindod, LD1 5ES Ffôn: 01686 614300

Coleg Pontardawe

Canolfan Adeiladwaith Maesteg Uned 7, Ystad Ddiwydiannol Spelter, Maesteg, CF34 0TY Ffôn: 01639 648180

Coleg Castell-nedd Heol Dŵr-y-Felin, Castell-nedd, SA10 7RF Ffôn: 01639 648000

Tŷ Tawe, Ystad Ddiwydiannol Alloy, Pontardawe, SA8 4EZ Ffôn: 01639 648100/6

Canolfan Adeiladwaith Abertawe Clos Dewi Sant, Parc Anturiaeth Abertawe Llansamlet, SA6 8QL Ffôn: 01639 648120

4


Gwneud Cais

Gallwch wneud cais AR-LEIN trwy ein gwefan www.nptcgroup.ac.uk neu os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur, gallwn anfon ffurflen gais AR BAPUR atoch, neu efallai y byddwn yn ymweld â'ch ysgol hyd yn oed. Bydd rhaid i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe wneud eu holl geisiadau ar gyfer dewisiadau drwy wefan UCAS Progress. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich cyfrif ar wefan UCAS Progress yn rheolaidd ar gyfer unrhyw ddiweddariadau neu negeseuon. Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar y cais UCAS Progress, cysylltwch â'n tîm Derbyniadau drwy ffonio: 01639 648033.

Eich Dewisiadau Eich TGAU

5

Ada Rhagle wyr n Ysg i ol

Pre Uw ntisia e ch/ Gra th dd

Blw yd i Ffw dyn rdd Prif ysg ol

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Beth Nesaf?

Er bod modd i chi gychwyn ar swydd ar ôl cymhwyster Lefel 2 bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl i chi gyflawni cwrs Lefel 3 yn gyntaf.

Cyflogaeth

h aet dei Hyff ord

BTE C Lef el 2

Pre n Gan tisiaet h rolr add Lef el 2

Mae gennych lai na 5 TGAU ar A*/9 - C/4

Tys Dec tysgr NVQ hne if neu gol VRQ

Pre

Le ntis fel 3 iae Uw th ch

a lom Dip Lef el 3

BTE C Lef el 3

Saf on U

Mae gennych 5 TGAU neu fwy ar A*/9 - C/4

Ar ôl cyflawni hyfforddeiaeth, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn camu ymlaen i gyflawni Prentisiaeth Lefel 2 ond bydd modd i fyfyrwyr sy'n 18 oed neu drosodd fynd i mewn i'r byd gwaith


Beth sy’n iawn i fi? Mae detholiad o gyrsiau ar gael gennym o Lefel Mynediad i Lefel 3 a Safon U felly bydd cwrs at ddant pawb a fydd yn eich helpu i gamu ymlaen.

LEFEL

Safon Mynediad

Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Safon U

SAFON U

GALWEDIGAETHOL Gwaith cwrs Dysgu Ymarferol Profiad Gwaith Sgiliau Hanfodol 1 pwnc CBC

Yn yr ystafell ddosbarth Seiliedig ar arholiadau Sgiliau Hanfodol Hyd at 3 phwnc CBC Addysg Uwch Cyflogaeth

Addysg Uwch

CYMWYSTERAU Cyrsiau Sylfaen

Paratoi myfyrwyr ar gyfer Lefel 1

Cymwysterau Lefel 1

ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau dysgu sgil newydd; paratoi ar gyfer Lefel 2

Cyflogaeth

PRENTISIAETH Dysgu Seiliedig ar Waith Sgiliau Hanfodol Profiad Gwaith 1 Sector diwydiannol Addysg Uwch

Cyflogaeth

GOFYNION MYNEDIAD

EICH DYFODOL

Dim cymwysterau ffurfiol ond brwdfrydig ynglyn â’r pwnc

LEFEL 1

Dim cymwysterau ffurfiol ond gorfod mynychu cyfweliad

Cymhwyster

Cymhwyster LEFEL neu brentisiaeth

2

BTEC Lefel 2/NVQ Prentisiaeth

Bagloriaeth Cymru Lefel Sylfaen Rhai cymwysterau TGAU neu gymhwyster Lefel 1

Cymhwyster LEFEL 3, prentisiaeth neu gyflogaeth

BTEC Lefel 3/NVQ/Prentisiaeth

Bagloriaeth Genedlaethol Cymru. 4/5 TGAU Gradd A*- C (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg)

Cymhwyster LEFEL 4, prifysgol, prentisiaeth uwch neu gyflogaeth

Cyrsiau academaidd uwch sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y brifysgol neu gyflogaeth. Mae llawer o bynciau UG yn gofyn am TGAU Gradd B neu uwch yn y pynciau dan sylw neu bynciau cysylltiedig.

6 TGAU Gradd A*- C (yn cynnwys Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth) Coleg Castell-nedd yn unig

Cymhwyster LEFEL 4, prifysgol, prentisiaeth uwch neu gyflogaeth

Paratoi myfyrwyr ar gyfer cyrsiau Lefel 3

Paratoi myfyrwyr ar gyfer prifysgol, gwaith neu brentisiaeth uwch

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gadarnhau a gwella’u sgiliau hanfodol a’u sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ar yr un pryd â hyrwyddo sgiliau ymchwil o safon uchel. Drwy adeiladu ar y cyflawniadau ar Lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, agweddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich ymbaratoi ar gyfer prifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.

6


Ennill Gradd ar Garreg eich Drws Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau Addysg Uwch o fri. Mae pob un o’n cyrsiau AU wedi eu cynllunio gyda’ch cyflogaeth a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi’r profiad a’r wybodaeth orau i’n graddedigion i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith. Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a’r staff sy’n eu haddysgu. Mae gennym rai o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn!

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae gennym gyrsiau sy’n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser llawn a rhan-amser.

7

Am wybodaeth fanylach am ein cyrsiau, ewch i’n gwefan:

www.nptcgroup.ac.uk

Pa gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC?  Cyrsiau Mynediad  Astudiaethau Busnes  Busnes, Rheolaeth a TG  Cyfrifiadura  Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig  Peirianneg  Saesneg a Hanes  Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant  Rheoli Lletygarwch a’r Celfyddydau Coginio  Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau  Cerddoriaeth  Plismona  Addysgu  Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus


Bywyd yn y Coleg: Crëwch Eich Profiad Eich Hun Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd cam ymhellach i sicrhau bod yr amser y byddwch yn ei dreulio yn y Coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus. Mae gennym dîm o gwnselwyr proffesiynol lle y gallwch drafod unrhyw bryderon neu broblemau mewn lleoliad cyfeillgar a chyfrinachol ynghyd ag unigolion dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal neu bobl sy’n gadael gofal. Os ydych yn teimlo efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda ar eich ffurflen gais. Bydd gennych gyfle wedyn i drafod eich anghenion cefnogi unigol gydag aelod o’n Tîm Dysgu Cynhwysol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648404 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid Ffioedd Dysgu Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau amser llawn ond mae gofyn i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru.

Costau Ychwanegol Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hyn dalu'r costau hyn.

Cymorth Ariannol Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau mae nifer o opsiynau ar gael i wneud bywyd fel myfyriwr ychydig yn haws ar eich poced. Er enghraifft:  Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)  Grant Dysgu Llywodraeth Cymru  Cronfa Ariannol Wrth Gefn Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648711 Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614599

Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC

Mae Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn undeb ar gyfer myfyrwyr sy’n cael ei reoli gan fyfyrwyr - yn pontio’r bwlch rhwng myfyrwyr a rheolwyr y coleg i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfle i wneud ffrindiau a mwynhau amgylchedd amrywiol a chyffrous y coleg a byddwch hefyd yn cael cyfle i brynu Cerdyn NUS Extra sy’n rhoi disgownt i chi mewn siopau ar draws y DU.

8


O Ddifri am Chwaraeon

Llwyddiant ym maes Chwaraeon

Os ydych o ddifrif am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon gallwch fanteisio ar:  rhaglen hyfforddiant strwythuredig sy'n cael ei oruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm  mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd yn cael eu hamserlennu i osgoi gwrthdaro diangen  cyfle i gystadlu yn llwyddiannus fel aelod o dimau chwaraeon Grŵp Colegau NPTC  bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich gweithgaredd chwaraeon o ddewis. Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn tîm chwaraeon, ar gyfer clwb, mewn tîm sirol neu ar y llwyfan cenedlaethol ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n Hacademïau Chwaraeon, ewch i: www.nptcgroup.ac.uk

RYGBI  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr

Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) Cwpan Colegau Prydain Rosslyn Park 7s Coleg Super 15s.

CHWARAEWYR RHYNGWLADOL  Ashley Beck  Justin Tipuric  Dan Lydiate  Craig Mitchell  James Hook  Lloyd Peers  James King  Eli Walker  Dan Baker  Dafydd Howells  Adam Jones  Duncan Jones  Darren Morris  Spencer John  Paul James  Leigh Davies  Arwel Thomas  Gwyn Jones. PÊL-RWYD  Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru  Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out. CHWARAEWYR RHYNGWLADOL  Helen Jones (Case)  Amanda Cooper  Chelsea Lewis  Nicola James. PÊL-DROED  Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 & 2012-2013  Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014  Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012 & 2012-2013. MYFYRWYR RHYNGWLADOL  Ben Davies  Joe Allen

 Jazz Richards.

CHWARAEON PARALYMPAIDD  Rob Davies (Tennis bwrdd).

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Wedi’ch Ysbrydoli Gan Gerddoriaeth

9

M

ae Cerddoriaeth yn un o’r pynciau sydd wedi ennill ei blwyf yn y Coleg a gall myfyrwyr sy’n ymuno â’r Coleg fanteisio ar hyfforddiant arbenigol yn cynnwys cyfle i ymbaratoi ar gyfer ceisiadau i conservatoires ynghyd â'r cyfle i berfformio'n rhyngwladol ac mewn cystadlaethau a gwyliau ar draws y DU.

“Rydyn ni mor falch o’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr. Mae Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC yn cynnig cyfle unigryw i’w cherddorion ifanc dawnus ac ymrwymedig drwy’u herio a’u hannog i wneud y gorau o’u doniau cerddorol. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd arbennig lle y gall pob math o olygweddau ar gerddoriaeth gael eu magu i gyflawni eu potensial.” Vicky Burroughs, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio. Os hoffech ymuno â’n Hacademi Cerddoriaeth, ewch i: www.nptcgroup.ac.uk


Byddwch yn Entrepreneuraidd Cymraeg yn y Coleg Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r coleg yn ymwybodol o sut mae dwyieithrwydd yn gallu bod o fudd i fyfyrwyr a staff ym myd addysg, yn y gweithle a bywyd bob dydd.

RYDYM YN AWYDDUS I ROI CYFLE I UNRHYW DDARPAR ENTREPRENEURIAID UCHELGEISIOL WIREDDU EU BREUDDWYDION BUSNES. Rydym yn awyddus i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau eich hun a chroesawn unrhyw un sydd eisiau gwneud i’w syniadau ddigwydd - ni waeth pa mor fawr neu fach! Bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithdai a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau busnes, cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol a byd-eang neu ddod yn Intern Centerprise, lle y byddwch yn cael profiad wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau, a gweithio gyda myfyrwyr a busnesau eraill wrth ddatblygu’r sgiliau hyn ar gyfer y dyfodol! Cysylltwch â ni ar: 01639 648657 neu ewch i: www.nptcgroup.ac.uk

Os hoffech:  Ymgymryd â’r cyfan neu ran o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog  Cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg  Cwblhau'ch aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg  Derbyn eich deunyddiau/adnoddau cwrs yn Gymraeg neu'n ddwyieithog yna, rhowch wybod i'ch darlithydd neu Angharad Morgan, neu Robin Gwyn drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Mae yna gyfleoedd hefyd i siaradwyr rhugl a dysgwyr y Gymraeg barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, drwy gyflawni cymwysterau ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i'ch darlithwyr, Angharad Morgan neu Robin Gwyn am fanylion pellach am y Gymraeg yng Ngrŵp Colegau NPTC. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Angharad Morgan - Cydgysylltydd Datblygu Dwyieithog (Campysau Castell-nedd Port Talbot) angharad.morgan@nptcgroup.ac.uk Robin Gwyn - Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (Campysau Powys): robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk Mae’r symbol hwn ar dudalennau’r cyrsiau yn dynodi bod modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg – Ffoniwch 01639 648409 am wybodaeth

10


Datblygiadau yn y Coleg PORT TALBOT

Rhoddwyd cymeradwyaeth dros dro i Grŵp Colegau NPTC gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Campws y Coleg gwerth miliynau, a fydd yn dod â’r sefydliad addysgol cyntaf i Harbourside ym Mhort Talbot. Gyda chost amcangyfrifedig o £28m, bydd y Campws yn cynnig yr holl gyfleusterau technolegol a Chanolfan Chweched Dosbarth arbenigol; bydd y safle newydd yn rhoi hwb a groesawir yn gynnes gan y ganolfan siopa yn yr rhanbarth wrth ddenu mwy na 1,000 o fyfyrwyr bob dydd. Cynlluniwyd y datblygiad hwn i gyd-fynd â Strategaeth Datblygiad Harbourside gan yr awdurdod lleol.

MAE ADEILADU’N TYFU!

Bydd y Coleg yn cynyddu ei ddarpariaeth o hyfforddiant o'r ansawdd gorau i'r sector adeiladu yn 2019 gydag uned adeiladu bwrpasol ychwanegol yng Ngholeg Castell-nedd ac estyniad pellach i'r adeilad presennol yng Nghanolfan Adeiladwaith Abertawe.

MAE COLEG BANNAU BRYCHEINIOG YN DOD I'R DREF!

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Yn ddiweddar, mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymgymryd â les Canolfan Ymwelwyr Aberhonddu yn y dref, a dyma'r adeilad cyntaf o dri adeilad posibl y mae'r Coleg yn eu hystyried o fewn tref Aberhonddu. Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw symud y Coleg a'i integreiddio yn y gymuned. Y Ganolfan Ymwelwyr yw'r cam cyntaf yn y prosiect ac fe ddaw yn hwb iddo. Bydd yn darparu amgylchedd cyfforddus ar gyfer darpar fyfyrwyr i edrych ar gyrsiau a siarad â'r staff i drafod eu hanghenion. Bydd hefyd y gallu i fideo-gynadledda a darparu dysgu addysg uwch o hirbell drwy gyfrwng yr un dechnoleg.

11


Beth am fwrw golwg ar ein Canolfan Academi 6ed Dosbarth newydd? Mae'r gweddnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd i un o adeiladau Grŵp Colegau NPTC yn darparu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr a staff. Mae Bloc A/B o Goleg Castell-nedd ar Heol Dŵr-y-Felin, sy’n gartref i’r adrannau mathemateg a gwyddoniaeth ar hyn o bryd, wedi cael ei uwchraddio’n llwyr. Mae'r prosiect adnewyddu tri llawr yn cynnwys estyniad gwydrog newydd a gosod cladin newydd ar yr adeilad presennol. Y tu mewn i'r adeilad, gwelwyd gweddnewid llwyr gyda chanolfan chweched dosbarth newydd â chynllun agored lle gall myfyrwyr a staff weithio ac ymlacio. Mae'r cyfleuster tra modern yn cynnwys sgriniau cyffwrdd, cyswllt Wi-Fi am ddim a mannau gwefru yn ogystal â siop goffi Starbucks, cyfleusterau arlwyo, man manwerthu a lifft i roi mynediad i’r lloriau uchaf. Mae'r gwaith adnewyddu cynaliadwy yn gwella effeithlonrwydd ynni hefyd yng Ngholeg Castell-nedd yn unol ag ymrwymiad y Coleg i wella'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau CO2.

12


Safon UG/U Academi Chweched Dosbarth Canlyniadau Safon Uwch Mae’r Academi Chweched Dosbarth Grŵp Colegau NPTC ddeinamig yn darparu amgylchedd cefnogol ac academaidd sy’n magu ein myfyrwyr. Byddwn yn eich herio i gyflawni’ch potensial llawn wrth gynnig darlithwyr ymroddedig sy’n dysgu cymwysterau Safon Uwch ochr yn ochr â Bagloriaeth Cymru a chyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol drwy annog dysgu annibynnol mewn amgylchedd chweched dosbarth.

Un o’r llu o fuddion o astudio yn yr Academi Chweched Dosbarth yw’r detholiad eang o bynciau sydd ar gael. Rydym yn cynnig 37 o bynciau Safon Uwch yn ogystal â llawer o gyrsiau galwedigaethol, TGAU a chyrsiau mynediad i AU. Mae ein cyrsiau’n cael eu darparu gan staff profiadol sy’n cyflawni cyfradd lwyddo uchel yn rheolaidd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Maen nhw’n cynnig cymorth heb ei ail i fyfyrwyr gan gynnal a chadw safonau uchel drwy’r amser. Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn camu ymlaen i astudiaethau bellach gyda llawer ohonyn nhw’n mynychu rhai o’r prifysgolion o fri yn y DU yn cynnwys Russell Group ac Oxbridge.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Yn Academi Chweched Dosbarth Grŵp Colegau NPTC, byddwn yn eich helpu i ddewis pynciau eich bod yn eu mwynhau gan feddu ar y cymhelliad i ddysgu amdanynt, ac a fydd o gymorth o ran symud ymlaen ar hyd eich llwybr gyrfa o ddewis.

13

Llwyddodd myfyrwyr yn y Coleg i gyflawni graddau CBC a oedd un uwch na’r cymaryddion cenedlaethol. Cyflawnwyd cyfradd lwyddo syfrdanol o 45% A*- B, 74% A*- C gan Academi Chweched Dosbarth y Coleg gyda mwy na 200 o fyfyrwyr yn ennill Tystysgrif Her Sgiliau.

Coleg Castell-nedd 2017/18 SAFON UWCH

A*- C %

A-E %

Bioleg Astudiaethau Busnes Cemeg Cyfrifiadureg Ysgrifennu Creadigol Dawns Drama/Astudiaethau Theatr Economeg Electroneg Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg Iaith Saesneg Llenyddiaeth Astudiaethau Ffilm Celfyddyd Gain Ffrangeg Daearyddiaeth Daeareg Almaeneg Cyfathrebu Graffeg Iechyd/Gofal Cymdeithasol Hanes TGCh Y Gyfraith Mathemateg Mathemateg (Bellach) Astudiaethau'r Cyfryngau Cerddoriaeth Addysg Gorfforol Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Astudiaethau Crefyddol Cymdeithaseg Sbaeneg Tecstilau Dylunio Tri Dimensiwn Teithio/Twristiaeth Cymraeg (Iaith 1af) Cymraeg (2il Iaith)

76.3 59.3 70 72.7 73.3 100 75 75 100 72.4 83.3 50 63.2 100 90 52.6 50 85.7 90.9 96.9 93.3 40 75.7 64.8 60 36.4 50 66.7 86.7 66.7 69.6 75 81.8 75 100 100 100 100 37.5

100 96.3 93.3 95.5 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 83.3 100 100 100 100 100 100 95.8 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100 100

CYFRADD LWYDDO

74% 99%


Rhaglen i Fyfyrwyr Galluog a Thalentog (GATE) Fel aelod o’r Academi Chweched Dosbarth, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ein Rhaglen i Fyfyrwyr Galluog a Thalentog (GATE). Dyma raglen strwythuredig arbenigol i gefnogi’r dysgwyr a lwyddodd i ennill canlyniadau TGAU rhagorol (3/4 gradd A* neu raddau A ar y cyfan yn eu harholiadau TGAU). Bydd myfyrwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion cystadleuol, yn arbennig prifysgolion y Grŵp Russell, Rhydychen a Chaergrawnt, wedyn yn derbyn cymorth personoledig drwy gyfrwng ein rhaglen ‘GATE’. Mae’r broses o wneud cais i fynychu prifysgolion cystadleuol yn golygu mwy na graddau rhagorol. Mae gofyn i chi wneud penderfyniadau gwybodus ynglyn â’r pynciau yr ydych yn bwriadu eu hastudio, ynghyd â deall y broses a systemau dethol cystadleuol, cyflwyno ffurflen gais broffesiynol a rhagori yn ystod y cyfweliad.

Grŵp NPTC

Gradd

Cenedlaethol

17.7%

A*

8.7%

53.4%

A*- A

26%

Wrth ddilyn y Rhaglen GATE byddwch yn mynychu grŵp tiwtorial arbennig a fydd yn diwallu’ch anghenion a’ch uchelgeisiau. Ehangu’ch gorwelion y tu hwnt i’ch pynciau dewisedig a hyrwyddo ymresymiad a thrafodaethau dadansoddol yw’r amcan. Dyma ffordd amhrisiadwy o baratoi ar gyfer cyfweliad mewn prifysgol. Bydd rhai o’r meysydd dan sylw yn y tiwtorial yn cynnwys: § Prosesau ac amcanion gwleidyddol § Credau, gwerthoedd ac ymresymiad moesol § Goblygiadau moesegol ac amgylcheddol datblygiad gwyddonol. Mae’r materion hyn yn gysylltiedig â digwyddiadau cyfoes.

Y Cymhwyster Prosiect Estynedig

Cewch gyfle i gyflawni’r cymhwyster prosiect estynedig, sy’n eich galluogi i ymchwilio, dylunio a chyflawni prosiect annibynnol a allai fod yn gysylltiedig â phwnc academaidd yr ydych yn ei astudio. Cewch eich cefnogi drwy gydol eich prosiect gan dderbyn cymorth arbenigol gan y darlithwyr perthnasol. Wrth gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn: � Dod yn fwy beirniadol, adlewyrchol ac annibynnol o safbwynt eich dysgu � Datblygu a chymhwyso sgiliau wrth wneud penderfyniadau a datrys problemau

� Gwella’ch sgiliau wrth gynllunio, ymchwilio, dadansoddi, syntheseiddio, gwerthuso a chyflwyno � Dysgu sut i gymhwyso technolegau newydd yn hyderus � Dangos creadigrwydd, blaengarwch a menter.

Rhaglen Gyfoethogi

Bydd y Rhaglen ‘GATE’ hefyd yn rhoi cyfle i chi fanteisio ar ein gweithgareddau cyfoethogi. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys: � Cymhwyster Cambridge Pre-U: Mae hyn yn eich galluogi i astudio’r dadansoddiad a’r gwerthusiad o ddadleuon. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau er mwyn dadadeiladu dadl gan ymateb gyda rhesymeg bwyllog. Mae sgiliau fel hyn yn bwys i’r prifysgolion o fri. � Cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol fel Olympiad Bioleg a Chemeg � Cymorth personoledig wrth wneud cais i brifysgolion cystadleuol fel Russell Group ac Oxbridge � Gweithdai Arbenigol ynglyn â Chyfweliadau � Ymweliadau penodol ym meysydd Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddor Milfeddygaeth � Mae system o fentora myfyrwyr Oxbridge blwyddyn gyntaf gan ein myfyrwyr ar waith yn barod � Cyfle i fynychu cyflwyniadau gan westai arbennig e.e. Cymdeithas Frenhinol Cemeg, Ysgol Feddygol Caerdydd.

Seren: Rhaglen sy’n Cefnogi’r Myfyrwyr Disgleiriaf yng Nghymru

Mae Grŵp Colegau NPTC yn rhan o’r rhaglen Seren: Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru, wedi’i chynllunio i gefnogi’r myfyrwyr disgleiriaf yng Nghymru i gyflawni’u potensial academaidd a mynd i brifysgolion blaenllaw. Fel rhan o’r ganolfan, bydd modd i fyfyrwyr fanteisio ar: � argaeledd gwybodaeth gywir � gweithgareddau uwch-gwricwlaidd � grŵp cyfoedion o fyfyrwyr disglair � cysylltiadau gyda myfyrwyr prifysgol a’r sawl sydd wedi graddio’n ddiweddar o gefndiroedd tebyg. Trwy’r canolfannau Seren, gallwn gynnig y cymorth a’r cyfarwyddyd ymarferol ychwanegol i fyfyrwyr a fydd eu heisiau arnynt wrth fynd drwy’r broses ymgeisio. Bydd hyn o fantais wrth wneud cais i’r prifysgolion mwyaf blaenllaw. Mae’n gyfle ardderchog i ddisgyblion fod yn rhan o rwydwaith o fyfyrwyr tebyg sy’n rhannu uchelgeisiau tebyg.

14


Safon U

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

Cyflwyniad i Raglenni Safon UG/Lefel 3

Bydd y cwrs hwn yn para o fis Medi tan fis Mehefin ac fe’i cynlluniwyd i’ch ymbaratoi ar gyfer eich astudiaethau Safon UG neu gyrsiau Lefel 3 o fis Medi 2019. Mae’r cwrs hwn yn un academaidd a fydd eich galluogi i adeiladu ar eich proffil TGAU os nad ydych wedi cwrdd â’r gofynion mynediad priodol ar gyfer rhaglenni UG/Lefel 3 neu fod angen i chi wella rhai o'ch proffiliau TGAU.

Gofynion Mynediad

O leiaf 1 Gradd C a 3 Gradd D TGAU yn cynnwys Mathemateg/Saesneg a Gwyddoniaeth neu wybodaeth ddiweddar o weithio o fewn y disgyblaethau hyn.

Hanes yr Henfyd

Mae ein Safon Uwch mewn Hanes yr Henfyd yn annog myfyrwyr i archwilio a gwerthfawrogi hanes milwrol, gwleidyddol, crefyddol, cymdeithasol a diwylliannol ac etifeddiaeth Gwlad Groeg a Rhufain. Drwy astudiaethau seiliedig ar ffynonellau o ddau gyfnod hanesyddol sylweddol byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gysyniadau hanesyddol allweddol.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C. Nid yw TGAU hanes yn hanfodol, ond os y’i hastudiwyd, bydd angen TGAU Gradd C.

Coleg Castell-nedd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

15

Addysgu, y Gyfraith, Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol, Adnoddau Dynol, Cyfrifeg, Llyfrgellyddiaeth, Gweinyddu Archifau a llawer rhagor.  BA (Anrh) Saesneg a Hanes

Bioleg

Busnes

Bydd myfyrwyr yn astudio Biocemeg Sylfaenol a Threfniant Celloedd, Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau’r Corff, Ynni, Homeostatis a’r Amgylchedd ynghyd ag Amrywiaeth, Etifeddeg a Geneteg.

Gofynion Mynediad

Mae Bioleg yn bwnc hynod ddiddorol ar Safon Uwch. Mae llawer o’r pynciau yn berthnasol iawn i fywyd bob dydd. Byddwch yn dysgu prif egwyddorion a chysyniadau Bioleg ac yn datblygu llawer o sgiliau pwysig a throsglwyddadwy.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg a Gradd B neu uwch mewn Mathemateg yn ddelfrydol. Mae Gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol a Gwyddoniaeth Graidd (Haen Uwch) neu bynciau gwyddoniaeth ar wahân yn hanfodol.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae’r cwrs yn sylfaen dda ar gyfer y brifysgol ac astudio Bioleg a phynciau cysylltiedig, yn cynnwys Meddygaeth, Deintyddiaeth, Ffisiotherapi, Cadwraeth Amgylcheddol, Geneteg, Microbioleg, Biocemeg.

Mae’r cwrs Astudiaethau Busnes Safon Uwch yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau busnes, gan gynnwys Cyfleoedd Busnes, Swyddogaethau Busnes, Dadansoddi Busnes a Strategaeth a Busnes mewn Byd sy’n Newid.

Chwe TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Yn addas i unrhyw fyfyriwr sydd am gamu ymlaen i unrhyw faes busnes, ac i bob myfyriwr sydd am gamu ymlaen i addysg uwch.  HND Astudiaethau Busnes  BA (Anrh) Rheoli Busnes a TG.


mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cemeg

Mae Cemeg yn bwnc hynod ddiddorol ac os ydych am weld sut mae'r byd yn gweithio, dyma'r pwnc i chi! Byddwch yn dysgu am bob math o bethau, o Ymbelydredd i Gemeg Organig, a bydd ein sesiynau labordy effeithiol yn dangos i chi sut i asesu cyfansoddion a gwneud cynhyrchion megis asbirin. Mae gan y Coleg un o'r adrannau gorau o ran cyfarpar yn yr ardal ac mae'n cael canlyniadau rhagorol yn gyson.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg a Gradd B neu uwch mewn Mathemateg yn hanfodol. Mae Gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol a Gwyddoniaeth Graidd (Haen Uwch) neu bynciau gwyddoniaeth ar wahân yn hanfodol.

Cyfrifiadureg

Er mwyn astudio cyfrifiadureg, mae angen disgyblaeth resymegol, creadigrwydd a dychymyg wrth ddylunio ac ysgrifennu rhaglenni. Mae hyn yn annog ymwybyddiaeth o’r gwaith o reoli a threfnu systemau cyfrifiadurol. Mae'r flwyddyn gyntaf yn ymchwilio i hanfodion cyfrifiadureg, yn cynnwys pensaernïaeth, rhesymeg, cynrychiolaeth data, strwythurau data, algorithmau, methodolegau, effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas a datblygu ateb ymarferol i ddatrys cyfres o dasgau gosod. Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar seiliau’r flwyddyn gyntaf ac yn arwain at ddatblygu ateb i broblem sylweddol o ddewis yr ymgeisydd.

Gofynion Mynediad

Coleg Castell-nedd

Chwe TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys Gradd B neu uwch mewn Mathemateg a Gradd C neu uwch mewn Saesneg, ond nid yw TGAU mewn TGCh neu Gyfrifiadura yn angenrheidiol.

Dilyniant

Coleg Castell-nedd

Mae’r cwrs yn sylfaen dda ar gyfer astudiaeth bellach ym maes Cemeg a phynciau cysylltiedig, yn cynnwys Meddygaeth, Amaethyddiaeth, Archaeoleg, Ecoleg, Peirianneg, Biocemeg, Geo Cemeg a llawer mwy mewn addysg uwch.  HND Amaethyddiaeth

Safon U Troseddeg

Mae dealltwriaeth o droseddeg yn berthnasol i nifer o swyddi o fewn y sector cyfiawnder troseddol, gwaith cymdeithasol a phrawf a chymdeithaseg a seicoleg. Mae'r Dystysgrif / Diploma Cymhwysol Lefel 3 CBAC mewn Troseddeg yn gymhwyster gydag elfennau o seicoleg, y gyfraith a chymdeithaseg sy'n cyd-fynd ag astudiaethau yn y dyniaethau. Mae unedau'n cynnwys Newid Ymwybyddiaeth o Droseddau, Damcaniaethau Troseddegol, O'r Safle Trosedd i'r Llys a Throsedd a Chosb.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Addysgu, y Gyfraith, Busnes a'r Gwasanaeth Sifil.  HND Astudiaethau Busnes  BA (Anrh) Rheoli Busnes a TG.

Dilyniant Cyfarwyddwr TG, Rhaglennydd/ Datblygwr, Datblygwr Cronfeydd Data, Rheolwr TG, Rheolwr Prosiectau, Cymorth Technegol, Ymgynghorydd TG, Datblygwr Rhyngrwyd/y We, Desg Gymorth, Peiriannydd Meddalwedd, Strategaeth a Chynllunio, Dylunio/ Datblygu Systemau, Pensaer Cyfrifiaduron, Profwr, Dadansoddwr, Rheoli Rhwydweithiau, Gweithrediadau TG, Gwerthu/Marchnata.  HND Cyfrifiadura  BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol Atodol.

16


Safon U Dawns

Mae Dawns Safon Uwch yn gymhwyster deinamig sy’n annog myfyrwyr i ddatblygu eu gallu creadigol, corfforol, emosiynol a deallusol, ochr yn ochr â sgiliau trosglwyddadwy megis gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau. Mae’r holl sgiliau hyn yn rhai pwysig mewn addysg uwch ac i gyflogwyr, a byddant yn helpu ymgeiswyr i sefyll allan yn y gweithle, beth bynnag fo’u dewis gyrfa. Mae’r cwrs yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu, dangos a defnyddio gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol a damcaniaethol o’r canlynol: § Sgiliau technegol a pherfformiad § Proses a chelfyddyd coreograffi § Y gydberthynas rhwng creu, cyflwyno a gweld/gwerthfawrogi gweithiau dawns § Datblygiad dawns mewn cyd-destun artistig a diwylliannol § Gweithiau dawns proffesiynol ac arwyddocâd y gweithiau hyn § Terminoleg pwnc-benodol a'r defnydd o'r derminoleg honno Agwedd apelgar o’r cwrs yw ei fod yn caniatáu i chi astudio ystod o arddulliau dawns a gallwch berfformio a chreu coreograffi mewn arddull o'ch dewis

Gofynion Mynediad

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Cymraeg/Saesneg. Mae Profiad blaenorol o ddawns yn hanfodol.

17

Coleg Castell-nedd Dilyniant Therapydd Symud, Anthropolegwr, Dawnsiwr, Coreograffydd, Ffisiotherapydd, Cyfarwyddwr, Gweinyddwr Dawns, Athro, Newyddiadurwr, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd neu Ymchwilydd Teledu.

Drama ac Astudiaethau Theatr

Mae’r cwrs ysbrydoledig a hynod ymarferol hwn yn gyfle i ddysgwyr weithio fel perfformwyr neu ddylunwyr gan gyfuno’r gweithgareddau canlynol sef ymchwilio dramâu, creu theatr, perfformio dramâu, dadansoddi’r theatr a gwerthuso’r elfennau hyn yn feirniadol. Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i chi astudio o leiaf ddau destun perfformiad cyflawn a thri darn allweddol sy’n rhoi sylw i amrywiaeth o gyfnodau a chyd-destunau. Drwy waith archwilio a pherfformio, bydd ymgeiswyr hefyd yn archwilio dulliau gweithio amrywiaeth o ymarferwyr ac arddulliau theatr. Mae ymweliadau theatr byw, Dosbarthiadau Meistr a gweithdai arbenigol hefyd yn rhan o’r rhaglen astudio hon sy’n ddiddorol ac amrywiol.

Gofynion Mynediad

6 TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg/Saesneg, mae Gradd C neu uwch mewn Drama/ Saesneg/ Mathemateg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol ym mhob achos.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Gall cymhwyster Safon Uwch mewn Drama ac Astudiaethau Theatr arwain at astudiaethau pellach mewn Actio, Astudiaethau Theatr a’r Celfyddydau Perfformio mewn Addysg uwch ar lefel gradd neu HND. Argymhellir y cwrs hwn os ydych yn meddwl am yrfa yn y meysydd canlynol: meddygaeth, y gyfraith, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, diplomataeth, gwleidyddiaeth, gwaith cymdeithasol, lletygarwch, twristiaeth a hamdden ac wrth gwrs swyddi actio neu yn y theatr. Gellir ei ddefnyddio fel rhan o’ch llwybr i ehangu’ch astudiaethau a gall arwain at yrfa yn y Celfyddydau Perfformio maes sy’n tyfu yn Ne Cymru ar hyn o bryd. Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â llu o gyrsiau eraill gan helpu i adeiladu hyder a gwella llawer o sgiliau amrywiol. Mae o fantais mewn llu o yrfaoedd.

Economeg

Mae Economeg yn y newyddion bob dydd. Rydym yn astudio materion fel: § A oedd y DU yn iawn i beidio â mabwysiadu'r Ewro? § Pam y mae trethi petrol mor uchel? § Sut allwn ni drechu newid hinsawdd? § Pam mae rhai rhannau o'r wlad yn perfformio'n well nag eraill? Bydd myfyrwyr yn edrych ar sut rydym yn gweithio fel unigolion, fel cwmnïau ac mewn llywodraeth. Bydd gwir ddiddordeb mewn materion cyfoes a'r byd o'ch cwmpas yn helpu'ch dealltwriaeth o'r pwnc.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C a Mathemateg Gradd B.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae pob sefydliad mawr yn y wlad fwy neu lai yn cyflogi economegydd mewn rhyw ffordd, sy’n golygu bod Economeg yn bwnc grymus sy’n agor drysau i bob math o alwedigaethau.


Safon U Electroneg

Mae'r cwrs hwn yn datblygu a chynnal diddordeb mewn electroneg a defnydd o’r pwnc trwy ymchwilio a datrys problemau, deall systemau electronig sylfaenol a rhaglennu microgyfrifiaduron/rheolyddion sglodion sengl.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg, Saesneg/ Cymraeg a Ffiseg neu Wyddoniaeth Dyfarniad Dwbl.

Saesneg Iaith

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddeall hanfodion iaith ar wahanol lefelau. Mae iaith yn cael ei gosod yn ei chyd-destunau cymdeithasol a bydeang ehangach a bydd myfyrwyr yn edrych ar lu o destunau o gofiannau, ffuglen a darnau ffeithiol i waith ar gyfer plant a sgriptiau teledu.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd B a TGAU Saesneg Llenyddiaeth Gradd C.

Coleg Castell-nedd

Coleg Castell-nedd

Dilyniant

Dilyniant

Ar y cyd â phynciau Safon Uwch perthnasol eraill, bydd Electroneg yn cynnig mynediad at gyrsiau HND/ Gradd Trydanol, Electronig, Peirianneg mewn llawer o brifysgolion. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau ym maes Electroneg.

Addysgu, Newyddiaduraeth, Marchnata, Therapi Iaith a Lleferydd.  BA (Anrh) Saesneg a Hanes.

Saesneg Iaith a Llenyddiaeth

Rhennir y cwrs Saesneg Iaith a Llenyddiaeth cyfun yn bum uned: gyda dwy ar Safon UG a thair ar Safon Uwch. Mae'r asesiad drwy arholiadau a gwaith cwrs ar gyfer U2. Yn ystod y cwrs byddwch yn archwilio detholiad o lenyddiaeth gan gynnwys barddoniaeth, drama, nofelau a thestunau ffeithiol yn cynnwys trydar, adroddiadau papur newydd, blogiau a newyddiaduraeth o bob math. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich ysgrifennu creadigol eich hun hefyd ar lefel UG ac Uwch.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd B a TGAU Saesneg Llenyddiaeth Gradd B.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn gymhwyster gwerthfawr i lawer o gyrsiau gradd a phroffesiynau, megis y Gyfraith, Addysgu, Cysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth a Hysbysebu.  BA (Anrh) Saesneg a Hanes.

18


Safon U Llenyddiaeth Saesneg

Mae'r cwrs Saesneg Llenyddiaeth traddodiadol hwn wedi'i rannu'n bum uned: dwy ar Safon UG a thair ar U2 ac asesir trwy arholiadau ac un astudiaeth rhyddiaith. Byddwch yn archwilio testunau barddoniaeth, drama a rhyddiaith o safbwynt arddull a hanes trwy eich ysgrifennu academaidd manwl eich hunan.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C a TGAU Saesneg Llenyddiaeth Gradd C.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Amrywiaeth eang o gyrsiau AU a gyrfaoedd, yn cynnwys y Cyfryngau, Addysgu, Busnes a Rheoli, y Gwasanaeth Sifil.  BA (Anrh) Saesneg a Hanes

Astudiaethau Ffilm

Bydd y cwrs hwn yn dod â sinema fel pwnc yn fyw ac yn rhoi sylw manwl a hynod ddiddorol i fyd ffilm. Byddwch yn ymchwilio i’r ffordd mae ffilm yn creu ystyr ac yn ennyn ymateb gan y gynulleidfa. Mae gwneud a gwylio ffilmiau yn broses ryngweithiol, ddwy ffordd rydym yn ei defnyddio i gyfathrebu syniadau a negeseuon. Mae ffilm yn gelfyddyd ac, fel mathau eraill o gelfyddyd, er enghraifft celfyddyd gain a llenyddiaeth, mae’n gofyn am ddarllen gwahanol destunau. Bydd hi’n ofynnol i chi ddangos dealltwriaeth o’r set ffilmiau o’ch blaen ac ennill mwy o wybodaeth ar lefel ddadansoddi ddyfnach. Fe’ch anogir i ymestyn eich creadigrwydd a’ch sgiliau cynhyrchu eich hun, a byddwch yn cael cyfle i ymchwilio a datblygu eich syniadau a’ch ffilmiau byr eich hun.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Gradd C neu uwch.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Gwneud Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gall cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus arwain at astudiaethau pellach a gyrfaoedd ym maes Ffilm a Fideo, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau.

19

Celfyddyd Gain

Rhaglen gyffrous a dwys ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd am archwilio ac arbrofi â phob math o gyfryngau, deunyddiau a thechnegau Celfyddyd Gain, megis arlunio, paentio, gwneud printiau a chyfryngau cymysg. Bydd gofyn i chi ddadansoddi’ch gwaith eich hun a phobl eraill o’r byd Celfyddyd Gyfoes a Hanesyddol. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddi a gwerthuso ar lefel uwch drwy eich ymdrwytho mewn prosiectau a arweinir yn fwyfwy gan fyfyrwyr wrth i chi ddewis eich themâu a’ch meysydd archwilio eich hun. Mae Celfyddyd Gain yn elfen arbenigol o bob math o yrfaoedd ym maes celf a dylunio.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Cymraeg/Saesneg/Celf a Dylunio.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Gellir cyfuno Celfyddyd Gain â phynciau (creadigol) ychwanegol mewn nifer o ffyrdd. Mae cyfleoedd gyrfa mewn pob math o feysydd; mae'r rhai sydd wedi ennill y cymhwyster hwn wedi mynd ymlaen i ennill amrywiaeth o raddau mewn pynciau Celfyddydau Gweledol yn ogystal â mynd ymlaen i weithio mewn Stiwdios Argraffu, Darluniadu, Teledu, Ffilm a Fideo, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, Tecstilau, Ffotograffiaeth, Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Pensaernïaeth, Rheoli Celf a swyddi mewn Orielau/Curadu, Addysg, Therapi Celf, Beirniadaeth Gelf a Newyddiaduraeth.  Diploma Sylfaen: Celf a Dylunio Lefel 3/4


Safon U Ffrangeg

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus ac effeithiol mewn Ffrangeg yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg. Bydd y cwrs yn magu dealltwriaeth ac agwedd frwdfrydig tuag at ddysgu iaith gan annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaethau mewn cyd-destun ehangach. Y themâu a gwmpesir yw: bod yn berson ifanc mewn cymdeithas lle siaredir Ffrangeg a deall y byd lle siaredir Ffrangeg, amrywiaeth a gwahaniaeth a hanes Ffrainc 1940 – 1950.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Ffrangeg Gradd B a Saesneg Iaith Gradd B.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Addysgu, Cyfieithu, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Busnes, y Gyfraith a Pheirianneg.

Daearyddiaeth

Mae’r cwrs newydd hwn yn rhoi pwys mawr ar sgiliau ymchwilio a dealltwriaeth o brosesau a thirweddau ffisegol a dynol. Rydym yn astudio amrywiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith, Mathemateg a Daearyddiaeth.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae Daearyddiaeth yn bwnc modern a chyfoes sy’n dwyn ynghyd llawer o’r sgiliau mae cyflogwyr yn eu mynnu. Mae Daearyddwyr yn dilyn pob math o gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd, yn cynnwys cadwraeth a gwaith amgylcheddol, rheoli adnoddau, cynllunio ac addysgu.

Almaeneg

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus ac effeithiol mewn Almaeneg yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Almaeneg. Bydd y cwrs yn magu deallwtriaeth ac agwedd frwdfrydig tuag at ddysgu iaith gan annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaethau mewn cyd-destun ehangach. Y themâu sy’n cael sylw ar y cwrs yw Amrywiaeth a Gwahaniaeth a sut y daeth yr Almaen Fodern o 1989 ymlaen.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Almaeneg Gradd B a Saesneg Iaith Gradd B. Mewn rhai amgylchiadau, gallai myfyrwyr nad oes ganddynt TGAU Gradd C neu uwch mewn Almaeneg gael eu hymrestru ar y cwrs am gyfnod prawf.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd i'r brifysgol i astudio Almaeneg/Busnes/ Y Gyfraith/Cyfrifyddu (mae llawer o fyfyrwyr yn astudio Almaeneg gyda phwnc arall). Mae nifer o opsiynau gyrfa: addysgu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, bancio, yswiriant, cyfrifeg, cyfreithiwr, TG, gwerthu.

20


Safon U Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Mae Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn annog dysgwyr i ddatblygu hyder yn, ac agwedd gadarnhaol tuag at wleidyddiaeth wrth gydnabod ei bwysigrwydd yn eu bywydau eu hunain ac i'r gymdeithas. Byddwch yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o'r strwythurau gwleidyddol cyfoes a materion o fewn Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ogystal â dylanwadau byd-eang ehangach.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Addysgu, y Gyfraith, Busnes a'r Gwasanaeth Sifil.  HND Astudiaethau Busnes  BA (Anrh) Rheoli Busnes a TG.

Cyfathrebu Graffeg

Ystyr Cyfathrebu Graffeg yw hysbysu, darbwyllo, pryfocio neu ddifyrru gan ddefnyddio symbolau, darluniau, ffotograffau a theipograffeg i gyfleu cysyniadau a/neu emosiynau. Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu sut i wireddu syniadau gan ddefnyddio ystod eang o gyfryngau, deunyddiau a thechnegau traddodiadol, yn ogystal â defnyddio prosesau digidol drwy ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil, arbrofi, creu syniadau, datblygu/ mireinio syniadau, creu creadigol a gwerthuso. Byddwch yn cael y cyfle i archwilio amrywiaeth o ganlyniadau, yn cynnwys: Hysbysebu, Brandio, Pecynnu, Teipograffeg, Darluniadu.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys Graffeg/Celf a Dylunio a Saesneg Iaith.

Coleg Castell-nedd

Gwneud Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

21

Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at astudiaethau pellach ym maes Cyfathrebu/Dylunio Graffeg, Teipograffeg, Darluniadu, Ffotograffiaeth Ddigidol, Pensaernïaeth, Animeiddio a Hysbysebu. Mae’r pwnc hwn yn cyfuno’n dda gyda Safon UG/ Uwch mewn Celfyddyd Gain, TGCh, Ffotograffiaeth, Tecstilau, Astudiaethau’r Cyfryngau a Dylunio Tri Dimensiwn.

TAG Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd myfyrwyr sy'n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn astudio hawliau defnyddwyr gwasanaeth a chyfrifoldebau sefydliadau. Byddwch yn ymchwilio i faterion iechyd cyfredol mewn cymdeithas ac yn cynllunio a gweithredu ymgyrch hybu iechyd. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r priodweddau sydd eu hangen i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â rolau gweithwyr proffesiynol amrywiol er mwyn paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Nyrsio Plant, Nyrsio Oedolion, Nyrsio Iechyd Meddwl; Astudiaethau Plentyndod; Gwaith Cymdeithasol; Addysgu; Proffesiynau cysylltiedig eraill megis therapi iaith a lleferydd a therapi galwedigaethol.  Gradd Sylfaen Astudiaethau Gofal  Gradd Sylfaen Astudiaethau Gofal  BSc (Anrh) Astudiaethau Gofal Ychwanegol  Diploma Addysg Uwch mewn Iechyd y Cyhoedd (atodol)  Tystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau  Tystysgrif Addysg Uwch mewn Oedolion sy'n Agored i Niwed


Safon U Hanes

Nid pwnc hen ffasiwn yw Hanes! Dim o gwbl! Mae digwyddiadau hanesyddol wedi dylanwadu ar ein cymdeithas i'r hyn ydyw heddiw. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddeall gwerth ac arwyddocâd digwyddiadau byd yn y gorffennol. Yn y broses, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o amrywiaeth cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol ac ethnig. Byddwch yn cwmpasu: Hanes Cymru a Lloegr, 1780-1880; Yr Almaen, 1918-1945; ac UDA, 1890-1990.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd C. Nid yw TGAU Hanes yn hanfodol, ond os y’i hastudiwyd, bydd angen TGAU Gradd C.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Defnyddir TGCh ymhobman yn y byd heddiw ac mae galw mawr am bobl â sgiliau TGCh. Mae’r cymhwyster Safon U mewn TGCh yn cyfuno sgiliau ymarferol â theori academaidd. Mae myfyrwyr yn astudio detholiad eang o bynciau perthnasol a fydd yn eu hymbaratoi ar gyfer dyfodol yn gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd y sgiliau a ddatblygir yn galluogi myfyrwyr llwyddiannus i ddadansoddi systemau gwybodaeth presennol ac wedyn i gynllunio ac adeiladu gwell systemau i fodloni anghenion newidiol sefydliadau.

Gofynion Mynediad

Coleg Castell-nedd

Chwe TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg.

Dilyniant

Coleg Castell-nedd

Addysgu, y Gyfraith, Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol, Adnoddau Dynol, Cyfrifyddiaeth, Llyfrgellyddiaeth, Gweinyddu Archifau a llawer rhagor.  BA (Anrh) Saesneg a Hanes.

Dilyniant

Ymgynghorydd TG, Dylunydd Rhyngwyneb Defnyddiwr, Dadansoddwr Data, Dadansoddwr Systemau, Datblygwr Cronfeydd Data, Datblygwr Cymwysiadau, Dadansoddwr Busnes, Datblygwr Rhyngrwyd/Y We, Rheolwr Prosiectau, Arbenigwr Diogelu Gwybodaeth, Datblygwr Gemau, Dylunydd Graffig, Profwr Meddalwedd, Rheoli Rhwydwaith, Gwerthu/Marchnata.  HNC/HND Cyfrifiadureg  BA (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol  BA (Anrh) Rheoli Busnes a TG

Y Gyfraith

Mae cwrs Safon Uwch yn y Gyfraith yn annog myfyrwyr i ddatblygu diddordeb yn y gyfraith a rhannau dethol o’r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddeall sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio, yn hytrach na'r hyn yw'r gyfraith yn unig. Mae’n edrych ar swyddogaethau gweithwyr proffesiynol y gyfraith, sut mae deddfau’n cael eu gwneud, sut mae llysoedd yn gweithio a’r prosesau sy’n rhan o’r gyfraith droseddol a sifil. At hynny, byddwch yn ennill gwybodaeth fanwl ac ymarferol am System Cyfiawnder Troseddol Cymru a Lloegr, yn ogystal â chyfraith hawliau dynol.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd B.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Addysgu, y Gyfraith, Busnes a’r Gwasanaeth Sifil.  HND Astudiaethau Busnes  BA (Anrh) Rheoli Busnes a TG

22


Mathemateg/ Mathemateg Bellach

Mae Mathemateg yn rhan ganolog a hanfodol o bob disgyblaeth wyddonol, yn ogystal â bod yn bwnc pwysig ynddo’i hun. Mae’n ddefnyddiol hefyd fel cymorth i lawer o bynciau’r Dyniaethau megis Economeg, Seicoleg a Daearyddiaeth. Mae’r maes llafur UG mewn Mathemateg yn cwmpasu pynciau megis Mathemateg Bur, Ystadegau a Mecaneg yn cynnwys Algebra, Geometreg Ddadansoddol, Calcwlws, Trigonometreg, Cinemateg, Deddfau Mudiant Newton a Thebygolrwydd a Dehongli Ystadegol. Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n arbennig o ddawnus mewn Mathemateg, mae yna ddewis i astudio 2 fodiwl pellach mewn Mathemateg, gan alluogi astudiaeth fwy treiddgar. Byddai hyn yn eich galluogi i ennill ail gymhwyster Safon UG neu Uwch mewn Mathemateg (Mathemateg Bellach). Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd am astudio am radd mewn Mathemateg neu Beirianneg.

Gofynion Mynediad

O leiaf chwe TGAU Graddau C neu uwch, yn cynnwys gradd B neu uwch mewn TGAU Mathemateg Haen Uwch neu Ganolradd, a Gradd C mewn Rhifedd. Bydd rhaid i fyfyrwyr sydd eisiau astudio Mathemateg Bellach feddu ar A* mewn TGAU Mathemateg a phroffil TGAU o safon dda.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Coleg Castell-nedd Dilyniant

23

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Mathemateg yn ofyniad neu’n bwnc sy’n cael ei ffafrio ar gyfer ystod eang o gyrsiau yn y brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys: Mathemateg, Gwyddoniaeth, Meddygaeth, Peirianneg, Economeg, Cyfrifyddu ac Astudiaethau Busnes. Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Mathemateg Bellach yn bwnc sy’n cael ei ffafrio ar gyfer ystod eang o gyrsiau prifysgol mewn: Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg ac Economeg.  HNC Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig  HNC Peirianneg (Peirianneg Gyffredinol)  HNC Peirianneg (Mecanyddol).

Safon U Astudiaethau’r Cyfryngau Cerddoriaeth Mae Astudiaethau'r Cyfryngau yn canolbwyntio ar lawer o bethau yr ydych eisoes yn eu hadnabod a'u mwynhau megis ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddoriaeth a hysbysebion. Byddwn yn eich dysgu sut i ystyried cynhyrchion o'r fath yn feirniadol drwy feddwl yn ddadansoddol am sut maent yn cael eu creu a'u defnyddio. Mae Astudiaethau'r Cyfryngau hefyd yn cynnwys gwaith ymarferol, lle rydych yn dysgu'r technegau a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu eich testun cyfryngau eich hun. Efallai byddwch yn cynhyrchu fideos pop, hysbysebion teledu, hysbysebion mewn cylchgronau, animeiddio cyfrifiadurol, gwefannau a fideos dogfennol. Yn anad dim, dylech ddod yn fwy ymwybodol o'ch arferion wrth ddefnyddio'r cyfryngau ac yn fwy tueddol i gwestiynu’r cynnwys.

Mae hwn yn gwrs trylwyr a heriol. Mae Cerddoriaeth yn bwnc sy'n uchel ei barch a gellir ei astudio ochr yn ochr â'r rhan fwyaf o gyfuniadau pwnc. Mae tair uned ym mhob blwyddyn o'r cwrs. Y rhain yw: perfformio, cyfansoddi ac arfarnu. Byddwch yn astudio amrywiaeth o gerddoriaeth o'r cyfnod clasurol i'r ugeinfed ganrif/unfed ganrif ar hugain yn ogystal â naill ai theatr gerddorol, roc a cherddoriaeth boblogaidd neu jazz. Bydd disgwyl i chi gyfansoddi dau gyfansoddiad y flwyddyn. Bydd gennych hawl i dderbyn gwers unigol bob wythnos ar eich offeryn o ddewis /llais a ddarperir gan y Coleg fel rhan o’r Academi Cerddoriaeth. Ceir amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a chyngherddau, gwyliau a theithiau a gobeithio y byddwch yn cymryd rhan ynddynt.

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Cymraeg a/neu Saesneg.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Gallai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at astudiaethau pellach yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth, Darlledu a Chyfathrebu ar lefel addysg uwch neu gyflogaeth yn y diwydiannau darlledu a hysbysebu. Mae'r pwnc hwn yn cyfuno'n dda â chymwysterau Safon UG/Uwch mewn Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio, Astudiaethau Ffilm, Astudiaethau Cyfathrebu, Saesneg ac Ieithoedd.

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg a/neu Cymraeg. Dylech fod yn berfformiwr hyderus, gyda gallu sy’n cyfateb i Radd 5 O LEIAF ar eich offeryn/llais ar gyfer UG a gallu sy’n cyfateb i Radd 6 O LEIAF ar gyfer U2. Mae'r gallu i ddarllen nodiant staff yn ddymunol, neu o leiaf awydd i wneud hynny. Mae Gradd 5 theori [ABRSM] yn ddull delfrydol o ymbaratoi ar gyfer y cwrs, er nad yw'n hanfodol.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Gall myfyrwyr symud ymlaen i Addysg Uwch, conservatoires cerddoriaeth neu gyflogaeth ym meysydd cerddoriaeth ac adloniant.  HND Cerddoriaeth


Safon U Ffotograffiaeth

Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am ffotograffiaeth fel celfyddyd fynegiannol. Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd y ffotograff fel mwy na chyfrwng cofnodi yn unig ond hefyd fel dull cyfathrebu. Byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu ffotograffau sy'n weledol ddiddorol, trwy archwilio prosesau'r ystafell dywyll a phrosesau digidol. Mae'r cwrs hwn yn hynod o ymarferol a heriol ond mae'n ddamcaniaethol hefyd, a byddwch yn cyflawni gwersi mewn ymwybyddiaeth gyd-destunol er mwyn eich helpu i wella eich sgiliau dadansoddol. Os ydych yn berson creadigol, llawn hunangymhelliant ac annibynnol sy'n hoffi her, dyma'r cwrs i chi. Byddai myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Safon Uwch eraill mewn Celfyddyd Gain a Chyfathrebu Graffeg yn arbennig o addas ar gyfer y cwrs hwn.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Cymraeg, Celf a Dylunio, Dylunio Graffeg.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae llawer o fyfyrwyr sy'n astudio ffotograffiaeth yn camu ymlaen i astudio'r pwnc hyd at lefel AU. Mae hyn yn agor amrywiaeth o lwybrau gyrfa, o weithio mewn ffotograffiaeth fasnachol, hysbysebu, ffotograffiaeth olygyddol, ffoto-newyddiaduraeth neu fel artist ffotograffig.  Gradd Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio.

Addysg Gorfforol

Mae Addysg Gorfforol yn bwnc sy'n cwmpasu astudio gweithgarwch corfforol a chwaraeon o safbwynt anatomeg, iechyd a chyflyrau seicolegol dynol. Mae’n gysylltiedig hefyd â gwella sgiliau personol a pherfformiad yr unigolyn drwy ddewis a defnyddio technegau priodol a strategaethau i wella. Bydd hyn hefyd yn eich galluogi i arwain pobl eraill yn llwyddiannus wrth ddatblygu eu sgiliau personol a pherfformiad mewn chwaraeon/ymarferion. Byddwch yn cwmpasu pynciau megis Anatomeg a Ffisioleg, Dysgu Sgiliau Symud, Hyfforddi, Astudiaethau Cymdeithasol Diwylliannol, Astudiaethau Hanesyddol, Seicoleg Chwaraeon, Technoleg a Dadansoddiad mewn Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys yn ddelfrydol gradd B mewn Gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg. Dylai myfyrwyr feddu ar lefel uchel o gymhwysedd mewn 1 gamp a/neu brofiad o hyfforddi neu ddyfarnu. Mae Gradd B mewn TGAU Addysg Gorfforol NEU gymhwyster BTEC cyfatebol hefyd yn angenrheidiol.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch a gyrfaoedd: e.e. Addysgu, Chwaraeon a Hamdden, Rheoli Chwaraeon, y Lluoedd, yr Heddlu, Ffisiotherapi, Meddygaeth, Tylino Chwaraeon, Therapïau Cyfannol, Therapi Galwedigaethol, Hyfforddiant Personol, Hyfforddi, Seicoleg Chwaraeon, Busnes a Chyllid.  HND Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer (ar ôl HNC)  HND Chwaraeon (Chwaraeon Cymunedol & Gweithgarwch Corfforol) (ar ôl HNC)  HND Plismona. 24


Safon U Ffiseg

Os ydych yn rhyfeddu at y byd o'ch cwmpas ac os hoffech ddeall mwy amdano neu os ydych yn meddwl am astudio peirianneg, meddygaeth, electroneg, seryddiaeth neu dechnoleg, Ffiseg yw'r pwnc i chi. Os ydych yn penderfynu dod yn fyfyriwr Ffiseg, fel rhan o'ch hyfforddiant, byddwch yn dysgu: cynllunio arbrofion, defnyddio mathemateg a chyfrifiadura mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, arsylwi ar ddigwyddiadau a gofyn cwestiynau synhwyrol yn eu cylch, gweithio'n hapus mewn timau, egluro eich syniadau i bobl o'ch cwmpas, datblygu syniadau newydd a meddwl am ddamcaniaethau newydd, datblygu sgiliau datrys problemau rhesymegol a dadansoddol.

Coleg Castell-nedd Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg ac mae gradd B neu uwch mewn Mathemateg yn hanfodol. Gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol a Gwyddoniaeth Graidd (Haen Uwch) neu bynciau gwyddoniaeth ar wahân yn hanfodol.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

25

Gyda chymhwyster mewn Ffiseg, gallech ddewis gweithio yn yr awyr agored, mewn ysbyty, mewn tîm labordy, mewn amrywiaeth o feysydd peirianneg, mewn addysg neu mewn llawer o amgylcheddau eraill. I rywun sy'n awyddus i ddod o hyd i swydd mewn diwydiant, mae yna gyfleoedd ym meysydd Deunyddiau, Cyfrifiadura, Ynni neu Wyddor Bwyd. Mae gwaith cyffrous hefyd mewn Meteoroleg, Telathrebu, Newyddiaduraeth Wyddonol, Awyrofod a Gwaith Fforensig.  HNC Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig  HNC Peirianneg (Peirianneg Gyffredinol)  HNC Peirianneg (Fecanyddol)

CBAC L3 Ymarfer Adeiladu Proffesiynol

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i fyfyrwyr fframwaith cynhwysfawr o wybodaeth, dealltwriaeth a hyrwyddo o ran sgiliau cymhwysol y mae'r sector amlddisgyblaeth hwn yn dibynnu arno. Caiff ei ddarparu yn y coleg gan staff profiadol ac yn y gweithle gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar hyn o bryd o fewn y diwydiant. Mae'r cymhwyster yn werth hyd at 56 o bwyntiau UCAS (cyfwerth â Safon Uwch), ac yn rhoi cipolwg cyfoes ar arferion rheoli adeiladwaith modern, sy'n cynnwys y technolegau, yr ymddygiad a'r arloesi sy'n ategu darparu adeiladau eiconig o'r radd flaenaf. Bydd y cymhwyster yn cefnogi dilyniant dysgwyr o lefel TGAU yn arbennig mewn pynciau fel Dylunio a Thechnoleg, Adeiladwaith, Peirianneg ac Astudiaethau Busnes.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Gradd Teilyngdod Diploma L2 neu 5 TGAU yn cynnwys C mewn Mathemateg.

Dilyniant Dilyniant i addysg uwch neu brentisiaethau uwch/gradd.


Safon U Seicoleg

Os ydych erioed wedi meddwl 'Pam ydyn ni'n anghofio?' neu 'Pam mae rhai pobl yn fwy ymosodol nag eraill?' neu ‘Sut mae ein hymennydd yn gweithio?' yna rydych wedi gofyn rhai o'r cwestiynau y mae seicolegwyr yn eu gofyn. Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o’r meddwl ac ymddygiad. Mae rhai o'r pynciau yr ydym yn eu cwmpasu yn cynnwys Ymddygiad Troseddol, Sgitsoffrenia, Straen, Arbrofi ar Anifeiliaid a llawer mwy. At hynny, byddwch yn dysgu am ddulliau ymchwil y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i ymchwilio ymddygiad. Bydd Seicoleg yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o ymddygiad dynol i chi, ond bydd hefyd yn datblygu eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a gwerthuso, yn ogystal â meddwl yn feirniadol.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg Gradd C, Saesneg Iaith Gradd B a Gradd C mewn Gwyddoniaeth Ddwbl neu Driphlyg.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae ein myfyrwyr Seicoleg llwyddiannus wedi camu ymlaen i amrywiaeth helaeth o gyrsiau a gyrfaoedd; e.e. graddau Seicoleg, Addysgu, Proffesiynau Iechyd, Y Gyfraith, Troseddeg, Hysbysebu, Cwnsela, Gwyddoniaeth Filfeddygol a Bioleg i enwi ond rhai.  Gradd Sylfaen Astudiaethau Gofal  Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod  BSc (Anrh) Gradd Atodol Astudiaethau Gofal  Diploma AU Iechyd y Cyhoedd (Atodol)  Tystysgrif AU Camddefnyddio Sylweddau  Tystysgrif AU Oedolion sy’n Agored i Niwed

Astudiaethau Crefyddol

Mae Astudiaethau Crefyddol yn golygu astudio Crefydd ac Arferion Crefyddol o safbwynt cymdeithasol. Mae'n canolbwyntio ar faterion cyfoes ac yn eich annog i ymgysylltu'n feirniadol. Mae'r cwrs yn cynnwys tri phwnc: Cyflwyniad i Astudiaethau Crefyddol; Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg; ac Athroniaeth Crefydd. Astudir pob un o'r tri phwnc yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio un o'r pynciau yn fanylach ar lefel uwch.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae'r fanyleb hon yn darparu sylfaen addas ar gyfer Astudiaethau Crefyddol neu faes cysylltiedig drwy ystod o gyrsiau addysg uwch (e.e. cwrs gradd yn y maes hwn neu ddisgyblaeth gysylltiedig), camu ymlaen i'r lefel nesaf o Gymwysterau Galwedigaethol (e.e. drwy ei gyfraniad at ddatblygu sgiliau astudio a dealltwriaeth o faterion moesegol a chymdeithasol yr ymgeisydd) neu fynediad uniongyrchol i gyflogaeth. Mae llu o gyfleoedd cyflogaeth ar gael i'r rhai sy'n astudio'r pwnc hwn e.e. Nyrsio, Gwaith Cymdeithasol, Addysgu, Newyddiaduraeth, yr Heddlu a Gwaith Gofal.

Cymdeithaseg

Mae Cymdeithaseg yn bwnc a fydd yn eich annog i gwestiynu’r gymdeithas yr ydych yn byw ynddi. O berthnasoedd teuluol i anghydraddoldeb cymdeithasol, o rôl addysg wrth lunio eich syniadau i ystyried pam mae rhai pobl yn troi at droseddu tra bo eraill o gefndir tebyg yn troi eu cefn arno. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn ystyried sut mae nodweddion cymdeithasol unigolyn fel oedran, ethnigrwydd, rhyw, dosbarth cymdeithasol a chenedligrwydd yn gallu llunio eu profiadau bywyd. Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n mwynhau dadleuon bywiog a dadansoddi a gwerthuso'r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith Gradd C a TGAU Saesneg Llenyddiaeth Gradd C.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae'r cwrs yn darparu sylfaen dda ar gyfer astudiaethau pellach ym maes Cymdeithaseg neu bynciau cysylltiedig ar lefel addysg uwch a gyrfaoedd mewn Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Troseddeg, Sefydliadau Elusennol a'r Heddlu.

26


Safon U Sbaeneg

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus ac effeithiol mewn Sbaeneg yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant y gwledydd a'r cymunedau lle y siaredir Sbaeneg. Bydd y cwrs yn magu dealltwriaeth ac agwedd frwdfrydig tuag at ddysgu iaith gan annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaethau ieithyddol mewn cyd-destun ehangach. Mae'r cwrs UG yn cwmpasu themâu megis: bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy'n siarad Sbaeneg a deall y byd Sbaeneg ei iaith; mae'r rhaglen U2 yn ystyried Amrywiaeth a Gwahaniaeth a'r Ddwy Sbaen: 1936 ymlaen.

Gofynion Mynediad TGAU Gradd B mewn Cymraeg neu iaith dramor. Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith Gradd B. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Sbaeneg.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae’r rhagolygon gyrfa’n cynnwys: Addysgu, Cyfieithu, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Busnes, y Gyfraith a Pheirianneg.

Tecstilau

Byddwch yn cael profiad o ystod eang o weithdai tecstilau i ennill y sgiliau perthnasol a fydd eu hangen ar gyfer y cwrs. Mae'r rhain yn cynnwys detholiad o brosesau traddodiadol a chyfoes megis amrywiaeth o dechnegau argraffu, gwneud papur, gwneud ffelt, gwnïo a llaw a pheiriannau, trosglwyddo delwedd,'rag-rugs', llifo, batic, trin ffabrig a llawer mwy. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i archwilio'r technegau hyn drwy ei ddewis unigol o decstilau, ffasiwn, addurniadau i'r cartref, celfyddydau i'w gwisgo neu ategolion. Bydd y broses arbrofol hon yn datblygu drwy greu llyfr braslunio lle bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau megis darlunio, casglu ymchwil sylfaenol ac eilaidd perthnasol, dadansoddi'r gwaith a gynhyrchwyd a gwaith pobl eraill, gan greu samplau o decstilau arbrofol a chynhyrchu casgliad o ganlyniadau unigryw a fydd heb eu hail.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Cymraeg a/neu bortffolio boddhaol.

Coleg Castell-nedd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

27

Gall cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at astudiaethau pellach mewn Dylunio Tecstilau, Dylunio Patrwm Arwyneb, gwahanol agweddau ar Ddylunio Ffasiwn yn cynnwys Dylunio Ategolion, Dylunio Gemwaith a Ffotograffiaeth Ffasiwn / marchnata / prynu, dylunio ar gyfer y llwyfan, ac ati.  Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Dylunio 3D

Trwy archwilio eich prosiectau dylunio eich hun, mae'r cwrs hwn yn caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn dylunio a gwneud canlyniadau tri dimensiwn. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar y broses ddylunio sy'n datblygu trwy ddefnyddio amrywiaeth helaeth o offer a deunyddiau yn y gweithdy Dylunio 3D, gyda phob prosiect yn cael ei gwblhau gennych wrth i chi weithgynhyrchu'r cynnyrch yr ydych wedi'i ddylunio'n fedrus. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn ymchwil, creu/datblygu syniadau, arbrofi 3D, creu a gwerthuso prosiectau creadigol.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU yn cynnwys pwnc sy'n gysylltiedig â Celf a Dylunio/Dylunio a Thechnoleg yn ogystal â Saesneg /Mathemateg. Byddai myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Safon Uwch eraill mewn Cyfathrebu Graffig, Tecstilau a Pheirianneg yn arbennig o addas ar gyfer y cwrs hwn.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Gall cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at astudiaethau pellach neu yrfa mewn: Dylunio Cynhyrchion, Dylunio Diwydiannol, Dylunio Dodrefn, Cynhyrchu Crefft, Dylunio Gemwaith, Dylunio Theatr/Set, Cynllunio Mewnol, Dylunio Arddangosfeydd, Pensaernïaeth, Peirianneg.  Diploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio.


Safon U Lefel 3 Teithio

Bwriad y cwrs yw annog gwerthfawrogiad o faint a phwysigrwydd y diwydiant twristiaeth. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o unedau yn cynnwys: Cynnyrch Twristiaeth y Deyrnas Unedig, Cyrchfannau Twristiaeth ledled y Byd, y Diwydiant Twristiaeth Deinamig a Chynllunio Digwyddiadau ac Amserlenni. Drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, byddwch yn darganfod bod y diwydiant twristiaeth yn ddeinamig ac yn ymatebol i newid. Mae’r cymhwyster hwn yn un perffaith i roi'r sgiliau a'r priodoleddau i chi a fydd yn angenrheidiol wrth greu amrywiaeth lwyddiannus o yrfaoedd ym meysydd twristiaeth, digwyddiadau a lletygarwch ond hefyd y sector busnes ehangach. Mae Lefel 3 mewn Twristiaeth yn gwrs poblogaidd sydd â hanes profedig o lwyddiant yma yn y Coleg. Trwy astudio'r diwydiant cyffrous a deinamig hwn bydd gennych gyfle i gael mynediad at lu o opsiynau gyrfa o fewn y diwydiant, a ystyrir yn ddiwydiant gorau'r byd.

Gofynion Mynediad Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg.

Cymraeg Iaith Gyntaf

Mae’r cwrs hwn wedi’i seilio ar destunau gosod, gramadeg, ffilm ac ysgrifennu creadigol. Bydd myfyrwyr UG yn trafod y ffilm ‘Hedd Wyn’ a’r ddrama ‘Y Tŵr’ gan Gwenlyn Parry. Bydd arholiad llafar, dau ddarn o waith cwrs ysgrifenedig ac arholiad ysgrifenedig. Bydd myfyrwyr U2 yn astudio rhyddiaith yr Oesoedd Canol a barddoniaeth yr Hengerdd a’r Cywyddau. Bydd arholiad llafar ac arholiadau ysgrifenedig ychwanegol a fydd yn gofyn i fyfyrwyr werthfawrogi llenyddiaeth a’r Gymraeg mewn cyddestun.

Gofynion Mynediad

Bydd angen Chwe TGAU, Graddau A*-C yn cynnwys Mathemateg, Saesneg a Chymraeg Iaith a Llenyddiaeth (Iaith Gyntaf) Gradd B neu uwch.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae’r cwrs hwn yn sylfaen dda i gamu ymlaen i gyflogaeth yn y meysydd canlynol - Dysgu, Gwleidyddiaeth, Cyfieithu, Marchnata, Busnes, Y Gyfraith, y Cyfryngau a Pheirianneg.

Cymraeg Ail Iaith

Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar destunau gosod, gramadeg a ffilmiau. Mae angen dangos diddordeb yn yr iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy wrando ar raglenni radio Cymraeg a gwylio S4C. Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu trwy’r sgiliau canlynol: darllen, ysgrifennu a siarad. Mae gwersi’n cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd y lefel uchaf o ran cywirdeb a rhuglder.

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch. TGAU Gradd B mewn Cymraeg Ail Iaith Haen Uwch Cwrs Llawn. Bydd y Cwrs Byr Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ystyried ar radd A neu uwch.

Coleg Castell-nedd Dilyniant

Mae'r cwrs yn darparu sylfaen dda ar gyfer astudiaeth bellach o'r Gymraeg neu bynciau cysylltiedig ar lefel Addysg Uwch a gyrfaoedd mewn Addysgu, Cyfieithu, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Busnes, Y Gyfraith, Peirianneg, Addysg Gorfforol.  Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion.

Coleg Castell-nedd Dilyniant Mae’n addas ar gyfer unrhyw ddysgwr sydd am gamu ymlaen yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau yn ogystal â busnes yn gyffredinol neu’r cyfle i symud ymlaen i Addysg Uwch drwy ddetholiad o raglenni.  HNC/HND/BA (Anrh) Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau 28


Prentisiaethau Prentisiaethau Sylfaen Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chael cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen. Dyma’r llwybrau hyfforddi:  Cyfrifeg  Amaethyddiaeth  Mecaneg Amaethyddol  Gofal  Gweinyddiaeth Fusnes  Gofal Plant a  Adeiladwaith Gwaith Chwarae  Peirianneg  Gwasanaethau  Cerbydau Modur Cwsmeriaid  Chwaraeon  Lletygarwch ac Arlwyo  Atgyweirio Cyrff Cerbydau  Manwerthu  Arwain a Rheoli Tîm

Hyfforddeiaethau

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu:  Sgiliau Cyflogadwyedd  Cyfle i roi cynnig ar nifer o wahanol swyddi  Mynediad i brofiad gwaith o safon uchel.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Beth yw buddion Hyfforddeiaeth Ymgysylltu?

29

 Lwfans hyfforddi bob wythnos  Teithio â chymhorthdal  Cael profiad allweddol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol  Cyfle i wella sgiliau Mathemateg a Saesneg  Adeiladu hyder  Gwella eich rhagolygon hirdymor a'r potensial i ennill arian.

Ar ddiwedd yr Hyfforddeiaeth, bydd modd i chi:  Camu ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 neu Brentisiaeth  Camu ymlaen i gwrs academaidd  Gwneud gwaith gwirfoddol  Dilyn llwybr gyrfa amgen.

Bydd y rhaglen hon yn cynnig dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 2, detholiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a thystysgrif dechnegol berthnasol. Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr am bedwar diwrnod ac yn mynd i'r Coleg am un ddiwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a'ch helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru, dros 16 oed heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.

Pam dod yn brentis?  Ennill arian wrth ddysgu - ennill cyflog  Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu heriau newydd  Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol  Cyfleoedd dilyniant rhagorol.

Pa fath o brentisiaethau sydd ar gael? Ceir tri math o brentisiaeth y gallwch wneud cais amdanynt yn dibynnu ar eich cymwysterau a sgiliau presennol:  Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2  Prentisiaeth - Lefel 3  Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Cysylltwch â’r tîm os gwelwch yn dda ar: Coleg Castell-nedd a Choleg Afan: 01639 648064 neu anfonwch e-bost: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth Mae sgiliau busnes yn hynod drosglwyddadwy sy'n golygu y gallech weithio mewn nifer o ddiwydiannau. Mae ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer bywyd a gwaith trwy ddatblygu sgiliau sy'n diwallu anghenion cyflogwyr neu'n eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n helpu i ehangu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn busnes, cyfrifeg, teithio a thwristiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, hamdden, manwerthu, gweinyddu busnes a rheoli digwyddiadau. Byddwch yn mwynhau profiad addysgu amrywiol yng Ngrŵp Colegau NPTC gyda phrosiectau byw, gwibdeithiau a'r cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau menter, gan roi'r sgiliau angenrheidiol i ddarpar entrepreneuriaid i ddod yn arweinwyr busnes yfory.

Rhagolygon Gyrfa

Disgwyliadau Cyflog £30-60k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

11557 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Cyfrifydd Gweinyddwr Swyddog Marchnata Cynorthwyydd Personol Bancio Adnoddau Dynol Rheoli Digwyddiadau Gweithrediadau Teithio Staff Cwmnïau Hedfan Manwerthu

Prentisiaethau Ar Gael

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 30


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth BTEC Lefel 1/2 Dysgu Carlam mewn Busnes

Mae’r cwrs cyffrous ac ymarferol hwn yn eich cyflwyno i Fusnes a’r llu o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi. Byddwch yn astudio tair uned graidd ochr yn ochr ag unedau gorfodol ac arbenigol. Bydd yr unedau craidd yn eich cyflwyno i fusnes gyda rhai ohonynt yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau entrepreneuraidd. Mae unedau arbenigol yn rhoi cipolwg i chi ar feysydd eraill y diwydiant megis Marchnata, Darparu a Gwella Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gweithio mewn Timau Busnes a Busnes Ar-lein. Un o brif amcanion y cymhwyster hwn yw eich helpu i gamu ymlaen i’r byd gwaith yn y pen draw. Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd a fydd yn eich helpu i addasu i rôl sy’n newid yn gyson - rhywbeth sydd o bwys mawr er mwyn goroesi yn yr economi fyd-eang.

Hyd Blwyddyn Coleg

Afan, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU A*-E.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

31

Gallwch gamu ymlaen i gwrs lefel 3 os enillir Teilyngdod neu geisio swydd.

BTEC Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Busnes

(Yn arwain at Ddiploma Estynedig mewn Busnes - Blwyddyn 2) Mae'r Diploma Sylfaen ar gyfer dysgwyr sy'n bwriadu astudio busnes fel cwrs amser llawn, un flwyddyn, neu ar gyfer y rhai sy'n dymuno ei astudio ochr yn ochr â maes astudio cyferbyniol neu ategol arall, fel rhan o gwrs dwy flynedd. Mae cymwysterau cenedlaethol BTEC heddiw yn heriol, fel y byddech yn disgwyl gan y cymhwyster dysgu cymhwysol uchaf ei barch yn y DU. Bydd yn rhaid i chi ddewis a chwblhau amrywiaeth o unedau, bod yn drefnus, gwneud rhai asesiadau y byddwn yn eu gosod a'u marcio, a chadw portffolio o'ch aseiniadau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Dilyniant Gallwch deimlo'n falch o ennill BTEC oherwydd, waeth bynnag eich cynlluniau mewn bywyd – p'un a ydych yn penderfynu astudio ymhellach, mynd ymlaen at waith neu brentisiaeth, neu sefydlu eich busnes eich hun – bydd eich BTEC Diploma Sylfaen yn basbort i lwyddiant yng ngham nesaf eich bywyd.


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes gyda CBC

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa fusnes lwyddiannus. Bydd y Diploma Estynedig L3 yn eich cyflwyno i ystod eang o lwybrau galwedigaethol ac yn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach. Mae’r cwrs hwn yn un eang ac ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, ac mae’n cysylltu â phob math o fusnesau lleol a chenedlaethol. Mae pob math o weithgareddau menter wedi’u datblygu i nodi unrhyw ddarpar entrepreneuriaid. Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol. Bydd siaradwyr gwadd o fusnesau lleol a chenedlaethol yn cyfrannu hefyd, a byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau grŵp a chyfnod o brofiad gwaith. Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Teithio a Thwristiaeth Lefel 1 a 2

Yn gyntaf, byddwch yn astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 1 mewn Teithio a Thwristiaeth lle y byddwch yn archwilio'r sector Teithio a Thwristiaeth drwy astudio amrywiaeth o unedau. Bydd yr asesiad ar gyfer y cymhwyster Lefel 1 yn gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol a fydd yn cael eu cwblhau yn ystod chwe wythnos gyntaf y cwrs. Ar ôl cwblhau'r cwrs Lefel 1 yn llwyddiannus, byddwch yn gallu parhau gyda'ch astudiaethau ar Lefel 2. Mae Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth yn cynnwys chwe uned: dwy uned orfodol a phedair uned ddewisol. Bydd y pynciau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys: Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth, Y Diwydiant Lletygarwch, Meysydd Awyr a Chwmnïau Awyrennau a Threfnu Digwyddiadau. Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag atyniadau a chyrchfannau twristiaeth a fydd yn rhoi cipolwg ar y diwydiant i chi ac yn eich galluogi i siarad â phobl sy'n gweithio yn y sector. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ailsefyll eich TGAU mewn Mathemateg a Saesneg os oes angen.

Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd

Hyd

Gofynion Mynediad

Coleg

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Dilyniant Cyfleoedd dilyniant i Addysg Uwch yng Ngrŵp Colegau NPTC neu sefydliadau eraill.

Blwyddyn Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Dau TGAU Graddau C neu uwch.

Dilyniant

Byddwch yn cael y cyfle i ymweld ag atyniadau a chyrchfannau twristiaeth a fydd yn rhoi cipolwg ar y diwydiant i chi ac yn eich galluogi i siarad â phobl sy'n gweithio yn y sector. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ail-sefyll eich TGAU mewn Mathemateg a Saesneg os oes angen.

32


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth BTEC Diploma Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio unedau craidd pwysig a fydd yn rhoi sylfaen dda i chi o ran dysgu sut mae busnesau teithio a thwristiaeth yn gweithredu, yn eich cyflwyno i bwysigrwydd y DU fel cyrchfan gwyliau a pham mae gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol yn hollbwysig i lwyddiant sefydliadau. Bydd unedau arbenigol yn dangos i chi sut mae atyniadau ymwelwyr yn cael eu datblygu a byddwch yn dysgu am effaith trychinebau naturiol, terfysgaeth a ffactorau eraill sy’n effeithio ar dwristiaeth yn fyd-eang. Bydd eich astudiaethau yn yr ystafell ddosbarth yn cael eu hategu gan ymweliadau ag atyniadau a chyrchfannau eraill, lle byddwch yn gwrando ar straeon pobl sy’n gweithio yn y diwydiant; bydd hyn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a dysgu mwy am y diwydiant.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU A*-E.

33

Dilyniant Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i chi gamu ymlaen i’r cwrs BTEC Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth. Fel arall, gallech gael cyflogaeth yn un o'r sefydliadau teithio a thwristiaeth niferus.

BTEC Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth gyda CBC Mae’r cwrs cyffrous a deinamig hwn yn eich cyflwyno i’r diwydiant teithio a thwristiaeth a’r cyfoeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi yn niwydiant gorau’r byd. Mae cwblhau’r cwrs Diploma Estynedig dwy flynedd hwn yn llwyddiannus yn gyfwerth â chwblhau 3 chymhwyster Safon Uwch, a byddwch yn gallu cael mynediad at Addysg Uwch. Mae’r sgiliau rydych yn eu datblygu wrth astudio teithio a thwristiaeth yn rhai trosglwyddadwy, sy’n eich gwneud yn ymgeisydd rhagorol ar gyfer amryw o yrfaoedd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth a thu hwnt.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Afan, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Dilyniant Bydd cwblhau'r cwrs yn caniatáu i chi gamu ymlaen i Addysg Uwch. Mae cyfleoedd gyrfa’n cynnwys: cynllunio a datblygu twristiaeth; gallai hyn fod gydag awdurdod lleol neu fwrdd twristiaeth megis Croeso Cymru. Mae cyfleoedd yn y sectorau rheoli gwestai a digwyddiadau yn opsiwn hefyd, a gallai gynnwys cynllunio digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau cerddoriaeth neu gynllunio priodasau. Mae meysydd eraill yn cynnwys gweithio mewn maes awyr, i gwmni awyrennau neu fel cynrychiolydd dramor.

Mynediad i AU - Busnes a Gwasanaethau Ariannol

Bydd y cwrs mynediad i AU yn eich cyflwyno i sgiliau Busnes sy'n cwmpasu themâu eang yn cynnwys marchnata, rheolaeth, cyllid, economeg a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau astudio fel cynllunio aseiniadau, rhifedd ac ysgrifennu adroddiadau. Asesir y rhan fwyaf o'r cwrs drwy waith cwrs gyda dau asesiad dan reolaeth. Cydnabyddir y cymhwyster yn genedlaethol gan Agored Cymru.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am fusnes. Byddwch yn cael cyfweliad byr i drafod eich addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn.

Dilyniant Bydd cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus yn eich paratoi ar gyfer astudio mewn addysg uwch mewn busnes neu feysydd pwnc eraill fel cyllid, twristiaeth a'r gwyddorau cymdeithasol. Bydd yn eich paratoi ar gyfer y gweithle drwy ddatblygu sgiliau annibynnol mewn astudio, rheoli amser a threfniadaeth ac yn ehangu eich gwybodaeth am y ffordd y mae busnesau yn gweithio.


Cyfrifiadura a TG Mae'r Ysgol Gyfrifiadura a TG yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, gan gyflwyno opsiynau newydd yn gyson mewn ymateb i ofynion y diwydiant. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau TG. Mae disgwyl i gyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu dyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf ac mae TG a Technoleg Ddigidol yn prysur ddod yn un o’r gyrfaoedd sy’n denu’r tâl uchaf yn y DU . Tyfodd Diwydiannau Technoleg Digidol y DU 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU (mewn trosiant) yn 2016, yn creu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.56 miliwn o swyddi ledled y DU, ac felly'n dangos ei rôl allweddol mewn adferiad economaidd y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw: datblygu apiau a meddalwedd, rheoli data a dadansoddi a chaledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae'r Ysgol Gyfrifiadura a TG yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio .NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Mae pob un o'n cyrsiau yn cael eu darparu mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer cyflawni adeiladu a datblygu rhwydweithiau cyfrifiaduron.

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

10950

*

Disgwyliadau Cyflog £25-50k* *Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Datblygwr Cymwysiadau Dylunydd y We Rhaglennydd

Technegydd Cyfrifiaduron

Arbenigwr Aml-Gyfryngau Dylunydd Gemau

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dadansoddwr Systemau

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 34


Cyfrifiadura a TG Lefel 1 Diploma mewn TG

Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymarferol trwy edrych ar sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant a masnach gan ddefnyddio pob math o raglenni meddalwedd a thrwy edrych ar swyddi sy’n cynnwys gweithio gyda TGCh.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

O leiaf 2 gymhwyster TGAU Graddau E a F a chyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant Mae’r Diploma Lefel 1 mewn TG yn gallu sefyll ar ei ben ei hun fel cymhwyster sylfaenol mewn TGCh. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel sail i gamu ymlaen i gyrsiau addysg bellach, yn cynnwys y Dystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn TGCh ynghyd â chymwysterau Lefel 2 eraill.

Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

Bydd dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster hwn yn elwa o ddysgu am wahanol agweddau ar TG a thechnoleg cyfrifiadura ar draws gwahanol lwybrau. Bydd yn apelio at fyfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau TGCh a bydd yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant TG. Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy uned a asesir yn allanol a fydd yn helpu dysgwyr wrth iddynt gamu ymlaen i ddysgu galwedigaethol ar lefel uwch.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo* neu 3 TGAU Graddau A* - C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Cymhwyster Lefel 1 mewn TG Teilyngdod neu Ragoriaeth a chyfweliad llwyddiannus.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

35

Gall dysgwyr gamu ymlaen i gymwysterau lefel uwch eraill mewn TGCh neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau busnes a TGCh.


Cyfrifiadura a TG Lefel 2 Diploma Technegol mewn Technoleg Ddigidol (Rhwydweithio a Seiberddiogelwch)

Mae'r Diploma Technegol Lefel 2 hwn yn gymhwyster ardderchog ar gyfer y dysgwyr hynny sydd am arbenigo mewn galwedigaeth rwydwaith neu swydd dechnegol. Bydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith neu brentisiaeth drwy roi iddynt y cyfle i ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, sgiliau technegol ac ymarferol, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylcheddau sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall y cymhwyster hefyd gynnig dilyniant i gymwysterau Cyfrifiadura a TG Lefel 3. Bydd y cwrs hefyd yn datblygu sgiliau gweithle trosglwyddadwy, fel cyfathrebu da a'r gallu i weithio mewn tîm, y mae cyflogwyr wedi'u nodi fel sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau cyflogaeth yn y sector ac ar gyfer dilyniant unwaith y mae'r dysgwr yn gweithio.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo*, neu 3 TGAU Graddau A* - C yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg. Cymhwyster Lefel 1 mewn TG - Teilyngdod neu Ragoriaeth a chyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant

Gall dysgwyr gamu ymlaen i gymwysterau lefel uwch eraill neu brentisiaeth mewn TGCh neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau busnes a TGCh.

Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn:

 Cyfrifiadura a TG  Gemau & Dylunio Graffeg  Datblygu'r We ac Apiau

Mae'r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 yn gymhwyster arbenigol sy'n gysylltiedig â gwaith yn y sector cyfrifiadura a TG. Ei nod yw darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth. Gall y cwrs hwn ddarparu cyfleoedd datblygu gyrfa a llwybr clir i gamu ymlaen i addysg uwch a rhaglenni gradd a datblygiad proffesiynol yn yr un meysydd astudio neu rhai cysylltiedig. Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cwmpasu Cyfrifiadura a TG sylfaenol. Yn yr ail flwyddyn, mae gan fyfyrwyr ddewis o arbenigo naill ai ym maes Cyfrifiadura a TG, Gemau a Dylunio Graffeg neu Ddatblygu’r We ac Apiau.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog, a Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a 5 TGAU Graddau A-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg ac i'r rhai sy'n dod i'r cwrs gyda chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifiadura a/neu TG, gofynnwn am Deilyngdod o leiaf.

Dilyniant

Addysg Uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh.

36


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Mae'r diwydiant Adeiladwaith yn dal i fwynhau twf sylweddol, yn parhau i fod yn sector sy'n cael ei flaenoriaethu'n strategol gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa boddhaus gyda chyflogau uchel. Bwriedir cynnal nifer o brosiectau ar raddfa fawr yn rhanbarth De Cymru yn cynnwys adfywio canol Dinas Abertawe, datblygiadau tai preifat ac, wrth gwrs, prosiectau seilwaith a fydd yn cefnogi’r "Fargen Ddinesig" yn Abertawe. Mae prosiectau enfawr eraill ar y gweill mewn rhanbarthau eraill y DU a fydd yn cynnig rhagolygon aruthrol o ran cyflogaeth.

Prentisiaethau Ar Gael

Mae'r cyrsiau yn cynnwys Gosod Brics, Gwaith Coed a Gwaith Saer, Paentio ac Addurno, Plastro a Diploma Estynedig BTEC mewn Adeiladwaith/Peirianneg Sifil ac mae llawer o fyfyrwyr sy'n astudio gyda ni yn symud ymlaen i brentisiaeth a/neu ddysgu pellach. Mae gennym gysylltiadau â chyflogwyr yn Awstralia hyd yn oed ac mae sawl un o'n myfyrwyr Gwaith Coed a Gwaith Saer wedi manteisio arnynt ac maent yn gweithio mewn hinsawdd fwy heulog erbyn hyn.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gyda champysau ym Mannau Brycheiniog, Castell-nedd, Y Drenewydd ac Abertawe, rydym yn cynnig cyfle heb ei ail i ddysgu ac ennill cymwysterau mewn crefft neu broffesiwn mewn lleoliad sy'n agos atoch chi.

37

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

2384

*

Disgwyliadau Cyflog

£30-60k* *Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Mae'r Ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn cynnig detholiad eang o gyrsiau lle y gall myfyrwyr gael budd o sesiynau a addysgir gan diwtoriaid arbenigol a brwdfrydig mewn ffordd ddiddorol a chefnogol.

Briciwr Saer Coed Plastrwr Peintiwr ac Addurnwr Rheolwr Prosiect Safle Peiriannydd Sifil Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Cwrs Sylfaen mewn Gweithrediadau Crefftau Adeiladu

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu gwybodaeth am iechyd a diogelwch, sesiynau ymarferol mewn gosod brics, plastro, saernïo, paentio, plymio, teilio a thrin a storio deunyddiau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol (cyfweliad).

Dilyniant Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i gwrs amser llawn megis Diploma yn eu maes o ddewis.

Diploma Lefel 1 mewn Gosod Brics

Mae hwn yn gwrs ymarferol a fydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n hanfodol i gael swydd yn y diwydiant adeiladu. Byddwch yn astudio sgiliau ymarferol y grefft, gwybodaeth am swyddi a thechnegau'r grefft a dysgu sut i:  Cynnal gweithrediadau gwaith blociau  Adeiladu amrywiaeth o waliau brics solet a cheudod gan ddefnyddio amrywiaeth o fondiau  Gosod adeileddau hyd at lefel cwrs atal lleithder Darperir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru hefyd yn ystod y cwrs.

Hyd Blwyddyn Coleg

Bannau Brycheiniog, Castellnedd, Abertawe

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 2 mewn Gosod Brics

Bydd y cwrs hwn mewn Gwaith Brics yn datblygu'r sgiliau trywel a ddysgwyd eisoes ar Lefel 1 a bydd yn eich ymbaratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau uwch yn y grefft a fydd yn cynnwys waliau ceudod, bwâu, amrywiaeth o fondiau gwahanol gan gynnwys bond briciau tew, bondiau Seisnig a Ffleminaidd, gwaith paneli addurnol a gwaith blociau.

Hyd Blwyddyn Coleg

Bannau Brycheiniog, Castellnedd, Abertawe

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Gosod Brics.

2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant

Dilyniant

Gellid ennill NVQ Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Trywel yn eich gweithle, neu gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Gosod Brics a gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu.

Gallwch symud ymlaen i ddilyn prentisiaeth mewn Gwaith Brics neu barhau i’r Diploma Lefel 2 amser llawn mewn Gosod Brics.

38


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer

Ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am swydd ym maes gwaith coed. Mae'n gwrs ymarferol cysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau profion hyfforddi ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, a phrofion ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu amrywiaeth o uniadau gwaith coed sylfaenol a defnyddio offer llaw a phŵer yn ddiogel i ddatblygu sgiliau gwaith coed a gwaith saer.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Castell-nedd ac Abertawe

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant Gallwch symud ymlaen i brentisiaeth gwaith coed a gwaith saer neu gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 amser llawn mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer.

Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer

Bydd y cwrs hwn yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a gafwyd ar Lefel 1 ac yn eich paratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd dysgwyr yn mynd i’r Coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn astudio Diploma Lefel 2. Bydd y dysgu yn adeiladu ar y Diploma Lefel 1 gydag unedau sy'n cynnwys: Gosodiad cyntaf (fframiau drysau a ffenestri, waliau stydiau a grisiau); Ail-osodiad (drysau, sgyrtin, architraf, nwyddau haearn, gwaith amgáu pibellau, ceginau a chladin); Adeiladwaith sgerbwd (lloriau a thoeau).

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Castell-nedd, Abertawe

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Gwaith Saer a Gwaith Coed.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am gael swydd yn y diwydiant adeiladu neu gamu ymlaen yn eich cyflogaeth bresennol. Gallwch hefyd barhau â'ch astudiaethau i'r lefel nesaf.

39


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Diploma Lefel 1 mewn Paentio ac Addurno

Mae'r cwrs paentio ac addurno hwn yn cynnwys elfennau ymarferol a theori. Cynhelir y sesiynau ymarferol mewn gweithdy â'r holl gyfarpar angenrheidiol, a darperir hyfforddiant gan hyfforddwyr/aseswyr cymwysedig sydd â chefndir yn y maes. Mae gwersi theori, yn cynnwys sgiliau hanfodol, yn darparu gwybodaeth sylfaenol o bwys a dealltwriaeth i gefnogi sesiynau hyfforddi ymarferol. Yn y cwrs hwn, byddwch yn:  Gosod a datgymalu offer mynediad  Paratoi amrywiaeth o arwynebau  Cymhwyso amrywiaeth o orffeniadau paent gyda brwsh a rholer  Hongian detholiad o orchuddiadau wal.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno

Bydd y cwrs paentio ac addurno hwn yn helpu i ddatblygu’r sgiliau a gafwyd eisoes ar lefel 1 ac yn eich paratoi chi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn rhoi sylw i sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau uwch y grefft a fydd yn cynnwys: Gwaith paratoi a chynllunio gwaith, sgiliau paentio a phapur wal technegol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Paentio ac Addurno.

Dilyniant Diploma NVQ Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno neu gyflogaeth gysylltiedig yn y diwydiant adeiladu.

Dilyniant NVQ Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno (gyda chyflogaeth mewn gweithle) neu gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno a chyflogaeth berthnasol yn y diwydiant adeiladu.

40


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Lefel 1 Diploma mewn Plastro

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swydd a/neu ddilyniant o ran gyrfa ym maes plastro. Byddwch yn dysgu sut i:  Paratoi arwynebau cefndir a chymysgu deunyddiau plastro  Cymhwyso cotiau crafu i gefndiroedd mewnol  Trwsio deunyddiau taflenni megis bwrdd plastr  Cymhwyso cotiau symudol i waliau  Cymhwyso cotiau gosod i waliau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd, Abertawe

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi camu ymlaen i ddyfarniad Canolraddol Lefel 2 a’r posibilrwydd o brentisiaeth fodern.

Diploma Lefel 2 mewn Plastro

Bydd y cwrs plastro hwn yn adeiladu ar y sgiliau plastro a ddysgwyd ar lefel 1 gan eich ymbaratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn cwmpasu sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth swydd-penodol a thechnegau uwch a fydd yn cynnwys gorffeniadau rendro allanol, panelu sych, lefelu lloriau a phlastro ffeibrog.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd, Abertawe

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil)

Mae'r cwrs adeiladu a pheirianneg sifil hwn yn gwrs lefel uwch, lle yr astudir amrywiaeth o fodiwlau adeiladu yn cynnwys iechyd, diogelwch a lles, tirfesur safleoedd, adeiladwaith gynaliadwy, a Mathemateg, Gwyddoniaeth a deunyddiau mewn adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Plastro.

Dilyniant Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at y Diploma Lefel 3. Gall y cymhwyster hwn arwain at NVQ 3 os caiff ei ategu gan dystiolaeth seiliedig ar waith.

Cwrs Newydd

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a TGAU pwnc penodol yn ôl y gofyn.

Dilyniant

 HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig.  HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil)  HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Mesur Meintiau).

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

CBAC Ymarfer Adeiladu Proffesiynol Lefel 3

41

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i fyfyrwyr fframwaith cynhwysfawr o wybodaeth, dealltwriaeth a hyrwyddo o ran sgiliau cymhwysol y mae'r sector amlddisgyblaeth hwn yn dibynnu arno. Caiff ei ddarparu yn y coleg gan staff profiadol ac yn y gweithle gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar hyn o bryd o fewn y diwydiant. Mae'r cymhwyster yn werth hyd at 56 o bwyntiau UCAS (cyfwerth â Safon Uwch), ac yn rhoi cipolwg cyfoes ar arferion rheoli adeiladwaith modern, sy'n cynnwys y technolegau, yr ymddygiad a'r arloesi sy'n ategu darparu adeiladau eiconig o'r radd flaenaf. Bydd y cymhwyster yn cefnogi dilyniant dysgwyr o lefel TGAU yn arbennig mewn pynciau fel Dylunio a Thechnoleg, Adeiladwaith, Peirianneg ac Astudiaethau Busnes.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Gradd Teilyngdod Diploma L2 neu 5 TGAU yn cynnwys C mewn Mathemateg.

Dilyniant Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi symud ymlaen i ddyfarniad Canolraddol Lefel 2 a'r posibilrwydd o brentisiaeth fodern.


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (‘CVP’) yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, y Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio. Dysgir pob cwrs yn ein cyfleusterau arbenigol ac mae modd defnyddio llefydd theatraidd arbennig o fodern. Rydym yn ganolfan greadigol ar gyfer dysgu a gallwch benderfynu dilyn y llwybr Safon Uwch gan brofi amrywiaeth o bynciau neu gallwch arbenigo mewn cwrs galwedigaethol amser llawn, ym maes y Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn rhan o amgylchedd deinamig gan gael eich cefnogi gan ddarlithwyr ysbrydoledig a brwdfrydig. Mae ein hystod helaeth o weithgareddau allgyrsiol ac Ysgoloriaeth Ddiwylliannol Grŵp Colegau NPTC yn cynnig yr elfen derfynol i’ch helpu i gyflawni’ch gwir botensial.

Disgwyliadau Cyflog

£ 20-25k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

1611 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Technegydd Cerddoriaeth Ffotograffydd Dylunydd Animeiddiad Teledu a Ffilmiau Coreograffydd Dawnsiwr Actor Cerddor Gweinyddwr y Celfyddydau Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 42


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio UAL Diploma L2 mewn Celf a Dylunio

Mae’r cwrs celf a dylunio yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn amrywiaeth o arbenigeddau. Mae’r maes llafur yn eang, gan gynnig llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae’r gallu i ddarlunio a sgiliau ymarferol yn bwysig hefyd a bydd angen llygad am liw a siâp, parodrwydd i arbrofi ac ymrwymiad.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A* - C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Estynedig a’u paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.

UAL Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio gyda Bagloriaeth Cymru

Mae’r cwrs celf a dylunio cyffredinol hwn yn galluogi dysgwyr i ennill profiad a sgiliau ymarferol ar draws pob math o feysydd celf a dylunio. Os ydych chi wedi ymrwymo i astudiaeth bellach neu yrfa mewn celf a dylunio, dyma’r cwrs i chi. Mae’r maes llafur yn ddeinamig ac eang, gan gynnig llawer o gyfleoedd cyffrous i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae’r gallu i ddarlunio a sgiliau ymarferol yn hanfodol, ac mae sgiliau cyfrifiadurol da yn bwysig hefyd. Bydd angen llygad da am siâp a lliw, sgiliau dadansoddi da a pharodrwydd i arbrofi, yn ogystal ag ymrwymiad a dyfalbarhad. Mae hwn yn gwrs lefel 3, sy’n gyfwerth â 3 chymhwyster Safon Uwch.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Afan, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc priodol neu 5 TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

43

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.

Diploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio Mae’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn rhaglen weledol ac ymarferol yn bennaf, sy’n rhoi’r amser, y gefnogaeth a’r amgylchedd angenrheidiol i fyfyrwyr i ddarganfod eu cryfderau unigol. Fe’i darparir mewn awyrgylch frwdfrydig, gyfeillgar a chefnogol lle mae myfyrwyr yn datblygu ymagwedd unigol gyda hyder. Anogir myfyrwyr i archwilio syniadau newydd, cyffrous ac i herio a datblygu eu medrau a’u galluoedd. Cyflwynir y rhaglen trwy wersi, gweithdai, prosiectau byw, astudiaeth unigol, trafodaethau grŵp, beirniadaethau grŵp; arddangosiadau (technegol ac ymarferol) a darlithoedd a fydd yn cael eu cyfuno â chefnogaeth diwtorial a chyflwyniadau seminar. Yn ystod y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i feddwl am lwybrau datblygu a gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Rhaid cyflwyno portffolio boddhaol a meddu ar 1 cymhwyster Safon U Gradd C neu uwch neu Ddiploma Estynedig Lefel 3. Mae croeso i fyfyrwyr aeddfed (21+) gysylltu â ni i drafod eu cefndir addysgol.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio UAL Diploma Lefel 2 mewn UAL Diploma Estynedig Cynhyrchu'r Cyfryngau Level 3 mewn Cynhyrchu'r Creadigol a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i a Thechnoleg gyda ennill profiad a sgiliau mewn pob math o feysydd yn y diwydiant. Os Bagloriaeth Cymru ydych chi wedi ymrwymo i astudiaeth bellach neu yrfa mewn cynhyrchu yn y cyfryngau, dyma’r cwrs i chi. Mae’r maes llafur yn cynnig ystod eang o unedau, gan gynnwys technegau cyngynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu mewn Teledu, hysbysebu Fideo, Ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol. Mae creadigrwydd a dychymyg yn allweddol, ac mae sgiliau dadansoddi da yn bwysig er mwyn gwireddu eich syniadau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Mae’r cwrs cyffredinol hwn yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn pob math o arbenigeddau ym maes y cyfryngau. Mae sgiliau ymarferol a chyfrifiadurol yn hanfodol, a bydd y gallu i ddarlunio yn helpu i ddelweddu’ch syniadau. Bydd angen sgiliau dadansoddi da a pharodrwydd i arbrofi a gweithio fel tîm cynhyrchu, ynghyd ag ymrwymiad a dyfalbarhad.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A*- C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

5 TGAU Graddau A*- C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 priodol. Cyfweliad.

Dilyniant

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau addysg uwch e.e. Diploma Cenedlaethol Uwch a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes cynhyrchu'r cyfryngau.

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Cenedlaethol Uwch a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes cynhyrchu yn y cyfryngau.

GRASS CWMNI THEATR GRŴP COLEGAU

ROOTS

THEATRE COMPANY

NPTC GROUP OF COLLEGES

Cwmni Theatr Grass Roots - Diploma OCR Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio

A ydych chi’n gwirioni ar berfformio a bob amser yn chwilio am ffyrdd i dynnu sylw at eich doniau? Os felly, rydym yn chwilio am aelodau i ymuno â Chwmni Theatr Grass Roots. Ymhen UN flwyddyn byddwch yn cyflawni OCR Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio ac yn ystod eich amser gyda’r cwmni, byddwch yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel mewn dawns, drama, cynyrchiadau theatr a theatr gerddorol gan dîm o ddarlithwyr medrus. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i berfformio yn ein lleoliad a adeiladwyd i bwrpas sef Canolfan y Celfyddydau Nidum a gallai’ch gwaith arwain at gymhwyster lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio, Dawns neu Gynhyrchu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A* - C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Dilyniant

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus (Teilyngdod neu uwch) yn galluogi’r Dysgwr i gamu ymlaen i Ddiploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Dawns neu'r Celfyddydau Perfformio. 44


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio OCR Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio gyda Bagloriaeth Cymru

Mae diwydiant y Celfyddydau Perfformio yn hynod o gystadleuol a heriol, ond gall fod yn llawn boddhad. I lwyddo yn y maes hwn, mae angen talent a phersonoliaeth arnoch, yn ogystal â llawer o frwdfrydedd a phenderfyniad. Yma, yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn ymroddedig i ddarparu addysgu a dysgu o'r safon orau ar gyfer pobl sydd am gychwyn ar yrfa barhaol yn y Celfyddydau Perfformio. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o Gwmni Theatr Impact (Coleg Castellnedd) neu Gwmni Theatr Ovation (Coleg Y Drenewydd), gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Chanolfan y Celfyddydau Perfformio â'r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae'r cwrs yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerddorol i'ch ymbaratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gofynion Mynediad

45

Pum TGAU Graddau A *-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol, a chyfweliad. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Dilyniant Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus wneud cais i astudio mewn ysgolion arbenigol /prifysgolion. Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys perfformio, teledu, y cyfryngau, addysgu, gweinyddu'r celfyddydau.

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Dawns gyda Bagloriaeth Cymru

Nod y cwrs yw darparu hyfforddiant arbenigol, seiliedig ar waith mewn dawns, drwy amrywiaeth o unedau yn cynnwys: egwyddorion coreograffi, creu coreograffi dawns, datblygu/defnyddio techneg (bale, tap, jazz cyfoes masnachol), cynnal a chadw'r corff, symud mewn perfformiad, ymarfer dawns gymunedol ac agweddau damcaniaethol ar ddawns. Fel rhan o'r Cwmni Dawns One Vision, dylai'r myfyrwyr fod yn gweithio tuag at gyflawni gyrfa yn y diwydiant dawns, theatr gerddorol neu'r celfyddydau perfformio. Os bydd myfyrwyr am ddysgu mewn amgylchedd cyffrous, bywiog a heriol lle y mae'r cyfle i ganolbwyntio arnynt eu hunain fel dawnswyr unigol yn apelio, dyma'r cwrs iddynt.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau A *-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol, a chyfweliad. Byddai profiad blaenorol ym maes dawns yn ddymunol iawn, a dylai myfyrwyr feddu ar ddiddordeb mewn hyfforddiant fel dawnsiwr aml-dalentog. Cynghorir parodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawns allgyrsiol mewn cydweithrediad â chwmni dawns LIFT.

Dilyniant

Hyfforddiant dawns alwedigaethol. Therapydd Symud, Anthropolegwr, Dawnsiwr, Coreograffydd, Cyfarwyddwr, Gweinyddwr Dawns, Athro Neu Ymchwilydd.

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 yn y Celfyddydau Cynhyrchu gyda Bagloriaeth Cymru

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd yn y dechnoleg a'r prosesau sydd wrth wraidd teledu fodern, cynhyrchu ffilmiau a digwyddiadau'r celfyddydau perfformio. Rydym yn cynnig amrywiaeth o arbenigeddau yn cynnwys: celf golygfeydd, adeiladu setiau, creu gwisgoedd, dylunio propiau, dylunio setiau a gwisgoedd a cholur a gwallt i berfformwyr. Byddwch yn dilyn cyflwyniad eang i'r arbenigeddau ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiect astudio swmpus ar ddiwedd pob blwyddyn. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu â'r detholiad eang ac amrywiol o raglenni perfformio. Mae'r cyfuniad o leoliadau, gweithdai, mannau adeiladu, stiwdios dylunio, technolegau ar gyfer y llwyfan a'r gweithdy yn darparu amgylchedd dysgu gwych.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau A *- C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae mynediad hefyd yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant Ar ôl cwblhau'r BTEC Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Cynhyrchu, byddwch yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am swydd fel rhan o dîm cynhyrchu ym myd y theatr, teledu neu ffilm, yn ogystal â chamu ymlaen i'r brifysgol mewn amrywiaeth helaeth o bynciau.


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio BTEC Diploma Technolegol Lefel 2 mewn Cerddoriaeth

Byddwch yn datblygu sgiliau technegol i gynhyrchu a hyrwyddo cerddoriaeth, ennill dealltwriaeth o rolau o fewn y diwydiant cerddoriaeth drwy brosiectau a gwella eich gwybodaeth ddamcaniaethol am y pwnc. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gydol y cwrs gan dîm o ddarlithwyr sy'n gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth y tu allan i'r Coleg. Wrth wraidd y cwrs bydd cyfleoedd i berfformio, fel unigolion ac o fewn ensembles yng Nghanolfan y Celfyddydau Nidum a adeiladwyd at y diben. Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan yn y gweithgareddau allgyrsiol bywiog a gynigir gan yr Academi Cerddoriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cerddorfa, band digwyddiadau, band jazz, grŵp lleisiol a theithiau cyngherddau i Ewrop.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau C neu uwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis drwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd y meini prawf yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a’u profiad mewn cerddoriaeth yn ogystal â chlyweliad ar offeryn neu lais tua safon Gradd 3.

Dilyniant Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cerddoriaeth, neu gyflogaeth, neu brentisiaeth.

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cerddoriaeth gyda Bagloriaeth Cymru

Mae'r cwrs hwn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn amrywiaeth helaeth o arbenigeddau cerddoriaeth boblogaidd. Mae'n gwrs lefel 3 sy'n cyfateb i 3 Safon Uwch. Os ydych yn gerddor dawnus ac yn bwysicach na dim yn un ymroddedig sy'n hoffi pob agwedd ar gerddoriaeth, yna dyma'r cwrs i chi! Mae gennym adran gerddoriaeth fywiog iawn yma yn y coleg, sy'n roi llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth megis ensemble jazz, band digwyddiadau, cerddorfa, perfformiadau dramor a llawer mwy.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau A *-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis drwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd y meini prawf yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a’u profiad mewn cerddoriaeth yn ogystal â chlyweliad ar offeryn neu lais tua safon Gradd 5.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ymrestru ar gyrsiau lefel uwch; e.e. cyrsiau Diploma Cenedlaethol Uwch a chyrsiau gradd a'u hymbaratoi ar gyfer swyddi ym meysydd cerddoriaeth boblogaidd, perfformio, addysg cerddoriaeth, therapi cerddoriaeth a rheoli cerddoriaeth yn y dyfodol. 46


Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch

Prentisiaethau Ar Gael

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Dyma rai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch. Os ydych yn chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae gennym ystod eang o gyrsiau i weddu i'ch holl anghenion. Byddwch yn datblygu sgiliau masnachol a geir o weithio yng ngheginau proffesiynol un o'n dau fwyty hyfforddi sy'n agored i'r cyhoedd yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n ennill cydnabyddiaeth mewn cystadlaethau coginio dro ar ôl tro ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

Rhagolygon Gyrfa Prif Gogydd

Rheolwr Gwesty Rheolwr Bwyty Rheolwr Bar

Goruchwylwyr

Trefnydd Digwyddiadau Mordeithiau

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Entrepreneur

47

Disgwyliadau Cyflog

*

£15-20k Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

6436

*

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch Cyflwyniad i Sgiliau'r Diwydiant Lletygarwch

Gan weithio yn un o'n bwytai hyfforddi, Blasus neu Themâu, byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa yn y celfyddydau coginio a'r diwydiant lletygarwch. Bydd y cymhwyster hwn yn helpu i ddatblygu eich hyder tra'n gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol. Byddwch yn mwynhau dysgu sgiliau newydd yn ein ceginau proffesiynol ac yn falch o wasanaethu ein cwsmeriaid yn ein bwytai.

Prif Gogydd

Hyd Blwyddyn Rheolwr Gwesty Coleg

Castell-nedd

City & Guilds Diploma Lefel 1 City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd (VRQ) a Gweini Bwyd (VRQ) Fel rhan o dîm egnïol, byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau newydd sy'n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant celfyddydau coginio a lletygarwch. Byddwch yn cael eich hyfforddi gan ein harbenigwyr yn un o'n ceginau proffesiynol ac yn gweini'r prydau y byddwch yn eu gwneud yn ein bwytai hyfforddi - Themâu neu Blasus. Bydd y cymhwyster hwn yn eich ysbrydoli chi i symud ymlaen i'r lefel nesaf yn eich gyrfa a rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi i ddod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant hwn llawn cyfleoedd sy'n symud yn gyflym.

Rheolwr Bwyty

Hyd

Dim gofynion mynediad ffurfiol Rheolwr Bar (cyfweliad).

Coleg

Gofynion Mynediad

Dilyniant Goruchwylwyr

Byddwch yn datblygu'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sydd eu hangen i gamu ymlaen i un o'n cymwysterau Lefel 1.

Trefnydd

Digwyddiadau Mordeithiau Entrepreneur

Blwyddyn Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad a phedwar TGAU neu gyfatebol yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cyflwyniad i Sgiliau'r Diwydiant Lletygarwch.

Dilyniant Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant lletygarwch a/neu symud ymlaen i'n Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd.

Os ydych yn gweld eich hun yn gweithio mewn diwydiant cyffrous a llawn cymhelliant a'ch bod yn angerddol am baratoi, coginio a gweini bwyd da, yna mae'r cymhwyster hwn i chi. Yn ein bwytai hyfforddi - Blasus neu Themâu - byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant celfyddydau coginio a lletygarwch. Ar gyfer gyrfa yn gweithio mewn bwytai, gwestai, llongau mordeithio, digwyddiadau neu'r sector cyhoeddus, bydd y cymhwyster hwn yn eich rhoi ar y trywydd iawn. Gan weithio'n agos gyda'n darlithwyr blaen tŷ a chogyddion, cewch y cyfle i ragori. Efallai byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol tramor.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU A *-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Ddiploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd. Ystyrir profiad a chymwysterau cyfatebol yn ystod y cyfweliad.

Dilyniant

Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol neu Ddiploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Lletygarwch. Cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio.

48


Academi Pobi Blasus

ACADEMI BECWS

BAKERY ACADEMY

Diploma lefel 1 mewn Sgiliau Pobi'r Diwydiant Bwyd (FDQ)

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai ohonoch sy'n mwynhau pobi ac y byddech yn hoffi ymuno â'r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd. Yn Academi Pobi Blasus, byddwch yn dysgu sgiliau newydd wrth i chi baratoi a phobi amrywiaeth eang o nwyddau i'w gwerthu yn ein siop Becws Blasus. Byddwch hefyd yn gweithgynhyrchu cynhyrchion a wasanaethir yn ein bwyty hyfforddi, Blasus. Byddwch yn ennill y profiad sydd ei angen i roi hwb i'ch gyrfa! Mae gan ein Hacademi Pobi un o'r cyfleusterau hyfforddi pobi mwyaf yn y DU.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Ar lefel 2, byddwch yn dechrau gwella eich sgiliau a dysgu mwy am y diwydiant pobi a chelfyddydau coginio. Cewch eich hyfforddi gan ein harbenigwyr profiadol a thalentog iawn wrth i chi ddysgu a chreu argraff ar ein cwsmeriaid gyda'r cynhyrchion y byddwch yn eu cynhyrchu. Byddwch yn cael y cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau a rhagori! Byddwch hefyd yn dechrau archwilio sgiliau ehangach yn cynnwys addurno cacennau a gwaith siocled. Bydd ein siop becws yn Blasus yn rhoi profiad i chi o weithio mewn amgylchedd becws go iawn. Mae'r siop ar agor bob dydd, a byddwch yn cael cipolwg ar sut mae'r diwydiant yn gweithio o gynhyrchu i werthu. Mae gan ein Hacademi Pobi un o'r cyfleusterau hyfforddi pobi mwyaf yn y DU.

Cyfweliad a phedwar TGAU neu gyfatebol yn cynnwys Mathemateg a Saesneg yn ddymunol neu Cyflwyniad i Sgiliau'r Diwydiant Lletygarwch.

Hyd

Dilyniant

Gofynion Mynediad

Byddwch yn datblygu'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sydd eu hangen i gamu ymlaen i'r Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol.

49

City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion)

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Cyfweliad a Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Pobi'r Diwydiant Bwyd. Ystyrir cymwysterau cyfatebol a phrofiad addas.

Dilyniant Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant pobi a/neu gamu ymlaen i'n Diploma Lefel 3 mewn Sgiliau Uwch mewn Pobi, Patisserie a Melysion.

City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Sgiliau Uwch mewn Pobi, Patisserie a Melysion.

Bydd y Diploma Uwch yn rhoi cyfle i chi adeiladu ar eich sgiliau presennol a datblygu repertoire ehangach o sgiliau ychwanegol yn cynnwys addurno cacennau, bara crefft, siocled a gwaith siwgr. Yn ychwanegol at eich sgiliau technegol yn Academi Pobi Blasus a siop y becws, byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau goruchwylio wrth i chi ddechrau archwilio agweddau entrepreneuraidd gyrfa mewn pobi a'r celfyddydau coginio. Gyda chefnogaeth ymroddedig ein tîm darlithio profiadol iawn, byddwch yn goruchwylio ardaloedd cynhyrchu ein siop a'n becws, yn ogystal â chreu a datblygu cynhyrchion newydd a chyffrous. Bydd y cymhwyster hwn yn sicrhau gyrfa gyffrous i chi mewn diwydiant sy'n llawn cyfleoedd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein hymweliadau addysgol tramor.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad a Diploma Lefel 2 mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion) Ystyrir cymwysterau cyfatebol a phrofiad addas.

Dilyniant Gallech gamu ymlaen i'n HND neu BA mewn Rheoli Lletygarwch a'r Celfyddydau Coginio. Cyflogaeth yn y diwydiant pobi, lletygarwch a chelfyddydau coginio.


Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch VRQ Lefel 3 mewn Coginio City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Proffesiynol Uwch Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu Lletygarwch (Blaen Tŷ) ar eich sgiliau presennol a datblygu Gyda chymorth ein tîm rheoli Blaen Tŷ profiadol a'r darlithwyr, byddwch yn goruchwylio'n lolfa goffi a'n bwyty. Yn ogystal â datblygu eich sgiliau goruchwylio ac arwain, byddwch hefyd yn dysgu'r gelfyddyd o gyflwyno theatr bwrdd a gwasanaeth arian. Byddwch yn cwmpasu pob agwedd ar oruchwylio Blaen Tŷ, gan gynnwys cynllunio a threfnu digwyddiadau, bwyd, a gwasanaeth bar a gwin, marchnata a diogelwch bwyd. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain a bydd eich paratoi ar gyfer byd gwaith, gan gynnwys gwestai, bwytai, digwyddiadau a llongau mordeithio. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein hymweliadau addysgol tramor.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad a Diploma lefel 2 mewn Gweini Bwyd a Diod Proffesiynol. Ystyrir cymwysterau cyfatebol a phrofiad addas.

Dilyniant

HND neu BA mewn Rheoli Lletygarwch a'r Celfyddydau Coginio. Cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch a chelfyddydau coginio.

repertoire ehangach o sgiliau yn cynnwys bwtsiera a gwaith siocled. Yn ychwanegol at eich sgiliau technegol, yn ein ceginau proffesiynol a bwyty hyfforddi Blasus, byddwch yn datblygu eich sgiliau goruchwylio wrth i chi ddechrau archwilio agweddau entrepreneuraidd gyrfa yn y celfyddydau coginio. Gyda chefnogaeth ymroddedig ein tîm darlithio profiadol iawn o gogyddion, byddwch yn goruchwylio ein ceginau yn ogystal â chreu a datblygu cynhyrchion newydd a chyffrous. Byddwch yn astudio gastronomeg ac yn datblygu agweddau goruchwylio diogelwch bwyd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein hymweliadau addysgol tramor.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad a chymhwyster Lefel 2 mewn Lletygarwch neu brofiad perthnasol.

Dilyniant HND neu BA mewn Rheoli Lletygarwch a'r Celfyddydau Coginio. Cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio.

50


Peirianneg

Prentisiaethau Ar Gael

Ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf yng Ngholegau Castell-nedd a'r Drenewydd. Yn y gweithdy mecanyddol, ceir nifer o durnau, melinwyr, malwyr arwyneb a pheiriannau CNC modern. Yn ogystal, mae gennym ddwy ganolfan peiriannau cyflymder uchel awtomatig dan reolaeth cyfrifiadur. Ynghlwm wrth y prif weithdai mae cyfleusterau arbenigol sy'n cynnwys systemau cyfrifiadurol ar gyfer hyfforddiant mewn rhaglennu CNC, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (Gweithiau Soled) a system fesur stiliwr cyffwrdd 3D. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys labordai electronig, gweithdy hydroleg a gweithdy niwmateg/electroniwmateg a chynnal a chadw ynghyd â labordy dylunio technoleg arbenigol. Mae'r gweithdy gwneuthuriad a weldio yn cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Rhagolygon Gyrfa

51

Peiriannydd Mecanyddol Peiriannydd Trydanol/Electronig Weldiwr

Disgwyliadau Cyflog

£25-50k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

7826

*

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Peirianneg Cyflwyniad i Sgiliau Peirianneg

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol a theori mewn sgiliau â llaw, sgiliau gyda pheiriannau, sgiliau weldio sylfaenol a sgiliau trydanol yn ogystal ag unedau am iechyd a diogelwch, rhifedd a chyfathrebu, gyda thiwtorial ychwanegol mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau E ac uwch. Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll cyn-TGAU mewn Mathemateg a/neu Saesneg ochr yn ochr â’u rhaglen amser llawn.

Dilyniant

 Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 1.  Swyddi amser llawn a rhan-amser.

Rhaglen Ddysgu Lefel 2 Peirianneg Fecanyddol Uwch

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu dosbarthiadau ymarferol a theori (melino, turnio a ffitio), VRQ Lefel 2, drafftio drwy gymorth cyfrifiadur, rheoli cyfrifiaduron yn rhifiadol, cyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol (cymhwyso rhifau, cyfathrebu a llythrennedd digidol a sgiliau hanfodol cyflogadwyedd) ynghyd â thiwtorialau. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gyflawni o leiaf pum wythnos o brofiad gwaith ac o leiaf pum ymweliad diwydiannol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau A *-C y mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg.

Dilyniant

Rhaglen Ddysgu Lefel 2 Cynnal a Chadw Uwch

Mae’r cwrs yn cynnwys dosbarthiadau ymarferol a theori (Cynnal a Chadw, Trydanol/Electroneg, Weldio), VRQ Lefel 2, cyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol (cymhwyso rhifau, cyfathrebu a llythrennedd digidol a sgiliau hanfodol cyflogadwyedd) ynghyd â thiwtorialau. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gyflawni o leiaf pum wythnos o brofiad gwaith ac o leiaf pum ymweliad diwydiannol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau A *-C y mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg.

Dilyniant

 Prentisiaeth  Cwrs Lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg.

 Prentisiaeth  Cwrs Lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg.

52


Peirianneg Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 1

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol ar Lefel 1 NVQ. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol a theori mewn sgiliau peiriant, weldio, torri nwy ac electroneg yn ogystal ag unedau mewn iechyd a diogelwch, darlunio peirianneg a chyfathrebu gwybodaeth beirianneg ynghyd â thiwtorial mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg Castell-nedd Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau D ac uwch. Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU mewn Mathemateg a/neu Saesneg ochr yn ochr â’u rhaglen amser llawn.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

 Cyflawni Gweithrediadau Lefel 2 Mecanyddol  Cyflawni Gweithrediadau Lefel 2 Trydanol  Cyflawni Gweithrediadau Lefel 2 Weldio  Prentisiaethau  Swyddi amser llawn a rhan-amser.

53

Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 Cynnal a Chadw

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol mewn sgiliau peiriant, cynnal a chadw, weldio, torri nwy ac electroneg yn ogystal â dosbarthiadau theori mewn iechyd a diogelwch, darlunio peirianneg a chyfathrebu gwybodaeth beirianneg ynghyd â thiwtorialau mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau C ac uwch.

Dilyniant

 VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol  VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Mecanyddol  Prentisiaeth  Swyddi amser llawn a rhan-amser.


Peirianneg Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 Mecanyddol Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol ar NVQ Lefel 2. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol (melino, turnio a ffitio) yn ogystal ag unedau mewn iechyd a diogelwch, dylunio peirianneg a chyfathrebu gwybodaeth beirianneg ynghyd â thiwtorial ychwanegol mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau C ac uwch.

Dilyniant

 VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol  VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Mecanyddol  Prentisiaeth  Swyddi amser llawn a rhan-amser.

Diploma Uwch Lefel 3 mewn Peirianneg (VRQ)

Mae'r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol a fydd yn angenrheidiol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant peirianneg yn y dyfodol. Ynghyd ag astudiaethau damcaniaethol mewn:  Egwyddorion Peirianneg (mathemateg a gwyddoniaeth)  Iechyd a Diogelwch  Ymwybyddiaeth Amgylcheddol  Trefn, Effeithlonrwydd a Gwelliant.  Tiwtorialau mewn grŵp. Bydd dosbarthiadau gweithdy ymarferol hefyd mewn:  Turnio uwch  Melino uwch  Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD)  Rheolaeth Rifol Gyfrifiadurol (CNC).

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C ac uwch (i gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd myfyrwyr sy'n methu â bodloni'r cymwysterau hyn ac sy'n bwriadu ailsefyll TGAU yn cael cyfweliad er mwyn ymuno â'r cwrs, ac os byddant yn llwyddiannus rhaid iddynt fynychu dosbarthiadau ailsefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen eu cwrs llawn).

Dilyniant

 Prentisiaeth  HNC/HND  Addysg Uwch.

54


Peirianneg Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg (Rhaglen Peirianneg Uwch)

Mae'r cwrs yn gyfuniad o elfennau theori (BTEC Pearson Diploma 90 credyd) ac ymarferol ac mae'n gwrs dylunio/datblygu gyda'r nod o symud myfyrwyr ymlaen i'r brifysgol neu brentisiaeth fodern uwch.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a phynciau TGAU penodol yn unol â'r gofynion. Cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â pheirianneg.

Dilyniant Bydd y cwrs hwn yn caniatau camu ymlaen i'r brifysgol neu gyflogaeth.

Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg / Saernïo a Weldio Lefel 2 a Lefel 3

Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg a Thechnolegau (VRQ)

Hyd

Bydd dosbarthiadau gweithdy ymarferol hefyd mewn:  Peiriannu  Weldio a Thorri nwy  Hydroleg  Technegau cynnal a chadw  Cynnal a chadw Systemau Mecanyddol.

Mae hwn yn gwrs amser llawn, un flwyddyn a gynlluniwyd ar gyfer ymgeiswyr sydd am ddysgu sgiliau saernïo a weldio mewn amgylchedd Peirianneg. Byddwch yn ymarfer a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu yrfa yn y diwydiant saernïo a weldio. Mae'r cwrs yn cynnwys unedau fel: Iechyd a Diogelwch, Darlunio ar gyfer Peirianneg, Gwyddoniaeth a Chyfrifiadau, weldio MAGS, weldio TIG, saernïo a thorri nwy tanwydd-Oxy. Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Byddwch yn sefyll prawf gallu, sgrinio mewnol a chyfweliad cyn-fynediad.

Dilyniant

Gwneud Gais: www.nptcgroup.ac.uk

 VRQ Lefel 3  Cynnal a chadw lefel 3  Prentisiaethau Galwedigaethol Mae'r adran Peirianneg yn gweithio'n agos â Chanolfan Dysgu seiliedig ar Waith y Coleg, Hyfforddiant Pathways a diwydiant lleol.

55

Mae'r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol a fydd yn angenrheidiol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant peirianneg yn y dyfodol. Ynghyd ag astudiaethau damcaniaethol mewn:  Egwyddorion Peirianneg (mathemateg a gwyddoniaeth)  Iechyd a Diogelwch  Ymwybyddiaeth Amgylcheddol  Theori Rheoli  Trefn, Effeithlonrwydd a Gwelliant.  Sesiynau tiwtorial mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C ac uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd myfyrwyr sy'n methu â bodloni'r cymwysterau hyn ac sy'n bwriadu ailsefyll TGAU yn cael cyfweliad er mwyn ymuno â'r cwrs, ac os byddant yn llwyddiannus rhaid iddynt fynychu dosbarthiadau ailsefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen eu cwrs llawn).

Dilyniant

 Prentisiaeth  HNC/HND  Addysg Uwch.


Gwyddor Fforensig Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddor Fforensig) Beth yw Diploma Estynedig? Mae Diploma Estynedig yn cyfateb i dair 'Safon Uwch'. Mae'r Diplomâu Estynedig yn gymwysterau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu cymwysterau arbenigol sy'n gysylltiedig â gwaith mewn amrywiaeth o sectorau. Maent yn rhoi i ddysgwyr y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i'w paratoi ar gyfer cyflogwyr. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd i'r brifysgol ar ôl eu Diploma Estynedig. Bydd yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cymhwyster gydag oddeutu 16 awr o astudio bob wythnos. Beth yw Diploma Estynedig mewn Gwyddor Fforensig? Er bod y cymwysterau Gwyddor Fforensig yn newydd, mae gan y Coleg lawer o brofiad o gynnig cymwysterau Diplomâu Estynedig eraill mewn Gwyddoniaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen dda i chi yn y wyddoniaeth y tu ôl i astudio gwaith Fforensig. A allaf astudio pynciau eraill ochr yn ochr â Diploma Estynedig? Efallai y byddwch yn gallu dilyn cymhwyster UG mewn pwnc arall cyhyd ag y byddwch wedi cyflawni'r nifer gofynnol o TGAU. Yn wir os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Gwyddor Fforensig yn y Brifysgol argymhellir eich bod yn astudio Cemeg UG yn ogystal â'r Diploma Estynedig. Yn ystod y cwrs byddwch hefyd yn gallu datblygu sgiliau (trosglwyddadwy) allweddol mewn meysydd fel Cymhwyso Rhif, TGCh, a Chyfathrebu a gwella eich dysgu a'ch perfformiad eich hun. Unedau craidd § Hanfodion Gwyddoniaeth § Gweithio yn y Diwydiant Gwyddoniaeth § Ymchwilio Gwyddonol § Technegau Ymarferol Gwyddoniaeth § Canfyddiad o Wyddoniaeth § Cymhwyso Rhifau ar gyfer Technegwyr Gwyddoniaeth. Unedau arbenigol Gallwch ddewis hyd at DDEUDDEG o'r unedau canlynol. Dylech fod yn ymwybodol efallai na fyddwn yn gallu cynnig yr holl unedau a restrir isod. Byddwn yn ceisio rhoi cyngor i chi ar y cyfuniad gorau o unedau a fydd yn rhoi i chi yr addysg a'r profiad ar gyfer y dyfodol. § Ystadegau ar gyfer Technegwyr Gwyddoniaeth § Ffisioleg Systemau'r Corff Dynol § Ffisioleg Rheoliad ac Atgenhedlu Dynol § Technegau Microbiolegol Dadansoddi Cemegol Ymarferol

Rhagolygon Gyrfa

Troseddeg Gwyddonydd Fforensig Ymchwiliwr Safle Trosedd Ymchwiliwr Tân Archwiliwr Dogfennau Disgwyliadau Cyflog

*

£25-30k § § § § § § §

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

4421 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Troseddeg Technegau Biogemegol Casglu a Dadansoddi Tystiolaeth Fforensig Ffotograffiaeth Fforensig Seicoleg Troseddol Ymarfer Ymchwilio Troseddol Geneteg a Pheirianneg Genetig.

Hyd

2 flynedd

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth ac sydd ag o leiaf 5 TGAU graddau A-C, yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth Ychwanegol a Saesneg ar gradd C neu uwch. Sut y byddaf yn cael fy asesu? Bydd gofyn i chi ymgymryd â rhaglen o aseiniadau drwy gydol y cwrs, a fydd yn cynnwys asesiad o sgiliau ymarferol a'r gallu i weithio'n ddiogel. Mae'n hanfodol eich bod yn drefnus ac yn cwrdd â therfynau amser. Nid oes unrhyw arholiad allanol.

56


Astudiaethau Sylfaen

Mae cyrsiau Astudiaethau Sylfaen yn gyfle ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer bywyd ar bwyntiau mynediad priodol i'r Coleg. Mae ein cyrsiau yn eich ymbaratoi o safbwynt academaidd, cymdeithasol ac emosiynol ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol, yn ogystal â gofynion astudio galwedigaethol ar draws y Coleg, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Rhagolygon Gyrfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lletygarwch ac Arlwyo Trin Gwallt Crefftau Adeiladu TG a’r Cyfryngau Garddwriaeth Menter Astudiaethau Amgylcheddol Cerbydau Modur Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu sydd ar gael gennym. Mae'n bosibl i roi cynnig ar lawer o bynciau gwahanol gan ddibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych yn ei fwynhau, beth rydych yn ei wneud yn dda a'ch helpu gyda’ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a'ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs, a, thrwy gyfrwng cymorth dysgu a sesiynau tiwtorial, gallwn fodloni amrywiaeth eang o anghenion. Mae ein staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i ddarparu'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

57

Ethos yr Ysgol yw cynnig cyfle cyfartal i’r holl fyfyrwyr gyflawni fel y byddant yn gwella ansawdd eu bywydau yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn ein Hysgol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a chystadlaethau i ddatblygu sgiliau a hyder ehangach ac maent yn llwyddiannus o safbwynt academaidd, yn gymdeithasol ac ym maes chwaraeon.

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Astudiaethau Sylfaen Tuag at Annibyniaeth

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r Coleg ar gyfer dysgwyr. Caiff dysgwyr eu hannog i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau byw'n annibynnol drwy dasgau gan gynnwys coginio, defnyddio arian a chael mynediad i'r gymuned leol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at unedau o Lefel Mynediad 1 a Lefel Cyn-Fynediad o'r Haen Dysgu Sylfaen gyda'r cymorth priodol.

Hyd

1-2 Flynedd

Coleg

Afan

Sgiliau Bywyd

Mae’r cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol a chyfrannu at y gymuned leol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Sgiliau Bywyd Lefel Mynediad ar Lefelau Mynediad 1 a 2, yn dibynnu ar anghenion unigol. Bydd dysgwyr yn astudio unedau mewn iechyd a diogelwch, TG a chyflwyniad personol.

Hyd

1-2 Flynedd

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Sgiliau Gwaith ac Addysg Gymdeithasol

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y gymuned leol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Unedau Haen Dysgu Sylfaen ar Lefel Mynediad 2 a 3 yn dibynnu ar anghenion unigol. Bydd dysgwyr yn astudio amrywiaeth o feysydd galwedigaethol, gan gynnwys llythrennedd digidol, chwaraeon, arlwyo a chelf.

Hyd

1-2 Flynedd

Gofynion Mynediad

Coleg

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau unedau ar lefel Cyn-Fynediad a Lefel Mynediad 1 cyn symud ymlaen i’r cwrs hwn.

Sgiliau Gwaith: Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd Addysg Gymdeithasol: Afan

Dilyniant

Dilyniant

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau Sgiliau Bywyd/Gwaith o fewn y Coleg. Fel arall, gall myfyrwyr symud ymlaen i leoliadau gwaith neu gyfleoedd hyfforddi â chymorth.

Mae myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i gyrsiau Sgiliau Gwaith neu Addysg Gymdeithasol o fewn y Coleg, lleoliadau gwaith neu gyfleoedd hyfforddi â chymorth.

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau unedau Haen Dysgu Sylfaen ar Lefel Mynediad 1 neu ddangos y gallu i symud ymlaen i gymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith ar Lefel Mynediad 2 ar lefelau priodol cyn symud ymlaen i’r cwrs hwn.

Dilyniant Ar ddiwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i’n rhaglen Samplu Galwedigaethol, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth â chymorth.

58


Astudiaethau Sylfaen Samplu Galwedigaethol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i samplu meysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, arlwyo a garddwriaeth cyn penderfynu ar lwybr gyrfa neu astudio galwedigaethol pellach. Mae'n bosibl samplu amrywiaeth o bynciau gwahanol gan ddibynnu ar ddiddordebau unigol. Mae hefyd yn cynnig cyfle i wella sgiliau sylfaenol a datblygu'r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen i symud ymlaen.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Nid oes angen meddu ar gymwysterau ffurfiol ond, yn ystod y cyfweliad, rhaid dangos awydd i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau dysgu.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gall myfyrwyr gamu ymlaen i gyrsiau lefel uwch yn yr Ysgol Astudiaethau Sylfaen, Oedolion a’r Gymuned i gyrsiau prif ffrwd neu i hyfforddiant seiliedig ar waith.

59

Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i bobl ifanc sydd am astudio yn y coleg ond nad ydynt wedi penderfynu ar lwybr gyrfa hyd yma. Maen nhw’n ddelfrydol i’r rhai sydd am ennill cymwysterau i baratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu weithio i wella sgiliau sylfaenol a/neu Sgiliau Hanfodol ac i ddysgu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol.

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Celfyddydau Creadigol

Afan, Bannau Brycheiniog, Castell-nedd

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio fel cyflwyniad i feysydd galwedigaethol. Maent yn cynnig ystod eang o feysydd pwnc sy'n cynnwys themâu seiliedig ar blant ac oedolion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Drama, Celf a Thechnoleg Cerddoriaeth ar gyfer y Celfyddydau Creadigol. Mae'r cyrsiau hefyd yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol tuag at waith, ar yr un pryd ag annog gwella sgiliau sylfaenol.

Gofynion Mynediad

Hyd

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae gofyn i fyfyrwyr ddangos y gallu i weithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn cychwyn ar y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau.

Dilyniant Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr ar y cwrs hwn yn dewis datblygu eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth drwy ymrestru am gyrsiau eraill mewn maes galwedigaethol penodol neu'r rhaglen Porth. Mae dilyniant gyrfa a sgiliau cysylltiedig â gwaith yn ffurfio rhan o'r cwrs hwn gyda phwyslais ar y sgiliau mwy meddal sydd eu hangen yn y byd gwaith heddiw. Mae sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd wrth wraidd y cwrs hwn.

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

TGAU ar Raddau E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus.

Dilyniant Bydd y cymhwyster Lefel 1 hwn yn helpu dysgwyr i ddechrau ar gyrsiau lefel uwch er enghraifft BTEC Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Diploma BTEC Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio neu gamu ymlaen i yrfa yn y sectorau perthnasol.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Yng Ngrŵp Colegau NPTC, mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion y diwydiannau trin gwallt, harddwch a therapïau cymhwysol. Mae'r diwydiant sba yn ffynnu, gyda phob gwesty mawr yn cynnig cyfleusterau sba erbyn hyn. Ceir nifer o salonau annibynnol a'r posibilrwydd o weithio ar eich liwt eich hun. Gallwch ddod yn gymwys mewn ystod o driniaethau o dorri a lliwio gwallt at drin ewinedd, estyniadau ewinedd acrylig, tylino'r corff, triniaethau ail-amlinellu'r corff, siapio'r aeliau a chodi'r wyneb yn electronig! Mae gennym gyfleusterau arbenigol ardderchog yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd gyda’n salonau masnachol. Mae salonau harddwch, trin gwallt a salonau amlbwrpas sy'n gwasanaethu trin gwallt, harddwch a thechnoleg ewinedd.

Rhagolygon Gyrfa

Triniwr Gwallt

Artist Therapydd Harddwch Cyfarwyddwr Artist Colur

Technegydd Lliwio Gwallt Rheolwr Salon

Artist Colur Theatraidd Steilydd

Mae'r salonau i gyd yn agored i'r cyhoedd, felly mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae'r salon yn defnyddio cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn unig fel Dermalogica, NXT, a Wella.

Disgwyliadau Cyflog

£ 15-20k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

5989 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

60


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Lefel 1 Cyflwyniad i Drin Gwallt a Gwasanaethau Harddwch (16-18 oed)

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau steilio gosod a chwyth-sychu, lliwio, siampŵo a chyflyru gwallt, iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salon, manwerthu, sgiliau derbynfa a gofal cwsmeriaid. Yr unedau harddwch yw trin ewinedd y dwylo/trin ewinedd y traed/ celf ewinedd/paentio wynebau â thema sylfaenol a thechnegau coluro sylfaenol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed ac wedi cyflawni o leiaf dau gymhwyster TGAU Graddau D neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu Therapi Harddwch a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

61

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt (16-18 oed)

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt (19+ oed)

Hyd

Hyd

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau steilio, gosod a chwyth-sychu, lliwio, siampŵo a chyflyru gwallt, iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salon, manwerthu, sgiliau derbynfa a gofal cwsmeriaid. Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed ac wedi cyflawni o leiaf dau gymhwyster TGAU Graddau D neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau steilio, gosod a chwyth-sychu, lliwio, siampŵo a chyflyru gwallt, iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salon, manwerthu, sgiliau derbynfa a gofal cwsmeriaid. Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn 19 oed ac mae gofyn iddynt gwblhau cyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Atebion Creadigol: Cwrs Carlam mewn Trin Gwallt (16-18) (19 +)

Bydd y cwrs hwn yn caniatáu ennill cymwysterau ar garlam sef Dyfarniad VRQ Lefel 1 mewn Steilio Gwallt Menywod a Diploma VRQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod. Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid bod y myfyrwyr naill ai wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu ddau TGAU Graddau C neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod (16-18 oed)

Mae’r rhaglen hon yn rhoi sylw i sgiliau torri, steilio a setio sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (gan gynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau ar y gwallt a’r pen), iechyd a diogelwch sylfaenol siop trin gwallt, sgiliau hanfodol a manwerthu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog.

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid bod y myfyrwyr naill ai wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu ddau TGAU Graddau C neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau i gyrsiau Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod (19+) Mae’r rhaglen hon yn rhoi sylw i sgiliau torri, steilio a setio sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (gan gynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau ar y gwallt a’r pen), iechyd a diogelwch sylfaenol siop trin gwallt, sgiliau hanfodol a manwerthu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid bod y myfyrwyr naill ai wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu ddau TGAU Graddau C neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau i gyrsiau Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

62


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Diploma VRQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae’n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf 1 diwrnod yr wythnos a sesiwn fasnachol gyfnos yn y Coleg.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i barhau â'ch astudiaethau drwy gyflawni NVQ Lefel 4 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch eraill.

63

VTCT Diploma Lefel 3 mewn Coluro a Gwallt Theatrig, Effeithiau Arbennig a'r Cyfryngau

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel artist coluro proffesiynol ym meysydd y theatr a'r cyfryngau yn cynnwys: arferion iechyd a diogelwch; gofal cleientiaid a chyfathrebu; coluro'r wyneb a brwsh aer; colur cuddliw; colur i'r cyfryngau; colur ffasiwn a ffotograffiaeth; postiche arddull a gosod a chymhwyso darnau prosthetig a chapiau moel.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C neu uwch (neu gymhwyster Lefel 2 Harddwch/Trin Gwallt). Mae gofyn i fyfyrwyr aeddfed gyflawni cyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant Mae'r diwydiant ffilm yn Ne Cymru yn hynod o fywiog. Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig llwybr dilyniant cwricwlwm i chi gamu ymlaen i lwybrau AU fel: HNC/HND mewn Astudiaethau Coluro Creadigol a hefyd BA (Anrh) mewn Coluro ar gyfer Ffilm, Teledu a'r Cyfryngau.

VTCT Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch

Mae'r VTCT Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch yn gymhwyster sydd wedi'i gynllunio'n benodol i'ch cyflwyno i sgiliau therapi harddwch ymarferol. Bydd sgiliau therapi harddwch dysgwyr yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith go iawn neu realistig. Diben y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn therapi harddwch, a bydd yn rhoi sylfaen ar gyfer dysgu pellach i chi. Bydd hefyd yn eich galluogi i gyflawni eich gwasanaethau sylfaenol eich hun ac i gynorthwyo eraill yn y salon. Mae'n cynnwys celf colur ffotograffig/trin ewinedd dwylo a thraed sylfaenol/gofal croen/ technegau gosod colur sylfaenol a phaentio wynebau ar thema.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad.

Dilyniant I Therapi Harddwch Lefel 2.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Diploma VTCT Lefel 2 mewn Therapi Harddwch Cymhwyster Technegol (16-18)

Mae'r cwrs yn cwmpasu agweddau ar anatomeg a ffisioleg, croen, twf gwallt, afiechydon ac anhwylderau ac iechyd a diogelwch yn y salon. Mae'r agweddau ymarferol yn cynnwys colur ar gyfer y noson a cholur cywirol, llunio aeliau, lliwio aeliau a blew amrannau, cwyro, trin ewinedd dwylo a thraed, triniaethau wyneb a chyflogadwyedd.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU A*-E. Pum TGAU Graddau C neu uwch (neu gyfatebol), cyfweliad llwyddiannus. Rhaid i ddysgwyr fod rhwng 16 a 18 oed.

Dilyniant

I Therapi Harddwch Lefel 3 (cyffredinol), Therapi Cymhwysol Lefel 3 a Therapi Chwaraeon, neu yrfa mewn hyrwyddo colur a chosmetigau.

Lefel 2 mewn Therapi Harddwch (19+)

NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Hyd

Hyd

Mae'r cwrs yn cwmpasu agweddau ar anatomeg a ffisioleg, croen, twf gwallt, afiechydon ac anhwylderau ac iechyd a diogelwch yn y salon. Mae'r agweddau ymarferol yn cynnwys colur ar gyfer y noson a cholur cywirol, llunio a lliwio aeliau, cwyro, trin ewinedd dwylo a thraed, triniaethau wyneb a chyflogadwyedd. Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Cyfweliad llwyddiannus, a rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed neu drosodd. Gellir gofyn am eirdaon.

Dilyniant I Therapi Harddwch Lefel 3 (cyffredinol), Therapi Cymhwysol Lefel 3 a Therapi Chwaraeon, neu yrfa mewn hyrwyddo colur a chosmetigau

Mae'r cwrs yn cwmpasu agweddau ar anatomeg a ffisioleg, croen, twf gwallt, afiechydon ac anhwylderau ac iechyd a diogelwch yn y salon. Mae'r agweddau ymarferol yn cynnwys colur ar gyfer y noson a cholur cywirol, llunio a lliwio aeliau, cwyro, trin ewinedd dwylo a thraed, triniaethau wyneb a chyflogadwyedd. Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E. Cyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr 19 oed +. Ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed, mae dau TGAU Graddau C neu uwch yn ofynnol. Gellir gofyn am eirdaon.

Dilyniant

I Therapi Harddwch Lefel 3 (cyffredinol), Therapi Cymhwysol Lefel 3 a Therapi Chwaraeon, neu yrfa mewn hyrwyddo colur a chosmetigau.

64


Trin Gwallt a Therapi Harddwch VRQ Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr (19+) Mae'r VTCT Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr yn gymhwyster a gynlluniwyd yn benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uwch trwy amrywiaeth o dechnegau yn yr unedau canlynol: torri gwallt dynion yn greadigol a'r gwaith arbenigol dyrys o dorri gwallt wyneb. Wrth wraidd y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o fonitro iechyd a diogelwch wrth weithio yn y diwydiant gwaith barbwr. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sgiliau ymarferol a ddysgir trwy gydol y cymhwyster hwn. Diben y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uchel o allu galwedigaethol i'ch galluogi i gyflawni eich gwasanaethau salon eich hun.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed neu’n hŷn ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

65

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch (Llwybr Cyffredinol)

VRQ Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch

Hyd

Hyd

Mae'r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gamu ymlaen mewn ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â therapi harddwch. Datblygwyd y cynnwys yn unol â gofynion y diwydiant, yn enwedig mewn triniaethau trydanol i wella golwg y croen a’r corff. Blwyddyn

Coleg

Afan

Mae'r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gamu ymlaen mewn ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â therapi harddwch. Datblygwyd y cynnwys yn unol â gofynion y diwydiant, yn enwedig mewn triniaethau trydanol i wella golwg y croen a’r corff. Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Dilyniant

Dilyniant

Cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol.

Gall myfyrwyr arbenigo mewn mathau penodol o driniaethau, neu fynd ymlaen i gyrsiau Lefel 4.

Cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol.

Gall myfyrwyr arbenigo mewn mathau penodol o driniaethau, neu fynd ymlaen i gyrsiau Lefel 4.


Therapi Chwaraeon Lefel 3 mewn Therapïau Cymhwysol

Mae'r cwrs yn cynnwys cymwysterau tystysgrif uned unigol. Mae'r meysydd pwnc craidd yn seiliedig ar anghenion y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn dysgu, ymarfer a pherffeithio sgiliau a gwybodaeth yn y meysydd canlynol: technoleg ewinedd (Lefel 2), cymwysterau Tystysgrif Lefel 3 mewn: lliw haul â chwistrell estyniadau amrannau unigol, tylino Swedaidd, aromatherapi yn defnyddio olewau wedi'u blendio ymlaen llaw, colur ffasiwn a ffotgraffaidd.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

VTCT lefel 2 Therapi Chwaraeon

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymwysterau unedau unigol i raddau helaeth yn ogystal â Thystysgrif Lefel 3 mewn tylino Swedaidd. Mae'r cymwysterau uned yn cynnwys: Anafiadau mewn Chwaraeon, Effeithiau ymarfer ar systemau’r corff, Profi ffitrwydd a hyfforddiant, Maeth ar gyfer perfformiad Chwaraeon, Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Chwaraeon a Sgiliau Busnes mewn Chwaraeon. Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu tracwisg priodol, a chrys polo/siorts addas. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu ar adeg cofrestru.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 18 oed a drosodd ac wedi ennill cymwysterau Lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau cyflenwol.

Gofynion Mynediad

Dilyniant

Llwybr galwedigaethol Lefel 4 a 5 mewn Tylino Chwaraeon neu gellir defnyddio'r cymhwyster ar gyfer cael mynediad i brifysgol.

Therapi Chwaraeon, therapïau amgen arbenigol a therapïau uwch.

Lefel 3 mewn Therapïau Chwaraeon

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes rheoli ac atal anafiadau chwaraeon. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys tylino chwaraeon, strapio a thapio, profi ffitrwydd ac adfer anafiadau chwaraeon cyffredin. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cynnwys anatomeg, ffisioleg, gweithio mewn amgylchedd chwaraeon a dyletswyddau Cymorth Cyntaf ar y cae chwarae.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

O leiaf pum TGAU Graddau C neu uwch neu gymwysterau cyfatebol.

Tri TGAU neu gymwysterau cyfatebol.

Dilyniant

Dilyniant

Llwybr galwedigaethol Lefel 4 a 5 mewn tylino chwaraeon neu gellir defnyddio'r cymhwyster ar gyfer cael mynediad i brifysgol.

66


Prentisiaethau Ar Gael

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith, ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn. Yn ogystal ag astudio maes eu prif raglen, mae gan fyfyrwyr gyfleoedd i ennill cymwysterau ychwanegol fydd yn cefnogi ceisiadau ar gyfer cyflogaeth neu astudio yn y dyfodol. Mae cymwysterau TGAU sy'n ategu'r maes pwnc sydd ar gael yn cynnwys y cymhwyster UG newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallai gweithwyr ym maes gofal iechyd weithio mewn ysbytai a chlinigau, canolfannau gofal dydd a chartrefi preswyl, meddygfeydd, labordai, fferyllfeydd, optegwyr a phractisau deintyddol.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae amrywiaeth eang o alwedigaethau ac mae'r oriau a phatrymau gwaith yn amrywio yn unol â hynny.

67

Mae angen ar weithwyr gofal iechyd sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar. Gall gweithwyr meithrinfa gael eu cyflogi mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu ddod yn warchodwyr plant. Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

Rhagolygon Gyrfa

Cynorthwyydd Meithrinfa Gwarchodwr Plant Gweithiwr Gofal Cynorthwyydd Crèche Cynorthwyydd Grŵp Chwarae Therapydd Galwedigaethol Nyrsio Cwnselydd Therapydd Iaith a Lleferydd Gweithiwr Cymdeithasol Disgwyliadau Cyflog

£15-20k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

30191 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Mae'r cymhwyster yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector.

Mae'r cymhwyster wedi'i ddylunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am gael mynediad i gyflogaeth neu addysg bellach. Bydd dysgwyr yn cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â'r cymhwyster hwn.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Dau TGAU Graddau C neu uwch.

Dilyniant Mae cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr Gofal Plant Lefel 2 cymwysedig mewn swydd dan oruchwyliaeth.

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Mae'r cymhwyster yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector. Mae'r cymhwyster wedi'i ddylunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am gael mynediad i gyflogaeth neu addysg bellach. Argymhellir yn gryf bod dysgwyr yn cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â'r cymhwyster hwn. Ar ôl ei gwblhau, bydd dysgwyr yn gallu gweithio fel gweithiwr Gofal plant cymwysedig Lefel 3.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Pum TGAU C neu uwch.

Dilyniant Gallai cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori arwain at:  Wybodaeth a chymhwysedd i ymarfer yn y gweithle  Dilyniant i addysg uwch  Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant  Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd.

68


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy'n astudio mewn coleg addysg bellach. Bydd dysgwyr yn cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â'r cymhwyster hwn.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Dau TGAU Graddau C neu uwch.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

69

Gallai cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau arwain at:  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer Oedolion neu Ofal Plant a Phobl Ifanc  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau  TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Bydd y llwybr mwyaf perthnasol yn dibynnu ar y canlyniad a gyflawnwyd o fewn y cymhwyster hwn ac eraill a astudir ochr yn ochr ag ef. Bydd hefyd yn caniatáu llwybrau dilyniant i gymwysterau Lefel 3 eraill gan gynnwys Seicoleg a Chymdeithaseg a/neu fynediad i gyrsiau AU.

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae wedi'i gynllunio i'w ddarparu mewn colegau addysg bellach ond gallai hefyd fod o ddiddordeb i chweched dosbarth ysgolion a darparwyr eraill lle y bo'n briodol.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Afan, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Pum TGAU C neu uwch.

Dilyniant

Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, yn cynnwys lefel TAG symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn meysydd yn cynnwys:  Iechyd  Gofal Cymdeithasol  Blynyddoedd Cynnar  Therapi Iaith a Lleferydd  Seicoleg  Bydwreigiaeth  Iechyd galwedigaethol. Gall dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg uwch ddewis astudio'r cymhwyster hwn ochr yn ochr â TAG mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant gan gwblhau felly yr hyn sy'n cyfateb i dair Safon Uwch TAG.


Garddwriaeth a Garddio Mae garddwriaeth yn ddiwydiant deinamig ac amrywiol sy'n cynnwys y gwaith masnachol o gynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol, a hefyd dylunio, sefydlu, a chynnal a chadw ein parciau a'n gerddi, tiroedd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir. Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, gan gynnwys cwmnïau amlwladol mawr a sefydliadau entrepreneuraidd llai, awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau Cenedlaethol. Gartref a thramor, mae galw bob amser am arddwriaethwyr a hyfforddwyd ym Mhrydain. Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda chyfleusterau gwych, ceir pum tŷ gwydr mawr, a thwnel poli a ddefnyddir i storio a thyfu amrywiaeth eang a diddorol o blanhigion.

Disgwyliadau Cyflog

*

£ 30-60k

Rhagolygon Gyrfa Garddwr Tirluniwr Garddluniwr Gofalwr Tir Gofalwr y Grîn Tyfwr Ffrwythau a Llysiau Botanegwr

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

2384 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

70


Garddwriaeth a Garddio Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith

Hyd

Hyd

Hyd

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai nad oes ganddynt brofiad blaenorol yn y diwydiant garddwriaethol/garddio. Mae’n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol trwy ystyried amrywiaeth eang o’r sgiliau sy’n angenrheidiol wrth weithio yn y diwydiant garddwriaethol/garddio. Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd, Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol (cyfweliad). Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dyma’r cwrs delfrydol i gamu ymlaen i un o’r llu o lwybrau gyrfa ym maes garddwriaeth. Fel arall, gallai fod yn gam ar y ffordd tuag at astudiaethau pellach.

71

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o arddwriaeth/garddio ac mae'n cyfuno darlithoedd â gwaith ymarferol. Mae'r cwrs yn darparu sylfaen yn yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth/garddio. Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth. Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Dilyniant Cyflogaeth/Hunangyflogaeth mewn amrywiaeth o lwybrau gyrfa ym maes garddwriaeth/tirlunio gan gynnwys dylunio gerddi, cynnal a chadw tirlun, gweithio mewn planhigfa a’r sector manwerthu.

Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i astudio ymhellach mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwyddor garddwriaeth/ garddio a meysydd ehangach o arddwriaeth/garddio a ddisgwylid ar y lefel hon o astudiaeth. Mae profiad gwaith o un diwrnod yn agwedd orfodol ar y cwrs hwn Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 2 mewn garddwriaeth neu brofiad addas neu Fagloriaeth Cymru Cenedlaethol gyda TGAU yn ôl y gofyn. Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Dilyniant Mae’r cwrs yn darparu addysg a hyfforddiant i’r rhai sydd am weithio ym meysydd megis gweithio mewn planhigfa, dylunio gerddi, amlhau planhigion, tyfu planhigion, gofal tir, tirlunio, gwyddor organig ac addysg.


Cerbydau Modur Datblygwyd ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Cerbydau Modur, a leolir yng Ngholeg Pontardawe, gyda Snap-on Tools. Mae'r gweithdy hwn o'r radd flaenaf yn cynnwys deg ramp ceir, ramp alinio olwynion, bae prawf dull MOT ATL a bae glanhau a diagnosteg amrywiol gan Snap-on a Pico. Bydd Coleg Pontardawe yn hyrwyddo ei enw da bellach drwy ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Atgyweirio Cyrff Cerbydau gyda gwaith ailwampio gwerth £260k. Mae hyn yn cynnwys gosod baeau curo paneli a baeau ac offer ail-chwistrellu. Bydd y siop cyrff ar flaen y gad newydd yn gwasanaethu'r garejis lleol a'r diwydiant cerbydau modur i arbenigo mewn atgyweirio cerbydau ar ôl damweiniau. Mae'r sgiliau dan sylw ym meysydd trwsio cyrff ac ail-orffen yn amrywio o rannu paneli i lanhau, weldio MIG a chywiro diffygion paent. Mae gan yr adrannau Cerbydau Modur yn y Drenewydd a Bannau Brycheiniog weithdai llawn cyfarpar hefyd gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a lifft dull siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel ac ASNU a chyfleusterau uwchsonig i lanhau chwistrellwyr. At hynny, mae gan Goleg Y Drenewydd fae MOT ar ddull ATL llawn cyfarpar a man diagnosteg pwrpasol.

Prentisiaethau Ar Gael Disgwyliadau Cyflog

£15-40k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

4621 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Mae gan bob un o'r tri champws ystod gynhwysfawr o offer a chyfarpar o safon y diwydiant, amrywiaeth dda o gerbydau a pheiriannau ar rigiau y gall myfyrwyr weithio arnynt ac mae'r rhain yn cael eu diweddaru a'u newid yn rheolaidd.

Mecanydd Dylunydd Ceir Cyflym Arbenigwr Atgyweirio Cyrff Cerbydau Chwistrellwr Curwr Paneli Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

72


Cerbydau Modur IMI Diploma Lefel 1 mewn IMI Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau Damweiniau - Ail-orffen Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r sgiliau (Paent) sylfaenol a'r wybodaeth sy'n gyffredin i atgyweirio cerbydau wedi'u difrodi mewn damweiniau. Mae'r cwrs yn anelu at archwilio adeiledd y cerbydau a sut i atgyweirio darnau wedi'u difrodi mewn dull priodol ar gyfer eu gorffen.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Pontardawe

Gofynion Mynediad

TGAU D/E ac uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn wrth symud ymlaen i gwrs Lefel 2.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau Diploma Lefel 1 mewn Gorffen Cerbydau ar ôl Damweiniau. Prentisiaeth.

73

Mae'r cwrs hwn sy'n para am flwyddyn yn ymdrin â'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth sy'n gyffredin i ail-orffen a phaentio cerbydau wedi'u difrodi mewn damweiniau neu sydd angen eu hail-chwistrellu. Bydd myfyrwyr yn archwilio cerbydau adeiladu a'r broses ynghylch ail-chwistrellu cerbyd cyfan neu rannau ohono.

Hyd

Blwyddyn

Coleg Pontardawe Gofynion Mynediad

TGAU D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn wrth symud ymlaen i gwrs Lefel 2.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau - Ail-orffen Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau. Prentisiaeth.


Cerbydau Modur IMI Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cludiant

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Cerbydau Modur yn gyffredinol. Mae’r cwrs yn anelu at archwilio’r holl systemau mecanyddol a thrydanol a ddefnyddir fel arfer gyda cherbydau ysgafn. Bydd rhaid cyflawni dau arholiad cwestiynau amlddewis ar-lein i gwblhau’r cwrs a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol i’w cyflawni yn ein gweithdy ar flaen y gad.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Pontardawe

Gofynion Mynediad

TGAU D/E ac uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ailsefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn wrth symud ymlaen i gwrs Lefel 2.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn. Diploma Lefel 1/2 mewn Atgyweirio Cerbydau. Diploma Lefel 1/2 mewn Adfer Cerbydau (Paentio). Prentisiaeth.

City & Guilds Diploma/ Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Cerbydau Modur yn gyffredinol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r holl systemau mecanyddol a thrydanol, sy'n nodweddiadol o gerbydau ysgafn. Rhaid cyflawni saith arholiad amlddewis ar-lein i gwblhau'r cwrs, (gan City & Guilds), sy'n cwmpasu holl feysydd cerbydau ysgafn. Mae cwblhau'r arholiadau hyn yn llwyddiannus yn golygu y bydd gennych yr holl wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer y Brentisiaeth Fodern. Mae tri aseiniad a thasgau ymarferol yn cael eu cyflawni yn ein gweithdy rhagorol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Pontardawe

Gofynion Mynediad

Mae cymwysterau TGAU Graddau C ac uwch yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr gyda llai na Gradd C fynychu dosbarthiadau ailsefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio/ Ail-orffen Cerbydau ar ôl Damweiniau Prentisiaeth mewn garej i gwblhau cynnwys NVQ y lefel 2. Prentisiaeth Fodern. Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn. Prentisiaeth i gwblhau cynnwys NVQ y Brentisiaeth Fodern Lefel 3 ar gyfer tystysgrif gyflawn fel technegydd. 74


Prentisiaethau Ar Gael

Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Mae’r Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser yn ogystal â rhaglenni masnachol a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion tra arloesol y sector diwydiant hwn sy'n symud yn gyflym. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr a busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein rhaglenni mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cwmpasu Gosodiadau Trydanol, Technoleg Nwy, Plymio, Gwresogi ac Awyru, Effeithlonrwydd Ynni a Chyngor a Thechnolegau Adnewyddadwy, yn ogystal â Rheoli Adeiladu a Systemau Rheoli. Fe'u darperir ar draws pedwar o'n prif golegau:

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

 Afan  Castell-nedd  Y Drenewydd  Abertawe

75

Mae gennym weithdai modern ar bob campws, sydd â chyfleusterau ardderchog sy’n cael eu diweddaru wrth i dechnolegau newydd ymddangos. Arweinir ein cyrsiau gan staff arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a ddysgwyd yn y diwydiant a pharatoi myfyrwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus ym meysydd Electrodechnegol, Plymio, Gwresogi, Awyru, Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Tân, Technolegau Amgylcheddol a Thechnoleg Cartref Clyfar sy'n dod i'r amlwg. Mae'r Academi Ynni yn cynnig cyrsiau ar gyfer Hyfforddiant ac Asesiad Diogelwch Nwy ACS ac Effeithlonrwydd Ynni. Mae'r technolegau amgylcheddol newydd hyn yn cynnwys:

 Micro-gynhyrchu pŵer trydanol, Ffotofoltäig Solar  Micro-gynhyrchu pŵer trydanol gyda Thyrbin Gwynt  Dŵr poeth Solar Thermol  Hyfforddiant Pwmp Gwresogi (ffynhonnell ddaear ac aer)  Cynaeafu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd  Rheoli a Defnyddio Cartref Clyfar.

Rhagolygon Gyrfa

Prentisiaeth Plymio Peiriannydd Nwy Prentisiaeth Drydanol Ymgynghorydd Ynni Prentisiaeth Chwistrellwyr Peiriannydd ‘Green Deal’ Disgwyliadau Cyflog

£25-40k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

17302 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Diploma Lefel 1 mewn Gosodiadau Trydanol

Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio

Hyd

Hyd

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sydd am ddysgu sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â gosodiadau trydanol. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o dasgau sylfaenol sy'n sail i wybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â gosodiadau trydanol. Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-D.

Dilyniant Mae'n caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i'r cymwysterau canlynol: Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol (Adeiladau ac Adeileddau).

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ddysgu sgiliau sylfaenol a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â phlymio. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o dasgau sylfaenol sy'n sail i wybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â phlymio. Blwyddyn

Coleg

Abertawe, Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-D.

Dilyniant Mae'n caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i'r cymwysterau canlynol:  Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio  NVQ Diploma Lefel 2 mewn Plymio a Gwresogi.

76


Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Lefel 2 mewn Gwasanaethau Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Drydanol Astudiaethau Plymio (Gosodiadau a Chynnal a (Plymio a Gwresogi) Ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio Chadw Trydanol) fel plymwyr yn y sector peirianneg Ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio fel trydanwyr yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu, mae'r cwrs hwn yn caniatáu ichi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector electro-dechnoleg.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Afan

Gofynion Mynediad

gwasanaethau adeiladu. Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swydd a/neu ddilyniant o ran gyrfa ym maes plymio.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-C.

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-C.

Dilyniant

Dilyniant

Mae'n caniatáu ymgeiswyr i symud ymlaen i gyflogaeth, er nad fel trydanwr cwbl gymwysedig, neu i astudio'r cymwysterau canlynol:  NVQ/Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol (Adeiladau a Adeileddau) fframwaith prentisiaeth.

Mae'n caniatáu ymgeiswyr i symud ymlaen i gyflogaeth, er nid fel plymwyr cwbl gymwysedig, neu i astudio'r cymwysterau canlynol: Lefel 2 prentisiaeth Plymio a Gwresogi NVQ/ Diploma.

Cwrs Newydd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

CBAC Ymarfer Adeiladu Proffesiynol Lefel 3

77

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i fyfyrwyr fframwaith cynhwysfawr o wybodaeth, dealltwriaeth a hyrwyddo o ran sgiliau cymhwysol y mae'r sector amlddisgyblaeth hwn yn dibynnu arno. Caiff ei ddarparu yn y coleg gan staff profiadol ac yn y gweithle gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar hyn o bryd o fewn y diwydiant. Mae'r cymhwyster yn werth hyd at 56 o bwyntiau UCAS (cyfwerth â Safon Uwch), ac yn rhoi cipolwg cyfoes ar arferion rheoli adeiladwaith modern, sy'n cynnwys y technolegau, yr ymddygiad a'r arloesi sy'n ategu darparu adeiladau eiconig o'r radd flaenaf. Bydd y cymhwyster yn cefnogi dilyniant dysgwyr o lefel TGAU yn arbennig mewn pynciau fel Dylunio a Thechnoleg, Adeiladwaith, Peirianneg ac Astudiaethau Busnes.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Castell-nedd

Gofynion Mynediad

Gradd Teilyngdod Diploma L2 neu 5 TGAU yn cynnwys C mewn Mathemateg.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi symud ymlaen i ddyfarniad Canolraddol Lefel 2 a'r posibilrwydd o brentisiaeth fodern.


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus â gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Gall myfyrwyr ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eu bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

Gwasanaethau Cyhoeddus Mae amrywiaeth o gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfuno dysgu seiliedig ar waith, datblygu gwybodaeth a sgiliau; ynghyd â chymhwyso modiwlau theori ac ymarferol. Mae amrywiaeth o wibdeithiau, gweithgareddau preswyl a gwersi rhyngweithiol cyffrous hefyd yn rhoi cipolwg ar yr ystod amrywiol o yrfaoedd gwasanaeth cyhoeddus mewn lifrai a heb lifrai.

Coleg Bannau Brycheiniog

Gyrfa

Rhagolygon

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog Grŵp NPTC yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei faes hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf. Mae'r cyfleusterau addysgu yn cynnwys tair ystafell addysgu, cyfleusterau TG a labordy chwaraeon, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un ohonynt. chwaraeon, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol. Lluoedd Arfog Chwaraewr Proffesiynol Gwasanaeth Tân Gwasanaeth Ambiwlans Hyfforddwr Chwaraeon Gwasanaeth Heddlu Gwyddonydd Chwaraeon Gweithgareddau Awyr Agored Athro AG Datblygiad Chwaraeon

Prentisiaethau ac Ysgoloriaethau Ar Gael Academi Chwaraeon Llandarcy

Yn Llandarcy, mae gennym gyfleusterau chwaraeon sydd gyda'r gorau yn y sector. Mae'r rhain yn cynnwys neuadd chwaraeon aml-ddefnydd elît o safon genedlaethol, wal ddringo, llain 3G pob tywydd, ardal gemau aml-ddefnydd (MUGA), ystafell cryfder a chyflyru a thrac redeg dan do gydag ardal gynhesu. Mae'r cyfleusterau addysgu yn cynnwys deg ystafell addysgu, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol. Gall y myfyrwyr hefyd ddefnyddio tair ystafell ELC llawn offer ac ystafell gyffredin gyfforddus i fyfyrwyr gyda Sky TV a bwrdd tenis bwrdd. Mae cael partneriaethau cryf gyda rygbi Rhanbarthol y Gweilch a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ond yn amlinellu ein hymrwymiad difrifol i ddatblygu ein proffesiynoldeb yn y byd chwaraeon! Rydym yn cysylltu â llawer o asiantaethau allanol a chyrff llywodraethu fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru ac adran PASS CPT, gan roi cyfleoedd a phrofiadau cyffrous i'n myfyrwyr yn ogystal â'r cyfle i hyfforddi ochr yn ochr ag athletwyr proffesiynol.

Disgwyliadau Cyflog

*

£15-30k

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

5339 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

78


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Lefel 1 mewn Chwaraeon a Hamdden Egnïol

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant Chwaraeon/Hamdden, neu ar gyfer myfyrwyr sydd am gamu ymlaen i’r cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r modiwlau'n cynnwys: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon/Hamdden, Cymryd Rhan mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd, Cynllunio’ch Rhaglen Ffitrwydd eich Hun.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Llandarcy

Gofynion Mynediad

Dim gofynion ffurfiol ond bydd angen cael cyfweliad gydag arweinydd y cwrs.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus a chael geirdaon cadarnhaol gan eich tiwtoriaid, bydd angen i chi gwblhau sgrinio WEST gyda'r lefelau priodol i symud ymlaen ymhellach i gwrs lefel 2. Mae'r cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau ar gyfer cyflogaeth bosibl ym meysydd chwaraeon a hamdden sy'n tyfu'n gyson.

Active Q Ffitrwydd ac Ymarfer Corff mewn Hyfforddiant Personol

ae hwn yn gymhwyster newydd a M chyffrous a arweinir gan gyflogwyr gyda'r opsiwn i ymadael ar ôl y flwyddyn gyntaf fel hyfforddwr ffitrwydd neu i gwblhau'r ail flwyddyn ac ymadael fel hyfforddwr personol. Blwyddyn, 1 Lefel 2: Yn arwain at gymhwyster fel Hyfforddwr Ffitrwydd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau'r cymhwyster Hyfforddi Campfa Lefel 2 ac yn gwneud modiwlau ychwanegol mewn beicio dan do, hyfforddiant cylchol a sesiynau 'kettlebell'. Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda'r cyhoedd ac i ddod i adnabod y sector chwaraeon a hamdden yn fanwl iawn. Blwyddyn 2, Lefel 3: Yn arwain at gymhwyster fel Hyfforddwr Personol. Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu sut i gynnal ymgynghoriadau gyda chleientiaid hyfforddiant personol a datblygu eich dealltwriaeth o faeth ar gyfer perfformio mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ogystal â chael gwybodaeth ddiweddar a phenodol am y sector cyfredol. Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i gael mynediad i raglenni gradd addysg uwch.

Hyd

2 Flynedd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Coleg

79

Llandarcy

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg ynghyd â chyfweliad llwyddiannus gydag arweinydd y cwrs.

Dilyniant Cyflogaeth mewn hamdden a'r diwydiant hamdden.

BTEC Lefel 2 Tystysgrif Dechnegol mewn Chwaraeon

Wedi'i ddatblygu gan gyflogwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau i ymgysylltu'n llwyddiannus â chyflogaeth a thasgau seiliedig ar alwedigaethau. Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o unedau sy'n gysylltiedig â chwaraeon: er enghraifft, Arwain Chwaraeon yn Ddiogel ac yn Effeithiol, Gweithio mewn Chwaraeon ac Arwain Gweithgareddau, Arwain Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol, Hyfforddi Chwaraeon a sicrhau bod eraill yn Egnïol yn yr Awyr Agored, Darparu Digwyddiad Gweithgareddau Chwaraeon.

Hyd

Blwyddyn

Coleg Llandarcy Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen Llwyddo/ Llwyddo*/ 2 TGAU Graddau C neu uwch (neu gyfatebol).

Dilyniant

Mynediad i Ddiploma BTEC Lefel 3 mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill graddau Rhagoriaeth neu Deilyngdod neu Lefel 2 amgen.


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Lefel 2 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfun

Mae’r cwrs Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus hwn yn gwrs ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith. Rydych yn dysgu trwy gwblhau asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig ochr yn ochr â phrosiectau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle, gweithgareddau a gofynion y diwydiant chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwch yn edrych ar wahanol agweddau ar y ddau sector a bydd y cwrs yn darparu sylfaen dda i fynd ymlaen i gymhwyster uwch sy’n gysylltiedig â gwaith.

Hyd

BTEC Diploma Tystysgrif Estynedig Estynedig Lefel 3 mewn Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Gwasanaethau Cyhoeddus Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gyda Bagloriaeth Cymru baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn un o’r llu o swyddi Gwasanaethau Cyhoeddus sydd ar gael e.e yn yr Heddlu, y Lluoedd Arfog, Y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r gwasanaethau cyhoeddus heb lifrai.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Llandarcy

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau C neu uwch. Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau C neu uwch.

Dilyniant

Camu ymlaen i gwrs perthnasol ar Lefel 3 i’r rhai a gyflawnodd Radd Teilyngdod ar Lefel 2 neu gallwch hefyd ddefnyddio'r cymhwyster i'ch helpu i geisio swydd mewn maes cysylltiedig.

Dilyniant Gall myfyrwyr gamu ymlaen i’r Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai (UPS) yng Ngrŵp Colegau NPTC neu swydd mewn un o’r Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai fel y Llynges Frenhinol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac eraill.

Mae’r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Bagloriaeth Cymru yn chwilio am arweinwyr addysgiedig, brwdfrydig a llawn cymhelliant. Gan gwblhau’r Diploma 90 Credyd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn y flwyddyn gyntaf a mynd ymlaen i astudio’r Diploma Estynedig yn yr ail flwyddyn, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i brofi pob agwedd ar fywyd yn y gwasanaethau cyhoeddus ac yn eich helpu i benderfynu i ba sefydliad rydych chi am wneud cais. Wrth gwblhau’ch Diploma Estynedig yn llwyddiannus, gallwch barhau gyda’ch astudiaethau drwy ddilyn y cwrs HNC/D mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llandarcy hefyd.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog, Llandarcy

Gofynion Mynediad

5 TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn hefyd yn caniatáu mynediad i Addysg Uwch neu yrfa ym meysydd Gwasanaethau Cyhoeddus a chwaraeon; er enghraifft; yr Heddlu, Ambiwlans, Gwasanaeth Tân, y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r RAF. Mae dilyniant yn bosibl i'r HND Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai a gynigir yn Academi Chwaraeon Llandarcy a Choleg y Drenewydd. Mae myfyrwyr blaenorol wedi symud ymlaen i astudio am raddau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Plismona Troseddu, Gwyddorau'r Heddlu, Addysg Antur yn yr Awyr Agored, Datblygu Chwaraeon, a Hyfforddi Chwaraeon. 80


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd)

Mae hwn yn gwrs delfrydol i wella eich gwybodaeth ddamcaniaethol sy'n ymwneud â nifer o themâu chwaraeon. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel pêl-foli, tenis, lacrós, rygbi a gweithgareddau awyr agored fel syrffio, canŵio a beicio mynydd. Ceir pwyslais cryf ar hyfforddi ac arwain gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y 2 flynedd lle byddwch yn ymgysylltu â llawer o gyfleoedd gwahanol megis gwyliau, digwyddiadau a chymwysterau hyfforddi amrywiol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau a'ch rhinweddau mewn hyfforddi, arwain a threfnu digwyddiadau drwy weithio ochr yn ochr â llawer o'n partneriaid, rhedeg gwyliau a gweithio gyda phobl ifanc sy'n frwd dros chwaraeon.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Llandarcy

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C neu uwch. Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu'r ddau yn ddymunol.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

81

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau gradd addysg uwch ar ein tri champws:  Academi Chwaraeon Llandarcy ar gyfer HND mewn Chwaraeon, HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus  Bannau Brycheiniog ar gyfer HND mewn Chwaraeon. Mae myfyrwyr blaenorol wedi llwyddo i ddilyn gyrfaoedd mewn Addysgu (Cynradd ac Uwchradd), Swyddogion Datblygu Chwaraeon, Hyfforddwyr Personol, Hyfforddwyr Campfa, Hyfforddwyr, Gweithwyr Chwarae, Swyddogion yr Heddlu a Diffoddwyr Tân.

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff a Bagloriaeth Cymru

Nod pobl sy’n gwneud chwaraeon yw perfformio ar eu gorau ar y diwrnod cystadlu. Mae’r cwrs hwn yn ceisio edrych ar berfformiad chwaraeon o safbwynt gwyddonol ac yn astudio’r holl brif bynciau a fydd yn effeithio ar ansawdd perfformiad chwaraeon. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth hon i wella eu potensial eu hunain a photensial pobl eraill y maent yn eu hyfforddi. Bydd unedau yn cynnwys: Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Profi Ffitrwydd, Anafiadau Chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon, Chwaraeon Unigol/Tîm, Maeth Chwaraeon a Thylino Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu’r ddau bwnc yn ddymunol.

Dilyniant

Mae’r cwrs yn gyfle i weithio ym maes gwyddor chwaraeon, sy’n ehangu o hyd, lle mae mwy a mwy o weithwyr proffesiynol cymwys yn cael eu defnyddio gan yr holl brif sefydliadau a chlybiau chwaraeon. Hefyd, gall myfyrwyr gamu ymlaen i HND mewn Chwaraeon (Hyfforddiant a Datblygu Chwaraeon) ar gampws Bannau Brycheiniog.

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) (FfCCh)

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r athletwr elit; bydd yr holl chwaraewyr yn datblygu pob math o sgiliau trwy amrywiaeth o fodiwlau a phrofiadau megis cynllunio digwyddiadau, dyfarnu a hyfforddi plant. Mae'r unedau yn cynnwys: Anatomeg a ffisioleg, asesu risgiau mewn chwaraeon, hyfforddiant a rhaglenni chwaraeon, profi ffitrwydd, sgiliau technegol a thactegol, dadansoddi perfformiad, seicoleg er perfformiad, hyfforddiant chwaraeon ac anafiadau chwaraeon. Mae cymwysterau ychwanegol yn cynnwys Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon, Cymorth Cyntaf a chymwysterau hyfforddi.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Llandarcy

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C neu uwch. Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu'r ddau yn ddymunol.

Dilyniant

Mae’r cwrs yn gyfle i weithio ym maes gwyddor chwaraeon, sy’n ehangu o hyd, lle mae mwy a mwy o weithwyr proffesiynol cymwys yn cael eu defnyddio gan yr holl brif sefydliadau a chlybiau chwaraeon. Hefyd, gall myfyrwyr symud ymlaen i'n HND mewn chwaraeon yn Academi Chwaraeon Llandarcy.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Grŵp Colegau NPTC Cyrsiau Amswer Llawn - Colegau De by NPTC Group of Colleges - Issuu