Skip to main content

Grŵp Colegau NPTC Cyrsiau Amswer Llawn 2019/2020 - Colegau Gogledd

Page 1

r u' sa d py d m g le Ca Go

CYRSIAU AMSER LLAWN 2019/20

www.nptcgroup.ac.uk


Croeso G

all Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant.

Mae myfyrwyr yng Ngholegau’r Drenewydd a Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau gwych yn eu Diplomâu Cenedlaethol Estynedig BTEC. Mae llawer wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ac wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol ar ôl llwyddo i sicrhau’r graddau yr oedd eu hangen arnynt. Mae BTEC Lefel 3 yn cyfateb i dair Safon Uwch ac yn ddewis lwybr ar gyfer llawer o fyfyrwyr na all wynebu’r syniad o sefyll arholiadau ond sydd eisiau mynd i’r brifysgol neu ddilyn gyrfa. Mae'r cymwysterau yn gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad, ac maent yn seiliedig ar brofiad ymarferol a gwaith cwrs. Ar draws y Grŵp, enillodd 90 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 28 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D*. At hynny, llwyddodd mwy na 266 o fyfyrwyr yn eu Tystysgrif Her Sgiliau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru â chyfradd lwyddo eithriadol o 94%. Ar gyfer y 13eg flwyddyn yn olynol, cyflawnodd myfyrwyr oedd yn sefyll eu Safon Uwch (Coleg Castell-nedd) gyfradd lwyddo o 99 y cant. Gyda mwy a mwy o ddiddordeb mewn prentisiaethau a'r bwlch sgiliau, yn enwedig ym maes adeiladu, yn cynyddu, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu rhaglen dysgu seiliedig ar waith o fewn nifer o feysydd galwedigaethol. Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi opsiwn i chi ennill cymwysterau cydnabyddedig ar yr un pryd ag ennill profiad gwaith gwerthfawr a chyfle i chi ennill arian. Rydym eisiau'ch paratoi chi ar gyfer y cam nesaf ar eich taith tuag at waith neu'r brifysgol; gyda'r bwriad hwn mewn golwg, byddwn yn eich annog i anelu’n uchel, a’ch cefnogi i ddod yn unigolion amryddawn, nid yn unig o safbwynt academaidd ond drwy’r sgiliau cyflogaeth niferus yr ydym yn eu datblygu a'r gweithgareddau ychwanegol yr ydym yn eu darparu megis cyfleoedd menter, academïau chwaraeon a’r celfyddydau perfformio. Felly p'un a ydych yn dewis astudio Safon Uwch, cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, gwnewch yn siwr mai Grŵp Colegau NPTC yw EICH CYFLE, EICH DYFODOL

Mark Dacey Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Prif Weithredwr, Grŵp Colegau NPTC

1

Diwrnodau Agored  Gweld y Coleg  Cwrdd â’r staff  Trafod eich anghenion Coleg Bannau Brycheiniog 26 - 09 - 2018 21 - 11 - 2018 16 - 01 - 2019

Coleg Y Drenewydd 27 - 09 - 2018 22 - 11 - 2018 17 - 01 - 2019


Pam Dewis Grŵp Colegau NPTC?

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Amaethyddiaeth

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Jade Jenkins-Griffiths D*DD yr hyn sy’n gwneud y cyflawniad hwn yn arbennig yw bod Jade wedi gofalu am ei merch a gweithio a chyflawni’r graddau uchaf. Bydd hi’n mynd i weithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Coral Jenkins D*D*D* mae Coral yn gyn-fyfyriwr Lefel 2 sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni ei chymhwyster Lefel 3 gyda’r graddau uchaf. Mae hi wedi cael ei derbyn i Brifysgol De Cymru i astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth. Eleanor Cochrane D*D*D* mae Elle yn mynd i Brifysgol Coventry i astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth.

Chwaraeon BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd) Sam Morris D*D*D* o’r Drenewydd sy’n mynd i Brifysgol De Cymru – Hyfforddi a Pherfformiad Pêl-droed. Ffion Evans D*D*D o Lanidloes sydd wedi cael lle ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon.

Kira Newey o Landinam wedi ennill Rhagoriaeth*. Olivia Bennett-Jones o Hodley a Gemma Price o Laithdu wedi ennill Rhagoriaeth.

Gwasanaethau Cyhoeddus Diploma Estynedig Francesca Board D*D*D* o Lanidloes, yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol ac Ieuenctid. Rhiannon Mills D*D*D* cafodd ei phen-blwydd yn 18 oed ym mis Gorffennaf. Mae hi yng nghamau cynnar gwneud cais ar gyfer yr orsaf dân wrth gefn ym Machynlleth. Mae hi’n mynd i barhau â’u hastudiaethau gyda’r Brifysgol Agored yn dechrau yn ddiweddarach eleni a’i nod yw ymuno â’r Heddlu.

TG - Diploma Estynedig Brandon Pratten D*D*D* o’r Drenewydd, yn cymryd blwyddyn i ffwrdd ac yna’n mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Anthony Andrews D*D*D* o Aberhonddu. Golyga hyn fod Anthony nawr yn gadael y Coleg gyda gradd gyffredinol o ragoriaeth driphlyg serennog, a bydd yn mynd ymlaen i astudio am radd mewn Technoleg Cerddoriaeth.

2


Cynnwys

Rhifau Cyswllt Defnyddiol:

Pam dewis Grŵp Colegau NPTC?................... 2

Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614200

Sut i ddod o hyd i ni.......................................... 4 Sut i wneud cais?.............................................. 5 Beth sy'n iawn i fi?............................................. 6 Bywyd yn y Coleg.............................................. 7 O ddifri am Chwaraeon.................................... 8 Centerprise......................................................... 9 Ennill Gradd..................................................... 10 Amaethyddiaeth.............................................. 11 Prentisiaethau................................................. 14 Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth................... 15 Cyfrifiadura a TG............................................. 18 Adeiladwaith.................................................... 20

Coleg Bannau Brycheiniog:01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614205

Prentisiaethau

Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614253

Cymorth i Fyfyrwyr

Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614200

Cymorth Ychwanegol

Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614200

LCA, Ffioedd a Chostau Eraill

Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614599

Teithio i’r Coleg

Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio.................................................. 24

Eisiau dysgu yn Gymraeg?

Peirianneg........................................................ 31 Astudiaethau Sylfaen..................................... 35 Trin Gwallt a Therapi Harddwch.................... 38 Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Eich Cais

Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614440 Coleg Y Drenewydd: 01686 614599

Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch........... 28

3

Oes gennych gwestiwn ynglŷn â chwrs?

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant........ 43 Garddwriaeth a Garddio................................. 45 Cerbydau Modur.............................................. 47 Plymio, Gwaith Trydanol, Gwresogi ac Awyru... 49 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus....... 52

Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614410 Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar Papur ardystiedig gan FSC® o ffynonellau cynaliadwy.

Mae’r prosbectws hwn yn rhoi manylion am bob rhaglen academaidd a galwedigaethol amser llawn yn ein campysau'r Gogledd. Am fanylion am unrhyw gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC, ewch i’n gwefan: www. nptcgroup.ac.uk Roedd yr wybodaeth a geir yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg gynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.


dd wy

od

la pws L ndrind m a

Sut i Ddod o Hyd i Ni

eg Y Dren Co l e

a rda

ndarcy Co

o

eiladwa

ith

r tawe

Margam, Port Talbot, SA13 2AL Ffôn: 01639 648200

n Ad

Ma

Can

lfa

Coleg Afan

ith

olfa

n Adei

a ladw

ole

C

C

an

Abe

Coleg Bannau Brycheiniog Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR Ffôn: 01686 614400

este

g

astell-ned d

ad Ac

C leg

emi Chwar

a

we

n Lla eo

r ycheiniog

Coleg Ban

n

C Coleg Pont

B au

gA

fan

Academi Chwaraeon Llandarcy Parc Llandarcy, Sgiwen, Castell-nedd, SA10 6JD Ffôn: 01792 815545

Coleg Y Drenewydd

Campws Llandrindod

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU Ffôn: 01686 614200

Ffordd Sba, Llandrindod, LD1 5ES Ffôn: 01686 614300

Coleg Pontardawe

Canolfan Adeiladwaith Maesteg Uned 7, Ystad Ddiwydiannol Spelter, Maesteg, CF34 0TY Ffôn: 01639 648180

Coleg Castell-nedd Heol Dŵr-y-Felin, Castell-nedd, SA10 7RF Ffôn: 01639 648000

Tŷ Tawe, Ystad Ddiwydiannol Alloy, Pontardawe, SA8 4EZ Ffôn: 01639 648100/6

Canolfan Adeiladwaith Abertawe Clos Dewi Sant, Parc Anturiaeth Abertawe Llansamlet, SA6 8QL Ffôn: 01639 648120

4


Gwneud Cais

Gallwch wneud cais AR-LEIN trwy ein gwefan www.nptcgroup.ac.uk neu os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur, gallwn anfon ffurflen gais AR BAPUR atoch, neu efallai y byddwn yn ymweld â'ch ysgol hyd yn oed. Mae staff Derbyniadau ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych o bosib ar unrhyw adeg y broses ymgeisio. Cysylltwch â’n tîm Derbyniadau ar: Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614200

Eich Dewisiadau Eich TGAU

5

Ada Rhagle wyr n Ysg i ol

Pre Uw ntisia e ch/ Gra th dd

Blw yd i Ffw dyn rdd Prif ysg ol

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Beth Nesaf?

Er bod modd i chi gychwyn ar swydd ar ôl cymhwyster Lefel 2 bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl i chi gyflawni cwrs Lefel 3 yn gyntaf.

Cyflogaeth

h aet dei Hyff ord

BTE C Lef el 2

Pre n Gan tisiaet h rolr add Lef el 2

Mae gennych lai na 5 TGAU ar A*/9 - C/4

Tys Dec tysgr NVQ hne if neu gol VRQ

Pre

Le ntis fel 3 iae Uw th ch

a lom Dip Lef el 3

BTE C Lef el 3

Saf on U

Mae gennych 5 TGAU neu fwy ar A*/9 - C/4

Ar ôl cyflawni hyfforddeiaeth, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn camu ymlaen i gyflawni Prentisiaeth Lefel 2 ond bydd modd i fyfyrwyr sy'n 18 oed neu drosodd fynd i mewn i'r byd gwaith


Beth sy’n iawn i fi? Mae detholiad o gyrsiau ar gael gennym o Lefel Mynediad i Lefel 3 a Safon U felly bydd cwrs at ddant pawb a fydd yn eich helpu i gamu ymlaen.

LEFEL

Safon Mynediad

Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Safon U

SAFON U

GALWEDIGAETHOL Gwaith cwrs Dysgu Ymarferol Profiad Gwaith Sgiliau Hanfodol 1 pwnc CBC

Yn yr ystafell ddosbarth Seiliedig ar arholiadau Sgiliau Hanfodol Hyd at 3 phwnc CBC Addysg Uwch Cyflogaeth

Addysg Uwch

CYMWYSTERAU Cyrsiau Sylfaen

Paratoi myfyrwyr ar gyfer Lefel 1

Cymwysterau Lefel 1

ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau dysgu sgil newydd; paratoi ar gyfer Lefel 2

Cyflogaeth

PRENTISIAETH Dysgu Seiliedig ar Waith Sgiliau Hanfodol Profiad Gwaith 1 Sector diwydiannol Addysg Uwch

Cyflogaeth

GOFYNION MYNEDIAD

EICH DYFODOL

Dim cymwysterau ffurfiol ond brwdfrydig ynglyn â’r pwnc

LEFEL 1

Dim cymwysterau ffurfiol ond gorfod mynychu cyfweliad

Cymhwyster

Cymhwyster LEFEL neu brentisiaeth

2

BTEC Lefel 2/NVQ Prentisiaeth

Bagloriaeth Cymru Lefel Sylfaen Rhai cymwysterau TGAU neu gymhwyster Lefel 1

Cymhwyster LEFEL 3, prentisiaeth neu gyflogaeth

BTEC Lefel 3/NVQ/Prentisiaeth

Bagloriaeth Genedlaethol Cymru. 4/5 TGAU Gradd A*- C (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg)

Cymhwyster LEFEL 4, prifysgol, prentisiaeth uwch neu gyflogaeth

Cyrsiau academaidd uwch sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y brifysgol neu gyflogaeth. Mae llawer o bynciau UG yn gofyn am TGAU Gradd B neu uwch yn y pynciau dan sylw neu bynciau cysylltiedig.

6 TGAU Gradd A*- C (yn cynnwys Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth) Coleg Castell-nedd yn unig

Cymhwyster LEFEL 4, prifysgol, prentisiaeth uwch neu gyflogaeth

Paratoi myfyrwyr ar gyfer cyrsiau Lefel 3

Paratoi myfyrwyr ar gyfer prifysgol, gwaith neu brentisiaeth uwch

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gadarnhau a gwella’u sgiliau hanfodol a’u sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ar yr un pryd â hyrwyddo sgiliau ymchwil o safon uchel. Drwy adeiladu ar y cyflawniadau ar Lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, agweddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich ymbaratoi ar gyfer prifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.

6


Bywyd yn y Coleg: Crëwch Eich Profiad Eich Hun Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd cam ymhellach i sicrhau bod yr amser y byddwch yn ei dreulio yn y Coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus. Mae gennym dîm o gwnselwyr proffesiynol lle y gallwch drafod unrhyw bryderon neu broblemau mewn lleoliad cyfeillgar a chyfrinachol ynghyd ag unigolion dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal neu bobl sy’n gadael gofal. Os ydych yn teimlo efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda ar eich ffurflen gais. Bydd gennych gyfle wedyn i drafod eich anghenion cefnogi unigol gydag aelod o’n Tîm Dysgu Cynhwysol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614599

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid Ffioedd Dysgu Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau amser llawn ond mae gofyn i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru.

Costau Ychwanegol Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hyn dalu'r costau hyn.

Cymorth Ariannol Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau mae nifer o opsiynau ar gael i wneud bywyd fel myfyriwr ychydig yn haws ar eich poced. Er enghraifft:  Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)  Grant Dysgu Llywodraeth Cymru  Cronfa Ariannol Wrth Gefn.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614599

7

Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC

Mae Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn undeb ar gyfer myfyrwyr sy’n cael ei reoli gan fyfyrwyr - yn pontio’r bwlch rhwng myfyrwyr a rheolwyr y coleg i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfle i wneud ffrindiau a mwynhau amgylchedd amrywiol a chyffrous y coleg a byddwch hefyd yn cael cyfle i brynu Cerdyn NUS Extra sy’n rhoi disgownt i chi mewn siopau ar draws y DU.


O Ddifri am Chwaraeon Os ydych o ddifrif am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon gallwch fanteisio ar:  rhaglen hyfforddiant strwythuredig sy'n cael ei oruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm  mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd yn cael eu hamserlennu i osgoi gwrthdaro diangen  cyfle i gystadlu yn llwyddiannus fel aelod o dimau chwaraeon Grŵp Colegau NPTC  bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich gweithgaredd chwaraeon o ddewis. Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn tîm chwaraeon, ar gyfer clwb, mewn tîm sirol neu ar y llwyfan cenedlaethol ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n Hacademïau Chwaraeon, ewch i: www.nptcgroup.ac.uk

Llwyddiant ym maes Chwaraeon RYGBI  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr  Enillwyr

Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) Cwpan Colegau Prydain Rosslyn ParK 7s Coleg Super 15s.

CHWARAEWYR RHYNGWLADOL  Ashley Beck  Justin Tipuric  Dan Lydiate  Craig Mitchell  James Hook  Lloyd Peers  James King  Eli Walker  Dan Baker  Dafydd Howells  Adam Jones  Duncan Jones  Darren Morris  Spencer John  Paul James  Leigh Davies  Arwel Thomas  Gwyn Jones. PÊL-RWYD  Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru  Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out. CHWARAEWYR RHYNGWLADOL  Helen Jones (Case)  Amanda Cooper  Chelsea Lewis  Nicola James. PÊL-DROED  Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 & 2012-2013  Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014  Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012 & 2012-2013. MYFYRWYR RHYNGWLADOL  Ben Davies  Joe Allen

 Jazz Richards.

CHWARAEON PARALYMPAIDD  Rob Davies (Tennis bwrdd).

Datblygiadau yn y Coleg MAE COLEG BANNAU BRYCHEINIOG YN DOD I'R DREF!

Yn ddiweddar, mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymgymryd â les Canolfan Ymwelwyr Aberhonddu yn y dref, a dyma'r adeilad cyntaf o dri adeilad posibl y mae'r Coleg yn eu hystyried o fewn tref Aberhonddu. Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw symud y Coleg a'i integreiddio yn y gymuned. Y Ganolfan Ymwelwyr yw'r cam cyntaf yn y prosiect ac fe ddaw yn hwb iddo. Bydd yn darparu amgylchedd cyfforddus ar gyfer darpar fyfyrwyr i edrych ar gyrsiau a siarad â'r staff i drafod eu hanghenion. Bydd hefyd y gallu i fideo-gynadledda a darparu dysgu addysg uwch o hirbell drwy gyfrwng yr un dechnoleg.

8


Byddwch yn Entrepreneuraidd

RYDYM YN AWYDDUS I ROI CYFLE I UNRHYW DDARPAR ENTREPRENEURIAID UCHELGEISIOL WIREDDU EU BREUDDWYDION BUSNES. Rydym yn awyddus i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau eich hun a chroesawn unrhyw un sydd eisiau gwneud i’w syniadau ddigwydd - ni waeth pa mor fawr neu fach! Bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithdai a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau busnes, cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol a byd-eang neu ddod yn Intern Centerprise, lle y byddwch yn cael profiad wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau, a gweithio gyda myfyrwyr a busnesau eraill wrth ddatblygu’r sgiliau hyn ar gyfer y dyfodol! Cysylltwch â ni ar: 01686 614657 neu ewch i: www.nptcgroup.ac.uk

Cymraeg yn y Coleg Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r coleg yn ymwybodol o sut mae dwyieithrwydd yn gallu bod o fudd i fyfyrwyr a staff ym myd addysg, yn y gweithle a bywyd bob dydd. Os hoffech:  Ymgymryd â’r cyfan neu ran o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog  Cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg  Cwblhau'ch aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg  Derbyn eich deunyddiau/adnoddau cwrs yn Gymraeg neu'n ddwyieithog wedyn, rhowch wybod i'ch darlithydd neu Angharad Morgan, neu Robin Gwyn drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Mae yna gyfleoedd hefyd i siaradwyr rhugl a dysgwyr y Gymraeg barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, drwy gyflawni cymwysterau ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gofynnwch i'ch darlithwyr, Angharad Morgan neu Robin Gwyn am fanylion pellach am y Gymraeg yng Ngrŵp Colegau NPTC.

9

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Angharad Morgan - Cydgysylltydd Datblygu Dwyieithog (Campysau Castell-nedd Port Talbot) angharad.morgan@nptcgroup.ac.uk Robin Gwyn - Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (Campysau Powys): robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk Mae’r symbol hwn ar dudalennau’r cyrsiau yn dynodi bod modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg – Ffoniwch 01639 648409 am wybodaeth


Ennill Gradd ar Garreg eich Drws Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau Addysg Uwch o fri. Mae pob un o’n cyrsiau AU wedi eu cynllunio gyda’ch cyflogaeth a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi’r profiad a’r wybodaeth orau i’n graddedigion i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith. Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a’r staff sy’n eu haddysgu. Mae gennym rai o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn! Mae gennym gyrsiau sy’n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser llawn a rhan-amser. Am wybodaeth fanylach am ein cyrsiau, ewch i’n gwefan:

www.nptcgroup.ac.uk

Pa gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC?  Cyrsiau Mynediad  Astudiaethau Busnes  Busnes, Rheolaeth a TG  Cyfrifiadura  Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig  Peirianneg  Saesneg a Hanes  Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant  Rheoli Lletygarwch a’r Celfyddydau Coginio  Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau  Cerddoriaeth  Plismona  Addysgu  Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

10


Amaethyddiaeth

Prentisiaethau Ar Gael Mae Amaethyddiaeth yn golygu mwy na ffermio yn unig; dyma un o’r busnesau mwyaf yn y byd. Mae dros 200 o wahanol feysydd gyrfaol ar gael ym maes amaethyddiaeth. Mae galw mawr hefyd drwy'r diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, hyddysg a brwdfrydig i ddechrau yn y diwydiant. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfaol diddorol a boddhaus, mae amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i’r addysg eang, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad sydd eu heisiau!

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Fferm Fronlas yn ein campws yn Y Drenewydd yw’r ganolfan ar gyfer unrhyw ddysgwyr sy’n seiliedig ar dir gan feddu ar nifer o ystafelloedd dosbarth a gweithdai wedi’u hadeiladu’n bwrpasol yn ogystal

11

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

2384 *

Disgwyliadau Cyflog

£18-40k

â’r fferm weithredol fasnachol. Mae gan y fferm 128 hectar (316 erw) wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng Fferm Fronlas yn Y Drenewydd a Fferm Cefnybryn yn Sarn rhyw 8 milltir i ffwrdd. Mae’r ddwy fferm yn cael eu rheoli fel un uned gan feddu ar oddeutu 150 o wartheg a 750 o ddefaid bridio yn ogystal ag oddeutu 1000 o ŵyn. Mae’r fferm yn tyfu gwair ar y cyfan gyda rhai cnydau grawnfwyd a chnydau porthi. Mae’r ffermydd yn darparu adnodd ymarferol o bwys ar gyfer dysgwyr seiliedig ar dir a dysgwyr eraill ac mae bwyty Themâu’r Coleg yn derbyn cig oen a chig eidion gan y fferm. Mae’r ffermydd hefyd yn cyflenwi cig eidion a chig oen i Morrisons a Sainsbury’s yn ystod y flwyddyn.

Sul Fferm Agored Dydd Sul 9 Mehefin 2019, 1pm - 4pm Fferm Fronlas, Coleg Y Drenewydd

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Amaethyddiaeth

Prentisiaeth Lefel 2 mewn Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Amaethyddiaeth Mae hwn yn gwrs rhan-amser ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio mewn Amaethyddiaeth naill ai fel gweithiwr neu yn y busnes fferm teuluol. Bydd rhaid mynychu'r Coleg am ddau ddiwrnod yr wythnos ac wedyn gweithio mewn busnes ffermio am weddill yr wythnos. Mae'r cwrs yn cynnwys pob agwedd ar gynhyrchu da byw sylfaenol, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Bydd gennych hefyd y cyfle i gyflawni tystysgrifau cymhwysedd mewn ATV, Trinydd Telesgopig, Plaleiddiaiaid, Llifau Cadwyn, Dipiau Defaid a Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol yn ddiogel.

Mae hwn yn gwrs amser llawn lle y byddech yn mynychu'r Coleg am dri diwrnod yr wythnos ac astudio pob agwedd ar amaethyddiaeth sylfaenol yn cynnwys cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Byddwch yn treulio gweddill yr wythnos yn ennill profiad gwaith perthnasol mewn busnes ffermio addas. Byddwch hefyd yn cael cyfle drwy Cyswllt Ffermio i gyflawni tystysgrifau cymhwysedd mewn ATV, Trinydd Telesgopig, Plaleiddiaid, Llifau Cadwyn, Dipiau Defaid a Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol yn ddiogel.

Hyd

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Dilyniant

Dilyniant

Gellid camu ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

Gellid camu ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o gymwysterau TGAU, Graddau A*-E.

Prentisiaeth Lefel 2 mewn Mecaneg Amaethyddol Cwrs rhan-amser ar gyfer y rhai sydd am weithio ym maes cynnal a chadw tractorau neu beiriannau amgylcheddol. Byddwch chi’n mynychu’r coleg am 2 ddiwrnod yr wythnos a gweithio gyda chwmni peirianneg amaethyddol am weddill yr wythnos.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o gymwysterau TGAU, Graddau A*-E.

Dilyniant Gellid camu ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn pwnc tebyg neu gyflogaeth yn y diwydiant hwn.

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo* a detholiad priodol o gymwysterau TGAU, Graddau A*-E.

Mae staff sy’n siarad Cymraeg a all gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y maes pwnc hwn. 12


Amaethyddiaeth Prentisiaeth Lefel 3 mewn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Amaethyddiaeth Mae hwn yn gwrs rhan-amser gan fynychu'r Coleg am un diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd a threulio gweddill yr amser yn gweithio mewn busnes fferm. Mae'r cwrs yn cwmpasu pob agwedd ar reoli da byw, rheoli gwastraff a rheoli busnes fferm.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Genedlaethol Cymru a chymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion.

Dilyniant

HNC Amaethyddiaeth HND Amaethyddiaeth Gradd mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag Amaethyddiaeth Cyflogaeth amser llawn

Mae hwn yn gwrs amser llawn a bydd gofyn i chi fynychu'r Coleg am dri ddiwrnod yr wythnos ynghyd â phrofiad gwaith cysylltiedig gyda busnes perthynol. Mae'r cwrs yn cwmpasu amrywiaeth o fodiwlau mewn cynhyrchu a rheoli da byw, rheoli tir glas a chnydau, cynnal a chadw ystadau, gweithrediadau peiriannau a rheolaeth ariannol a busnes. Bydd gennych hefyd y cyfle i gyflawni tystysgrifau cymhwysedd mewn ATV, Trinydd Telesgopig, Plaleiddiaid, Llifau Cadwyn, Dipiau Defaid a Defnyddio Meddyginiaethau Milfeddygol yn ddiogel.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Genedlaethol Cymru a chymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

HNC Amaethyddiaeth HND Amaethyddiaeth Gradd mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag Amaethyddiaeth Cyflogaeth amser llawn

13


Prentisiaethau Prentisiaethau Sylfaen Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chael cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen. Dyma’r llwybrau hyfforddi:  Cyfrifeg  Amaethyddiaeth  Mecaneg Amaethyddol  Gofal  Gweinyddiaeth Fusnes  Gofal Plant a  Adeiladwaith Gwaith Chwarae  Peirianneg  Gwasanaethau  Cerbydau Modur Cwsmeriaid  Chwaraeon  Lletygarwch ac Arlwyo  Atgyweirio Cyrff Cerbydau  Manwerthu  Arwain a Rheoli Tîm

Hyfforddeiaethau

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu:  Sgiliau Cyflogadwyedd  Cyfle i roi cynnig ar nifer o wahanol swyddi  Mynediad i brofiad gwaith o safon uchel.

Beth yw buddion Hyfforddeiaeth Ymgysylltu?  Lwfans hyfforddi bob wythnos  Teithio â chymhorthdal  Cael profiad allweddol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol  Cyfle i wella sgiliau Mathemateg a Saesneg  Adeiladu hyder  Gwella eich rhagolygon hirdymor a'r potensial i ennill arian.

Ar ddiwedd yr Hyfforddeiaeth, bydd modd i chi:  Camu ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 neu Brentisiaeth  Camu ymlaen i gwrs academaidd  Gwneud gwaith gwirfoddol  Dilyn llwybr gyrfa amgen.

Bydd y rhaglen hon yn cynnig dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 2, detholiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a thystysgrif dechnegol berthnasol. Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr am bedwar diwrnod ac yn mynd i'r Coleg am un ddiwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a'ch helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru, dros 16 oed heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.

Pam dod yn brentis?  Ennill arian wrth ddysgu - ennill cyflog  Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu heriau newydd  Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol  Cyfleoedd dilyniant rhagorol.

Pa fath o brentisiaethau sydd ar gael? Ceir tri math o brentisiaeth y gallwch wneud cais amdanynt yn dibynnu ar eich cymwysterau a sgiliau presennol:  Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2  Prentisiaeth - Lefel 3  Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Cysylltwch â’r tîm os gwelwch yn dda yn: Coleg y Drenewydd: 01686 614253 neu anfonwch e-bost: apprenticeships@nptcgroup.ac.uk

14


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth Mae sgiliau busnes yn hynod drosglwyddadwy sy'n golygu y gallech weithio mewn nifer o ddiwydiannau. Mae ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer bywyd a gwaith trwy ddatblygu sgiliau sy'n diwallu anghenion cyflogwyr neu'n eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n helpu i ehangu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn busnes, cyfrifeg, teithio a thwristiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid, hamdden, manwerthu, gweinyddu busnes a rheoli digwyddiadau. Byddwch yn mwynhau profiad addysgu amrywiol yng Ngrŵp Colegau NPTC gyda phrosiectau byw, gwibdeithiau a'r cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau menter, gan roi'r sgiliau angenrheidiol i ddarpar entrepreneuriaid i ddod yn arweinwyr busnes yfory.

Rhagolygon Gyrfa

Disgwyliadau Cyflog £30-60k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

11557 *

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

15

Cyfrifydd Gweinyddwr Swyddog Marchnata Cynorthwyydd Personol Bancio Adnoddau Dynol Rheoli Digwyddiadau Gweithrediadau Teithio Adwerthu

Prentisiaethau Ar Gael Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth BTEC Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Busnes

(Yn arwain at Ddiploma Estynedig mewn Busnes - Blwyddyn 2) Mae'r Diploma Sylfaen ar gyfer dysgwyr sy'n bwriadu astudio busnes fel cwrs amser llawn, un flwyddyn, neu ar gyfer y rhai sy'n dymuno ei astudio ochr yn ochr â maes astudio cyferbyniol neu ategol arall, fel rhan o gwrs dwy flynedd. Mae cymwysterau cenedlaethol BTEC heddiw yn heriol, fel y byddech yn disgwyl gan y cymhwyster dysgu cymhwysol uchaf ei barch yn y DU. Bydd yn rhaid i chi ddewis a chwblhau amrywiaeth o unedau, bod yn drefnus, gwneud rhai asesiadau y byddwn yn eu gosod a'u marcio, a chadw portffolio o'ch aseiniadau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes gyda CBC

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa fusnes lwyddiannus. Bydd y Diploma Estynedig L3 yn eich cyflwyno i ystod eang o lwybrau galwedigaethol ac yn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach. Mae’r cwrs hwn yn un eang ac ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, ac mae’n cysylltu â phob math o fusnesau lleol a chenedlaethol. Mae pob math o weithgareddau menter wedi’u datblygu i nodi unrhyw ddarpar entrepreneuriaid. Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol. Bydd siaradwyr gwadd o fusnesau lleol a chenedlaethol yn cyfrannu hefyd, a byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau grŵp a chyfnod o brofiad gwaith. Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol.

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Hyd

Dilyniant

Coleg

Gallwch deimlo'n falch o ennill BTEC oherwydd, waeth bynnag eich cynlluniau mewn bywyd – p'un a ydych yn penderfynu astudio ymhellach, mynd ymlaen at waith neu brentisiaeth, neu sefydlu eich busnes eich hun – bydd eich BTEC Diploma Sylfaen yn basbort i lwyddiant yng ngham nesaf eich bywyd.

2 Flynedd

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Chwe TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Dilyniant Cyfleoedd Rhagolygon Gyrfa i Addysg Uwch yng Ngrŵp Colegau NPTC neu sefydliadau eraill.

16


Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth BTEC Lefel 3 mewn Busnes a'r Gyfraith

Mae’r cyrsiau’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o reoli busnes, ac ennill cymhwyster yn y gyfraith hefyd! Cydnabyddir bod y cymhwyster hwn yn gam cyntaf tuag at allu gweithio mewn cwmni cyfreithiol. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio tuag at y BTEC Diploma Atodol Lefel 3 mewn Busnes, gyda Thystysgrif Lefel 3 yn y Gyfraith Gymhwysol; yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio tuag at y BTEC Diploma Lefel 3 mewn Busnes a Diploma Atodol yn y Gyfraith.

Hyd

2 Flynedd

Coleg Bannau Brycheiniog Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a phynciau TGAU yn unol â'r gofynion.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gall myfyrwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs fynd ymlaen i weithio ym maes Busnes, Twristiaeth neu’r Gyfraith (neu gyfuniad) neu gamu ymlaen i raglen Addysg Uwch amser llawn neu ran-amser naill ai ar Gampws Bannau Brycheiniog trwy Brifysgol Glyndŵr neu gyda darparwyr addysg uwch a phrifysgolion eraill.

17

Mynediad i AU - Busnes

Bydd y cwrs mynediad i AU yn eich cyflwyno i sgiliau Busnes sy'n cwmpasu themâu eang yn cynnwys marchnata, rheolaeth, cyllid, economeg a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau astudio fel cynllunio aseiniadau, rhifedd ac ysgrifennu adroddiadau. Asesir y rhan fwyaf o'r cwrs drwy waith cwrs gyda dau asesiad dan reolaeth. Cydnabyddir y cymhwyster yn genedlaethol gan Agored Cymru.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am fusnes. Byddwch yn cael cyfweliad byr i drafod eich addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn.

Dilyniant Bydd cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus yn eich paratoi ar gyfer astudio mewn Addysg Uwch mewn busnes neu feysydd pwnc eraill fel cyllid, twristiaeth a'r gwyddorau cymdeithasol. Bydd yn eich paratoi ar gyfer y gweithle drwy ddatblygu sgiliau annibynnol mewn astudio, rheoli amser a threfniadaeth ac yn ehangu eich gwybodaeth am y ffordd y mae busnesau yn gweithio.


Cyfrifiadura a TG Mae'r Ysgol Gyfrifiadura a TG yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, gan gyflwyno opsiynau newydd yn gyson mewn ymateb i ofynion y diwydiant. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau TG. Mae disgwyl i gyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu dyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf ac mae TG a Technoleg Ddigidol yn prysur ddod yn un o’r gyrfaoedd sy’n denu’r tâl uchaf yn y DU. Tyfodd Diwydiannau Technoleg Digidol y DU 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU (mewn trosiant) yn 2016, yn creu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.56 miliwn o swyddi ledled y DU, ac felly'n dangos ei rôl allweddol mewn adferiad economaidd y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw: datblygu apiau a meddalwedd, rheoli data a dadansoddi a chaledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae'r Ysgol Gyfrifiadura a TG yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio .NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Mae pob un o'n cyrsiau yn cael eu darparu mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer cyflawni adeiladu a datblygu rhwydweithiau cyfrifiaduron.

Rhagolygon Gyrfa

Datblygwr Cymwysiadau Dylunydd y We Rhaglennydd Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

10950 *

Disgwyliadau Cyflog £25-50k* *Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Technegydd Cyfrifiaduron

Arbenigwr Aml-Gyfryngau Dylunydd Gemau

Dadansoddwr Systemau

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 18


Cyfrifiadura a TG Lefel 1 Diploma mewn TG

Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymarferol trwy edrych ar sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant a masnach gan ddefnyddio pob math o raglenni meddalwedd a thrwy edrych ar swyddi sy’n cynnwys gweithio gyda TGCh.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

O leiaf 2 gymhwyster TGAU Graddau E a F a chyfweliad llwyddiannus.

Dilyniant Mae’r Diploma Lefel 1 mewn TG yn gallu sefyll ar ei ben ei hun fel cymhwyster sylfaenol mewn TGCh. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel sail i gamu ymlaen i gyrsiau addysg bellach, yn cynnwys y Dystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn TGCh ynghyd â chymwysterau lefel 2 eraill.

Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

Bydd dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster hwn yn elwa o ddysgu am wahanol agweddau ar TG a thechnoleg cyfrifiadura ar draws gwahanol lwybrau. Bydd yn apelio at fyfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau TGCh a bydd yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant TG. Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy uned a asesir yn allanol a fydd yn helpu dysgwyr wrth iddynt gamu ymlaen i ddysgu galwedigaethol ar lefel uwch.

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Mae'r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 yn gymhwyster arbenigol sy'n gysylltiedig â gwaith yn y sector cyfrifiadura a TG. Ei nod yw darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth. Gall y cwrs hwn ddarparu cyfleoedd datblygu gyrfa a llwybr clir i gamu ymlaen i addysg uwch a rhaglenni gradd a datblygiad proffesiynol yn yr un meysydd astudio neu rhai cysylltiedig. Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cwmpasu Cyfrifiadura a TG sylfaenol. Yn yr ail flwyddyn, mae gan fyfyrwyr ddewis o arbenigo naill ai ym maes Cyfrifiadura a TG, Gemau a Dylunio Graffeg neu Ddatblygu’r We ac Apiau.

Gofynion Mynediad

Hyd

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddo/ Llwyddo* neu 3 TGAU Graddau A* - C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Cymhwyster Lefel 1 mewn TG Teilyngdod neu Ragoriaeth a chyfweliad llwyddiannus.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

19

Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn:  Cyfrifiadura a TG  Gemau & Dylunio Graffeg  Datblygu'r We ac Apiau

Gall dysgwyr gamu ymlaen i gymwysterau lefel uwch eraill mewn TGCh neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau busnes a TGCh.

2 Flynedd

Coleg Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Dilyniant

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a 5 TGAU Graddau A-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg ac i'r rhai sy'n dod i'r cwrs gyda chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifiadura a/neu TG, gofynnwn am Deilyngdod o leiaf.

Rhagolygon Gyrfa

Addysg Uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh.


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Mae'r diwydiant Adeiladwaith yn dal i fwynhau twf sylweddol, yn parhau i fod yn sector sy'n cael ei flaenoriaethu'n strategol gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa boddhaus gyda chyflogau uchel. Bwriedir cynnal nifer o brosiectau ar raddfa fawr yn rhanbarth De Cymru. Mae prosiectau enfawr eraill ar y gweill mewn rhanbarthau eraill y DU a fydd yn cynnig rhagolygon aruthrol o ran cyflogaeth.

Prentisiaethau Ar Gael

Mae'r cyrsiau yn cynnwys Gosod Brics, Gwaith Coed a Gwaith Saer, Paentio ac Addurno, Plastro a Diploma Estynedig BTEC mewn Adeiladwaith/Peirianneg Sifil ac mae llawer o fyfyrwyr sy'n astudio gyda ni yn symud ymlaen i brentisiaeth a/neu ddysgu pellach. Mae gennym gysylltiadau â chyflogwyr yn Awstralia hyd yn oed ac mae sawl un o'n myfyrwyr Gwaith Coed a Gwaith Saer wedi manteisio arnynt ac maent yn gweithio mewn hinsawdd fwy heulog erbyn hyn. Gyda champysau ym Mannau Brycheiniog a Chastell-nedd, Y Drenewydd ac Abertawe, rydym yn cynnig cyfle heb ei ail i ddysgu ac ennill cymwysterau mewn crefft neu broffesiwn mewn lleoliad sy'n agos atoch chi.

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

2384

*

Disgwyliadau Cyflog

£30-60k* *Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Mae'r Ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn cynnig detholiad eang o gyrsiau lle y gall myfyrwyr gael budd o sesiynau a addysgir gan diwtoriaid arbenigol a brwdfrydig mewn ffordd ddiddorol a chefnogol.

Briciwr Saer Coed Plastrwr Peintiwr ac Addurnwr Rheolwr Prosiect Safle Peiriannydd Sifil Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 20


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Diploma Lefel 1 mewn Gosod Brics

Mae hwn yn gwrs ymarferol a fydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n hanfodol i gael swydd yn y diwydiant adeiladu. Byddwch yn astudio sgiliau ymarferol y grefft, gwybodaeth am swyddi a thechnegau'r grefft a dysgu sut i:  Cynnal gweithrediadau gwaith blociau  Adeiladu amrywiaeth o waliau brics solet a cheudod gan ddefnyddio amrywiaeth o fondiau  Gosod adeileddau hyd at lefel cwrs atal lleithder

Hyd Blwyddyn Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gallwch symud ymlaen i ddilyn prentisiaeth mewn Gwaith Brics neu barhau i’r Diploma Lefel 2 amser llawn mewn Gosod Brics.

21

Diploma Lefel 2 mewn Gosod Brics

Bydd y cwrs hwn mewn Gwaith Brics yn datblygu'r sgiliau trywel a ddysgwyd eisoes ar Lefel 1 a bydd yn eich ymbaratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau uwch yn y grefft a fydd yn cynnwys waliau ceudod, bwâu, amrywiaeth o fondiau gwahanol gan gynnwys bond briciau tew, bondiau Seisnig a Ffleminaidd, gwaith paneli addurnol a gwaith blociau.

Hyd Blwyddyn Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Gosod Brics.

Dilyniant Gellid ennill NVQ Diploma Lefel 2 mewn Galwedigaethau Trywel yn eich gweithle, neu gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Gosod Brics a gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu.


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer

Ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am swydd ym maes gwaith coed. Mae'n gwrs ymarferol cysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau profion hyfforddi ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, a phrofion ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu amrywiaeth o uniadau gwaith coed sylfaenol a defnyddio offer llaw a phŵer yn ddiogel i ddatblygu sgiliau gwaith coed a gwaith saer.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant Gallwch symud ymlaen i brentisiaeth gwaith coed a gwaith saer neu gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 amser llawn mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer.

Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed a Gwaith Saer

Bydd y cwrs hwn yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a gafwyd ar Lefel 1 ac yn eich paratoi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd dysgwyr yn mynd i’r Coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn astudio Diploma Lefel 2. Bydd y dysgu yn adeiladu ar y Diploma Lefel 1 gydag unedau sy'n cynnwys: Gosodiad cyntaf (fframiau drysau a ffenestri, waliau stydiau a grisiau); Ail-osodiad (drysau, sgyrtin, architraf, nwyddau haearn, gwaith amgáu pibellau, ceginau a chladin); Adeiladwaith sgerbwd (lloriau a thoeau).

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Gwaith Saer a Gwaith Coed.

Dilyniant Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sydd am gael swydd yn y diwydiant adeiladu neu gamu ymlaen yn eich cyflogaeth bresennol. Gallwch hefyd barhau â'ch astudiaethau i'r lefel nesaf.

22


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Diploma Lefel 1 mewn Paentio ac Addurno

Mae'r cwrs paentio ac addurno hwn yn cynnwys elfennau ymarferol a theori. Cynhelir y sesiynau ymarferol mewn gweithdy â'r holl gyfarpar angenrheidiol, a darperir hyfforddiant gan hyfforddwyr/aseswyr cymwysedig sydd â chefndir yn y maes. Mae gwersi theori, yn cynnwys sgiliau hanfodol, yn darparu gwybodaeth sylfaenol o bwys a dealltwriaeth i gefnogi sesiynau hyfforddi ymarferol. Yn y cwrs hwn, byddwch yn:  Gosod a datgymalu offer mynediad  Paratoi amrywiaeth o arwynebau  Cymhwyso amrywiaeth o orffeniadau paent gyda brwsh a rholer  Hongian detholiad o orchuddiadau wal.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad 2 TGAU a chyfweliad.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

NVQ Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno (gyda chyflogaeth mewn gweithle) neu gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno a chyflogaeth berthnasol yn y diwydiant adeiladu.

23

Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno

Bydd y cwrs paentio ac addurno hwn yn helpu i ddatblygu’r sgiliau a gafwyd eisoes ar lefel 1 ac yn eich paratoi chi ar gyfer swydd yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cwrs yn rhoi sylw i sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau uwch y grefft a fydd yn cynnwys: Gwaith paratoi a chynllunio gwaith, sgiliau paentio a phapur wal technegol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn Paentio ac Addurno.

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil)

Mae'r cwrs adeiladu a pheirianneg sifil hwn yn gwrs lefel uwch, lle yr astudir amrywiaeth o fodiwlau adeiladu yn cynnwys iechyd, diogelwch a llesiant, tirfesur safleoedd, adeiladwaith gynaliadwy, a Mathemateg, Gwyddoniaeth a deunyddiau mewn adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Dilyniant

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol a TGAU pwnc penodol yn ôl y gofyn.

Diploma NVQ Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno neu gyflogaeth gysylltiedig yn y diwydiant adeiladu.

Dilyniant

 HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig.  HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil)  HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Mesur Meintiau).


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (‘CVP’) yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, y Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio. Dysgir pob cwrs yn ein cyfleusterau arbenigol ac mae modd defnyddio llefydd theatraidd arbennig o fodern. Rydym yn ganolfan greadigol ar gyfer dysgu gydag ystod o gyrsiau galwedigaethol amser llawn, naill ai yn y Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio neu'r Cyfryngau. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn rhan o amgylchedd deinamig gan gael eich cefnogi gan ddarlithwyr ysbrydoledig a brwdfrydig. Mae ein hystod helaeth o weithgareddau allgyrsiol ac Ysgoloriaeth Ddiwylliannol Grŵp Colegau NPTC yn cynnig yr elfen derfynol i’ch helpu i gyflawni’ch gwir botensial.

Disgwyliadau Cyflog

£ 20-25k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

1611 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Rhagolygon Gyrfa

Technegydd Cerddoriaeth Ffotograffydd Dylunydd Animeiddiad Teledu a Ffilmiau Coreograffydd Dawnsiwr Actor Cerddor Gweinyddwr y Celfyddydau Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 24


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio UAL Diploma L2 mewn Celf a Dylunio

Mae’r cwrs celf a dylunio yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn amrywiaeth o arbenigeddau. Mae’r maes llafur yn eang, gan gynnig llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae’r gallu i ddarlunio a sgiliau ymarferol yn bwysig hefyd a bydd angen llygad am liw a siâp, parodrwydd i arbrofi ac ymrwymiad.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A*- C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Estynedig a’u paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.

UAL Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio gyda Bagloriaeth Cymru

Mae’r cwrs celf a dylunio cyffredinol hwn yn galluogi dysgwyr i ennill profiad a sgiliau ymarferol ar draws pob math o feysydd celf a dylunio. Os ydych chi wedi ymrwymo i astudiaeth bellach neu yrfa mewn celf a dylunio, dyma’r cwrs i chi. Mae’r maes llafur yn ddeinamig ac eang, gan gynnig llawer o gyfleoedd cyffrous i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae’r gallu i ddarlunio a sgiliau ymarferol yn hanfodol, ac mae sgiliau cyfrifiadurol da yn bwysig hefyd. Bydd angen llygad da am siâp a lliw, sgiliau dadansoddi da a pharodrwydd i arbrofi, yn ogystal ag ymrwymiad a dyfalbarhad. Mae hwn yn gwrs lefel 3, sy’n gyfwerth â 3 chymhwyster Safon Uwch.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc priodol neu 5 TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Saesneg.

Gwneud Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

25

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.

Diploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio Mae’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn rhaglen weledol ac ymarferol yn bennaf, sy’n rhoi’r amser, y gefnogaeth a’r amgylchedd angenrheidiol i fyfyrwyr i ddarganfod eu cryfderau unigol. Fe’i darparir mewn awyrgylch frwdfrydig, gyfeillgar a chefnogol lle mae myfyrwyr yn datblygu ymagwedd unigol gyda hyder. Anogir myfyrwyr i archwilio syniadau newydd, cyffrous ac i herio a datblygu eu medrau a’u galluoedd. Cyflwynir y rhaglen trwy wersi, gweithdai, prosiectau byw, astudiaeth unigol, trafodaethau grŵp, beirniadaethau grŵp; arddangosiadau (technegol ac ymarferol) a darlithoedd a fydd yn cael eu cyfuno â chefnogaeth diwtorial a chyflwyniadau seminar. Yn ystod y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i feddwl am lwybrau datblygu a gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Rhaid cyflwyno portffolio boddhaol a meddu ar 1 cymhwyster Safon U Gradd C neu uwch neu Ddiploma Estynedig Lefel 3. Mae croeso i fyfyrwyr aeddfed (21+) gysylltu â ni i drafod eu cefndir addysgol.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i gyrsiau lefel uwch e.e. Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes celf a dylunio.


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg

Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn pob math o feysydd yn y diwydiant. Os ydych chi wedi ymrwymo i astudiaeth bellach neu yrfa mewn cynhyrchu yn y cyfryngau, dyma’r cwrs i chi. Mae’r maes llafur yn cynnig ystod eang o unedau, gan gynnwys technegau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu mewn Teledu, hysbysebu Fideo, Ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol. Mae creadigrwydd a dychymyg yn allweddol, ac mae sgiliau dadansoddi da yn bwysig er mwyn gwireddu eich syniadau.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Mae’r cwrs cyffredinol hwn yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau mewn pob math o arbenigeddau ym maes y cyfryngau. Mae sgiliau ymarferol a chyfrifiadurol yn hanfodol, a bydd y gallu i ddarlunio yn helpu i ddelweddu’ch syniadau. Bydd angen sgiliau dadansoddi da a pharodrwydd i arbrofi a gweithio fel tîm cynhyrchu, ynghyd ag ymrwymiad a dyfalbarhad.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A*- C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Pum TGAU Graddau A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol, a chyfweliad. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Dilyniant

Dilyniant

Gofynion Mynediad

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau addysg uwch e.e. Diploma Cenedlaethol Uwch a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes y cyfryngau.

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i gamu ymlaen i gyrsiau addysg uwch e.e. Diploma Cenedlaethol Uwch a chyrsiau gradd, ac yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth ym maes y cyfryngau.

26


Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio UAL Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio

Mae'r Diploma Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio yn rhaglen astudio sy'n para am flwyddyn sy'n darparu dealltwriaeth o'r celfyddydau perfformio fel gweithgaredd cydweithredol, drwy eich ymbaratoi ar gyfer realiti'r sector. Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ailymgysylltu ag addysg ac ennill sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth i symud ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth yn niwydiannau'r celfyddydau perfformio.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

2 TGAU Graddau A* - C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Dilyniant

Gall cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus arwain at y Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio.

UAL Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Perfformio a'r Celfyddydau Cynhyrchu

Mae diwydiant y Celfyddydau Perfformio yn hynod o gystadleuol a heriol, ond gall fod yn llawn boddhad. I lwyddo yn y maes hwn, mae angen talent a phersonoliaeth arnoch, yn ogystal â llawer o frwdfrydedd a phenderfyniad. Yma, yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn ymroddedig i ddarparu addysgu a dysgu o'r safon orau ar gyfer pobl sydd am gychwyn ar yrfa barhaol yn y Celfyddydau Perfformio. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o Gwmni Theatr Impact (Coleg Castellnedd) neu Gwmni Theatr Ovation (Coleg Y Drenewydd), gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Chanolfan y Celfyddydau Perfformio â'r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae'r cwrs yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerddorol i'ch ymbaratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Gofynion Mynediad

27

Pum TGAU Graddau A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol, a chyfweliad. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Dilyniant Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus wneud cais i astudio mewn ysgolion arbenigol /prifysgolion. Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys perfformio, teledu, y cyfryngau, addysgu, gweinyddu'r celfyddydau.


Prentisiaethau Ar Gael

Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Dyma rai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch. Os ydych yn chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae gennym ystod eang o gyrsiau i weddu i'ch holl anghenion. Byddwch yn datblygu sgiliau masnachol a geir o weithio yng ngheginau proffesiynol un o'n dau fwyty hyfforddi sy'n agored i'r cyhoedd yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n ennill cydnabyddiaeth mewn cystadlaethau coginio dro ar ôl tro ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

Rhagolygon Gyrfa Prif Gogydd

Rheolwr Gwesty Rheolwr Bwyty Rheolwr Bar

Goruchwylwyr

Trefnydd Digwyddiadau Mordeithiau

Entrepreneur Disgwyliadau Cyflog

*

£15-20k

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

6436

*

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 28


Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch Cyflwyniad i Sgiliau'r Diwydiant Lletygarwch

Gan weithio yn un o'n bwytai hyfforddi, Blasus neu Themâu, byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa yn y celfyddydau coginio a'r diwydiant lletygarwch. Bydd y cymhwyster hwn yn helpu i ddatblygu eich hyder tra'n gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol. Byddwch yn mwynhau dysgu sgiliau newydd yn ein ceginau proffesiynol ac yn falch o wasanaethu ein cwsmeriaid yn ein bwytai.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol (cyfweliad).

Dilyniant Byddwch yn datblygu'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sydd eu hangen i gamu ymlaen i un o'n cymwysterau Lefel 1.

City & Guilds Diploma Lefel 1 City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd (VRQ) a Gweini Bwyd (VRQ) Fel rhan o dîm egnïol, byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau newydd sy'n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant celfyddydau coginio a lletygarwch. Byddwch yn cael eich hyfforddi gan ein harbenigwyr yn un o'n ceginau proffesiynol ac yn gweini'r prydau y byddwch yn eu gwneud yn ein bwytai hyfforddi - Themâu neu Blasus. Bydd y cymhwyster hwn yn eich ysbrydoli chi i symud ymlaen i'r lefel nesaf yn eich gyrfa a rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi i ddod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant hwn llawn cyfleoedd sy'n symud yn gyflym.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad a phedwar TGAU neu gyfatebol yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cyflwyniad i Sgiliau'r Diwydiant Lletygarwch.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

29

Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant lletygarwch a/neu symud ymlaen i'n Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd.

Os ydych yn gweld eich hun yn gweithio mewn diwydiant cyffrous a llawn cymhelliant a'ch bod yn angerddol am baratoi, coginio a gweini bwyd da, yna mae'r cymhwyster hwn i chi. Yn ein bwytai hyfforddi - Blasus neu Themâu - byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant celfyddydau coginio a lletygarwch. Ar gyfer gyrfa yn gweithio mewn bwytai, gwestai, llongau mordeithio, digwyddiadau neu'r sector cyhoeddus, bydd y cymhwyster hwn yn eich rhoi ar y trywydd iawn. Gan weithio'n agos gyda'n darlithwyr blaen tŷ a chogyddion, cewch y cyfle i ragori. Efallai byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol tramor.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU A *-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Ddiploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd. Ystyrir profiad a chymwysterau cyfatebol yn ystod y cyfweliad.

Dilyniant

Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol neu Ddiploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Lletygarwch. Cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio.


Y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch NVQ Diploma Lefel 3 NVQ Tystysgrif Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol mewn Sgiliau Lletygarwch Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar eich sgiliau presennol a datblygu repertoire ehangach o sgiliau gan gynnwys bwtsiera a gwaith siocled. Yn ychwanegol at eich sgiliau technegol, yn ein ceginau proffesiynol a bwyty hyfforddi Themes, byddwch yn datblygu eich sgiliau goruchwylio wrth i chi ddechrau archwilio agweddau entrepreneuraidd gyrfa yn y celfyddydau coginio. Gyda chefnogaeth ymroddedig ein tîm darlithio profiadol iawn o gogyddion, byddwch yn goruchwylio ein ceginau yn ogystal â chreu a datblygu cynhyrchion newydd a chyffrous.

Bydd y rhaglen yn cynorthwyo wrth ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y diwydiant deinamig hwn. Darperir y cymhwyster mewn amgylchedd Coleg lle cyflwynir y myfyrwyr i brofiadau gwaith go iawn y diwydiant ym mwytai hyfforddi Themâu a Blasus y Coleg a'r gegin gynhyrchu. Bydd sgiliau coginio a gweini bwyd yn cael eu haddysgu gan arddangosiadau ymarferol, bywiog a bydd profiad ymarferol yn caniatáu cyfle i ymarfer y sgiliau y maent wedi'u dysgu.

Hyd

Coleg

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cymhwyster NVQ neu VRQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol. Ystyrir ymgeiswyr aeddfed sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i chwilio am swyddi yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch a gallai wella eich gallu i gael swydd dda. Mae ganddo hefyd bwyntiau UCAS wedi'u pwysoli i gael mynediad i gyrsiau addysg uwch perthnasol.

Hyd

Blwyddyn Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Dim gofynion ffurfiol (cyfweliad).

Dilyniant Mae'r dystysgrif NVQ yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer y rhai sy'n dymuno symud ymlaen i yrfa yn y diwydiant lletygarwch. Gallwch hefyd wneud cais am y Diploma Lefel 2 mewn gwasanaethau lletygarwch.

30


Peirianneg

Prentisiaethau Ar Gael

Ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf yng Ngholegau Castell-nedd a'r Drenewydd. Yn y gweithdy mecanyddol, ceir nifer o durnau, melinwyr, malwyr arwyneb a pheiriannau CNC modern. Yn ogystal, mae gennym ddwy ganolfan peiriannau cyflymder uchel awtomatig dan reolaeth cyfrifiadur. Ynghlwm wrth y prif weithdai mae cyfleusterau arbenigol sy'n cynnwys systemau cyfrifiadurol ar gyfer hyfforddiant mewn rhaglennu CNC, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (Gweithiau Soled) a system fesur stiliwr cyffwrdd 3D. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys labordai electronig, gweithdy hydroleg a gweithdy niwmateg/electroniwmateg a chynnal a chadw ynghyd â labordy dylunio technoleg arbenigol. Mae'r gweithdy gwneuthuriad a weldio yn cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Rhagolygon Gyrfa

31

Peiriannydd Mecanyddol Peiriannydd Trydanol/Electronig Weldiwr

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Disgwyliadau Cyflog

£25-50k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

7826

*

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Peirianneg Rhaglen Ddysgu Lefel 2 Peirianneg Fecanyddol Uwch

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu dosbarthiadau ymarferol a theori (melino, turnio a ffitio), VRQ Lefel 2, drafftio drwy gymorth cyfrifiadur, rheoli cyfrifiaduron yn rhifiadol, cyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol (cymhwyso rhifau, cyfathrebu a llythrennedd digidol a sgiliau hanfodol cyflogadwyedd) ynghyd â thiwtorialau. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gyflawni o leiaf pum wythnos o brofiad gwaith ac o leiaf pum ymweliad diwydiannol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau A *-C y mae'n rhaid iddynt gynnwys Saesneg a Mathemateg.

Dilyniant

 Prentisiaeth  Cwrs Lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg.

Rhaglen Ddysgu Lefel 2 Cynnal a Chadw Uwch

Mae’r cwrs yn cynnwys dosbarthiadau ymarferol a theori (Cynnal a Chadw, Trydanol/Electroneg, Weldio), VRQ Lefel 2, cyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol (cymhwyso rhifau, cyfathrebu a llythrennedd digidol a sgiliau hanfodol cyflogadwyedd) ynghyd â thiwtorialau. Yn ogystal, bydd gofyn i chi gyflawni o leiaf pum wythnos o brofiad gwaith ac o leiaf pum ymweliad diwydiannol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau A *-C y mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg.

Dilyniant

 Prentisiaeth  Cwrs Lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg.

Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Lefel 1

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol ar Lefel 1 NVQ. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol a theori mewn sgiliau peiriant, weldio, torri nwy ac electroneg yn ogystal ag unedau mewn iechyd a diogelwch, darlunio peirianneg a chyfathrebu gwybodaeth beirianneg ynghyd â thiwtorial mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg Y Drenewydd Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau D ac uwch. Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU mewn Mathemateg a/neu Saesneg ochr yn ochr â’u rhaglen amser llawn.

Dilyniant Perfformio Gweithrediadau Lefel 2 Mecanyddol. Perfformio Gweithrediadau Lefel 2 Trydanol. Perfformio Gweithrediadau Lefel 2 Weldio. Prentisiaethau. Swyddi amser llawn a rhan-amser.

32


Peirianneg Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 Cynnal a Chadw

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n para am flwyddyn. Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Peirianneg yn gyffredinol. Cynhelir dosbarthiadau ymarferol mewn sgiliau peiriant, cynnal a chadw, weldio, torri nwy ac electroneg yn ogystal â dosbarthiadau theori mewn iechyd a diogelwch, darlunio peirianneg a chyfathrebu gwybodaeth beirianneg ynghyd â thiwtorialau mewn grŵp.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau C ac uwch.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

 VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol  VRQ Diploma Uwch Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Mecanyddol  Prentisiaeth  Swyddi amser llawn a rhan-amser.

33

Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg (Rhaglen Peirianneg Uwch)

Mae'r cwrs yn gyfuniad o elfennau theori (BTEC Pearson Diploma 90 credyd) ac ymarferol ac mae'n gwrs dylunio/datblygu gyda'r nod o symud myfyrwyr ymlaen i'r brifysgol neu brentisiaeth fodern uwch.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Genedlaethol Cymru a chymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion. Cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Pheirianneg.

Dilyniant Bydd y cwrs hwn yn caniatau camu ymlaen i'r brifysgol neu gyflogaeth.


Peirianneg Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg / Saernïo a Weldio Lefel 2 a Lefel 3

Mae hwn yn gwrs amser llawn, un flwyddyn a gynlluniwyd ar gyfer ymgeiswyr sydd am ddysgu sgiliau saernïo a weldio mewn amgylchedd Peirianneg. Byddwch yn ymarfer a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu yrfa yn y diwydiant saernïo a weldio. Mae'r cwrs yn cynnwys unedau fel: Iechyd a Diogelwch, Darlunio ar gyfer Peirianneg, Gwyddoniaeth a Chyfrifiadau, weldio MAGS, weldio TIG, saernïo a thorri nwy tanwydd-Oxy.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pedwar TGAU Graddau C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Byddwch yn sefyll prawf gallu, sgrinio mewnol a chyfweliad cyn-fynediad.

Dilyniant

 VRQ Lefel 3  Cynnal a chadw lefel 3  Prentisiaethau Galwedigaethol Mae'r adran Peirianneg yn gweithio'n agos â Chanolfan Dysgu seiliedig ar Waith y Coleg, Hyfforddiant Pathways a diwydiant lleol.

34


Astudiaethau Sylfaen

Mae cyrsiau Astudiaethau Sylfaen yn gyfle ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer bywyd ar bwyntiau mynediad priodol i'r Coleg. Mae ein cyrsiau yn eich ymbaratoi o safbwynt academaidd, cymdeithasol ac emosiynol ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol, yn ogystal â gofynion astudio galwedigaethol ar draws y Coleg, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Rhagolygon Gyrfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lletygarwch ac Arlwyo Trin Gwallt Crefftau Adeiladu TG a’r Cyfryngau Garddwriaeth Menter Astudiaethau Amgylcheddol Cerbydau Modur Y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu sydd ar gael gennym. Mae'n bosibl i roi cynnig ar lawer o bynciau gwahanol gan ddibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych yn ei fwynhau, beth rydych yn ei wneud yn dda a'ch helpu gyda’ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a'ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs, a, thrwy gyfrwng cymorth dysgu a sesiynau tiwtorial, gallwn fodloni amrywiaeth eang o anghenion. Mae ein staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i ddarparu'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

35

Ethos yr Ysgol yw cynnig cyfle cyfartal i’r holl fyfyrwyr gyflawni fel y byddant yn gwella ansawdd eu bywydau yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn ein Hysgol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a chystadlaethau i ddatblygu sgiliau a hyder ehangach ac maent yn llwyddiannus o safbwynt academaidd, yn gymdeithasol ac ym maes chwaraeon. Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Astudiaethau Sylfaen Sgiliau Bywyd

Mae’r cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol a chyfrannu at y gymuned leol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Sgiliau Bywyd Lefel Mynediad ar Lefelau Mynediad 1 a 2, yn dibynnu ar anghenion unigol. Bydd dysgwyr yn astudio unedau mewn iechyd a diogelwch, TG a chyflwyniad personol.

Hyd

1-2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau unedau ar lefel Cyn-Fynediad a Lefel Mynediad 1 cyn symud ymlaen i’r cwrs hwn.

Dilyniant Mae myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i gyrsiau Sgiliau Gwaith neu lleoliadau gwaith neu gyfleoedd hyfforddi â chymorth.

Sgiliau Gwaith ac Addysg Gymdeithasol

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y gymuned leol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Unedau Haen Dysgu Sylfaen ar Lefel Mynediad 2 a 3 yn dibynnu ar anghenion unigol. Bydd dysgwyr yn astudio amrywiaeth o feysydd galwedigaethol, gan gynnwys llythrennedd digidol, chwaraeon, arlwyo a chelf.

Hyd

1-2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bydd myfyrwyr wedi cwblhau unedau Haen Dysgu Sylfaen ar Lefel Mynediad 1 neu ddangos y gallu i symud ymlaen i gymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith ar Lefel Mynediad 2 ar lefelau priodol cyn symud ymlaen i’r cwrs hwn.

Dilyniant Ar ddiwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i’n rhaglen Samplu Galwedigaethol, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth â chymorth.

Samplu Galwedigaethol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i samplu meysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, arlwyo a garddwriaeth cyn penderfynu ar lwybr gyrfa neu astudio galwedigaethol pellach. Mae'n bosibl samplu amrywiaeth o bynciau gwahanol gan ddibynnu ar ddiddordebau unigol. Mae hefyd yn cynnig cyfle i wella sgiliau sylfaenol a datblygu'r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen i symud ymlaen.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Nid oes angen meddu ar gymwysterau ffurfiol ond, yn ystod y cyfweliad, rhaid dangos awydd i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau dysgu.

Dilyniant Gall myfyrwyr gamu ymlaen i gyrsiau lefel uwch yn yr Ysgol Astudiaethau Sylfaen, Oedolion a’r Gymuned i gyrsiau prif ffrwd neu i hyfforddiant seiliedig ar waith.

36


Astudiaethau Sylfaen Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i bobl ifanc sydd am astudio yn y coleg ond nad ydynt wedi penderfynu ar lwybr gyrfa hyd yma. Maen nhw’n ddelfrydol i’r rhai sydd am ennill cymwysterau i baratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu weithio i wella sgiliau sylfaenol a/neu Sgiliau Hanfodol ac i ddysgu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol.

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio fel cyflwyniad i feysydd galwedigaethol. Maent yn cynnig ystod eang o feysydd pwnc sy'n cynnwys themâu seiliedig ar blant ac oedolion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Drama, Celf a Thechnoleg Cerddoriaeth ar gyfer y Celfyddydau Creadigol. Mae'r cyrsiau hefyd yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol tuag at waith, ar yr un pryd ag annog gwella sgiliau sylfaenol.

Gofynion Mynediad

Hyd

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae gofyn i fyfyrwyr ddangos y gallu i weithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn cychwyn ar y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Dilyniant

37

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Celfyddydau Creadigol

Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr ar y cwrs hwn yn dewis datblygu eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth drwy ymrestru am gyrsiau eraill mewn maes galwedigaethol penodol neu'r rhaglen Porth. Mae Rhagolygon Gyrfa gyrfa a sgiliau cysylltiedig â gwaith yn ffurfio rhan o'r cwrs hwn gyda phwyslais ar y sgiliau mwy meddal sydd eu hangen yn y byd gwaith heddiw. Mae sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd wrth wraidd y cwrs hwn.

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

TGAU ar Raddau E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus.

Dilyniant Bydd y cymhwyster Lefel 1 hwn yn helpu dysgwyr i ddechrau ar gyrsiau lefel uwch er enghraifft BTEC Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Diploma BTEC Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio neu gamu ymlaen i yrfa yn y sectorau perthnasol.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Yng Ngrŵp Colegau NPTC, mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion y diwydiannau trin gwallt, harddwch a therapïau cymhwysol. Mae'r diwydiant sba yn ffynnu, gyda phob gwesty mawr yn cynnig cyfleusterau sba erbyn hyn. Ceir nifer o salonau annibynnol a'r posibilrwydd o weithio ar eich liwt eich hun. Gallwch ddod yn gymwys mewn ystod o driniaethau o dorri a lliwio gwallt at drin ewinedd, estyniadau ewinedd acrylig, tylino'r corff, triniaethau ail-amlinellu'r corff, siapio'r aeliau a chodi'r wyneb yn electronig! Mae gennym gyfleusterau arbenigol ardderchog yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd gyda’n salonau masnachol. Mae salonau harddwch, trin gwallt a salonau amlbwrpas sy'n gwasanaethu trin gwallt, harddwch a thechnoleg ewinedd.

Rhagolygon Gyrfa

Triniwr Gwallt

Therapydd Harddwch

Cyfarwyddwr Artistig Artist Colur

Technegydd Lliwio Gwallt Rheolwr Salon

Artist Colur Theatraidd Steilydd

Mae'r salonau i gyd yn agored i'r cyhoedd, felly mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae'r salon yn defnyddio cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn unig fel Dermalogica, NXT, a Wella.

Disgwyliadau Cyflog

£ 15-20k*

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

5989 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 38


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Lefel 1 Cyflwyniad i Drin Gwallt a Gwasanaethau Harddwch

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau steilio gosod a chwyth-sychu, lliwio, siampŵo a chyflyru gwallt, iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salon, manwerthu, sgiliau derbynfa a gofal cwsmeriaid. Yr unedau harddwch yw trin ewinedd y dwylo/trin ewinedd y traed/ celf ewinedd/paentio wynebau â thema sylfaenol a thechnegau coluro sylfaenol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed ac wedi cyflawni o leiaf dau gymhwyster TGAU Graddau D neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu Therapi Harddwch a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

39

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau steilio, gosod a chwyth-sychu, lliwio, siampŵo a chyflyru gwallt, iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salon, manwerthu, sgiliau derbynfa a gofal cwsmeriaid.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed ac wedi cyflawni o leiaf dau gymhwyster TGAU Graddau D neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Atebion Creadigol: Cwrs Carlam mewn Trin Gwallt

Bydd y cwrs hwn yn caniatáu ennill cymwysterau ar garlam sef Dyfarniad VRQ Lefel 1 mewn Steilio Gwallt Menywod a Diploma VRQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod. Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid bod y myfyrwyr naill ai wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu ddau TGAU Graddau C neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau trwy gamu ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod

Mae’r rhaglen hon yn rhoi sylw i sgiliau torri, steilio a setio sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (gan gynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau ar y gwallt a’r pen), iechyd a diogelwch sylfaenol siop trin gwallt, sgiliau hanfodol a manwerthu.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid bod y myfyrwyr naill ai wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu ddau TGAU Graddau C neu uwch; yn cynnwys Saesneg.

Dilyniant Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau i gyrsiau Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch.

40


Trin Gwallt a Therapi Harddwch Diploma VRQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae’n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf 1 diwrnod yr wythnos a sesiwn fasnachol gyfnos yn y Coleg.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i barhau â'ch astudiaethau drwy gyflawni NVQ Lefel 4 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch eraill.

41

NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Mae'r cwrs yn cwmpasu agweddau ar anatomeg a ffisioleg, croen, twf gwallt, afiechydon ac anhwylderau ac iechyd a diogelwch yn y salon. Mae'r agweddau ymarferol yn cynnwys colur ar gyfer y noson a cholur cywirol, llunio a lliwio aeliau, cwyro, trin ewinedd dwylo a thraed, triniaethau wyneb a chyflogadwyedd.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A *-E. Cyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr 19 oed +. Ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed, mae dau TGAU Graddau C neu uwch yn ofynnol. Gellir gofyn am eirdaon.

Dilyniant

I Therapi Harddwch Lefel 3 (cyffredinol), Therapi Cymhwysol Lefel 3 a Therapi Chwaraeon, neu yrfa mewn hyrwyddo colur a chosmetigau.


Trin Gwallt a Therapi Harddwch VRQ Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch

Mae'r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gamu ymlaen mewn ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â therapi harddwch. Datblygwyd y cynnwys yn unol â gofynion y diwydiant, yn enwedig mewn triniaethau trydanol i wella golwg y croen a’r corff.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Lefel 3 mewn Therapïau Cymhwysol

Mae'r cwrs yn cynnwys cymwysterau tystysgrif uned unigol. Mae'r meysydd pwnc craidd yn seiliedig ar anghenion y diwydiant. Bydd myfyrwyr yn dysgu, ymarfer a pherffeithio sgiliau a gwybodaeth yn y meysydd canlynol: technoleg ewinedd (Lefel 2), cymwysterau Tystysgrif Lefel 3 mewn: lliw haul â chwistrell, estyniadau amrannau unigol, tylino Swedaidd, aromatherapi yn defnyddio olewau wedi'u blendio ymlaen llaw, colur ffasiwn a ffotgraffaidd.

Hyd

Blwyddyn

Cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol.

Coleg

Dilyniant

Gofynion Mynediad

Gall myfyrwyr arbenigo mewn mathau penodol o driniaethau, neu fynd ymlaen i gyrsiau Lefel 4.

Y Drenewydd

Cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 18 oed a drosodd ac wedi ennill cymwysterau Lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau cyflenwol.

Dilyniant Therapi Chwaraeon, therapïau amgen arbenigol a therapïau uwch.

42


Prentisiaethau Ar Gael

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith, ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn. Yn ogystal ag astudio maes eu prif raglen, mae gan fyfyrwyr gyfleoedd i ennill cymwysterau ychwanegol fydd yn cefnogi ceisiadau ar gyfer cyflogaeth neu astudio yn y dyfodol. Gallai gweithwyr ym maes gofal iechyd weithio mewn ysbytai a chlinigau, canolfannau gofal dydd a chartrefi preswyl, meddygfeydd, labordai, fferyllfeydd, optegwyr a phractisau deintyddol.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae amrywiaeth eang o alwedigaethau ac mae'r oriau a phatrymau gwaith yn amrywio yn unol â hynny.

43

Mae angen ar weithwyr gofal iechyd sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar. Gall gweithwyr meithrinfa gael eu cyflogi mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu ddod yn warchodwyr plant.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.

Rhagolygon Gyrfa

Cynorthwyydd Meithrinfa Gwarchodwr Plant Gweithiwr Gofal Cynorthwyydd Crèche Cynorthwyydd Grŵp Chwarae Therapydd Galwedigaethol Nyrsio Cwnselydd Therapydd Iaith a Lleferydd Gweithiwr Cymdeithasol Disgwyliadau Cyflog

£15-20k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

30191 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Mae'r cymhwyster yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector. Mae'r cymhwyster wedi'i ddylunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am gael mynediad i gyflogaeth neu addysg bellach. Argymhellir yn gryf bod dysgwyr yn cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â'r cymhwyster hwn. Ar ôl ei gwblhau, bydd dysgwyr yn gallu gweithio fel gweithiwr Gofal plant cymwysedig Lefel 3.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Pum TGAU C neu uwch.

Dilyniant Gallai cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori arwain at:  Wybodaeth a chymhwysedd i ymarfer yn y gweithle  Rhagolygon Gyrfa i addysg uwch  Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant  Lefel 4 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd.

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy'n astudio mewn coleg addysg bellach. Bydd dysgwyr yn cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â'r cymhwyster hwn.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Dau TGAU Graddau C neu uwch.

Dilyniant Gallai cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau arwain at:  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer Oedolion neu Ofal Plant a Phobl Ifanc  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau  TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Bydd y llwybr mwyaf perthnasol yn dibynnu ar y canlyniad a gyflawnwyd o fewn y cymhwyster hwn ac eraill a astudir ochr yn ochr ag ef. Bydd hefyd yn caniatáu llwybrau Rhagolygon Gyrfa i gymwysterau Lefel 3 eraill gan gynnwys Seicoleg a Chymdeithaseg a/ neu fynediad i gyrsiau AU.

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae wedi'i gynllunio i'w ddarparu mewn colegau addysg bellach ond gallai hefyd fod o ddiddordeb i chweched dosbarth ysgolion a darparwyr eraill lle y bo'n briodol.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU C neu uwch.

Dilyniant

Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, yn cynnwys lefel TAG symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn meysydd yn cynnwys:  Iechyd  Gofal Cymdeithasol  Blynyddoedd Cynnar  Therapi Iaith a Lleferydd  Seicoleg  Bydwreigiaeth  Iechyd galwedigaethol. Gall dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg uwch ddewis astudio'r cymhwyster hwn ochr yn ochr â TAG mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant gan gwblhau felly yr hyn sy'n cyfateb i dair Safon Uwch TAG. 44


Garddwriaeth a Garddio Mae garddwriaeth yn ddiwydiant deinamig ac amrywiol sy'n cynnwys y gwaith masnachol o gynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol, a hefyd dylunio, sefydlu, a chynnal a chadw ein parciau a'n gerddi, tiroedd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir. Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, gan gynnwys cwmnïau amlwladol mawr a sefydliadau entrepreneuraidd llai, awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau Cenedlaethol. Gartref a thramor, mae galw bob amser am arddwriaethwyr a hyfforddwyd ym Mhrydain.

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn.

45

Disgwyliadau Cyflog

£ 30-60k*

Rhagolygon Gyrfa Garddwr Tirluniwr Garddluniwr Gofalwr Tir Gofalwr y Grîn Tyfwr Ffrwythau a Llysiau Botanegwr

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

2384 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Garddwriaeth a Garddio Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

Hyd

Hyd

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai nad oes ganddynt brofiad blaenorol yn y diwydiant garddwriaethol/garddio. Mae’n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol trwy ystyried amrywiaeth eang o’r sgiliau sy’n angenrheidiol wrth weithio yn y diwydiant garddwriaethol/garddio. Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol (cyfweliad). Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Dilyniant Dyma’r cwrs delfrydol i gamu ymlaen i un o’r llu o lwybrau gyrfa ym maes garddwriaeth. Fel arall, gallai fod yn gam ar y ffordd tuag at astudiaethau pellach.

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o arddwriaeth/garddio ac mae'n cyfuno darlithoedd â gwaith ymarferol. Mae'r cwrs yn darparu sylfaen yn yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth/garddio. Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth. Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Dilyniant Cyflogaeth/Hunangyflogaeth mewn amrywiaeth o lwybrau gyrfa ym maes garddwriaeth/tirlunio gan gynnwys dylunio gerddi, cynnal a chadw tirlun, gweithio mewn planhigfa a’r sector manwerthu.

46


Cerbydau Modur Mae gan yr adrannau Cerbydau Modur yn y Drenewydd a Bannau Brycheiniog weithdai llawn cyfarpar hefyd gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a lifft dull siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel ac ASNU a chyfleusterau uwchsonig i lanhau chwistrellwyr. At hynny, mae gan Goleg Y Drenewydd fae MOT ar ddull ATL llawn cyfarpar a man diagnosteg pwrpasol.

Rhagolygon Gyrfa

Mae gan y ddau gampws ystod gynhwysfawr o offer a chyfarpar o safon y diwydiant, amrywiaeth dda o gerbydau a pheiriannau ar rigiau y gall myfyrwyr weithio arnynt ac mae'r rhain yn cael eu diweddaru a'u newid yn rheolaidd.

Mecanydd Dylunydd Ceir Cyflym Arbenigwr Atgyweirio Cyrff Cerbydau Chwistrellwr Curwr Paneli Disgwyliadau Cyflog

£ 15-40k*

Prentisiaethau Ar Gael

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

4621 *

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

47

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Cerbydau Modur IMI Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth sy'n gyffredin i atgyweirio cerbydau wedi'u difrodi mewn damweiniau. Mae'r cwrs yn anelu at archwilio adeiledd y cerbydau a sut i atgyweirio darnau wedi'u difrodi mewn dull priodol ar gyfer eu gorffen.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

TGAU D/E ac uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn wrth symud ymlaen i gwrs Lefel 2.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau Diploma Lefel 1 mewn Gorffen Cerbydau ar ôl Damweiniau. Prentisiaeth.

IMI Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cludiant

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Cerbydau Modur yn gyffredinol. Mae’r cwrs yn anelu at archwilio’r holl systemau mecanyddol a thrydanol a ddefnyddir fel arfer gyda cherbydau ysgafn. Bydd rhaid cyflawni dau arholiad cwestiynau amlddewis ar-lein i gwblhau’r cwrs a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol i’w cyflawni yn ein gweithdy ar flaen y gad.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

TGAU D/E ac uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn wrth symud ymlaen i gwrs Lefel 2.

Dilyniant

Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn. Diploma Lefel 1/2 mewn Atgyweirio Cerbydau. Diploma Lefel 1/2 mewn Adfer Cerbydau (Peintio). Prentisiaeth.

City & Guilds Diploma/ Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn

Mae’r cwrs yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Cerbydau Modur yn gyffredinol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r holl systemau mecanyddol a thrydanol, sy'n nodweddiadol o gerbydau ysgafn. Rhaid cyflawni saith arholiad amlddewis ar-lein i gwblhau'r cwrs, (gan City & Guilds), sy'n cwmpasu holl feysydd cerbydau ysgafn. Mae cwblhau'r arholiadau hyn yn llwyddiannus yn golygu y bydd gennych yr holl wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer y Brentisiaeth Fodern. Mae tri aseiniad a thasgau ymarferol yn cael eu cyflawni yn ein gweithdy rhagorol.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Dilyniant

Mae cymwysterau TGAU Graddau C ac uwch yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Ystyrir profiad ymarferol hefyd. Rhaid i fyfyrwyr gyda llai na Gradd C fynychu dosbarthiadau ailsefyll TGAU a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'u rhaglen amser llawn.

Rhagolygon Gyrfa

Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio/ Ail-orffen Cerbydau ar ôl Damweiniau Prentisiaeth mewn garej i gwblhau cynnwys NVQ y lefel 2. Prentisiaeth Fodern. Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn. Prentisiaeth i gwblhau cynnwys NVQ y Brentisiaeth Fodern Lefel 3 ar gyfer tystysgrif gyflawn fel technegydd. 48


Prentisiaethau Ar Gael

Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Mae’r Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser yn ogystal â rhaglenni masnachol a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion tra arloesol y sector diwydiant hwn sy'n symud yn gyflym. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr a busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein rhaglenni mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cwmpasu Gosodiadau Trydanol, Technoleg Nwy, Plymio, Gwresogi ac Awyru, Effeithlonrwydd Ynni a Chyngor a Thechnolegau Adnewyddadwy, yn ogystal â Rheoli Adeiladu a Systemau Rheoli. Fe'u darperir ar draws pedwar o'n prif golegau:

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

 Afan  Castell-nedd  Y Drenewydd  Abertawe

49

Mae gennym weithdai modern ar bob campws, sydd â chyfleusterau ardderchog sy’n cael eu diweddaru wrth i dechnolegau newydd ymddangos. Arweinir ein cyrsiau gan staff arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a ddysgwyd yn y diwydiant a pharatoi myfyrwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus ym meysydd Electrodechnegol, Plymio, Gwresogi, Awyru, Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Tân, Technolegau Amgylcheddol a Thechnoleg Cartref Clyfar sy'n dod i'r amlwg. Mae'r Academi Ynni yn cynnig cyrsiau ar gyfer Hyfforddiant ac Asesiad Diogelwch Nwy ACS ac Effeithlonrwydd Ynni. Mae'r technolegau amgylcheddol newydd hyn yn cynnwys:

 Micro-gynhyrchu pŵer trydanol, Ffotofoltäig Solar  Micro-gynhyrchu pŵer trydanol gyda Thyrbin Gwynt  Dŵr poeth Solar Thermol  Hyfforddiant Pwmp Gwresogi (ffynhonnell ddaear ac aer)  Cynaeafu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd  Rheoli a Defnyddio Cartref Clyfar.

Rhagolygon Gyrfa

Prentisiaeth Plymio Peiriannydd Nwy Prentisiaeth Drydanol Ymgynghorydd Ynni Prentisiaeth Chwistrellwyr Peiriannydd ‘Green Deal’ Disgwyliadau Cyflog

£25-40k*

Nifer y swyddi yng Nghymru erbyn 2024

17302 *

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig.


Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Diploma Lefel 1 mewn Gosodiadau Trydanol

Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio

Hyd

Hyd

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sydd am ddysgu sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â gosodiadau trydanol. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o dasgau sylfaenol sy'n sail i wybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â gosodiadau trydanol. Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-D.

Dilyniant Mae'n caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i'r cymwysterau canlynol:  Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol (Adeiladau ac Adeileddau).

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ddysgu sgiliau sylfaenol a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â phlymio. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o dasgau sylfaenol sy'n sail i wybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â phlymio. Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-D.

Dilyniant Mae'n caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i'r cymwysterau canlynol:  Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio  NVQ Diploma Lefel 2 mewn Plymio a Gwresogi.

50


Plymio, Gosod Trydanol, Gwresogi ac Awyru a Gosod a Chynnal a Chadw Chwistrellwyr Lefel 2 mewn Gwasanaethau Peirianneg Drydanol (Gosodiadau a Chynnal a Chadw Trydanol)

Ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio fel trydanwyr yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu, mae'r cwrs hwn yn caniatáu ichi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ragolygon gyrfa yn y sector electro-dechnoleg.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-C.

Dilyniant

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae'n caniatáu ymgeiswyr i symud ymlaen i gyflogaeth, er nad fel trydanwr cwbl gymwysedig, neu i astudio'r cymwysterau canlynol:  NVQ/Diploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol (Adeiladau a Strwythurau) fframwaith prentisiaeth.

51

Diploma Lefel 2 mewn Astudiaethau Plymio (Plymio a Gwresogi)

Ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio fel plymwyr yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu. Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swydd a/neu ragolygon gyrfa ym maes plymio.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Bagloriaeth Cymru Llwyddo/Llwyddo* a detholiad priodol o TGAU Graddau A*-C.

Dilyniant Mae'n caniatáu ymgeiswyr i symud ymlaen i gyflogaeth, er nid fel plymwyr cwbl gymwysedig, neu i astudio'r cymwysterau canlynol: NVQ/Diploma Lefel 2 Prentisiaeth Plymio a Gwresogi.


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus â gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Gall myfyrwyr ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eu bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

Gwasanaethau Cyhoeddus Mae amrywiaeth o gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfuno dysgu seiliedig ar waith, datblygu gwybodaeth a sgiliau; ynghyd â chymhwyso modiwlau theori ac ymarferol. Mae amrywiaeth o wibdeithiau, gweithgareddau preswyl a gwersi rhyngweithiol cyffrous hefyd yn rhoi cipolwg ar yr ystod amrywiol o yrfaoedd gwasanaeth cyhoeddus mewn lifrai a heb lifrai.

Coleg Bannau Brycheiniog

Gyrfa

Rhagolygon

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog Grŵp NPTC yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei faes hyfforddi

Lluoedd Arfog Chwaraewr Proffesiynol Gwasanaeth Tân Gwasanaeth Ambiwlans Hyfforddwr Chwaraeon Gwasanaeth Heddlu Gwyddonydd Chwaraeon Gweithgareddau Awyr Agored Athro AG Datblygiad Chwaraeon

Prentisiaethau ac Ysgoloriaethau Ar Gael ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf. Mae'r cyfleusterau addysgu yn cynnwys tair ystafell addysgu, cyfleusterau TG a labordy chwaraeon, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un ohonynt. chwaraeon, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol.

Coleg Y Drenewydd

Yng Ngholeg y Drenewydd, ochr yn ochr â'n prif gymwysterau Lefel 3 mewn Chwaraeon, mae ein myfyrwyr yn gallu cyflawni amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol perthnasol, megis Gwobr Arweinwyr Ifanc Gweithgar, Gwobr Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol L2 a'r Wobr Arweinwyr Chwaraeon Uwch. Mae hyn yn eu galluogi i wneud gwaith yn y gymuned drwy hyfforddi yn yr ysgolion cynradd lleol a helpu'r uned datblygu chwaraeon leol gyda gwyliau a galas nofio yn y ganolfan hamdden leol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda'r swyddog anabledd drwy helpu yn N-able (grŵp anabledd).

Disgwyliadau Cyflog

*

£15-30k

Nifer y swyddi yng

Nghymru erbyn 2024

5339

*

*Ffynhonnell: Gyrfa Cymru

Mae modd ymgymryd â rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ffi weinyddol na ellir cael ei had-dalu wrth ymrestru ac efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd). Os felly, bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu unrhyw gostau cysylltiedig. 52


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Lefel 1 mewn Chwaraeon a Hamdden Egnïol

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant Chwaraeon/Hamdden, neu ar gyfer myfyrwyr sydd am gamu ymlaen i’r cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r modiwlau'n cynnwys: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon/Hamdden, Cymryd Rhan mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd, Cynllunio’ch Rhaglen Ffitrwydd eich Hun.

Dim gofynion ffurfiol ond bydd angen cael cyfweliad gydag arweinydd y cwrs.

Mae'r cwrs hwn yn cyfuno Tystysgrif Ragarweiniol BTEC Lefel 1 Pearson mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiannau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus neu ar gyfer myfyrwyr sydd am gamu ymlaen i’r cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r modiwlau'n cynnwys: Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden, Cymryd rhan mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd, Cynllunio eich Rhaglen Ffitrwydd eich Hunan, Darllen Map, Sgiliau Alldaith a Gwaith Tîm Ymarferol yn y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dilyniant

Hyd

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gofynion Mynediad

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus a chael geirdaon cadarnhaol gan eich tiwtoriaid, bydd angen i chi gwblhau sgrinio WEST gyda'r lefelau priodol i symud ymlaen ymhellach i gwrs lefel 2. Mae'r cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau ar gyfer cyflogaeth bosibl ym meysydd chwaraeon a hamdden sy'n tyfu'n gyson.

53

BTEC Lefel 1 Tystysgrifau Cyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

Blwyddyn

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Dim gofynion ffurfiol ond bydd angen cael cyfweliad gydag arweinydd y cwrs.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus a chael geirdaon cadarnhaol gan eich tiwtoriaid, bydd angen i chi gwblhau sgrinio WEST gyda'r lefelau priodol i symud ymlaen ymhellach i gwrs lefel 2. Mae'r cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau ar gyfer cyflogaeth bosibl ym meysydd chwaraeon a hamdden sy'n tyfu'n gyson.


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Lefel 2 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfun

Mae’r cwrs Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus hwn yn gwrs ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith. Rydych yn dysgu trwy gwblhau asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig ochr yn ochr â phrosiectau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle, gweithgareddau a gofynion y diwydiant chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwch yn edrych ar wahanol agweddau ar y ddau sector a bydd y cwrs yn darparu sylfaen dda i fynd ymlaen i gymhwyster uwch sy’n gysylltiedig â gwaith.

Hyd

Blwyddyn

Coleg

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Bagloriaeth Cymru Mae’r BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Bagloriaeth Cymru yn chwilio am arweinwyr addysgiedig, brwdfrydig a llawn cymhelliant. Gan gwblhau’r Diploma 90 Credyd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn y flwyddyn gyntaf a mynd ymlaen i astudio’r Diploma Estynedig yn yr ail flwyddyn, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i brofi pob agwedd ar fywyd yn y gwasanaethau cyhoeddus ac yn eich helpu i benderfynu i ba sefydliad rydych chi am wneud cais. Wrth gwblhau’ch Diploma Estynedig yn llwyddiannus, gallwch barhau gyda’ch astudiaethau drwy ddilyn y cwrs HNC/D mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llandarcy hefyd.

Hyd

2 Flynedd

2 TGAU Graddau C neu uwch.

Coleg

Dilyniant

Gofynion Mynediad

Camu ymlaen i gwrs perthnasol ar Lefel 3 i’r rhai a gyflawnodd Radd Teilyngdod ar Lefel 2 neu gallwch hefyd ddefnyddio'r cymhwyster i'ch helpu i geisio swydd mewn maes cysylltiedig.

Bannau Brycheiniog, Y Drenewydd Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn hefyd yn caniatáu mynediad i Addysg Uwch neu yrfa ym meysydd Gwasanaethau Cyhoeddus a chwaraeon; er enghraifft; yr Heddlu, Ambiwlans, Gwasanaeth Tân, y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r RAF. Mae dilyniant yn bosibl i'r HND Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai a gynigir yn Academi Chwaraeon Llandarcy a Choleg y Drenewydd. Mae myfyrwyr blaenorol wedi symud ymlaen i astudio am raddau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Plismona Troseddu, Gwyddorau'r Heddlu, Addysg Antur yn yr Awyr Agored, Datblygu Chwaraeon, a Hyfforddi Chwaraeon.

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd)

Mae hwn yn gwrs delfrydol i wella eich gwybodaeth ddamcaniaethol sy'n ymwneud â nifer o themâu chwaraeon. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel pêl-foli, tenis, lacrós, rygbi a gweithgareddau awyr agored fel syrffio, canŵio a beicio mynydd. Ceir pwyslais cryf ar hyfforddi ac arwain gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y 2 flynedd lle byddwch yn ymgysylltu â llawer o gyfleoedd gwahanol megis gwyliau, digwyddiadau a chymwysterau hyfforddi amrywiol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau a'ch rhinweddau mewn hyfforddi, arwain a threfnu digwyddiadau drwy weithio ochr yn ochr â llawer o'n partneriaid, rhedeg gwyliau a gweithio gyda phobl ifanc sy'n frwd dros chwaraeon.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C neu uwch. Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu'r ddau yn ddymunol.

Dilyniant

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau gradd addysg uwch ar ein tri champws:  Academi Chwaraeon Llandarcy ar gyfer HND mewn Chwaraeon, HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus  Bannau Brycheiniog ar gyfer HND mewn Chwaraeon. Mae myfyrwyr blaenorol wedi llwyddo i ddilyn gyrfaoedd mewn Addysgu (Cynradd ac Uwchradd), Swyddogion Datblygu Chwaraeon, Hyfforddwyr Personol, Hyfforddwyr Campfa, Hyfforddwyr, Gweithwyr Chwarae, Swyddogion yr Heddlu a Diffoddwyr Tân. 54


Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff a Bagloriaeth Cymru

Nod pobl sy’n gwneud chwaraeon yw perfformio ar eu gorau ar y diwrnod cystadlu. Mae’r cwrs hwn yn ceisio edrych ar berfformiad chwaraeon o safbwynt gwyddonol ac yn astudio’r holl brif bynciau a fydd yn effeithio ar ansawdd perfformiad chwaraeon. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth hon i wella eu potensial eu hunain a photensial pobl eraill y maent yn eu hyfforddi. Bydd unedau yn cynnwys: Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Profi Ffitrwydd, Anafiadau Chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon, Chwaraeon Unigol/Tîm, Maeth Chwaraeon a Thylino Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Bannau Brycheiniog

Gwnewch Gais: www.nptcgroup.ac.uk

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r athletwr elit; bydd yr holl chwaraewyr yn datblygu pob math o sgiliau trwy amrywiaeth o fodiwlau a phrofiadau megis cynllunio digwyddiadau, dyfarnu a hyfforddi plant. Mae'r unedau yn cynnwys: Anatomeg a ffisioleg, asesu risgiau mewn chwaraeon, hyfforddiant a rhaglenni chwaraeon, profi ffitrwydd, sgiliau technegol a thactegol, dadansoddi perfformiad, seicoleg er perfformiad, hyfforddiant chwaraeon ac anafiadau chwaraeon. Mae cymwysterau ychwanegol yn cynnwys Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon, Cymorth Cyntaf a chymwysterau hyfforddi.

Hyd

2 Flynedd

Coleg

Y Drenewydd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Pum TGAU Graddau C neu uwch. Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu'r ddau yn ddymunol.

Dilyniant

Dilyniant

Cymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mathemateg neu Saesneg TGAU neu’r ddau bwnc yn ddymunol.

55

BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) (FfCCh)

Mae’r cwrs yn gyfle i weithio ym maes gwyddor chwaraeon, sy’n ehangu o hyd, lle mae mwy a mwy o weithwyr proffesiynol cymwys yn cael eu defnyddio gan yr holl brif sefydliadau a chlybiau chwaraeon. Hefyd, gall myfyrwyr gamu ymlaen i HND mewn Chwaraeon (Hyfforddiant a Datblygu Chwaraeon) ar gampws Bannau Brycheiniog.

Mae’r cwrs yn gyfle i weithio ym maes gwyddor chwaraeon, sy’n ehangu o hyd, lle mae mwy a mwy o weithwyr proffesiynol cymwys yn cael eu defnyddio gan yr holl brif sefydliadau a chlybiau chwaraeon.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Grŵp Colegau NPTC Cyrsiau Amswer Llawn 2019/2020 - Colegau Gogledd by NPTC Group of Colleges - Issuu