Skip to main content

Dathlu 90 Mlynedd

Page 1

ŵp

2 0 1 2 3 1 9 1

Gr gau NP Cole T C

hlu at

M lynedd

p of Col u o leg Gr es C T

Yea rs

D

C

ting a r b ele

NP

Naw Deg Mlynedd o Ragoriaeth mewn Addysg a Hyfforddiant Chilio NPTC Group 1


Syr William Jenkins AS yn agor y Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol newydd yng Nghastell-nedd ar 28ain Medi 1931

Grŵp Colegau NPTC Naw Deg Mlynedd o Ragoriaeth mewn Addysg a Hyfforddiant ~ Philip J Grant ~

Y

N 2021-22 mae Grŵp Colegau NPTC yn dathlu 90 mlynedd o ragoriaeth mewn addysg a hyfforddiant. Er mai Coleg annibynnol, unigol oedd Coleg Castell-nedd i ddechrau, mae uno â Choleg Afan, Port Talbot ym mis Ionawr 1999 a Choleg Powys ym mis Awst 2013 wedi gwneud Grŵp Colegau NPTC yn un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, gan gynnig rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch ar draws ei wyth prif gampws. Agorwyd y Coleg yn swyddogol ar 28ain Medi 1931, ac o ddechrau bychan iawn, gyda’r sefydliad â dim ond pum ystafell addysgu, mae wedi tyfu i’w faint sylweddol presennol. Yn ystod y 90 mlynedd ddiwethaf, mae’r Coleg wedi sicrhau llwyddiant eithriadol i’w fyfyrwyr mewn cyflawniadau academaidd, galwedigaethol, chwaraeon a diwylliannol ac mae’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

1

Cyn gynhared â 1843, roedd Sefydliad Mecaneg yng Nghastell-nedd, a phan aeth yr adeilad gwreiddiol yn rhy fach, codwyd adeilad mwy yn Church Place sy’n dal i fodoli heddiw. Roedd William Jevons, diwydiannwr lleol, a oedd yn un o berchnogion y gwaith glo a haearn yng Nghwmgwrach, yn rhan allweddol iawn o’r fenter hon. Mae’n werth nodi bod William Jevons wedi derbyn help parod Alfred Russel Wallace, a gynigiodd gymorth amhrisiadwy drwy redeg y Sefydliad. Roedd Wallace yn byw yng Nghastell-nedd rhwng 1841 ac 1848, ac yn ystod

y cyfnod hwnnw bu’n gweithio fel syrfëwr ac yn astudio hanes byd natur. Yn ddiweddarach cydweithiodd Wallace â Charles Darwin wrth astudio detholiad naturiol, a gydag ef, cyflwynodd y papur cyntaf ar y pwnc hwn yn 1858. Yn ystod y flwyddyn flaenorol, gwnaed ymdrech i sefydlu’r brifysgol dechnolegol gyntaf yng Ngorllewin Ewrop yn Nhŷ’r Gnoll, Castell-nedd. Er na sefydlwyd y brifysgol erioed, dangosodd ei phrosbectws nodedig agwedd a oedd o flaen ei hamser tuag at addysg. Yng Nghastell-nedd, yn y pen draw, arweiniodd anghenion y chwyldro diwydiannol parhaus at sefydlu Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol Castell-nedd yn 1931. Penodwyd Dr W Graham Howell, M.Sc., yn Bennaeth Sefydliad Mwyngloddio Castell-nedd ac yn Bennaeth yr Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol a ymgorfforwyd fel rhan o’r Sefydliad. Gyda’i gilydd, gyda dim ond dau aelod o staff, cychwynnodd Dr Howell ar y dasg o adeiladu ar y sylfeini bach hyn. Roedd yr adeilad, a godwyd gan Gyngor Sir Morgannwg, wedi’i leoli wrth ymyl Ysgol y Bechgyn Sir Castell-nedd. Costiodd yr adeilad £6,100, a daeth £5,500 o’r swm yma o grant gan Gronfa Les y Glöwyr a sefydlwyd o dan Ddeddf y Diwydiant Mwyngloddio 1920. Roedd hwn yn gyfnod o anhawster ariannol ac economaidd mawr ac roedd yn ffodus bod y Sefydliad wedi cael ei adeiladu cyn i’r toriadau mewn addysg ddod i rym. Dim ond pum ystafell addysgu


Cymaint oedd effaith meithrin perthnasoedd rhwng y Sefydliad a’r diwydianwyr nes bod nifer y myfyrwyr a ryddhawyd gan gyflogwyr i fynychu cyrsiau dydd wedi cynyddu o chwech yn 1931 i 1,221 erbyn 1952, pan ymddeolodd Dr W Graham Howell. Hefyd, roedd y diddordeb ymarferol brwd yn natblygiad y Sefydliad ymhlith diwydianwyr lleol amlwg yn bwysig iawn. Cafodd labordy petrol newydd sbon ei dodrefnu a’i llenwi ag offer gan y National Oil Refineries Ltd yn 1945 a galluogodd help sylweddol gan gwmnïau fel Cwmni Dur Briton Ferry, y Metal Box Company a Chwmni Dur Cymru, i’r Sefydliad gael cyfarpar costus ac offer arbenigol a fyddai wedi bod yn anodd ei sicrhau mewn unrhyw ffordd arall.

Dr W Graham Howell, M.Sc., oedd Pennaeth y Coleg pan gafodd ei sefydlu yn 1931 tan iddo ymddeol yn 1952.

oedd yn yr adeilad gwreiddiol: labordy ffiseg, labordy cemeg, swyddfa arlunio a dwy ystafell ddosbarth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd 50 o fyfyrwyr llawn amser, chwe myfyriwr dydd rhan amser a 741 o fyfyrwyr gyda’r nos, gan roi cyfanswm mawreddog o 797 o fyfyrwyr. Dr W Graham Howell oedd Pennaeth y Sefydliad o 1931 hyd nes iddo ymddeol yn 1952. Yn ystod yr 21 mlynedd hynny, roedd dau ddatblygiad a oedd ynddynt eu hunain yn unigryw. Y cyntaf o’r datblygiadau hyn oedd cyflwyno arholiadau safon mynediad yn gynnar yng ngwaith yr Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol a’r ail oedd datblygiad graddol perthynas waith agos iawn rhwng y Sefydliad a’r diwydianwyr a oedd yn rheoli diwydiannau Castell-nedd. Roedd y syniad o gyflwyno arholiadau safon mynediad nid yn unig er mwyn creu myfyrwyr a oedd wedi derbyn hyfforddiant technegol da ond a oedd hefyd wedi pasio arholiadau o’r un safon academaidd â’r rhai yn yr ysgol ramadeg. Roedd cyflwyno arholiadau safon mynediad yn llwyddiannus yn gyfrifol nid yn unig am roi statws uwch i Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol Castell-nedd na statws unrhyw ysgol arall o’i math yn y wlad bron ond roedd hefyd yn ei gwneud yn bosibl i ugeiniau o’i myfyrwyr raddio mewn gwyddoniaeth a pheirianneg. Mae’n ddiddorol nodi bod llawer o’r disgyblion hyn wedi’u paratoi ar gyfer, ac wedi sefyll arholiadau Rhydychen, gyda lefel uchel o lwyddiant.

Y Pennaeth Dr W Graham Howell gyda’i staff yn ystod y 1940au cynnar.

Lluniwyd cynlluniau yn 1938 ar gyfer estyniad sylweddol i’r Sefydliad, ac er gwaethaf yr Ail Ryfel Byd, cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1942. Roedd yr estyniad i’r Sefydliad yn cynnwys llyfrgell ac ystafell storio, darlithfa, pedair ystafell ddosbarth, dwy swyddfa arlunio, labordy gwyddoniaeth peirianneg fecanyddol, gweithdai peirianneg, gweithdy plymio a gosodiadau trydan, gweithdy coed, labordy drydan, campfa ac ystafelloedd storio.

Tîm rygbi 1943-44 Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol Castell-nedd. Capten y tîm oedd Gerald Evans a ddaeth yn Bennaeth yr Adran Adeiladu a Pheirianneg Sifil yn nes ymlaen.

2


Pennaeth a staff Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol Castell-nedd 1948 Rhes Gefn: T E Hopkins, N Jones, C Slocombe Trydedd Rhes: H Morgan, V Lewis, J G A Pugh, G Williams, W P Doddridge, E C Roberts, A E Davies, T Dooley. Ail Res: Miss M Davies (Clerc), D J Williams, N Williams, E McCutcheon, W A Evans, E S Davies (Pennaeth yr Adran Wyddoniaeth), T B Williams, E G H Evans, G A Davies, Miss E Abraham. Rhes Flaen: Miss M D Jones, W S Morgan, O G Davies, T J Evans (Ail Feistr), Dr W Graham Howell (Pennaeth), H E Williams (Pennaeth yr Adran Beirianneg), J R Evans (Athro mewn Gofal yr Adran Fasnach), H Jeffreys, Miss R Williams.

Ni wnaeth yr Ail Ryfel Byd fawr ddim i leihau’r twf yn nifer y myfyrwyr ac, ar wahân i ostyngiad o 38 y cant yn 1940-41, parhaodd nifer y myfyrwyr i gynyddu. Cafodd y rhyfel effaith ddealladwy gyda myfyrwyr cymwys yn cael eu galw i helpu gydag ymdrech y rhyfel ac ni ddihangodd y Sefydliad rhag erchyllterau’r rhyfel gyda chwe myfyriwr yn gwneud yr ‘aberth eithaf ’. Mae plac efydd yn cael ei arddangos yn ystafell fwrdd y Coleg heddiw er cof am fyfyrwyr yr Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni chafodd y myfyrwyr a barhaodd i astudio yn y Sefydliad yn ystod y rhyfel eu heithrio rhag effaith yr elyniaeth chwaith, gan orfod cysgu yn aml yn y Sefydliad i gadw llygad am dân yn ystod cyrchoedd bomio. Serch hynny, parhaodd bywyd y Sefydliad mor normal â phosibl a pharhaodd y tîm rygbi â’i gystadleuaeth yn erbyn gwrthwynebwyr lleol.

Dr W Graham Howell, Pennaeth y Sefydliad, a Mr Gwestel Williams, athro cemeg, gyda chriw o fyfyrwyr yn y Labordy Gemeg Organig yn 1948.

3

Yn dilyn Deddf Addysg R A ‘Rab’ Butler yn 1944, roedd yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddarparu cyfleusterau mewn addysg bellach i fyfyrwyr rhan amser a llawn amser ar ôl i ddifrod y rhyfel gael ei atgyweirio. Unwaith eto, fel ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddwyd blaenoriaeth i adeiladau ysgolion cynradd ac uwchradd. Yn 1944, nid oedd yr ysgol ddydd lawn amser ac adrannau rhan amser dydd a gyda’r nos y Sefydliad yn cael eu hystyried yn endidau ar wahân, nid oedd y staff yn gwbl adrannol a gellid galw ar bob aelod o staff naill ai yn yr Ysgol neu yn y Sefydliad. Yn 1946, sefydlwyd Adrannau Peirianneg a Gwyddoniaeth. Yn 1949, darparwyd pedair ystafell ddosbarth dros dro ychwanegol i’r Sefydliad a’i gydnabod fel Coleg Technegol Castell-nedd. Y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd yr Adran Fasnach gyntaf yn y Coleg. Achosodd y cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyddhau am ddiwrnod o ddiwydiant a masnach yn y 1950au embaras llety mewn colegau ac, o ganlyniad, daethpwyd i ddibynnu yn helaeth ar bob math o atodiadau. Yng Nghastell-nedd, cafwyd llety ychwanegol ar ffurf tair ystafell ddarlithio newydd, ystafell staff, labordy gwyddoniaeth adeiladu ac ystafell storio, labordai ffiseg a chemeg, gweithdai ar gyfer gwaith coed a gwaith brics, swyddfa arlunio ac ystafell chweched dosbarth. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1951 ar gost o tua £55,831. Yn y pen draw, erbyn 1952, roedd yr Ysgol a’r Coleg yn adrannau cwbl ar wahân.


Pic text: Myfyrwyr o Goleg Technegol Castell-nedd ar wyliau casglu tatws a ffrwythau gyda’r athro Mr Howell Bowden yn Wisbech ym mis Awst 1951.

O dan arweiniad Dr Islwyn Jones fel Pennaeth, parhaodd Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol Castell-nedd a Choleg Technegol Castell-nedd i ffynnu mewn sawl maes gwahanol gan gwmpasu cyflawniadau academaidd, galwedigaethol, chwaraeon a diwylliannol. Wrth i’r Ysgol a’r Coleg ddod yn adrannau ar wahân yn raddol, roedd pedwar ar ddeg aelod o staff yn ymwneud yn llwyr â gwaith yr Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol ac yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer prentisiaethau, prentisiaethau myfyrwyr ac ar gyfer arholiadau Cydbwyllgor Addysg Cymru. Ymgymerodd myfyrwyr â’r Dystysgrif Addysg Gyffredinol ar lefelau Cyffredin, Uwch ac Ysgoloriaeth ac roedd y canlyniadau’n foddhaol iawn.

Ar ôl un ar hugain o flynyddoedd llwyddiannus a diwyd, gyda chyfanswm y myfyrwyr wedi codi o ddim ond 797 yn 1931 i 3,637 yn 1952, ymddeolodd Dr W Graham Howell o fod yn Bennaeth y Coleg. Cymerwyd ei le gan Dr Islwyn Jones, M.Sc., F.R.I.C. Ar yr un pryd ag y penodwyd Dr Islwyn Jones yn Bennaeth Coleg Technegol Castell-nedd, agorwyd Coleg Addysg Bellach newydd ym Margam, Port Talbot. Sefydlwyd y Coleg i ddiwallu anghenion cynyddol diwydiant yn yr ardal ac, yn benodol, gofynion addysgol Cwmni Dur Cymru, a oedd yn prysur adeiladu Gwaith Dur Abbey ym Margam. Pennaeth cyntaf Coleg Addysg Bellach Port Talbot oedd Mr A Rayner Jones, B.Sc., A.M.I.E.E. Byddai digwyddiadau gwleidyddol ryw 47 mlynedd yn ddiweddarach yn arwain at uno’r Coleg Trydyddol ym Mhort Talbot a Choleg Castell-nedd yn un sefydliad; Coleg Castell-nedd Port Talbot.

Dr Islwyn Jones M.Sc., F.R.I.C. Pennaeth Coleg Technegol Castell-nedd rhwng 1952 a 1970.

Llywodraethwyr Coleg Technegol Castell-nedd a’r Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol 1956 Rhes Gefn: Mr R W Poley (Prif Glerc), C.C. D J Vibert, Mr E Davies (Clerc y Llywodraethwyr), C.C. L Richards, Mr G A Watson, C.C. W K Owen, C.C. G Adams, Cynghorydd F S Evans, Cynghorydd I L Evans, C.C. J Shea. Rhes Flaen: C.C W R Francis, C.Ald. D T Jenkins, C.Ald. LL. Heycock, Dr W G Howell, C.Ald. W Degwel Thomas (Cadeirydd), Dr Islwyn Jones (Pennaeth), C.C. Mrs A F Handy (Is Gadeirydd), Cynghorydd J T Evans, Mr W F Cartwright.

4


Yn 1956, cyhoeddodd Papur Gwyn o’r enw ‘Addysg Dechnegol’ yr angen am gynyddu’r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig ar bob lefel o arbenigedd technolegol. Penderfynwyd ehangu colegau technegol a cholegau addysg bellach ymhellach i ychwanegu at addysg dechnegol drwy gyrsiau llawn amser, rhan amser a rhyngosod. Yn 1960, digwyddodd newid mawr pan drosglwyddwyd elfen Ysgol Ddydd Uwchradd Dechnegol y Coleg i Ysgol Ramadeg Castell-nedd. Roedd hyn yn unol â’r duedd genedlaethol lle daeth sefydliadau fel ysgolion uwchradd technegol cyfun a cholegau technegol yn golegau technegol ar wahân neu’n golegau addysg bellach.

Labordy Peirianneg Gemegol Coleg Technegol Castell-nedd a gwblhawyd yn 1954.

Cynyddodd y ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr y Coleg Technegol a sefydlwyd cyrsiau Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Gemegol a Pheirianneg Drydanol. Parhaodd y gwelliannau hefyd yn y llety addysgu. Yn 1953, rhannwyd yr hen ystafell gwaith coed yn ddwy ystafell ddosbarth ac yn 1954, ar ôl cwblhau ffreutur cyfun newydd, troswyd yr hen ffreutur a’r gegin yn labordy ar gyfer astudio Cemeg Anorganig Uwch. Yn yr un flwyddyn, cwblhawyd Labordai Peirianneg Gemegol ar gost o tua £16,000 a’u llenwi â chyfarpar ar gost bellach o tua £10,000.

5

Dr Islwyn Jones gyda thîm pêl droed y Coleg a enillodd y bencampwriaeth yn 1957-58. Gellir gweld capten y tîm, Alan Meredith, yn dal tlws y bencampwriaeth.

Ymddangosodd Papur Gwyn arall o’r enw ‘Gwell Cyfleoedd mewn Addysg Bellach’ yn 1961, ac o ganlyniad cyflwynwyd cyrsiau technegol newydd, ynghyd â diwygiadau i’r cyrsiau tystysgrif genedlaethol cyffredin a chynllun newydd o gyrsiau crefft. Ymgais oedd hon i sicrhau bod darpariaeth y colegau’n cyd-fynd yn well ag anghenion diwydiant. Un canlyniad pwysig i Bapurau Gwyn 1956 a 1961 ill dau, a oedd yn annog mwy o gyrsiau rhyddhau am ddiwrnod, oedd dileu’r ddelwedd ‘ysgol nos’ oedd ynghlwm â cholegau. Arweiniodd y diddordeb a’r buddsoddiad mawr hwn mewn addysg bellach at estyniadau ac addasiadau mawr yng Ngholeg Technegol Castell-nedd. Yn 1965, cwblhawyd bloc prif adeilad newydd yn cynnwys labordai gwyddoniaeth ac ystafelloedd dosbarth newydd, estyniadau i’r adran beirianneg, llety addysgu newydd ar gyfer arlwyo diwydiannol a chyfleusterau cymunedol a oedd yn cynnwys neuadd ymgynnull a llwyfan. Un ffaith ryfeddol sy’n dod i’r amlwg o hanes 90 mlynedd Grŵp Colegau NPTC yw gwasanaeth yr Henadur Sirol y Parch W Degwel Thomas. Bu’n Gadeirydd Llywodraethwyr y Coleg o’i ffurfio yn 1931 tan ei farwolaeth yn 1962. Yn ystod ei dymor yn gwasanaethu, roedd y Coleg wedi tyfu’n sylweddol ac roedd hyn i raddau helaeth oherwydd ei ddiddordeb, ei egni a’i fedrusrwydd cyson ef.

Henadur Sirol y Parchedig W Degwel Thomas, Cadeirydd y Llywodraethwyr o 1931 tan ei farwolaeth yn 1962.


Ym mis Medi 1970, penodwyd Mr T B Williams, M.Sc., Dip. Ed., C.Chem., F.R.I.C. yn Bennaeth Coleg Technegol Castell-nedd. Yn ystod ei ddeuddeng mlynedd fel Pennaeth, parhaodd y Coleg i fwynhau ei enw da hirsefydlog fel sefydliad addysgol llwyddiannus. Erbyn mis Medi 1981, Mr Bryn Williams, a oedd yn roedd mwy na 150 o gyrsiau Bennaeth Coleg Technegol Casgwahanol yn cael eu cynnig tell-nedd rhwng 1970 a 1982. yn y Coleg, a oedd yn cynnwys cyrsiau llawn amser, rhyngosod, rhyddhau bloc a rhan amser. Hefyd, roedd y Coleg yn darparu cyrsiau cyswllt i ddisgyblion ysgol yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol i’w galluogi i gael rhyw syniad o’r math o swyddi a fyddai ar gael iddynt pan fyddent yn gadael yr ysgol. Darparwyd cyfleusterau canolfannau astudio hefyd yn y Coleg ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored. Roedd y rhai a oedd yn gadael yr ysgol ac yn cofrestru yn y Coleg yn gallu teimlo eu bod yn rhan o broses addysgol barhaus, os oeddent yn dewis astudio yn llawn amser neu’n rhan amser, ac os oeddent yn paratoi ar gyfer cyflogaeth, prifysgol neu bolytechnig. Rhoddwyd cyngor a chymorth priodol i bob myfyriwr ac fe’u hanogwyd i ddatblygu i’w llawn botensial. Un o’r rhesymau eithriadol dros lwyddiant y Coleg ar y pryd, ar wahân i ymrwymiad ei staff, oedd y diddordeb ymarferol yn ei ddatblygiad ymhlith diwydianwyr a chyflogwyr lleol, yr oedd y Coleg yn cynnal perthnasoedd rhagorol â hwy bob amser.

Ym mis Medi 1982, digwyddodd newidiadau mawr pan sefydlwyd Coleg Technegol Castell-nedd fel y coleg trydyddol cyntaf yng Ngorllewin Morgannwg. Cafodd y Coleg, a oedd yn cael ei adnabod yn syml fel Coleg Castell-nedd, ei greu drwy uno chweched dosbarth Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin â Choleg Technegol Castell-nedd. Cyn ailddynodi, roedd y Coleg wedi darparu cyrsiau galwedigaethol yn bennaf ar gyfer tua 500 o fyfyrwyr llawn amser a 2,500 o fyfyrwyr rhan amser. Ychydig iawn o gyrsiau addysg cyffredinol a gynigiwyd gan y Coleg gan ei fod yn bolisi sirol i ddisgyblion oedd yn dymuno dilyn cyrsiau TGAU, Lefel O a Safon Uwch llawn amser fynychu chweched dosbarth Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin. Derbyniai’r chweched dosbarth nid yn unig fyfyrwyr ôl-16 o’r pumed dosbarth yn yr ysgol ond hefyd ddisgyblion ôl-16 o Ysgolion Cyfun Cefn Saeson, Cwrt Sart a Llangatwg. Ers ei sefydlu ym mis Medi 1982, Pennaeth Coleg Castell-nedd oedd Mr Robin Trebilcock, M.Sc., B.Sc. (Anrh.), MInstP. Coleg Castell-nedd oedd y coleg trydyddol cyntaf i gael ei sefydlu gan Awdurdod Addysg Gorllewin Morgannwg o dan y polisi ar gyfer addysg ôl-16 a gafodd ei lunio yn 1975 yn fuan ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol. Yn 1981, lluniodd yr awdurdod bapur o’r enw ‘Addysg Drydyddol yng Ngorllewin Morgannwg: Fframwaith ar gyfer Datblygu’ a amlinellodd gynigion i sefydlu rhwng pedwar a chwe choleg newydd. Byddai pob coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau a dewis ymhlith cyrsiau ar gyfer myfyrwyr ôl-16, ond gyda rhywfaint o arbenigedd mewn colegau unigol. Ym mis Medi 1985, sefydlwyd coleg trydyddol ym Mhort Talbot a’r Pennaeth oedd Mr Cliff David, Ph.D., M.Sc., B.Sc.

Pennaeth Coleg Technegol Castell-nedd Mr T B Williams gyda’i staff cyn mis Medi 1982 pan ddaeth y Coleg yn goleg trydyddol cyntaf Gorllewin Morgannwg.

6


Ym mis Medi 1986, sefydlwyd colegau trydyddol yng Ngorseinon ac Abertawe. Robin Trebilcock oedd Pennaeth Coleg Castell-nedd o fis Medi 1982 nes iddo ymddeol ym mis Ebrill 1998. Roedd ei gyflawniadau yn niferus. Nid Mr Robin Trebilcock a oedd yn yn unig y parhaodd i adeiladu Bennaeth Coleg Castell-nedd ar enw rhagorol y Coleg ond rhwng 1982 a mis Ebrill 1998. buddsoddodd yn helaeth yng ngwead y sefydliad, gan wella cyfleusterau addysgu a dysgu y tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Erbyn 1985, roedd nifer y myfyrwyr wedi cynyddu’n sylweddol gyda’r Coleg bellach yn darparu ystod eang o gyrsiau academaidd, cyn-alwedigaethol a galwedigaethol ar gyfer 1,182 o fyfyrwyr llawn amser a 3,049 o fyfyrwyr rhan amser. Serch hynny, roedd pryderon ynghylch oedran a chyflwr rhai o’r adeiladau, yn enwedig yr adeiladau a arferai fod yn gartref i Ysgol Ramadeg y Merched yng Nghastell-nedd i ddechrau ac, yn 1973, yn gartref i Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin. Daeth yr adeiladau’n rhan o Goleg Trydyddol Castell-nedd yn 1982 ond erbyn 1989 roeddent mewn cyflwr mor wael fel eu bod wedi cael eu dymchwel i wneud lle i faes parcio. Er gwaethaf dymchwel yr hen adeiladau hyn, nid oedd y Coleg ar fin crebachu mewn unrhyw ffordd. Roedd cynlluniau ar y gweill eisoes i adeiladu bloc becws newydd ac, er bod y prosiect wedi’i ohirio, cafodd sêl bendith o’r diwedd yn 1990. Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 1990 ac erbyn mis Chwefror 1991 roedd gwaith ar droed ar raddfa fawr. Bwriad y bloc enfawr a gysylltwyd yn uniongyrchol â’r bloc arlwyo presennol a’r cyfleusterau gwell oedd nid yn unig bod o fudd i fyfyrwyr pobi ond i’r adran arlwyo gyfan hefyd. Erbyn mis Mai 1992, roedd yr adeilad gwerth miliwn o bunnoedd wedi’i gwblhau ac agorodd y bloc addysgu mwyaf modern o’i fath yn y wlad ei ddrysau i fyfyrwyr.

7

Mr Adrian Macpherson-Jones yn rhoi cyfarwyddyd i fyfyrwyr llawn amser yn y becws newydd gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Penlan, Abertawe, yn gwylio.

Gwelwyd newid mawr o ran cyllido colegau addysg bellach o ganlyniad i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Symudodd y ddeddf golegau addysg bellach o reolaeth llywodraeth leol ac ysgwyddodd Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru gyfrifoldeb am gyllido colegau a sefydliadau eraill oedd yn darparu addysg bellach yng Nghymru. Roedd rheoli’r pontio hwn yn gyflawniad mawr i’r Pennaeth a’i staff. Daeth y Cyngor Cyllido i fodolaeth ym mis Mai 1992 ac ysgwyddo cyfrifoldebau cyllido llawn o fis Ebrill 1993 ymlaen. Addawodd Pennaeth Coleg Castell-nedd, Robin Trebilcock, y byddai’r Coleg yn parhau i ddarparu ystod gynyddol o gyrsiau ar gyfer pob oedran nawr ei fod wedi sicrhau ei annibyniaeth o reolaeth yr awdurdod lleol. Roedd nifer y bobl ifanc 16 oed a oedd yn aros mewn addysg lawn amser wedi codi o 30 y cant yn 1982 i rhwng 60 a 70 y cant erbyn 1993. Mewn ymateb, ehangodd y Coleg ei ystod o gyrsiau a chymwysterau gyda phynciau newydd fel celfyddydau perfformio, astudiaethau hamdden, gofalu a gwyddoniaeth chwaraeon yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r cyrsiau academaidd a galwedigaethol mwy traddodiadol. Oherwydd bod niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn dod i’r Coleg, a’r cynnydd dilynol mewn staff, roedd angen mwy o le ac, yn 1994, cyhoeddwyd bod Coleg Castell-nedd yn mynd i gael buddsoddiad o £6 miliwn i helpu i’w wneud yn un o’r canolfannau gorau ar gyfer addysg bellach yng Nghymru. Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer bloc addysgu tri llawr newydd ynghyd â chynllun ar gyfer meithrinfa newydd. Roedd y flwyddyn ganlynol, 1996, yn flwyddyn eithriadol i’r Coleg. Cafodd ganlyniadau arholiadau Safon Uwch rhagorol ynghyd â’r gwaith adeiladu’n dechrau ar y bloc addysgu newydd.

Pennaeth y Coleg, Robin Trebilcock, gyda Les Evans, ysgrifennydd cwmni contractwyr adeiladu John Weaver yn Abertawe, a Brian Nicholas o gwmni peirianwyr ymgynghorol James and Nicholas ym Mhort Talbot, yn y seremoni swyddogol i nodi dechrau’r gwaith adeiladu.


Dechreuodd y gwaith ar y bloc addysgu newydd gwerth £2 miliwn ym mis Hydref 1996. Cwblhawyd y bloc, a oedd yn gartref i Gyfadran y Dyniaethau a’r Gyfadran Busnes, Lletygarwch a Rheolaeth, ym mis Awst 1997 ac roedd yn dangos ymrwymiad y Coleg i ddarparu cyfleusterau o’r safon uchaf bosibl i’r myfyrwyr. Agorwyd yr adeilad, a oedd yn darparu llety o ansawdd uchel i fwy nag 800 o fyfyrwyr, yn swyddogol ar 15fed Hydref 1997. Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 1997 y byddai Robin Trebilcock yn ymddeol fel Pennaeth Coleg Castell-nedd ddiwedd mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Ym mis Chwefror 1998, adroddwyd y byddai ‘uwch-goleg newydd yn cynnig addysg o’r safon uchaf i filoedd o fyfyrwyr Castell-nedd Caroline E Lewis, MA, oedd a Phort Talbot yn cael ei lansio Pennaeth Coleg Castell-nedd mewn llai na blwyddyn’. Ar ôl rhwng mis Mai 1998 a mis Mawrth 2004 cais aflwyddiannus i gysylltu â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, roedd llywodraethwyr Coleg Afan wedi cytuno’n unfrydol i geisio uno â Choleg Castell-nedd. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac ysgolion Castell-nedd a Phort Talbot yn wrthwynebus iawn i uno â Choleg Peny-bont ar Ogwr ond roeddent wedi cefnogi uno â Choleg Castell-nedd yn gadarn. Un o ddyletswyddau olaf Robin Trebilcock oedd rheoli’r broses uno hon a chefnogi ei olynydd, Caroline Lewis, i’w gweithredu’n llwyddiannus. Ar 1af Mai 1998, ymgymerodd Caroline Lewis â’i dyletswyddau fel Pennaeth ac, ym mis Medi y flwyddyn honno, cymeradwyodd Ysgrifennydd Cymru Ron Davies uniad arfaethedig Colegau Castell-nedd ac Afan. Byddai’r uno’n golygu y byddai un sefydliad, gyda phrif ganolfannau yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe, yn gwarantu darpariaeth addysg o ansawdd yn y tair tref yn y tymor hir.

Pennaeth y Coleg Caroline Lewis yn archwilio cynnydd y bloc addysgu newydd gyda’r Pennaeth Cynorthwyol Wyn Leyshon, y Cyfarwyddwr Cyllid Brian Rosser ac ambell fyfyriwr â diddordeb mewn peirianneg sifil.

Daeth Caroline Lewis yn bumed Pennaeth Coleg Castell-nedd ym mis Mai 1998. Roedd hi wedi astudio’r Clasuron yng Nghaergrawnt a gydag 20 mlynedd o brofiad, roedd yn edrych ymlaen at ei rôl newydd. Unodd Colegau Castell-nedd ac Afan yn swyddogol ar y cyntaf o Ionawr 1999 ac wedyn daeth Caroline Lewis yn Bennaeth Coleg Castell-nedd Port Talbot oedd wedi’i ffurfio o’r newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd y Coleg i adeiladu ar ei enw da balch am ragoriaeth gyda chanlyniadau rhagorol mewn arholiadau Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol. Parhaodd y myfyrwyr oedd yn perfformio orau i symud ymlaen i’r prifysgolion gorau, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Roedd cyflawniadau’r myfyrwyr yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn ac, erbyn 2004, roedd cyfradd lwyddo gyffredinol o 96.4 y cant mewn Safon Uwch a sicrhaodd saith ar hugain o bynciau gyfradd lwyddo o 100 y cant. Parhaodd y Coleg â’i enw da am lwyddiant chwaraeon a diwylliannol hefyd. Fodd bynnag, roedd y Coleg yn dechrau ar gyfnod o ansicrwydd ariannol wrth i gynlluniau cyllido Ewropeaidd ddod i ben a chyllid y llywodraeth wedi’i rewi. Byddai gan hyn sgil-effeithiau difrifol i’r uwch dîm rheoli nesaf. Er bod iechyd academaidd y Coleg mewn cyflwr da, ni ellid dweud yr un peth am wead rhai o’r adeiladau. Roedd datblygiadau mewn addysg a thechnolegau newydd wedi golygu bod rhai o adeiladau hŷn y coleg bron yn anaddas i’w defnyddio ac, yn 2002, dechreuwyd ar waith trawsnewid gwerth £6 miliwn i greu adeiladau cwbl fodern ar Gampws Castell-nedd. Yn sgil cynnydd mewn babanod a’r angen am gyfleusterau i fabanod a phlant bach ar gampws Castell-nedd, roedd gwaith wedi dechrau eisoes ar feithrinfa newydd gwerth £400,000. Roedd gwaith ar droed hefyd i adnewyddu ac ymestyn y cyfleusterau gofal plant ar Gampws Afan. Ym mis Ionawr 2003, symudwyd offer adeiladu mawr ymlaen i gampws Castell-nedd ac wrth edrych tua’r gorwel, peiriannau tyllu a gyrru enfawr oedd i’w gweld wrth i’r gwaith ar y bloc addysgu newydd gwerth £6 miliwn fynd rhagddo. Dyluniwyd yr adeilad newydd i gartrefu gwasanaethau arbenigol ar gyfer peirianneg, cyfrifiadura, ieithoedd, celf a dylunio, astudiaethau cyfryngau a’r celfyddydau perfformio. Roedd llyfrgell newydd y Coleg yn yr adeilad hefyd ynghyd ag ystafell gyffredin newydd i’r myfyrwyr a chyfleusterau ffreutur ar gyfer y staff a’r myfyrwyr. Cyllidwyd y prosiect ar y cyd gan y Coleg, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Datblygu Seilwaith ELWa. Cwblhawyd yr adeilad yng ng-

8


wanwyn 2004 ac fe’i agorwyd yn swyddogol ar 7fed Mai gan y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd manyleb yr adeilad newydd o safon uchel, yn ymgorffori’r holl systemau cadwraeth ynni ac amgylcheddol gyfeillgar diweddaraf. Fe wnaeth cwblhau’r adeilad alluogi’r myfyrwyr i gael eu haddysgu mewn llety pwrpasol gan ddefnyddio’r dechnoleg addysgol ddiweddaraf a gwnaeth Gampws Castell-nedd yn un o’r canolfannau addysgu a dysgu mwyaf modern yng Nghymru.

ariannol llym ar waith. Mewn cyfnod cymharol fyr, roedd y Coleg unwaith eto’n iach yn ariannol ac roedd y gweithgarwch rheoli unwaith eto’n canolbwyntio ar helpu’r myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial wrth iddynt gymryd y cam nesaf ar eu siwrnai i gyflogaeth neu fynd ymlaen i’r brifysgol. Yn dilyn penodi’r Pennaeth presennol yn 2004, trawsnewidiwyd y Coleg gyda’r Pennaeth a’r uwch dîm rheoli yn darparu arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol. Fe wnaeth ailstrwythuro swyddogaethau a chyfrifoldebau rheoli wella hyfywedd y Coleg yn sylweddol a’i alluogi i fuddsoddi’n gadarn yn ei holl adnoddau. Ffocws y Coleg oedd gwella profiad ei holl ddysgwyr ac roedd cenhadaeth y Coleg yn datgan safonau a disgwyliadau clir ar gyfer yr holl staff.

Y Ganolfan Ddysgu Electronig newydd ar Gampws Castell-nedd a agorwyd yn swyddogol ym mis Mai 2004.

Ar ôl chwe blynedd fel Pennaeth Coleg Castell-nedd Port Talbot, ymddeolodd Caroline Lewis ym mis Mawrth 2004. Yn ystod ei chyfnod yn y Coleg, roedd Caroline Lewis wedi llwyddo i reoli uno Colegau Castell-nedd ac Afan, goruchwylio datblygiad y Ganolfan Ddysgu Electronig newydd gwerth £6 miliwn a pharhau ag enw da llwyddiannus y Coleg fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth academaidd, chwaraeon, diwylliannol a hyfforddiant galwedigaethol. Fodd bynnag, roedd diwedd ar gyllid Ewropeaidd a’r wasgfa barhaus ar gyllid y llywodraeth wedi gadael y Coleg mewn sefyllfa ariannol ddifrifol iawn. Adferiad fyddai tasg gyntaf bwysicaf y Pennaeth newydd Daeth Mark Dacey yn Bennaa’i dîm rheoli. eth a Phrif Weithredwr Coleg Castell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill 2004.

9

Daeth Mark Dacey yn Bennaeth Coleg Castell-nedd Port Talbot ar 1af Ebrill 2004 ac, ar ôl treulio’r pum mlynedd flaenorol fel un o Arolygwyr Ysgolion a Cholegau Ei Mawrhydi, aeth ati ar unwaith i osod y Coleg ar sylfaen ariannol gadarn. Aeth y Coleg ati i ailstrwythuro’r rheolwyr a’r staff a rhoddwyd mesurau

Myfyrwyr yr Academi Chwaraeon y tu allan i’w cyfleusterau newydd yn Llandarsi yn 2005.

Gyda’r Coleg bellach mewn sefyllfa ariannol gref, roedd yn bosibl buddsoddi yn yr adnoddau a’r cyfleusterau gorau un i’w ddysgwyr. Ym mis Medi 2004, cwblhawyd yr Academi Chwaraeon a Dysgu bwrpasol yn Llandarsi. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys cae hyfforddi glaswellt dan do, cae chwaraeon awyr agored sy’n cynnwys dau


gae rygbi maint llawn, tri chae pêl droed maint llawn a sgwâr criced, ystafell iechyd a ffitrwydd gwbl fodern gyda’r offer ffitrwydd campfa diweddaraf, cyfleusterau cynadledda a digwyddiadau, ystafell gyfrifiaduron a TG a Chaffi Chwaraeon. Agorwyd y cyfleuster yn swyddogol ar 21ain Ionawr 2005 gan y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ni ddaeth y buddsoddiad yn y cyfleusterau addysgu a dysgu i ben gyda’r Academi Chwaraeon ac yn fuan ar ôl agor y cyfleusterau yn Llandarsi, buddsoddodd y Coleg mewn Canolfan Hyfforddiant Adeiladu ym Maesteg ac ychwanegwyd canolfan Addysg Uwch bwrpasol at Gampws Afan ym Mhort Talbot. Roedd y Coleg wedi datblygu enw da am ragoriaeth mewn addysg a hyfforddiant a oedd nid yn unig yn cael ei gydnabod yn lleol ond yn genedlaethol. Ym mis Medi 2004, trodd Urdd Lifrai Cymru, ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth a chelf gain yng Nghymru, at y Coleg i ddarparu arbenigedd a llety ar gyfer darparu dosbarth meistr celf gan yr artist Cymreig byd-enwog a aned ym Mhort Talbot, Andrew Vicari. Roedd y dosbarth meistr, a gynhaliwyd dros gyfnod o dridiau ar Gampws Afan, Port Talbot, yn darparu hyfforddiant personol gan Andrew Vicari i 66 o fyfyrwyr o 38 o ysgolion yn ymestyn o Gastellnewydd Emlyn i Drefynwy. Roedd y dosbarth meistr yn llwyddiant ysgubol

Andrew Vicari yn trafod rhinweddau paentio olew gyda myfyrwyr yn un o’r nifer o ddosbarthiadau meistr celf a ddarparodd ar gyfer y Coleg.

ac, yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, dychwelodd Andrew Vicari i’r Coleg ar o leiaf dri achlysur i ddarparu dosbarthiadau meistr celf ar gyfer myfyrwyr celf talentog y Coleg yn unig, a’r disgyblion celf gorau o ysgolion partner y Coleg. Ar bob achlysur gwnaeth ansawdd a safon gwaith y myfyrwyr a’r disgyblion argraff ar Andrew Vicari ac, yn yr un modd, roedd y Coleg wrth ei fodd ei fod wedi dewis parhau i roi o’i amser yn rhydd ac ymrwymo i hwyluso hyfforddiant celf yn y Coleg.

Yn 2006, sefydlodd y Coleg NPTC Enterprises fel cwmni daliannol ar gyfer cyfleoedd menter gymdeithasol. Yn 2008, agorwyd theatr celfyddydau perfformio gwerth £2.2 miliwn gyda gofod arddangos ac ymarfer ar Gampws Castell-nedd. Mae’r lleoliad gwych gyda 180 o seddau’n cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr y Coleg, disgyblion o’r ysgolion lleol a’r gymuned. Agorwyd Canolfan y Celfyddydau Perfformio yn swyddogol gan Jane Hutt, y Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ar 26ain Awst 2008. Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2011-12, agorwyd Academi Cerbydau Modur newydd ym Mhontardawe. Roedd hyn yn ganlyniad trefniant partneriaeth gyda ‘Snapon Tools’, yr arweinydd ym maes awtotroneg. Dyma un o’r unedau arbenigol sydd wedi’u creu gan y Coleg i alluogi myfyrwyr i brofi amgylcheddau gwaith realistig ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar gerbydau i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Y cyfleuster hwn yw’r ganolfan ddiagnostig gyda’r offer gorau yng Nghymru. Ddiwedd 2010, er mwyn arallgyfeirio ffrydiau incwm y Coleg, prynodd y Coleg Language Specialists (International) Limited, ysgol ieithoedd yn Portsmouth. Roedd gan yr ysgol enw rhagorol gyda Statws Hynod Ddibynadwy gan Asiantaeth Ffiniau’r DU. Cyflwynodd y cwmni gyrsiau Saesneg cyn-sesiynol i fyfyrwyr tramor oedd yn dymuno cael mynediad at raddau a chymwysterau ôl-raddedig. Roedd gan yr ysgol statws partneriaeth gyda Phrifysgolion Portsmouth a Southampton ac, yn ystod 2011, dysgodd fwy na 2000 o fyfyrwyr. Mae LSI Portsmouth yn un o’r wyth o is-gwmnïau masnachu sydd bellach yn eiddo i’r Coleg ac, yn seiliedig ar adolygiad EL Gazette o Adroddiadau Arolygu’r Cyngor Prydeinig, dyma Ganolfan Saesneg orau’r DU ar ôl cyflawni 100% yn arolwg diwethaf y Cyngor Prydeinig. Mae LSI Portsmouth yn cynnig dosbarthiadau Saesneg wyneb yn wyneb yn Portsmouth a dosbarthiadau Saesneg ar-lein sy’n addas i bob gallu a llawer o wahanol anghenion academaidd a phroffesiynol. Yn ychwanegol at y trefniadau partneriaeth hirsefydlog gyda Phrifysgol Portsmouth mae gan LSI Portsmouth drefniadau partneriaeth ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Chichester, Prifysgol Kingston, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Astudiaethau Tramor Beijing. Un ychwanegiad at gyfleusterau’r Coleg yn 2011 oedd y cyfleuster chwaraeon newydd gwerth £6 miliwn yn Academi Chwaraeon a Dysgu Llandarsi. Roedd y cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys neuadd chwaraeon aml-ddefnydd o safon genedlaethol gyda lle i 150 o bobl yn eistedd, ardal gemau aml-ddefnydd, trac llamu dan

10


do, wal ddringo a gofod ystafell ddosbarth gyda llyfrgell. Roedd cae pêl droed 3G bob tywydd y tu allan hefyd ynghyd â chaeau hoci a rygbi. Cyfunodd y prosiect cyfleusterau chwaraeon hwn holl gyfleusterau’r adran chwaraeon ar un safle yn Llandarsi, gan ddarparu cyfleusterau chwaraeon a gwyddoniaeth chwaraeon gwych i’r dysgwyr ar bob lefel a lleihau’r angen am i fyfyrwyr deithio rhwng gwahanol gampysau’r Coleg. O safbwynt ariannol, mae’r adeilad yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran asesu a graddio amgylcheddol ar gyfer dylunio, adeiladu a gweithredu adeiladau cynaliadwy, ac felly

11

Yn 2011 roedd yr Academi Chwaraeon a Dysgu yn Llandarsi yn ddim ond un o wyth campws yr oedd Coleg Castell-nedd Port Talbot yn eu gweithredu ar draws tair sir. Roedd prif gampws y Coleg yng Nghastell-nedd yn cynnig ystod eang o gyrsiau UG / Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol. Roedd campws Afan ym Mhort Talbot yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau UG / Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol. Roedd Coleg Pontardawe, wedi’i leoli yn Nhŷ Tawe ar Stad Ddiwydiannol Alloy, Pontardawe, yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol a diddordeb cyffredinol yn ogystal â bod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Astudiaethau Cerbydau Modur. Roedd gan y tri champws feithrinfa ddydd ar y safle a oedd ar gael i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol. Roedd canolfannau sgiliau adeiladu yn Llansamlet a Maesteg ac roedd Canolfan Stryd y Frenhines yng nghanol Castell-nedd yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol a diddordeb cyffredinol, gan gynnwys cyrsiau ar gyfer y rhai a oedd yn dymuno dychwelyd i ddysgu neu ddiweddaru eu sgiliau. Roedd cangen hyfforddi’r Coleg, trainingwales, wedi’i lleoli yn Nhŷ Twyn yr Hydd, Parc Gwledig Margam ac roedd yn darparu holl waith adfer costau llawn y Coleg yng Nghymru. Roedd llawer iawn o raglenni dysgu a datblygu ar gael, o Gyrsiau Iechyd a Diogelwch i Reoli. Hefyd wedi’u lleoli yn Nhwyn yr Hydd oedd y Ganolfan Hyfforddi Garddwriaeth a meithrinfa planhigion Parc-Gro.

Y gêm bêl rwyd ryngwladol gyntaf i’w chynnal yn Academi Chwaraeon Llandarsi rhwng Cymru dan 21 a Singapore dan 21.

Prynwyd is-gwmni masnachu ychwanegol gan y Coleg ym mis Awst 2011, sef Gwendraeth Valley Community Enterprises Limited yn masnachu fel JobForceWales Ltd. Prif rôl y cwmni o Lanelli oedd darparu dysgu yn y gwaith. Ar hyn o bryd mae JobForceWales (GVCS Ltd) yn bartner yng nghonsortia Academi Sgiliau Cymru (mae cyfanswm o 8 partner). Mae’r consortia’n gweithredu un contract gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglenni Dysgu yn y Gwaith ar draws amrywiaeth o sectorau, ledled De, Canolbarth a Gogledd Cymru yn y canlynol: Cynlluniau Hyfforddi, Prentisiaid Sylfaen, Prentisiaid, Prentisiaid Uwch a Dysgu Hyblyg.

bydd yn sicrhau arbediad sylweddol mewn rheoli ynni a gwastraff. Ym mis Medi 2011, prynodd y Coleg Llandarcy Park Limited, sef y cwmni a oedd yn gweithredu’r safle lle mae Academi Chwaraeon a Dysgu Llandarsi wedi’i lleoli ac mae bellach yn berchen ar yr adeilad ym Mharc Llandarsi yn hytrach na gweithredu yn flaenorol o dan drefniant prydles. Ym mis Tachwedd 2011 defnyddiwyd y neuadd chwaraeon aml-ddefnydd ar gyfer gêm bêl rwyd ryngwladol dan 21 oed rhwng Cymru a Singapore, gyda Chymru yn ennill yn y diwedd o 46 gôl i 40.

Is-gwmni arall a brynwyd gan y Coleg ym mis Awst 2012 oedd Learn Kit Limited. Yn gwmni dysgu yn y gwaith wedi’i leoli yn Abertawe, mae’n arbenigo mewn hyfforddi nyrsys deintyddol i’r proffesiwn deintyddol ledled Cymru. Mae gan y cwmni enw da heb ei ail am ddarparu rhaglenni dysgu o safon sy’n galluogi’r cyfranogwyr i ennill cymwysterau cydnabyddedig a chofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Yn yr un modd â JobForceWales Ltd, roedd Learn Kit Limited eisoes yn aelod gweithredol iawn o gonsortiwm Academi Sgiliau Cymru. Cafodd ei


gyfuno yn y cyfrifon grŵp am y tro cyntaf yn 2013. Hefyd yn ystod 2013, sefydlodd y Coleg Academi Feicio Cymru a ddaeth yn is-gwmni. Ers ei sefydlu yn 1931, roedd Coleg Castell-nedd Port Talbot wedi mynd o nerth i nerth. Roedd buddsoddiad sylweddol a chyflawniad rhagorol y myfyrwyr wedi ei wneud yn un o’r colegau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Rhwng 2006 a 2011 arolygwyd y Coleg dair gwaith gan Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, ac roedd hanner y graddau a ddyfarnwyd yn Radd Un - rhagorol. Roedd yr holl raddau eraill ar Radd Dau gan olygu nad oedd unrhyw ddiffygion mawr. Yn y tri arolwg derbyniodd y Coleg Radd Un yn gyson am ‘Ansawdd’ ac ‘Arweinyddiaeth a Rheolaeth’. Daeth arolwg arall gan Estyn ym mis Tachwedd 2012 i’r casgliad bod y Coleg wedi’i raddio’n dda neu’n rhagorol ym mhob Cwestiwn Allweddol gyda llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector a dim meysydd pwysig oedd angen eu gwella’n sylweddol. Yn gynnar yn 2012, dechreuodd y Coleg ar un o’i ddatblygiadau mwyaf uchelgeisiol ers ei sefydlu yn 1931. Aeth Coleg Castell-nedd Port Talbot fel yr oedd bryd hynny ar drywydd Achos Busnes Llawn gyda Choleg Powys i ymgymryd ag uno Math B. Mewn uno Math B mae un gorfforaeth yn parhau ac mae’r llall yn cael ei diddymu gyda’r staff, yr asedau a’r rhwymedigaethau’n trosglwyddo iddi (un diddymiad). Roedd yr uno arfaethedig yn unol â pholisi ad-drefnu Llywodraeth Cymru a’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES) yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru, er mwyn sicrhau darpariaeth effeithlon ac effeithiol i ddysgwyr. Cafwyd cefnogaeth ryfeddol gan gorff llywodraethu Coleg Powys i uno â Choleg Castell-nedd Port Talbot. Cafodd y symud tuag at sefydliadau addysg mwy yng Nghymru ei hyrwyddo gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ac roedd yr uno arfaethedig rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys yn dilyn uno arall yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru a oedd wedi gweld Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai a Choleg Llandrillo i gyd yn uno, ac uno Coleg Iâl yn Wrecsam â Choleg Glannau Dyfrdwy. Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot, Gaynor Richards, bod yr uno â Choleg Powys yn cael ei ystyried fel “cam naturiol nesaf ein siwrnai yn y Coleg”. Cymeradwywyd yr Achos Busnes Llawn gan Fyrddau Corfforaeth y Coleg a chan DfES a chyhoeddodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Leighton Andrews AC, y byddai Coleg Castell-nedd Port

Talbot a Choleg Powys yn uno ar 1af Awst 2013 ac felly’n ffurfio’r Coleg Addysg Bellach newydd, Grŵp Colegau NPTC. O’r dyddiad hwnnw diddymwyd Bwrdd Corfforaeth Coleg Powys a throsglwyddwyd ei asedau a’i rwymedigaethau i Goleg Castell-nedd Port Talbot. Creodd yr uno un coleg sy’n gwasanaethu 270,000 o drigolion ar draws tri deg y cant o fàs tir Cymru. Darparodd y Coleg newydd lawer o gyfleoedd a manteision i fyfyrwyr, staff a chymunedau lleol gan gynnwys: gallu ariannol cynyddol i ymgymryd â chynllunio a datblygu tymor hir y stad i adlewyrchu addysg yr unfed ganrif ar hugain yn well, cyfle i rannu rhai o’r arferion rhagorol roedd y ddau sefydliad yn eu darparu ar gyfer eu myfyrwyr a chyfleoedd cynyddol i staff o ran cynnydd a datblygiad. Ym mis Gorffennaf 2014, cafodd y Coleg a ffurfiwyd o’r newydd Adolygiad Perfformiad gan Estyn er mwyn gwerthuso perfformiad presennol y Coleg, i adolygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion a gododd yn yr arolwg o Goleg Castell-nedd Port Talbot ym mis Tachwedd 2012 ac i adrodd ar ganlyniadau’r Arolwg Llais y Dysgwr a gynhaliwyd yn gynharach yn ystod y flwyddyn. Mewn perthynas â Chanlyniadau a Safonau, adroddwyd mai’r Coleg oedd â’r gyfradd lwyddiant heb ei phwysoli uchaf yn y sector yn 2012-2013. Y gyfradd lwyddiant gyffredinol ar gyfer cyrsiau hir oedd 87%, yr uchaf yn y sector ar gyfer 2012-2013. Roedd y cyrsiau hir a berfformiodd orau yn y meysydd dysgu canlynol: adeiladu, hamdden, teithio a thwristiaeth, ac ieithoedd, llenyddiaeth a diwylliant. Gyda chyfradd lwyddiant o 99% roedd gan y Coleg hefyd un o’r cyfraddau llwyddiant uchaf yn y sector ar gyfer darparu cyrsiau byr. Adroddwyd hefyd bod gan y Coleg rai o’r cyfraddau llwyddiant uchaf ar gyfer Sgiliau Allweddol ar bob lefel ac ar draws pob agwedd ar Sgiliau Allweddol. O ran Addysgu ac Asesu, adroddwyd bod y Grŵp yn rhoi sylw priodol i’r argymhelliad o’r arolwg o Goleg Castell-nedd Port Talbot yn 2012 i wella safonau addysgu ac asesu ym mhob maes dysgu. Talodd yr adroddiad deyrnged i gyflwyno proses newydd o arsylwi ystafelloedd dosbarth a nododd pa mor dda mae athrawon yn cyflawni yn erbyn cyfres o feini prawf sy’n cwmpasu amrywiaeth o nodweddion fel cynllunio, addysgu ac asesu gweithgareddau a pha mor dda oedd y dysgwyr yn ymgysylltu â’r wers. Yn gynnar yn 2014 cynhaliodd yr Adran Addysg a Sgiliau arolwg llais y dysgwr ar wahân ar gampysau Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Cwblhaodd ychydig llai na 2,700 o ddysgwyr yr arolwg ar draws pob campws. Roedd canlyniadau’r Grŵp yr un fath neu ychydig yn is na chyfartaleddau’r sector ar gyfer boddhad cyffredinol a disgwyli-

12


Yr adnewyddu cwbl fodern ar Floc A/B ar gampws Castell-nedd a agorwyd yn swyddogol yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18

adau’r cwrs penodol yr oeddent yn ei astudio. Ymatebodd Grŵp Colegau NPTC yn gadarnhaol i’r canlyniadau llais y dysgwr hyn gan gynnwys camau i wella yn ei gynllun datblygu ansawdd. O ganlyniad, cytunodd y corff llywodraethu ar gamau allweddol ar gyfer 2014-2015 a oedd yn cynnwys creu strategaeth cynnwys y dysgwyr newydd ar gyfer y Grŵp, yn datgan mesurau effaith a chynnwys mwy ar y myfyrwyr wrth redeg y Grŵp o ddydd i ddydd. Wrth galon y Coleg mae ei fyfyrwyr ac roedd y Coleg wedi buddsoddi, yn llythrennol, filiynau o bunnoedd i ddarparu’r adnoddau gorau un i’w fyfyrwyr. Prif bwyslais Grŵp Colegau NPTC a oedd newydd ei sefydlu oedd y myfyrwyr oedd yn mynychu’r Coleg a’u bod yn cwblhau eu cwrs astudio yn llwyddiannus. Mewn sawl ffordd roedd 2015 yn flwyddyn lwyddiannus arall lle parhaodd y myfyrwyr i ffynnu gyda chyfraddau cyrhaeddiad yn parhau i fod yn uchel mewn pynciau academaidd a galwedigaethol. Yn driw i arwyddair y Coleg, ‘Mwy na dim ond Addysg’, parhaodd y Coleg i gefnogi a dathlu llwyddiant ei fyfyrwyr yn eu holl ymdrechion. Ar gyfer y Grŵp, mae’r arwyddair yn cyfleu’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei gael fel pecyn cyfan yn y Coleg. Yn ogystal ag addysg a hyfforddiant rhagorol, mae gan y myfyrwyr fynediad hefyd i’r holl weithgareddau allgyrsiol ychwanegol, y chwaraeon, y clybiau, cerddoriaeth a dawns a llawer mwy.

13

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, cafwyd rhai cyflawniadau nodedig ymhlith myfyrwyr y Coleg yn 2015. Am y ddegfed flwyddyn yn olynol, roedd y gyfradd lwyddo

gyffredinol (99.6%) yn uwch na 99%. Mewn 42 allan o 44 o bynciau Safon Uwch a gynigiwyd, cyflawnodd y myfyrwyr gyfradd lwyddo o 100% gyda 50% o fyfyrwyr yn ennill graddau A* i B a 77% yn ennill graddau A* i C. Unwaith eto, rhagorodd y Coleg ar y meincnod cenedlaethol. Yn ogystal, enillodd 94 o fyfyrwyr raddau anrhydedd triphlyg yng nghymwysterau’r Diploma Cenedlaethol Estynedig. Dilynodd mwy na 200 o fyfyrwyr gwrs Bagloriaeth Cymru gyda 72% yn ennill graddau A*/A. Cafodd dau fyfyriwr o’r Coleg eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Cyflawnwyr Ifanc Bae Abertawe 2015 ac enillodd prentis gosod brics yn y drydedd flwyddyn Wobr Prentis y Flwyddyn. Cafwyd llawer o lwyddiannau eraill gan y myfyrwyr gyda chyn-fyfyriwr Teithio a Thwristiaeth yn ennill Gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn, prentis peirianneg sifil benywaidd yn cael ei henwi fel Prentis y Flwyddyn Cymru Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a chyn-fyfyriwr ac aelod o fenter Centerprise Grŵp NPTC yn ennill categori Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes De Cymru. Yn ogystal, enillodd Adran Garddwriaeth y Coleg fedal aur yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru am ei gardd sioe a dyfarnwyd tlws John G Robinson i’r Coleg gan Feistr a Wardeiniaid y Worshipful Company of Plaisterers am fod yr adran blastro sy’n perfformio orau yn gyffredinol yn y DU. Un datblygiad arwyddocaol arall i’r Coleg yn 2015 oedd sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith uwchraddio gwerth £4 miliwn Bloc A/B ar Gampws Castell-nedd. Pwrpas yr uwchraddio oedd moderneiddio


Port Talbot (NPTCVS), ymgyrchwyr lleol a gwirfoddolwyr eraill, gweithiodd yn galed i’w ailagor. Sefydlwyd cwmni ganddynt, Hamdden Gymunedol Cwm Afan (AVCL), ac ar ôl sawl mis o godi arian a gwaith caled, agorodd y pwll nofio o dan enw newydd, Pwll Nofio Cwm Afan, ym mis Hydref 2016. Oni bai am waith caled y Coleg drwy ei is-gwmni chwaraeon a hamdden, Llandarcy Park Limited, Hamdden Gymunedol Cwm Afan a Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr cymunedol, ni fyddai dyfodol y cyfleuster cymunedol pwysig hwn wedi’i ddiogelu. Staff a myfyrwyr yn mwynhau’r cyfleusterau arloesol yn y Bloc A/B wedi’i adnewyddu ar Gampws Castell-nedd.

edrychiad y Coleg, gwella ansawdd ystafelloedd dosbarth yr Academi 6ed Dosbarth a darparu gofod ychwanegol gyda siop goffi ar gyfer dysgu hyblyg a chymdeithasu. Byddai’r adnewyddu hefyd yn gwella hygyrchedd i’r holl fyfyrwyr ac yn gwella’r swyddogaeth gwasanaethau myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr. Cafodd hyn i gyd ei gynllunio i wella profiad y myfyrwyr, i wella cymwysiadau, cofrestru a chadw yn y Coleg. Agorwyd y cyfleuster newydd hwn, a enillodd y Wobr Adeiladau Addysg nodedig yn 2019 am y “profiad myfyriwr gorau”, yn swyddogol yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18. O ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU yn 2015 a’r toriadau wedyn gan Lywodraeth Cymru yng nghyllid y sector cyhoeddus, ac yn benodol toriadau i’r sector Llywodraeth Leol, penderfynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot na allai barhau i gefnogi gweithredu Pwll Nofio Cymer a chaeodd ym mis Rhagfyr 2015. Ar ôl cau’r pwll, camodd Grŵp Colegau NPTC i’r adwy, a chan weithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd

Yn 2016 sefydlodd y Coleg JGR Educate, mewn partneriaeth â Jennifer Griffiths Recruitment ar y pryd. Mae partneriaeth LLP yn dod ag arbenigedd addysg a recriwtio at ei gilydd. Erbyn 2016/17 roedd llwyddiant yr uno rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys yn dod yn amlycach gyda’r myfyrwyr yn ennill graddau a oedd yn perfformio’n well na’r cymaryddion cenedlaethol. Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall gyda chanlyniadau Safon Uwch a Chymwysterau Diploma Estynedig, roedd y myfyrwyr yn derbyn llefydd yn rhai o’r prifysgolion a’r sefydliadau sy’n perfformio orau ledled y wlad. Gan adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn flaenorol, fe wnaeth nifer y myfyrwyr a enillodd y radd Safon Uwch uchaf fwy na dyblu yn ystod 2016/17. Am y 12fed flwyddyn yn olynol roedd y gyfradd lwyddo gyffredinol (99.9 y cant) yn uwch na 99 y cant. Enillodd naw deg chwech y cant o’r myfyrwyr oedd yn dilyn y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE) yn Academi Chweched Dosbarth Castell-nedd Port Talbot raddau A* i B ac enillodd 84 y cant o’r rheini raddau A* i A. Yn ogystal, cafodd 93 o fyfyrwyr ganlyniad rhagorol o raddau anrhydedd triphlyg yn y cymwysterau Diploma Estynedig Cenedlaethol. Roedd hefyd yn flwyddyn dda i’r myfyriwr Amaethyddiaeth Eifion Jones a enwyd ar y cyd yn enillydd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2017 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Yn ogystal, dyfarnwyd Medal Aur i adran garddwriaeth y Coleg am ei harddangosfa ‘Amrywiaeth y Dirwedd’ yn Sioe Frenhinol Cymru, ar ôl mynd ag aur adref yn Ffair Wanwyn y Gymdeithas yn gynharach yn ystod y flwyddyn.

Hyfforddiant ym Mhwll Nofio Cwm Aman a ailagorwyd ym mis Hydref 2016 ar ôl i Grŵp Colegau NPTC gamu i’r adwy i ddiogelu ei ddyfodol.

Yn yr un flwyddyn cadarnhaodd myfyrwyr adeiladu o’r Coleg eu gyrfaoedd yn y dyfodol ar ôl derbyn y gradd-

14


au uchaf mewn Rheolaeth Adeiladu. Dyfarnwyd y radd i’r tri myfyriwr a oedd y cyntaf i astudio gradd BSc (Anrh) newydd y Coleg mewn Rheolaeth Adeiladu ar y cyd â Phrifysgol Glyndŵr. Ar yr un pryd, dyfarnwyd yr un radd i ddeg cyn-fyfyriwr adeiladu yn y Brifysgol, cafodd chwech Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a phedwar radd 2.1. Mae cyrsiau Addysg Uwch wedi bod yn rhan bwysig o’r cwricwlwm ers blynyddoedd ac mae’r Coleg yn ymchwilio’n barhaus i drefniadau amgen ac ategol gyda’r holl Bartneriaid AU i sicrhau y bydd mynediad bob amser i ddarpariaeth Addysg Uwch yn y gymuned leol. Ym mis Rhagfyr 2018 cynyddodd y Coleg ei is-gwmnïau masnachu i wyth pan brynodd Green Labyrinth (gan gynnwys EngageCRM). Mae’r cwmni’n arbenigo mewn hyfforddiant ac addysg busnes proffesiynol sy’n cefnogi anghenion cyflogwyr a dysgwyr. Mae’r cwmni, sy’n cynnig dysgu a hyfforddiant yn y gweithle hefyd yn darparu cyfleoedd addysgu a dysgu arbenigol i fyfyrwyr sy’n mynychu darpariaeth amgen drwy raglen astudio arbennig. Mae’r busnes yn cyflwyno rhaglenni i gynorthwyo cyflogwyr a dysgwyr i ymgymryd â Phrentisiaethau, Diplomâu Proffesiynol, cymwysterau Mathemateg a Saesneg, Sgiliau Galwedigaethol, rhaglenni E-Ddysgu a Chyrsiau Byr sy’n helpu busnesau a dysgwyr fel ei gilydd i fynd i’r afael â’u sgiliau a’u hanghenion hyfforddi. Mae’r rhaglenni wedi’u hachredu gan rai o brif ddarparwyr addysgol y DU ac maent wedi’u cynllunio i wella darpariaeth hyfforddiant bresennol cyflogwyr a gwella gwybodaeth a sgiliau pob dysgwr. Yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan yr Asianta-

Graddedigion 2019 Grŵp Colegau NPTC yn dathlu eu llwyddiant yn y ffordd arferol gyda’r taflu cap graddio traddodiadol.

eth Cyllido Addysg a Sgiliau, mae’r sefydliad yn helpu i ddarparu mwy nag £1 miliwn o hyfforddiant sgiliau bob blwyddyn ledled Sir Wilt a Sir Gaerloyw. Mae’r portffolio o wasanaethau’n helpu mwy na 1000 o ddysgwyr i ennill cymwysterau bob blwyddyn. Ym mis Awst 2019, yn dilyn blwyddyn arall o ganlyniadau rhagorol, daeth myfyrwyr lleol o Golegau’r Drenewydd ac Aberhonddu at ei gilydd gyda dysgwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC i ddathlu eu llwyddiant ar y cyd mewn Seremoni Raddio a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe. Dyfarnwyd Cymrodoriaethau gan y Coleg i’r cyn Aelod Cynulliad lleol Gwenda Thomas, Pat Vine, Llywodraethwr Grŵp Colegau NPTC ac Ynad Heddwch, ac i’r Barnwr yn yr Uchel Lys, Syr Clive Lewis, wrth iddynt rannu’r llwyfan gyda mwy na 200 o raddedigion yn 13eg seremoni raddio Grŵp Colegau NPTC. Yn ogystal â chynnig cyrsiau Safon Uwch traddodiadol a chyrsiau galwedigaethol i fyfyrwyr ôl-16, mae’r Coleg hefyd yn ddarparwr allweddol ym maes addysg i oedo-

Grŵp llwyddiannus arall o raddedigion Grŵp NPTC ar ôl eu seremoni raddio yn 2019.

15


lion gydag amrywiaeth helaeth o Ddiplomâu Cenedlaethol Uwch, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a chyrsiau gradd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Coleg Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Pearson. Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gymwysterau prifysgol, rhai ohonynt yn cael eu darparu gan y Coleg yn uniongyrchol ac eraill yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion Cymru. Mae llawer o’r cyrsiau yn gyrsiau galwedigaethol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr, i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyflogwyr i fyfyrwyr a sicrhau bod symud ymlaen i gyflogaeth yn haws. Mae’r Coleg yn cynnig Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch mewn Busnes a Gwasanaethau Ariannol, Cyfrifiadura Cymhwysol, Gofal Iechyd, y Dyniaethau a Gwyddoniaeth. Ar ben hynny, mae cyrsiau Addysg Uwch mewn Amaethyddiaeth, Celf a Dylunio, Busnes a Rheolaeth, Cyfrifiadura, Adeiladwaith, Peirianneg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Lletygarwch, Cerddoriaeth, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, Addysgu a Theithio a Thwristiaeth.

dan 18 oed mewn rygbi, un myfyriwr yn cael ei ddewis i feicio ar gyfer Tîm Cymru mewn rasio ffordd ac un arall yn cynrychioli Cymru mewn badminton yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol.

Ers 2006 mae’r Coleg wedi cynnal ei seremoni raddio ei hun, mewn lleoliad proffil uchel fel rheol, i ddathlu llwyddiant ei fyfyrwyr Addysg Uwch.

Ym mis Mawrth 2020, wynebodd Grŵp Colegau NPTC yr her fwyaf yn ei hanes o naw deg o flynyddoedd gyda dyfodiad Covid-19. Ar 11eg Mawrth 2020, gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y cyhoeddiad bod y Coronafeirws Newydd (Covid-19) a oedd wedi’i ganfod yn Tsieina ym mis Rhagfyr 2019 yn bandemig. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru, ‘gyfyngiadau symud’ cenedlaethol ar 23ain Mawrth 2020. Roedd y pandemig a’r cau i lawr yn effeithio ar Grŵp Colegau NPTC wrth reswm, fel mwyafrif y sefydliadau yn y DU. Roedd tîm rheoli’r Grŵp wedi bod yn monitro’r sefyllfa fel roedd yn newid gyda Covid-19 ers dechrau mis Chwefror ac roedd wedi datblygu cynlluniau i baratoi ar gyfer gwaha-

Yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19 cafodd y Coleg a’i fyfyrwyr eu cydnabod mewn nifer o wobrau a chystadlaethau. Enwyd y Coleg yn Ddarparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru ac yn ail yn y DU gyfan am Addysgu yn y School Leavers Awards. Cydnabuwyd adran blastro’r Coleg unwaith eto fel y coleg sy’n perfformio orau yn gyffredinol yn y DU gan y Worshipful Company of Plaisterers, gan ennill Tlws John G Robinson, yn ogystal ag ennill Tlws Collino am y Coleg sy’n perfformio orau ar gyfer cymwysterau NVQ lefel 2. Enillodd myfyriwr Safon Uwch o Goleg Castell-nedd, Freya Kinsley, y gystadleuaeth i’r traethawd gorau a noddir gan Brifysgol Sheffield. Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu i’r traethawd gorau sydd wedi’i ysgrifennu gan fyfyriwr blwyddyn 12 neu Chweched Dosbarth Isaf mewn ysgolion a cholegau yn unrhyw le yn y DU. Dyfarnwyd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2019 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i Fflur Roberts o Goleg y Drenewydd mewn seremoni a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2019. Yn ogystal, enillodd myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC brif wobrau yng Nghynhadledd y Gynghrair o Fyfyrwyr a Hyfforddeion Pobi (ABST) a chyflawnodd llawer o fyfyrwyr anrhydeddau chwaraeon nodedig hefyd gyda thri myfyriwr yn cynrychioli Cymru

Ym mis Chwefror 2020, cynhaliodd Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, Ym mis Mawrth 2020 cyflwynodd Covid-19 yr her fwyaf yn ei hanes arolwg arall o ddarpariaeth o 90 o flynyddoedd i’r Coleg. addysg bellach Grŵp Colegau NPTC. Ym mhob un o’r pum maes arolygu: Safonau; Lles ac agweddau at ddysgu; Profiadau addysgu a dysgu; Cefnogaeth ac arweiniad gofal; ac Arweinyddiaeth a rheolaeth, barn yr arolygwyr oedd bod y ddarpariaeth yn dda gyda nodweddion cadarn, er y gallai fod angen gwella mân agweddau.

Y gweithdai peirianneg ar gampws Castell-nedd wedi’u marcio i gyd i sicrhau cadw pellter cymdeithasol diogel i’r myfyrwyr ar ôl iddynt ddychwelyd i’r coleg.

16


nol ddigwyddiadau. Roedd effaith Covid-19 ar Language Specialists (International) Limited yn sylweddol, o ystyried mai natur y busnes yw addysgu myfyrwyr o dramor wyneb yn wyneb. Cydymffurfiodd yr ysgol â’r rheoliadau ynghylch cyfyngiadau symud, a chau. Gweithiodd y staff yn galed i gynorthwyo’r myfyrwyr i sicrhau eu bod i gyd yn gallu dychwelyd adref yn ddiogel. Parhaodd rhywfaint o hyfforddiant ar-lein, ond nid oedd hyn yn gwneud iawn am y tarfu ar y prif weithrediadau. Roedd rheolwyr a chyfarwyddwyr y cwmni yn rhagweithiol wrth ddefnyddio’r gefnogaeth oedd ar gael, gan roi mwyafrif y staff ar ffyrlo. Hefyd bu’n rhaid i’r cwmni ailstrwythuro i oroesi ac i gadw costau parhaus mor isel â phosib. O ran y Coleg, Green Labyrinth (gan gynnwys EngageCRM), Gwendraeth Valley Enterprises a Learn Kit Limited, roedd yr effaith yn debyg, ond ar wahanol raddfeydd. Fel yn achos y Coleg cyfan, roedd yr effaith bwysicaf ar y myfyrwyr. Digwyddodd y newid i hyfforddiant ar-lein yn gyflym a chafodd groeso cadarnhaol gan y staff a’r myfyrwyr a llwyddwyd i barhau â’r ddarpariaeth ar y ffurf hon. Gohiriwyd asesiadau gweithle a sesiynau ymarferol, gyda rhai yn ailddechrau ym mis Mehefin wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym mewn perthynas â’r ffrydiau incwm craidd, gan gadarnhau y byddent yn parhau i gael eu talu ac na fyddai unrhyw hawlio’n ôl pe bai unrhyw dargedau cyllido’n cael eu methu. Ni chynhaliwyd hyfforddiant masnachol ar gyfer unrhyw rai o’r endidau hyn yn ystod y cyfnod clo, a gafodd effaith negyddol ar incwm a phroffidioldeb, fel yn achos y prosiectau Rhyngwladol. Ni fasnachodd y theatrau, y ffreuturau, y bwytai hyfforddi na’r salonau hyfforddi yn ystod y cyfnod clo ac felly ni wnaethant gynhyrchu unrhyw incwm yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, bu gostyngiadau hefyd mewn costau gweithredu ar gyfer y stadau a theithio yn benodol ac, os oedd hynny’n briodol, rhoddodd yr endidau staff ar ffyrlo os na allent wneud eu gwaith cynhyrchu incwm.

17

Roedd y Coleg yn falch o drosglwyddo ei safle ym Mharc Llandarsi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i’w ddefnyddio fel Ysbyty Eos ar gyfer ymateb i Covid-19. Diolch byth, roedd nifer y bobl yn lleol oedd angen mynd i’r ysbyty yn ddigon isel fel na throsglwyddwyd unrhyw gleifion yno. Wrth wneud y penderfyniad i roi anghenion y gymuned yn gyntaf, roedd cyfarwyddwyr Parc Llandarsi a Bwrdd y Gorfforaeth yn gwybod y byddai hyn yn cael effaith niweidiol ar incwm, ond mae’r Grŵp yn bodoli’n bennaf i wasanaethu ei gymuned ac roedd pawb oedd yn gwneud y penderfyniadau’n teimlo mai dyma’r peth iawn i’w wneud.

Trosglwyddwyd Academi Chwaraeon Llandarsi i’r GIG a’i thrawsnewid yn Ysbyty Maes yng nghanol pandemig Covid-19.

Cafodd yr effaith ei lleihau gan fod y GIG yn talu costau cyfleusterau’r safle yn ystod eu gweithredu ac roedd llawer o’r staff wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, ac nid oedd angen talu’r trethi busnes am y flwyddyn. Hefyd, roedd rheolwyr y cwmni wedi bod yn ddyfeisgar mewn ymdrech i gadw aelodaeth y gampfa drwy ddosbarthiadau ar-lein a benthyca offer a chan nad oedd y Pafiliwn ar gael, roeddent wedi cael caniatâd i ddefnyddio ceginau Blasus i weithredu gwasanaeth dosbarthu bwyd hynod lwyddiannus. Roedd pob un o endidau’r Grŵp yn gweithio’n galed i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ac roeddent yn dilyn yr holl ganllawiau swyddogol er mwyn gallu rhoi lles y myfyrwyr, y staff a’r cyhoedd yn gyntaf, gan gadw ffocws ar ddarpariaeth o ansawdd uchel. Cynlluniwyd y broses o ddarparu cyrsiau diwygiedig, wedi’u teilwra i’r cyllid a’r canllawiau cwricwlwm gan Lywodraeth Cymru, yn drylwyr, gweithredwyd y cofrestru yn gyfan gwbl ar-lein er mwyn osgoi cael torfeydd o bobl ar safleoedd y Coleg a diheintiwyd stadau’r Coleg a’u gosod i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol. Roedd y Grŵp yn falch iawn o’r ymateb i bandemig Covid-19 a ddigwyddodd ar lefel unigol a chorfforaethol. Gwirfoddolodd llawer o staff a myfyrwyr y Coleg i weithio ar y rheng flaen ac yn eu cymunedau yn ystod y pandemig. Fel y soniwyd yn flaenorol, trosglwyddwyd Academi Chwaraeon Llandarsi i’r GIG i’w thrawsnewid yn Ysbyty Maes yng nghanol pandemig COVID-19. Yn ogystal, cyfrannodd y Coleg fwyd i fanciau bwyd, cartrefi gofal a’r gwasanaethau brys ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys a chyfrannodd gyfarpar diogelu personol i’r GIG; darparodd staff meithrinfa’r Coleg ofal plant i weithwyr allweddol drwy gydol y cyfnod clo; defnyddiwyd Coleg y Drenewydd fel canolfan brofi a safle rhoi gwaed; heb anghofio am ymdrech aruthrol holl staff y Coleg i symud bron yn ddi-dor i weithio o bell ar fyr


Enwyd y tîm atgyweirio cerbydau modur arbenigol yng Ngholeg Pontardawe yn Addysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Bodyshop Live 2019.

rybudd, gan fynd yr ail filltir i sicrhau bod dysgwyr y Coleg yn cael pob cyfle i gwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus. Roedd blwyddyn academaidd 2019/20 yn flwyddyn anghyffredin a heriol iawn i’r Grŵp, ond er gwaethaf yr amgylchiadau, parhaodd staff a myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC i ddisgleirio. Yn 2020 cyflawnodd Academi’r Chweched Dosbarth gyfradd lwyddo 100 y cant a chafodd y nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y Coleg. O ran y myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE), roedd newyddion da; 84% yn ennill graddau A*/A a 100% yn ennill graddau A*-B eleni. Eleni, cyflawnodd nifer anhygoel o 71 o fyfyrwyr raddau anrhydedd triphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn sicrhau’r proffil graddau uchaf posibl o sêr anrhydedd triphlyg (D* D* D*) sy’n cyfateb i dair A* mewn Safon Uwch. Yn ogystal â hyn, llwyddodd cyfanswm syfrdanol o 427 o ddysgwyr i gwblhau’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd lwyddo ragorol o 99.3%. Cydnabuwyd y bartneriaeth hirsefydlog rhwng Pathways Training (cangen brentisiaeth Grŵp Colegau NPTC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymric eleni gyda phrif wobr. Roedd y tîm atgyweirio cyrff cerbydau modur arbenigol yng Ngholeg

Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC Mark Dacey gyda Kirsty Williams AC a grŵp o fyfyrwyr Coleg Aberhonddu yn agoriad swyddogol y Coleg yn yr Hwb Cymunedol (CWTCH) ym mis Mawrth 2020.

Pontardawe (rhan o Grŵp Colegau NPTC) ar ben y byd, nid o dan y bonet, ar ôl cael ei enwi’n Addysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Bodyshop Live 2019. Yn dilyn llwyddiant anhygoel yr academïau yng Ngholeg Afan a Choleg Bannau Brycheiniog, lansiodd y dyn trin gwallt enwog, Lee Stafford, Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford yn swyddogol yng Ngholeg y Drenewydd o flaen tŷ llawn o gyflogwyr lleol. Mae’r bartneriaeth gyda Lee Stafford wedi ennyn brwdfrydedd staff a myfyrwyr Gwallt a Therapïau Cymhwysol fel ei gilydd ac wedi codi proffil yr adran yn yr ardal leol. Fe wnaeth ychwanegiad mwyaf newydd Coleg Bannau Brycheiniog, y Coleg yn yr Hwb Cymunedol - ‘Y CWTCH’ - agor ei ddrysau yn swyddogol yn 2020. Bydd yr hen ganolfan wybodaeth i dwristiaid yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o’r gymuned gyda mynediad agored i bawb. Mae’r CWTCH yn cynnig cyfrifiadura cwbl fodern i fyfyrwyr a’r cyhoedd gyda chysylltiad rhyngrwyd 1GB hynod gyflym; cyfleusterau fideo-gynadledda; ardaloedd gwaith hyblyg a gofod addysgu. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, ar 6ed Mawrth

Y dyn trin gwallt enwog, Lee Stafford, yn lansio Academi Lee Stafford yn swyddogol fel rhan o adran Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Coleg y Drenewydd.

18


2020. Yng Ngholeg Castell-nedd, cwblhawyd cyfleuster gweithdy adeiladu newydd, a gostiodd £1.3 miliwn, yn 2020, gan ddarparu gofod ychwanegol yr oedd ei wir angen i ddarparu ar gyfer yr Ysgol Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig lwyddiannus. Er gwaethaf yr holl anawsterau yn gysylltiedig â phandemig Covid-19 a’r cyfnod clo dilynol yn y Coleg, parhaodd Grŵp Colegau NPTC i weithredu ac, o ganlyniad i ymroddiad a phenderfyniad y staff a’r myfyrwyr, roedd 2019-2020 yn flwyddyn lwyddiannus iawn a gwerth chweil i’r Coleg. Despite all the difficulties surrounding the Covid-19 pandemic and the subsequent College lockdown, NPTC Group of Colleges continued to operate and as a result of the dedication and determination of the staff and students 2019-2020 was a very successful and rewarding year for the College. Cyn gynhared â 2015, roedd Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ategu ei gyrsiau a chynnig cynnwys ychwanegol i fyfyrwyr ar-lein drwy ddysgu cyfunol; cymysgedd o addysgu wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein. Dechreuodd Grŵp Colegau NPTC edrych ar ddysgu cyfunol ym mis Ebrill 2015 ar ôl mynychu’r Gynhadledd Dysgu Cyfunol yng Ngholeg Caerwrangon. Ar y pryd, dan lygaid craff y Pennaeth ILT, Colin Bevan, roedd Campws Castell-nedd yng nghanol newid seilwaith TG mawr, a oedd yn cynnwys gosod gwifrau newydd ar y campws a defnyddio wifi ledled y campws. Cwblhawyd hyn yn 2016 a rhoddodd gyfle i symud ymlaen a chyflwyno dysgu cyfunol yn system addysg y Coleg. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd y Coleg yn arwain prosiect a oedd yn edrych ar gyflwyno gwahanol fodelau o ddysgu cyfunol i system addysgu a dysgu’r Coleg. Ar hyn o bryd mae 70% o golegau addysg bellach yn y DU yn aelodau o’r Consortiwm Dysgu Cyfunol y mae Grŵp Colegau NPTC yn perthyn iddo.

19

Yn 2019 daeth y Coleg yn bartner ym mhrosiect Growing Comms dan arweiniad Prifysgol Abertawe a oedd yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng Addysg Uwch ac Addysg Bellach. I ddechrau, ariannwyd y prosiect gan CCAUC i wella’r cydweithredu rhwng Addysg Uwch ac Addysg Bellach drwy edrych ar ffyrdd newydd o addysgu a datblygu gofod newydd i annog gwaith grŵp bach cydweithredol. Llwyddodd y bartneriaeth o bedwar sefydliad o Gymru Prifysgol Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Colegau NPTC a Choleg Sir Benfro - i ddylunio a darparu adnoddau ar gyfer Gofod Cydweithredol, gan adeiladu cydweithredu traws-sefydliadol effeithlon ac effeithiol. Un flaenoriaeth i Grŵp Colegau NPTC oedd cynyddu ymgysylltiad y myfyrwyr ac annog y staff addysgu i symud oddi wrth fodelau cyflwyno traddodiadol i ddysgu myfyriwr-ganolog a seiliedig ar weithgaredd drwy ddarparu gofod dysgu technolegol hyblyg. Rhoddodd Growing Comms gyfle i adolygu dyluniad llefydd dysgu a chysylltu â gofod tebyg mewn sefydliadau eraill. Dynodwyd dwy ystafell yn y Grŵp, un yng Nghastell-nedd a’r llall yn y Drenewydd; mae’r ddau safle 90 milltir ar wahân, taith o fwy na dwy awr mewn cerbyd. Byddai’r adnoddau hyn yn galluogi’r myfyrwyr yn y Grŵp i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar y cyd yn ogystal â chysylltu ag eraill y tu allan i’r grŵp o golegau. Yng nghyd-destun pandemig Covid-19, cafodd y prosiect ei ymestyn tan fis Rhagfyr 2020, cafodd yr arian a oedd yn weddill bwrpas newydd a chafwyd cyllid ychwanegol. Roedd gan yr ail gam hwn amcanion newydd: cefnogi’r partneriaid drwy’r newidiadau i’r ddarpariaeth addysgu sy’n ofynnol oherwydd cadw pellter cymdeithasol, cefnogi myfyrwyr y dyfodol a myfyrwyr presennol drwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ac, yn olaf, gwella ymgysylltiad busnesau. Diolch i’r estyniad hwn i’r cyllid, llwyddodd y prosiect i gefnogi Grŵp Colegau NPTC a’r partneriaid eraill gyda’r newid yn y ddarpariaeth addysgu oherwydd Covid-19 yn ogystal â darparu fformatau newydd o weithgareddau ar-lein i fyfyrwyr.

Myfyrwyr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr Ystafell Ddosbarth Hybrid ar Gampws Castell-nedd.


Nid oes amheuaeth bod cyfranogiad Grŵp Colegau NPTC yn y prosiect Growing Comms nid yn unig wedi galluogi’r Coleg i brofi ffyrdd arloesol o integreiddio offer, technolegau a dulliau newydd mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu ond hefyd i oresgyn yr anawsterau a gyflwynwyd gan bandemig Covid-19. Roedd cyfranogiad y Coleg ym mhrosiect Growing Comms a’i arbenigedd cynyddol mewn cyfuno technegau dysgu yn ei osod ar flaen y gad o ran technolegau addysgu a dysgu modern. Galluogodd yr arbenigedd hwn i’r Coleg oresgyn llawer o’r anawsterau a gyflwynwyd gan bandemig Covid-19. Yn wyneb blwyddyn arall yr amharwyd arni gan y pandemig byd-eang, yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21 gwelodd y Coleg y canlyniadau uchaf erioed gyda chyfradd lwyddo gyffredinol anhygoel o 100 y cant ac ennill y nifer uchaf erioed o ganlyniadau A*. Mae’n bwysig nodi bod 2020-21 yn flwyddyn ddigynsail ac fe wnaeth y myfyrwyr a’r staff lawer iawn o waith o dan amgylchiadau anodd dros ben i gyflawni’r canlyniadau rhagorol hyn. Er gwaetha’r ffaith bod Academi Chwaraeon Llandarsi wedi’i throsglwyddo i’r Bwrdd Iechyd fel Ysbyty Eos dros dro yn ystod y pandemig, cafodd myfyrwyr y Coleg a oedd yn astudio pynciau cysylltiedig â chwaraeon ganlyniadau rhagorol. Addasodd y myfyrwyr Safon Uwch a BTEC yn

rhwydd i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i sicrhau canlyniadau a oedd yn wirioneddol anhygoel. Sicrhaodd llawer o ddosbarth 2021 lefydd yn y prifysgolion gorau neu ennill y cymwysterau yr oedd arnynt eu hangen i gael eu swyddi delfrydol. Mewn ymateb i’w cyflawniadau dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC:

“Rwy’n falch iawn o’r canlyniadau rydyn ni wedi’u cyflawni, yn enwedig mewn cyfnod sydd wedi bod yn un heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffordd gwbl newydd. Yn ei dro, mae ein myfyrwyr wedi addasu i’r heriau hyn, gan ddangos eu hymrwymiad. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad ein staff a’n myfyrwyr mewn amgylchiadau digynsail. Rwy’n hapus i gynnig llongyfarchiadau mawr, nid yn unig gennyf i, ond ar ran Bwrdd Corfforaeth y Colegau a’r Uwch Dîm Rheoli.”.

Tîm Uwch-reolwyr 2021 GrŴp Colegau NPTC

Mark Dacey Pennaeth / Prif Weithredwr

Catherine Lewis Dirprwy Bennaeth / Dirprwy Brif Weithredwr

Kathryn Holley

Eleanor Glew

Kelly Fountain

Gemma Charnock

Is-bennaeth: Gwasanaethau Ariannol

Is-bennaeth: Gwasanaethau Gweithredol

Is-bennaeth: Gwasanaethau Academaidd

Is-bennaeth: Cysylltiadau Allanol ac Ysgrifennydd Cwmni’r Grŵp

Fran Green

Geraint Jones

Siân Jones

Steve Rhodes

Pennaeth Cynorthwyol: Ansawdd

Pennaeth Cynorthwyol: Cwricwlwm

Pennaeth Cynorthwyol: Myfyrwyr

Pennaeth Cynorthwyol: Gweithrediadau Byd-eang

Nicola Thornton-Scott Pennaeth Cynorthwyol: Sgiliau

Richard Tong

Tessa Jennings

Pennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwch

Pennaeth Cynorthwyol: Recriwtio Myfyrwyr

20


Fferm Fronlas Grŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd.

Ni ellir gorbwysleisio pa mor anodd yw gweithredu a rheoli’n llwyddiannus ddarparwr addysg bellach o faint a chymhlethdod Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd Corfforaeth y Grŵp a’r Uwch Dîm Rheoli sy’n gyfrifol am hyn. O’i ddechreuad cynnar pan oedd y Coleg yn cynnwys pennaeth a dim ond dau aelod o staff gyda phum ystafell addysgu mae Grŵp Colegau NPTC bellach yn cyflogi 862 o aelodau o staff, mae ganddo wyth o brif gampysau ac mae’n rheoli cyllideb flynyddol o tua £64 miliwn. Yn ychwanegol at ei wyth o brif gampysau yng Ngholeg Castell-nedd, Coleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog, Coleg y Drenewydd, Coleg Pontardawe, Canolfan Adeiladu Abertawe, Academi Chwaraeon Llandarsi a Chanolfan Adeiladu Maesteg, mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn gweithredu Fferm Fronlas yn y Drenewydd, Fferm Cefynbryn yn Sarn, Theatr Hafren sydd â 556 o seddau, lleoliad cynadledda a chyfarfod yn y Drenewydd a lleoliad cymunedol CWTCH yn Aberhonddu. Hefyd, mewn ymgais i leihau dibyniaeth ar gyllid y llywodraeth, mae’r Grŵp hefyd yn gweithredu wyth is-gwmni: LSI Portsmouth, Llandarcy Park Limited, JobForceWales Ltd, Learn Kit Limited, JGR Educate, Green Labyrinth (gan gynnwys EngageCRM), NPTC Enterprises ac Academi Feicio Cymru. Llywodraethwyr Grŵp Colegau NPTC drwy Fwrdd y Gorfforaeth a’i Bwyllgorau sy’n gyfrifol am genhadaeth, cyfeiriad strategol a diogelwch ariannol y Coleg. Llywodraethwyr y Coleg sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi darparu’r strwythurau a’r systemau sydd wedi llunio cyfeiriad a rheolaeth strategol y Coleg er budd ei holl randdeiliaid. 21

Mae’r Uwch Dîm Rheoli, dan arweiniad llwyddiannus y Prif Swyddog Gweithredol a’r Pennaeth Mark Dacey am y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf, yn gyfrifol am reolaeth strategol y Coleg a gweithredu polisi’r Gorfforaeth. Arweinir Grŵp Colegau NPTC gan Uwch Dîm Rheoli cadarn ac amrywiol. Mae’r uwch reolwyr bob amser wedi gweithredu gan gadw at foeseg tîm cadarn gan fod yn gefnogol i’w gilydd ac ysgwyddo cyfrifoldeb unigol a chyfunol am ddatblygiad strategol a gweithrediad cyffredinol y Coleg. Mae’r Uwch Dîm yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp; y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol; Is Bennaeth - Gwasanaethau Academaidd; Is Bennaeth - Cysylltiadau Allanol; Is Bennaeth - Gwasanaethau Ariannol; Is Bennaeth - Gwasanaethau Gweithredol a’r Penaethiaid Cynorthwyol ar gyfer Ansawdd; Cwricwlwm; Myfyrwyr; Recriwtio Myfyrwyr; AU; Gweithrediadau Byd-eang; a Sgiliau. Cefnogir gwaith yr uwch reolwyr gan grŵp o uwch reolwyr canol. Mae’r unigolion hyn yn rheolwyr uned academaidd a swyddogaethol allweddol sy’n gweithredu fel y rhyngwyneb rhwng y parthau strategol a gweithredol. Mae’r Coleg yn ymfalchïo mewn lefel uchel o gymwysterau a phrofiad ymhlith yr holl staff, gan gynnwys darlithwyr, aseswyr, hyfforddwyr a’r holl staff cefnogi busnes hanfodol. Wrth i’r Coleg symud ymlaen i flwyddyn naw deg un yn ei hanes a dychwelyd i ryw fath o normalrwydd yn dilyn pandemig Covid-19, bydd heriau a chyfleoedd. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn wers enfawr o ran defnyddio dysgu o bell a chyfunol a gall y dulliau hyn, mewn llawer o sefyllfaoedd addysgu a dysgu, fod mor effeithiol â dulliau wyneb yn wyneb. Mae’r Coleg bellach ar


flaen y gad gyda’r dechnoleg hon a bydd yn parhau i ddatblygu arbenigedd yn y maes hwn, a fydd o fudd i’n staff a’n myfyrwyr ymhell i’r dyfodol. Bydd materion gwyrdd yn dod yn llawer pwysicach. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar bob maes o gwricwlwm y Coleg, yn enwedig ym maes allweddol yr amgylchedd adeiledig sy’n newid yn gyflym gyda Llywodraeth Cymru yn lansio’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) wrth iddi chwarae ei rhan wrth anelu at sero net drwy brofi dull newydd o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Disgwylir y bydd darparu economi werdd carbon isel yn creu oddeutu 15000 o swyddi newydd yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd nesaf ac mae’r Coleg mewn sefyllfa dda i chwarae ei ran wrth ddarparu’r gweithlu medrus sydd ei angen i fodloni safonau a chymwyseddau diwydiant. Nid yw swyddi gwyrdd yn ateb dros nos a bydd angen i’r Coleg gydweithredu i ddarparu rhaglen sgiliau o ansawdd. Bydd angen i’r Coleg newid ac addasu’n barhaus wrth i’r swyddi gwyrdd hyn barhau i ddatblygu wrth i offer, deunyddiau a thechnoleg esblygu. O ran cyfleusterau, mae Grŵp Colegau NPTC yn ymwneud ar hyn o bryd â dau gynllun adeiladu cyffrous a fydd yn trawsnewid addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Aberhonddu. Ym Mhort Talbot, y cynnig yw adeiladu campws newydd fel rhan o gynllun datblygu ac adfywio Glan yr Harbwr. Mae hyn yn rhan o’r datblygiad eang sy’n gysylltiedig â’r ffordd ddosbarthu ymylol newydd gwerth £110m a Gorsaf Reilffordd newydd Parkway gwerth £10m. Bydd y campws newydd yn darparu ar gyfer y ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd ar Gampws Afan, gan gynnwys canolfannau rhagoriaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu. Bydd Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyfannol yn cael eu lleoli mewn adeilad ‘ffordd o fyw’ a fydd yn cael ei redeg fel busnes hunangynhaliol gan ddarparu sector gwasanaethu allweddol yng nghanol y dref. Bydd y prif adeiladau addysgol yn adnodd cwbl fodern.

Yn Aberhonddu mae gwaith wedi’i gwblhau eisoes ar adnewyddu’r Ganolfan Gwybodaeth i Dwristiaid fel lleoliad cymunedol (CWTCH). Er mwyn gwella perthnasedd lleol darpariaeth y cwricwlwm yn y Coleg yn Aberhonddu a’i gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr, mae cynlluniau i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog i dref Aberhonddu. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch caffael dau adeilad yn y dref. Bydd y cyfleuster aml-safle, wedi’i leoli yng nghanol y dref i raddau helaeth, yn cynnig cyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf ac yn annog mwy o ymgysylltu â’r gymuned leol. Bu llawer o newidiadau yn ystod y naw degawd diwethaf, yn fuddugoliaethau a heriau. Mae’r Coleg yn llawn hanes wrth i’r uno a’r partneriaethau greu’r llwyddiant mae’n ei brofi heddiw. Mae gan hanes pob un o’r Colegau sy’n ffurfio’r Grŵp eu straeon anhygoel eu hunain a bydd llawer yn cofio rhai o’r newidiadau hynny sy’n cynnwys Coleg Technegol Margam, a ddaeth yn Goleg Afan a agorodd ei ddrysau i ddechrau yn 1952, er mwyn cefnogi prentisiaid y Gwaith Dur. Agorodd Gwesty Ye Wells yn Llandrindod yn 1907, ond daeth yn goleg hyfforddi ar ôl y rhyfel yn 1947. Yn 1950 daeth yn ysgol breswyl i fyfyrwyr â nam ar eu clyw ac yn 1973 daeth yn goleg AB. Agorodd Coleg Aberhonddu ar 20fed Ionawr 1965 a’i enw oedd Coleg Howell Harris. Agorodd Coleg y Drenewydd a adeiladwyd i bwrpas yn 1978 ac wedyn cafodd ei agor yn llawn yn 1981 ar ôl newid o Goleg Maldwyn, ac agorodd Hafren ei ddrysau yn 1983. Wrth i’r Coleg symud ymlaen tuag at ei ganmlwyddiant yn awr, gall fod yn falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Roedd y penderfyniadau i ffurfio partneriaethau ac uno yn ystyried budd gorau’r myfyrwyr bob amser ac mae’r Coleg wedi sicrhau llwyddiant eithriadol i’r myfyrwyr o ran cyflawniadau academaidd, galwedigaethol, chwaraeon a diwylliannol yn ystod ei oes. Mae mewn sefyllfa dda yn awr i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Chwilio NPTC Group Dyluniwyd gan Matthew Williams a’i olygu gan Fay Harris

22


ŵp

1-2021 3 9 1

ga u N P Cole TC

D

hlu at

M lynedd

NP

Chwilio NPTC Group 23

Yea rs Gr

oup of Colle r ge G C s T

brating e l Ce


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Dathlu 90 Mlynedd by NPTC Group of Colleges - Issuu