Skip to main content

Grŵp Colegau NPTC Cyrsiau Amser Llawn 2020/2021 - Powys

Page 1

CYRSIAU AMSER LLAWN 2020/21

Chwilio NPTC Group

Eich Coleg Eich Dewis


Cynnwys Cyfleusterau Arobryn..........................................3 Addysgu Arobryn.................................................5 Eich Cais...............................................................6 Prentisiaethau.....................................................7 Amaethyddiaeth a Ffermio................................9 Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol............ 11 Peirianneg Cerbydau Modur........................... 13 Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch............................................ 15 Busnes a Rheolaeth........................................ 17 Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau................. 19 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig....... 22 Peirianneg......................................................... 24 Astudiaethau Sylfaen...................................... 26 Garddio a Garddwriaeth.................................. 28 Trin Gwallt......................................................... 29 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.... 31 Y Celfyddydau Perfformio............................... 33 Plymio a Gosodiadau Trydanol....................... 34 Coginio Proffesiynol, Y Celfyddydau Coginio,

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Lletygarwch a Bwyty........................................ 36

1

Gwasanaethau Cyhoeddus............................. 38

Coleg Afan

Margam, Port Talbot, SA13 2AL Ffôn: 01639 648200

Coleg Bannau Brycheiniog Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR Ffôn: 01686 614400

Academi Chwaraeon Llandarcy Parc Llandarcy, Sgiwen, Castell-nedd, SA10 6JD Ffôn: 01792 815545

Campws Llandrindod

Ffordd Sba, Llandrindod, LD1 5ES Ffôn: 01686 614300

Canolfan Adeiladwaith Maesteg Uned 7, Ystad Ddiwydiannol Spelter, Maesteg, CF34 0TY Ffôn: 01639 648180

Coleg Castell-nedd

Heol Dŵr-y-Felin, Castell-nedd, SA10 7RF Ffôn: 01639 648000

Coleg Y Drenewydd

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU Ffôn: 01686 614200

Coleg Pontardawe

Tŷ Tawe, Ystad Ddiwydiannol Alloy, Pontardawe, SA8 4EZ Ffôn: 01639 648100/6

Canolfan Adeiladwaith Abertawe Clos Dewi Sant, Parc Anturiaeth Abertawe Llansamlet, SA6 8QL Ffôn: 01639 648120

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar Bapur wedi'i ardystio gan FSC o ffynonellau cynaliadwy.

Chwaraeon........................................................ 40 Bywyd yn y Coleg............................................ 43 Undeb y Myfyrwyr............................................. 43 O Ddifri am Chwaraeon................................... 44 Centerprise........................................................ 45 Cymraeg yn y Coleg......................................... 45 Ennill Gradd ar Garreg eich Drws.................. 46

Mae’r prosbectws hwn yn rhoi manylion am bob rhaglen academaidd a galwedigaethol amser llawn yn ein Campysau'r Gogledd. Am fanylion am unrhyw gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC, ewch i’n gwefan: www. nptcgroup.ac.uk Roedd yr wybodaeth a geir yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg ei chynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.


Croeso i'n Coleg Arobryn Gall Grŵp Colegau NPTC addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Coleg wedi cael ei gydnabod fel y darparwr hyfforddiant gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn bumed yn y DU gyfan gan y Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Mae'r gwobrau'n dathlu'r cyflogwyr a'r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma'r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy'n cynnig y prentisiaethau gorau a'r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae'n helpu pobl ifanc a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa. Daeth Grŵp Colegau NPTC i'r brig yng Nghymru ym mhob categori ac yn y DU gyfan fe'i gosodwyd yn yr ail safle ar gyfer addysgu; yn bedwerydd am y profiad dysgu; yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth. Mae myfyrwyr yng Ngholegau'r Drenewydd a Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau gwych yn eu Diplomâu Cenedlaethol Estynedig BTEC. Mae llawer wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion ac wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol ar ôl llwyddo i sicrhau'r graddau yr oedd eu hangen arnynt. Mae'r BTEC Lefel 3 yn cyfateb i dair Safon Uwch ac yn ddewis lwybr ar gyfer llawer o fyfyrwyr y mae'n well ganddynt ffordd o ddysgu sy'n fwy ymarferol, ond sydd hefyd eisiau mynd i'r brifysgol neu ddilyn gyrfa. Mae’r cymwysterau hyn yn gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad, ac maent yn seiliedig ar brofiad ymarferol a gwaith cwrs. Ar draws y Grŵp, enillodd 74 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 30 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D*. Gyda diddordeb mewn prentisiaethau ar gynnydd, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu rhaglen o ddysgu seiliedig ar waith o fewn nifer o grefftau. Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r dewis i chi ennill cymwysterau cydnabyddedig tra'n cael profiad gwaith gwerthfawr a'r cyfle i ennill arian. Rydym am eich paratoi ar gyfer y cam nesaf ar eich taith i gyflogaeth neu'r brifysgol - gan gofio hyn, byddwn yn eich annog i gael dyheadau uchel. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i fod yn unigolion amryddawn. Yn ogystal â chymorth academaidd, gallwn ddarparu llawer o sgiliau cyflogaeth i chi, wedi'u datblygu drwy'r amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol a ddarparwn. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd menter, academïau chwaraeon a'r celfyddydau perfformio, felly p'un a ydych yn dewis astudio cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, sicrhewch mai Grŵp Colegau NPTC yw

Eich Coleg, Eich Dewis

Mark Dacey

Prif Weithredwr, Grŵp Colegau NPTC

Gweld y Coleg

Cwrdd â’r staff

b Coleg Bannau Brycheiniog

b Coleg Y Drenewydd

9 Hydref 2019 27 Tachwedd 2019 15 Ionawr 2020 11 Mawrth 2020 24 Mehefin 2020

10 Hydref 2019 28 Tachwedd 2019 16 Ionawr 2020 12 Mawrth 2020 25 Mehefin 2020

Trafod eich anghenion

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nosweithiau Agored

2


Cyfleusterau Arobryn

Y Drenewydd: Cyfleusterau arlwyo o'r radd flaenaf

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Y Drenewydd & Bannau Brycheiniog: Labordai gwyddoniaeth o ansawdd uchel

3

Y Drenewydd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf

Y Drenewydd: Estyniad cerbydau modur newydd sbon

Y Drenewydd: Bwyty hyfforddi o safon uchel - Themâu

Y Drenewydd: Stiwdios celfyddydau perfformio eithriadol

Bannau Brycheiniog a'r Drenewydd: Academi Trin Gwallt Lee Stafford gyffrous

Y Drenewydd & Bannau Brycheiniog: Adran adeiladwaith arobryn


Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n perthyn i'r Coleg.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynhadledda o'r Radd Flaenaf

Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Y Drenewydd: Cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf

Yn ddiweddar, mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymgymryd â les Canolfan Ymwelwyr Aberhonddu yn y dref. Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw symud y Coleg a'i integreiddio yn y gymuned. Y Ganolfan Ymwelwyr yw'r cam cyntaf yn y prosiect ac fe ddaw yn hwb iddo. Bydd yn darparu amgylchedd cyfforddus ar gyfer darpar fyfyrwyr i edrych ar gyrsiau a siarad â'r staff i drafod eu hanghenion. Bydd hefyd y gallu i fideo-gynadledda a darparu dysgu addysg uwch o hirbell drwy gyfrwng yr un dechnoleg.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Coleg Bannau Brycheiniog yn dod i'r dref!

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon ar flaen y gad.

4


Addysgu Arobryn Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn ail yn y DU gyfan*. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau. Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu. O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlenni i gynorthwyo'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda geirdaon.

Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio mai Grŵp Colegau NPTC yw'r darparwr hyfforddiant gorau yng Nghymru a'r pumed orau yn y DU fel rhan o'r Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Mae'r gwobrau'n dathlu'r cyflogwyr a'r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma'r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy'n cynnig y prentisiaethau gorau a'r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae'n helpu pobl ifanc a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa. Cynhyrchir y rhan fwyaf o'r rhestrau byr gan yr adborth a gasglwyd gan brentisiaid sy'n gweithio mewn sefydliad ar hyn o bryd. Mae'r enwebiadau yn cynnwys enwau proffil uchel o fyd y banciau a chyllid, cewri eiddo a llety, arloeswyr mewn TG a thechnoleg ac arweinwyr y sector cyfreithiol a pheirianneg. Mae pob un wedi cael eu henwebu o ganlyniad i'w gwaith arloesol o ran datblygu a chynnal cyfleoedd i ymadawyr ysgol: Prentisiaethau Canolradd, Uwch Brentisiaethau, Prentisiaethau Uwch, Prentisiaethau Gradd a rhaglenni i ymadawyr ysgol. Daeth Grŵp Colegau NPTC i'r brig yng Nghymru ym mhob categori ac yn y DU gyfan fe'i gosodwyd yn yr ail safle ar gyfer addysgu; yn bedwerydd am y profiad dysgu; yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth. Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Mae cael eich enwi fel y prif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru ac yn un o'r goreuon yn y DU yn drawiadol iawn, ond pan fydd yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosto'n annibynnol, mae hynny'n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ni chawsom unrhyw fewnbwn ac nid ydym wedi treulio amser yn gwneud cais am hyn, felly mae hyn yn newyddion da iawn i ni ac yn dyst i waith caled ^ Colegau NPTC.” ac ymroddiad y staff yng Ngrwp *School Leaver Guide 2019 https://www.allaboutschoolleavers.co.uk/training-provider-rankings

2

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

#

5

4

#

YN Y DU

YN Y DU

1

#

Darparwr Hyfforddiant yng Nghymru

am

5

addysgu

#

Darparwr hyfforddiant yn y DU

am y profiad dysgu

10

#

#5

YN Y DU

wrth ddarparu cymorth personol

ar gyfer asesiadau ac adborth

YN Y DU


Eich Cais Eich Taith Eich Coleg

Gwneud Cais am gwrs 1

Gwneud cais ar-lein yn: www.nptcgroup.ac.uk Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' ar yr ochr dde i ddechrau eich cais. Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r coleg, bydd angen i chi greu cyfrif felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod. Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfio rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @).

Croeso i'r system ymgeisio ar-lein newydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu erbyn hyn i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses.

Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf 9 nod a chynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac nod alffaniwmerig (rhif).

Cwrs Iawn, Dewis Iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gyrsiau galwedigaethol, neu brentisiaeth!

Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein canllaw cwrs amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'.

Rhaid i chi ddewis eich dyddiad i ddod i mewn i’r Coleg ar gyfer cyfweliad o’r opsiynau sydd ar gael. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! Ffôn: 01639 648000 E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk

2

Trefnu eich cyfweliad

3

Cynnig Amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn anfon cynnig amodol i chi drwy e-bost y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gadarnhau a gwella’u sgiliau hanfodol a’u sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ar yr un pryd â hyrwyddo sgiliau ymchwil o safon uchel. Drwy adeiladu ar y cyflawniadau ar Lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, agweddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich ymbaratoi ar gyfer prifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

CADW MEWN CYSYLLTIAD Drosodd atoch chi nawr i gael y graddau sydd eu hangen arnoch – os byddwch ar unrhyw gam yn newid eich meddwl am y cwrs yr ydych wedi dewis ei astudio, neu os nad ydych yn cael y graddau angenrheidiol, peidiwch â chynhyrfu - cofiwch ein bod yn wastad yma i'ch helpu! Peidiwch ag anghofio bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru! Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni chi ym mis Medi!

Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio ‘cofrestru’, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais.

6


Pam dod yn Brentis?

b Ennill cyflog wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu

Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swydd-benodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen. Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Amaethyddiaeth b Mecaneg Amaethyddol b Gofal b Gweinyddiaeth Busnes b Gofal Plant a Gwaith b Adeiladwaith Chwarae b Peirianneg b Gwasanaethau b Cerbydau Modur Cwsmeriaid b Chwaraeon b Lletygarwch ac Arlwyo b Atgyweirio Cyrff Cerbydau b Manwerthu b Arwain Tîm b Rheolaeth.

Hyfforddeiaethau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyflogadwyedd b Cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofiad gwaith o ansawdd uchel.

7

Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profiad hanfodol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfle i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyflog. Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyflawni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.

heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfleoedd rhagorol o ran dilyniant. Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Prentisiaethau

Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio. Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am Brentisiaeth.

Prentisiaethau Gradd

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch a Gwyddor Data ar gyfer y Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd. Mae WGU mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NTPC yn falch o fod yn un o'r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i dderbyn y cyllid hwn. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ein rhanbarth ac yn gyfle gwych i gwmnïau allu datblygu galluoedd eu gweithluoedd hyd at lefel gradd.


Llwyddiant Myfyrwyr Amber Rogers

Prentis Patholeg, Ysbyty Singleton, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) Dechreuodd Amber, 22 oed o Lanelli, ar ei gyrfa yn y sector gofal iechyd ar brentisiaeth lefel 3 mewn Cymorth Patholeg gyda Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Ysbyty Singleton, Abertawe a Hyfforddiant Pathways ar ôl penderfynu bod mwy i fywyd na gweithio mewn siop DIY leol. Gall diwrnod nodweddiadol i Amber gynnwys paratoi samplau a gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr biofeddygol i labelu samplau ar y fainc ddyrannu. Yr agwedd ymarferol hon gyda brwdfrydedd newydd ar gyfer y sector a wnaeth ei hybu i fynd ati i gydbwyso ymrwymiadau heriol eraill y tu allan i'r gwaith i sicrhau bod modd iddi barhau i wneud yr hyn yr oedd hi'n ei fwynhau gymaint, rhywbeth a oedd yn anodd iawn ar adegau. Amber oedd un o'r dysgwyr cyntaf yng Nghymru i gwblhau'r cymhwyster Cymorth Patholeg ac fe'i hystyrir yn wyddonydd gofal iechyd erbyn hyn, wedi sicrhau swydd barhaol o fewn Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a chael dyrchafiad yn ddiweddar ar ben hynny. Mae'n hyrwyddo cynnig prentisiaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae hefyd yn fentor i brentisiaid newydd o fewn yr adran patholeg. "Mae prentisiaethau’n wych ar gyfer y bobl hynny sy'n gadael yr ysgol yn dymuno gweithio. Cewch gyfle i hyfforddi ar y safle, adeiladu’ch sgiliau yn ogystal ag ennill cymhwyster. Mae fy mhrentisiaeth gyda Hyfforddiant Pathways a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi rhoi gyrfa i mi yr wyf yn ei charu ac wedi agor byd o gyfleoedd newydd. Rwy'n wyddonydd gofal iechyd ar hyn o bryd a byddaf yn mynd ymlaen i lefel 4 gyda'r posibilrwydd o fod yn Wyddonydd Biofeddygol." Amber Rogers ^ Colegau NPTC wedi gweithio gydag Academi Prentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro "Mae Grwp Morgannwg am dros 2 flynedd a hanner ac rydyn ni'n falch iawn o'n holl brentisiaid sydd wedi ennill eu cymwysterau ac wedi symud ymlaen i swyddi parhaol. Ar gyfer ein sefydliad, mae cyflogi prentisiaid a’u hyfforddi i gyflawni rolau yn ffordd wych i ni i 'dyfu ein staff ein hunain' gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r gallu i ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni"

Ruth Gates, Rheolwr Academi Prentisiaid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

A oes gennych ddiddordeb?

Cysylltwch â'r tîm: Coleg Y Drenewydd: 01686 648064 neu anfonwch e-bost: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Hyfforddiant Pathways a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn lansio academi prentisiaethau y mis Hydref hwn. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa gyda'r bwrdd iechyd, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda am fanylion am ddigwyddiadau recriwtio sy'n dod yn fuan.

8


Amaethyddiaeth a Ffermio Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn yn y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant i ddod i mewn i'r diwydiant. Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang sydd eu hangen! Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 350 erw wrth ymyl y Coleg. Mae Fferm Fronlas yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS.

9

Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn cwmpasu meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar yr HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth. Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin. Mae'r ddarpariaeth yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach llaeth, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn. Mae'r fferm yn adnodd ymarferol hanfodol ar gyfer yr holl fyfyrwyr astudiaethau ar y tir. Mae'r fferm yn darparu adnodd ymarferol pwysig ar gyfer dysgwyr sy'n ymwneud â'r tir a dysgwyr eraill ac mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig eidion a chig oen yn ystod y flwyddyn.

Rhagolygon Gyrfa

Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn y sector amaethyddiaeth yn y DU yn cynnwys rheolwr fferm, arwerthwr, cynrychiolydd bwyd anifeiliaid, swyddog cynghori, arbenigwr ffermio, asiant tir, rheolwr canolfan ymwelwyr fferm, arolygydd fferm, a chynghorydd adran amaethyddiaeth. Yn y DU, mae 48% o ffermwyr yn 55 oed neu'n hŷn* Mae hyn yn golygu eu bod yn debygol o ymddeol yn y 10 mlynedd nesaf, gan greu galw am weithwyr newydd.

Chwilio NPTC Group


Myfyriwr y flwyddyn CAFC 2019 - Fflur Roberts Llongyfarchiadau i Fflur Roberts, Coleg y Drenewydd, a gafodd ei chyhoeddi yn fyfyrwraig y flwyddyn CAFC 2019 mewn seremoni a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru. Enwebwyd y myfyriwr amaethyddiaeth ail flwyddyn gan yr adran amaethyddiaeth. Mynychodd Fflur y seremoni a gynhaliwyd ym mhafiliwn y llywydd, ynghyd â'i theulu ac ar ôl y cyflwyniad, mynegodd pob un ohonynt eu gwerthfawrogiad i'r coleg a'r gefnogaeth a ddangoswyd gan yr adran amaethyddiaeth. Dywedodd Fflur, "Rwy'n ddiolchgar bod y coleg wedi fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac rwy'n falch o fod wedi ennill. Mae'r darlithwyr yn y coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn dipyn o gystadlaethau cenedlaethol nawr."

Bu Fflur hefyd yn ail yn gynharach eleni ar gyfer Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Lantra (dan 26). Mae Fflur yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae'n anelu at hyrwyddo a chadw traddodiadau a diwylliant Cymreig yn y diwydiant amaethyddiaeth. Mae'n bwriadu parhau â'i harferion lleol a helpu i gynnal a thyfu ei fferm ddefaid ac eidion deuluol yn Llangadfan. Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau ar y Tir y Coleg: "Mae Fflur yn fyfyrwraig ardderchog. Mae wedi profi ei bod yn fyfyrwraig frwdfrydig a gweithgar sy'n cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau'r fferm yn y coleg ac yn cynhyrchu aseiniadau o safon uchel'.

Traed ar y ddaear....gyda gyrfa mewn ffermio ac amaeth Cyrsiau Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Peirianneg Amaethyddiaeth

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

Diploma mewn Amaethyddiaeth

2

Cymhwyster lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth

3

5 TGAU Gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Gweithiwr Fferm £27k *Seilir hyn ar Ddata Cenedlaethol

Rheolwr Fferm £34K

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

10


Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Mae nifer y swyddi yn niwydiannau creadigol y DU nawr yn fwy na dwy filiwn am y tro cyntaf o dan y system bresennol o gyfrif, ar ôl ehangu'n gyflymach na gweddill yr economi yn 2017.

Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan weithredol yn sector y diwydiannau creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.

Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol at hynny hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn perthyn i'r diwydiant hwn.

Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol lle y mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, maent yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhagolygon Gyrfa

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Addysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol drwy ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol.

11

Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darnau olaf o waith. Mae hyd yn oed dosbarthiadau arlunio byw bob wythnos!

b Penseiri b Treftadaeth y Celfyddydau b Crefftwyr b Dylunwyr b Cyfarwyddwr b Cynhyrchydd Ffilmiau b Artsitiaid Cain b Dylunwyr Graffeg b Ffotograffydd b Gwneuthurwr Printiadau b Dylunwyr Cynnyrch b Dylunio Propiau a Setiau b Dylunio Gofodol, Mewnol a Thirlun b Tatŵydd b Addysgu ac Addysg b Fideograffydd b Dylunydd y We.

Chwilio NPTC Group


Byddwch yn Greadigol... gyda gyrfa mewn Celf, Crefft, Dylunio a'r Cyfryngau Cyrsiau

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

3

Cymhwyster lefel 2 perthnasol neu 5 TGAU Gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

3

5 TGAU A *-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster lefel 2 perthnasol.

2 Flynedd

Y Drenewydd

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn

Nod y prosiect "Arwain," sef menter a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gefnogir gan yr UE, yw dod â phobl a bywyd gwyllt at ei gilydd drwy'r celfyddydau ac mae’r prosiect wedi darparu gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau creadigol a phrosiectau allgymorth gyda nifer o sefydliadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ymunodd partneriaid a busnesau perthnasol gyda'r myfyrwyr a'r ymddiriedolaeth ar gyfer y lansiad ar ddiwedd mis Ebrill, wrth i'r cynllun trawiadol ddod yn fyw.

Cyfarwyddwr Creadigol

Llawrydd £500 i £700+ y dydd

Cyflogedig £100k i £160k+

Uwch Ddylunydd Graffeg

Llawrydd £200 i £400 y dydd

Cyflogedig £35k i 55k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae myfyrwyr Celf yng Ngholeg y Drenewydd wedi dadorchuddio cerflun corryn i'w arddangos yn y dref, fel rhan o brosiect ymddiriedolaeth bywyd gwyllt. Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, mae myfyrwyr wedi helpu i ddylunio'r cerflun wyth coes gyda Brandon Cadwallader, yn dilyn eu cyflwyniad buddugol am Brosiect 'Art Oasis' yr Ymddiriedolaeth. Yna, aeth yr artist lleol a'r gof Spike Blackhurst â’r dyluniad a ddewiswyd ymlaen i'w gwblhau a'i osod, a bydd y corryn bellach yn cael ei leoli yn Oriel Davies yng Ngerddi Neuadd y dref y Drenewydd.

Bu'r myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda Spike i greu'r corryn, trwy gymryd rhan mewn gweithdy gof ymarferol yn Stiwdio Spike wrth iddynt ehangu eu gwybodaeth am grefftau a thechnegau i ddod â natur yn fyw.

12


Peirianneg Cerbydau Modur Mae dechrau gyrfa mewn atgyweirio mecanyddol neu gerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi.

Mae gan yr adrannau cerbydau modur yn y Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan gampws y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhagolygon Gyrfa

Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.

Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

13

Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com) Peiriannydd Cerbydau Modur £60k+ mewn uwch swyddi (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)

Chwilio NPTC Group


Byddwch yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn peirianneg, ceir neu atgyweirio cyrff cerbydau Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Peirianneg Cerbydau Modur

1

Peirianneg Cerbydau Modur

2

TGAU gradd D/E ac uwch yn ddymunol, ond caiff profiad ymarferol ei ystyried hefyd. 4 TGAU gradd C ac uwch yn ddymunol, ond caiff profiad ymarferol ei ystyried hefyd.

Hyd

Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Cerbydau Modur

Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg y Drenewydd gyfle prin i ddysgu mwy am dechnolegau a weithredir gan fatri trydan yn y dyfodol, pan gawsant gyfle i weld trawsnewidiad trydan o Fiat 500 clasurol diolch i Electric Classic Cars yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Electric Classic Cars wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi cynhyrchu nifer o drawsnewidiadau clasurol sy'n cynnwys Porsche 911, Range Rover o 1972 a BMW E9. Mae'r busnes sy'n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu'n gyflym a dywedodd Richard 'pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi adeiladau cyfredol ac addasiadau. Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd i ddod am y wybodaeth hon ac mae'n syndod faint o gamdybiaethau sydd eisoes yn bodoli am geir sy'n cael eu pweru gan fatri. '

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad clasur gyda thro modern. Mae'r modur wedi'i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y tu blaen), ac mae'n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cudd o dan y bathodyn Fiat. Cymerodd y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y sefydlu, gyda manteision cyflymder a phŵer trydan yn cael eu gwerthfawrogi'n gyflym. Fel un o selogion clasurol, cymerodd Tom Watkins, technegydd yn y coleg ddiddordeb arbennig. Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd Cerbydau Modur fod hyfforddiant mewn hybrid a thrydan yn 'faes yr oedd y coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae'r dechnoleg gerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae'n wych gweld enghreifftiau o glasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, a gwybod bod hwn ac eraill ar gael i'w gweld ar garreg ein drws.'

14


Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch Mae'r diwydiant Harddwch a Therapïau Cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych chi'n arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant Harddwch/Therapïau Cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Cewch yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

15

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.

Rhagolygon Gyrfa

Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.

Chwilio NPTC Group


Byddwch yn llawn steil... gyda gyrfa mewn harddwch a therapi cymhwysol Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

VTCT NVQ mewn Therapi Harddwch

2

5 TGAU graddau C neu uwch

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch

3

Therapi Harddwch Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol

Blwyddyn

Bannau

VTCT mewn Therapïau Cymhwysol

3

Cymwysterau Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu therapïau cyflenwol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Artist Coluro £40 yr awr (llawrydd) Perchennog Salon hyd at £100k

Uwch Steilydd £30k - emsi

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Therapydd Harddwch £21k mewn salon

16


Busnes a Rheolaeth Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd. Mae busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, ac mae gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel. Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.

Rhagolygon Gyrfa b Cyfrifeg b Gweinyddiaeth Busnes b Rheoli digwyddiadau b Cyfrifeg fforensig b Rheoli gwestai b Adnoddau dynol b Marchnata b Twristiaeth wledig b Brocer.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.

17

Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.

Cael eich cymell... gyda gyrfa mewn Busnes, Cyfrifeg a Rheolaeth

Chwilio NPTC Group


Llwyddiant Myfyrwyr Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Busnes Lefel 3 yng Ngholeg y Drenewydd, sydd wedi ennill Cystadleuaeth Syniadau Busnes Llwybrau Cadarnhaol Powys 2019. Roedd y grŵp o fyfyrwyr Busnes ymhlith 50 o ymgeiswyr a gyflwynodd syniad busnes newydd i ateb y cwestiwn, 'Pa fusnes fyddech chi'n ei sefydlu ym Mhowys yn 2019 a pham?'

cwsmeriaid targed, y mathau o waith hyrwyddo i'w gwneud, staffio a'r materion y gallai fod angen eu goresgyn. O'r cystadleuwyr cyrhaeddodd tri grŵp y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyflwyno i banel o feirniaid ym mhencadlys Cyngor Sir Powys yn Llandrindod. Yna gwnaeth cyfanswm o naw beirniad, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir a rheolwyr busnes lleol herio'r grwpiau gyda chwestiynau ar eu cysyniadau busnes.

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr ystyried cynnig busnes oedd yn cynnwys rhoi manylion y

Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd BTEC Dysgu Carlam mewn Busnes BTEC Tystysgrif Estynedig mewn Busnes

Lefel Gofynion Mynediad

1/2 3

Hyd

Lleoliad

2 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Lefel 1

Blwyddyn

Bannau

6 TGAU Gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

2 Flynedd

Bannau/ Y Drenewydd

Cyfrifydd £62k Rheolwr Marchnata £50k

Gweithredydd Teithiau £24k Cynllunydd Digwyddiadau £29k

*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

18


Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gyda chyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Cyfrifiadura a TG. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau TG.

19

Mae myfyrwyr y gorffennol bellach yn gweithio fel: Datblygwyr Meddalwedd, Datblygwyr CRM Deinamig, Dadansoddwyr Data, Technegydd Cymorth a Gweithrediadau TG, Datblygwr y We ac e-Fasnach, Datblygwyr Gwefannau, Dadansoddydd Warws Data, Dadansoddwyr Systemau Uwch. Mae gan ein darlithwyr pwrpasol brofiad o'r sector TG ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant. Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd fodern fel Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o'r cyrsiau mewn labordai TG wedi'u teilwra'n arbennig gydag ystafelloedd arbennig ar gyfer darparu adeiladu CP a datblygiadau rhwydweithiau. Mae cyrhaeddiad ar ein rhaglenni ar hyn o bryd yn 99%, ac mae 100% o'r myfyrwyr BSc yn dod o hyd i gyflogaeth mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis ar ôl graddio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio gan y diwydiant fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, sgiliau technegol ac ymarferol, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylcheddau sy'n gysylltiedig â gwaith.

Rhagolygon Gyrfa

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a TG yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3). Gallwch fynd i Addysg Uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i nifer o gyrsiau cyfrifiadurol. Rhai o'r sefydliadau sy'n cyflogi myfyrwyr/graddedigion y gorffennol: Fujitsu, CBDCNPT, The Good IT Company., DVLA, 15 Below, Crimson Consultants, ALTech UK, Virgin Media Sylwer os ydych yn ystyried addysgu fel gyrfa, cofiwch fod prifysgolion yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd B neu uwch ar gyfer Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ac ar gyfer cyrsiau Cyfrifiadureg, mae rhai prifysgolion yn gofyn am leiafswm o radd B mewn TGAU Mathemateg. Cyfleoedd Gyrfa Posibl: Cyfarwyddwr TG, Rhaglennydd a Datblygwr, Datblygwr Cronfeydd Data, Rheolwr TG, Rheolwr Prosiectau, Cymorth Technegol, Ymgynghorydd TG, Datblygwr y Rhyngrwyd a'r We, Dylunydd Gemau, Datblygwr Gemau, Desg Gymorth, Peiriannydd Meddalwedd, Strategaeth a Chynllunio, Dylunio a Datblygu Systemau, Pensaer Cyfrifiaduron, Profwr, Dadansoddwr, Rheoli Rhwydweithiau, Gweithrediadau TG, Gwerthu a Marchnata.

Chwilio NPTC Group


Byddwch yn Greadigol... gyda gyrfa mewn cyfrifiadura, dylunio'r we ac apiau Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

1

2 TGAU ar raddau E ac F

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Diploma/Tystysgrif Estynedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

2

3 TGAU A*-C yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg neu gymhwyster Lefel 1 mewn TG ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Diploma mewn Technoleg Ddigidol (Rhwydweithio a Seiberddiogelwch)

2

3 TGAU A *-C neu Gymhwyster Lefel 1 mewn TG ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

2 Flynedd

Bannau/ Y Drenewydd

Mynediad i Gyfrifiadura Gymhwysol

3

Diploma Cenedlaethol Estynedig mewn TG

3

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf 3 blynedd. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos diddordeb brwd mewn Cyfrifiadura a TGCh a chwblhau cyfweliad llwyddiannus. 5 TGAU Gradd A-C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg ac i'r rhai sy'n dod i'r cwrs gyda chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifiadura a/neu TG, gofynnwn am Deilyngdod o leiaf.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Diploma mewn TG

20


Llwyddiant Myfyrwyr

Cyflwynwyd Gwobr John Brunt i wobrau myfyrwyr blynyddol y Coleg er cof am Lywodraethwr y Coleg, John Harold Brunt OBE, nid yn unig am ei gyfraniad amhrisiadwy i redeg y coleg hwn yn strategol ond am ei gynhesrwydd, ei onestrwydd a'i ymroddiad i wella'r cymunedau a wasanaethodd. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i fyfyriwr sydd wedi llwyddo er gwaethaf adfyd; myfyriwr yr oedd ei benderfyniad i greu dyfodol mwy disglair yn amlwg ac sydd wedi llwyddo yn erbyn pob anhawster drwy waith caled a phenderfyniad.

Enillydd cyntaf y wobr hon oedd y myfyriwr Cyfrifiadura a TG, Zilvinas Milvyvas o Goleg Bannau Brycheiniog. Pan gychwynnodd gyda'r Coleg, nid oedd yn siarad Saesneg. Trwy waith caled a phenderfyniad, aeth ymlaen o gwrs busnes lefel un i gwrs TG lefel tri – ar ôl darganfod brwdfrydedd dros ddatblygu'r we. Mae nawr yn ffynnu ac yn edrych ymlaen at astudio datblygu'r we yn y Brifysgol.

Enillion blynyddol cyfartalog

Rhaglennydd Cyfrifiaduron £30k Technegydd TG £30k

Dadansoddwr Busnes £49k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Peiriannydd Meddalwedd £32k

21

Dadansoddwr Seiberddiogelwch £31k

Pensaer Systemau £50k

Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k Gweinyddydd Systemau, Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £26k Arbenigwr Cymorth Technegol £24k Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith £36k

Technegydd Cymorth Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k

(https://www.payscale.com & https://www.findCyrsiau.co.uk/inspiration/average-salaries-uk/average-uk-salary-2019-15395 )


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae swyddi ar gael ym mhob maes a gyda chyflogau'n codi ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant hwn sy'n llawn boddhad. Oherwydd y galw mawr, y mae angen nifer helaeth o weithwyr hyfforddedig newydd ar y diwydiant bob blwyddyn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladu.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y Coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr a sut i gael y gorau allan o'r myfyrwyr.

Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am swyddi a thechnegau crefft uwch yn y llwybr yr ydych wedi'i ddewis. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Rhagolygon Gyrfa

Yn ogystal â gosodwyr brics, seiri meini, seiri, peintwyr ac addurnwyr, a phlastrwyr, cyflogedig neu hunangyflogedig - gallech gyflawni swyddi technegol a phroffesiynol fel Rheolwyr Safle, Rheolwyr Prosiect, Technegwyr Pensaernïol, Peirianwyr Sifil a Syrfewyr Meintiau. Mae llawer yn dod yn hunangyflogedig gan ddechrau eu busnesau eu hunain ac mae eraill yn manteisio ar eu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ar draws y DU, Ewrop ac Awstralia.

Gosodwr Brics £40k

Mae prinder enfawr yn y diwydiant ac yn Llundain a Bryste, gall gosodwyr brics ennill £80k

Saer £30k Plastrwr £35k

Rheolwr Safle £45k Rheolwr Prosiectau £50k Peiriannydd Sifil £60k

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

22


Llwyddiant Myfyrwyr

Hoffai Grŵp Colegau NPTC longyfarch Rhys Carey, sydd wedi ennill Gwobr Adeiladu Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru. Ar hyn o bryd, mae'r myfyriwr Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i gyflogi gyda SGG Project Management Ltd, a chafodd ei wobrwyo am ei waith caled a'i lwyddiannau ers dilyn gyrfa yn y diwydiant. Cyflwynwyd ei wobr i Rhys gan Keith Shankland, Cynorthwyydd Llys yng Nghwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (WLCOW) gyda Chyfarwyddwr SGG Project Management

Ltd Steve Groenow, y darlithydd gwaith coed Graham Strangward a chynrychiolydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladwaith (CITB) Clare Ward hefyd yn bresennol yn y seremoni. Mae Rhys wedi gweld bod ei ddiddordeb yn ochr gwaith adnewyddu gwaith coed, ac mae'n mwynhau creadigrwydd ac ochr arbenigol y gwaith. Mae'n gobeithio adeiladu ar ei sgiliau ac efallai rhedeg ei fenter ei hun dramor un diwrnod.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

23

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma mewn Gosod Brics

1

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma mewn Gosod Brics

2

Cymhwyster lefel 1 mewn gosod brics

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma mewn Gwaith Coed ac Asiedydd

1

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma mewn Gwaith Coed ac Asiedydd (Galwedigaethau Coed)

2

Cymhwyster lefel 1 mewn Gwaith Coed ac Asiedydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma mewn Peintio ac Addurno

1

Dim cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma mewn Peintio ac Addurno

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn peintio ac addurno

Blwyddyn

Y Drenewydd


Peirianneg Mae peirianneg yn faes hynod o gyffrous â llawer iawn o opsiynau astudio a gyrfa gwahanol. Mae ein cyrsiau ardderchog yn eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth i symud ymlaen i gyflogaeth neu Addysg Uwch. Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant. Yn ogystal â'ch prif gymhwyster mewn Peirianneg, byddwch yn ennill sgiliau eraill ehangach ar gyfer cyflogadwyedd. Mae sgiliau mewn Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chymunedol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a byddant yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

Beth fyddaf yn ei wneud?

SAERNÏO A WELDIO Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol i gyd yn hygyrch gyda chymhwyster yn y ddisgyblaeth hon. Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn deall sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg. Mae ein gweithdai saernïo a weldio at y diben at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriant Plasma Rhifiadol a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).

Rhagolygon Gyrfa

b Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol b Cyfleoedd dilyniant gwych i'r Brifysgol a rhaglenni Prentisiaeth Ardderchog b Cyfleusterau Peirianneg gwych o'r radd flaenaf b Cyrsiau yn cyfateb i safonau'r diwydiant i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen b Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

PEIRIANNEG FECANYDDOL/CYNNAL A CHADW Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae peirianwyr Mecanyddol / Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi elfennau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau. Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth

arbenigol ar wahân yn cynnwys peiriannau rhifiadol a reolir gan Gyfrifiadur mewn Melino a Thurno, Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy Hydroleg a Niwmateg/Electro-Niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol. Mae'r cyfarpar hyn o fewn y diwydiant yn hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.

24


Byddwch yn ddyfeisgar... gyda gyrfa mewn peirianneg Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Saernïo a Weldio

2

Peirianneg Fecanyddol

2

BTEC mewn Peirianneg

3

4 TGAU gradd A*-D yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. 4 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. 5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg, Mathemateg, Diploma 90 Credyd Gwyddoniaeth a 2 o'r canlynol: Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg â MM cyffredinol, teilyngdod mewn Mathemateg ar gyfer Peirianneg a TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu uwch.

Hyd

Blwyddyn Blwyddyn 2 flynedd

Lleoliad

Y Drenewydd Y Drenewydd Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

25

Peiriannydd Iau / newydd raddio £30k

Sectorau Peirianneg y DU

Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k

Ynni/Ynni Adnewyddadwy/ Niwclear £52k

Cyfarwyddwr neu uwch £72k Weldiwr £16k - £31k

Olew a Nwy £53k

Cemegolion a Fferyllol/Meddygol

£50k

Modurol Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr £48k

Amddiffyn a Diogelwch/Morol £47k


Astudiaethau Sylfaen Mae ein rhaglenni Sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol o ran byw'n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu'n rhan-amser ac mae gan y staff sy'n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol ac mae hyn yn arwain at fwy o hyder a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol cryfach sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd. Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cefnogi. Mae'r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cystadleuaeth sgiliau Cymru, twrnameintiau

chwaraeon ILS ac, yn ddiweddar, Shed of the Year, Channel 4. Mae ein myfyrwyr yn creu siopau sydyn a mentrau symudol ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth fel Bspoked Enterprises, Shine Cymru a Polestone Support Ltd. Mae profiad gwaith hefyd wedi'i sefydlu drwy adran dysgu seiliedig ar waith y Coleg. Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad cychwynnol o anghenion sgiliau bywyd ac addysg yn ystod y broses bontio a chynefino - mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Mae ein cyrsiau'n cynnig cyflwyniad i'r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol. Yn 2018/19 aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Byddwch yn ysbrydoledig... gyda gyrfa mewn astudiaethau sylfaen

26


Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau

27

Cyrsiau Amser Llawn

Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Sgiliau Bywyd

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Sgiliau Gwaith

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Samplu Galwedigaethol

Dim cymhwyster ffurfiol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae gofyn i fyfyrwyr ddangos y gallu i weithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn cychwyn ar y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau.

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

TGAU graddau E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

Blwyddyn

Y Drenewydd


Garddio a Garddwriaeth Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir.

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant byd-eang sy'n amrywio o ran maint, o gwmnïau rhyngwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd bach. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain. Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grëwyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd fedal aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad swydd gwerthfawr. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau menter drwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!

Rhagolygon Gyrfa b Gwaith planhigfa b Dylunio gerddi b Lluosogi planhigion b Tirlunio b Gwyddoniaeth b Meddyg coed

b Canolfannau garddio manwerthu b Cynhyrchu planhigion b Gofal tir b Cynnyrch organig b Addysg b Hunangyflogaeth.

Y diwydiant garddio a garddwriaeth £30k - £60k 2384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)

Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

1

Dim cymhwyster ffurfiol.

Blwyddyn

Bannau

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn Garddwriaeth

Blwyddyn

Bannau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed!

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

Beth fyddaf yn ei wneud?

28


Trin Gwallt Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf o'i math a'r unig un yng Nghymru. Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hun ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae hwn yn hyfforddiant sgiliau arbenigol na allwch ei gael yn unrhyw le arall. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli’r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr eraill Academi Lee Stafford mewn Colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.

29

Rydym yn anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda’r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych o ddifrif am drin gwallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r union le i chi!

Chwilio NPTC Group

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf 1 diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon Gyrfa

Nid oes gan yr un diwydiant arall alw mor gyson yn fyd-eang am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn, yn gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu, ac yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun. b Gwaith barbwr b Technegwyr Lliw b Perchennog Salon b Uwch Steilydd b Triniwr Gwallt Priodas b Gweithio ar fordeithiau.


"What students can expect from a Lee Stafford Academy are quality recipes that are easy and incredibly effective, that you can go out into the big wide world and get an amazing job with."

Lee Stafford

Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

1

2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT Diploma mewn Trin Gwallt i Fenywod

2

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt yn ogystal â 2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT Diploma mewn Trin Gwallt

3

18 oed neu'n hyn gyda Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

2 TGAU neu gyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr aeddfed

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Atebion Creadigol: Trin Gwallt Carlam

1/2

Enillion blynyddol cyfartalog

Perchennog Salon hyd at £100k Uwch Steilydd £30k - emsi Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon) Barbwr Gall barbwr proffesiynol ennill hyd at £1000 yr wythnos https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyflwyniad i Drin Gwallt a Gwasanaethau Harddwch

30


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer dilyniant i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn. Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr yn maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â bod yn ddarlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.

31

Mae Pennaeth yr Ysgol yn cadeirio Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Colegau Cymru ac yn eistedd ar weithgorau yn yr ardal leol mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a sefydliadau cysylltiedig.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwell rhifedd a llythrennedd. Anogir myfyrwyr hefyd i gwblhau cwrs cyfathrebu Cymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.

Rhagolygon Gyrfa

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r nifer fawr o raglenni gradd iechyd, cymdeithasol a gofal plant yn y coleg cyn dechrau gweithio.

Byddwch yn feithringar... gyda gyrfa mewn gofal, iechyd a therapi Enillion blynyddol cyfartalog

Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £25k-£48k Gwaith Cymdeithasol £23k-£47k

Lleferydd ac Iaith £36k-£49k Therapi Galwedigaethol £21k-£41k

Chwilio NPTC Group


Llwyddiant Myfyrwyr

Mae myfyriwr Gofal Plant Coleg y Drenewydd, Libby Cawley, wedi cael ei gwobrwyo am ei gwaith caled a'i hymroddiad drwy ennill rôl fel Norland Nanny. Norland Nannies fu dewis gofal plant y cyfoethog a'r enwog, gan gynnwys aelodau'r teulu brenhinol fel y Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte. Mary Poppins ein cyfnod! Gwnaeth Libby gais drwy UCAS ac mae wedi llwyddo i gael lle fel un o 100 yn unig o fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn bob blwyddyn.

Mae Libby yn teimlo mai rhan o'r rheswm dros ei llwyddiant yn ei chyfweliad oedd y brwdfrydedd a ddangosodd yn ystod y broses. Roedd darlithydd Libby, Clare Bumford, wrth ei bodd dros Libby, a dywedodd: "Mae Libby yn fyfyrwraig sy'n gweithio'n galed, nid yn unig yn ymgymryd â chwrs Gofal Plant amser llawn ond hefyd yn gweithio mewn meithrinfa ac yn ystod ei nosweithiau a phenwythnosau yn gweithio fel nani gyda theulu â thri o blant bach. "Mae hi wedi bod yn fyfyrwraig wych ac rydw i wrth fy modd drosti ac yn dymuno pob lwc iddi ar gyfer y dyfodol."

Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau

2

2 TGAU gradd C yn cynnwys Saesneg/ Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau

3

5 TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg, 2 Flynedd Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth.

Bannau/Y Drenewydd

Gofal Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith.

Bannau/Y Drenewydd

2 Flynedd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

32


Y Celfyddydau Perfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd. Darperir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren yng Ngholeg Y Drenewydd. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a’r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd sy'n golygu eu bod yn gyflogadwy iawn - ein nod yw eu helpu i fod yn barod am yrfa!

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

33

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn cynnig cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn cerddoriaeth, cyfansoddi, dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren â'r holl gyfarpar angenrheidiol.

Rhagolygon Gyrfa b Actor b Gweinyddwr y Celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Perfformiwr Theatr Gerddorol b Tiwtor Pilates/Yoga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr Theatr.

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

UAL yn y Celfyddydau Perfformio

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster lefel 1 priodol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio

3

5 TGAU ar radd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster lefel 2 perthnasol. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k

Er yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi

Chwilio NPTC Group


Plymio a Gosodiadau Trydanol Mae'r Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser yn ogystal â rhaglenni masnachol a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion tra arloesol y sector diwydiant hwn sy'n symud yn gyflym. Mae gennym gysylltiadau helaeth â chyflogwyr a busnesau o fewn i Gymru a thu hwnt. Mae ein rhaglenni mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn cwmpasu Gwaith Trydanol, Technoleg Nwy, Plymio, Gwresogi ac Awyru, Effeithlonrwydd Ynni a Chyngor a Thechnolegau Adnewyddadwy, yn ogystal â Rheoli Adeiladau a Systemau Rheoli. Mae gennym weithdai modern ym mhob campws sydd â chyfleusterau ardderchog sy'n cael eu diweddaru wrth i dechnolegau newydd ddod i'r amlwg. Arweinir ein cyrsiau gan staff arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth a ddysgwyd yn y diwydiant ac sy'n paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus ym meysydd Electro-dechnegol, Plymio, Gwresogi, Awyru, Gosod a Chynnal a Chadw Taenellwyr Tân, Technolegau Amgylcheddol a Thechnoleg Cartref Clyfar.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y darpar blymiwr yn ennill profiad, gwybodaeth a sgiliau ymarferol gwerthfawr mewn gosod systemau gwresogi dŵr poeth a dŵr oer, gosod gwifrau a phrofi systemau cylched gaeedig drydanol ar gyfer systemau gwresogi, a gwasanaethu a chynnal systemau a pheiriannau gwasanaethau mecanyddol. Ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithio fel trydanwyr yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu, mae'r cwrs hwn yn caniatáu ichi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector electro-dechnoleg.

Rhagolygon Gyrfa

Mae cyfraddau llwyddo dros 90% yn ein cyrsiau ac mae symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu a phrentisiaethau yn rhywbeth a welir yn rheolaidd. b Trydanwr b Peiriannydd nwy b Plymiwr b Arbenigwr ynni adnewyddadwy. Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Chwilio NPTC Group

34


Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

1

TGAU mewn Cymraeg/Saesneg Mathemateg/Rhifedd graddau A *-D.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma mewn Astudiaethau Plymio (Plymio a Gwresogi)

2

TGAU mewn Cymraeg/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd graddau A*-C.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Blwyddyn

Y Drenewydd

Blwyddyn

Y Drenewydd

Peirianneg Gwasanaethau Trydanol (Gosod a Chynnal a Chadw Trydanol)

1

2

TGAU mewn Cymraeg/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gwyddoniaeth graddau A*-D TGAU Cymraeg/Saesneg Mathemateg/ Rhifedd graddau A*-C.

Enillion blynyddol cyfartalog

Plymiwr £19k - £37k Trydanwr £16k - £38k Gosodwr Paneli Solar £25k - £30k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Lleoliad

Diploma mewn Astudiaethau Plymio

Diploma mewn Gosodiadau Trydanol

35

Hyd

Byddwch yn ymarferol... gyda gyrfa mewn plymio, ynni trydanol a solar


Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch a Bwyty A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Neu efallai eich bod am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw'r rhain. Y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfleoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol o weithio o fewn y ceginau proffesiynol yn ein Bwyty Hyfforddi Themâu sy'n agored i'r cyhoedd yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu gan staff profiadol sydd wedi ennill eu plwyf ac sydd â chymwysterau ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Rhagolygon Gyrfa

Os ydych yn chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi. Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyflogaeth ran-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n cael cydnabyddiaeth yn gyson mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Coleg yn rhedeg dau fwyty hyfforddi prysur sy'n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i'r cyhoedd: Themâu yng Ngholeg y Drenewydd a Blasus yng Ngholeg Castell-nedd. Rhyngddynt, mae'r bwytai'n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi'i gerfio wrth y bwrdd ar ein troli arian. Rydym hefyd yn gweithredu lolfa goffi a siop fecws brysur. Mae pob un o'n safleoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfir gan yr adran garddwriaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

36


Llwyddiant Myfyrwyr

Sicrhaodd y myfyriwr o Goleg y Drenewydd, Alice Yeoman, le yn y rowndiau terfynol cenedlaethol mawreddog yng nghystadlaethau WorldSkills UK a gynhaliwyd yn Birmingham. Y ferch pedair ar bymtheg oed o Borth oedd yr unig berson Cymreig i gyrraedd y rownd derfynol a chystadlu yn erbyn arbenigwyr celfyddydau coginio iau gorau'r DU o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, o flaen dros 70,000 o ymwelwyr yn WorldSkills UK LIVE. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr NEC,

ac mae'n un o'r digwyddiadau gyrfaoedd a phrentisiaethau sgiliau mwyaf. Rhoddodd Alice lawer o'i hamser y tu allan i waith coleg a'i swydd yng Ngwesty'r Wynnstay ym Machynlleth i gynllunio ac ymarfer ar gyfer y digwyddiad. Disgrifiodd Alice y digwyddiad gan ddweud: 'Mae wedi bod yn brofiad mor anhygoel. Yn anffodus ni wnes i ennill medal y tro hwn ond dwi wedi magu mwy o hyder ynof fi fy hun ac yn fy sgiliau nag erioed o'r blaen ac ar hyd y ffordd dw i wedi gwneud rhai atgofion ffantastig.'

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

37

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Agored Cyflwyniad i Letygarwch

1

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

1

Yn amodol ar gyfweliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Tystysgrif mewn Sgiliau Lletygarwch

1

Dim cymhwyster ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

FDQ Diploma mewn Sgiliau Pobi y Diwydiant Bwyd

1

Yn amodol ar gyfweliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion)

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Coginio Proffesiynol Uwch

3

Cymhwyster Lefel 2 neu brofiad perthnasol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G Diploma mewn Goruchwylio Gweini Bwyd a Diod

3

Lefel 2 cymhwyster neu uwch brofiad perthnasol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog (Prospects.ac.uk)

Cogydd Commis £12k - £16k Cogydd Sous hyd at £30k Prif Gogydd £25k - £55k Pobydd £14k - £23k (£37k yn Llundain)

Rheolwr Digwyddiadau £33k - £40k+ Rheolwr Bwyty Bwyd Cain £22k - £40k


Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd astudio cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfaoedd mewn llawer o'r darparwyr gwasanaethau cyhoeddus megis; y lluoedd arfog, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth ambiwlans/parafeddyg, yr heddlu neu'r gwasanaethau tân. Mae nifer fawr o'n cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i amrywiol yrfaoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai gan gynnwys y gwasanaethau brys golau glas a'r lluoedd arfog. Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'. Mae llawer o'r darlithwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi gwasanaethu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol a'u profiad i ymgysylltu â myfyrwyr a gwneud yn siwr eu bod yn ymwybodol o gyfleoedd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Ar gampws y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun L1 hyd at gwrs L3 UPS sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau â'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Rhagolygon Gyrfa b Y Fyddin b Gwylwyr y Glannau b Y Gwasanaethau Brys b Y Gwasanaeth Tân b Y Llynges b Swyddog yr Heddlu b Yr Awyrlu Brenhinol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau Gwasanaethau Cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn ein Coleg Bannau Brycheiniog gellir addysgu rhai modiwlau o'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu haseiniadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

38


Byddwch yn ddewr...gyda gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r lluoedd arfog Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

39

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

BTEC Lefel 1 Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

1

Dim cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

BTEC Cyfun Lefel 2 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

2

Ystod briodol o gymwysterau TGAU A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

BTEC Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a Bagloriaeth Cymru

3

Cymwysterau TGAU pwnc bendol yn ôl y gofyn a/neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

2 Flynedd

Bannau/ Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog Heddlu £25k (Cyflog cychwynnol) Swyddog y Fyddin £20k

Parafeddyg £36k Diffoddwr tân £21k - £36k


Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Mae ein staff hynod gymwys a phrofiadol yn addysgu ar draws ehangder y cwricwlwm, gan wella profiad y myfyrwyr ar yr holl gyrsiau. Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr ac fel rhan o'n rhaglenni academi a chyfoethogi. Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o chwaraeon. Mae rhai o gyn-fyfyrwyr enwocaf y Coleg yn dod o faes chwaraeon. Er enghraifft, Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis. Mae'r adran yn falch o'i chanlyniadau academaidd rhagorol, ac ansawdd uchel y dysgu a'r addysgu sy'n gyrru'r llwyddiant hwnnw. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae'r adran chwaraeon yn ymgorffori arwyddair y Coleg 'mwy nag addysg yn unig'.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae'r cyfleusterau addysgu yn cynnwys

Coleg Y Drenewydd

Yng Ngholeg y Drenewydd, darperir ystod o gymwysterau i ymgysylltu â'n myfyrwyr a'u datblygu; o'r cwrs chwaraeon L1 cyfun hyd at y cwrs Hyfforddi Chwaraeon L3, gall myfyrwyr fwynhau a chryfhau eu sgiliau mewn amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol ychwanegol megis Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol L1 a L2 a'r Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon Uwch. Ynghyd â gwneud gwaith yn y gymuned drwy hyfforddi yn yr ysgolion cynradd lleol a helpu'r uned datblygu chwaraeon leol gyda gwyliau a galas nofio yn y ganolfan hamdden leol, mae'r myfyrwyr yn datblygu llawer o sgiliau personol a chyflogadwyedd yn yr amgylchedd chwaraeon. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda'r swyddog anabledd drwy helpu yn N-able (grŵp anabledd).

Rhagolygon Gyrfa

Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon. Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elit ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

tair ystafell ddarlithio, cyfleusterau TG a labordy chwaraeon, gyda byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob un ohonynt. Mae cefn gwlad o amgylch Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu.

40


Cyrsiau Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

1

Dim cymwysterau ffurfiol.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

BTEC Cyfun Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

2

Ystod briodol o gymwysterau TGAU A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

BTEC Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd) gyda CBC

3

4 TGAU (neu gyfatebol) gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg neu Fathemateg.

2 Flynedd

Bannau/ Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k - £45k Athro Addysg Gorfforol (Ysgol Uwchradd) £25k+

41

Gwyddor Chwaraeon £60k - £100k

Os ydych yn gweithio mewn gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gall gyrraedd hyd at £100,000*

Byddwch yn egnïol... gyda gyrfa mewn chwaraeon, hyfforddi a gweithgareddau


Llwyddiant Myfyrwyr O Awstralia i Slofenia

Yn fuan wedi ei ymdrechion yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia, mae darlithydd chwaraeon Grŵp Colegau NPTC, Andy Davies, wedi hawlio buddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd Meistri'r Byd yn Slofenia. Gorffennodd y rhedwr marathon 38 oed yn yr 11eg safle yn y gwres llethol ar yr Arfordir Aur, cyn hawlio aur unigol yn y Meistri 35. Bydd y fuddugoliaeth yn sicr yn un o'r prif uchafbwyntiau yng ngyrfa'r darlithydd yng Ngholeg y Drenewydd, sydd bellach wedi cynrychioli ei wlad mewn dwy o Gemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau'r Byd ar ôl dod y Cymro cyntaf i redeg y marathon am 16 mlynedd yng Ngemau Glasgow yn 2014. Wrth edrych yn ôl ar ei anturiaethau ar yr Arfordir Aur, dywedodd: "Ar ôl i mi glywed mai yn Awstralia oedd Gemau'r Gymanwlad nesaf, roedd rhaid i mi fod ar yr awyren honno! Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i'n myfyrwyr chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, sy'n parhau i lwyddo mewn nifer o gystadlaethau.

Iwan Evans

Roedd timau cyfandirol megis Madison Genesis, Team Ribble Pro Cycling, Canyon DHB P/B Bloor Homes ac Academi Rasio Tîm Cymru dan 23 Iwan yn cymryd rhan yn y ras. Rhoddodd y ras brofiad amhrisiadwy i Iwan, a oedd gyda'r ieuengaf o'r beicwyr oedd yn amrywio o dan 18 i 30. Hon yw blwyddyn gyntaf y beiciwr ifanc yn rasio mewn cystadlaethau categori oedran, ar ôl cymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd a rhyngwladol rhwng hyfforddi yng Nghasnewydd.

Nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny, ac yn dilyn ei yrfa lwyddiannus hyd yma mae'n gobeithio dod yn lledbroffesiynol wedi iddo orffen ei gwrs gyda ni yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Mae Iwan hefyd yn anelu at ennill lle yn nhîm dan 23 Cymru neu mewn tîm ar y cyfandir, yn ogystal â symud i'r brifysgol.

Evan Price Davies

Mae Evan Price Davies o Three Cocks hefyd wedi mwynhau llwyddiant diweddar ym myd y campau, ar ôl dod yn 4ydd yn her y Barcud Coch ym Mhontarfynach. Enillodd y rhedwr brwd hefyd y fedal aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru, ar ôl dechrau ar y gamp ychydig dros flwyddyn yn ôl. Bydd yn mynd i Eryri yr haf hwn, wrth iddo ymgymryd â threialon Cymru ar gyfer rasys 5k a 10 milltir.

Iwan Lavis

Mae Iwan Lavis o Lanfihangel Tal-y-Llyn wedi bod yn brysur ar y dŵr yn caiacio yn ddiweddar ac wedi bod yn cystadlu'n dda ers dechrau yn y gamp. Bu hefyd yn cynrychioli'r colegau mewn sboncen yn nhwrnamaint Colegau Prydain yn Nottingham.

Clarisse Ann Lamsen

Roedd Clarisse Ann Lamsen o Lanfair-ym-Muallt hefyd yn y twrnamaint, wrth iddi ragori ar y cwrt badminton. Dilynodd ei llwyddiant blaenorol o ennill pob un o'i 7 gêm yn 2017 a chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol 2018. Maen nhw i gyd ar y trywydd iawn i ragori yn eu hastudiaethau hefyd, a dymunwn y gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw nesáu at ddiwedd eu cyrsiau gyda ni!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Iwan Evans o Lanfair-ym-Muallt yn parhau i greu argraff mewn beicio i Dîm Cymru, wrth iddo orffen yn 3ydd yn ei gategori o dan 18 yn Ras Ffordd Goffa Betty Pharoh, a 25ain yn gyffredinol mewn carfan gref o 80 o raswyr elit.

Dechreuodd Iwan ar y gamp yn wyth oed, gyda'i dad yn frwd dros feicio modur. Ar ôl cael anaf dechreuodd ei dad feicio ac roedd Iwan yn ei fwynhau gymaint, erbyn cyrraedd 14 oed fe ddechreuodd hyfforddi o ddifri.

42


Bywyd yn y Coleg:

Crëwch Eich Profiad Eich Hun Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser yr ydych yn ei dreulio yn y Coleg yn cefnogi eich anghenion unigol.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys: b Derbyniadau b Gyrfaoedd b Cydraddoldeb ac Amrywiaeth b Cyllid Myfyrwyr b Cwnsela proffesiynol a Llesiant b Diogelu b Cymorth arbenigol i Blant sy'n Derbyn Gofal b Cymorth astudio i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau.

43

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid Ffioedd Dysgu

Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau amser llawn ond mae gofyn i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol wrth ymrestru na ellir cael ei had-dalu.

Costau Ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hyn dalu'r costau hyn.

Cymorth Ariannol

Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gael cymorth ychwanegol pan fyddwch yn dod i'r coleg dywedwch wrthym am hyn ar eich ffurflen gais.

Mae nifer o opsiynau ar gael i wneud bywyd fel myfyriwr ychydig yn haws ar eich poced. Er enghraifft: b Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) b Grant Dysgu Llywodraeth Cymru b Cronfa Ariannol Wrth Gefn

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n Tîm Cymorth i Fyfyrwyr ar: Coleg Bannau Brycheiniog: 01686 614400 Coleg Y Drenewydd: 01686 614599

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd: 01686 614599

Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC

TOTUM, cerdyn disgownt myfyrwyr #1 y DU. Gall pob myfyriwr dros 16 sy'n astudio am fwy na 10 awr yr wythnos brynu cerdyn TOTUM. Lawrlwythwch ap TOTUM heddiw am ddim ac yna i gyrchu blwyddyn gyfan o ddisgowntiau, y gost yw £12 yn unig. Ceir bargeinion gydol y flwyddyn gyda TOTUM fel 10% oddi ar ASOS, 12% oddi ar gardiau rheilffyrdd 16-25, llawer o ddisgowntiau Apple, disgowntiau bwyd a diod a 2 am bris 1 ar eich dwy wers yrru gyntaf gyda RED Driving School. Lawrlwythwch yr ap heddiw i weld beth sydd ar gael! www.totum.com

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Ei rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o'r colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy'r flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned o fyfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk.


O Ddifri am Chwaraeon Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ym myd pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a rygbi. Cyflwynir sesiynau hyfforddi fel rhan o raglen y Coleg ac maent yn ymwneud â datblygu technegau, sgiliau a thactegau ar lefel unigolyn, uned a thîm. Lle na ddarperir disgyblaeth chwaraeon benodol, mae cysylltiadau â chlybiau a sefydliadau lleol yn darparu'r arbenigedd hyfforddi. Mae gan y Coleg record o lwyddiant chwaraeon wrth ennill pencampwriaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon a gall hefyd frolio capiau rhyngwladol 50+ ar draws ystod o chwaraeon: jiwdo, tenis bwrdd, hoci, rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, hwylio, beicio mynydd a badminton. Os ydych chi o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm b mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer y gamp o'ch dewis. Os ydych chi'n cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk

Llwyddiant ym maes Chwaraeon Rygbi b b b b b

Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Prydain Enillwyr Rosslyn Park 7s Enillwyr Coleg Super 15s.

Chwaraewyr Rhyngwladol b b b b b b b

Ashley Beck Adam Beard James King Dafydd Howells Darren Morris Leigh Davies Craig Mitchell.

b b b b b b

Justin Tipuric James Hook Eli Walker Adam Jones Spencer John Arwel Thomas

b b b b b b

Dan Lydiate Lloyd Peers Dan Baker Duncan Jones Paul James Gwyn Jones.

Pêl-Rwyd

b Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru b Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out.

Chwaraewyr Rhyngwladol b Helen Jones (Case) b Chelsea Lewis

b Amanda Cooper b Nicola James.

Pêl-Droed

b Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 & 2012-2013 b Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014 b Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr

2011-2012 & 2012-2013.

Chwaraewyr Rhyngwladol b Daniel James b Connor Roberts

b Ben Davies b Joe Rodon

b Joe Allen b Jazz Richards.

CHWARAEON PARALYMPAIDD b Rob Davies (Tennis bwrdd).

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

44


ru #Ca raeg Cym

ve #Lo h s Wel

Yr ydym am roi cyfle i bob darpar entrepreneur wireddu ei freuddwydion busnes. Mae'r tîm Menter a Chyflogadwyedd yn darparu cymorth proffesiynol i fyfyrwyr sy'n sefydlu eu busnes eu hunain, gan gynnwys cymorth gyda: b Cymorth a chyfarwyddyd busnes b Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol.

BAROD AM YRFA

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae CENTERPRISE yn falch o gynnig menter newydd i helpu eich myfyrwyr i baratoi ar gyfer byd gwaith.

45

Mae Barod am Yrfa yn cyflwyno Sesiynau Cyflogadwyedd i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt Bydd myfyrwyr y coleg hefyd yn cael cymorth gyda: b Lleoliadau profiad gwaith b Ysgrifennu CV b Ffurflenni Cais b Cyfweliadau b Dod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â'ch astudiaethau. Am ragor o fanylion, gan gynnwys sut i gadw lle i'ch myfyrwyr ar sesiynau, cysylltwch â ni ar:

01639 648657

Cymraeg yn y Coleg

Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r Coleg yn ymwybodol o sut y gall dwyieithrwydd fod o fudd i chi ym maes addysg, yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae'r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o'n meysydd pwnc, gan roi'r cyfle a'r opsiwn i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu fel rhan o'ch lleoliad gwaith. Rydym yma i'ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol Cymraeg ei iaith, os hoffech astudio yn y Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau ar gyfer eich cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein coleg...chi piau’r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg er mwyn rhoi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol. Os nad ydych yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond am gynnal eich sgiliau yn y Gymraeg, peidiwch â phoeni, rydym yn trefnu llawer o weithgareddau llawn hwyl drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio’ch Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith... Peidiwch â bod yn swil – Siaradwch Gymraeg! Cysylltwch â 01639 648409 neu cymraeg@nptcgroup.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.


Ennill Gradd ar Garreg eich Drws Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau Addysg Uwch o fri. Mae pob un o’n cyrsiau AU wedi eu cynllunio gyda’ch cyflogaeth a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi’r profiad a’r wybodaeth orau i’n graddedigion i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith. Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a’r staff sy’n eu haddysgu. Mae gennym rai o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn!

Am wybodaeth fanylach am ein cyrsiau, ewch i’n gwefan:

www.nptcgroup.ac.uk

b Cyrsiau Mynediad b Busnes b Busnes, Rheolaeth a TG b Cyfrifiadura b Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig b Peirianneg b Saesneg a Hanes b Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant b Rheoli Lletygarwch a’r Celfyddydau Coginio b Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli

Digwyddiadau b Cerddoriaeth b Plismona b Addysgu b Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gennym gyrsiau sy’n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser llawn a rhan-amser.

Pa gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC?

46


Nosweithiau Agored b Coleg Bannau Brycheiniog

b Coleg Y Drenewydd

Ffôn: 01686 614400

Ffôn: 01686 614200

9 Hydref 2019 27 Tachwedd 2019 15 Ionawr 2020 11 Mawrth 2020 24 Mehefin 2020

10 Hydref 2019 28 Tachwedd 2019 16 Ionawr 2020 12 Mawrth 2020 25 Mehefin 2020

Chwilio NPTC Group

Eich Coleg Eich Dewis


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook