1 minute read

Swyddog yr Iaith Gymraeg

Yn gyfrifol i Cyngor Myfyrwyr

Bwrsariaeth

Advertisement

Hyd at £500 yn seiliedig ar ymgysylltiad â’r rôl

Cyfnod

1af Gorffennaf 2023 – 30ain Mehefin 2024

Oriau

Nid oes oriau penodol ar gyfer y swydd hon, ond mae hyblygrwydd yn angenrheidiol i gwrdd â gofynion y swydd, gall gynnwys gweithio nosweithiau a phenwythnosau. Mae’r bwrsariaeth yn seiliedig ar 3 - 4 awr o waith, fel arfer, yr wythnos.

Lleoliad

Swyddog yr Iaith Gymraeg yw’r cynrychiolydd arweiniol ar gyfer myfyrwyr sydd yn siarad/ dysgu Cymraeg yn y Brifysgol a’u prif lysgennad. Mae’r rôl yn cynnwys cynrychioli barn a diddordebau fyfyrwyr sy’n siarad/ dysgu Cymraeg, gan annog cyfranogiad yn yr Undeb a hyrwyddo eu lles.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol efo agwedd aeddfed ac yr hyder i fod y llais myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu. Mae adnabyddiaeth am faterion a gwleidyddiaeth yn gysylltiedig â’r iaith Gymraeg yn y Brifysgol yn fantais. Sgiliau cyfathrebu, diplomyddol a negodi uwch yn hanfodol.

Cyfrifoldebau allweddol fel Swyddog yr Iaith Gymraeg

• Cynrychioli myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu Cymraeg.

• Cymryd cynigion polisi ar faterion sy’n effeithio myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu Cymraeg a/ neu’r iaith Gymraeg i’r Cyngor Myfyrwyr a / neu’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, yn seiliedig ar adborth gan myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu yn Gymraeg.

• Trefnu a chyflwyno ymgyrch sy’n gysylltiedig â materion sy’n effeithio myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu Cymraeg a’r / neu’r iaith Gymraeg.

• Gyflawni unrhyw fandadau democrataidd a hyrwyddo unrhyw faterion o bolisi’r Undeb sy’n ymwneud â myfyrwyr sy’n siarad/ dysgu yn Gymraeg neu’r iaith Gymraeg.

• Cefnogi aelodau eraill y Tîm Arweinyddiaeth ac i gyfrannu at eu ymgyrchoedd, yn ôl yr angen.

• Mynychu Cynhadledd Iaith Cymraeg UCMC.

Cyfrifoldebau allweddol fel aelod o Gyngor Myfyrwyr

• Mynychu pob cyfarfod ac adrodd ar y gwaith hyd yma yn bob cyfarfod.

• Cyfrannu at greu a chynnal Cyngor Myfyrwyr sy’n parhau i ddysgu trwy gymryd rhan yn ac/neu arwain sesiynau anwytho a gweithgareddau datblygu’r Cyngor Myfyrwyr.

• Hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr yn strwythurau democrataidd UMPDC.

Cyfrifoldebau ychwanegol

• Mynychu CBC.

• Sefyll fel cynrychiolydd Cynhadledd UCM a Cynhadledd UCM Cymru.

This article is from: