
1 minute read
Y CAPEL A’R CLAWSTRAU
Mae’r Coleg Newydd yn gymuned ble rydym yn dathlu amrywiaeth pob cefndir, ac un o fanteision bod yn rhan o goleg mawr yw eich bod yn fwy tebygol o ddarganfod pobl sy’n debyg i chi. Rydym yn un o’r ychydig o golegau sydd yn cynnig Ystafell Weddi Fwslimaidd benodol, sy’n cynnwys daliwr esgidiau a sinc. Mae gan ein myfyrwyr
‘Reps’ neu gynrychiolwyr sydd yn cynrychioli hawliau, ac yn dathlu, grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys
Advertisement
Lleiafrifoedd Ethnig a Ffydd, grwpiau LDHTC+, a Myfyrwyr gydag Anableddau.
Mae gennym dîm o bobl yn arbennig i helpu unrhywun sydd yn profi unrhyw anawsterau neu broblemau, boed hynny’n academaidd neu’n bersonol. Mae gennym dîm o staff llesiant a myfyrwyr sydd wedi eu hyfforddi fel cefnogwyr cyfoedion a wnaiff eu gorau i’ch cefnogi.


Oddi Ar Y Prif Safle
Cwadranglau Gradel
Er bod y rhan fwyaf o’n myfyrwyr israddedig yn cael llety ar neu o amgylch prif safle’r Coleg, rydym ar hyn o bryd yn adeiladu Cwadranglau Gradel, a fydd yn agor yn 2023. Wedi ei leoli daflaid carreg o brif safle’r Coleg, bydd hyn yn galluogi ni gynnig llety fwy o’n myfyrwyr drwy gydol eu graddau.


Stiwdios Cerddoriaeth
Clore
Mae ein Stiwdios Cerddoriaeth Clore arbennig ar gael i’w defnyddio gan holl fyfyrwyr Coleg Newydd. Ddwy funud yn unig o’r prif safle, maent yn cynnwys saith ystafell gwrthsain gyda phiano yn y mwyafrif ohonynt.
Maes Chwarae Weston

Mae ein maes chwarae wedi ei leoli bum munud ar droed o brif safle’r Coleg - sydd yn anarferol o agos ar gyfer coleg yn Rhydychen. Mae yma feysydd pêl-droed, rygbi, criced, a hoci, cyrtiau sboncen, ystafell erg a chwrt pob-tywydd ar gyfer pêlfasged, pêl-rwyd a thenis (yn ogystal â chyrtiau gwair ychwanegol yn yr haf).