Skip to main content

Newyddion Arloesi - Mehefin 2025

Page 1

Newyddion Arloesi

Mehefin 2025


Cynnwys 03

ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd)

04

Comisiwn Bevan

07

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

08

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

09

Technoleg Iechyd Cymru

10

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

11

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd

12

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru

13

Iechyd Cyhoeddus Cymru


ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd) Fforwm Arloesi ARCH yn Dychwelyd Dychwelodd Fforwm Arloesi ARCH eleni i gefnogi arloesi ym maes iechyd. Dan arweiniad Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe, ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, mae’n cysylltu arloeswyr ym maes iechyd ag arbenigwyr clinigol, academaidd, a diwydiannol. Mae’n sbarduno arloesi ym maes gofal iechyd yn Ne-orllewin Cymru drwy gysylltu arloeswyr ag arbenigwyr meddygol, academaidd, a diwydiannol. Mae’r Fforwm yn darparu lle diogel i arloeswyr gyflwyno eu syniadau, derbyn adborth adeiladol, a chysylltu ag adnoddau cefnogi. Ym mis Mai gwelodd y Fforwm bum arloeswr yn cyflwyno prosiectau yn amrywio o ailddylunio gwasanaeth i gynhyrchion cam cynnar. Darparwyd arweiniad gan baneli arbenigol, gan feithrin gwelliannau, mewnwelediad rheoleiddiol, a chysylltiadau cyllido. Mae’r Fforwm yn parhau i sbarduno cydweithrediad a chyflymu arloesi ym maes iechyd a gofal. Edrychwn ymlaen at groesawu’r don nesaf o syniadau yn nigwyddiad mis Medi 2025.


Comisiwn Bevan Cyfres ‘Dysgu gyda’n Gilydd' Ym mis Ebrill, cynhaliodd Comisiwn Bevan gyfarfod bwrdd crwn ar ddiwydiant mewn partneriaeth â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru a rhaglen Cymru Iach ar Waith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar 'Iechyd a Lles Gweithwyr'. Daethom â grŵp amrywiol o arweinwyr diwydiant at ei gilydd i rannu profiadau, dealltwriaeth, ac atebion ymarferol er mwyn hyrwyddo iechyd a lles yn y gweithle. Bydd ein hadroddiad, a gyhoeddir cyn bo hir, yn tynnu sylw at yr arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd o wahanol rannau o’r sector. Diolch yn arbennig i’n siaradwyr arbenigol o fyd diwydiant: Paul Billington, Uwch Bartner Pobl (Iechyd a Lles) yn Admiral Group Plc Rachel Fleri, Perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Specialist Security Co. Ltd Gus Williams, Prif Weithredwr yn Siambrau De-ddwyrain, De-orllewin a Chanolbarth Cymru Oliver Williams, Ymgynghorydd mewn Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Adroddiad Cyfarfod Bwrdd Crwn ar 'Iechyd ar y Stryd Fawr' Y llynedd, cynhaliodd Comisiwn Bevan, â chefnogaeth Boots, gyfarfod bwrdd crwn ar ‘Iechyd ar y Stryd Fawr’ i edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi iechyd a lles cymunedol. Yn dilyn hynny cynhyrchodd Comisiwn Bevan adroddiad, yn cynnwys argymhellion a’r camau nesaf yn dilyn y cyfarfod bwrdd crwn. Mae Adroddiad Bwrdd Crwn Iechyd ar y Stryd Fawr yn galw am drawsnewid y Stryd Fawr mewn trefi yng Nghymru yn ganolfannau iechyd cymunedol drwy integreiddio gwasanaethau iechyd a lles mewn mannau lleol bob dydd, gwella mynediad, systemau digidol, ac addysg tra’n hybu atal, cydweithredu, a gofal cymunedol, cynhwysol. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.


25ain Cynhadledd Ryngwladol ar Ofal Integredig Aeth ein tîm i’r 25ain Cynhadledd ar Ofal Integredig yn Lisbon, Portiwgal yn ddiweddar. Thema’r digwyddiad oedd ‘Synergeiddio Iechyd a Gofal: Gwneud y Defnydd Gorau o Ofal Integredig ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy’, ac roedd yn llwyfan perffaith i arddangos rhywfaint o’r gwaith sy’n digwydd yma yng Nghymru. Roedd ein Cyfarwyddwr, Dr. Helen Howson, yn rhan o banel a oedd yn trafod strategaethau ar gyfer gofal integredig llwyddiannus. Cyflwynodd Dr. Thomas Cushion, ein Harweinydd Ymchwil a Datblygu, ein rhaglen 'Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd'. Mae mynd i’r afael â gwastraff ac arferion aneffeithlon yn system iechyd a gofal Cymru yn hollbwysig, yn enwedig o ystyried y nod uchelgeisiol o sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Rhoddodd Leo Lewis, ein Harweinydd Rhyngwladol, gyflwyniad ar bwnc 'Ailgynllunio llwybrau gofal er mwyn cynnal parhad busnes yn ystod senario argyfwng.' Mewn cyfnod lle mae’n anodd iawn rhagweld beth sydd o’n blaenau, mae’n bwysig sicrhau bod ein systemau iechyd a gofal yn gadarn ac yn gallu addasu er mwyn dal i ddarparu gwasanaethau hanfodol.


Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd Gwahoddwyd Comisiwn Bevan i un o’r cynadleddau gofal iechyd mwyaf – Y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd – a gofynnwyd iddo roi cyflwyniad yno. Chwaraeodd yr Athro Don Berwick, sylfaenydd yr IHI ac un o’n Comisiynwyr Bevan, rôl allweddol yn y digwyddiad, ac roedd y themâu’n cynnwys ‘Dyfodol Dynol Gofal Iechyd’, ‘O Chwyldro i Esblygiad’, ‘Cyfalaf Cymdeithasol ym maes Gofal Iechyd’, a ‘Thrawsnewid Systemau’. Rhoddodd ein Cyfarwyddwr, Dr. Helen Howson, gyflwyniad ar waith y Comisiwn a’i Academi dan y thema ‘Grymuso Arweinwyr: egin arweinwyr ac arweinwyr sy’n datblygu’, gan ddefnyddio gwaith Arloeswyr Bevan (Cymrodyr, Enghreifftiau a Dylanwadwyr) i ddangos pŵer a photensial pobl yn y system er mwyn helpu i newid y system. Trafodwyd creu rhwydweithiau rhyngwladol o rwydweithiau hefyd, a bydd hyn yn cael ei ddilyn ymhellach.


Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Digwyddiad Arddangos Arloesi mewn Cartrefi Gofal Cynhaliodd y Cyngor Iechyd Cymuned y digwyddiad ‘Arddangos Arloesi mewn Cartrefi Gofal’ cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd cyfle i gartrefi gofal rannu eu gwaith cadarnhaol, gan ddangos sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr ledled Cwm Taf Morgannwg bob dydd. Clywsom sesiwn diddorol ar atebolrwydd a dirprwyo gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, sesiwn llesiant adfyfyriol dan arweiniad Anna Playle a Dr Lucy Fishleigh, a sesiwn yn edrych ymlaen at y dyfodol yn ymwneud â gwybodaeth ddigidol gyda Simon Reid. Roedd y sesiynau sbotolau yn y prynhawn yn cynnwys sgyrsiau llawn gwybodaeth am frechiadau, cynllunio gofal ymlaen llaw, hwb llywio clinigol a therapi galwedigaethol. Roedd un astudiaeth achos yn taflu goleuni ar Fecws Anwen, a grëwyd gan Gartref Gofal Anwen er mwyn gwella llesiant. Â phosteri, stondinau, ac ystafell yn llawn syniadau, roedd yn gam cyffrous er mwyn cysylltu a dathlu arloesi yn ein cartrefi gofal yng Nghwm Taf Morgannwg. Sbrint arloesi hawlio Credyd Pensiwn Mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU yn 2024 i ddod â thaliadau tanwydd gaeaf i ben yng Nghymru a Lloegr, fe wnaeth ein prosiect amlsefydliad fynd i’r afael yn effeithiol â’r bwlch yn y nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn ymhlith unigolion cymwys yng Nghwm Taf Morgannwg. Amcangyfrifir bod 7000 o bobl yn yr ardal nad ydynt yn hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo, a nod ein cynllun dan arweiniad y tîm arloesi yng Nghwm Taf Morgannwg, yn cael ei hybu gan ymdrech gydweithredol ymhlith timau iechyd cyhoeddus, cynghorau lleol, ac elusennau a sefydliadau amrywiol, oedd gwella canlyniadau ariannol a chanlyniadau iechyd i bensiynwyr. Nododd y sbrint arloesi 689 o gleifion â chyflyrau iechyd anadlol, a 6768 o achosion o ymdrechion allgymorth drwy ymgysylltu uniongyrchol, ac asesodd a chefnogodd 1890 o gleientiaid, gan sicrhau gwerth £1,655,551.83 o gynnydd wedi’i gadarnhau mewn incwm. Yn ychwanegol at hyn, rydym yn rhagweld enillion incwm blynyddol pellach o £961,103.19 o geisiadau sydd i ddod, sy’n dangos yr effaith ariannol arwyddocaol a’r gefnogaeth ychwanegol a ddarparwyd i gymuned Cwm Taf Morgannwg. Darllenwch ein hastudiaeth achos arloesi i ddysgu rhagor.


Addysg a Gwella Iechyd Cymru Datblygu sgiliau digidol a thechnoleg gweithlu GIG Cymru Un o wyth blaenoriaeth strategol AaGIC, yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) 2025 - 2028, yw datblygu gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol a thechnolegol – gwella sgiliau digidol a sgiliau data’r gweithlu er mwyn optimeiddio modelau gofal newydd. Mae’r gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys: Lansio Strategaeth Ddigidol a Data yn amlinellu dull (AaGIC) o ymdrin â deallusrwydd busnes digidol a data am bum mlynedd (2023 -2028) Cynnal adolygiad tirwedd Deallusrwydd Artiffisial er mwyn gwerthuso sefyllfa bresennol addysg Deallusrwydd Artiffisial yn GIG Cymru Datblygu porth data a dadansoddeg sy’n rhoi mynediad at ddata amser real ac adroddiadau i staff y GIG, gan gynnwys cyflwyno dangosfwrdd swyddi gwag sy’n cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau Cyflwyno Fframwaith Gallu Digidol sy’n cynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i nodi a datblygu’r sgiliau, yr agweddau, a’r ymddygiadau angenrheidiol sydd eu hangen, er mwyn ffynnu yn yr amgylchedd iechyd digidol Datblygu platfform dysgu digidol AaGIC, ‘Y Tŷ Dysgu’, sydd ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac sy’n cynnwys toreth o adnoddau ar-lein.


Technoleg Iechyd Cymru Technoleg Iechyd Cymru yn croesawu Cadeirydd newydd y Panel Arfarnu Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn falch o gyflwyno Cadeirydd newydd Panel Arfarnu HTW, yr Athro Keith Lloyd. Mae Panel Arfarnu HTW yn ystyried tystiolaeth arfarnu HTW yng nghyddestun y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol HTW sy’n seiliedig ar y dystiolaeth hon. Mae Keith Lloyd yn Athro Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyfarwyddwr yr Athrofa Gwyddor Bywyd yno. Roedd yn Ddirprwy Is-ganghellor ar gyfer meddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, a chyn hynny yn bennaeth ysgol feddygol Prifysgol Abertawe. Cyn ymuno â’r brifysgol, roedd yn bennaeth yr hyn sydd bellach yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r Athro Lloyd yn dal i wneud gwaith clinigol fel seiciatrydd yn Abertawe.


Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Creu Partneriaeth Strategol i hybu Arloesedd mewn Iechyd a Gwyddorau Bywyd Mae M-SParc a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i helpu i gysylltu arloeswyr, ymchwilwyr, clinigwyr ac entrepreneuriaid blaengar i greu llif cadarn o brosiectau a busnesau cyffrous. Bydd y bartneriaeth yn meithrin prosiectau sy’n datrys heriau iechyd yn y byd go iawn. Gyda’i gilydd, bydd y sefydliadau’n darparu arweiniad, mynediad at gefnogaeth arbenigol a llwyfan cydweithredol i arloeswyr ym mhob cam o’u datblygiad. Bydd y cylch cyntaf o brosiectau yn cynnwys gweithdai arloesi, ceisiadau am gyllid a digwyddiadau ar gyfer sectorau penodol er mwyn annog cydweithio rhwng y byd academaidd, y GIG a diwydiant. Darllenwch ragor ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Cyhoeddi Enillwyr Cronfa Gofal Canser Menywod Cyhoeddwyd mai CanSense a Phrifysgol Abertawe yw enillwyr Cronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod, a lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi Gwyddorau Meddygol. Bydd prosiect Prifysgol Abertawe yn ceisio sefydlu rhwydwaith rhanddeiliaid cydweithredol i hybu’r gwaith o ddatblygu prawf diagnostig yn y cartref ar gyfer biofarcwyr colli dwysedd esgyrn. Mae CanSense yn arbenigo mewn canfod canser y coluddyn yn gynnar drwy ddefnyddio profion gwaed anymwthiol. Byddant yn defnyddio’r cyfle hwn i helpu i ehangu i ganserau gynaecolegol.


Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd Asesiad o Anghenion Iechyd yn Trawsnewid Gofal yn Ne-orllewin Cymru Mae’r Asesiad cynhwysfawr o Anghenion Iechyd (HNA), a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd, ARCH, a Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, wedi bod yn allweddol yn y gwaith o nodi heriau iechyd rhanbarthol. Mae wedi bod yn sail i weithgareddau allweddol fel y Gweithdai Mewnwelediadau Iechyd a Fforwm Arloesi ARCH. Mae’r rhanbarth ARCH (Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot) yn wynebu problemau iechyd sylweddol, gan gynnwys ym maes clefyd cardiofasgwlaidd, canser, diabetes, a phryderon iechyd meddwl, sy’n waeth oherwydd anghydraddoldebau. Mae technoleg, megis atebion iechyd digidol a thelefeddygaeth, yn cael ei defnyddio er mwyn gwella mynediad a chanlyniadau. Ers cyhoeddi’r HNA, mae ei ganfyddiadau wedi dylanwadu ar strategaethau y gellir eu gweithredu, gan gynnwys Strategaeth Atal Sir Gâr. Mae Fforwm Arloesi ARCH yn dal i feithrin cydweithrediad, gan gysylltu arloeswyr ag arbenigwyr, a chyflymu datblygiadau ym maes gofal iechyd.


Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru Lansio Adroddiad Blynyddol Darganfyddwch beth y gwnaethom ei gyflawni y llynedd yn ein hadroddiad blynyddol diweddaraf. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Cynnal Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol gyntaf Cymru ar 5 Mawrth 2025, yn cael ei hariannu gan noddwyr allanol. Gwyliwch rai o uchafbwyntiau’r diwrnod a lawrlwythwch y cyflwyniadau. Dod ag ymarferwyr at ei gilydd i rannu syniadau ynglŷn â’r ffordd orau o gefnogi pobl drwy sesiynau Mapio Effaith Crychdonnau. Gweld ein pecyn gwybodaeth canolbwyntio ar niwroddatblygiad yn cael ei ddefnyddio i wella gofal i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol. Gwella sgrinio am ddementia i bobl sydd â Syndrom Down. Sefydlu casgliad o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i gyhoeddi gan bobl sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru y gellir chwilio drwyddo. Darganfyddwch ragor: Adroddiad Blynyddol Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru 2024-25


Iechyd Cyhoeddus Cymru CarerVR: Cyflwyno Hyfforddiant Realiti Rhithwir Arloesol Nawr i Gefnogi Gofalwyr Di-dâl Cafodd offeryn newydd trawsnewidiol, CarerVR, ei lansio’n swyddogol yn Sir Benfro ac mae’n cynnig hyfforddiant realiti rhithwir person cyntaf, trochol. Mae’r offeryn arloesol hwn, a ddatblygwyd gan gwmni buddiant cymunedol Vere Experiences mewn cydweithrediad â Juice Immersive, ac a gefnogwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn adeiladu ar flynyddoedd o waith datblygu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro, a mewnbwn gwerthfawr gan dimau Therapi Galwedigaethol a Chodi a Chario lleol yn Sir Benfro. Mae CarerVR yn dod â hyfforddiant yn uniongyrchol i ofalwyr drwy ddefnyddio technoleg drochol yn gweithio â rig EmbodyCam™ Juice Immersive ac yn cael ei llywio gan systemau gwaith diogel wedi’u datblygu gan weithwyr proffesiynol ym maes therapi galwedigaethol, codi a thrin, a nyrsio. Ers ei lansio ym mis Ebrill 2025, mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd 90% o’r cyfranogwyr fod eu hyder wedi gwella wrth ddefnyddio’r technegau a ddangoswyd, a chyfeiriodd dros 82% at effeithiolrwydd y fformat realiti rhithwir ymgorfforedig rhyngweithiol o’i gymharu ag adnodau traddodiadol. Cyflwynir y dechnoleg i’r gymuned drwy therapyddion galwedigaethol, nyrsys ardal, a’r Tîm Gofal drwy Gymorth Technoleg yng Nghyngor Sir Penfro. Mae CarerVR hefyd yn cael ei archwilio fel adnodd diweddaru i ofalwyr proffesiynol mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal iechyd. Mae partneriaethau’n cael eu ffurfio â meddygfeydd a darparwyr gofal. Y cam nesaf fydd canolbwyntio ar ehangu cynnwys ac ymestyn mynediad i grwpiau clinigol gan gynnwys timau gofal lliniarol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: connectingrealities@gmail.com


Ydych chi’n rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru? Hoffech chi gael sylw yn rhifyn nesaf Newyddion Arloesi? Ebostiwch Lizzie: lizzie.harrett@lshubwales.com.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Newyddion Arloesi - Mehefin 2025 by lshubwales - Issuu