
4 minute read
Hope in Justice for School and Church
Photo: Huw Ryden
Cylchgrawn Croeso Gobaith yr Adfent
Advertisement
Beth yw gobaith? Os ydyn ni am gael ateb i’r cwestiwn yma, gallwn ni fynd ati’n ddigon syml i gamu i mewn i dymor Cristnogol yr Adfent ac ystyried y cyfan sydd ganddo i’w gynnig. Rydym yn meddwl amdano fel ‘tymor o obaith’.
Mae gobaith, wrth gwrs, yn ymwneud â disgwyl, edrych ymlaen o ddifrif, yr awydd y gallai’r hyn sydd o’n blaenau fod yn llesol inni. I’r rhan fwyaf o’n teuluoedd, mae’r Adfent yn ymwneud â disgwyl y Nadolig. Mae’n calendrau a’n canhwyllau Adfent i gyd yn arwain at ŵyl yr Ymgnawdoliad. Rydyn ni’n gobeithio am amser gyda’n gilydd, dathliad gobeithiol y bydd Duw gyda ni, genedigaeth Iesu Grist yn dod â gobaith i’r byd. Does unman arall yn ein blwyddyn yn llawn cymaint o gynlluniau gobeithiol â’r mis cyn Dydd Nadolig. Does dim o’i le ar obeithion sy’n ymwneud ag edrych ymlaen at bethau daearol a phethau nefol. Creaduriaid ydyn ni sy’n gobeithio am y gorau.
Eto i gyd, mae gobaith hefyd, yn ôl disgrifiad Thomas Aquinas, yn ‘agwedd ar yr ysbryd’, neu fel y dywedodd Martin Luther yn yr un modd, yn ‘ddewrder ysbrydol.’ Pan agorodd Pandora focs ei gŵr a gymerodd ei henw hithau wedyn, allan ohono daeth holl ddrygioni’r byd. Yr hyn a adawyd ar ôl o’r diwedd, yr hyn a barhaodd pan gafodd y byd ei felltithio, oedd gobaith. Yn yr un ffordd mae’r Adfent yn ein hannog i ddal gafael ar obaith pan fyddwn ni’n edrych i wyneb rhai o’n profiadau caletaf. Wrth inni deithio drwy’r gaeaf caled hwn, mae materion sydd wedi’u disgrifio’n draddodiadol fel y ‘pedwar peth olaf’, marwolaeth, barn, y nefoedd, ac uffern, i gyd yn gofyn inni obeithio. Dyma hefyd pam rydyn ni’n defnyddio thema tywyllwch yn troi’n olau i’n hatgoffa’n hunain nad yw’r tywyllwch byth yn ein trechu. Rydyn ni’n bobl sy’n gallu gobeithio’n ddygn yng Ngoleuni Crist gan wahodd eraill i ganfod y goleuni hwnnw drostyn nhw eu hunain.
Eto i gyd, nid set syml o ddymuniadau na theimlad o ddycnwch yn unig yw gobaith. Mae hefyd yn rhywbeth rydyn ni’n ei faethu drwy weithio er mwyn iddo ddigwydd, gweithgaredd yn hytrach na chyflwr meddwl.
Efallai ein bod ni’n credu mai mater o sicrwydd yn y dyfodol yw dyfodiad Teyrnas Dduw yn ei holl dangnefedd a chyfiawnder. Mai dyna ble rydyn ni’n anelu. Ond os ydyn ni’n gobeithio amdano, rydyn ni’n aros yn amyneddgar, ac yn ymdrechu i’w gyrraedd hefyd. Rydyn ni’n tyfu’r Deyrnas ac yn adeiladu’n gallu i wneud daioni. Mae gobaith i ni yn dod yn weithgaredd yn hytrach na chyflwr meddwl, ac rydyn ni’n camu i mewn iddo gyda phendantrwydd llawen a sicrwydd tawel. Oherwydd fel y dywedodd Sant Paul, nid yw’n gobaith ni byth yn ofer, a thrwy obaith am y pethau na allwn ni mo’u gweld yr ydyn ni wedi cael ein hachub. Haleliwia! (er nad ydyn ni’n cael dweud hynny yn ystod Adfent!) +June Llandaf
Bishop’s Column Advent Hope
What is hope? If we want an answer to that question, we simply have to step into this Christian season of Advent and explore all it has to offer. We think of it as a ‘season of hope’. Hope is, of course, about expectation, an earnest looking forward, the desire that what lies ahead might be for our good. For most of our families, Advent is about the expectation of Christmas. Our Advent calendars and candles are all counting us down to that festival of the Incarnation. We hope for time together, the hopeful celebration of God being with us, the nativity of Jesus Christ bringing hope to the world. Nowhere else in our year do we live with quite so much hope-filled planning as we do in the month before Christmas Day. There’s nothing wrong with hope being about our anticipation of things earthly and things heavenly. We are creatures who hope for the best.
Yet hope is also, as Thomas Aquinas describes it, a ‘disposition of the spirit’, or as Martin Luther similarly called it, ‘spiritual courage.’ When Pandora opened her husband’s box which then took her name, out of it flew all the evils of the world. What was left at last, what persisted when the world was cursed, was hope. In the same way Advent encourages us to hold on to hope when we look into the face of some of our hardest experiences. As we journey through this tough winter, matters which have traditionally been described as the ‘four last things’, death, judgement, heaven, and hell, all require of us hope. It’s also why we use the themes of darkness to light to remind ourselves that in all our tribulations the dark never overcomes us. We are people who can hope tenaciously in the Light of Christ and invite others to find that light for themselves. Yet hope is not simply a set of desires or a feeling of tenacity. It is also something we cultivate by working for it to happen, an activity rather than a state of mind. We may believe that the advent of the Kingdom of God in all its peaceableness and justice is a matter of future certainty. That is where we are heading. But if we hope for it, we both wait patiently, and we struggle to attain it. We grow the Kingdom and build our capacity for good. Hope becomes for us an activity rather than a state of mind, and we step into it with joyful obstinacy and a tranquil assurance. For our hope, as St Paul said, is never in vain, and it is in hope of the things we cannot see that we have been saved. Alleluia! (though we’re not allowed to say that in Advent!) +June Llandaff