
2 minute read
Colofn yr Esgob
Esgob Mary Stallard
Wrth i mi ddysgu sut i ffeindio fy ffordd o amgylch ein hesgobaeth, mae thema teithiau yn llawer ar fy meddwl. Rwyf hefyd wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl ymweld â’n hesgobaeth gyswllt yn Uppsala, Sweden a oedd yn antur gyffrous a chwrddais â ffrindiau ysbrydoledig a phartneriaid ffydd ar fy nheithiau.
O eiliad ein bedydd, dechreuodd pob un ohonom y daith bywyd fwyaf cyffrous a chymhellol ac mae llawer ohonom wedi dod o hyd i gymorth, ac wedi gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd.
Wrth inni edrych yn ôl dros ein bywydau, gallwn olrhain y llwybrau yr ydym wedi’u cymryd. Gallwn adnabod adegau pan fyddwn wedi dilyn galwad Duw, ein gwneuthurwr a bod yn ffyddlon Iesu ein gwaredwr. Efallai y gallwn weld y gallai fod yna adegau hefyd pan fyddem efallai wedi gwneud ein peth ein hunain, neu wedi mynd ein ffordd ein hunain, ac angen dod o hyd i ffordd yn ôl at Dduw.
Fel esgob, fy mraint i yw cael rhan fach yn nheithiau ffydd pobl eraill. Mae clywed tystiolaethau (neu hanesion ffydd) y rhai a fedyddir, a gadarnheir ac a ordeinir yn brofiad hyfryd. Gall fod mor wylaidd clywed sut mae pobl eraill wedi ymateb alwad Duw, yn enwedig pan fyddant wedi profi heriau salwch, profedigaeth, neu ryw dristwch arall. Mae bob amser yn fy syfrdanu sut mae’r ysfa i ddod o hyd i fywyd, ystyr, a gobaith yn aml mor gryf mewn pobl sydd wedi profi her neu galedi aruthrol.
Y rhodd fwyaf ar daith ein bywyd yw’r anogaeth a’r cymorth a gawn gan Dduw a chan eraill. Mae’r gair yn saesneg –“companion” – cydymaith yn cael ei ddefnyddio’n aml siarad am y rhai sy’n teithio gyda ni, ac un o ystyron sylfaenol hyn yn Ladin yw “gyda bara”. Wrth inni feddwl am ein teithiau mewn bywyd ac mewn ffydd, diolchwn am bawb sy’n ein bwydo a’n cynnal ar ein ffordd, a gofynnwn Dduw ein helpu fod yn gymdeithion da i eraill, i gefnogi a chynnal pawb sydd angen cymorth i ddod o hyd eu ffordd.