Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Page 1

Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi

Gogledd Orllewin Cymru

gonorthwales.co.uk

llechi.cymru

Dynodwyd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin

Cymru, Gwynedd yn Safle Treftadaeth y

Byd gan UNESCO yn 2021. Mae’n eiddo

â chwe rhan: Dyffryn Ogwen; Chwarel

Dinorwig; Dyffryn Nantlle; Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor; Ffestiniog & Porthmadog ac Abergynolwyn & Tywyn, gyda phob un yn cwmpasu chwareli a cheudyllau creiriol, safleoedd archeolegol yn ymwneud â prosesu llechi, aneddiadau hanesyddol, gerddi hanesyddol a plastai mawreddog, porthladdoedd, phlastai a cheiau, a rheilffyrdd a systemau ffyrdd yn yn arddangos cysylltiadau ymarferol a chymdeithasol y tirwedd ddiwydiannol creiriol. Mae’n cynnwys tirweddau chwareli ysblennydd megis Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Mae hefyd yn cynnwys yr

Amgueddfa Llechi yn Llanberis, Castell

Penrhyn a reilffyrdd enwog y Ffestiniog a Thalyllyn, wedi eu hadeiladu i gludo’r llechi o’r chwarel i farchnadoedd ledled y byd a thrawsnewidiwyd y ddau yn ddiweddarach i reilffyrdd treftadaeth.

Mae’r tirwedd yn adrodd stori anhygoel esblygiad cymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un sy’n cael ei ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda threfi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn cerfio eu ffordd drwy fynyddoedd Eryri i lawr tuag at y porthladdoedd eiconig.

I ddysgu mwy am y tirwedd llechi fedrwch ddilyn ein teithlen 3 diwrnod i ymchwilio i ddyfnder hanes neu ddewis a dethol diwrnodau unigol i brofi antur unigryw a chyffrous.

01 19 20 21 22 23 24 10 11 12 13 14 15 16 17 18 02 03 04 05 06 07 08 09

Mae’r Ganolfan Rheolaeth, Bangor yn cynnig 56 o ystafelloedd en-suite arddull gwesty gradd 4 Seren Croeso Cymru. Wedi’i leoli yng nghanol Eryri, Gogledd Cymru, mwynhewch olygfeydd godidog o’r Fenai ac Ynys Môn.

Porth Penrhyn, Abercegin sydd ym mhen dwyreiniol Culfor y Fenai sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru oedd gynt o bwysigrwydd mawr fel y prif borthladd ar gyfer allforio llechi o Chwarel y Penrhyn, y chwarel lechi fwyaf yn y byd yn niwedd bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd, ac ehangwyd yn ddiweddarach, gan y teulu Pennant (Douglas-Pennant yn ddiweddarach) o Gastell Penrhyn gerllaw. Mae Porth Penrhyn yn parhau i gael ei ddefnyddio fel porthladd masnachol gweithredol ac yn dal i gael ei ddefnyddio i allforio llechi.

Castell Penrhyn Saif y castell neo-Normanaidd hwn o’r 19eg ganrif rhwng Eryri a’r Fenai. Mae’r bensaernïaeth unigryw, tu mewn moethus a chasgliad celfyddyd gain yn cyd-fynd â hanes ffawd siwgr a llechi, o aflonyddwch cymdeithasol a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Mae’n orlawn o eitemau hynod ddiddorol, fel gwely un tunnell wedi’i wneud o lechi ar gyfer y Frenhines Fictoria, cerfiadau cywrain, gwaith plastr a dodrefn ffug-Normanaidd.

Roedd Streic Fawr Chwarel lechi y Penrhyn 1900 1903, yn benllanw nifer o flynyddoedd o anfodlonrwydd ac aflonyddwch yn y diwydiant chwareli yn Nyffryn Ogwen. Roedd yr anghydfod yn canolbwyntio ar hawliau Undeb, cyflog ac amodau gwaith. Brwydr chwerw oedd hi rhwng Arglwydd Penrhyn a gweithwyr y chwarel lechi, a rwygodd gymuned a newid y rhan yma o Ogledd Cymru am byth.

Taith dywys o Gastell Penrhyn i Lanberis gan aros yn Bethesda ar y ffordd am sgwrs gan y Tywysydd ynghylch yr ardal a’i gysylltiadau â’r diwydiant Llechi.

Gwesty’r Royal Victoria, Llanberis - Mwynhewch ginio hamddenol ym Mwyty Padarn, sydd wedi’i enwi er anrhydedd i lyn eiconig Llanberis. Mae Bwyty’r Padarn yn edrych dros erddi’r gwesty gyda golygfeydd pell o’r llyn â’r un enw.

Amgueddfa Lechi, Llanberis - Mae Amgueddfa Lechi wedi’i leoli yn y Gilfach Ddu, gweithdai’r 19eg ganrif Chwarel Dinorwig, o fewn Parc Gwledig Padarn, Llanberis, Gwynedd. Mae’r amgueddfa yn ymroddedig i gadw ac arddangos creiriau o’r diwydiant llechi yng Nghymru sydd hefyd yn cynnwys arddangos hollti llechi, tai chwarelwyr ac olwyn ddŵr enfawr. O streiciau a dioddefaint i grefftwaith a chymuned, mae hwn yn gyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Mae yna hefyd gaffi a siop anrhegion ar y safle.

Chwarel Dinorwig - Taith Gerdded - yn cael ei threfnu gan y tywysydd taith ar y diwrnod - (angen esgidiau addas).

Gwesty Plas Dinas, Bontnewydd - Gynt yn gartref i’r teulu hynod Armstrong-Jones, mae gan y gwesty ddeg o ystafelloedd gwely mewn steil unigol gyda chysuron pum seren, mewn arddull hanesyddol ac amgylchedd hamddenol.

Gwesty’r Celt, a enwyd yn wreiddiol yr Uxbridge Arms adeiladwyd tua 1794 gan yr 2il Iarll o Uxbridge, a oedd yn enwog am ei Lwyddiannau i warchod ei farchfilwyr ym Mrwydr Waterloo.

Taith Dywys Tref Caernarfon - Taith gerdded yn egluro hanes y dref, o’r canol oesoedd, oes Fictoria hyd heddiw. Mae’r daith yn cynnwys gwybodaeth am Gastell Caernarfon o i’r 21ain ganrif, hanes muriau’r dref a hanes allforio llechi morwrol Caernarfon. Gallwch hefyd ddysgu am hanes Rhufeinig Caernarfon.

Castell Caernarfon - Palas caer Frenhinol wedi’i adeiladu ar chwedlau a gwrthdaro canoloesol chwerw. Mae Castell Caernarfon yn cael ei gydnabod o gwmpas y byd fel un o adeiladau mwyaf yr Oesoedd Canol.

Mae’r Hen Lys, Caernarfon yn adeilad rhestredig Gradd 1 sydd newydd ei adnewyddu gyda golygfeydd godidog o Gastell Caernarfon, yn cynnig Cinio, Te Prynhawn a Bwydlenni Hwyr yn eu bistro chwaethus Y Fainc.

Mae Tafarn y Black Boy, Caernarfon wedi ennill gwobrau Efydd am y bwyd gorau yng Nghymru ac wedi cael llawer o ysgrifau gwych yn Y Telegraph a’r Daily Post. Mae’r dafarn yn hyrwyddo ethos “o’r cae i’r fforc” sy’n darparu’r bwyd gorau posib wedi’i gyrchu’n lleol gan gyflenwyr o amgylch Gwynedd a Ynys Môn.

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861 gynhyrchu llechi ysgrifennu ysgol. Heddiw mae’r cwmni yn creu eitemau coffa a chrefft o lechi Cymreig. Mae yna taith hunan-dywys o amgylch y gweithiau sy’n cynnwys fideo a chyflwyniad iaith hyrwyddo. Mae ystafell arddangos crefftau, siop anrhegion a chaffi ar y safle, mae hefyd ar agor trwy’r flwyddyn.

Tomen Chwarel Lechi Cilgwyn - Yn Nyffryn Nantlle y llechi i ddechrau gan gysylltiadau trafnidiaeth gwael. Gydag agoriad rheilffordd yn cael ei thynnu gan geffylau i’r cei yng Nghaernarfon yn 1828, tyfodd chwareli Dorothea, Cilgwyn, Pen y Bryn, Tal y Sarn a Phen yr Orsedd yn gyflym. Yn y 1860au cafodd llawer o’r rheilffordd gynharach ei ymgorffori yn y brif lein newydd o Gaernarfon i Afonwen.

Lleolir Gwinllan a Pherllan Pant Du ar lethrau Dyffryn Nantlle, Eryri ac mae’n cynnwys caffi a siop fechan ar y safle. Gydag golygfeydd arbennig o’r Wyddfa a’r mynyddoedd o gwmpas, ynghyd a golygfeydd godidog o’r môr ar draws Bae Caernarfon, mae Pant Du mewn lleoliad delfrydol fwynhau harddwch naturiol ysblennydd y mae Eryri yn ei gynnig.

Gwesty Plas Tan Yr Allt, Porthmadog - Stad Tan yr Allt oedd y fila rhaglywiaeth cyntaf Gogledd Cymru a brynwyd gan entrepreneur a’r dyngarwr William Alexander Madocks yn 1798. Roedd yn fwyaf adnabyddus am adennill llawer iawn o dir o’r môr trwy ddulliau o adeiladu arglawdd anferth o’r enw y Cob. Mae’r gwesty llai na 10 munud mewn car i dref harbwr Porthmadog sydd wedi’i leoli ar aber Afon Glaslyn ac sy’n gyfoeth o hanes morwrol. Mewn amseroedd a fu, roedd yn borthladd llongau prysur, yn hanfodol ar gyfer masnachu llechi rhyngwladol, a oedd yn dod lawr o chwareli Ffestiniog.

Portmeirion - Yn swatio rhwng aber yr Afon Ddwyryd a mynyddoedd mawreddog Eryri, mae pentref Portmeirion yn gyrchfan pentref a gerddi preifat, wedi’u gosod ar ei benrhyn ei hun gyda golygfeydd i bob cyfeiriad a llwybrau di-ben-draw i’w harchwilio, cewch eich cludo i mewn i fyd breuddwydiol, yn llawn syndod.

Rheilffordd Ffestiniog - Adeiladwyd yn wreiddiol i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog, arferai’r llinell hon gael ei gweithredu gan ddisgyrchiant. Teithiau wagenni yn llawn o lechi i lawr y lein, yn cael eu cadw dan reolaeth gan ddynion brêcs a oedd yn neidio o wagen i wagen i dynhau neu llacio’r brêcs tra bod eu cydweithiwr ar y wagen flaen yn chwythu ei gorn i rybuddio eraill o’i hynt. Mae Blaenau Ffestiniog, yn mhen y dyffryn yn dal i ddwyn creithiau ei orffennol diwydiannol gyda thomenni llechi o’i amgylch.

Saif Gwesty’r Oakeley Arms yn dawel, yn falch ac yn odidog, ond cloddiwch ychydig yn ddyfnach a byddwch yn dod o hyd hanes diwydiannol swnllyd a dinistriol, un a ddiffiniwyd gan aur llwyd Cymru y Llechen Gymreig gwerthfawr. Mae’r Gwesty’n cynnig bwyd Cymreig traddodiadol wedi’i wneud gyda cynnyrch lleol a thymhorol lle bo modd.

Taith Ceudyllau Dwfn Llechwedd - Cymrwch gam yn ôl i’r 19eg ganrif wrth i chi gael eich boddi 500 troedfedd i mewn i daith hanes cyfoethog y Mwynglawdd Dwfn, lle byddwch chi’n treulio amser yn amsugno popeth sydd i’w wybod am orffennol diddorol Llechwedd. Ewch ymlaen ar y trên tanddaearol ar reilffordd gebl fwyaf serth Ewrop a dysgwch am yr 16 o lefelau mwynglawdd tanddaearol eiconig gan gynnwys lle y caiff caws enwog Llechwedd ei aeddfedu, a’r 8 lefel o dan y dŵr. Byddwch chi’n dysgu popeth am y gwaith a wnaed gan y chwarelwyr gynt. Gwelwch o lygad y ffynnon ble cynhyrchwyd y llechen o safon fyd-eang gan ddynion a bechgyn lleol, a beryglodd eu bywydau bob dydd i ddarparu’r llechen enwog hon i’r byd.

Taith Chwarel Explorer a Titan 2 - Hwn oedd zip line pedwar person cyntaf Ewrop, mae Titan 2 wedi esblygu yn 2021 ddod yn daith gyffrous a phrofiad sip, sy’n cynnwys 1 cilometr ble mae pedwar person yn ipio ochr yn ochr, tra’n ychwanegu taith fanwl o’r lleoliad hanesyddol hwn i blesio pob oed. Bydd eich ymweliad yn dechrau gyda’r daith ble byddwch yn dringo ar un o hen dryciau eiconig y fyddin. Gan droelli a throi drwy llwybr chwarel Llechwedd, byddwch yn teithio hyd at uchder trawiadol o 1,400 troedfedd, tra’n cymryd i mewn y golygfeydd a’r tirwedd diwydiannol. Mae’r daith yn para 45 munud. Ar ôl archwilio’r ardal gyda melinau chwarel a siediau hollti, byddwch chi’n gwisgo dillad yn barod ar gyfer eich taith ar y linnell zip dwbl. Yn teithio dros 1 cilomedr gyda golygfeydd godidog o’r chwarel isod a Blaenau Ffestiniog gydag Eryri tu hwnt, byddwch yn hedfan yn ôl i lawr i’r ddaear ar eich eistedd - yn well byth ar gyfer mwynhau y golygfeydd panoramig hynny.

Mae Gwesty Plas weunydd Wedi’i leoli o fewn safle Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd UNESCO, mae Plas Weunydd yn llety bwtîc pedair seren gyda pedair ar hugain o ystafelloedd ffasiynol, bar a bwyty. Ym Mhlas Weunydd, fe welwch ystafell ar gyfer pob achlysur. O ystafelloedd sengl, ystafelloedd teulu rhyng-gysylltiedig a hyd yn oed mannau addas i gŵn, y gwesty yw’r lle perffaith ymlacio, cael diod ac i gael tamaid i fwyta, tra’n gwylio’r byd yn pasio heibio.

01 19 20 21 22 23 24
10 11 12 13 14 15 16 17 18 02 03 04 05 06 07 08

Diwrnod Un - Dyffryn Peris/Dyffryn Ogwen

Archwiliwch hanes a diwylliant cyfoethog Gogledd Cymru trwy ei diwydiant lechi Cymreig. Taith yn ôl mewn amser i ddysgu am ddyfodiad chwareli a diwylliant bywiog cymunedau, pob un ohonynt wedi llunio tirwedd ôl-ddiwydiannol yr ardal. Dilynwch ein teithlen 3 diwrnod i ymchwilio i ddyfnderoedd hanes neu fe allwch ddewis a dethol diwrnodau unigol i brofi antur unigryw a chyffrous.

TEITHLEN

Aros dros nos yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor

Llety i Westeion (Sat Nav LL57 2DG)

09.30 - 10.30

Taith Dywys ym Mhorth Penrhyn

10.30 - 10.35

Trosglwyddo i Gastell y Penrhyn (Sat Nav LL57 4HN)

10.35 - 12.15

Tirwedd a Castell y Penrhyn Sicrwydd Ansawdd Coffi yn yr Ystafell De |

12.15 – 13.00

Trosglwyddo i Lanberis gan aros yn Bethesda i ddysgu am y dreftadaeth llechi yn y dref gyda Tywysydd (Sat Nav LL57 3AR)

13.00 - 14.00

Cinio yng Ngwesty’r Royal Victoria, Llanberis

Gwesty (Sat Nav LL55 1TY)

14.00 - 15.30

Amgueddfa Lechi, Llanberis Sicrwydd Ansawdd (Sat Nav LL55 4TY)

Coffi yng nghaffi’r Amgueddfa Lechi

15.30 - 16.30

Taith Gerdded Chwarel Dinorwig gyda Tywysydd

Dros Nos

Gwesty Gwledig Plas Dinas, Bontnewydd

Gwesty (Sat Nav LL54 7YF)

Cinio nos yn y Gun Room neu fel arall

Gwesty’r Celt, Caernarfon

Gwesty (Sat Nav LL55 1AY)

Cinio Nos yn y Black Boy Inn, Caernarfon

Tafarn (Sat Nav LL55 1RW)

|
|
|
|
|

Diwrnod Dau - Dyffryn Nantlle

Archwiliwch hanes a diwylliant cyfoethog Gogledd Cymru trwy ei diwydiant lechi Cymreig. Taith yn ôl mewn amser i ddysgu am ddyfodiad chwareli a diwylliant bywiog cymunedau, pob un ohonynt wedi llunio tirwedd ôl-ddiwydiannol yr ardal. Dilynwch ein teithlen 3 diwrnod i ymchwilio i ddyfnderoedd hanes neu fe allwch ddewis a dethol diwrnodau unigol i brofi antur unigryw a chyffrous.

TEITHLEN

Aros dros nos yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon

Gwesty (Sat Nav LL55 1AY)

09.30 - 10.30

Taith dywys o dref Caernarfon gan gynnwys pwyntiau hanesyddol canoloesol a Fictoraidd o ddiddordeb

(Sat Nav LL55 2YD)

10.30 – 11.45

Safle Treftadaeth y Byd Castell Caernarfon ac Amgueddfa’r Ffiwsilwyr

Brenhinol Cymreig

Sicrwydd

Ansawdd (Sat Nav LL55 2AY)

11.45 - 13.00

Cinio yn Yr Hen Lys, Caernarfon (Sat Nav LL55 2AY)

neu Tafarn y Black Boy, Caernarfon (Sat Nav LL55 1RW)

13.10 – 13.45

Gwaith Llechi Inigo Jones

Sicrwydd

Ansawdd (Sat Nav LL55 7SY)

13.45 - 14.10

Tomen Chwarel Lechi

Cilgwyn a Sgwrs Dywys

(Sat Nav LL54 7SF)

14.10 - 14.20

Trosglwyddo i Gwinllan a Pherllan Pant Du (teithiau ar gael Meh - Med yn unig)

(Sat Nav LL54 6HE)

14.20 - 16.00

Taith Gwinllan a Pherllan Pant Du a Te Prynhawn

(Sat Nav LL54 6HE)

Dros Nos

Gwesty Plas Tan yr Allt, Porthmadog

Llety wedi’i Gofrestru (Sat Nav LL49 9RG)

Neu llety arall ar gael yn

Nhafarn y Golden Fleece Inn, Tremadog

Tafarn (Sat Nav LL49 9RB)

|
|
|
|
|
|
|
|

Diwrnod Tri - Porthmadog - Ffestiniog

Archwiliwch hanes a diwylliant cyfoethog Gogledd Cymru trwy ei diwydiant lechi Cymreig. Taith yn ôl mewn amser i ddysgu am ddyfodiad chwareli a diwylliant bywiog cymunedau, pob un ohonynt wedi llunio tirwedd ôl-ddiwydiannol yr ardal. Dilynwch ein teithlen 3

diwrnod i ymchwilio i ddyfnderoedd hanes neu fe allwch ddewis a dethol diwrnodau unigol i brofi antur unigryw a chyffrous.

TEITHLEN

Aros dros nos yng Ngwesty’r Celtic Royal, Caernarfon

Gwesty

09.00 - 10.00

Ymweliad o gwmpas Pentref Portmeirion

Sicrwydd

Ansawdd

10.00 - 10.15

Trosglwyddo i Harbwr Porthmadog (Sat Nav LL49 9LU)

10.15 - 10.45

Ymweliad i Harbwr Porthmadog

10.45 - 11.55

Porthmadog – Blaenau Ffestiniog ar Rheilffordd Ffestiniog (Sat Nav LL49 9NF)

12.00 - 13.45

Cinio yng Ngwesty’r Oakeley Arms, Maentwrog

Tafarn (Sat Nav LL41 3YU)

13.45 - 14.00

Trosglwyddo i Llechwedd Zip World (Sat Nav LL32 8LX)

14.00 - 15.30

Ceudyllau Llechi Llechwedd

Sicrwydd

Ansawdd

15.30 - 17.30

Quarry Explorer a Titan 2 (i’r rhai nad ydynt yn dymuno gwneud y Zip Wire, fe all gwesteion aros yn y gwersyll a chael pori drwy’r siop anrhegion ac edrych o gwmpas y safle.

Sicrwydd

Ansawdd

Dros Nos

Gwesty Plas Weunydd, Blaenau Ffestiniog

Gwesty

Cinio Nos yn y Gwesty

Neu llety arall Gwesty’r Royal Sportsman, Porthmadog

Gwesty (Sat Nav L49 9HB)

|
|
|
|
|
|
|
|
|
I archebu cysylltwch a croeso@gonorthwales.org.uk neu 01492 531731
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.