Skip to main content

Student Engagement Policy Part 2 (Welsh)

Page 1


Lefel Cyfadran

Cynrychiolydd Cyfadran

Mae gan bob Cyfadran Academaidd Gynrychiolydd Cyfadran trosfwaol a etholir gan gorff myfyrwyr campysau Prifysgol Wrecsam Glyndŵr a’i gefnogi gan Undeb y Myfyrwyr. Mae Cynrychiolydd y Gyfadran yn eistedd ar

Gyngor Undeb y Myfyrwyr ac yn ddolen rhwng y Gyfadran ac Undeb y Myfyrwyr. Mae gan Gynrychiolydd y Gyfadran y cyfle i gysylltu â

Chynrychiolwyr Cwrs campws Prifysgol Wrecsam Glyndŵr trwy’r

Gynhadledd flynyddol i Gynrychiolwyr Cwrs a chasglu adborth o ddata

Dweud wrth Glyn sydd ar gael iddynt o Undeb y Myfyrwyr. Bydd adborth a roddir yn cael ei drafod mewn Byrddau Cyfadran a Chyfarfodydd Tîm Uwch

Reoli eraill. Mae gan gynrychiolwyr Cyfadran rôl bwysig mewn casglu barn poblogaeth ehangach y myfyrwyr, gan gynnwys ystyried barn a dderbynnir gan fyfyrwyr wedi’u lleoli ar safleoedd partner.

Lefel Prifysgol

Siarter y Myfyrwyr

Mae Siarter y Myfyrwyr, a ddatblygwyd ar y cyd gan PGW ac Undeb y Myfyrwyr, yn

amlinellu beth mae’r Brifysgol a myfyrwyr yn gallu disgwyl o’i gilydd fel partneriaid mewn cymuned ddysgu. Mae’r siarter hon yn cael ei hadolygu pob blwyddyn.

Cynrychiolaeth Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol

Mae PGW wedi ymrwymo i sicrhau cynrychiolaeth myfyrwyr yn aelodaeth pwyllgorau’r Brifysgol. Mae myfyrwyr yn cael eu cynrychioli trwy Swyddogion Sabothol

Undeb y Myfyrwyr a chan gynrychiolwyr Cyfadran a Chwrs ar bob lefel yn ein strwythur pwyllgorau.

Mae enghreifftiau o bwyllgorau y mae myfyrwyr yn cael eu cynrychioli arnynt yn cynnwys:

• Bwrdd y Llywodraethwyr

• Y Bwrdd Academaidd

• Pwyllgor Ansawdd Dysgu ac Addysgu

• Pwyllgor Ymchwil

• Byrddau Cyfadran

• Grwpiau prosiect Prifysgol fel y Grŵp

Gwaith NSS, y Grŵp Gwaith

Gweithredu Cynaliadwy a’r Tîm

Datblygu Academaidd: Trawsffurfio

Asesu

Mae’r Brifysgol yn adolygu aelodaeth yn flynyddol ac yn cysylltu ag Undeb y Myfyrwyr i lenwi unrhyw leoedd gwag i fyfyrwyr sydd ar gael ar bwyllgorau Prifysgol.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio i sicrhau bod ystod amrywiol o fyfyrwyr yn cael eu cynrychioli ar bwyllgorau Prifysgol, gan gynnwys israddedig ac ôlraddedig; llawn amser a rhan-amser. Mae swyddogion sabothol hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad polisi academaidd trwy aelodaeth o grwpiau gwaith a phwyllgorau.

Mae rhai pwyllgorau lle gall gwybodaeth bersonol gael ei rhannu, er enghraifft gwrandawiadau camymddwyn academaidd neu wrandawiadau cwyn. Yn yr achosion hyn, mae llais y myfyrwyr yn cael ei gynrychioli gan Swyddogion sabothol Undeb y Myfyrwyr, fel Llywydd y Myfyrwyr neu’r Is-Lywydd.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall weithiau fod yn heriol i fyfyrwyr siarad allan mewn pwyllgorau ffurfiol, yn enwedig yng nghamau cynnar cymryd rhan.

Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Wrecsam

Glyndŵr i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi ac yn effeithiol wrth gyflawni’r rôl. Gall hyn gael ei drefnu mewn lleoliad grŵp neu mewn fformat

un i un. Mae cadeirydd y pwyllgor hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr

wrth gyflawni eu rôl. Mae’r Cydlynydd Cynrychiolaeth a Democratiaeth (o fewn Undeb y Myfyrwyr) yn darparu hyfforddiant parhaol i Gynrychiolwyr y Myfyrwyr ac yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt.

Mae’n rhaid i’r holl faterion sy’n cael eu codi gan gynrychiolwyr myfyrwyr yn y pwyllgor perthnasol gael ystyriaeth briodol a’u cofnodi’n briodol. Lle nad yw gweithred yn gallu cael ei gweithredu, dylai’r rhesymau gael eu hesbonio a’u cofnodi.

Arolygon Allanol a Mewnol ar draws Sefydliad

Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol

Gall myfyrwyr cymwys ddarparu adborth trwy nifer o arolygon cenedlaethol

cydnabyddedig, ar draws sefydliad gan gynnwys yr Arolwg Myfyrwyr

Cenedlaethol (NSS) sydd ar gyfer israddedigion blwyddyn olaf. Mae’r arolwg NSS yn annibynnol o’r Brifysgol ac mae atebion yn aros yn ddienw.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gyfle i fyfyrwyr leisio barn am eu cwrs, gan gynnwys beth roedd myfyrwyr yn ei hoffi a beth allai gael ei wella. Mae pob myfyriwr cymwys yn cael eu hannog i gymryd rhan a rhannu eu barn onest.

Mae’r cwestiynau yn y NSS yn cyfeirio at yr agweddau canlynol o brofiad dysgu myfyrwyr:

• Addysgu ar fy Nghwrs

• Cyfleoedd Dysgu

• Asesu ac Adborth

• Cefnogaeth Academaidd

• Trefniadaeth a Rheolaeth

• Adnoddau Dysgu

• Cymuned Ddysgu

• Llais Myfyrwyr

• Bodlonrwydd Cyffredinol

Arolygon Allanol a Mewnol ar draws Sefydliad

Arolwg Cyrchfan Ymadawyr o Addysg Uwch

Mae’r Brifysgol hefyd yn cymryd rhan yn yr Arolwg Cyrchfan Ymadawyr o Addysg Uwch (DLHE). Mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr cymwys sydd wedi

ennill cymhwyster yn ddiweddar yn PGW ynglŷn â’r gwaith a / neu astudio ychwanegol maen nhw’n gwneud yn fuan wedi graddio. Mae’r wybodaeth yn ddefnyddiol i roi gwybod i fyfyrwyr am y cyfleoedd a allai fod ar gael iddynt ac i weld tueddiadau mewn cyflogaeth graddedigion.

Mae’r Brifysgol yn hyrwyddo’r arolygon hyn yn eang a chyfleoedd i gymryd rhan.

Arolygon Allanol a Mewnol ar draws Sefydliad

Arolwg Cyrchfan Ymadawyr o Addysg Uwch

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth a dderbynnir?

• Mae’r adborth yn cael ei ddadansoddi ar lefel traws Prifysgol a hefyd ar lefel Cyfadran a rhaglen.

• Mae’r adborth yn cael ei drafod ym Mwrdd y Llywodraethwyr, Bwrdd yr Is-Ganghellor, Bwrdd Academaidd a Phwyllgor Ansawdd Dysgu ac Addysgu (gyda chynrychiolaeth myfyrwyr). Y nod yw defnyddio’r data i wella profiad dysgu’r myfyrwyr wrth adnabod ymarfer gwych a meysydd i’w datblygu.

• Mae gan Gyfadrannau Academaidd hefyd grwpiau ffocws NSS sy’n cynnwys myfyrwyr i lunio cynlluniau gweithredu lle mae pryderon yn cael eu nodi i annog newidiadau cadarnhaol ac i wella profiad y myfyrwyr. Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i fwydo i mewn i’r cynlluniau gweithredu trwy Fforymau Llais Myfyrwyr. Mae’r Grŵp Gwaith NSS (a gydgadeirir gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr a’r Dirprwy Is-Ganghellor) yn goruchwylio’r cynlluniau gweithredu a monitro cynnydd yn erbyn gweithredoedd ym mhob cyfarfod misol

• Mae’r data hefyd yn cael ei adolygu gan Arweinyddion Rhaglen pan baratoant eu hadroddiad monitro rhaglen flynyddol

• Mae’r data ynglŷn â barn myfyrwyr ac adborth o arolygon cenedlaethol ar gael i ddarpar ymgeiswyr trwy wefan Unistats.

Arolygon Allanol a Mewnol ar draws Sefydliad

Mae holiaduron myfyrwyr mewnol eraill sy’n cael eu llunio gan Gyfadrannau a / neu adrannau cefnogol i gasglu adborth ar faterion penodol. Er enghraifft, ym Mehefin 2017, datblygodd y Brifysgol arolwg ar-lein i fyfyrwyr ymchwil.

Archwiliodd yr arolwg brofiad y myfyrwyr o oruchwyliaeth; cefnogaeth a hyfforddiant; a’r amgylchedd ymchwil. Gall cymhariaeth gael ei gwneud gydag ymatebion ledled y DU i’r Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig (PRES).

Cyfrannodd y canlyniadau at ddatblygu’r rhaglen ddatblygu Ymchwil 2017/18 a chawsant eu trafod yn y Pwyllgor Ymchwil. Arweiniodd yr arolwg at y rhaglen ddatblygu ymchwilydd gan dreialu semester o ‘weithdai ysgrifennu’ i fyfyrwyr PhD.

Cymryd rhan mewn Archwiliadau ac Arolygu Sefydliadol

Mae PGW wedi ymrwymo i annog a chefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn adolygiadau allanol a mewnol.

Adolygiad Gwella Ansawdd

Mae’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (QAA) yn adolygu’r safonau, ansawdd, ac wrth gwrs gwybodaeth a gyhoeddir gan holl Brifysgolion y DU. Pob chwe blynedd, bydd Prifysgol yn cael ei hadolygu gan y QAA i sicrhau ei bod yn ateb y disgwyliadau gofynnol, fel yr amlinellir gan God Ansawdd y DU. Mae

QAA hefyd yn adolygu pa mor dda mae Prifysgolion yn sefydlu cynlluniau i wella’r profiad dysgu yn barhaus (cyfeirir ato’n aml fel ‘gwelliant’).

Bydd Adolygiad Gwelliant Ansawdd nesaf PGW yn digwydd yn 2019. Mae barn a buddiannau myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ar y grŵp cynllunio gan

Gydlynydd Cynrychiolaeth a Democratiaeth Undeb y Myfyrwyr. Bydd yr Adolygiad Gwelliant Ansawdd yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd

rhan: bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda’r Brifysgol i adnabod cynrychiolydd arweiniol y myfyrwyr fydd yn datblygu cyflwyniad myfyrwyr i rannu barn ac adborth myfyrwyr. Gofynnir i fyfyrwyr gyfarfod a’r adolygwyr

QAA yn bersonol, gall hyn hefyd gynnwys myfyrwyr sy’n astudio mewn

safleoedd partner, yn ystod yr adolygiad allanol i rannu eu profiad a barn o fod yn fyfyriwr yn PGW. Hefyd, bydd un aelod o’r tîm adolygu yn fyfyriwr (yn annibynnol o PGW).

Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRBs)

Mae gan lawer o Gyfadrannau gysylltiadau â’r corff proffesiynol a/neu statudol ar gyfer maes eu pwnc, fel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gall y cyrff proffesiynol a/neu statudol gymeradwyo, achredu neu gydnabod rhaglenni Prifysgol perthnasol.

Gall PSRBs gymryd rhan mewn arfarnu neu ailarfarnu rhaglen neu gallant fynychu i adolygu’r rhaglen yn annibynnol a gwahoddir myfyrwyr yn aml i rannu eu barn a’u hadborth.

Cymryd rhan yng Nghynllunio ac Adolygu Rhaglenni – Myfyrwyr yn Adolygwyr ar Banelau Arfarnu, Adolygiadau Rheolaidd a Phanelau Ailarfarnu

Mae gan fyfyrwyr yn PGW y cyfle i gymryd rhan mewn prosesau gwelliant ansawdd a sicrwydd.

• Mae arfarnu yn cyfeirio at y broses graffu mae pob rhaglen newydd yn mynd trwyddi cyn cael eu cymeradwyo. Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod y safonau academaidd ac ansawdd rhaglen newydd yn addas a bydd gan fyfyrwyr y cyfle gorau posibl i ddysgu.

• Adolygu rheolaidd ac ailarfarnu yw pan mae cyrsiau sy’n bodoli yn cael eu hadolygu a’u hailgynllunio.

Ceisir cynrychiolaeth myfyrwyr ar gyfer pob digwyddiad o’r fath. Mae’r

Brifysgol yn recriwtio Adolygwyr o Fyfyrwyr yn weithredol yn ystod Wythnos y Glas gyda chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr. Mae pob Adolygwr o Fyfyriwr yn

cael eu cefnogi gyda hyfforddiant gan y Tîm Ansawdd Academaidd. Mae’r

Adolygwr o Fyfyriwr yn aelod llawn o’r Panel ac yn cael ei gefnogi gan y Swyddog i’r Panel a’r Cadeirydd.

Os yw’n adolygiad rheolaidd ac ailarfarniad, mae adborth myfyrwyr hefyd yn cael ei gadw trwy ganlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol sy’n cael eu hadolygu i wirio beth sy’n gweithio’n dda a meysydd i’w gwella. Hefyd, bydd grŵp cynrychioladol o fyfyrwyr presennol a graddedigion diweddar yn cyfarfod gyda’r Panel i roi eu hadborth ar y cwrs, mae hyn yn cynnwys digwyddiadau panel wedi eu cynnal mewn safleoedd darparu partner. Bydd y Panel yn gofyn cwestiynau er enghraifft am bynciau fel asesu ac adborth.

Cymryd rhan yng Nghynllunio ac Adolygu Rhaglenni – Myfyrwyr yn Adolygwyr

ar Banelau Arfarnu, Adolygiadau Rheolaidd a Phanelau Ailarfarnu

Buddion i PGW

Mae adborth myfyrwyr yn helpu i wella sut mae myfyrwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cael eu cefnogi a rhaglenni yn cael eu trefnu a’u rheoli.

Mae’n helpu i sicrhau bod myfyrwyr wrth galon penderfyniadau a bod profiad myfyrwyr yn parhau i gael ei wella.

Cyfrifoldebau Myfyrwyr Adolygwyr

Buddion i Fyfyrwyr

Rhoi profiad I fyfyrwyr o sut mae rhaglenni gradd PGW wedi eu cynllunio a’u cymeradwyo.

Magu sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys: mynd i’r afael â syniadau cymhleth, cyfathrebu llafar, gwneud penderfyniadau a gweithio mewn timau sy’n gwella’r CV

• Mynychu’r sesiwn hyfforddi a drefnir gan y Tîm Ansawdd Academaidd

• Adolygu’r ddogfennaeth cyn y digwyddiad

• Mynychu’r digwyddiad fel y trefnwyd

• Cymryd rhan mewn trafodaethau gyda’r rhaglen o dan adolygiad

• Darllen yr adroddiad drafft ar ôl y digwyddiad a darparu adborth fel y bo’n briodol

E-bostiwch

ragor o wybodaeth.

Cwynion ac Adborth

Mae PGW wedi ymrwymo i ddatrysiad cynnar cyn i faterion gynyddu i fod yn gŵyn.

Yn nhermau darparwyr partner dylai myfyrwyr ddilyn gweithdrefn gwyno’r darparwr yn y lle cyntaf, cyn gynted â bo’r broses bartner wedi ei chwblhau, mae gan fyfyrwyr mewn darparwyr partner yr hawl i gyfeirio’r gŵyn i’w hystyried gan PGW os ydynt yn parhau’n anfodlon.

Mewn llawer o achosion gellir delio â phroblemau neu gamddealltwriaethau yn anffurfiol trwy drafodaeth rhwng staff a myfyrwyr, er enghraifft trwy

Fforymau Llais Myfyrwyr neu trwy’r system gynrychioli myfyrwyr. Mewn enghreifftiau eraill, gall fod yn briodol i ddilyn y mater mewn ffordd fwy ffurfiol.

Mae ffocws cryf ar draws y Brifysgol i sicrhau bod gweithredoedd cynnar yn helpu myfyrwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu profiad myfyriwr yn un cadarnhaol. Ar bob achlysur, dylai myfyrwyr gael eu hannog i geisio cefnogaeth a chyngor diduedd gan Undeb y Myfyrwyr.

Mae gan Weithdrefn Gwyno Myfyrwyr PGW dri cham, cam lleol, cam ymchwilio a cham adolygu. Mae’r weithdrefn yn cael ei gweithredu’n deg, sensitif a diduedd gyda phwyslais ar ddatrys y gŵyn yn anffurfiol lle bynnag y bo’n bosibl. Mae’r weithdrefn i’w chael ar Moodle o dan ‘Rheoliadau a Pholisïau’: https://moodle.glyndwr.ac.uk/course/view.php?id=28

Cwynion ac Adborth

Mae cwynion yn cael eu dadansoddi ar gyfer tueddiadau gan y Dirprwy

Gofrestrydd Academaidd ac mae adroddiadau yn cael eu rhannu yn flynyddol gyda’r Bwrdd Academaidd a Bwrdd y Llywodraethwyr. Mae hyn

darparu data ystadegol a chymharol ac yn gwneud sylwadau ar effeithiolrwydd y weithdrefn ac yn gwneud argymhellion ynglŷn ag ymarfer da a gwelliannau i brofiad myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod llais myfyrwyr yn cael ei glywed ar lefel uwch a bod y Brifysgol yn gwella a dysgu’n barhaus o gwynion a chanmoliaethau.

Os yw unrhyw fyfyriwr yn dymuno gwneud cwyn y cyfeiriad e-bost cyswllt yw: complaints@glyndwr.ac.uk

Undeb Myfyrwyr Wrecsam Glyndŵr

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod cynrychiolaeth myfyrwyr effeithiol ar draws y sefydliad

ac yn y darparwyr partner. Mae nifer o ffyrdd y gall myfyrwyr rannu adborth a llunio’r ffordd y mae eu Hundeb Myfyrwyr yn gweithredu.

Mae Cyngor y Myfyrwyr yn Bwyllgor Undeb y Myfyrwyr sy’n gosod polisi Undeb

ac yn dal y swyddogion sabothol (Llywydd ac Is-Lywydd) i gyfrif. Mae’r aelodaeth yn cynnwys 15 o swyddogion ymgyrch rhan-amser etholedig. Mae’r swyddogion hyn yn fyfyrwyr ar hyn o bryd sy’n ymgymryd â’r rôl ar sail wirfoddol. Maen nhw’n trafod a phleidleisio ar bolisi sy’n llunio gwaith y swyddogion sabothol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Mae hyn yn cynnwys pa faterion y dylai’r swyddogion sabothol fod yn eu trafod gyda’r Brifysgol i wella profiad y myfyrwyr. Gall adrannau Prifysgol fynychu Cyngor y Myfyrwyr i gasglu adborth ynglŷn â’u gwasanaeth.

Mae swyddogion sabothol ac ymgyrch Undeb Myfyrwyr Wrecsam Glyndŵr hefyd yn casglu adborth trwy amrywiaeth o fecanweithiau sy’n bwydo i mewn i bwyllgorau Prifysgol.

1. 2018 -19 Gweithredoedd Allweddol

1. 2018 -19 Gweithredoedd Allweddol

1. 2018 -19 Gweithredoedd Allweddol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Student Engagement Policy Part 2 (Welsh) by wrexhamsu - Issuu