Skip to main content

Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru 2026 FfBB

Page 1


Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru

Noddwyr y Gynhadledd

Hoffem estyn ein diolch diffuant i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth hael, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.

9:00 9:30 9:35 9:40

Cofrestru, Lluniaeth a Rhwydweithio

Agor y Gynhadledd Gemma Casey, Business News Wales

Anerchiad Croeso John Hurst, Cadeirydd, FfBB Cymru

Anerchiad Noddwr Tony Fish, Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Sesiwn 1: Llywio Newid – Polisi, Aelodaeth a Deallusrwydd Artiffisial 9:45 10:05 10:15 10:45

Y Dirwedd Fusnes yng Nghymru: Edrych yn ôl ar Etholiad y Senedd

Joshua Miles, Pennaeth FfBB Cymru

Gwneud y Mwyaf o’ch Aelodaeth o FfBB

Darren Gallimore, Ymgynghorydd Aelodaeth, FfBB Cymru

Cyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial i Fusnesau Bach Gary Cheers, NorthWales.AI

Egwyl am Luniaeth a Bwrw Golwg ar yr Arddangosfa

Sefyll Allan o’r Dorf Phil Strachan, The Think Brand not bland Guy

Marchnata Eich Brand a Gwneud Cynnydd Paul Levy, Livetech

Troi Presenoldeb yn y Farchnad yn Werthiant

Dawn Roberts, SalesSharp by Outperform Services

Trafodaeth â Phanel Arbenigol a sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Gynulleidfa

Ymunwch â siaradwyr y bore i drafod yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu busnesau bach yng Ngogledd Cymru

Sylwadau i Gloi

Crynodeb o fewnwelediadau allweddol y gynhadledd a diolch i siaradwyr, noddwyr, arddangoswyr a chynrychiolwyr

Cinio, Rhwydweithio a Bwrw Golwg ar yr Arddangosfa

Sesiwn 2: O Frand i Refeniw – Strategaethau Ymarferol ar gyfer Twf Gwerthiant 11:30 11:50 12:10 12:40 12:55 13:00 14:30

Cyfle i gysylltu â pherchnogion busnesau eraill, siaradwyr, noddwyr ac arddangoswyr

Cau’r Gynhadledd

Cyflwynydd

Gemma Casey

Golygydd

Business News Wales

Gemma yw Golygydd y cwmni cyfryngau a chyfathrebu annibynnol Business News Wales. Dechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth gyda phapurau newydd lleol a daeth yn Olygydd Cymru ar gyfer y Press Association cyn ymuno â BBC Cymru, lle bu’n gweithio ym maes radio, newyddion teledu a materion cyfoes. Yna arweiniodd raglen beilot mewn darlledu lleol a oedd yn ceisio profi sut y gallai’r cyfrwng gefnogi busnesau bach a chanolig yn yr ardaloedd hynny.

Treuliodd ddegawd gydag un o fanciau’r stryd fawr, yn gofalu am gysylltiadau cyhoeddus rhanbarthol, yn ogystal â chynnal digwyddiadau ar gyfer busnesau o bob maint ac ym mhob sector, gan arwain ar ei raglenni cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig, gyda ffocws penodol ar fentrau ar gyfer menywod mewn busnes ac entrepreneuriaid o blith lleiafrifoedd ethnig.

Mae Gemma yn eiriolwr angerddol dros fusnesau bach a chanolig, rhywbeth y mae hi’n ei briodoli i dyfu i fyny gyda busnes bach yng Nghymoedd De Cymru, a oedd yn eiddo i’w theulu am bedair cenhedlaeth.

Mae Business News Wales yn llwyfan cyfryngau digidol annibynnol sydd â’r nod o ddarparu newyddion a dadansoddiadau deallus, wedi’u targedu at gymuned fusnes Cymru. Maent yn cysylltu sefydliadau, llunwyr polisi ac entrepreneuriaid trwy greu deunydd, ymgyrchoedd a digwyddiadau penodol i’r sector sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.

Siaradwr

John Hurst

Cadeirydd FfBB Cymru

Mae John yn gyd-gyfarwyddwr Gwasanaethau TG B2B sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Prynodd John i mewn i’r cwmni yn 2016 ac ers hynny mae ef a’i bartner busnes wedi adeiladu tîm sy’n rhannu eu gweledigaeth am y busnes fel y lle gorau i weithio a darparu gwasanaeth rhagorol i’w cwsmeriaid. Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn gweithredu o swyddfeydd yng Nghaerdydd, Torfaen, a Bryste.

Mae John wedi gweithio o’r blaen ar draws gweithgynhyrchu, technoleg, a gwasanaethau proffesiynol, gan roi persbectif eang iddo ar realiti rhedeg busnes. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio ym maes masnach ryngwladol, gan allforio i dros 100 o wledydd, mae’n deall yr heriau o dyfu busnes mewn byd lle na ellir rhagweld beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf.

Dilynodd John gwrs Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd cyn ennill MBA gyda rhagoriaeth o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â bod yn berchennog busnes, mae’n ŵr ac yn dad sydd â chariad dwfn at Gymru - ei phobl, ei thirweddau, ac egni ei chymuned fusnes. Mae John hefyd wedi bod yn llais gweithredol ym myd busnes a pholisi ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn aelod o Uned Bolisi Cymru FfBB ers saith mlynedd ac wedi cynrychioli FfBB ar y Bwrdd Cynghori ar Brentisiaethau a benodwyd gan Weinidog y Llywodraeth am bum mlynedd. Mae hefyd wedi dal swyddi eraill ar y bwrdd ac wedi cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon y Senedd, gan ddod â’i brofiad a’i fewnwelediad i helpu â llunio polisïau sy’n cefnogi busnesau bach.

Joshua Miles

Pennaeth FfBB Cymru

Joshua Miles yw Pennaeth Cymru ar gyfer Ffederasiwn y Busnesau Bach. Mae gan Josh brofiad sylweddol o bolisi cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig o safbwynt busnes.

Astudiodd bolisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Institut D’etudes Politiques Bordeaux ac mae ganddo MScEcon mewn Polisi Cyhoeddus. Mae rolau blaenorol Josh wedi cynnwys Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghyd-ffederasiwn Cludiant Teithwyr ac mae wedi gweithio ym maes polisi i FfBB Cymru ddwywaith o’r blaen.

Mae wedi bod yn aelod o sawl bwrdd gan gynnwys bwrdd ymgynghorol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, Tasglu’r Cymoedd a bwrdd cwmni Traveline Cymru.

Siaradwr

Ble i Ddechrau gyda Deallusrwydd Artiffisial: Canllaw Ymarferol i Fusnesau Bach

Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnesau bach wedi rhoi cynnig ar AI ond maent yn ei ddefnyddio tua 5% o’r hyn sy’n bosibl. Bydd Gary yn trafod pam mae’r rhan fwyaf o awgrymiadau’n siomi ac yn darparu’r ateb syml: awgrymiadau â dylanwad uchel y gallwch eu copïo a’u defnyddio ar unwaith, ochr-yn-ochr â dangos yr arferion y mae’r defnyddwyr AI gorau yn eu meithrin, yn rhydd o jargon.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Mae Gary wedi treulio 30 mlynedd yn helpu busnesau i dyfu trwy strategaeth ddigidol, a heddiw mae’n gweithio’n gyfan-gwbl ar fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar gyfer busnesau bach a chanolig ledled Gogledd Cymru. Gyda gyrfa sy’n cwmpasu’r holl faes digidol – o ddatblygu gwefannau i e-fasnach, marchnata cynnwys, gwneud y mwyaf o declynnau chwilio (SEO) a chyfryngau cymdeithasol – mae wedi gweithio gyda thros 100 o gleientiaid, o fasnachwyr unigol i fentrau gwerth miliynau o bunnoedd, gan gyflawni mwy na 250 o brosiectau ar draws pob sector.

Yn 2025, lansiodd Gary Wingenious.AI, cwmni ymgynghori AI ac awtomeiddio, gan helpu busnesau bach a chanolig i ddarganfod ble mae AI yn ffitio i’w busnes a’i roi ar waith. Eleni mae Gary wedi lansio pedair menter newydd:

• Clwb Cymdeithasol Digidol – Cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio yng Ngogledd Cymru ar gyfer proffesiynwyr digidol

• Clwb Brecwast AI – Rhaglen Hyfforddi AI 3 sesiwn ar gyfer Arweinwyr Busnes

• AI Am Ddim ar gyfer Archwilio – Teclyn AI i baratoi busnesau ar gyfer archwiliad ariannol

• AI Gogledd Cymru – Hyb rhanbarthol ar gyfer mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial yng Ngogledd Cymru www.northwales.ai www.linkedin.com/company/northwalesai www.facebook.com/northwalesai

Siaradwr

The Think Brand not bland Guy

Sefyll Allan o’r Dorf

Bydd Phil yn tanlinellu rôl bwysig brand unrhyw fusnes wrth ei osod yn gadarnhaol, er mwyn iddo sefyll allan o’r dorf a bod yn ddewis poblogaidd yn ei farchnad. Bydd yn trafod y ffaith, er bod perchnogion a rheolwyr busnesau bach a chanolig yn gosod cryn bwysigrwydd ar frandiau’r cynhyrchion a’r gwasanaethau maen nhw eu hunain yn eu dewis, mae’n ymddangos bod gormod yn anghofio pwysigrwydd brand o ran yr hyn mae eu busnes eu hunain yn ei gynnig.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Phil Strachan, yw’r Think Brand not Bland Guy I ddechrau, bu’n gweithio yn Llundain a De Prydain am 13 mlynedd ar ochr y cleient, gan weithio ar frandiau premiwm yn adrannau marchnata cwmnïau blaenllaw gan gynnwys Nestlé a Glaxo. Yna treuliodd 10 mlynedd ar yr ochr ymgynghoriaeth yn Llundain fel Partner Rheoli ei gwmni ymgynghori ei hun lle ysgogodd adfywio, ail-lansio, ail-leoli a.y.b. ar gyfer rhai brandiau adnabyddus ar gyfer cwmnïau uchel eu bri.

Wedi’i leoli ger Wrecsam ers 2021, am y 25 mlynedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ei sylw’n fwriadol ar weithio gyda busnesau newydd a sefydledig yn y sector busnesau bach a chanolig, a’u helpu i sefyll allan o’r dorf a symud i’r lefel nesaf. Mae Phil, a aned yng Nglasgow, yn tynnu ar ei gyfoeth o brofiad ac arbenigedd wrth weithio gyda busnesau a brandiau o bob siâp a maint, ar ochr y cleient ac fel ymgynghorydd, gan gynnig yr hyn y mae’n ei alw’n ‘ansawdd Llundain am brisiau Glasgow’.

Fel mae Phil yn ei gweld hi, mae gormod o bethau diflas allan yna, gormod o bethau diflas sy’n cynrychioli dim byd ac yn darparu fawr ddim rheswm go iawn i gwsmeriaid eu dewis nhw dros eu cystadleuwyr. thinkbrandnotbland.co.uk www.linkedin.com/in/philstrachan

Siaradwr

Livetech

Sut mae Busnesau Clyfar yn Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eu

Marchnata Ar Hyn o Bryd

Bydd Paul yn rhoi golwg ymarferol ar sut mae busnesau sy’n meddwl tua’r dyfodol yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella marchnata, gwelededd ac ymgysylltiad cwsmeriaid, ynghyd â throsolwg o sut mae deallusrwydd artiffisial yn newid chwiliadau, ymddygiad cwsmeriaid a strategaeth marchnata digidol.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Paul Levy yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Livetech, cwmni ymgynghori ym maes marchnata digidol a deallusrwydd artiffisial yng Ngogledd Cymru a sefydlwyd yn 2000 ac sydd wedi’i leoli yn Llandudno.

Ers dros 25 mlynedd, mae Paul wedi helpu busnesau i wella eu gwelededd ar-lein, eu hymgysylltiad â chwsmeriaid a’u perfformiad masnachol trwy wefannau, marchnata chwilio, cynnwys, awtomeiddio a strategaeth ddigidol. Ar ôl gweithio trwy esblygiad y rhyngrwyd o ddyddiau cynnar dylunio gwefannau a pheiriannau chwilio i dirwedd heddiw sy’n cael ei gyrru gan AI, mae’n cynnig safbwynt ymarferol ar sut y gall technoleg greu mantais fusnes wirioneddol.

Mae Livetech yn gweithio gyda sefydliadau ar draws ystod eang o sectorau, gan eu helpu i addasu i ymddygiad cwsmeriaid sy’n newid, technolegau chwilio sy’n esblygu a chyfleoedd newydd a grëwyd yn sgil deallusrwydd artiffisial. Mae ffocws y cwmni ar ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd ymarferol sy’n gwella effeithlonrwydd, yn cryfhau perfformiad marchnata ac yn cefnogi twf busnes hirdymor.

Heddiw, mae llawer o waith Paul yn canolbwyntio ar helpu busnesau i ddeall sut mae deallusrwydd artiffisial yn ail-lunio chwiliadau, marchnata a darganfod cwsmeriaid, a sut y gall sefydliadau fynd i’r afael â’r newidiadau hyn wrth gynnal y mewnwelediad, yr ymddiriedaeth a’r perthnasoedd dynol sy’n parhau i fod wrth wraidd busnes llwyddiannus.

www.livetech.co.uk www.linkedin.com/in/webdesignnorthwales www.facebook.com/livetechcreative

Siaradwr

Outperform Services & SalesSharp

Ble Mae Eich Gwerthiant Nesaf yn Cuddio

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau eisiau cynyddu gwerthiant, ond mae llawer yn dechrau yn y lle anghywir. Yn y sesiwn ymarferol hon, bydd Dawn Roberts yn dangos i chi ble y gallai eich cyfle gwerthu nesaf fod yn cuddio eisoes, o gwsmeriaid presennol a phrynwyr a gollwyd i ddyfynbrisiau a ddiflannodd yn dawel. Byddwch chi’n dysgu pam mae angen gwahanol negeseuon ar wahanol brynwyr, sut i osgoi geiriau gwag gwerthu generig, a sut i wneud eich dull gwerthu yn gliriach, yn fwy miniog ac yn fwy effeithiol. Bydd Dawn hefyd yn sôn am sut y gall deallusrwydd artiffisial gefnogi gwerthiant heb ddisodli’r meddwl dynol sy’n gwneud i werthu weithio.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Dawn Roberts yw’r Prif Hyfforddwr Gwerthu yn Outperform Services a sylfaenydd SalesSharp.

Gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant gwerthu ac ymgynghori, mae Dawn yn helpu busnesau i dorri trwy’r sŵn, mireinio sut maen nhw’n gwerthu, a dweud y peth iawn wrth y prynwr iawn. Mae ei harddull yn ymarferol, yn uniongyrchol ac wedi’i wreiddio yn yr hyn sy’n digwydd mewn sgyrsiau gwerthu go iawn, nid damcaniaethau allan o werslyfr.

Cyn sefydlu Outperform Services, roedd Dawn yn Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol yn BUPA Healthcare, lle arweiniodd ar ddatblygiad mwy na 700 o staff ar draws sawl safle. Ers hynny, mae ei hyfforddiant wedi cyrraedd miloedd o bobl ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynorthwyo timau gwerthu, perchnogion busnesau ac arweinwyr i gyfathrebu â mwy o eglurder, hyder ac effaith.

Mae SalesSharp yn troi meddylfryd gwerthu, methodoleg a phrofiad hyfforddi yn y byd go-iawn Dawn yn declyn ymarferol y gall busnesau ei ddefnyddio pan fo hynny bwysicaf. Mae’n helpu perchnogion busnesau a thimau i fireinio negeseuon gwerthu, paratoi ar gyfer sgyrsiau â chwsmeriaid, gwella cysylltiadau dilynol a meddwl am beth i’w ddweud nesaf.

Yn hytrach na disodli ochr ddynol gwerthu, mae SalesSharp yn ei chryfhau trwy helpu pobl i baratoi ar gyfer pob gwerthiant, strwythuro eu meddwl, a chyfathrebu â mwy o eglurder, perthnasedd a hyder. www.salessharp.co.uk www.linkedin.com/in/dawnrobertsoutperform www.facebook.com/outperformservices

Arddangoswyr

Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD)

Tony Fish yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr

Rhanbarthol (Gogledd a Chanolbarth Cymru) ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae Tony yn gweithio gyda chyflogwyr i gynnig cefnogaeth a chyngor ar fanteision cyflogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac aelodau o’u teuluoedd, cefnogi’r lluoedd wrth-gefn yn eich gweithlu a llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, yn ogystal â symud ymlaen trwy’r Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr.

Manylion Cyswllt

Tony Fish www.armedforcescovenant.gov.uk wa-reed2@rfca.mod.uk

FSB

O fusnesau newydd i’r rhai sydd am ehangu, mae FfBB yma i’ch helpu ar eich taith fusnes â’r nod o helpu busnesau llai i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau busnes hanfodol i’n haelodau gan gynnwys cyngor, arbenigedd ariannol, cefnogaeth a llais pwerus yn y llywodraeth.

Manylion Cyswllt

Mike Learmond www.fsb.org.uk mike.learmond@fsb.org.uk

All My Waste

Mae All My Waste yn Gludwyr Gwastraff Cofrestredig gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, gan sicrhau bod yr holl wastraff yn cael ei waredu’n gyfrifol. Maen nhw’n gweithio gydag elusennau, cwmnïau metel sgrap a masnachwyr eraill i ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint o’ch gwastraff â phosibl. Gan weithredu o fewn cwmpas o 60 milltir o Gaer, sy’n cynnwys Blackpool i’r Gogledd, Caergybi i’r Gorllewin, Derby i’r Dwyrain a Llwydlo i’r De, maen nhw’n dîm dibynadwy o bobl a fydd yn ymddangos pan maen nhw’n addo, ac yn gwneud gwaith gwych, gan ddargyfeirio dros 90% o wastraff o safleoedd tirlenwi.

Manylion Cyswllt

Phill Ridgway allmywaste.co.uk phill@allmywaste.co.uk

BCR Cymru

Mae BCR Cymru yn cyflenwi ac yn cynnal ystod o systemau EpoS, tiliau arian parod, cloriannau pwyso, peiriannau iâ, peiriannau golchi gwydrau, peiriannau golchi llestri a systemau teledu cylchcyfyng ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer, Cilgwri a thu hwnt. Maent yn cyflenwi ystod o gynhyrchion wedi’u cynllunio ar gyfer y sectorau Lletygarwch a Manwerthu, sy’n addas ar gyfer busnesau bach annibynnol a chadwyni mawr aml-safle, gan gynnig y pecyn meddalwedd gorau i weddu i bob cyllideb.

Manylion Cyswllt

Merfyn Bailey bcr.wales merf@bcr.wales

BMS Art Photography

Stiwdio ffotograffiaeth broffesiynol yng Ngogledd Cymru yw BMS Art Photography, sy’n gweithio ledled y DU. Mae’n arbenigo mewn ffotograffiaeth tu mewn i adeiladau moethus, lluniau pen-ac-ysgwyddau a phortreadau ar gyfer busnes corfforaethol, lletygarwch, ffotograffiaeth dull-o-fyw, yn ogystal â brandio a delweddau masnachol ar gyfer safleoedd, digwyddiadau a chynadleddau. O ofodau cain i frandiau personol cryf, maen nhw’n helpu cleientiaid i greu cynnwys gweledol cymhellol sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn gadael argraff barhaol.

Manylion Cyswllt

Barbara Smok www.bmsartphotography.com office@bmsartphotography.com

Busnes@Gwynedd

Busnes@Gwynedd yw Gwasanaeth Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd, sydd â’r nod o helpu busnesau ar draws Gwynedd i ddechrau, tyfu a ffynnu. Mae’r tîm yn darparu canllawiau ar gyllid a grantiau, cymorth datblygu busnes, cyfleoedd rhwydweithio, a rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai trwy gydol y flwyddyn. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae Busnes@Gwynedd yn cefnogi mentrau o bob maint i feithrin gwydnwch, croesawu cyfleoedd newydd a chyfrannu at economi leol ffyniannus.

Manylion Cyswllt

Tesni Williams www.gwynedd.llyw.cymru/en/Businesses/Help,support-and-training/Help,-support-and-training.aspx tesnihafwilliams@gwynedd.llyw.cymru

Coleg Cambria

Yn Cambria ar gyfer Busnes, maen nhw’n angerddol am helpu eich busnes i dyfu. P’un a oes angen cymorth arnoch i ddatblygu eich gweithlu neu ddod â thalent ffres i mewn trwy brentisiaethau a phrofiad gwaith, mae ganddyn nhw’r atebion sydd eu hangen arnoch chi. Maent mewn sefyllfa dda i gynorthwyo busnesau o bob maint, sector a lefel o ddatblygiad. Fel rhan o Goleg Cambria, un o’r colegau mwyaf blaenllaw yng Nghymru, maen nhw yma i deilwra cefnogaeth sy’n paratoi eich busnes ar gyfer y dyfodol.

Manylion Cyswllt

Sally Ewing www.cambria.ac.uk sally.ewing@cambria.ac.uk

Banc Datblygu Cymru

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu. Trwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol lle mae opsiynau wedi ymddangos yn gyfyngedig, gallant wireddu uchelgeisiau a thanio posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Manylion Cyswllt

Cara Williams developmentbank.wales info@developmentbank.wales

Yswiriant FfBB

Sefydlwyd Gwasanaeth Yswiriant FfBB ar gyfer Aelodau FfBB, er mwyn darparu datrysiadau yswiriant i fusnesau bach, cyngor arbenigol a buddion unigryw i aelodau wedi’u teilwra ar gyfer busnesau bach yn y DU. Fel un o’r manteision gwerthfawr sy’n perthyn i Aelodaeth FfBB, maent yn bartner dibynadwy ar gyfer yswiriant busnesau bach, gan ddarparu datrysiadau wedi’u teilwra i amddiffyn eich busnes a chynnig tawelwch meddwl.

Manylion Cyswllt

David Perry fsb-insurance-service.com David.Perry@fsbis.co.uk

Grwp Llandrillo Menai

Busnes @ Llandrillo Menai yw’r enw ar wasanaeth ymgysylltu â chyflogwyr Grŵp Llandrillo Menai, sef y sefydliad sy’n cwmpasu Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Maent yn cynnig pecynnau cymorth ar gyfer hyfforddi a datblygu i sicrhau bod gan yr holl staff y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol i alluogi perfformiad ar y lefel uchaf.

Manylion Cyswllt

Stephen Howell Lloyd www.gllm.ac.uk lloyd4s@gllm.ac.uk

Eryri Consulting Limited

Sefydlwyd Eryri Consulting Limited yn 2016 ac mae wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, gyda’r gallu i wasanaethu cleientiaid o bell ledled y DU. Gyda’u holl ymgynghorwyr yn Archwilwyr Arweiniol cymwys sydd wedi derbyn hyfforddiant helaeth ym mhob agwedd ar Iechyd a Diogelwch, Rheoliadau Dylunio ac Adeiladu (CDM), Rheolaeth Amgylcheddol, Diogelwch Tân, Seiber-ddiogelwch, Diogelu Gwybodaeth a Dylunio/Datblygu Gwefannau, maent yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf o ran cydymffurfiaeth.

Manylion Cyswllt

Glyn Hughes www.eryriconsulting.co.uk info@eryriconsulting.co.uk

Cymru Iach ar Waith

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru. Maent yn annog cyflogwyr i gymryd camau gweithredol ar iechyd a llesiant, gan eu cynorthwyo i greu arferion gwaith a gweithleoedd iach a diogel, er budd eu gweithwyr, eu busnes a’r gymuned ehangach.

Manylion Cyswllt

Deanna Hughes phw.nhs.wales/services-and-teams/healthy-workingwales Deanna.Hughes@wales.nhs.uk

HSBC UK

Mae HSBC yn un o sefydliadau gwasanaethau bancio ac ariannol mwyaf y byd, gan gefnogi busnesau o’u cychwyn hyd at dwf rhyngwladol. Yng Ngogledd Cymru a ledled y DU, maen nhw’n gweithio gyda busnesau bach i’w helpu i reoli bancio o ddydd i ddydd, cael mynediad at fenthyca a chyfalaf gweithio, a llywio newid yn hyderus. Gyda chymorth perthnasoedd arbenigol ac offer digidol, eu nod yw gwneud bancio’n symlach fel y gall perchnogion busnesau ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: gwasanaethu cwsmeriaid, creu swyddi a thyfu’n gynaliadwy.

Manylion Cyswllt

Alex Williams www.hsbc.co.uk alex.d.williams@hsbc.com

InSynch

Fel asiantaeth marchnata digidol yn y DU, mae InSynch wedi bod yn helpu busnesau i dyfu ers 2005. Gyda thîm o arbenigwyr marchnata digidol wedi’u lleoli ar draws Aberystwyth, Caerdydd, Amwythig a Bryste, maent yn cefnogi sefydliadau ledled y DU a ledled y byd bob dydd gyda strategaethau marchnata digidol sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Trwy fethodoleg Marchnata Digidol Cyflawn brofedig a gwahanol brosiectau ar gyfer y llywodraeth, maent yn darparu gwasanaethau marchnata digidol craidd, ymgynghoriaeth a hyfforddiant, â’r nod o helpu busnesau i gyflawni eu nodau.

Manylion Cyswllt

Eddy Webb www.insynch.co.uk enquiries@insynch.co.uk

Livetech

Mae Livetech yn gweithio gyda sefydliadau ar draws ystod eang o sectorau, gan eu helpu i addasu i ymddygiad cwsmeriaid sy’n newid, technolegau chwilio sy’n esblygu a chyfleoedd newydd a grëwyd yn sgil deallusrwydd artiffisial. Mae ffocws y cwmni ar ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd ymarferol sy’n gwella effeithlonrwydd, yn cryfhau perfformiad marchnata ac yn cefnogi twf busnes hirdymor.

Manylion Cyswllt

Paul Levy www.livetech.co.uk paul@livetech.co.uk

Penseiri Matthew Jones

Mae cwmni Matthew Jones yn bractis blaengar sy’n Siartredig â RIBA, sydd wedi’i leoli yng Nghonwy a’r Wyddgrug. Mae’n gweithio ledled Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer, gan helpu perchnogion tai a datblygwyr i droi syniadau yn ofodau y gellir eu hadeiladu, sydd wedi’u cynllunio’n dda. Trwy ddewis cwmni Penseiri Matthew Jones, rydych chi’n dewis tîm sy’n dylunio i’r safonau proffesiynol uchaf, gan helpu i sicrhau bod eich prosiect yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd, gan reoli’r broses fel y gallwch chi ganolbwyntio ar eich gweledigaeth yn hytrach na’r manylion.

Manylion Cyswllt

Matthew Jones www.matthewjonesarchitects.com matt@matthewjonesarchitects.com

Menter Môn – Busnes Cymru

Ers 30 mlynedd, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector cyhoeddus ac unigolion i gyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol. Mae’n fenter gymdeithasol nid-er-elw sy’n darparu prosiectau a gwasanaethau ledled Gogledd Cymru, gan geisio ychwanegu gwerth at y rhanbarth, yn ogystal â chreu cyfleoedd, trwy fentrau fel prosiect Ynni Llanw Morlais, a chyflawni contract Busnes Cymru.

Manylion Cyswllt

Richard Fraser-Williams businesswales.gov.wales richard.fraser-williams@annog.com

No Fluff Project Management

Mae Ian Wainwright wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn helpu sefydliadau i gyflawni prosiectau anodd a chymhleth yn llwyddiannus. Gan gyfuno ymgynghoriaeth, arweinyddiaeth prosiectau a hyfforddiant prosiectau ymarferol, creodd Ian y dull ‘Dim Ffwdan’ i symleiddio creu prosiectau a helpu proffesiynwyr i gyflawni canlyniadau go iawn, gyda ffocws ar gyflwyno ymarferol, nid cymhlethdod diangen.

Manylion Cyswllt

Ian Wainright pinestar.thinkific.com ian.wainwright@pinestarconsulting

NorthWalesAI

Mae Gary wedi treulio 30 mlynedd yn helpu busnesau i dyfu trwy strategaeth ddigidol, a heddiw mae’n gweithio’n gyfan-gwbl ar fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar gyfer busnesau bach a chanolig ledled Gogledd Cymru. Gyda gyrfa sy’n cwmpasu’r holl faes digidol – o ddatblygu gwefannau i e-fasnach, marchnata cynnwys, gwneud y mwyaf o declynnau chwilio (SEO) a chyfryngau cymdeithasol – mae wedi gweithio gyda thros 100 o gleientiaid, o fasnachwyr unigol i fentrau gwerth miliynau o bunnoedd, gan gyflawni mwy na 250 o brosiectau ar draws pob sector.

Manylion Cyswllt

Gary Cheers www.northwales.ai gary.cheers@wingenious.ai

RCS Cymru

Mae RCS yn fenter gymdeithasol wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru sy’n darparu cefnogaeth, hyfforddiant a therapïau personol i helpu unigolion a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant ar gyfer gwaith. Maent yn ymfalchïo mewn darparu hyfforddiant llesiant o ansawdd uchel a diddorol, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Hyrwyddwyr Llesiant, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Cymhelliant a Gwydnwch, Byw gyda Newid ac Ymdrin â Straen. Mae eu gwasanaethau o’r radd flaenaf yn trawsnewid miloedd o fywydau a busnesau bob blwyddyn.

Manylion Cyswllt

Sian Parry rcs-wales.co.uk/en hello@rcs-wales.co.uk

SuperTemps

Mae SuperTemps wedi bod yn recriwtio ledled Gogledd Cymru ers 1980, gan eu gwneud yr asiantaeth recriwtio hynaf yn y rhanbarth. Mae’r asiantaeth yn eiddo i’r teulu sy’n ei rhedeg, ac maent yn parhau i fod yn gwbl annibynnol ac yn falch o hynny, sy’n golygu eu bod yn hyblyg ac yn gallu addasu’n gyflym i anghenion penodol y cyflogwyr a’r ymgeiswyr maent yn gweithio gyda nhw. Gyda thros 40 mlynedd o brofiad, mae ganddyn nhw berthnasoedd gwych gyda chyflogwyr anhygoel, gan eu bod yn dod i wybod am gyfleoedd nad ydyn nhw bob amser yn cyrraedd y farchnad agored.

Manylion Cyswllt

Sarah Ellwood www.supertemps.co.uk sarahellwood@supertemps.co.uk

Rhwydwaith Busnes Gogledd Cymru

Mae Rhwydwaith Busnes Gogledd Cymru yn sefydliad aelodaeth croesawgar a phroffesiynol sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau ledled Gogledd Cymru. Wedi’i sefydlu gan yr entrepreneur cymdeithasol arobryn

Nina Sardar, mae’r rhwydwaith yn dod â pherchnogion busnesau, proffesiynwyr a sefydliadau ynghyd i feithrin perthnasoedd ystyrlon, codi eu proffil a chael mynediad at gyfleoedd newydd. Trwy ddigwyddiadau rheolaidd, cyflwyniadau strategol a chefnogaeth i fusnesau, mae aelodau’n dod yn rhan o gymuned ddibynadwy sy’n hyrwyddo mentrau lleol, yn annog twf ac yn cyfrannu at lwyddiant hirdymor economi Gogledd Cymru.

Manylion Cyswllt

Nina Sardar www.f2n.co.uk nina@f2n.co.uk

The Think Brand not bland Guy

Mae’n bryd ‘Meddwl o ddifri am eich brand’ os ydych chi am sefyll allan o’r dorf ac adeiladu brand go iawn, yn seiliedig ar addewid brand sy’n bachu sylw, yn hytrach nag ar addewid gwag a diflas. I adeiladu brand cryf sy’n seiliedig ar eich pwrpas, a’r hyn sydd ei angen arnoch chi i ddangos yr hyn rydych chi’n ei gynrychioli, cysylltwch â Phil Strachan heddiw!

Manylion Cyswllt

Phil Strachan www.thinkbrandnotbland.co.uk phil@thinkbrandnotbland.co.uk

Ambiwlans Awyr Cymru

Eleni mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu eu penblwydd yn 25 oed! Fe’i ffurfiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 ac mae’n gweithredu o ganolfannau ledled Cymru 24/7; mae’n cynnig gofal critigol uwch, ac yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ‘Adran Achosion Brys sy’n Hedfan’. Mae’r ymgynghorwyr a’r ymarferwyr gofal dwys sydd yn yr hofrennydd yn fedrus iawn, ac mae ganddynt rai o’r teclynnau meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Hyd yn hyn mae’r elusen wedi mynychu dros 58,000 o achosion. Dim ond diolch i gefnogaeth pobl ledled Cymru y mae hyn yn bosibl.

Manylion Cyswllt

Debra Sima www.walesairambulance.com DebraSima@walesairambulance.com

Prifysgol Wrecsam

Mae Tîm Menter Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned fusnes trwy ddarparu offer hanfodol, â’r nod o feithrin amgylchedd ar gyfer rhannu gwybodaeth a chreu partneriaethau effeithiol. Maent yn credu y dylai addysg fod yn hygyrch i bawb, o fusnesau newydd a graddedigion ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd, i arweinwyr busnes ac arloeswyr, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth i unigolion gyrraedd eu potensial llawn.

Manylion Cyswllt

Ian Rowley wrexham.ac.uk/business ian.rowley@wrexham.ac.uk

Eich amddiffyn chi a’ch busnes

Yn Ffederasiwn y Busnesau Bach, rydym wedi cynorthwyo perchenogion busnesau bach fel Frank i gychwyn, rhedeg a thyfu busnesau anhygoel ers 1974.

• Digwyddiadau rhwydweithio lleol a chenedlaethol am ddim

• Cymorth cyfreithiol ac amddiffyniad treth

• Cyngor AD 24/7

• Yswiriant costau cyfreithiol yn gynwysedig

• Disgowntiau unigryw i aelodau

• Mynediad i fwy na 1,500 o ddogfennau a thempledi cyfreithiol

Ymunwch heddiw

Dechreuwch eich aelodaeth gyda ni Ewch i fsb.org.uk/join am fwy o wybodaeth

Frank Jay Chilli Shop Ltd

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru 2026 FfBB by Federation of Small Businesses - Issuu