Adolygiad Blynyddol 2021-22
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Beth allwch chi ei ddisgwyl o’r ddogfen hon?
Dyma ddogfen sy’n nodi’r themâu a’r blaenoriaethau y bydd CECA Cymru yn mynd i’r afael â nhw dros y 12 mis nesaf. Maent wedi’u seilio ar ymateb ein haelodau a’n partneriaid ac ar asesiad gonest o’r heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi dros y 12 mis diwethaf ynghyd â’r rhai sydd o’n blaenau. Mark Bowen: Cadeirydd CECA Cymru
Ed Evans: Cyfarwyddwr CECA Cymru
d
u
2
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Felly, beth sydd wedi newid dros y 12+ mis diw
Bob blwyddyn rydym yn ailedrych ar ein blaenoriaetha gyfer y 12 mis sydd i ddod. Rydym yn gweld beth sydd newid yng Nghymru a’r tu hwnt ac yn ystyried beth y m angen i ni ei wneud i sicrhau bod yr amgylchedd busne ag y gall fod ar gyfer ein haelodau. Mae hynny’n golygu edrych yn ôl, ystyried ein sefyllfa ar y pryd a beth y mae angen i ni ei wneud ar gyfer y dyfodol. Ac, o gofio pa mor “rhyfedd” y bu’r blynyddoedd diwethaf, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n pwyso a mesur nawr. Roedd y llynedd, 2021, fel 2020 o’i blaen, yn gyfnod “ansicr”, yn wahanol iawn i’r degawd cynt a fu’n gyfnod gweddol sefydlog. Mae pandemig Covid19 wedi tarfu’n fawr ar y byd i gyd ac mae effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi dod yn llawer mwy amlwg, yn enwedig gan fod y “cyfnod pontio” wedi dod i ben. Mae’r ddau beth yn dal i herio “ein ffordd ni o wneud pethau” gan effeithio ar chwyddiant, deunyddiau a llafur. Yn ogystal, daeth COP26 a gwneud i ni feddwl am heriau dramatig newid hinsawdd a fydd, os na wnawn ni ymateb, yn llawer mwy o fygythiad i’n dyfodol na Brexit na’r pandemig.
wethaf?!
au ar d wedi mae es cystal Yng Nghymru, mae CECA Cymru, fel rhan o Gynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru (WCFA), wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu Fforwm Adeiladu gweinidogol Cymru gan ddod â’r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i fynd i’r afael â phryderon y diwydiant. Y chwe maes blaenoriaeth yw amlygrwydd llif gwaith, arferion talu, caffael, pobl a sgiliau, y broses gynllunio a chaniatáu ac, fel y disgwyliech, newid hinsawdd a’r angen i ddatgarboneiddio ein seilwaith. Mae themâu CECA Cymru yn cynnwys pob un o’r chwe maes blaenoriaeth hyn naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn symud yn gyflym tuag at ddyfodol “sero net” ac nid yw hyn yn amlycach yn unman nag ym maes trafnidiaeth, gyda phrosiectau ffyrdd yn cael eu “gohirio” neu eu canslo wrth i ni aros am ganlyniad “Adolygiad Ffyrdd” Llywodraeth Cymru. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n debygol o arwain at ragor o newid (yn Lloegr a’r Alban hefyd, o bosib) gyda ffrydiau buddsoddi’n cael eu hailgyfeirio i gynlluniau trafnidiaeth carbon is, yn enwedig o ran teithio ar reilffyrdd a bysiau, teithio llesol a buddsoddi yn ein hasedau presennol. Yn ogystal, mae’r Cytundeb Cydweithio a wnaed yn ddiweddar rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar dai cymdeithasol, prosiectau ynni adnewyddadwy, ansawdd dŵr a chyflenwi dŵr, bioamrywiaeth a rheoli perygl llifogydd. Mae’r adroddiad Datgarboneiddio Ein Seilwaith (Decarbonising
Our Infrastructure) a gynhyrchwyd gan CECA Cymru yn dilyn ein cynhadledd gyda’r Association of Consultancy and Engineering (ACE) a Chymdeithas y Syrfewyr Sirol (CSS) eisoes yn rhoi cynllun gweithredu i ni er mwyn bwrw ymlaen â newidiadau ar draws ein sector.
3
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Mae recriwtio a chadw gweithlu medrus iawn bob amser yn her ond daeth hyn hyd yn oed yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod cyfleoedd i wella’r sefyllfa trwy gymwysterau adeiladu newydd yng Nghymru ac ymdrech i gynyddu’r defnydd o feini prawf gwerth cymdeithasol, bydd angen cryn ymdrech ac egni i wneud hyn a bydd yn golygu bod rhaid i gontractwyr gymryd rhan amlycach yn y maes. Mae sefyllfa caffael yn newid hefyd, gyda deddfwriaeth yn symud ymlaen ar lefel y Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (Transforming
Public Procurement) ac, yng Nghymru, gyda chyflwyno’r Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Fodd bynnag, mae caffael yn dal yn dipyn o her i gontractwyr, gydag anghysondeb yn nulliau gweithredu cleientiaid a gweithdrefnau biwrocrataidd yn lleihau gwerth yr hyn y gall contractwyr ei gyflawni. Mae’r adolygiad a wnaeth David Mosey yn ddiweddar o fframweithiau, Constructing the Gold Standard, sy’n cynnwys safbwyntiau blaenorol CECA, yn cynnig argymhellion i fynd i’r afael â rhai o bryderon y diwydiant. Mae’r holl syniad o “gaffael ar sail gwerth”, sy’n cynnwys meini prawf gwerth cymdeithasol a charbon, hefyd yn cynnig cyfleoedd i drawsnewid y maes heriol hwn ond, er mwyn i hynny ddigwydd, mae’n rhaid i gleientiaid adeiladu a’u cynghorwyr, yn ogystal â chontractwyr ac ymgynghorwyr, fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Ac mae partneriaethau fel ffordd o wella’r sefyllfa i’r aelodau yn dal mor bwysig ag erioed, yn enwedig gan fod mwy a mwy o’n trafodaethau wedi bod yn digwydd ar lein a bod y partneriaethau hyn wedi cryfhau effaith ein gwaith gyda chleientiaid.
Felly, wrth symud i mewn i 2022, byddwn yn canolbwyntio ar y themâu a ganlyn ar gyfer y diwydiant: 1.
Codi proffil: Byddwn yn tynnu sylw at werth buddsoddi mewn
2.
Caffael: Byddwn yn cydweithio â’n holl bartneriaid i symleiddio
3.
Cefnogi pobl: Byddwn yn ceisio denu pobl newydd i’n diwydiant
4.
Cydweithio: Byddwn yn dal i ddatblygu, cynnal a meithrin
seilwaith ar lefel economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
arferion caffael cyhoeddus
a datblygu ein gweithluoedd presennol ar gyfer y dyfodol
partneriaethau gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i’n haelodau
5.
Cefnogi lleihau carbon: Byddwn yn cefnogi ein haelodau a’n partneriaid i sicrhau bod ein gwaith ar seilwaith yn cael llai o effaith o ran carbon
Ac os hoffech wybod beth y bydd hyn yn ei olygu yn ymarferol, darllenwch ymlaen!
4
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Codi proffil 1.
Byddwn yn tynnu sylw at werth buddsoddi mewn seilwaith ar lefel economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol trwy:
A.
Adolygu’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP) newydd a
B.
Adolygu cyllidebau diweddaraf y llywodraethau (Cymru a’r DU) a pharatoi
pharatoi adroddiad ar “werth y sector”
adroddiad ar benderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn seilwaith er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau
C.
Dylanwadu ar benderfynwyr er mwyn sicrhau ffyrdd newydd o edrych ar werth cymdeithasol/buddiannau cymunedol
2.
Byddwn yn dal i godi proffil CECA Cymru ymhlith cleientiaid, gwleidyddion a gwneuthurwyr polisïau trwy:
A.
Barhau i ymwneud â gwleidyddion mewn digwyddiadau priodol
B.
Cynnal ein Cynhadledd Flynyddol gyda’n partneriaid
C.
Adolygu proffil CECA Cymru ymhlith partneriaid a rhanddeiliaid
3.
Byddwn yn cyfrannu at waith llunio polisïau ac yn dylanwadu arno trwy:
A.
Gyfrannu at adolygiadau llywodraethau Cymru a’r DU
B.
Cymryd rhan arweiniol mewn ‘grwpiau diwydiant’ priodol a phenodol
C.
Ymwneud â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a chyfrannu ato
4.
Byddwn yn gwella cyfathrebu mewnol ac allanol trwy:
A.
Baratoi cynllun cyfathrebu ar gyfer 2022
B.
Adolygu effaith gwefan CECA Cymru
C.
Cyhoeddi papur briffio wythnosol CECA Cymru
D.
Ymwneud â’r holl gyfryngau gan roi cyfweliadau a darparu erthyglau, blogiau a datganiadau i’r wasg
5
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Caffael 1.
Byddwn yn dal i weithio ar draws y sector i symleiddio arferion caffael cyhoeddus trwy:
A.
Gyfarfod yn rheolaidd â chleientiaid allweddol
B.
Cydweithio â Fforwm Adeiladu Cymru
C.
Cyfrannu’n uniongyrchol at Weithgorau’r Fforwm
D.
2.
Cydweithio â phartneriaid i ddatblygu pecyn cymorth “caffael ar sail gwerth”
Cyfrannu at bolisïau caffael cyhoeddus a dylanwadu arnynt:
A.
Hyrwyddo adolygiad David Mosey o fframweithiau, Constructing the
B.
Cyfrannu at ddatblygiad Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael
Gold Standard, ymhlith cleientiaid er mwyn gweithredu’r arferion gorau
Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ac adolygu’r hyn a ddaw o’r Transforming Public Procurement Bill gan Lywodraeth y DU
C.
Cyfrannu at gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Caffael Cyhoeddus
3.
Byddwn yn cefnogi cynlluniau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar draws y sector trwy:
A.
Gydweithio â chleientiaid i gyhoeddi eu rhaglenni gwaith 12-24 mis
B.
Cyfrannu at drafodaethau ar daliadau teg a chadw staff, a dylanwadu
C.
Hyrwyddo dulliau mwy teg o reoli risg ymhlith cleientiaid
ar y trafodaethau hynny
6
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Cefnogi pobl 1. A.
Byddwn yn ceisio denu rhagor o bobl i’r diwydiant trwy:
Barhau i gydweithio â Cymwysterau Cymru, City and Guilds a CBAC i ddatblygu a chyflwyno cymwysterau newydd Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ar lefel TGAU, Lefel A a Phrentisiaeth Sylfaen
B.
Ymwneud mwy ag ysgolion a cholegau i gefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru – gan ddefnyddio cyfleoedd ar gyfer gwerth cymdeithasol lle bo modd
C. D. E.
Cefnogi llwybrau newydd i’r diwydiant, yn cynnwys llwybrau i gyflogi cyn-droseddwyr a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog Ymwneud mwy â’n haelodau iau trwy ein Grŵp Sylfeini Cydweithio â thîm Fframwaith Peirianneg Sifil De-ddwyrain Cymru i ddatblygu model i sicrhau gwell gwerth cymdeithasol.
2. A. B. C.
3.
Byddwn yn cefnogi datblygiad ein pobl trwy:
Ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu NEC4 ar gyfer yr aelodau yn 2022 Cynnal Gwobrau Blynyddol CECA Cymru 2022 Cynnal Her Arweinyddiaeth Flynyddol CECA Cymru yn y gogledd a’r de
Byddwn yn sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant ein pobl trwy:
A.
Hyrwyddo a chefnogi rhaglen flynyddol CECA,
B.
Hyrwyddo rhaglenni “Fairness, Inclusion and
“Stop. Make a Change”
Respect (FIR)” CECA
7
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Cydweithio 1.
Byddwn yn dal i ddatblygu, cynnal a meithrin partneriaethau gyda sefydliadau eraill er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i’n haelodau, yn cynnwys:
A.
Fforwm Adeiladu Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y Gweithgor
B.
Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru (WCFA)
C.
Cynghrair Seilwaith Cymru (WIA)
Seilwaith
D.
Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau cysondeb ar faterion
E.
Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i sicrhau bod buddsoddi mewn
F
CITB i sicrhau cyfraniad cryf o faes peirianneg sifil i weithgareddau
G.
Eraill, yn cynnwys y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), Cynnal Cymru,
seilwaith
sgiliau adeiladu’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru
sgiliau a hyfforddiant
Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB), y CBI a Siambrau Masnach i ddylanwadu ar agenda ehangach seilwaith
2. A. B. C.
Byddwn yn cydweithio â phartneriaid penodol ar gynlluniau penodol:
Fforwm Adeiladu Cymru i ddarparu’r rhaglen waith y cytunwyd arni Y Lluoedd Arfog, fel rhan o’n hymrwymiad i’r Cyfamod, i annog cyfleoedd traws-sector ac adeiladu ar ein Her Arweinyddiaeth CITB Cymru ar brosiectau penodol yn ymwneud â sgiliau
8
CECA Wales - Annual Review 2021-22
Cefnogi lleihau carbo Byddwn yn cefnogi cleientiaid adeiladu i leihau ôl troed carbon prosiectau seilwaith ledled Cymru drwy gydweithio â Fforwm Adeiladu Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni Cynllun Gweithredu CECA Cymru ar sail yr adroddiad Datgarboneiddio Ein Seilwaith (Decarbonising Our Infrastructure) 2021.
1.
Bydd pedair thema allweddol i hyn:
A.
Cyfiawnhau – sicrhau bod perfformiad carbon yn rhan annatod o
B.
Caffael – sicrhau bod prosesau caffael yn adlewyrchu perfformiad
C.
Defnyddiau a thechnoleg – sicrhau bod y defnyddiau a’r
D.
Datblygu Busnes – cefnogi busnesau i sicrhau dyfodol di-garbon
fodelau cyfiawnhau buddsoddi
carbon
technolegau a ddewisir yn adlewyrchu perfformiad carbon
on
2.
Byddwn yn cefnogi’n haelodau i ddatgarboneiddio eu gwaith trwy:
A.
Gynnig arweiniad ar ffyrdd o leihau eu hôl troed carbon
B.
Gwella’u dealltwriaeth o’r ffordd y gall BBaChau gynllunio sut i reoli carbon
9