
1 minute read
Cymdeithas Cymraeg Dyserth
Cymdeithas Cymraeg Dyserth
Mae’r gymdeithas wedi bod yn brysur yn ddiweddar gyda taith allan am dro, noson bingo a cymeryd rhan yn Y Cwis Mawr. Tair o’n selogion, Catrin, Dilys a Helen a drefnodd yr am dro a’r bingo a fu pawb wrth eu boddau yn mwynhau’r hwyl. Ruth a Iorwen o Menter Iaith Sir Ddinbych a drefnodd y Cwis Mawr a bu i un o timau Dyserth

Mae’n nosweithiau ni bellach ar drydydd nos Lun y mis, yn cychwyn am 7 yr hwyr yn Neuadd Paterson, tu ôl i gapel Horeb. Mae yna sgwrsio am hen ddyddiau Dyserth, trafod defnydd o’r iaith yn y pentref ac wrth gwrs cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg hefyd. Nid oes côst mynediad ond croesewir cyfraniadau at banad a bisgedan. Dewch draw – fe gewch groeso cynnes.
