1 minute read

Cymdeithas Cymraeg Dyserth

Next Article
Crest Cooperative

Crest Cooperative

Cymdeithas Cymraeg Dyserth

Wel, mi fu dathlu dros y Dolig i’r Gymdeithas. Aeth criw ohonom i lawr i’r Dafarn Newydd i fwynhau cinio Nadolig .. yn ddysgwyr ac yn siaradwyr rhugl … a mwynhau noson o sgwrsio a hwyl. Diolch i’r Dafarn Newydd am fwyd bendigedig ac i Menna, ein Trysorydd am drefnu hamperi gwych ar gyfer y raffl.

Bydd ein cyfarfod mis Ionawr i lawr yn siop Eliza Mac wrth y groesffordd lle y byddem yn gweu a chrosio drwy’r Gymraeg. Profiad newydd i nifer ohonom! Fel arfer, mae croeso i aelodau newydd, felly dewch am 7 yr hwyr ar yr 20fed. Ym mis Chwefror mi fyddem yn ol yn ein cartref arferol ar yr 17eg, sef Neuadd Paterson y tu ôl i Gapel Horeb, lle y gawn noson ‘Brethyn Cartref’ o dan arweiniad Lywena, un o’n aelodau. Pawb i ddod ag eitem sydd yn bwysig iddynt i gychwyn sgwrs anffurfiol.

This article is from: