
1 minute read
Cymdeithas Cymraeg Dyserth
Cymdeithas Cymraeg Dyserth
Pleser mawr oedd croesawu ein siaradwr gwadd, Eifion Griffiths, i’n cyfarfod mis Hydref. Bu pawb yn mwynhau clywed am natur trwy’r tymhorau gan Eifion a gyflwynodd y pwnc mewn ffordd gwybodus, difyr a hwyliog.
‘Brethyn Cartref’ oedd teitl ein cyfarfod mis Tachwedd, sef noson tipyn-o-bob-dim. Y syniad oedd i bawb ddod ag eitem gyda nhw oedd yn bwysig neu yn ffefryn iddyn nhw a sgwrsio am ychydig amdano. Wrth sbio ymlaen i mis Rhagfyr, mae pawb yn edrych ymlaen i ddathlu yn y Dafarn Newydd dros bryd blasus ar noson ein cyfarfod misol. Mwy o hanes am hynny yn y Dyserth Times nesaf!
Cofiwch fod croeso i aelodau newydd, yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu yn ddysgwyr. Rydym yn grŵp croesawgar ac fe gewch banad a sgwrs. Beth am ymuno â ni yn y flwyddyn newydd? Dewch draw i Neuadd Paterson, y tu cefn i gapel Horeb ar stryd fawr Dyserth erbyn 7pm ar nos Lun yr 20fed o Ionawr.
