Skip to main content

Newyddlen Rhagfyr 2023 - Oedolion, Iechyd a Llesiant

Page 1

OEDOLION, IECHYD A LLESIANT

NEWYDDLEN RHAGFYR 2023


Gair gan Aled A dyna ni. Blwyddyn arall bron ar ben. Lle aeth 2023 dwedwch? Efallai bod y pwysau a’r prysurdeb yr ydym yn ei wynebu yn ein gwaith o ddydd i ddydd yn medru gwneud edrych yn ôl a chofio be sydd wedi ei gyflawni dros y 12 mis diwethaf ychydig yn niwlog. Mae o i mi beth bynnag, o leiaf tan mae rhywun yn cymryd rhyw gam yn ôl a neilltuo ‘ychydig o amser i feddwl. Fel bob blwyddyn arall rydych chi, staff yr adran, wedi cyflawni llawer iawn. Mae eich ymroddiad a’ch gwaith diflino wedi gwneud cyfraniad pwysig i gefnogi unigolion bregus ar draws y Sir. Efallai nad ydi wedi bod yn bosib cyflawni popeth y byddech wedi dymuno ar ran trigolion Gwynedd neu efallai nad ydi popeth wedi gweithio’n berffaith ond mae gennych lawer iawn i ymfalchïo ynddo o ran beth sydd wedi ei wneud. Rydych wedi ac yn gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau hwy ac ym mywydau eu teuluoedd, gofalwyr ac ati. Hoffwn gyfleu fy niolch personol i ac uwch reolwyr yr Adran i chwi am eich gwaith caled mewn amgylchiadau heriol yn ogystal â diolch ar ran Dilwyn Morgan ein haelod cabinet, Dylan ein Cyfarwyddwr a’r Cyngor yn ehangach. Mae’n debyg na allaf beidio â chyfeirio at y newidiadau sy’n digwydd yn strwythur uwch-reolaethol yr Adran ar hyn o bryd. Gyda Helen bellach wedi ymddeol, rwy’n gobeithio y bydd Mari yn symud o’i rôl bresennol i swydd Uwch Reolwr Anableddau Dysgu ar sail secondiad yn ystod mis Ionawr ac o fewn amserlen debyg iawn rwy’n obeithiol y byddaf hefyd wedi llwyddo i ôl-lenwi swydd Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion. Mae elfen o ansicrwydd yn codi o bob newid ond mae yna gyfleoedd yn ogystal. Cyfleoedd i adeiladu ar gryfderau gwasanaethau presennol a’u datblygu ar gyfer diwallu anghenion gofal yn y dyfodol. Felly, ar ddiwedd y flwyddyn, diolch i chi oll am eich gwaith a’ch cyfraniad yn ystod 2023. Bydd 2024 yn cynnig heriau tebyg ac ambell un newydd rwy’n siŵr, ond cyn i 2024 gyrraedd hoffwn ddymuno cyfarchion y tymor i bob un ohonoch a’ch teuluoedd. Mwynhewch. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda. Aled


Ffarwelio â Helen gan Aled Davies

Wedi gweithio gyda ni am 34 o flynyddoedd, mae Helen Fôn Owen wedi gadael cyflogaeth Cyngor Gwynedd ar ddechrau’r mis yma. Roedd Helen yn ymddeol ar sail iechyd oherwydd bod cyflwr golwg sydd ganddi wedi gwaethygu’n sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae’r cyflwr wedi gwneud hi’n anodd iawn iddi ymgymryd â dyletswyddau’r rôl/swydd yn gyffredinol ac yn bendant o ran y ffordd y byddai Helen yn awyddus gwneud y swydd. Fel Adran a Chyngor rydym wedi gweithio yn agos gyda phartneriaid eraill i geisio rhoi pob cymorth o ran addasiadau a chefnogaeth i Helen. Gwn hefyd fod rheolwyr, cydweithwyr a theulu Helen wedi ceisio gwneud pob peth o fewn eu gallu i’w chefnogi. Yn anffodus, er y cyd-ymdrechion yma, oherwydd bod y cyflwr wedi gwaethygu mae’r arweiniad meddygol wedi arwain Helen a ninnau fel cyflogwr at ganlyniad yr oeddem wedi gobeithio ei osgoi. Mae ei phroffesiynoldeb, ei harbenigedd, ei brwdfrydedd a’i hawydd ac ymrwymiad i gynnig cefnogaeth a gofal i rai o’r unigolion mwyaf bregus yng Ngwynedd wedi bod yn gyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith yma yng Ngwynedd. Bydd ymddeoliad Helen yn gadael cryn fwlch yn yr Adran ac yn bendant yn y Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Rwyf wedi trafod y materion yma yn aml gyda Helen dros y misoedd diwethaf ac rwy’n gwybod fod gorfod gadael yn ei gwneud hi’n drist ond dan yr amgylchiadau ei bod yn teimlo mai dyma’r peth iawn iddi hi’n bersonol. Fe fyddaf innau a chithau oll rwy’n siŵr yn rhannu’r teimlad yna o dristwch ar Helen yn ymddeol. Mae Helen wedi gofyn i mi gyfleu ei diolch personol i bawb sydd wedi rhoi cefnogaeth bach neu fawr iddi gyflawni ei swydd dros y blynyddoedd neu wedi addasu trefniadau ayyb. mewn ymateb i’r cyflwr. Helen Fôn Owen Arwres gu i'r lluoedd - un wylaidd a hael i'r teuluoedd; Annog sicr i'r bregus oedd ei nodded drwy'r blynyddoedd. Diolch! I'th waith daeth diwedd - rhoddaist d'ymroddiad a'th rinwedd annwyl, boed it nawr hwyl, hedd, a gwên, a diolch Gwynedd. Helen, daeth d'ymddeoliad - a dyddiau dedwyddwch, rhown gariad a pharch yn ein cyfarchiad i fynnu oes o fwynhad. I Helen, ein hanwylaf - a'i hwyliau'n heulog, y dirionaf a'n heilun, fe ddymunaf asbri a bri dyddiau braf. Huw Dylan


Llongyfarchiadau Mari Yn sgil ymddeoliad Helen Fôn Owen roedd bwlch yn cael ei adael fel Uwch Reolwr Gwasanaethau Anableddau Dysgu. Mae cryn ystyriaethau wedi cael ei wneud er mwyn a rhoi pwyslais ar adeiladu ar y cryfderau presennol ac wrth gwrs i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Canlyniad hyn yw y bydd Mari Wynne Jones, Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion yn yr Adran yn trosglwyddo i’r swydd ar sail secondiad. Bydd Mari yn cychwyn ar y gwaith hyn yn fuan yn y flwyddyn newydd. Bydd cyfle i aelodau o staff ddatganiad eu ddiddordeb mewn cyfle datblygu i lenwi swydd bresennol Mari yn fuan. Fe fydd hynny hefyd ar sail secondiad. Llongyfarchiadau Mari a dymuniadau da i ti ar yr her newydd.

Cyfleoedd Gwaith Yn dilyn penodi Andy, Glesni a Jonjo (Richard Henry Jones) fel Gweithiwyr Cefnogi Cyfleoedd Gwaith mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth. Yn ardal Arfon mae hyd at 25 o unigolion bellach yn cael eu cyflogi i gyflawni’r cytundeb cynnal a chadw sydd gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu gyda Chyngor Tref Caernarfon. Mae eu dyletswyddau yn amrywio o sicrhau fod parc Coed Helen yn daclus a glanhau’r ystafelloedd newid i waith cynnal a chadw ar y wardiau. Enghreifftiau o’r gwaith maent wedi cwblhau dros y misoedd diwethaf ydy trwsio a thacluso lloches bws yn ward Cadnant a thrwsio ffens dros yr Aber. Maent hefyd yn y broses o sandio ac ail beintio’r planwyr sydd ar hyd y dref yn eu gweithdy yng Nglynllifon. Unwaith y byddent ar ei newydd wedd a blodau’r Gwanwyn wedi eu plannu byddent yn cael eu cludo’n ôl i'r dref! Mae llawer iawn o fwrlwm wedi bod yn Ne Gwynedd hefyd. Yn ogystal â dod i adnabod gwahanol gyfranogwyr a chyflogwyr sy'n ymwneud â'r cynllun yn barod, yr ydym hefyd yn brysur yn codi ymwybyddiaeth o'r cynllun yn gyffredinol yn yr ardal. Yn ogystal â chysylltu ag amrywiol gyflogwyr, mae llwyddiannau cynnar wedi gweld lleoliadau yn cael eu sefydlu yng Ngholeg y Bala, Caffi Gwalia ym Mhwllheli ac Ysgol Hafod Lon ymhlith eraill. Gobeithiwn mai dim ond y dechrau yw hyn i ddatblygu cynllun llwyddiannus iawn a fydd yn arwain at greu llawer o gyfleoedd cyflogaeth dros y 12 mis nesaf a thu hwnt!


Brechlyn Ffliw

Bob blwyddyn mae firysau, megis ffliw, yn lledaenu ac yn achosi salwch mewn nifer eang o bobl. Credir fod hyd at 25,000 o unigolion yng Nghymru a Lloegr yn marw yn sgil ffliw bob blwyddyn. Mae’n yn arbennig o beryglus i bobl sy'n agored i haint, fel yr henoed, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae derbyn brechiad ffliw blynyddol yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu'r ffliw. Argymhellir yn gryf bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn amddiffyn eich hun, eich cydweithwyr, eich teuluoedd a'r rhai yn eich gofal. Pwy sy’n gymwys o dderbyn brechlyn ffliw am ddim? Staff mewn cartrefi gofal Staff mewn cartrefi nyrsio Staff â chyswllt rheolaidd â chleientiaid Gofalwyr cartref Ffeithiau Allweddol am Ffliw: Mae’r ffliw yn lladd Mae’r ffliw yn gallu lledaenu’n hawdd mewn lleoliadau megis cartrefi gofal, gan roi staff, preswylwyr ac ymwelwyr mewn perygl Mae brechlyn y ffliw yn ddiogel Brechlyn y ffliw yw'r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu'r ffliw Yn yr wythnosau nesaf byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i dderbyn y brechlyn ffliw, gofynnwn yn garedig i chi gymryd y cyfle hwn a threfnu eich brechlyn cyn gynted a bo modd. Os nad ydych wedi derbyn cais, gadewch i'ch rheolwr wybod fel bod modd i ni gynorthwyo chi i dderbyn apwyntiad. Trefnwch eich brechlyn ffliw heddiw, gall achub bywydau.

Holi’r Cyfarwyddwr Ym mis Hydref eleni, cyflwynwyd ffordd newydd o hyrwyddo cyswllt rhwng staff yr adran ac arweinyddion yn ffurf y drefn ‘Holi’r Cyfarwyddwr.’ Yn barod, mae Huw Dylan Owen wedi annerch sawl cwestiwn pwysig a pherthnasol i staff yr adran. Cliciwch yma i weld atebion y cyfarwyddwr i gwestiynau sydd wedi codi hyd yma, am bynciau ymysg cyflogau gweithwyr cymdeithasol, amodau gwaith a dyfodol gwasanaethau cymdeithasol. Isod, gwelwch esboniad a manylion pellach o ran y drefn ei hun, ac edrychem ymlaen at fwy o atebion yn y flwyddyn newydd. Eich cyfle chi i holi Dylan Gwasanaethau Cymdeithasol

Owen,

Cyfarwyddwr

y

Mae’n holl bwysig eich bod chi, fel staff y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cael cyfle i ofyn cwestiynau, neu gynnig sylw ac adborth am eich gwaith a’r pethau sy’n bwysig i chi.


Rydym eisiau clywed gennych - am y pethau sy’n mynd yn dda a’r pethau sydd ddim yn gweithio cystal. Er mwyn galluogi i chi wneud hyn mewn modd hwylus a hawdd i chi rydym wedi agor y ‘blwch sylwadau’ rhithiol: Sut mae’r drefn yn gweithio? Bydd y cwestiwn neu sylw yn gwbl ddi-enw ac anhysbys. Ar ôl i chi gyflwyno eich cwestiwn neu sylw bydd Dylan yn ymateb drwy fwletin arbennig a fydd wedi ei greu’n unswydd ar gyfer rhannu’r holl gwestiynau ac atebion. Ni fydd atebion yn cael eu derbyn yn bersonol ac unigol, gan na fydd gennym ffordd o wybod pwy fydd wedi anfon y cais. Felly, bydd atebion yn cael eu hanfon i bawb o’r gwasanaeth cymdeithasol. Byddwn yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib. Gobeithiwn gasglu’r holl gwestiynau ac ymateb ar ddiwedd pob mis. Ni fydd hwn yn gyfle i godi sylwadau am gleientiaid neu bryder am ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd hyn oherwydd cyfrinachedd y sawl sydd yn derbyn gofal. Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r drefn briodol o adrodd ar bryder diogelu. Trafodwch gyda’ch rheolwr llinell am gymorth neu ffoniwch 01766 771000 a gofynnwch am y tîm diogelu yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd neu Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Bydd unrhyw gwestiwn o’r fath yn cael ei adael heb ateb. Yn yr un modd, nid yw hwn yn gyfle i adrodd am broblem gwaith personol. Dylid siarad â’ch rheolwr llinell neu adnoddau dynol am unrhyw bryderon gwaith. Er mwyn cysylltu ag adnoddau dynol ffoniwch 01766 771000 a gofynnwch am adnoddau dynol eich adran. Bydd unrhyw gwestiwn o’r fath yn cael ei anwybyddu. Cliciwch yma i holi’r cyfarwyddwr! Edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau a chwestiynau!

Protocol Herbert

Mae menter sy'n helpu'r Heddlu i chwilio am bobl sydd ar goll ac sydd yn byw â dementia yn cael ei amlygu fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu. Menter yw Protocol Herbert sy'n annog teuluoedd a gofalwyr i lunio gwybodaeth ddefnyddiol a all gael ei ddefnyddio pan fydd person bregus yn mynd ar goll. Enwir Protocol Herbert ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yng nglaniadau Normandi, a oedd yn byw gyda dementia. Roedd George yn mynd ar goll o'i gartref gofal yn aml a byddai'n rhaid i'r heddlu fynd i chwilio amdano. Gall gofalwyr, aelodau o'r teulu a chyfeillion gwblhau ffurflenni o flaen llaw, gan gofnodi manylion pwysig fel gwybodaeth feddygol, rhifau symudol, lleoliadau sy'n berthnasol i'r unigolyn a ffotograff. Os bydd aelod o'ch teulu neu ffrind yn mynd ar goll, gall y ffurflenni gael eu rhoi i'r heddlu er mwyn lleihau'r amser yn casglu'r wybodaeth hon. Gall y ffurflen gael ei hargraffu wedyn a'i storio mewn lle diogel, hawdd i gael gafael arni, neu gael ei gadw gan aelod o'r teulu yn electronig. Os yw'r person mewn cartref gofal dylai aelod o'r teulu gysylltu i ddechrau i drafod cwblhau'r ffurflen ac yna gall gael ei gynnwys mewn cynllun gofal unigolyn. Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno eto ar draws Gogledd Cymru fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu.


Bws Awtistiaeth

gan Iwan Roberts Soniais yn y newyddlen ddiwethaf am yr hyfforddiant bws awtistiaeth a oedd yn ymweld â’r sir yn ystod yr Hydref. Math o sesiwn hyfforddiant ydi hwn a ddarparwyd gan y cwmni Training2Care mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, lle mae cyfle i brofi’n rhithiol rhai o’r anawsterau mae pobl awtistig yn dod ar eu traws yn ddyddiol, yn ogystal â chlywed cyflwyniad addysgiadol am awtistiaeth. Erbyn hyn, mae bob sesiwn wedi ei gynnal a hoffem ddiolch i bawb a fynychodd. Yn cynnwys y sesiynau ychwanegol a drefnwyd, ar gymharol fyr rybudd. Dylech fod wedi derbyn eich tystysgrif cyfranogiad erbyn hyn, os ddim plîs cysylltwch ag Iwan Roberts neu Carie Edwards. Law yn llaw â’r tystysgrifau, anfonwyd cais am unrhyw adborth sydd gennych chi am y sesiynau. Mae dal croeso i chi yrru unrhyw adborth neu argymhelliad i’r unigolion uchod. Mae’r tîm awtistiaeth yn gwerthfawrogi'r adborth yr ydym eisoes wedi derbyn, bydd yn siŵr o helpu ni greu profiad mwy buddiol fyth yn y dyfodol. Roedd canmoliaeth eang tuag at y profiadau rhithiol a oedd ar gael yn y bws ei hun, gyda sawl unigolyn yn pwysleisio faint o agoriad llygaid oedd y profiad, a faint yr oedd wedi codi eu hymwybyddiaeth o rhai o brofiadau pobl awtistaidd. Gwelem ganmol hefyd tuag at y cyflwyniad addysgiadol a gynhaliwyd fel rhan o’r sesiwn, gyda nifer o fynychwyr yn adrodd pa mor ddiddorol a buddiol oedd dysgu yn y ffordd yma. Ar gyfer y sesiynau nesaf, mae’r tîm awtistiaeth am sicrhau fod y feirniadaeth adeiladol a dderbyniwyd yn cael sylw hefyd. Ar y funud, nid oes dyddiadau ychwanegol wedi eu cynllunio ar gyfer staff y Cyngor yn gyffredinol, ond rydym yn bwriadu cynnal sesiynau yn fuan yn y flwyddyn newydd ar gyfer teuluoedd a ffrindiau unigolion awtistaidd, ac yn sicr mae croeso i chi ymuno â’r rhain fel staff os ydych yn agos i unigolyn awtistaidd yn bersonol. Nid oes dyddiadau pendant ar gyfer y sesiynau yma eto, ond mae croeso i chi gysylltu ag Iwan Roberts neu Carie Edwards i gael eich rhoi ar y rhestr aros. Diolch eto am eich holl ddiddordeb ac edrychwn ymlaen at gynnal sesiynau mwy llwyddiannus fyth yn y flwyddyn newydd.

Bwyd â Gwen

Ers diwedd mis Medi, mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn paratoi a darparu pryd poeth o fwyd i unrhyw aelod o’r gymdeithas sydd mewn angen. Maent yn enwedig wedi bod yn targedu unigolion mwy bregus, megis unigolion sydd heb gartref neu yn profi anhawster ariannol. Gallwn i gyd fel aelodau o’r cyhoedd fod yn ddiolchgar bod y myfyrwyr yma wedi gwneud gymaint o ymdrech i wasanaethu eu cymuned leol, a gallwn fel Cyngor fod yn enwedig o ddiolchgar eu bod wedi bod yn paratoi a darparu bwyd i tua 13 person oedrannus sy’n derbyn gofal cartref gan Gyngor Gwynedd.


Calan Gaeaf Dyma ychydig o luniau o barti Calan Gaeaf defnyddwyr gwasanaeth Dolfeurig. Pawb wedi cael modd i fyw gyda gemau amrywiol yna bwffe.

Gweithdai Mandadol Yn ddiweddar cynhaliwyd gweithdai gwybodaeth mandadol i reolwyr yr adran. Rydym bellach yn cynnal un arall ym mis Ionawr ar gyfer y rhai wnaeth ddim llwyddo i ddod y tro diwethaf – plîs a wnewch chi flaenoriaethu hwn a chofrestru ar gyfer yr isod. Mae’n hanfodol i chi fel rheolwyr fod wedi gwneud yr hyfforddiant yma – rydym yn gweld mwy a mwy o ddigwyddiadau gwybodaeth/torcyfraith yn codi ac mae’n bwysig i ni gyd ddeall ein cyfrifoldeb wrth ddelio a gwybodaeth ein hunigolion. Bydd cyfieithydd yn y sesiwn isod.


Torri GDPR Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o e-byst sy’n cael eu derbyn ar gam oddi wrth sefydliadau eraill. Hynny yw, derbyn e-bost nad oedd ar eich cyfer chi. Yn aml nid oes dim drwg i hyn, ond weithiau gall y wybodaeth fod o natur sensitif. Yn yr achos yma hoffem eich atgoffa o beth i wneud: 1. Cysylltu’n ôl gyda’r unigolyn gan nodi fod camgymeriad wedi bod ac eich bod yn bwriadu dileu'r ebost ar unwaith 2. Dileu’r e-bost Yn anffodus, weithiau, gallwn ni anfon e-bost i’r unigolyn anghywir hefyd. Yn yr achos yma bydd angen i chi: Ceisio rhwystro’r e-bost rhag anfon (dilynwch y canllaw yma ar gyfer e-byst mewnol) Anfon e-bost yn ymddiheuro i’r unigolyn a gofyn iddynt ei ddileu yn syth Adrodd ar y camgymeriad i’ch rheolwr llinell Adrodd ar y camgymeriad i Helen Parry, Uwch Swyddog Statudol Diogelu Gwybodaeth. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau weithiau, ond wrth weithredu’n gywir a chydweithio gallwn geisio goresgyn hyn.

Cyflwyno Eirian Helo! Fy enw i yw Eirian Daniels Williams, rwyf yn 32 oed ac yn byw ac wedi fy magu ym Mlaenau Ffestiniog . Dwi yn briod ac yn fam balch i ddwy o enethod. Rwyf eisoes wedi derbyn swydd newydd o fewn y Cyngor fel Swyddog Prosiect trawsffurfio’r Blynyddoedd Cynnar. Pwrpas y swydd yw trawsffurfio’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn gwella cyfleon i blant a theuluoedd Gwynedd a hefyd gweithwyr o fewn yr uned. Rwy’n falch o fod wedi ymuno â thîm Manon Elwyn Hughes ac yn edrych ymlaen at gyd-weithio efo’r adran Oedolion. Rwyf yn teimlo yn gryf yn y maes yma ac eisiau’r dechrau gorau un i blant a theuluoedd Gwynedd. Rwyf wedi bod yn cefnogi plant a theuluoedd ers 14 mlynedd. Roeddwn yn gweithio fel gweithiwr cefnogol i Derwen yn syth ar ôl gorffen coleg ac yno i swydd fel swyddog datblygiad cynnar o fewn Dechrau’n Deg ym Meirionnydd am 9 mlynedd. Rwyf hefyd wedi bod yn arweinydd clwb Ieuenctid ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r cyfle yma yn galluogi i fi gefnogi teuluoedd yr ardal mewn ffordd ychydig yn wahanol drwy gyd weithio gydag asiantaethau eraill. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect yma a chydweithio yn effeithiol gydag eraill gan obeithio gweld canlyniadau positif ar ddiwedd y daith.


Llwyddiant Gwenno

Llongyfarchiadau mawr i Gwenno Angharad Williams oedd yn un o bump gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr Partneriaid Gwerthfawr, Gyrfa Cymru. Cafodd Gwenno sydd yn gweithio fel Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ei henwebu yn y categori Cyfraniad Personol Eithriadol. Mae’r gwobrau yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r rhai sydd wedi cydweithio gyda nhw. Roedd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd yn gyfle i ddathlu'r holl fusnesau oedd ar y rhestr fer cyn cyhoeddi'r enillwyr. Mae Gwenno wedi derbyn enwebiad gan iddi: Ddangos ymrwymiad eithriadol i gefnogi gweithgareddau mewn ysgolion Dangos parodrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd Annog eraill o’u sefydliad i gymryd rhan Gymryd camau pendant i hyrwyddo eu perthynas â Gyrfa Cymru ac ysgolion. Dywedodd Gwenno: “Dwi’n hynod o ddiolchgar o gael fy enwebu yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Mai mor braf treulio amser efo pobl ifanc, gallu rhoi nhw ben ffordd a phlannu syniadau ar gyfer eu llwybrau gyrfa. Pan o ni’n yr Ysgol dwi’m yn cofio cael ffasiwn gefnogaeth gan gyflogwyr amrywiol a dwi’n meddwl bod gweld eich opsiynau mor bwysig. Braf iawn ydi dychwelyd i Ysgolion a bod y disgyblion yn eich cofio a gweld eu bod wedi cymryd eich cyngor. O ni’n gweithio yn hwyr ryw noson, digwydd bod wedi bod mewn digwyddiad Gyrfa Cymru yn Pontio, pan ges i ebost gan hogan ifanc oedd yn crisialu yn union pam fod ni’n neud y gwaith yma. Ar ôl neud sesiwn ffug gyfweliad efo’i ac ar ôl cael sesiwn wybodaeth ar brofiad gwaith, ar liwt ei hun roedd y ferch ifanc yma wedi penderfynu cysylltu i drefnu profiad gwaith yn un o’n cartrefi preswyl. Nododd heb y sesiynau yma fyddai byth wedi cael y cymhelliant i fynd amdani – a ma’ hynny yn fy marn i, yn dweud y cwbl!”

Dathlu Therapyddion Galwedigaethol O’r 6ed i’r 12fed o Dachwedd roedd cyfle i ddathlu Therapyddion Galwedigaethol a rhoi diolch i’r unigolion sydd yn gweithio yn y maes ar draws y sir. Mae dathliadau’r Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol yn ddathliadau blynyddol a themâu’r wythnos eleni oedd ‘mae galwedigaeth o bwys.’ Dathlwyd yr wythnos mewn sawl ffordd – erthyglau ysgrifenedig, pwyslais ar lwybrau gyrfa i drio recriwtio unigolion newydd mewn i’r maes. Trefnwyd gyfweliad ar raglen Shân Cothi hefyd lle gafodd Iola Williams, Therapydd Galwedigaethol Eifionydd a Gogledd Meirionnydd ei chyfweld am ei phroffesiwn - Bore Cothi - Gwaddol y Cyfansoddwr Jerome Kern - BBC Sounds tua 18:59 os ‘da chi ffansi gwrando nôl. Trefnwyd Diwrnod Datblygiadol Therapyddion Galwedigaethol draw yn Plas Weunydd hefyd lle cafwyd

i’r


diwrnod gwadd.

o

sgyrsiau

gyda

siaradwyr

Cafwyd sgyrsiau gan David Davies o’r Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol, Dr Gwilym Roberts a sesiwn meddylgarwch gan Sarah Silverton i gloi’r diwrnod. Roedd yn gyfle gwych i ddod a’r Therapyddion Galwedigaethol at ei gilydd a rhoi diolch iddynt am eu holl waith i gefnogi pobl Gwynedd.

Ymgynghoriad Cyfathrebu Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain; hybu annibyniaeth; cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a'u cyfranogiad mewn cymdeithas; a hyn oll wrth helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach. Rhan fawr o wneud y gwaith hwn yw cyfathrebu gyda’r cyhoedd; defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir. Felly, credwn ei fod yn holl bwysig deall beth yw eu barn ar ein cyfathrebu presennol. Er mwyn ceisio gwneud hyn rydym wedi agor ymgynghoriad allanol er mwyn clywed eu meddyliau ac er mwyn deall beth yw’r ffyrdd orau a mwyaf addas i ni gyfathrebu â chi yn y dyfodol. Mae croeso i chi fel staff lenwi’r ffurflen hon, ac er gwybodaeth bydd ymgynghoriad am gyfathrebu mewnol yn digwydd yn y flwyddyn newydd, ond carwn i chi ledu’r neges am yr ymgynghoriad hwn gydag unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth yr ydych yn dod ar eu traws. Ceir linc i’r holiadur yma. Dyddiad cau ar gyfer casglu adborth yw 22.12.23. Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw fater cydraddoldeb, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch â Sian Pritchard, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu’r adran.


Dementia Actif Bu Dementia Actif yn hynod o ffodus i allu cydweithio gyda Chanolfan Gerdd William Mathias i gynnal cyngerdd yn y Galeri ddechrau’r mis yma. Braint oedd cael gwario’r bore yng nghwmni’r delynores fyd enwog, Catrin Finch. Daeth 42 o aelodau a’u teuluoedd i’r digwyddiad hyfryd ac arbennig iawn hwn.

Am ddiwrnod bendigedig gawson ni ar y cyntaf o‘r mis i barti Nadolig Cynghrair Boccia. 24 o dimau wedi dod draw i Byw’n Iach Glaslyn yn eu siwmperi Nadolig i chwarae Boccia, ac yna parti Nadolig i’w ddilyn. Diolch i gaffi Seren am y bwyd, côr Lleisiau Llawen a chôr Dementia Actif Arfon am yr adloniant, i Siôn Corn am yr ymweliad, ac i Byw’n Iach Glaslyn am y gefnogaeth ar y diwrnod.


Croeso Cynnes Mae cynllun Croeso Cynnes yn ail ddechrau eto dros y gaeaf. Lansiwyd cynllun Croeso Cynnes yn ôl mis Hydref 2022 er mwyn cynnig lloches gynnes yn rhad ac am ddim i bobl. Gyda chostau byw ac ynni yn parhau i frathu a phobl yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd rhwng prynu hanfodion a gallu talu biliau, mae’n bwysicach nag erioed fod yna gofod addas a chynes ar gael. Gellir sefydliadau neu fusnesau cofrestru ar gyfer y cynllun drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd sydd hefyd yn cynnwys map o leoliadau Croeso Cynnes yng Ngwynedd. Mae’r grant cynlluniau bwyd a chroeso cynnes ar agor ar hyn o bryd hefyd i helpu tuag at gynlluniau bwyd a bwydo: Cronfa Cynlluniau Bwyd (llyw.cymru). Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ar y cyd â Menter Môn i weinyddu’r cynllun ac mae llu o fusnesau a sefydliadau lleol eisoes yn cynnig i bobl gael mynd yno i gadw’n gynnes a chael cyfle am sgwrs. Mae rhai o leoliadau sy’n gysylltiedig â Chyngor Gwynedd hefyd ar y rhestr, gan gynnwys llyfrgelloedd, Storiel Bangor a chanolfannau hamdden y sir. Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Gyda’r gaeaf yn brysur ein cyrraedd rwyf yn annog sefydliadau a busnesau’r sir sydd efo diddordeb cynnig lle diogel a chynnes i bobl i wneud hynny drwy gofrestru gyda’r cynllun Croeso Cynnes. Gyda chostau trydan a nwy yn parhau i fod yn boen meddwl i nifer fawr o bobl, mae mor bwysig ein bod yn dod at ein gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r ymdrech gymunedol hon. Rwyf yn hynod o ddiolchgar i’r holl grwpiau a busnesau ddaru gymryd rhan yn y cynllun gaeaf diwethaf ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y gaeaf yma hefyd. Felly peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun a gwnewch y mwyaf o’r llefydd diogel a chynnes sydd ar gael i chi.” Un elfen mewn pecyn cymorth ehangach gan Gyngor Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng costau byw ydi’r cynllun Croeso Cynnes. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl leol yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Cyngor sy’n crynhoi’r holl gymorth mae’r Cyngor yn ei gynnig mewn un lle, er enghraifft cyngor ar fudddaliadau, gwybodaeth am ynni yn y cartref a manylion cyswllt sefydliadau eraill sy’n gallu helpu. Anogir trigolion i fwrw golwg dros y dudalen er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sydd ar gael.

Diolch Diolch am ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newyddlen Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Os oes gennych chi newyddion y dymunwch rannu gyda ni, cofiwch gysylltu. Yn yr un modd, carwn glywed gennych am unrhyw adborth, gwyn neu awgrymiad am y Newyddlen. Mae’r Newyddlen wedi ei chreu gennych chi ar eich cyfer chi, felly croesawn unrhyw sylwad. Manylion Cyswllt Rhif ffôn: 01286 679 223 E-bost: sianip@gwynedd.llyw.cymru IwanHuwRoberts@gwynedd.llyw.cymri


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Newyddlen Rhagfyr 2023 - Oedolion, Iechyd a Llesiant by Cyfathrebu Mewnol - Issuu