Llyfr Lloffion Haf 2024

Page 1

llyfr lloffion haf 2024

celfyddydau cymunedol gwynedd

croeso

Helo a chroeso i Lyfr Lloffion arall gan

Gelfyddydau Cymunedol Gwynedd.

Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn rhedeg

cyfres o gynlluniau blynyddol sy'n cefnogi pobl

Gwynedd i fwynhau ac i brofi'r celfyddydau - er

budd unigolion, y gymdeithas, yr economi a'r gymuned. Bob blwyddyn, mae Celfyddydau

Cymunedol Gwynedd yn rhedeg rhaglen o

weithgareddau a phrosiectau gwahanol ledled y sir

O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r ciplun hwn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Llwybrau Celf Bach

Prosiect yw Llwybrau Celf Bach i ddarparu gweithdai

celfyddydau o safon uchel i blant 7-11 oed, yn cael ei arwain gan artistiaid proffesiynol sydd wedi eu lleoli yng Ngwynedd. Rydym

bob amser yn edmygu ac yn rhyfeddu at y gwaith a grëir gan ein grwpiau o bobl ifanc talentog.

Caiff y sesiynau eu cynnal yn Storiel Bangor gydag Eleri Jones, ym Mhlas Glyn-y-weddw Llanbedrog gyda Tess Urbanksa ac yn Neuadd Aberdyfi gyda Jane Barraclough. Gyda thristwch, rydym yn cyhoeddi yn dilyn llawer o flynyddoedd o redeg Criw Celf

Aberdyfi, bod Jane yn rhoi'r gorau i'r rôl; dymunwn y gorau iddi a gobeithiwn y gallwn barhau i weithio gyda hi ar brosiectau eraill.

Hoffem estyn croeso mawr i’r artist Nerys Jones a fydd yn camu i’r adwy i redeg sesiynau Aberdyfi o fis Medi ymlaen.

Bydd y gyfres nesaf yn dechrau yn yr hydref, 2024; os hoffech wybod mwy, e-bostiwch corrinazarach@gwynedd.llyw.cymru.

.

crefft er lles

Wrth ddechrau ar flwyddyn newydd wnaethom gychwyn gyda chyfres newydd o sesiynau Crefft er Lles ym Motwnnog.

Rydym eisoes wedi cynnal Crefft er Lles yng Nghaernarfon ac ar-lein ond eleni penderfynom symud i Fotwnnog am gyfnod y Gwanwyn.

Lora Morgan wnaeth cynnal y 6 sesiwn wnaeth cynnwys, ffeltio tirlun, potiau Frida Khalo, macramé, decoupage, blodau ffelt 3D a thorch Pompom Pasg.

Byddwn yn trefnu cyfres nesaf Crefft er Lles i gychwyn tymor yr Hydref.

cyfuno

Mae Cyfuno yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi'i

hanelu at wella mynediad i'r celfyddydau i bawb. Rydym wedi bod yn falch o helpu i gefnogi prosiectau cymunedol gwych wedi'i

gydlynu gan Brosiect Cyfuno Storiel Bangor eleni.

Mae amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau celfyddydol wedi

cael eu cefnogi gan y gronfa hon, gan gynnwys gweithdai celf yn

Theatr y Ddraig Abermaw, gweithgareddau i blant yn Theatr

Derek Williams, Y Bala, gweithdai creadigol ar gyfer parêd Pasg

CARN yng Nghaernarfon a phaentio wynebau ar gyfer parêd

Dydd Gŵyl Dewi Bangor.

Gobaith prosiect Cyfuno ydy cyrraedd cymaint o drigolion ac ardaloedd Gwynedd â phosib, ac mae llawer mwy o weithgareddau'n cael eu trefnu dros y misoedd nesaf.

oriel ysbyty gwynedd

Y gwanwyn hwn roeddem wrth ein boddau yn arddangos gwaith gan yr artist tecstilau lleol Ffion Evans. Roedd yr arddangosfa hon yn ganlyniad o ran un o'r prosiect Chwarae Materol, wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd rhan un o'r prosiect yn cynnwys cydweithio gyda BIPBC drwy sesiynau tecstilau synhwyraidd i greu gwaith celf tecstilau sy'n ceisio cefnogi llesiant. Gweithiodd Ffion gyda Thîm Dementia Ysbyty Gwynedd a Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru, gan gynnwys cleifion a staff drwy sesiynau tecstilau ble archwiliwyd gwrthrychau oedd yn hel atgofion fel ysbrydoliaeth i greu cwiltiau bach synhwyraidd.

Wrth symud ymlaen, bydd Ffion yn integreiddio'r ystyriaethau amhrisiadwy a gafwyd drwy'r cydweithio hwn yng ngham nesaf y prosiect. Mae Ffion yn edrych ymlaen at ddechrau creu corff newydd o waith celf amlsynhwyraidd a chwareus a fydd yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod yr haf ac yn CARN Caernarfon o fis Medi 2024.

Mwy 'more'

"Mae bod yn greadigol yn rhan ohonom, nid yw'n rhywbeth y mae’n rhaid i ni roi caniatâd i ni'n hunain ei wneud"

Eleni, rydym yn wirioneddol falch o gael cefnogi'r prosiect

creadigol ‘Mwy'. Wedi'i hwyluso gan yr artistiaid-ymarferwyr

profiadol Iola Ynyr, Sioned Medi Evans a Nia Wyn Skyrme, mae

Mwy yn cynnig gofod cefnogol diogel i ferched a'r rheiny sy'n uniaethu fel merched, archwilio teimladau drwy greadigrwydd mewn nifer o ffurfiau. Mae ’Mwy’ yn cynnig gofod cyfeillgar a digynnwrf gyda'r cyfle i greu, dyheu a dychmygu MWY yn y Gymraeg.

Cafodd y sesiynau eu cynnig ar-lein drwy AM ac hefyd wyneb yn wyneb yng ngofod cymunedol Porthi Dre yng Nghaernarfon.

Mae MWY ar hyn o bryd yn mynd ar daith gyda chynhyrchiad

Theatr Bara Caws sef Ffenast Siop, ar gyfer sgwrs greadigol anffurfiol yn dilyn y sioe mewn tri lleoliad, cyfle i rannu MWY am y menopôs!

Grwp Ieuenctid ym Moel y Ci

Fis Ebrill eleni roeddem yn falch o groesawu grŵp newydd i gymryd rhan mewn gweithdy celf yn Fferm Gymunedol

Moel y Ci yn Nhregarth.

Gan gynnig taith natur, ac yna gweithdy metel gyda'r

Artist a Gemydd Karen Williams, cynigir y cyfle i'r grŵp roi

cynnig ar sgil greadigol newydd a ysbrydolwyd gan yr amgylchedd naturiol.

Mae gan Karen nifer o flynyddoedd o brofiad yn hwyluso gweithdai Gemwaith, ac hwn yw'r trydydd tro mae Grŵp Ieuenctid Gwynedd wedi gallu ymuno gyda hi yn ei gweithdy gwych.

Fel ag yn flaenorol, cafodd y cyfranogwyr ddiwrnod

ysgogol ym Moel y Ci gan gynhyrchu gwaith arbennig.

Rydym yn gobeithio eu bod wedi mwynhau eu hunain ac yn falch o'r hyn yr oeddent wedi'i gyflawni.

Diwrnod Gofalwyr di-dâl

Yn Chwefror, cynhaliwyd digwyddiad cymdeithasol a gwybodaeth gan Gyngor Gwynedd

yng Ngwesty’r Celt ar gyfer gofalwyr di-dâl. Fel rhan o'r digwyddiad, fe wnaethom ddarparu gweithdy crefftau gan yr artist Lora Morgan, a gynigiodd gyfle i'r mynychwyr gael ffeltio.

Cynigiwyd dwy sesiwn iddynt ac roedd gennym lond bwrdd o liw a fflwff ffeltio! Roedd pawb wedi gwneud eu blodyn ffelt hardd, a bu i rai wneud nifer ohonynt. Mae gofalwyr di-dâl yn

rhan o'n cymuned sydd yn aml yn colli cyfleoedd creadigol a hamdden oherwydd eu cyfrifoldebau, felly roeddem yn falch o allu cynnig y cyfle yma iddynt.

Mae'n hynod o bwysig cynnig cyfle i bawb geisio bod yn

greadigol, mae'r effaith ar ein hiechyd meddwl a llesiant yn

hynod o gadarnhaol, ac roedd yn wych gweld pawb yn ymlacio ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gwneud.

Sesiwn hyfforddi Dwylo Bach

Fel rhan o'r prosiect Babi a Ni, sy'n datblygu mynediad at chwarae creadigol i gynorthwyo datblygiad plentyn, roeddem wrth ein boddau

gallu cydweithio gyda Dwylo Bach i gynnig diwrnod hyfforddiant

creadigol ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar Gwynedd. Wedi'i arwain gan Ticky Lowe, Sioned Griffiths ac Angharad

Harrop, creodd yr hyfforddiant gyfle i ymarferwyr ddatblygu sgiliau ar gyfer eu hymarfer eu hunain, i rannu syniadau ac i wneud cysylltiadau. Mae gweithdai Dwylo Bach yn sesiynau dan arweiniad artist sy'n cynnig "Gwahoddiadau i Chwarae" i fabanod a phlant bach. Mae Dwylo Bach yn

annog babanod a'u gofalwyr i gael golwg ar ddeunyddiau a gofodau synhwyraidd. Mae'r sesiynau yn cael eu harwain gan y babi yn gyfan gwbl, heb weithgareddau grŵp.

Mynychwyd y diwrnod hyfforddi gan gymysgedd o artistiaid, ymarferwyr blynyddoedd cynnar a staff mudiad meithrin. Roedd yr adborth yn bositif iawn - 'Wedi cael llawer o syniadau ac ysbrydoliaeth.'

'Wedi cael syniadau am adnoddau gwahanol / newydd a syniadau ar gyfer gweithgareddau syml. Cyfle i rannu profiadau â phobl eraill.'

Dysgwch fwy am Dwylo Bach ar makingsensecio.co.uk

Celf ar Bresgripsiwn

diwrnod blasu celf

botwnnog

Ar ddiwedd mis Ebrill cawsom Diwrnod Blasu Celf ym Motwnnog.

Roedd hyn yn dilyn y Diwrnod Blasu celf yn Gaernarfon ac Y Bala

dros y blwyddyn diwethaf.

Yn ystod y diwrnod roedd yna sesiwn cerddoriaeth i blant 4-7 oed

gyda Canolfan Gerdd William Mathias, sesiwn celf i blant 7- 11 oed

gyda Tess Urbanska a Sian Owen. Yn y prynhawn roedd yna sesiwn

Crefft er Lles gyda Lora Morgan i oedolion, a’r diwrnod yn

gorffen gyda sesiwn drymio gyda Neil Williams.

Roedd llwyddiant y diwrnod yn dangos diddordeb trigolion yr ardal i fynychu sesiynau celfyddydol.

Cadwch lygaid am sesiynau arall yn y dyfodol, neu cysylltwch os oes gennych diddordeb trefnu.

Noson allan

Fel adran Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, rydym yn

cefnogi ceisiadau Noson Allan. Rydym yn gallu helpu sicrhau fod eich

digwyddiad yn gallu bwrw ‘mlaen heb boeni am golled incwm. Yn ystod 2023-2024 cefnogwyd degau o ddigwyddiadau. Cysylltwch gyda Noson Allan am wybodaeth bellach.

www.nosonallan.org.uk

Cofiwch roi wybod am eich ddigwyddiad(au) i ni allu helpu hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol Gwynedd Greadigol. www.gwyneddgreadigol.com

Grantiau celf cymunedol

Oes gennych chi syniadau ar gyfer prosiect celfyddydau cymunedol? Mae Cronfa Celfyddydau Cymunedol Cyngor

Gwynedd yn darparu grantiau hyd at £500 i grwpiau

gwirfoddol ac amgylcheddol. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Rhagfyr / 30 Mawrth / 30 Mehefin / 30 Medi. Cysylltwch â

ni am ffurflen gais ac am sgwrs i drafod eich syniadau.

celf@gwynedd.llwy.cymru

Mae’r prosiectau rydym ni wedi ymrwymo i’w hariannu hyd yma eleni yn cynnwys gweithdai celf ar gyfer y gymuned yn

Hwb Croesor, darpariaeth o gerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg yng Ngŵyl Fwyd Abermaw, ac artistiaid i arwain y gwaith o baentio murlun ym Mharc Coed Helen yng Nghaernarfon gyda grŵp clwb ieuenctid Porthi Dre.

Cysylltwch â ni

Rydym wrth ein boddau yn clywed gennych, felly os oes gennych unrhyw newyddion, adborth, sylwadau neu angen cyngor ar gyfer prosiect creadigol yng Ngwynedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod

celf@gwynedd.llyw.cymru

Ar gyfer newyddion, cyfleoedd a digwyddiadau celfyddydol yng

Ngwynedd, ewch i wefan Gwynedd Greadigol a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

www.gwyneddgreadigol.com

Facebook @Gwynedd Greadigol-Creative Gwynedd

Instagram @celfgwyneddarts

X @CelfGwyneddArts

Diolch am ddarllen Ffion a Corrie xx

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Llyfr Lloffion Haf 2024 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu