Skip to main content

Llawlyfr Gweithwyr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Page 1

Llawlyfr

Gweithwyr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

2 0 2 4


Mynegai 1. Strwythur Cyngor Gwynedd 2. Cyflwyniad i’r gwasanaeth 3. Ethos y Gwasanaeth 4. Beth a ddisgwylir gennych 5. Cefnogaeth a buddion staff 6. Trefniadau ac arferion y gweithle 7. Dyletswydd staff gofal 8. Cyfrifoldebau staff 9. Staff domestig 10. Staff Cegin 11. Rheolaeth 12. Gofalu am y Cartref 13. Trefniadau Dyddiol Cartrefi 14. Sicrwydd a Diogelwch 15. Ymwelwyr 16. Cadw tŷ


1. Strwythur Cyngor Gwynedd Dafydd Gibbard Prif Weithredwr Rhif ffôn: (01286) 679 002 E-bost: dafyddgibbard@gwynedd.llyw.cymru

Huw Dylan Owen Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Rhif ffôn: (01286) 679 923 E-bost: dylanowen@gwynedd.llyw.cymru

Aled Davies Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Rhif ffôn: (07768) 808453 E-bost: aled@gwynedd.llyw.cymru


2. Cyflwyniad i’r Gwasanaeth Yr Adran Mae’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn darparu ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer trigolion 18 mlwydd oed neu hŷn sydd angen cyngor, gwybodaeth, cefnogaeth neu ofal yn sgil anghenion penodol mewn 11 cartref preswyl ledled Gwynedd. Rydym yn darparu cefnogaeth gofal hirdymor, tymor-byr, ysbaid, galluogi a chanolradd yn ogystal â gwasanaethau dydd. Mae gwasanaeth Gofal Dementia Uwch ar gael mewn rhai o'n cartrefi.

3. Ethos y Gwasanaeth Prif egwyddorion y gwasanaeth yw sicrhau llesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth ac i alluogi i oedolion Gwynedd “fyw fy mywyd fel yr hoffwn ei fyw.” Dylai’r amgylchedd gwaith bob amser fod yn gefnogol o ran urddas a pharch unigolion. Canllaw a safonau • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant • R.I.S.C.A. Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru • Canllaw unigol a datganiad o bwrpas ar gael yn y cartref Gyda’ch Gilydd Gall yr amser pan ddaw yn angenrheidiol i dderbyn gwasanaeth gofal, fod yn amser anodd ac emosiynol iawn ar gyfer yr unigolyn a’r teulu. Gall fod yna deimlad o dristwch oherwydd bod angen cymorth, neu fod yna deimlad o euogrwydd gan y teulu a all fod yn ansicr os ydynt yn gwneud y peth iawn. Mae’n naturiol i deimlo fel hyn. Mae symud i ofal yn ddigwyddiad bywyd sylweddol. Mae’n rhaid i ni fel tîm gynnig gwasanaeth personol a chartrefol - wedi’i deilwra i gyfarch anghenion pob unigolyn gan roi’r unigolyn yn gyntaf bob amser. Rydym yn teimlo’n gryf mai ein dyletswydd yw cynnig gwasanaeth sy’n ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’, gwasanaeth holistig sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r pwyntiau canlynol yn hanfodol er mwyn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn: 1. Cynhwysiad - gweithio gyda’r unigolion, eu trin fel rhan o gymuned, gan sicrhau eu bod yn teimlo ein bod ar eu hochr nhw. 2. Annibyniaeth trin pobl gydag urddas, parchu eu dymuniadau, hybu dewis a hyblygrwydd. 3. Unigolyddiaeth - gweld y person fel unigolyn gyda chryfderau ac anghenion unigryw, gan ddarparu gofal sydd wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn. 4. Ysbrydoliaeth - annog hobïau unigol a chymunedol, diddordebau, a gweithgareddau, blaenoriaethu llesiant a boddhad yr unigolyn.

4. Beth a ddisgwylir gennych


Hybu gofal sy’n rhoi’r person yn ganolog sy’n gweithio tuag at y pwyntiau uchod. Ymrwymiad i hyfforddiant, dysgu a datblygu. Cyflawni’r swydd ddisgrifiad (darllen, arwyddo, derbyn copi ac un mewn ffeil.) Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Dilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol / Cod Ymddygiad / polisïau sy’n ymwneud ag ymddygiad. Dilyn yr egwyddorion gweithredu isod: Gwasanaethau Preswyl Gwynedd: Egwyddorion Gweithredu

Cynorthwyo pobl Gwynedd i fyw eu bywydau yn y ffordd maent yn dymuno/sefydlu Gwynedd fel y lle gorau i fyw. Gweithredu o fewn a’r tu allan i’r gweithle mewn dull nad yw’n rhoi enw drwg i’r Cyngor. Dangos parch ac urddas i’r holl staff a chael ffydd yn eich gilydd. Cyfathrebu mewn modd sy’n briodol i’r sefyllfa. Bod yn onest ac yn agored, a bod yn barod i ddysgu o’n camgymeriadau. Adrodd yn agored os oes rhywbeth wedi mynd o’i le. Bod yn bositif ac yn barod i ddatrys problemau ond yn barod i gwestiynu a herio. Rhannu gwybodaeth a syniadau gyda’ch gilydd a bod yn barod i drafod fel tîm. Hybu ac annog datblygiad personol staff er budd y gwasanaeth a staff. Gweithredu ein haddewidion. Bod yn barod i fynd y filltir ychwanegol a bod yn hyblyg tra’n cwrdd anghenion ein cwsmeriaid. Hysbysu defnyddwyr am ein holl wasanaethau. Gweithio o fewn Rheoliadau Diogelu a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Adrodd am unrhyw broblem diogelu neu unrhyw broblem arall all effeithio diogelwch neu lesiant unigolion neu staff. Codau Ymddygiad Côd Ymddygiad ac Ymarfer Gofal cymdeithasol Cymru Côd Ymddygiad ac Ymarfer Cyngor Gwynedd Mae gan bobl Gwynedd yr hawl i ddisgwyl gwasanaeth ac ymddygiad o’r safon uchaf gan holl staff yr Awdurdod ac mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer hwn yn gosod y safonau disgwyliedig gan staff Cyngor Gwynedd. Polisïau Cyngor Gwynedd Polisïau i gyd Argymhellir eich bod yn ymgyfarwyddo â pholisïau Cyngor Gwynedd, sydd ar gael uchod. Gweler isod grynodeb o rai o’r polisïau mwyaf pwysig a cyfredol.

Polisi canu’r gloch


Mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymedig i ddarpariaeth gwasanaethau o safon uchel i bobl Gwynedd ac mae’n dibynnu ar ansawdd y staff a’r rheolwyr drwy’r awdurdod i wneud hyn. Mewn achos o gamymddwyn neu drosedd ddifrifol, mae’n hanfodol eich bod yn tynnu sylw eich rheolwr at y gweithgareddau hyn cyn gynted â phosib. Mae’r Cyngor yn hyrwyddo’r safonau uchaf posib o fod yn agored, yn onest ac yn atebol. Diogelwch Gwybodaeth Cytundeb Cyfrinachedd Dylai gwybodaeth yr ydych yn ei darganfod yn y gwaith gael ei defnyddio ar gyfer pwrpasau gwaith yn unig. Ni ddylid trafod manylion personol gydag aelodau o staff nad oes a wnelo nhw â'r mater dan sylw. Ni ddylai materion cyfrinachedd gael eu trafod mewn lleoedd cyhoeddus y tu allan i'r gwaith na gyda pherthnasau a ffrindiau. Wrth rannu gwybodaeth ar y ffôn, dylid sicrhau bod gan y person ar yr ochr arall yr hawl i dderbyn y wybodaeth. Lletygarwch/rhoddion Nid oes caniatâd i dderbyn unrhyw roddion neu arian gan drigolion. Pe byddai preswyliwr eisiau rhoi anrheg/arian i chi, trafodwch gyda’r rheolwyr ar unwaith. Polisi dim ysmygu Mae gwaharddiad llwyr i ysmygu a’r defnydd o e-sigarennau ar holl eiddo’r awdurdod lleol. Mae ardaloedd y tu allan wedi’u clustnodi ar gyfer y rhai sy’n dymuno ysmygu yn ystod eu hamser egwyl di-dâl. Os hoffech fanteisio ar y cyfleusterau hyn, dylech siarad â’ch rheolwr llinell. Polisi Alcohol a Chyffuriau Mae’r Polisi uchod yn gosod amcanion y Cyngor i ddiogelu a chynnal iechyd, diogelwch a lles bob aelod o staff y Cyngor yn benodol, wrth geisio lleihau’r risg o niwed trwy gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Mae Cyngor Gwynedd yn gwahardd staff rhag yfed, neu bod dan ddylanwad alcohol neu gymryd cyffuriau yn ystod oriau gwaith cytundebol, ar eiddo'r Cyngor ar unrhyw adeg neu tra ar ddyletswydd / galwad y tu allan i oriau gwaith arferol. Cadwa'r Cyngor yr hawl i brofi am alcohol neu gyffuriau lle bo "amheuaeth glir" ('am achos') h.y., pan fo rheolwr llinell ar y cyd â'r Adran Adnoddau Dynol yn amau bod yna gamddefnydd sy'n effeithio iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Diogelu data/GDPR Yn eich gwaith, byddwch yn casglu, storio a phrosesu llawer iawn o wybodaeth bersonol ynghylch defnyddwyr gwasanaeth ac eraill. Fel y cyfryw, mae angen glynu at ddeddfwriaeth diogelu data, sef Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (DU GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Diben y polisi hwn yw gosod cyfrifoldebau'r Cyngor a'i staff i gydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth diogelu data.

Datrys pryderon a chwynion -


Mae diogelwch a llesiant staff yn hanfodol bwysig i Gyngor Gwynedd. Mae unrhyw gyhuddiad o fwlio neu aflonyddu yn y gweithle yn cael ei gymryd o ddifri a bydd Cyngor Gwynedd yn eich cefnogi ac yn gwrando arnoch os hoffech gymorth i ddatrys unrhyw wrthdaro neu anghydfodau. Diogelu unigolion bregus Mae hwn yn darparu gwybodaeth am yr hyn y dylai staff Cyngor Gwynedd wneud os ydynt yn bryderus am lesiant oedolyn neu blentyn sydd mewn perygl, neu’n profi camdriniaeth neu esgeulustod. Polisi Iaith Gymraeg Mae Cyngor Gwynedd yn ymdrechu i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus i’r unigolyn, yn cynnwys y Gymraeg. Gweler isod am fwy o fanylion ar yr Iaith Gymraeg o fewn Cyngor Gwynedd. Cyfryngau cymdeithasol Cyfryngau cymdeithasol yw’r term a ddefnyddir yn gyffredinol am unrhyw wefan neu declynnau ar-lein sy’n gadael i ddefnyddwyr ryngweithio â’i gilydd drwy rannu neu gyhoeddi gwybodaeth, barn, neu esboniad i grŵp ehangach. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol yn declyn pwysig ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth am wasanaethau a chynnal deialog gyda’r cyhoedd. Mae’r Cyngor yn ymddiried yn ei staff i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel unrhyw ddull cyfathrebu arall. Pwrpas y polisi hwn yw rhoi arweiniad ar arfer dda wrth ddefnyddio’r cyfryngau. Defnydd o WhatsApp neu apiau anfon neges eraill Fel y gwyddoch, defnyddir WhatsApp yn eang ar draws y Cyngor ac mae’r Grŵp Rheoli Gwybodaeth eisoes wedi cyhoeddi polisi corfforaethol ar ddefnydd priodol o'r ap. Mae'n gyfrwng hwylus i rannu negeseuon corfforaethol ond yn parhau i greu risgiau o ran rheoli gwybodaeth os yw ei angen ar gyfer pwrpasau'r Heddlu neu ymchwiliadau megis ymchwiliad Covid-19. Gallai'r defnydd gael ei wneud ar ffonau personol a hefyd ar ffonau swyddogol a ddarperir gan y Cyngor ac mae yna risgiau pellach os fyddai aelod o staff yn gadael cyflogaeth y Cyngor.

Rydym yn deall bod yna ddefnydd helaeth o'r cyfrwng hwn a gofynnaf i chi ymgyfarwyddo â'r polisi a hefyd tynnu sylw eich staff at y cynnwys. Fel y nodir, gellir gweld y polisi yn y Ganolfan Bolisi ond gallwch glicio yma i weld canllaw syml i staff hefyd. Ffonau symudol Dylai ffonau symudol gael eu cadw yn y loceri a ddarparwyd ac ni ddylent fod ar yr unigolyn yn ystod oriau gwaith. Safon ymddangosiad personol Nid ydym yn ceisio llesteirio eich dewis unigol o ran eich ymddangosiad. Er hynny, disgwylir i chi wisgo’n briodol (h.y., smart/taclus) bob amser mewn perthynas â’ch rôl, a sicrhau eich bod yn lân ac yn drwsiadus cyn dod i’r gwaith.

Os ydych wedi cael gwisg neu ddillad arbennig, rhaid i chi eu gwisgo bob amser pan fo gofyn i chi. Dylai’r tiwnig gael ei wisgo gyda throwsus du, smart (dim denim na legins) ac esgidiau priodol, fflat du, (dim pumps, esgidiau lliw na bŵts Ugg).


Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich gwisg yn lân ac yn ddestlus. Os ydych yn dod i gysylltiad â’r cyhoedd fel rhan o’ch gwaith yna mae’n rhaid i chi dynnu pob tlyswaith tyllu cosmetig sy’n weladwy, ac eithrio un set o glustdlysau (neu un clustdlws), ac mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich safonau o ran eich gwisg a bod yn drwsiadus yn adlewyrchu gwerthoedd eich cyflogwr.

Gwisg Ni chaniateir gwisgo ewinedd acrylig a/neu gel nac unrhyw baent ewinedd. Dylid clymu gwallt hir yn ôl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch beth sy'n briodol, dylech gyfeirio'r rhain at eich Rheolwr Llinell. Mae cyfleusterau i chi newid i'ch gwisg yn eich gweithle. Dylid cadw eiddo personol yn y loceri staff a ddarperir - goriad i'w ddychwelyd i'r Swyddfa ar ddiwedd eich diwrnod gwaith. Ymrwymiad i’r iaith Gymraeg Mae Cyngor Gwynedd yn hybu diwylliant sy’n gefnogol o’r Iaith Gymraeg. Mae ein Polisi Iaith Gymraeg yn manylu ar ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg. Mae’r polisi uchod hefyd yn ategu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i Safonau’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Mae gan bawb yr hawl i wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch yma i wylio fideo lle mae Will a Morfydd o Benygroes yn esbonio pam fo siarad Cymraeg mewn cartrefi gofal yn bwysig iddyn nhw. Mwy na geiriau ‘Mwy na geiriau’ yw strategaeth LlywodraethCymru ar gyfer sicrhau bod gan unigolion sy‘n derbyn gofal fynediad at ofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan bob swydd yng Nghyngor Gwynedd ofynion iaith Gymraeg penodol fydd yn cael eu hegluro wrthoch chi wrth ymgeisio am eich swydd. Bydd disgwyl i chi weithio tuag at gyrraedd y gofyniad yma os nad ydych ar y lefel yna eto. Mae gan eich rheolwr llinell gyfrifoldeb i roi cymorth i chi gyda hyn, a disgwylir eich bod wedi cael trafodaeth gyda’ch rheolwr llinell ynghylch dysgu Cymraeg a’r gwersi Cymraeg sydd ar gael i chi. Dynodiadau iaith Fel rhan o’ch anwythiad neu yn fuan ar ôl cychwyn yn eich swydd, dylai eich rheolwr llinell roi gwybod i chi am yr hunanasesiad iaith mandadol. Bydd canlyniad yr hunanasesiad yn eich rhoi gwybod i chi os ydych yn cyrraedd gofyniad Iaith Gymraeg eich swydd ac yn rhoi syniad gwell i’ch rheolwr llinell a Chyngor Gwynedd yn gyffredinol ar sut i’ch helpu i gyrraedd y gofyniad os nad ydych ar hyn o bryd. Mae’r holiadur ar gael yma neu drwy hofro dros ‘fy nghyflogiad’ a wedyn ‘holiaduron’ ac yn olaf ‘Hunan asesiad Iaith Gymraeg’, fel y dangosir isod.


5. Cefnogaeth a buddion staff Mae staff Cyngor Gwynedd yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i ddatblygu a gwneud cynnydd yn broffesiynol wrth gynnal eu hiechyd a’u llesiant personol. Gweler y dudalen hon am wybodaeth am lawer o fuddion sydd ar gael i chi fel gweithiwr Cyngor Gwynedd, o ddisgownts lleol a chenedlaethol i gynllun beicio i’r gwaith a gwybodaeth ar gydbwysedd bywyd-gwaith.

Salwch a gwyliau:

Dylid gofyn am wyliau o leiaf pythefnos cyn y dyddiad. Mae angen gwneud ceisiadau, a’u cadarnhau gan dîm rheoli cartrefi unigol. Bydd caniatáu gwyliau yn ddibynnol ar wasanaethau unigol ac anghenion y cartref. Fel arfer, bydd 2 staff dydd, 1 staff nos a 1 staff cegin yn cael gwyliau yn yr un wythnos. Bydd gwyliau ychwanegol yn cael eu caniatáu yn unol â disgresiwn y rheolwr ac argaeledd staff. Gofynnwch i'ch rheolwr am fynediad at y ffurflen cais am wyliau os oes angen. Mae disgwyl i’r holl staff weithio Gwyliau Banc a phenwythnosau yn ôl y rota. Cliciwch yma i ddarllen y Polisi Gwyliau ac Absenoldebau Arbennig. Mae Polisi a Gweithdrefn Rheoli Absenoldeb Salwch y Cyngor wedi’i greu i hyrwyddo cydbwysedd rhwng cwrdd ag anghenion llesiant gweithwyr unigol a chynnal safon uchel o wasanaeth ar draws y Cyngor. Disgwylir i chi wneud pob ymdrech i fod yn y gwaith ac mae’r Cyngor yn ymrwymedig i warchod iechyd, diogelwch a lles gweithwyr, gan gyflwyno mentrau i hyrwyddo iechyd staff yn cynnwys ceisio hyrwyddo diwylliant positif o bresenoldeb ac amgylchedd gweithio iach. Bydd y Cyngor yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael ag absenoldebau salwch tymor-byr ac yn ymrwymedig i leihau achosion o’r fath. Fodd bynnag, fel cyflogwr teg a gofalus, mae’r Cyngor yn sensitif i anghenion gweithwyr sy’n dioddef o salwch hirdymor neu barhaol a byddent yn ceisio darparu’r gefnogaeth angenrheidiol ble’n bosib.


Ceisiadau am fwy na phythefnos: Mae angen gwneud cais ysgrifenedig ar gyfer gwyliau sy’n fwy na phythefnos i’r rheolwr llinell. Bydd y cais hwn ar gyfer ‘amgylchiadau arbennig’ yn unig. Disgwylir y bydd y cais yn esbonio’r amgylchiadau arbennig. Penderfyniad y rheolwr fydd i ganiatáu'r cais arbennig, yn ddibynnol ar anghenion y gwasanaeth. Pan fo’r cais yn cael ei greu, mae anghenion y gwasanaeth a’r tîm angen eu hystyried. Mae holl staff angen deall na fydd modd i'r cais arbennig gael ei gymeradwyo'n flynyddol. Mae angen i’r gwyliau blynyddol ddod o’r lwfans sydd wedi’i ennill.

6. Trefniadau ac Arferion y Gweithle Dylech gyrraedd gyda digon o amser cyn dechrau eich shifft a pheidio â gadael yn fuan. Patrwm Shifft / Rota Mae rhai cartrefi yn gweithio ar batrwm shifftiau 12 awr ac eraill ar batrwm shifftiau 8 awr. Rheolwr - fel arfer ar gael Llun - Gwener. Is-reolwr - 5 diwrnod allan o 7 yn cynnwys gwaith penwythnos. Gofal uwch 4/5 diwrnod allan o 7 yn cynnwys gwaith penwythnos. Mae'r shifftiau gweithio dydd rhwng yr oriau 07:30 - 10yh. Shifftiau noson effro - 7:30yh - 8yb. Mae'r oriau cegin rhwng 7.30yb - 6yh. Mae yna rota treigl ymhob cartref, dylai'r rota fod ar gael tair wythnos o flaen llaw. Ni fyddech yn gallu newid y rota, heb ganiatâd staff uwch. Diwrnodau / Egwyl Un egwyl cinio 30 munud - di-dâl. Mae amser paned gyda'r trigolion yn cael ei hyrwyddo yn eu hystafelloedd byw ar unrhyw adeg. MAE’N RHAID I’R HOLL EGWYLIAU GAEL EU GWASGARU I SICRHAU GORYCHWYLIAETH TRIGOLION, NI DDYLAI’R LLAWR FOD HEB ORUCHWYLIAETH AR UNRHYW ADEG Bwyd a Chyfleusterau Bydd cyfleusterau te/coffi yn cael eu darparu ar gyfer holl staff. Mae dŵr ar gael i staff. Darperir cinio wrth fwyta gyda'r unigolion a bwyta'r hyn sydd ar gael, fydd hyn yn rhad ac am ddim. Fel arall, bydd yna dâl bychan.

7. Dyletswydd Staff Gofal Hylendid Personol Gofal personol: Tyweli - tywel golau a flannel ar gyfer hanner uchaf y corff Tywel tywyll a flannel ar gyfer hanner isaf y corff Hybu defnyddwyr i olchi eu dwylo, wyneb a hanner uchaf y corff. Cymorth â Gofal Personol - cefn, sacrwm, traed a choesau, plygiadau'r croen, crychiadau, pwyntiau pwyso. Gwiriwch fod y croen yn sych ar ôl golchi. Rhoi unrhyw hufenau gan gadw at gyfarwyddiadau'r map croen gan gofnodi ac adrodd unrhyw bryderon e.e., cleisiau, cochni, doluriau, briwiau, chwyddiant, rhedlif, croen sych ayyb. Arwyddo MAR ar ôl taenu unrhyw hufenau a ragnodir.


rhedlif, croen sych ayyb. Arwyddo MAR ar ôl taenu unrhyw hufenau a ragnodir. Brwsio dannedd neu ddannedd gosod - dylai asesiad gofal y geg gael ei gwblhau a’i adolygu fel sy’n briodol Gofal Ewinedd (hybu'r defnyddiwr gwasanaeth i olchi, torri a ffeilio. cyfeirio at giropodydd os oes angen) ni ddylai staff dorri ewinedd unigolyn diabetig. Siafio, electroneg neu wlyb (peidiwch â siafio'n wlyb os yw'r defnyddiwr gwasanaeth ar anti-coagulant). Sbectol - sicrhau eu bod yn lân Cymorthyddion clyw, sicrhau eu bod yn gweithio, bod ganddynt fatris a'u bod yn lân Ymolchi: Cofnodi tymheredd y bath Cofnodi yn y nodiadau dyddiol wrth gynnig bath/cawod Ni ddylid gadael taclau ymolchi personol yn ardal y baddon/cawod ac ni ddylid eu rhannu rhwng unigolion. Bath - gellir defnyddio bath gyda set sydd wedi'i reoli o bell. Gall lefel y bath gael ei godi fel nad oes rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth blygu i lawr. Gall uchder y bath a safle'r gadair gael eu rheoli gyda theclyn o bell. Mae cawod cerdded i mewn ar gael. Mae tymheredd y dŵr wedi'i osod i sicrhau nad yw defnyddwyr yn llosgi eu hunain. Mae pwynt diffodd ar y bath pan fod y dŵr yn cyrraedd lefel benodol. Sicrhewch os yw unigolyn yn cael ei adael heb oruchwyliaeth eich bod yn cloi'r tapiau. Gwisgo ac edrychiad personol: Hybu dewis. Strôc, gwisgo'r ochr yr effeithir yn gyntaf, dadwisgo yw'r cam olaf. Anghenion arbennig, stocing llawfeddygol, sgidiau priodol, prosthesis ayyb. Cofnodi ac adrodd yn ôl ar unrhyw bryderon. Gwallt (hybu'r defnyddiwr gwasanaeth i frwsio eu gwallt eu hunain) Colur, persawr, gemwaith (hybu a helpu gyda hyn). Cofnodi ac adrodd yn ôl ar unrhyw bryderon. Ymataliaeth Cynnal urddas a phreifatrwydd unigolion. Annog a chefnogi mynd i'r toiled. Helpu i reoli anymataledd. Monitro am arwyddion o rwymedd/dolur rhydd/heintiad iwrin. Symud a thrin Rhaid i holl staff fynychu hyfforddiant dau ddiwrnod / medrusrwydd mewnol cyn cwblhau tasgau heb oruchwyliaeth. Dilynwch gynlluniau symud a thrin / asesiad risg ar gyfer unigolion. Adrodd / cofnodi pob cwymp / damwain agos ar HS11, cwblhau'r asesiad ar ôl cwymp.

Y Profiad Bwyta Dylai'r profiad bwyta fod yn achlysur cymdeithasol ac ni ddylai unigolion gael eu brysio. Dylai diodydd poeth ac oer fod ar gael drwy'r dydd yn yr ystafelloedd byw a ffrwythau a byrbrydau ar gael trwy'r dydd oni bai y nodir yn wahanol e.e., risg i eraill. Dylai'r profiad bwyta fod yn achlysur cymdeithasol ac ni ddylai unigolion gael eu brysio.


Dylai diodydd poeth ac oer fod ar gael drwy'r dydd yn yr ystafelloedd byw a ffrwythau a byrbrydau ar gael trwy'r dydd oni bai y nodir yn wahanol e.e., risg i eraill. Dylai amrywiaeth dda o fwyd gydag opsiynau llysieuol gael eu cynnig a dau ddewis ar gyfer pob pryd e.e., brecwast wedi'i goginio, brecwast oer ac ati. Dylai'r bwyd fod yn fwyd cartref gyda chacenni/bisgedi wedi'u gweini ar blât ar wahân. Dylid cynnig cerddoriaeth gefndirol yn ystod cyfnodau bwyd. Dylai'r unigolion gael dewis o le i eistedd ac i gael eu lleoli'n gywir er mwyn gallu bwyta eu prydau. Dylai staff fod yn ymlaciol ac eistedd gyda'r unigolion gyda'r prydau a ddarperir. Mae offer arbenigol ar gael i helpu’r defnyddwyr gwasanaeth mewn modd sy’n gwarchod eu hurddas. Cefnogir preswylwyr ac mae eu hamseroedd bwyta dewisol yn cael eu parchu. Mae'r cyfnodau bwyta fel arfer rhwng: Brecwast 7.30 - 10.30 Cinio 12yp-1.30yh Swper 4.30yh-6yh Gall unigolyn ofyn am ddewis amgen i'r fwydlen ar unrhyw adeg a dylid cefnogi hyn. Gosod y Byrddau Dylai byrddau gael eu gosod yn neis - napcynau, confennau, blodau. Dylid annog unigolion i fwyta allan ble bo hynny'n bosib neu drefnu nosweithiau thema e.e., Tsieinëeg, pysgod a sglodion. Dylid hyrwyddo annibyniaeth gyda'r cyfleusterau sydd ar gael i unigolion i wneud eu diodydd poeth eu hunain / tost / byrbryd.

Trefn Byw Dydd i Ddydd Dylai bod rhestr o weithgareddau sydd ar gael ymhob sefydliad gyda thystiolaeth bod y gweithgareddau wedi digwydd. Dylai bod rhestr o anghenion dietegol / alergeddau / dymuniadau unigolion ymhob cegin. Amser hamdden Mae staff yn cael eu hannog i ofyn i'r defnyddiwr pa hobïau sydd ganddynt a pha weithgareddau y maent yn eu mwynhau, mae hyn oll yn rhan o alluogi annibyniaeth gyda'r preswylwyr, ac mae'n bwysig nad ydych yn stopio defnyddwyr rhag gwneud yr hyn yr oeddent yn ei fwynhau cyn dod i'r cartref. Mae hefyd yn bwysig eu bod yn cael y dewis i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd y mae preswylwyr eraill yn eu gwneud. E.e., tasgau dyddiol megis golchi dillad / llestri, paratoi bwyd / pobi / garddio ac ati.

Unedau dementia Anogir staff i gadw unigolion yn brysur gyda gweithgareddau dyddiol sy'n ystyrlon i'r unigolyn. Mae'n bwysig i bobl barhau gyda'u diddordebau blaenorol. Dylai holl ddeunydd glanhau / gwrthrychau siarp / taclau ymolchi / PPE gael eu cadw dan glo oni bai eu bod wedi cael asesiad risg.


Llesiant, Gweithgareddau ac Ymweliadau Mae cefnogi preswylwyr i barhau gyda'u hoff weithgareddau yn ogystal â'u cyflwyno i rai newydd yn rhan bwysig o helpu'r preswylwyr i fyw eu bywydau fel y dymunent wneud. Dylai ymweliadau cymunedol gael eu trefnu i annog teimlad o gymuned gan gadw'r preswylwyr yn heini ac yn hapus. Rydym yn cefnogi gweithgareddau crefyddol os yw'r rhain yn bwysig i'r preswylydd, yn ogystal â chyngherddau ac amryw o hobïau. Bydd yna adran llesiant yng nghynllun gofal y preswylydd, a bydd yn bwysig dilyn a chofnodi gweithgareddau. Apwyntiadau Ysbyty / Meddyg Teulu / Clinig Pe bai defnyddiwr gwasanaeth angen mynychu apwyntiad (megis apwyntiad yn yr ysbyty), dylid gwneud trefniadau preifat pan fo hynny’n bosib. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, yna byddem yn gofyn i aelod o staff neu'r gweithiwr allweddol i gefnogi.

8. Cyfrifoldebau staff Darllen y ddogfen trosglwyddo Trosglwyddo - Dylai trosglwyddiad effeithiol gynnwys y wybodaeth ganlynol: Crynodeb o'r prif weithgareddau, diweddariadau a chyngherddau. Unrhyw ddamweiniau, anafiadau, digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd, ac unrhyw wybodaeth feddygol allweddol arall. Mae trosglwyddiad gwybodaeth yn digwydd ar ddechrau pob shifft e.e., shifft bore, shifft prynhawn a'r shifft nos. Dylai holl staff arwyddo eu bod wedi derbyn y ddogfen trosglwyddo, ac os am unrhyw reswm nad ydych ar gael ar gyfer y trosglwyddiad (argyfwng) dylai'r nodiadau trosglwyddo gael eu darllen a'u harwyddo mor fuan ag sy'n bosib.

Cwblhau nodiadau gofal dyddiol Dylai nodiadau dyddiol fod yn gofnod manwl o sut mae'r unigolyn wedi treulio eu hamser. Dylai holl nodiadau gofal dyddiol gael eu hysgrifennu gydag inc du gyda'r dyddiad ac amser a llofnod llawn - dim blaenlythrennau. Maent yn gofnod cyfreithiol, a gallent gael eu defnyddio yn y llys, felly mae'n rhaid iddynt fod yn ddarllenadwy ac yn ffeithiol.

Dylai unrhyw wybodaeth yn y nodiadau dyddiol, sydd angen ei throsglwyddo i'r shifft nesaf gael ei chofnodi yn y nodiadau trosglwyddo Cwblhau cynlluniau gofal Gweler enghraifft cynllun gofal yn y gweithle. Mae gwybodaeth am yr holl breswylwyr yn cael ei chadw yn y Cynllun Gofal sy'n cael ei greu o fewn 48 awr o dderbyn y preswylydd gan uwch aelod o staff a'r gweithiwr allweddol. Os ydych yn cefnogi preswylydd am y tro cyntaf, gwnewch eich hun yn gyfarwydd ag anghenion y preswylydd trwy ddarllen y Cynllun Gofal. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r Rheolwr. Rhaid trin yr holl wybodaeth ynghylch preswylwyr yr ydych yn cael mynediad ato gyda'r cyfrinachedd mwyaf. Adolygir y Cynllun Gofal bob tri mis gan y gweithiwr allweddol / uwch aelod o staff, neu'n gynt os yw anghenion yn newid. Cyfrifoldeb y rheolwr yw sicrhau fod yr holl gynlluniau gofal yn cael eu monitro.


Cedwir Cynlluniau Gofal dan glo bob amser. Gweithwyr allweddol Mae Gweithiwr Allweddol yn ARBENIGWR GOFAL sy'n cymryd rôl allweddol i gydlynu gofal yr unigolyn gan hyrwyddo parhad, a sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol pwy i fynd atynt am wybodaeth a chyngor. Byddwch chi, ynghyd â'r rheolwyr yn cael eich penodi fel gweithiwr allweddol i breswylydd neu breswylwyr.

Meddyginiaeth Anogir holl breswylwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu meddyginiaeth - bydd asesiad yn cael ei gwblhau gan y rheolwr gyda'r unigolyn. Pe na bai’r unigolyn yn dymuno gwneud hynny, bydd staff y cartref gofal yn cymryd cyfrifoldeb ar ei ran/rhan a byddant yn dilyn y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwneud hynny dan y Polisi ar gyfer Rheoli Meddyginiaeth mewn Cartrefi Gofal. Nid oes hawl i weithwyr weithwyr weini meddyginiaeth os nad ydynt wedi mynychu’r hyfforddiant blynyddol perthnasol ac wedi cael eu hasesu’n flynyddol fel eu bod yn gymwys i wneud. Cwblhau Dogfennaeth Cynllun Rheoli Tân/gwiriadau wythnosol Legionella/gwiriad wythnosol o'r arllwysfeydd sydd ond yn cael ychydig o ddefnydd Gwiriadau offer Iechyd a diogelwch/misol. HS11 - Anafiadau/Damweiniau Yn achos anaf neu ddamwain i staff neu breswylwyr dylid llenwi ffurflen HS11 a'i anfon at y canlynol: Copi ar ffeil yr unigolyn. Copi ar ffeil y cartref preswyl. Copi i'r adran iechyd a diogelwch. Taflenni Marr Ffurflen Camgymeriad Meddyginiaeth Siartiau ABC ar gyfer materion ymddygiadol Ffurflenni digwyddiad Llywodraethu Cwblhewch yr hyn a ddisgwylir gennych yn ddyddiol. Cyfrifoldebau personol HYFFORDDIANT/ANWYTHO Mae gan holl staff gyfrifoldeb personol i: Gwblhau anwythiad, yn cynnwys y hunanasesiad iaith sydd ar y hunanwasanaeth staff (logiwch fewn i’r hunanwasanaeth, wedyn ‘fy nghyflogaeth ar y top chwith, wedyn ‘holiaduron’) Mynychu sesiynau Hyfforddi mandadol. Mynychu sesiynau hyfforddi y tybiwyd eu bod yn briodol i'r rôl gan y rheolwr. Cwblhau hyfforddiant gloywi Cwblhau modiwlau e-ddysgu fel y cynghorwyd.

Cyfrifoldebau personol HYFFORDDIANT/ANWYTHO


Mae gan holl staff gyfrifoldeb personol i: Gwblhau anwythiad, yn cynnwys y hunanasesiad iaith sydd ar y hunanwasanaeth staff (logiwch fewn i’r hunanwasanaeth, wedyn ‘fy nghyflogaeth ar y top chwith, wedyn ‘holiaduron’) Mynychu sesiynau Hyfforddi mandadol. Mynychu sesiynau hyfforddi y tybiwyd eu bod yn briodol i'r rôl gan y rheolwr. Cwblhau hyfforddiant gloywi Cwblhau modiwlau e-ddysgu fel y cynghorwyd. Iechyd a Diogelwch Mae gan holl staff gyfrifoldeb personol i ddilyn canllawiau a glynu at bolisi. Dolen i bolisïau iechyd a diogelwch Dolen i'r polisi Diogelwch Tân Diogelu Mae’n rhaid i HOLL STAFF fynychu hyfforddiant bob tair blynedd a gloywi trwy E-ddysgu. Angen lawrlwytho Ap Diogelu Cymru Gyfan. Dyletswydd i adrodd unrhyw bryderon o gamdriniaeth bosib a dilyn y polisi Diogelu Cymru Gyfan. Dolen i Polisi Diogelu Cyngor Gwynedd.

9. Staff Domestig Cyfrifoldebau a dyletswyddau staff wrth gwblhau eu dyletswydd ddomestig. Glanhau Dylai fod yna lanhawr ac amserlen glanhau ar waith ymhob sefydliad, ond mae disgwyl i holl staff ymgymryd â thasgau glanhau - edrychwch ar y llawlyfr glanhau. Dylai holl staff yn cynnwys staff gofal gael anwythiad glanhau yn ogystal â darllen y llawlyfr glanhau gan fod yn ymwybodol o'r taflenni COSH. Unwaith mae'r unigolyn yn cael ei g/chodi yn y bore gan y staff gofal dylai'r ystafell wely gael ei thacluso - gwneud y gwely gyda dillad gwely sy'n matsio neu eu tynnu os ydynt yn fudr. Gwagio'r comôd, golchi'r sinc, tacluso'r en-suite, gwagio'r biniau, a gosod tyweli yn y fasged golchi. Dylid cadw cypyrddau glanhau /storfeydd ar glo bob amser. Dylai biniau mewn mannau cymunedol gael eu gwagio ar ddiwedd pob shifft. Mae staff nos yn gyfrifol am lanhau ardaloedd cymunedol - dylai fod yna amserlen lanhau yn ei lle.

10. Staff Cegin Cyfrifoldebau a dyletswyddau staff cegin Cyfirfoldebau’r cogydd a’r dirprwy Gogydd / Cynllunydd Domestig oriau cegin disgwyliedig Cogydd/Cogydd (37) 7.30 - 3.30 a 7.30 - 3 awr 37 awr, hanner awr cinio. Cogydd cynorthwyol (37) 9 - 5.30 (awr ginio) ac awr yn llai ar un diwrnod. Cynorthwyydd domestig ar gyfer coffi, dros amser Te, ac i lenwi'r diwrnodau i ffwrdd.


MAE'N RHAID BOD YNA DDAU AELOD O STAFF YN Y GEGIN BOB DYDD, OS NAD OES YNA ARGYFWNG AC MAE ANGEN ATGOFFYN AR GYFER GWYLIAU. DYLAI PAWB FOD YN GWEITHIO EU HORIAU.

Isod ceir canllaw o ddisgwyliadau'r staff cegin:

amser 7.30

COGYDD rhoi'r uwd ymlaen yn barod ar gyfer brecwast. rhoi'r llysiau yn y sosban am y diwrnod. rhoi'r tatws ymlaen am y diwrnod Paratoi'r cig Gosod y troli brecwast. Paratoi'r brecwast sydd ei angen.

8 a.m. 8.30yb

Paratoi'r pwdin ar gyfer y diwrnod.

9yb

glanhau, glanhau'r llestri

10yb

Paratoi'r tatws ar gyfer y diwrnod wedyn

10:30yb

Paratoi'r llysiau ar gyfer y diwrnod wedyn Paratoi'r cig ar gyfer y diwrnod wedyn

11yb

Coginio cinio heddiw. Gwirio'r dewisiadau a pharatoi

12:30

Gweini cinio Gweini pwdin

1:00yh Amser cinio 1.30 – 2 2 – 3.30

Gwaith papur Cyfrif stoc. Archebion Cyfarfodydd tîm gyda'r rheolwyr a'r rheolwyr eilaidd Mynychu cyfarfodydd gyda'r c/g

amser COGYDD CYNORTHWYOL/Cynorthwyydd Cegin 9 .00 • Dechrau gyda holi a gwneud rhestr ar gyfer cinio a swper. 9.30

•

• Coginio'r cig/pwdin ar gyfer swper. • Paratoi'r cacennau ar gyfer swper • Helpu gyda golchi llestri 19


10 .00

• Paratoi'r te, cefnogi gydag opsiynau.

1 o'r gloch 1.30

• Clirio'r troli cinio a chlirio'r gegin

2.30

• Paratoi brechdanau ar gyfer swper.

3yh

• Glanhau'r gegin, arwynebau a mopiau. • Cynorthwyo gydag unrhyw gyfrifoldebau yn y swydd ddisgrifiad a chefnogi'r cogydd Gweini'r swper Glanhau a gwaith papur

4.15yh 5.15

Cinio

Dogfennaeth yn y gegin

11. Rheolaeth Dyletswyddau a chyfrifoldebau’r tîm rheoli wrth gefnogi staff Recriwtio staff Proses gyfweld / 2 geirda, yn cynnwys cyflogwr mwyaf diweddar / DBS / Hanes gwaith. Hyfforddiant Staff Trefnu a monitro. Hyfforddiant anwytho / Hyfforddiant craidd / hyfforddiant gloywi / E-ddysgu Mae hyfforddiant ychwanegol, ac anghenion dysgu a datblygu aelodau o staff unigol yn cael eu hadnabod o fewn y mis cyntaf o waith ac yn cael eu hadolygu trwy'r broses goruchwylio a gwerthuso rheolaidd. Goruchwylio/Gwerthuso Mae staff yn derbyn goruchwyliaeth yn eu rôl i adlewyrchu ar eu hymarfer a sicrhau bod eu cymhwysedd proffesiynol yn cael ei gynnal. Mae hyn yn cynnwys adborth ynghylch eu perfformiad gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Mae staff yn cwrdd am oruchwyliaeth un i un â'u rheolwr llinell neu swyddog cyfwerth, neu gydag aelod uwch o staff, o leiaf bob chwarter. Mae holl staff yn cael gwerthusiad blynyddol sy'n rhoi adborth iddynt ar eu perfformiad ac yn adnabod meysydd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad er mwyn eu cefnogi yn eu rôl.

12. Gofalu am y Cartref

20


Dirprwyo dyletswyddau gofalu am y cartref Canllaw ar gyfer y rheolwr cynorthwyol / uwch ofalwr / gofalwr y cartref Rôl y staff mewn swyddi uwch yw arwain trwy esiampl, gan beidio â gofyn i unrhyw un wneud unrhyw beth na fyddech yn ei wneud eich hun. Mae cofleidio gwerthoedd gwaith tîm gan adnabod rôl pob unigolyn o fewn y tîm yn bwysig. Bod yn onest ac yn agored Darparu arweinyddiaeth, cefnogaeth ac anogaeth i eraill Cynnal trafodaethau anodd pan fo angen, mewn modd sensitif a phroffesiynol. Trosglwyddiadau / Gofalu am y cartref Bydd cyfrif penodol o fanylion ar gael.

13. Trefniadau Dyddiol Cartrefi YN BENODOL I'R CARTREFI Disgwyliad o weithio shifft gydag un uned yr un, bydd y person sy'n gofalu am y cartref yn dyrannu tasgau am y diwrnod Bydd Rheolwr y Cartref yn gweithio yn yr uned tawelaf. Enghraifft o batrwm shifft, canllaw yn unig, gallwch fewnbynnu un eich hun yma:

Dim ond canllaw yw'r amseroedd amcangyfrif.

Staff (2) 7:30 R/O shifft 7.30 - Staff (1) 7:30 3.30 3:30 3:30 Staff (1) i helpu Staff (2) a (3) i R/O gweithio gyda’i gilydd, os angen help undebau gyda dibyniaeth symud a thrin neu gofal personol llai, neu’r rhai heb gymaint o breswylwyr. 7.20yb Paned o goffi a Paned, darllen ac darllen y arwyddo nodiadau nodiadau trosglwyddo. trosglwyddo. Amser

21

Staff (3) 7.30 – 3.00

Paned o goffi a darllen y nodiadau trosglwyddo.

Domestig 9 - 1


7.30yb

Darllen dyddiadur y preswylwyr Dyrannu unedau ar gyfer staff, nes bod staff yn cyfathrebu eu hunain (?) Trosglwyddiad llawn gan y staff nos (oddeutu 15 munud) Dilyn dyletswyddau R/O fel y noda'r daflen a chyfathrebu a dyrannu’r shifft a drefnir

Yn yr uned gwiriwch yr holl breswylwyr, a gweld os hoffent baned o de. Gwnewch hyn ar gyfer uned (1) a (2)

Yn yr uned gwiriwch yr holl breswylwyr, a gweld gweld os hoffent baned o de.

Yn yr uned gwiriwch yr holl breswylwyr, a gweld os hoffent baned o de.

Gosod y basgedi dillad mewn man cyfleus i'r holl ystafelloedd gwely

Gosod y basgedi dillad mewn man cyfleus i'r holl ystafelloedd gwely

Gosod y basgedi dillad mewn man cyfleus i'r holl ystafelloedd gwely

Cefnogi preswylwyr sy'n barod i godi

Cefnogi preswylwyr sy'n barod i godi

Cefnogi preswylwyr sy'n barod i godi

Gwagio'r cypyrddau aerio, a mynd a'r dillad i'r ystafelloedd

Gwagio'r cypyrddau aerio, a mynd a'r dillad i'r ystafelloedd

Gwagio'r cypyrddau aerio, a mynd a'r dillad i'r ystafelloedd

Gwagio comodau a golchi/socian

Gwagio'r cypyrddau aerio, a mynd a'r dillad i'r ystafelloedd

Gwagio'r cypyrddau aerio, a mynd a'r dillad i'r ystafelloedd

Gwirio am samplau ymprydio fel y noda'r dyddiadur Gweithio yn yr uned tawelaf Cefnogi preswylwyr i godi Yr uned hon i fod yr uned sy'n cael ei lanhau'n arbennig am y diwrnod domestig i weithio yn yr uned hon yn gyntaf. Mae'r glanhau arbennig yn cynnwys newid gwlâu ayyb (amserlen gwaith ar gael os bydd angen) Staff (1) i gynorthwyo a helpu yn yr uned hon, yn ddibynnol ar

22


anghenion y preswylwyr Mynd a'r dillad i'r ystafell golchi dillad, a llenwi'r peirannau Sicrhau bod preswylwyr yn hapus yn yr ystafelloedd byw tra eich bod yn gorffen yr ardal ystafell wely Os oes amser ac nad yw'r preswylwyr eisiau brecwast eto, golchwch y sinciau, arwynebau, gwnewch y gwlâu, a rhowch dyweli yn ôl a thacluso'r ystafell. Ayyb. Sicrhau eich bod yn cyfathrebu ag aelodau o'r tîm i wneud yn siŵr eu bod yn iawn 9Ffonio'r meddyg 10.00 teulu, nyrs, a gwneud apwyntiadau fel y noda'r dyddiadur Rownd feddyginiaethau ar gyfer 2 uned Cadw'r troli meddyginiaeth yn ddiogel fel y noda'r polisi

23

Cynorthwyo gyda brecwast yn eich uned eich hun. Sicrhau bod y preswylwyr yn cael eu cynnwys. Sicrhau amgylchedd ymlaciol, nid brysiog. Cael darn o dost a choffi gyda phreswylwyr, eistedd wrth ymyl y bwrdd brecwast, CYSYLLTU â nhw. Sicrhewch eich bod yn yr uned i helpu gyda'r rownd feddyginiaethau e.e, sicrhau fod yna ddiod ar

Mynd a'r dillad i'r ystafell golchi dillad, a llenwi'r peiriannau Sicrhau bod preswylwyr yn hapus yn yr ystafelloedd byw tra eich bod yn gorffen yr ardal ystafell wely Sicrhau bod preswylwyr yn hapus yn yr ystafelloedd byw tra eich bod yn gorffen yr ardal ystafell wely

Sicrhau eich bod yn cyfathrebu ag aelodau o'r tîm i wneud yn siŵr eu bod yn iawn Rownd feddyginiaethau ar gyfer 2 uned Cadw'r troli meddyginiaeth yn ddiogel fel y noda'r polisi

Mynd a'r dillad i'r ystafell golchi dillad, a llenwi'r peiriannau Sicrhau bod preswylwyr yn hapus yn yr ystafelloedd byw tra eich bod yn gorffen yr ardal ystafell wely

Sicrhau bod preswylwyr yn hapus yn yr ystafelloedd byw tra eich bod yn gorffen yr ardal ystafell wely

Sicrhau eich bod yn cyfathrebu ag aelodau o'r tîm i wneud yn siŵr eu bod yn iawn Cynorthwyo gyda brecwast yn eich uned eich hun. Sicrhau bod y preswylwyr yn cael eu cynnwys. Sicrhau amgylchedd ymlaciol, nid brysiog. Cael darn o dost a choffi gyda phreswylwyr, eistedd wrth ymyl y bwrdd brecwast, CYSYLLTU â nhw. Sicrhewch eich bod yn yr uned i helpu gyda'r rownd feddyginiaethau e.e, sicrhau fod yna ddiod ar gyfer y preswylwyr.

Cynorthwyo gyda brecwast yn yr uned R/O. Sicrhau bod y preswylwyr yn cael eu cynnwys. Sicrhau amgylchedd ymlaciol, nid brysiog. Cael darn o dost a choffi gyda phreswylwyr, eistedd wrth ymyl y bwrdd brecwast, CYSYLLTU â nhw.. Sicrhewch eich bod yn yr uned i helpu gyda'r rownd feddyginiaethau e.e, sicrhau fod yna ddiod ar


10.00

Cefnogi preswylwyr sydd angen gofal personol neu help i eistedd yn yr ystafell fyw neu'r ardd. Sicrhau eu bod yn cael cynnig diod ayyb Parhau gyda dyletswyddau R/O

Sicrhau eich bod yn parhau mynd i'r ystafell golchi dillad i lenwi'r peirannau yn ystod y bore.

10:45yb

amser coffi gyda phreswylwyr, cael coffi gyda nhw, (10 munud)

gyfer y preswylwyr. Cefnogi preswylwyr sydd angen gofal personol neu help i eistedd yn yr ystafell fyw neu'r ardd. Sicrhau eu bod yn cael cynnig diod ayyb

Rhannwch eich amser rhwng y ddwy uned. Ceisiwch hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau dydd-i-ddydd, neu weithgareddau a drefnir yn ystod yr amser yma

Cefnogi preswylwyr sydd angen gofal personol neu help i eistedd yn yr ystafell fyw neu'r ardd. Sicrhau eu bod yn cael cynnig diod ayyb

Rhannwch eich amser rhwng y ddwy uned. Ceisiwch hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau dydd-i-ddydd, neu weithgareddau a drefnir yn ystod yr amser yma

Tra bod eich cydweithiwr yn mynd rhwng y ddwy uned yn hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau, hwfrwch eich uned, gwiriwch y golchi (oddeutu 1/2 awr) Dewch a'r dillad sych i'r uned i'w plygu a'i smwddio Rhannwch eich amser rhwng y ddwy uned. Ceisiwch hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau dydd-i-ddydd, neu weithgareddau a drefnir yn ystod yr amser yma

Ewch i'r ystafell golchi dillad a dewch ag ychydig o'r dillad glân i'r ystafell fyw i'w smwddio ayyb

Tra bod eich cydweithiwr yn mynd rhwng y ddwy uned yn hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau, hwfrwch eich uned, gwiriwch y golchi (oddeutu ½ awr) Dewch a'r dillad sych i'r uned i'w plygu a'i smwddio amser coffi gyda amser coffi gyda phreswylwyr, cael phreswylwyr, cael coffi gyda coffi gyda nhw, nhw, (10 munud (10 munud Defnyddiwch yr amser hwn i lenwi'r diwrnodau a hybu llesiant y preswylwyr e.e.,

24

Cefnogi preswylwyr sydd angen gofal personol neu help i eistedd yn yr ystafell fyw neu'r ardd. Sicrhau eu bod yn cael cynnig diod ayyb

Defnyddiwch yr amser hwn i lenwi'r diwrnodau a hybu llesiant y preswylwyr e.e.,

amser coffi gyda phreswylwyr, cael coffi gyda nhw, (10 munud Defnyddiwch yr amser hwn i lenwi'r diwrnodau a hybu llesiant y preswylwyr e.e.,

gyfer y preswylwyr. Cynorthwyo gyda'r glanhau arbennig yn yr uned R/O.


12.00 12.30 Amser Cinio

1yh

Goruchwyliwch unedau (1) a (2) Ewch am ginio 12.30 - 1

Helpu gyda chinio (staff cegin i weini) 1 a 2

mynd am dro, garddio, tripiau Cinio am 1/2 awr Helpu gyda chinio 2 a 3 (staff cegin i weini)

mynd am dro, garddio, tripiau Goruchwyliwch unedau (3) a (4) Ewch am ginio 12.30 - 1yh

Sicrhau bod preswylwyr yn gyfforddus gyda digonedd o ddiodydd ayyb. Cwblhewch nodiadau gofal yn yr unedau gyda phreswylwyr Staff ychwanegol nawr ar ddyletswydd, defnyddio'r amser i ddilyn rôl y gweithiwr allweddol, trefnwch weithgareddau gyda phreswylwyr, pwysau, hyfforddiant goruchwyliaeth ayyb. Staff newydd i gymryd drosodd y gweithgareddau gweithredol

Sicrhau bod preswylwyr yn gyfforddus gyda digonedd o ddiodydd ayyb. Cwblhewch nodiadau gofal yn yr unedau gyda phreswylwyr

Rownd feddyginiaethau

1yh – 2yh

2 – 2.15

mynd am dro, garddio, tripiau Cinio am 1/2 awr

Sicrhau bod preswylwyr yn gyfforddus gyda digonedd o ddiodydd ayyb. Cwblhewch nodiadau gofal yn yr unedau gyda phreswylwyr Trosglwyddo i staff nos

Staff ychwanegol nawr ar ddyletswydd, defnyddio'r amser i ddilyn rôl y gweithiwr allweddol, trefnwch weithgareddau gyda phreswylwyr, pwysau, hyfforddiant goruchwyliaeth ayyb. Staff newydd i gymryd drosodd y gweithgareddau gweithredol

Helpu gyda chinio yn yr unedau os oes angen, fel arall, parhewch i lanhau Gorffen am 1yh

Staff ychwanegol nawr ar ddyletswydd, defnyddio'r amser i ddilyn rôl y gweithiwr allweddol, trefnwch weithgareddau gyda phreswylwyr, pwysau, hyfforddiant goruchwyliaeth ayyb. Staff newydd i gymryd drosodd y gweithgareddau gweithredol

14. Sicrwydd a Diogelwch Mae parcio ar gael yn y maes parcio a ddarperir. Y perchennog sy'n atebol am gerbydau preifat sy'n cael eu pario ar, neu o gwmpas ein heiddo ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod i'r cerbydau. Y gweithwyr sy'n atebol am barcio eu ceir. Prif dderbynfa i adael ymwelwyr ddefnyddio'r mannau agosach.

25


Codau allwedd Byddwch yn cael codau i gael mynediad i'r eiddo, ni ddylid datgelu'r codau i unrhyw berson arall. Rhaid adrodd am unrhyw ddatgeliadau damweiniol i'ch Rheolwr Llinell. Rhaid ichi beidio â dod ag unrhyw unigolyn anawdurdodedig i'r eiddo heb yn gyntaf gael caniatâd eich rheolwr llinell. Prif ddrws Bydd y prif ddrws yn cael ei gloi drwy’r adeg, oni bai ei fod yn cael ei oruchwylio’n agos gan aelod o staff. Gwneir hyn i sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaeth, staff, eiddo personol a'r eiddo. Bydd gofyn i ymwelwyr ganu’r gloch i gael mynediad a bydd gofyn iddynt lofnodi’r llyfr ymwelwyr (gweler yr adran ymwelwyr). Mae hyn yn hanfodol er mwyn i staff allu bod yn siŵr pwy sydd yn y cartref pe bai tân yn digwydd. Arwyddo i mewn ac allan Rhaid i chi arwyddo i mewn ac allan gan ddilyn y canllaw ar y llyfr arwyddo i mewn ac allan. Eiddo Mae angen adrodd i'r adran Eiddo am unrhyw ddifrod, diffygion, atgyweirio, methiant (manylion cyswllt yn y swyddfa) a byddent yn trefnu i gontractwyr fynychu. Argyfyngau Cyfeiriwch at y Cynllun Gweithredu Argyfwng sydd wedi'i leoli yn y Blwch Glas yn y swyddfa. Cynlluniau Gwacáu mewn Argyfwng Lleolir larymau tân a chyfarwyddiadau diogelwch ledled yr eiddo. Mae PEEPS yn cael eu cwblhau ar gyfer yr holl unigolion i sicrhau eu bod yn cael eu gwagio o'r adeilad mewn modd diogel. Ymateb Brys

Personau Coll - Os yw aelod o staff yn darganfod bod preswylydd ar goll, dylai'r person sydd mewn rheolaeth o'r cartref gael eu hysbysu ar unwaith. Dylai’r sawl sy’n gyfrifol:• Ceisio cofnod mor gywir â phosib o symudiadau a disgrifiadau diweddaraf y person coll. • Trefnu chwiliad ar unwaith o'r cartref a'r gerddi. • Os oes staff ar gael, gallent gael eu cyfarwyddo i chwilio cyffiniau agos y cartref, ond ni ddylai'r cartref gael ei adael heb oruchwyliaeth ar unrhyw adeg. • Dilyn y Protocol Herbert Os nad yw'r person coll yn cael ei l/lleoli, bydd y sawl sy'n gyfrifol yn:• Hysbysu'r Heddlu. • Hysbysu'r perthynas agosaf. • Hysbysu'r prif swyddog. Unwaith mae'r person coll yn cael eu lleoli, mae'n rhaid i'r person sy'n gyfrifol sicrhau bod pob person ac asiantaeth yn cael eu hysbysu bod y preswylydd wedi dychwelyd. Os yw'r preswylydd yn dangos unrhyw arwydd o ofid corfforol wrth ddychwelyd, dylid cysylltu â'r meddyg teulu a gofyn iddynt ymweld. Dylid cysylltu â'r Gweithiwr Cymdeithasol Swyddfa Ardal briodol i drefnu cynhadledd achos llawn. 26


15. Ymwelwyr Dylid cyfarch ymwelwyr, unwaith eto gan hyrwyddo'r Iaith Gymraeg. Mae gofal cwsmer yn bwysig iawn felly dylid ystyried iaith eich corff, tôn eich llais, agwedd ayyb. Bydd angen i chi wirio hunaniaeth a gofyn i'r ymwelydd pwy maent wedi dod i’w weld. Dylai pob ymwelydd gael eu tywys i arwyddo i mewn yn y llyfr log, yn cynnwys meddygon teulu a nyrsys. Dylid dangos y gofrestr asbestos i unrhyw weithwyr cynnal a chadw. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gel dwylo wrth-facteriol wrth gyrraedd sydd wedi'i leoli wrth ochr y fynedfa a choridorau eraill o gwmpas y cartref. Os yw ymwelydd wedi dod i weld preswylydd, mae'n rhaid i chi wirio gyda'r preswylydd yn gyntaf i weld os ydynt yn hapus i dderbyn ymwelwyr. Cynigwch luniaeth, te a choffi ac ati i'r ymwelydd a chynnal safon uchel wrth gyflwyno.

Sut i ateb y ffônGan fod ymholiadau dros y ffôn yn gyffredin mewn cartrefi gofal, mae'n bwysig i gymryd gofal wrth gyfathrebu dros y ffôn. Rydym yn annog defnydd o'r Gymraeg wrth ateb y ffôn, yn ogystal â modd a thôn y llais yn gwrtais a chroesawgar. Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol wrth ateb galwad ffôn: • Nodi enw pwy sy'n siarad. • a chyfeiriwch at y Gwasanaeth (enwi'r cartref) • Gofyn sut allwn eu helpu, • Os nad oes modd i chi gynnig ateb, gofynnwch yn garedig iddynt aros ar y llinell tra eich bod yn nôl y person cyfrifol/Rheolwr. • Os oes angen i chi eu ffonio yn ôl, gofynnwch am eu rhif ffôn. Cadarnhewch y drafodaeth a gwnewch nodyn ohono

16. Cadw tŷ Mae dillad glan yn cael eu dychwelyd i'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddyddiol ar y troli dillad. Mae enw pob defnyddiwr yn cael ei ysgrifennu ar gerdyn neu mewn rhai achosion mae ganddynt fasgedi gyda labeli ar gyfer enwau'r defnyddwyr. Sicrhau bod yr holl ddillad yn cael eu dychwelyd i'r unigolion cywir. Annog unigolion a theuluoedd i labelu dillad. Mae unigolion yn cael eu hybu i olchi eu dillad eu hunain i gynnal ymdeimlad o annibyniaeth o fewn y cartref. Mae cronfeydd mwynderau yn cynnwys unrhyw ddamweiniau yn cynnwys crebachu dillad neu unrhyw ddifrod i'r dillad os ydynt yn cael eu golchi gan y staff. • Dylai'r troli dillad fod ar gael ar bob llawr / uned i gludo dillad budr / a faeddwyd. • Cadw dillad gwely oddi ar y llawr. • Wrth gasglu dillad + dillad gwely, dylai'r dillad gwely gael eu tynnu oddi ar wely unigolyn gyda gofal a'u gosod yn y bag dillad priodol. • Dylai staff atal ysgwyd dillad gwely yn ddiangen gan y bydd hyn yn cynyddu faint o facteria sydd yn yr awyr.

27


• Dylid gosod dillad gwely a faeddwyd mewn bag coch hydawdd. • Dylid gwaredu unrhyw solidau oddi ar y dillad a faeddwyd cyn eu gosod yn y bagiau. • Ni ddylai staff fyth agor bagiau coch hydawdd - rhowch y bag sy'n cynnwys y dillad yn y peiriant golchi. • Dylai dillad gwely a faeddwyd (yn y bagiau coch) gael tro 'cyn-golchi' a'u golchi ar dymheredd isafswm o 60 gradd neu'r tymheredd uchaf sy'n addas ar gyfer eitemau sy'n sensitif i wres. • Dillad gwlanog / deunyddiau cain i'w gosod mewn basged ar wahân yn yr ystafell golchi i'r staff nos eu golchi. Peidiwch â'u sychu yn y peiriant sychu dillad. • Peidiwch â rhoi slingiau hoist yn y peiriant sychu dillad. • Peidiwch â defnyddio hylif llyfnu gyda lleiniau wendylett na'r slings • Dylai dillad gael eu hongian allan i sychu mewn tywydd braf. • Peidiwch â gor-sychu dillad yn y peiriant sychu. • Dylai hidlwr y peiriant sychu gael ei lanhau'n barhaus ac yn rheolaidd. • Unwaith fod pob un o'r defnyddwyr gwasanaeth wedi codi yn y bore, mae angen symud y dillad gan ddefnyddio'r troli dillad i'r ystafell golchi gan roi'r llwyth cyntaf yn y peiriannau. • Cludwch ddillad sych / glân i'r ystafelloedd byw gan ddefnyddio basged dillad glân i annog preswylwyr / staff i'w plygu.

2 0 2 4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Llawlyfr Gweithwyr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant by Cyfathrebu Mewnol - Issuu