Gair Gyngor
o
Pwy sy’n dŵad dros y bryn...?
Gair gan y golygydd Croeso i’r rhifyn Nadolig o Gair Bach o Gyngor. Fel mae’r enw yn awgrymu dyma fersiwn bach o’r cylchgrawn arferol. Mi fydd y cylchgrawn llawn sy’n cael ei argraffu a’i anfon i leoliadau gwaith yn cael ei gyhoeddi fel yr arfer yn y flwyddyn newydd. Yn y rhifyn yma cawn ddarllen am sut mae criw casglu sbwriel Arfon yn cael mewn i ysbryd y wŷl, i gyd ar gyfer achos da. Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth calendr eleni. Y chi fel staff oedd yn cael penderfynu ar enillydd, cadwch lygaid am y llun buddugol yn y rhifyn yma o’r cylchgrawn. A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae gennym neges i holl staff y Cyngor gan y Prif Weithredwr Dafydd Gibbard a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Morwena Edwards. Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Ffion
Neges Nadolig gan Dafydd Gibbard a Morwena Edwards Mae hi’n deimlad eithaf rhyfedd i ni ysgrifennu atoch ar ddiwedd blwyddyn arall o weithredu mewn pandemig, a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith dan amgylchiadau mor anodd dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn wir, mae’n anodd credu ei bod yn agosáu at ddwy flynedd ers i ni weld ein gilydd o dan amgylchiadau ‘arferol’. Rwyf innau wedi bod yn fy rôl fel Prif Weithredwr ers yr Haf a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i chi am eich cefnogaeth ers i mi gychwyn - mae hi wedi bod yn bleser i gael dysgu am yr holl bethau arbennig mae fy nghydweithwyr yn eu cyflawni ac edrychaf ymlaen at gael dod i weld mwy ohonoch wrth eich gwaith y flwyddyn nesaf. Mae’r ddau ohonom yn gwybod bod Staff Cyngor Gwynedd ar hyd y blynyddoedd wedi gweithio fel tîm i fedru dod o hyd i atebion i bob math o sefyllfaoedd, ac mae hynny wedi bod yn fwy perthnasol eleni nag erioed. Rydym yn falch iawn o fod yn arwain gweithlu sydd wedi parhau i gefnogi a gwasanaethu trigolion Gwynedd drwy’r cyfnod ansicr yma a hoffwn ddiolch o waelod calon i chi am eich ymroddiad i roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Gobeithio y byddwch yn llwyddo i gymryd ychydig seibiant o’ch gwaith dros yr ŵyl ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn parhau i gadw eich hunain ac eraill yn saff drwy ddilyn canllawiau diweddaraf Covid. I gloi, hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi a’ch teuluoedd. Dafydd a Morwena
Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr
Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol
Simon a Darron
Criw gwastraff yn casglu mwy na sbwriel Efallai i’r rhai ohonoch sy’n byw yn ardal Arfon feddwl fod Sion Corn wedi ymweld ychydig yn gynnar eleni ac wedi cyfnewid ei sled am un o loriau casglu sbwriel y Cyngor. I helpu i ddod ag ysbryd y Nadolig yn fyw mae Simon Jones, Darron Roberts a Terry Jones o dîm casglu sbwriel Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gwisgo fyny fel Sion Corn a’i gorachod ar gyfer achos da iawn. Bob Nadolig mae pobl Gwynedd yn hael iawn gyda
chriwiau sbwriel yr ardal drwy roi rhoddion iddynt i ddiolch am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Eleni mae rhai o’r timau yn bwriadu rhoi unrhywbeth a dderbynnir i Awyr Las sef elusen sy’n cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru gyda’r rhoddion yn mynd yn benodol i gronfa ymateb Covid 19 GIG Gogledd Cymru. “Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, yn enwedig i’r tîm sy’n gweithio ar y ward Covid yn Ysbyty Gwynedd felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu. Rydyn ni eisiau codi ysbryd pawb gan fod llawer iawn o bobl yn teimlo’n isel ar ôl blwyddyn neu ddwy anodd. Gall y rhoddion helpu’r rhai mewn angen, felly rydyn ni’n hapus i wneud ein rhan i helpu”, meddai Simon. Nid Simon, Darron a Terry ydi’r unig dîm i fod yn ymuno yn yr hwyl. Cadwch lygaid am unrhyw un o’r tryciau sydd â chalon felyn yn y ffenestr gan y bydd y criwiau yma hefyd yn cymryd rhoddion ac anrhegion ac yna yn eu hanfon ymlaen i’r elusen. Ychwanegodd Simon: "Bydd unrhyw roddion a dderbynnir yn mynd i’r elusen. Rydym am barhau i wneud hyn reit drwodd tan y Nadolig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu casglu gymaint a fedrwn ni at achos teilwng iawn. Rydym i gyd yn falch o allu helpu a gobeithio ein bod yn dod a gwên i wynebau trigolion yr ardal yr un pryd.” Os hoffech chi gefnogi’r criw casglu sbwriel a chyfrannu, mae modd gwneud yma.
Cyhoeddi enillydd y Gystadleuaeth Calendr Fe dderbyniwyd nifer fawr o luniau ar gyfer y gystadleuaeth calendr eleni, diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan. Unwaith eto eleni y chi fel staff oedd yn penderfynu pa lun yr hoffech ei weld ar ein calendr swyddogol. Llongyfarchiadau mawr iawn i Elen Wyn Jones sy’n gweithio fel Swyddog Cefnogi Ysgolion yn yr Adran Addysg am dynnu’r llun buddugol o Y Dyn Haearn yn Llanbedrog. “Mi wnes i ddewis y llun yma am ei fod yn llun o rywbeth cadarn gyda hanes tu ôl iddo, yn hytrach na golygfa. Wrth gwrs, mae sawl golygfa fendigedig ym Mhen Llŷn ond eleni roeddwn eisiau dewis llun o rywbeth gwahanol. Fel teulu, rydym yn hoff iawn o fynd am dro a chrwydro ein milltir sgwâr, enwedig yn ystod y flwyddyn a fwy diwethaf ac yn y cyfnod clo. Rydym wedi darganfod sawl llwybr newydd, ac mae’r plant wrth eu boddau yn cael y rhyddid i grwydro”, meddai Elen.
Dyma enghreifftiau o’r lluniau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni...
Llanbedrog Rhodri Jones
Castell Dolbadarn Rhodri Jones
Llyn Mair Emma Quaeck
Peidiwch a thorri eich arferion gwyrdd da dros gyfnod y Nadolig Cofiwch i ddal ati i ailgylchu a defnyddio’r bin bwyd dros yr ŵyl. Dyma rai syniadau am sut i ail-ddefnyddio rhai o’ch nwyddau Nadolig ac osgoi’r bin yn gyfan gwbl!
Cyri twrci
Cynhwysion
Yn lle gwastraffu beth sydd ar ôl o’ch twrci Dolig beth am wneud cyri blasus hefo’r sbarion?
1 lwy ffwrdd o olew blodau haul 1 nionyn mawr, wedi’i dori yn dew 1 pupur gwyrdd, heb hadau ac wedi’i dorri 2 lwy ffwrdd o bast cyri (neu ddewis arall heb glwtyn) 2 clof garlleg, wedi’i falu 400g tun tomatos man 300g Twrci sbâr, wedi torri 2 lwy ffwrdd o gatwad mango Bag bach o goriander, wedi torri Reis neu bara naan, i’w gyflwyno
Dull
CAM 1 Cynheswch yr olew mewn sosban fawr dros wres eithaf uchel. Coginiwch y nionyn a'r pupur gwyrdd am 3-4 munud iddo ddechrau meddalu a brownio. Ychwanegwch y past cyri a'r garlleg, yna coginiwch am 1-2 munud arall. Ychwanegwch y tomatos wedi'u torri a 150ml o ddŵr. Gadewch i ferwi am 5 munud. CAM 2 Trowch y gwres i lawr, cymysgwch y twrci a'r tatws, a choginio am 2-3 munud arall, blaswch ac ychwanegwch y siytni mango. Gwasgarwch y coriander a'i fwyta gyda reis neu bara naan.
Sut i ail ddefnyddio cardiau a papur lapio Nadolig Gorchuddio llyfrau ysgol
Ffra mio y pa pur
i o g wy h r nt a i o. r i i c i e a p ur op p d i a d d p y yd un n on f i e e p d D l ar e c f u o gre nyddi f
dde
Creu rubanau i’w ychwanegu i anrhegion drwy’r flwyddyn
Torr i car diau tags i wn at fl eud wyd dyn nesa f.
Ydych chi'n byw yng Ngwynedd?
Nid oes newid i'r casgliadau bin gwyrdd, ailgylchu a gwastraff bwyd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Felly cofiwch roi eich biniau allan fel arfer (gan gynnwys 27 a 28 Rhagfyr, a 1 Ionawr).